Cefnogaeth yn dilyn trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol
Diweddarwyd 16 Awst 2023
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Os ydych wedi dioddef trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol, bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall pa gymorth sydd ar gael i chi.
Gallwch gael mynediad i eirfa i gael rhagor o wybodaeth am y termau a ddefnyddir yn y canllaw hwn.
Os ydych wedi cael eich treisio neu wedi profi ymosodiad rhywiol mae’n bwysig cofio nad eich bai chi oedd hynny. Rydych chi bob amser yn haeddu cael eich trin ag urddas, cael eich clywed a’ch deall.
Mae bod yn ddioddefwr trais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu gamdriniaeth yn brofiad anodd a thrawmatig.
Mae cymorth ar gael i chi, pryd bynnag a lle bynnag y digwyddodd y drosedd neu os ydych yn dal i gael eich cam-drin. Nid yw byth yn rhy gynnar nac yn rhy hwyr i ofyn am help.
Nid oes rhaid i chi adrodd am y drosedd i’r heddlu i gael cefnogaeth.
Cael mynediad at wasanaeth cymorth
Trwy wasanaethau cymorth gallwch:
- ddweud wrth rywun beth ddigwyddodd
- cael cymorth i gael cefnogaeth bellach
- cael cymorth i lywio’r system cyfiawnder troseddol a systemau eraill
- cael cymorth emosiynol gan gynnwys gan gwnselwyr a therapyddion cymwys
- cael cymorth i gael mynediad at ofal meddygol
Os byddwch yn dewis adrodd am y drosedd, gallwch gael rhagor o wybodaeth gan y gwasanaethau cymorth am:
- sut bydd yr heddlu yn ymchwilio i’ch achos
- pwy yw Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) a beth mae’n ei wneud
- beth fydd yn digwydd os bydd eich achos yn cyrraedd y llysoedd
Cysylltu â gwasanaethau cymorth
Gallwch gael mynediad at wasanaethau cymorth dros y ffôn, ar-lein, ac wyneb yn wyneb.
Gallwch gysylltu â gwasanaethau cymorth eich hun neu bydd rhai sefydliadau yn caniatáu i rywun arall gysylltu â chi. Gallai hyn fod yn ffrind neu aelod o’r teulu, neu weithiwr proffesiynol cefnogol.
Gwahanol fathau o gefnogaeth
Mae llawer o fathau o gymorth ar gael. Gallwch gysylltu â gwasanaeth sy’n teimlo’n iawn i chi.
Cynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol (ISVAau)
Efallai y cewch eich cefnogi gan ISVA. Nid oes rhaid i chi roi gwybod i’r heddlu am eich profiad i gael eich cefnogi gan ISVA.
Bydd ISVA yn cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol annibynnol i chi a bydd yn gweithio gyda sefydliadau eraill i sicrhau eich bod yn cael yr help sydd ei angen arnoch. Gallai hyn gynnwys cymorth iechyd neu dai.
Byddant hefyd yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a phrosesau’r llys os byddwch yn dewis adrodd.
Gallwch gysylltu ag unrhyw un o’r sefydliadau isod i gael gwybod mwy am wasanaethau ISVA neu i ofyn am ISVA. Gallwch hefyd ofyn i’r heddlu eich cyfeirio at wasanaeth ISVA.
Er y gall ISVAau ddarparu cymorth emosiynol, nid ydynt yn gwnselwyr nac yn therapyddion.
Canolfannau cymorth trais rhywiol a cham-drin rhywiol
Mae’r rhain yn ganolfannau a arweinir yn lleol sy’n annibynnol i’r heddlu, y CPS a’r llysoedd. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys:
- cefnogaeth a gwybodaeth ymarferol
- cefnogaeth emosiynol a chyfoedion
- cwnsela
- therapi
- gwasanaethau eiriolaeth i’ch helpu i lywio’r system cyfiawnder troseddol
Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC)
Gall Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) gynnig cymorth meddygol ac ymarferol cyfrinachol i bobl sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol.
Nid oes angen i chi adrodd i’r heddlu i ymweld â SARC.
Mewn SARC, gallwch:
- cael archwiliad meddygol fforensig i gasglu tystiolaeth.
- cael cymorth meddygol ar gyfer unrhyw anafiadau.
- cael profion beichiogrwydd a STI am ddim.
Gallwch ddewis storio unrhyw dystiolaeth fforensig rhag ofn y byddwch yn penderfynu adrodd i’r heddlu yn y dyfodol. Gall rhai SARCau gymryd a chadw tystiolaeth fforensig yn ddiogel am sawl blwyddyn os byddwch yn gofyn iddynt wneud hynny. Bydd unrhyw dystiolaeth a gesglir yn cael ei rhoi i’r heddlu dim ond os byddwch yn penderfynu adrodd am y drosedd.
