Adolygiad Integredig Diweddaraf 2023: Ymateb i fyd mwy cystadleuol a helbulus (HTML)
Updated 16 May 2023
I. Rhagair gan y Prif Weinidog
Roedd Adolygiad Integredig o Bolisi Diogelwch, Amddiffyn, Datblygu a Thramor 2021 wedi rhagweld peth ond nid holl gynnwrf byd-eang y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd yn cydnabod bod dwysáu’r cystadlu rhwng gwledydd yn hau ansefydlogrwydd. Fe rybuddiodd am y bygythiad taer gan Rwsia; am barodrwydd Tsieina i ddefnyddio holl bwerau’r wlad i chwarae rôl flaenllaw mewn materion byd-eang; ac am ymddygiad ansefydlogi parhaus Iran a Gogledd Corea.
Yn sgîl y dadansoddiad hwn, cyfrannodd Adolygiad Integredig 2021 at sbarduno mwy o fuddsoddiad nag erioed mewn amddiffyn, gan argymell safiad mwy gweithredol ac ysgogol i Brydain ar lwyfan y byd. Rhoddai flaenoriaeth i ddiogelwch ar-y-cyd yn yr Ewro-Iwerydd gan bwysleisio bod angen cryfhau cysylltiadau yn yr Indo-Basiffig, y Gwlff ac Affrica, fel gwledydd o bwysigrwydd cynyddol i fuddiannau’r DU.
Mae’r agwedd meddwl hwn wedi’i amlygu yng nghyfraniad blaenllaw’r DU at amddiffyn Wcráin – o ran faint o gymorth amddiffynnol a roesom i’r wlad ac yn ein rôl flaenllaw mewn sbarduno’r gymuned ryngwladol i weithredu. Gyda diogelwch ein cyfandir dan fygythiad, mae’r DU wedi bod ar flaen yr ymdrech i’w amddiffyn; a bydd yr ymrwymiad hwnnw’n parhau am gyn hired ag y bo angen. Rwy’n falch bod y DU wedi gwireddu ei huchelgais i ‘ogwyddo’ tuag at yr Indo-Basiffig: gan ennill statws fel partner deialog â Chymdeithas Gwledydd De-Ddwyrain Asia (ASEAN), dyfnhau ein cysylltiadau dwyochrog ar lefel wleidyddol, economaidd a diogelwch yn y rhanbarth, symud at gam olaf y trafodaethau i ymuno â’r CPTPP, lansio hỳb British International Investment newydd yn Singapôr, anfon Grŵp Cludlongau a dwy long batrôl forol i’r rhanbarth, a chyd-lansio menter Partneriaid y Glas-Basiffig. Rydym wedi cryfhau ein cysylltiadau Iwerydd-Basiffig, gan gynnwys drwy ddwy bartneriaeth amddiffyn a diogelwch bwysig, sef AUKUS gyda’r Unol Daleithiau ac Awstralia, a’r Rhaglen Brwydro Awyr Fyd-eang (GCAP) gyda’r Eidal a Japan.
Ond yr hyn na ellid ei ragweld yn 2021 oedd pa mor gyflym y newidiodd y llwyfan geo-wleidyddol a maint ei effaith ar y DU ac ar ein pobl. Dysgwyd o Covid-19 faint o effaith y gall digwyddiadau sy’n dechrau dramor ei gael ar fywydau a bywoliaeth ein pobl.
Ers hynny, mae ymosodiad anghyfreithlon Rwsia ar Wcráin, defnyddio ynni a bwyd fel arfau, a’r bygythiadau niwclear anghyfrifol, ynghyd â safiad mwy ymosodol Tsieina ym Môr De Tsieina a Chulfor Taiwan, yn bygwth creu byd wedi’i ddiffinio gan berygl, anhrefn ac anghydfod – a threfn ryngwladol sy’n fwy ffafriol i awdurdodyddiaeth.
Mae bygythiadau hirsefydlog gan derfysgaeth a throseddu cyfundrefnol a difrifol yn parhau ac esblygu a drysau newydd efallai’n agor iddynt, wrth i’r Taliban gipio grym yn Affganistan er enghraifft. Mae heriau traws-wladol eraill fel y cynnydd sylweddol mewn ymfudo, smyglo pobl, cyffuriau ac arfau, a chyllid anghyfreithlon, wedi gwaethygu gan effeithio’n ofnadwy ar bobl a rhoi a straen ar ein hadnoddau gwladol.
Mae Diweddariad 2023 felly’n adeiladu ar y meddylfryd yn yr Adolygiad Integredig gan gyflwyno’r cam esblygol nesaf mewn cyflawni ei amcanion, yn erbyn cefndir o fyd mwy cystadleuol a helbulus. Ei brif gasgliad yw hyn – os na wneith democratiaethau fel un ni fwy i gryfhau ein gwydnwch a chydweithredu a chystadlu’n well na’r rhai sy’n creu ansefydlogrwydd, bydd diogelwch y byd yn mynd o ddrwg i waeth, er niwed i wledydd a phobl yn fyd-eang. Fel yn 2021, mae’n arlwyo’r ffordd ar gyfer mwy o integreiddio traws-lywodraeth i gyflawni pedair blaenoriaeth yr ymgyrch i dywys ein strategaeth diogelwch gwladol yn y cyd-destun newydd hwn. A hyn gyda mwy o fuddsoddiad yn ein diogelwch gwladol.
Yn gyntaf, rhaid i ni ddylanwadu ar yr amgylchedd strategol byd-eang gan weithio â phartneriaid o’r un anian ar draws y byd, a hefyd â rhai nad ydynt o reidrwydd yn rhannu’r un gwerthoedd a safbwyntiau. Diogelwch a ffyniant yr Ewro-Iwerydd fydd ein blaenoriaeth graidd o hyd, wedi’i gryfhau drwy adfywio ein cysylltiadau Ewropeaidd. Ond ni ellir gwahanu hynny oddi wrth y gymdogaeth ehangach ar gyrion ein cyfandir a pharth rhydd ac agored yr Indo-Basiffig. Byddwn yn dyfnhau ein cysylltiadau, cefnogi datblygu cynaliadwy a lleihau tlodi, ac yn mynd i’r afael â’n heriau cyffredin gan gynnwys newid hinsawdd.
Mae Tsieina’n cyflwyno her oesol i’r math o drefn ryngwladol y dymunwn ei gweld, o ran diogelwch a gwerthoedd - felly rhaid i’n meddylfryd ninnau hefyd esblygu. Bwriadwn weithio â’n partneriaid i drafod pethau fel newid hinsawdd â Beijing. Ond lle y bydd Plaid Gomiwnyddol Tsieina’n ceisio gorfodi neu greu dibyniaeth, byddwn yn gweithio’n agos ag eraill i filwrio yn erbyn hyn. A bwriadwn hefyd gymryd camau newydd i amddiffyn ein pobl, ein democratiaeth a’n heconomi ein hunain.
Yn ail, wrth i fygythiadau a helbul gynyddu, gwyddom y bydd atal ac amddiffyn yn dod yn fwyfwy pwysig er mwyn cadw pobl Prydain yn ddiogel a’n cynghreiriau’n gryf. Ein blaenoriaeth fwyaf taer a diaros yw cefnogi Wcráin i amddiffyn ei hun er mwyn adfer ei sofraniaeth ac undod ei thiriogaeth. Nid ein gwerthoedd ni’n unig sydd yn y fantol. Gweithredwn oherwydd bod diogelwch Wcráin yn bwysig i’n diogelwch ni oll. Mae ymddygiad Rwsia’n ymosod ar Wcráin, parhau i feddiannu Georgia, ymosod ar a meddiannu’r Crimea, bygwth tiriogaeth gartref y DU a cheisio dinistrio Wcráin yn ymosod ar ddiogelwch Ewrop cyfan. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo o leiaf £2.3 biliwn o gymorth i Wcráin wrth iddynt wynebu ail flwyddyn o ryfel i amddiffyn ei hun, yr un fath ag yn 2022.
Ar drothwy’r funud geo-wleidyddol hon, rhaid i ni weithredu nid yn unig ar fyrder ond cynllunio ar gyfer y tymor hir hefyd. O ganlyniad i’r Adolygiad Integredig Diweddaraf, bwriedir gwario £5 biliwn yn ychwanegol ar amddiffyn dros y ddwy flynedd nesaf gan roi blaenoriaeth i wydnwch niwclear a stoc-bentyrrau confensiynol. Gan adeiladu ar y buddsoddiad mwyaf erioed a gyhoeddwyd yn 2020, disgwylir i wariant y DU ar amddiffyn gyrraedd 2.2% o GDP eleni (2.29% drwy gynnwys ein cymorth milwrol i Wcráin). Ond bwriadwn fynd ymhellach fyth, gan symud i ffwrdd o’r ymrwymiad sylfaenol i wario o leiaf 2% o GDP ar amddiffyn gyda tharged newydd o 2.5%. Gyda’i gilydd, bydd yr ymrwymiadau hyn yn cadw ein lle blaenllaw yn NATO a pharhau’r gwaith o foderneiddio ein lluoedd arfog, fydd yn mynd o nerth i nerth wrth i ni ddysgu gwersi o’r rhyfel yn Wcráin. Byddwn hefyd yn gallu buddsoddi yng nghamau nesaf y rhaglenni AUKUS a GCAP. Bwriadwn hefyd gefnogi mwy o ymdrechion i reoli ac atal twf arfau, oherwydd pan fydd tensiynau ar eu gwaethaf y mae arweiniad ar dorri llwybrau i dawelu anghydfod bwysicaf.
Yn drydydd, mae economi a chymdeithas sefydlog a gwydn yn un o rag-amodau ein diogelwch felly byddwn yn mynd i’r afael â’r bregusrwydd a grëwyd yn y DU ac mewn llawer o wledydd eraill yn sgîl digwyddiadau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Rhaid i ni ddiogelu’r manteision anferth sy’n deillio o fod yn agored ond sicrhau hefyd ein bod wedi ein gwarchod rhag effeithiau gwaethaf unrhyw aflonyddwch byd-eang, heriau traws-wladol neu ymyrryd gelynol. Mae hynny’n golygu gwella ein diogelwch economaidd, iechyd ac ynni drwy gamau ymarferol fel ein pecynnau cymorth ynni neu ddefnyddio’r Ddeddf Diogelwch Gwladol a Buddsoddi i atal buddsoddiad risg uchel mewn seilwaith allweddol a thechnoleg sensitif. Bydd Awdurdod Amddiffyn Diogelwch Gwladol newydd yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau i warchod diogelwch a ffyniant ein gwlad.
Bydd gweithio’n agos ag eraill yn hanfodol i’r ymdrechion hyn. Dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda’r G7 a phartneriaid eraill, rydym wedi datblygu dulliau economaidd newydd gan gyflwyno pecyn digynsail o sancsiynau yn erbyn Rwsia. Bwriadwn wneud mwy eto drwy gyflwyno rhaglen newydd o gryfhau gorfodi sancsiynau a dulliau gwladweiniol economaidd eraill fel ein bod yn fwy parod am heriau yn y dyfodol.
Yn bedwerydd, byddwn yn buddsoddi yng nghryfderau unigryw’r DU. Mae Prydain yn economi flaenllaw ond yn ein harbenigedd, nid ein maint, y mae ein cryfder. Roedd Adolygiad Integredig 2021 yn glir bod gwyddoniaeth a thechnoleg yn gynyddol allweddol i’n dyfodol. Rydym yn un o’r pum gwlad orau o ran arloesi, AI a seiber ac yn bŵer rhyngwladol blaenllaw mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Byddwn yn cynyddu ein gwydnwch hirdymor drwy fuddsoddi mwy yn y pethau hyn.
Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i wario £20 biliwn y flwyddyn ar ymchwil a datblygu erbyn 2024/25 a pham ein bod wedi ad-drefnu llywodraeth i ymroi mwy o ffocws a nerth mewn maes sy’n hollbwysig i’n ffyniant a’n diogelwch yn y dyfodol.
Gwers bwysicaf y ddwy flynedd ddiwethaf yw nid yn unig bod y byd yn lle mwy peryglus ond ein bod, os cawn ein herio, yn barod ac mewn sefyllfa i ymateb, gan weithio’n gyflym ac effeithiol â’n partneriaid. Wrth i’r cyd-destun byd-eang esblygu a’r cystadlu systemig yn parhau i ddwysáu, a heriau newydd yn ymddangos, rhaid i ni sicrhau nad yw hyn yn newid drwy chwarae rôl flaenllaw lle y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf a dod o hyd i ffyrdd newydd o gydweithredu ag eraill er mwyn cael yr effaith gyfunol orau.
Gyda chryfderau unigryw a phartneriaethau dwfn y DU ynghyd â’n lluoedd arfog, rhwydweithiau diplomyddol, arbenigedd datblygu ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith a chudd-wybodaeth rhagorol, byddwn yn gwarchod a hyrwyddo ein buddiannau a chwarae rôl barod mewn amddiffyn rhyddid, bod yn agored a rheol y gyfraith. Dyna pam fy mod yn edrych tuag at y degawd anodd a pheryglus hwn gyda balchder yn ein gwlad a hyder yn ein gwerthoedd, gyda’r Adolygiad Integredig Diweddaraf hwn fel glasbrint.
2. Trosolwg
Sylfeini cryf: adeiladu ar Adolygiad Integredig 2021
1. Roedd Adolygiad Integredig 2021, Global Britain in a Competitive Age (IR2021) yn cyflwyno strategaeth ryngwladol a diogelwch gwladol y DU gan ddod ag amddiffyn, diogelwch, gwydnwch, diplomyddiaeth, datblygu a masnach at ei gilydd, yn ogystal ag elfennau o bolisi economaidd a gwyddoniaeth a thechnoleg (S&T). Fe’i cefnogir gan gyfres o is-strategaethau’n cynnwys Papur Rheoli Amddiffyn 2021, Strategaeth y Diwydiannau Amddiffyn a Diogelwch, y Strategaeth Deallusrwydd Artiffisial Genedlaethol, y Strategaeth Seiber Genedlaethol, y Strategaeth Ofod Genedlaethol, y Strategaeth ar Ddatblygu Rhyngwladol, Strategaeth Allforio’r DU, Strategaeth Diogelwch Ynni Prydain, y Strategaeth Sero-Net, y Fframwaith Polisi’r Arctig a Fframwaith Gwydnwch Llywodraeth y DU.
2. Roedd fframwaith strategol yr Adolygiad Integredig wedi sefydlu pedwar nod i dywys holl bolisïau perthynol y llywodraeth hyd at 2025: cadw mantais strategol drwy dechnoleg a gwyddoniaeth; cyfrannu at drefn ryngwladol agored a sefydlog oddi mewn ac allan i’n rhanbarth; cryfhau amddiffyn a diogelwch ein gwledydd; a chreu gwydnwch gartref a thramor. Roedd pwyslais craidd IR2021 ar integreiddio – dod â holl bwerau’r DU at ei gilydd, dileu unrhyw rwystrau rhwng polisi domestig a rhyngwladol a chryfhau rhannu’r baich a chydweithrediad â’n cynghreiriaid a’n partneriaid er mwyn gallu deall ac ymdopi’n well â byd mwy cystadleuol ac ymrafaelgar.
3. Roedd IR2021 yn argymell parhad ar draws llawer o feysydd polisi, gan gynnwys ymrwymiad y DU i: aml-ochredd drwy’r UN a fforymau eraill; cyd-ddiogelwch drwy NATO; mesurau cadarn i amddiffyn pobl Prydain rhag grwpiau terfysgaeth a throseddu difrifol a chyfundrefnol; ac arwain gweithredu - gartref a thramor – ar newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Roedd yn glir bod diogelwch ein tiriogaeth gartref ac ardal yr Ewro-Iwerydd yn parhau i fod yn brif flaenoriaethau y dibynnai ffyniant ac ansawdd ein bywydau arnynt. Fodd bynnag, casglodd nad oedd cynnal y status quo amddiffyn mwyach yn ddigon i hyrwyddo buddiannau’r DU a gwarchod pobl Prydain mewn cyfnod o newid geo-wleidyddol a thechnolegol di-baid a chydbwysedd pŵer y byd yn newid. Roedd fframwaith strategol yr Adolygiad felly’n cyflwyno nifer o newidiadau pwysig i bolisi a safiad y DU, gan gynnwys:
i. Buddsoddi mwy i gryfhau amddiffyn a diogelwch ein gwledydd, wedi’i gefnogi gan y cynnydd parhaus mwyaf mewn gwariant amddiffyn ers diwedd y Rhyfel Oer. Law yn llaw â hyn, roedd yn argymell polisi tramor mwy gweithredol a phwrpasol sy’n cydnabod bwriad gwledydd eraill i ddylanwadu ar y drefn ryngwladol mewn ffyrdd sy’n milwrio yn erbyn buddiannau’r DU, o ran aml-ochredd traddodiadol ac mewn meysydd o bwysigrwydd cynyddol fel seiber-ofod, digidol a thechnolegau newydd. Cefnogwyd hyn felly gan bwyslais newydd ar ‘ddiplomyddiaeth reoleiddio’ yn ymwneud â llunio rheolau, normau a safonau.
ii. Cryfhau gwydnwch domestig a phartneriaethau rhyngwladol y DU, yn rhannol mewn ymateb i’r her oesol a systemig a gyflwynir gan Tsieina o dan Blaid Gomiwnyddol (CCP) y wlad ar draws bron i bob agwedd ar bolisi llywodraeth a bywyd gwladol. Roedd hyn yn cynnwys ffocws newydd ar fynd i’r afael â bygythiadau i ddemocratiaeth, economi a chymdeithas y DU, a diogelu ein sylfeini gwyddoniaeth a thechnolegol.
iii. Symud i ffwrdd o ddull diogelwch gwladol sy’n canolbwyntio’n bennaf ar reoli risg a chyfrannu’n rhagweithiol at feysydd sydd o bwysigrwydd cynyddol i ddiogelwch a ffyniant y byd. Roedd IR2021 yn ddiymwad wrth flaenoriaethu’r Ewro-Iwerydd fel ardal o bwysigrwydd sylfaenol a chreiddiol i fuddiannau’r DU lle y byddai’r mwyafrif llethol o ymdrechion amddiffyn a diogelwch y DU yn cael eu targedu drwy NATO. Ond roedd hefyd yn pwysleisio bod angen gwneud mwy i gyfrannu at feysydd o arwyddocâd geo-wleidyddol cynyddol fel yr Indo-Basiffig a’r Gwlff, drwy ymrwymiadau a phartneriaethau cynaliadwy, parhaus a hirdymor lle y byddai diogelwch ond yn un dimensiwn.
iv. Blaenoriaethu cryfhau S&T – gan gynnwys fel seiber-bŵer cyfrifol a democrataidd – fel amcan cenedlaethol. Yn benodol, roedd IR2021 yn rhoi pwyslais arbennig ar arloesi mewn AI, cwantwm-gyfrifiadureg, bioleg beirianyddol, technoleg niwclear, seiber a gofod, fel meysydd sy’n hanfodol i ffyniant ac ansawdd bywyd ein pobl yn y dyfodol ac fel maes cystadlu cynyddol bwysig rhwng gwahanol wledydd. Roedd IR2021 yn ymrwymo i gefnogi’r blaenoriaethau polisi hyn - ar wahân i’r mesurau diogelwch gwladol traddodiadol – fel addysg a sgiliau, buddsoddi mewn ymchwil a datblygu a thrwy ddenu talent i’r DU.
4. Mae pwyslais yr Adolygiad Integredig ar integreiddio hefyd wedi helpu i flaenoriaethu adnoddau di-ddibendraw. Drwy benderfynu gwario mwy ar amddiffyn yn 2020, mae’r DU wedi cynnal ei rôl flaenllaw yn NATO a’r Ewro-Iwerydd gan foderneiddio ein galluoedd ar yr un pryd – drwy neilltuo cyfran sylweddol o’r gyllideb amddiffyn ar gyfer ymchwil a datblygu. Ar yr un pryd, mae’r ‘gogwydd’ Indo-Basiffig wedi’i gyflawni’n bennaf drwy ddulliau anfilwrol – fel diplomyddiaeth, masnach, datblygu, cyfnewid technolegol a gweithio â sefydliadau rhanbarthol – a thrwy gynyddu (yn raddol) ein presenoldeb amddiffyn yn y rhanbarth. Rydym hefyd wedi addasu’n ddiymdroi pan fo angen – drwy ryddhau adnoddau newydd i gefnogi Wcráin (£2.3 biliwn mewn cymorth amddiffyn yn 2022, ac eto yn 2023) ac achub ar gyfleoedd drwy bartneriaethau newydd fel AUKUS. Rydym wedi creu llwybrau mudo cyfreithiol a chroesawu miloedd o bobl sy’n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin, gwladolion Prydeinig tramor o Hong Kong neu bobl a helpodd ein lluoedd arfog yn Affganistan.
Beth sydd wedi newid ers 2021?
Y ddadl dros ddiweddaru’r Adolygiad Integredig
5. Roedd IR2021 yn adnabod pedair tuedd a fyddai’n dylanwadu ar yr amgylchedd rhyngwladol hyd at 2030: newidiadau yn nosbarthiad pŵer y byd; cystadlu ‘systemig rhwng gwledydd ynghylch natur y drefn ryngwladol; newid technolegol diatal; a heriau traws-wladol yn gwaethygu. Yn ôl ein hasesiad ni, bydd y tueddiadau hyn yn parhau i or-nodweddu’r degawd nesaf ac yn rhai y bydd angen i bolisi rhyngwladol a diogelwch gwladol y DU ymateb iddynt.
6. Mae penderfyniad y llywodraeth i gyhoeddi’r Diweddariad hwn (IR2023) yn adlewyrchu faint y mae’r tueddiadau hyn wedi carlamu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Dros y cyfnod hwn, mae’r newid i fod yn fyd aml-begynnol, darniog a chystadleuol wedi digwydd yn gynt a mwy diamheuol na’r disgwyl. Rydym erbyn hyn mewn cyfnod o helynt a pheryglon gwaethygol sy’n debygol o bara tan y 2030au. Mae IR2023 yn diweddaru blaenoriaethau a thasgau craidd y DU i adlewyrchu’r newidiadau hyn i’r cyd-destun byd-eang.
7. Yn gyntaf, mae IR2023 yn ymateb i’r ymosodiad anghyfreithlon ar Wcráin gan Rwsia. Mae ymosodiad Putin wedi dechrau’r rhyfel milwrol mwyaf a’r argyfwng ffoaduriaid ac ynni mwyaf yn Ewrop ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Daeth â rhyfel tir ffyrnig a helaeth yn ôl i’r cyfandir, gyda goblygiadau i ddulliau atal ac amddiffyn y DU a NATO. Fel yr oedd IR2021 yn esbonio, Rwsia yw’r bygythiad mwyaf i ddiogelwch y DU. Yr hyn sydd wedi newid yw bod ein cyd-ddiogelwch bellach wedi’i gysylltu’n annatod i ganlyniad y rhyfel yn Wcráin. Rhaid i ni hefyd ddadansoddi, dysgu o, ac addasu i’r newid yn natur y rhyfela – yn enwedig yn y maes tir.
8. Mae’n gynyddol bosib y bydd yr amgylchedd diogelwch rhyngwladol yn gwaethygu dros y blynyddoedd nesaf, gyda bygythiadau gwladol yn cynyddu ac ymledu yn Ewrop a thu hwnt. Mae’r risg o sefyllfa waethygol yn fwy nag ar unrhyw adeg ers degawdau, gyda nifer gynyddol o uwch-systemau arfau wedi eu datblygu ac yn cael eu profi neu fabwysiadu. Nid yw’r dulliau sefydlogi strategol a gyfrannodd, yn yr 21ain ganrif, at leihau’r risg o gamddeall, camgymryd a sefyllfa waethygol anfwriadol, wedi datblygu mor gyflym ag y bo angen iddynt i sicrhau nad yw cystadlu’n troi’n rhyfela afreolus. Mae tensiynau yn yr Indo-Basiffig yn cynyddu a gallai rhyfela yno achosi canlyniadau byd-eang gwaeth na’r rhyfel yn Wcráin. Mae’r bygythiad gan Iran wedi dwysáu fel y gwelsom o ddatblygiadau ei rhaglen niwclear, ei hymdrechion i ansefydlogi’r rhanbarth a’i gweithredoedd yn y DU - gan gynnwys 15 o fygythiadau credadwy gan lywodraeth Iran ers 2022 i ladd neu herwgipio unigolion Prydeinig neu rai a leolir yn y DU. Mae Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Corea hefyd yn ceisio datblygu ei harfau niwclear ac yn parhau i geisio ansefydlogi’r rhanbarth drwy brofion taflegrau sy’n bygwth ei chymdogion.
9. Ar yr un pryd, mae heriau diogelwch traws-wladol yn parhau i gyflwyno risg sylweddol i’r DU ac yn ffocws pwysig o hyd gan asiantaethau cudd-wybodaeth a gorfodi’r gyfraith, gan ychwanegu at gymhlethdod y darlun bygythiadau. Mae mewnfudo anghyfreithlon yn un o brif heriau ein hoes, ac yn broblem ar draws Ewrop yn enwedig. Mae grwpiau terfysgaeth Islamaidd yn parhau gyda’u hymdrechion i ymosod ar y DU a’n buddiannau tramor: mae’r bygythiad sy’n deillio o’r Dwyrain Canol yn dal i fod a grwpiau’n ehangu mewn rhanbarthau ansefydlog fel Affganistan a’r Sahel, felly ni allwn ddiystyru’r posibilrwydd y bydd hyn yn ail-godi ar ei ganfed. Gartref, mae bygythiad sylweddol o hyd oddi wrth unigolion wedi eu hunan-radicaleiddio gan wahanol ideolegau. Yn y cyfamser, mae grwpiau troseddu cyfundrefnol yn cynyddu mewn nifer a chymhlethdod gan fanteisio’n arbennig ar ddatblygiadau technolegol i greu modelau gweithredu newydd a chuddio eu hunaniaeth a’u troseddau. Mae cydgordio a chydweithredu rhwng ‘actorion’ llywodraeth a dilywodraeth yn debygol o barhau i gynyddu.
10. Yn ail, mae IR2023 yn ymateb i’r dwysâd mewn cystadlu systemig a hyn bellach yw’r brif duedd geo-wleidyddol a’r prif ffactor sy’n dirywio’r amgylchedd diogelwch. Mae agosatrwydd cynyddol gwledydd awdurdodaidd yn herio’r amodau sylfaenol sy’n creu trefn ryngwladol agored, sefydlog a heddychlon, gan weithio gyda’i gilydd i danseilio’r system ryngwladol neu ei hail-greu ar eu delw eu hunain. Mae plaid y CCP yn gynyddol glir yn ei nod o greu trefn ryngwladol Tsieina-sentrig sy’n fwy ffafriol i’w system awdurdodaidd, gan weithio tuag at yr uchelgais hwn drwy strategaeth eang o ddylanwadu ar lywodraethu byd-eang mewn ffyrdd sy’n tanseilio hawliau a rhyddid pobl a thrwy ddilyn arferion rheolgar. Mae dwysâd y bartneriaeth rhwng Tsieina a Rwsia, a’r cydweithrediad cynyddol rhwng Rwsia ac Iran yn dilyn yr ymosodiad ar Wcráin yn ddau ddatblygiad o bryder penodol.
