Research and analysis

Crynodeb arolwg segmentu defnyddiwr GOV.UK One Login

Published 19 September 2024

Pam arolwg segmentu defnyddiwr

Ers i GOV.UK One Login gael ei lansio yn 2021, mae wedi cadarnhau hunaniaeth dros 3.9 miliwn o bobl.

Mae angen i ni sicrhau y gall GOV.UK One Login gael ei ddefnyddio gan cyn gymaint o bobl â phosibl.

Rydym am ddod o hyd i unrhyw rwystrau sy’n eu hwynebu, a’u deall, fel y gallwn ddylunio ffyrdd o helpu mwy o bobl i ddefnyddio ein gwasanaeth.

Mae arolwg segmentu defnyddwyr yn ffordd o edrych ar nodweddion a rhwystrau a rennir.

Comisiynwyd ein harolwg meintiol gennym yn 2023 i ddeall mwy am y rhwystrau rydym yn gwybod sy’n effeithio ar ein defnyddwyr, fel:

  • mynediad at dechnoleg
  • mynediad at ddogfennau hunaniaeth
  • lefel sgiliau ddigidol

Sut y gwnaethom ymdrin ag ymatebion i’r arolwg

Cymerodd 2,000 o ddefnyddwyr ran yn yr arolwg. Byddwn yn cyfeirio at y defnyddwyr hyn fel ‘ymatebwyr i’r arolwg’ drwy gydol yr adroddiad hwn. Pwysolwyd eu hatebion i fod yn gynrychioliadol o ddemograffeg poblogaeth y DU.

Mae pob ateb i’r arolwg yn cael eu hunan-adrodd ac felly’n agored i ddehongliadau ymatebwyr o’r cwestiynau. Fodd bynnag, o ystyried mai nod pwysig yr arolwg oedd deall rhwystrau i gael mynediad at y gwasanaeth, gall canfyddiad a dehongliad ymatebwyr gynnig mewnwelediadau gwerthfawr yn hynny o beth.

Pan oedd yn bwysig cael mwy o wybodaeth ffeithiol, cyfunom atebion o wahanol gwestiynau i leihau effaith dehongli personol.

Rhybuddion iechyd

Mae yna ychydig o beth i’w hystyriaed yn y canfyddiadau hyn.

  1. Mae hon yn set ddata gymhleth gyda llawer o le i gamddehongli. Felly, mae angen ei drin yn ofalus.
  2. Dim ond y dechrau yw’r hyn rydym yn ei adrodd ar hyn o bryd. Mae llawer mwy o ddadansoddiad manwl rydym wedi’i wneud ac rydym yn bwriadu ei wneud.
  3. Mae’r dadansoddiad yn cael ei yrru gan gyfres o ragdybiaethau sy’n sail i’n cynnyrch ac sydd wedi cael eu defnyddio i ddehongli’r data. Efallai y gwelwn fod angen i ni addasu’r dadansoddiad os bydd y tybiaethau hyn yn newid.
  4. Mae data’r arolwg yn ymwneud yn bennaf â chanfyddiad. Mae canfyddiad ein hymatebwyr yn bwysig o ran dadansoddi data’r arolwg. Os yw defnyddwyr yn gweld rhywbeth yn rhwystr, y tebygrwydd yw na fyddant yn defnyddio’r gwasanaeth, hyd yn oed os nad yw’r rhwystr yn union fel y maent yn ei ganfod.
  5. Mae hwn yn giplun mewn amser. Cynhaliwyd yr arolwg rhwng mis Awst a mis Medi 2023.

Prif ganlyniadau ein 4 piler o ddadansoddi

Gwnaed y dadansoddiad trwy 4 piler neu agweddau o’r gwasanaeth:

  1. Mae mynediad at dystiolaeth hunaniaeth a amlinellwyd Good Practice Guide (GPG) 45: How to prove and verify someone’s identity. Er enghraifft, pasbort neu drwydded yrru.
  2. Mynediad at dechnoleg sydd ei hangen i fynd trwy deithiau defnyddwyr. Er enghraifft, ffôn clyfar, wifi neu signal ffôn dibynadwy.
  3. Tystiolaeth o ôl troed data yn y DU. Er enghraifft, cofnodion credyd neu lywodraeth.
  4. Gallu, gan gynnwys sgiliau digidol a gwendidau

Roedd y dadansoddiad hwn yn cynnwys rhoi mewn trefn y parau mwyaf cyffredin o’r eitemau o bob un o’r pileri.

Piler 1: tystiolaeth hunaniaeth

Gofynion tystiolaeth ar gyfer profi hunaniaeth. Mae’r adran hon yn amlinellu mynediad ymatebwyr at dystiolaeth sy’n ofynnol ar gyfer dilysu hunaniaeth yn ôl GPG 45.

Gall tystiolaeth hunaniaeth gynnwys llun (pasbort, trwydded yrru) neu beidio (tystysgrif geni neu fabwysiadu’r DU). Gellir defnyddio’r dystiolaeth hon i gael hyder isel neu ganolig yn hunaniaeth rhywun.

