Form

Gwneud atwrneiaeth arhosol

Ffurflenni a chanllawiau papur ar gyfer creu a chofrestru atwrneiaeth arhosol.

Applies to England and Wales

Documents

Dalenni parhad (LPC)

Ffurflen hysbysu pobl (LP3)

Details

Ffurflenni papur ac arweiniad i wneud:

  • atwrneiaeth arhosol (LPA) ar gyfer penderfyniadau ariannol
  • atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau iechyd a gofal

Gallwch lwytho i lawr becyn cyflawn o ddogfennau ar gyfer pob math o atwrneiaeth arhosol neu ffurflenni a chanllawiau unigol. Rydych chi’n defnyddio’r un ffurflen i wneud ac i gofrestru eich atwrneiaeth arhosol.

Os ydych chi’n llwytho i lawr y pecyn cyflawn o ddogfennau, chwiliwch ar fwrdd gwaith neu yn ffolder dogfennau a lwythwyd i lawr eich cyfrifiadur am ffeil ag ‘LPA’ yn y teitl gyda ‘.zip’ ar ei ddiwedd. Drwy glicio ddwywaith ar y ffeil hon bydd eich cyfrifiadur yn dadbacio ffolder sy’n cynnwys yr holl ddogfennau rydych chi eu hangen. Gallwch lenwi’r ffurflenni hyn ar eich cyfrifiadur ac yna eu hargraffu a’u hanfon i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.

Fel arall, gallwch wneud atwrneiaeth arhosol ar-lein - mae’n haws.

Gallwch hefyd ofyn am becyn gwneud cais am LPA drwy’r post.

Os gwnaed eich atwrneiaeth arhosol ar ffurflenni LPA114, LPA117, LPA PW neu LPA PA, ac y llofnodwyd ac y dyddiwyd y ffurflenni’n gywir hyd at 1 Ionawr 2016, mae angen i chi lwytho i lawr lwytho ffurflen gofrestru ar wahân.

I ofyn am unrhyw ddogfen mewn fformat amgen, fel Braille, sain neu brint bras, e-bostiwch customerservices@publicguardian.gsi.gov.uk. Cofiwch gynnwys eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn a theitl y ddogfen sydd ei hangen arnoch chi.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Updates to this page

Published 13 January 2015
Last updated 17 December 2015 show all updates
  1. Added instructions for opening zip files

  2. New LPA forms were introduced on 1 July 2015.

  3. First published.

Sign up for emails or print this page