11. Un o ganlyniadau mwy positif y carlamu mewn cystadlu systemig – a ffactor pwysig yn IR2023 – yw’r adfywiad mewn pwrpas a chydweithrediad ymhlith rhwydwaith craidd y DU o gynghreiriaid a phartneriaid. Yn 2021 yn dilyn cwymp Kabul, roedd llawer yn cwestiynu penderfyniad a gallu’r DU a’n cynghreiriaid i ddelio â heriau rhyngwladol. Ond mae cryfder ein cyd-ymateb i gefnogi Wcráin wedi dangos ein bod yn parhau i fod yn barod ac abl i weithredu gyda phendantrwydd i amddiffyn ein diogelwch, trefn ryngwladol agored, cyfraith ryngwladol ac egwyddorion sylfaenol Siarter y Cenhedloedd Unedig (UN). Mae craig ein diogelwch, NATO, wedi cynyddu mewn pwysigrwydd gwleidyddol a chryfder milwrol. Mae cryfder parhaus gwledydd Ewrop, a chysylltiadau’r DU â’r teulu hwn, wedi’i gadarnhau o’r newydd. Mae Cymuned Wleidyddol Ewrop (EPC) yn fforwm newydd cymeradwy iawn ar gyfer cydweithrediad traws-gyfandir. Gwelsom hefyd, unwaith eto, ymrwymiad dwfn a pharhaus yr Unol Daleithiau i ddiogelwch Ewropeaidd. Mae dyfnder perthynas y DU â’r Unol Daleithiau – o ran cudd-wybodaeth a chydgordio milwrol a diplomyddol – yn parhau i fod yn un o bileri hanfodol ein diogelwch. Cryfhawyd hyn ymhellach drwy ein hymateb i’r rhyfel yn Wcráin a mesurau eraill fel y Siarter Iwerydd newydd. Yn ein tro, deallwn fod angen i gynghreiriaid yr Unol Daleithiau gyfrannu fel pawb arall at rannu’r baich yn yr Ewro-Iwerydd a’r ardaloedd geo-wleidyddol cynhennus fel y Gwlff a’r Indo-Basiffig, fel y mae’r DU yn ei wneud drwy IR2023.
12. Mae agosatrwydd cynyddol ein cynghreiriaid a’n partneriaid hefyd yn arwain at sefydlu rhwydwaith newydd o bartneriaethau ‘Iwerydd-Basiffig’ sy’n seiliedig ar farn gyffredin bod ffyniant a diogelwch yr Ewro-Iwerydd a’r Indo-Basiffig wedi eu cysylltu’n annatod. Gwelir hyn ym mhwysigrwydd cynyddol y G7, cydweithrediad agosach rhwng gwledydd fel Awstralia, Gweriniaeth Corea ac India â gwledydd y G7, ac ymrwymiad llawer o wledydd yr Indo-Basiffig i gefnogi ymdrechion Wcráin i amddiffyn ei hun. Fe’i gwelir hefyd ym muddsoddiad y DU mewn cysylltiadau amddiffynnol agosach a fframweithiau newydd fel AUKUS a GCAP â’r Eidal a Japan. Drwy’r cysylltiadau hyn, gall y DU a’i phartneriaid ddatblygu galluoedd nid yn unig i atgyfnerthu NATO ond helpu cynghreiriaid yn yr Indo-Basiffig i wella eu diogelwch hwy. Mae cydgordio ar S&T, masnach a’r economi hefyd yn hanfodol i’r cysylltiadau Iwerydd-Basiffig hyn a bydd y rhain yn dod yn fwyfwy pwysig dros weddill y degawd. Yn y cyd-destun hwn, bydd grŵp hir-sefydlog y Pum Llygad yn parhau i chwarae rôl hanfodol, o ran ei genhadaeth graidd o rannu cudd-wybodaeth a thrwy gydweithredu’n ehangach ar amddiffyn a diogelwch.
13. Fodd bynnag, yn anad dim, mae cystadlu systemig yn dod yn ffenomenon hynod gymhleth y mae’n rhaid i ni geisio ymdopi â fo drwy ddeall nad yw gwerthoedd neu fuddiannau pawb bob amser yn gyson â’n rhai ni. Ni ellir disgrifio’r system ryngwladol fodern yn nhermau ‘democratiaeth neu awtocratiaeth’ neu ar sail syniadaeth ddu neu wyn y Rhyfel Oer. Fel y noda IR2021, mae grŵp cynyddol o ‘bwerau tir canol’ yn dod yn fwyfwy pwysig i fuddiannau’r DU a materion byd-eang yn gyffredinol a ddim yn awyddus, dim mwy na’r DU, i fod yn rhan o unrhyw gystadlu ar sail ennill neu golli. Bydd angen i ni weithio gyda’r gwledydd hyn i ddiogelu ein budd cyffredin uwch mewn trefn ryngwladol agored a sefydlog gan dderbyn na fyddwn i gyd efallai’n rhannu’r un gwerthoedd a buddiannau gwladol.
14. Yn drydydd, mae IR2023 yn ymateb i gystadlu systemig ar draws ‘buddiannau strategol’ sy’n gorgyffwrdd, lle y mae cystadlu parhaus a deinamig uwchlaw ac islaw’r trothwy rhyfela arfog – ynghylch y cydbwysedd pŵer milwrol, economaidd a gwleidyddol, rheolau a normau a ‘phensaernïaeth’ sefydliadol. Yn benodol ers IR2021:
- Mewn rhai meysydd - fel AI - mae technoleg wedi datblygu a dod ar gael yn fwy eang. Yn ogystal â gyrru newid economaidd a chymdeithasol, mae’r datblygiadau hyn yn arwain at dwf mewn bygwth ac achosi niwed a difrod i wledydd, cymdeithasau ac unigolion o bell, ac weithiau’n ddienw. Mae’r defnydd o ysbïwedd masnachol, meddalwedd wystlo a dulliau seiber-ymosod gan ‘actorion’ llywodraeth a dilywodraeth wedi cynyddu, gan amlygu pa mor bwysig yw defnyddio cwmnïau technoleg a chreu ‘normau’ ymddygiad cyfrifol o ran seiber-ofod a meysydd technoleg newydd a thechnoleg ar y gorwel.
- Ar yr un pryd, mae cystadlu technolegol wedi cyflymu. Mae mwy o actorion yn ceisio ennill mantais neu awtonomi technolegol drwy fuddsoddi biliynau o bunnau dros flynyddoedd yn eu sectorau domestig – fel Deddf CHIPS a Gwyddoniaeth yr Unol Daleithiau a’r Ddeddf CHIPS Ewropeaidd, mwy o fesurau rheoli allforio a thuedd i leoleiddio data. Yng nghyd-destun Wcráin, mae rhyfela gwybodaeth, technoleg a digidol wedi helpu i gadw’r blaidd o’r drws drwy greu mantais anghymesur.
- Mae trefn economaidd a masnach y byd hefyd yn newid ac yn dangos arwyddion o ddarnio. Mae mwy o wledydd yn tueddu i hunan-warchod drwy ‘leoli gartref’ neu ‘leoli ar dir cyfeillgar’, mae goruchafiaeth sefydliadau Bretton Woods yn cael ei erydu a gorfodaeth economaidd ar gynnydd. Yn y degawdau i ddod, gallwn ddisgwyl pwysau pellach wrth i’r pontio at sero-net arwain at ad-drefnu mawr yn economi’r byd gydag arian cyfalaf yn cael ei ailgyfeirio ar raddfa helaeth iawn, a hynny’n cyflwyno cyfleoedd a heriau i economïau agored, arloesol a masnachgar fel y DU.
- Mae cynnydd siarp wedi bod mewn tensiynau geo-wleidyddol ynghylch ffynonellau ynni’n dilyn yr aflonyddwch difrifol i farchnadoedd ynni’r byd a’r rhyfel yn Wcráin. Gallai symud at ynni glân waethygu hyn: bydd yr angen am fynediad sicr at dechnoleg allweddol, deunyddiau crai a mwynau allweddol yn creu heriau newydd y mae’n rhaid i ni ddechrau eu hateb heb oedi pellach, gan gynnwys drwy lywodraethu byd-eang effeithiol sy’n gallu cynorthwyo holl wledydd y byd i symud at ynni glân. Roedd IR2021 wedi adnabod bod pontio at ynni glân a sero-net yn elfen graidd o weithredu byd-eang ar newid hinsawdd; mae IR2023 hefyd yn cydnabod bod hwn yn fater geo-strategol.
15. Yn bedwerydd, mae IR2023 yn ymateb i effeithiau gwaethygol heriau traws-wladol gorgyffyrddol, sy’n dwysáu’r ansefydlogrwydd byd-eang ehangach. O’r heriau oedd wedi eu hadnabod yn IR2021, mae newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yn bethau sy’n gwaethygu bygythiadau byd-eang eraill ac yn sicr o fynd yn waeth dros y degawd nesaf: mae chwech o’r deg risg fwyaf i’r degawd nesaf, yn ôl Fforwm Economaidd y Byd, yn ymwneud â hinsawdd, yr amgylchedd a natur. Mae canlyniadau hyn yn aciwt a chronig gan arwain at gynnydd siarp mewn mudo byd-eang a’r nifer o bobl sydd angen cymorth dyngarol ar fyrder, a hefyd yn rhwystr sylweddol i gynnydd tuag at y Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG). Gartref, mae’r heriau traws-wladol hyn yn profi gwydnwch y Deyrnas Unedig hefyd, yn ogystal â chreu heriau diogelwch newydd neu esblygol, fel y gwelwn o’r holl bobl sy’n ceisio croesi’r Sianel mewn cychod bychain.
16. Yn olaf, mae IR2023 yn ymateb i effaith gynyddol yr ansefydlogrwydd byd-eang ar fywydau pob dydd ein pobl. Fel mewn llawer o wledydd eraill, mae canlyniadau ymosodiad Rwsia ar Wcráin i bobl Prydain wedi bod yn bellgyrhaeddol. Mae wedi cyfrannu at gynnydd anferth mewn prisiau ynni a beichiau difrifol ar deuluoedd, gan weld y llywodraeth yn ymyrryd yn ddigynsail drwy’r Gwarant Prisiau Ynni a chynlluniau cymorth eraill. Yn ehangach, mae ansefydlogrwydd geo-wleidyddol i’w weld yn y cynnydd o ran nifer ac yn yr amrywiaeth o ymosodiadau ar sefydliadau, busnesau a phobl y DU, gan ‘actorion’ llywodraeth a grwpiau troseddu cyfundrefnol; problem gynyddol y mudo anghyfreithlon mewn cychod bychain; y tarfu ar gadwyni cyflenwi a phrisiau nwyddau cyffredin yn codi; a’r cynnydd mewn twyll-wybodaeth a seiber-sgamio. O ganlyniad, mae gallu’r DU i ddylanwadu ar amgylchedd y byd - ac i adnabod, datrys a herio’r bygythiadau hyn - yn dod yn fwyfwy pwysig i bolisi domestig a’n lles gwladol.
Adolygiad Integredig 2023: y prif gasgliadau
17. I gynhyrchu’r Adolygiad Integredig Diweddaraf hwn, mae’r llywodraeth wedi defnyddio:
- Ystod o gynhyrchion asesu a ‘sganio’r gorwel’, gan gynnwys asesiadau’r Cyd-bwyllgor Cudd-wybodaeth, yr Asesiad Risg Diogelwch Gwladol, Cudd-wybodaeth Amddiffyn, Swyddfa Wyddoniaeth y Llywodraeth (GO-Science) a dadansoddiadau o dueddiadau’r dyfodol gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO). Fe wnaethom hefyd ymgynghori ag arbenigwyr allanol.
- Gwersi o bolisïau a strategaethau dros y ddau ddegawd y bu’r DU draw yn Affganistan, o Ymchwiliad Arena Manceinion, ac o waith traws-lywodraeth ar oblygiadau geo-wleidyddol ehangach y rhyfel yn Wcráin. Rydym yn parhau i ddysgu gwersi o hyd, gan gynnwys o Wcráin, a bydd hyn yn hanfodol i gynllunio ar gyfer y lluoedd arfog yn y dyfodol, yn enwedig yn y maes tir.
- Tîm-cochio a gwaith herio arall, yn unol ag egwyddorion Chilcot.
- Argymhellion adroddiadau Seneddol, gan gynnwys rhai a gynhyrchir gan y Pwyllgor Materion Tramor, y Pwyllgor Amddiffyn, y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch, a Phwyllgor Amddiffyn a Chysylltiadau Rhyngwladol Tŷ’r Arglwyddi.
- Ymgynghoriadau â chynghreiriaid a phartneriaid sy’n gweithredu proses werthuso debyg, gan gynnwys: Partneriaid y Pum Llygad; gwledydd NATO a’r Gyd-Fyddin Ymgyrchol (JEF); partneriaid Ewropeaidd allweddol eraill fel Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Pŵyl a’r Eidal; a phartneriaid ar draws y Gwlff, yr Indo-Basiffig ac Affrica. Yn enwedig, mae IR2023 mewn cytgord manwl â Chysyniad Strategol newydd NATO gan roi pwyslais mawr ar rôl y JEF, a’r Gyd-Fyddin Ymgyrchol Gyfun (CJEF) gyda Ffrainc, yn y dyfodol.
18. Asesiad y llywodraeth at ei gilydd yw bod y cyfeiriad a osodwyd yn gyffredinol gan IR2021 yn gywir ond bod angen buddsoddi mwy a dyrannu cyfran fwy o adnoddau gwladol i amddiffyn a diogelwch gwladol – heddiw ac i’r dyfodol – er mwyn iddo gyflawni ei amcanion. Mae IR2023 felly’n cynnig parhad sylweddol i’r rhan fwyaf o’r ochr bolisi, fel y flaenoriaeth uchel a roddir i S&T a seiber, diogelwch ein tiriogaeth gartref a mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Fodd bynnag, mewn meysydd eraill, mae polisi’r DU wedi esblygu ers IR2021 neu angen ei ddiweddaru i ymateb i’r cyd-destun newydd uchod.
19. Prif gasgliadau strategol (ac ymrwymiadau cysylltiedig) IR2023 felly yw:
i. Y flaenoriaeth fwyaf taer o ran diogelwch gwladol a pholisi tramor, yn y tymor byr i ganolig, yw ateb y bygythiad gan Rwsia i ddiogelwch Ewropeaidd. Rhan hollbwysig o hyn yw cefnogi Wcráin i ail-gadarnhau ei sofraniaeth a gwarafun unrhyw fantais strategol i Rwsia o ymosod arni. Wrth i ni ddiweddaru ein strategaeth ar Rwsia, amcan y DU fydd atal a herio gallu a bwriad Rwsia i aflonyddu ar ddiogelwch y DU, yr Ewro-Iwerydd a’r drefn ryngwladol ehangach. Rydym eisoes wedi gwanhau peiriant rhyfel Rwsia drwy gyflwyno cannoedd o sancsiynau targed, mewn cytgord â’n cynghreiriaid, ac wedi dechrau ceisio sicrhau cyfiawnder rhyngwladol am droseddau rhyfel dybryd Moscow. Yn 2022/23, fe roesom £2.3 biliwn mewn cymorth milwrol a dyngarol i Wcráin a bwriadwn ddyrannu’r un faint, o leiaf, yn 2023/24. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod gan Wcráin y gefnogaeth sydd ei hangen arni wrth iddi ddechrau ail-adeiladu ei hun yn y dyfodol.
ii. Er bod IR2023 yn gorwedd y tu allan i adolygiad o wariant, mae pwysau taer sydd angen sylw ar frys a achoswyd gan ddirywiad y sefyllfa ddiogelwch. Bydd amddiffyn yn derbyn £5 biliwn o gyllid ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf, ar ben y £560 miliwn o fuddsoddiad newydd a wnaed yn hydref 2022. Y blaenoriaethau o ran gwario’r arian fydd: adnewyddu a chynyddu ein stoc-bentyrrau a buddsoddi yng ngwydnwch seilwaith arfau’r DU; a pharhau i foderneiddio niwclear, gan gynnwys drwy fuddsoddi mewn seilwaith, sgiliau a chymorth i longau tanfor mewn-wasanaeth. Mae hyn yn golygu y disgwylir i wariant amddiffyn y DU gyrraedd 2.2% o GDP eleni (2.29% gan gynnwys cymorth i Wcráin) sydd, yn nhermau arian parod, yn gynnydd pob blwyddyn ers y setliad mwyaf erioed yn Adolygiad o Wariant 2020.
iii. Bydd y DU yn cynnal ei rôl flaenllaw yn NATO dros y degawd nesaf, sy’n adlewyrchu ei phwysigrwydd cynyddol. Byddwn yn arwain sgwrs newydd yn NATO ar ymrwymiadau gwariant amddiffyn a rhannu baich yn y dyfodol, gan ddechrau yn Uwch-Gynhadledd Arweinwyr NATO yn Vilnius yn 2023 – fel y gwnaethom ar ôl Uwch-Gynhadledd NATO yng Nghasnewydd yn 2014. I gydnabod y byd mwy cystadleuol ac ansicr yr ydym yn byw ynddo, byddwn yn symud i ffwrdd o’r ymrwymiad sylfaenol i wario 2% o GDP ar amddiffyn fel isafswm. Yn hytrach, mae IR2023 yn nodi am y tro cyntaf mai dyhead y DU yw buddsoddi 2.5% o GDP mewn amddiffyn dros amser, fel y bydd amgylchiadau ariannol ac economaidd yn caniatáu.
iv. Bydd y DU mewn sefyllfa gryfach i fynd i’r afael â bygythiadau gan ‘actorion’ llywodraeth a di-lywodraeth sydd islaw’r trothwy rhyfela arfog. Mae hyn yn golygu gwella gwydnwch y DU mewn meysydd pwysig, gan gynnwys drwy ein Tasglu Amddiffyn Democratiaeth a mesurau seiber-ddiogelwch ehangach. Bydd y Mesur Diogelwch Gwladol yn creu amgylchedd gweithredu anoddach i wledydd ac ‘actorion’ eraill sy’n ceisio tanseilio buddiannau’r DU, a byddwn yn defnyddio’r holl bwerau sydd yn ein meddiant yn llawn – gan gynnwys ystyried alltudio – i ddelio â’r bygythiadau a wynebwn gan sefydliadau fel Wagner. Byddwn hefyd yn parhau i ddatblygu ein hadnoddau atal ac amddiffyn ehangach, gan gynnwys drwy gasglu a defnyddio gwybodaeth a dulliau seiber-ymosod, a gwneud defnydd mwy o wybodaeth ‘ffynhonnell agored’ ochr yn ochr â chudd-wybodaeth.
v. Byddwn yn datblygu mesurau mwy cadarn i gryfhau diogelwch economaidd y DU. Byddwn yn prysuro’r gwaith o warchod y galluoedd, cadwyni cyflenwi a’r technolegau sy’n strategol bwysig i’r DU, ein cynghreiriaid a’n partneriaid, gyda’r Awdurdod Amddiffyn Diogelwch Gwladol newydd yn ffynhonnell o arbenigedd a chyswllt rhwng llywodraeth a busnesau’r DU. Byddwn yn cyhoeddi Strategaeth Cadwyni Cyflenwi a Mewnforion newydd a gloywi ein Strategaeth Mwynau Allweddol. Bydd Strategaeth Lled-Ddargludyddion newydd yn cyflwyno cynlluniau i dyfu sector lled-ddargludyddion y DU a chryfhau cadwyni cyflenwi lled-ddargludyddion gartref a thramor.
vi. Bwriadwn lansio Menter Ataliaeth Economaidd newydd i gryfhau ein dulliau diplomyddol ac economaidd o ymateb i, ac atal, gweithredoedd gelynol gan ymosodwyr presennol ac yn y dyfodol. Gyda hyd at £50 miliwn o gyllid dros ddwy flynedd, bydd y fenter yn gwella sut y gweithredwn a gorfodwn sancsiynau. Bydd hyn yn cryfhau effaith ein sancsiynau masnach, cludiant ac ariannol gan gynnwys drwy wasgu ar rai sy’n osgoi sancsiynau. Fe’i defnyddir hefyd i baratoi’r Llywodraeth ar gyfer senarios yn y dyfodol pryd y bydd efallai angen i’r DU ymateb i weithredoedd gelynol, ac i gryfhau’r math o waith a wnaethom â’r G7 wrth ymateb i’r ymosodiad ar Wcráin.
vii. Byddwn yn diweddaru ein dull o ymdrin â Tsieina er mwyn cadw ar y blaen i’r her oesol ac esblygol a gyflwynir ganddi i’r drefn ryngwladol. Yn gyntaf, byddwn yn gwneud mwy i warchod ein diogelwch gwladol yn y meysydd hynny lle y mae Plaid Gomiwnyddol Tsieina’n bygwth ein pobl, ffyniant a’n diogelwch. Yn ail, byddwn yn dyfnhau ein cydweithrediad a chydgordio mwy â’n cynghreiriaid craidd a grŵp ehangach o bartneriaid. Yn drydydd, byddwn yn trafod yn uniongyrchol â Tsieina, yn ddwyochrog ac mewn fforymau rhyngwladol er mwyn gadael lle ar gyfer perthynas agored, adeiladol a dibynadwy: mae diplomyddiaeth yn rhan arferol o fusnes rhwng gwledydd ac yn fanteisiol i fuddiannau gwlad. Byddwn yn dyblu’r cyllid i wella arbenigedd y llywodraeth ar Tsieina er mwyn deall y wlad yn well ac fel y gallwn ymgysylltu’n hyderus pan fydd o fudd i ni wneud hynny.
viii. Er y bydd y DU yn barod i fynd i’r afael â gwrthdaro a chystadlu yn yr amgylchedd rhyngwladol, ein nod yw gweld mwy o gydweithrediad a chystadlu dan reolaeth dda. Fel rhan o IR2023, byddwn yn cyflwyno nod hirdymor newydd o reoli’r risg o gamgymryd a sefyllfa waethygol rhwng y pwerau mawr, gan gynnal sefydlogrwydd strategol drwy ddeialog ar lefel strategol a diweddaru ein dull o reoli ac atal twf arfau. Byddwn hefyd yn meithrin arbenigedd materion strategol er mwyn deall ac ymdopi ag amgylchedd rhyngwladol sy’n newid.
ix. Byddwn yn adeiladu ar y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a Fframwaith Windsor i ddechrau ar gyfnod newydd yn ein perthynas ag Ewrop ar ôl Brexit. Mae’r DU yn ymrwymo i chwarae rôl flaenllaw mewn cynnal sefydlogrwydd, diogelwch a ffyniant ar ein cyfandir ac yn yr Ewro-Iwerydd yn gyffredinol. Byddwn yn mynd i’r afael â’r ystod lawn o heriau sy’n wynebu’r rhanbarth, gan arwain lle’r ydym yn y sefyllfa orau i wneud hynny. Ynghlwm â hyn, ein huchelgais yw creu cysylltiadau cryfach fyth â’n cynghreiriaid a phartneriaid yn Ewrop ar sail gwerthoedd, cyd-gyfnewid a chydweithrediad ar draws ein buddiannau cyffredin. Mae hyn yn cynnwys yr UE, y byddwn yn ceisio gweithio’n agos â nhw ar faterion sydd o fudd i’r ddwy ochr, fel yn ein hymateb i Wcráin. Cynhelir cyfarfod nesaf y Gymuned Wleidyddol Ewropeaidd (EPC) yn y DU yn 2024.
x. Byddwn yn parhau i wella ein cysylltiadau yn yr Indo-Basiffig, fel theatr o bwysigrwydd geo-wleidyddol ac economaidd cynyddol, gan symud at y cam olaf o ymuno â’r CPTPP fel blaenoriaeth. Mae’r DU wedi gwireddu ei huchelgais ‘gogwyddo’ yn IR2021; ein targed erbyn hyn yw gwneud y cysylltiad hwn yn gryfach a mwy parhaus ac yn un o bileri parhaol polisi rhyngwladol y DU. Byddwn yn rhoi statws strategol hirdymor i’n perthynas â’r rhanbarth gan weithio ag eraill a sicrhau ein bod yn parchu a chael ein tywys gan safbwyntiau rhanbarthol. Gwnawn hyn drwy gyfuniad o gysylltiadau dwyochrog, lled-ochrog a sefydliadol ar draws y rhanbarth a thrwy ein cefnogaeth i’r cysyniad o Indo-Basiffig rhydd ac agored. Yn dilyn Uwch-Gynhadledd Y DU-Ffrainc ym mis Mawrth 2023, rydym wedi cryfhau ein cydweithrediad â Ffrainc yn yr Indo-Basiffig gan gynnwys cytuno ar bresenoldeb morol Ewropeaidd parhaol yn y rhanbarth drwy gydgordio anfon cludlongau yno.
xi. Ar wahân i’n cynghreiriaid a’n partneriaid traddodiadol, bydd y DU yn parhau i ddyfnhau ei pherthynas ag ystod eang o ‘actorion’ dylanwadol ar draws yr Indo-Basiffig, y Gwlff, Affrica a thu hwnt. Ein nod yw creu cysylltiadau hirdymor ar draws ein buddiannau cyffredin, chwilio am gyfleoedd newydd i gydweithredu ar fwy o faterion, a heb orfodi dewisiadau ‘ennill-colli’ neu annog safbwyntiau deubegynnol yn y system ryngwladol. Rydym yn cydnabod bod angen i’r system amlochrog newid i wynebu sawl realiti newydd a bydd y DU yn cefnogi diwygio Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig (UNSC) i groesawu aelodau parhaol newydd. Cynhelir Uwch-Gynhadledd Buddsoddi nesaf Y DU-Affrica yma yn Ebrill 2024.
xii. Bydd y Llywodraeth yn ceisio cryfhau ‘pŵer meddal’ y DU, drwy weithio â’r Cyngor Prydeinig a Gwasanaeth Byd y BBC er enghraifft. Mewn byd lle y mae twyll-wybodaeth ar led yn gynyddol, rydym wedi sefydlu cyfarwyddiaeth newydd yn y FCDO i gryfhau ein gallu i asesu ac ymateb i gam-drin gwybodaeth i bwrpas gelynol. Byddwn hefyd yn gweithio i ddarparu ffynonellau newyddion dibynadwy. Fel un o ganlyniadau IR2023, byddwn yn rhoi £20 miliwn o gyllid ychwanegol i Wasanaeth Byd y BBC dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn diogelu pob un o’r 42 gwasanaeth iaith a ddarperir ganddo, cefnogi darlledu yn y Saesneg ac atal twyll-wybodaeth.
xiii. Bydd y DU yn gweithio i adfywio ei rôl fel arweinydd byd-eang ar ddatblygu rhyngwladol gan sefydlu partneriaethau amyneddgar a hirdymor wedi eu teilwrio i anghenion y gwledydd y gweithiwn â nhw, a hyn ar wahân i’n Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA) er mwyn defnyddio holl gryfderau ac arbenigedd y DU. Yn 2023, byddwn yn gweithio ar saith ymgyrch flaenoriaeth o dan y Strategaeth Datblygu Rhyngwladol gan sicrhau y gall strwythurau’r FCDO gyflawni’r blaenoriaethau hyn yn effeithiol. Byddwn yn gwneud gwaith i gryfhau’r manteision o uno diplomyddiaeth a datblygu mewn un adran. Bydd gan y Gweinidog Datblygu Rhyngwladol le parhaol ar y Cyngor Diogelwch Gwladol, bydd ail Ysgrifennydd Parhaol yn y FCDO yn cadw trosolwg ar ein blaenoriaethau datblygu, a bydd strwythur llywodraethu newydd ar gyfer y FCDO a’r Trysorlys yn gwella trosolwg ar wariant cymorth.
xiv. Byddwn yn adeiladu ar flaenoriaeth IR2021 i roi mantais strategol i wyddoniaeth a thechnoleg fel blaenoriaeth genedlaethol graidd. Bydd yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) newydd yn gyfrifol am gydgordio’r gwaith o sicrhau yr enillir mantais gystadleuol barhaol mewn S&T. O dan y Fframwaith S&T newydd, bydd y Llywodraeth yn creu’r ecosystem gywir i S&T allu ffynnu yn y DU a chadw ar y blaen i’n cystadleuwyr strategol, gan gynnwys mewn pum maes technoleg blaenoriaeth: AI, lled-ddargludyddion, technolegau cwantwm, telathrebu’r dyfodol a bioleg beirianyddol. Byddwn yn sefydlu tasglu newydd rhwng llywodraeth a diwydiant i gryfhau hyfedredd modelau sylfaen y DU - math o AI sy’n datblygu ar garlam fydd â goblygiadau pellgyrhaeddol i ddiogelwch a ffyniant y DU.
xv. Bydd y Llywodraeth yn sefydlu Cronfa Diogelwch Integredig newydd (UKISF) drwy gyfuno’r Gronfa Ryfel, Sefydlogrwydd a Diogelwch (CSSF) bresennol â chronfeydd llywodraeth llai i helpu i gyflawni amcanion yr Adolygiad Integredig, gan gynyddu’r cyllid i £1 biliwn. Byddwn hefyd yn ymrwymo £4 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf i wreiddio’r Coleg Diogelwch Gwladol - a lansiwyd drwy IR2021 - ym ‘mhensaernïaeth’ ein diogelwch gwladol.
