O niwed i obaith: cynllun cyffuriau 10 mlynedd i gwtogi ar droseddu ac achub bywydau
Updated 29 April 2022
Rhageiriau
Y Prif Weinidog
Mae hi gymaint anoddach lefelu cymuned tra bod troseddwyr yn ei llusgo i lawr. Wedi’r cyfan, i ffynnu a llwyddo mewn bywyd mae angen i ni deimlo’n ddiogel ar ein strydoedd ac yn ddiogel yn ein cartrefi. Ac os ydym yn mynd i wneud hynny’n realiti dyddiol i’r rhan fwyaf o bobl yn y wlad hon, yna mae’n rhaid i ni wneud mwy i fynd i’r afael â chyffuriau anghyfreithlon.
Dyna hanfod y strategaeth hon, sef ymagwedd newydd at y broblem a fydd yn lleihau troseddu ac yn gwella bywydau pobl.
Mae cost ariannol camddefnyddio cyffuriau yn syfrdanol. Ar hyn o bryd mae’n costio bron i £20 biliwn y flwyddyn i gymdeithas, rhywbeth fel £350 i bob dyn, menyw a phlentyn yn Lloegr.
Ond mae’r difrod dynol yn anfesurol fwy, wedi’i fesur nid mewn punnoedd a gollwyd ond mewn bywydau sydd wedi’u chwalu.
Dioddefwyr bregus y gangiau llinellau cyffuriau ffiaidd, yn cael eu llusgo i fyd troseddau cyfundrefnol o oedran mor ifanc â saith oed. Y teuluoedd diniwed y torrir i mewn i’w cartrefi gan bobl sy’n gaeth i gyffuriau sy’n ceisio bwydo eu harferion, ac y mae eu cymdogaethau yn cael eu difetha gan y troseddwyr sy’n cyflenwi cyffuriau iddynt. Perchennog y busnes bach sy’n dioddef oherwydd dwyn o siopau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol dro ar ôl tro ar eu stryd fawr. Y bron i 3,000 o bobl sy’n colli eu bywydau i gyffuriau anghyfreithlon bob blwyddyn, a’r anwyliaid galarus maent yn eu gadael ar ôl.
Mae’n amlwg nad yw’r hen ffordd o wneud pethau’n gweithio. Felly mae’r cynllun hwn yn wahanol. Nid yw’n ateb tymor byr ond yn strategaeth 10 mlynedd hirdymor, un sy’n trin cam-drin cyffuriau nid yn unig fel mater gorfodi’r gyfraith ond fel problem i gymdeithas gyfan y mae’n rhaid i bob rhan o’r llywodraeth ymdrin â hi.
Mae mwy na 300,000 o bobl sy’n gaeth i heroin a chrac yn Lloegr sydd, rhyngddynt, yn gyfrifol am bron i hanner yr holl fyrgleriaethau, lladradau a throseddau caffaelgar eraill. Dylai’r troseddwyr cyfresol hyn gael eu cosbi’n briodol am y troseddau y maent yn eu cyflawni, troseddau sy’n achosi dioddefaint mewn cymunedau ledled y wlad. Ond dylent hefyd gael y cyfle i dynnu i ffwrdd o gyffuriau a newid eu bywydau. Oherwydd os gallwn drawsnewid bywydau pobl sy’n gaeth i gyffuriau, bydd y cymunedau y maent yn byw ynddynt yn profi llai o droseddu, llai o anhrefn a llai o drais. Dyna ein nod.
Byddwn hefyd yn mynd i’r afael â’r cadwyni cyflenwi sy’n peri dioddefaint i gynifer o gymdogaethau. Bydd plant yn derbyn addysg gynhwysfawr am beryglon cyffuriau. Bydd ymyriadau’n digwydd ynghynt i atal pobl ifanc rhag cael eu llusgo i fywyd o gyffuriau a throseddu.
Ac ni fydd unrhyw oddefgarwch ymhlyg o’r hyn a elwir yn ddefnyddwyr cyffuriau hamdden. Ni allwn ganiatáu i’r argraff gael ei rhoi bod defnyddio cyffuriau yn achlysurol yn dderbyniol. Nid yw hynny’n wir. Felly bydd cosbau newydd i ddefnyddwyr cyffuriau.
Oherwydd bod cyffuriau’n achosi troseddu ac mae troseddu’n difetha bywydau diniwed. Os ydym am lwyddo i lefelu’r wlad hon yna mae’n rhaid i ni dorri’r cylch o drais a chamddefnyddio sy’n difetha cymaint o gymunedau, dod â gobaith i’r rhai sydd wedi ei golli ers amser maith a helpu i ailadeiladu’r bywydau a chwalwyd gan y fasnach gyffuriau anghyfreithlon.
Gyda’r strategaeth hon, dyna’n union y bydd y llywodraeth hon yn ei wneud.
Y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson, AS, Prif Weinidog
Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref a’r Gweinidog Brwydro yn erbyn Cyffuriau
Mae’r cynllun deng mlynedd hwn, y mwyaf uchelgeisiol ers cenhedlaeth, yn nodi sut y bydd y Llywodraeth hon yn brwydro yn erbyn y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon – gan leihau troseddu, achub bywydau, a herio’r union syniad o ‘ddefnyddio cyffuriau hamdden’, sy’n hyrwyddo marchnad dreisgar ac ecsbloetiol. Dyma’r Strategaeth Gyffuriau gyntaf erioed sy’n ymrwymo’r llywodraeth gyfan a’n gwasanaethau cyhoeddus i gydweithio a rhannu cyfrifoldeb am greu cymdeithas fwy diogel, iachach a mwy cynhyrchiol. Mae defnyddio cyffuriau’n anghyfreithlon yn fater cymhleth sydd wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd, felly mae’n rhaid i ni harneisio ein holl egni ac arbenigedd wrth i ni ymateb.
Mae tueddiadau pryderus y blynyddoedd diwethaf, a amlygwyd gan yr adolygiadau rhagorol a arweiniwyd gan y Fonesig Carol Black, yn golygu nad yw methu â gweithredu yn opsiwn.
Mae cyffuriau yn cael effaith ddinistriol ar ein cymdeithas, gan adael llwybr o ddioddefaint yn eu sgil. Maent yn ysgogi hanner yr holl laddiadau a chollodd bron i 3,000 o bobl eu bywydau yn drasig oherwydd marwolaethau a achoswyd gan gamddefnyddio cyffuriau yng Nghymru a Lloegr y llynedd.Nid hynny yn unig, yr ardaloedd mwyaf difreintiedig sy’n wynebu’r troseddau a’r niwed mwyaf i iechyd a ysgogir gan gyffuriau.
Mae cyffuriau’n dinistrio bywydau, yn chwalu teuluoedd ac yn plagio cymdogaethau ledled y wlad, gan hyrwyddo trais a throseddau caffaelgar. Digon yw digon. Rhaid i ni droi’r llanw.
Bydd y Llywodraeth hon yn gwrthdroi’r problemau hyn o fewn y degawd nesaf. Byddwn yn gwneud ein cymdogaethau’n fwy diogel am ddegawdau i ddod drwy wrthdaro’r farchnad cyffuriau anghyfreithlon yn ddigyfaddawd, gan leihau niwed i unigolion a chymunedau, drwy driniaeth ac adferiad o ddibyniaeth, a thrwy leihau’r galw am gyffuriau.
Byddwn yn sicrhau bod troseddu’n opsiwn anneniadol nad yw’n talu. Bydd cyfiawnder yn cael ei roi i werthwyr cyffuriau diolch i orfodi llym a chudd-wybodaeth o’r radd flaenaf. Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio grym llawn y llywodraeth mewn ymosodiad di-baid a digyfaddawd ar bob cam o’r gadwyn cyflenwi cyffuriau.
Rydym hefyd yn rhoi’r gallu a’r dechnoleg i’r gwasanaeth carchardai amharu ar y cyflenwad a’r defnydd o gyffuriau mewn carchardai gan ddiogelu carchardai rhag bod yn academïau troseddu. Rhaid i bob carchar fabwysiadu ymagwedd dim goddefgarwch tuag at gyffuriau, gan wneud yn siŵr bod triniaeth ar gael fel y gall carcharorion wneud newid parhaol tuag at fywyd di-gyffuriau i’w hatal rhag aildroseddu.
Byddwn yn sicrhau bod ymyrraeth gynnar ar gael ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd sy’n wynebu’r perygl mwyaf a byddwn yn gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael addysg o ansawdd uchel ar iechyd a pherthnasoedd i helpu i atal y defnydd o gyffuriau.
Byddwn yn cynnig mwy o gymorth i bobl sy’n gaeth i gyffuriau. Mae caethiwed yn gyflwr cronig sy’n galw am driniaeth gynharach a gwell, a chymorth parhaus. Bydd hynny’n cael ei gyfuno â mwy o gyllid i roi triniaeth o ansawdd gwell i fwy o bobl, cymorth i’r rhai sydd angen tai, a chymorth ym maes cyflogaeth i helpu pobl i ddod o hyd i swydd sy’n gywir iddynt hwy.
Mae dibyniaeth ar gyffuriau yn aml yn cydfodoli â gwahaniaethau iechyd eraill, megis iechyd meddwl gwael a digartrefedd, felly rydym yn sicrhau bod anghenion iechyd corfforol a meddyliol pobl sy’n gaeth i gyffuriau yn cael sylw, er mwyn lleihau niwed a chefnogi adferiad.
Rydym hefyd yn rhoi hwb i weithlu gweithwyr iechyd proffesiynol y sector, fel eu bod yn gymwys iawn i ddarparu’r triniaethau sydd eu hangen i lwyddo. Yn ogystal â hyn, byddwn yn gweithio gyda’r GIG a’r trydydd sector i ehangu a gwella triniaethau ac ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, er enghraifft therapïau siarad, dadwenwyno cleifion mewnol ac adsefydlu preswyl, rhaglenni nodwyddau a chwistrellau, ac ystod lawn o feddyginiaethau sy’n gallu cefnogi adferiad.
Mae’r strategaeth yn dangos sut y byddwn yn parhau i ehangu’r ddarpariaeth o’r gwrthwenwyn heroin sef naloxone sy’n achub bywydau i leihau marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau ac archwilio’r broses o gyflwyno buprenorffin, a allai fod yn chwyldroadol, er mwyn lleihau marwolaethau oherwydd cyffuriau.
Ac ar gyfer oedolion sy’n cymryd cyffuriau hamdden, sy’n cael eu cysgodi’n rhy aml rhag trais difrifol, ecsbloetio dynol, caethiwed difrifol a throseddau’r fasnach gyffuriau, bydd canlyniadau llymach a deimlir yn gryfach na heddiw. Bydd Papur Gwyn y flwyddyn nesaf yn ystyried cyfres o sancsiynau cynyddol megis cyrffyw neu ddileu pasbort neu drwydded yrru dros dro, a dirwyon uwch.
Er mwyn cyflawni’r strategaeth uchelgeisiol hon, rydym yn buddsoddi bron i £900 miliwn o gyllid ychwanegol dros y tair blynedd nesaf ac yn datblygu fframwaith newydd o atebolrwydd cenedlaethol a lleol. Bydd hyn yn darparu 54,500 yn fwy o leoedd triniaeth, yn atal bron i 1,000 o farwolaethau, ac yn cau dros 2,000 yn fwy o linellau cyffuriau.Byddwn yn gwrthdroi’r duedd gynyddol yn y defnydd o gyffuriau o fewn degawd, ag uchelgais i leihau’r defnydd cyffredinol tuag at isafbwynt hanesyddol o 30 mlynedd.
Bydd y Llywodraeth yn ddi-baid yn ein dycnwch, i ddefnyddio pob arf sydd ar gael i ni i yrru cyffuriau allan o’n dinasoedd, ein trefi, a’n pentrefi. Cynlluniwyd ein strategaeth i achub bywydau a lleihau troseddu, gan helpu yn ei dro i lefelu ein gwlad. Ni allai fod mwy yn y fantol, ac rydym yn gwbl benderfynol o gyflawni’r newid y mae cymaint ei angen.
Y Gwir Anrhydeddus Priti Patel AS Ysgrifennydd Cartref
Y Gwir Anrhydeddus Sajid Javid AS Ysgrifennydd Iechyd
Y Gwir Anrhydeddus Kit Malthouse AS Gweinidog Brwydro yn Erbyn Cyffuriau
Crynodeb gweithredol
Mae ein cynllun 10 mlynedd gan Lywodraeth y DU i frwydro yn erbyn cyffuriau anghyfreithlon yn nodi sut yr ydym yn gwneud mwy nag erioed i dorri i ffwrdd y cyflenwad o gyffuriau gan gangiau troseddol a rhoi llwybr i fywyd cynhyrchiol a di-gyffuriau i bobl sy’n gaeth i gyffuriau.[footnote 1] Wedi’i ategu gan y buddsoddiad mwyaf erioed o dros £3 biliwn yn y tair blynedd nesaf, byddwn yn lleihau troseddu, marwolaethau, niwed sy’n gysylltiedig â chyffuriau a’r defnydd cyffredinol o gyffuriau. Bydd partneriaid cenedlaethol a lleol yn canolbwyntio ar gyflawni tair blaenoriaeth strategol.
Torri cadwyni cyflenwi cyffuriau – y Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder
O fewn degawd bydd y DU yn lle gryn dipyn yn anoddach i grwpiau troseddau cyfundrefnol (OCGs) weithredu ynddo. Byddwn yn cynyddu ein hymateb i’r cyflenwad o’r cyffuriau mwyaf niweidiol, gan ymosod ar bob cam o’r gadwyn gyflenwi, lleihau’r trais a’r camfanteisio cysylltiedig, a diogelu carchardai rhag bod yn academïau troseddu. Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
-
cyfyngu ar lif i fyny’r afon - atal cyffuriau rhag cyrraedd y wlad
-
diogelu’r ffin –cylch o ddur i atal cyffuriau rhag dod i mewn i’r DU
-
targedu’r ‘farchnad ganol’ – torri ar allu gangiau i gyflenwi cyffuriau fel cyfanwerthwyr i werthwyr mewn cymdogaethau
-
mynd ar ôl yr arian – amharu ar weithrediadau gangiau cyffuriau ac atafaelu eu harian
-
rhoi terfyn ar linellau cyffuriau– dod â chyflawnwyr o flaen eu gwell, diogelu a chefnogi dioddefwyr, a lleihau trais a dynladdiad
-
mynd i’r afael â’r farchnad fanwerthu – fel bod yr heddlu’n gallu targedu gangiau cyffuriau lleol a delio ar y stryd yn well
-
cyfyngu ar y cyflenwad cyffuriau i garchardai – technoleg a sgiliau i wella diogelwch a chanfod
Darparu system driniaeth ac adferiad o safon fyd-eang– yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau, a’r Adran Gwaith a Phensiynau.
O fewn degawd, byddwn yn darparu system driniaeth ac adferiad o safon fyd-eang yn Lloegr. Bydd £780 miliwn ychwanegol dros dair blynedd yn cael ei ymrwymo i ddechrau bwrw ymlaen â hyn, gan roi argymhellion allweddol y Fonesig Carol Black ar waith.[footnote 2] Byddwn yn trin caethiwed fel cyflwr iechyd cronig, gan chwalu stigma, achub bywydau, a thorri’n sylweddol y cylch o droseddu y gall caethiwed ei ysgogi drwy:
-
darparu gwasanaethau triniaeth ac adferiad o safon fyd-eang– ailadeiladu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gomisiynir gan awdurdodau lleol, gan wella ansawdd, gallu a chanlyniadau
-
ailadeiladu’r gweithlu proffesiynol– datblygu a chyflwyno strategaeth gynhwysfawr ar gyfer camddefnyddio sylweddau i’r gweithlu
- sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu hintegreiddio’n well– gan wneud yn siŵr yr eir i’r afael ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol pobl er mwyn lleihau niwed a chefnogi adferiad, a darparu Prosiect ADDER yn barhaus i gydgysylltu triniaeth, adferiad a gorfodi[footnote 3]
-
gwella mynediad at lety ochr yn ochr â thriniaeth– mynediad at driniaeth o safon i bawb sy’n cysgu allan, a gwell cymorth ar gyfer cyrchu a chynnal tai diogel
-
gwella cyfleoedd cyflogaeth– cymorth cyflogaeth wedi’i gyflwyno ledled Lloegr a mwy o gymorth gan gyfoedion yn gysylltiedig â gwasanaethau’r Ganolfan Byd Gwaith
-
cynyddu atgyfeiriadau i driniaeth yn y system cyfiawnder troseddol – gweithwyr arbenigol ym maes cyffuriau i gefnogi gofynion triniaeth fel rhan o ddedfrydau cymunedol fel bod troseddwyr yn cael triniaeth ar gyfer cyffuriau
- sicrhau bod carcharorion yn dal i ymgysylltu â thriniaeth ar ôl eu rhyddhau– gwell ymgysylltiad â phobl cyn iddynt adael y carchar a gwell parhad gofal yn y gymuned
Cyflawni newid genedliadol yn y galw am gyffuriau-y Swyddfa Gartref, yr Adran Addysg, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yr Adran Codi’r Gwastad Tai a Chymunedau.
Byddwn yn cymryd camau beiddgar i newid agweddau mewn cymdeithas ynghylch derbynioldeb canfyddedig defnyddio cyffuriau anghyfreithlon. Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
-
adeiladu sylfaen dystiolaeth sy’n arwain y byd–ymchwil newydd uchelgeisiol wedi’i chefnogi gan gronfa arloesi trawslywodraethol i brofi a dysgu ac ysgogi newid yn y byd go iawn
-
cymhwyso canlyniadau llymach a mwy ystyrlon– gweithredu pendant i wneud mwy nag erioed i dargedu mwy o bobl sydd â chyffuriau anghyfreithlon yn eu meddiant, a Phapur Gwyn y flwyddyn nesaf gyda chynigion i fynd ymhellach
-
darparu ataliad ac ymyrraeth gynnar yn yr ysgol– darparu a gwerthuso perthnasoedd gorfodol, addysg rhyw ac iechyd i wella ansawdd a chysondeb, gan gynnwys disgwyliad clir y bydd pob disgybl yn dysgu am beryglon cyffuriau ac alcohol yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol
-
cefnogi pobl ifanc a theuluoedd sydd fwyaf mewn perygl o gamddefnyddio sylweddau– buddsoddi mewn amrywiaeth o raglenni sy’n darparu cymorth cynnar, wedi’i dargedu, gan gynnwys y Rhaglen Cefnogi Teuluoedd
Erbyndiwedd 2024/25 rydym yn disgwyl y bydd y genhadaeth hon ar gyfer y llywodraeth gyfan wedi:
- atal bron i 1,000 o farwolaethau, gan wrthdroi’r duedd ar i fyny mewn marwolaethau oherwydd cyffuriau am y tro cyntaf ers degawd
-
cyflawni ehangiad graddol o gapasiti triniaeth gydag o leiaf 54,500 o leoedd triniaeth newydd o ansawdd uchel-cynnydd o 20%-gan gynnwys:
- 21,000 o leoedd newydd ar gyfer defnyddwyr opiadau a chrac, gan ddarparu triniaeth i 53% o ddefnyddwyr opiadau a chrac
- o leiaf 7,500 yn fwy o leoedd triniaeth i bobl sydd naill ai’n cysgu allan neu sydd mewn perygl uniongyrchol o gysgu allan – cynnydd o 33% ar y niferoedd presennol
- lle triniaeth i bob troseddwr sydd â chaethiwed
- cyfrannu atataltri chwarter miliwn o droseddaugan gynnwys 140,000 o droseddau cymdogaeth drwy’r cynnydd mewn triniaeth cyffuriau
- cau dros 2,000 yn fwy o linellau cyffuriautrwy ein camau gweithredu diflino a chadarn i dorri’r model a lleihau’r gangiau sy’n rhedeg y llinellau anghyfreithlon hyn
- cyflawni 6,400 o amhariadau mawr a chymedrol -cynnydd o 20%-yn erbyn gweithgareddau troseddwyr cyfundrefnol, gan gynnwys arestio cyflenwyr dylanwadol, targedu eu harian a datgymalu cadwyni cyflenwi
- cynyddu’n sylweddol ein gwrthodiad o asedau troseddol,gan gymryd arian parod, cryptoarian ac asedau eraill o ddwylo troseddwyr sy’n ymwneud â masnachu a chyflenwi cyffuriau
Dros gyfnod y strategaeth 10 mlynedd, byddwn yngwrthdroi’r duedd gynyddol o ran defnyddio cyffuriau, â’r uchelgais i leihau’r defnydd cyffredinol tuag at lefel isel hanesyddol ers 30 mlynedd. Bydd hyn yncefnogi cenhadaeth codi’r gwastad llywodraeth gyda phobl yn byw bywydau hirach ac iachach mewn cymdogaethau diogel a chynhyrchiol.
Atebolrwydd a chyflawni
Fel y Gweinidog Brwydro yn Erbyn Cyffuriau, mae gan Kit Malthouse AS, atebolrwydd trosfwaol am y strategaeth a chyflawni’r uchelgeisiau a’r ymrwymiadau, a bydd yn cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Senedd i fonitro cynnydd. Mae pob Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yn atebol am gyflawni’r elfennau o fewn cylch gwaith eu Hadran, gyda ffocws di-baid ar ganlyniadau gwell i ddinasyddion a chymdogaethau, wedi’u nodi drwy fframwaith canlyniadau cenedlaethol newydd.
Bydd partneriaid cyflawni lleol yn cael eu dwyn i gyfrif drwy fframwaith canlyniadau lleol a mesurau ehangach a nodir ym mhennod 5. Byddwn yn ymgysylltu â phartneriaid cyflawni i ddatblygu a chyhoeddi’r ddau fframwaith ym mis Ebrill 2022, gan nodi perchnogion atebol mewn ardaloedd lleol.Mae llwyddiant yn dibynnu ar ystod eang o bartneriaid lleol yn cydweithio tuag at uchelgeisiau hirdymor y strategaeth.Er mwyn cefnogi darpariaeth ledled Lloegr rydym yn:
- ei gwneud yn ofynnol i bob ardal leol gael partneriaeth gref sy’n dod â’r holl sefydliadau perthnasol ac unigolion allweddol ynghyd, a datblygu canllawiau i gefnogi’r Systemau Gofal Integredig newydd
- datblygu a gweithredu safon ansawdd comisiynu i gefnogi tryloywder ac atebolrwydd rhwng yr holl bartneriaid a haenau o lywodraeth
Cyflawni gwlad ddiogel, iach a mwy cynhyrchiol
Mae mynd i’r afael â’r berthynas gymhleth rhwng cyffuriau, troseddu, canlyniadau iechyd ac amddifadedd yn golygu y byddwn yn gwneud cyfraniad sylweddol at genhadaeth ddiffiniol y llywodraeth o godi’r gwastad.Mewn rhai ardaloedd mae pobl yn profi mwy o niwed oherwydd ble maent yn byw: mae effaith lefelau uwch o gaethiwed i gyffuriau a throseddau cysylltiedig â chyffuriau yn difetha eu cymdogaethau’n anghymesur. Byddwn yn codi gwastad ein hymateb i gyffuriau trwy gynyddu ein cymorth, targedu yn gyntaf y cymdogaethau hynny sy’n dioddef fwyaf, a sicrhau ein bod yn cyrraedd pob awdurdod lleol dros y tair blynedd nesaf. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, byddwn yn dysgu o’n Prosiect ADDER blaenllaw, gyda ffocws craff ar gyflawni ar gyfer dinasyddion.[footnote 4]
Pennod 1 – Trosolwg a dull gweithredu
Mae natur gronig a sefydledig y defnydd o gyffuriau yn y wlad hon ac o gwmpas y byd yn golygu bod angen i ni fabwysiadu dull hirdymor os ydym am lwyddo i drawsnewid hyn. Mae’r cynllun 10 mlynedd hwn yn ddull modern sy’n seiliedig ar dystiolaeth o fynd i’r afael â’r galw am gyffuriau a’r cyflenwad ohonynt. Mae hyn yn hanfodol i atal problemau rhag ail-ymddangos neu waethygu. Dros y degawd nesaf byddwn yn troi’r llanw ar droseddu cyffuriau, yn lleihau’r niwed y mae cyffuriau yn ei achosi i unigolion a
chymdeithas, ac yn achub bywydau i’r genhedlaeth hon a’r genhedlaeth nesaf.Ategir hyn gan bron i £900 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol dros y tair blynedd nesaf, gan fynd â chyfanswm y cyllid trawslywodraethol i fwy na £3 biliwn.Bydd diwygio systemau cenedlaethol a lleol, a chyfres o ganlyniadau a nodau uchelgeisiol y bydd llywodraeth a phartneriaid lleol yn atebol am eu cyflawni, yn ategu hyn ymhellach.
Her y defnydd anghyfreithlon o gyffuriau
Mae cyffuriau yn broblem fyd-eang, gan achosi niwed sylweddol ledled y byd. Mae defnydd a niwed cyffuriau wedi bod yn cynyddu, gan ddifetha cymdogaethau a’u hatal rhag cyrraedd eu llawn botensial. Ers cyhoeddi’r strategaeth ddiwethaf ar gyfer cyffuriau yn 2017, mae wedi dod yn amlwg bod angen i ni gamu’n ôl a deall pam mae pethau wedi parhau i fynd i’r cyfeiriad anghywir. Comisiynwyd y Fonesig Carol Black i gynnal adolygiad dwy ran o bolisi cyffuriau. Roedd rhan un yn asesiad eang o’r dystiolaeth ar gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i’r DU a sut mae troseddwyr yn bodloni galw defnyddwyr, ac roedd rhan dau yn gwneud argymhellion penodol ar gyfer gwella atal, triniaeth ac adfer.[footnote 5]
Mae’r adolygiadau hyn yn nodi’r realiti llwm. Amcangyfrifir bod 1,716 o OCGs yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau yn y DU, gan gynnwys o fewn yr ystâd carchardai.[footnote 6] Mae llinellau cyffuriau yn ysgogi mwy o drais yn y farchnad gyffuriau, yn ogystal ag ecsbloetio pobl ifanc a defnyddwyr bregus o gyffuriau. Yn 2020 yn unig cynyddodd atgyfeiriadau plant yr amheuir eu bod yn ddioddefwyr llinellau cyffuriau o 31%.[footnote 7] Mae’r DU ymhlith y gwledydd yn Ewrop yr effeithir arnynt fwyaf gan gyffuriauac mae’r galw amdanynt ar draws y boblogaeth yn rhy uchel: dywedodd dros dair miliwn o oedolion eu bod wedi defnyddio cyffuriau yng Nghymru a Lloegr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a dywedodd un o bob tri phlentyn 15 oed eu bod wedi cymryd cyffuriau yn 2018. [footnote 8]
Nid yw capasiti’r system driniaeth yn ddigonol i ddiwallu’r angen am gymorth ac nid yw hanner y bobl sy’n gaeth i’r cyffuriau mwyaf niweidiol – opiadau a chrac cocên – yn cael triniaeth. Mae lefel yr angen heb ei ddiwallu am gyffuriau eraill hyd yn oed yn uwch. Mae nifer o wledydd wedi bod yn profi eu lefelau uchaf o farwolaethau cysylltiedig â chyffuriau dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn y DU bu cynnydd o 80% ers 2012, gyda nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â heroin yn dyblu yn y cyfnod hwnnw.[footnote 9]
Mae rhai poblyn profi anghenion lluosog a chymhleth, gyda chaethiwed i gyffuriau yn cyd- ddigwydd ag amrywiaeth o anghydraddoldebau iechyd megis salwch meddwl, digartrefedd a chysgu allan, a chyswllt â’r system cyfiawnder troseddol . Yn Lloegr, mae dros chwarter miliwn o bobl bob blwyddynyn profi o leiaf dau o bob tri ar draws digartrefedd, camddefnyddio sylweddau ac ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol, ac mae o leiaf 58,000 o bobl yn dod i gysylltiad â’r tri. [footnote 10] Mae’r tebygolrwydd o ddioddef o’r anfanteision hyn yn amrywio’n fawr yn dibynnu ar ble mae person yn byw, gyda niferoedd uchel wedi’u crynhoi mewn dinasoedd gogleddol a rhai trefi glan môr. Bydd lleihau’r defnydd o gyffuriau yn golygu bod pobl yn byw bywydau hirach, iachach ac yn dioddef llai o droseddu yn eu cymdogaethau.
