Gwaredu daearegol
Published 25 January 2018
1. Datrysiad o safon fyd-eang i wastraff ymbelydrol y DU
Mae technoleg niwclear wedi bod yn rhan o’n bywydau am dros 60 o flynyddoedd, ac mae’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu pŵer, ym maes diwydiant, meddygaeth ac amddiffyn. Erbyn heddiw, mae ynni niwclear yn darparu bron i un rhan o bump o holl drydan y DU. Mae’r gweithgareddau yma wedi creu gwastraff ymbelydrol y mae angen i ni ei reoli yn ddiogel.
Mewn Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF) bydd y gwastraff yn cael ei roi gannoedd o fetrau o dan y ddaear. Cydnabyddir yn rhyngwladol mai GDF yw’r datrysiad hirdymor mwyaf diogel; bydd cael un yn y DU yn creu swyddi a buddsoddiad gwarantedig i’r gymuned dan sylw.
1.1 Ateb o’r radd flaenaf
Mae consensws rhyngwladol mai gwaredu daearegol yw’r ateb parhaol mwyaf diogel ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd. Mae hyn yn golygu rhoi’r gwastraff mewn Cyfleuster Gwaredu Daearegol gannoedd o fetrau o dan graig solet.
1.2 Sut mae CGD yn gallu bod o fudd I gymuned
Bydd cael Cyfleuster Gwaredu Daearegol yn y DU yn creu swyddi a sicrwydd o fuddsoddiad ar gyfer y gymuned a fydd yn gartref i’r cyfleuster.
Sut mae CGD yn gallu bod o fudd I gymuned
1.3 Gweithio gyda’n gilydd
Mae’r broses o ganfod safle ar gyfer Cyfleuster Gwaredu Daearegol wedi’i seilio ar ganiatâd; bydd cymunedau’n gallu gweithio mewn partneriaeth â ni, fel bod pobl yn cael cyfle i greu dyfodol sy’n gweithio iddyn nhw.
2. Hanes niwclear y DU
O’n gorffennol arloesol i’r genhadaeth bresennol
3. Pam o dan y ddaear?
4. Cymunedau a GDF
Swyddi a seilwaith yn yr hirdymor
5. Ynglŷn â Sgrinio Daearegol Cenedlaethol (NGS)
Dysgwch am y creigiau o dan eich ardal
6. Sut mae cysylltu â ni
Dolenni, newyddion diweddaraf a lawrlwythiadau defnyddiol
7. Dewch i gyfarfod ein gwyddonwyr a’n peirianyddion
Bet yw ymbelydredd?
Mae ymbelydredd yn broses pan fo atomau yn dadelfennu ohonynt eu hunain ac yn allyrru ynni. Gelwir deunyddiau sy’n gwneud hynny yn ddeunyddiau ymbelydrol. Mae peth o’r ynni sy’n cael ei ryddhau yn wres.
Beth yw pŵer niwclear?
Mae pŵer niwclear yn ffordd o gynhyrchu trydan drwy ddefnyddio’r gwres sy’n cael ei allyrru gan ddeunyddiau ymbelydrol er mwyn cynhyrchu stêm all yrru tyrbinau. Mae tua un rhan o dair o gyflenwad trydan y DU yn cael ei gynhyrchu gan bŵer niwclear.
Beth yw gwastraff ymbelydrol, ac o ble mae’n dod?
Gwastraff ymbelydrol yw deunydd ymbelydrol na allwn ei ddefnyddio eto. Daw’r rhan fwyaf o’r broses o gynhyrchu trydan drwy ddefnyddio pŵer niwclear, ond mae hefyd yn sgil-gynnyrch nifer o brosesau meddygol a diwydiannol, gweithgareddau ymchwil ac amddiffyn sy’n defnyddio ymbelydredd a deunyddiau ymbelydrol.
Pa wastraff fydd yn cael ei waredu’r ddaearegol?
Bydd y GDF yn derbyn gwastraff gweithgaredd uwch. Bydd hynny’n cynnwys Gwastraff Lefel Uchel, Gwastraff Lefel Canolig a swm bychan o Wastraff Lefel Isel nad yw’n addas i’w waredu mewn cyfleusterau presennol ar yr wyneb. At ddibenion cynllunio, rydym yn ystyried gwastraff o’r defnydd presennol o ddeunyddiau ymbelydrol, yn ogystal â gwastraff fyddai’n cael ei gynhyrchu o orsafoedd pŵer niwclear newydd. Rydym hefyd yn cynnwys amrywiol ddeunyddiau niwclear yn ein cynlluniau nad ydynt ar hyn o bryd yn cael eu dosbarthu fel gwastraff, oherwydd byddai angen eu rheoli drwy waredu daearegol pe penderfynid ar ryw adeg na fyddai mwy o ddefnydd iddynt.
Ble mae’r gwastraff nawr?
Ar hyn o bryd mae’r gwastraff ymbelydrol fydd yn cael ei waredu mewn GDF yn cael ei becynnu mewn cynwysyddion sydd wedi eu peiriannu’n arbennig, ac maent wedi eu storio ar dros 20 o safleoedd niwclear o gwmpas y wlad, gyda’r rhan fwyaf yn Sellafield yng Nghumbria. Dyluniwyd y storfeydd i wrthsefyll tywydd difrifol a daeargrynfeydd.
Pam na allwn adael y gwastraff ble mae ar hyn o bryd?
Er bod storfeydd ar yr wyneb wedi cael eu dylunio i fod yn ddiogel am tua 100 mlynedd, nid ydynt yn darparu datrysiad parhaol. Mae angen eu monitro’n barhaus er mwyn cadw’r gwastraff yn ddiogel, ac mae angen eu hadnewyddu yn gyfnodol er mwyn rhwystro’r gwastraff rhag dod i gysylltiad ag effeithiau’r tywydd. Maes o law, bydd angen amnewid y storfeydd, neu symud y gwastraff i rywle arall. Felly, mae storfeydd ar yr wyneb yn llai diogel na gwaredu daearegol, a byddant yn arwain at fwy o lafur a chostau yn yr hirdymor. Mae gennym y sgiliau, yr arbenigedd a’r dechnoleg i ddefnyddio gwaredu daearegol nawr, ac ni ddylid ei ddiystyru.
Pryd fydd y GDF yn cael ei adeiladu?
Bydd y gwaith adeiladu ond yn dechrau pan fydd safle addas wedi cael ei glustnodi, pan fydd yr holl ganiatadau wedi’u rhoi a bod y gymuned dan sylw wedi mynegi ei pharodrwydd i gynnal y cyfleuster drwy brofi trafnidiaeth gyhoeddus. At ddibenion cynllunio, rydym yn tybio y bydd y GDF ar gael i dderbyn y gwastraff cyntaf yn ystod y 2040au. Bydd llenwi’r GDF gyda gwastraff ac yna ei gau, pan fo’n llawn, yn parhau i’r ganrif nesaf.
Pwy fydd yn ei adeiladu?
Mae’r Llywodraeth wedi gofyn i RWM gynllunio ac adeiladu’r GDF. Byddwn yn penodi contractwyr sydd â’r sgiliau arbenigol angenrheidiol i’n cynorthwyo gyda’n gwaith.
Pryd fydd y broses o ganfod safle ar gyfer y GDF yn cael ei lansio’n swyddogol?
Bydd y broses o ganfod safle yn cael ei lansio ar ôl cwblhau’r holl waith paratoi. Ar hyn o bryd rydym yn disgwyl y bydd hynny rhyw dro yn ystod 2018.
Gyda phwy fydd y cymunedau yn siarad?
Bydd RWM yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen er mwyn deall GDF yn cynnwys y cyfleoedd y bydd GDF yn eu creu. Bydd yna daflenni a fideos fydd yn egluro beth yw GDF, beth sy’n ei wneud yn ddiogel a pham y gellid ei leoli yn eu hardal nhw. Hefyd, bydd yna ffyrdd o ofyn cwestiynau’n uniongyrchol i RWM.