20. Adlewyrchir y casgliadau a’r ymrwymiadau hyn yn fframwaith strategol IR2023 sy’n ehangu ar ac - mewn rhai o’r meysydd a drafodir uchod – yn disodli’r amcanion a gyflwynwyd yn fframwaith strategol IR2021.
III. IR2023: Fframwaith Strategol Diweddaraf
1. Gartref a thramor, prif ddyletswydd y llywodraeth yw hyrwyddo a gwarchod buddiannau gwladol craidd y Deyrnas Unedig: sofraniaeth, diogelwch a ffyniant pobl Prydain, gan sicrhau bod ein ffiniau’n ddiogel a bod y DU, ei Thiriogaethau Tramor a’r rhai sy’n Ddibynnol ar y Goron yn rhydd o orfodaeth, wedi eu gwarchod rhag niwed ac yn gallu cyfrannu i’r eithaf at ein lles economaidd a chymdeithasol.
2. Mae gan y DU hefyd fudd uwch mewn gweld trefn ryngwladol agored a sefydlog o gydweithrediad ehangach a chystadlu wedi’i reoli’n dda sy’n seiliedig at barch at Siarter y Cenhedloedd Unedig a chyfraith ryngwladol. Mae trefn ryngwladol agored a sefydlog yn cydnabod hunan-fudd cyfreithlon a dyheadau’r holl wledydd. Mae’n creu’r amodau gorau i’r Deyrnas Unedig fod yn gallu diogelu ei buddiannau, ac y gallwn ni ac eraill ffynnu drwyddynt. Mae’n sail ar gyfer cydweithredu’n ystyrlon ar heriau byd-eang, nid lleiaf y bygythiadau i fodolaeth a gyflwynir gan newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Ac yn ein helpu i ddelio â heriau fel mudo sy’n effeithio arnom gartref. Gweithio tuag at y nod uwch o drefn ryngwladol agored a sefydlog felly yw ‘diben’ strategaeth y DU, ochr yn ochr â’n buddiannau gwladol craidd.
3. Mae pedwar piler fframwaith strategol yr Adolygiad Integredig Diweddaraf hwn yn dangos y ‘ffyrdd’ y byddwn yn gweithio tuag at y ‘dibenion’ hyn. Bydd y fframwaith yn tywys ein penderfyniadau ar yr holl feysydd perthnasol yn ymwneud â diogelwch gwladol a pholisi rhyngwladol a domestig tan yr etholiad cyffredinol nesaf. O ystyried natur gysylltiedig yr heriau a wynebwn ac ehangder yr agenda bolisi sy’n gysylltiedig â’r Adolygiad Integredig, nid yw’r pileri’n trafod polisi mewn manylder llwyr. Fodd bynnag, mae pob piler yn amlygu’r meysydd polisi arbennig o bwysig fydd yn hanfodol i gyflawni’r bwriad yn y pen draw, gan ddangos y blaenoriaethau lle y mae hyn yn bosib. Maen nhw wedi eu dylunio i gefnogi dull ymgyrchu cyson sy’n cadw ar y blaen i’r amgylchedd rhyngwladol newydd, gyda phwyslais ar ‘feddwl yn hirdymor: gweithredu nawr’.
i. Dylanwadu ar yr amgylchedd rhyngwladol. Mae’r piler hwn yn ymrwymo’r DU i ddylanwadu, cydbwyso, cystadlu a chydweithredu ar draws y prif feysydd cystadlu systemig, gan weithio â phawb sy’n cefnogi trefn ryngwladol agored a sefydlog a gwarchod nwyddau cyhoeddus byd-eang.
ii. Atal, amddiffyn a chystadlu ar draws pob maes. Mae’r piler hwn yn atgyfnerthu’r newid at ddull integredig o amddiffyn ac atal, i wrthsefyll y bygythiadau gwladol a’r heriau diogelwch traws-wladol. Mae’n cadarnhau bod NATO wrth graidd yr ymdrech hon ond mae’n glir - o ystyried y newid i’r darlun bygythiadau - y bydd atal effeithiol yn golygu gweithio drwy grwpiau eraill a thu allan i theatr yr Ewro-Iwerydd. Mae hefyd yn rhoi pwyslais newydd ar y cysyniad o sefydlogrwydd strategol - gan sefydlu fframweithiau newydd a chreu ‘pensaernïaeth’ diogelwch rhyngwladol newydd i reoli cystadlu systemig a sefyllfa waethygol mewn amgylchedd mwy aml-begynnol.
iii. Mynd i’r afael â bregusrwydd drwy wydnwch. Mae’r piler hwn yn datblygu dull gwydnwch y DU gan symud at ymgyrch hirdymor i fynd i’r afael â’r bregusrwydd sy’n gwneud y DU yn agored i argyfyngau ac actorion gelynol. Bydd hyn yn cryfhau ymdrechion atal y DU drwy warafun a sicrhau y gellir targedu ochr weithrediadol piler dau lle y bydd yn cael yr effaith fwyaf.
iv. Creu mantais strategol. Mae’r piler hwn yn atgyfnerthu ac ehangu ffocws IR2021 ar fantais strategol – sef ein gallu i gyflawni ein hamcanion o’i gymharu â’n cystadleuwyr. Mewn amgylchedd mwy cystadleuol, mae hyn yn amhrisiadwy i gynnal rhyddid y DU i weithredu, rhyddid o orfodaeth a sicrhau y gallwn gydweithredu ag eraill, ac yn ategu holl bileri eraill y fframwaith strategol.
4. I ddarparu’r dull ymgyrchu hwn, bydd y Cyngor Diogelwch Gwladol (NSC) yn cadw trosolwg ar ‘gylch strategol’ sy’n gyrru darparu fframwaith strategol IR2023. Bydd hyn yn pwysleisio: integreiddio IR2023 yn fwy â Fframwaith Cynllunio a Pherfformiad y Llywodraeth (GPPF) drwy Gynlluniau Darparu Canlyniadau adrannol a Chanlyniadau Blaenoriaeth trawsbynciol; sganio’r gorwel yn rheolaidd wedi’i ategu gan gynhyrchion yn cynnwys yr NSRA; monitro a gwerthuso cynnydd ar ddarparu; cyfleoedd mwy mynych i ystyried materion trawsbynciol fel mantais strategol yn gyffredinol; a bod yn fwy ystwyth wrth ymateb i fwriad a gweithredoedd ein cystadleuwyr. Fel y noda IR2021, i wneud hyn mae angen newid diwylliant hirdymor fel bo’r Llywodraeth yn gallu delio ag amgylchedd gweithredol llawer mwy heriol. Bydd cylch strategol yr Adolygiad Integredig felly’n gofyn am ymrwymiad parhaus gan uwch-arweinwyr ar draws y gymuned diogelwch gwladol i gryfhau diwylliant, amrywiaeth a chynhwysiant.
5. Bydd y Llywodraeth hefyd yn rhoi’r adnoddau a’r pwerau sydd eu hangen ar IR2023 i lwyddo. Un elfen o hyn fydd Cronfa Diogelwch Integredig newydd ar gyfer y DU (UKISF) i helpu i weithredu amcanion allweddol yr Adolygiad, gartref a thramor, drwy gyfuno’r Gronfa Ryfel, Sefydlogrwydd a Diogelwch (CSSF) bresennol â chronfeydd llywodraeth llai er mwyn integreiddio ymdrechion traws-lywodraeth a sicrhau bod adnoddau’n cael eu blaenoriaethu’n unol ag IR2023 mor effeithiol â phosib.
Fframwaith Strategol IR2023
1. Dylanwadu ar yr amgylchedd rhyngwladol
Dylanwadu, cydbwyso, cystadlu a chydweithredu i greu amodau ar gyfer trefn ryngwladol agored a sefydlog.
2. Atal, amddiffyn a chystadlu ym mhob maes
Gwarchod diogelwch y DU ac yn rhyngwladol rhag bygythiadau gan ‘actorion’ llywodraeth a di-lywodraeth a rheoli’r risg o sefyllfa waethygol.
3. Mynd i’r afael â bregusrwydd drwy wydnwch
Cryfhau’r bregusrwydd strategol sy’n gwneud y DU yn agored i orfodaeth ac argyfyngau byd-eang.
4. Creu mantais strategol
Meithrin cryfderau’r DU a diweddaru ein dulliau gwladweiniol er mwyn cryfhau ein dylanwad a’n rhyddid i weithredu.
Prosiect cymorth wedi’i ariannu gan yr elusen Hello World i greu hybiau cymunedol ar y we’n rhedeg ar solar yng nghefn gwlad Nepal. Mae’r hybiau’n cefnogi cysylltedd, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, gan bontio’r gagendor digidol. Credyd: Johnny Fenn a Hello World.
Piler 1: Dylanwadu ar yr amgylchedd rhyngwladol.
1. Er mwyn gwarchod ein buddiannau gwladol craidd a chefnogi amcanion rhyngwladol ehangach, rhaid i’r DU ddylanwadu ar yr amgylchedd y mae’n gweithredu ynddo. Fel aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, aelod o’r G7, un o’r gwarwyr mwyaf ar amddiffyn a datblygu ac un o’r economïau mwyaf yn y byd, bydd gan y DU wastad bersbectif byd-eang – rhywbeth sy’n dod yn fwy ac nid llai pwysig mewn byd mwy cystadleuol ac aml-begynnol.
2. Bydd y DU yn gweithio i ddylanwadu ar drefn ryngwladol agored a sefydlog o gydweithredu a chystadlu dan reolaeth rhwng gwledydd sofran, a hynny ar sail cyd-gyfnewid, normau ymddygiad cyfrifol a pharch at egwyddorion sylfaenol Siarter y Cenhedloedd Unedig a chyfraith ryngwladol. Byddwn yn ymddwyn yn gyson a disgwyliedig yn unol â’r egwyddorion hyn ond hefyd yn cydbwyso yn erbyn a herio ymdrechion i’w tanseilio drwy rym a dulliau gorfodol eraill.
3. Roedd IR2021 yn cyflwyno dull o ddylanwadu ar y drefn ryngwladol ar sail economïau a chymdeithasau agored. Mae bod yn benderfynol o ddiogelu’r drefn agored hon fel daioni cyffredin yn edau sy’n parhau i redeg drwy weithredoedd y DU, yn enwedig yn ein hymrwymiad i ddiogelu nwyddau cyhoeddus byd-eang. Ond byddwn yn miniogi safiad y DU gan ddylanwadu, cydbwyso, cydweithredu a chystadlu lle bynnag y gweithredwn yn rhyngwladol, er mwyn creu’r amodau, strwythurau a’r cymhellion angenrheidiol ar gyfer trefn ryngwladol agored a sefydlog.
4. Mae ymrwymiad hirsefydlog y DU i aml-ochredd yn parhau i fod yn un o sylfeini’r dull hwn. Roedd creu’r Cenhedloedd Unedig yn gamp hanesyddol sy’n parhau i gynnig manteision byd-eang anferth a bydd y DU yn cefnogi galwad yr Ysgrifennydd Cyffredinol i gryfhau aml-ochredd. Yn enwedig, rydym yn cydnabod bod angen i’r system aml-ochredd newid i dderbyn sawl realiti newydd. Gan symud ymlaen o IR2021, bydd y DU yn cefnogi diwygio’r Cyngor Diogelwch (UNSC) ac yn barod i groesawu Brasil, India, Japan a’r Almaen fel aelodau parhaol. Byddwn hefyd yn cefnogi cynrychiolaeth barhaol gan Affrica ar yr UNSC, yn ogystal â chynrychiolaeth bellach ar sefydliadau amlochrog eraill, gan gynnwys y G20.
5. Ond fel y pwysleisiodd IR2021, nid yw dulliau amlochrog traddodiadol ac amddiffyn y ‘system ryngwladol’ o reolau’n dilyn y Rhyfel Oer yn ddigon ar eu pen eu hunain mwyach. Bydd y DU yn blaenoriaethu ei dylanwad ar draws meysydd strategol lle y bydd datblygiadau’n effeithio fwyaf ar ein buddiannau gwladol craidd a’r drefn ryngwladol: yn ddaearyddol - yr Ewro-Iwerydd, yr Indo-Basiffig a’n cymdogaeth ehangach: yn thematig - ynni, hinsawdd a natur, datblygu cynaliadwy, y drefn economaidd fyd-eang, y drefn dechnolegol a digidol newydd, a’r meysydd seiber-ofod, gofod a morol. Ym mhob un, byddwn yn teilwrio ein gweithredu ar sail dealltwriaeth o ddaearyddiaeth, dyrannu adnoddau, pensaernïaeth ranbarthol a rhyngwladol, rheolau a normau, a’r cydbwysedd cymharol o bŵer economaidd, milwrol, diplomyddol a diwylliannol.
6. Ar draws yr agenda hon, bydd y DU yn partneru â phawb sy’n barod i weithio â ni ar sail parch, cyd-gyfnewid, Siarter y Cenhedloedd Unedig a chyfraith ryngwladol. Mae’r ymrwymiad hwn yn ymestyn i’n cystadleuwyr systemig oherwydd ni all trefn ryngwladol fodoli heb ddeialog. Mae’r DU felly’n gweld gwerth arbennig yn rôl y G20 fel fforwm allweddol y mae’r holl bwerau geo-wleidyddol mawr yn aelodau ohono.
7. Er hynny, bydd y DU bob amser yn cydweithredu agosaf â’n rhwydwaith craidd o gynghreiriaid a phartneriaid democrataidd y mae ein buddiannau a’n gwerthoedd yn debycach i’w rhai hwy. Yr Unol Daleithiau, yn enwedig, yw cynghreiriad a phartner pwysicaf y DU, gyda’n Siarter Iwerydd ddiwygiedig yn adlewyrchu hyd a lled ein cydweledigaeth fyd-eang. Fel cam mawr arall ymlaen o’r IR2021, bydd y DU yn blaenoriaethu mwy o gydgordio pwrpas a gweithredu ymhlith partneriaid o’r un anian yn yr Ewro-Iwerydd a’r Indo-Basiffig, gan gydnabod y lefel uchel o fuddiannau cyffredin sy’n troi’r fantol yn erbyn unrhyw bryderon rhanbarthol. Mae gennym sylfaen naturiol ar gyfer hyn mewn grwpiau fel y Pum Llygad a’r G7.
8. Ar wahân i’r craidd hwn, rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd partneriaethau dyfnach a pharhaol ag actorion eraill fydd yn dylanwadu ar yr amgylchedd geo-wleidyddol yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r DU yn rhoi cryn bwyslais ar yr holl bartneriaethau hyn – p’un ai yn ein hardaloedd daearyddol blaenoriaeth neu mewn rhanbarthau ehangach lle y mae gennym gysylltiadau cryf, fel America Ladin – a byddwn yn ceisio creu cysylltiadau hirdymor ar draws ein buddiannau cyffredin. Deallwn fod gan y partneriaid hyn efallai wahanol farn am faterion rhyngwladol pwysig ac ni fyddwn yn eu gorfodi i wneud dewisiadau ennill-colli na’n annog system ryngwladol ddeubegynnol.
9. Bydd y DU hefyd yn ceisio cryfhau’r Gymanwlad fel sefydliad gyda dros chwarter ei gwledydd yn aelodau o’r Cenhedloedd Unedig ac sy’n hyrwyddo gwerthoedd sydd wrth galon trefn ryngwladol agored. Byddwn yn dyfnhau ein cydweithrediad â phartneriaid a sefydliadau’r Gymanwlad er mwyn gwella manteision aelodaeth i bob un o’i 2.5 biliwn o ddinasyddion, yn cryfhau masnach rhwng gwledydd y Gymanwlad ymhellach, yn cefnogi aelodau sy’n wynebu trafferthion gyda denu mewnfuddsoddiad ac yn cryfhau gwydnwch yr aelodau sydd fwyaf agored i newid hinsawdd, colli natur a diraddio amgylchedd.
Blaenoriaethau daearyddol
10. Blaenoriaeth oruchaf y DU o hyd yw’r Ewro-Iwerydd sy’n hanfodol i amddiffyn ein tiriogaeth gartref ac i ffyniant ein gwlad. Er ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae’r DU yn parhau i fod â rôl a llais pwysig yn nyfodol ein rhanbarth – fel economi G7, aelod parhaol (P5) o’r UNSC, un o aelodau sefydlol NATO, ac un o wledydd fframwaith y Gyd-Fyddin Ymgyrchol (JEF).
11. Bydd y DU yn gweithio i sicrhau bod Ewrop, ac ardal ehangach yr Ewro-Iwerydd, yn sefydlog, diogel a gallu ffynnu’n wleidyddol ac economaidd yn y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn chwarae rôl ar draws y gwahanol heriau sy’n wynebu’r rhanbarth – o ymddygiad ymosodol Rwsia a’r her systemig a gyflwynir gan Tsieina, i ddiogelwch ynni, mudo ac adfywio twf economaidd. Fel actor rhanbarthol, byddwn yn ceisio arwain a sbarduno gweithredu lle bo’n briodol, gan roi blaenoriaeth arbennig – fel y nodir ym mhiler dau – i’r cyfraniad y gallwn ei wneud yng ngogledd Ewrop fel actor diogelwch. Rydym hefyd wedi penodi ein cennad cyntaf i Wledydd Gorllewin y Balkan, i gydnabod eu hollbwysigrwydd i sefydlogrwydd y rhanbarth.
12. Mae’r DU yn croesawu esblygiad positif ein cysylltiadau ôl-Brexit â’r UE a’n partneriaid Ewropeaidd. Mae ein cysylltiadau dwyochrog â rhai gwledydd Ewropeaidd - fel Wcráin, Gwlad Pŵyl a gwledydd y Balkan - yn agosach heddiw nag y buont ers degawdau a gwerthfawrogwn yn fawr ein cydweithrediad agos â’r UE, Ffrainc, yr Almaen a’r Eidal yn y G7 ar sancsiynau a chymorth ail-adeiladu a diplomyddol i Wcráin. Byddwn yn aros ar y llwybr cadarn hwn gan greu cysylltiadau cryf â’n cynghreiriaid a phartneriaid yn Ewrop ar sail gwerthoedd, cyd-gyfnewid a chydweithrediad ar draws ein buddiannau cyffredin.
Adfywio cysylltiadau’r DU ag Ewrop ers Brexit
Rhestr ddi-gynhwysfawr. Yn gywir ar 1 Mawrth 2023
Allwedd map
Cytundebau dwyochrog a arwyddwyd
Cytundebau dwyochrog ar ganol eu trafod
Cytundebau dwyochrog a arwyddwyd ac ar ganol eu trafod
Grŵp Cydweithrediad Ynni Môr y Gogledd (UE)
Y Rhaglen Brwydro Awyr Fyd-eang
Y Gyd-Fyddin Ymgyrchol (JEF)
Grŵp Calais
Cytundeb Baltig 3
Cennad Masnach Gwledydd Gorllewin y Balkan
01. Albania
02. Gwlad Belg
Cyd-Ddatganiad ar Gydweithrediad Dwyochrog
03. Bosnia a Hertsegofina
Cytundeb Partneriaeth, Masnach a Chydweithredu
04. Bwlgaria
Cytundeb Partneriaeth Strategol
05. Croatia
Ymrwymiad Partneriaeth Strategol
Cyd-Ddatganiad ar Gydweithrediad Strategol
06. Cyprus
MoU ar Gydweithrediad Strategol
Cytundeb Rhannu Gwybodaeth
07. Gweriniaeth Tsiec
Datganiad o Fwriad
Datganiad o Fwriad
08. Denmarc
Cyd-Ddatganiad ar Ehangu Cydweithrediad Amddiffyn
Datganiad o Fwriad
09. Estonia
Datganiad o Fwriad ar Gydweithrediad Tramor Strategol
Partneriaeth Dechnoleg
10. Y Ffindir
Cyd-Ddatganiad ar Gyd-Sefyll Gwleidyddol
Cytundeb Fframwaith ar Ehangu Cydweithrediad Amddiffyn Dwyochrog
11. Ffrainc
Cytundeb Diogelwch Morol
Protocol Cydweithredu
12. Yr Almaen
Cyd-Ddatganiad ar Bolisi Tramor a Diogelwch
13. Gwlad Groeg
Fframwaith Strategol Dwyochrog
Datganiad Cyd-weledigaeth
14. Yr Ynys Las
Cytundeb Masnach Rydd
15. Gwlad yr Iâ
Cyd-weledigaeth
Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein
16. Gweriniaeth Iwerddon
Canolfannau Ymchwil Cydweithredol (Y DU, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon)
MoU ar Addysg
17. Yr Eidal
Deialog Hyrwyddo Buddsoddi ac Allforio
Datganiad o Fwriad ar Gydweithrediad Seiber a Gofod
Cytundeb Cydweithredu Dwyochrog
18. Cosofo
MoU ar Gydweithrediad Amddiffyn
Cytundeb Partneriaeth Masnach a Chydweithredu rhwng Cosofo a’r DU
19. Latfia
Cyd-Ddatganiad ar Gydweithrediad Strategol
20. Liechtenstein
Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein
21. Lithwania
Datganiad o Fwriad Dwyochrog ar Gydweithrediad Strategol
22. Malta
Fframwaith Cydweithrediad Dwyochrog
23. Moldofa
Cytundeb Partneriaeth, Masnach a Chydweithredu
24. Montenegro
Cytundeb Partneriaeth, Masnach a Chydweithredu
25. Yr Iseldiroedd
Cyd-Ddatganiad ar Gydweithrediad Tramor, Datblygu a Diogelwch Dwyochrog
26. Gogledd Macedonia
Cytundeb Partneriaeth, Masnach a Chydweithredu
MoU ar Gydweithrediad Amddiffyn
27. Norwy
Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein
Cyd-Ddatganiad ar Gydweithrediad Strategol
28. Gwlad Pŵyl
Datganiad o Fwriad ar Gydweithrediad Amddiffyn
MoU ar Gydweithredu ar Logisteg ac Amddiffyn
29. Portiwgal
Cyd-Ddatganiad ar Gydweithrediad Dwyochrog
Cytuniad Cydweithrediad Amddiffyn
30. Romania
Partneriaeth Strategol
31. Serbia
Cytundeb Partneriaeth, Masnach a Chydweithredu
Cytundeb Cydweithrediad Amddiffyn
32. Slofacia
Cyd-Ddatganiad ar Gydweithrediad Strategol
33. Slofenia
Cyd-Ddatganiad o Fwriad ar Gydweithrediad Strategol
34. Sbaen
Fframwaith Cydweithrediad Dwyochrog
MoU ar Amddiffyn
35. Sweden
Cyd-Ddatganiad ar Gyd-Sefyll Gwleidyddol
MoU ar Wyddorau Bywyd
36. Y Swistir
Cytundeb Cydweithredu
Cyd-Ddatganiad a Chyd-Gyhoeddiad ar Gydweithrediad Strategol
Cytundeb Symud Gwasanaethau
Uwch-Gytundeb Masnach Rydd a Gwasanaethau Ariannol
MoU ar Wyddoniaeth ac Arloesi
Cytundeb Cyd-Gydnabyddiaeth
Datganiad o Fwriad ar Amddiffyn a Diogelwch
37. Twrci
Cytundeb Masnach Rydd
Datganiad o Fwriad ar Gydweithrediad Strategol
38. Wcráin
Cytundeb Partneriaeth Wleidyddol, Masnach Rydd a Strategol
Grwpiau
Grŵp Calais: Y Comisiwn Ewropeaidd, Ffrainc, Gwlad Belg, Yr Almaen a’r Iseldiroedd | Y Rhaglen Brwydro Awyr Fyd-eang: Yr Eidal, Japan | JEF: Denmarc, Y Ffindir, Estonia, Gwlad yr Iâ, Latfia, Lithwania, Yr Iseldiroedd, Sweden a Norwy | Grŵp Cydweithrediad Ynni Môr y Gogledd: Gwlad Belg, Denmarc, Y Comisiwn Ewropeaidd, Ffrainc, Yr Almaen, Iwerddon, Lwcsembwrg, Yr Iseldiroedd, Norwy a Sweden | Cytundeb Baltig 3: Estonia, Latfia a Lithwania. |
13. Bydd hyn yn cynnwys adfywio cysylltiadau dwyochrog hanesyddol pwysicaf y DU yn Ewrop, gan adeiladu ar Uwch-Gynhadledd Y DU-Ffrainc ym mis Mawrth 2023 drwy fwy o ymgysylltu rhwng Prif Weinidogion a gweinidogion. Fel rhan o hyn, mae ein perthynas ag Iwerddon yn arbennig o bwysig, fel cyd-warantwr o Gytundeb (Dydd Gwener y Groglith) Belffast ac oherwydd yr Ardal Deithio Gyffredin a buddiannau cyffredin eraill. Byddwn hefyd yn ceisio ehangu cydweithrediad ymarferol drwy fforymau dwyochrog a lled-ochrog - er enghraifft drwy’r Grwpiau Pedwarawd a Phumawd Trawsiwerydd (Y DU, Yr Unol Daleithiau, Ffrainc a’r Almaen - gyda’r Eidal yn ymuno â’r olaf) ar bolisi tramor, drwy Grŵp Calais ar fudo, a gydag ardal y Benelwcs, Ffrainc, Yr Almaen, Iwerddon a’r gwledydd Nordig drwy Grŵp Cydweithrediad Ynni Môr y Gogledd.
