Mewnforio neu symud gwartheg i Gymru neu Loegr: cais am basbortau gwartheg
Gwneud cais am basbort gwartheg os ydych chi’n symud gwartheg i Gymru neu Loegr o'r tu allan i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban).
Yn berthnasol i England and Gymru
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am basbort gwartheg pan fyddwch yn mewnforio neu’n symud gwartheg i Gymru neu Loegr.
Dim ond drwy’r post y cewch chi wneud cais. Y rheswm am hyn yw bod angen ichi anfon dogfennau papur at Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP).
Os na allwch chi lawrlwytho ac argraffu’r ffurflen, gallwch ofyn am gopi papur drwy’r canlynol:
- SOG Ar-lein - defnyddiwch y swyddogaeth cysylltu â GSGP (tudalen gwe yn Saesneg)
- GSGP - gallwch ffonio neu anfon neges ebost
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Costau ffôn a rhifau ffôn
Anfon eich cais
Anfonwch:
- eich ffurflen gais am basport ar ôl ei llenwi
- tystysgrif iechyd allforio (tudalen gwe yn Saesneg)
Os ydych chi’n mewnforio anifail o’r UE, bydd angen hefyd ichi anfon pasbort gwreiddiol yr UE a ddaeth gyda’r anifail.
Postiwch eich dogfennau i
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Derwent Howe
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Beth sy’n digwydd nesaf
Fel arfer, byddwch yn cael eich pasbort gwartheg o fewn 14 diwrnod.
Darllenwch y canllawiau ar sut i gael, cywiro neu ddiweddaru pasbort gwartheg os oes problem gyda’ch pasbort, neu os na fydd yn cyrraedd.
Beth arall mae angen ichi ei wneud
Rhagor o wybodaeth am y rheolau ar basbortau a thagiau clust wrth ichi fewnforio neu symud gwartheg i Gymru neu Loegr.