Canllawiau

Nodyn ar ddewis y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 25 July 2023

Yn berthnasol i Gymru

Pwrpas

Pwrpas y ddogfen hon yw nodi’n glir y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer dewis y lleoliadau a fyddai’n symud ymlaen i gam nesaf y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru – gan gynnwys datblygu achosion busnes amlinellol ac achosion busnes llawn. Wrth wneud y penderfyniadau, dilynwyd y prosesau a’r sail resymegol a nodir ym Mhrosbectws Ymgeisio Y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru (gweler adran 5 y Prosbectws Ymgeisio i weld manylion llawn y broses a’r sail resymegol hynny).

Crynodeb o’r broses cyn penderfynu

Pasio/methu

Daeth tri chais i law erbyn y dyddiad cau sef 24 Tachwedd 2022.

Yn ystod y cam Pasio/Methu, i ddechrau, aseswyd yr holl geisiadau ar yr wybodaeth y gwnaethant ei chyflwyno mewn ymateb i’r Meini Prawf Porth (yn Adran 5.8 o’r Prosbectws Ymgeisio). Roedd y Meini Prawf Porth yn amlinellu’r isafswm o wybodaeth yr oedd ei hangen er mwyn egluro daearyddiaeth a chefnogaeth gan randdeiliaid ar gyfer y Porthladd Rhydd arfaethedig. Roedd ymgeiswyr nad oedd wedi darparu’r wybodaeth hon, neu fodloni’r gofynion hyn, yn methu’r asesiad cychwynnol, ac ni aseswyd hwy ymhellach. Methodd un cais ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol mewn pedwar maes – darperir rhagor o fanylion yn Atodiad A. Fe wnaeth y ddau gais arall basio’r cam Pasio/Methu ac aeth eu ceisiadau ymlaen at yr asesiad manwl.

Asesiad manwl

Yn unol â’r broses a fanylir yn y Prosbectws Ymgeisio, fe wnaeth swyddogion oedd yn cynrychioli’r holl fuddiannau ac adrannau polisi perthnasol ar draws y ddwy lywodraeth asesu atebion y ddau gais i’r Wybodaeth Ymgeisio Fanwl (adran 5.9 o’r Prosbectws Ymgeisio).

Aseswyd ymatebion yr ymgeiswyr yn erbyn canllawiau asesu y cytunwyd arnynt gan y ddwy lywodraeth. Yn unol â gofynion y Prosbectws, dyfarnwyd sgôr ‘Uchel’, ‘Canolig’, neu ‘Isel’ yn unol â’r cynllun marcio yn Atodiad A y Prosbectws Ymgeisio. Ar gyfer Meini Prawf A, B, a C: y gallu i gyflawni yn erbyn blaenoriaethau ac amcanion llywodraethau Cymru a’r DU – roedd asesiad swyddogion o’r ymateb a ddarparwyd (ochr yn ochr â deunyddiau cysylltiedig o’r asesiad pasio/methu (adran 5.8)) i’w gyfrif am 100% o sgôr yr ymgeisydd ar gyfer y maen prawf hwnnw.

Ar gyfer Meini Prawf Ch a D: y gallu i gyflawni’r cynnig yn effeithiol yn gyflym a lefel uchel o ymwneud gan y sector preifat yn y cynnig – roedd gofyn i ymgeiswyr ymateb i sawl cwestiwn, gyda phwysoliad unigol i bob un ohonynt ar gyfer y sgôr cyffredinol (fel y nodir yn adran 5.9 o’r Prosbectws Ymgeisio). Wrth asesu’r atebion i’r cwestiynau hyn, ystyriodd aseswyr hefyd unrhyw wybodaeth berthnasol a ddarparwyd yn adran 5.8 (Meini Prawf Porth), yn ogystal ag unrhyw ddata sydd ar gael yn gyhoeddus (ee lefelau diweithdra) er mwyn profi unrhyw honiadau oedd yn yr atebion a ddarparwyd.

Yna, cynhaliwyd proses o gymedroli cychwynnol, gan gynnwys cymedroli mewnol gyda thimau o aseswyr, ac yna sesiynau cymedroli terfynol gan gyd-banel o’r ddwy lywodraeth, gan gynnwys uwch Weision Sifil. Roedd y broses gymedroli hon yn ystyried yr asesiad cyffredinol gan swyddogion polisi, a’r dadansoddiad ategol ac yn cynnwys croesholi a herio gan yr aseswyr arweiniol ar gyfer pob maen prawf.

Yn dilyn y broses gymedroli, rhoddwyd pum sgôr ‘Uchel’, ‘Canolig’ ac ‘Isel’ i bob cais, un yn erbyn pob maen prawf a nodir yn adran 5.2.4 y Prosbectws Ymgeisio. Mewn nifer cyfyngedig o achosion, nododd swyddogion fod yr ymatebion ar y ffin rhwng ddau fand, ee “Isel-Canolig” neu “Canolig-Uchel” ac felly cynigwyd bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn y sgoriau terfynol, a chytunodd y pwyllgor ar hynny.

Fe wnaeth y ddau gais oedd ar ôl gyrraedd y trothwy a nodir yn adran 5.2.6 y Prosbectws Ymgeisio, ac felly ystyriwyd hwy yn benodadwy.

Bu grŵp trawslywodraethol o uwch swyddogion sy’n ffurfio Cyd-Fwrdd y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn goruchwylio’r broses. Fel rhan o waith llywodraethu’r gystadleuaeth, fe gawsant wybodaeth am y broses o asesu a sgorio pob cais (manylir yn Atodiad B).