Ein dull strategol 10 mlynedd
Ategir y strategaeth hon gan gydnabyddiaeth glir bod cyffuriau anghyfreithlon yn niweidio cymdeithas. Ein huchelgais ar y cyd yw cyflawni newid cenedliadol ym mherthynas y wlad â chyffuriau a lleihau’r defnydd cyffredinol o gyffuriau tuag at isafbwynt hanesyddol ers 30 mlynedd. Byddwn hefyd yn lleihau’r niwed y mae caethiwed i gyffuriau a chyflenwad cyffuriau yn ei achosi i unigolion a chymdogaethau.
Mae dros 300,000 o bobl yn gaeth iheroin a chrac cocên yn Lloegr. Dyma ran fwyaf y farchnad cyffuriau anghyfreithlon ag amcangyfrif o werth o £5.1 biliwn y flwyddyn. Mae’r caethiwed, y niwed a’r marwolaethau y mae’r cyffuriau hyn yn eu hachosi, a’r trais sy’n gysylltiedig â’u cyflenwi, yn arwain atfwyafrif helaeth y gost i unigolion, cymdogaethau a chymdeithas.[footnote 11] Credir bod caethiwed i’r cyffuriau hyn yn gysylltiedig ag oddeutu hanner yr holl achosion o ddwyn, byrgleriaeth a lladrata gyda phobl â chaethiwed yn defnyddio cyffuriau ar gyfartaledd ar 251 diwrnod y flwyddyn ar gost o £12,538.[footnote 12]
Am y rhesymau hyn, byddwn yn canolbwyntio yn y tymor byr ar ymdrechion i frwydro yn erbyn y cyflenwad o heroin a chrac cocên, ac ar gael y driniaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i’r rhai sy’n dioddef o gaethiwed .Ar yr un pryd, byddwn yn parhau iganolbwyntio’n fanwl ar fynd ar drywydd cyflenwad anghyfreithlon o’r holl gyffuriau ac ar ddarparu triniaeth o ansawdd uchel ar gyfer caethiwed i gyffuriau eraill. Gall y caethiwed y maent yn ei achosi ddifetha bywydau, ac mae’n gwneud hynny. Bydd dros hanner y bobl ychwanegol sy’n cael triniaeth cyffuriau dros y tair blynedd nesaf yn cael eu cefnogi i adferiad hirdymoro ystod o sylweddau gan gynnwys canabis, powdr cocên, alcohol a chyffuriau synthetig, gan gynnwys GHB a sylweddau tebyg sy’n aml yn ymwneud â ‘chemsex’.
Byddwn hefyd yn gwneud mwy i leihau’r defnydd o gyffuriau hamdden, fel y’i gelwir, nad ydynt yn ddibynnol.Er enghraifft,efallai y bydd defnyddwyr cocên, sydd ar gyfartaledd yn cymryd cyffuriau 30 diwrnod y flwyddyn, yn meddwl bod eu defnydd yn ddiniwed, ond mae’n bwydo marchnad droseddol gwerth oddeutu £2 biliwn sy’n dibynnu ar gadwyn gyflenwi ecsbloetiol a threisgar, gartref a thramor. [footnote 13] Nid yw canlyniadau cyfreithiol ar gyfer y defnydd hwn wedi’u gweithredu’n ddigonol ar draws pob lefel o gymdeithas, gyda’r Comisiwn ar Gwahaniaethau Hiliol ac Ethnig yn amlygu effaith anghymesur deddfauau meddiannu, yn arbennig ar gyfer cyffuriau Dosbarth B, ar bobl ifanc ddu.[footnote 14] Byddwn yn gwella ein dulliau o nodi defnyddwyr cyffuriau hamdden ac yn cyflwyno system o gosbau llymach wedi’u hanelu at hyn.
Mae dad-droseddoli yn cael ei awgrymu’n aml fel ateb syml i lawer o’r problemau a achosir gan gyffuriau anghyfreithlon. Nid yw hyn yn wir.Byddai’n gadael troseddwyr cyfundrefnol â rheolaeth tra’n peryglu cynnydd yn y defnydd o gyffuriau. Yr hyn sydd ei angen yw’r dull system gyfan a argymhellwyd gan y Fonesig Carol Black ac, wrth weithredu holl argymhellion allweddol ei hadolygiad, dyna y mae’r strategaeth hon yn ceisio ei wneud: sef torri’r cyflenwad o gyffuriau i ffwrdd, atal a lleihau’r defnydd o gyffuriau, a thriniaeth a chymorth adfer o’r radd flaenaf i’r rhai sy’n brwydro yn erbyn caethiwed dros y degawd nesaf.
Mae mynd i’r afael â’r cynnydd yn y defnydd cyffredinol o gyffuriau yn galw am newid cenedliadol ac agweddfel bod llai o bobl yn cymryd cyffuriau neu’n teimlo eu bod yn cael eu tynnu tuag at eu cymryd o fewn 10 mlynedd.Bydd buddsoddi yn addysg a gwytnwch plant a phobl ifanc yn ein helpu i godi’r gwastad ar gyfer y wlad gyfan, yn arbennig i’r teuluoedd hynny sy’n wynebu risg uwch o ddefnyddio cyffuriau neu niwed, fel y gallant ragori a ffynnu yn y lleoedd hynny, ni waeth ble mae rhywun yn cael ei eni neu’n byw.
Mae ein blaenoriaethau strategol yn galw am ddulliau gwahanol a byddant yn cael effeithiau gwahanol ar draws demograffeg ac ardaloedd lleol. Byddwn yn monitro effeithiau ar draws dull system gyfan y strategaeth i olrhain cynnydd tuag at ganlyniadau gwell ac osgoi unrhyw ganlyniadau anfwriadol, megis ehangu anghydraddoldebau.Mae’r ddelwedd ddilynol yn crynhoi ein tair blaenoriaeth strategol a’n cynllun yn ôl pob un.
Ein cynllun ar dudalen
Blaenoriaeth | Torri cadwyni cyflenwi cyffuriau | Darparu system driniaeth ac adferiad o safon fyd-eang | Cyflawni newid yn y galw am gyffuriau hamdden |
---|---|---|---|
Pam? | Mae cadwyni cyflenwi cyffuriau yn dreisgar ac yn ecsbloetiol, gan ddiraddio cymdogaethau ledled y wlad ac yn rhyngwladol | Mae caethiwed i gyffuriau yn niweidio unigolion a chymdeithas: mae marwolaethau wedi codi i’r lefelau uchaf erioed ac mae bron i hanner y troseddau caffaelgar yn gysylltiedig â chaethiwed | Mae’r defnydd o gyffuriau hamdden wedi cynyddu dros ddegawd, yn arbennig ymhlith pobl ifanc, gan beryglu niwed unigol a hybu marchnadoedd peryglus |
Sut? | Byddwn yn parhau i roi terfyn ar linellau cyffuriau a chryfhau ein hymateb ar draws y gadwyn cyflenwi cyffuriau, gan wneud y DU yn lle llawer anoddach i grwpiau troseddau cyfundrefnol weithredu. | Byddwn yn buddsoddi £780 miliwn pellach i ailadeiladu gwasanaethau triniaeth ac adferiad cyffuriau, gan gynnwys ar gyfer pobl ifanc a throseddwyr, gyda safonau comisiynu newydd i hybu tryloywder a chysondeb. | Byddwn yn cryfhau’r dystiolaeth ar gyfer y ffordd orau o atal pobl rhag defnyddio cyffuriau hamdden, gan sicrhau bod oedolion yn newid eu hymddygiad neu’n wynebu canlyniadau anodd, a chyda gweithgarwch cyffredinol ac wedi’i dargedu i atal pobl ifanc rhag dechrau cymryd cyffuriau. |
Pwy? | Y Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol a chudd-wybodaeth, yr NCA, Llu’r Ffiniau, yr heddlu, llysoedd, carchardai a’r gwasanaeth prawf | DHSC, DLUHC, DWP a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gweithio gydag NHSE, awdurdodau lleol, darparwyr triniaeth a phobl â phrofiad bywyd | DfE, DHSC, y Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan weithio gydag awdurdodau lleol, yr heddlu, darparwyr addysg, cyfleusterau diogel a gwasanaethau ieuenctid |
Beth? | O fewn tair blynedd: cau 2,000 yn fwy o linellau cyffuriau, tarfu ar 6,400 o weithgareddau OCG a gwadu mwy o asedau troseddol | O fewn tair blynedd: atal bron i 1,000 o farwolaethau, darparu 54,500 o leoedd triniaeth newydd o ansawdd uchel ac atal chwarter miliwn o droseddau | Lleihau’r defnydd cyffredinol o gyffuriau i lefel hanesyddol isel newydd o 30 mlynedd dros y degawd nesaf |
Rhoi tystiolaeth wrth galon y dull hwn
Mae adolygiad pwysig y Fonesig Carol Black yn sail i’r blaenoriaethau hyn. Roedd hwn yn argymell dull hirdymor newydd, gyda buddsoddiad ar raddfa fawr a newidiadau i oruchwyliaeth ac atebolrwydd, wedi’u darparu gan y llywodraeth gyfan. Fe wnaeth yr adolygiad nodi’r dystiolaeth gymhellol yn seiliedig ar y manteision i gymdeithas o fuddsoddi mewn triniaeth cyffuriau o ansawdd uchel ac adfer.
Trwy’r strategaeth hon, byddwn yn cyflawni’r holl argymhellion allweddol sydd yn rhan dau yr adolygiad.
Mae’r buddsoddiad cenedlaethol uchaf erioed y mae’r llywodraeth hon wedi ymrwymo iddo eleni yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer ein dull strategol uchelgeisiol. Mae’r gweithluoedd triniaeth cyffuriau, adfer a chyfiawnder troseddol wedi ymateb yn frwd ac yn arloesol i ddarparu lleoedd triniaeth newydd a recriwtio a hyfforddi cenhedlaeth newydd. Ar draws y system gorfodi, rydym wedi adeiladu set bwerus o bolisïau wrth gydweithrediad â’r heddlu a phartneriaid gweithredol gyda chanlyniadau calonogol. Trwy Brosiect ADDER, mae partneriaid lleol yn arddangos y llwyddiant y gallwn ei gael trwy ddod ag ymdrechion gorfodi, triniaeth ac adfer ynghyd yn yr ardaloedd mwyaf anghenus.
Byddwn yn dod yn flaengar ar lefel y byd yn ein hymagwedd, ag ymyriadau a arweinir gan dystiolaeth ac a ysgogir gan ddata, ac ymrwymiad i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth lle bydd angen. Byddwn yn gweithio ar draws y llywodraeth, gyda phartneriaid cyflawni, arbenigwyr a chynghorwyr, y rhai sydd â phrofiad bywyd, a’r rhai sy’n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus i gael hyn yn iawn.
Ein cenhadaeth yw bod ar flaen y gad o ran cydweithredu rhyngwladol, gan weithio gyda’n partneriaid rhyngwladol i lunio’r ddadl fyd-eang ar gyffuriau, ymateb i fygythiadau newydd a rhannu tystiolaeth ac arfer gorau drwy ein rhwydweithiau byd-eang. Mae’r rhwydweithiau hyn yn cynnwys y Five Eyes, Comisiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyffuriau Narcotig a Swyddfa’r Cenhedloedd Unedig ar Gyffuriau a Throseddu. Mae brwydro yn erbyn cyffuriau anghyfreithlon yn her fyd-eang ac, oherwydd hynny, rydym yn edrych at ein partneriaid ledled y byd i ddatblygu ein hymagwedd.
Codi’r gwastad i’n cymdogaethau
Mae brwydro yn erbyn defnydd o gyffuriau a niwed yn flaenoriaeth i’r llywodraeth gyfan.Mae’r strategaeth hon yn nodi ymrwymiadau ar draws y Swyddfa Gartref,[footnote 15] yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC),[footnote 16] y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ),[footnote 17] yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP),[footnote 18] yr Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau (DLUHC),[footnote 19] a’r Adran Addysg (DfE).[footnote 20] Bydd hyn yn golygu bod swyddogion heddlu, staff triniaeth cyffuriau ac adfer, swyddogion tai, swyddogion carchar a phrawf, staff gwasanaeth iechyd meddwl, staff troseddau ieuenctid, gweithwyr teulu allweddol, gweithwyr cymorth cyflogaeth ac athrawon yn ymuno mewn ffordd nad yw erioed wedi’i gwneud o’r blaen.
Mae mynd i’r afael â’r bygythiad o gyffuriau wrth galon uchelgais y llywodraeth hon i godi gwastad y wlad. Mae’r strategaeth hon yn mynd â ni ymhellach ac yn ein helpu i gyflawni’r ymrwymiadau i amddiffyn dioddefwyr a gwneud strydoedd yn fwy diogel, fel y nodir yn y Cynllun Gorchfygu Troseddu. Fe wnaeth y Cynllun Gorchfygu Troseddu arddangos na all cymdogaethau sy’n cael eu difetha gan bresenoldeb cyffuriau Dosbarth A hynod niweidiol ffynnu a darparu’r amgylchedd hapus ac iach y mae eu dinasyddion yn ei haeddu. Mae’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn wynebu’r mynychder uchaf o droseddau a yrrir gan gyffuriau a niwed i iechyd sy’n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau. Maent hefyd yn profi mwy o’r niwed a achosir gan farchnadoedd cyffuriau anghyfreithlon.
Mae pobl yn wynebu anfanteision lluosog ym mhob awdurdod lleol – mae dibyniaeth ar gyffuriau, digartrefedd a chyswllt â’r system cyfiawnder troseddol yn aml yn cael eu profi gyda’i gilydd. Ond mewn rhaimannau, yn arbennig rhai dinasoedd gogleddol a threfi glan môr,mae mwy o achosion o’r anfantais lluosog hon, fel y dangosir yn ymapiau o Loegr isod. Bydd y strategaeth hon yn cyflawni ar gyfer y genedl gyfan, gan fuddsoddi yn gyntaf yn y meysydd hyn sydd â’r angen mwyaf. Bydd ein hymagwedd yn grymuso arweinwyr a chymunedau lleol i helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn, gan roi mwy o gyfleoedd i bobl ddatblygu sgiliau a chynyddu ffyniant yr ardaloedd y maent yn byw ynddynt.
Gweithredu ledled y Deyrnas Unedig
Mae brwydro yn erbyn y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon a niwed yn flaenoriaeth i’r DU gyfan. Mae llawer o elfennau polisi cyffuriau wedi’u datganoli ond nid yw hyn yn golygu ein bod ni, ynghyd â’n cydweithwyr yn y gweinyddiaethau datganoledig, yn llai penderfynol yn ein hymdrech i fynd i’r afael â’r mater hwn ledled y DU.Er bod y strategaeth hon yn berthnasol i faterion a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i adeiladu dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan fel ein bod yn ymgorffori cydweithredu ymhellach, yn rhannu arfer â’n gilydd ac yn datblygu’r sylfaen dystiolaeth ar y cyd ar ystod eang o faterion cyffuriau. [footnote 21]
Delwedd 2: Map o Loegr yn dangos awdurdodau lleol yn ôl defnydd o opiadau a chrac cocên
Cyfradd defnyddio opiadau a chrac yn ôl awdurdod lleol (fesul 1,000 o’r boblogaeth)
- Middlesbrough 25.51
- Blackpool 23.45
- Hartlepool 20.63
- Blackburn gyda Darwen 18.84
- Hull 18.15
- Lerpwl 17.06
- Bryste 15.66
- Wirral 15.63
- Bournemouth 15.05
- Stoke-on-Trent 14.67
Delwedd 3: Map o Loegr yn dangos awdurdodau lleol yn ôl anghenion lluosog a chymhleth
Nifer ag anghenion ll uosog a chymhleth yn ôl awdurdod lleol (fesul 1,000 o oedolion o oedran gweithio)
- Blackpool 17.3
- Lincoln 16.2
- Middlesbrough 15.9
- Lerpwl 13.4
- Rochdale 12.7
- Manceinion 12.7
- Hull 12.7
- Bournemouth 12.4
- Norwich 12.3
- Nottingham 12.0
Rhaglen rannu ledled y DU
Yn y strategaeth hon rydym wedi nodi lle rydym yn rhannu amcanion, yn ogystal â meysydd lle rydym yn gweithio gyda’n gilydd neu’n dysgu oddi wrth ein gilydd. Rydym wedi ymrwymo i roi rhaglen rannu gref ar waith ledled y DU a fydd yn ein galluogi i weithio’n agos gyda chymheiriaid yn y gweinyddiaethau datganoledig.
Ym mis Hydref 2021, cadeiriodd Gweinidog Noddi Llywodraeth y DU ar gyfer Brwydro yn erbyn Cyffuriau uwchgynhadledd yn Belfast gyda gweinidogion o bob rhan o’r DU ac arbenigwyr yn y maes i drafod ystod o faterion cyffuriau. Hon oedd ein trydedd uwchgynhadledd gyffuriau ledled y DU a chafwyd cydnabyddiaeth gref ein bod i gyd yn elwa o gydweithio i fynd i’r afael â heriau a rennir. Mae Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi nodi eu strategaethau eu hunain – a ddisgrifir isod – i fynd i’r afael â’r niwed o ddefnyddio cyffuriau mewn meysydd lle mae cyfrifoldeb wedi’i ddatganoli.
Yr Alban
Yn dilyn y cynnydd mwyaf erioed yn nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau,ym mis Ionawr 2021, amlinellodd Llywodraeth yr Alban genhadaeth genedlaethol i wella ac achub bywydau. Er ei bod yn canolbwyntio’n uningyrchol ar leihau marwolaethau o ganlyniad i gyffuriau, pwrpas y genhadaeth hefyd yw cael mwy o bobl i gael y math o driniaeth sy’n gywir iddynt hwy, i leihau niwed ac i wella adferiad. Cyhoeddwyd cyllid ychwanegol o £250 miliwn dros bum mlynedd (o 2021 ymlaen) i gefnogi’r genhadaeth hon.
Ers y cyhoeddiad ym mis Ionawr mae cyllid ychwanegol wedi’i roi ar gael i bartneriaethau alcohol a chyffuriau, sefydliadau cenedlaethol yn ogystal â sefydliadau cymunedol a llawr gwlad i gefnogi gwella gwasanaethau, cefnogi plant a theuluoedd yr effeithir arnynt gan ddefnyddio sylweddau problematig, a chynyddu capasiti ar gyfer adsefydlu preswyl.
Mae Tasglu Marwolaethau Cyffuriau’r Alban yn parhau i arwain gwaith i fynd i’r afael â’r heriau unigryw yn yr Alban drwy nodi strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf. Trwy’r tasglu mae Llywodraeth yr Alban wedi: cyhoeddi set o safonau Triniaeth a Gynorthwyir â Meddyginiaeth i wella’r modd y darperir triniaeth ar gtfer cyffuriau ledled yr Alban; ariannu ystod eang o brosiectau, mentrau ac ymchwil i leihau ymhellach lefelau marwolaethau cyffuriau; gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Heddlu’r Alban a Gwasanaeth Ambiwlans yr Alban, i gynyddu dosbarthiad naloxone yn aruthrol; ac ymchwilio i rôl y system cyfiawnder troseddol mewn ymateb iechyd y cyhoedd i ddefnyddio sylweddau problematig.
Cymru
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Cyflawni diwygiedig ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau (2019-22) ym mis Ionawr 2021 mewn ymateb i COVID-19. [footnote 22]
Mae lleihau niwed yn parhau i fod yn rhan allweddol o ddull gweithredu Llywodraeth Cymru ac mae wedi bod ers 10 mlynedd. Mae Llywodraeth Cymru yn gweld camddefnyddio sylweddau fel mater iechyd ac mae cyllid ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, a ddarperir yn bennaf gan Fyrddau Cynllunio Ardal lleol, wedi’i gynyddu a’i gynnal dros y blynyddoedd diwethaf, gan amlygu’r cymorth i’r sector.
Mae amrywiaeth o waith atal a thrin yn cael ei wneud ac mae dosbarthu naloxone i atal marwolaethau trwy orddos wedi bod yn rhan allweddol o ddull lleihau niwed Llywodraeth Cymru. Roedd cynllun peilot naloxone cymar-i-gymar a gwblhawyd yn ddiweddar yn llwyddiannus iawn o ran cynyddu mynediad at y feddyginiaeth ac mae hwn yn cael ei gyflwyno ledled Cymru ar hyn o bryd.
Gogledd Iwerddon:Yn dilyn dwy flynedd o ymgynghori a chynhyrchu helaeth,lansiwyd Strategaeth newydd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ar gyfer Defnyddio Sylweddau ‘Atal niwed a grymuso adferiad: fframwaith strategol i fynd i’r afael â defnyddio sylweddau’ ym mis Medi 2021. [footnote 23] Mae gan eu strategaeth 10 mlynedd bum canlyniad allweddol sy’n cwmpasu:atal, ymyrraeth gynnar, a dulliau amgen; lleihau niwed; triniaeth a chymorth; adfer; a gweithredu cydgysylltiedig. Mae gorfodi yn un elfen o’r ymateb cyffredinol, i sicrhau na all cyffuriau anghyfreithlon neu gyffuriau presgripsiwn anghyfreithlon ddod gael eu ffordd i mewn i gylchrediad.
Mae cyfiawnder datrys problemau yn fodel rhyngwladol sy’n cael ei ddatblygu yng Ngogledd Iwerddon â’r nod o fynd i’r afael ag achosion sylfaenol ymddygiad troseddol a lleihau ymddygiad niweidiol o fewn teuluoedd a’r gymuned. Datblygwyd Cynllun Strategol Pum Mlynedd ar gyfer Cyfiawnder Datrys Problemau yn ystod 2020 i alluogi penderfyniadau ar sail tystiolaeth am ddyfodol prosiectau peilot ac i hwyluso cyflwyniad strategol a strwythuredig. Gan adeiladu ar y gwaith hwn, mae Strategaeth Cyfiawnder Adferol Oedolion newydd yn cael ei datblygu gan yr Adran Cyfiawnder.
Gogledd Iwerddon
Yn dilyn dwy flynedd o ymgynghori a chynhyrchu helaeth,lansiwyd Strategaeth newydd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ar gyfer Defnyddio Sylweddau ‘Atal niwed a grymuso adferiad: fframwaith strategol i fynd i’r afael â defnyddio sylweddau’ ym mis Medi 2021. 23 Mae gan eu strategaeth 10 mlynedd bum canlyniad allweddol sy’n cwmpasu:atal, ymyrraeth gynnar, a dulliau amgen; lleihau niwed; triniaeth a chymorth; adfer; a gweithredu cydgysylltiedig. Mae gorfodi yn un elfen o’r ymateb cyffredinol, i sicrhau na all cyffuriau anghyfreithlon neu gyffuriau presgripsiwn anghyfreithlon ddod gael eu ffordd i mewn i gylchrediad.
Mae cyfiawnder datrys problemau yn fodel rhyngwladol sy’n cael ei ddatblygu yng Ngogledd Iwerddon â’r nod o fynd i’r afael ag achosion sylfaenol ymddygiad troseddol a lleihau ymddygiad niweidiol o fewn teuluoedd a’r gymuned. Datblygwyd Cynllun Strategol Pum Mlynedd ar gyfer Cyfiawnder Datrys Problemau yn ystod 2020 i alluogi penderfyniadau ar sail tystiolaeth am ddyfodol prosiectau peilot ac i hwyluso cyflwyniad strategol a strwythuredig. Gan adeiladu ar y gwaith hwn, mae Strategaeth Cyfiawnder Adferol Oedolion newydd yn cael ei datblygu gan yr Adran Cyfiawnder.
Pennod 2 – Torri cadwyni cyflenwi cyffuriau
Ein gweledigaeth yw codi’r gwastad yn ein cymdogaethau drwy gael gwared ar gyffuriau, eu gwneud yn lleoedd diogel a sicr a galluogi pob ardal i ffynnu a thyfu. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i dorri ar y cyflenwad cyffuriau sy’n achosi’r niwed mwyaf. O ystyried maint y bygythiad a thwf model dosbarthu treisgar y llinellau cyffuriau, mae torri cadwyni cyflenwi cyffuriau a ‘rhoi terfyn ar’ linellau sirol yn flaenoriaeth i’r llywodraeth gyfan, yr heddlu a’r holl bartneriaid ym maes gorfodi’r gyfraith. Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio grym llawn y llywodraeth mewn ymosodiad di-baid a digyfaddawd ar bob cam o’r gadwyn cyflenwi cyffuriau. Mae hyn yn golygu defnyddio ein holl alluoedd gorfodi’r gyfraith, ysgogiadau cymunedol diplomyddol, rhaglennol a chudd- wybodaeth. Bydd ein cynllun ymosod arloesol ar y cyflenwad yn targedu’r elfennau mwyaf treisgar a chamfanteisiol o’r fasnach gyffuriau, yn rhoi hwb i ymateb yr heddlu a system gorfodi’r gyfraith ac yn darparu dull strategol a rennir, o’r dechrau i’r diwedd, ar gyfer cyffuriau ar draws y system.
Dros y 10 mlynedd nesaf, byddwn yn gwneud pob rhan o’r DU yn lleoedd llawer anoddach i grwpiau troseddau cyfyndrefnol (OCG) weithredu ynddynt. Byddwn yn cyflawni nod y Prif Weinidog o ‘roi terfyn ar’ fodel y llinellau cyffuriau, gan ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed rhag camfanteisio a masnachu mewn pobl gan gangiau troseddol a lleihau lefelau cysylltiedig o drais a lladdiad. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar ddiogelwch i amharu ar y cyflenwad o gyffuriau i’r ystâd carchardai. Mae ein carchardai yn darparu cosb lem i droseddwyr cyfundrefnol.Rhaid iddynt fod yn fan lle na all carcharorion byth gymryd rhan mewn troseddau sy’n ymwneud â chyffuriau.
Beth yw’r broblem?
Mae argaeledd byd-eang cyffuriau yn uwch nag erioed o’r blaen, sy’n hybu cynnydd ym mhurdeb heroin a chrac cocên.[footnote 24] Erbyn hyn y DU yw marchnad heroin fwyaf Ewrop ac mae’n darged ar gyfer gangiau masnachu cyffuriau rhyngwladol. Mae gweithredu ar y cyd i frwydro yn erbyn y fasnach ffiaidd hon yn bwysicach nag erioed.
