Guidance

Arweiniad i rieni sydd wedi gwahanu: plant a’r llys teulu (CB7)

Updated 29 April 2024

Rhagarweiniad

Mae’n gallu bod yn anodd penderfynu beth ddylai ddigwydd i’ch plant ar ôl i chi a’ch partner wahanu. Efallai na fyddwch chi’n gallu cytuno gyda phwy y dylai eich plant fyw, neu bwy y dylent weld.

Gallai’r arweiniad hwn eich helpu, p’un a ydych yn meddwl am ddod i’r llys ynteu eisoes yn cymryd rhan mewn achos llys. Mae’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am broses y llys ac mae’n rhoi cyngor am sut y dylech ymddwyn yn y llys a beth i’w ddisgwyl tra byddwch yno.

Dylai mynd i’r llys fod y dewis olaf. Mae yna lawer o ffyrdd eraill o ddod i gytundeb ynghylch beth ddylai ddigwydd gyda’ch plant.

[Gall y cynllun rhianta(https://www.cafcass.gov.uk/grown-ups/parenting-plan.aspx) eich helpu chi a’ch partner i gytuno sut y byddwch yn rhan o fywydau eich plant ar ôl i chi wahanu.

Os ydych yn cynrychioli eich hun, dylech wylio ein fideos ar-lein cyn gwneud eich cais. Mae’r fideos yn egluro mwy am y broses gyfryngu, am wneud eich cais, beth fydd yn digwydd yn y llys, a byddant yn eich helpu i baratoi ar gyfer y gwrandawiad:

Penderfynu beth ddylai ddigwydd gyda’ch plant

Gall rhieni’n gwahanu fod yn gyfnod anodd i rieni a phlant. Waeth pa mor galed yr ydych yn ceisio osgoi hyn, mae’n debygol iawn y bydd eich plant yn ymwybodol o bryderon, gofidiau a theimladau negyddol y bydd gennych. Efallai yr hoffai eich plant fynegi barn am eu dyfodol, yn enwedig os ydynt yn hŷn, felly cymerwch amser i egluro iddynt beth sydd yn digwydd i’w teulu ac i wrando arnynt.

Gall gwrando ar eich plant fod yn allweddol i’w helpu nhw a chi i ddeall beth sydd orau iddyn nhw. Mae’n bwysig eich bod yn gwrando’n ofalus ar eich plant ond nad ydych yn rhoi pwysau arnynt i roi eu barn, neu’n gofyn iddynt ddewis rhwng un rhiant neu’r llall. Bydd gwrando ar anghenion, dymuniadau a theimladau eich plant yn eich helpu chi a’r rhiant arall i wneud gwell penderfyniadau am ddyfodol eich plant.

Mae’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass) wedi cynhyrchu llyfryn am ddim o’r enw ‘Y Cynllun Rhianta’ i’ch helpu chi a’ch cynbartner i gytuno ar beth allai weithio orau i’r ddau ohonoch ac i’ch plant, heb fynd i’r llys.

Mae’r Cynllun Rhianta yn adnodd sy’n eich helpu chi fel rhiant i feddwl beth mae eich plant ei angen, i helpu i lywio penderfyniadau ymarferol am eu dyfodol, ac i benderfynu sut byddwch chi a’r rhiant arall yn rhan o fywyd eich plant. Mae’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ar reoli emosiynau a gwrando ar farn eich plant. Mae hefyd yn cynnwys help gyda chyfathrebu fel rhieni sydd wedi gwahanu a gwrando’n ofalus ar eich plant.

Mae’r Cynllun Rhianta a gwybodaeth arall ar gael ar wefan Cafcass ac ar wefan Cafcass Cymru. Mae copïau o’r cynllun hefyd ar gael yn y llysoedd, swyddfeydd cyfryngwyr, swyddfeydd Cafcass a Cafcass Cymru.

Gwneud eich trefniadau heb fynd i’r llys (cyfryngu)

Mae cyfryngu teuluol yn un ffordd o setlo gwahaniaethau yn ystod ac ar ôl gwahanu neu ysgaru. Bydd cyfryngwr hyfforddedig yn eich helpu chi a’ch cynbartner i wneud trefniadau ar gyfer gofalu am eich plant a/neu gyllid. Mae cyfryngwr yn unigolyn annibynnol cymwysedig; ni fydd yn ochri â neb nac yn ceisio dod â chi’n ôl at eich gilydd.

Gall cyfryngu eich helpu chi a’ch cynbartner i gytuno gyda’ch gilydd ar drefniadau ar gyfer eich plant drwy siarad am bethau. Mae cyfryngwr yn ddiduedd ac ni fydd yn dweud wrthych beth i’w wneud, ond gall eich helpu chi a’r rhiant arall i wneud penderfyniadau er lles pennaf eich plant.
Mae’n gyfle i chi wneud eich trefniadau eich hun, yn hytrach na bod gorchymyn llys yn cael ei wneud na fydd un ohonoch, neu o bosib y ddau ohonoch, yn hapus ag o.

Cyfryngu teuluol

Gall cyfryngu teuluol fod yn gyflymach, yn rhatach ac yn haws na mynd i’r llys. Mae nifer o rieni sy’n gwahanu yn gallu datrys eu problemau heb ofyn i Farnwr wneud y penderfyniad drostynt. Gallwch gael help ar ddod i gytundeb gyda’r rhiant arall ynghylch eich plant a darganfod beth yw’r opsiynau sydd gennych.

Hyd yn oed os ydych chi neu’r rhiant arall dal eisiau mynd i’r llys, rhaid i chi fynychu Cyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (MIAM) yn gyntaf, oni bai eich bod wedi eich esemptio. Mae ffurflen C100 y llys yn rhoi manylion o esemptiadau dilys. Os ydych yn gymwys, gallwch gael cymorth cyfreithiol ar gyfer y MIAM ac ar gyfer unrhyw sesiynau cyfryngu teuluol y penderfynwch gymryd rhan ynddynt. Os yw o leiaf un rhiant yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ar gyfer cyfryngu, bydd yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn talu am y MIAM a’r sesiwn cyfryngu gyntaf ar gyfer y ddau riant. Darganfyddwch mwy am wneud trefniadau ar gyfer eich plant.

Os gwnewch gais am orchymyn llys, bydd y llys yn gofyn eich bod wedi mynychu MIAM yn gyntaf i ystyried gyda’r cyfryngwr a’r rhiant arall a fyddai cyfryngu’n ffordd addas o setlo’r anghydfod. Bydd y llys hefyd yn gofyn bod eich cynbartner yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw os yw’r cyfryngwr wedi gofyn iddo/iddi fod yno. Gallwch chi neu’r rhiant arall ofyn am gael gweld y cyfryngwr ar wahân pe bai’n well gennych wneud hyn.

Beth sy’n digwydd mewn sesiwn cyfryngu?

Bydd cyfryngwr hyfforddedig yn eich helpu chi a’r unigolyn arall i siarad am y pethau na allwch gytuno arnynt. Bydd y cyfryngwr yn eich helpu chi’ch dau i weld a oes unrhyw ffordd y gallwch gytuno â’ch gilydd neu ddod i drefniant.

Nid yw pob achos yn addas ar gyfer cyfryngu, yn enwedig os bu trais yn y berthynas neu os oes pryderon difrifol eraill am les. Bydd y cyfryngwr yn gallu eich helpu i benderfynu a yw eich amgylchiadau’n addas ar gyfer cyfryngu, ac ni fydd yn dechrau cyfryngu os nad yw’n credu bod hynny’n briodol.

Fel arfer, bydd unrhyw beth y siaradwch amdano mewn sesiwn cyfryngu’n aros yn breifat ac ni chaiff y llys wybod amdano, oni chaiff materion eu codi sy’n ymwneud ag amddiffyn plant neu droseddau honedig. Rhaid talu am gyfryngu, ond mae’n bosib y gallwch gael cymorth cyfreithiol i helpu i dalu’r ffi.

Os ydych chi’n penderfynu eich bod dal eisiau mynd i’r llys, bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth i’r llys eich bod naill ai wedi mynychu MIAM neu eich bod wedi’ch esemptio rhag gorfod mynychu MIAM. Os ydych wedi mynychu MIAM, yna rhaid i’r cyfryngwr a gynhaliodd y sesiwn lenwi’r adran berthnasol ar ffurflen C100 i gadarnhau eich bod wedi mynychu a llofnodi eu henw. Os yw’r cyfryngwr yn credu eich bod wedi’ch esemptio, yna rhaid iddynt nodi pa esemptiad sy’n berthnasol a llofnodi eu henw. Os ydych chi eich hun yn credu eich bod wedi’ch esemptio rhag gorfod mynychu MIAM, yna mae’n rhaid ichi nodi pa reswm sy’n berthnasol i chi. Nid oes angen ichi ofyn i gyfryngwr lofnodi’r ffurflen os mai chi sy’n gwneud y cais am esemptiad. Chwilio am eich cyfryngwr teuluol agosaf.

Gwneud cais am orchymyn llys

Darllenwch daflen CB1 sy’n rhoi gwybodaeth i chi am y gwahanol orchmynion llys y gallwch wneud cais amdanynt, pwy all wneud cais, a sut i lenwi’r ffurflenni. Gan ddibynnu ar y math o orchymyn yr ydych eisiau gwneud cais amdano, efallai y bydd rhaid i chi lenwi ffurflenni gwahanol. Gallwch gael taflen CB1 ar-lein neu gan swyddfa unrhyw lys teulu.

I ddechrau’r broses llys, fel arfer bydd rhaid i chi lenwi ffurflen C100 i ofyn am un neu fwy o’r 3 math o orchymyn llys a nodir yn adran 8 Deddf Plant 1989. Dyma’r 3 math o orchymyn llys.

Gorchymyn Trefniadau Plant

Mae gorchymyn trefniadau plant yn penderfynu gyda phwy fydd plentyn yn byw, yn treulio amser â nhw ac yn cael cyswllt â nhw (a allai gynnwys drwy lythyrau neu alwadau ffôn), a phryd ddylai hyn ddigwydd. Er enghraifft, os yw eich plentyn yn byw gyda’ch cynbartner a’ch bod eisiau gweld eich plentyn ar benwythnosau, neu os na allwch gytuno gyda pha riant y dylai’r plentyn fyw, efallai yr hoffech wneud cais am orchymyn trefniadau plant.

Gorchymyn Mater Penodol

Mae gorchymyn mater penodol yn ymwneud â rhywbeth penodol y bydd y naill riant neu’r llall yn ei godi ynglŷn â’r ffordd y mae’r rhiant arall yn gofalu am y plant. Er enghraifft, efallai na allwch chi a’ch cyn-bartner gytuno ar yr ysgol y dylai eich plant fynychu.

Gorchymyn Camau Gwaharddedig

Mae gorchymyn camau gwaharddedig yn atal rhiant rhag gwneud rhai pethau penodol heb ganiatâd y llys. Er enghraifft, efallai y byddwch chi (neu eich cyn-bartner) angen caniatâd y llys cyn mynd â’r plant dramor.

Dylech lenwi ffurflen C100 os hoffech wneud cais am unrhyw un o’r gorchmynion hyn. Gallwch hefyd gael ffurflen C100 gan y llys.

Os ydych yn gwneud cais am orchymyn llys, rhaid i chi hefyd dalu ffi. Gallwch ddarllen am y gwahanol fathau o geisiadau, a faint y bydd rhaid i chi ei dalu, yn nhaflen EX50. Mae’r daflen hon hefyd ar gael gan y llys.

Beth fydd y llys yn ei wneud?

Bydd y llys yn ceisio eich helpu chi a’r rhiant arall i gytuno ar ddull cadarnhaol o ofalu am eich plant ar y cyd. Rydych yn dal i rannu’r cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau am eich plant; nid yw hyn yn stopio am eich bod chi a’r rhiant arall wedi gwahanu. Fel arfer, mae’n well os gallwch ddod i gytundeb eich hun (gyda chymorth y llys os oes angen) yn hytrach na bod y llys yn gorfod penderfynu drosoch. Gall llys orchymyn llawer o wahanol drefniadau ar gyfer teuluoedd.

Bydd beth fydd y llys yn ei orchymyn yn dibynnu ar fanylion pob achos; gall y rhain fod yn wahanol ar gyfer pob teulu a phob plentyn. Wrth siarad am eich achos yn y llys, mae’n bwysig eich bod yn canolbwyntio ar anghenion eich plant. Lles eich plant fydd blaenoriaeth y llys bob amser. Bydd yn gwneud yr hyn y mae’n ei ystyried sydd orau i’r plant, a gall hyn fod yn wahanol i’r hyn y byddech chi’n ei ddewis.

Cynrychioli eich hun yn y llys

Ers mis Ebrill 2013, nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gymwys am gymorth cyfreithiol neu gynrychiolaeth yn ddi-dâl yn y llys mewn anghydfodau teuluol, oni bai bod tystiolaeth ysgrifenedig o drais domestig neu bryderon am gam-drin plant. Os dewch i’r llys heb y math hwn o dystiolaeth, bydd angen i chi dalu am gyfreithiwr i’ch cynrychioli os ydych yn penderfynu yr hoffech gael cynrychiolaeth gyfreithiol, neu bydd angen i chi gynrychioli eich hun. Mae gwasanaethau cymorth eraill ar gael - er enghraifft, gallech gysylltu â Cyngor ar Bopeth oherwydd efallai y gallant gynnig rhywfaint o help i chi gyda’ch anghydfod).

Bydd canolfan y gyfraith, asiantaeth gynghori neu Cyngor ar Bopeth yn gallu dweud wrthych a ydych yn gymwys. Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol. Mae’r gwasanaeth yn ddi-dâl ac mae ar gael 24 awr y dydd a bydd yn rhoi manylion i chi am sut i gysylltu â’r Cyngor Cyfreithiol Sifil neu o ble y gallwch gael cyngor wyneb yn wyneb (os yw hynny’n briodol). Os nad ydych yn gymwys am gymorth cyfreithiol, bydd yn dweud wrthych ble y gallwch gael mwy o wybodaeth neu gyngor i’ch helpu.

Os nad oes gennych gyfreithiwr, bydd rhaid i chi siarad drosoch eich hun yn y llys - efallai y byddwch yn darllen neu’n clywed eraill yn cyfeirio atoch fel ‘ymgyfreithiwr drosto’i hun’. Bydd angen i chi benderfynu drosoch eich hun sut i gyflwyno eich achos i’r llys. Gall staff y llys ddweud wrthych ble i gael ffurflenni’r llys, taflenni a chyfarwyddyd am blant a’r llysoedd teulu, a gallant egluro proses y llys i chi, ond ni chânt ddweud wrthych beth y dylech ei wneud ynglŷn â’ch achos.

Pan fyddwch yn cyrraedd y llys, gall eich achos gael ei wrando gan farnwr, gan gynghorydd cyfreithiol neu gan banel o ynadon. Gall gymryd mwy nag un gwrandawiad i setlo’r anghydfod neu i’r llys wneud gorchymyn.

Mae’r llys yn deall na all nifer o bobl fforddio talu am gyfreithiwr, ac y byddant felly yn penderfynu cynrychioli eu hunain yn y llys. Ni fydd y barnwr, y cynghorydd cyfreithiol neu’r ynadon sy’n gwrando eich achos yn meddwl bod hyn yn anarferol a bydd y llys yn gwneud popeth o fewn rheswm i wneud yn siŵr eich bod yn cael gwrandawiad teg. Ni fydd y llys yn disgwyl i chi ddeall cyfraith teulu, ond bydd angen i chi baratoi eich achos mor ofalus â phosibl fel bod y llys yn deall beth ydych eisiau a pham.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am gynrychioli eich hun yn y llys.

Paratoi ar gyfer y llys

Mae’n hollbwysig eich bod yn llenwi eich ffurflen C100 yn iawn cyn ei hanfon i’r llys, gan gynnwys eich rhif ffôn a rhif ffôn y rhiant arall, os ydych yn ei wybod. Os na wnewch hyn, gallai eich achos gael ei ohirio oherwydd bydd angen i’r llys ofyn i chi am fwy o wybodaeth.

Bydd y llys yn anfon ‘hysbysiad o wrandawiad’ atoch chi a’r atebydd, sy’n nodi dyddiad ac amser y gwrandawiad a chyfeiriad y llys lle cynhelir y gwrandawiad. Bydd yr atebydd yn cael copi o’ch cais hefyd.

Bydd y llys hefyd yn anfon eich gwybodaeth at Cafcass neu at Cafcass Cymru os ydych yn byw yng Nghymru. Bydd Cafcass yn rhoi barn annibynnol i’r llys am yr hyn a fyddai er lles pennaf eich plant. Gwaith Cafcass a Cafcass Cymru yw cynghori’r llys i ddiogelu a hybu lles plant sy’n ymwneud ag achosion llys teulu. Byddant yn edrych yn ofalus ar yr hyn yr ydych chi a’r rhiant arall wedi’i ddweud am drais neu gam-drin ac yn cynnal archwiliadau diogelu.

Mae’n bosib y bydd Cafcass yn cysylltu â’r naill riant neu’r llall (dros y ffôn fel arfer) i drafod yr hyn sydd wedi’i ysgrifennu ar ffurflenni’r llys. Dim ond am bethau sy’n ymwneud â diogelwch eich plant y byddant yn gofyn i chi siarad amdanynt. Ni fyddant yn gofyn i chi am y pethau na allwch gytuno amdanynt – cewch gyfle i siarad am y rhain yn y gwrandawiad cyntaf.

Bydd Cafcass yn dweud wrth y llys am ganlyniadau eu harchwiliadau, a bydd hynny’n helpu’r llys i benderfynu beth fydd orau i’ch plant. Ni fydd Cafcass yn siarad â’ch plant ar yr adeg hon. Lle’r llys yw penderfynu, yn y gwrandawiad cyntaf, sut i gynnwys eich plant yn yr achos.

I’ch helpu i baratoi am y gwrandawiad cyntaf, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi nodi’r hyn yr hoffech ei ddweud yn y llys.

Yn gyffredinol, ni ddylai plant ddod i’r llys oni bai eu bod yn rhan o broses y llys, er enghraifft os ydynt yn dyst, neu os oes gennych apwyntiad i chi neu eich plentyn i gyfarfod â’r barnwr. Os oes rhaid i chi ddod â’ch plentyn gyda chi am unrhyw reswm arall, dylech ddod â ffrind sy’n oedolyn neu aelod o’r teulu gyda chi hefyd i edrych ar eu hôl tra byddwch yn yr ystafell wrandawiadau, oherwydd ni all staff y llys edrych ar ôl eich plentyn.

Cael ffrind i’ch cefnogi yn y llys

Efallai yr hoffech i ffrind neu unigolyn arall eich helpu i baratoi eich achos a bod gyda chi yn y llys i’ch cefnogi, neu efallai yr hoffech ddod â rhywun gyda chi sydd ddim yn gyfreithiwr ond sy’n gwybod sut y mae’r llys teulu’n gweithio. Gelwir unrhyw un sy’n dod i’r llys i’ch helpu yn unrhyw un o’r ffyrdd hyn yn ‘Gyfaill McKenzie’.

Cewch ofyn i gael defnyddio cyfaill McKenzie os nad oes gennych gyfreithiwr, ond rhaid i’r llys gytuno â hyn. Os yw’r llys yn caniatáu i chi ddefnyddio cyfaill McKenzie, byddant yn gallu:

  • bod yn gefn i chi *cymryd nodiadau *helpu gyda phapurau’r achos
  • rhoi cyngor i chi yn y llys am bwyntiau cyfreithiol neu’r broses, neu faterion yr ydych eisiau codi
  • eich helpu gyda chwestiynau yr hoffech eu gofyn i unrhyw dystion yn y llys

Ni chaiff cyfaill McKenzie weithredu ar eich rhan fel y byddai cyfreithiwr yn ei wneud. Ni chaiff siarad yn uniongyrchol â’r llys na gofyn cwestiynau i dystion. Ni chaiff lofnodi dogfennau ar eich rhan ychwaith.

Rhaid i chi ddweud wrth y llys a’r rhiant arall am eich cyfaill McKenzie. Gall hyn fod yn ysgrifenedig cyn i chi fynd i’r llys, neu yn y gwrandawiad ei hun. Os ydych yn y gwrandawiad cyntaf ar eich pen eich hun, cewch ddweud wrth y llys eich bod yn bwriadu defnyddio cyfaill McKenzie ym mhob gwrandawiad arall. Bydd angen i chi roi rhywfaint o wybodaeth i’r llys am eich cyfaill McKenzie, megis eu profiad blaenorol ac unrhyw sefydliadau y maent yn aelod ohonynt. Gall y llys wrthod gadael i unigolyn weithredu fel cyfaill McKenzie os yw’n credu y gallai’r unigolyn dan sylw ei gwneud yn anodd iddynt gynnal gwrandawiad teg.

Os dewch â’ch cyfaill McKenzie i’r llys cyn i chi ddweud wrth y llys neu’r rhiant arall amdanynt, dylech eu cyflwyno i gyfreithiwr neu fargyfreithiwr y rhiant arall cyn i’r gwrandawiad ddechrau. Pan fydd eich gwrandawiad yn dechrau, dylech ofyn yn gyntaf i’r llys adael i’ch cyfaill McKenzie fod yno gyda chi, gan fod achosion teulu’n cael eu gwrando’n breifat. Os yw’r llys yn cytuno, dylech eu cyflwyno.

Beth fydd yn digwydd yn y llys

Bydd y gwrandawiad cyntaf yn eithaf anffurfiol ac fel arfer caiff ei gynnal mewn ystafell fach o’r enw ‘ystafell gwrandawiadau’ neu ‘siambrau’ sy’n siŵr o fod yn wahanol i’r ystafelloedd llys mawr y byddwch wedi’u gweld ar y teledu. Bydd pawb yn y llys yn eich trin chi ag urddas a pharch, ac mae’n bwysig eich bod yn eu trin hwy i gyd yn yr un modd.

Diben y gwrandawiad cyntaf yw canfod beth yw’r materion yn eich achos a gweld beth y gellir ei wneud i’w setlo.

Yn y gwrandawiad cyntaf

Bydd y llys wedi anfon dyddiad y gwrandawiad cyntaf atoch ar ‘Hysbysiad C6’. Bydd yr hysbysiad C6 yn cynnwys amser y gwrandawiad ac yn nodi pa mor hir y dylai bara. Bydd hefyd yn dweud wrthych faint o’r gloch i gyrraedd. Dylech geisio bod yno o leiaf 30 munud yn gynnar i sicrhau na fyddwch wedi cynhyrfu nac yn gorfod rhuthro. Byddwch yn amyneddgar os bydd gofyn i chi aros am dipyn cyn i’r gwrandawiad ddechrau.

