Gwybodaeth gyffredinol am wiriadau gan Ymgyrchoedd a Phrosiectau
Diweddarwyd 25 Chwefror 2022
Rydym wedi gofyn i chi ddarllen y daflen wybodaeth hon gan ein bod wedi dechrau gwiriad cydymffurfio. Cadwch hi’n ddiogel — efallai y bydd yn rhaid i chi gyfeirio ati yn ystod y gwiriad. Mae gwiriad cydymffurfio yn ein galluogi i wirio’ch sefyllfa o ran treth er mwyn sicrhau eich bod yn:
- talu’r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir
- cael y lwfansau a’r rhyddhadau treth cywir
Rydym yn cynnal rhai mathau o wiriadau dros y ffôn. Os ydych am i ni ysgrifennu atoch yn lle hynny, gallwch ofyn i ni wneud hyn os byddwn yn eich ffonio. Efallai y byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth neu ddogfennau i ni er mwyn helpu gyda’r gwiriad.
Os oes angen help arnoch
Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol
Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at y person rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.
Yn ystod y gwiriad cydymffurfio
Pan fyddwn yn dechrau’r gwiriad, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth sydd ei angen arnom.
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am y canlynol:
- i chi anfon atom unrhyw wybodaeth neu ddogfennau sydd eu hangen arnom – os oes angen amser ychwanegol arnoch neu os cewch unrhyw anawsterau wrth ddarparu’r rhain, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu ceisio rhoi help llaw i chi
- i chi gael cyfarfod gyda ni i drafod eich materion treth a’ch cofnodion. Os gwnawn hynny, byddwn yn egluro pam — gallwch ddewis a ydych am gael y cyfarfod hwn ai peidio
- i gael ymweld â’ch safle busnes ac archwilio’r safle, eich asedion a’ch cofnodion – os bydd angen i ni ymweld â’ch busnes, byddwn yn ceisio cytuno ar ddyddiad ac amser cyfleus ar gyfer ein hymweliad
Os na allwn gytuno â chi ar hyn, efallai y bydd yn rhaid i ni ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol i gael yr hyn sydd ei angen arnom. Ni allwch ddewis anwybyddu hysbysiad gwybodaeth neu hysbysiad o archwiliad os rhoddwn un i chi, ond mae rhai camau diogelu ar eich cyfer pan fyddwn yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol.
I gael rhagor o wybodaeth am ein pwerau cyfreithiol ac am gamau diogelu, darllenwch daflenni gwybodaeth:
- CC/FS2, ‘Hysbysiadau gwybodaeth’
- CC/FS4, ‘Ymweliadau dirybudd ar gyfer archwiliadau’
Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS2’ neu ‘CC/FS4’.
Byddwn ond yn gofyn am gael ymweld â’ch cartref os ydych yn rhedeg eich busnes oddi yno. Os bydd angen rhywbeth arall arnom yn nes ymlaen yn ystod y gwiriad, byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Gallwch siarad â’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad os:
- nad ydych yn siŵr pam yr ydym yn gofyn am rywbeth
- nad ydych yn gallu gwneud yr hyn a ofynnwn
- ydych yn meddwl bod rhywbeth yr ydym wedi gofyn amdano yn afresymol neu’n amherthnasol i’r gwiriad
- oes gennych unrhyw gwestiynau eraill ar unrhyw adeg o’r gwiriad
Parhewch i anfon Ffurflenni Treth neu wneud taliadau yn ystod y gwiriad cydymffurfio hwn os ydynt yn ddyledus.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses gwiriad cydymffurfio, ewch i www.gov.uk/guidance/hmrc-compliance-checks-help-and-support.cy
Defnyddio deunydd cod agored yn ystod gwiriad cydymffurfio
Gallwn arsylwi ar ddata’r rhyngrwyd, sydd ar gael i bawb, yn ogystal â monitro, cofnodi a chadw’r data hynny. Gelwir hwn yn ddeunydd ‘cod agored’, ac mae’n cynnwys adroddiadau newyddion, gwefannau, cofnodion Tŷ’r Cwmnïau a’r Gofrestrfa Tir, blogiau a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol lle nad oes unrhyw osodiadau preifatrwydd ar waith.