14. Drwy’r Uwch-Gynhadledd, rydym wedi atgyfnerthu strwythur ein cynghrair â Ffrainc a chadarnhau ein cyfeillgarwch hirsefydlog. Rydym wedi: ymrwymo i bartneriaeth newydd ar ddiogelwch ynni; cytuno i gydweithredu ar y mater cyffredin o fudo anghyfreithlon; cadarnhau ein hymrwymiad i ddiogelwch Ewropeaidd, gan gynnwys drwy hyfforddi môr-filwyr o Wcráin a chyflenwi arfau; cytuno i ehangu ar ryngweithredu milwrol, gan gynnwys drwy sgopio cyd-ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o arfau taro manwl dwfn; a chryfhau ein cydweithrediad er mwyn cefnogi Indo-Basiffig rhydd ac agored; gan gynnwys drwy ddeialog strategol newydd a chytuno ar bresenoldeb morol Ewropeaidd parhaol yn yr Indo-Basiffig drwy gydgordio anfon cludlongau yno.
15. Mae ein perthynas â’r UE, drwy’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA), yn taro’r cydbwysedd iawn rhwng cael mynediad at ein marchnad fwyaf a rhyddid i benderfynu ar y rheolau sy’n gweithio orau i ni. Mae Fframwaith newydd Windsor, yn anad dim, yn cryfhau lle Gogledd Iwerddon yn yr Undeb a hefyd yn gosod sylfaen ar gyfer cryfhau’r cysylltiadau rhwng y DU a’r UE. Bydd y DU yn ceisio defnyddio’r momentwm newydd yn y berthynas i fanteisio i’r mwyaf ar y TCA, gan gynnwys drwy ymgysylltu ymhellach â’r Cyngor Partneriaeth, Pwyllgorau a fforymau cydweithredol eraill. Byddwn hefyd yn datblygu dulliau newydd o gydweithredu ar fuddiannau cyffredin – drwy gydweithredu uniongyrchol (gan gynnwys ar amddiffyn drwy PESCO), yn y G7 a fforymau eraill.
16. Bydd y DU hefyd yn parhau i fuddsoddi yn y sefydliadau a’r partneriaethau rhanbarthol y mae’n aelod ohonynt, gan gynnwys NATO (y flaenoriaeth fwyaf), y Sefydliad dros Ddiogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop, a Chyngor Ewrop. Mae hyn yn cynnwys cefnogi datblygu mentrau newydd fel y Gymuned Wleidyddol Ewropeaidd (EPC), sy’n dod â holl gyfandir Ewrop at ei gilydd. Cynhelir pedwaredd Uwch-Gynhadledd yr EPC yn y DU yn 2024.
17. Bydd y DU hefyd yn blaenoriaethu’r Indo-Basiffig fel rhanbarth hanfodol i economi a diogelwch y DU a’r nod o gael trefn ryngwladol agored a sefydlog. Bydd datblygiadau yn y rhanbarth yn dylanwadu’n anghymesur ar economi, cadwyni cyflenwi a sefydlogrwydd strategol y byd, ac ar normau ymddygiad gwledydd. Ar ôl gwireddu’r uchelgais ‘gogwyddo’ gwreiddiol yn IR2021, byddwn yn rhoi statws strategol hirdymor i’n rôl yn yr Indo-Basiffig gan wneud y rhanbarth yn un o bileri parhaol polisi rhyngwladol y DU.
18. Un o elfennau craidd perthynas y DU â’r Indo-Basiffig fydd cefnogi’r weledigaeth o ardal rydd ac agored wedi’i rhannu gan lawer o bartneriaid rhanbarthol. Mae’r DU yn credu mai Indo-Basiffig rydd ac agored fydd un gyda chydbwysedd grym sy’n sicrhau nad un pŵer yn unig fydd â’r awenau yn yr ardal a lle y mae brodwaith cyfoethog o sefydliadau a phartneriaethau’n cyfrannu at drefn sefydlog ond parod i addasu: lle y gall gwledydd wneud dewisiadau’n rhydd o orfodaeth, twyll-wybodaeth ac ymyrryd; lle y mae undod tiriogaethol yn cael ei barchu ac anghydfod yn cael ei ddatrys yn unol â chyfraith ryngwladol; lle y mae rheolau a normau rhyngwladol yn llywodraethu ar fôr, tir ac yn yr awyr, yn ogystal â masnach ryngwladol; lle y mae môr-lwybrau’n ddiogel ac agored; lle y gweithredir yn erbyn pysgota anghyfreithlon, direol a di-adrodd; a lle y mae gwledydd yn wydn i wahanol fygythiadau a pheryglon, p’un ai’n newid hinsawdd, trychinebau naturiol neu seiber-ofod.
Cyflawni’r gogwyddo Indo-Basiffig ers IR2021
Rhestr ddi-gynhwysfawr. Yn gywir ar 1 Mawrth 2023
Ar draws yr Indo-Basiffig mae’r DU wedi:
- Dod un un o Bartneriaid Deialog ASEAN, cytuno ar Gynllun Gweithredu pum mlynedd ac ymgeisio i ymuno â Fforwm Rhanbarthol ASEAN.
- Anfon dwy Long Batrôl y Llynges Frenhinol i gefnogi gweithrediadau morol yn yr Indo-Basiffig.
- Lansio hỳb British International Investment newydd yn Singapôr.
Mae’r DU hefyd yn:
- Symud at gam olaf y trafodaethau i ymuno â Chytundeb Cynhwysfawr a Chynyddol y Bartneriaeth Traws-Basiffig (CPTPP).
- Cefnogi’r Strategaeth 2050 ar gyfer Cyfandir y Glas-Basiffig, gan gynnwys drwy fod yn un o aelodau sefydlol Partneriaid y Glas-Basiffig.
- Gyrru’r ymdrechion gwyrdd i bontio at sero-net drwy raglen Gweithredu ar yr Hinsawdd dros Asia Wydn.
Allwedd map
Cytundebau a arwyddwyd
Cytundebau ar ganol eu trafod
Cytundebau a arwyddwyd ac ar ganol eu trafod
Aelod o ASEAN
Aelod o CPTPP
Aelod o’r Gymanwlad
Tiriogaethau tramor
Y Rhaglen Brwydro Awyr Fyd-eang
Aelodau Fforwm Ynysoedd y Pasiffig
Llwybr allforol 2021 Grŵp Cludlongau Ymosod y DU drwy’r Indo-Basiffig
01. Awstralia
Partneriaeth AUKUS
Cytundeb FTA
02. Bangladesh
Cytundeb Hinsawdd wedi’i arwyddo
03. India
Cytundeb map ffordd Y DU-India hyd at 2030
Cytundeb Partneriaeth Strategol Cynhwysfawr
Trafodaethau FTA
Arweinydd piler ar Fenter Cefnforoedd yr Indo-Basiffig dan arweiniad India
04. Indonesia
Partneriaeth Pontio at Ynni Glân (Just Energy)
Cytundeb Map Ffordd Y DU-Indonesia
MoU ar Gydweithredu ar Goedwigaeth a Defnyddiau Tir eraill
05. Japan
Cytundeb Cyd-Fynediad
Cytundeb Partneriaeth Ddigidol
Cytundeb FTA
06. Maleisia
MoU ar Gydweithredu ar yr Hinsawdd
07. Gweriniaeth y Maldives
MoU ar Raglen Partneriaeth y Gwledydd Cefnforol
08. Seland Newydd
Cytundeb FTA
09. Y Philipinas
MoU ar Gydweithrediad Gofal Iechyd
10. Gweriniaeth Corea
Fframwaith Dwyochrog Y DU-RoK
Cytundeb FTA a thrafodaethau ar FTA diwygiedig
Cytundeb i gryfhau gwydnwch cadwyni cyflenwi
Cylch Gorchwyl ar Gydweithrediad Gofod
MoU ar Ynni Glân
11. Singapôr
Cytundeb Economi Ddigidol
Cytundeb FTA
Fframwaith Economi Werdd
12. Fietnam
Partneriaeth Pontio at Ynni Glân (Just Energy)
Cytundeb FTA
MoU ar Gydweithrediad Morol
19. Bydd rôl y DU yn y rhanbarth yn sefydlog, parhaus ac wedi’i thywys gan barch at safbwyntiau rhanbarthol, gan gefnogi rôl ganolog ASEAN a Ffordd y Pasiffig. Oherwydd bod gan y DU lai o adnoddau a phresenoldeb daearyddol nag yn yr Ewro-Iwerydd, byddwn yn blaenoriaethu gweithio drwy bartneriaid a sefydliadau gan sefydlu perthnasoedd dwfn wedi eu hangori mewn cysylltiadau economaidd, technolegol a diogelwch hirsefydlog. Byddwn hefyd yn cyplysu ein hymdrechion yn agosach â rhai ein partneriaid drwy strategaethau Indo-Basiffig, gan gynnwys ASEAN, Canada, Yr UE, Ffrainc, Yr Almaen, India, Japan, Gweriniaeth Corea a’r Unol Daleithiau.
20. Byddwn yn parhau i gryfhau ein cysylltiadau dwyochrog a sefydliadol ar draws y rhanbarth. Bydd hyn yn cwmpasu ystod eang o weithgarwch gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i:
- Gydag Awstralia, dyfnhau un o bartneriaethau mwyaf agos y DU gan gynnwys drwy weithredu ein cytundeb masnach rydd (FTA) dwyochrog. Yn benodol, byddwn yn symud y bartneriaeth AUKUS i’r cam gweithredu gan arfogi Awstralia â llongau tanfor pŵer niwclear ag arfau confensiynol, a datblygu’r cydweithrediad ar uwch-ddulliau milwrol. Fel partneriaid y Pum Llygad, bydd y DU yn gweithio’n agos bob amser ag Awstralia a Seland Newydd ar draws ein hagendâu cyffredin.
- Gydag India, adeiladu ar ein Partneriaeth Strategaeth Gynhwysfawr drwy weithredu Map Ffordd 2030 Y DU-India, cefnogi llywyddiaeth India o’r G20, symud ymlaen â thrafodaethau’r FTA, cryfhau ein partneriaeth amddiffyn a diogelwch, datblygu ein cydweithrediad ar dechnoleg ac arwain y piler diogelwch morol gyda Menter Cefnforoedd Indo-Basiffig India.
- Gyda Japan, dyfnhau’r cydweithrediad ar amddiffyn drwy ein Cytundeb Cyd-Fynediad a GCAP â’r Eidal, cefnogi llywyddiaeth Japan o’r G7 a gweithredu ein FTA a’n partneriaeth ddigidol.
- Gyda Gweriniaeth Corea, darparu Fframwaith Dwyochrog trobwyntiol Y DU/RoK ac yn uwchraddio ein FTA.
- Gyda Singapôr, darparu ein FTA, Cytundeb Economi Ddigidol a Fframwaith Economi Werdd gan weithio tuag at bartneriaeth strategol ddwyochrog.
- Gydag Indonesia, darparu Map Ffordd 2022-24 Y DU-Indonesia.
- Gyda Maleisia, Y Philipinas, Gwlad Tai a Fietnam, cryfhau ein partneriaethau ar draws blaenoriaethau cyffredin o ran masnach a buddsoddi, newid hinsawdd, diogelwch morol a’n cysylltiadau diogelwch ehangach.
- Symud at gam olaf y trafodaethau i ymuno â Chytundeb Cynhwysfawr a Chynyddol y Bartneriaeth Traws-Basiffig (CPTPP) sy’n cyfrif am 13% o GDP byd-eang.
- Ar draws y rhanbarth, buddsoddi yn natblygiad y rhanbarth drwy hỳb newydd British International Investment yn Singapôr fydd yn cryfhau’r cydweithredu ar S&T a gwydnwch y rhanbarth.
- Gyrru’r ymdrechion gwyrdd i bontio at sero-net gan ddarparu’r Partneriaethau Pontio at Ynni Glân ag Indonesia a Fietnam a chefnogi’r broses o addasu i’r newid yn yr hinsawdd, yn enwedig drwy’r rhaglen Gweithredu ar yr Hinsawdd dros Asia Wydn.
- Dyfnhau ein hymgysylltu â gwledydd Ynysoedd y Pasiffig a gwydnwch rhanbarthol y Pasiffig drwy gefnogi Strategaeth 2050 ar gyfer Cyfandir y Glas-Basiffig, ac fel un o aelodau sefydlol menter Partneriaid y Glas-Basiffig
- Darparu Cynllun Gweithredu Y DU-ASEAN ac ymgeisio i ymuno â Fforwm Rhanbarthol a Chyfarfod Gweinidogion Amddiffyn Plws ASEAN.
21. Ein trydedd flaenoriaeth ddaearyddol fydd ein cymdogaeth ehangach: y rhanbarthau hynny ar gyrion yr Ewro-Iwerydd lle y mae unrhyw ddatblygiadau’n cael effaith uniongyrchol ar ein tiriogaeth gartref, o fudo i fygythiadau diogelwch traws-wladol. Mae hyn yn ymgorffori ein ffocws hirsefydlog ar y Dwyrain Canol ac Affrica lle y mae cystadlu chwyrn am ddylanwad yng nghyd-destun newidiadau geo-wleidyddol ehangach. Mae hefyd yn ymestyn i’r Arctig lle y mae cystadlu ar gynnydd wrth i’r rhew gilio ac agor môr-lwybrau a mynediad newydd at adnoddau naturiol; mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin wedi tarfu ar gydweithrediad yn y rhanbarth drwy Gyngor yr Arctig.
22. Roedd IR2021 yn glir nad oedd y DU wedi rhagweld y datblygiadau mawr tymor byr i ganolig a welsom yn y Dwyrain Canol ar yr un raddfa â’r rhai a ddaeth i ben yn Irac ac Affganistan. Fodd bynnag, roedd yn pwysleisio ein parodrwydd i wneud cyfraniad dwfn a pharhaus at ddiogelwch yr ardal drwy gydweithredu ar ddiogelwch ac yn ddiplomyddol, ac ar draws S&T, addasu i’r hinsawdd a buddiannau cyffredin eraill. Tynnodd sylw arbennig at bwysigrwydd partneriaethau’r DU â gwledydd y Gwlff ac Israel, fel actorion geo-wleidyddol rhanbarthol ac ehangach. Mae’r cyfnod ers 2021 wedi gweld cynnydd ar garlam yn nyfnder ac ansawdd y partneriaethau hyn ac edrychwn ymlaen at eu dyfnhau a’u cryfhau ymhellach yn y blynyddoedd i ddod.
23. Felly hefyd, bydd rôl y DU yn Affrica’n parhau i gael ei diffinio gan werthfawrogiad mwy manwl o anghenion a safbwyntiau partneriaid allweddol ar draws y cyfandir, gan roi ffocws ar bartneriaethau datblygu, diogelwch ac amddiffyn cyd-fuddiol a chefnogi seilwaith glân ac addasu i’r hinsawdd. Cynhelir Uwch-Gynhadledd Buddsoddi nesaf Y DU-Affrica yn y DU yn Ebrill 2024 gan ddod â gwledydd at ei gilydd i gryfhau ein cysylltiadau masnach ac economaidd. Drwy Room to Run, mae’r DU wedi rhoi gwarant newydd i Fanc Datblygu Affrica fydd, gobeithio, yn datgloi hyd at $2 biliwn o gyllid newydd ar gyfer prosiectau addasu i’r hinsawdd. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn cysylltiadau hirdymor ar draws y cyfandir, gan gynnwys gyda De Affrica, Kenya, Nigeria a’r Aifft.
24. Nod hirdymor y DU yw bod yr Arctig yn dychwelyd i fod yn ardal o gydweithrediad uchel a thensiwn isel. Mae Fframwaith Polisi’r DU ar yr Arctig (2023), Looking North: the UK and the Arctic, yn disgrifio trywydd y DU ar gyfer ein buddiannau yn yr Arctig, gan gynnwys gweithredu i leihau difrod newid hinsawdd ymhellach ac addasu i gystadlu systemig cynyddol yn y rhanbarth. Byddwn yn gweithio â Norwy fel cadeirydd Cyngor yr Arctig o fis Mai 2023 ymlaen ac yn cryfhau ein deialog â grwpiau a’n cynghreiriaid yn yr Arctig, gan gynnwys drwy’r JEF a NATO. Er yn y pegwn arall, mae’r Antarctig hefyd yn rhan o gymdogaeth estynedig y DU drwy ein Tiriogaethau Tramor yn Ne’r Iwerydd a Chefnfor y De ac, fel yr Arctig, yn denu cystadlu systemig cynyddol. Bydd y DU yn parhau i gryfhau system Cytuniad yr Antarctig, yn cynnal hawliau’r holl bartïon ac yn diogelu’r cyfandir ar gyfer gwyddoniaeth a chydweithredu heddychlon.
Blaenoriaethau thematig
25. Blaenoriaeth thematig gyntaf y DU o hyd yw mynd i’r afael â newid hinsawdd, difrod amgylcheddol a cholli bioamrywiaeth, o gofio pa mor daer yw newid y sefyllfa cyn 2030. Byddwn yn cynnal yr uchelgais uchel a osodwyd yn IR2021, COP26 a Chytundeb Hinsawdd Glasgow gan arwain a sbarduno cydymdrech fyd-eang i gadw’r targed o 1.5 gradd yn fyw a chefnogi’r bobl fwyaf bregus i addasu a dod yn fwy gwydn i effeithiau newid hinsawdd a gwarchod bioamrywiaeth fel y cytunwyd drwy Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-Eang Kunming-Montreal.
26. Gartref, bydd ein ffocws o hyd ar ddarparu Cyfraniad ar sail Penderfyniad Gwladol (NDC) y DU erbyn 2030 a’n hymrwymiadau amgylcheddol a sero-net erbyn 2050. Bydd darpar Fframwaith Strategol 2030 ar gyfer Gweithredu Rhyngwladol ar Natur a’r Hinsawdd yn nodi blaenoriaethau rhyngwladol y DU. Bydd y rhain yn cynnwys: darparu gweddill ymrwymiad y DU o ddarparu £11.6 biliwn mewn Cyllid Hinsawdd Rhyngwladol rhwng 2021/22 a 2025/26, gan gynnwys gwario £3 biliwn ar natur (gyda £1.5 biliwn ar fforestydd) a threblu ein cyllid ar addasu i gyrraedd £1.5 biliwn yn 2025; cyflymu datgarboneiddio systemau ac economïau drwy sicrhau uchelgais uwch gan y rhai sy’n gyfrifol am yr allyriadau mwyaf; darparu Partneriaethau Pontio at Ynni Glân a gyrru cynnydd drwy’r Cenhedloedd Unedig, y G7 a’r G20; cryfhau gwydnwch i effeithiau’r hinsawdd drwy geisio cytuno ar fframwaith ar gyfer y Nod Byd-Eang ar Addasu yn 2023; hwyluso cynnydd ar gyllid Colledion a Difrod; a gyrru gweithrediad y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-Eang. Bydd y DU hefyd yn gweithio â’r Tiriogaethau Tramor – sy’n gartref i 94% o fioamrywiaeth y DU – i warchod ac ail-sefydlu bioamrywiaeth allweddol, ymateb i drychinebau a chefnogi datblygu economaidd a chymdeithasol di-garbon hirdymor.
27. Ynghlwm â’r gwaith hwn, ail flaenoriaeth y DU yw datblygu cynaliadwy drwy geisio adfywio’r cynnydd tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG) y Cenhedloedd Unedig er mwyn lliniaru tlodi a cheisio mynd at wraidd y broblem o ansefydlogrwydd geo-wleidyddol. Roedd Strategaeth Datblygu Rhyngwladol (IDS) 2022 yn cyflwyno dull datblygu newydd wedi’i angori mewn partneriaethau amyneddgar a hirdymor wedi eu teilwrio i anghenion y gwledydd y gweithiwn â nhw, ar sail cyd-atebolrwydd a chyd-dryloywder a ffocws ar ansawdd yr hyn y gall y DU ei gynnig, nid yn unig faint.
28. Roedd yr IDS yn sefydlu pedair blaenoriaeth gyffredinol o ran cyfraniad y DU at ddatblygu cynaliadwy: buddsoddi’n onest a dibynadwy; rhoi’r rhyddid sydd ei angen ar ferched a genethod i lwyddo; darparu cymorth dyngarol egwyddorol sy’n achub bywydau a hyrwyddo Cyfraith Ddyngarol Ryngwladol; a chefnogi cynnydd ar newid hinsawdd, natur ac iechyd byd-eang. Yn 2023, bydd y DU yn hyrwyddo saith menter benodol i ddarparu’r IDS, cyfrannu at ddarparu nodau SDG, mynd i’r afael â materion sy’n bwysig i’n partneriaid, a chefnogi’r amcanion ehangach o dan y piler hwn:
i. Diwygio a gwyrddio’r system ariannol fyd-eang i sicrhau bod Sefydliadau Ariannol Rhyngwladol – yn enwedig y banciau datblygu aml-ochrog a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) – a marchnadoedd cyfalaf mewn sefyllfa well i ateb anghenion y gwledydd datblygol wrth ddelio ag argyfyngau economaidd, dyledion, hinsawdd a natur.
ii. Hyrwyddo ymdrechion byd-eang i wneud systemau trethu byd-eang yn decach a sicrhau bod refeniw ac asedau a gollir i gyllid anghyfreithlon yn cael ei adnabod a’i adennill, fel y gall gwledydd incwm isel a chanolig dalu am eu datblygiadau eu hunain.
iii. Darparu buddsoddiad a seilwaith glân a gwyrdd drwy Bartneriaethau Buddsoddi Prydeinig a chyfraniadau’r DU at $600 biliwn Partneriaeth Seilwaith a Buddsoddi Byd-Eang y G7, a thrwy geisio negodi cefnogaeth y marchnadoedd cyfalaf a’r sector preifat.
iv. Arwain ymgyrch i wella diogelwch bwyd a maeth drwy’r byd drwy gynyddu argaeledd, fforddiadwyedd ac ansawdd cynhyrchion i drin ac atal diffyg maeth, gyrru’r newid at amaeth cynaliadwy a gwneud mwy o ddefnydd o wyddoniaeth ac ymchwil a datblygu, ochr yn ochr â gweithredu’n ddiymdroi ar y risg o newyn, a chryfhau gwydnwch.
v. Arwain ymgyrch fyd-eang ar ‘wyddoniaeth agored dros wydnwch byd-eang’ gan greu achos o blaid gwyddoniaeth ddiogel a chydweithredol sy’n sicrhau bod gan wledydd incwm isel a chanolig fynediad at wybodaeth ac adnoddau i gryfhau eu gwydnwch.
vi. Sbarduno gwaith rhyngwladol i atal yr argyfwng iechyd byd-eang nesaf drwy adeiladu ar ein llwyddiant fel Llywydd y G7 i frocera cytundebau rhyngwladol mwy uchelgeisiol ar baratoi ac ymateb i bandemig, cryfhau systemau iechyd, gyrru mynediad tecach at frechiadau, cyffuriau a systemau diagnostig fforddiadwy a mynd i’r afael ag ymwrthedd i gyffuriau. Bydd ein Fframwaith Iechyd Byd-Eang diwygiedig yn manylu mwy ar ymrwymiad parhaus y DU i ymdrechion iechyd byd-eang.
vii. Ysgogi ymateb cyfunol i’r ymosodiadau trefnedig a chynyddol, sydd â chryn adnoddau y tu ôl iddynt, ar hawliau merched a genethod, gan gynnwys ar-lein. Fel y noda’r Strategaeth Ryngwladol ar gyfer Merched a Genethod a gyhoeddwyd yn ddiweddar, byddwn yn gweithio i wella addysg, iechyd a hawliau, cefnogi grymuso, lleihau trais ar sail rhywedd ac yn dyrchafu rôl mudiadau hawliau merched.
29. Wrth gyfrannu at ddatblygu rhyngwladol, byddwn yn darparu mwy na chymorth ODA i wneud popeth y gallwn i gefnogi canlyniadau datblygu. Mae hyn yn cynnwys gweithio drwy sefydliadau rhyngwladol a rhannu ein harbenigedd – gan gynnwys drwy Ganolfannau Arbenigedd newydd i’r DU mewn technoleg, cyllid anghyfreithlon, dinasoedd a seilwaith gwyrdd – a chodi statws Llundain fel canolfan ariannol flaenllaw, er enghraifft drwy fentrau gan Bartneriaethau Buddsoddi Prydeinig i godi £8 biliwn y flwyddyn erbyn 2025.
30. Mae cyfuno diplomyddiaeth a datblygu yn y FCDO wedi cryfhau ein cyfraniad datblygu a’n polisi tramor. Y dystiolaeth o hyn yw: ein hymateb dyngarol i ymosodiad Rwsia ar Wcráin; ein gwaith i gefnogi cadoediad yn Ethiopia er mwyn rhoi mynediad i gymorth dyngarol, pryd y daeth ein rhaglenni datblygu a lobio diplomyddol at ein gilydd; a’n gwaith i annog Llywodraeth Yemen i weithredu diwygiadau economaidd i leihau prisiau mewnforion bwyd a gwella sicrwydd bwyd. Byddwn nawr yn cryfhau mwy ar arweinyddiaeth datblygu mewn llywodraeth. Bydd y Gweinidog Datblygu Rhyngwladol yn cadw sedd yn y Cabinet ac yn ymuno â’r Cyngor Diogelwch Gwladol, bydd ail Ysgrifennydd Parhaol yn y FCDO yn cadw trosolwg ar ein blaenoriaethau datblygu, a bydd strwythur llywodraethu newydd ar gyfer y FCDO a’r Trysorlys yn gwella trosolwg ar wariant cymorth. Byddwn hefyd yn dod â’n gwaith ar ddatblygu rhyngwladol at ei gilydd o dan frand sy’n adlewyrchu hyd a lled arweinyddiaeth a dull partneriaeth y DU, i helpu i sicrhau bod gwerth ein datblygu rhyngwladol yn cael ei ddeall gartref ac yn rhyngwladol.
31. Ochr yn ochr â diwygiadau datblygu i’r system ariannol ryngwladol, trydedd flaenoriaeth y DU yw dylanwadu’n ehangach ar y drefn economaidd fyd-eang newydd. Byddwn yn cadw’r ymrwymiad cadarn yn IR2021 i hyrwyddo economi fyd-eang agored gan sicrhau system fasnach rydd sy’n trin pob gwlad yn deg a thrwy herio gorfodaeth economaidd. Byddwn yn defnyddio ein dulliau gwladweiniol economaidd i hyrwyddo’r agenda hon drwy ddiplomyddiaeth a pholisi masnach i ddiweddaru’r llyfrau rheolau a’r bensaernïaeth economaidd, ariannol a masnachol sefydliadol er mwyn rheoli cystadlu systemig yn well a pharatoi am yr heriau strwythurol a gyflwynir wrth bontio at ynni glân, yr economi ddigidol ac aflonyddwch technolegol ehangach. Byddwn yn gweithio gydag economïau mewn sefyllfa debyg – fel Japan, Canada, Gweriniaeth Corea ac Awstralia – i ddatblygu a hyrwyddo dulliau sy’n cryfhau’n hytrach na thanseilio ein gwydnwch economaidd cyfunol.
32. Gan adeiladu ar yr ymrwymiad yn IR2021 i ehangu’r drefn ryngwladol i ffiniau eraill yn y dyfodol, byddwn yn cryfhau ymdrechion y DU i ddylanwadu ar y drefn ddigidol a thechnolegol newydd. Mae gwledydd awdurdodaidd yn ceisio ail-greu rheolau’r ffordd, nid yn unig drwy ddarparu seilwaith a gwasanaethau digidol ond drwy hybu dull gwladwriaethol mewn cyrff aml-ochrog. Bydd y DU yn ceisio hyrwyddo normau, rheolau a safonau agored a democrataidd ynghyd ag atebolrwydd a throsolwg effeithiol, fel rhan o wrthwynebu gor-reolaeth wladol. Byddwn yn parhau i bwyso am roi sedd wrth y bwrdd i bob grŵp rhanddeiliaid i drafod dyfodol ein byd digidol.
33. Mae dull systemau’n arbennig o bwysig yn y cyswllt hwn a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol ac mewn diwydiant i gydbwyso a dylanwadu ar bethau fel AI, safonau digidol a llywodraethu data a’r we - gan adeiladu ar y gwaith a wnaethom ers IR2021 drwy’r G7, Fforwm Technoleg y Dyfodol a gynhaliwyd yn y DU, Hỳb Safonau AI y DU, ac mewn partneriaeth â’r Sefydliad dros Gydweithrediad a Datblygu Economaidd (OECD) drwy’r Fforwm Byd-Eang ar Dechnoleg a’r Bartneriaeth AI Fyd-Eang. Byddwn yn ymgysylltu’n greadigol lle y gwelwn fylchau yn y bensaernïaeth aml-ochrog ac aml-randdeiliad gan sefydlu cynghreiriau a grwpiau aml-randdeiliad byd-eang â gwledydd o’r un anian - ar wahân i’n partneriaid traddodiadol - gan gynnwys gweithio gyda gwledydd ‘digidol ansicr’ ar ddefnyddio, datblygu a chreu polisi ar dechnoleg a data allweddol. Ategir hyn gan y gwaith o ddarparu’r fantais S&T ym mhiler pedwar.
34. Byddwn hefyd yn ceisio hyrwyddo rheolau a normau ymddygiad seiber-ofod. Yn unol ag IR2021, arhoswn yn ymrwymedig i fod yn seiber-bŵer cyfrifol a democrataidd gan gynnwys gyda defnyddio ein dulliau seiber-ymosod. Yn unol â hyn, byddwn yn parhau i ddatblygu’r dull rhagweithiol a chynyddol a ddisgrifir yn Strategaeth Seiber Genedlaethol 2022 gan geisio datgloi’r ddadl ryngwladol ar ddilyn rheolau, normau ac egwyddorion seiber-ofod a symud y ddadl tuag at sicrhau consensws ar sut i gyfyngu’n effeithiol ar weithredoedd dinistriol ac ansefydlogol gan actorion’ llywodraeth a di-lywodraeth. Byddwn hefyd yn parhau i ddatblygu dulliau o atal, amddiffyn a chystadlu mewn seiber-ofod gan fynd i’r afael â’n bregusrwydd seiber-ofod domestig a chefnogi partneriaid i gryfhau eu dulliau hwy.
35. Daeth pwysigrwydd cydbwyso a dylanwadu ar weithgareddau yn y gofod hefyd yn gliriach ers IR2021, nid lleiaf ym mhrawf taflegrau gwrth-loeren (ASAT) Rwsia yn Nhachwedd 2021 a’r rôl hanfodol y mae arbenigedd gofod wedi’i chwarae yn amddiffyniad Wcráin. Roedd IR2021 - a’r Strategaeth Ofod Genedlaethol a’r Strategaeth Ofod Amddiffyn ers hynny - yn ymrwymo i wneud y DU yn actor ystyrlon yn y gofod, drwy gryfhau ein gweithrediadau sifil a milwrol, cefnogi twf diwydiant gofod sofranaidd ar gyfer y DU, datblygu trefn lywodraethu newydd i reoli gweithgareddau masnachol yn gynaliadwy yn y gofod, a hyrwyddo normau ymddygiad cyfrifol gan wledydd. Mae’r DU wedi ymrwymo i beidio â phrofi taflegrau ASAT yn ddinistriol a byddwn yn parhau i chwarae rôl flaenllaw mewn cefnogi gweithgor penagored y Cenhedloedd Unedig ar leihau bygythiadau yn y gofod. Byddwn hefyd yn dwysáu’r gwaith o fynd ati i glirio ysbwriel a datblygu prosesau gwasanaethu, gweithgynhyrchu a chydosod yn y gofod, ynghyd â datblygu safonau rhyngwladol ar fframweithiau llywodraethu newydd ar gyfer gweithgareddau masnachol, gan gynnwys gyda’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.
36. Law yn llaw â’r meysydd gofod a seiber-ofod, bydd y DU yn parhau i gydbwyso a dylanwadu yn y maes morol – sy’n hanfodol i gysylltedd a ffyniant byd-eang ac i blaned iach ond sy’n parhau i fod dan bwysau cynyddol oddi wrth gystadlu systemig a diraddio amgylcheddol. Byddwn yn cynnal ein dull integredig tuag at ddiogelwch morol, yr amgylchedd a masnach – gan adeiladu ar ein hanes hir fel grym morol. Drwy wneud hyn, bydd y DU yn parhau i chwarae rôl weithredol mewn cynnal rhyddid mordwyol ac mewn atgyfnerthu rôl ganolog Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr, gan gynnwys drwy: parhau i roi’r Llynges Frenhinol ar gael i NATO; dyfnhau partneriaethau morol gyda gwledydd y JEF; anfon mwy o asedau’r llynges ar draws y byd i ddiogelu môr-lwybrau a thagfeydd morol fel Culfor Hormuz, gyda chymorth y Gyd-Ganolfan Diogelwch Morol; a gweithio drwy Drefniadau Amddiffyn y Pum Pŵer yn yr Indo-Basiffig.
Polisi’r DU tuag at Tsieina
Mae Tsieina o dan Blaid Gomiwnyddol Tsieina (CCP) yn cyflwyno her systemig ac oesol gyda goblygiadau i bob un bron o feysydd polisi’r llywodraeth a bywydau pob dydd pobl Prydain. Wrth ymateb i’r her hon, bydd y DU yn cryfhau ein mesurau diogelwch gwladol, yn cydgordio a chydweithredu â’n partneriaid ac yn ymgysylltu a thrafod lle y mae’n gyson â’n buddiannau.
Ers IR2021, mae’r Llywodraeth wedi gweithredu’n gyson a chadarn i warchod buddiannau a gwerthoedd y DU yng nghyswllt Tsieina. Rydym wedi cydweithredu mwy â’n partneriaid drwy’r G7 a NATO, wedi parhau i godi ein pryderon dwys am y tor-hawliau dynol yn Xinjiang yn y Cenhedloedd Unedig ac mewn fforymau eraill ac wedi rhewi asedau a chyflwyno gwaharddiadau teithio i’r rhai sy’n gyfrifol o dan drefn sancsiynau Hawliau Dynol Byd-Eang y DU. Rydym wedi creu a defnyddio pwerau newydd o dan y Ddeddf Diogelwch Gwladol a Buddsoddi, wedi pasio Deddf Telathrebu (Diogelwch) 2021 i gryfhau diogelwch ein rhwydwaith 5G ac wedi ehangu ar fesurau allforio ar gyfer nwyddau a thechnoleg at ddefnydd milwrol. Rydym wedi lleihau rôl Tsieina yn y sector niwclear sifil ac wedi cymryd mesurau i dynnu technoleg cudd-wylio o ystâd y llywodraeth a allai arwain at wladwriaeth Tsiena’n cael gafael ar ddata sensitif. Ers Rhagfyr 2022, rydym wedi cymeradwyo 153,708 o geisiadau gan rai gyda statws Gwladolion Prydeinig (Tramor) i fyw yn y DU gan adlewyrchu ein hymrwymiad hanesyddol i bobl Hong Kong sy’n dewis cynnal eu cysylltiadau â’r DU.
Mae polisi’r DU ar Tsieina’n cael ei ddiweddaru i ymateb i ddwy ffactor drosfwaol sydd wedi parhau i esblygu ers IR2021:
i. Yn gyntaf, maint ac arwyddocâd Tsieina i holl faterion y byd bron, fydd yn parhau i gynyddu yn y blynyddoedd i ddod mewn ffyrdd a deimlir yn y DU ac ar draws y byd. Mae Tsieina’n aelod parhaol a hirsefydlog o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Mae’n cyfrif am bron i bumed ran o economi’r byd erbyn hyn ac yn fuddsoddwr mawr yn y byd datblygol. Mae’n flaenllaw mewn nifer o feysydd diwydiannol, gwyddonol a thechnolegol gan chwarae rôl hanfodol mewn nifer o gadwyni cyflenwi byd-eang sy’n bwysig i’r DU. Fel buddsoddwr mwya’r byd mewn ynni cynaliadwy a’r wlad sy’n allyrru mwy o garbon na’r un arall, mae’r dewisiadau a wneir gan Tsieina’n allweddol i’n cydymdrechion newid hinsawdd. Mewn meysydd eraill fel iechyd byd-eang a pharatoadau pandemig, mae gan benderfyniadau Tsieina botensial i gael effaith ddofn ar ein bywydau gartref.
ii. Yn ail, pryderon cynyddol y DU am weithredoedd a bwriad dywededig y CCP. Ers IR2021, mae wedi dewis cryfhau ei phartneriaeth â Rwsia ar yr union adeg yr aeth Rwsia ati i ymosod ar Wcráin, ac wedi parhau i ddiystyru hawliau dynol cyffredinol a’i hymrwymiadau rhyngwladol, yn Nhibet, Xinjiang a Hong Kong. Mae ei syniadaeth ‘aml-ochrog newydd’ yn herio lle canolog rhyddid a hawliau dynol yn system y Cenhedloedd Unedig. Mae wedi mynd ati’n ddichellgar ac ar garlam i foderneiddio’r fyddin gyda buddsoddiadau newydd anferth, wedi milwriaethu ynysoedd dadleuol ym Môr De Tsieina, a gwrthod rhoi’r gorau i ddefnyddio grym i gyflawni ei hamcanion yn Nhaiwan. Defnyddiodd ei phŵer economaidd i led-orfodi gwledydd y mae’n anghytuno â nhw, fel Lithwania. Mae’r CCP wedi sancsiynu seneddwyr Prydeinig ac ymddwyn mewn ffyrdd eraill i danseilio rhyddid barn. Ac fel y dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol MI5 yn gyhoeddus y llynedd, mae wedi bod yn ysbïo ac ymyrryd yn y DU.
Nid yw’r DU yn derbyn bod perthynas Tsieina â’r DU, na’i heffaith ar y system ryngwladol, ar lwybr gosodedig wedi’i ragordeinio. Byddai’n well gan y DU gael cydweithrediad a dealltwriaeth well a pherthynas fwy sefydlog a disgwyliedig er budd byd-eang. Ond credwn y bydd hyn yn dibynnu ar ddewisiadau Tsieina ac y bydd yn anoddach os bydd ei thueddiadau i fod yn fwy awdurdodaidd ac ymwthgar dramor yn parhau.
Bydd polisi’r DU tuag at Tsieina felly wedi’i angori yn ein buddiannau gwladol craidd a’n budd uwch o weld trefn ryngwladol agored a sefydlog ar sail Siarter y Cenhedloedd Unedig a chyfraith ryngwladol. Lle bo hynny’n gyson â’r buddiannau hyn, byddwn yn ymgysylltu’n adeiladol â llywodraeth, busnesau a phobl Tsieina ac yn cydweithredu ar flaenoriaethau cyffredin. Ond os bydd gweithredoedd y CCP a’i bwriad dywededig yn bygwth buddiannau’r DU, cymerwn gamau di-oed a phendant i’w gwarchod. Dyma’r templed ar gyfer diplomyddiaeth aeddfed rhwng dwy wlad P5 ac mae’n gyson â’r dulliau a ddefnyddir gan ein cynghreiriaid a’n partneriaid agosaf, gan gynnwys yn Ewrop, yr UD, Awstralia, Canada a Japan.
Bydd y Llywodraeth yn dilyn y polisi hwn ar sail tri ffocws cysylltiedig, sy’n rhedeg ar draws fframwaith strategol yr IR2023:
- Gwarchod. Bydd y DU yn cryfhau ei mesurau diogelwch gwladol yn y meysydd hynny lle y mae gweithredoedd y CCP yn bygwth ein pobl, ffyniant a’n diogelwch. Mae hyn yn golygu gwarchod ein hunain gartref, yn enwedig ein heconomi, rhyddid democrataidd, seilwaith gwladol allweddol, cadwyni cyflenwi a’n gallu i greu mantais strategol drwy wyddoniaeth a thechnoleg. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn meysydd fel seiber-ddiogelwch, ac yn y dulliau amddiffyn fel y gallwn gadw ein hunain yn ddiogel ac ymateb i ddigwyddiadau yn y dyfodol. Byddwn yn cynyddu’r warchodaeth i ryddid academaidd ac ymchwil prifysgol. Lle y bydd gwrthdaro ag amcanion eraill, rhown ddiogelwch gwladol yn gyntaf bob tro.
- Cydgordio. Byddwn yn dyfnhau ein cydweithrediad a chydgordio mwy â’n cynghreiriaid craidd a grŵp ehangach o bartneriaid. Mae hyn yn cydnabod mai ychydig iawn y gallwn ddylanwadu ar weithredoedd y CCP ar ein pen ein hunain a bod yn rhaid i ni felly ddylanwadu ar yr amgylchedd strategol ehangach. Byddwn yn gweithio ag eraill i annog Tsieina i gyfrannu at sefydlogrwydd ariannol a datblygu economaidd sy’n dryloyw a chymesur â’i phwysau a’i chyfrifoldebau. A byddwn yn gweithio i gryfhau ein cyd-ddiogelwch gan gydbwyso a chystadlu lle bo angen a gwthio’n ôl yn erbyn ymddygiad sy’n tanseilio cyfraith ryngwladol, sathru ar hawliau dynol neu’n ceisio gorfodi neu greu dibyniaethau. Safiad hirsefydlog y DU o hyd yw y dylid setlo cwestiwn Taiwan yn heddychlon gan bobl ar y ddwy ochr i Gulfor Taiwan drwy ddeialog ac nid unrhyw ymdrechion unochrog i newid y sefyllfa bresennol.
- Ymgysylltu. Bydd y DU yn ymgysylltu’n uniongyrchol â Tsieina, yn ddwyochrog ac mewn fforymau rhyngwladol, i gynnal a chreu lle ar gyfer perthynas agored, adeiladol, disgwyliedig a sefydlog sy’n adlewyrchu pwysigrwydd Tsieina ym materion y byd. Drwy wneud hyn, byddwn bob amser yn parchu amrywiaeth a chymhlethdod pobl Tsieina a’u barn, gan gynnwys y cymunedau mawr ar wasgar yn y DU ac ar draws y byd. Byddwn yn cryfhau ein cyswllt diplomyddol a’n perthnasoedd rhwng pobl, a lle bo’n bosib yn cydweithredu ar heriau byd-eang fel hinsawdd ac iechyd byd-eang. Gan osgoi unrhyw ddibyniaeth yn ein cadwyni cyflenwi allweddol, a gwarchod ein diogelwch gwladol, credwn y gallai perthynas fasnach a buddsoddi dda fod o fudd i’r DU a Tsieina a bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda diwydiant i sicrhau bod masnach a buddsoddi’n ddiogel, cyfnewidiol ac o fudd i’r ddwy ochr.
Cefnogir y dull hwn gan gamau eraill sydd i’w cymryd ar fyrder, yn unol â fframwaith strategol IR2023, gan gynnwys creu’r Awdurdod Amddiffyn Diogelwch Gwladol, mesurau newydd eraill ar ddiogelwch economaidd a thrwy adolygu sut y gallwn warchod ein sector addysg uwch. Fel rhan o IR2023, bydd y Llywodraeth hefyd yn buddsoddi mwy yn y dulliau eraill sy’n ein helpu i ddeall ac addasu i Tsieina – gan ddyblu’r cyllid i ddatblygu arbenigedd y llywodraeth ar Tsieina.
Milwyr Prydeinig Uned Frwydro Atal Parhaus NATO dan arweiniad y DU yn Estonia. © Hawlfraint y Goron 2023
Piler 2: Atal, amddiffyn a chystadlu ar draws pob maes
1. I warchod pobl Prydain a’n tiriogaeth gartref, ein Tiriogaethau Tramor a’r rhai sy’n Ddibynnol ar y Goron, rhaid i ni fod yn gallu atal ac amddiffyn rhag bygythiadau i’n diogelwch, eu gyrru ar ffo lle bo angen, ac addasu i’r bygythiadau hynny wrth iddynt newid dros amser. Hyn yw busnes craidd lluoedd arfog a gwasanaethau diogelwch y DU ac mae’n rhan hanfodol o gyflawni sefydlogrwydd strategol.
2. Roedd IR2021 yn cydnabod, oherwydd y dirywiad yn yr amgylchedd diogelwch a’r twf mewn bygythiadau hybrid, bod angen dull atal ac amddiffyn mwy cadarn ac integredig. Cadwai at ein sail atal draddodiadol: lluoedd confensiynol, seiber, gofod a niwclear cytbwys a chredadwy a pharodrwydd wedi’i gyfathrebu’n glir i’w defnyddio ym mha bynnag le ac amser a ddewiswn. Roedd hefyd yn cyflwyno mwy o bwyslais ar rôl pwerau ehangach y wladwriaeth fel y gall y DU wrthsefyll bygythiadau uwchlaw ac islaw’r trothwy rhyfela arfog. Roedd IR2021 hefyd yn ail-ddatgan pwysigrwydd canolog ein cynghreiriau a’n partneriaethau i ddull integredig o atal ac amddiffyn gan ddechrau gyda NATO fel craig diogelwch yr Ewro-Iwerydd ond gan hefyd weithio’n fwy hyblyg drwy ddulliau dwyochrog a lled-ochrog.
3. O ystyried bod yr amgylchedd diogelwch yn mynd yn fwy a mwy cystadleuol, bydd y DU yn cryfhau ymhellach ein dull integredig o atal ac amddiffyn i adlewyrchu esblygiad ein safiad yn y byd sydd ohono ers 2021 ac mewn cytgord llwyr â Chysyniad Strategol NATO 2022. Cystadlu systemig rhwng gwledydd heddiw yw’r bygythiad mwyaf taer a sylweddol i fuddiannau’r DU a bydd angen cyfran gynyddol o adnoddau diogelwch gwladol i ddelio â hyn. Gwnawn hyn yn syth drwy gynyddu ein gwariant amddiffyn mewn meysydd allweddol ynghyd â dyhead newydd i fuddsoddi 2.5% o GDP mewn amddiffyn, gan gadarnhau lle blaenllaw’r DU yn NATO. Fodd bynnag, bydd heriau diogelwch traws-wladol yn parhau i esblygu - felly hefyd y rhyng-gysylltu rhwng ‘actorion’ llywodraeth a di-lywodraeth - a rhaid i ninnau hefyd addasu i’w hatal ac amddiffyn rhagddynt.
4. Yn ogystal ag atgyfnerthu dulliau atal ac amddiffyn y DU, rhaid i ni hefyd ateb y risg y gallai camddealltwriaeth a chamgymryd arwain at wrthdaro milwrol ar raddfa fawr rhwng y pwerau mawr, risg sydd wedi cynyddu’n sylweddol yn y degawd diwethaf. Mae hyn yn golygu gweithio’n fwy effeithiol ag eraill - gan gynnwys rhai a allai fygwth ein buddiannau a’n diogelwch - i greu amgylchedd mwy sefydlog, tryloyw a chyd-ddealltwriaeth well fel bod llwybrau clir ar gael i dawelu unrhyw gythrwfl lle bo angen. Mae hefyd yn golygu addasu ein dull o reoli ac atal twf arfau sy’n adlewyrchu’r amgylchedd diogelwch sydd ohono a chyd-fynd â’n safiad ar atal ac amddiffyn.
Dull integredig o atal ac amddiffyn
5. Un o elfennau sylfaenol dull integredig o atal ac amddiffyn o hyd yw rhaglen niwclear ataliol, gredadwy ac annibynnol leiaf bosib y DU i’r pwrpas o amddiffyn NATO. Mae’n sicrhau na all unrhyw wrthwynebwr posib byth ddefnyddio eu pwerau i fygwth y DU na’n cynghreiriaid yn NATO na’n hatal rhag gweithredu fel bo angen i gynnal diogelwch a sefydlogrwydd rhanbarthol a byd-eang. Byddem ond yn ystyried defnyddio ein harfau niwclear mewn amgylchiadau hunanamddiffyn eithafol, gan gynnwys i amddiffyn ein cynghreiriaid yn NATO. Dim ond y Prif Weinidog all awdurdodi eu defnyddio. Nid yw sicrwydd diogelwch negyddol y DU wedi newid.
6. Fel y noda IR2021, mae’r DU yn ymrwymedig i foderneiddio ei lluoedd niwclear ar sail un mewn dwy genhedlaeth. Mae IR2023 yn cadarnhau hyn gyda buddsoddiad pellach. Fel rhan o uchelgais ehangach y Llywodraeth ar gyfer niwclear (wele’r blwch testun), byddwn yn cyhoeddi Strategaeth Niwclear Amddiffyn yn egluro sut y byddwn yn darparu’r rhaglenni ail-gyfalafu sydd eu hangen i gryfhau a gwydno dulliau amddiffyn y DU, gan gynnwys drwy ddiweddaru ein sgiliau pobl ac arbenigol.
7. Yn ogystal â’n rhaglen atal niwclear, rhaid i luoedd confensiynol, seiber a gofod y DU fod yn ddigon abl, gwydn, parod i adleoli ac addasu er mwyn atal gwrthwynebwyr posib rhag rhyfela yn ein herbyn, ac ennill y rhyfel os bydd atal yn methu. Mae gan luoedd y DU fantais dechnolegol a gweithredol yn barod ar draws y pum maes - tir, môr, awyr, gofod a seiber-ofod. Ynghyd â gallu hyfforddi a gweithio ag eraill mewn ffordd integredig, mae’n golygu bod y DU yn gallu cael effaith sy’n anghymesur i’w maint. Ond wrth i eraill foderneiddio eu lluoedd arfog, rhaid i ninnau gadw ein mantais.
8. Bydd y Llywodraeth yn parhau i weithredu ei rhaglen foderneiddio a ddechreuodd yn dilyn Cylch Gwario 2020 a welodd y cynnydd parhaus mwyaf yng nghyllideb amddiffyn y DU ers diwedd y Rhyfel Oer. Fel yr oedd Papur Rheoli Amddiffyn (DCP21) 2021 yn ei nodi, mae’r MoD yn buddsoddi mewn lluoedd arfog rhwydweithiol a digidol-abl sy’n fwy peryglus a galluog yn y meysydd seiber a gofod diweddaraf. Bydd buddsoddi mewn Ymchwil a Datblygu a rhaglenni chweched-cenhedlaeth yn sicrhau bod gan y DU lwyfannau, technoleg a systemau arfau brwydr-fanteisiol dros y degawd nesaf.
9. Fodd bynnag, drafftiwyd DCP21 cyn cyhoeddi partneriaethau AUKUS a GCAP, fydd angen buddsoddiad pellach yn y blynyddoedd i ddod. Fe’i drafftiwyd hefyd cyn rhyfel Wcráin, sydd wedi cynyddu’r brys o foderneiddio ein lluoedd tir gan sicrhau ein parodrwydd am ryfel, a chryfhau’r stoc-bentyrrau a’r parodrwydd a’r gwydnwch sy’n ategol iddynt – gyda ffocws ar sut orau y gallwn gyfrannu gwerth at NATO.
10. Mae’r penderfyniad i fuddsoddi ym mhob un o’r pum maes, o reidrwydd, yn aberthu rhai pethau o ran blaenoriaeth a strwythur ein lluoedd. Rhaid taro cydbwysedd ymarferol rhwng gwahanol fathau o fuddsoddiad yn y rhannau gwahanol o’r lluoedd arfog. Yn unol ag ymrwymiad IR2021 i adolygu maint a chydbwysedd cymharol ein buddsoddiad yn barhaus, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu rhoi £5 biliwn o gyllid ychwanegol i amddiffyn dros y blynyddoedd ariannol 2023/24 a 2024/25, ar ben y £560 miliwn o fuddsoddiad newydd mewn stociau rhyfel a wnaed yn hydref 2022.
11. O’r arian newydd hwn, bydd £3 biliwn yn cael ei fuddsoddi ar draws y fenter niwclear amddiffyn i gefnogi prosiectau fel creu seilwaith diwydiannol yn Barrow, Derby ac yn y Sefydliad Arfau Atomig (AWE), fel y gallwn barhau i dyfu ein rhaglenni sgiliau niwclear i raddedigion a phrentisiaid ac ehangu’r cymorth i longau tanfor mewn-wasanaeth. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i foderneiddio ein capasiti gweithgynhyrchu a chynnal a chadw er mwyn ehangu argaeledd ein llongau tanfor a gwella gwydnwch, yn ogystal â chynorthwyo i ddarparu AUKUS. Defnyddir y £2 biliwn arall i adnewyddu ein stoc-bentyrrau a’u cynyddu’n unol ag ailasesiad o lefelau priodol - gan adeiladu ar y £560 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer y pwrpas hwn yn Natganiad Hydref 2022 - a buddsoddi yng ngwydnwch seilwaith arfau’r DU.
12. Yn fwy hirdymor, ein dyhead yw buddsoddi 2.5% o GDP mewn amddiffyn dros amser, fel y bydd amgylchiadau ariannol ac economaidd yn caniatáu. Bydd hyn yn cyfrannu at foderneiddio parhaus ein lluoedd arfog. Wrth i ni ddatblygu a darparu’r cynlluniau hyn, byddwn yn ymateb i wersi o Wcráin gan roi ffocws ar yr elfennau o’n lluoedd sydd fwyaf tebygol o wneud gwahaniaeth clir i ryfela yn y dyfodol. Bydd hyn yn arbennig o berthnasol yn y maes tir wrth i ni weithredu ac adeiladu ar raglen Milwr y Dyfodol y fyddin.
Y fenter niwclear
Yn y cyd-destun strategol sy’n newid, bydd sectorau niwclear amddiffyn a sifil y DU yn gynyddol bwysig i’n diogelwch, anghenion ynni a’n ffyniant. Maen nhw’n gwneud cyfraniad sylweddol i dwf economaidd a mantais dechnolegol y DU gan gefnogi gweithlu hynod fedrus a buddsoddiad ar draws y DU gyfan.
Mae’r fenter niwclear amddiffyn yn gyd-gyfrifol am ddatblygu, adeiladu, cynnal a chadw a – drwy’r Llynges Frenhinol – am ddarparu ein Menter Atal Barhaus Ar y Môr. Mae llwyddiant y fenter niwclear amddiffyn yn parhau i fod yn ymdrech wladol allweddol sydd angen buddsoddiad a chymorth sylweddol a pharhaus gan lywodraeth.
