Y Rhaglen Pridiannau Tir Lleol
Diweddarwyd 19 Rhagfyr 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr, ac eithrio cynghorau sir, gadw cofrestr pridiannau tir lleol sy’n cofnodi’r rhwymedigaethau sy’n effeithio ar eiddo o fewn eu hardal weinyddol. O dan Ddeddf Seilwaith 2015, cafodd cyfrifoldeb am y 331 o gofrestri ei drosglwyddo i Gofrestrfa Tir EF fesul cam. Roedd y trosglwyddiad cyntaf yn haf 2018.
Roedd hwn yn gam hanesyddol ymlaen yn uchelgais y Llywodraeth i wneud y broses prynu cartref yn symlach, yn gyflymach ac yn rhatach. Mae hefyd yn rhan bwysig o’n Strategaeth Fusnes i helpu i wella’r broses drawsgludo gyfan.
1. Ein gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol digidol
Mae Cofrestrfa Tir EF yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr i safoni a mudo gwybodaeth cofrestr pridiannau tir lleol i un lle hygyrch.
Gall unrhyw un gael mynediad i’n gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol trwy ein Gwasanaeth chwilio am bridiannau tir lleol. Gall cwsmeriaid busnes gael mynediad hefyd trwy eu cyfrifon porthol neu Business Gateway. Mae canlyniad pob chwiliad yn rhoi manylion am gofnodion ar y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol sy’n ymwneud â’r tir neu’r eiddo o dan sylw.
Bydd awdurdodau lleol yn parhau i ddarparu ymatebion i ymholiadau CON29, megis cynlluniau ffyrdd cyfagos neu rybuddion sy’n bodoli, a allai effeithio ar benderfyniad y prynwr i fynd rhagddo neu beidio. Pan fydd data pridiannau tir lleol awdurdod lleol wedi cael eu mudo i Gofrestrfa Tir EF, ni fyddwch yn gallu cael canlyniadau chwiliadau pridiannau tir lleol o’r awdurdod lleol hwnnw mwyach.
Gan ddefnyddio ein gwasanaeth, bydd y dewis gennych i lawrlwytho chwiliad personol yn rhad ac am ddim neu chwiliad swyddogol am £15. Fel arall, gallwch ddefnyddio darparwr chwilio a gaiff fynediad i’n gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar eich rhan.
2. Mudo pridiannau tir lleol
Mae’r broses o fudo gwasanaeth pridiannau tir lleol awdurdod lleol i’r gofrestr genedlaethol yn digwydd fesul cam. Pan fydd y mudo wedi ei gwblhau, bydd Cofrestrfa Tir EF yn dod yn awdurdod cofrestru ar gyfer ardal yr awdurdod lleol. Darllenwch am sut i fudo eich gwasanaeth pridiannau tir lleol.
Gall cwsmeriaid sydd am gael gwybodaeth am bridiannau tir lleol ar ôl mudo ei chael ar-lein, yn ddigidol trwy Chwilio am bridiannau tir lleol ar dir ac eiddo.
2.1 Gwyliwch fideo ar greu Cofrestr Pridiannau Tir Lleol genedlaethol (1 munud 4 eiliad)
Creu Cofrestr Pridiannau Tir Lleol genedlaethol – YouTube
2.2 Manteision chwiliad swyddogol Pridiannau Tir Lleol
Y manteision:
- canlyniadau chwilio sy’n darparu’r lefel uchaf o ddiwydrwydd dyladwy
- stent gofodol llawn pob pridiant i’w weld ar ganlyniad y chwiliad
- ffi safonol o £15 ar gyfer pob chwiliad, gan ddarparu gostyngiad yn y pris cyfartalog cenedlaethol cyfredol
- data o ansawdd cyson sy’n darparu canlyniadau chwilio clir a chywir
- canlyniadau chwilio ar-lein ar unwaith, lle mae’r data ar gael 24/7, gan leihau oedi wrth gael y chwiliadau
- chwiliadau ailadroddus diderfyn am chwe mis i wirio am unrhyw bridiannau newydd cyn cwblhau trafodiad
- dangosfwrdd hanes chwilio lle gallwch weld eich chwiliadau blaenorol ar unrhyw adeg
Darllenwch am yr hyn mae’r gwasanaeth yn ei gynnig.
