LP11 Dechrau arni fel atwrnai: eiddo a materion ariannol (fersiwn y we)
Diweddarwyd 6 August 2024
Yn berthnasol i England and Gymru
Sut i fod yn atwrnai
Rydych wedi’ch penodi yn atwrnai o dan atwrneiaeth arhosol (LPA).
Mae’r sawl a wnaeth yr atwrneiaeth arhosol (y ‘rhoddwr’) yn ymddiried ynoch chi i wneud penderfyniadau ar ei ran os bydd yn colli ei alluedd meddyliol. Os yw’n dymuno hynny, gallwch ei helpu yn syth.
‘Galluedd meddyliol’ yw’r gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud.
Mae’r atwrneiaeth arhosol yn delio ag eiddo a materion ariannol y rhoddwr, megis:
-
defnyddio’i gyfrifon banc a chymdeithas adeiladu, cyfrifon cyfredol a chyfrifon cynilo
-
hawlio, cael a defnyddio’i fudd-daliadau, pensiynau a lwfansau
-
talu ei filiau cartref, biliau gofal ac eraill
-
prynu neu werthu ei gartref
-
cynilo neu wneud a gwerthu buddsoddiadau.
Dywed y gyfraith fod yn rhaid ichi weithredu’n ddidwyll ar bob achlysur ac er budd pennaf y rhoddwr.
Beth i’w wneud nawr
Mynnwch sgwrs â’r rhoddwr am y ffordd mae’n gofalu am ei faterion ariannol. Er enghraifft, ydy’r rhoddwr yn:
-
rhoi anrhegion pen-blwydd i blant neu deulu a ffrindiau eraill (faint)
-
hoffi gwario ar ddillad, cerddoriaeth neu deithiau
-
rhoi arian i elusennau penodol (faint)
-
eisiau gwerthu neu rentu ei gartref os bydd yn symud i gartref gofal
-
a yw’n gwell ganddo gadw isafswm balans yn y banc?
Gofynnwch i’r rhoddwr ble mae’n cadw gwybodaeth ariannol:
-
llythyrau am faterion treth, pensiwn a budd-daliadau
-
biliau a chyfriflenni banc neu gardiau credyd
-
gweithredoedd unrhyw eiddo sy’n perthyn iddo
-
y ddogfen atwrneiaeth arhosol.
Mynnwch gopïau ardystiedig o’r ddogfen atwrneiaeth arhosol
-
Os oes gan y rhoddwr alluedd, gall ef eu cael. Gweler www.gov.uk/power-of-attorney/certify
-
Gall cyfreithiwr neu notari eu gwneud am ffi.
Helpu’r rhoddwr
Fel atwrnai, rhaid ichi helpu’r rhoddwr i wneud ei benderfyniadau ei hun, os yw’n gallu.
Allwch chi ddim penderfynu dros y rhoddwr dim ond os ydych yn meddwl bod ei benderfyniadau yn rhai rhyfedd neu’n annoeth.
Dywed y gyfraith fod yn rhaid ichi dybio bod rhywun yn gallu gwneud penderfyniadau, oni ddangosir na all eu gwneud.
Helpwch y rhoddwr i wneud penderfyniadau
-
Gwiriwch: a all wneud rhai penderfyniadau?
-
Esboniwch mewn ffyrdd gwahanol. A fyddai defnyddio lluniau, iaith arwyddion neu ei iaith gyntaf yn helpu?
-
Os oes cyfnodau pan all y rhoddwr wneud penderfyniad a’r penderfyniad hwnnw heb fod yn un brys, arhoswch.
Diffyg galluedd meddyliol yw pan fydd problem â’r meddwl neu’r ymennydd yn atal unigolyn rhag gwneud penderfyniad penodol ar adeg y mae angen ei wneud.
Os nad oes gan y rhoddwr alluedd meddyliol:
-
dilynwch unrhyw gyfyngiadau neu amodau yn yr atwrneiaeth arhosol
-
ceisiwch ddilyn yr arweiniad yn yr atwrneiaeth arhosol
-
gofynnwch i eraill beth fyddai’r rhoddwr yn ei wneud
-
peidiwch â gwneud rhagdybiaethau ar sail oed, ymddygiad, cyflwr neu ymddangosiad y rhoddwr - ystyriwch beth fyddai’r rhoddwr fel unigolyn ei eisiau.
Dylech osgoi penderfyniadau sy’n cyfyngu ar ryddid y rhoddwr
Ystyriwch opsiwn sy’n cael llai o effaith.
Gwnewch benderfyniadau er budd pennaf y rhoddwr
Rhaid i bob penderfyniad gael ei wneud ar sail beth sydd orau i’r rhoddwr, nid dim ond un sy’n gyfleus i bobl eraill.
Rheoli arian
Cadwch y cyfrifon drwy gofnodi incwm a thaliadau a rhoddion mwy. Cadwch bob bil.