Ar ôl sicrhau bod y broses wedi ei halinio â’r Prosbectws Ymgeisio, gwiriodd Bwrdd y Rhaglen y rhestr o ymgeiswyr penodadwy a nodir yn Atodiad B. Yna, cyflwynwyd hwn i Weinidogion o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn gwneud y penderfyniad terfynol ar ba Borthladd Rhydd arfaethedig a fyddai’n symud ymlaen i’r cam nesaf a datblygu Achos Busnes Amlinellol. Darparwyd pecyn gwybodaeth hefyd i Weinidogion ei ystyried, oedd yn nodi mapiau ffin allanol pob cais a chrynodeb o asesiad swyddogion yn erbyn pob maen prawf, yn ogystal â gwybodaeth sensitif i gyd-destun fel yr amlinellir yn adran 5.3.2 o’r Prosbectws Ymgeisio, er mwyn sicrhau bod eu penderfyniad wedi ei wneud ar sail gwybodaeth lawn.

Penderfyniad Gweinidogion: Lleoliadau’r Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru

Cyfarfu Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru ag Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau er mwyn trafod y ceisiadau penodadwy.

Yn unol â’r broses a amlinellwyd yn y Prosbectws Ymgeisio, ystyriodd y gweinidogion asesiadau swyddogion o’r ceisiadau ac roedd rhyddid ganddynt i ystyried y pum ystyriaeth ychwanegol a restrir yn adran 5.3.2 o’r Prosbectws Ymgeisio i’w prosesau penderfynu eu hunain.

Roedd cymharu’r ddau gais y gellid eu penodi yn dangos gwahaniaeth eglur rhwng y cais Celtaidd a chais Ynys Môn, er bod y ddau yn bodloni’r isafswm gofynion a gyhoeddwyd yn hawdd (gan sgorio ‘Canolig’ o leiaf ar faen prawf A – Adfywio a Chreu Swyddi o Ansawdd Uchel a dim mwy nag un sgôr ‘Isel’ dros y pum maen prawf a aseswyd).

Nododd y ddau Weinidog bod y ddwy Lywodraeth yn y Prosbectws Ymgeisio wedi ymrwymo’n gyhoeddus i fod yn agored i ystyried penodi Porthladd Rhydd ychwanegol yng Nghymru, pe bai digon o gynigion eithriadol yn cael eu cyflwyno.

Nododd y ddau Weinidog bod yr adborth gan y rhai a fu’n rhan o’r broses drwy gydol y cam asesu, yn nodi bod cryfderau penodol gan y ddau gais, a bod eu dulliau gweithredu wedi eu gwreiddio yn eu cyd-destun lleol. Er bod y cais Celtaidd yn gryfach o ran canlyniad y gystadleuaeth, roedd cais Ynys Môn yn cynnig potensial sylweddol i gyflawni canlyniadau Ffyniant Bro ac adfywio ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt, a nodwyd cryfder consortia ymgeisio sefydledig Ynys Môn, oedd yn rhoi hyder o ran gallu i gyflawni. Roedd y ddau Weinidog yn gytûn bod cais Ynys Môn yn cyflwyno cais digon eithriadol i gyfiawnhau dewis ail Borthladd Rhydd i Gymru.

Atodiad A: Ceisiadau a fethodd yr asesiad pasio/methu cychwynnol

Porthladd Rhydd dan arweiniad Casnewydd

Rheswm dros fethu:

  • Ni ddarparwyd tystiolaeth (ee llythyrau) bod yr holl dirfeddianwyr wedi cytuno â’u gweledigaeth ar gyfer y safle treth arfaethedig a defnydd tir cysylltiedig ac y byddent yn cymryd camau priodol i sicrhau bod datblygiad ar y safle yn cyd-fynd ag amcanion y Porthladd Rhydd ac amcanion y polisi Porthladdoedd Rhydd ehangach (gofynnwyd am yr wybodaeth hon yng Nghwestiwn 1.7).

  • Ni ddarparwyd llythyr wedi ei lofnodi gan bob un o weithredwyr y safleoedd tollau arfaethedig yn cadarnhau’r wybodaeth a geisiwyd (gofynnwyd am yr wybodaeth hon yng Nghwestiwn 1.8).

  • Ni ddarparwyd cadarnhad ysgrifenedig o gefnogaeth i’w cais gan yr holl awdurdodau lleol sy’n rhan o’r cais (gofynnwyd am yr wybodaeth hon yng Nghwestiwn 1.9).

  • Ni ddarparwyd sail resymegol economaidd ddigonol ar gyfer y safleoedd treth, oedd yn cyfrif am fwy na chyfanswm maint uchaf yr arwynebedd a ganiateir o 600 hectar (Cwestiwn 1.13).

Atodiad B: Sgorio ceisiadau (yn ôl trefn yr wyddor)

Porthladd Rhydd Cymru Maen prawf Polisi A: Hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel Maen prawf Polisi B: Sefydlu canolfannau ar gyfer masnach a buddsoddiad byd-eang Maen prawf Polisi C: Meithrin amgylchedd arloesol Maen prawf Cyflawni Ch: Y gallu i gyflawni’r cynnig yn effeithiol yn gyflym Maen prawf Cyflawni D: Lefel uchel o ymwneud gan y sector preifat yn y cynnig
Porthladd Rhydd Ynys Môn Canolig Canolig Canolig Canolig Canolig
Porthladd Rhydd Celtaidd Uchel Uchel Canolig Canolig Uchel