Canllawiau

Llofnodi eich gweithred morgais: canllaw i berchnogion tai

Diweddarwyd 7 March 2023

Yn berthnasol i England and Gymru

Mae’r gwasanaeth Llofnodi eich gweithred morgais gan Gofrestrfa Tir EF yn caniatáu ichi lofnodi eich gweithred morgais yn gyflym ac yn ddiogel ar adeg sy’n gyfleus ichi.

Nid oes yn rhaid ichi aros i’r gwaith papur gyrraedd yn y post, ei lofnodi o flaen tyst, a’i anfon yn ôl at eich trawsgludwr neu roddwr benthyg. Caiff y cyfan ei wneud ar eich cyfrifiadur neu ffôn symudol.

Llofnodi eich gweithred morgais

Rhaid i’ch trawsgludwr gael y canlynol:

  • eich rhif ffôn symudol

  • eich cyfeiriad ebost

  • eich dyddiad geni

Bydd eich trawsgludwr yn anfon ebost atoch gyda chyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Llofnodi eich gweithred morgais. Bydd yr ebost yn cael ei anfon i’r cyfeiriad ebost a roddwyd i’ch trawsgludwr.

Profi eich hunaniaeth

Bydd angen ichi brofi pwy ydych gan ddefnyddio GOV.UK One Login. Mae defnyddio GOV.UK One Login yn ddiogel.

Gofyn am god

Cewch eich mewngofnodi i wasanaeth Cofrestrfa Tir EF ar ôl ichi gadarnhau hunaniaeth. Gallwch gadarnhau’r manylion ar eich gweithred morgais a gofyn am god i lofnodi’r weithred.

Bydd y cod yn cael ei anfon at y rhif ffôn symudol a roddwyd i’ch trawsgludwr. Caiff eich gweithred morgais ei llofnodi pan fyddwch yn nodi’r cod.

Bydd eich trawsgludwr a’ch rhoddwr benthyg morgais yn gallu gweld statws y weithred ar unrhyw adeg. Bydd angen i bawb a enwir ar yr eiddo ddilyn y broses. Nid oes yn rhaid ichi lofnodi’r weithred ar yr un pryd. Bydd eich trawsgludwr a’ch rhoddwr benthyg yn cael gwybod pan fydd pawb a enwir ar yr eiddo wedi llofnodi’r weithred.

Ail-forgeisio’ch eiddo

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth i ail-forgeisio’ch eiddo. Rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu a thrawsgludwr ddefnyddio’r gwasanaeth Llofnodi eich gweithred morgais.

Banciau a chymdeithasau adeiladu sy’n defnyddio’r gwasanaeth

Mae banciau a chymdeithasau adeiladu sy’n defnyddio’r gwasanaeth Llofnodi eich gweithred morgais yn cynnwys:

  • Barclays
  • Coventry Building Society
  • Godiva Mortgages
  • HSBC
  • Nationwide Building Society
  • NatWest
  • Santander
  • The Co-operative Bank (Platform)
  • The Mortgage Works
  • The Royal Bank of Scotland
  • TSB
  • Virgin Money (Clydesdale Bank plc)

Trawsgludwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth

Mae trawsgludwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth Llofnodi eich gweithred morgais yn cynnwys:

  • Enact
  • Hugh James
  • Knights Professional
  • LMS
  • O’Neill Patient
  • Optima Legal