Mae’n haws cadw eiddo ac arian y rhoddwr ar wahân i’ch eiddo a’ch arian chi, onid oes gennych gyfrifon ar y cyd neu’n gyd-berchen ar gartref.
Os yw’r rhoddwr yn berchen ar eiddo, holwch i weld a yw wedi’i gofrestru yn ei enw gyda’r Gofrestrfa Dir EM. Os na, dylech ei gofrestru. Hefyd ymunwch â’r Gwasanaeth Monitro Eiddo (Property Alert Service).
Delio â banciau a chwmnïau eraill
Bydd banciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau cyfleustodau angen prawf mai chi yw’r atwrnai.
Efallai y bydd angen i chi ddangos y canlynol iddynt:
-
y ddogfen atwrneiaeth arhosol wreiddiol neu gopi ardystiedig, nid llungopi
-
prawf o bwy ydych chi a lle rydych yn byw (e.e. bil nwy neu drydan a phasbort neu drwydded yrru).
Problemau? Siaradwch â’r rheolwr neu’r brif swyddfa.
Gwneud rhoddion
Dim ond os ydynt er budd pennaf y rhoddwr y gellir gwneud rhoddion.
Rhaid i’r gwariant beidio â niweidio gofal neu ansawdd bywyd y rhoddwr. Rhaid i roddion fod yn rhai fforddiadwy.
Gallwch barhau i wneud rhoddion elusennol neu roi anrhegion pen-blwydd i aelodau’r teulu, ond allwch chi ddim gwario llawer mwy neu’n wahanol i beth fyddai’r rhoddwr wedi’i wneud.
Allwch chi ddim gwneud elw na manteisio’n bersonol drwy weithredu ar ran y rhoddwr - mae hynny’n torri’r gyfraith.
Atwrneiod eraill
Os oes atwrneiod eraill, bydd yr atwrneiaeth arhosol yn nodi sut y byddwch yn gweithredu gyda’ch gilydd:
-
ar y cyd ac yn unigol – gallwch benderfynu gydag atwrneiod eraill neu ar eich pen eich hun
-
ar y cyd – rhaid i bob atwrnai gytuno ar bob penderfyniad
-
ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau ac ar y cyd ac yn unigol ar gyfer eraill – rhaid ichi gytuno ar benderfyniadau sydd wedi’u nodi yn yr atwrneiaeth arhosol gyda’r holl atwrneiod. Gallwch chi wneud penderfyniadau eraill ar eich pen eich hun.
Os oes raid ichi wneud penderfyniad ar y cyd a rhai yn anghytuno, ni ellir gwneud y penderfyniad hwnnw.
Ddim yn gallu cytuno?
Os nad ydych chi a’r atwrneiod eraill yn gallu cytuno, gofynnwch i’r teulu a ffrindiau beth fyddai’r rhoddwr ei eisiau a beth sydd o fudd pennaf iddo.
Defnyddiwch eiriolaeth neu gyfryngu. Edrychwch ar-lein neu ofyn mewn llyfrgell. Os yw’r rhoddwr mewn cartref neu’n cael gofal cymdeithasol, gofynnwch i’r staff am gymorth.
Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac efallai y gallwn ni roi cyngor, neu efallai y bydd angen ichi wneud cais i’r Llys Gwarchod. Gallai hyn gostio £371 neu fwy.
Cyn ichi weithredu
MEDDYLIWCH – ai hyn fyddai’r rhoddwr ei eisiau?
GWIRIWCH – a oes modd helpu’r rhoddwr i wneud y penderfyniad i gyd neu ran ohono?
COFIWCH – rhaid gwneud pob penderfyniad er budd pennaf y rhoddwr.
Rhagor o wybodaeth
Cod Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005
Mae’r Cod Ymarfer yn esbonio dyletswyddau atwrneiod
GOV.UK
Y Llys Gwarchod
yr Adran Gwaith a Phensiynau (budd-daliadau a phensiynau)
Cyllid a Thollau EM (treth)
Gofrestrfa Dir EM (perchnogaeth eiddo)
www.gov.uk
Age UK
Cymdeithas Alzheimer
Cymdeithas Banco Prydain
Taflen ‘Arweiniad i bobl sydd eisiau rheoli cyfrif banc ar ran rhywun arall’
Cyngor ar Bopeth
Cyngor Cyfryngu Teuluol
Mind
Scope
Sut mae cysylltu â ni
I gael cyngor, lleisio pryderon neu ddweud wrthym os yw amgylchiadau’r rhoddwr neu eich amgylchiadau chi yn newid (er enghraifft: os ydych chi’n symud tŷ).
FFÔN
0300 456 0300
O ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm Dydd Mercher 10am i 5pm
FFÔN TESTUN
0115 934 2778
E-BOST
customerservices@publicguardian.gov.uk