Offer TWE Sylfaenol — help ynghylch gosod Linux
Diweddarwyd 1 Mehefin 2022
Mae’r canllaw hwn yn gymwys i Offer Talu Wrth Ennill (TWE) Sylfaenol (BPT) fersiwn 22.0 ac ar ôl hynny.
Dibyniaethau sylfaenol
Mae Offer TWE Sylfaenol yn rhaglen 64-bit sydd wedi’i chynllunio i redeg mewn amgylchedd bwrdd gwaith graffigol. Mae wedi’i brofi ar y dosbarthiadau canlynol:
-
Ubuntu 20.04 LTS
-
Ubuntu 21.10 (y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael yn ystod y broses ddatblygu)
Er mwyn rhedeg, mae Offer TWE Sylfaenol yn dibynnu ar glibc>=2.28
Rhedeg y gosodwr
Dylid tynnu’r gosodwr o’r lawrlwythiad sip cyn ei redeg. Mae rhai offer GUI, er enghraifft Rheolwr Archif Ubuntu, yn caniatáu i chi redeg rhaglen y gosodwr y tu mewn i’w rhyngwyneb heb ei thynnu, ond efallai na fydd yn rhedeg yn gywir fel hyn.
Os na fydd dim byd yn digwydd pan fyddwch yn rhedeg y gosodwr drwy glicio ddwywaith ar y rhaglen, efallai y gallwch ddadansoddi rhai problemau drwy ei rhedeg yn y modd testun o’r llinell orchymyn.
Rhedwch y gosodwr yn y modd testun gan ddefnyddio’r gorchymyn canlynol (gan ddisodli “./payetools-rti-xx.y.zzzzz.aaa-linux” gydag enw ffeil y gosodwr rydych wedi’i lawrlwytho):
$ ./payetools-rti-xx.y.zzzzz.aaa-linux –mode text
Os ydych yn gweld neges wall fel yr un ganlynol wrth redeg y gosodwr, nid yw’ch gosodiad Linux yn bodloni’r gofynion i redeg rhaglenni 64-bit ac ni fyddwch yn gallu gosod Offer TWE Sylfaenol.
./payetools-rti-xx.y.zzzzz.aaa-linux:
ni all weithredu’r ffeil ddeuaidd: Gwall fformat exec
Rhedeg y rhaglen Offer TWE Sylfaenol
Yn ddiofyn, bydd Offer TWE Sylfaenol yn cael ei gosod o dan eich ffolder cartref, er enghraifft.
${HOME}/HMRC/payetools-rti
Mae’r gosodwr hefyd yn ceisio darparu eicon bwrdd gwaith ac ychwanegu Offer TWE Sylfaenol at ddewislen neu lansiwr arferol amgylchedd y bwrdd gwaith.
Y tro cyntaf i chi redeg Offer TWE Sylfaenol o’r llwybr byr bwrdd gwaith, efallai y bydd angen i chi dde-glicio arno a dewis “Allow Launching”. Fel arall, ar amgylcheddau bwrdd gwaith eraill, efallai y gofynnir i chi ddewis “Trust and launch” y rhaglen.
Os na fydd dim byd yn digwydd ar ôl hyn, gallwch unwaith eto ddadansoddi problemau drwy ddefnyddio’r llinell orchymyn. Gwiriwch allbwn y consol wrth redeg:
$ ~/HMRC/payetools-rti/rti.linux
Mae ffeil log hefyd yn cael ei chreu yn ‘/tmp/rti.log’.
Bydd allbwn y consol a’r ffeil log yn cynnwys manylion a allai’ch helpu i ddatrys y broblem eich hun, er enghraifft, dibyniaethau coll. Fodd bynnag, os oes angen help arnoch, dylech gael y ffeil log (ac unrhyw ffeiliau log eraill yn ‘/tmp’ o’r enw ‘rti*’) yn barod pan fyddwch yn cysylltu â CThEM.
Sylwer: mae problem hysbys yn Ubuntu 20.04 sy’n atal ‘rti.linux’ rhag lansio wrth glicio’r ffeil ddwywaith yn uniongyrchol yn yr archwiliwr ffeiliau.
Gweler https://bugs.launchpad.net/ubuntu/+source/file/+bug/1747711 .
Mae hyn yn arwain at y neges ganlynol yn cael ei dangos:
Doedd dim modd Dangos “rti.linux”
Does dim rhaglen wedi’i gosod ar gyfer ffeiliau “shared library”
Os byddwch yn dod ar draws y neges hon, defnyddiwch y llwybr byr ar y bwrdd gwaith, llwybr byr dewislen / Dash neu’r gorchymyn consol i lansio Offer TWE Sylfaenol.
Gweinydd Modd Cynorthwyol
Os ydych yn dewis rhedeg Offer TWE Sylfaenol gyda chymorth y Feddalwedd Gynorthwyol wedi’i alluogi, bydd Offer TWE Sylfaenol yn rhedeg yn y cefndir fel gweinydd, ac yn ceisio rhoi ei ryngwyneb ym mhorwr gwe diofyn eich amgylchedd bwrdd gwaith.
Bydd y gweinydd yn parhau i redeg yn y cefndir. Bydd y rhan fwyaf o amgylcheddau bwrdd gwaith yn dangos eicon cilfach â logo CThEM sy’n eich caniatáu i adael y gweinydd yn hwylus. Fodd bynnag, nid yw rhai amgylcheddau, er enghraifft Ubuntu Unity, yn dangos yr eicon cilfach. Dull arall o adael y gweinydd yn hwylus yw drwy ddefnyddio’r URL canlynol:
http://127.0.0.1:46729/QUIT