LP14: Sut mae bod yn atwrnai eiddo a materion ariannol (fersiwn y we)
Diweddarwyd 16 Mehefin 2020
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. Dechrau arena
Mae’r ganllaw hon i bobl sydd wedi cael eu penodi’n atwrneiod ar gyfer penderfyniadau ynghylch eiddo a materion ariannol neu sy’n ystyried cymryd y rôl honni.
Mae bod yn atwrnai yn gyfrifoldeb pwysig. Bydd angen i chi ddeall yn llawn beth mae’n golygu cyn cytuno i dderbyn y swydd - a gallwch ei gwrthod os teimlwch yn anghyfforddus ynglŷn â hyn.
Drwy gydol y ganllaw rydym yn defnyddio straeon pobl eraill i ddangos pethau mae atwrneiod yn eu hystyried wrth wneud penderfyniadau. Nid ydynt yn atebion terfynol ond efallai y byddant yn rhoi syniadau i chi ynglŷn â sut i ymddwyn.
Mae adran Deall y Jargon A i Y ar ddiwedd y ganllaw yn esbonio termau efallai nad ydych yn eu deall.
1.1 Beth yw atwrnai?
Yn ôl y gyfraith, atwrnai yw rhywun sy’n cael ei ddewis i weithredu ar ran rhywun aril.
Pan fydd rhywun (sef y ‘rhoddwr’) yn gwneud atwrneiaeth arhosol (LPA), mae’n dewis pobl i wneud penderfyniadau drosti rhag ofn iddo golli galluedd meddyliol. Mae galluedd meddyliol yn golygu’r gallu i wneud eich penderfyniadau eich hun.
Atwrneiod yw’r bobl a ddewiswyd i helpu rhoddwyr. Nid oes angen hyfforddiant cyfreithiol ar atwrneiod ond mae angen iddynt fod yn gywir a dibynadwy.
Mae angen i atwrnai ar gyfer eiddo a materion ariannol – i ddefnyddio’r term cyfreithiol llawn – wybod digon am faterion ariannol hefyd i gy awni’r rôl yn dda.
Drwy gydol y ganllaw hon, rydym yn cyfeirio at yr unigolyn rydych yn gwneud penderfyniadau ynghyclch eiddo a materion ariannol drosto fel y ‘rhoddwr’
1.2 Beth yw LPA?
Dogfen gyfreithiol yw LPA sy’n enwi’r atwrneiod a fydd yn gwneud penderfyniadau os na fydd y rhoddwr yn gallu. Gallwch wneud LPAs ar gyfer penderfyniadau ariannol, neu benderfyniadau am iechyd a lles, neu’r ddau.
Mae’r ganllaw hon ar gyfer atwrneiod sy’n gwneud penderfyniadau ariannol ar gyfer rhywun arall. Ceir canllaw ar wahân ar gyfer atwrneiod iechyd a lles.
Mae rhai rhoddwyr yn penodi atwrnai i ymgymryd â’r ddwy rôl.
1.3 Pwy sy’n gallu bod yn atwrnai?
Gall unrhyw un dros 18 oed sydd â galluedd meddyliol ac nad yw’n fethdalwr fod yn atwrnai eiddo a materion ariannol. Os byddwch yn fethdalwr yn y dyfodol, mae’n rhaid i chi ddweud wrth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) oherwydd ni fyddwch bellach yn gallu gweithredu fel atwrnai.
1.4 A ddylech fod yn atwrnai?
Mae unigolyn sy’n gofyn i chi’n credu chi yw’r unigolyn cywir i edrych ar ôl ei eiddo a’i faterion ariannol. Os nad ydych eisoes wedi derbyn, mae angen i chi feddwl yn ofalus a ydych yn barod i gy awni’r rôl.
Pethau i feddwl amdanynt
-
Oes gennych y sgiliau ariannol i weithredu ar ran y rhoddwr? A fyddwch yn gallu rheoli ei gyfrifon banc, talu ei filiau, edrych ar ôl unrhyw fuddsoddiadau a phenderfynu p’un a ddylid gwerthu ei dŷ ai peidio?
-
Oes gennych yr amser i’w helpu, os na fydd yn gallu gwneud penderfyniadau dros ei hun ar unrhyw adeg?
-
Ydych yn ei adnabod yn ddigon da i’w helpu? Os nad ydych, a allwch dreulio amser yn darganfod beth mae’n hoffi/fel?
-
A fyddech yn hyderus yn gwneud penderfyniadau er budd pennaf y rhoddwr, hyd yn oed os oedd pobl eraill eisiau rhywbeth arall?
-
Os yw’r rhoddwr yn penodi atwrneiod eraill a byddai’n rhaid i chi gydweithio – a fyddai hynny’n hawdd neu a fyddai gwrthdaro?
Y brif reol ar gyfer atwrneiod yw bod yn rhaid iddynt wneud penderfyniadau er budd pennaf y rhoddwr - nid eu hunain neu unrhyw un arall
1.5 Pa fath o dasgau ariannol byddaf yn eu gwneud i’r rhoddwr?
Gall rhoddwyr adael cyfarwyddiadau penodol ar gyfer eu hatwrneiod pan fyddant yn creu LPA ond fel arfer mae edrych ar ôl eiddo a materion ariannol rhywun yn cwmpasu:
-
defnyddio ei gyfrifon cyfredol banc a chymdeithas adeiladu a’i gyfrifon cynilo
-
hawlio a defnyddio ei fudd-daliadau, pensiynau a lwfansau
-
delio â’i dreth
-
talu ei filiau cartref, gofal ac eraill
-
gwneud rhoddion ar ei ran
-
gwneud a gwerthu buddsoddiadau iddo
-
prynu neu werthu ei gartref
-
cynnal neu drwsio ei gartref
-
defnyddio ei arian i brynu pethau mae’r rhoddwr eu hangen, fel cyfarpar iechyd penodol
1.6 Pryd byddaf yn dechrau gweithredu fel atwrnai?
Gallwch weithredu o dan LPA dim ond pan fydd hi wedi’i chofrestru â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).
Ar ôl cofrestru, gallwch ddechrau defnyddio LPA eiddo a materion ariannol ar unwaith – gan gynnwys pan fydd y rhoddwr yn dal i fod â galluedd meddyliol, os byddant yn dymuno i chi wneud hyn. (Mae LPAs iechyd a lles yn wahanol – gellir eu defnyddio dim ond pan ni fydd gan unigolyn alluedd meddyliol bellach.)
Gall rhoddwyr benodi atwrneiod i weithredu drostynt pan fyddant yn parhau i fod â galluedd meddyliol am wahanol resymau. Efallai ei bod yn anodd iddo ddefnyddio cyfri adur neu siarad ar y ffôn felly mae angen arno rywun i dalu ei liau neu gasglu budd-daliadau neu incwm drosto. Neu efallai bod y rhoddwr allan o’r wlad am lawer o amser ac angen rhywun i weithredu drosto gartref.
Fel arall, efallai bod y rhoddwr wedi nodi bod atwrneiod yn gallu defnyddio’r LPA pan ni fydd ganddo alluedd meddyliol bellach yn unig – er enghraifft, oherwydd dyfodiad dementia neu os bydd yn dioddef anaf i’r ymennydd.