Wrth i’r bygythiad o gyffuriau barhau i ddatblygu, felly hefyd mae’r arallgyfeirio a’r gallu i addasu ymhlith OCGs, gydag ymddangosiad sylweddau synthetig a chynnydd yn nifer yr achosion o farchnadoedd ar-lein. Mae OCGs yn ceisio manteisio ar ein ffin a gweithredu ‘marchnad ganol’ gyfanwerthu ar gyfer dosbarthu cyffuriau ledled y wlad. Mae’r troseddoldeb cyfundrefnoly tu ôl i’r fasnach gyffuriau yn gwneud ein cymdogaethau’n llai diogel: mae caethiwed i heroin a chrac cocên yn gysylltiedig â bron i hanner yr holl droseddau caffael, gan gynnwys byrgleriaeth, lladrad a dwyn,[footnote 25] ac mae cyffuriau’n cyfrannu at bron i hanner yr holl laddiadau.[footnote 26]
Mae twf yn y cyflenwad cyffuriau hefyd wedi ysgogi cynnydd mewn llinellau cyffuriau, y model dosbarthu mwyaf treisgar ac ecsbloetiol a welwyd hyd yma. Mae gangiau’n camfanteisio’n droseddol ar blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, gan eu gorfodi i ddod yn ‘redwyr’ i gludo cyffuriau Dosbarth A ac arian o amgylch y wlad. Mae’r plant a’r bobl ifanc hyn yn aml yn ei chael yn anodd dianc o ganlyniad i ddyled cyffuriau a bygythiadau yn eu herbyn eu hunain a’u teuluoedd. Mae ‘cogio’ yn dacteg lle mae gwerthwyr cyffuriau yn defnyddio trais a gorfodaeth i feddiannu eiddo a’i ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer delio. Mae delwyr yn aml yn targedu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rhai sy’n gaeth i gyffuriau, sydd â salwch meddwl neu sydd ag anableddau dysgu.
Mae pla’r farchnad gyffuriau’n parhau i mewn i’n system garchardai, lle mae cyffuriau anghyfreithlon ar gael yn llawer rhy hawdd. Mae troseddau difrifol a chyfundrefnol â lle blaenllaw yn yr economi cyffuriau mewn carchardai ac mae’n rhan o we sy’n cynnwys cyflenwi cyffuriau ar y tu allan. Mae sawl ffactor sy’n galluogi hyn, gan gynnwys y defnydd anghyfreithlon o ffonau symudol mewn carchardai i gydgysylltu troseddau a hybu lefelau uchel o drais wrth i droseddwyr frwydro am reolaeth ar y farchnad fewnol a gorfodi dyledion cyffuriau.
Sut y bydd y strategaeth hon yn newid pethau er gwell
Rydym eisoes yn cyflawni effaith wirioneddol. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae ein Rhaglen Llinellau Cyffuriau wedi cau mwy na 1,500 o linellau delio, wedi gwneud dros 7,400 o arestiadau, wedi atafaelu dros £4 miliwn mewn arian parod yn ogystal â symiau sylweddol o gyffuriau, ac wedi diogelu mwy na 4,000 o bobl sy’n agored i niwed. Mae asesiad diweddaraf y Ganolfan Cydgysylltu Cenedlaethol ar gyfer Llinellau Cyffuriau (NCLCC) yn dangos gostyngiad yng nghyfanswm nifer y llinellau a allai fod yn weithredol bob mis, a dywedir bod y niferoedd ledled Cymru a Lloegr wedi gostwng o rhwng 800 a 1,100 yn 2019-20 i 600 yn 2020 -21. [footnote 27]
Ond gwyddom fod OCGs yn adweithiol ac yn wydn a byddant yn parhau i addasu sut y maent yn cyflenwi cyffuriau. Dyna pam, â chymorth buddsoddiad o £300 miliwn dros dair blynedd, y byddwn yn rhoi ymyriadau cadarn ac arloesol ar waith ar y cyflenwad drwy gynllun ‘o’r dechrau i’r diwedd’ sy’n cynnwys buddsoddiad parhaus ar draws y gadwyn gyflenwi.Ar draws pob piler byddwn yn parhau i adeiladu ein sylfaen dystiolaeth i benderfynu beth sy’n gweithio orau o ran tarfu ar y gadwyn cyflenwi cyffuriau a threialu ymyriadau arloesol, fel y nodir isod.
Cynllun cryno torri’r gadwyn gyflenwi
Blaenoriaeth | Dull |
---|---|
Cyfyngu ar lif i fyny’r gadwyn gyflenwi | – ymestyn Tasglu Ewrop Ados yr NCA sy’n canolbwyntio ar yr ymateb i fyny’r gadwyn gyflenwi – cefnogi rhwydwaith Swyddogion Cyswllt Rhyngwladol yr NCA a gwaith rhyngwladol Llu’r Ffiniau i atal cyffuriau rhag dod i’r DU yn y lle cyntaf – ymateb i’r newid yn y sefyllfa yn Affganistan drwy droi galluoedd gweithredol ar hyd y llwybr cyflenwi cyffuriau hwn a pharhau i darfu ar actorion allweddol |
Diogelu’r ffin | – treialu dulliau arloesol, dan arweiniad yr NCA a Llu’r Ffiniau, i ddiogelu’r ffin a mynd i’r afael â’r cyflenwad cyffuriau |
Targedu’r ‘farchnad ganol’ | – gwneud yn siŵr bod ein partneriaethau troseddau cyfundrefnol penodedig yn parhau i dderbyn cymorth a buddsoddiad, gan dargedu’r ‘farchnad ganol’ aflonyddgar – manteisio i’r eithaf ar recriwtio 20,000 yn fwy o swyddogion heddlu i dyfu Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol a’r hyn sy’n cyfateb yn Llundain, gan eu galluogi i gyfyngu ar alluogwyr y cyflenwad cyffuriau, gan gynnwys arfau tanio anghyfreithlon a gwyngalchu arian |
Rhoi’r terfyn ar linellau cyffuriau | – cryfhau ein Rhaglen Llinellau Cyffuriau flaenllaw i fynd i’r afael â’r model dosbarthu mwyaf treisgar ac ecsbloetiol a welwyd hyd yma |
Mynd i’r afael â’r farchnad fanwerthu | – parhau â Phrosiect ADDER am ddwy flynedd arall hyd at fis Mawrth 2025, gan arloesi gyda dull system gyfan |
Mynd ar ôl yr arian | – recriwtio mwy o ymchwilwyr ariannol, cryfhau Canolfan Troseddau Economaidd Genedlaethol yr NCA a hybu ein hymgysylltiad â phartneriaid rhyngwladol |
Diogelwch carchardai | – defnyddio technoleg a sgiliau i wella diogelwch a chanfod a chael gwared ar gyffuriau yn ein carchardai |
Drwy ganolbwyntio’n gryf ar draws y gadwyn gyflenwi yn y modd hwn, byddwn yn cyflawni cynnydd sylweddol, gan gynnwys:
- gostyngiad mewn troseddau a lladdiadau sy’n gysylltiedig â chyffuriau
- dros 2,000 yn fwy o linellau cyffuriau’n cael eu cau a chynnydd mewn euogfarnau ar gyfer masnachu cyffuriau a nifer y plant ac oedolion agored i niwed a ddiogelir[footnote 28]
- 6,400 o amhariadau mawr a chymedrol yn erbyn gweithgareddau troseddwyr cyfundrefnol (cynnydd o 20%)[footnote 29]
- cynyddu’n sylweddol ein gwrthodiad o asedau troseddol, gan gymryd arian parod, cryptoarian ac asedau eraill o ddwylo troseddwyr sy’n ymwneud â masnachu a chyflenwi cyffuriau
- profion gwell mewn carchardai, i yrru tuag at garchardai sydd heb gyffuriau
Rhoi terfyn ar y model llinellau cyffuriau
Byddwn yn datgymalu’r model dosbarthu llinellau cyffuriau sydd yn camfanteisio ar blant ac oedolion sy’n agored i niwed ac yn difetha ein cymdogaethau. Gan adeiladu ar lwyddiant ein buddsoddiad diweddar, byddwn yn symud llinellau cyffuriau o weithgaredd troseddol risg-isel, â gwobr uchel i weithgaredd troseddol risg uchel, canlyniad uchel, ag aflonyddwch parhaus ac arestiadau’r gangiau troseddol sy’n gyfrifol, mwy o atafaeliadau arian parod a cyffuriau, a llai o niwed yn cael ei wneud i blant ac oedolion sy’n agored i niwed.
Byddwn yn sicrhau bod hyd at £145 miliwn o gyllid ar gael ar gyfer ein Rhaglen Llinellau Cyffuriau uchelgeisiol yn y tair blynedd gyntaf yn unig, a fydd yn adeiladu ar dros £65m a fuddsoddwyd ers 2019. Bydd hyn yn cynnwys ariannu’r NCLCC i ddarparu trosolwg strategol ar gyfer yr holl weithgarwch tarfu ar linellau cyffuriau, hyrwyddo arfer gorau ymhlith heddluoedd, targedu’r cyllid anghyfreithlon sy’n gysylltiedig â llinellau cyffuriau a chefnogi defnydd arloesol o orchmynion sifil a throseddol.
Bydd y rhaglen yn cefnogi ymateb ddwys gan orfodi’r gyfraith, gan ganolbwyntio ar rymoedd allforio allweddol a thargedu’r gangiau a’r llinellau mwyaf niweidiol, gan gynnwys y rhai sy’n rhedeg i mewn i ac allan o Gymru a’r Alban. Rydym wedi sefydlu Tasglu Llinellau Cyffuriau pwrpasol yn y tair ardal allforio fwyaf – Llundain, Glannau Mersi a Gorllewin Canolbarth Lloegr – gan dreialu amrywiaeth o dactegau gweithredol i sefydlu’r dulliau gorau ar gyfer tarfu hirdymor. Rydym hefyd yn ariannu gweithrediadau penodol gyda heddluoedd lleol i nodi a mynd i’r afael â llinellau cyffuriau o ardaloedd mewnforio, gan ganolbwyntio ar y rhai sy’n achosi’r niwed mwyaf i’w hardal leol.
Byddwn yn mynd i’r afael â’r rhwydwaith trafnidiaeth drwy ymestyn Tasglu Llinellau Cyffuriau penodol Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP). Bydd hyn yn gwneud y rhwydwaith rheilffyrdd yn risg uchel ar gyfer dosbarthu gan linellau cyffuriau ac rydym hefyd yn targedu’r rhwydwaith ffyrdd trwy fuddsoddi mewn technoleg adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig (ANPR) hanfodol i wneud y defnydd gorau o allu dadansoddol a galluogi adnabyddiaeth well o’r cerbydau dan sylw.
Amharir ar weithgarwch llinellau cyffuriau ar-lein, gan ganolbwyntio ar waith ymchwilio, amharu a gorfodi yn erbyn targedau gangiau penodol. Bydd cyllid ar gyfer cymorth arbenigol i bobl ifanc sy’n cael eu hecsbloetio a’u masnachu’n droseddol a’u teuluoedd yn eu helpu i adael eu cysylltiad â gweithgarwch llinellau cyffuriau a thorri eu cysylltiad â gangiau troseddol.
Astudiaeth achos: Mae system genedlaethol gydgysylltiedig ar gyfer gorfodi’r gyfraith yn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas rhag llinellau cyffuriau
Fe wnaeth BTP gynorthwyodd’r Gwasanaeth Heddlu Metropolitan ag ymholiad person ar goll yn ymwneud â phlentyn, y credwyd ei fod wedi gadael Llundain ac wedi’i orfodi i weithio i gang llinellau cyffuriau i glirio eu dyled. Roedd y person ifanc eisoes yn destun ymchwiliad caethwasiaeth fodern yn ‘Sir A’ ar ôl cael ei leoli mewn ‘cyfeiriad wedi’i gogio’ yn flaenorol.[footnote 30]
Gan y credir bod y person ifanc yn teithio ar y trên, cynhaliodd Tasglu Llinellau Cyffuriau BTP ymholiadau a nodi bod y person ifanc wedi teithio i ‘Sir B’ a’i fod yn cael ei ddal yng nghyfeiriad defnyddiwr cyffuriau Dosbarth A lleol. Fe wnaeth chwiliad o’r cyfeiriad gan BTP ganfod nid yn unig y plentyn, ond hefyd swm sylweddol o gyffuriau Dosbarth A a ffôn symudol yr ystyriwyd ei fod yn gweithredu llinell gyffuriau.
Arweiniodd ymchwiliad BTP at arestio tri pherson am fasnachu mewn pobl a chyflenwi cyffuriau, a ategwyd gan ddatganiad gan y person ifanc am eu profiad a’u hecsbloetio. Ers hynny mae’r plentyn wedi bod yn ymwneud yn weithredol â’r gwasanaethau cymdeithasol ac nid yw bellach yn ymwneud â llinellau cyffuriau. Roedd deiliad cofrestredig y cyfeiriad a oedd ‘wedi’i gogio’ yn ‘Sir B’ hefyd wedi’i ddiogelu fel oedolyn sy’n agored i niwed.
Cyfyngu ar lif i fyny’r gadwyn gyflenwi
Mae mynd i’r afael â masnachu cyffuriau ar lefel ryngwladol yn galw am ddull cynhwysfawr. Ochr yn ochr ag ymateb cryf gan orfodi’r gyfraith, rhaid i ni hefyd fanteisio ar ein rhwydweithiau polisi diplomyddol a thramor i ddatgloi cymorth gwleidyddol gan lywodraethau eraill ac adeiladu gallu ein partneriaid i fynd i’r afael â galluogwyr allweddol y cyflenwad cyffuriau megis llygredd a chyllid anghyfreithlon.Mae ffocws ar y cyd ar atal dramor yn allweddol i reoli risgiau posibl sy’n deillio o ymatebion gorfodi’r gyfraith.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i sicrhau nad oes unrhyw fannau diogel i droseddwyr a’u cymdeithion. Mae rhwydwaith Swyddogion Cyswllt Rhyngwladol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) yn targedu’n uniongyrchol y troseddwyr niwed mwyaf dramor er mwyn atal cyffuriau rhag dod i’r DU. Maent yn gweithio gyda Llu’r Ffiniau i adeiladu a chryfhau’r gallu gorfodi mewn gwledydd sy’n allforio cyffuriau a’r rhai y mae cyffuriau’n teithio drwyddynt wrth eu cludo. Hyd yn hyn eleni, mae’r gwaith gweithredol hwn i fyny’r gadwyn gyflenwi gan yr NCA wedi arwain at atafaelu dros 123 tunnell o gocên.Yn ogystal â gweithgarwch yn y ffynhonnell ac wrth gludo, mae Ewrop yn bwynt cyswllt hanfodol ar gyfer cyffuriau sy’n cael eu cludo i’r DU. Yn 2021, fe wnaethom sefydlu Tasglu Ewrop Agos, tîm o swyddogion yr NCA a Llu’r Ffiniau sy’n canolbwyntio ar gyflenwad i fyny’r gadwyn gyflenwi, diogelwch porthladdoedd, llygredd, a rhannu cudd- wybodaeth a gwybodaeth i nodi ac amharu ar droseddwyr, gan ei gwneud yn anos i OCGs gludo cyffuriau i’r DU. Mae’r ymdrech gydweithredol hon wedi arwain at atafaelu bron i bum tunnell o gyffuriau Dosbarth A hyd yma eleni.
Byddwn yn cryfhau ein hymateb i fyny’r gadwyn gyflenwi ac yn atgyfnerthu gwaith ein rhwydweithiau tramor. Byddwn yn defnyddio mwy o Swyddogion Cyswllt Rhyngwladol mewn gwledydd ffynhonnell a thramwy sylweddol, gan ein galluogi i weithio’n ehangach gyda phartneriaid allweddol i aflonyddu ac erlyn y rhai sy’n cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon. Mae’r sefyllfa gyfnewidiol yn Affganistan - ffynhonnell 95% o’r heroin yn y DU - wedi amlygu pwysigrwydd aros yn ystwyth yn erbyn bygythiadau sy’n dod i’r amlwg i fyny’r gadwyn gyflenwi.[footnote 31] Rydym wedi newid ein ffocws ar flaenoriaethu buddsoddiad parhaus mewn galluoedd amlddisgyblaethol ar hyd llwybrau allweddol ar gyfer cyflenwi cyffuriau narcotig o’r rhanbarth i’r DU.
Byddwn yn mynd i’r afael â’r ysgogwyr a’r galluogwyr sylfaenol o gynhyrchu a masnachu cyffuriau i fyny’r gadwyn gyflenwi gan gynnwys cryfhau ein gwaith atal a chynyddu gwydnwch pobl i osgoi bywyd o droseddu trwy wella amodau economaidd-gymdeithasol a darparu gwasanaethau lleol.
Diogelu’r ffin
Mae cryfhau ffin y DU yn allweddol i ymyrryd yn erbyn y yflenwad cyffuriau. Dros amser, rydym wedi profi methodolegau troseddol cynyddol soffistigedig sy’n ceisio camfanteisio ar wendidau ffiniau a dod ag aflonyddwch cymdeithasol ac economaidd i’r DU.Rydym wedi addasu’n gyflym i ddiwallu’r bygythiadau a heriau newydd hyn.
Mae asiantaethau gorfodi’r gyfraith gan gynnwys yr NCA a Llu’r Ffiniau yn cydweithio’n agos i rannu gwybodaeth a chynyddu ein gallu i ganfod ac amharu ar OCGs sy’n masnachu cyffuriau anghyfreithlon drwy’r ffin. Mae hyn yn cynnwys llygredd ymhlith y rhai mewn swyddi dibynadwy mewn porthladdoedd sy’n hwyluso masnachu cyffuriau. Mae’r gwaith hwn eisoes yn arwain at ganlyniadau.Y llynedd, fe wnaeth Llu’r Ffiniau atafael oddeutu pedair tunnell o gocên a dwy dunnell fetrig o heroin.[footnote 32]
Gwyddom y gall cyffuriau ddod i mewn i’r wlad mewn amrywiaeth o ffyrdd megis cael eu cuddio mewn cynwysyddion cludo nwyddau, cael eu cludo gan unigolion wrth gludo teithwyr, neu drwy’r post a pharseli. Rydym yn gweithio i ddatblygu dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o’r risgiau y mae’r dulliau hyn yn eu cyflwyno, gan gynnwys buddsoddi mewn profi a dadansoddi risg yn systematig i gyfeirio gweithlu ac asedau at y bygythiadau cywir. Bydd buddsoddi mewn galluoedd dadansoddi data a chudd-wybodaeth yn gwella ein gweithgarwch gorfodi i wrthsefyll bygythiadau i ffin y DU yn fwy effeithiol. Rydym yn datblygu Cerberus, system aml-ddull newydd ar gyfer casglu, dadansoddi a thargedu data, a fydd yn cynnwys yr holl ddata perthnasol ar y ffin erbyn 2026, gan ganiatáu i ni ddefnyddio dadansoddeg soffistigedig i adeiladu darlun cudd-wybodaeth cyfoethog o’r traffig sy’n croesi’r ffin.
Ein huchelgais yw rhoi rhagor o weithgarwch wedi’i dargedu ar waith, gan barhau i dreialu dulliau arloesol sy’n defnyddio’r ystod lawn o dactegau gorfodi’r gyfraith. Byddwn yn parhau i ddod agasiantaethau ynghyd i gronni gwybodaeth am gyffuriau sy’n croesi ein ffin, mynd i’r afael â gwendidau a chreu ‘cylch o ddur’ o amgylch porthladdoedd allweddol.
Astudiaeth achos: Mae un dull o weithredu gan Lywodraeth y DU yn arwain at yr atafaeliad mwyaf erioed o gocên ym Montenegro
Ym mis Mehefin 2021, llofnododdLlu’r Ffiniaufemorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Montenegro i atal cyffuriau a nwyddau anghyfreithlon eraill ar y ffin ac ar y ffordd i Ewrop a’r DU. Arweiniodd hyn at ddarparu technoleg canfod cyffuriau a hyfforddiant i swyddogion ollau a’r heddlu ym Montenegro a ariannwyd gan ein Rhaglenni Cymorth Datblygu Swyddogol a Chronfa Sefydlogrwydd a Diogelwch Gwrthdaro.
Datblygodd yr NCA gapasiti’r tîm ymchwilio drwy ddarparu cerbydau, offer gwyliadwriaeth TG a hyfforddiant a datblygodd ddulliau rhannu gwybodaeth. Ar yr un pryd, arweiniodd lobïo diplomyddol at ymrwymiad Montenegro i ddiwygio deddfwriaeth i ganiatáu mwy o fesurau gwyliadwriaeth yn erbyn OCGs rhyngwladol.
Gan ddefnyddio cudd-wybodaeth y DU, gwnaeth awdurdodau Montenegro eu hatafaeliad cocên mwyaf o 1.4 tunnell yn 2021. Mae’r atafaeliad hwn wedi’i briodoli’n sylweddol i’r cymorth meithrin gallu a arweinir gan lu’r Ffiniau a’r ymagwedd gydgysylltiedig gan bartneriaid ar draws y llywodraeth.
Targedu’r ‘farchnad ganol’
Mae OCGs yn gweithredu ‘marchnad ganol’ cyfanwerthu rhwng mewnforio cyffuriau ar raddfa fawr drwy’r ffin a delio sy’n digwydd yn ein cymdogaethau. Mae troseddwyr yn gweithredu ar draws ardaloedd lleol lluosog a gallant fod yn gysylltiedig â rhwydweithiau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol sy’n ymwneud â masnachu mewn pobl, gwyngalchu arian a throseddau cyfundrefnol ehangachRydym yn targedu cyflenwi a dosbarthu cyffuriau - o OCGs soffistigedig iawn sy’n ymwneud â mewnforio ar raddfa fawr, i droseddwyr haen ganol a rhwydweithiau cyflenwi cyffuriau yn ein cymdogaethau - ar bob haen o blismona.
Mae Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol (ROCUs) yn chwarae rhan ganolog wrth fynd i’r afael â bygythiad y ‘farchnad ganol’ fel y prif ryngwyneb rhwng yr NCA a phlismona yng Nghymru a Lloegr, gan ddarparu arbenigedd, technoleg arbenigol a gallu ymchwilio. Maent yn allweddol i atal y niwed o’r ‘farchnad ganol’ o ran gorfodi, datblygu cudd-wybodaeth ac atafaelu neu wrthod mynediad at asedau. Yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym yn amcangyfrif bod y cydweithio hwn wedi cael gwared ar dair tunnell o gyffuriau Dosbarth A a B.
Mae’r NCA hefyd yn targedu’r troseddwyr hynny sy’n gweithredu ar y lefelau uchaf o droseddu ac sy’n cyflwyno’r risg uchaf. Mae’r NCA a heddluoedd yn gweithio’n agos, gan rannu cudd-wybodaeth a chyfuno adnoddau i dargedu’r sefydliadau niwed mwyaf trwy ROCUs a phartneriaethau troseddau cyfundrefnol (OCPs). Mae OCPs wedi’u sefydlu yn Llundain, Glannau Mersi a’r Alban i atal y llif o arfau tanio a chyffuriau i farchnadoedd troseddol a rhwydweithiau llinellau cyffuriau. Ym mis Ebrill 2021, atafaelwyd cyffuriau Dosbarth A gyda gwerth stryd o fwy na £10 miliwn mewn un ymgyrch ar y cyd dan arweiniad OCP Llundain. Ar lefel leol, mae rhai heddluoedd fel y Gwasanaeth Heddlu Metropolitan yn defnyddio timau troseddau rhagweithiol arbenigol, timau troseddaueconomaidd a thimau adweithiol bob dydd, gan amharu’n llwyddiannus ar weithgarwch OCG ac atafaelu symiau sylweddol o gyffuriau.
Byddwn yn adeiladu ar y partneriaethau llwyddiannus hyn ac yn annog cydweithredu pellach ar draws yr holl bartneriaid ym maes gorfodi’r gyfraith i ymchwilio i dargedau gwerth uchel ac amharu arnynt. Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn cefnogi gwella a datblygu offer a thechnegau blaengar i ganiatáu i bartneriaid gorfodi’r gyfraith a diogelwch cenedlaethol gadw’n gyfredol â’r ffyrdd sy’n newid yn gyflym y gall troseddwyr gyfathrebu â’i gilydd.
Byddwn yn blaenoriaethu dyraniad o’r broses recriwtio o 20,000 yn fwy o swyddogion heddlu i gynyddu capasiti a gallu ym mhob ROCU a swyddi cyfatebol yn Llundain i fynd i’r afael â chyflenwad cyffuriau y ‘farchnad ganol’. Bydd buddsoddi mewn swyddogion yn cefnogi plismona ar haen ranbarthol i leihau galluogwyr cyflenwad cyffuriau, gan gynnwys arfau tanio anghyfreithlon a gwyngalchu arian.
Mynd ar ôl yr arian
Rydym am wneud y DU y lle anoddaf i wyngalchu arian parod a chael gwared ar broffidioldeb y farchnad gyffuriau. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni wella ein dealltwriaeth o’r ffordd orau o gyfyngu ar allu OCGs i wyngalchu eu helw o droseddu a chynyddu atafaeliadau arian parod ac asedau.
Ym mhob haen o blismona, mae lleihau proffidioldeb y fasnach gyffuriau yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac rydym yn gweld llwyddiant ar draws y system.Mae rhaglenni peilot newydd yn cael eu treialu, mewn cydweithrediad â’r NCA ac asiantaethau eraill ym maes gorfodi’r gyfraith, i ddeall yn well y methodolegau a ddefnyddir gan OCGs i wyngalchu arian anghyfreithlon mewn perthynas â chyffuriau.
Mae enillion y fasnach gyffuriau yn cynrychioli cyfran sylweddol o arian troseddol sy’n cylchredeg yn y DU. Nod Prosiect PLUTUS y Ganolfan Troseddau Economaidd Genedlaethol (NECC) yw ei gwneud yn anoddach i droseddwyr yn y DU wyngalchu elw eu trosedd drwy ychwanegu ffrithiant a chost at y broses wyngalchu. Mae’r NECC yn dod ag ymateb trawslywodraethol, gorfodi’r gyfraith a’r sector ariannol ynghyd ag amcanion sy’n cynnwys gwneud y DU yn lle anoddach i droseddwyr wyngalchu arian parod ac atal y defnydd o enillion troseddol, megis y rheini o gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon.Rydym hefyd yn cryfhau gallu a chapasiti’r NCA a phlismona, gan wneud yn siŵr bod ganddynt y data, y dechnoleg a’r offer ymchwilio sydd eu hangen arnynt i dargedu’r troseddwyr hyn, domestig a rhyngwladol ill dau.
Chwaraeodd ROCUs a’r NCA ran flaenllaw yn y gwaith o gydgysylltu’r ymateb plismona i Operation Venetic, gan symud troseddwyr niweidiol o’n strydoedd ac atafaelu cyffuriau, arfau tanio, asedau troseddol ac arian parod. Rhwng Ebrill 2020 a Gorffennaf 2021, roedd y ROCUs yn unig yn gyfrifol am atafaeliadau o £33.6 miliwn o arian parod a thros 1.5 tunnell o gocên a heroin. Byddwn hefyd yn buddsoddi mewn gallu technegol blaengar i gefnogi plismona ar haen ranbarthol i wrthwynebu’r cyflenwad cyffuriau ac i atafaelu elw o gyffuriau. I wneud yn siŵr nad oes arian hawdd mewn troseddu, rydym yn cynyddu ymateb plismona rhanbarthol i dwyll â niwed uchel, gan gynnwys gwyngalchu elw cyffuriau, drwy sefydlu rhwydwaith penodedig o 30 o ymchwilwyr twyll rhanbarthol eleni.
