Canllawiau

Hawlwyr y Cynllun Diffygion Horizon a chymorth ar gyfer y Postfeistri sydd wedi ei effeithio arnyn nhw

Diweddarwyd 13 February 2024

1. Sut mae treth iawndaliadau’r Cynllun Diffygion Horizon yn cael ei thrin

Ni fydd postfeistri, sy’n rhan o’r Cynllun Diffygion Horizon (HSS) ac sydd ddim yn cael eu taliad atodol mewn da bryd i gyflwyno eu Ffurflen Dreth Hunanasesiad cyn 31 Ionawr 2024, yn gorfod talu unrhyw gosb na llog am gyflwyno na thalu’n hwyr.  Mae timau wrth law i roi unrhyw gymorth sydd ei angen ar bostfeistri.

Rhoddwyd y Cynllun Diffygion Horizon ar waith gan Swyddfa’r Post Cyf i ddigolledu’r postfeistri hynny oedd wedi mynd ati’n bersonol i dalu’r colledion a fu yn sgil system Horizon, er nad oeddent yn destun euogfarn droseddol. Roedd ei strwythur yn golygu bod iawndaliadau HSS gwreiddiol yn agored i Dreth Incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG). Felly, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i bostfeistri sy’n cael iawndal o dan yr HSS gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad a thalu Treth Incwm a CYG ar y taliadau hyn. 

Ar 19 Mehefin 2023 cyhoeddodd y Llywodraeth (yn Saesneg) y bydd postfeistri sy’n rhan o’r HSS yn cael taliadau atodol i sicrhau nad yw swm eu hiawndal yn cael ei leihau’n ormodol gan dreth. Bydd y postfeistri hynny hefyd yn cael £300 er mwyn talu am gyngor annibynnol ar gyflwyno eu Ffurflen Dreth. Nid yw Swyddfa’r Post wedi gwneud pob taliad atodol na phob grant cyngor ar dreth eto. 

Mae CThEF wedi ymrwymo i gefnogi postfeistri HSS i gyflwyno eu Ffurflen Dreth a thalu unrhyw dreth a CYG sy’n ddyledus. Gall postfeistri HSS ddefnyddio’r wybodaeth isod fel arweiniad.  

Cafodd taliadau yn yr Euogfarn a Wrthdrowyd (a elwir gynt yn gynllun Euogfarnau Hanesyddol a Wrthdrowyd) a chynlluniau Gorchymyn Ymgyfreitha Grŵp eu heithrio rhag Treth Incwm a CYG ac nid oes rhaid i dderbynwyr dalu unrhyw dreth ar y taliadau hyn na rhoi gwybod i CThEF amdanynt. 

2. Arweiniad i Bostfeistri sy’n rhan o’r Cynllun Diffygion Horizon (HSS)

Gall postfeistri sy’n rhan o’r HSS ac sydd angen cymorth ffonio llinell gymorth Gymraeg CThEF ar 0300 200 1900. Mae’r tîm ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8:30am a 5pm. Mae’r llinell Saesneg ar gael drwy ffonio 0300 322 9625 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm.

Os cawsoch iawndal drwy’r Cynllun Diffygion Horizon rhwng 6 Ebrill 2022 a 5 Ebrill 2023, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm a CYG. Fodd bynnag, mae CThEF yn cydnabod nad yw pob postfeistr wedi cael y taliadau atodol hyd yma gan Swyddfa’r Post Cyf, a’r bwriad yw sicrhau nad yw swm yr iawndal y mae postfeistri drwy’r HSS yn ei gael yn cael ei leihau’n ormodol gan dreth.

2.1 Os ydych eisoes wedi cael hysbysiad i gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad 2022-2023

Os ydych eisoes wedi cael hysbysiad i gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad 2022-23 oddi wrth CThEF, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r Ffurflen Dreth honno ar-lein yw 31 Ionawr 2024. Mae CThEF yn deall efallai na fyddwch yn gallu cyflwyno’ch Ffurflen Dreth na thalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn y dyddiad hwnnw. Os nad ydych wedi cael eich taliad atodol na’ch grant cyngor ar dreth gan Swyddfa’r Post mewn da bryd i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth a thalu’ch treth erbyn 31 Ionawr, ni fyddwn yn codi unrhyw log na chosbau arnoch os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth neu’n talu eich treth yn hwyr o ganlyniad. Os nad ydych yn sicr beth i’w nodi yn eich Ffurflen Dreth am yr iawndaliad, siaradwch â’n timau cymorth.

