Canllawiau

Rhoi rhoddion i rywun arall: canllaw i ddirprwyon ac atwrneiod

Cyngor i atwrneiod a dirprwyon sydd wedi’u penodi gan y llys pan gaiff rhoddion eu rhoi ar ran unigolyn arall.

Yn berthnasol i England and Gymru

Dogfennau

OPG2: Rhoi rhoddion i rywun arall (fersiwn print)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch customerservices@publicguardian.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Weithiau gall atwrneiod a dirprwyon roi rhoddion ar ran yr unigolyn y maent wedi cael eu penodi i wneud penderfyniadau drosto. Dim ond dirprwyon ac atwrneiod sy’n gwneud penderfyniadau ariannol all roi rhoddion; ni allwch roi rhoddion os ydych wedi’ch penodi i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud ag iechyd a lles yn unig.

Os oes gennych chi’r awdurdod i roi rhoddion, dim ond mewn rhai sefyllfaoedd mae modd i chi wneud hynny, a dim ond os yw hynny er lles pennaf yr unigolyn.

Mae’r canllaw hwn yn cynnig cyngor ymarferol megis:

  • beth sy’n cyfrif fel rhodd
  • pwy sy’n cael rhoi rhoddion i rywun arall
  • pryd allwch chi roi rhoddion
  • newid y cyfyngiadau ar roi rhoddion
  • beth sy’n digwydd gyda rhoddion heb awdurdod

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyhoeddi nodyn ymarfer ynghylch rhoi rhoddion hefyd, sy’n esbonio’r cefndir cyfreithiol yn fanylach.

Edrychwch ar y canllawiau ‘Sut i fod yn ddirprwy’ a ‘Cychwyn y broses fel atwrnai’ i gael rhagor o arweiniad ynghylch cyflawni’r swyddogaethau hyn.

Gallwch hefyd edrych ar God Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol, sy’n esbonio’n fanwl beth y gallwch chi ei wneud a beth na allwch chi ei wneud fel atwrnai neu ddirprwy.

Fformatau amgen

I gael dogfen mewn print bras, anfonwch e-bost i: customerservices@publicguardian.gov.uk. Cofiwch roi eich cyfeiriad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 May 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 January 2017 + show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation

  3. Added translation

  4. Added translation

  5. Small textual change to attachment.

  6. First published.

Sign up for emails or print this page