3. Awdurdodau lleol
Hyd yma, rydym wedi trosglwyddo data pridiannau tir lleol yr awdurdodau lleol canlynol i wasanaeth digidol Cofrestrfa Tir EF.
Awdurdodau lleol | Dyddiad trosglwyddo |
---|---|
Bwrdeistref Enfield yn Llundain | 15 Awst 2022 |
Bwrdeistref Harrow yn Llundain | 25 Tachwedd 2024 |
Bwrdeistref Llundain Bexley | 17 Ebrill 2024 |
Bwrdeistref Wandsworth yn Llundain | 15 Tachwedd 2022 |
Corfforaeth Dinas Llundain | 8 Hydref 2018 |
Cyngor Blackpool | 20 Tachwedd 2018 |
Cyngor Bwrdeistref Bedford | 18 Mawrth 2024 |
Cyngor Bwrdeistref Blackburn gyda Darwen | 28 Hydref 2021 |
Cyngor Bwrdeistref Boston | 8 Ionawr 2024 |
Cyngor Bwrdeistref Burnley | 27 Ebrill 2023 |
Cyngor Bwrdeistref Cheltenham | 1 Medi 2022 |
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Bury | 14 Gorffennaf 2022 |
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Calderdale | 28 Hydref 2024 |
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Dudley | 19 Gorffennaf 2021 |
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Knowsley | 12 Hydref 2022 |
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Sandwell | 19 Hydref 2023 |
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Sefton | 16 Ionawr 2023 |
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Solihull | 25 Ebrill 2022 |
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Stockport | 26 Ionawr 2023 |
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Tameside | 18 Hydref 2021 |
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Trafford | 24 Ebrill 2023 |
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Wigan | 24 Ebrill 2024 |
Cyngor Bwrdeistref Broxbourne | 1 Awst 2024 |
Cyngor Bwrdeistref Broxtowe | 25 Ebrill 2024 |
Cyngor Bwrdeistref Gedling | 27 Mawrth 2024 |
Cyngor Bwrdeistref Gravesham | 9 Hydref 2024 |
Cyngor Bwrdeistref Halton | 16 Mawrth 2023 |
Cyngor Bwrdeistref Harrogate | 28 Mawrth 2023 |
Cyngor Bwrdeistref Hastings | 19 Mawrth 2024 |
Cyngor Bwrdeistref High Peak | 25 Ebrill 2023 |
Cyngor Bwrdeistref Newcastle-under-Lyme | 2 Mai 2022 |
Cyngor Bwrdeistref Pendle | 15 Tachwedd 2021 |
Cyngor Bwrdeistref Redditch | 13 Hydref 2021 |
Cyngor Bwrdeistref Runnymede | 17 Ionawr 2025 |
Cyngor Bwrdeistref Rygbi | 5 Medi 2024 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent | 23 Ionawr 2023 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili | 11 Gorffennaf 2023 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful | 26 Gorffennaf 2022 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen | 10 Mai 2023 |
Cyngor Bwrdeistref Stockton-on-Tees | 7 Ebrill 2021 |
