Ildio eich hawliau fel ysgutor (ymarferwyr profiant)
Diweddarwyd 14 Mawrth 2025
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Cyn i chi ddechrau
Rhaid i chi lenwi ffurflen PA17:
- os nad yw’r partneriaid wedi’u henwi’n unigol yn yr ewyllys
- mae pob partner eisiau ildio eu hawliau fel ysgutor
Os yw’r partneriaid wedi’u henwi’n unigol, neu os yw rhai ohonynt yn unig eisiau ildio eu hawliau fel ysgutor, bydd angen i bob partner lenwi ffurflen PA15 yn hytrach na’r ffurflen hon.
Efallai na fydd y ffurflen hon yn addas ymhob achos, ac efallai y bydd angen i chi gynhyrchu eich dogfen gyfreithiol eich hun.
Pwy all ildio eu hawliau ysgutor
Gall ymarferwyr profiant ildio eu hawliau ysgutor os ydynt yn gweithio mewn cwmni fel:
- partner sy’n rhannu elw
- partner cyflogedig (dim ond os yw’r ewyllys yn penodi partneriaid cyflogedig)
- aelod
- cyfranddaliwr
- cyfarwyddwr
Sut i ildio eich hawliau ysgutor
- Lawrlwythwch ffurflen PA17.
- Llenwch yr holl adrannau.
- Llofnodwch a dyddiwch y cais.
- Gofynnwch i’ch tyst lofnodi a dyddio’r cais.
- Rhowch y ffurflen wedi’i llenwi i’r ysgutor sy’n gwneud cais am brofiant.
Cysylltu â ni
Os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen hon, gallwch gysylltu â ni.
Llinell gymorth profiant
Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am - 5pm, dydd Gwener, 9am - 4.30pm Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc