Adroddiad annibynnol

Cael Mantais: Effaith a Gwerth Lluoedd y Cadetiaid yng Nghymru

Adroddiad ymchwil a gomisiynwyd gan y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru i nodi effeithiau a chanlyniadau Lluoedd Cadetiaid a noddir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Dogfennau

Manylion

Comisiynwyd yr adroddiad hwn er mwyn iddo gael ei ddefnyddio gan Luoedd y Cadetiaid yng Nghymru i roi gwybod i’r canlynol am effeithiau a chanlyniadau gweithrediadau Lluoedd Cadetiaid a noddir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD): llunwyr polisi, arweinwyr addysgol, cyflogwyr, oedolion sy’n gwirfoddoli gyda’r cadetiaid nawr a’r rhai a fydd yn gwneud hynny yn y dyfodol, a rhieni/gwarcheidwaid cadetiaid presennol a’r rhai a fydd yn ymuno yn y dyfodol.

Mae’r Astudiaeth wedi canfod bod cymryd rhan yn Lluoedd y Cadetiaid yn arwain at fwy o symudedd cymdeithasol, gwell canlyniadau addysgol a gwell cyflogadwyedd. Mae’n rhoi ‘Mantais’ i’r rhai sy’n rhan o’r Lluoedd dros eu cyfoedion nad ydynt yn gadetiaid.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 August 2024

Sign up for emails or print this page