Gallwch ddod o hyd i’ch SARC agosaf ar wefan y GIG. Gallwch gysylltu â SARC yn uniongyrchol. Byddant yn cynnig cyngor i chi ac yn gallu eich cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill.
Gellir darparu cymorth hefyd gan fudiadau gwirfoddol
Mae rhestr ddefnyddiol o sefydliadau a ffyrdd o gysylltu â nhw ar ddiwedd y ddogfen hon.
Gwasanaethau arbenigol sy’n darparu cwnsela a therapi
Gallwch ddod o hyd i help gan wasanaethau cwnsela neu therapi. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth gan y sefydliadau canlynol:
- 1 in 6 – 1in6.uk
- Survivors UK – survivorsuk.org
- Safeline – safeline.org.uk
- Rape Crisis – rapecrisis.org.uk
Meddyg Teulu neu unrhyw weithiwr meddygol proffesiynol arall
Gallwch ofyn am help gan feddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol arall. Bydd gweithwyr meddygol proffesiynol ond yn adrodd am yr hyn sydd wedi digwydd i’r heddlu os byddwch yn gofyn iddynt wneud hynny, neu os ydynt yn credu y gallai rhywun arall (er enghraifft plentyn) fod mewn perygl o niwed.
Gwasanaethau Cymorth a Manylion Cyswllt
Llinell Gymorth Trais neu gam-drin rhywiol 24/7
Mae’r Llinell Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol 24/7 yn wasanaeth cymorth emosiynol a gwrando cyfrinachol i unrhyw un 16 oed neu hŷn yng Nghymru a Lloegr sydd wedi profi trais neu gam-drin rhywiol ar ryw adeg yn eu bywyd. Mae’n gwbl am ddim ac ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn dros y ffôn a gwe-sgwrs.
Gwefan: 247sexualabusesupport.org.uk
Ffôn: 0808 500 2222
Argyfwng Trais Rhywiol (Rape Crisis) Cymru a Lloegr
Darparu gwasanaethau cymorth ac eiriolaeth cyfrinachol ac arbenigol am ddim, sydd ar gael 24/7 i bobl y mae trais rhywiol a chamdriniaeth wedi effeithio ar eu bywydau ar unrhyw adeg.
- Gwefan: rapecrisis.org.uk/get-help/ (Yn cynnwys gwasanaeth sgwrsio byw)
- Ffôn: 0808 802 9999
Cymorth i Ddioddefwyr
Darparu cefnogaeth gyfrinachol 24 awr am ddim i bobl yr effeithir arnynt gan droseddau neu ddigwyddiadau trawmatig, gan gynnwys cam-drin rhywiol nad yw’n ddiweddar.
- Gwefan: victimsupport.org.uk (Yn cynnwys sgwrs fyw)
- Ffôn: 0808 1689 111
Ymddiriedolaeth y Goroeswyr
Darparu gwybodaeth gyfrinachol, cyngor, cefnogaeth, a gwybodaeth atgyfeirio i unrhyw un y mae treisio a thrais rhywiol wedi effeithio arnynt, boed yn ddiweddar neu yn y gorffennol, gan gynnwys rhieni, partneriaid/gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda goroeswyr.
- Gwefan: thesurvivorstrust.org
- Ffôn: 0808 801 0818
- E-bost: helpline@thesurvivorstrust.org
Imkaan
Nid yw Imkaan yn ddarparwr gwasanaeth uniongyrchol, ond maent yn darparu gwybodaeth am wasanaethau a chefnogaeth Arbenigol gan ac ar gyfer pobl Ddu a Lleiafrifol.
- Gwefan: imkaan.org.uk/get-help
- E-bost: info@imkaan.org.uk
- Ffôn: +44 20 7842 8525
Gwasanaethau i blant a phobl ifanc
Childline
P’un a ydych wedi profi cam-drin rhywiol yn y gorffennol neu ei fod yn dal i ddigwydd, mae Childline yn cynnig llinell gymorth gyfrinachol 24/7 am ddim. Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Ask Sam lle gallwch anfon neges trwy eu gwefan i siarad am unrhyw beth rydych chi ei eisiau heb i neb wybod pwy anfonodd.
- Gwefan: childline.org.uk
- Ffôn: 0800 1111
NSPCC (Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant)
Mae gan yr NSPCC linell gymorth bwrpasol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu cam-drin yn yr ysgol, ac ar gyfer oedolion pryderus a gweithwyr proffesiynol sydd angen cymorth ac arweiniad, gan gynnwys cam-drin nad yw’n ddiweddar.