Mae darparu pedair llong danfor newydd yn y Dosbarth Dreadnought - a bydd y gyntaf o’r rhain yn barod erbyn dechrau’r 2030au - yn enghraifft o’n buddsoddiad; felly hefyd y rhaglen i ddisodli pen-arf niwclear sofranaidd y DU, sydd bellach yn y cam cysyniad. Rydym hefyd yn buddsoddi mewn personél, seilwaith a dulliau yn y Sefydliad Arfau Atomig (AWE) sy’n hanfodol i ddarparu rhaglen Pen-arf newydd y DU a chynnal y pen-arf mewn-wasanaeth presennol nes y bydd yn cael ei dynnu allan o wasanaeth.
Yn 2022, cyhoeddodd y Llywodraeth £2 biliwn o fuddsoddiad mewn llongau tanfor i’r DU ar draws Barrow-in-Furness a Derby, fel rhan o gam presennol y rhaglen Dreadnought. Byddwn yn parhau i adeiladu ar y buddsoddiad hwn gan ddarparu miloedd o swyddi ar draws y fenter ac mewn cadwyni cyflenwi. Bydd hyn yn cyfrannu at ddarparu fflyd newydd safon fyd-eang o longau tanfor pŵer niwclear i’r Llynges Frenhinol.
Bydd y rhaglen hon yn ategu’r ymdrech i ddarparu AUKUS gan weithio â’r Unol Daleithiau i gyflwyno’r ffordd orau o ddarparu llongau tanfor pŵer niwclear ag arfau confensiynol i Awstralia. Bydd y rhaglen AUKUS yn rhan bwysig o’r fenter niwclear gan gynnig cyfle digyffelyb i rannu arloesi a chreu gwydnwch gyda’r Unol Daleithiau ac Awstralia. Bydd yn gwella’r gwaith parhaus o ddarparu uwch-ddulliau di-niwclear ar draws y tair gwlad ac yn gwella sut y rhannwn wybodaeth â’n gilydd. Bydd hefyd yn cyflawni ein hymrwymiad i osod y safonau uchaf ar gyfer atal twf arfau niwclear.
Byddwn yn chwilio’n rhagweithiol am gyfleoedd i gysoni darparu mentrau niwclear amddiffyn a sifil gan geisio cydgordio lle bo’n briodol er mwyn rhoi neges gydlynus o ran galw i bartneriaid diwydiant ac academaidd. Bydd y Strategaeth Niwclear Amddiffyn, a gyhoeddir nes ymlaen eleni, yn cyflwyno uchelgais y llywodraeth ar gyfer niwclear amddiffyn i’r dyfodol gan ddisgrifio ein cynlluniau ar gyfer sgiliau a nodi’n glir y rôl hynod bwysig y mae ein partneriaid diwydiant yn ei chwarae i gefnogi’r sectorau niwclear amddiffyn a sifil.
Bydd y sector niwclear sifil hefyd yn darparu’r llwyth galw lleiaf sy’n ofynnol ar gyfer system ynni’r dyfodol gan gefnogi sicrwydd ynni’r DU a chyflawni ein hymrwymiadau sero-net. Yn Strategaeth Sicrwydd Ynni Prydain, cyhoeddodd y Llywodraeth yr uchelgais bod niwclear sifil yn darparu hyd at 24GW o gapasiti’r DU i gynhyrchu ynni erbyn 2050. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn symud ymlaen â’r gwaith o adeiladu Hinkley Point C ac yn bwrw ymlaen â Sizewell C sy’n frawd-brosiect y mae’r Llywodraeth wedi buddsoddi tua £700m ynddo fel cyfranddaliwr. Mae gan Sizewell C botensial i ddarparu pŵer carbon isel dibynadwy ar gyfer tua chwe miliwn o gartrefi dros 50 mlynedd a disgwylir iddo gynnal tua 10,000 o swyddi ar frig y cam adeiladu. Rydym hefyd wedi: cyhoeddi ein bwriad i sefydlu Great British Nuclear er mwyn symud ymlaen â ‘phiblinell’ gyson o brosiectau niwclear newydd; ymrwymo £210 miliwn - gyda buddsoddiad preifat cyfatebol - i ddatblygu adweithyddion modiwlaidd bach yn y DU drwy SMR Rolls Royce; cyhoeddi £120 miliwn ar gyfer Cronfa Galluogi Niwclear y Dyfodol; a lansio’r Gronfa Tanwydd Niwclear i ddarparu hyd at £75 miliwn mewn grantiau i helpu i ddiogelu capasiti tanwydd niwclear pen-blaen y DU.
13. Mae’r twf cynyddol mewn bygythiadau amrywiol sy’n deillio o ‘actorion’ llywodraeth a di-lywodraeth yn cyfiawnhau buddsoddiad sylweddol y DU yn y Seiber-Lu Gwladol (NCF) ers 2020. Fel y disgrifia IR2021, mae’r NCF yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol a moesegol, yn unol â chyfraith wladol a rhyngwladol, i darfu ar rwydweithiau terfysgaeth, atal osgoi sancsiynau, cefnogi a gwarchod gweithrediadau milwrol a dileu deunydd ar-lein sy’n cam-drin ac ecsbloetio plant yn rhywiol. Rydym erbyn hyn yn egluro’n fwy manwl sut y mae’r NCF yn gwneud ei waith, i gefnogi ein hymrwymiad i fod yn fwy tryloyw yn ein dulliau ac i roi eglurder o ran sut y mae’r DU yn ymddwyn fel seiber-bŵer cyfrifol a democrataidd.
14. Ar wahân i’n dulliau milwrol, er mwyn gweithredu dull integredig o atal ac amddiffyn, rhaid i ni gyfuno pwerau ehangach y wladwriaeth i gynyddu cost ymddygiad ymosodol gan actorion gelynol uwchlaw ac islaw’r trothwy rhyfela arfog. Bydd y DU yn parhau i ddatblygu dulliau newydd o addasu i’r amgylchedd bygythiol newydd gan integreiddio ein dulliau presennol yn well i gael yr effaith strategol orau.
15. Yn benodol, bydd y DU yn cryfhau ein dulliau economaidd a gwybodaeth gwladweiniol gan adeiladu ar lwyddiant y mesurau hyn i gyfyngu ar ryddid Rwsia i symud a threfnu ei hun yn Wcráin. Byddwn yn cynyddu arbenigedd ar draws llywodraeth i ddylunio, gweithredu a gorfodi sancsiynau i fwyhau eu heffaith, datblygu ein systemau sancsiynau ymreolaethol a dyfnhau ein cydgordio rhyngwladol i asesu, paratoi ar gyfer, atal ac ymateb yn ddi-oed i fygythiadau economaidd yn y dyfodol. Rydym wedi sefydlu cyfarwyddiaeth newydd yn FCDO - yn ymgorffori Cell Wybodaeth y Llywodraeth - fel rhan o ymgyrch i gynyddu ein hyfedredd mewn asesu ac ymateb i dwyll-wybodaeth gelynol gan actorion fel Rwsia, Tsieina ac Iran lle y maen nhw’n effeithio ar fuddiannau tramor y DU. Gan adeiladu ar y gwersi a ddysgwn o’r rhyfel yn Wcráin, byddwn yn gwella ein dulliau cyfathrebu diogelwch gwladol drwy gwricwlwm newydd wedi’i ddarparu gan y Coleg Diogelwch Gwladol.
16. Byddwn hefyd yn mabwysiadu dull newydd o geisio atal bygythiadau gwladol o dan y trothwy rhyfela arfog, gan drefnu gweithgareddau traws-lywodraeth yn bedair ymdrech: gwarchod ein hunain, ein cynghreiriaid a’n partneriaid yn erbyn effaith yr ymddygiad hwn; ymgysylltu gartref ac yn rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth ohono a dyfnhau’r cydweithrediad ar ei atal; creu dealltwriaeth uwch o ymddygiad gwledydd a sut i ymateb yn effeithiol; a chystadlu’n uniongyrchol â’r gwledydd hyn mewn ffyrdd creadigol a phendant, lle bo hynny’n briodol. Mae hyn yn gyson â dull NATO o ymdrin â bygythiadau gwladol gan gynnig fframwaith ar gyfer ymateb i fygythiadau newydd (fel balŵns cudd-wylio uchel yn yr awyr, rhywbeth na oddefwn yn ein hawyrofod) yn ogystal â rhai traddodiadol. Fel rhan o’r dull newydd hwn, byddwn yn defnyddio’r holl bwerau sydd ar gael i ni - gan gynnwys ystyried ein pwerau gwrthderfysgaeth cadarn fel alltudio - i fynd i’r afael â’r bygythiadau a wynebwn gan sefydliadau fel Wagner.
17. Rhaid hefyd ymarfer dull integredig o atal ac amddiffyn wrth ddelio â heriau traws-wladol esblygol. Hyd yma, mae’r DU wedi trefnu ein hadnoddau’n bennaf o gwmpas gwahanol ymatebion i heriau traws-wladol unigol, fel terfysgaeth neu droseddu difrifol a chyfundrefnol (SOC). Fodd bynnag, mae’r llinellau rhwng yr heriau hyn - a bygythiadau gwladol - yn ymdoddi i’w gilydd mwyfwy o hyd a’r dulliau a’r gweithgareddau a ddefnyddiwn i ymateb a tharfu arnynt yn gorgyffwrdd yn gynyddol. Byddwn yn gwneud defnydd mwy effeithiol o’n hadnoddau drwy barhau i chwalu’r seilos ar draws y gymuned diogelwch gwladol er mwyn creu gallu ymateb yn well i fygythiadau mwy diarwybod.
18. Yn 2023, bydd y Strategaeth SOC a’r Strategaeth Gwrthderfysgaeth (CONTEST) yn cael eu goleuo gan y bwriad hwn. Bydd y ddwy’n ymateb i dueddiadau cyffredin, gan gynnwys y defnydd o dechnoleg newydd i hwyluso cudd-gyfathrebu a thrafodion ariannol dirgel gan actorion bygwth, rôl y gofod ar-lein mewn hwyluso gweithredu o fewn ac ar draws ffiniau, a’r rhyng-gyswllt cynyddol â bygythiadau gwladol. Bydd y Strategaeth SOC, yn enwedig, yn rhoi pwyslais cynyddol ar gydweithio gyda’n partneriaid rhyngwladol i ddifetha a chwalu modelau busnes y rhwydweithiau troseddol mwyaf niweidiol. Yn ogystal ag ymateb i’r arallgyfeirio gan grwpiau terfysgaeth tramor, bydd CONTEST yn mynd i’r afael â’r newid mewn bygythiad tuag at derfysgwyr ‘ar eu liwt eu hunain’, gan ddefnyddio gwersi o’r tu allan i orfodi’r gyfraith ar sut orau i liniaru a rheoli’r risg yma. Bydd y ddwy strategaeth yn nodi pwysigrwydd gweithredu ar y cyd i gynyddu gwydnwch ar draws ystod o fregusrwydd domestig, fel yr eglurir ym mhiler tri isod.
Cyfraniad y DU at NATO
Rhestr ddi-gynhwysfawr. Yn gywir ar 1 Mawrth 2023
Allwedd map
Aelodau NATO
Gwahoddedigion i NATO
01. Menter Atal Barhaus Ar y Môr (CASD) | Yr Alban |
02. Plismona awyr a rhybuddion gofod y DU | Gogledd yr Iwerydd, Môr y Gogledd a’r DU |
03. Dirprwy Bengadlywydd Cynghreiriol Ewrop (DSACEUR) | Mons, Gwlad Belg |
04. Uned Uwch-Blismona Awyr (eAP) NATO | Romania / Estonia |
Ymrwymiad blynyddol 4 mis naill ai i eAP y Gogledd yn Estonia, neu’r De yn Romania.
05. Gweithgareddau Uwch-Wyliadwriaeth (Awyr) (eVA(Air)) NATO | Gwlad Pŵyl / Romania |
Awyrennau Typhoon, F-35 a Voyager i gefnogi patrolau awyr brwydrol dros wledydd i’r gorllewin a’r de-orllewin o (ond nid yn) Wcráin.
06. Cyd-Dasglu (Awyr) Parodrwydd Uchel Iawn (VJTF(A)) | Ar draws AoR* y DU |
Cymorth AAR Voyager i’r Gynghrair.
07. Cyd-Dasglu (Morol) Parodrwydd Uchel Iawn (VJTF(M)) | Gogledd Uchel a Dwyrain Môr y Canoldir |
Asedau llynges i gynorthwyo Grwpiau Morol Sefydlog NATO ar gyfer cyfnodau penodol yn y Gogledd Uchel a Dwyrain Môr y Canoldir.
08. Uned Frwydro Atal Parhaus (eFP) Estonia
Arwain Uned Frwydro Atal Parhaus NATO yn Estonia gyda lluoedd Denmarc a Ffrainc.
09. Uned Frwydro Atal Parhaus (eFP) NATO Gwlad Pŵyl
Darparu Sgwadron Marchoglu Ysgafn ar arbenigedd rhagchwilio i uned eFP dan arweiniad yr UD.
10 . Llu Ymateb NATO | Yr Iseldiroedd
Darparu cyfraniad arweiniol i Lu Ymateb NATO – llu rhyngwladol yn cynnwys Lluoedd Arbenigol tir, awyr a morol.
-
Llu Morol Parodrwydd Uchel Cludlong awyrennau HMS Prince of Wales
Gwasanaethu fel llong reoli NATO pan fu’r Llynges Frenhinol yn arwain Llu Morol Parodrwydd Uchel y Gynghrair.
12. Menter Parodrwydd NATO (NRI) | Y Gogledd Uchel a Dwyrain Môr y Canoldir |
Cyfranwyr blaenllaw at Fenter Parodrwydd NATO dros dir, môr ac awyr.
13. System rhybuddio cynnar taflegrau balistig | RAF Fylingdales |
Canfod a rhybuddio am fygythiadau taflegrau balistig drwy Ewrop.
*Maes cyfrifoldeb y DU yw ardal a gytunwyd gan NATO a’i dyrannu i’r DU i gynllunio a chyflawni gweithrediadau ynddi.
14. System Rheoli Awyr a Rhybuddio Cynnar NATO | (AEW&C) |
Caffael a gweithredu Llu AEW&C NATO.
15. Strwythurau Rheoli a Lluoedd NATO | Ar draws NATO’n cynnwys ACT (Norfolk, yr UD), SHAPE (Mons) a Phencadlys NATO (Brwsel). |
Darparu 1,028 o bersonél i Strwythurau Rheoli a Lluoedd NATO o dan sefydliadau adeg heddwch a chefnogi hyfforddiant ac ymarferion NATO ym mhob maes.
16. Uned Reoli Forol Gynghreiriol | Northwood |
Dan reolaeth 3-Seren (Is-Lyngesydd).
17. Pencadlys Ewropeaidd rhaglen DIANA NATO | Llundain |
Llwyfan i wledydd cynghreiriol garlamu, profi, gwerthuso a dilysu technolegau newydd sy’n ymdrin â heriau amddiffyn allweddol a chyfrannu at weithgareddau atal y Gynghrair.
18. Pencadlys Corfflu Ymateb Cyflym y Cynghreiriaid | Caerloyw |
Mae Corfflu Ymateb Cyflym Pencadlys y Cynghreiriaid yn darparu Pencadlys Corfflu, Tir neu Ar-y-cyd i NATO gan ymateb yn hyblyg a gyda pharodrwydd i argyfyngau ac yn weithredol.
19. Cymorth Awyrennau Patrôl Morol (MPA) i weithgareddau NATO | RAF Lossiemouth |
Cymryd rhan mewn rhyfela gwrth-longau tanfor aml-ochrog yn ogystal â’i rolau cudd-wylio a chwilio ac achub.
20. Cudd-wylio Daearol y Gynghrair (AGS) | Sisili |
Cymorth personél a gweithredol gan y DU.
21. Grŵp Morol Sefydlog Gwrth-fesurau Ffrwydron 1 NATO | Gogledd Ewrop |
Roedd dau heliwr ffrwydron yn rhan o’r tasglu ym Môr y Canoldir.
22. Ymgyrch SEA GUARDIAN | Môr y Canoldir |
Morluoedd wedi eu dyrannu’n gyson i Fôr y Canoldir.
23. Cenhadaeth NATO yn Irac (NMI) | Irac |
Cyfrannu bron i 10% o genhadaeth NATO yn Irac.
24. Cenhadaeth NATO yng Nghosofo (KFOR) | Cosofo |
Gweithrediadau cudd-wylio a rhagchwilio a chadw Bataliwn ‘parod i fynd’ yn y DU fel y llu strategol wrth gefn traws-Balkan.
25. Ymgyrch SANDROCK | Cosofo |
Danfoniad strategol o elfennau o filwyr wrth gefn KFOR.
19. Ar draws yr ystod lawn o fygythiadau gan ‘actorion’ llywodraeth a di-lywodraeth, mae rhannu’r baich â’n cynghreiriaid a phartneriaid yn elfen hanfodol o ddull atal ac amddiffyn integredig. Mae’r DU yn mwynhau cysylltiadau diogelwch ac amddiffyn dwyochrog dwfn â llawer o wledydd drwy’r byd. O’r rhain, mae dyfnder ac ansawdd y berthynas â’r Unol Daleithiau’n ddihafal – nid oes dwy fyddin yn y byd sy’n gweithio’n fwy rhyngweithredol ac ategol. Mae’r berthynas amddiffyn â Ffrainc hefyd yn arbennig o gryf. Fe wnaeth Cytundeb Lancaster House 2010 nid yn unig sefydlu’r Gyd-Fyddin Ymgyrchol rhwng y DU a Ffrainc ond gosod sylfaen parhaus er mwyn gallu cryfhau’r berthynas hon ymhellach, gan ymrwymo’r ddwy ochr i weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â heriau strategol, hyrwyddo heddwch a diogelwch rhyngwladol, sicrhau ein cyd-ddiogelwch, atal a dwyn perswâd ar ddarpar-wrthwynebwyr ac atal bygythiadau, gan gynnwys terfysgaeth, atal twf arfau distryw mawr a seiber-ymosodiadau.
20. Yn y blynyddoedd i ddod, bydd y DU yn parhau i roi pwyslais arbennig ar ddatblygu partneriaethau amddiffyn-diwydiant dwys gyda’r dechnoleg ddiweddaraf un, fel AUKUS a GCAP. Mae’r ymdrechion hyn, dros nifer o ddegawdau, gyda phartneriaid sy’n rhannu ein hasesiad o’r amgylchedd rhyngwladol yn caniatáu i ni gyd-ymdrechu yn erbyn ymddygiad rheolgar a gwarchod trefn ryngwladol agored a sefydlog.
Ymarfer dull integredig o atal ac amddiffyn
21. Yr Ewro-Iwerydd yw’r brif theatr o hyd y bydd y DU yn ymrwymo’r rhan fwyaf o’i gweithrediadau amddiffyn iddi er mwyn cefnogi cydymdrechion atal ac amddiffyn. Fel y noda Cysyniad Strategol NATO yn glir, mae Rwsia wedi sathru ar y normau a’r egwyddorion a fu’n cyfrannu at drefn ddiogelwch sefydlog a disgwyliedig yn Ewrop ac ni allwn ddiystyru’r posibilrwydd o ymosodiad ar undod tiriogaethol a sofraniaeth ein Cynghreiriaid.
22. NATO yw sylfaen ein cyd-ddiogelwch yn yr Ewro-Iwerydd a’n hymrwymiad i Erthygl 5 Cytuniad Gogledd yr Iwerydd yw ein hadnodd ataliol mwyaf pwerus. O dan Gysyniad Strategol 2022 a’r Cysyniad ar gyfer Atal ac Amddiffyn Ardal yr Ewro-Iwerydd, mae NATO ar ganol ei drawsnewidiad mwyaf mewn degawdau. Cyn bo hir bydd gan y Gynghrair fwy o gapasiti blaen-weithredol a chyfarpar wedi’i rag-leoli, Llu Ymateb newydd wedi’i gefnogi gan fwy o luoedd parodrwydd uchel, cynlluniau amddiffyn wedi eu huwchraddio, a strwythur o luoedd ac unedau rheoli er mwyn gallu paratoi am ryfel.
23. Y DU fydd un o’r prif gyfranwyr at NATO o hyd, gan gynnig y sbectrwm cyfan o ddulliau amddiffyn i’r Gynghrair. Rydym wedi rhagori’n gyson ar Adduned Buddsoddiad Amddiffyn NATO i wario 2% o GDP ar amddiffyn gan osod dyhead newydd o 2.5% o hyn ymlaen. Datganwn ein Menter Atal Niwclear Barhaus Ar y Môr i’r Gynghrair, yn ogystal â’n dulliau seiber-ymosod drwy’r Seiber-Lu Gwladol. Mae’r Awyrlu Brenhinol yn patrolio’r awyr uwchben Gwlad Pŵyl, Romania ac Estonia, gyda Morlu Ymosod ein Llynges wedi darparu banerlong NATO yn 2022. Mae ein lluoedd arfog yn darparu dros fil o bersonél i Strwythurau Rheoli a Lluoedd NATO, gan gynnwys Dirprwy Bengadlywydd Cynghreiriol Ewrop.
24. Yn unol â philer un, bydd y DU yn gwneud cyfraniad arbennig i ddiogelwch gogledd Ewrop. Rydym yn cryfhau ein huned frwydro NATO yn Estonia gydag arfau tanio, amddiffyn awyr ac uned reoli gryfach; yn 2023, bydd Ymarfer Spring Storm yn dangos sut y gallwn uwchraddio i frigâd pe bai angen mewn argyfwng. Ymrwymwn yn arbennig i’r fformat a ddarperir gan y JEF sydd, ers 2022, wedi cynnal tri chyfarfod ar lefel arweinwyr ac yn fforwm diogelwch cynyddol bwysig yn ardaloedd y Gogledd Uchel, Gogledd yr Iwerydd a’r Môr Baltig. Mae’r heriau milwrol, diogelwch a gwleidyddol a wynebwn ar draws yr ardaloedd hyn yn gofyn cael rheolaeth weithredol ar draws ffiniau sefydliadol a thrwy gydweithredu’n agos.
25. Bydd y DU yn parhau i arwain ymdrechion yn NATO i sicrhau bod y Gynghrair yn cadw ei mantais dechnolegol a diwydiannol. Mae NATO wedi dewis Llundain fel un o ddau leoliad ar gyfer Pencadlys Cyflymu Arloesi Amddiffyn Gogledd Iwerydd (DIANA) NATO yn Ewrop, wedi’i gefeillio ag ail leoliad yn Tallinn, Estonia. Bydd hyn yn creu cyfleoedd i gwmnïau yn y DU gael partneru ag arloeswyr ar draws Ewrop a Gogledd America. Mae’r DU hefyd wedi hyrwyddo buddsoddi yn asgwrn cefn digidol NATO er mwyn galluogi gweithrediadau aml-faes, ochr yn ochr â chamau i gryfhau sylfaen diwydiant amddiffyn y Gynghrair.
Y DU yw’r ail roddwr milwrol mwyaf i Wcráin ac fe ymrwymodd £2.3 biliwn o gymorth dyngarol a milwrol yn 2022.
CYMORTH AMDDIFFYN
Disgwyl hyfforddi cyfanswm o 30,000 o Wcráiniaid erbyn diwedd 2023.
Wedi darparu cannoedd o gerbydau arfog / amddiffynnol, gyda 14 o danciau brwydr Challenger 2 eraill ar eu ffordd.
Wedi cyflenwi miloedd o systemau awyr di-griw.
Wedi darparu 1,000+ o daflegrau amddiffyn awyr, 10,000+ o arfau gwrth-danciau, 82 o ynnau tanio ynghyd â gynnau AS90 hunan-yrru a 100,000 o belenni tanio, a 100,000 arall yn 2023.
Gwarchod llywodraeth Wcráin a’i seilwaith gwladol allweddol drwy Raglen Seiber Y DU / Wcráin.
CYMORTH DYNGAROL
Wedi ymrwymo £220m i UNHCR sydd wedi cyrraedd dros 1.68m o bobl yn ffoi o’r rhyfel.
Rhodd o 24 ambiwlans a 11 o gerbydau brys eraill.
Wedi rhoi £2m i glirio ffrwydron.
CYMORTH ARIANNOL
Pecyn £1.35 biliwn mewn cymorth ariannol i Wcráin, yn cynnwys gwarantau benthyciad gan Fanc y Byd a thrwy ddulliau eraill.
Darparu £3.5 biliwn mewn capasiti yswirio i roi mynediad i allforwyr o’r DU, a phrynwyr yn Wcráin, at gyllid ar gyfer ail-adeiladu.
SANCSIYNAU
Wedi dynodi dros 1,300 o unigolion a 130 oligarch gyda gwerth net byd-eang o dros £140b.
Wedi rhewi asedau dros 130 o endidau, dros 20 o fanciau, gydag asedau byd-eang o dros £900b.
Wedi lleihau allforion y DU o Rwsia o 99% ac allforion i Rwsia o 80%.
Gweld cwymp o 2-3% yn GDP Rwsia yn 2022, gan ddisgwyl iddo ostwng 1-5% eto yn 2023.
FISAS
Wedi rhoi fisas i’r DU i 219,400 o Wcráiniaid.
Ffigurau’n gywir ar 1 Mawrth 2023.
26. Ar hyn o bryd, y flaenoriaeth fwyaf taer yn yr Ewro-Iwerydd yw cefnogi Wcráin i ail-afael yn ei sofraniaeth a gwarafun unrhyw fantais strategol i Rwsia o’r ymosodiad. Bydd y DU yn parhau i chwarae rôl flaenllaw ac ysgogol mewn cefnogi Wcráin. Gan adeiladu ar y cymorth milwrol, dyngarol ac economaidd a roesom eisoes, byddwn yn darparu cymorth diplomyddol a milwrol pellach yn 2023 – yr un faint neu fwy na’r cymorth amddiffyn a roesom yn 2022 – i helpu Wcráin i amddiffyn ei hun, adennill ei hundod tiriogaethol a sicrhau heddwch parhaol. Fel rhan o hyn, rydym wedi ymrwymo i ddarparu tanciau brwydr modern a bwriadwn hyfforddi 20,000 o filwyr pellach o Wcráin yn y DU, gyda chymorth gan naw o’n gwledydd partner. Byddwn hefyd yn: carlamu ein hymdrechion i reoli’r risg o sefyllfa waethygol ac yn paratoi am heddwch a cheisio dal Rwsia’n atebol am droseddau rhyfel; yn parhau i gefnogi mentrau dyngarol pwysig y Cenhedloedd Unedig fel Menter Grawn y Môr Du; ac yn cynnal Cynhadledd Adferiad Wcráin ym Mehefin 2023.