Os nad ydych yn siŵr a yw’r LPA wedi’i chofrestru, gwiriwch â’r rhoddwr.
Os nad oes gan y rhoddwr alluedd, gwiriwch y ddogfen LPA – os yw wedi cael ei chofrestru, bydd pob tudalen wedi’i nodi â’r geiriau ‘OPG validated’.
1.7 Cofrestrwch yn awr
Os nad yw’r LPA wedi’i chofrestru ac mae gan yr unigolyn alluedd meddyliol, awgrymwch ei fod yn gwneud cais i’r OPG yn awr i gofrestru’r LPA. Gall naill ai’r rhoddwr ynteu ei atwrnai/atwrneiod gofrestru’r LPA. Os yw’r atwrneiod wedi cael eu penodi ar y cyd, bydd angen i bawb ohonoch gofrestru’r LPA gyda’ch gilydd.
Mae’n well cofrestru’r LPA cyn gynted â phosibl. Os oes gan yr LPA unrhyw gamgymeriadau neu os oes unrhyw broblemau eraill, efallai y bydd yn bosibl eu cywiro os oes gan yr unigolyn alluedd meddyliol yn unig.
Os nad yw’r unigolyn bellach yn gallu gwneud a deall penderfyniadau ac mae ei LPA wedi’i llofnodi a’i dyddio, gall atwrneiod wneud cais i’w chofrestru. Os oes gwallau, fodd bynnag, efallai ni fydd OPG yn gallu cofrestru’r LPA.
Os nad yw OPG yn gallu cofrestru’r LPA ac nid oes gan yr unigolyn alluedd meddyliol, ni ellir defnyddio’r LPA.
Os felly, bydd angen i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod os dymunwch wneud penderfyniadau ar gyfer yr unigolyn. Bydd hyn yn costio £371- wedi’i dalu o ystâd y rhoddwr - a gall gymryd mwy o amser na chofrestru LPA.
1.8 LPAs wedi’u gwneud ar-lein
Os gwnaethpwyd yr LPA gan ddefnyddio gwasanaeth digidol GOV.UK:
1) Ewch yn ôl i’r cyfrif ar-lein a llenwch ran gofrestru’r ffurflen electronig, gan gynnwys talu’r ffi am gais LPA.
2) Yna argraffwch y ffur en, ei llofnodi yn y drefn gywir a’i hanfon at OPG i gofrestru.
1.9 LPAs wedi’u gwneud ar ffur enni paper:
-
os gwnaethpwyd yr LPA ar ôl 1 Gorffennaf 2015, defnyddiwch y ffur en gais ar gefn y ffur en LPA ei hun
-
os gwnaethpwyd yr LPA cyn 1 Gorffennaf 2015, gwnewch gais i’w chofrestru gan ddefnyddio ffurflen LP2
2. Beth mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei wneud?
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn cofrestru LPAs (gan eu gwneud yn dilyn yn gyfreithiol) ac yn ymchwilio i bryderon ynglŷn â sut mae atwrneiod yn cy awni eu rôl.
Ymhlith y bobl a allai godi pryderon o ran camddefnydd posibl o arian neu eiddo’r rhoddwr y mae cyd-atwrneiod ac aelodau o’r teulu.
Mae gan OPG lawer o wybodaeth am fod yn atwrnai ond nid yw’n gallu rhoi cyngor cyfreithiol neu ariannol - ar gyfer hynny, gallech siarad â chyfreithiwr neu gyfrifydd.
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Blwch Post 16185
Birmingham B2 2WH
Ffôn: 0300 456 0300
Ebost: customerservices@publicguardian.gov.uk
Dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm; Dydd Mercher 10am i 5pm
3. Beth i’w wneud yn awr
3.1 Os yw’r rhoddwr yn parhau i fod â galluedd meddyliol, siaradwch ag ef am sut mae’n edrych ar ôl ei faterion ariannol
Er enghraifft, a ye’n:
-
rhoi anrhegion pen-blwydd i blant neu deulu a ffrindiau eraill (a pha werth)
-
hof gwario ar ddillad, cerddoriaeth neu dripiau (a faint)
-
rhoi i elusennau penodol (a faint)
-
dymuno gwerthu neu rentu ei gartref os yw’n symud i gartref gofal
-
well ganddo gadw balans isafswm yn ei gyfrif banc
Ysgrifennwch y pethau hyn i lawr – neu gofynnwch i’r unigolyn ysgrifennu i lawr y pethau sy’n bwysig iddo.
Efallai y byddwch yn adnabod yr unigolyn sydd wedi gwneud yr LPA yn dda. Felly, ystyriwch hwn fel cyfle i’w ddeall hyd yn oed yn well.
Po fwyaf rydych yn gwybod amdano, y gorau byddwch yn gallu gwneud penderfyniadau os na fydd ef yn gallu gwneud ar ryw adeg.
Os nad yw bellach yn gallu siarad â chi am ei ddymuniadau a’i gredoau, yna gofynnwch i bobl eraill sy’n ei adnabod yn dda – ffrindiau, teulu, cydweithwyr - wrth wneud penderfyniadau.
Gallwch hefyd ofyn i ymgynghorwyr proffesiynol am eu barn, fel cyfreithiwr neu gyfrifydd, os yw gwneud hynny er budd pennaf y rhoddwr.
3.2 Gofynnwch i’r rhoddwch le mae’n cadw gwybodaeth ariannol
Er enghraifft:
-
llythyrau am fudd-daliadau, pensiynau a threth
-
biliau a chyfri enni banc neu gerdyn credyd
-
gweithredoedd unrhyw eiddo mae’n berchen arno
3.3 Cewch fanylion cyswllt a chopïau ardystiedig o’r LPA
Gofynnwch i’r rhoddwr:
-
am fanylion cyswllt (er enghraifft, ei gyfrifydd a’i asiant tai)
-
ble mae’n cadw’r ddogfen LPA
Os oes ganddo alluedd meddyliol, gallech ofyn i’r rhoddwr wneud copïau swyddogol o’i ddogfen LPA cofrestredig – sef copïau ‘ardystiedig’. Gallwch ddefnyddio copi ardystiedig yn yr un ffordd â’r gwreiddiol - i bro bod gennych ganiatâd i wneud penderfyniadau ar ran y rhoddwr.
Mae angen i fanciau a chyrff ariannol eraill weld yr LPA wreiddiol neu gopi ardystiedig ohoni cyn y byddant yn rhoi mynediad at gyfrifon y rhoddwr i chi. Efallai y byddant angen gweld prawf o’ch cyfeiriad chi a’r rhoddwr hefyd.
I gael manylion am ardystio LPA, ewch i GOV.UK/power-of-attorney/certify
I gael manylion am ddelio â banciau, ewch i GOV.UK/government/publications/deputy-and-attorney-guidance-dealing-with-banks
3.4 Sefydlwch gyfrif ar wahân i’r rhoddwr
Mae’r gyfraith yn dweud y dylai atwrneiod eiddo ac arian gadw materion ariannol y rhoddwr ar wahân i’w faterion ariannol ei hun neu unrhyw un arall. Nod hyn yw osgoi drysu materion ariannol y rhoddwr â’ch rhai chi.
Weithiau ceir rheswm da i beidio â chadw materion ariannol y rhoddwr ar wahân. Er enghraifft, efallai eich bod yn atwrnai eich gŵr neu’ch gwraig ac wedi cael cyfrif ar y cyd ers llawer o ynyddoedd.
Cysylltwch ag OPG os ydych yn ansicr am sefydlu cyfrif atwrnai ar wahân.
3.5 Dechreuwch gofnodi eich penderfyniadau fel atwrnai
Un o’ch dyletswyddau cyfreithiol fel atwrnai eiddo a materion ariannol yw cadw cofnod cywir o’r holl benderfyniadau ariannol byddwch yn eu gwneud ar ran y rhoddwr.
Cofnodwch yr holl drafodion arwyddocaol a chadwch dderbynebau ar gyfer yr holl brif bryniannau byddwch yn eu gwneud i’r rhoddwr.
Fel atwrnai, mae’n rhaid i chi edrych ar ôl materion ariannol y rhoddwr â hyd yn oed mwy o ofal na’ch materion ariannol eich hun.
4. Eich rôl fel atwrnai
4.1 Beth mae galluedd meddyliol yn ei olygu?
Fel atwrnai eiddo a materion ariannol, efallai y byddwch yn gallu gwneud penderfyniadau dros y rhoddwr pan fydd yn dal i fod â galluedd meddyliol. Fodd bynnag, efallai y byddwch hefyd yn gorfod gwneud penderfyniadau pan na fydd ganddo alluedd meddyliol bellach.
Os na fydd gan rywun alluedd meddyliol, nid oes ganddo’r gallu i wneud penderfyniadau penodol – yn yr achos hwn, penderfyniadau ariannol – ar yr adeg y mae angen eu gwneud.
Efallai ni fydd gan rywun alluedd meddyliol oherwydd problem â’r meddwl neu’r ymennydd fel:
-
dementia
-
anaf difrifol i’r ymennydd
-
salwch meddwl difrifol
Efallai y bydd y rhoddwr yn gallu gwneud rhai penderfyniadau, fel beth y mae ef eisiau ei brynu ar drip siopa, ond heb fod yn gallu deall a gwneud penderfyniadau mwy cymhleth, fel penderfyniadau ynglŷn â gwerthu ei dŷ.
Efallai y bydd ei alluedd meddyliol yn mynd a dod, felly efallai y bydd yn gallu gwneud penderfyniadau ar rai adegau ond ni fydd ar adegau eraill.
4.2 Galluedd meddyliol; pum egwyddor
Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA) - sy’n llywodraethu sut mae atwrneiod yn gallu gweithredu - yn manylu ar bum rheol am bobl heb alluedd meddyliol. Mae’r egwyddorion yn effeithio arnoch chi fel atwrnai yn y ffyrdd hyn:
-
Dylai’r rhoddwr wneud penderfyniadau dros ei hun oni bai y gellir dangos nad yw’n gallu neu nad yw eisiau gwneud penderfyniadau.
-
Dylech roi’r holl help i’r rhoddwr y mae ei angen i wneud penderfyniad cyn penderfynu nad yw’n gallu gwneud y penderfyniad hwnnw.
-
Os bydd rhoddwr yn gwneud penderfyniad sy’n ymddangos i fod yn annoeth neu’n hynod, nid yw hynny’n golygu nad oes ganddo’r galluedd i’w wneud. (Bydd llawer o bobl yn gwneud penderfyniadau annoeth o bryd i’w gilydd.)
-
Mae’n rhaid i unrhyw benderfyniad byddwch yn ei wneud i’r rhoddwr fod er ei fudd pennaf - pwynt pwysig iawn sy’n cael ei esbonio’n fwy manwl isod.
-
Dylai unrhyw beth fyddwch yn ei wneud ar ran rhywun arall sydd heb alluedd gyfyngu ei hawliau sylfaenol cyn lleied â phosibl.
Dylai’r rheolau hyn arwain eich holl benderfyniadau sy’n cael eu gwneud i’r rhoddwr.
Mae Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn esbonio cefndir cyfreithiol bod yn atwrnai ac mae’n cynnwys llawer o enghreifftiau defnyddiol o ran sut gall atwrneiod weithredu. Gallwch ei archebu neu ei lawr-lwytho yn www.gov.uk/opg/mca-code.
4.3 Sut alla i ddweud pan fydd gan rywun alluedd meddyliol?
Mae’r gyfraith yn dweud bod angen i chi gael ‘cred resymol’ ynglŷn â galluedd meddyliol y rhoddwr i wneud penderfyniadau.
Weithiau mae hynny’n golygu ystyried y mathau o benderfyniadau mae ef wedi gallu eu gwneud yn y gorffennol a gofyn: A yw’n rhesymol meddwl y mae’n debygol y bydd - neu ni fydd - ef yn gallu gwneud y penderfyniad hwn heddiw?
Er enghraifft, os yw wedi mynd yn ddryslyd yn y gorffennol ynglŷn â phenderfyniadau fel gwneud buddsoddiadau neu werthu ei dŷ, mae’n rhesymol dod i’r casgliad y bydd yn parhau i fod angen help wrth wneud penderfyniadau o’r fath – neu ni fydd yn gallu eu gwneud.
Ond os yw fel arfer yn gallu helpu â phenderfynu pa anrhegion byddwch yn eu prynu i berthnasau ar ei ran, byddai’n afresymol peidio â’i gynnwys mewn penderfyniadau o’r fath.
Os bydd galluedd meddyliol y rhoddwr yn amrywio – yn newid llawer – efallai y bydd angen i chi wirio’n fwy aml pa benderfyniadau y mae’n gallu eu gwneud. Ond os yw cy wr y rhoddwr yn aros yr un fath neu’n dirywio, efallai ni fydd angen i chi wirio ei alluedd bob dydd yn rhesymol ar gyfer penderfyniadau fel talu biliau a siopa am fwyd.
Hefyd gallwch ofyn cyfres o gwestiynau i’ch hun i wirio galluedd meddyliol y rhoddwr:
-
a oes ganddo ddealltwriaeth gyffredinol o’r penderfyniad y mae angen ei wneud?
-
a oes ganddo ddealltwriaeth gyffredinol o ganlyniadau ei benderfyniad?
-
a yw’n gallu cadw’r wybodaeth hon a’i phwyso a mesur i wneud penderfyniad?
4.4 Sut i helpu’r rhoddwr i wneud penderfyniadau
Weithiau bydd angen i chi ddewis y lle ac amser cywir i helpu’r rhoddwr wrth wneud penderfyniadau neu roi cynnig ar wahanol ffyrdd o gyfathrebu.
Er enghraifft, efallai y bydd y rhoddwr yn fwy ymatebol os byddwch yn dewis y lleoliad cywir - efallai y bydd yn llai dryslyd yn ei gartref, yn hytrach nag mewn amgylchedd anghyfarwydd.
Neu a yw’r rhoddwr yn fwy bywiog yn y bore fel arfer? Efallai dyna yw’r amser gorau i’w gynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau, yn hytrach na’n ddiweddarach yn y dydd.
Weithiau bydd y rhoddwr angen ychydig bach yn fwy o amser i chi esbonio penderfyniad.
Efallai y bydd gwahanol ffyrdd o gyfathrebu’n helpu hefyd:
-
rhowch gynnig ar ddefnyddio lluniau neu iaith arwyddion i esbonio penderfyniad i’r rhoddwr
-
efallai bod y rhoddwr yn gallu pwyntio, gwasgu eich llaw, amrantu, nodio neu ddangos i chi’r hyn mae ei eisiau mewn rhyw ffordd arall hyd yn oed os nad yw’n gallu dweud unrhyw beth
Ceisiwch aros yn ddigyffro. Weithiau gall gymryd amser i wneud penderfyniad os yw rhywun yn sâl neu’n methu â siarad.
Os ydych yn parhau i fod yn ansicr a yw’r rhoddwr yn gallu deall a gwneud penderfyniadau, gallech ofyn i’r doctor ei asesu. Gallech hefyd ofyn i ffrindiau, teulu a staff gofal sy’n gweld y rhoddwr yn aml.
4.5 Enghraifft: Dweud pan fydd gan rywun alluedd meddyliol*
Wrth gynllunio ar gyfer ei hymddeoliad, mae Enid wedi gwneud atwrneiaeth arhosol ar gyfer eiddo a materion ariannol gan enwi ei mab, Anthony, fel ei hatwrnai. Bellach mae hi wedi cael diagnosis o ddementia, ac mae Anthony yn pryderu ei bod hi’n drysu ynglŷn ag arian.
Mae Anthony yn dechrau trwy dybio bod gan Enid alluedd meddyliol i reoli ei materion ariannol. Yna mae’n ystyried pob un o benderfyniadau ariannol Enid wrth iddi wneud y rhain, gan ei helpu os bydd angen.
Mae Anthony yn mynd i siopa gydag Enid ac yn gweld ei bod yn gallu gwirio
ei newid i wneud yn siŵr ei fod yn gywir. Ond pan mae hi angen gwneud penderfyniad am gyfranddaliadau mae hi’n berchen arnynt mewn cwmni, mae Enid yn drysu. Mae hi’n parhau i beidio â deall ar ôl i Anthony esbonio’r opsiynau eto.
Daw Anthony i’r casgliad nad oes gan Enid alluedd meddyliol i ddelio â materion ariannol bob dydd ond nid oes mwy o benderfyniadau anodd ar yr adeg hon. Felly mae’n gallu defnyddio’r LPA ar gyfer y dewisiadau ariannol anodd nid yw ei fam yn gallu eu gwneud.
———
*Mae’r enghreifftiau yn y ganllaw hon yn defnyddio sefyllfaoedd a chymeriadau dychmygol i’ch helpu wrth wneud penderfyniadau fel atwrnai
4.6 Sut ydw i’n gwneud penderfyniadau er budd pennaf y rhoddwr?
Pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau i’r rhoddwr, mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i bob penderfyniad fod er ei fudd pennaf. Mae’n rhaid i chi beidio â gwneud penderfyniad sy’n addas i chi neu bobl eraill - mae’n rhaid iddo fod yn iawn i’r rhoddwr.
Cyn gwneud penderfyniadau i’r rhoddwr:
-
gwiriwch yr LPA am unrhyw gyfarwyddiadau mae ef wedi’u cynnwys – mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i chi ddilyn y rhain
-
ceisiwch ddilyn unrhyw ffafriaeth mae’r rhoddwr wedi cynnwys yn yr LPA – nid oes yn rhaid i chi eu dilyn ond dylech eu hystyried wrth wneud penderfyniadau
-
ystyriwch werthoedd a dymuniadau’r rhoddwr – gan gynnwys unrhyw safbwyntiau moesol, gwleidyddol neu grefyddol a fu ganddo
-
meddyliwch am beth fyddai’r rhoddwr wedi penderfynu petai’n gallu
-
peidiwch â gwneud rhagdybiaethau ar sail oedran, rhyw, cefndir ethnig, rhywioldeb, ymddygiad neu iechyd y rhoddwr – meddyliwch am beth fyddai ef fel unigolyn ei eisiau
Dylech hefyd feddwl a allai’r rhoddwr adennill galluedd meddyliol – er enghraifft, os yw ei gy wr yn gwella neu os yw’n dysgu sgiliau newydd. Os felly, a yw’r penderfyniad yn gallu aros tan hynny?
Gofyn i bobl eraill
Os ydych yn gwneud penderfyniad am faterion bob dydd, fel gwariant aelwyd neu brynu anrhegion bach, efallai y bydd ffrindiau a theulu, gofalwyr neu staff cartref gofal yn gallu eich cynghori.
Os ydych yn gwneud penderfyniad ariannol mawr, fel p’un a dylid gwerthu tŷ’r rhoddwr, yna efallai y bydd angen ymgynghori â gweithiwr proffesiynol fel cyfrifydd neu gyfreithiwr - yn ogystal â’r rhoddwr, os yw’n dal i fod â galluedd.
Cyfarfodydd budd pennaf
Os yw penderfyniad yn gymhleth neu ar bwnc nad ydych yn gwybod llawer amdano, gallech ystyried galw ‘cyfarfod budd pennaf’.
Fel rhan o’r cyfarfodydd hyn, bydd grŵp o bobl sy’n gysylltiedig â gofal y rhoddwr yn ymgynnull i rannu barn ar y ffordd orau o weithredu. Efallai y bydd y broses hon yn eich helpu i wneud penderfyniad er budd pennaf y rhoddwr. Gall gweithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â thriniaeth neu ofal drefnu cyfarfod budd pennaf.
Cofiwch: gadw cofnod o benderfyniadau pwysig, pwy rydych wedi ymgynghori â hwy, unrhyw anghydfodau a pham fod y penderfyniad er budd pennaf y rhoddwr.
Beth nad wyf yn gallu ei benderfynu?
Ni allwch:
-
wneud unrhyw beth nad yw’r LPA yn ei ganiatáu
-
gwneud penderfyniadau am iechyd a lles y rhoddwr – oni bai bod y rhoddwr hefyd wedi’ch enw mewn LPA ar gyfer y penderfyniadau hyn
-
gwneud penderfyniadau sy’n gwahaniaethu yn erbyn y rhoddwr ar sail ei oedran, rhyw, rhywioldeb neu gefndir ethnig
I gael mwy o wybodaeth am fudd pennaf, gwelwch bennod 5 Cod Ymarfer y Ddeddf Galled Meddyliol.
5. Beth ddylwn i wneud os… ? Rhai penderfyniadau cyffredin y gallai fod angen i atwrnai eiddo a materion ariannol eu gwneud
5.1 Ceir mwy nag un atwrnai
Efallai bod y rhoddwr wedi penodi dau atwrnai neu fwy i wneud ei benderfyniadau eiddo a materion ariannol.
Pan fydd mwy nag un atwrnai, mae’r rhoddwr yn pennu bod yn rhaid iddynt wneud penderfyniadau mewn un o’r ffyrdd hyn:
-
gyda’i gilydd (hefyd yn cael ei alw’n ‘ar y cyd’), sy’n golygu bod yn rhaid i’r holl atwrneiod gytuno ar benderfyniadau
-
gyda’i gilydd neu ar wahân (hefyd yn cael ei alw’n ‘ar y cyd ac yn unigol’), sy’n golygu bod atwrneiod yn gallu gwneud penderfyniadau ar eu pen eu hunain neu gyda’r atwrneiod eraill
-
gyda’i gilydd am rai penderfyniadau ac ar wahân ar gyfer penderfyniadau eraill, sy’n golygu bod yn rhaid i’r holl atwrneiod gytuno ar benderfyniadau mae’r rhoddwr yn eu pennu, ond gallant wneud rhai eraill ar eu pen eu hunain
Mae’n rhaid i atwrneiod ar y cyd gytuno ar benderfyniadau ond nid oes yn rhaid iddynt eu cy awni gyda’i gilydd o reidrwydd. Er enghraifft, cyn belled â bod gennych dystiolaeth o gytundeb ar y cyd, efallai y bydd angen i un atwrnai’n unig lofnodi gweithred eiddo ar gyfer y rhoddwr.
Fodd bynnag, efallai y bydd rhai sefydliadau fel banciau angen i bob atwrnai ar y cyd fod yn bresennol i godi arian, er enghraifft. Gwiriwch â’r sefydliad ynglŷn â’i bolisïau.
5.2 Enghraifft: Gwneud penderfyniadau gyda’i gilydd
Mae Brett a Lucy yn atwrneiod eiddo a materion ariannol ar y cyd ar gyfer eu tad, Euan, sydd wedi datblygu clefyd Alzheimer ac mae’n symud i gartref nyrsio.
Mae’n rhaid i Brett a Lucy benderfynu beth i’w wneud â thŷ eu tad. Fel atwrneiod ar y cyd, mae’n rhaid iddynt gytuno ar bob penderfyniad ariannol maent yn ei wneud ar gyfer Euan.
Mae Brett yn meddwl ei bod er budd pennaf eu tad i werthu’r eiddo a buddsoddi’r arian ar gyfer gofal Euan yn y dyfodol. Mae Lucy yn dweud ei bod er budd pennaf eu tad i gadw’r tŷ, oherwydd ei fod bob amser wedi mwynhau treulio amser yno.
Yn gyntaf mae Brett a Lucy yn ceisio cael barn eu tad ond nid yw’n ymddangos i gael llawer o ddealltwriaeth o’r penderfyniad y mae angen ei wneud. Felly maent yn cyfarfod â gweddill y teulu i drafod beth i’w wneud â’r tŷ.
Mae’r atwrneiod yn gwrando ar aelodau eraill y teulu cyn cytuno y byddai er budd pennaf eu tad i gadw’r eiddo am gyfnod mor hir â phosibl er mwyn iddo fwynhau ymweld ag ef.
5.3 Rwyf eisiau hawlio treuliau fel atwrnai
Gallwch hawlio treuliau parod os ydynt yn gymesur â maint ystâd y rhoddwr – ei eiddo a’i faterion ariannol – a’r dyletswyddau rydych yn ymgymryd â hwy fel atwrnai. Enghreifftiau yw cost galwadau ffôn, teithio a phostio ar ran y rhoddwr.
Sylwch ni allwch hawlio costau teithio am ymweliadau cymdeithasol yn unig, oherwydd bod y rhain y tu allan i’ch dyletswyddau fel atwrnai ac yn perthyn i’ch rôl fel ffrind neu aelod o’r teulu. Rydych yn ad-dalu eich treuliau o arian y rhoddwr.
5.4 Enghraifft: Hawlio treuliau fel atwrnai
Mae Sophia yn atwrnai eiddo a materion ariannol ar gyfer ei chyfaill am gyfnod maith Roberto, sydd â dementia ac yn byw mewn cartref gofal.
Mae Roberto yn berchen ar f at, ac mae Sophia yn ei rentu allan ar ei ran i helpu
i dalu am f oedd ei gartref gofal. Mae hi’n gwneud ymweliadau achlysurol â’i chyfrifydd i drafod hyn ac agweddau eraill ar ei rôl atwrnai. Gall Sophia hawlio treuliau am yr ymweliadau hyn, gan gynnwys petrol ar gyfer y trip a chostau parcio - fel arall byddai hi ar ei cholled am gy awni ei dyletswyddau atwrnai.
Mae Sophia yn gofyn i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) a yw hi hefyd yn gallu hawlio am gost y cyfri adur mae hi’n defnyddio i reoli cyfrifon Roberto. Fodd bynnag ar gyfer llawer o ddibenion eraill, nid yw hi’n gallu ei hawlio fel traul atwrnai.
Mae’r gyfraith yn dweud ni allwch ddefnyddio eich swydd fel atwrnai er eich budd eich hun. Os yw OPG yn credu bod eich treuliau’n afresymol, efallai y bydd yn ymchwilio ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r arian yn ôl.
Mewn achosion eithafol, efallai y byddwch yn cael eich rhyddhau fel atwrnai (y Llys Gwarchod yn dod â’r rôl fel atwrnai i ben).
5.5 Rwyf eisiau cael fy nhalu fel atwrnai
Ni allwch hawlio f oedd am amser sy’n cael ei dreulio’n gweithredu fel atwrnai oni bai y nodir hynny yn yr LPA. Mae’r rhan fwyaf o atwrneiod yn ffrindiau neu deulu nad ydynt yn cael eu talu. Fel arfer bydd atwrneiod proffesiynol (fel cyfreithwyr) yn cael eu talu.
Mae’n rhaid i’r rhoddwr nodi yn ei LPA ei fod eisiau talu ei atwrnai.
5.6 Rwyf eisiau talu gweithwyr proffesiynol i helpu i reoli ystâd y rhoddwr
Fel atwrnai, gallwch gy ogi gweithwyr proffesiynol fel cyfrifwyr, cyfreithwyr a chynghorwyr ariannol rheoleiddedig i helpu i reoli materion y rhoddwr. Er enghraifft, byddai’n rhesymol talu cyfrifwyr i ddrafftio ffur en dreth ynyddol y rhoddwr os oes ganddo bortffolio buddsoddiad mawr neu fuddsoddiadau cymhleth.
Fodd bynnag, efallai ni fydd yn briodol cy ogi cyfreithiwr i wneud rhywbeth syml fel talu f oedd cartref nyrsio’r rhoddwr. Mae’n rhaid i wasanaethau proffesiynol rydych yn talu amdanynt fod yn gydnaws â’r dasg maent yn ofynnol amdanynt ac arian y rhoddwr.
5.7 Rwyf eisiau gwerthu cartref y rhoddwr
Fel atwrnai, efallai y bydd gennych awdurdod cyfreithiol i werthu eiddo’r rhoddwr. Fodd bynnag, efallai bod tŷ neu f at yn brif ased y rhoddwr, felly bydd angen i chi ystyried rhai cwestiynau hanfodol yn gyntaf:
-
Oes gan y rhoddwr y galluedd meddyliol i ddeall y penderfyniad i werthu ei eiddo? Os oes, mae’n rhaid i chi gael ei ganiatâd cyn ei werthu.
