Gweithio Ar y Cyd i Gefnogi Ein Cwsmeriaid a Rennir
Mae’r hon yn nodi sut y gallwn weithio ar y cyd i ddarparu gwasanaeth effeithiol, effeithlon a chyson.
Applies to Northern Ireland, Scotland and Wales
Documents
Details
Mae Awdurdodau Lleol ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) ar y cyd yn chwarae rhan hanfodol wrth weinyddu Trethi Busnes, Treth Gyngor a Budd-daliadau Tai. Mae’r ddogfen hon yn nodi sut y gallwn weithio ar y cyd i ddarparu gwasanaeth effeithiol, effeithlon a chyson.
Gweithio ar y cyd
Byddwn yn gweithio ar y cyd i wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau, gan ymgynghori gyda’n gilydd i sicrhau bod gennym ddealltwriaeth glir o’n priod rolau.
Byddwn yn rhannu diweddariadau gyda’n gilydd yn rheolaidd am unrhyw newidiadau i’n prosesau lle mae’n effeithio ar y llall neu ein cwsmeriaid a rennir.
Nodir ein priod gyfrifoldebau dros ddarparu gwasanaethau a swyddogaethau ar ddiwedd y ddogfen hon.
Cwsmeriaid yn gyntaf
Byddwn yn gweithio ar y cyd i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid a rennir. Byddwn yn chwilio am gyfleoedd i wella profiad cwsmeriaid wrth sicrhau ein bod yn darparu gwerth am arian i’r trethdalwr, drwy ddarparu gwasanaeth effeithlon a chynaliadwy o safon.
Ymatebolrwydd
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn darparu un llwybr cyswllt ar gyfer ymholiadau Awdurdodau Bilio (BA) cyffredinol, yn ogystal â llwybrau amgen ar gyfer ymholiadau mwy penodol, megis cyflwyniadau Porth yr Awdurdodau Lleol a BAR, lle bo hynny’n berthnasol. Rydym yn ymdrechu i ddelio â’r rhain yn unol â’n targedau prydlondeb y cytunwyd arnynt.
Cael pethau’n iawn
Byddwn yn sicrhau bod yr wybodaeth a rannwn gyda’n gilydd yn gywir ac yn gyflawn, a byddwn yn egluro ein penderfyniadau a’n gweithredoedd yn glir. Os bydd camgymeriadau’n codi, byddwn yn eu cywiro cyn gynted â phosibl.
Data a diogelwch
Byddwn yn gweithio ar y cyd i wella ystod ac ansawdd y data y gallwn ei ddarparu a’r ffordd yr ydym yn ei rannu. Byddwn yn rhannu data’n ddiogel yn unol â’r gyfraith, gan ddiogelu ein cwsmeriaid a rennir.
Atebolrwydd
Byddwn yn chwilio am feysydd i’w gwella, yn enwedig y rhai a fydd o fudd i’n cwsmeriaid a rennir.
Byddwn hefyd yn chwilio am welliannau i’r ffyrdd rydym yn gweithio ar y cyd, gan wneud y gorau o gyfleoedd megis ein fforymau rhanddeiliaid neu weithgorau. Os hoffech wybod mwy am y rhain, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan, anfonwch e-bost at stakeholderengagement@voa.gov.uk
Byddwn yn nodi ac yn codi unrhyw broblemau cyn gynted â phosibl, a byddwn yn ceisio eu datrys mor deg a chyflym ag y gallwn. Ni ellir ystyried unrhyw iawndal rhwng cyrff cyhoeddus.
Gwasanaeth Cymraeg
Mae gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ddyletswydd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg 2011 i ddarparu pob gwasanaeth i gwsmeriaid yn Gymraeg, ac i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi ymrwymo i drin Awdurdodau Lleol yn yr un modd ag y mae’n trin unigolion, ac felly byddwn yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog lle y bo hynny’n briodol. Ceir rhagor o fanylion am ein hymrwymiad i ddarparu yn Gymraeg yng Nghynllun Iaith Gymraeg Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Cysylltiadau a Gwybodaeth Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Ymholiadau cyffredinol:
Dylai Awdurdodau Lleol anfon pob ymholiad cyffredinol at: baenquiries@voa.gov.uk
Tîm Ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol
Tîm Ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw’r pwynt cyswllt corfforaethol a strategol allweddol ar gyfer Awdurdodau Lleol, a bydd yn parhau i ganolbwyntio ar ffyrdd y gallwn ddatblygu a gwella ein cysylltiadau strategol a gweithredol. Gall Rheolwyr Cysylltiadau ag Awdurdodau Lleol ddarparu cymorth a chyngor ar faterion Treth Gyngor a Threthi Busnes. Gellir cysylltu â nhw drwy LAengagement@voa.gov.uk.