Cyngor Bwrdeistref Spelthorne | 23 Ebrill 2021 |
Cyngor Bwrdeistref Tonbridge a Malling | 25 Ebrill 2024 |
Cyngor Bwrdeistref Watford | 6 Chwefror 2020 |
Cyngor Bwrdeistref Welwyn Hatfield | 26 Mai 2021 |
Cyngor Bwrdeistref Woking | 21 Mawrth 2024 |
Cyngor De Swydd Gaerloyw | 1 Gorffennaf 2024 |
Cyngor De Swydd Stafford | 11 Awst 2022 |
Cyngor Dinas Bryste | 20 Gorffennaf 2023 |
Cyngor Dinas Caerliwelydd | 21 Ebrill 2020 |
Cyngor Dinas Chelmsford | 28 Mawrth 2023 |
Cyngor Dinas Kingston upon Hull | 24 Ebrill 2023 |
Cyngor Dinas Leeds | 8 Ionawr 2024 |
Cyngor Dinas Lerpwl | 3 Medi 2018 |
Cyngor Dinas Lincoln | 20 Ebrill 2022 |
Cyngor Dinas Norwich | 11 Gorffennaf 2019 |
Cyngor Dinas Peterborough | 31 Ionawr 2020 |
Cyngor Dinas Plymouth | 7 Ionawr 2022 |
Cyngor Dinas Portsmouth | 28 Ebrill 2022 |
Cyngor Dinas Salford | 31 Mawrth 2023 |
Cyngor Dinas Wolverhampton | 18 Ionawr 2023 |
Cyngor Dosbarth Babergh | 20 Ionawr 2022 |
Cyngor Dosbarth Bassetlaw | 21 Medi 2023 |
Cyngor Dosbarth Blaby | 16 Hydref 2023 |
Cyngor Dosbarth Bromsgrove | 13 Hydref 2021 |
Cyngor Dosbarth Canol Dyfnaint | 10 Hydref 2023 |
Cyngor Dosbarth Canol Suffolk | 20 Ionawr 2022 |
Cyngor Dosbarth Canol Sussex | 21 Mawrth 2022 |
Cyngor Dosbarth Craven | 28 Mawrth 2023 |
Cyngor Dosbarth De Norfolk | 22 Mehefin 2022 |
Cyngor Dosbarth Dwyrain Dyfnaint | 4 Ionawr 2024 |
Cyngor Dosbarth Dwyrain Lindsey | 26 Mehefin 2020 |
Cyngor Dosbarth Dwyrain Swydd Gaergrawnt | 5 Rhagfyr 2022 |
Cyngor Dosbarth Epping Forest | 25 Ebrill 2023 |
Cyngor Dosbarth Fenland | 6 Medi 2022 |
Cyngor Dosbarth Gogledd Kesteven | 16 Rhagfyr 2021 |
Cyngor Dosbarth Gogledd Orllewin Swydd Gaerlŷr | 27 Gorffennaf 2022 |
Cyngor Dosbarth Gogledd Swydd Hertford | 22 Ionawr 2024 |
Cyngor Dosbarth Gorllewin Lindsey | 18 Ebrill 2023 |
Cyngor Dosbarth Gorllewin Swydd Rydychen | 13 Ebrill 2023 |
Cyngor Dosbarth Hambleton | 28 Hydref 2021 |
Cyngor Dosbarth Harborough | 29 Ebrill 2022 |
Cyngor Dosbarth Maldon | 5 Tachwedd 2024 |
Cyngor Dosbarth Malvern Hills | 12 Ionawr 2023 |
Cyngor Dosbarth Metropolitanaidd Wakefield | 22 Ebrill 2024 |
Cyngor Dosbarth Newark a Sherwood | 26 Hydref 2021 |
Cyngor Dosbarth Ryedale | 27 Mawrth 2023 |
Cyngor Dosbarth Scarborough | 29 Tachwedd 2021 |
Cyngor Dosbarth Selby | 14 Mawrth 2023 |
Cyngor Dosbarth Sevenoaks | 28 Ebrill 2021 |
Cyngor Dosbarth Stratford-on-Avon | 10 Mai 2021 |
Cyngor Dosbarth Swydd Richmond | 27 Hydref 2022 |
Cyngor Dosbarth Warwig | 11 Gorffennaf 2018 |
Cyngor Dosbarth Wyre Forest | 19 Ebrill 2024 |
Cyngor Gogledd Swydd Lincoln | 31 Mai 2024 |
Cyngor Gorllewin Berkshire | 25 Ebrill 2024 |
Cyngor Gorllewin Suffolk | 21 Gorffennaf 2022 |
Cyngor Haringey | 20 Rhagfyr 2021 |
Cyngor Lambeth | 1 Hydref 2019 |
Cyngor Medway | 12 Gorffennaf 2024 |
Cyngor Milton Keynes | 27 Awst 2020 |
Cyngor Sir Penfro | 3 Ebrill 2023 |
Cyngor Sir Rutland | 12 Rhagfyr 2022 |
Cyngor Sutton | 7 Ionawr 2022 |
Cyngor Ynysoedd Scilly | 17 Ionawr 2019 |
Cyngor Ynys Wyth | 27 Ebrill 2022 |
Dinas a Sir Cyngor Abertawe | 27 Ebrill 2022 |
Pan fydd trosglwyddo data o awdurdod lleol unigol i Gofrestrfa Tir EF wedi ei gwblhau, bydd yn dal yn ofynnol i awdurdodau lleol gymhwyso, amrywio a dileu pridiannu yn y gofrestr. Yn ogystal, bydd yn rhaid iddynt ganfod dogfennau ar gais ac ymateb i ymholiadau ychwanegol gan gwsmeriaid ar ôl i Gofrestrfa Tir EF gyhoeddi canlyniad chwilio.
Bydd mwy o awdurdodau lleol yn trosglwyddo eu data pridiannau tir lleol i’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gydag ychwanegiadau newydd.
4. Pridiannu tir lleol
Fel rheol, mae chwiliadau pridiannau tir lleol yn ofynnol yn y broses prynu eiddo. Mae’r rhan fwyaf o bridiannau tir lleol yn gyfyngiadau neu’n waharddiadau ar ddefnyddio’r eiddo. Bydd y chwiliad pridiannau tir lleol yn dangos a yw eiddo yn ddarostyngedig i bridiant os yw’r pridiant hwnnw wedi cael ei gofrestru. Bydd yr eiddo yn ddarostyngedig iddo pa un a yw wedi ei gofrestru neu beidio. Bydd yn rhaid cynnal chwiliadau eraill er mwyn penderfynu a oes rhwymedigaeth ar yr eiddo.
4.1 Rhwymedigaethau cyffredin wedi eu gwarchod fel pridiannau tir lleol
Mae’r rhwymedigaethau cyffredin a warchodir fel pridiannau tir lleol yn cynnwys:
- caniatadau cynllunio amodol (mae’r rhain yn ffurfio’r mwyafrif o bridiannau)
- adeiladau rhestredig
- ardaloedd cadwraeth
- gorchmynion diogelu coed
- grantiau gwella ac adnewyddu
- amodau ardaloedd rheoli mwg
- amodau hysbysiadau rhwystro golau
Mae awdurdodau lleol yn cadw cofrestr pridiannau tir lleol ar gyfer eu hardal weinyddol. Maent yn dal y cofnodion mewn amrywiaeth o ffurfiau megis papur, microfiche ac yn electronig. Mae prisiau’n amrywio’n sylweddol, gan arwain at wasanaeth cwsmeriaid anghyson sy’n ddibynnol ar god post.
Mae pridiant tir lleol yn cael ei greu naill ai gan awdurdodau lleol neu gyrff eraill sydd â’r pwerau i wneud hynny, a elwir ar y cyd yn awdurdodau gwreiddiol.
4.2 Canllaw cyn mudo
Rhaid i awdurdodau lleol gwblhau nifer o dasgau cyn mudo eu data pridiannau tir lleol.
Darllenwch y canllaw cyn mudo.
4.3 Paratoi data
Mae Cofrestrfa Tir EF wedi datblygu teclyn am ddim i helpu awdurdodau lleol baratoi eu data pridiannau tir lleol i’w mudo i’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol ganolog.