Yn ogystal, rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Troseddau Economaidd tair blynedd i gryfhau gwytnwch y DU i gyllid anghyfreithlon a chadarnhau ei safle fel arweinydd y byd yn y frwydr fyd-eang yn erbyn troseddau economaidd.[footnote 33]
Mae troseddwyr yn y DU sy’n ymwneud â masnachu cyffuriau yn aml yn cael eu cymell i gymryd rhan mewn troseddoldeb trwy rwyddineb gwyngalchu arian i awdurdodaethau tramor lle gallant fwynhau eu helw, gan achosi niwed pellach i ddinasyddion y DU. Dyna pam, yn ogystal â mynd ar ôl yr arian gartref, y byddwn hefyd yn mabwysiadu dull rhyngwladol ehangach. Byddwn yn gwella’r cynnydd hyd yma ac yn hybu ein hymgysylltiad â phartneriaid rhyngwladol, cynyddu nifer yr ymchwilwyr ariannol hyfforddedig, a chryfhau’r NECC.
Mynd i’r afael â’r farchnad fanwerthu
Teimlir effaith cyffuriau yn ein cymdogaethau ac mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i darfu ar gadwyni cyflenwi ar lefel leol a rhanbarthol. Cyflenwad manwerthu ar lefel y stryd yw’r pwynt lle mae cyffuriau’n cael eu gwerthu’n bennaf at ddefnydd personol ac mae’r cyflenwad ar-lein o gyffuriau i ddefnyddwyr unigol wedi dod yn fwyfwy amlwg. Cyfrifoldeb heddluoedd lleol yw mynd i’r afael â hyn a rhaid i ni wneud yn siŵr bod hyn yn brif flaenoriaeth i’n heddluoedd.
Mae heddluoedd unigol yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu’n annibynnol, gyda Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn darparu cydgysylltu i sicrhau bod polisi cyffuriau’n cael ei orfodi’n gyson ac yn cefnogi heddluoedd i gydweithio, a chyda phartneriaid eraill ym maes gorfodi’r gyfraith, i fynd i’r afael â’r bygythiad o gyffuriau.
Rydym eisoes wedi buddsoddi £59miliwnym Mhrosiect ADDER,rhaglen sy’n dangos budd dull system gyfan o fynd i’r afael â chaethiwed i gyffuriau yn rhai o’r awdurdodau lleol sydd wedi’u taro galetaf yng Nghymru a Lloegr. Dros y tair blynedd nesaf, byddwn yn parhau â’n buddsoddiad ac yn cryfhau ein sylfaen dystiolaeth drwy werthuso’r rhaglen. Bydd y dysgu hwn yn hanfodol i lywio ein cyfeiriad strategol yn y dyfodol.
Er mwyn gwella’r ymateb hwn, byddwn yn edrych ar gyfleoedd i gymell y system blismona gyfan i ganolbwyntio ar gyffuriau, gan gynnwys y fframwaith plismona cenedlaethol, y gofyniad plismona strategol, ymgysylltu â Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu, y fframwaith arolygu, a hyfforddiant ac arfer proffesiynol.
Mae’r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi ei Bil Diogelwch Ar-lein drafft – deddf sy’n arwain y byd ac y mae mawr ei hangen a fydd yn gwneud y DU y lle mwyaf diogel i fod ar-lein, gyda gwerthu cyffuriau anghyfreithlon yn niwed blaenoriaethol y mae’n ceisio mynd i’r afael ag ef.[footnote 34]
Diogelwch carchardai
Rydym eisoes wedi buddsoddi’n sylweddol yn niogelwch ein carchardai yng Nghymru a Lloegr. Fe wnaeth buddsoddiad £100 miliwn y llywodraeth yn y Rhaglen Buddsoddi mewn Diogelwch ariannu dulliau arloesol, aml-asiantaethol i fynd i’r afael â throseddau niwed uchel yn well, ynghyd ag offer a thechnolegau newydd mewn rhannau o’r ystâd carchardai. Bydd hyn yn amharu’n well ar y cyflenwad o eitemau anghyfreithlon, gan gynnwys cyffuriau, i’r carchardai ac yn atal troseddwyr cyfundrefenol difrifol rhag rhedeg eu rhwydweithiau tra yn y ddalfa. Yn sgil y buddsoddiad hwn cyflwynwyd 74 o sganwyr corff pelydr-X ar draws yr holl ystad gaeedig i ddynion, gwell diogelwch clwydi, dynwared sgrinio maes awyr gyda phyrth canfod metel, mwy o ddefnydd o gŵn canfod cyffuriau a thechnoleg arall a osodwyd yn ein safleoedd blaenoriaeth uchaf. Bydd pob carchar sy’n cael ei adeiladu o’r newydd yn cynnwys y diogelwch uwch hwn a’r sganwyr corff pelydr-X fel mater o drefn. Er mwyn adeiladu ar yr enillion hyn, bydd heddluoedd, carchardai, y gwasanaeth prawf a phartneriaid yn cryfhau cydweithredu er mwyn nodi ac atal troseddwyr cyfundrefnol a throseddwyr gyrfa yn well rhag parhau i droseddu a rhedeg eu rhwydweithiau cyffuriau mewn carchardai.Mae’r troseddwyr hyn yn tarfu ar y broses o gyflawni cyfundrefnau diogel, gweddus a sicr ac yn achosi niwed yn y gymuned.
cydweithio ledled y DU
Mae Llu’r Ffiniau a’r NCA yn gweithio i frwydro yn erbyn y cyflenwad cyffuriau ledled y DU. Er enghraifft, mae’r NCA wedi sefydlu partneriaeth troseddau cyfundrefnol gyda Heddlu’r Alban. Nod y bartneriaeth yw mynd i’r afael ag amrywiaeth o fygythiadau troseddau difrifol a threfnedig, gan gynnwys cyflenwi cyffuriau ac arfau tanio i’r Alban. Yng Ngogledd Iwerddon mae’r NCA hefyd yn bartner allweddol yn strwythurau’r Tasglu Troseddau Cyfundrefnol, y Tasglu Troseddau Parafilwrol a’r Tasglu Cyd-asiantaethol.
Mae OCGs yn camddefnyddio peiriannau gwasg bilsen i gynhyrchu cyffuriau niweidiol fel benzodiazepines ‘stryd’. Mae’r rhain yn cael eu gwerthu ledled y DU ac yn achosi niwed sylweddol, yn arbennig yn yr Alban lle roeddent yn gysylltiedig â 66% o farwolaethau cysylltiedig â chyffuriau yn 2020.[footnote 35] Mae’r llywodraeth yn gweithio gyda’r NCA a phartneriaid yn yr Alban i gynyddu ein dealltwriaeth o faint y bygythiad ac archwilio ffyrdd o fynd i’r afael â’r cyflenwad o’r pils hyn.
Diolch i ymgysylltu â’r NCLCC a heddluoedd peilot y Rhaglen Llinellau Cyffuriau (Gorllewin Canolbarth Lloegr, Glannau Mersi a Heddlu Metropolitan), rydym yn ymwybodol o linellau cyffuriau sy’n rhedeg i ac o’r Alban ac rydym wedi cynnal nifer o ymgyrchoedd ar y cyd â Heddlu’r Alban. Bydd heddluoedd yn parhau i gydweithio i gael gwared ar y bygythiad hwn.
Gogledd Cymru yw un o’r ardaloedd mewnforio allweddol ar gyfer rhwydweithiau llinellau cyffuriau Glannau Mersi, gyda chyffuriau Dosbarth A yn cael eu mewnforio ar y ffordd a’r rheilffordd. Mae Heddlu Glannau Mersi yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru fel rhan o’n Rhaglen Llinellau Cyffuriau i gau’r llinellau ac atal y gangiau sy’n gyfrifol amdanynt rhag achosi niwed pellach.
Pennod 3 – Cyflawni system driniaeth ac adferiad o safon fyd-eang
Mae sylfeini’r bennod hon wedi’u seilio ar adolygiad annibynnol nodedig y Fonesig Carol Black o gyffuriau. Ein gweledigaeth yw rhaglen drawsnewid 10 mlynedd uchelgeisiol sy’n dangos ein hymrwymiad i gyflawni’r argymhellion allweddol a wnaed yn ei hadolygiad a mynd ymhellach.Rhaid cyfuno amau gorfodi llym â system driniaeth ac adferiad o ansawdd uchel i dorri’r cylch caethiwed.
O fewn degawd, bydd gennym system triniaeth ac adferiad o’r radd flaenaf ar gyfer cyffuriau ac alcohol ledled Lloegr, a ddarperir drwy weithlu hyfforddedig a llawn cymhelliant sy’n cynnig ystod lawn o ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.Bydd hon ar gael i unrhyw un sy’n profi caethiwed i sylweddau, o ddefnyddwyr heroin sydd wedi hen ymwreiddio a phobl sy’n cael trafferth gyda chocên, canabis ac alcohol, i bobl ifanc sy’n defnyddio sylweddau seicoweithredol.
Byddwn yn creu system lle nad oes neb yn syrthio drwy’r bylchau, lle nad oes stigma yn gysylltiedig â chaethiwed a lle caiff ei drin fel cyflwr iechyd cronig, a lle y darperir cymorth hirdymor i bobl sydd ei angen. Bydd yn system lle bydd unigolion a theuluoedd yn profi effaith gadarnhaol lawn y rhaglen drawsnewid hon, a lle bydd yr ardaloedd lleol hynny â’r angen mwyaf yn cael y cymorth mwyaf. Bydd y system hon yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn diwallu anghenion pob cymuned, yn arbennig y rhai nad ydynt yn aml wedi derbyn gwasanaeth effeithiol yn y gorffennol, gan gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a menywod.
Trwy roi’r unigolyn wrth wraidd popeth a wnawn, a thrwy ategu gwasanaethau â thystiolaeth helaeth a chadarn, gallwn achub bywydau, lleihau niwed a throseddu, ac atal y ‘drws sy’n cylchdroi’ i mewn ac allan o’r carchar.Er bod llawer o agweddau ar driniaeth ac adferiad wedi’u datganoli,rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i ddysgu oddi wrth ein gilydd ar heriau a rennir.
Beth yw’r broblem?
Fe wnaeth adolygiad annibynnol y Fonesig Carol Black o gyffuriau nodi maint yr her ar gyfer y system driniaeth ac adferiad. I grynhoi, canfu’r adolygiad:
- mae nifer amcangyfrifedig o 300,000 o bobl yn Lloegr yn defnyddio opiadau a/neu grac cocên
- dadfuddsoddi mewn triniaeth i oedolion gyda hyd yn oed mwy o ostyngiad yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau arbenigol ar gyfer camddefnyddio sylweddau i bobl ifanc a lefel gynyddol o angen heb ei ddiwallu
- mae diffyg goruchwyliaeth ac atebolrwydd ar lefel leol a chenedlaethol ac mae angen ailgyflwyno cymhellion ac ysgogiadau, ochr yn ochr â chyfrifoldeb ac atebolrwydd ar y cyd a ddelir yn lleol, i adfywio ac adfywiogi’r system
- mae prinder hirfaith o gyllid wedi disbyddu’r gweithlu, gan arwain at golli sgiliau, arbenigedd a chapasiti o’r sector hwn
- mae llwythi achosion wedi tyfu’n rhy uchel gan leihau ansawdd y driniaeth
- mae diffyg gwasanaethau arbenigol, gan gynnwys dadwenwyno cleifion mewnol ac adsefydlu preswyl
- mae cymorth adfer wedi’i danariannu, gan gynnwys cymorth tai a chyflogaeth, a chymunedau adfer
- mae lefelau uchel o anghenion iechyd corfforol a meddyliol, heb ffocws digonol ar gyffuriau ac alcohol o fewn y GIG a gwasanaethau iechyd meddwl neu o fewn y gweithlu, ac mae cysylltiadau â thriniaeth am gyffuriau yn llawer rhy wan
- mae mwy na thraean y bobl yn y carchar yno oherwydd troseddau yn ymwneud â defnyddio cyffuriau
- nid oes digon o droseddwyr yn cael triniaeth i wneud newid parhaol i’w hymddygiad
Mae hon yn gyfres amlwg o ganfyddiadau ac ers cyhoeddi’r adolygiad mae marwolaethau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu i 2,966 yn 2020, y nifer uchaf ers i gofnodion ddechrau yn 1993.[footnote 36]
Sut bydd y strategaeth hon yn newid pethau er gwell
Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i drawsnewid bywydau’r rhai y mae caethiwed i gyffuriau yn effeithio arnynt. Bydd£780 miliwn ychwanegol yn ariannu tair blynedd gyntaf trawsnewidiad uchelgeisiol, degawd o hyd o driniaethau cyffuriau a chymorth adferiad ehangach yn Lloegr. [footnote 37]Mae hyn yn nodi’r cynnydd mwyaf erioed mewn cyllid triniaeth ac adferiad, gan fynd â chyfanswm y gwariant ar driniaeth ac adferiad i fwy na £2.8 biliwn dros dair blynedd. Bydd y buddsoddiad newydd yn cael ei glustnodi fel bod yr arian yn cael ei wario ar yr agenda hon yn unig.
Byddwn yn cyflenwi’r argymhellion allweddol yn rhan dau o adolygiad y Fonesig Carol Black, gan ddefnyddio dull system gyfan, ac yn mynd ymhellach ag ymrwymiad 10 mlynedd. Byddwn yn buddsoddi mewn ehangu capasiti triniaeth, ailadeiladu’r gweithlu, cryfhau sgiliau a chynyddu ein cymysgedd o weithwyr proffesiynol. Byddwn yn grymuso arweinwyr lleol i gyflawni’r ymrwymiad hwn, tra’n sicrhau eu bod yn cael eu dal yn atebol am y gwariant hwn ac am sefydlu partneriaethau cryf ar lefel leol rhwng darparwyr addysg, awdurdodau lleol, y GIG ac asiantaethau cyfiawnder troseddol.
Trwy fuddsoddi ar draws ystod o wasanaethau cydgysylltiedig, gallwn ddarparu cymorth sy’n achub bywydau a gwella diogelwch a chynhyrchiant ardaloedd lleol drwy leihau’r niwed y gall caethiwed i gyffuriau ei achosi a chynyddu adferiad hirdymor i’r eithaf. Bydd hyn yn darparu triniaeth effeithiol am gamddefnyddio sylweddau, gofal iechyd meddwl a chorfforol, tai a chyflogaeth i ardaloedd lleol.Mae hyn yn cynnwys llwybrau atgyfeirio clir i droseddwyr at driniaeth, gan leihau’r risg o aildroseddu, a byddwn yn gweld gostyngiad sylweddol mewn troseddau caffaelgar (megis byrgleriaeth, lladrad a dwyn) a thrais sy’n gysylltiedig â chyffuriau.
Byddwn yn mynd i’r afael â bylchau yn y system iechyd meddwl a chorfforol drwy weithio gyda’r GIG i gyflwyno llwybrau effeithiol a gwell integreiddio, gan gynnwys gwella sgiliau ymhlith y gweithlu mewn perthynas â chyffuriau ac alcohol. Byddwn hefyd yn ymestyn trefniadau comisiynu effeithiol ar y cyd i wasanaethu poblogaethau i mewn ac allan o wasanaethau triniaeth am gyffuriau ac alcohol ar gyfer y rhai sy’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl a’r defnydd o gyffuriau ac alcohol.
Byddwn yn dechrau’r trawsnewid hwn drwy roi blaenoriaeth i’r ardaloedd lleol sydd â’r angen mwyaf am driniaeth ac adferiad cyffuriau, gyda chwmpas cenedlaethol llawn ledled Lloegr erbyn diwedd 2024/25. Bydd hyn yn cyfrannu’n sylweddol at ymrwymiad y llywodraeth i godi’r gwastad. Byddwn yn monitro cynnydd yn ofalus i wneud yn siŵr bod y buddsoddiad hwn yn cyflawni gwelliannau sylweddol a diriaethol. Bydd llwyddiant yn cael ei fesur yn ôl fframweithiau canlyniadau cenedlaethol a lleol i gyflawni’r dilynol erbyn diwedd 2024/25:
- bron i 1,000 o farwolaethau’n cael eu hatal, a bywydau’n cael eu hachub
- ehangu graddol i ddarparu o leiaf 54,500 o leoedd newydd o ansawdd uchel am driniaeth cyffuriau ac alcohol, sef cynnydd o 19% ar y niferoedd presennol
- triniaeth yn cyfrannu at oddeutu 740,000 o droseddau sy’n cael eu hatal, gyda 140,000 ohonynt yn droseddau cymdogaeth megis byrgleriaeth, lladrad a dwyn
- 21,000 o leoedd triniaeth newydd ar gyfer defnyddwyr opiadau a chrac, 53% o ddefnyddwyr opiadau a chrac yn cael triniaeth
- 30,000 o leoedd triniaeth newydd ar gyfer pobl nad ydynt yn defnyddio opiadau, gan gynnwys 5,000 yn fwy o bobl ifanc yn cael triniaeth
- o leiaf 7,500 yn fwy o leoedd triniaeth i bobl sydd naill ai’n cysgu allan neu sydd mewn perygl uniongyrchol o gysgu allan – cynnydd o 33% ar y niferoedd presennol
- lle triniaeth i bob troseddwr sydd â chaethiwed
- 24,000 yn fwy o bobl mewn adferiad hirdymor o ddibyniaeth ar sylweddau
- mwy o atgyfeiriadau gan yr heddlu, y llysoedd a’r gwasanaeth prawf i driniaeth cyffuriau
- mwy o bobl sy’n gwella o gaethiwed mewn cyflogaeth barhaus
- mwy o bobl sy’n gwella o gaethiwed mewn tai sefydlog a diogel
Bydd cyflawni hynny i gyd yn golygu y bydd ein GIG yn lleihau baich diangen ac yn gallu ailgyfeirio adnoddau i feysydd angen eraill. Ni fydd ein carchardai yn ddrws sy’n cylchdroi i’r rhai y mae eu troseddu yn gysylltiedig â chaethiwed. Bydd ein cymdogaethau’n elwa o lai o droseddu a chysgu allan a bydd mwy o blant yn cael eu hamddiffyn rhag niwed cyffuriau yn eu teuluoedd neu gymdogaethau. Bydd ein heconomi’n elwa o arbedion sylweddol i blismona, iechyd a chyfiawnder a gweithlu cynyddol.
Mwy o atebolrwydd a thryloywder
Byddwn yn gwella cysondeb a thryloywder o ran darparu gwasanaethau yn Lloegr, fel y gall pobl ym mhobman ddisgwyl yr un ansawdd o wasanaeth, ac y gellir dwyn ardaloedd lleol i gyfrif ar lefel genedlaethol.Erbyn mis Mawrth 2022 byddwn wedi datblygu safon ansawdd newydd ar gyfer comisiynu cenedlaethol er mwyn cynyddu tryloywder, sicrhau cysondeb, hyrwyddo cydweithio effeithiol, a datblygu cymorth ac atebolrwydd ynghylch gwella. Bydd y safon ansawdd comisiynu cenedlaethol yn cael ei datblygu gydag ardaloedd lleol, gan gynnwys y Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd (ADPH).Bydd yn nodi’r ystod lawn o driniaethau ac ymyriadau adfer y dylai ardaloedd lleol eu darparu ar gyfer eu poblogaeth yn seiliedig ar asesiad o angen, gan gynnwys rhoi sylw dyledus i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a diwallu anghenion gwahanol ddemograffeg.Byddwn yn rhannu’r hyn a ddysgir o ddatblygu a gweithredu’r safon ansawdd comisiynu gyda chydweithwyr ar draws y DU.
Gan ddechrau eleni, mae DHSC wedi’i gwneud yn amod o arian grant bod yn rhaid i awdurdod lleol “roi sylw i’r angen i wella’r nifer sy’n manteisio ar ei wasanaethau triniaeth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, a’r canlyniadau ohonynt, yn seiliedig ar asesiad o angen lleol a chynllun sydd wedi’i ddatblygu gyda phartneriaid iechyd a chyfiawnder troseddol lleol” . Byddwn yn sicrhau bod ardaloedd lleol yn cynnal eu buddsoddiad presennol mewn triniaethau ar gyfer cyffuriau ac alcohol yn 2022/23 a thu hwnt. Bydd y Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau (OHID) yn arwain ar fonitro ardaloedd lleol ac, o 2022/23, bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi dangosyddion cenedlaethol a lleol allweddol yn flynyddol i ddangos cynnydd.
Triniaeth
Byddwn yn buddsoddi £533 miliwn dros dair blynedd i ailadeiladu gwasanaethau triniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau a gomisiynir gan awdurdodau lleol yn Lloegr . Mae hyn yn ychwanegol at y gwariant grant iechyd cyhoeddus blynyddol presennol (£670 miliwn yn 2019/20), yr ydym yn disgwyl y bydd awdurdodau lleol yn parhau i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyffuriau ac alcohol yn y dyfodol.
Bydd y £533 miliwn yn cael ei rannu i’r dilynol:
2022/23 |
2023/24 |
2024/25 |
Cyfanswm am dair blynedd |
|
---|---|---|---|---|
Cyllid ychwanegol cyfredol |
£80 miliwn |
£80 miliwn |
£80 miliwn |
£240 miliwn |
Cyllid ychwanegol wedi’i seilio ar le |
£20 miliwn |
£81 miliwn |
£192 miliwn |
£293 miliwn |
Cyfanswm uwchlaw gwariant presennol |
£100 miliwn |
£161 miliwn |
£272 miliwn |
£533 miliwn |
Parhad o gyllid ychwanegol a fydd ar gael yn 2021/22
Yn 2021/22, roedd £80 miliwn (yn ychwanegol at y grant iechyd cyhoeddus presennol) ar gael i wella triniaeth am gyffuriau yn Lloegr. Mae hyn wedi darparu ystod eang o ymyriadau llwyddiannus sydd yn lleihau marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau ac yn gwella mynediad i driniaeth i droseddwyr. Bydd pob awdurdod lleol yn parhau i gael o leiaf y lefel hon o fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf. Bydd hyn yn eu galluogi i fuddsoddi mewn ystod eang o ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddiwallu anghenion eu poblogaeth leol, gan ganolbwyntio ar leihau cyfraddau marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau a dod â mwy o droseddwyr i driniaeth. Bydd hyn hefyd yn cefnogi comisiynu gwasanaethau dadwenwyno cleifion mewnol ac yn cynyddu’r gallu i drin y rheini sydd ag anghenion cymhleth sydd wedi’u hen sefydlu.
Cyllid ychwanegol wedi’i seilio ar le
Dros y tair blynedd nesaf, bydd £293 miliwn o gyllid ychwanegol ar gael i leihau niwed a gwella cyfraddau adfer yn sylweddol. Bydd hyn yn rhoi’r holl argymhellion allweddol a wnaed gan y Fonesig Carol Black ar waith, gan gynnwys cynyddu ansawdd a chapasiti triniaethau, cryfhau sgiliau a chymysgedd proffesiynol y gweithlu, gwneud yn siŵr bod ystod lawn o ymyriadau ar gyfer lleihau niwed a thriniaeth ar gael ac yn buddsoddi mewn cymunedau adfer.
Bydd pob awdurdod lleol yn Lloegr yn derbyn cyllid triniaeth ychwanegol dros y tair blynedd nesaf.Byddwn yn defnyddio dull wedi’i dargedu, gan flaenoriaethu’r lleoedd hynny sy’n profi’r niwed uchaf (cyfradd marwolaethau oherwydd cyffuriau, amddifadedd, nifer yr achosion o opiadau a chrac cocên, a throseddu), gan ddysgu a gwerthuso wrth i ni fynd yn ein blaenau. Yn 2022/23, byddwn yn buddsoddi yn y 50 ardal leol sydd â’r anghenion mwyaf, ac yna’r 50 nesaf yn 2023/24, a’r 50 olaf yn 2024/25, gan arwain at gwmpasu Lloegr gyfan.
Mae codi’r gwastad wrth wraidd y dull hwn.Mae lefel yr amddifadedd yn yr awdurdodau lleol sydd ag angen uwch ddwywaith cymaint â’r rheini yn y rhai â lefelau is o angen, ac mae cydberthynas gref ag awdurdodau lleol yn y Gogledd-ddwyrain a Swydd Efrog. Gan ddefnyddio’r dull hwn, bydd ychydig llai na hanner y defnyddwyr opiadau a chrac cocên a hanner y troseddwyr y mae eu troseddau’n ymwneud â chyffuriau yn cael cynnig cymorth yn 2022/23.
Byddwn yn llunio cytundebau grant a dulliau adrodd i bennu’r meysydd gwariant y mae’r arian yn cael ei ddyrannu ar eu cyfer a diogelu gwariant presennol ar wasanaethau camddefnyddio sylweddau drwy grant iechyd y cyhoedd. Byddwn yn cefnogi ardaloedd lleol i sicrhau bod y cyllid ychwanegol yn golygu bod ystod lawn o ymyriadau ar sail tystiolaeth ar gael ym mhob ardal a bod y system yn ymateb i arloesiadau newydd ac addawol, megis mathau o buprenorphine hir-weithredol. Byddwn hefyd yn ystyried sut y gellir defnyddio cymhellion i gefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth, i fonitro a gwerthuso perfformiad ac i gynnwys mecanwaith cymryd yn ôl os na chaiff arian ei wario at y dibenion y’i darparwyd ar eu cyfer.
Bydd y mesurau dilynol yn sicrhau bod y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol.
- Byddwn yn cefnogi ardaloedd lleol i ehangu a gwella ansawdd ystod lawn o ymyriadau lleihau niwed a thriniaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd gan y GIG a darparwyr y trydydd sector rolau hanfodol yn hyn o beth.Bydd yn cynnwys ymyriadau i leihau niwed ac achub bywydau, megis y gwrthwenwyn gorddos naloxone, a rhaglenni nodwyddau a chwistrellau; therapïau siarad effeithiol neu ymyriadau seicogymdeithasol i gefnogi pobl i ddeall eu dibyniaeth, gwneud newidiadau a datblygu strategaethau ymdopi; a’r ystod lawn o feddyginiaethau i leihau niwed a chefnogi dadwenwyno gan gynnwys meddyginiaethau newydd, megis buprenorphine hir-weithredol.
- Byddwn yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol a rhanddeiliaid, gan gynnwys yr LGA ac ADPH, i ddatblygu a gweithredu safon ansawdd comisiynu i gefnogi tryloywder ac atebolrwydd rhwng partneriaid a’r llywodraeth.Byddwn yn cynnig cymorth gwella gan gynnwys gwelliant a arweinir gan y sector.
- Byddwn yn datblygu ac yn gweithredu mecanweithiau i wneud yn siŵr bod darpariaeth ddigonol o ddadwenwyno cleifion mewnol ac adsefydlu preswyl ym mhob rhan o’r wlad.
- Byddwn yn cynnig cymorth gwella i awdurdodau lleol, gan weithio gyda’r CLlL, gan ganolbwyntio ar feysydd â chanlyniadau gwaeth, i wneud yn siŵr bod y capasiti a’r gallu ar gael i gyflawni’r trawsnewid sydd ei angen.
- Byddwn yn darparu data, cyfarwyddyd a chymorth i ardaloedd lleol i ddeall a diwallu anghenion grwpiau nas gwasanaethir yn ddigonol a phobl â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys menywod a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
- Byddwn yn cefnogi comisiynwyr camddefnyddio sylweddau a chomisiynwyr iechyd rhywiol i gydweithio i wella llwybrau rhwng gwasanaethau i’r rhai sy’n defnyddio cyffuriau mewn cyd-destun ‘chemsex’. Bydd hyn yn cynnwys adolygiad o’r fanyleb gwasanaeth iechyd rhywiol enghreifftiol presennol yn ogystal ag ystyried anghenion y grŵp hwn yn y safonau ansawdd comisiynu ar gyfer camddefnyddio sylweddau a strategaeth y gweithlu.
