Gwasanaeth gwrandawiadau fideo ‘dalfa rhithiol’ Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF - Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn egluro ‘dalfa rhithiol’ y carcharor yn ystod ei wrandawiad rhithiol a chyn yr ymgynghoriad preifat gyda’i gynrychiolydd cyfreithiol yn y gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo.
Yn berthnasol i England and Gymru
Dogfennau
Manylion
Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn wedi’i gytuno rhwng Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF (HMPPS).
Mae’r Memorandwm hwn yn ffurfioli’r berthynas o ran y risg a’r cyfrifoldeb a rennir rhwng GLlTEF a HMPPS yn ystod ‘dalfa rhithiol’ y carcharor yn ystod ei wrandawiad rhithiol a chyn yr ymgynghoriad preifat gyda’i gynrychiolydd cyfreithiol.
Datblygwyd y term ‘dalfa rhithiol’ trwy ymgysylltu am ddalfa’r carcharor pan fydd ar blatfformau rhithiol ar gyfer gwrandawiadau o bell lle efallai na fydd gan staff y carchar oruchwyliaeth corfforol dros y carcharor.
Mae’r Memorandwm yn annog cydweithrediad adeiladol rhwng GLlTEF a HMPPS wrth lywio dalfa rhithiol y carcharor yn ystod ei amser yn y gwasanaeth gwrandawiadau fideo ac wrth gynnal gwrandawiadau o bell yn gyffredinol.
Nid yw’r Memorandwm hwn yn offeryn y gellir ei orfodi yn gyfreithiol, ond bydd y partïon perthnasol yn gweithredu yn onest ac yn ystyried eu hunain yn gaeth i dermau’r memorandwm.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 October 2023 + show all updates
-
Added translation
-
First published.