Ar ôl i chi gyrraedd y llys, ewch at aelod o staff y llys i ddweud wrthynt eich bod wedi cyrraedd. Gallant fod wrth ddesg neu yn nerbynfa’r llys. Byddant yn gofyn ai chi yw’r ceisydd (yr unigolyn sydd wedi gofyn am y gwrandawiad) ynteu’r atebydd (yr unigolyn arall). Dylech ddweud wrthynt os oes gennych gyfreithiwr neu gyfaill McKenzie gyda chi.

Cofiwch y cewch dal benderfynu gweld cyfryngwr gyda’r rhiant arall unrhyw bryd, hyd yn oed ar ôl i’ch achos ddechrau. Gall y barnwr, y cynghorydd cyfreithiol neu’r ynadon ohirio’r gwrandawiad cyntaf er mwyn i chi a’r rhiant arall roi cynnig ar gyfryngu.

Y bobl eraill fydd yno

Bydd y llys yn gofyn i chi a’r rhiant arall ddod i’r gwrandawiad. Bydd y barnwr, y cynghorydd cyfreithiol neu’r panel o ynadon, rhywun o Cafcass a chyfryngwr (os oes un ar gael) yno hefyd, yn ogystal â chyfreithiwr y rhiant arall, os oes ganddo/i un. Dylech alw’r barnwr, y cynghorydd cyfreithiol neu’r ynadon yn ‘syr’ neu ‘madam’. Bydd y llys a chynghorydd llys teulu Cafcass yn ceisio helpu’r ddau ohonoch i ddod i gytundeb. Weithiau, bydd rhieni’n gallu cytuno ar eu hachos ar yr adeg hon, felly mae’n bwysig iawn eich bod yn siarad â’r rhiant arall.

Mae cyfryngwyr ar gael yn y llys mewn nifer fach o lysoedd, ac os ydych yn un o’r llysoedd hyn, efallai y cewch chi a’r rhiant arall gynnig i drafod eich achos â chyfryngwr. Os byddwch chi a’r rhiant arall yn cytuno i geisio dod i gytundeb drwy gyfryngu, gall y barnwr, y cynghorydd cyfreithiol neu’r ynadon ohirio’r achos. Os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ar gyfer cyfryngu, bydd yn ddi-dâl; fel arall, bydd rhaid i chi dalu amdano.

Sut i ymddwyn yn y gwrandawiadau

Ceisiwch beidio â chynhyrfu a pheidiwch â thorri ar draws y sawl sy’n siarad. Peidiwch ag anghofio y cewch chithau gyfle hefyd i ddweud beth sydd ar eich meddwl. Efallai y byddai o gymorth i chi ddod â beiro a phapur ac unrhyw bapurau’r llys gyda chi. Cewch hefyd ddod â’ch gliniadur os oes gennych un. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw beth sy’n cael ei ddweud, gwnewch nodyn ohono fel y gallwch gofio sôn amdano pan ddaw eich tro chi i siarad. Os oes gennych gyfaill McKenzie, gallant eich helpu i gymryd nodiadau am yr hyn sy’n cael ei ddweud.

Cewch gyfle i ddweud eich ochr chi o’r stori, ond rhaid i chi adael i’r unigolyn arall orffen siarad â’r llys yn gyntaf.

Ystyr rhoi tystiolaeth yw eich bod yn adrodd stori eich achos. Efallai y cewch eich holi am yr wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi i’r llys. Mae’n debyg y bydd gofyn i chi dyngu llw neu gadarnhau (gwneud datganiad ffurfiol) i addo dweud y gwir wrth y llys. Efallai y gwnaiff y llys hefyd ganiatáu i chi ofyn cwestiynau am yr hyn y mae’r unigolyn arall wedi’i ddweud wrth y llys – yr enw ar hyn yw ‘croesholi’. Os mai chi sy’n rhoi tystiolaeth yn gyntaf, siaradwch yn glir am hanes eich achos. Pan ddaw eich tro, gallwch ofyn cwestiynau i’r unigolyn arall am ei achos ef/hachos hi. Os mai’r rhiant arall sy’n rhoi tystiolaeth yn gyntaf, gwnewch yn siŵr bod eich cwestiynau’n ymwneud â’r hyn y maent newydd ei ddweud, ac nid â’ch achos chi. Cewch gyfle yn hwyrach ymlaen i siarad am y pethau yr hoffech chi eu dweud.

Os ydych yn cyhuddo’r rhiant arall o rywbeth difrifol, mae’n debygol y bydd y llys eisiau i chi roi tystiolaeth bod yr hyn yr ydych wedi’i ddweud yn wir. Ni ddylech ddweud unrhyw beth am y rhiant arall nad yw’n wir.

I gael rhagor o wybodaeth am rai o’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir mewn achosion plant cyfraith breifat, cyfeiriwch at daflen CB6. Gallwch hefyd gael copi o daflen CB6 gan y llys.

Dod i gytundeb yn y llys

Os gallwch chi gytuno am eich plant, bydd y llys yn penderfynu a oes angen gorchymyn llys arnoch i’ch helpu i sicrhau bod y cytundeb yn gweithio. Bydd y llys yn ysgrifennu gorchymyn yn seiliedig ar yr hyn yr ydych wedi cytuno arno. Gelwir hyn yn ‘gorchymyn cydsynio’. Os nad ydych yn cytuno, ond bod y llys yn credu bod angen gorchymyn, bydd yn ysgrifennu gorchymyn ar sail y penderfyniadau y mae’n credu yw’r gorau i’ch plant. Gwiriwch y gorchymyn yn ofalus i wneud yn siŵr ei fod yn dweud yr hyn y mae’r llys wedi’i benderfynu. Mae’n llawer gwell eich bod yn cymryd rhan yn y broses o ffurfio unrhyw gytundeb am eich plant, yn hytrach na bod y llys yn penderfynu ar orchymyn ac yn ei roi i chi. Mae cytundeb wedi’i ffurfio rhwng y rhieni’n llawer mwy tebygol o weithio na gorchymyn wedi’i benderfynu gan y llys.