-
Os nad oes gan y rhoddwr alluedd meddyliol, a yw’r LPA yn cynnwys cyfarwyddiadau sy’n dweud na allwch werthu ei eiddo?
-
Os oes gennych awdurdod i werthu eiddo’r rhoddwr, a yw gwneud hynny er ei fudd pennaf? Er enghraifft, a oes angen gwerthu’r eiddo i dalu am f oedd gartref gofal y rhoddwr? A all gynnal ei ansawdd bywyd heb werthu ei gartref?
Prynu eiddo’r rhoddwr neu ei werthu’n rhatach
Bydd angen i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod os:
-
ydych yn gwerthu eiddo’r rhoddwr – nid ei gartref yn unig ond eitemau gwerthfawr eraill hefyd fel ceir neu emwaith – yn is na gwerth y farchnad
-
ydych eisiau prynu eitem werthfawr o eiddo’r rhoddwch eich hun
Os na fyddwch yn gwneud cais i’r llys, efallai y bydd yr LPA yn cael ei chanslo ac efallai y cymerir camau yn eich erbyn os nad ydych wedi gweithredu er budd pennaf y rhoddwr.
Mae ceisiadau i’r llys yn costio £371 ac yn cael eu talu o arian y rhoddwr.
5.8 Enghraifft: Gwerthu tŷ i berthynas
Jenny yw atwrnai eiddo a materion ariannol Neil, yn ogystal â’i gariad. Nid ydynt erioed wedi byw â’i gilydd a bellach mae Neil mewn cartref gofal oherwydd bod ganddo ddementia.
Mae Neil wedi nodi yn ei atwrneiaeth arhosol y gellir gwerthu ei gartref i dalu am f oedd petai angen iddo fynd i gartref. Mae Jenny wedi penderfynu gwerthu tŷ Neil.
Mae cefnder Jenny eisiau prynu’r tŷ ac yn cynnig swm sy’n is na’r pris y gofynnir amdano. Mae hi’n nodi, oherwydd y bydd yn werthiant preifat, ni fydd unrhyw f oedd asiant tai.
Fodd bynnag, os bydd yr eiddo’n cael ei werthu i’r atwrnai, perthynas neu rywun mae’r atwrnai’n adnabod, mae’r Llys Gwarchod ac OPG yn disgwyl atwrneiod wneud cais i’r llys am gymeradwyaeth. Dylent wneud hyn hyd yn oed os yw’r gwerthiant am werth y farchnad.
Yn achos Jenny, mae hi’n penderfynu gwerthu’r eiddo ar y farchnad agored.
5.9 Rwyf eisiau gwneud rhodd o arian y rhoddwr
Gall rhoi rhoddion ar ran y rhoddwr fod yn bwysig wrth helpu i gadw ei berthynas â ffrindiau a theulu agos. Fodd bynnag, ceir cyfyngiadau caeth ar y rhoddion gallwch eu rhoi fel atwrnai.
Mae’r gyfraith yn dweud y gall atwrneiod fel arfer rhoi rhoddion ar ddigwyddiadau arferol, fel pen-blwydd neu ben-blwydd priodas.
Cyn gwneud rhodd, gofynnwch i’ch hun:
-
A yw LPA y rhoddwr yn cynnwys dewisiadau neu gyfarwyddiadau penodol ynglŷn â rhoddion?
-
Os nad oes gan y rhoddwr alluedd meddyliol bellach, a fyddai wedi dymuno gwneud rhodd petai ganddo alluedd?
-
A yw gwerth y rhodd yn debyg i roddion tebyg mae’r rhoddwr wedi’u rhoi i’r unigolyn hwn neu’r bobl hyn mewn sefyllfa debyg?
-
A yw’r rhodd o’r gwerth cywir ar gyfer ystâd y rhoddwr - neu a yw’n rhy werthfawr, er enghraifft?
Os byddwch yn gwneud rhoddion mwy o arian neu eiddo - er enghraifft, fel rhan o gynllunio ar gyfer treth etifeddiant - mae’n rhaid i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod am ganiatâd.
Nid oes yn rhaid i chi roi unrhyw roddion fel atwrnai, oni bai bod eich LPA yn cyfarwyddo hynny. Peidiwch â gadael i ffrindiau a theulu roi pwysau arnoch i roi rhoddion gan ddefnyddio arian y rhoddwr.
Cadwch gofnodion o’r rhoddion byddwch yn eu rhoi a byddwch yn barod i esbonio unrhyw rai a allai ymddangos yn rhy werthfawr.
I gael mwy o gyngor am roi rhoddion, gweler canllaw OPG ‘Rhoi rhoddion i rywun arall’.
5.10 Enghraifft: Rhoi rhoddion
Mae Hannah yn oedrannus ac yn byw mewn cartref gofal. Weithiau mae hi’n gallu gwneud penderfyniadau ond yn aml nid yw hi’n gallu. Ei nai David yw ei hatwrnai eiddo a materion ariannol. Mae eisiau rhoi anrheg drosti i wyres Ruth ar gyfer ei batmitzvah.
Cyn iddi ddechrau colli ei gallu i wneud penderfyniadau, roedd Hannah yn hael iawn. Fodd bynnag, mae f oedd ei chartref gofal yn bwyta i mewn i’w chynilon ac mae David yn pryderu ynglŷn â sut i dalu’r costau hyn yn y dyfodol.
Er y byddai Hannah wedi hof rhoi anrheg hael, mae David yn penderfynu ei bod er ei budd pennaf rhoi rhywbeth mwy rhesymol. Yn y ffordd hon, mae Hannah wedi helpu i ddathlu seremoni dod i oed ei hwyres, fel y byddai wedi dymuno, ond mae ei harian a’i dyfodol yn cael eu diogelu.
5.11 Mae gofyn i mi wneud penderfyniadau am iechyd a lles y rhoddwr
Fel atwrnai eiddo a materion ariannol, gallwch wneud penderfyniadau am iechyd a gofal personol y rhoddwr dim ond os bydd hefyd wedi’ch penodol fel atwrnai iechyd a alles.
Os yw’r rhoddwr wedi penodi rhywun arall fel ei atwrnai iechyd a lles, gall fod yn ymarfer da iddo ymgynghori â chi pan fydd ei benderfyniadau’n ymwneud â materion ariannol. Er enghraifft, efallai y bydd yn helpu i benderfynu lle dylai’r rhoddwr fyw.
5.12 Rwyf eisiau prynu pethau i wneud i’r rhoddwr deimlo’n well - nid rheoli ei faterion ariannol yn unig
Mae rheoli materion ariannol y rhoddwr er ei fudd pennaf yn ymwneud â mwy na thalu biliau rheolaidd yn unig. Dylech hefyd ystyried gwario ar bethau a fydd yn cynnal neu’n gwella ei ansawdd bywyd, er enghraifft:
-
dillad newydd neu drin gwallt
-
addurno ei gartref neu ystafell yn y cartref gofal
-
talu am gymorth ychwanegol fel bod eich rhoddwr yn mynd allan mwy, er enghraifft i ymweld â ffrindiau neu berthnasau neu fynd ar wyliau
Fel yn achos rhoddion, mae’n rhaid i’ch pryniannau fod yn unol â budd pennaf y rhoddwr ac yn unol â maint ei asedau.
