Fframwaith Polisi Cymelliadau – Atodiad F: Anfon a throsglwyddo llyfrau i garcharorion
Updated 23 July 2024
Applies to England and Wales
Gallwch chi ddarllen y Fframwaith Polisi Cymelliadau llawn yma.
1. Archebu llyfrau drwy fanwerthwyr cymeradwy
Ers 31 Ionawr 2015, mae ffrindiau a theuluoedd carcharorion wedi cael archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n dod o hyd i lyfrau ac yn eu hanfon ymlaen at garcharorion. Y manwerthwyr cymeradwy presennol yw:
- Blackwell’s
- Foyles
- Mr B’s Emporium of Reading Delights (ychwanegwyd 1 Medi 2015)
- Waterstones
- WH Smith
- Wordery (ychwanegwyd 1 Medi 2015)
Mae tri manwerthwr cymeradwy ychwanegol wedi cael eu hychwanegu o 4 Tachwedd 2019:
- Housmans
- Incentive Plus
- Prisons Org UK
Os bydd carcharor yn penderfynu peidio â derbyn llyfr sydd wedi cael ei anfon i mewn drwy fanwerthwr cymeradwy (neu nad oes ganddo hawl i’w gael yn ei feddiant) a’i fod yn dymuno ei ddychwelyd fel bod modd ad-dalu’r anfonwr, dylid dychwelyd y pecyn i’r sawl a’i archebodd. Bydd hyn ar draul y carcharor. Os nad yw’r carcharor yn dymuno talu am ddychwelyd y llyfr, dylid gofyn iddo a yw eisiau i’r llyfr gael ei anfon allan (ar ei draul ei hun) neu ei gadw yn ei eiddo sydd wedi’i storio. Os yw’r llyfr yn addas, dylai carcharorion gael yr opsiwn i gynnig y llyfr i lyfrgell y carchar fel rhodd. Mae PSI 12/2011, Eiddo Carcharorion, (ac, yn benodol, paragraff 2.41) yn nodi rhagor o wybodaeth am sut i drin eiddo a’r opsiynau sydd ar gael i Lywodraethwyr pan fydd eiddo dros ben yn cael ei dderbyn.
1.1 Anfon a throsglwyddo llyfrau’n uniongyrchol gan deuluoedd a ffrindiau
O 1 Medi 2015 ymlaen, bydd teuluoedd a ffrindiau hefyd yn cael anfon neu drosglwyddo llyfrau i garcharorion, ni waeth a oes amgylchiadau eithriadol ai peidio. Ni fydd ymwelwyr yn cael yn rhoi llyfrau’n uniongyrchol i garcharorion; bydd angen eu gadael gyda staff i’w prosesu.
1.2 Faint o lyfrau sy’n cael bod mewn cell
O 1 Medi 2015 ymlaen, ni fydd terfyn ar nifer y llyfrau y gall carcharorion eu cael yn eu celloedd. Bydd nifer y llyfrau sy’n cael bod mewn cell yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau rheoli cyfeintiol cyffredinol ar eiddo yn unig.
1.3 Pwyntiau pwysig pellach
- rhaid chwilio’r holl lyfrau sy’n cael eu derbyn cyn eu trosglwyddo i garcharorion
- bydd carcharorion yn parhau i gael archebu llyfrau drwy’r trefniadau presennol sydd ar waith mewn carchardai
- caniateir anfon neu drosglwyddo llyfrau sain, boed hynny drwy fanwerthwr cymeradwy neu (o 1 Medi 2015) yn uniongyrchol gan deuluoedd a ffrindiau, ar ffurf caset neu CD
- bydd llyfrau llafar yn rhan o’r terfynau cyffredinol ar nifer y llyfrau y mae modd eu cadw yn y gell. At ddibenion y rhestr cyfleusterau safonol, mae eitemau o’r fath yn cael eu categoreiddio fel llyfrau, yn hytrach na CDs neu gasetiau.
- mae’r cyfyngiadau ar y llyfrau y mae carcharorion yn gallu cael mynediad atyn nhw yn aros yr un fath. Mae’r Llawlyfr Diogelu’r Cyhoedd yn nodi’r llyfrau na all unrhyw garcharor gael gafael arnyn nhw a gall Llywodraethwyr ymestyn y rhestr hon os oes angen hynny ar natur poblogaeth y carchar penodol. Yn ogystal, gall Llywodraethwyr benderfynu a ddylai carcharor unigol gael llyfr penodol, gan ystyried ymddygiad troseddol y carcharor.
Mae’r trefniadau hyn yn berthnasol i lyfrau yn unig. Mae anfon a throsglwyddo eitemau eraill, gan gynnwys eitemau a allai fod ar gael gan y manwerthwyr cymeradwy, yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau sy’n cael eu nodi ym mharagraffau 5.52 i 5.55 gan gynnwys y Fframwaith Polisi Cymelliadau.