Os oes angen rhagor o amser arnoch
Rhowch wybod i ni os ydym wedi gofyn i chi wneud rhywbeth a bod angen rhagor o amser arnoch. Efallai y byddwn yn cytuno i ganiatáu amser ychwanegol os oes rheswm da, er enghraifft, os ydych yn ddifrifol sâl neu os oes rhywun agos atoch wedi marw.
Y manteision o’n helpu gyda’r gwiriad cydymffurfio
Os byddwch yn ein helpu gyda’r gwiriad cydymffurfio, gallwn:
- ei gwblhau yn gyflym a lleihau unrhyw anghyfleustra i chi
- gostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch, os byddwn yn canfod bod rhywbeth o’i le
Os byddwn yn canfod bod rhywbeth o’i le, byddwn yn gweithio gyda chi i’w unioni ac yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi dalu:
- treth ychwanegol a llog am dalu’n hwyr
- cosbau
Os ydym yn ystyried codi cosb arnoch, byddwn yn ystyried faint o gymorth rydych wedi’i roi i ni yn ystod y gwiriad. ‘Ansawdd y datgeliad’ yw’r enw a roddir ar y cymorth hwn, neu ‘dweud, helpu a rhoi’.
Rydym yn mesur ansawdd y datgeliad drwy ystyried:
- faint yr ydych yn ei ‘ddweud’ wrthym am yr hyn sydd o’i le
- faint yr ydych yn ein ‘helpu’ i fynd at wraidd yr hyn sydd o’i le
- faint o fynediad rydych yn ei ‘roi’ i ni i’r wybodaeth neu’r dogfennau sydd eu hangen arnom er mwyn cwblhau’r gwiriad
Os oes ffyrdd y gallwch ein helpu gyda’r gwiriad, ond rydych yn penderfynu peidio â gwneud hynny, bydd hyn yn effeithio ar ein barn am ansawdd y datgeliad. Er enghraifft, os byddwn yn gofyn:
- am gael ymweld â’ch safle busnes i archwilio’ch cofnodion a’ch asedion busnes, neu i wneud prisiad, ond nad ydych yn caniatáu i ni wneud hynny
- am wybodaeth neu ddogfennau, ond nad ydych yn rhoi i ni bopeth yr ydym wedi gofyn amdano
Sut i gael y gostyngiad mwyaf posibl ar gyfer y gosb os oes rhywbeth o’i le
Os oes rhywbeth o’i le a’ch bod yn gwneud popeth o fewn eich gallu i’n cynorthwyo, byddwn yn gostwng y gosb gan y swm mwyaf posibl.
Os ydych yn gwybod neu’n amau bod rhywbeth o’i le, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol er mwyn cael y gostyngiad mwyaf posibl:
- rhoi cymaint o fanylion i ni ag y gallwch amdano ar unwaith
- gweithio gyda ni i gyfrifo’r swm cywir o dreth
Os gwelwn rywbeth o’i le nad oeddech yn gwybod amdano, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol er mwyn cael y gostyngiad mwyaf posibl:
- bod wedi rhoi cymaint o gymorth ag yr oedd ei angen arnom, hyd at y pwynt gwnaethom ganfod bod rhywbeth o’i le
- dweud wrth y swyddog sy’n delio â’r gwiriad bopeth amdano ar unwaith, gan adael iddo weld unrhyw gofnodion y mae’n gofyn amdanynt a’i helpu i gyfrifo’r swm cywir o dreth
I gyfrifo ansawdd y datgeliad, rydym hefyd yn ystyried faint o amser yr ydych wedi ei gymryd i roi gwybod i ni am unrhyw beth sydd o’i le. Os ydych wedi cymryd cryn amser, er enghraifft 3 blynedd neu fwy, rydym fel arfer yn cyfyngu uchafswm y gostyngiad a roddwn ar gyfer ansawdd y datgeliad i 10 pwynt canrannol uwchben isafswm ystod y gosb. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn elwa ar ganran isaf y gosb sydd fel arfer ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth am gosbau, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac i’r adran ‘Gwiriadau cydymffurfio’. Gallwch hefyd fynd i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’ a dewis ‘Penalties’.
