Canllawiau

Llofnodi eich gweithred morgais: canllaw i roddwyr benthyg morgeisi

Diweddarwyd 7 Mawrth 2023

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

I ddefnyddio’r gwasanaeth Llofnodi eich gweithred morgais, rhaid eich bod naill ai’n:

  • gweithio gyda thrawsgludwr sydd wedi datblygu ei TG i weithio gyda’r gwasanaeth, neu’n
  • ymgymryd â’r broses drawsgludo yn fewnol (yn yr achos hwn, dylech ddarllen y canllaw i drawsgludwyr) hefyd

Rhaid ichi fod yn aelod o rwydwaith gwrth-dwyll neu sefydliad sydd wedi ei hysbysu a’i gymeradwyo gan Gofrestrfa Tir EF hefyd. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â ni.

Defnyddio’r gwasanaeth

Rhaid ichi gytuno ar dempled gweithred morgais gyda ni. I wneud hyn, llenwch y ffurflen morgais digidol: cymeradwyo (e-ACD) a’i hanfon trwy ebost i: mailto:commercialarrangements@landregistry.gov.uk.

Rhaid ichi gyflwyno ffurflen e-ACD ar wahân ar gyfer pob math o forgais digidol yr hoffech ei gymeradwyo.

Unwaith inni gael eich cais, byddwn yn:

  • gwirio’r wybodaeth a ddarparwyd
  • clustnodi cyfeirnod e-MD y bydd ei angen arnoch chi neu’r trawsgludwr wrth greu pob gweithred morgais ddigidol unigol
  • anfon PDF o dempled y weithred morgais atoch trwy ebost

Ailysgrifennu gweithred bapur

Wrth gyflwyno data ar gyfer eich templed(au), dylech gofio mai cynnyrch newydd yw morgais digidol, nid dim ond atgynhyrchiad o weithred bapur. Mae pobl yn darllen yn wahanol ar y we nag y maent ar bapur, felly efallai y bydd angen ailysgrifennu eich gweithredoedd papur presennol yn helaeth er mwyn iddynt weithio fel morgais digidol.

Templed morgais digidol

Er mwyn gwneud trawsgludo yn symlach, yn gyflymach ac yn rhatach, rydym wedi safoni’r templed morgais digidol lle bo’n bosibl, yn dilyn profion defnyddwyr helaeth. Mae’n cyd-fynd â safonau Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth o ran dylunio cynnwys.

Cymal arwystlo

O ran y cymal arwystlo, rydym am gadw hyn yn syml, gan fod rhoddwyr benthyg wedi dweud wrthym yn aml nad ydynt yn ei ddeall. Mae gan y weithred morgais ddigidol gymal arwystlo safonol felly. Os ydych am egluro’r hyn sy’n cael ei arwystlo gan y cymal arwystlo, dylai’r eglurhad fynd naill ai yn y darpariaethau ychwanegol neu yn nhelerau ac amodau’r morgais.

Morgeisi ail arwystl

Dim ond i greu morgais sy’n cymryd lle morgais presennol y cymerwr benthyg (ailforgais) y gellir defnyddio’r gwasanaeth. Ni ellir defnyddio’r gwasanaeth i greu ail arwystl neu un dilynol.

Rhoddwyr benthyg sy’n defnyddio’r gwasanaeth

Mae rhoddwyr benthyg sy’n gallu defnyddio’r gwasanaeth Llofnod eich gweithred morgais ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • Barclays
  • Coventry Building Society
  • Godiva Mortgages
  • HSBC
  • Nationwide Building Society
  • NatWest
  • Santander
  • The Co-operative Bank (Platform)
  • The Mortgage Works
  • The Royal Bank of Scotland
  • TSB
  • Virgin Money (Clydesdale Bank plc)

Cysylltu

Cysylltwch â ni i gael gwybod rhagor: mailto:digitalmortgages@landregistry.gov.uk.