Treth Etifeddiant: Treth Etifeddiant ar y gyfradd is (IHT430)
Defnyddiwch yr atodlen IHT430 ar y cyd â ffurflen IHT400 os ydych am dalu Treth Etifeddiant ar y gyfradd is neu os ydych am optio allan o dalu Treth Etifeddiant ar y gyfradd is.
Dogfennau
Manylion
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhoi gwybod i ni ba fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni Cyllid a Thollau EF (yn agor tudalen Saesneg).
Defnyddiwch y ffurflen hon ar y cyd â ffurflen IHT400 os yw’r canlynol yn berthnasol:
- bu farw’r ymadawedig ar neu ar ôl 6 Ebrill 2012
- mae o leiaf 10% o ystâd net y person yn cael ei gadael i elusen gymwys
- rydych am dalu Treth Etifeddiant ar y gyfradd is
- rydych am ddewis uno rhannau o’r ystâd
- rydych am optio allan o dalu Treth Etifeddiant ar y gyfradd is
Sut i lenwi’r ffurflen
Mae angen i chi wneud y canlynol:
-
Lawrlwytho’r ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.
-
Gallwch ei hagor gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf am ddim o Adobe Reader (yn agor tudalen Saesneg).
-
Llenwi’r ffurflen ar y sgrin.
Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os byddwch yn ceisio’i hagor yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael rhagor o gymorth.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 September 2024 + show all updates
-
An updated version of the IHT430 form has been added.
-
A new English version of IHT430 form has been added.
-
The 2018 to 2019 form has been added to the page.
-
First published.