27. Yn ehangach, bydd y DU yn ceisio atal a herio gallu a bwriad Rwsia i aflonyddu ar ddiogelwch y DU, yr Ewro-Iwerydd a’r drefn ryngwladol ehangach. Drwy wneud hyn byddwn yn: cynnal ein parch hirsefydlog at hanes cyfoethog Rwsia a’i phobl; yn cydnabod bod llawer o bobl Rwsia yn gwrthwynebu’r hyn y mae’r Arlywydd Putin yn ei wneud; ac yn parhau i gefnogi hawliau dynol pobl Rwsia, gan gynnwys rhyddid i leisio barn ac ymgynnull a’u mynediad at ffynonellau gwybodaeth rhydd ac annibynnol.
28. Ffocws strategaeth ddiweddaraf y DU ar Rwsia yw:
- Cynyddu’r gost a gwarafun unrhyw fantais i Rwsia o darfu ar sefydlogrwydd, diogelwch a ffyniant y DU a’r Ewro-Iwerydd. Bydd hyn yn cynnwys cryfhau NATO ymhellach, fel y nodwn uchod, a gwarafun unrhyw gyfle i Rwsia ecsbloetio bregusrwydd y DU. O ran yr olaf, yng nghyswllt Rwsia, bydd angen ffocws penodol ar ynni, sefydliadau democrataidd, sefydliadau etholiadol, twyll-wybodaeth, a systemau ariannol y DU.
- Herio dylanwad niweidiol Rwsia ar lwyfan y byd. Bydd hyn yn cynnwys amlygu twyll-wybodaeth gan Rwsia, gweithio gyda phartneriaid ar draws y byd i leihau dibyniaeth ar Rwsia, a lleihau ymddygiad rheolgar a gorfodol Rwsia a’i sgôp i ddefnyddio nwyddau fel ynni a bwyd fel arfau. Byddwn hefyd yn ymgysylltu mwy â Moldofa, ardal y Cawcasws Deheuol, Gwledydd Gorllewin y Balkan, Canol Asia a Mongolia i hyrwyddo eu ffyniant, diogelwch a’u gwydnwch i ymyrraeth gan Rwsia.
- Diraddio’r dulliau a ddefnyddir gan Rwsia i fygwth y DU. Bydd hyn yn cynnwys dulliau sy’n bygwth y DU a’i buddiannau sydd uwchlaw ac islaw’r trothwy rhyfela arfog, gwarafun mynediad i’w sector amddiffyn at dechnoleg a deunyddiau allweddol a lleihau gallu Rwsia i gyflawni gweithgareddau cudd-wybodaeth niweidiol.
29. Bydd y DU hefyd yn atgyfnerthu ac ehangu ei chyfraniad at atal ac amddiffyn y tu allan i ardal yr Ewro-Iwerydd a’r bygythiad dwys gan Rwsia. Mae gan NATO rôl bwysig i’w chwarae yn y darlun atal ehangach hwn: mae’r DU yn croesawu’r cytundeb y daeth cynghreiriaid NATO iddo yn Uwch-Gynhadledd Madrid 2022 bod rhai o uchelgeisiau a pholisïau dywededig Tsieina’n cyflwyno her i ddiogelwch yr Ewro-Iwerydd ac i drefn ryngwladol agored a sefydlog yn gyffredinol, yn ogystal â phwyslais newydd y Gynghrair ar wydnwch gwladol a chydwladol. Ar yr un pryd, bydd angen i’r DU weithio y tu allan i NATO drwy fformatau lled-ochrog newydd a phresennol, a thrwy ymrwymiad DCP21 i ymgysylltu parhaus: lluoedd mwy rhagweithiol gyda phresenoldeb mwy parhaus sy’n gallu deall a dylanwadu’n well ar y tirlun byd-eang er mantais i’r DU, gan gystadlu ac ymgyrchu yn erbyn eu gwrthwynebwyr o dan y trothwy rhyfela arfog lle bo angen.
30. Yn benodol, bydd y DU yn cyfrannu at:
- Ceisio atal y bygythiad gan Iran i ddiogelwch rhanbarthol a rhyngwladol. Gyda’r Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Almaen a phartneriaid rhanbarthol, byddwn yn parhau i geisio atal Iran rhag cael gafael ar arfau niwclear a rhwystro ei hymddygiad ansefydlogi, gan gynnwys ei bygythiadau yn erbyn y DU ac unigolion a leolir yn y DU.
- Cefnogi sefydlogrwydd yng Nghulfor Taiwan, lle y gwrthwynebwn unrhyw newid unochrog i’r sefyllfa bresennol, ac ym Moroedd Dwyrain a De Tsieina. Byddwn yn cefnogi pawb i weithio gyda’i gilydd i sicrhau nad yw tensiynau uwch yn arwain at sefyllfa waethygol.
- Cefnogi heddwch ar Benrhyn Corea gan nodi pryderon cynyddol ein partneriaid rhanbarthol am y risgiau i ddiogelwch rhanbarthol a rhyngwladol. Mae’r DU yn pwyso ar y DPRK i ymatal a gweithio tuag at heddwch ac rydym yn gwbl glir bod angen datgymalu ei rhaglenni niwclear ac arfau.
Sefydlu fframweithiau i reoli cystadlu systemig
31. Law yn llaw ag atal ac amddiffyn cryfach, mae rheoli cystadlu systemig yn hanfodol i gynnal sefydlogrwydd strategol. Mae dealltwriaeth glir o galcwlws strategol eraill – a gallu egluro ein un ninnau hefyd – yn allweddol i osgoi camgymeryd sefyllfa. Nod y DU yw sefydlu deialog strategol reolaidd er mwyn cynyddu hyder a thryloywder o gwmpas dyheadau diogelwch, buddiannau hanfodol a syniadaethau milwrol. Yn ystod y Rhyfel Oer, roedd y dulliau hyn yn rhoi lefel uwch o hyder i bawb na fyddem yn camgymeryd sefyllfa a fyddai’n arwain at ryfel niwclear. Bydd y DU yn ceisio cynnal a sefydlu llinellau cyfathrebu gwleidyddol a milwrol fel bod gennym, ar adegau o densiynau uwch, ffyrdd effeithiol a pharod i droi atynt er mwyn tawelu sefyllfa neu reoli sefyllfa waethygol. Bydd hon yn ymdrech hirdymor.
32. Mae sianeli hirsefydlog i gynnal deialog a thawelu tensiynau â Rwsia’n brin ac o dan straen sylweddol ar hyn o bryd ond arhoswn yn barod i’w hadfywio pan fo’r amser yn iawn. Mae IR2023 hefyd yn cyfleu’n glir yr egwyddorion fydd yn ategu dull perthynas ddwyochrog y DU â Tsieina, sy’n pwysleisio pa mor bwysig yw deialog a diplomyddiaeth. Yn y pen draw, mae’r DU yn ceisio ailsefydlu perthynas sefydlog, adeiladol ac agored fydd yn creu amodau gwell ar gyfer cydweithredu ac ategu’r math o ddeialog strategol sy’n angenrheidiol i atal camddealltwriaeth a chamgymeryd.
33. Yn fwy cyffredinol, bydd y DU yn cefnogi agenda newydd ar reoli arfau sy’n aml-faes, aml-weithredol ac yn dod ag ystod ehangach o actorion at ei gilydd. Byddwn yn cryfhau elfennau o’r bensaernïaeth bresennol sy’n parhau i fod mor bwysig – fel y Confensiwn Arfau Cemegol, y Confensiwn Arfau Biolegol a Gwenwynig, a’r Cytuniad ar Atal Twf Arfau Niwclear (NPT). Mae’r NPT wedi bod yn o gonglfeini diogelwch niwclear a ffyniant niwclear sifil ers 52 mlynedd bellach ac mae’r DU yn parhau i fod yn ymrwymedig i’w weithredu’n llawn.
34. Byddwn yn ceisio adeiladu ar y bensaernïaeth bresennol – drwy gefnogi diweddaru’r cytundebau presennol a rheoleiddio dulliau penodol lle bo’n briodol – ac yn chwilio am bob cyfle i greu cytundebau newydd lle bo’n ddefnyddiol a realistig gwneud hynny. Byddwn felly’n ehangu ein meddwl am wledydd yn unig i arbenigwyr diwydiant, cwmnïau a thechnolegwyr, fydd i gyd yn chwarae rôl allweddol mewn deall y risgiau a’r cyfleoedd a gyflwynir gan dechnoleg defnydd-deuol a thechnolegau eraill, ac mewn gosod y safonau ar gyfer eu llywodraethu.
35. Wrth hyrwyddo rheoli arfau, bydd gennym ffocws ymarferol ar sefydlu a rheoleiddio ymddygiad. Mae’r DU wedi arwain ar waith yn y Cenhedloedd Unedig i wneud hyn gyda seiber a’r gofod, ac yng nghyd-destun rhyfela hybrid a thrwy dechnoleg, byddwn nawr yn ceisio sefydlu normau ymddygiad newydd mewn ystod ehangach o feysydd, yn unol â philer un. Nid yw hyn yn eithrio’r posibilrwydd o gytundebau ffurfiol newydd i reoleiddio dulliau ond sydd, yn hytrach, yn ategu ein dulliau presennol.
‘O2’ gan gwmni peirianneg Orbital Marine Power yn yr Alban yw’r tyrbin llanw mwyaf pwerus a datblygedig yn y byd a ddechreuodd gynhyrchu pŵer yn Orkney yn 2021. Gall gynhyrchu digon o drydan i bweru 2,000 o gartrefi am flwyddyn. Credyd: Orbital Marine Power
Piler 3: Mynd i’r afael â bregusrwydd drwy wydnwch
1. Mae dull agored y DU – o fasnachu, buddsoddi a chyfnewid pobl, syniadau a diwylliannau – yn ganolog i’n ffyniant hirdymor. Mae ein rhyng-gysylltedd byd-eang yn gryfder ac yn rhan greiddiol o’n bywyd cenedlaethol. Adlewyrchir hyn hefyd yn ein hymrwymiad i ryddid barn a hawliau dynol cyffredinol sy’n ategu ein democratiaeth.
2. Fodd bynnag, dangosodd Covid-19 a’r ymosodiad ar Wcráin – mewn gwahanol ffyrdd – yr aflonyddwch difrifol y gall argyfyngau sy’n dechrau y tu allan i’n ffiniau ei achosi i’r DU, gan effeithio ar les ac ansawdd bywyd ein pobl. Fel y disgrifiodd IR2021, rhaid i’r DU fod yn barod i ddelio â thueddiadau a digwyddiadau byd-eang fydd yn effeithio ar ein bywyd cenedlaethol, ond na allwn bob amser eu rheoli neu atal yn y gwraidd. Bydd y rhain yn amrywio o: heriau traws-wladol eithaf dealledig fel mudo torfol a newid hinsawdd; i broblemau newydd fel y duedd fyd-eang gynyddol i wledydd ‘hunan-warchod’ a lleoli asedau data a chadwyni cyflenwi allweddol yn eu gwledydd eu hunain. Wrth i’r amgylchedd diogelwch ddirywio, rhaid i ni hefyd ei gwneud yn anoddach i ‘actorion’ llywodraeth a di-lywodraeth dargedu ein pobl, cymdeithas, economi a sefydliadau.
3. Cyflwynodd IR2021 ymrwymiad i wella ein gwydnwch gartref a thramor, ochr yn ochr â chryfhau diogelwch ac amddiffyn. Mae pwysigrwydd hyn wedi’i atgyfnerthu ers hynny gan Gysyniad Strategol NATO, a gyflwynodd dargedau i wella gwydnwch gwladol a rhyngwladol ar draws y Gynghrair fel ategiad allweddol o’i dasgau craidd, gan gynnwys atal ac amddiffyn.
4. Roedd IR2021 a Fframwaith Gwydnwch Llywodraeth y DU 2022 yn diffinio gwydnwch fel ein gallu i ragweld, asesu, atal, lliniaru, ymateb i, ac adfer o risg – digwyddiadau neu fygythiadau a allai ddigwydd, fel peryglon naturiol neu ymosodiadau bwriadol. Roedd y Fframwaith Gwydnwch yn cyflwyno cynllun y Llywodraeth i gryfhau’r systemau a dulliau sy’n ategu ein gwydnwch, gyda mesurau’n canolbwyntio ar asesu risg, cyfrifoldebau ac atebolrwydd, partneriaeth, cymunedau, buddsoddi a sgiliau.
5. Byddwn nawr yn adeiladu ar y fframwaith hwn drwy ehangu ein dulliau gwydnwch a rhoi mwy o bwyslais ar fynd i’r afael â bregusrwydd strategol y DU – y ffactorau economaidd, cymdeithasol, technolegol, amgylcheddol a seilweithiol sylfaenol sy’n gwneud y DU yn agored i argyfwng neu ymosodiad. Bydd hyn yn ategu’r gweithredu a gyflwynir yn y Fframwaith Gwydnwch. Mewn cyfuniad â’r dull atal ac amddiffyn a gyflwynir ym mhiler dau, bydd hyn yn creu model gweithredu newydd ar gyfer diogelwch gwladol – gyda’r rhan fwyaf o ymdrechion y llywodraeth yn ymwneud â gweithredu gwarchodol a pharatoadol (‘diogelwch drwy wydnwch’) fel y gellir canolbwyntio’r ochr weithredol ar ymyriadau hirdymor systemig fel aflonyddu ar rwydweithiau troseddol tramor tra-niweidiol.
6. Yn union fel y cymrodd flynyddoedd i greu’r system gwrth-derfysgaeth ar ôl 2001, bydd yn cymryd amser i ddatblygu a sefydlu model effeithiol ar gyfer diogelwch drwy wydnwch. Bydd hyn yn cael ei yrru gan yr is-bwyllgor NSC newydd fydd yn arwain y paratoadau traws-lywodraeth o atal, lliniaru neu ‘amsugno’ unrhyw risg a sioc, ac asesu beth sydd angen ei wneud i gryfhau bregusrwydd y DU. Fel yr oedd IR2021 yn ei nodi, mae llawer o agweddau ar wydnwch y DU ynghlwm wrth wydnwch cynghreiriaid a phartneriaid. Lle bo’n bosib, bydd y Llywodraeth yn parhau i roi sylw i’r pethau sydd wrth wraidd y risgiau hyn drwy ymdrechion ‘uwch’ â phartneriaid tramor, gan gynnwys cynorthwyo eraill i wella eu gwydnwch hwythau.
7. Yn y cyfamser, rydym eisoes yn deall y pethau sy’n gwneud y DU yn fregus yn bur dda, gan gynnwys rhai a ddaeth yn fwy i’r amlwg yn dilyn yr ymosodiad ar Wcráin. Mae’r piler hwn yn cyflwyno gweithredu ar wydnwch mewn pum maes allweddol: ynni, hinsawdd, amgylchedd ac iechyd; yr economi; ein democratiaeth a chymdeithas; seiber-ddiogelwch a seiber-wydnwch; a ffiniau’r DU.
8. Mae gweithredu o dan y piler hwn yn cyd-fynd â’r gwaith o greu mantais strategol o dan biler pedwar. Mae Teyrnas Unedig wydn yn rhag-amod o ffyniant ein cryfderau gwladol, sydd yn ei dro’n cyfrannu at gryfhau gwydnwch ymhellach. Yn enwedig, bydd ecosystem S&T ffyniannus yn cynnig atebion arloesol i faterion gwydnwch gartref a thramor.
Asesu risgiau a bregusrwydd
Ers dechrau degawd 2000, mae’r Llywodraeth wedi asesu’r risgiau i’r DU drwy’r Asesiad Risg Diogelwch Gwladol (NSRA) mewnol. Mewn ymateb i’r alwad yn IR2021 i ymarfer dull mwy deinamig ac addasol, mae’r NSRA wedi newid o fod yn broses statig pob dwy flynedd i fod yn un ailadroddus a pharhaus, gan adolygu risg yn fwy parhaus. Bwriedir cyhoeddi Cofrestr Risg Genedlaethol ddiwygiedig ar sail y NSRA erbyn canol 2023, ynghyd â deunydd cyfathrebu i gynorthwyo parodrwydd diwydiant a chyhoeddus.
Yn dilyn adolygiad ffurfiol gan yr Academi Beirianneg Frenhinol a mewnbwn gan randdeiliaid ar draws llywodraeth, diwydiant ac academia, mae’r NSRA wedi mabwysiadu methodoleg newydd. Mae hyn yn cynnwys amserlen hirach, asesu amryw o wahanol senarios, defnyddio ystod ehangach o ddata a gwybodaeth berthnasol ynghyd â her allanol.
Un newid allweddol i’r fethodoleg yw gwahanu risgiau taer a rhai mwy cronig. Mae’r NSRA bellach yn canolbwyntio ar risgiau taer: fel arfer digwyddiadau unigol ‘cyfnod byr’ fel llifogydd trwm. Mae’r Llywodraeth yn sefydlu proses newydd o adnabod ac asesu risgiau cronig, sef yr heriau mwy parhaus hynny sy’n erydu elfennau o’n heconomi, cymdeithas, ffordd o fyw a / neu ddiogelwch gwladol yn raddol, fel twyll-wybodaeth.
Ar ôl gwella sut y mae’r DU yn asesu risg, byddwn nawr yn cyflwyno asesiad atodol o fregusrwydd y DU. Yn gyntaf, byddwn yn cyflawni ymarfer traws-lywodraeth i adnabod a deall bregusrwydd presennol y DU ac yn y dyfodol, gydag argymhellion ar gyfer gweithredu. Bydd hyn yn cynorthwyo’r NSC a’i is-bwyllgor gwydnwch i gyflwyno’r dull a osodir allan yn y piler hwn, ac i benderfynu ar y cydbwysedd buddsoddi ar draws gwaith i fynd i’r afael â risgiau penodol, a gwaith i leihau bregusrwydd sylfaenol.
Mynd i’r afael â bregusrwydd blaenoriaeth
9. Y flaenoriaeth gyntaf wrth fynd i’r afael â bregusrwydd y DU yw sicrwydd ynni. Byddwn yn sicrhau bod ein cyflenwad ynni’n llai agored i gael ei gam-drin gan actorion gelynol a marchnadoedd byd-eang ansefydlog. Bydd angen dull deublyg o wneud hyn: mwyhau ein ffynonellau cyflenwad yn y tymor byr a chyflymu’r broses o bontio at ynni glân a sero-net – y ffordd fwyaf effeithiol o roi sicrwydd ynni a chyrraedd ein hamcanion hinsawdd. Mae Strategaeth Sicrwydd Ynni Prydain (BESS) 2022 yn disgrifio llwybr hirdymor at ynni glân a fforddiadwy drwy fuddsoddi mwy mewn gwynt ar y môr, hydrogen carbon isel, piblinell glir o brosiectau ynni niwclear newydd, ac uwch-dechnolegau newydd. Bydd sefydlu’r Adran Sicrwydd Ynni a Sero-Net yn symud y gwaith hwn yn ei flaen a bydd y Cynllun Sicrwydd Ynni a’r Cynllun Twf Sero-Net yn rhoi mwy o fanylion am y gwaith y bydd y DU yn ei wneud i roi sicrwydd ynni’n unol â’n hymrwymiadau i ddatgarboneiddio cost isel.
10. Yn y tymor byr, rydym eisoes wedi lleihau defnydd y DU o lo, olew a nwy o Rwsia. Byddwn yn parhau i arallgyfeirio ein cyflenwadau a buddsoddi mewn cadwyni cyflenwi sicr gyda’n partneriaid, gan sicrhau nad ydym yn canfod ein hunain gyda chyfres newydd o ddibyniaethau strategol cyfyngus wrth bontio at ynni glân. Yn Ewrop, rydym yn adnewyddu ein cyfraniad i Grŵp Cydweithrediad Ynni Môr y Gogledd a byddwn yn cydweithredu’n agosach â Ffrainc ar ryng-gysylltedd trydan ac ynni niwclear. Rydym hefyd yn gweithio drwy’r G7 i sefydlogi’r marchnadoedd ynni ac fel bo’r byd yn dibynnu llai ar allforion ynni o Rwsia, gan gynyddu cydweithrediad ar arbed ynni, niwclear ac ynni adnewyddadwy â’r Unol Daleithiau drwy ein deialog ynni strategol, Partneriaeth Sicrwydd a Fforddiadwyedd Ynni rhwng Y DU / Yr UD. Rydym hefyd yn creu a diweddaru ein partneriaethau ynni â gwledydd y Gwlff - yr UAE, Qatar a Saudi Arabia’n enwedig - i gydweithredu ar brosiectau ynni adnewyddadwy a dal a storio carbon.
11. Byddwn hefyd yn parhau i gryfhau gwydnwch y DU yn y gwahanol risgiau rhyng-gysylltiedig yn ymwneud â newid hinsawdd a niwed amgylcheddol. Mae hyn wedi’i gysylltu’n bendant i’r agenda ar newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a datblygu cynaliadwy o dan biler un, oherwydd mae angen mwy o wydnwch byd-eang i gryfhau gwydnwch y DU i’r risgiau hyn. Bydd y Llywodraeth hefyd yn parhau i ddarparu ymyriadau yn y DU, gan gynnwys drwy’r Drydedd Raglen Addasu Genedlaethol, fydd yn diogelu seilwaith, cartrefi ac iechyd, yr amgylchedd naturiol, a busnesau, oddi wrth effeithiau newid hinsawdd. Mae Strategaeth Fwyd 2022 yn disgrifio sut fydd y DU yn gweithio tuag at gynhyrchu bwyd yn fwy cynaliadwy i ateb risgiau diogelwch bwyd a dŵr; bwriadwn adeiladu ar hyn drwy asesu unrhyw fregusrwydd yn ein system fwyd a’n cadwyni cyflenwi.
12. Mae dull Un Iechyd y DU yn cydnabod y cysylltiad agos rhwng iechyd yr amgylchedd, pobl ac anifeiliaid. Fel rhan o’n gwaith ar iechyd byd-eang, o dan biler un, arhoswn yn gwbl ymrwymedig i gryfhau gwydnwch iechyd gartref a thramor. Mae’r Ganolfan Paratoadau Pandemig newydd a sefydlwyd yn Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU’n cydweithredu â’r National Center for Epidemic Forecasting and Outbreak Analytics yn yr Unol Daleithiau i greu rhwydwaith byd-eang rhyng-gysylltiol i rannu gwybodaeth a thystiolaeth, fel y gallwn ganfod ac ymateb yn well i risgiau a bygythiadau newydd. Bydd y Strategaeth Diogelwch Biolegol yn cyflwyno gweledigaeth newydd i ddiogelu’r DU a’n buddiannau rhag risgiau biolegol sylweddol, ym mha bynnag ffurf a phwy neu beth bynnag y byddant yn effeithio arnynt. Mae’n darparu’r fframwaith strategol cyffredinol ar gyfer lleihau risgiau biolegol – p’un ai’n naturiol, damweiniol neu fwriadol – ac yn disgrifio ein cenhadaeth i gryfhau gwydnwch y DU, dangos ein rôl fyd-eang flaenllaw ac achub ar bob cyfle i’r DU gael ffynnu.
13. Ein hail faes blaenoriaeth yw cryfhau diogelwch economaidd y DU. Y DU oedd yr ail wlad fwyaf deniadol yn y byd ar gyfer mewnfuddsoddiad yn 2021. Byddwn yn aros yn economi agored a blaengar sy’n croesawu buddsoddiad tramor diogel i gynyddu twf ar draws y DU. Ond rhaid i ni hefyd gryfhau ein gwydnwch i weithredoedd gelynol a siociau byd-eang. Mae cael hyn yn iawn yn hanfodol gan ein helpu i greu economi fwy ffyniannus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
14. Ers IR2021, rydym wedi cymryd camau pendant i warchod diogelwch economaidd y DU. Yn 2022, gwnaed 14 Gorchymyn Terfynol o dan y Ddeddf Diogelwch Gwladol a Buddsoddi i flocio, gwrthdroi neu osod amodau ar gaffaeliadau a gyflwynai risg i ddiogelwch gwladol, gan lansio Strategaeth Mwynau Allweddol gyntaf y DU. Yn ogystal byddwn:
- Yn ehangu ein dulliau o fynd i’r afael â bygythiadau i ddiogelwch a ffyniant byd-eang. Yn benodol, byddwn yn lansio Menter Ataliaeth Economaidd (EDI) newydd i gryfhau ein dulliau diplomyddol ac economaidd o ymateb i, ac atal, gweithredoedd gelynol. Gyda hyd at £50 miliwn o gyllid dros ddwy flynedd, bydd y fenter yn gwella sut y gweithredwn a gorfodwn sancsiynau. Bydd hyn yn cryfhau effaith ein sancsiynau masnach, cludiant ac ariannol gan gynnwys drwy wasgu ar rai sy’n osgoi sancsiynau. Bydd hefyd yn paratoi’r Llywodraeth am senarios i ddod pryd y bydd angen i ni ymateb i weithredoedd gelynol. Byddwn yn cyflogi mwy o ddadansoddwyr gyda chliriad diogelwch i sicrhau bod mesurau yn y dyfodol yn fwy manwl-gywir ac yn cael mwy o effaith, gan leihau ergydion i economi’r DU. Byddwn hefyd yn trafod diweddaru ein rheolaeth ar allforion i fynd i’r afael â’r broblem o drosglwyddo technoleg newydd sensitif, gan weithio â’n partneriaid rhyngwladol i wella mesurau rheoli aml-ochrog.
- Yn gweithio’n rhagweithiol i gefnogi’r dulliau, cadwyni cyflenwi a’r technolegau sydd o bwysigrwydd strategol i’r DU a’r byd ehangach. Bydd Strategaeth Lled-ddargludyddion y DU yn disgrifio cynlluniau i dyfu ein sector lled-ddargludyddion drwy wella seilwaith a sgiliau a chanolbwyntio ar ein cryfderau, gan gynnwys dylunio, cynhyrchu eiddo deallusol ac R&D i led-ddargludyddion newydd. Byddwn hefyd yn gweithio â’n partneriaid rhyngwladol i arallgyfeirio’r ochr gyflenwi a gwneud y farchnad lled-ddargludyddion fyd-eang yn fwy gwydn i sioc. Byddwn yn cyhoeddi Strategaeth Cadwyni Cyflenwi a Mewnforion i gefnogi mesurau penodol gan lywodraeth a busnesau i wneud sectorau allweddol yn fwy gwydn. Byddwn hefyd yn sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gwydnwch Mwynau Allweddol ar gyfer diwydiant yn y DU, i edrych ar fregusrwydd a gwydnwch ar draws sectorau.
- Yn egluro ein dull i fusnesau i sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn lle gwych i fuddsoddi ynddi. Bydd yr Awdurdod Amddiffyn Diogelwch Gwladol (NPSA) yn disodli’r Ganolfan Diogelu Seilwaith Gwladol i roi cyngor arbenigol ar sail cudd-wybodaeth i fusnesau a sefydliadau yn y sectorau mwy sensitif o’r economi, gan gynnwys seilwaith allweddol, technoleg newydd ac academia. Bydd gan yr NPSA darged o gyrraedd deg gwaith yn fwy o gwsmeriaid erbyn 2025, drwy wella ei chynnig digidol ac ymgyrchoedd cyhoeddus i gefnogi busnesau a sefydliadau i wneud penderfyniadau gwybodus. Rydym hefyd yn sefydlu Fforwm Diogelwch Economaidd Sector Preifat-Cyhoeddus er mwyn cyfathrebu polisïau diogelwch economaidd y DU’n well a datblygu strategaethau a mesurau ar-y-cyd â busnesau.