Os ydych o’r farn y dylem atal y gwiriad cydymffurfio
Os ydych o’r farn y dylem atal y gwiriad, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni pam yn gyntaf. Os nad ydym yn cytuno, efallai y gallwch ofyn i’r tribiwnlys annibynnol sy’n ymdrin â materion treth benderfynu a ddylem ei atal.
Os oes rhywbeth o’i le
Os byddwn yn canfod rhywbeth o’i le, byddwn yn:
- esbonio pam y mae o’i le ac yn gweithio gyda chi i unioni pethau
- dweud wrthych sut i’w atal rhag digwydd eto, lle y bo modd
Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi lofnodi tystysgrif i gadarnhau eich bod wedi rhoi gwybod i ni am yr holl ffeithiau perthnasol sy’n ymwneud â’r gwiriad.
Os oes arnoch arian i ni, byddwn yn rhoi gwybod i chi sut i dalu. Gall hyn hefyd gynnwys llog ac unrhyw gosbau yr ydym wedi’u codi arnoch. Os oes arnom arian i chi, fel arfer byddwn yn eich ad-dalu neu’n credydu’ch cyfrif. Mewn rhai achosion, byddwn yn talu llog i chi hefyd.
Os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol
Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol, megis:
- rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
- cam-gyfleu’n anonest faint o dreth sydd arnoch, neu hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt
Rheoli diffygdalwyr difrifol
Os cawsoch eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, a’n bod yn canfod hyn yn ystod y gwiriad, efallai y byddwn yn monitro’ch materion treth yn fanylach. Mae gennym raglen fonitro fanylach o’r enw ‘rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS14, ‘Rheoli diffygdalwyr difrifol’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS14’.
Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol
Efallai y byddwn yn cyhoeddi’ch manylion os ydych wedi cael eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, ond ni fyddwn yn gwneud hyn os ydym wedi rhoi’r gostyngiad mwyaf posibl i chi ar gyfer y gosb. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS13, ‘Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS13’.
Beth sy’n digwydd ar ddiwedd gwiriad cydymffurfio
Pan fyddwn wedi cwblhau’r gwiriad, byddwn naill ai’n anfon un neu fwy o ‘hysbysiadau o benderfyniad’ atoch neu’n cytuno ar setliad contract gyda chi.
Gall hysbysiad o benderfyniad fod yn:
- asesiad, neu’n ddiwygiad i asesiad
- hysbysiad o gosb, os oes cosb yn ddyledus
- llythyr sy’n esbonio’r sefyllfa derfynol
Mae setliad contract yn gytundeb sy’n eich rhwymo’n gyfreithiol, lle’r ydych yn cynnig talu popeth sydd arnoch o ganlyniad i’r gwiriad, a’n bod yn cytuno i beidio â defnyddio ein pwerau ffurfiol i adennill y swm hwnnw. Gallwch ond talu drwy setliad contract os ydych chi, yn ogystal â ni, yn cytuno ar hyn ac ar delerau’r contract.
Ni allwch ddefnyddio setliadau contract ar gyfer unrhyw TAW neu gosbau TAW.
Os na allwch dalu’r hyn sydd arnoch
Os credwch y gallech gael trafferth talu, rhowch wybod i’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad ar unwaith.
Os ydych yn anghytuno
Os nad ydych yn cytuno â rhywbeth, rhowch wybod i ni.
Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:
- anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
- cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEM na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
- trefnu i dribiwnlys annibynnol wrando ar eich apêl a phenderfynu ar y mater
Pa un bynnag a ddewiswch, mae’n bosibl y gallwch hefyd ofyn i un o swyddogion arbenigol CThEM weithredu fel hwylusydd diduedd er mwyn helpu i ddatrys yr anghydfod. Rydym yn galw hyn yn ’Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod’ (ADR).