Porth Gwybodaeth Awdurdodau Lleol
Darperir Porth Gwybodaeth Awdurdodau Lleol o dan Ddeddf Menter 2016 i ganiatáu i Asiantaeth y Swyddfa Brisio rannu gwybodaeth Ardrethi Annomestig gydag Awdurdodau Bilio sydd wedi ymrwymo i’n Cytundebau Rhannu Gwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau adeiladu, manylion meddianwyr, a lleoliadau eiddo. Bydd ceisiadau eraill hefyd yn cael eu hystyried, lle maent yn cyd-fynd â diben cymwys. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar GOV.UK, neu gan y Tîm Ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol.
Gwasanaeth Cymraeg
Mae gennym wasanaeth y gall Awdurdodau Lleol neu unigolion gysylltu ag ef os oes angen gwasanaethau arnynt yn Gymraeg neu gyfieithiadau o ddogfennau sydd ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Gellir dod i hyn yn welsh_languageiaithgymraeg@voa.gov.uk.
Swyddogaethau Swyddogion Rhenti
Ar gyfer pob ymholiad ynghylch Swyddogaethau Swyddogion Rhenti, gan gynnwys Rhenti Teg a Lwfans Tai, gellir cysylltu â thîm y Swyddogaethau Swyddogion Rhenti drwy helpdesk@voa.gov.uk.
Cysylltiadau pellach
Mae safonau cyflwyno Awdurdod Bilio Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn rhoi rhagor o fanylion am gyflwyno adroddiadau a chysylltiadau cyflwyno. Ceir rhagor o wybodaeth ar gyfer awdurdodau lleol ar ffurf arweiniad ar GOV.UK. Mae safonau gwasanaeth gweithredol Asiantaeth y Swyddfa Brisio i’w gweld yn ei Chynllun Busnes Blynyddol cyhoeddedig.
Swyddogaethau Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac Awdurdodau Lleol
Ardrethu Annomestig a Threth Gyngor
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn llunio ac yn cynnal rhestri statudol o’r gwerthoedd trethiannol ar gyfer eiddo annomestig a rhestri statudol o fandiau Treth Gyngor ar gyfer eiddo domestig.
Mae Awdurdodau Bilio yn gyfrifol am bilio a chasglu, yn ogystal â hysbysu Asiantaeth y Swyddfa Brisio am newidiadau i’r rhestri. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno Adroddiadau Awdurdod Bilio (BARs) a Rhestrau Meddianwyr.
Camau i’w cymryd |
Maes Busnes |
Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn: |
Bydd Awdurdodau Lleol yn: |
Adroddiad Awdurdod Bilio (BAR) Cyflwyniad |
Adroddiadau Ardrethi Annomestig a Threth Gyngor |
|
|
Newidiadau i’r rhestri |
Adroddiadau Ardrethi Annomestig a Threth Gyngor |
|
|
Rhestri Meddianwyr |
Adroddiadau Ardrethi Annomestig |
|
|
Tystysgrifau |
Adroddiadau Ardrethi Annomestig |
|
|
Amcangyfrifon |
Adroddiadau Ardrethi Annomestig |
|
Swyddogaethau Swyddogion Rhenti
Gyda’n gilydd rydym yn cefnogi’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) o ran Budd-dal Tai (HB) a Lwfansau Tai Lleol (LHA) ar gyfer Lloegr. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cynhyrchu cyfraddau Lwfansau Tai Lleol mewn dros 150 o Ardaloedd Marchnad Rentu Eang (BRMAs).
Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn: |
Bydd Awdurdodau Lleol yn: |
|
|