5.13 Rwyf eisiau trosglwyddo fy nyletswyddau atwrnai i rywun arall
Ni allwch wneud hyn. Gallwch geisio cyngor arbenigol am eiddo a materion ariannol y rhoddwr ond mae’r gyfraith yn dweud ni allwch ddirprwyo eich penderfyniadau. Yn y pen draw, mae’n rhaid i chi wneud y penderfyniadau.
Gallwch ‘ymwrthod’ eich atwrneiaeth os nad ydych bellach yn dymuno cy awni’r rôl. Gweler ‘Pryd byddaf yn rhoi’r gorau i fod yn atwrnai?’ yn ddiweddarach yn y ganllaw hon.
5.14 Ceir anghydfod ynglŷn â’m rôl fel atwrnai
Weithiau mae anghydfodau ac anghytundebau’n digwydd dros y ffordd y mae atwrneiod yn trin eiddo a materion ariannol rhoddwr. Gall anghydfod godi:
-
rhwng yr atwrnai/atwrneiod a’r rhoddwr/rhoddwyr
-
rhwng atwrneiod eu humain
-
â phobl eraill sydd â diddordeb yn y rhoddwr, fel aelodau o’r teulu
Anghydfodau â’r rhoddwr
Os yw’r rhoddwr yn anghytuno â phenderfyniad rydych yn ei wneud ac mae’n dal i fod â galluedd, mae’n rhaid i chi beidio â gwneud y penderfyniad hwnnw. Ond os ydych yn credu’n rhesymol ei fod heb galluedd i wneud y penderfyniad, gallwch ei wneud cyn belled:
• â’i fod er budd pennaf y rhoddwr
• nid oes cyfarwyddiadau yn yr LPA yn eich atal rhag gwneud y penderfyniad
Os ydych yn ansicr ynghylch gwneud penderfyniad, cysylltwch ag OPG.
Anghydfodau â phobl eraill
Os nad yw atwrneiod sy’n gweithredu ar y cyd yn gallu cytuno ar benderfyniad i’r rhoddwr, cysylltwch ag OPG i gael cyngor. Gall OPG hefyd gynghori ar ddatrys anghydfodau rhwng atwrneiod a ffrindiau ac aelodau o deulu’r rhoddwr.
Dylech gadw cofnod o unrhyw anghydfodau ynglŷn â’ch atwrneiaeth a sut y cawsant eu datais.
5.15 Mae gan y rhoddwr atwrneiaeth barhaus eisoes.
Cafodd atwrneiaeth barhaus (EPAs) eu gwneud i ganiatáu pobl i wneud penderfyniadau ariannol dros rywun arall, cyn y dechreuwyd defnyddio atwrneiaeth arhosol, yn 2007.
Os nad yw’r EPA wedi’i chofrestru, gellir ei defnyddio os oes gan y rhoddwr alluedd meddyliol yn unig. Os felly, gofynnwch i’r rhoddwr beth y mae eisiau ei wneud.
Os yw’r EPA wedi’i chofrestru, bydd angen i chi ymgynghori â’r atwrnai a benodwyd i weithredu.
6. Amddiffyn y rhoddwr
Yn ogystal â chynnig cymorth a chyngor i atwrneiod, un o rolau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yw amddiffyn pobl heb alluedd meddyliol rhag cam-drin neu gam-fanteisio.
Cam-drin yw unrhyw beth sy’n mynd yn erbyn hawliau dynol a si l unigolyn. Gall fod yn fwriadol a gall ddigwydd oherwydd nad yw atwrnai’n gwybod sut i ymddwyn yn gywir neu nad oes ganddo’r help a chymorth cywir.
Gall cam-drin atwrneiaethau eiddo a materion ariannol gynnwys:
-
lladrad neu dwyll
-
gormod o bwysau ar y rhoddwr i wneud penderfyniad ariannol
-
camddefnyddio eiddo neu fuddion
6.1 Ymwelwyr y Llys Gwarchod
Gall OPG drefnu i ymwelydd y Llys Gwarchod gyfarfod â chi os byddwn yn ymchwilio i bryderon ynglŷn â sut rydych yn gweithredu fel atwrnai.
Fel arfer bydd ymwelwyr yn cyfarfod â chi a’r rhoddwr, neu’r rhoddwr ar ei ben ei hun, ac yn trafod sut rydych yn ymdopi â’ch rôl fel atwrnai. Weithiau bydd ymwelwyr hefyd yn cysylltu â phobl eraill sy’n gysylltiedig, fel aelodau o’r teulu, cyfrifwyr neu fanciau. Ar adegau prin, efallai y bydd gofyn i ymwelydd hefyd ymchwilio i achosion o gam-drin rhoddwr a amheuir.
Fel atwrnai, mae’n rhaid i chi gydymffur o ag ymwelydd y Llys Gwarchod a darparu unrhyw wybodaeth bosibl iddo. Bydd OPG yn cyfeirio achosion difrifol o gam-drin posibl i’r llys, a allai ddirymu (canslo) yr LPA os bydd yn penderfynu bod:
-
rhywun wedi defnyddio twyll neu ormod o bwysau i gael y rhoddwr i wneud yr LPA
-
yr atwrnai wedi gwneud rhywbeth nid yw’r LPA yn caniatáu iddo wneud
• yr atwrnai yn ymddwyn mewn ffordd nad yw er budd pennaf y rhoddwr
6.2 Cosbau
Os na fyddwch yn cy awni eich dyletswyddau’n briodol fel atwrnai eiddo a materion ariannol, efallai y byddwch yn cael gorchymyn i ad-dalu’r rhoddwr am unrhyw golledion mae wedi’u dioddef o ganlyniad. Efallai y bydd OPG yn cyfeirio achosion o dwyll a amheuir i’r heddlu.
6.3 Enghraifft: Ymwelwyr y Llys Gwarchod
Gwnaeth Marta LPA yn penodi ei nith, Karolina, yn atwrnai eiddo a materion ariannol iddi. Pan gollodd Marta alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau ariannol, cofrestrodd Karolina yr LPA ac mae hi bellach yn edrych ar ôl materion ariannol Marta.
Ond mae nai Marta yn amau bod Karolina yn defnyddio arian eu modryb i dalu ei morgais. Mae’n ffonio OPG, sy’n anfon ymwelydd y Llys Gwarchod i gyfarfod â Marta a Karolina i asesu ffeithiau’r nachos.
Efallai y bydd adroddiad yr ymwelydd yn awgrymu y dylai’r achos fynd i lys i ystyried a yw Karolina wedi ymddwyn mewn ffordd:
-
sy’n mynd yn erbyn yr hyn mae’r LPA yn dweud y mae hi’n gallu ei wneud
-
nad yw er budd pennaf Marta
Bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn penderfynu yn y pen draw a dylid cynnwys y llys. Os yw’r llys yn meddwl bod Karolina yn camddefnyddio ei swydd, efallai y bydd yn canslo’r LPA.