Os yw’r llys yn credu y byddai o fudd i’r ddau ohonoch siarad mwy, gall gymryd egwyl (o’r enw gohiriad) er mwyn i chi, y rhiant arall a Cafcass gael siarad am yr hyn sydd orau i’ch plant. Gall y llys hefyd gyfarwyddo bod y ddau ohonoch yn mynychu cyfarfod asesu a gwybodaeth am gyfryngu, os nad ydych wedi gwneud hyn yn barod a bod y llys yn credu nad oes rheswm i chi beidio â mynychu cyfarfod o’r fath. Gan amlaf, byddwch yn gweld y barnwr, yr ynadon neu’r cynghorydd cyfreithiol yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw, ond weithiau bydd rhaid i chi ddod yn ôl ar ddiwrnod arall.

Nid yw bob amser yn bosibl i bawb gytuno. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd y llys yn penderfynu a ddylid cynnal gwrandawiad arall ac os dylid, pryd y dylai hynny ddigwydd. Bydd y llys yn gwneud gorchymyn i ddweud beth fydd diben y gwrandawiad nesaf a pha adroddiadau neu ddatganiadau sydd eu hangen i’w helpu i wneud penderfyniad am eich achos. Bydd y llys yn dweud wrthych erbyn pa ddyddiad y dylech anfon eich papurau i’r llys ac at y rhiant arall. Os yw’r achos yn eithaf syml, gall y llys, yn y gwrandawiad cyntaf, bennu amserlen ar gyfer ymdrin â’r achos cyfan.

Bydd y llys hefyd yn penderfynu yn y gwrandawiad cyntaf beth fydd y ffordd orau o gael gwybod sut y mae eich plant yn teimlo am y sefyllfa a beth yr hoffent weld yn digwydd. Gall y llys orchymyn adroddiad Cafcass (caiff hwn ei alw’n ‘adroddiad adran 7’). Mae hyn yn golygu y bydd swyddog o Cafcass yn cyfweld â chi a’r rhiant arall ar wahân. Mae hefyd yn debygol iawn y bydd angen i’r swyddog gyfarfod â’ch plant, ar eu pennau eu hunain os yw eich plant yn ddigon hen, neu gyda chi neu’r rhiant arall (neu’r ddau ohonoch). Bydd angen i chi hefyd anfon eich datganiadau i Cafcass os ydynt yn paratoi adroddiad. Os yw eich plant eisoes yn cael gwasanaethau gan wasanaethau plant yr awdurdod lleol, efallai y bydd y llys yn penderfynu gofyn i’r awdurdod lleol baratoi’r adroddiad.

Efallai y bydd y swyddog Cafcass yn gofyn i’ch plentyn os hoffent gyfarfod â’r barnwr i helpu eich plentyn i ddeall beth sy’n digwydd. Gall eich plentyn neu’r barnwr ofyn am gyfarfod hefyd. Os cynigir neu os gofynnir am gyfarfod, fe ofynnir i chi roi eich barn ar p’un a ddylid cynnal y cyfarfod ond y barnwr fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Bydd y llys yn egluro pwrpas y cyfarfod.

Os oes gan y rhiant arall gyfreithiwr, efallai y bydd y llys yn gofyn iddynt ddrafftio unrhyw orchymyn a wneir. Os yw cyfreithiwr y rhiant arall yn cytuno i wneud hyn, dylech wirio’r gorchymyn cyn iddo gael ei roi’n ôl i’r barnwr neu’r cynghorydd cyfreithiol rhag ofn bod unrhyw beth wedi’i anghofio neu fod angen newid unrhyw beth.

Ysgrifennu datganiad ar gyfer eich achos

Os yw’r llys yn gofyn i chi baratoi datganiad a’i anfon i’r llys, dylech fod yn glir am yr hyn yr ydych ei eisiau a pham, ond dylech geisio ei gadw’n gryno. Diben datganiad yw rhoi disgrifiad byr o gefndir eich achos i’r llys. Dylech ddweud pam roedd angen i chi wneud cais am gymorth y llys, beth yr hoffech i’r llys ei wneud a pham yr ydych yn teimlo mai dyna fyddai’r peth gorau i’ch plant. Mae’n syniad da dweud beth yr ydych chi a’r rhiant arall yn cytuno arno, a beth yr ydych yn dal i anghytuno arno. Bydd hyn yn eich arbed chi a’r llys rhag gwastraffu amser. Os ydych yn anfon datganiad i’r llys, bydd angen i chi anfon copi at y rhiant arall hefyd (neu at gyfreithiwr y rhiant arall, os oes ganddo/ganddi un). Dylech gadw copi o bob dogfen yr ydych yn ei hanfon.

Bydd yn haws i’r llys ddeall eich datganiad os yw wedi’i deipio ar bapur A4. Bydd o gymorth os gallwch roi’r digwyddiadau yn y drefn y gwnaethant ddigwydd, a rhifo pob paragraff. Ysgrifennwch enw’r llys a rhif eich achos ar unrhyw beth yr ydych yn anfon i’r llys. Os ydych yn gwybod dyddiad y gwrandawiad nesaf, dylech ysgrifennu hwn ar eich papurau hefyd – bydd yn helpu staff y llys i’w rhoi ar ffeil y llys yn gyflym. Dylech lofnodi a dyddio eich holl bapurau.

Fel arfer, bydd angen i’ch papurau gyrraedd y llys dau ddiwrnod gwaith cyfan cyn y gwrandawiad, ond weithiau efallai y gofynnir i chi anfon papurau i’r llys neu at y rhiant arall yn gynharach na hyn. Ewch â rhai copïau sbâr o’ch datganiad gyda chi i’r llys fel y gall pobl eraill yn y llys ei weld. Gwnewch yn siŵr eich bod yn llofnodi ac yn dyddio’r copïau, ac yn cadw un i chi eich hun.

