Canllawiau

Marciau iechyd ar gig, pysgod a chynhyrchion llaeth os nad oes unrhyw fargen Brexit

Diweddarwyd 19 December 2018

This canllawiau was withdrawn on

This page has been replaced by newer guidance. Go to Prepare your business for the UK leaving the EU for the latest information.

Mae sicrhau’r fargen a drafodwyd â’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth. Nid yw hyn wedi newid.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Llywodraeth baratoi ar gyfer pob sefyllfa bosibl, gan gynnwys sefyllfa ‘dim bargen’. Ers dwy flynedd, mae’r Llywodraeth wedi bod yn gweithredu rhaglen sylweddol o waith i sicrhau bod y Deyrnas Unedig (DU) yn barod i ymadael â’r UE ar 29 Mawrth 2019.

Wrth i ni agosáu at y dyddiad hwnnw, roeddem ni’n gwybod o’r cychwyn cyntaf y byddai gofyn i ni gyflymu ein paratoadau ar gyfer sefyllfa ‘dim bargen’. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod cynlluniau ar waith pe bai’n rhaid dibynnu arnynt.

Dros yr haf, cyhoeddodd y Llywodraeth gyfres o Hysbysiadau Technegol (cyfanswm o 106) yn amlinellu gwybodaeth a fyddai’n galluogi busnesau a dinasyddion i ddeall beth fyddai gofyn iddyn nhw ei wneud mewn sefyllfa ‘dim bargen’ er mwyn gallu cynllunio a pharatoi.

Mae’r Hysbysiad Technegol hwn yn cynnig canllawiau er mwyn parhau i gynllunio os na fydd bargen wedi’i tharo.

Hefyd, mae hysbysiad fframio cyffredinol wedi’i amgáu sy’n egluro dull y Llywodraeth o baratoi’r DU ar gyfer y canlyniad hwn er mwyn lleihau unrhyw amhariad a sicrhau ein bod yn ymadael mor effeithiol â phosibl.

Rydym ni’n gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig ar hysbysiadau technegol, a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i gynlluniau ddatblygu.

1. Pwrpas

Nod yr hysbysiad hwn yw rhannu gwybodaeth â busnesau penodol am y camau y bydd gofyn iddynt eu cymryd cyn ymadael â’r UE i sicrhau y gellir parhau i fasnachu mewn sefyllfa ‘dim bargen’. Mae wedi’i anelu’n benodol at fusnesau’r DU sy’n defnyddio’r marciau iechyd ac adnabod ar gyfer cynhyrchion bwyd sy’n deillio o anifeiliaid, fel cig, wyau, pysgod, caws a llaeth.

2. Cyn 29 Mawrth 2019

Os ydych chi’n cynhyrchu cynhyrchion cig, pysgod neu gynhyrchion llaeth, rhaid i chi gael eich cymeradwyo i weithredu gan awdurdod cymwys. Caiff cymeradwyaeth ei dyfarnu o dan Reoliad (CE) 853/2004 Erthygl 4 (2).

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw’r awdurdod cymwys sy’n cymeradwyo lladd-dai, ffatrioedd torri cig a sefydliadau trin helgig (game). Mae Safonau Bwyd yr Alban yn cyflawni swyddogaethau tebyg yn yr Alban.

Yr awdurdodau lleol yw’r awdurdodau cymwys sy’n gyfrifol am yr holl sefydliadau perthnasol eraill yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Yng Ngogledd Iwerddon, yr ASB hefyd yw’r awdurdod cymwys sy’n cymeradwyo sefydliadau cynhyrchion llaeth hylif a phecynnwyr wyau. Mae’r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yn cynnal rheolaethau hylendid swyddogol (ar ran yr ASB) mewn lladd-dai, ffatrïoedd torri cig, sefydliadau trin helgig a sefydliadau cynhyrchion llaeth hylif a phecynnwyr wyau.

Ni allwch gynhyrchu na phrosesu cynhyrchion cig, pysgod na chynhyrchion llaeth oni bai bod eich sefydliad wedi’i gymeradwyo. Rhaid i’ch cynnyrch gynnwys marc iechyd neu adnabod priodol. Mae’r rhain yn ofynion o dan Reoliad 853/2004, Erthyglau 4 a 5.

Rhaid i’r marc iechyd neu adnabod fod yn siâp hirgrwn a datgan:

  • ei fod wedi’i gynhyrchu yn yr UE
  • pa wlad yn yr UE y mae’n deillio ohoni
  • eich rhif cymeradwyo unigryw

Disgrifir yr uchod yn y drefn honno yn Rheoliad (CE) 854/2004, Atodiad I, Adran I, Pennod III a Rheoliad (CE) 853/2004 Atodiad II.

3. Ar ôl mis Mawrth 2019, os na chaiff bargen ei tharo

Nid yw’r ASB yn bwriadu newid rhifau cymeradwyo, ond byddai’n rhaid i’r marciau iechyd ac adnabod newid ar ôl 29 Mawrth 2019 os nad oes unrhyw fargen Brexit.

Ni fyddai gan y DU hawl i ddefnyddio unrhyw fyrfodd (abbreviation) yn y marciau iechyd ac adnabod sy’n awgrymu ei bod yn aelod o’r UE. Felly, byddai angen newid ffurf y marciau iechyd ac adnabod. Mae hyn yn ofyniad o dan Reoliad (CE) 853/2004, Erthygl 6 (1), Rheoliad (CE) 853/2004 Erthygl 5 ac Atodiad II a Rheoliad (CE) 854/2004 Atodiad I, Adran I, Pennod III.

Yn ddiweddar, ysgrifennodd yr ASB at y diwydiant yn egluro sut y dylai’r marciau iechyd ac adnabod newydd edrych.

Y nod yw cadw unrhyw newid i’r marciau iechyd ac adnabod mor syml â phosib, lleihau’r effaith ar y diwydiant a sicrhau bod defnyddwyr yn y DU, yr UE a’r gwledydd yr ydym yn allforio iddynt y tu allan i’r UE yn parhau i’w hadnabod. Byddai angen i ddyluniad y marciau iechyd newydd fodloni gofynion yr UE ar gyfer marc iechyd ac adnabod trydydd gwlad er mwyn sicrhau bod gwledydd yr UE yn ei adnabod. Fel lleiafswm, byddai’n rhaid dileu’r byrfodd UE o’r marciau iechyd ac adnabod.

Mae’r ASB yng Nghymru a Lloegr, Safonau Bwyd yr Alban a’r Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA), ar y cyd â’r ASB yng Ngogledd Iwerddon, yn cymryd camau i sicrhau y bydd gan staff gweithredol farciau iechyd newydd o 29 Mawrth 2019, fel y gellir eu defnyddio ar y dyddiad hwn os oes angen.

Bydd awdurdodau lleol yn cael gwybod am ddatblygiadau ynghylch newidiadau arfaethedig i’r marciau iechyd ac adnabod.

Bydd cyfnod ymgynghori yn rhoi cyfle i randdeiliaid gynnig sylwadau ac ymateb i’n cynigion. Ar ôl hyn, bydd y diwydiant yn cael ei hysbysu cyn gynted ag y bo modd ynghylch y marciau iechyd ac adnabod newydd. Os ydych chi’n allforio cig, pysgod neu gynhyrchion llaeth i’r UE neu wledydd eraill, byddai angen i chi ddefnyddio’r marciau newydd.

Os nad ydych chi’n allforio, mae’r ASB wrthi’n ystyried cynigion a all ganiatáu ar gyfer parhau i ddefnyddio’r hen farciau adnabod ar gynnyrch domestig am gyfnod cyfyngedig ar ôl 29 Mawrth. Byddai hyn yn helpu i leihau’r effaith ar y diwydiant trwy ganiatáu i fusnesau ddefnyddio hen stoc o ddeunydd pecynnu.