Triniaeth pobl ifanc a chymorth i deuluoedd
Yn aml mae gan bobl ifanc sydd â phroblemau cyffuriau anghenion cymhleth. Mae hyn yn aml yn cynnwys iechyd meddwl gwael a hunan-niwed, ac weithiau profiad o gamfanteisio troseddol neu rywiol. Mae angen cyfuniad o driniaeth arbenigol a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ehangach ar y bobl ifanc hyn. Mae angen i wasanaethau fod yn wybodus am drawma a dylai’r driniaeth fod yn seiliedig ar y teulu os oes angen, yn arbennig ar gyfer y rheini y mae eu rhieni eu hunain yn ddibynnol ar gyffuriau neu alcohol.
Mae caethiwed hefyd yn cael effaith ddinistriol ar deuluoedd. Gall teuluoedd gefnogi a chynorthwyo adferiad, ond mae ganddynt hefyd eu hanghenion cymorth eu hunain. Mae angen cymorth penodol ar gyferteuluoedd ag anghenion triniaeth ynghylch camddefnyddio sylweddau gan rieni, y mae’n rhaid ei gydlynu ar lefel leol. Dros y tair blynedd nesaf, byddwn yn gwneud yn siŵr bod50% yn fwy o bobl ifanc yn cael ymyriadau arbenigol ar gyfer camddefnyddio sylweddau, gan atal defnydd tymor hwy ym myd oedolion, a bod fframweithiau canlyniadau, comisiynu safonau ansawdd, a mentrau datblygu’r gweithlu yn ystyried anghenion teuluoedd a phobl ifanc ac yn cefnogi ardaloedd lleol i asesu a bodloni eu hanghenion yn effeithiol.
Cryfhau sgiliau a chymysgedd proffesiynol y gweithlu
Bydd strategaeth sy’n canolbwyntio ar gadw a recriwtio gweithlu triniaeth cyffuriau o ansawdd uchel yn allweddol i ddenu’r bobl orau i’r sector i’w gwneud yn yrfa iddynt. Mae angen i ni ailadeiladu gweithlu gweithwyr iechyd proffesiynol y sector (gan gynnwys seiciatryddion, meddygon, nyrsys a seicolegwyr) a gwella lefel y sgiliau a’r hyfforddiant ymhlith gweithwyr cyffuriau a gweithwyr adfer cymheiriaid, fel eu bod i gyd wedi’u harfogi’n dda i ddarparu’r ymyriadau seicogymdeithasol ac iechyd sydd eu hangen i ddefnyddwyr cyffuriau sydd mewn triniaeth lwyddo. Bydd y gweithlu hwn hefyd yn gallu mynd i’r afael yn well â’r trawma a’r problemau iechyd meddwl a all fod yn sail i lawer o gaethiwed i gyffuriau, a bydd yn ystwyth wrth ymateb i anghenion gwahanol boblogaethau, gan gynnwys menywod, pobl LHDT, a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
Bydd gan staff lwythi achosion is a’r sgil i gyflwyno ymyriadau seicolegol mwy seiliedig ar dystiolaeth. Bydd hyn yn gwella cyfraddau adfer ar gyfer pawb sy’n derbyn triniaeth cyffuriau ond bydd yn arbennig o werthfawr ar gyfer y rhai nad ydynt yn defnyddio opiadau a defnyddwyr heroin a ddechreuodd yn ddiweddar.
Erbyn diwedd 2024/25, byddwn yn sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer:
- 800 yn fwy o weithwyr meddygol, iechyd meddwl a gweithwyr proffesiynol eraill
- 950 o weithwyr ychwanegol ym meysydd cyffuriau ac alcohol a chyfiawnder troseddol
- capasiti comisiynu a chydlynu digonol ym mhob awdurdod lleol
Bydd DHSC yn darparu cyllid a chymorth pellach i:
- weithio gydag Health Education England i roi strategaeth gynhwysfawr ar waith i ehangu’r gweithlu trwy recriwtio a chadw effeithiol
- gweithio gydag Health Education England i ddiffinio a gwella hyfforddiant a sgiliau pob rhan o’r gweithlu ym maes triniaeth cyffuriau, gan gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig, gweithwyr cyffuriau ac alcohol, a chefnogwyr sy’n gymheiriaid
- ymgysylltu ar y cyd â’r Strategaeth Gweithlu Iechyd Meddwl ehangach sy’n cynnwys hyfforddiant arbenigol ar gyfer, ac achredu, staff rheng flaen sy’n gweithio gyda phobl â phroblemau ynghylch iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy’n cyd- ddigwydd
- gweithio gyda’r Colegau Brenhinol a grwpiau o weithwyr proffesiynol, gweithwyr sy’n gymheiriaid, darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau i greu Canolfan Caethiwed i bawb sy’n gweithio o fewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau
- datblygu canllawiau a safonau perthnasol i gefnogi gostyngiad ym maint llwythi achosion er mwyn galluogi staff i ddarparu ymyriadau o ansawdd uchel a dilyn datblygiad gyrfa a phroffesiynol
Gwasanaethau sydd wedi’u hintegreiddio’n well
Yn aml, mae gan bobl sy’n gaeth i gyffuriau anghenion iechyd corfforol a meddyliol y mae’n rhaid eu diwallu er mwyn sicrhau canlyniad llwyddiannus o driniaeth. Mae problemau iechyd meddwl a thrawma yn aml yn ganolog i ddibyniaeth unigolyn ar gyffuriau ac alcohol, ac yn rhy aml o lawer mae pobl yn syrthio drwy’r bwlch rhwng gwasanaethau. Byddwn yn trawsnewid y system fel bod darparu gofal sy’n wybodus am drawma yn dod yn norm, a bod anghenion cymhleth (megis digartrefedd) yn cael eu cydnabod ac yr ymatebir iddynt. Byddwn yn:
- gweithio gyda GIG Lloegr i archwilio cyfleoedd ar gyfer comisiynu gwell er mwyn gwneud yn siŵr bod darpariaeth gwasanaeth cydgysylltiedig lleol rhwng gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ar gyfer pobl â phroblemau sy’n cyd-ddigwyddgan gynnwys y rhai sy’n cysgu allan.
- sicrhau bod cam nesaf datblygiad y System Gofal Integredig yn cynnwys arweinyddiaeth ar gyffuriau ac alcohol i integreiddio gofal iechyd corfforol a meddyliol gyda gwasanaethau camddefnyddio sylweddau
- adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o’r Rhaglen Changing Futures i wella mynediad at driniaeth a chymorth i oedolion sy’n profi anfanteision lluosog – gan gynnwys cyfuniadau o ddigartrefedd, caethiwed, salwch meddwl, cam-drin domestig a chyswllt â’r system cyfiawnder troseddol[footnote 38]
Adfer
Mae hybu adfer o fod yn gaeth i gyffuriau yn agwedd allweddol ar ein hymagwedd. Mae buddsoddiad sylweddol yn sail i’r strategaeth, gan gynnwys cyllid ar gyfer cymorth â llety a cyflogaeth, a fydd yn cael ei gyflwyno gyda’r buddsoddiad mewn triniaeth. Mae adfer yn broses sy’dd y aml yn cymryd amser i’w chyflawni, ac ymdrech i’w chynnal.Mae angen rhywbeth ystyrlon ar bobl i’w wneud, rhywle diogel i fyw a system gymorth yn y gymuned.
Gwell mynediad i lety
Gall digartrefedd a chysgu allan fod yn achos ac yn ganlyniad i ddefnyddio sylweddau. Fe wnaeth holiadur cysgu allan a gynhaliwyd yn 2020 ganfod bod o leiaf 43% o ymatebwyr a oedd ag angen cyffuriau wedi datblygu eu dibyniaeth cyn cysgu allanam y tro cyntaf,ac 17% ar ôl hynny.[footnote 39] Ochr yn ochr â’n hymrwymiad uchelgeisiol i roi terfyn ar gysgu allan, byddwn yn gweithio i dorri’r cylch digartrefedd a chaethiwed ar draws Lloegr. Gwyddom fod cael cartref diogel yn allweddol i adfer a bod triniaeth yn llai tebygol o fod yn effeithiol heb hyn,gyda siawns llawer uwch o atglafychu. Byddwn yn ymestyn ein gwaith i ddarparu triniaeth arbenigol a gwasanaethau adfer i bobl sy’n cysgu allan ac yn cynnig cymorth i bobl y mae eu gallu i gael triniaeth yn cael ei rwystro gan eu hangen am gymorth gyda’u tai.
I wneud hyn byddwn ynparhau i fuddsoddi yn y grant triniaeth cyffuriau ac alcohol i’r rhai sy’n cysgu allan (RSDATG) i wella gwasanaethau i bobl sy’n cysgu allan neu sydd mewn perygl o gysgu allan, gan adeiladu ar gyllid sylweddol a fuddsoddwyd yn 2020/21 a 2021/22, gan gynnwys buddsoddiad pellach o £15 miliwn o leiaf i ehangu hyn dros y tair blynedd nesaf. Bydd RSDATG yn darparu triniaeth i o leiaf 7,500 yn fwy o bobl sydd naill ai’n cysgu allan neu sydd mewn perygl uniongyrchol o gysgu allan, sef cynnydd o 33% ar y niferoedd presennol sy’n profi problemau tai wrth gael triniaeth.[footnote 40]
Byddwn yn buddsoddi £53 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ariannu dewislen o opsiynau cymorth tai a fydd yn gwella’r canlyniadau adfer i bobl sy’n derbyn triniaeth ac yn lleihau’r llif o bobl i ddigartrefedd a chysgu allan – gan gynnwys ariannu gweithwyr cymorth tai i weithio o fewn gwasanaethau triniaeth. Ochr yn ochr â’r buddsoddiad hwn, byddwn yn adeiladu’r sylfaen dystiolaeth ar yr angen sy’n ymwneud â thai ar gyfer pobl sy’n dibynnu ar gyffuriau ac alcohol a’r ymyriadau mwyaf effeithiol.
Gwell cyfleoedd cyflogaeth
Fe wnaeth adolygiad y Fonesig Carol Black amlygu, ochr yn ochr â thriniaeth, fod gweithgarwch ystyrlon yn gwneud cyfraniad pwysig at gynnal adfer ar ôl defnyddio cyffuriau. Mae tystiolaeth sylweddol y gall cyflogaeth wella canlyniadau triniaeth, lleihau amlder a difrifoldeb atglafychu, a lleihau ailgyflwyno i wasanaethau.[footnote 41]
Er mwyn cefnogi adfer a symud o driniaeth i waith, byddwn yn buddsoddi £21 miliwn pellach i gyflwyno Lleoliad a Chymorth Unigol (IPS) ar gyfer y rhai sy’n derbyn triniaeth ar gyfer defnyddio cyffuriau neu alcohol ledled Lloegr erbyn diwedd 2024/25. Mae hyn yn dod â chyfanswm y cyllid ar gyfer y rhaglen newydd hon i dros £39 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Wedi’i gomisiynu gan DWP ac wedi’i reoli gan OHID, mae IPS yn cynnig cymorth dwys wedi’i deilwra’n unigol i helpu unigolion sy’n cael triniaeth i ddod o hyd i’r swydd gywir, gyda chymorth yn y gwaith i’r cyflogai a’r cyflogwr i sicrhau bod gwaith yn cael ei gynnal. Wedi’i dreialu’n flaenorol mewn saith ardal awdurdod lleol, mae IPS eisoes yn cael ei ehangu i gwmpasu 46 o ardaloedd awdurdod lleol yn 2021/22.Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn sicrhau cwmpas llawn ledled Lloegr erbyn diwedd 2024/25.
Byddwn hefyd yn darparu cymorth sy’n galluogi unigolion i ddatgelu eu defnydd o sylweddau yn ddiogel, symud i adfer a symud yn nes at waith. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi dros £8 miliwnmewn cymorth gan gynnwysrhaglen mentora cymheiriaid yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, lle bydd mentoriaid yn gweithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Byd Gwaith a staff triniaeth.[footnote 42] Byddant yn defnyddioeu profiad bywyd o ddefnyddio sylweddau, triniaeth ac adfer i weithredu fel eiriolwyr a symbolau gweladwy o adfer i gefnogi pobl i mewn i gyflogaeth.
Astudiaeth achos: Lleoliad Unigol a Chymorth i bobl sy’n gaeth i gyffuriau
Cafodd OC fynediad i IPS ochr yn ochr â thriniaeth am gyffuriau ac alcohol yn y gymuned. Roedd ei defnydd o gocên wedi dod â hi i gysylltiad â gangiau troseddol, a chafodd ei gorfodi i buteindra, gan ddod yn ddibynnol ar gang i gael mynediad at gyffuriau.
Symudodd i ffwrdd o’r ardal lle roedd y gang yn gweithredu ond nid oedd ganddi lawer o hyder ac roedd yn ystyried bod cyflogaeth â thâl yn afrealistig. Gweithiodd ei harbenigwr IPS gyda hi i’w meithrin a chaniatáu iddi weld ei chryfderau. Gwnaethon nhw’n siŵr ei bod yn deall sut y byddai gwaith rhan-amser ochr yn ochr â Chredyd Cynhwysol yn opsiwn ymarferol.
Fe wnaeth yr arbenigwr IPS drefnu cyfweliad gyda busnes lleol. Cymerodd OC yr awenau trwy gydol y cyfweliad, gyda’r arbenigwr IPS yn cynorthwyo trwy awgrymu meysydd lle byddai’n ddefnyddiol iddi ddweud mwy. Cynigiwyd y swydd i OC, gyda rôl yn cael ei ‘cherfio’ a oedd yn cyd-fynd ag anghenion y cyflogwr a’i hamgylchiadau hi.
Wrth ddechrau gweithio, rhoddodd yr arbenigwr IPS y cymorth mwyaf ymarferol i OC. Er ei bod wedi byw yn yr ardal ers sawl blwyddyn, nid oedd erioed wedi bod yn y dref gyfagos lle roedd ei swydd newydd wedi’i lleoli. Aeth yr arbenigwr IPS gyda hi i’r gwaith wrth i OC ddod yn fwy hyderus i wneud y daith.
Ar ôl dechrau gweithio am ddim ond ychydig oriau’r wythnos, mae OC yn llwyddiannus yn y swydd hon ac mae wedi cynyddu ei horiau i fod yn llawn amser yn raddol ac wedi aros yn rhydd rhag sylweddau.
Cymunedau adfer
Mae cymorth a rhwydweithiau cymdeithasol yn helpu pobl i wella. Bydd disgwyl i awdurdodau lleol yn Lloegr ddefnyddio’r buddsoddiad ychwanegol hwn i wneud yn siŵr bod gwasanaethau cymorth adfer ar sail cymheiriaid a chymunedau adfer yn gysylltiedig â phob system triniaeth cyffuriau ac wedi’u hymgorffori ynddynt.
Mae gan sefydliadau cydgymorth megis Al-Anon, Alcoholics Anonymous, Cocaine Anonymous, Families Anonymous, Narcotics Anonymous a SMART Recovery rôl hanfodol i’w chwarae hefyd a gallant gefnogi’r system triniaeth cyffuriau ac alcohol, gan helpu pobl i gyflawni a chynnal adferiad. Byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau triniaeth yn cefnogi pobl i ddefnyddio cydgymorth lle bynnag y bo modd.
Mae rhwydweithiau adfer yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan y bobl sy’n eu defnyddio a gallant wella gwaith gwasanaethau triniaeth yn sylweddol, gan harneisio ymrwymiad ac egni pobl sydd â phrofiad bywyd. Fodd bynnag,ni ddylid gadael cefnogwyr sy’n gymheiriaid i wneud gwaith gweithwyr proffesiynol heb hyfforddiant, tâl neu gymorth briodol. I gefnogi hyn, byddwn yndatblygu safonau a chanllawiau ar gyfer y sector adfer ac ardaloedd lleol, gan weithio gyda Hyrwyddwr Adfer y llywodraeth, Dr Ed Day.[footnote 43] Byddwn yncefnogi ardaloedd lleol i gynnwys pobl sydd â phrofiad personol o ddibyniaeth ar gyffuriau fel cefnogwyr sy’n gymheiriaid a hyfforddwyr adfer ac, ar lefel genedlaethol, byddwn yn annog datblygu rhwydwaith hyblyg ac arloesol o sefydliadau adfer.
Ymchwil
Er gwaethaf y difrod cymdeithasol enfawr a’r gost o £19biliwn y flwyddyn a achosir gan gaethiwed i gyffuriau anghyfreithlon, prin yw’r arloesi clinigol neu iechyd cyhoeddus. Mae ein Gweledigaeth Gwyddorau Bywyd yn ceisio mabwysiadu dull gweithredu tebyg i Dasglu Brechlyn ar gyfer problemau iechyd cymhleth, gan ddwyn ynghyd y partneriaid cywir sydd â’r arweinyddiaeth gywir i wneud cynnydd cyflym. Mae angen canolbwyntio’n fanwl ar yr hyn y mae’n rhaid i lywodraeth, y GIG, awdurdodau lleol, rheoleiddwyr, cwmnïau, elusennau ymchwil meddygol, y byd academaidd a dyngarwch ei wneud i greu’r amgylchedd lle gallwn gyflymu datblygiadau ymchwil yn y DU, fel bod cleifion a chymdeithas yn derbyn budd gwirioneddol.
Bydd y genhadaeth newydd hon yn canolbwyntio ar ddibyniaeth, un o broblemau iechyd mwyaf ein cenhedlaeth, a bydd yn cael ei chyflawni ochr yn ochr â’r cenadaethau eraill ar ordewdra, canser, dementia ac iechyd meddwl a gyhoeddwyd yn y Weledigaeth Gwyddorau Bywyd. Bydd y genhadaeth hon yn helpu i greu gallu i brofi a threialu dulliau arloesol newydd yn y maes hwn. Ar hyn o bryd nid oes sail dystiolaeth gyfoethog i fod yn sail i ddatblygu seico-gynhyrchion fferyllol newydd neu therapiwteg a thechnolegau digidol newydd, ac nid oes llawer o allu ar hyn o bryd i fanteisio arno o fewn y byd academaidd a chwmnïau preifat. Bydd y genhadaeth hon, gyda galwad am gynigion, yn ceisio ysgogi’r gwaith o greu tystiolaeth a chydweithio o’r fath, a deall effeithiolrwydd ymyriadau technolegol o’u paru â dulliau iechyd cyhoeddus a chlinigol. Byddwn hefyd yn archwilio mecanweithiau ariannu a fydd yn gwobrwyo’r rhai sy’n creu arloesiadau sy’n mynd i’r afael â’r broblem.
Gwella ymateb y system cyfiawnder troseddol
Mae lleihau troseddu ac aildroseddu yn rhan sylfaenol o’r strategaeth hon ac agenda codi gwastad y llywodraeth. Mae cyfraddau uchel o gaethiwed i gyffuriau ymhlith troseddwyr, a’n huchelgais yw eu cefnogi i ddod yn rhydd rhag cyffuriau. Mae triniaeth yn gweithio i leihau aildroseddu felly mae mynd i’r afael â dibyniaeth ar gyffuriau yn hanfodol i atal troseddu pellach.[footnote 44] O’r eiliad y daw troseddwr i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol, byddwn yn canolbwyntio ar eu hadsefydlu a’u hadfer o gamddefnyddio cyffuriau.
Yn ogystal â’r buddsoddiad mewn triniaeth ac adfer a amlinellir uchod, bydd £120 miliwn ychwanegol ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder dros y tair blynedd nesaf yn cael ei fuddsoddi i wneud yn siŵr bod troseddwyr yn ymgysylltu’n llawn â gwasanaethau triniaeth sy’n canolbwyntio ar adfer, i ategu buddsoddiad y DHSC yn Lloegr a amlinellwyd yn gynharach yn y bennod hon, gan gynnwys darpariaeth gynyddol o driniaeth ar gyfer troseddwyr yn y gymuned drwy HMPPS yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys trefniadau profi gorfodol a gwirfoddol yn y carchar, cymorth i garcharorion ymgysylltu â thriniaeth gymunedol cyn iddynt gael eu rhyddhau a chynyddu’r defnydd o ofynion adsefydlu cyffuriau dwys ar gyfer y rhai ar ddedfrydau cymunedol. Byddwn yn dysgu o arfer da presennol, yn y DU ac yn rhyngwladol. Ein nod yw sicrhau bod triniaeth briodol oansawdd uchel ar gael i bob troseddwr sy’n gaeth i gyffuriau fel y gallant weithio tuag at fyw’n rhydd rhag cyffuriau, a hefyd sicrhau bod triniaeth cyffuriau, tai a chymorth cyflogaeth ar gael i bob carcharor, yn amodol ar oruchwyliaeth prawf ar ôl eu rhyddhau.
Dedfrydau cymunedol
Rhaid i ni ganolbwyntio ar driniaeth tra bod troseddwyr yn y gymuned, sy’n gyfle gwirioneddol i gefnogi adfer o ddibyniaeth tra’n monitro eu cydymffurfedd. Gan symud ymlaen ag ymrwymiadau a wnaed yn y Cynllun Gorchfygu Troseddu, byddwn yn ehangu ac yn gwella’r defnydd o brofion cyffuriau ar adeg arestio fel ein bod yn achub ar bob cyfle i ganfod troseddwyr sy’n defnyddio cyffuriau.Bydd hyn yn ein galluogi i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cyfeirio at driniaeth ac yn gallu troi cefn ar fywyd o droseddu – er enghraifft, fel gofyniad dedfryd gymunedol. Bydd yr heddlu’n trosglwyddo gwybodaeth o brawf cyffuriau positif i wasanaethau Cyswllt a Dargyfeirio’r GIG sy’n gweithio mewn gorsafoedd heddlu a llysoedd i adnabod troseddwyr sydd ag anghenion triniaeth cyffuriau ac anghenion eraill, megis iechyd meddwl gwael, a’u cyfeirio ymlaen at driniaeth. Rydym yn gwbl glir y bydd troseddau sy’n cyrraedd y trothwy ar gyfer mynd i’r carchar yn cael eu cosbi gan ddefnyddio dedfrydau o garchar; nid yw hwn yn ddewis arall ond mae’n gynllun clir ac effeithiol ar gyfer sicrhau bod triniaeth yn ofynnol lle bo angen ar gyfer y rhai a fyddai’n cael eu dedfrydu yn y gymuned fel dedfryd gymesur.
Rydym am weld mwy o ddefnydd o ddedfrydau cymunedol llym ac effeithiol gyda gofynion adsefydlu ynghylch cyffuriau, sy’n ei gwneud yn ofynnol i droseddwyr ymrwymo i driniaeth a phrofion cyffuriau rheolaidd, mae hyn yn cynnwys defnyddio dedfrydau cymunedol cyfun ar gyfer y rhai sydd â diagnosis deuol o iechyd meddwl gwael. Rdym yn buddsoddi mewn gweithwyr cyffuriau arbenigol ychwanegol i weithio gyda’r heddlu, y llysoedd a’r gwasanaeth prawf i asesu troseddwyr, a rhoi hyder i ddedfrydwyr y gallant wneud mwy o ddefnydd o’r mathau hyn o ddedfrydau, oherwydd y byddant yn gwybod y bydd triniaeth ar gael.
Rydym hefyd yn treialu ‘llysoedd camddefnyddio sylweddau’ newydd sy’n gallu datrys problemau lle mae’r troseddwr yn cael ei weld yn rheolaidd gan yr un barnwr sy’n goruchwylio eu cynnydd gyda thriniaeth ac ymyriadau eraill, wedi’u teilwra i’w hanghenion.[footnote 45] Bydd y barnwr yn gallu defnyddio system o gymhellion a sancsiynau i annog cydymffurfedd ac – yn dilyn newidiadau deddfwriaethol ym Mesur yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd – i osod cosbau carchar dros dro newydd am beidio â chydymffurfio.[footnote 46]
Triniaeth yn y carchar
Byddwn yn canolbwyntio ar adsefydlu ac adfer ar gyfer pob carcharor sydd â phroblem ynghylch camddefnyddio sylweddau o’r diwrnod y maent yn cyrraedd y ddalfa. Rhaid i ni sicrhau bod pob carcharor yn gwneud y defnydd gorau o’u dedfryd o garchar i wneud cynnydd ystyrlon tuag at adfer.
Er mwyn gwneud hyn, rhaid i bob carchar gael agwedd dim goddefgarwch tuag at gyffuriau, gan fuddsoddi mewn diogelwch a chudd-wybodaeth i atal eu cyflenwi, a gwneud yn siŵr bod triniaeth ar gael i sicrhau bod carcharorion yn gallu gwneud newid parhaol i’w hatal rhag aildroseddu. Mae pob carcharoryn cael sgriniad iechyd cynhwysfawr o fewn eu hwythnos gyntaf i nodi camddefnyddio cyffuriau ac anghenion iechyd cysylltiedig a chytuno ar gynllun ar gyfer triniaeth sy’n canolbwyntio ar adfer, wedi’i deilwra i hyd eu dedfryd. Mae profion cyffuriau rheolaidd hefyd yn ein galluogi i ymateb yn gyflym, cosbi ac amharu ar gyflenwad a nodi camddefnydd o gyffuriau fel y gellir cyfeirio carcharorion at driniaeth.O 2023, bydd contract newydd ar gyfer profi am gyffuriau yn hwyluso profion ar gyfer mwy a gwahanol fathau o gyffuriau, gan gynnwys sylweddau sy’n dod i’r amlwg a rhai seicoweithredol, yn ogystal â phrofion ar gyfer cam-drin meddyginiaeth sydd ar bresgripsiwn.
Yn seiliedig ar y cynlluniau triniaeth personol hyn, byddwn yn gwneud yn siŵr bod pob carcharor yn gallu cyrchu triniaeth o ansawdd uchel, sy’n cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl integredig lle ceir diagnosis deuol, sy’n eu galluogi i adfer o’u caethiwed cyn gynted â phosibl, mewn ffordd ystyrlon a pharhaol. Bydd yr ystod lawn o ymyriadau triniaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gael i fynd i’r afael â’r amrywiaeth o anghenion cyffuriau a gyflwynir gan bobl yn y ddalfa, gan gynnwys ymyriadau seiliedig ar ymatal i gefnogi adfer o ddibyniaeth ar gyffuriau. Rydym yn archwilio’r budd o sicrhau bod buprenorphine hir-weithredol ar gael i garcharorion, er mwyn asesu’r effaith ar ymgysylltu â thriniaeth, amddiffyniad rhag gorddosio ac atglafychu ar ôl eu rhyddhau.Byddwn hefyd yn cyflenwi meddyginiaeth naloxone sy’n gallu achub bywydau i staff mewn carchardai a safleoedd cymeradwy i’w rhoi i’r rhai sydd wedi dioddef o orddos o opiadau, gan atal marwolaethau diangen.