Honiadau o niwed

Os ydych wedi dweud bod y rhiant arall wedi bod yn dreisgar neu wedi achosi camdriniaeth, dywedir eich bod yn gwneud ‘honiadau o niwed’. Nid dim ond mater o sut y mae’r rhiant arall wedi eich trin chi yw niwed; mae angen ystyried hefyd a oedd eich plant yno ar y pryd ac unrhyw effaith y byddai gweld neu glywed ymddygiad treisgar neu gamdriniaeth wedi’i gael arnynt hwy.

Os ydych wedi gwneud honiadau o niwed yn erbyn y rhiant arall ac nad ydych yn teimlo’n ddiogel yn eu hwynebu yn adeilad y llys, dylech roi gwybod i’r llys cyn gynted â phosibl cyn eich gwrandawiad. Gall y llys wneud trefniadau i helpu i wneud i chi deimlo’n ddiogel, megis darparu mannau aros ar wahân i chi a’r rhiant arall, neu drefnu i chi roi tystiolaeth o leoliad arall gan ddefnyddio cyswllt fideo. Noder y bydd unrhyw drefniadau penodol yn amodol ar gyfleusterau lleol a bydd rhaid gwneud cais i’r llys gan roi cymaint o rybudd ag sy’n bosibl, ond dylid gwneud y cais dim hwyrach na 10 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad (oni bai ei fod ar gyfer gwrandawiad brys ar fyr rybudd) oherwydd efallai y byddai angen caniatâd y barnwr.

Os yw’r rhiant arall yn gwadu’r honiadau o niwed, bydd y llys yn penderfynu a oes angen ‘gwrandawiad i ganfod y ffeithiau’. Mewn gwrandawiad i ganfod y ffeithiau, bydd y llys yn penderfynu a yw’r hyn yr ydych wedi dweud bod y rhiant arall wedi’i wneud yn wir. Yna, bydd y llys yn penderfynu a fyddai’r gorchymyn yr ydych wedi gofyn amdano’n rhoi eich plant, neu unrhyw un arall, mewn perygl. Mae’n bwysig cofio y bydd gwrandawiad i ganfod y ffeithiau yn penderfynu a yw rhywbeth yn wir yn seiliedig ar p’un a yw’r dystiolaeth yn dangos a yw’n fwyaf tebygol ei fod wedi digwydd ynteu heb ddigwydd.

Gwrandawiad terfynol

Mae’r gwrandawiad terfynol yn eithaf gwahanol i’r gwrandawiadau eraill y byddwch wedi bod ynddynt, ac mae’n debygol y bydd yn digwydd mewn ystafell llys fwy i ganiatáu lle i unrhyw dystion neu arbenigwyr y mae angen iddynt fynychu. Gall mynychu gwrandawiad terfynol achosi i bawb sy’n ymwneud â’r achos deimlo dan straen. Dyma eich cyfle i argyhoeddi’r llys eich bod yn gwneud eich gorau i ddiogelu lles pennaf eich plant.

Os yw’r rhiant arall wedi bod yn defnyddio cyfreithiwr, mae’n debygol y byddwch wedi cyfarfod ag ef/â hi yn y gwrandawiadau blaenorol. Yn y gwrandawiad terfynol, mae’n bosibl y bydd gan y rhiant arall fargyfreithiwr na fyddwch wedi cyfarfod ag ef/â hi o’r blaen. Os ydych yn meddwl y byddai’n ddefnyddiol siarad â’r bargyfreithiwr am unrhyw beth y tu allan i’r ystafell llys, mae croeso i chi siarad ag ef/â hi. Efallai y bydd y bargyfreithiwr yn dod i siarad â chi am yr un rhesymau. Yn aml, bydd unrhyw beth y gallwch ei setlo fel hyn yn gallu helpu’r llys i wneud penderfyniad yn gyflymach.

Hyd yn oed os nad ydych eisiau siarad am eich achos, mae’n werth cyflwyno eich hun i fargyfreithiwr y rhiant arall. Os oes gennych bapurau i’w rhoi iddo/iddi, dylech wneud hynny cyn i’r gwrandawiad ddechrau. Gall staff y llys eich helpu os na allwch ddod o hyd iddynt neu os byddai’n well gennych beidio â siarad yn uniongyrchol ag ef/â hi neu â’r rhiant arall. Ni ddylai presenoldeb bargyfreithiwr y rhiant arall beri gofid i chi. Mae’r llys yn disgwyl i bawb drin ei gilydd yn gwrtais a gyda pharch.

Paratoi a defnyddio bwndeli mewn achosion cyfraith breifat

Pam bod bwndel o ddogfennau yn bwysig?

Mae’n hynod o bwysig bod gan bawb sydd mewn gwrandawiad llys ‘fwndel’ sy’n cynnwys y dogfennau sy’n angenrheidiol i allu delio â’r materion y mae angen i’r llys benderfynu arnynt. Mae hefyd yn bwysig bod pob bwndel ond yn cynnwys y dogfennau sy’n berthnasol i’r gwrandawiad hwnnw, yn yr un drefn a gyda’r un rhifau tudalennau. Fel arall, bydd amser yn cael ei wastraffu tra bydd partïon a thystion yn ceisio dod o hyd i ddogfennau y cyfeirir atynt.

Pwy sy’n paratoi’r bwndel?

Gan amlaf y ceisydd fydd yn paratoi bwndel y llys. Os nad yw cyfreithiwr yn cynrychioli’r ceisydd ond bod parti arall yn cael ei gynrychioli gan gyfreithiwr, bydd cyfreithiwr y parti hwnnw yn paratoi’r bwndel. Os nad yw unrhyw un o’r partïon yn cael eu cynrychioli gan gyfreithiwr, yna bydd y llys yn penderfynu pwy ddylai baratoi’r bwndel.