4. Beth fydd angen i chi ei wneud

Pan fydd y broses ymgynghori wedi dod i ben, byddwch chi’n cael gwybod pa newidiadau y bydd gofyn i chi eu gwneud i farciau iechyd ac adnabod. Bydd y newidiadau hyn yn cael eu cyfathrnebu erbyn mis Tachwedd 2018. Bydd gofyn i chi newid marciau iechyd ac adnabod er mwyn parhau i allforio cig, pysgod a chynhyrchion llaeth. Bydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), sy’n gyfrifol am fasnachu rhyngwladol mewn cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid, yn hysbysu gwledydd eraill sy’n derbyn allforion y DU am y newidiadau i farciau iechyd ac adnabod y DU.

5. Rhagor o wybodaeth

Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â chanllawiau Defra ar allforion anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid, ac ar labelu bwyd.

Canllawiau yn unig sydd o fewn yr hysbysiad hwn. Dylech ystyried a oes angen cyngor proffesiynol ar wahân arnoch cyn gwneud unrhyw baratoadau penodol.

Mae’n rhan o raglen gynllunio barhaus y llywodraeth ar gyfer pob canlyniad posibl. Rydym ni’n disgwyl trafod cytundeb llwyddiannus gyda’r UE.

Mae llywodraeth y DU yn glir bod yn rhaid i ni barchu ein perthynas unigryw ag Iwerddon. Rydym ni’n rhannu ffiniau tir â nhw ac yn gyd-lofnodwyr Cytundeb Belfast. Mae llywodraeth y DU wedi mynd ati’n gyson i osod y Cytundeb a’i olynwyr wrth wraidd ein dull ni o weithio. Mae’n ymgorffori’r egwyddor caniatâd y mae statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon yn seiliedig arno. Rydym ni’n cydnabod y sail y mae wedi’i ddarparu ar gyfer y cydweithio economaidd a chymdeithasol dwfn ar ynys Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys cydweithio Gogledd-De rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, ac rydym ni’n ymrwymo i ddiogelu hyn yn unol â llythyr ac ysbryd Strand dau o’r Cytundeb.

Mae llywodraeth Iwerddon wedi nodi y bydd angen iddi drafod trefniadau pe na bai unrhyw fargen â’r Comisiwn Ewropeaidd ac Aelod-wladwriaethau’r UE. Byddai’r DU yn barod yn y sefyllfa hon i ymgysylltu’n adeiladol i fodloni ein hymrwymiadau a gweithredu er lles gorau pobl Gogledd Iwerddon, gan gydnabod yr heriau sylweddol y byddai diffyg cytundeb cyfreithiol rhwng y DU a’r UE yn eu creu yn y cyd-destun unigryw a sensitif hwn.

Er hynny, mae llywodraeth y DU yn parhau i fod yn gyfrifol, fel y llywodraeth sofran yng Ngogledd Iwerddon, am barhau i baratoi ar gyfer yr ystod lawn o ganlyniadau posibl, gan gynnwys sefyllfa ‘dim bargen’. Wrth i ni wneud hynny, ac wrth i benderfyniadau gael eu gwneud, byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i amgylchiadau unigryw Gogledd Iwerddon.

Mae Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein yn rhan o’r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ac yn cymryd rhan mewn trefniadau UE eraill. Fel y cyfryw, mewn llawer o feysydd, mae’r gwledydd hyn yn mabwysiadu rheolau’r UE. Os yw hyn yn wir, gallai’r hysbysiadau technegol hyn hefyd fod yn berthnasol iddynt, a dylai busnesau a dinasyddion yr AEE ystyried a oes angen iddynt gymryd unrhyw gamau i baratoi ar gyfer sefyllfa ‘dim bargen’.