Mae mynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau yn y carchar yn ehangach na gofal iechyd yn unig. Ein nod yw i bob carchar ganolbwyntio ar adfer a bydd hyfforddiant ar gyfer swyddogion carchar yn ogystal ag Arweinwyr Strategaeth Cyffuriau mewn carchardai allweddol yn cefnogi hyn. Byddwn yn sefydlu dangosydd perfformiad allweddol i fonitro cynnydd pob carchar o ran sicrhau mai adfer yw’r ffocws a rhannu arfer da lleol o amgylch yr ystâd. Mae CEM Holme House, y carchar ar gyfer adfer o gyffuriau, yn darparu dull carchar cyfan arloesol, gyda buddsoddiad mewn diogelwch, ystod eang o wasanaethau iechyd a chymorth i garcharorion fyw heb gyffuriau. Mae cymorth gan gymheiriaid a’r amgylchedd ehangach yn hollbwysig, ac rydym yn ehangu’r defnydd o feysydd sy’n canolbwyntio ar adfer mewn carchardai, gan gynnwysunedau byw heb sylweddau â chymhelliant. Mae’r rhain yn ‘lle diogel’ i ffwrdd o gyffuriau sy’n cefnogi carcharorion naill ai i roi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau, neu i aros yn rhydd rhag cyffuriau, wrth gynnal profion cyffuriau gwirfoddol ac ymgysylltu â thriniaeth. Mae canlyniadau cynnar wedi nodi gostyngiad mewn trais a chamddefnyddio sylweddau, a chysylltiad â mwy o gyfleoedd cyflogaeth ar ôl rhyddhau.
Astudiaeth achos: Carchar Ei Mawrhydi Holme House
Mae’r dinlynol yn dystiolaeth o garcharor dienw a ddedfrydwyd i’r ddalfa yn CEM Holme House yn dilyn trosedd yn gysylltiedig â’u defnydd o gyffuriau:
Dim ond ers dod i’r sefydliad hwn yr wyf wedi gallu deall yn llawn fy ngweithredoedd a’r rhesymau pam yr oeddwn unwaith yn ymddwyn yn y ffordd y gwnes i. Pan wyf wedi cyrraedd carchardai eraill, mae pobl wedi bod yn dod ataf erioed yn gofyn a wyf am brynu cyffuriau neu eitemau eraill o gontraband. Roedd hyn yn dod yn beth normal i mi ac am amser hir iawn doeddwn i ddim yn meddwl yn syth ac roeddwn i mewn trwbwl yn gyson am nifer o wahanol bethau. Pan gyrhaeddais yma oherwydd yr hyn y mae’r system diogelwch wedi’i wneud ar y frwydr gyffuriau yn y carchar, rwyf nid yn unig wedi gallu canolbwyntio ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig ond hefyd mae wedi fy helpu i orchfygu cythraul fy hun… Mae’r olygfa gyffuriau yn HH yn fach iawn. Yn bersonol, rwy’n meddwl mai dyma fel y dylai carchardai fod, gan ei fod wedi bod o fudd i mi mewn mwy o ffyrdd nag y gallwch ei ddychmygu. Rwyf wedi gallu trwsio dwy berthynas sydd wedi chwalu o ganlyniad i mi sylweddoli mai cyffuriau oedd rheswm fy nghwymp. Rwyf wedi dysgu derbyn, cydnabod ac ymdrin â fy mhroblemau… Ers i mi gyrraedd yma rwyf wedi cyrraedd statws uwch, wedi ennill cyflogaeth … ac wedi cael nifer o ‘gymhellion a breintiau wedi’u hennill’ cadarnhaol hefyd.
Sicrhau bod carcharorion yn parhau i gael triniaeth ar ôl eu rhyddhau
Rhaid dechrau paratoi ar gyfer rhyddhau cyn gynted ag y bydd carcharor yn cyrraedd y ddalfa, gyda chynlluniau triniaeth yn canolbwyntio ar adfer hirdymor a pharhad yn y gymuned. Rydym yn bwriadu cyflwyno pasbort adsefydlu yng Nghymru a Lloegr, a fydd yn dod â’r wybodaeth a’r gwasanaethau allweddol ynghyd i gefnogi’r rhai sy’n gadael y carchar i fynd i’r afael ag ysgogwyr eu haildroseddu a sicrhau cyfnod pontio esmwyth i’r gymuned. Bydd gwasanaethau triniaeth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau yn rhan allweddol o hyn, ochr yn ochr â gwasanaethau adsefydlu ehangach fel cymorth i sicrhau llety a chyflogaeth.
Byddwn hefyd yn sicrhau parhad yn y driniaeth a ddarperir yn y carchar ac yn y gymuned, fel bod y cyfnod pontio mor ddi-dor â phosibl. Mae’r cyllid ychwanegol a ddarparwyd eleni – £80 miliwn i awdurdodau lleol yn Lloegr fuddsoddi mewn triniaeth – wedi darparu mwy o staff arbenigol ym maes triniaeth cyffuriau i weithio gyda charcharorion wrth iddynt adael y carchar a’u helpu i ddychwelyd i’r gymuned a dechrau triniaeth. Mae hyn yn cynnwys pobl â phrofiad bywyd, sy’n aml yn fwy abl i sicrhau ymgysylltiad yn yr ychydig ddyddiau cyntaf hanfodol hynny. Fel y nodwyd yn gynharach yn y bennod hon, bydd y cyllid hwn yn parhau am o leiaf y tair blynedd nesaf, gyda rhagor o fuddsoddiad a chymorth i wneud y mwyaf o adfer ac atal aildroseddu.
Mae sicrhau bod troseddwyr yn cael triniaeth yn y gymuned yn hanfodol i leihau’r tebygolrwydd y byddant yn aildroseddu. Mae gwasanaeth RECONNECT y GIG yn darparu pwynt cyswllt penodol i garcharorion, gan gynnwys pobl sy’n gaeth i gyffuriau ac sydd hefyd ag anghenion iechyd eraill, i wneud atgyfeiriadau ac yn eu cefnogi i baratoi ar gyfer apwyntiadau a mynychu apwyntiadau.[footnote 47] Rydym hefyd yn buddsoddi i ehangu’r defnydd o dechnoleg galwadau fideo, sydd eisoes ar waith mewn 86 o garchardai, gan alluogi carcharorion i gael cyfarfodydd cychwynnol rhithwir gyda darparwyr triniaeth yn y gymuned cyn iddynt gael eu rhyddhau, i feithrin perthnasoedd a’i gwneud yn fwy tebygol y bydd y bydd carcharor am gadw eu hapwyntiadau.
Mae’n hanfodol bod y Gwasanaeth Prawf yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau gofal iechyd i wneud yn siŵr bod troseddwyr yn parhau i gael mynediad at driniaeth. Er mwyn cefnogi gwaith partneriaeth agosach, bydd OHID yn cyhoeddi adnodd un pwynt cyswllt rhyngweithiol i hwyluso cyfathrebu rhwng gwasanaethau prawf a thriniaeth yn y ddalfa a’r gymuned. Rydym wedi treialu rôl Cydlynwyr Partneriaethau Iechyd a Chyfiawnder sy’n cydgysylltu rhwng carchardai, y gwasanaeth prawf a darparwyr triniaeth, i gydgysylltu gwasanaethau’n fwy effeithiol. Byddwn yn ehangu’r rôl hon i gynnwys pob rhanbarth a rhannu arfer gorau yn ehangach. Bydd y rôl hon yn cefnogi Systemau Gofal Integredig newydd gan roi, am y tro cyntaf, sedd wrth y bwrdd i garchardai a’r gwasanaeth prawf pan fydd trafodaethau comisiynu’n cael eu cynnal. Bydd timau rhanbarthol yn cefnogi rhannu data ar anghenion troseddwyr i sicrhau bod gwasanaethau’n diwallu eu hanghenion penodol. Bydd hyn yn sicrhau bod triniaeth yn y carchar ac yn y gymuned yn gydgysylltiedig, fel bod cynlluniau triniaeth troseddwyr yn gyson.
Mae llety, addysg a chyflogaeth yn hanfodol i gefnogi adfer o gamddefnyddio cyffuriau a lleihau aildroseddu. Mae diffyg rhywle i fyw wrth adael y carchar yn rhwystr mawr i ymgysylltu â thriniaeth.Heb lety sefydlog, mae ymadawyr carchar bron 50% yn fwy tebygol o aildroseddu.[footnote 48] Mae angen i ni wneud yn siŵr bod carcharorion yn cael y cymorth addysg a chyflogaeth sydd ei angen arnynt i symud allan o’r carchar i gyflogaeth daledig, gan leihau’r risg o aildroseddu.Bydd yr ymyriadau isod yn gwella cymorth ar draws y meysydd hanfodol hyn.
- Gan adeiladu ar y buddsoddiad mewn adsefydlu pobl sy’n gadael y carchar a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, bydd £200 miliwn y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi erbyn diwedd 2024/25 i wella mynediad y rhai sy’n gadael y carchar i lety, cymorth cyflogaeth a thriniaeth am gamddefnyddio sylweddau, ac i gyflwyno mesurau pellach ar gyfer ymyrraeth gynnar i fynd i’r afael â throseddau ieuenctid.
- Fel y cyhoeddwyd yng Nghynllun Gorchfygu Troseddu’r llywodraeth, lansiwyd Gwasanaeth Llety Cymunedol newydd mewn pum ardal brawf ym mis Gorffennaf 2021 i ddarparu tai a chymorth dros dro, fel y cyhoeddwyd yn y Cynllun Gorchfygu Troseddu.
- Bydd arbenigwyr tai mewn carchardai yn cael eu recriwtio i helpu i gryfhau’r gwaith partneriaeth rhwng carchardai, y gwasanaeth prawf ac awdurdodau lleol i gynyddu’r tebygolrwydd y bydd y rhai sy’n gadael carchar yn sicrhau llety yn y gymuned cyn iddynt adael.
- Mae’r llywodraeth wedi cynyddu nifer yr hyfforddwyr gwaith mewn carchardai sy’n cynnig cymorth cyflogaeth. Mae’r llinell ffôn Credyd Cynhwysol newydd yn rhoi mynediad cyflym i’r rhai sy’n gadael y carchar i’r system budd-daliadau, gan sicrhau’r sefydlogrwydd ariannol sydd ei angen i chwilio am waith ac aros mewn gwaith. Mae DWP yn gweithio gyda charchardai i ddatblygu cytundebau lleol i wella cydgysylltu a sicrhau parhad cymorth wrth ryddhau, gan adeiladu ar y Cytundeb Partneriaeth Cenedlaethol cyhoeddedig gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
cydweithio ledled y DU
-
Mae’r canllawiau clinigol cenedlaethol diweddaraf ar drin camddefnydd o gyffuriau a dibyniaeth ar gyffuriau yn rhai DU gyfan ac fe’u cyd-gynhyrchwyd gan arbenigwyr clinigol ac arbenigwyr eraill o bob rhan o’r DU.
-
Cytunodd Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig fod angen i ni adolygu deddfwriaeth i wneud naloxone (cyffur sy’n gwrthdroi effeithiau gorddos opioid) ar gael yn haws i bobl sy’n defnyddio cyffuriau ac sydd mewn perygl. Fe wnaeth ymgynghoriad ar y cyd ar ehangu mynediad i nalocson ddod i ben ar 28 Medi 2021. Cafodd yr ymgynghoriad ei lansio a’i ddatblygu gyda Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig a byddai newidiadau deddfwriaethol yn y dyfodol yn berthnasol ledled y Deyrnas Unedig.
-
Mae DHSC ac OHID yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i goladu data’r DU ar farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau, clefydau heintus sy’n gysylltiedig â chyffuriau, a thriniaeth cyffuriau, ymhlith dangosyddion eraill i’w rhannu ag asiantaethau rhyngwladol megis Swyddfa’r Cenhedloedd Unedig ar Gyffuriau a Throseddu.
-
Bydd llysoedd peilot y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddatrys problemau yn cyd-fynd â’r model sydd ar waith ar hyn o bryd yn yr Alban, gan ganolbwyntio’n bennaf ar driniaeth, profion cyffuriau rheolaidd ac adolygiadau o gynnydd gan y llys.
Pennod 4 – Cyflwani newid cenedliadol yn y galw am gyffuriau
Ein gweledigaeth yw achosi newid cenedliadol yn y defnydd o gyffuriau ar draws cymdeithas fel bod llai o bobl, o fewn 10 mlynedd, yn cymryd cyffuriau neu’n teimlo eu bod wedi’u denu at gymryd cyffuriau, a bod plant a phobl ifanc heddiw yn tyfu i fyny mewn amgylchedd mwy diogel ac iachach. Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr i annog pobl i newid eu hagweddau a’u hymddygiad trwy wneud yn siŵr bod defnyddwyr cyffuriau yn gwbl ymwybodol o’r risgiau sylweddol y maent yn eu hwynebu, gan gynnwys y niwed y mae eu defnydd yn ei achosi iddynt hwy eu hunain ac i bobl eraill. I’r rhai sydd serch hynny yn dewis parhau â’u defnydd o gyffuriau, bydd canlyniadau cyflym, sicr ac ystyrlon a fydd yn cael eu teimlo’n gryfach na heddiw ac a fydd yn cynyddu ar gyfer y rhai sy’n parhau i droseddu. Mae cyffuriau’n niweidiol i gymdeithas ac nid oes neb uwchlaw’r gyfraith.Byddwn hefyd yn cynyddu gweithgarwch sy’n anelu at amddiffyn plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed fel eu bod yn llai tebygol o ddechrau cymryd cyffuriau.
Beth yw’r broblem?
Mae oddeutu tair miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr yn adrodd eu bod yn defnyddio cyffuriau bob blwyddyn, gan roi eu hunain mewn perygl ac ysgogi cadwyn gyflenwi dreisgar ac ecsbloetiol, gan gynnwys trwy’r hyn a elwir yn ddefnydd cyffuriau hamdden. Mae mynychder y defnydd o gocên ymhlith oedolion yn y DU yn ail i UDA yn unig.[49] Mae canabis yn cael ei ddefnyddio hyd yn oed yn fwy eang na chocên, gyda 7.8% o bobl 16 i 59 oed (2.6 miliwn o bobl) ac 18.7% o bobl 16 i 24 oed (1.2 miliwn o bobl) yn adrodd eu bod wedi’i ddefnyddio yn 2019/20.[footnote 50]
Mae’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr hamdden yn cael eu cysgodi rhag canlyniadau cymdeithasol y fasnach gyffuriau – y trais difrifol, camfanteisio dynol, caethiwed difrifol a throseddu – a deimlir yn aml gan y rhai sy’n byw mewn rhannau mwy difreintiedig o’n gwlad neu dramor. Mae hyn yn rhan o gylch niweidiol lle mae’r defnydd o gyffuriau wedi’i normaleiddio.Mae oedolion sy’n defnyddio cyffuriau’n gymdeithasol yn aml yn byw bywydau cymharol nodweddiadol ac iach fel arall ac efallai na fyddant yn cydnabod eu rôl o ran hybu’r fasnach gyffuriau neu ddylanwadu ar, a niweidio, ymddygiad eraill, gan gynnwys plant,. Efallai y byddant hefyd yn teimlonad ydynt mewn perygl o brofi unrhyw ganlyniadau eu hunain yn sgil eu defnydd o gyffuriau. Ni ddylai hyn fod yn wir.
Mae’r defnydd o gyffuriau ymhlith plant ac oedolion ifanc yn arbennig o bryderus. Yn dilyn pymtheng mlynedd o ddirywiad parhaus yn y defnydd o gyffuriau, ers 2012 fe fu cynnydd yn y gyfran o bobl ifanc 16 i 24 oed sy’n adrodd eu bod yn defnyddio canabis a chyffuriau Dosbarth A.[footnote 51] Mae’r defnydd o gyffuriau gan bobl ifanc yn cyflwyno’r perygl o ganlyniadau uniongyrchol a hirdymor gwaeth, gan gynnwys iechyd, cyrhaeddiad addysgol a chyfranogiad mewn gweithgareddau troseddol.
Sut bydd y strategaeth hon yn newid pethau er gwell
Bydd llai o alw am gyffuriau yn cael effeithiau cadarnhaol ar gadwyni cyflenwi treisgar diraddiol a bydd yn cyflwyno buddion ehangach ar ansawdd bywyd. I gyrraedd yno, mae angen ymdrech cymdeithas gyfan, a rhaid i ni fynd ar drywydd amrywiaeth o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar adeiladu sylfaen dystiolaeth o’r radd flaenaf, lleihau’r galw am gyffuriau ymhlith oedolion, ac atal a lleihau defnydd ymhlith plant a phobl ifanc.
Adeiladu sylfaen dystiolaeth sy’n arwain y byd
Byddwn yn datblygu sylfaen dystiolaeth sy’n arwain y byd ar sut i fynd i’r afael â’r defnydd o gyffuriau ymhlith oedolion. Bydd hyn yn mynd i’r afael â’r wybodaeth ryngwladol annigonol ar sut i newid agweddau ac ymddygiadau sy’n gysylltiedig â chyffuriau ar lefel poblogaeth.
Fel cam cyntaf, rydym yn comisiynu prosiect ymchwil domestig a rhyngwladol cynhwysfawr ar leihau’r defnydd o gyffuriau ar draws cymdeithas, y bydd yr elfen gyntaf ohono yn gwneud argymhellion polisi cychwynnol yn ystod gwanwyn 2022 gyda rhaglen waith barhaus.
Mae’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer sut i atal plant a phobl ifanc rhag defnyddio cyffuriau yn fwy datblygedig. Gwyddom ei bod yn bwysig canolbwyntio ar ffactorau risg a gwydnwch. Gellir cyflawni canlyniadau da drwy feithrin gwytnwch drwy addysg sy’n seiliedig ar sgiliau, yn ogystal â thrwy raglenni aml-gydrannol sy’n cynnwys ymyriadau rhianta a chymorth i unigolion a theuluoedd.[footnote 52] Byddwn yn parhau i weithredu hyn a gwella ein dealltwriaeth ymhellach er mwyn ymateb i dueddiadau pryderus yn y defnydd o gyffuriau. Bydd y Cyngor Cynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau hefyd yn defnyddio eu harbenigedd sylweddol i ddechrau gwaith pellach ag adolygiad ar atal grwpiau bregus rhag dechrau defnyddio cyffuriau.Mae Prifysgol John Moores Lerpwl wedi cael eu comisiynu i gynnal ymchwil sylfaenol i ddeall achosion y cynnydd diweddar yn nifer yr achosion o ddefnyddio cyffuriau ymhlith pobl ifanc. Bydd hon yn adrodd yn gynnar yn 2023, gyda chanfyddiadau’n dod i’r amlwg yn ystod 2022, a bydd yn llywio rhaglen waith bellach.
Mae’r bobl sy’n dylanwadu ac yn effeithio ar newid ac ymddygiad yn amrywiol – mae cyfoedion, teuluoedd, athrawon, dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol a’r cyfryngau ehangach yn rhai ohonynt yn unig. Felly byddwn yn cynnull uwchgynhadledd gyffuriau yn ystod gwanwyn 2022 i ddod ag arbenigwyr annibynnol, cyflogwyr a chynrychiolwyr o’r sectorau perthnasol, gan gynnwys addysg, gorfodi’r gyfraith ac economi’r nos at ei gilydd, ynghyd â phartneriaid o bob rhan o’r llywodraeth i’n helpu i ddeall yr heriau a’r atebion posibl yn well.
Byddwn yn defnyddio’r mewnwelediadau a’r argymhellion o’r uwchgynhadledd a’r prosiectau ymchwil wrth i ni weithio tuag at ein huchelgais hirdymor. Bydd cronfa arloesi traws-lywodraethol tair blynedd newydd gwerth £5 miliwn yn ein galluogi i brofi a dysgu, gwireddu ein huchelgais i wrthdroi’r duedd gynyddol mewn defnyddio cyffuriau, a lleihau’r defnydd cyffredinol tuag at isafbwynt hanesyddol o 30 mlynedd o fewn degawd.
Lleihau’r galw am gyffuriau ymhlith oedolion
Mae’r strategaeth yn ddigywilydd o glir ynghylch ein safbwynt: mae defnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn anghywir ac mae meddu ar gyffuriau a reolir yn anghyfreithlon yn drosedd. Rhaid i ni gymryd camau cyflym a phendant i leihau’r defnydd o gyffuriau ar gyfer hamdden. Bydd dull newydd a beiddgar – wedi’i ategu gan fuddsoddiad ychwanegol o £25 miliwn – yn cael ei gyflwyno o fewn tair blynedd i osod y fframwaith ar gyfer y degawd nesaf a lleihau cyfraddau defnyddio cyffuriau anghyfreithlon.
Bydd y dull newydd beiddgar yn sicrhau canlyniadau mwy ystyrlon, tecach a llymach i’r rhai sy’n defnyddio cyffuriau ar gyfer hamdden a bydd yn sicrhau bod ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio ar ansawdd bywyd pobl a chymdogaethau yn flaenoriaeth ac yn cael ei drin yn gadarn. Mae iddo ddau gam gweithredu: cymryd camau pendant nawr, ac yna Papur Gwyn i fod hyd yn oed yn fwy beiddgar wrth gyflawni canlyniadau llymach a mwy ystyrlon ar gyfer defnyddio cyffuriau anghyfreithlon. Bydd y fframwaith hwn yn targedu’r rhai sy’n teimlo ar hyn o bryd, efallai oherwydd lle maent yn byw neu’n cymdeithasu, nad ydynt mewn perygl o wynebu canlyniadau cyfreithiol o’u defnydd.
Byddwn yn ei gwneud yn glir i bobl o’r fath bod rhaid iddynt newid eu hymddygiad, neu byddant yn wynebu ystod o sancsiynau cynyddol a fydd yn arwain at feichiau eu ffordd o fyw yn llawer mwy nag a deimlir heddiw. Bydd mewnwelediadau a thystiolaeth o’n gwerthusiad a’n hymchwil ochr yn ochr â hyn yn llywio buddsoddiad yn y dyfodol.
Fframwaith ar gyfer newid
Mae’r rhaglen waith hon wedi’i thargedu at ymyriadau sydd, gyda’i gilydd, yn mynd i’r afael â gwahanol agweddau ar yr un broblem. Mae’r heddlu eisoes yn dod i gysylltiad â defnyddwyr cyffuriau mewn amrywiaeth o gyd-destunau, ond drwy ehangu’n gyflym y defnydd o brofion cyffuriau ar adeg arestio, rydym yn galluogi nodi nifer fwy o ddefnyddwyr cyffuriau. Ar yr un pryd, drwy ddod â chynllun canlyniadau anodd i nifer o ardaloedd heddluoedd ac ychwanegu at gynlluniau arloesol presennol, rydym yn sicrhau bod y model ar gyfer asesu, atgyfeirio a gosod sancsiynau i’r rhai sy’n cael eu dal â chyffuriau yn eu meddiant yn cael ei gyflwyno ar raddfa fawr. Wrth wneud hyn, rydym yn cefnogi heddluoedd i fabwysiadu ymagwedd genedlaethol gyson at anfon negeseuon clir ac effeithiol at y rhai sy’n prynu cyffuriau gan werthwyr ac y mae eu manylion cyswllt i’w cael mewn niferoedd enfawr pan yw ffonau delwyr yn cael eu hatafaelu ledled y wlad. Bydd gwaith pellach yn profi’r mathau o negeseuon a chymorth sydd fwyaf tebygol o arwain at newidiadau parhaus mewn agweddau ac ymddygiad a bydd yn darparu tystiolaeth ar gyfer ymgyrchoedd cyfathrebu yn y dyfodol. O ganlyniad i’r holl fentrau hyn, bydd defnyddwyr cyffuriau’n dod yn fwyfwy hysbys i system orfodi’r gyfraith, yn cael eu gorfodi i wynebu eu hymddygiad, a bydd y set o ymyriadau hyblyg ond cynyddol yn dechrau symud y sefyllfa ynghylch y defnydd o gyffuriau.
Cymryd camau pendant nawr
Rydym yn ymwybodol bod saith heddlu ar hyn o bryd yn gweithredu cynlluniau gwarediad y tu allan i’r llys a bydd o leiaf ddwywaith y nifer hwn yn gweithredu cynlluniau o’r fath erbyn diwedd 2024/25. Gyda £3 miliwn ychwanegol y flwyddyn wedi’i ddyrannu yn yr Adolygiad o Wariant, sef cyfanswm o £9 miliwn, byddwn yn cefnogi heddluoedd i gyflwyno, neu ehangu, cynllun gwarediadau canlyniadau anodd y tu allan i’r llys o haf 2022 a fydd yn sicrhau bod mwy o bobl sy’n defnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn cael canlyniad perthnasol a chymesur. Cyhuddiadau troseddol fydd y cam olaf o hyd i’r rhai sy’n parhau i droseddu.
Bydd y buddsoddiad newydd yn ehangu gallu heddluoedd i ddelio â throseddwyr meddiant cyffuriau, gan sicrhau bod mwy o bobl yn wynebu canlyniadau eu defnydd trwy ymagwedd gyson, cyflym a phendant at feddu ar gyffuriau. Bydd sancsiynau yn gymesur ac yn berthnasol i’r amgylchiadau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i’r rhai sy’n cael eu dal â chyffuriau yn eu meddiant am y tro cyntaf fynychu cwrs ymwybyddiaeth cyffuriau, er mwyn iddynt gael y cyfle i ddeall niwed cyffuriau a newid eu hymddygiad. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen mwy nag un cyfle ar unigolyn i wneud y newid hwn yn ei ffordd o fyw, a bydd gan heddluoedd ddisgresiwn i gefnogi hyn. I’r rhai nad ydynt yn ymgysylltu neu sy’n parhau i droseddu, bydd yr heddlu’n gallu gosod gofynion pellach, gan gynnwys codi dirwy neu, ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud gwaith yn eu cymuned neu gytuno i ymgymryd â thriniaeth am gyffuriau ar gyfer y patrwm hwn o ddefnyddio cyffuriau. Yn y pen draw, gallent dderbyn rhybudd neu wynebu erlyniad.
Bydd hyn yn golygu nad yw’r defnydd o gyffuriau hamdden fel y’i gelwir yn mynd heb gosb, ond mae hefyd yn caniatáu i’r heddlu ganolbwyntio eu sylw ar erlid y gangiau troseddol yn ddidostur sy’n cyflenwi cyffuriau ac yn gyrru’r niwed mwyaf . Rydym yn credu y bydd swyddogion heddlu yn croesawu’r cyfle i gyfeirio oedolion sy’n defnyddio cyffuriau at amrywiaeth o ymyriadau llym ac ystyrlon a fydd yn achosi iddynt feddwl am eu defnydd o gyffuriau a’r dewisiadau y maent yn eu gwneud, ac mewn llawer o achosion bydd yn helpu pobl i benderfynu rhoi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau. Bydd y prosiectau’n cael eu cynllunio gyda heddluoedd a’u nod fydd mynd i’r afael â’r ffordd anghymesur y mae grwpiau penodol, megis dynion du ifanc, yn cael eu cosbi gan y system cyfiawnder troseddol am feddu ar gyffuriau (fel yr amlygwyd yn adroddiad y Comisiwn ar Wahaniaethau Hil ac Ethnig ym mis Mawrth 2021) ac, ar yr un pryd, yn darparu cyfres o ganlyniadau llymach i bawb sy’n torri’r gyfraith.
Bydd ehangiad gwerth £15 miliwn o brofi am gyffuriau ar adeg arestio drwy heddluoedd ledled Cymru a Lloegr yn cael ei gyflwyno o fis Ebrill 2022. Bydd gan bob heddlu’r dechnoleg i brofi pobl sy’n cael eu harestio am droseddau sbarduno, megis troseddau caffaelgar (megis byrgleriaeth, lladrad a dwyn), ar gyfer cocên ac ar gyfer rhai opiadau. Rydym hefyd yn ariannu nifer o heddluoedd i ehangu profi am gyffuriau ar adeg arestio y tu allan i droseddau sbarduno, fel rhan o ymdrechion i archwilio dulliau newydd o dargedu carfannau ehangach o ddefnyddwyr. Pan fydd pobl yn profi’n bositif, efallai y byddant yn destun asesiad o’u defnydd o gyffuriau ac yn cael eu hatgyfeirio i ymwybyddiaeth o gyffuriau, triniaeth cyffuriau neu ymyriadau eraill â r nod o newid eu hymddygiad.