Cynnwys y bwndel

Dylech roi’r dogfennau sy’n ymwneud â’r materion y mae angen i’r llys benderfynu arnynt yn y gwrandawiad hwnnw gyda’i gilydd mewn ffeil cylch modrwy neu ffeil braich lifer. Dylech gytuno ar y rhain gyda’r parti arall. Anfonwch restr o’r dogfennau yr ydych yn awgrymu y dylid eu cynnwys atynt (mynegai). Os na allwch gytuno, gofynnwch i’r llys p’un a ddylid cynnwys dogfen yn y bwndel neu beidio.

Peidiwch â chynnwys gohebiaeth, cofnodion meddygol neu ariannol, nodiadau ymweliadau cyswllt, ffeiliau gwasanaethau cymdeithasol neu ddadleniadau’r heddlu. Os ydych yn credu bod un o’r mathau hyn o ddogfennau yn berthnasol ac y dylid ei chynnwys yn y bwndel, yna dylech ofyn i’r llys am ganiatâd i’w chynnwys. Bydd angen ichi egluro pam yr ydych ym meddwl ei bod yn berthnasol. Dylid rhannu’r bwndel i rannau A i E.

A - Dogfennau rhagarweiniol

Y rhain yw:

  • Crynodeb cyfredol o gefndir y materion sy’n berthnasol i’r gwrandawiad hwnnw a rheolaeth yr achos (a elwir yn crynodeb yr achos) - ni ddylai fod yn hwy na 4 tudalen.
  • Datganiad o’r materion sydd i’w penderfynu yn y gwrandawiad hwn ac yn y gwrandawiad terfynol (a dylid cytuno ar hyn gyda’r parti arall).
  • Datganiad sefyllfa gan bob parti yn egluro beth maen nhw’n credu dylai ddigwydd a’r gorchmynion y byddent yn hoffi i’r llys eu gwneud yn y gwrandawiad hwn a’r gwrandawiad terfynol.
  • Cronoleg cyfredol (y digwyddiadau perthnasol yn y drefn y gwnaethant ddigwydd).
  • Unrhyw gyflwyniadau ysgrifenedig i’r llys ynghylch y materion sydd i’w penderfynu yn y gwrandawiad. (Dylid croesgyfeirio’r holl ddogfennau hyn â thudalennau’r bwndel. Gweler y nodyn isod.)
  • Rhestr o’r dogfennau yr ydych chi a’r parti arall yn meddwl y mae wirioneddol angen i’r barnwr eu darllen cyn y gwrandawiad hwn.
  • Pa mor hir ydych chi’n credu y dylai’r gwrandawiad bara (mae’n debyg na fydd y llys yn disgwyl cael gwybod hyn gennych chi fel ymgyfreithiwr drosto’i hun).

B - Ceisiadau a gorchmynion

Unrhyw geisiadau a wneir i’r llys a gorchmynion a wneir gan y llys sy’n berthnasol i’r materion sydd i’w penderfynu yn y gwrandawiad.

C – Datganiadau ac affidafidau

Dim ond y rhai hynny sy’n berthnasol i’r materion sydd i’w penderfynu yn y gwrandawiad.

D – Adroddiadau arbenigwyr

Os oes rhai o gwbl.

E – Unrhyw ddogfennau eraill

Yr ydych yn cytuno sy’n berthnasol i’r gwrandawiad neu y mae’r llys yn cyfarwyddo y dylid eu cynnwys.

Rhaid rhifo pob tudalen yn y bwndel yng nghornel gwaelod ochr dde y dudalen. Felly, bydd y dogfennau rhagarweiniol yn dechrau gydag A1, A2 ac yn y blaen. Bydd y ceisiadau a’r gorchmynion yn dechrau gyda B1, B2 ac yn y blaen.

Ceisiwch groesgyfeirio’r dogfennau rhagarweiniol gyda’r tudalennau yn y bwndel. Er enghraifft, os yw crynodeb yr achos yn crybwyll rhywbeth yr ymdriniwyd ag o mewn datganiad ar dudalen C28, dylech gynnwys [C28] yno yn y crynodeb o’r achos.

Ni ddylai’r bwndel fod dim mwy na 350 o dudalennau. Gofynnwch am ganiatâd y llys cyn mynd dros y terfyn hwn. Argraffwch ar un ochr o’r dudalen yn unig.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r bwndel, gwnewch fynegai o bob un o’r dogfennau a rhifau’r tudalennau. Rhowch y mynegai ar ddechrau’r bwndel, cyn unrhyw beth arall.

Gwnewch yn siŵr bod ochr allan y bwndel wedi’i farcio’n glir gydag enw a rhif yr achos, lle bydd yr achos yn cael ei wrando, dyddiad ac amser y gwrandawiad (ac enw’r barnwr os yw’n hysbys).

Beth ddylwn i ei wneud â’r bwndel?

Yn gyntaf, anfonwch gopi o’r mynegai at unrhyw barti arall. Efallai y byddant yn gofyn am gopi o’r bwndel cyfan. Os felly, dylech ddarparu copi ohono, er dylent dalu am unrhyw gostau rhesymol gwneud copïau.

Yna, gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon y bwndel fel ei fod yn cyrraedd y llys dim hwyrach na 2 diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad. Os oes rhywun sy’n mynd i roi tystiolaeth yn y gwrandawiad, anfonwch 2 fwndel - un i’r barnwr ac un i’r tystion.

Os bydd y gwrandawiad gerbron ynadon bydd angen i chi anfon pedwar copi o’r bwndel (ac un copi ychwanegol i unrhyw dystion).

Os nad yw’r dogfennau rhagarweiniol yn barod, anfonwch y bwndel i’r llys beth bynnag. Sicrhewch fod unrhyw ddogfennau rhagarweiniol yn cael eu danfon i’r llys erbyn 11am ar y diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad ar yr hwyraf. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â’ch bwndel gyda chi i’r llys ar gyfer y gwrandawiad.