2.2 Os nad ydych wedi cael hysbysiad i gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad 2022-2023

Os cawsoch iawndaliadau HSS rhwng 6 Ebrill 2022 a 5 Ebrill 2023 ac nad yw CThEF wedi gofyn eto i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad erbyn 31 Ionawr 2024, siaradwch â’n timau cymorth.  

3. Dod o hyd i help

Mae CThEF wedi cymryd camau i nodi’r rhai sy’n cael taliadau HSS perthnasol a bydd yn anelu at atal unrhyw hysbysiadau cosb rhag cael eu rhoi ac unrhyw log rhag cael ei godi. Fodd bynnag, os byddwch yn cael hysbysiad cosb neu dâl llog, gallwch siarad â’n tîm Cymraeg ar 0300 200 1900 neu’r tîm Saesneg ar 0300 322 9625 a byddwn yn dileu’r cosbau a’r llog.

Bydd unrhyw bostfeistri, sydd ddim yn gallu talu eu rhwymedigaeth treth yn llawn, yn gallu trefnu cynllun talu i dalu taliadau misol fforddiadwy. Mae cynlluniau talu yn hyblyg ac yn seiliedig ar incwm a gwariant unigol. Dylai unrhyw un sy’n poeni am dalu ei rwymedigaethau treth, neu am ei gofnod credydau Yswiriant Gwladol, gysylltu â’n tîm cymorth i drafod yr opsiynau.

Mae Swyddfa’r Post Cyf yn darparu cyllid o hyd at £300 ar gyfer cyngor treth annibynnol i helpu postfeistri sy’n rhan o’r cynllun HSS i gyflwyno eu Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Byddem yn annog hawlwyr HSS i fanteisio ar hyn.

4. Cefndir i’r iawndaliadau HSS

Oherwydd strwythur y cynllun, nid yw’r iawndaliadau gwreiddiol yn y Cynllun Diffygion Horizon wedi’u heithrio rhag Treth Incwm na Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG). Mae’n bosibl y bydd postfeistri sy’n cael iawndal HSS yn agored i dalu Treth Incwm ar y taliadau hyn. Fodd bynnag, mae’r taliadau atodol a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023 wedi’u heithrio rhag treth. Diben y taliadau ychwanegol yw digolledu postfeistri am unrhyw ostyngiadau diangen i’r iawndal yn sgil y ffordd y mae’r cynllun yn trin treth.

5. Data Horizon a Hunanasesiad

Nid yw CThEF wedi cael na defnyddio swmp o ddata Horizon oddi wrth Swyddfa’r Post i gyfrifo treth nac i ddewis Ffurflenni Treth ar gyfer gwiriadau pellach - ac nid ydym yn ymwybodol o unrhyw achosion lle rydym wedi dibynnu ar ddata Horizon..

Rydym yn cydnabod y mae’n bosibl bod postfeistri wedi defnyddio data Horizon yn eu Ffurflenni Treth Hunanasesiad.

Os ydych o’r farn eich bod wedi talu’r dreth anghywir oherwydd data Horizon, cysylltwch â’n tîm cymorth a byddwn yn ymchwilio i’ch achos.

Os ydych yn bostfeistr sydd wedi eich effeithio gan sefyllfa Horizon ac mae gennych gwestiynau ynghylch eich treth, cysylltwch â’n tîm cymorth. Mae hyn yn cynnwys cwestiynau ynghylch methu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno os yw hyn yn berthnasol i chi.

6. Cysylltu â’n timau cymorth

Ffôn:

0300 200 1900 (y llinell Gymraeg)

0300 322 9625 (y llinell Saesneg)

Oriau agor:

Dydd Llun i ddydd Gwener: 8:30 i 5pm (y llinell Gymraeg)

Dydd Llun i ddydd Gwener: 8am i 6pm (y llinell Saesneg)