Mae’r teclyn Dangosfwrdd Dadansoddi Data ar gael i awdurdodau lleol nad ydynt yn y broses fudo ar hyn o bryd. Gall ddadansoddi cymaint neu cyn lleied o ddata electronig ag y mae awdurdodau lleol am eu darparu. Mae hyn yn cynnig modd iddynt amcangyfrif y nifer a’r math o ddiwygiadau y mae angen iddynt eu gwneud. Gallwn gynnig atebion awtomatig ar gyfer y newidiadau mwyaf cyffredin y mae angen eu gwneud, gan arbed llawer o amser.
Trwy ddefnyddio’r teclyn Dangosfwrdd Dadansoddi Data, bydd gwell syniad gan awdurdodau lleol am yr amser a’r adnoddau sy’n ofynnol ar gyfer y broses fudo.
Anfonwch ebost at llcproject@landregistry.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais am fynediad i’r teclyn Dangosfwrdd Dadansoddi Data.
Defnyddio’r teclyn Dangosfwrdd Dadansoddi Data
Gwyliwch fideo sy’n dangos sut y mae’r teclyn Dangosfwrdd Dadansoddi Data yn gweithio (5 munud 15 eiliad).
Pridiannau tir lleol: Sut mae’r teclyn Dangosfwrdd Dadansoddi Data yn gweithio
4.4 Gwybodaeth beichiau newydd
Mae ein gwybodaeth beichiau newydd yn amlinellu ein dull ar gyfer gweithredu’r athrawiaeth beichiau newydd ar gyfer trosglwyddo pridiannau tir lleol o awdurdodau lleol i’n cofrestr pridiannau tir lleol ddigidol a’r gwasanaeth byw.
4.5 Ymgynghoriad cyhoeddus
Gan fod gweithredu yn gofyn am is-ddeddfwriaeth, lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2017 drafft, a gafodd ei gynnal tan 11 Gorffennaf 2016.
5. Pridiannu Tir Lleol (CY79)
Darllenwch ein cyfarwyddyd ymarfer 79: pridiannau tir lleol am wybodaeth am y canlynol:
- ceisiadau i gofrestru pridiant tir lleol neu amrywio neu ddileu cofrestru pridiant tir lleol
- ceisiadau am chwiliad swyddogol neu chwiliad personol o’r gofrestr pridiannau tir lleol
5.1 Gwyliwch ein canllaw fideo Pridiannau Tir Lleol (6 munud 25 eiliad)
Os ydych yn gweithio i awdurdod lleol neu awdurdod gwreiddiol, cewch wybod sut i ychwanegu, diweddaru neu ddileu pridiannau ar y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol.
Newid gwybodaeth pridiannau tir lleol ar y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol
6. Ffïoedd Pridiannau Tir Lleol
Mae’r wybodaeth yn ein canllaw: Ffïoedd Pridiannau Tir Lleol yn grynodeb o Reolau Ffïoedd Pridiannau Tir Lleol (Lloegr) 2018 a Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Ffïoedd) (Cymru) 2021. Mae’r canllaw hefyd yn cyfeirio at Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018.
7. Ein cyflenwyr
7.1 Cyflenwyr darparu gwasanaethau mudo
Ein cyflenwyr darparu gwasanaethau mudo yw:
7.2 Cyflenwyr meddalwedd pridiannau tir lleol
Mae’r cyflenwyr meddalwedd hyn wedi eu contractio i weithio gyda Chofrestrfa Tir EF:
Ein partneriaid rhaglen yw:
Mae’r cyflenwyr meddalwedd hyn yn gweithio’n uniongyrchol gydag awdurdodau lleol heb gontractau Cofrestrfa Tir EF:
Darllenwch ragor am gyflenwyr meddalwedd pridiannau tir lleol.
8. Cysylltu
Ar gyfer ymholiadau pridiannau tir lleol cyffredinol, defnyddiwch ein ffurflen gysylltu ar gyfer ymholiadau cyffredinol.
Ar gyfer ymholiadau gwasanaeth byw pridiannau tir lleol yn unig, defnyddiwch ein ffurflen gysylltu gwasanaeth byw.