Canolfan Byd Gwaith – cydweithio gyda chyflogwyr
Diweddarwyd 22 Rhagfyr 2023
Gwasanaeth Cymorth Recriwtio
Gall ein rhwydwaith o Gynghorwyr Cyflogwyr lleol eich helpu i ddod o hyd i’r bobl iawn ar gyfer eich swyddi a hefyd cefnogi eich cymuned. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn rhoi Cynghorydd Cyflogwr a enwir i chi a fydd yn gweithio gyda chi i lenwi’ch swyddi gwag gan ddefnyddio’r datrysiad recriwtio mwyaf addas, gan gynnwys:
- help gyda disgrifiadau swydd
- cyflymu eich proses recriwtio
- hyrwyddo eich swyddi gwag mewn Canolfannau Gwaith lleol a’n cyfryngau cymdeithasol
- defnyddio swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer cyfweliadau (lle bo ar gael) a digwyddiadau recriwtio lleol
- cynllunio eich ymgyrchoedd recriwtio yn y dyfodol
Gall ein Cynghorwyr Cyflogwyr weithio gyda chi i ddylunio pecyn pwrpasol i ddiwallu eich anghenion recriwtio, gan gynnwys:
- Rhaglen academi waith yn seiliedig ar sector – cymorth i greu gweithlu medrus ar gyfer eich busnes. Mae’r rhaglen hon yn cynnig dull hyblyg sy’n cael ei addasu i ddiwallu anghenion eich busnes
- Canllaw profiad gwaith y cyflogwyr – cefnogi pobl ifanc i feithrin sgiliau swyddi gwerthadwy
- Treialon gwaith – i weld a yw darpar weithwyr yn addas ar gyfer gweithio mewn rôl a chwmni
Yn ogystal, gallwn gynnig mwy o gymorth i gyflogwyr sydd wedi ymrwymo i greu cyfleoedd i bobl sydd angen cymorth ychwanegol i lwyddo yn y farchnad lafur.
Gwasanaeth hysbysebu swyddi gwag
Hysbysebu eich swyddi drwy ein gwasanaethau ar-lein sy’n cael eu defnyddio gan filiynau o bobl bob wythnos:
- GOV.UK Hysbysebu gwasanaeth swydd – hysbysebu a rheoli swyddi ar-lein 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn
- Cyfryngau cymdeithasol – hyrwyddo eich swydd wag drwy eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Canolfan Byd Gwaith lleol
Gwasanaeth cyngori
Cyngori eich busnes, gan gynnwys:
- Cynllun cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd – annog cyflogwyr i feddwl yn wahanol am anabledd a gweithredu i wella sut maent yn recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl
- Mynediad at Waith – cymorth a chefnogaeth ymarferol i helpu pobl anabl i ddechrau neu aros mewn gwaith
- Addasiadau rhesymol – darparu cymorth i weithwyr ag anableddau a/neu gyflyrau iechyd a gwybodaeth am y Pasbort Addasu Iechyd.
- Prentisiaethau – cyflogi prentis a’r cyllid sydd ar gael
- Cynnydd yn y Gwaith – arbenigwyr cynnydd lleol yn helpu i dyfu eich busnes wrth gadw a datblygu gweithwyr. Gallant nodi rhwystrau i gynnydd/hyrwyddo a chysylltu â’r gefnogaeth a’r cyllid sydd ar gael
- Credyd Cynhwysol a chyflogwyr – gwneud y defnydd gorau o gyfleoedd y gall Credyd Cynhwysol eu cynnig i fusnes
- Gwasanaeth diswyddo – cymorth pwrpasol drwy ein Gwasanaeth Ymateb Cyflym ac am ddim i’ch helpu chi a’ch gweithwyr drwy’r broses o ddiswyddo
- Pensiynau gweithle – cyngor ar sut i sefydlu a rheoli cynllun pensiwn gweithle
Cysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith
Cael mwy o gyngor am wasanaethau’r Ganolfan Byd Gwaith:
- Cymorth i recriwtwyr – ystod o wasanaethau recriwtio a all eich helpu chi fel cyflogwr
Cysylltwch â Gwasanaethau Cyflogwyr ar-lein neu dros y ffôn
Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i gysylltu â Gwasanaethau Cyflogwyr gyda’ch ymholiad recriwtio.
Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr
Ffôn: 0800 169 0178
Ffôn testun: 0800 169 0172
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau