Canllawiau

Ar ôl mynd i'r llys

Diweddarwyd 16 Awst 2023

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Os ydych wedi dioddef trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall beth allai ddigwydd ar ôl treial.

Gallwch gael mynediad i eirfa i gael rhagor o wybodaeth am y termau a ddefnyddir yn y canllaw hwn.

Gall fod yn anodd mynd trwy dreial ac mae’n naturiol bod angen amser a chymorth i brosesu’r hyn sydd wedi digwydd. Mae cymorth ar gael o hyd ar ôl y llys. Os ydych wedi bod yn derbyn cymorth gan ISVA byddant yn sicrhau bod gennych y cymorth sydd ei angen arnoch. Gallwch gael mynediad at gymorth unrhyw bryd, a gallwch gael gwybod am y sefydliadau a all helpu yn ein canllaw cymorth.

Treuliau a’ch eiddo

Os aethoch i’r llys i roi tystiolaeth neu Ddatganiad Personol Dioddefwr, efallai y gallwch hawlio treuliau. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallech fod â hawl iddo a sut i wneud cais ar gael ar dudalen gwe treuliau ar gyfer mynd i’r llys gov.uk.

Efallai y bydd yr heddlu wedi cymryd rhai o’ch eiddo i’w ddefnyddio fel tystiolaeth. Dylent ddychwelyd hwn atoch cyn gynted ag nad oes ei angen mwyach. Bydd yr heddlu yn gallu helpu os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddychwelyd eich eiddo.

Parôl

Os ydych chi’n meddwl bod y ddedfryd yn rhy drugarog

Gallwch ofyn i ddedfryd Llys y Goron rhywun gael ei hadolygu os credwch ei bod yn rhy isel. Gallwch wneud hyn drwy’r cynllun Dedfryd Rhy Drugarog (ULS). Mae’r cynllun hwn yn caniatáu ichi neu unrhyw aelod o’r cyhoedd i herio’r ddedfryda roddodd y barnwr. I wneud hyn, bydd angen i chi gysylltu â Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol. Gallwch chi wneud hyn

Os ydych am herio’r ddedfryd, dylech gysylltu â Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol cyn gynted â phosibl ar ôl i’r ddedfryd gael ei phasio. Mae hyn oherwydd os yw’r Twrnai Cyffredinol neu’r Cyfreithiwr Cyffredinol o’r farn bod y ddedfryd yn bodloni’r safonau o fod yn ‘rhy drugarog’, a bod y drosedd yn dod o dan y cynllun ULS, mae’n rhaid iddynt wneud cais i’r Llys Apêl o fewn 28 diwrnod i roi dedfryd.

Os bydd y Llys Apêl yn cytuno bod y ddedfryd yn cyrraedd y safon o fod yn ‘rhy drugarog’, gall gynyddu’r ddedfryd. Mae gan wefan y CPS ragor o wybodaeth am ddedfrydau rhy drugarog.

Gall y person a gyflawnodd y trosedd(au) yn eich erbyn wneud cais am ganiatâd i apelio yn erbyn ei ddedfryd

Gall y troseddwr wneud cais am ganiatâd i apelio yn erbyn ei gollfarn neu ddedfryd. Bydd sut y byddant yn apelio yn dibynnu ar ba lys y cawsant eu dedfrydu ynddo.

Bydd eich Swyddog Gofal Tystion yn dweud wrthych os yw’r troseddwr yn apelio yn erbyn ei gollfarn neu ddedfryd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:

Gofynion am hysbysu gan droseddwyr rhyw

Bydd pobl a geir yn euog o droseddau rhyw yn destun gofynion hysbysu.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt ddarparu gwybodaeth amdanynt eu hunain i’r heddlu o leiaf unwaith y flwyddyn. Rhaid iddynt hefyd ddweud wrth yr heddlu am unrhyw deithio tramor neu os ydynt yn byw yn yr un cartref ag unrhyw blant o dan 18 oed. Yr enw cyffredin ar hyn yw bod ar y ‘gofrestr troseddwyr rhyw’. Mae’n caniatáu i’r heddlu reoli risgiau a achosir gan droseddwyr rhyw.

Mae gennych hawl i wybodaeth benodol am y broses hon. Gallwch ddarllen mwy am yr hawliau hyn yn Hawl 11 o’r Cod Dioddefwyr.

Pan gaiff y troseddwr ei ryddhau o’r carchar (parôl)

Efallai y byddwch chi’n penderfynu y byddwch chi’n teimlo’n fwy diogel os ydych chi’n gwybod beth sy’n digwydd i’r troseddwr ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog. Gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Dioddefwyr Gwasanaeth Prawf a Charchardai EM os ydych yn poeni bod y troseddwr yn cael ei ryddhau o’r carchar.

Parôl yw pan fydd troseddwr yn cael ei ryddhau o’r carchar cyn diwedd ei ddedfryd. Os bydd hyn yn digwydd, byddant yn cael eu cadw dan oruchwyliaeth, a elwir yn brawf. Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun parôl ar gael ar-lein.

Cynllun Cyswllt Dioddefwyr

Os cafodd y troseddwr ei ddedfrydu i 12 mis neu fwy yn y carchar, gofynnir i chi a ydych am ymuno â’r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr.

Os byddwch yn ymuno â’r cynllun, bydd Swyddog Cyswllt Dioddefwyr yn cysylltu â chi. Byddant yn gofyn i chi sut yr hoffech gael eich hysbysu.

Maen nhw’n gallu:

  • Rhoi gwybodaeth i chi am gamau allweddol dedfryd y troseddwr, fel a yw’n gwneud cais i gael ei ryddhau
  • Rhoi cyfle i chi fynegi eich barn am yr hyn a ddylai ddigwydd ar ôl iddynt gael eu rhyddhau (fel gofyniad i beidio â chysylltu â chi neu ddod i ardal benodol)
  • Dweud wrthych pa amodau y byddant yn ddarostyngedig iddynt os ydynt yn ymwneud â chi neu’ch teulu

Os bydd y Bwrdd Parôl yn penderfynu ei bod yn ddiogel rhyddhau troseddwr, gallwch dderbyn y wybodaeth hon drwy’r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr.

Os byddwch yn penderfynu peidio ag ymuno ar y pryd neu os na ofynnwyd i chi, gallwch ymuno yn ddiweddarach drwy anfon e-bost at y Cynllun Cyswllt Dioddefwyr yn vcsenquiries@justice.gov.uk

Fel dioddefwr, gallwch gyflwyno cais i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder i ofyn i’r Bwrdd Parôl ailystyried ei benderfyniad. Beth bynnag y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ei benderfynu, byddwch yn cael llythyr yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad hwnnw.