Ar wahân, rydym yn deddfu o fewn y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd i ehangu pwerau i ddechrau o fewn cynlluniau peilot y llysoedd sef ‘camddefnyddio sylweddau’ i ddatrys problemau i alluogi profi am gyffuriau ar droseddwyr sy’n cyflawni dedfrydau cymunedol sy’n bodloni maen prawf penodol. Ar hyn o bryd, dim ond y rhai sy’n cytuno i gael triniaeth cyffuriau y gallwn eu profi. Bydd y pŵer newydd hwn yn rhoi’r gallu i farnwyr orchymyn cynnal prawf am gyffuriau ar unrhyw un y mae ei drosedd yn gysylltiedig â’u defnydd o gyffuriau, p’un a ydynt yn cytuno i hynny ai peidio. Os byddant yn profi’n bositif, gallent fod yn torri eu gorchymyn ac yn agored i gael eu dedfrydu i ddedfryd o garchar. Bydd hyn yn rhan o becyn o gymhellion a sancsiynau sydd ar gael i’r barnwr i gymell cydymffurfedd.
Yn ogystal, pan fyddwn yn atafaelu ffonau delwyr cyffuriau, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gedwir arnynt i gysylltu â’u cwsmeriaid ag amrywiaeth o negeseuon i atal eu defnydd o gyffuriau a’u cyfeirio at gymorth. Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad oes neb yn ddienw nac yn teimlo’n ddienw pan ydynt yn prynu cyffuriau. Rydym am ddysgu o hyn, ac felly byddwn yn cefnogi ehangu o dan brosiect o’r enw Operation Mercury, gan weithio’n agos gyda Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a heddluoedd.
Rydym am ysgogi newid ymddygiad er mwyn lleihau’r galw am gyffuriau cyn iddo gyrraedd y cam hwn. Ein cam nesaf yw ymchwilio ymhellach a phrofi negeseuon trwy fenter newid ymddygiadwedi’i thargedu sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a anelir i ddechrau at fyfyrwyr mewn addysg bellach ac uwch, i’w chyflwyno yn hydref 2022.
Mae tystiolaeth bresennol yn dweud wrthym fod ymgyrchoedd cyfathrebu’n gweithio orau pan ydynt wedi’u teilwra a’u targedu at y gynulleidfa ac wedi’u hintegreiddio ag ymyriadau cymorth, megis sesiynau byr ar niwed cyffuriau, gwybodaeth a chyngor. Bydd y broses o dreialu negeseuon mewn prifysgolion yn cael ei chyflwyno ochr yn ochr â mwy o gapasiti i ddarparu’r ymyriadau hyn a sicrhau mynediad at wasanaethau triniaeth i’r rhai sydd â lefel briodol o angen.Wrth ddewis lleoliadau byddwn yn ystyried lle mae angen o ran lefel y defnydd o gyffuriau a lle mae gwasanaethau triniaeth cyffuriau lleol sefydledig neu wasanaethau pobl ifanc a allai, pe byddent yn cael eu hariannu, bartneru â phrifysgolion i ehangu a gwella eu gwasanaethau.
Byddwn yn profi ac yn gwerthuso effaith negeseuon gwahanol yn gadarn, gan gynnwys a yw pobl yn gweithredu wrth gael eu hamlygu i’r ymgyrch, sef drwy geisio gwybodaeth neu gymorth yn unol â chyfarwyddyd yr ymgyrch, ac yna a ydynt yn gwneud dewisiadau gwahanol ynghylch defnyddio cyffuriau.
Papur Gwyn i fod hyd yn oed yn fwy beiddgar wrth gyflawni canlyniadau llymach a mwy ystyrlon ar gyfer defnyddio cyffuriau anghyfreithlon
Bydd y llywodraeth yn cyhoeddi Papur Gwyn maes o law a fydd yn edrych ar fesurau newydd i leihau’r galw ac atal pobl rhag defnyddio cyffuriau anghyfreithlon drwy gyfres o sancsiynau llymach. Ni fyddwn yn petruso cyn sicrhau bod troseddwyr mynych yn wynebu canlyniadau. Ar hyn o bryd rydym yn ystyried popeth; ar gyfer troseddwyr mynych byddwn yn archwilio opsiynau i newid eu hymddygiad trwy sancsiynau sifil a gorchmynion llys.
Gallai hyn gynnwys, lle bo’n berthnasol a chymesur, cyrffyw neu ddileu pasbort neu drwydded yrru dros dro, mesurau a fyddai’n cynyddu yn dibynnu ar ddifrifoldeb ac amlder y troseddau. Byddwn hefyd yn ystyried mynd ymhellach nag o’r blaen i ddirwyo pobl sy’n torri’r gyfraith, gan gynnwys ymgynghori ar opsiynau i gynyddu lefel y dirwyon i wneud y mwyaf o ataliaeth a darbwyllo trwy gosbau ariannol.
Bydd y Papur Gwyn hefyd yn nodi opsiynau i ehangu’r defnydd o Brofi am Gyffuriau wrth Arestio, yn benodol er mwyn caniatáu i’r offeryn hwn gael ei dargedu at ddefnyddwyr hamdden, fel y’u gelwir, a all gynnwys edrych ar ba droseddau sy’n ‘droseddau sbarduno’, a hefyd y cyffuriau y gall yr heddlu profi amdanynt. Bydd ein gwerthusiad o’r prosiectau a amlinellir yn yr adran hon o’r strategaeth yn llywio’r Papur Gwyn a’n huchelgais hirdymor ar gyfer y dyfodol.
Atal plant a phobl ifanc rhag dechrau defnyddio cyffuriau
Fel y nodwyd yn rhan dau o adolygiad y Fonesig Carol Black, mae atal y defnydd o gyffuriau yn fwy cost-effeithiol a dymunol yn gymdeithasol nag ymdrin â’i ganlyniadau. Er mwyn lleihau’r defnydd o gyffuriau adloniadol a phroblemus ymhlith oedolion yn y tymor hir, rhaid i ni fabwysiadu dull gweithredu llywodraeth gyfan i atal defnydd ymhlith plant a phobl ifanc nawr. Yn unol â’r dystiolaeth, bydd hyn yn cynnwys ystod eang o weithgareddau, y rhan fwyaf ohonynt nad ydynt yn benodol i fynd i’r afael â defnyddio cyffuriau, ond mae ganddynt lawer o fuddion eraill hefyd. Er mai dim ond yn Lloegr y mae’r ymyriadau atal y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdanynt yn bennaf, byddwn yn parhau i weithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i rannu arfer a dysg.
Atal ac ymyriadau cynnar yn yr ysgol
Y dull mwyaf effeithiol a chynaliadwy o leihau’r galw yw meithrin gwydnwch pobl ifanc drwy roi dechrau da mewn bywyd a’r addysg orau bosibl iddynt a’u cadw’n ddiogel, yn iach ac yn hapus.
Mae addysg cyffuriau yn rhan o’r cwricwlwm addysg iechyd gorfodol ar gyfer pob ysgol a ariennir gan y wladwriaeth, yn dilyn cyflwyno addysg perthnasoedd, rhyw ac iechyd statudol yn Lloegr ym mis Medi 2020. Mewn addysg iechyd, mae ffocws cryf ar les meddwl, gan gynnwys cydnabod bod lles meddwl ac iechyd corfforol yn gysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys addysgu am beryglon cyffuriau ac alcohol y mae athrawon yn cael cymorth i’w cyflwyno gyda phecyn o fodiwlau hyfforddi athrawon. Mae’r Adran Addysg yn datblygu monitro hirdymor ar ddarpariaeth ar draws yr holl ofynion addysg perthnasoedd, rhyw ac iechyd newydd.Mae hyn yn cynnwys ymchwil meintiol ac ansoddol newydd, i ddeall ansawdd y gweithredu, gan gynnwys hyder athrawon wrth addysgu’r gofynion statudol, a nodi unrhyw anghenion hyfforddi a chymorth pellach.
Yn ogystal ag addysg gyffredinol, mae amrywiaeth o raglenni mewn ysgolion i nodi a chefnogi plant sy’n agored i niwed gan gynnwys ffactorau risg unigol sydd hefyd yn berthnasol i ddefnyddio cyffuriau megis profi anhawster wrth reoli emosiynau, ymdopi â heriau, ac arfer hunanreolaeth ymddygiadol. Er enghraifft, mae timau arbenigol amlddisgyblaethol yn gweithio mewn ysgolion darpariaeth amgen i ddarparu cymorth cofleidiol i’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o ymwneud â thrais difrifol a llinellau cyffuriau.
Cefnogi pobl ifanc a theuluoedd sydd yn y perygl mwyaf o ddefnyddio sylweddau
Mae pobl ifanc sy’n wynebu risg uwch o ddefnyddio a phrofi niwed o gyffuriau yn cynnwys y rhai sy’n cael eu cymryd i ofal, y rhai â phroblemau iechyd meddwl heb eu trin, y rhai sy’n ymwneud â gangiau a’r rhai y mae eu rhieni’n defnyddio cyffuriau ymhlith ffactorau eraill. Rydym yn cynyddu buddsoddiad dros y tair blynedd nesaf mewn amrywiaeth o raglenni ar draws y llywodraeth sy’n darparu cymorth cynnar i blant a theuluoedd, gan gynnwys teuluoedd lle mae’r defnydd o gyffuriau yn cyflwyno risg i’r plentyn.
Mae cefnogi teuluoedd a phlant ledled y wlad yn rhan hanfodol o uchelgais y llywodraeth i godi’r gwastad. Yn ogystal â’r £39 miliwn sydd eisoes wedi’i ymrwymo i hyrwyddo hybiau teulu, bydd £300 miliwn yn cael ei fuddsoddi i drawsnewid gwasanaethau ‘Dechrau am
Oes’ a chreu rhwydwaith o hybiau teulu yn hanner yr ardaloedd cyngor ledled Lloegr. Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi miloedd o deuluoedd i gael cymorth, gan sicrhau bod babanod yn cael y dechrau gorau mewn bywyd – gan eu cefnogi i ffynnu a gwireddu eu potensial.. Mae hybiau teuluol yn ffordd o uno’n lleol i wella mynediad at wasanaethau, y cysylltiadau rhwng teuluoedd, gweithwyr proffesiynol, gwasanaethau a darparwyr, a rhoi perthnasoedd wrth galon cymorth teuluol. Mae hybiau teuluol yn dod â gwasanaethau i blant o bob oed ynghyd, gyda chynnig Dechrau am Oes gwych wrth eu craidd.
Mae £200 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf yn y Rhaglen Cefnogi Teuluoedd trawslywodraethol, gan gymryd cyfanswm y buddsoddiad arfaethedig yn Lloegr i £695 miliwn. Bydd y cyllid hwn yn helpu hyd at 300,000 yn fwy o deuluoedd sy’n wynebu problemau lluosog, rhyng-gysylltiedig i gyrchu cymorth effeithiol i’r teulu cyfan ac i wella canlyniadau eu bywyd.Fe wnaeth gwerthusiad cenedlaethol diweddaraf y Rhaglen Teuluoedd Cythryblus (a ragflaenodd Cefnogi Teuluoedd) ganfod bod gan 15.6% o deuluoedd unigolyn a oedd yn ddibynnol ar gyffuriau neu alcohol yn y flwyddyn cyn dechrau ar y rhaglen.[footnote 53] Trwy gefnogi’r rhieni hyn, gallwn helpu i leihau’r achosion o ddefnyddio sylweddau yn y genhedlaeth nesaf.
I’r plant hynny na allant aros gyda’u teuluoedd ac y mae’n rhaid eu cymryd i ofal, mae gwneud yn siŵr bod lleoliadau gofal yn darparu cartrefi diogel sy’n diwallu eu hanghenion yn flaenoriaeth.Dros y tair blynedd nesaf byddwn yn darparu £259m i gynnal capasiti ac ehangu’r ddarpariaeth mewn cartrefi plant preswyl sy’n ddiogel ac agored. Bydd hyn yn darparu cartrefi diogel o ansawdd uchel i rai o’n plant a’n pobl ifanc sydd mwyaf agored i niwed.
Gwyddom fod plant sy’n dioddef o iechyd meddwl gwael mewn mwy o berygl o gael eu tynnu tuag at ddefnyddio cyffuriau neu’r camfanteisio sy’n gysylltiedig ag ef. Mae sicrhau bod plant yn cael mynediad at driniaeth iechyd meddwl yn elfen allweddol o atal y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o brofi niwed oherwydd cyffuriau anghyfreithlon. Fel rhan o £2.3 biliwn ychwanegol y flwyddyn erbyn 2023/24, bydd 345,000 ychwanegol o blant a phobl ifanc yn Lloegr yn cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl bob blwyddyn erbyn 2023/24.
Bydd ymyriadau ychwanegol wedi’u targedu gan y GIG ar gyfer y plant a’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed yn cryfhau’r ddarpariaeth o amgylch y plentyn ac yn ymyrryd yn gynharach er mwyn sicrhau canlyniadau gwell.
Mae cael pobl ifanc, yn arbennig y rhai sy’n fwy agored i niwed, i ymgysylltu’n gymdeithasol ac yn gallu ffurfio perthnasoedd cryf gyda’u cyfoedion ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt yn hanfodol er mwyn iddynt osgoi cael eu tynnu i mewn i fyd cyffuriau anghyfreithlon a gweithgareddau peryglus eraill a chael eu niweidio ganddynt. Ar sail canfyddiadau’r Adolygiad Ieuenctid, bydd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn buddsoddi £560 miliwn o gyllid dros dair blynedd i adeiladu cynnig ieuenctid newydd a gwell ledled Lloegr. Bydd y Gronfa Buddsoddi Ieuenctid yn cael ei thargedu at yr ardaloedd mwyaf anghenus a bydd yn darparu buddsoddiad mewn mannau diogel newydd i bobl ifanc, fel y gallant gyrchu cymorth gan weithwyr ieuenctid, a mwynhau gweithgareddau buddiol gan gynnwys chwaraeon a diwylliant.
Mae GIG Lloegr a Gwelliant yn cyflwyno fframwaith ar gyfer gofal integredig (SECURE STAIRS) ar draws sefydliadau diogel ar gyfer plant a phobl ifanc yn Lloegr. Mae plant a gedwir mewn lleoliadau diogel ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Maent yn fwy tebygol nag eraill o fod ag anghenion gofal iechyd ychwanegol, megis anhwylderau niwroddatblygiadol, dibyniaeth ar sylweddau ac anhwylderau iechyd meddwl. Gan weithio ar y cyd gyda chyd-gomisiynwyr a phartneriaid ar draws y system gyfan (addysg, gwasanaethau plant, iechyd y cyhoedd, y sector gwirfoddol a chyfiawnder ieuenctid) byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau integredig, sy’n wybodus am drawma, yn cael eu darparu i’r rhai sydd eu hangen.
Gwyddom hefyd fod gan blant anghenion gwahanol i oedolion o ganlyniad i’w hoedran, ac mae’n briodol bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd y mae’r system gyfiawnder yn trin plant sydd wedi, neu a allai fod wedi troseddu. Rhaid i ni gydnabod anghenion unigryw plant o’u cymharu ag oedolion a pha mor agored i niwed yw’r rhai sy’n ymwneud â throseddau cyffuriau. Er mwyn bod yn effeithiol, rhaid i ni fynd i’r afael â’r rhesymau sylfaenol dros droseddu gan blentyn neu berson ifanc a defnyddio dull hyblyg a chymesur o fynd i’r afael â’r ymddygiad troseddol. Yn y pen draw, dyma sut yr ydym yn gweld troseddwyr ifanc yn mynd ymlaen i fyw bywydau sy’n rhydd rhag troseddu. Cyflawnir hyn drwy daro’rcydbwysedd cywir rhwng atal, cymorth a sancsiynau, mynd i’r afael ag achosion ymddygiad troseddol, ymyrryd yn gynnar i ddarparu cymorth, a dargyfeirio plant i ffwrdd o’r system cyfiawnder ffurfiol lle bo modd.
Pennod 5 – Sefydlu ar gyfer llwyddiant: partneriaethau ac atebolrwydd
Llywodraeth leol a phartneriaid cyflawni yw sylfaen y strategaeth hon. Nhw sydd yn y sefyllfa orau i sefydlu blaenoriaethau a dyfeisio ffyrdd o weithio i fynd i’r afael â heriau yn gyflym ac yn effeithiol. Ein gweledigaeth yw i’r strategaeth hon ddarparu’r amcanion strategol a’r buddsoddiad sydd eu hangen i wneud yn siŵr bod partneriaid lleol ledled Lloegr yn cael eu grymuso ac yn cael yr adnoddau i gyflawni canlyniadau. Bydd safonau a chanlyniadau cenedlaethol newydd yn darparu strwythur a throsolwg a fydd yn sicrhau gwasanaethau o ansawdd uchel yn gyson, a bod cyllid yn cael ei flaenoriaethu o amgylch yr ymrwymiadau yn y strategaeth hon.
Wrth wraidd ein hamcanion bydd partneriaethau amlasiantaethol effeithiol sy’n dod ag egwyddorion triniaeth ac adfer cynhwysfawr yn fyw ochr yn ochr â gorfodi llym ac effeithiol ac atal uchelgeisiol i leihau’r defnydd o gyffuriau yn y tymor hir.
Beth yw’r broblem?
Mae ysgogwyr y defnydd o gyffuriau a niwed sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn gymhleth ac yn torri ar draws cyfrifoldebau ystod o wahanol adrannau’r llywodraeth a sefydliadau eraill.Mae’r map systemau isod yn amlygu’r ystod o gymorth y gallai fod ei angen ar unigolyn neu deulu, a llwybrau posibl i’r mathau o gymorth y gallai fod eu hangen arnynt. Mae angen cydlynu hyn i fod yn effeithiol ond yn rhy aml nid yw hyn yn digwydd, neu nid yw’r gwasanaethau yn eu lle i ddarparu taith tuag at adfer. Mae hyn yn tanseilio ymdrechion i frwydro yn erbyn cyffuriau a chodi gwastad y wlad.
Sut fydd y strategaeth hon yn newid pethau er gwell?
Rydym yn gwneud tri phrif beth i gefnogi cymunedau i ffynnu a llwyddo:
-
darparu buddsoddiad â ffocws, wedi’i dargedu at y lleoedd sydd â’r angen mwyaf – bydd hyn yn golygu y bydd ardaloedd â lefelau uchel o ddefnyddio cyffuriau, marwolaethau a throseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer cyllid ychwanegol wedi’i alinio ar draws cymorth triniaeth, cyfiawnder, cyflogaeth a llety
-
gwella gweithio mewn partneriaeth – byddwn yn nodi sut olwg sydd ar weithio’n dda mewn partneriaeth a phwy ddylai gymryd rhan, gan ddefnyddio gwersi o Brosiect ADDER a mentrau partneriaeth lleol eraill megis Newid Dyfodol i ddatblygu arfer gorau a rhwydwaith dysgu
-
datblygu system o ganlyniadau, fframweithiau ac atebolrwydd cenedlaethol a lleol a fydd yn ysgogi set gyson a chlir o ddisgwyliadau ar draws y degawd nesaf, a sicrhau bod y llywodraeth yn cael ei mesur yn ôl ei haddewidion
Map systemau ar yr ystod o gymorth y gallai fod angen i unigolyn â chaethiwed ei chyrchu
Buddsoddiad â ffocws, wedi’i dargedu at yr ardaloedd sydd â’r angen mwyaf
Bydd y cyllid a gyhoeddir yn y strategaeth hon yn darparu cymorth ychwanegol wedi’i glustnodi ar draws gwasanaethau triniaeth ac adfer, cymorth tai, cymorth cyflogaeth, a chymorth i droseddwyr. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno ledled y wlad yn ystod cyfnod y Senedd hon, gan ddechrau gyda’r ardaloedd sydd â’r angen mwyaf, wedi’i gefnogi gan orfodi â ffocws a digyfaddawd ar gadwyni cyflenwi ac atal y defnydd o gyffuriau.[footnote 54]
Mae ein menter flaenllaw bresennol, Prosiect ADDER, wedi mabwysiadu dull partneriaeth leol o fynd i’r afael â’r defnydd o gyffuriau yn rhai o’r awdurdodau lleol sydd wedi’u taro galetaf ar draws Cymru a Lloegr. Bydd yr egwyddorion a’r dysgu hyn bellach yn cael eu cymhwyso i ystod ehangach o weithgareddau mewn mwy o leoedd. Yn ogystal, mae cyllid ar gyfer Prosiect ADDER wedi’i ymrwymo ar gyfer y tair blynedd nesaf, i’n galluogi i wneud y gorau o’r cynnydd o ran brwydro yn erbyn cyffuriau a bwydo dysgu i’r cyflwyniad cenedlaethol.
Astudiaeth achos: Dysgu o Brosiect ADDER
Ym Mhrosiect ADDER, fe wnaeth partneriaid ddylunio cynlluniau cyflawni wedi’u llunio o amgylch anghenion ac amgylchiadau lleol, gan ystyried barn y rhai â phrofiad bywyd ar bob cam. Mae’r heddlu a’r awdurdod lleol yn atebol i’r canlyniadau ADDER a rennir, sy’n cynnwys lleihau’r defnydd o gyffuriau a marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau, yn ogystal â lleihau aildroseddu trwy gefnogi unigolion yn well i fyw bywydau boddhaus i ffwrdd o fywyd o droseddu. Mae hyn wedi ysgogi pob sefydliad i chwarae ei ran er mwyn cael cymorth gan eraill i gyflawni eu hamcanion unigol eu hunain.
Er bod yr awdurdod lleol a’r heddlu wrth galon pob prosiect, mae eu hymagwedd yn seiliedig ar gydweithio agosach ar draws ystod eang o sefydliadau gan gynnwys y gwasanaeth prawf, tai, cyflogaeth, gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau cymdeithasol. Mae hyn yn galluogi’r heddlu i dorri’r cyflenwad wrth weithio ar y cyd gyda darparwyr triniaeth i ddargyfeirio pobl i ffwrdd o droseddu ac i ymyriadau gwell o ran triniaeth ac adfer, gan gynnwys gwasanaethau tai a chyflogaeth, gan gael mwy o effaith gyfunol ar lefelau’r galw.
Mae Rhwydwaith Partneriaeth Prosiect ADDER yn ein galluogi i rannu dysgu ac arfer da ar draws y prosiectau gyda’r sector ehangach a’r gweinyddiaethau datganoledig ledled y DU. Byddwn yn defnyddio’r dysgu hwn, ochr yn ochr â mentrau eraill, i gynnwys fframweithiau yn ein strategaeth hirdymor sydd yn cefnogi ac yn galluogi arweinwyr lleol i weithio mewn partneriaeth, a gwneud yn siŵr bod arian yn cael ei wario’n effeithiol ar draws gwasanaethau lleol. Bydd hyn yn ysgogi aliniad cliriach rhwng disgwyliadau canlyniadau cenedlaethol a chanlyniadau cyflawni lleol.
Gwella gweithio mewn partneriaeth
Arweinyddiaeth amlasiantaethol
Mae derbyniad a chefnogaeth uwch arweinwyr yn hanfodol er mwyn rhoi adnoddau a blaenoriaeth briodol i frwydro yn erbyn cyffuriau o fewn ardal leol. Mae hyn yn golygu cefnogi ymarferwyr rheng flaen gan gynnwys yr heddlu neu swyddogion prawf, meddygon, nyrsys, gweithwyr cyffuriau, athrawon, gweithwyr cymdeithasol neu weithwyr ieuenctid, i gydweithio’n effeithiol.
Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i ardaloedd lleol yn Lloegr gael partneriaeth gref sy’n dod â’r holl sefydliadau perthnasol ac unigolion allweddol ynghyd, ac i ddarparu un pwynt cyswllt ar gyfer llywodraeth ganolog. Gallai’r bartneriaeth hon gynnwys un awdurdod lleol neu sawl awdurdod lleol, ond rhaid iddi fod â throsolwg rhagweithiol o weithrediad pob un o’r tair blaenoriaeth strategol yn y strategaeth a gwneud yn siŵr bod sefydliadau lleol yn cydweithio ac yn cytuno ar y ddarpariaeth ar y cyd a lle y gallant wella.Ar y lleiaf, byddem yn disgwyl i’r holl sefydliadau dilynol gael eu cynrychioli mewn partneriaeth strategol yn Lloegr, gyda chadeirydd enwebedig fel y perchennog cyfrifol:
- aelodau etholedig
- swyddogion awdurdodau lleol (gan gynnwys arbenigedd mewn meysydd perthnasol i gynnwys camddefnyddio sylweddau, tai, cyflogaeth, addysg, gofal cymdeithasol a diogelu)
- arweinwyr strategol GIG lleol (e.e. grwpiau comisiynu clinigol, rhwydweithiau gofal sylfaenol a Phartneriaethau Gofal Integredig)
- GIG Lloegr a Gwella
- rhanbarth y Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau
- darparwyr triniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau
- y sectorau gwirfoddol, cymunedol a menter gymdeithasol
- pobl yr effeithir arnynt gan niwed sy’n gysylltiedig â chyffuriau
- cynrychiolwyr gofal sylfaenol
- darparwyr triniaeth iechyd meddwl
- ysgolion lleol a chynrychiolwyr addysg bellach
- Canolfan Byd Gwaith
- cynrychiolwyr yr heddlu
- Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
- Gwasanaeth Prawf
- y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid
- carchardai a sefydliadau troseddwyr ifanc
Deall y sefyllfa leol a diffinio blaenoriaethau
Dim ond trwy rannu data a chynnal dadansoddiad ar y cyd y gall ardaloedd lleol ddeall yn iawn beth yw eu blaenoriaethau, a sut i fynd i’r afael â nhw gyda’i gilydd. Un o dasgau allweddol y bartneriaeth leol fydd cynnal asesiad o anghenion ar y cyd trwy adolygu data a thystiolaeth leol ynghylch cyffuriau a defnyddio hyn i gytuno ar strategaeth gyffuriau a chynllun gweithredu lleol, gan gynnwys dulliau datblygu cofnodi a rhannu data. Byddwn yn darparu canllawiau a thempledi i helpu partneriaid i gynllunio gweithgareddau cydgysylltiedig ac effeithlon i leihau pob math o niwed sy’n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau. Dylai’r bartneriaeth gael ei llywio gan unrhyw dystiolaeth bresennol a goladwyd eisoes gan yr ardal leol ar berfformiad ac aeddfedrwydd y system.
Byddwn yn ymgysylltu ar fanylion y strwythurau a’r prosesau i’w cynnwys yn y canllawiau yn gynnar yn 2022, i’w cytuno ac idynt fod yn weithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23. Bydd hyn yn digwydd ochr yn ochr â datblygu’r safonau ansawdd newydd ar gyfer comisiynu gwasanaethau triniaeth ac adfer ar gyfer camddefnyddio sylweddau gan OHID a grybwyllwyd ym mhennod 4. Bydd hyn yn sicrhau bod camau gweithredu’n cael eu hintegreiddio rhwng pob un o’n tair blaenoriaeth strategol.