Gwelsom fod:

  • 92% o’r ymatebwyr gyda ID gyda llun sy’n ddigonol ar gyfer hyder canolig
  • 94% o ymatebwyr gyda ID gyda llun sy’n digonol ar gyfer hyder isel
  • 91% o ymatebwyr sydd gyda ID heb lun sy’n addas ar gyfer hyder canolig
  • 96% o ymatebwyr sydd gyda ID heb lun sy’n addas ar gyfer hyder isel

Noder nid dyma yw’r nifer o bobl sy’n gallu mynd trwy ein taith, un pwynt data yw hwn.

Piler 2: mynediad at dechnoleg

Mynediad at dechnoleg ar gyfer profi hunaniaeth. Mae’r adran hon yn amlinellu maint mynediad ymatebwyr at dechnoleg addas a chanran y defnyddwyr a fyddai’n gallu defnyddio gwahanol lwybrau gwasanaeth.

Gwelsom fod:

  • 63% o’r ymatebwyr yn gallu defnyddio taith y porwr
  • 92% o’r ymatebwyr yn gallu profi eu hunaniaeth yn bersonol yn y Swyddfa Bost
  • 49% o’r ymatebwyr yn gallu defnyddio’r ap GOV.UK ID Check
  • 78% o’r ymatebwyr gyda mynediad i a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog
  • 80% o’r ymatebwyr gyda mynediad at rif ffôn
  • 88% o’r ymatebwyr gyda mynediad at ffôn symudol gyda chamera yn gweithio a gyda’r gallu i lawrlwytho apiau

Noder nid dyma yw’r nifer o bobl sy’n gallu mynd trwy ein taith, un pwynt data yw hwn.

Piler 3: ôl troed data’r DU

Mynediad i ôl troed data’r DU. Mae’r adran hon yn edrych ar faint o ymatebwyr sydd â’r cofnodion ariannol a’r llywodraeth (megis hanes cerdyn credyd neu ffurflenni treth) sydd eu hangen i ddefnyddio rhai o’r llwybrau gwasanaeth. Fel arfer, byddai mynediad i’r llwybrau hynny yn gofyn am 2 neu fwy ffynhonnell ddata.

Gwelsom fod:

  • 43% o’r ymatebwyr gyda 2 neu fwy ffynhonnell o fewn ôl troed credyd
  • 32% o’r ymatebwyr gyda 2 neu fwy ffynhonnell o fewn ôl troed CThEF
  • 23% o ddefnyddwyr gyda 2 neu fwy ffynhonnell o fewn ôl troed DWP
  • 79% o ddefnyddwyr gyda 2 neu fwy ffynhonnell yn unrhyw un o CThEF, credyd neu DWP
  • 12% (6.9 miliwn) o ddefnyddwyr gyda 1 ffynhonnell o fewn unrhyw setiau data credyd, DWP neu CThEF
  • 9% (5.1 miliwn) o ddefnyddwyr heb unrhyw setiau data o gwbl

Noder nid dyma yw’r nifer o bobl sy’n gallu mynd trwy ein taith, un pwynt data yw hwn.

Piler 4: gallu

Gofynion sy’n gysylltiedig ag agweddau, gwybodaeth a gwendidau’r ymatebwyr. Mae hyn yn cynnwys sgiliau digidol a’r angen am dechnolegau cynorthwyol (fel chwyddo sgrin, bysellfwrdd wedi’i addasu neu feddalwedd lleferydd-i-destun).

Gwelsom fod:

  • 14% o’r ymatebwyr yn dweud bod anghenion technoleg gynorthwyol
  • 25% o’r ymatebwyr yn dweud eu bod yn ei chael hi’n anodd cyflawni tasgau ar-lein, fel llenwi ffurflenni, siopa ar-lein neu dalu biliau ar eu pen eu hunain
  • 71% o’r ymatebwyr yn dweud eu bod hefyd wedi cael mynediad at gymorth a chefnogaeth gan ffrindiau neu deulu i helpu i wneud pethau ar-lein

Noder nid dyma yw’r nifer o bobl sy’n gallu mynd trwy ein taith, un pwynt data yw hwn.

Ardaloedd sy’n rhoi cyfle

  1. Mynd i’r afael â’r rhai sydd wedi’u heithrio’n ddigidol.
  2. Dileu rhwystrau dilysu.
  3. Dileu rhwystrau i ddefnyddio’r ap.
  4. Cael gwared ar rwystrau i brofi hunaniaeth yn bersonol mewn Swyddfa Bost.
  5. Dileu rhwystrau i ateb cwestiynau dilysu yn seiliedig ar wybodaeth (KBV).
  6. Caniatáu i ddefnyddwyr gael help gan bobl y maent yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt.
  7. Cefnogi pobl ifanc 13 i 17 oed.
  8. Gwella hygyrchedd GOV.UK One Login.

Cysylltiadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gwmpas ac allbwn yr arolwg hwn, cysylltwch â:

Helena Trippe Pennaeth UCD, GOV.UK One Login helena.trippe@digital.cabinet-office.gov.uk

Pablo Romero Arweinydd Ymchwil Defnyddwyr, GOV.UK One Login pablo.romero@digital.cabinet-office.gov.uk