Dim ond ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud â meysydd treth penodol y mae ADR ar gael. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw ADR ar gael ar gyfer eich anghydfod. I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau ac ADR, darllenwch y taflenni gwybodaeth canlynol:
- HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM: beth i’w wneud os anghytunwch’
- CC/FS21, ‘Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod’
Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’ neu ‘CC/FS21’
Eich prif hawliau ac ymrwymiadau
Mae gennych:
- yr hawl i gael eich cynrychioli — gallwch benodi unrhyw un i weithredu ar eich rhan
- dyletswydd i gymryd gofal rhesymol i gael pethau’n iawn — os oes gennych ymgynghorydd, mae’n dal i fod yn rhaid i chi gymryd gofal rhesymol er mwyn sicrhau bod unrhyw Ffurflenni Treth, dogfennau neu fanylion eraill a anfonir atom ar eich rhan yn gywir
Mae ‘Siarter CThEM’ yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni, a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/government/publications/hmrc-charter.cy
Eich hawliau os byddwn yn ystyried cosbau
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes rhywbeth o’i le a’n bod yn ystyried cosbau. I gael gwybod pa hawliau sydd gennych pan fyddwn yn ystyried cosbau, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’.
Ewch i www.gov.uk/cymraeg a chwilio am ‘CC/FS9’.
Awdurdodi cynrychiolydd
Os oes gennych gynrychiolydd, gallwch ofyn i ni ddelio’n uniongyrchol ag ef yn ystod y gwiriad. Ni fyddwn yn rhoi manylion y gwiriad i’ch cynrychiolydd oni bai eich bod wedi ein hawdurdodi i gysylltu ag ef ynglŷn â’r trethi dan sylw.
Os ydych am awdurdodi:
- ymgynghorydd treth proffesiynol, gofynnwch iddo roi ffurflen awdurdodi i chi ei llenwi a’i hanfon atom
- ffrind neu berthynas, ysgrifennwch atom gan roi gwybod pwy yr hoffech ei awdurdodi a beth yr hoffech iddo ddelio ag ef ar eich rhan
Gwiriadau cydymffurfio y mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â nhw
Mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â gwiriadau cydymffurfio ynghylch y canlynol:
- Ardoll Agregau
- Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu
- Treth Cyflogres Banc
- Treth Enillion Cyfalaf
- Ardoll Newid yn yr Hinsawdd
- Cynllun y Diwydiant Adeiladu
- Treth Gorfforaeth
- Treth Incwm
- Treth Etifeddiant
- Treth Premiwm Yswiriant
- Treth Dirlenwi
- Toll Peiriannau Hapchwarae
- Dosbarthiadau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 1, 1A a 4 (Ar gyfer dosbarth 1A, mae’n ymwneud â P11D(b) ffurflenni treth ar gyfer blynyddoedd treth sy’n dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010)
- Talu Wrth Ennill (TWE)
- Treth Refeniw Petroliwm
- Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn (o 6 Ebrill 2018 ymlaen)
- Treth Dir y Tollau Stamp (yn ymwneud â Ffurflenni Treth ar gyfer blynyddoedd treth yn dechrau o fis Ebrill 2018)
- Treth Tollau Stamp Wrth Gefn
- TAW
Rhagor o wybodaeth
Budd-daliadau, ffioedd, grantiau a chredydau treth
Os ydych yn cael unrhyw fudd-daliadau, ffioedd neu grantiau sy’n seiliedig ar eich incwm, a bod eich incwm yn newid o ganlyniad i’r gwiriad hwn, bydd yn rhaid i chi roi gwybod i’r sefydliad sy’n eich talu. Os ydych yn cael credydau treth, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credydau Treth am newidiadau mewn incwm. Gallwch ffonio’r swyddfa ar 0300 200 1900 neu ysgrifennu at y tîm yn:
Swyddfa Credydau Treth
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM
HMRC
BX9 1ST
Does dim rhaid i chi gynnwys enw stryd na rhif Blwch Swyddfa’r Post.
Ysgrifennwch ‘Newid mewn amgylchiadau’ ar frig eich llythyr.
Ein hysbysiad preifatrwydd
Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.
Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth
Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn dweud wrthych sut i wneud cwyn ffurfiol.
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem a chwilio o dan y pennawd ‘Taflenni gwiriadau cydymffurfio’.