Gweithio ar draws strwythurau a phartneriaethau presennol
Mae partneriaethau cryf presennol mewn llawer o ardaloedd lleol. Gallai arweinyddiaeth amlasiantaethol o frwydro yn erbyn y defnydd o gyffuriau weithredu trwy strwythur presennol (megis Partneriaeth Diogelwch Cymunedol, Bwrdd Iechyd a Lles, neu Bartneriaeth Gofal Integredig) lle mae’r aelodaeth ac egwyddorion gweithio cydgysylltiedig sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn eu lle.
Mae atal defnyddio sylweddau yn elfen allweddol o uchelgais y llywodraeth i leihau’r galw am gyffuriau. Gwyddom fod y ffactorau sy’n rhoi pobl ifanc mewn perygl o ddefnyddio sylweddau yn gymhleth ac yn aml yn rhyng-gysylltiedig. Yn 2017, cyflwynwyd diwygiadau sylweddol, gan ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, grwpiau comisiynu clinigol a phrif swyddogion yr heddlu ffurfio partneriaethau diogelu amlasiantaethol. Sefydlwyd trefniadau diogelu amlasiantaethol yn llawn yn 2019, ac rydym yn parhau i weithio ar draws y llywodraeth a chyda phartneriaid lleol i sicrhau eu bod mor effeithiol â phosibl. Gyda goruchwyliaeth strategol gan arweinwyr iechyd, plismona ac awdurdodau lleol, gall trefniadau diogelu amlasiantaethol gydgysylltu’r gwaith o nodi, amddiffyn ac ymyrryd ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o niwed mewn ffordd sy’n ymateb orau i amgylchiadau lleol.Mae ein canllawiau drafft ar gyfer Dyletswydd Trais Difrifol newydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r heddlu, y gwasanaeth prawf, a’r GIG gydweithio ag awdurdodau lleol i atal a lleihau trais difrifol.
Mae ein cynigion ar gyfer gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â niweidiau cyffuriau, gyda hyblygrwydd lleol ochr yn ochr â chanllawiau a chymorth canolog, wedi’u modelu ar ddysgu o hon a mentrau eraill gan gynnwys Newid Dyfodol a Phrosiect ADDER.
Datblygu system o ganlyniadau, fframweithiau ac atebolrwydd cenedlaethol a lleol
Fframwaith canlyniadau cenedlaethol
Er mwyn darparu ffocws clir a chyson ar y canlyniadau hirdymor y mae’r strategaeth hon yn ymrwymo iddynt, ac er mwyn olrhain a mesur cynnydd yn effeithiol, rydym yn datblygu fframwaith canlyniadau cenedlaethol newydd. Bydd hyn yn mesur cynnydd yn ôl ein nodau ledled Lloegr, gan alluogi dinasyddion i asesu ein perfformiad.
Mae’r fframwaith canlyniadau cenedlaethol drafft wedi’i nodi isod ac mae’n nodi ein canlyniadau hirdymor a chanolradd ac yn cynnig ystod o fetrigau a fydd yn ein galluogi i asesu cynnydd tuag at y rhain. Rydym wedi adeiladu’r rhain o amgylch data sydd ar gael yn rhwydd.Rydym yn deall cyfyngiadau’r dull hwn, a byddwn yn adolygu ac yn cryfhau’r mecanweithiau cyfrif hyn yn y misoedd nesaf.Ar ôl iddynt gael eu cwblhau, byddwn yn defnyddio’r prif fetrigau hyn fel llinyn parhaus trwy gydol oes y strategaeth.
Byddwn yn ymgysylltu ac yn gweithio ag arbenigwyr a rhanddeiliaid, gan gynnwys rhannu arbenigedd ac arfer gorau gyda chydweithwyr ar draws y gweinyddiaethau datganoledig, i nodi mesurau ategol pellach i fonitro:
- cynnydd o gyflawni i ganlyniadau, gan gynnwys mesurau i ddisgrifio’r effaith rydym yn ei chael ar ddiogelu’r cyhoedd rhag grwpiau troseddau trefniadol
- iechyd y system gyfan a chwilio am ganlyniadau ac ymddygiadau anfwriadol, gan gynnwys effeithiau gwahaniaethol ar draws grwpiau gwarchodedig
Byddwn yn edrych ar fesurau y gallwn eu hasesu eisoes, yn ogystal â:
- yr hyn y gellir ei wella a’i ddatblygu trwy wella ansawdd data, paru data, a chasglu data newydd
- datblygu mesurau newydd sy’n canolbwyntio’n benodol ar ddefnyddio cyffuriau, ochr yn ochr â mesurau trawsbynciol
- gwella a datblygu arolygon i fesur canlyniadau ansoddol, megis agweddau cymdeithasol ar gyffuriau neu ba mor hawdd yw cael gafael ar gyffuriau
Ym mis Ebrill 2022 byddwn yn cyhoeddi’r mesurau hyn a’r cynnydd a wnaed yn eu hôl mewn adroddiadau blynyddol, gan ddarparu diweddariadau i fetrigau ac adrodd yn ôl ein hymrwymiad i ehangu a gwella’r sylfaen dystiolaeth ar yr hyn sy’n gweithio i frwydro yn erbyn y defnydd o gyffuriau.
Fel rhan o’n hymagwedd at ddatblygu data newydd, byddwn yn gweithio gyda’r Rhaglen Canlyniadau Gwell trwy Ddata Cysylltiedig (BOLD) trawsadrannol i wella argaeledd gwybodaeth gyda’r nod o wella gwasanaethau a chanlyniadau i’r oedolion mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Bydd y rhaglen yn darparu ymyriadau trawslywodraethol mwy cydgysylltiedig â thystiolaeth well i gefnogi pobl ar bwyntiau cyffwrdd penodol wrth iddynt ryngweithio â gwasanaethau’r llywodraeth, gan ddefnyddio data a thystiolaeth ddienw amserol cysylltiedig.
Fel Gweinidog Brwydro yn erbyn Cyffuriau, mae gan Kit Malthouse AS atebolrwydd trosfwaol am gyflawni’r uchelgeisiau a’r canlyniadau a bydd yn cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Senedd i fonitro cynnydd. Mae pob Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yn atebol am gyflawni’r canlyniadau a’r ymrwymiadau o fewn cylch gwaith eu Hadran, gyda ffocws di-baid ar ganlyniadau gwell i ddinasyddion a chymdogaethau. Bydd adrannau’r Llywodraeth yn atebol am gynnydd yn ôl y canlyniadau a’r metrigau hyn i’r Uned Atal Cyffuriau ar y Cyd, a thrwy atebolrwydd presennol adrannol a llywodraeth gyfan. Byddwn hefyd yn parhau i werthuso ac adrodd ar raglenni o fewn y strategaeth hon, ac ar lwyddiant a heriau dull y llywodraeth gyfan, i wneud yn siŵr bod y rhain yn parhau i ddarparu gwerth am arian, ac i nodi a lledaenu arfer da ac olrhain eu cynnydd yn ôl y canlyniadau cenedlaethol.
Fframwaith drafft am ganlyniadau cenedlaethol lefel uchel
Canlyniadau strategol tymor hir a phrif fetrigau
Lleihau’r defnydd cyffredinol o gyffuriau
Wedi’i fesur yn ôl:
- Defnydd cyffuriau ar gyfer pobl 16-59 oed, ffynonellau Arolwg Troseddau SYG Cymru a Lloegr
- Defnydd cyffuriau ar gyfer pobl 16-24 oed, ffynonellau Arolwg Troseddau SYG Cymru a Lloegr
- Defnydd cyffuriau ar gyfer pobl 11-15 oed, ffynonellau Ystadegau Digidol GIG ar Gamddefnyddio Cyffuriau Cyffuriau
Lleihau troseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau
Wedi’i fesur yn ôl:
- Cyfraddau aildroseddu sy’n gysylltiedig â chyffuriau, ffynonellau Data Aildroseddu Profedig MOJ
- Troseddau yn y gymdogaeth, ffynonellau Arolwg Troseddau SYG Cymru a Lloegr
- Nifer y lladdiadau sy’n gysylltiedig â chyffuriau, ffynonellau Lladdiadau yng Nghymru a Lloegr SYG
Lleihau marwolaethau a niwed sy’n gysylltiedig â chyffuriau
Wedi’i fesur yn ôl:
- Marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau, ffynonellau Marwolaethau yn ymwneud â gwenwyno cyffuriau Cymru a Lloegr SYG
- Nifer y derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau (diagnosis sylfaenol), ffynonellau Ystadegau Digidol GIG ar Gamddefnyddio
Canlyniadau canolradd
Lleihau lefelau’r cyflenwad cyffuriau
Wedi’i fesur yn ôl:
- Cyfaint yr atafaeliadau cyffuriau Dosbarth A, ffynonellau Swyddfa Gartref
- Lefelau purdeb cyffuriau - heroin/cocên, ffynonellau NCA
- Nifer yr amhariadau cymedrol/mawr, ffynonellau NCA
Gwella canlyniadau adfer
Wrth ymgynghori â rhanddeiliaid, byddwn yn datblygu set o fesurau i asesu canlyniadau adfer ehangach [yn y gymuned a charchardai] - mae hyn yn debygol o gynnwys mesurau yn ymwneud â chyflawni adferiad hirdymor, symud i lety sefydlog, gweithgarwch ystyrlon ac iechyd meddwl.
Cynyddu ymgysylltu â thriniaeth
Wedi’i fesur yn ôl:
- Mesur newydd ar gyfer ansawdd a chanlyniadau triniaeth (Ebrill 2022), ffynonellau OHID (wrthi’n cael ei ddatblygu)
- Niferoedd mewn triniaeth (opiadau/heb fod yn opiadau), ffynonellau Triniaeth ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau i oedolion OHID
Mae’r metrigau cenedlaethol hyn yn cael eu casglu ar hyn o bryd ac maent ar gael i ddarparu data tueddiadau i fesur canlyniadau strategol y strategaeth. Mae gan bob un gyfyngiadau a risgiau, ond bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i ddatblygu set well o fetrigau ategol, a datblygu’r ffynonellau data ymhellach.
Fframweithiau canlyniadau lleol
Er mwyn i hyn lwyddo, mae angen alinio rhwng disgwyliadau canlyniadau cenedlaethol a chyflawni ar lefel leol. Felly byddwn yn cyflwyno fframwaith canlyniadau lleol i gyd-fynd â’r fframwaith canlyniadau cenedlaethol. Fel y fframwaith cenedlaethol cyfatebol, bydd y fframwaith canlyniadau lleol yn cwmpasu pob un o’r tair blaenoriaeth strategol.
Yn yr un modd â’r strwythurau partneriaeth lleol arfaethedig, byddwn yn ymgysylltu ar fetrigau posibl yn gynnar yn 2022, er mwyn sicrhau y cytunir arnynt a’u bod yn weithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23. Fel yr argymhellwyd gan y Fonesig Carol Black, bydd y fframwaith canlyniadau lleol yn galluogi cymhariaeth ag ardaloedd tebyg eraill ac, mewn rhai achosion, efallai y bydd cyllid yn dibynnu ar ddangos cynnydd ar y canlyniadau hyn. Bydd y safonau ansawdd comisiynu cenedlaethol newydd yn cefnogi ardaloedd lleol i alinio gwasanaethau â’r canlyniadau gofynnol.
Ni fydd mesur ynddo’i hun yn lleihau’r niwed sy’n gysylltiedig â chyffuriau anghyfreithlon heb weithredu. Felly byddwn yn disgwyl i ardaloedd lleol yn Lloegr gynhyrchu eu hadroddiad blynyddol eu hunain, yn dadansoddi perfformiad lleol ac yn nodi’r camau nesaf priodol.Rhaid i sefydliadau nodi ar y cyd sut y byddant yn mynd i’r afael â’u blaenoriaethau cytunedig, dyrannu eu hadnoddau priodol i gyflawni’r amcanion ar y cyd a nodi lle mae angen mwy o gymorth arnynt neu lle gall y llywodraeth alluogi camau gweithredu’n well neu ddileu rhwystrau.
Bydd cymorth priodol yn cael ei gynnig i ardaloedd lleol yn seiliedig ar eu perfformiad a’r camau a nodir yn eu hadroddiadau. Lle mae angen gwelliant sylweddol mewn strwythurau partneriaeth neu ddarpariaeth gwasanaethau, byddwn yn cefnogi ardaloedd lleol i ddadansoddi eu hangen lleol, tynnu ar arfer gorau o fannau eraill, a datblygu a monitro cynlluniau gwella.
Pennod 6 – Taith 10 mlynedd
Mae’r strategaeth hon yn dangos uchelgais clir i fynd i’r afael â’r niwed sylweddol a brofir ar hyn o bryd ledled ein gwlad o ganlyniad i gyflenwi a defnyddio cyffuriau anghyfreithlon. Mae’r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad ac ymrwymiad clir gan y llywodraeth gyfan yn sylfeini cadarn ar gyfer llwyddo.
Ni ellir barnu ymrwymiad y llywodraeth trwy eiriau yn unig, ond trwy weithredu i sicrhau newid gwirioneddol i ddinasyddion a chymdogaethau. Mae fframweithiau canlyniadau ac atebolrwydd yn hanfodol ar gyfer hyn. Rhaid i ni hefyd ymrwymo i dryloywder, bod yn agored a gwelliant parhaus.
Mae llawer o feysydd nad yw’r strategaeth hon wedi’u cwmpasu’n fanwl. Mae ehangder llawn blaenoriaethau’r llywodraeth ar frwydro yn erbyn cyffuriau yn cwmpasu portffolio eang.Dim ond y fersiwn cyntaf o’r hyn a fydd yn ddogfen fyw yw’r cyhoeddiad hwn, a byddwn yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol, sy’n caniatáu i ni symud ein ffordd o feddwl ymlaen flwyddyn ar ôl blwyddyn. Byddwn yn defnyddio’r adroddiadau, a fydd yn cael eu gosod gerbron y Senedd, i olrhain cynnydd yn ôl y fframwaith canlyniadau cenedlaethol. Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr, gan gynnwys y Cyngor Cynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau ac arbenigwyr trwy brofiad, i asesu bygythiadau sy’n dod i’r amlwg, adolygu’r dystiolaeth ddiweddaraf, monitro tueddiadau a nodi meysydd ffocws newydd.
Bydd goruchwyliaeth ganolog yn gyfrifoldeb yr Uned Atal Cyffuriau ar y Cyd newydd, dan arweiniad y Gweinidog Brwydro yn erbyn Cyffuriau trawslywodraethol, Kit Malthouse AS.Crëwyd yr Uned ym mis Gorffennaf 2021, a hi sy’n gyfrifol am fonitro gweithrediad a llwyddiant y strategaeth a bydd yn arwain ar adrodd blynyddol.
Cefnogir ein huchelgais gan ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn ymchwilsy’n ymwneud â chyflenwi, atal, trin ac adfer. Mae sawl elfen o’r strategaeth hon yn cynnwys ymrwymiadau i arloesi a gwella drwy ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth, treialu syniadau newydd, gwerthuso mentrau addawol a gwreiddio ymchwil i’r broses o gyflenwi gwasanaethau. Byddwn yn hyrwyddo mwy o arloesi mewn ymchwil trwy gynnig cymhellion neu wobrau i gwmnïau neu sefydliadau y mae eu datblygiadau wedi bod yn fuddiol yn ymarferol ym maes caethiwed. Byddwn hefyd yn cyflwyno cronfa arloesi, a arweinir gan Brif Gynghorwyr Gwyddonol yn adrannau Llywodraeth y DU. Bydd yr ymrwymiadau hyn yn ein galluogi i brofi a dysgu yn ôl ein nod i leihau’r defnydd cyffredinol o gyffuriau – gan ymdrechu i godi gwastad cymdogaethau ac achub bywydau.
Mae’r strategaeth hon yn ddechrau taith 10 mlynedd. Dros y degawd nesaf, rhaid i’r llywodraeth a’i phartneriaid barhau i wrando, dysgu ac addasu wrth i’r cyd-destun o’n cwmpas newid. Yn ystod y tair blynedd nesaf, ac yn y degawd i ddod, byddwn yn lleihau troseddau, marwolaethau, niweidiau sy’n gysylltiedig â chyffuriau a’r defnydd cyffredinol o gyffuriau, ac yn codi’r gwastad dros y wlad.
-
Darperir rhagor o fanylion am gwmpas daearyddol y strategaeth ym mhennod 1 ↩
-
Adolygiad o gyffuriau rhan dau: atal, triniaeth ac adfer - GOV.UK (www.gov.uk) ↩
-
Mae Prosiect ADDER (Caethiwed, Dargyfeirio, Aflonyddu, Gorfodi ac Adfer) yn ddull cynhwysfawr o fynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau a throseddu, gan ddod ag asiantaethau lleol, yr heddlu, cynghorau a gwasanaethau iechyd ynghyd mewn rhai o’r ardaloedd yr effeithir arnynt fwyaf gan gamddefnyddio cyffuriau. Mae’r rhaglen hon yn mynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau trwy gamau cydgysylltiedig sy’n cyfuno plismona wedi ei dargedu a chaletach gyda gwell gwasanaethau triniaeth ac adfer. ↩
-
Mae Prosiect ADDER (Caethiwed, Dargyfeirio, Aflonyddu, Gorfodi ac Adfer) yn ddull cynhwysfawr o fynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau a throseddu, gan ddod ag asiantaethau lleol, yr heddlu, cynghorau a gwasanaethau iechyd ynghyd mewn rhai o’r ardaloedd yr effeithir arnynt fwyaf gan gamddefnyddio cyffuriau. Mae’r rhaglen hon yn mynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau trwy gamau cydgysylltiedig sy’n cyfuno plismona wedi’i dargedu a mwy llym â gwell gwasanaethau triniaeth ac adfer. ↩
-
Adolygiad o gyffuriau rhan un – GOV.UK (www.gov.uk), Adolygiad o gyffuriau rhan dau – GOV.UK (www.gov.uk) ↩
-
Asesiad Strategol Cenedlaethol o Droseddau Difrifol a Threfnedig 2020 (Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol) ↩
-
Atgyfeiriadau NRM 2020 o bobl dan 17 oed, newid ar ffigurau 2019. Fe fu gwelliannau o ran ymwybyddiaeth a chofnodi sydd wedi cyfrannu at y cynnydd hwn yn ogystal â mynychder cynyddol. ↩
-
Camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru a Lloegr: y flwyddyn yn dod i ben Mawrth 2020 (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Yn cynnwys pob math o gyffur, gan gynnwys glud, aerosolau a thoddyddion. Canabis yw’r mwyaf cyffredin. Ysmygu, yfed a defnyddio cyffuriau ymhlith pobl ifanc yn Lloegr 2018 - NHS Digital. ↩
-
Marwolaethau yn ymwneud â gwenwyno oherwydd cyffuriau yng Nghymru a Lloegr: cofrestriadau 2019 (Swyddfa Ystadegau Gwladol) ↩
-
‘Hard Edges: mapping severe and multiple disadvantage’ (Sefydliad Lankelly Chase, 2015) ↩
-
Adolygiad o gyffuriau: pecyn tystiolaeth - GOV.UK (www.gov.uk) ↩
-
Adolygiad o gyffuriau: pecyn tystiolaeth - GOV.UK (www.gov.uk) ↩
-
Adolygiad o gyffuriau: pecyn tystiolaeth - GOV.UK (www.gov.uk) ↩
-
Adroddiad y Comisiwn ar Gwahaniaethau Hil ac Ethnig - GOV.UK (www.gov.uk) ↩
-
Yn gyfrifol am ddeddfwriaeth cyffuriau’r DU, ffiniau’r DU a throseddau trefniedig, plismona a lleihau troseddau yng Nghymru a Lloegr ↩
-
Cyfrifol am wasanaethau triniaeth cyffuriau yn Lloegr, yn ogystal â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ehangach. Mae hyn yn cynnwys triniaeth mewn carchardai ↩
-
Cyfrifol am lysoedd, carchardai a’r gwasanaeth prawf, ac am leihau aildroseddu yng Nghymru a Lloegr ↩
-
Cyfrifol am bolisïau ar gymorth cyflogaeth a nawdd cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr ac yn rhannu’r cyfrifoldeb hwnnw yn yr Alban â Llywodraeth yr Alban. Yng Ngogledd Iwerddon, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am y meysydd hyn. Mae’r Adran Cymunedau yng Ngogledd Iwerddon a’r Adran Gwaith a Phensiynau ym Mhrydain Fawr yn ceisio cynnal systemau nawdd cymdeithasol tebyg. ↩
-
Cyfrifol am lefelu i fyny, awdurdodau lleol, tai a chysgu allan yn Lloegr ↩
-
Cyfrifol am les a diogelu holl blant Lloegr, iechyd meddwl plant a lles mewn addysg ↩
-
Mae’r fframwaith cyfreithiol sy’n ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau, gan gynnwys Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 a Deddf Sylweddau Seicoweithredol 2016, wedi’i gadw i Lywodraeth y DU. Ymhellach, mae’r NCA a Llu’r Ffiniau yn cynnal gweithgarwch i leihau’r cyflenwad cyffuriau ledled y DU. Mae meysydd polisi eraill a gwmpesir yn y strategaeth megis gofal iechyd, addysg, tai a gofal cymdeithasol yn cwmpasu Lloegr yn unig. Mae’r meysydd sy’n ymwneud â gwaith yr heddlu a’r system cyfiawnder troseddol yn berthnasol i Gymru a Lloegr. MaeRhaglen Lleoliad a Chymorth Unigol DWPyn cwmpasu Lloegr ac mae’r rhaglen mentora gan gymheiriaid yn cwmpasu Cymru, Lloegr a’r Alban. ↩
-
Cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau: 2019 i 2022, LLYW.CYMRU ↩
-
Atal Niwed, Grymuso Adferiad - Strategaeth Defnyddio Sylweddau, Yr Adran Iechyd (health-ni.gov.uk) ↩
-
Dyblodd cynhyrchiant opiwm a chocên rhwng 1998 a 2017.Rhwng 2013 a 2018 fe fu cynnydd o 36% i 76% mewn purdeb crac cocên a chynnydd o 29% i 46% mewn purdeb heroin. Adolygiad o gyffuriau: Rhan Un - GOV.UK (www.gov.uk) ↩
-
Mesur costau troseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn Deall troseddau trefnedig: amcangyfrif y raddfa a’r costau cymdeithasol ac economaidd (publishing.service.gov.uk) ↩
-
Dynladdiad yng Nghymru a Lloegr - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) ↩
-
Asesiad Strategol Llinellau Cyffuriau NCCLCC 20/21 Credir bod y gostyngiad mewn llinellau gweithredol posibl yn gysylltiedig â newid mewn riportio a gwell gweithgarwch gweithredol. ↩
-
Mae’r ffigur wedi’i seilio ar gau llinellau dros y tair blynedd nesaf ac mae’n rhagdybio buddsoddiad ar y lefelau a nodir yn y ddogfen hon. ↩
-
Mae’r NCA yn asesu effaith ymyriadau yn ôl cyflenwad cyffuriau o ran tarfu ar grwpiau troseddau trefnedig. Dros y tair blynedd diwethaf, mae gorfodi’r gyfraith wedi cyflawni oddeutu 5,300 o amhariadau mawr a chanolig yn erbyn OCGs cyffuriau, lle mae amhariad ‘mawr’ yn adlewyrchu effaith sylweddol neu hirdymor ar allu OCGs i weithredu (megis datgymalu grŵp troseddau trefnedig trwy euogfarnu unigolion allweddol neu gyfres o atafaeliadau mawr), ac mae ‘cymedrol’ yn cynrychioli effaith amlwg neu dymor canolig (megis un atafaeliad mawr). Gyda’r buddsoddiad hwn byddwn yn cyflawni 6,400 o amhariadau mawr a chymedrol ar OCGs cyffuriau dros y tair blynedd nesaf – cynnydd o 20%. Mae hyn yn ymosodiad sylweddol a pharhaus ar allu troseddwyr i ddod â niwed cysylltiedig â chyffuriau i’n cymunedau. ↩
-
Astudiaeth achos wedi’i hanonymeiddio i ddiogelu hunaniaeth y rhai dan sylw ↩
-
Beth yw Dyfodol Polisi Cyffuriau’r DU ar gyfer Afghanistan?, Sefydliad Brenhinol y Gwasanaethau Unedig (rusi.org) ↩
-
Atafaeliadau cyffuriau, yng Nghymru a Lloegr, y flwyddyn ariannol yn dod i ben 2020 - GOV.UK ↩
-
Cynllun troseddu economaidd 2019 i 2022 - GOV.UK (www.gov.uk) ↩
-
Cofnodion Cenedlaethol yr Alban: Marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau yn yr Alban yn 2020 ↩
-
Marwolaethau yn ymwneud â gwenwyno gan gyffuriau yng Nghymru a Lloegr: cofrestriadau 2020 (Swyddfa Ystadegau Gwladol) ↩
-
Cyflwynir rhaniad y cyllid yn y bennod hon. Mae’r swm hwn yn cynnwys £8m o gyllid ar gyfer rhaglen mentora gan gymheiriaid – a fydd yn cwmpasu Cymru, Lloegr a’r Alban – a ddisgrifir yn fanylach yn ddiweddarach yn y bennod hon. ↩
-
Mae Newid Dyfodol yn gweithio gyda 15 o bartneriaethau traws-sector lleol i brofi dulliau arloesol o ddarparu cymorth mwy effeithiol a chydgysylltiedig. ↩
-
Mae 7,500 o leoedd wedi’u cynnwys yn y prif ffigwr cyfanswm o 54,500. ↩
-
Black, C.M., 2016. Adolygiad Annibynnol o Effaith Caethiwed i Gyffuriau neu Alcohol a Gordewdra ar Ganlyniadau Cyflogaeth. Yr Adran Gwaith a Phensiynau. Henkel D. Diweithdra a defnyddio sylweddau: adolygiad o’r llenyddiaeth (1990-2010). Adolygiadau cyfredol o gam-drin cyffuriau. 2011 Maw 1;4(1):4-27. ↩
-
Mae DWP yn gyfrifol am bolisïau ar gymorth cyflogaeth a nawdd cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr ac mae’n rhannu’r cyfrifoldeb hwn yn yr Alban â Llywodraeth yr Alban ↩
-
PHE/MOJ Astudiaeth 2017 ↩
-
Mae dull tebyg yn Hawaii wedi arwain at ganlyniadau llwyddiannus. Rheoli Profianwyr Sy’n Ymwneud â Chyffuriau gyda Sancsiynau Cyflym a Sicr: Gwerthuso HOPE Hawaii - Y Sefydliad Cenedlaethol dros Gyfiawnder (ojp.gov) ↩
-
Perfformiad Cymunedol Blynyddol, diweddariad hyd at fis Mawrth 2021 - GOV.uk (www.gov.uk) ↩
-
Camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru a Lloegr: y flwyddyn yn dod i ben Mawrth 2020 (Swyddfa Ystadegau Gwladol) ↩
-
Camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru a Lloegr: y flwyddyn yn dod i ben 2020 (Swyddfa Ystadegau Gwladol). ↩
-
Y dystiolaeth ryngwladol ar atal y defnydd o gyffuriau ac alcohol: Crynodeb ac enghreifftiau o weithredu yn Lloegr - GOV.UK (www.gov.uk) ↩
-
Gwerthusiad cenedlaethol o Raglen Teuluoedd Cythryblus 2015-2020: canlyniadau i deuluoedd - setiau data cenedlaethol a lleol rhan 4 ↩
-
Mae cyllid ar gyfer mentora gan gymheiriaid yn cwmpasu Cymru, Lloegr a’r Alban. Bydd cyllid i gefnogi troseddwyr yn cynnwys darparu triniaeth drwy HMPPS yng Nghymru ↩