7. Pryd fyddaf yn rhoi’r gorau i fod yn atwrnai?
Byddwch yn rhoi’r gorau i fod yn atwrnai os:
-
bydd y rhoddwr yn marw (daw’r LPA i ben yn awtomatig)
-
byddwch yn dewis rhoi’r gorau i fod yn atwrnai – weithiau’n cael ei alw’n ‘ymwrthod’ atwrneiaeth
-
byddwch yn dod yn destun i Orchymyn Gostwng Dyled
-
byddwch yn fethdalwr
-
chi yw gŵr, gwraig neu bartner si l y rhoddwr ac rydych yn ysgaru neu’n gwahanu (oni bai bod yr LPA yn dweud fel arall)
-
byddwch yn colli galluedd meddyliol a methu â gwneud penderfyniadau bellach
7.1 Os bydd y rhoddwr yn marw
Os yw’r LPA wedi’i chofrestru, anfonwch i’r OPG:
-
copi o’r dystysgrif marwolaeth
-
yr LPA wreiddiol
-
pob copi ardystiedig o’r LPA
7.2 Os dymunwch roi’r gorau iddi
Os penderfynwch roi’r gorau i rôl atwrnai, bydd angen i chi lenwi ffur en LPA0005, sef ‘Ymwrthodiad gan atwrnai arfaethedig neu atwrnai dros dro o dan atwrneiaeth arhosol’, a’i hanfon i:
-
y rhoddwr, os nad yw’r LPA wedi cael ei chofrestru
-
y rhoddwr ac OPG, os yw’r LPA wedi cael ei chofrestru
Dylech hefyd ddweud wrth yr atwrneiod eraill a enwyd yn yr LPA.
Os chi yw’r unig atwrnai neu y mae’n rhaid i chi wneud penderfyniadau ar y cyd ag atwrneiod eraill ac nid oes unrhyw atwrneiod amnewid, fel arfer daw’r LPA os bydd un ohonoch yn rhoi’r gorau iddi.
Os daw’r LPA i ben ac nid oes gan y rhoddwr alluedd, bydd angen i rywun wneud cais i’r Llys Gwarchod os byddant yn dymuno gwneud penderfyniadau dros y rhoddwr.
8. Deall y jargon
8.1 Atwrnai
Rhywun sy’n cael ei benodi o dan atwrneiaeth arhosol (LPA) i wneud penderfyniadau am eiddo a materion ariannol neu les personol dros rywun arall (y ‘rhoddwr’).
8.2 Atwrneiaeth arhosol (LPA)
Offeryn cyfreithiol sy’n caniatáu pobl eraill (‘atwrneiod’) i wneud penderfyniadau ariannol neu iechyd a lles dros rywun arall (y ‘rhoddwr’).
8.3 Atwrneiaeth barhaus (EPA)
Yr offeryn cyfreithiol a ddefnyddiwyd cyn cy wynwyd atwrneiaethau arhosol i ganiatáu rhywun i wneud penderfyniadau ariannol dros rywun arall. Gellir cofrestru a defnyddio EPAs ond ni ellir creu rhai newydd.
8.4 Budd pennaf
Dylai atwrneiod bob amser meddwl pa weithred sydd ym mudd pennaf y rhoddwr wrth wneud penderfyniad. Dylech hefyd ystyried dymuniadau’r rhoddwr yn y gorffennol a’r presennol ac ystyried ymgynghori â phobl eraill.
8.5 Cam-drin
Cam-drin yw torri ar hawliau si l a dynol unigolyn gan unigolyn arall neu bobl eraill. Gall cam-drin fod yn un weithred neu’n gweithredoedd dro ar ôl tro. Neu gall fod yn weithred o esgeulustod neu fethiant i weithredu.
Ar gyfer atwrneiaeth eiddo a materion ariannol, gall cam-drin ddigwydd pan fydd unigolyn sy’n agored i niwed yn cael ei ddarbwyllo i ymgymryd â thrafodiad ariannol nad yw wedi cydsynio iddo neu nad yw’n gallu cydsynio iddo.
8.6 Cod Ymarfer
Canllaw i’r Ddeddf Galluedd Meddyliol y gallwch ei harchebu neu ei lawr-lwytho Mae’r cod yn cynnwys llawer o wybodaeth werthfawr i atwrneiod.
8.7 Deddf Galluedd Meddyliol (MCA) 2005
Dyluniwyd y ddeddf i amddiffyn pobl nad ydynt yn gallu gwneud penderfyniadau dros eu hunain. Gallai hyn fod oherwydd cy wr iechyd meddwl, anabledd dysgu difrifol, anaf i’r ymennydd neu strôc. Mae’r ddeddf yn caniatáu i oedolion wneud cymaint o benderfyniadau ag y gallant dros eu hunain a bod atwrnai neu bobl eraill yn gwneud penderfyniadau drostynt.
8.8 Dementia
Grŵp o symptomau sy’n gallu cynnwys problemau â chof, iaith neu ddealltwriaeth. Gall strôc neu glefydau fel Alzheimer achosi niwed i’r ymennydd sy’n arwain at ddementia. Gall symptomau dementia gynnwys:
-
colli cof
-
anhawster wrth ddeall pobl a dod o hyd i’r geiriau cywir
-
anhawster wrth gy awni tasgau syml a datrys mân broblemau
-
newidiadau mewn hwyliau a chynnwrf emosiynol
8.9 Eiddo a matrion ariannol
Unrhyw eiddo y mae unigolyn yn berchen arnynt (fel tŷ neu f at, gemwaith neu eiddo arall), yr arian sydd ganddynt fel incwm, cynilion neu fuddsoddiadau neu unrhyw Variante.
8.10 Esgeulustod bwriadol
Methiant i gy awni gweithred o ofal gan rywun sydd â chyfrifoldeb dros unigolyn sydd heb alluedd meddyliol i ofalu am ei hun. Mae esgeulustod bwriadol yn drosedd o dan yr MCA.
8.11 Galluedd meddyliol
Y gallu i wneud penderfyniad am faterion penodol ar yr adeg y mae angen gwneud y penderfyniad. Manylir ar ddif niad cyfreithiol unigolyn heb alluedd yn adran 2 Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
8.12 Gofal lleiaf cyfyngol
Os nad oes gan unigolyn alluedd meddyliol, mae’n rhaid i benderfyniadau a wneir drostynt gyfyngu ar eu hawliau a rhyddid cyn lleied â phosibl, wrth ei gadw’n ddiogel.
8.13 Rhoddwr
Rhywun sy’n creu atwrneiaeth arhosol gan ganiatáu pobl eraill (‘atwrneiod’) i wneud penderfyniadau ariannol neu iechyd a lles drosto.
8.14 Ymwelydd y Llys Gwarchod
Rhywun sy’n cael ei benodi i adrodd i’r Llys Gwarchod neu’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am sut mae atwrneiod yn cy awni eu dyletswyddau.