- Gwefan: nspcc.org.uk
- Ffôn: 0800 136 663
- E-bost: help@nspcc.org.uk
NAPAC (Cymdeithas Genedlaethol Pobl sy’n cael eu Cam-drin yn ystod Plentyndod)
Mae NAPAC yn cynnig cefnogaeth i oroeswyr sy’n oedolion o bob math o gam-drin yn ystod plentyndod, gan gynnwys cam-drin corfforol, rhywiol, emosiynol, narsisiaeth, ac esgeulustod.
- Gwefan: napac.org.uk
- Ffôn: 0808 801 0331
- E-bost: support@napac.org.uk
Gwasanaethau LHDTCRhA+
Galop
Darparu gwasanaeth cyfrinachol ac annibynnol am ddim i bob person LHDT+ sydd wedi profi unrhyw fath o ymosodiad rhywiol, trais neu gamdriniaeth, ni waeth pryd y digwyddodd.
- Gwefan: galop.org.uk
- E-bost: referrals@galop.org.uk
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn (Cymru)
Ar agor 24 awr y dydd i ddarparu cymorth a chyngor ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol i bobl yng Nghymru.
- Gwefan: llyw.cymru/byw-heb-ofn (yn cynnwys gwasanaeth sgwrsio byw)
- Ffôn: 0808 80 10 800
- Testun: 07 860 077 333
- E-bost: info@livefearfreehelpline.wales
Gwasanaethau cymorth i Ddynion
Llinell Gymorth Genedlaethol i Oroeswyr Gwrywaidd a Gwasanaeth Cymorth Ar-lein
Gwasanaeth pwrpasol i ddynion a bechgyn yng Nghymru a Lloegr sydd wedi’u heffeithio gan dreisio neu gam-drin rhywiol a’r rhai sy’n eu cefnogi fel ffrindiau a theulu.
- Gwefan: safeline.org.uk (yn cynnwys sgwrsio byw)
- Ffôn: 0808 800 5005
- Testun: 07860 065 187
Llinell Gymorth Genedlaethol Ar-lein i Oroeswyr Gwrywaidd
Gweithredir gan SurvivorsUK i gefnogi dynion a bechgyn (trawsryweddol neu cisryweddol) a goroeswyr cam-drin rhywiol anneuaidd.
- Gwefan: survivorsuk.org (Yn cynnwys sgwrsio byw)
- Ffôn: 020 3322 1860
Gwasanaethau Cam-drin Domestig
Gallwch hefyd gael cymorth os yw’r niwed yr ydych wedi’i brofi o ganlyniad i gam-drin domestig. Eto, gallwch ddewis pa wasanaeth yr hoffech gysylltu ag ef.
Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Genedlaethol
Darparu cefnogaeth gyfrinachol, rhad ac am ddim 24 awr y dydd i bobl sy’n profi cam-drin domestig a’r rhai sy’n poeni am ffrindiau neu anwyliaid, ni waeth a ydynt mewn lloches.
- Gwefan: nationaldahelpline.org.uk (yn cynnwys sgwrsio byw)
- Ffôn: 0808 2000 247
Cymorth i Fenywod
Darparu cymorth i fenywod sy’n profi neu wedi profi trais neu gam-drin corfforol, meddyliol, rhywiol neu ddomestig.
- Gwefan: womensaid.org.uk/information-support (Yn cynnwys sgwrsio byw)
- E-bost: helpline@womensaid.org.uk
Llinell Gymorth Cam-drin Domestig LHDT+ Genedlaethol
Yn darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i bobl LHDT+ sy’n profi cam-drin domestig.
- Gwefan: galop.org.uk
- Ffôn: 0800 99 5428 neu 0300 999 5428
Gwasanaethau cymorth i ddynion
Llinell Gyngor i Ddynion
Llinell gymorth gyfrinachol i ddioddefwyr gwrywaidd cam-drin domestig a’r rhai sy’n eu cefnogi.
- Gwefan: mensadviceline.org.uk (Yn cynnwys sgwrsio byw)
- Ffôn: 0808 8010 327
Cefnogaeth Tai
Shelter
Darparu cyngor cyffredinol ynghylch tai, gan gynnwys opsiynau cyfreithiol.
- Gwefan: england.shelter.org.uk (yn cynnwys sgwrsio byw)
- Ffôn: 0808 800 4444
Gwasanaethau cymorth LHDTQ+
Tai Stonewall
Darparu cyngor a chefnogaeth yn ymwneud â thai i bobl sy’n ystyried eu hunain fel LHDTQ+
- Gwefan: stonewallhousing.org
- Ffôn: 020 7359 5767