- Yn gweithio’n agosach fyth â’n cynghreiriaid a’n partneriaid i amddiffyn rheolau byd-eang, gwella gwydnwch a chefnogi gwledydd incwm isel a chanolig. Eleni, byddwn yn cydweithredu’n agosach â’r G7 ar wydnwch cadwyni cyflenwi a bygythiadau byd-eang, gan gynnwys gorfodaeth economaidd. Byddwn hefyd yn cryfhau ein cysylltiadau dwyochrog. Rydym newydd lansio Deialog Cadwyni Cyflenwi Mwynau Allweddol newydd rhwng y DU a Chanada i greu cadwyni cyflenwi mwynau allweddol diogel ac integredig.
Daeth y Ddeddf Diogelwch Gwladol a Buddsoddi i rym yn Ionawr 2022
Yn 2022, o dan bwerau’r NSIA, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol:
- Adolygu tua 800 o drafodion caffael gan gynnwys caffaeliadau’n ymwneud ag uno neu gaffael endidau, trosglwyddo eiddo deallusol, a phrynu asedau;
- ‘Galw mewn’ nifer o gaffaeliadau ar gyfer cyflawni’r lefel uchaf o ddiwydrwydd dyladwy a chraffu arnynt gan ystod eang o adrannau’r llywodraeth, gan leihau’r baich ar fusnesau; a
- Gwarchod diogelwch gwladol y DU drwy wneud 14 Gorchymyn Terfynol, yn cynnwys blocio neu wrthdroi 5 caffaeliad yn llwyr. Roedd y Gorchmynion Terfynol yn ymwneud â chaffaeliadau mewn meysydd fel deunyddiau uwch, technoleg gofod a lloeren, cyfathrebu ac ynni.
Tua 800 o drafodion
14 o drafodion wedi eu heffeithio*
a 5 o’r rhain wedi eu blocio neu wrthdroi’n llwyr*
*Gallai’r ffigurau gynyddu oherwydd nid yw’r Ysgrifennydd Gwladol wedi gwneud penderfyniad terfynol ar rai trafodion a alwyd i mewn yn 2022 eto
15. Ar yr un pryd, byddwn yn gwneud mwy i atal ecsbloetio systemau ariannol a dulliau economaidd agored y DU at ddibenion troseddu a llygredd domestig a rhyngwladol. Gan adeiladu ar y Ddeddf Troseddu Economaidd (Tryloywder a Gorfodaeth) a basiwyd yn ddiweddar, bydd y Mesur Troseddu Economaidd a Thryloywder Corfforaethol arfaethedig yn mynd i’r afael â thwyll a gwyngalchu arian gan ei gwneud yn anoddach i droseddwyr cyfundrefnol, cleptocratiaid a therfysgwyr ddefnyddio endidau dichellgar i gam-drin system ariannol y DU. Byddwn yn cyhoeddi’r ail Gynllun Troseddu Economaidd (ECP2) ym mis Mawrth gan egluro ein dull system-gyfan o fynd i’r afael â throseddu economaidd, wedi’i ategu gan fuddsoddiad sylweddol o £400m rhwng blwyddyn ariannol 2022/23 a 2024/25. O dan y cynllun, bydd mesurau pellach drwy’r Strategaeth Gwrthlygredd newydd yn cau’r drws ar Lundain fel lle i bobl lygredig gael gwyngalchu arian a gwneud enw iddynt eu hunain, a chryfhau ein gorfodaeth o’r gyfraith - gan gynnwys drwy Gell Trechu Cleptocratiaeth yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol (NCA) - i ganfod, ymchwilio i, ac erlyn llygredd yn ddomestig a rhyngwladol. Mae’r Llywodraeth hefyd yn gweithio gyda diwydiant ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith i gymryd camau o dan y Strategaeth Dwyll newydd i sicrhau y gall pobl a busnesau adnabod ac osgoi twyll, ac i gynyddu nifer yr erlyniadau.
16. Un maes bregusrwydd a ddaeth yn fwy i’r amlwg ers IR2021 yw ein gwydnwch democrataidd a chymdeithasol ehangach. Mae’r Tasglu Amddiffyn Democratiaeth yn rôl newydd a pharhaus gan y llywodraeth, gyda ffocws penodol ar ymyrryd tramor. Ei bwrpas yw gwneud seilwaith a phrosesau etholiadol yn ddiogel a gwydn, sicrhau bod swyddogion etholedig ar bob lefel wedi eu diogelu rhag bygythiadau corfforol, seiber ac eraill, ac atal ymdrechion twyll-wybodaeth sy’n ceisio tarfu ar ein sgwrs genedlaethol a sgiwio ein prosesau democrataidd. Fel rhan o’r gwaith hwn, bydd yn cyfrannu at bontio bylchau rhwng y sefydliad diogelwch gwladol a phartneriaid di-draddodiadol fel cynghorau lleol, heddluoedd a chwmnïau technoleg byd-eang. Bydd y Mesur Diogelwch Gwladol hefyd yn creu amgylchedd gweithredol anoddach i wledydd sy’n ceisio tanseilio buddiannau’r DU, ein system wleidyddol a’n sefydliadau. Bydd y Strategaeth Gwrthlygredd arfaethedig yn disgrifio ymdrechion tymor canolig i gryfhau undod sefydliadol y DU gan gynnwys gwella gallu’r llywodraeth ganolog i asesu gwydnwch ein sefydliadau democrataidd i lygredd a dylanwad.
17. Yn ehangach, mae’r DU yn cryfhau ei dull deddfwriaethol o ddelio â thwyll-wybodaeth drwy’r Mesur Diogelwch Ar-lein i sicrhau y bydd angen i gwmnïau gyda dyletswyddau diogelwch weithredu yn erbyn twyll-wybodaeth a gwybodaeth anghywir, gan gynnwys y mathau a noddir gan lywodraeth. Mae Strategaeth Llythrennedd Cyfryngau Ar-lein 2021 yn disgrifio sut y byddwn yn cynorthwyo ein pobl i reoli eu bywydau ar-lein yn ddiogel, a bydd Uned Atal Twyll-wybodaeth DSIT yn parhau i weithio â llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a’n cynghreiriaid i wella ein dealltwriaeth o’r gwahanol dechnegau a ddefnyddir i ledaenu gwybodaeth faleisus a sut y gallwn eu hatal, gan gynnwys drwy newid dosbarthiad cudd-wybodaeth.
18. Rydym hefyd yn ymrwymedig i ddiogelu ein sector addysg. Mae’r Mesur Addysg Uwch a’r Mesur Diogelwch Gwladol yn cynnwys darpariaethau i sicrhau bod gan brifysgolion yr adnoddau angenrheidiol i ddelio ag ymyrryd a bygythiadau i ryddid academaidd. Rydym hefyd yn lansio adolygiad newydd a chynhwysfawr o ddeddfwriaeth a darpariaethau eraill a ddyluniwyd i ddiogelu ein sector academaidd, er mwyn gweld beth yn fwy y gallwn neu y dylem fod yn ei wneud.
19. Bydd y DU hefyd yn cryfhau ei diogelwch gwarchodol a cheisio mynd i’r afael â bregusrwydd sy’n gwneud ein pobl a seilwaith yn agored i risgiau corfforol a diogelwch. Yn ogystal â defnyddio ein dulliau gwrth-derfysgaeth a diogelwch eraill yn ehangach i ddifetha ac ymateb i fygythiadau (o dan biler dau), bydd yr NPSA fel y disgrifiwn uchod yn derbyn ac ehangu ar y rôl a gyflawnir ar hyn o bryd gan y Ganolfan Diogelu Seilwaith Gwladol, y bydd yn ei disodli. Byddwn hefyd ym mis Mawrth 2023 yn cyhoeddi mesur drafft gan roi manylion y Ddyletswydd Diogelu newydd (Cyfraith Martyn) fel bo’n gyfreithiol ofynnol i berchnogion a gweithredwyr mannau ac adeiladau cyhoeddus gymryd mesurau i ddiogelu’r cyhoedd rhag ymosodiadau terfysgaeth.
20. Fel rhan o agenda seiber-bŵer gyfrifol a democrataidd, ein pedwerydd maes blaenoriaeth yw seiber-ddiogelwch a seiber-wydnwch busnesau, pobl, seilwaith gwladol allweddol a gwasanaethau cyhoeddus y DU. Mae Strategaeth Seiber Genedlaethol 2022 yn angori hyn mewn tair ymdrech: deall natur y risg; caffael systemau i atal a gwrthsefyll ymosodiadau seiber; a lleihau effaith ymosodiadau. Cefnogir hyn gan y Bwrdd Cynghori Seiber Cenedlaethol newydd sy’n cynnwys arweinwyr o academia, diwydiant a’r trydydd sector, fydd yn gweithio i gynyddu’r sylfaen sgiliau mewn seiber-ddiogelwch, adnabod a lliniaru yn erbyn bregusrwydd seiber, a gwarchod cadwyni cyflenwi digidol. Byddwn hefyd yn ystyried dulliau newydd o atal actorion gelynol rhag derbyn a cham-ddefnyddio data swmpus i niweidio buddiannau’r DU neu ennill mantais strategol, gan gydbwyso hyn yn erbyn yr angen i dderbyn data i gynorthwyo ein hamcanion S&T (o dan biler pedwar).
21. Dangosodd yr ymosodiad meddalwedd wystlo yn erbyn y GIG yn Awst 2022 ba mor daer sydd angen cryfhau seiber-wydnwch y sector cyhoeddus. Mae Strategaeth Seiber-Ddiogelwch 2022 y Llywodraeth yn disgrifio sut y byddwn yn sicrhau bod prosesau a systemau allweddol y llywodraeth wedi eu ‘caledu’ yn sylweddol rhag seiber-ymosodiadau erbyn 2025, a bod y sector cyhoeddus ehangach yn wydn i fregusrwydd a dulliau ymosod hysbys erbyn 2030. Byddwn hefyd yn cryfhau Rheoliadau Rhwydweithiau a Systemau Gwybodaeth 2018 drwy fesurau cyfreithiol o gryfhau seiber-ddiogelwch y rhwydweithiau a systemau gwybodaeth sy’n allweddol i ddarparu gwasanaethau fel trafnidiaeth, dŵr, ynni ac iechyd.
22. O gofio natur gynhenid fyd-eang y byd digidol, mae partneriaethau rhyngwladol yn hanfodol i seiber-wydnwch. Bydd yr NCA a’r Ganolfan Seiber-Ddiogelwch Genedlaethol yn parhau i weithio’n agos â phartneriaid rhyngwladol i dorri’r ecosystem seiber-droseddu ryngwladol, gan gynnwys ymdrechion meddalwedd wystlo. Yn ehangach, erbyn diwedd yr adolygiad o wariant presennol, byddwn wedi ymrwymo £100 miliwn o fuddsoddiad ers 2021 mewn cryfhau seiber-gapasiti gwledydd ar draws y byd, gan gynnwys ein Rhaglen Seiber Wcráin sy’n cynorthwyo seiber-ddiogelwch llywodraeth Wcráin a’i seilwaith gwladol allweddol.
23. Rydym yn ymrwymo ymdrechion hanfodol i gryfhau ffiniau’r DU fel ein bod yn llai agored i fygythiadau oddi wrth derfysgwyr, troseddwyr ac actorion llywodraeth ac i atal nwyddau anghyfreithlon rhag cyrraedd y DU, atal mudo anghyfreithlon, a diogelu bioamrywiaeth y DU. Mae’r Llywodraeth yn parhau i weithredu Strategaeth Ffiniau 2025 a Chynllun Cyffuriau 10 Mlynedd 2022; bydd elfennau o’r Strategaeth Gwrth-Lygredd a’r Strategaeth SOC arfaethedig hefyd yn cefnogi’r ymdrech hon.
24. Ar hyn o bryd mae ffiniau’r DU dan bwysau mawr oddi wrth fudo anghyfreithlon mewn cychod bychain. Yn 2022, daeth 45,000 o fudwyr i’r DU mewn cychod bychain, yn bennaf o Albania, Affganistan, Irac, Iran a Syria; yn dorcalonnus, ni lwyddodd lawer a geisiodd groesi i gyrraedd y DU yn ddiogel. Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi cyflwyno’r Mesur Mudo Anghyfreithlon i atal pobl rhag cyrraedd y DU drwy’r dulliau hyn a sicrhau bod y rhai sy’n cyrraedd yn anghyfreithlon yn cael eu cadw a’u hanfon yn ôl yn ddiymdroi. Byddwn hefyd yn mynd i’r afael a tharfu ar fasnachwyr mewn pobl a gangiau troseddol sy’n targedu ansicrwydd pobl a bygwth ffiniau’r DU. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda’n partneriaid rhyngwladol:
- Wrth ein ffin allanol â Ffrainc, cynyddu’r cydweithio ar batrolio’r ffin a rhannu gwybodaeth, er enghraifft drwy ehangu’r Gell Cudd-wybodaeth Ar-y-Cyd rhwng y DU a Ffrainc – ers ei sefydlu yng Ngorffennaf 2020, chwalwyd 59 o grwpiau troseddu cyfundrefnol a fu’n trefnu i gychod bychain groesi yn Ffrainc.
- Gyda phartneriaid yn Ewrop i fynd i’r afael â throseddwyr cyfundrefnol drwy ail-sefydlu Grŵp Calais: yn 2022, yn dilyn cydweithio rhwng yr NCA a Grŵp Calais, llwyddwyd i chwalu grŵp troseddu cyfundrefnol a fu’n gyfrifol am gyflenwi tua 10% o’r farchnad cychod bychain.
- Drwy bartneriaeth ehangach ag Albania. Ym mis Rhagfyr, llofnodwyd Cyd-Gytuniad rhwng y DU ac Albania i gydweithredu mwy ar faterion diogelwch, troseddu cyfundrefnol a mudo anghyfreithlon.
25. Yn ôl yn y DU, cyflwynodd Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 droseddau mwy llym ac mae Gwasanaeth Erlyn y Goron eisoes wedi cyhuddo dros 50 o beilotiaid cychod bychain, gan erlyn dros 35, ers Mehefin 2022. Mae’r Llywodraeth hefyd wedi sefydlu Canolfan Rheoli Cychod Bychain bwrpasol, amlasiantaethol ac integredig gyda 730 o staff ychwanegol, gan ddyblu’r cyllid ar gyfer ymdrechion yr NCA i fynd i’r afael â’r troseddu cyfundrefnol y tu ôl i ddefnyddio cychod bychain.
Mae tîm ym Mhrifysgol Sussex wedi torri tir newydd gyda chyfrifiaduron cwantwm sy’n ddigon mawr a phwerus i gynnig atebion i broblemau cymhleth o bwysigrwydd allweddol i gymdeithas, gan ddangos am y tro cyntaf - ac yn gynt a mwy cywir nag erioed o’r blaen - y gall darnau cwantwm (qubits) drosglwyddo’n uniongyrchol rhwng microsglodion cyfrifiaduron cwantwm. Credyd: Sussex Ion Quantum Technology Group
Piler 4: Creu mantais strategol
1. Mae’r DU yn bŵer byd-eang gydag ystod amrywiol unigryw o gryfderau gwladol. Rydym yn economi G7, y chweched fwyaf yn y byd o ran cynnyrch domestig gros (GDP), y seithfed allforwr mwyaf o nwyddau a gwasanaethau, un o’r gwledydd mwyaf blaenllaw o ran buddsoddi tramor ‘tuag allan’ (FDI) ac un o’r rhai mwyaf atyniadol ar gyfer FDI ‘i mewn’. Rydym yn enwog am ein harloesi a’n rhagoriaeth Ymchwil a Datblygu ac am ansawdd ein prifysgolion – mae 17 o’r rheiny ymhlith y 100 gorau yn y byd. Rydym yn aelod parhaol o’r UNSC, yn un o aelodau sefydlol NATO ac yn actor amddiffyn a diogelwch byd-eang pwysig sy’n gweithredu ar bob cyfandir ac ym mhob maes. Rydym yn un o’r pum rhoddwr ODA dwyochrog mwyaf yn y byd, a’n harbenigedd yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan ein partneriaid. Ac mae gennym gyrhaeddiad diwylliannol byd-eang drwy sefydliadau fel y BBC, y Cyngor Prydeinig a’r Premier League, ein diwydiannau creadigol a’n cysylltiadau pobl-i-bobl helaeth.
2. Mae’r cryfderau hyn nid yn unig yn sail i ffyniant a lles cenedlaethol y DU ond hefyd yn rhoi’r rhyddid i ni weithredu, dylanwadu a chyfrannu at yr amgylchedd rhyngwladol. Gan hynny, y pethau hyn yw sylfeini ein mantais strategol: bod y DU yn gallu cyflawni ein hamcanion o’i gymharu â’i chystadleuwyr.
3. Roedd IR2021 yn ystyried y cysyniad o fantais mewn dwy ffordd benodol. Yn gyntaf, roedd yn cydnabod pa mor ganolog yw S&T fel pŵer gwladol yn y degawdau i ddod, gan bwysleisio bod angen datblygu mantais gystadleuol y DU mewn S&T, gan gynnwys fel seiber-bŵer cyfrifol a democrataidd. Yn ail, roedd yn cydnabod y gall cynghreiriaid a phartneriaid ddwyn dylanwad ehangach er mwyn cyflawni eu hamcanion, gan gyflwyno ffocws newydd ar integreiddio ar lefel strategol yn ogystal â gweithredol er mwyn ymateb i’r duedd hon a sicrhau bod y DU yn aros yn gystadleuol.
4. Mae dealltwriaeth y DU o fantais strategol wedi esblygu ymhellach yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Am wahanol resymau, mae Affganistan ac Wcráin wedi atgyfnerthu pwysigrwydd integreiddio strategol yn ogystal â gweithredol. Yn anad dim, mae’r rhyfel yn Wcráin wedi tanlinellu pwysigrwydd: defnyddio nifer o feysydd lle y mae gennym fantais gystadleuol er mwyn cystadlu’n anghymesur, a hefyd ar yr un pryd, ar draws meysydd; dwyn dylanwad torfol mewn cyfuniad â chynghreiriaid a phartneriaid; a chyflymder ein haddasu ac arloesi. Bydd y ffactorau hyn yn debygol o fod yn bwysig mewn meysydd eraill wrth i’r DU gydbwyso a dylanwadu.
5. Ar yr un pryd, dangosodd ddatblygiadau ehangach – Tsieina’n ehangu ei phwerau milwrol, economaidd a thechnolegol yn sylweddol, pŵer byd-eang yn cael ei ailddosbarthu i ffwrdd o economïau G7, darnio a hunan-warchod cynyddol, a phwysau difrifol ar economi’r DU – ei bod yn dod yn bwysicach ac ar yr un pryd yn anoddach cynnal cryfderau’r DU. Mae S&T yn enghraifft glir: er gwaetha’r cynnydd a wnaethom ers IR2021, mae sefyllfa gymharol freintiedig y DU yn y fantol wrth i eraill hefyd geisio ennill mantais. Bydd angen i ni ymateb yn ddeinamig wrth i ddewisiadau ein cystadleuwyr ddylanwadu ar ein rhai ni.
Cryfderau’r DU
Cyfnewidfa Stoc Llundain yw’r farchnad ecwiti brysuraf yn Ewrop ac yn 2022 fe groesawodd fwy o gwmnïau rhyngwladol na’r un gyfnewidfa fawr arall drwy’r byd.
Gan y DU y mae’r bumed ystâd forol fwyaf yn y byd, diolch i’w Thiriogaethau Tramor ar draws pedwar allan o’r pum cefnfor yn y byd.
Y DU yw’r seithfed allforwr mwyaf o nwyddau a gwasanaethau.
Mae’r Cyngor Prydeinig yn gweithredu mewn dros 100 o wledydd gan gyrraedd 650 miliwn yn 2021-22.
Mae’r DU yn bedwerydd drwy’r byd yn y Mynegai Arallgyfeirio Economaidd.
Yn 2021 roedd y DU yn ail ond i’r Unol Daleithiau o ran gwariant cyfalaf ar fewnfuddsoddiad tramor (FDI) mewn gwyddorau bywyd.
Y DU yw’r allforwr mwyaf o lyfrau yn y byd.
Mae gan y DU yr ail GDP uchaf yn Ewrop a’r chweched uchaf yn y byd.
Cyfnewidfa Fwynau Llundain yw prif ganolfan y byd ar gyfer masnachu metelau diwydiannol. Mae’r rhan fwyaf o fusnes ‘dyfodol’ mewn metelau di-haearn yn digwydd ar lwyfannau’r LME.
Marchnad yswiriant Llundain yw’r farchnad risg masnachol ac arbenigol fyd-eang fwyaf yn y byd.
Mae’r DU wedi cynhyrchu dros 120,000 o raddedigion STEM newydd yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Mae’r DU yn bedwerydd yn y Mynegai Seiber-Bwerau byd-eang.
AI
Mae’r DU yn drydydd yn y Mynegai Parodrwydd AI byd-eang.
Mae’r DU yn gartref i 122 o ungyrn technoleg, a dim ond y tu ôl i’r UD a Tsieina o ran creu cwmnïau technoleg gwerth biliynau, a’r cyntaf yn Ewrop.
Y wlad fwyaf atyniadol, ar-y-cyd ag un wlad arall, i bobl ifanc yn y G20, yn ôl Arolwg Argraffiadau Byd-Eang 2021 y Cyngor Prydeinig.
Mae gan y DU bedair prifysgol yn y 10 gorau a’r ail fwyaf o unrhyw wlad yn y 100 gorau.
FDI
Y DU yw’r bumed gyrchfan fwyaf ar gyfer stociau FDI ‘i mewn’.
Mae’r DU wedi cynyddu nifer y personél MoD a anfonir dramor i dros 4,000, fel rhan o’n rhwydwaith amddiffyn rhyngwladol.
Roedd y DU yn drydydd drwy’r byd am gyllid dechrau busnes yn 2022.
Mae’r Premier League yn cael ei ddarlledu mewn 188 o wledydd.
Ein cyfraniad at nwyddau byd-eang
Y DU yw prif grëwr meddalwedd ffynhonnell agored yn Ewrop (gydag amcan-gyfraniad o dros £40 biliwn i GDP y DU).
Mae gan y DU 14 sedd ar gyrff llywodraethu asiantaethau arbenigol y Cenhedloedd Unedig (o’i gymharu ag 16 gan Tsieina, 12 gan yr UD, 15 gan Ffrainc a 13 gan yr Almaen).
Mae’r DU yn bedwerydd yn y Mynegai Arloesi Byd-Eang.
Mae gan y DU 18,926 o sefydliadau NGO yn gwario dros £17b ar wella bywydau pobl drwy’r byd.
Mae’r DU yn drydydd yn yr OECD o ran y gyfran o fyfyrwyr rhyngwladol a gofrestrodd mewn sefydliadau trydyddol.
£
Mae’r DU yn ail yn y G7 a’r OECD o ran gwariant ar amddiffyn, ar ôl gwario $68bn yn 2021.
Croesawodd y DU 152,200 o ffoaduriaid o Wcráin yn 2022 (y seithfed fwyaf yn y byd).
Y DU yw’r drydedd wlad bwysicaf ar gyfer buddsoddi gan Brif Swyddogion byd-eang yn 2023 – un lle’n uwch na’r llynedd a dim ond y tu ôl i’r UD a Tsieina.
Mae’r DU yn gyson wedi bod yr ail gyfrannwr mwyaf i NATO, ar ôl cyrraedd targed 2% NATO pob blwyddyn ers ei gyflwyno yn 2006.
Mae’r DU yn drydydd yn y G7 o ran gwariant ar ddatblygu, fel canran o GNI yn 2021.
Mae’r DU wedi addysgu cyfanswm o 894 o fyfyrwyr ar draws 70 o gyrsiau Rheoli Amddiffyn Strategol o 107 o wledydd, yn 2021 a 2022.
Y DU yw un o’r cyfranwyr mwyaf i Sefydliad Iechyd y Byd a’r darparwr mwyaf o gyfraniadau gwirfoddol craidd hyblyg.
6. Gan adeiladu ar y gwersi hyn, byddwn yn ehangu a chyfuno dull y Llywodraeth o greu mantais strategol gan ei drin fel cenhadaeth genedlaethol graidd ar draws ein holl feysydd polisi domestig, economaidd a rhyngwladol. Mae dwy ran i’r dull hwn. Yn gyntaf, byddwn yn gwneud mwy i feithrin cryfderau sylfaenol y DU gan gynnal ac ehangu ar ein dulliau S&T a seiber-bŵer a ddisgrifir yn IR2021. I wneud hyn, bydd angen integreiddio mwy ar bolisi domestig a rhyngwladol a dyfnhau ein cydweithrediad â diwydiant, cynghreiriaid a phartneriaid. Yn ail, byddwn yn diweddaru ein dulliau gwladweiniol gan barhau i esblygu ac integreiddio pwerau’r DU a ddefnyddiwn i droi ein cryfderau’n effaith yn y byd. I wneud hyn bydd angen gweithio a meddwl yn wahanol gan symud i ffwrdd o gysyniadau deuol o bŵer caled a meddal a thuag at ddulliau rhwydwaith sy’n cynnig eu hunain yn well i gymhlethdod cystadlu systemig.
7. Mae’r ymdrech hon yn cyd-fynd a’r camau a gymerwn i fynd i’r afael â bregusrwydd y DU o dan biler tri: mae manteision yn rhoi’r modd i ni gryfhau ein gwydnwch fel gwlad; ac yn ei dro, bydd Teyrnas Unedig fwy gwydn yn un lle y gall ein cryfderau gwladol ffynnu.
Meithrin cryfderau’r DU
8. Ein prif flaenoriaeth o dan y piler hwn o hyd yw creu mantais strategol drwy wyddoniaeth a thechnoleg (S&T). Byddwn yn parhau i ddatblygu a chynnal cryfderau’r DU. Fel rhan o hyn, byddwn yn ceisio deall ac ymateb yn well i fwriad a dulliau ein cynghreiriaid a’n gwrthwynebwyr, ac i’r aflonyddwch cymdeithasol ac economaidd – a risgiau diogelwch gwladol newydd – sy’n deillio o dueddiadau S&T byd-eang.
9. Ers IR2021, mae’r Llywodraeth wedi rhoi sylfeini strwythurol pwysig yn eu lle i gefnogi’r ymdrech hon. Mae’r Cyngor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Cenedlaethol (NSTC) newydd yn cael ei gadeirio gan y Prif Weinidog. Mae Fframwaith S&T newydd y DU yn cynnwys 10 o ymyriadau system trawsbynciol i greu’r ecosystem iawn i S&T gael ffynnu yn y DU, fydd yn ei dro’n sbardun allweddol i yrru twf economi’r DU yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys mesurau ar sgiliau a thalent, buddsoddi mewn R&D, cyllid sector preifat a chyhoeddus, rheoleiddio a safonau, caffael, cyfathrebu blaenoriaethau’r llywodraeth yn glir, a chydweithredu rhyngwladol. Mae’r fframwaith eisoes yn cael ei ddarparu drwy gyfres gychwynnol o brosiectau gwerth tua £500m mewn cyllid newydd a phresennol.
10. Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym wedi adnabod pum technoleg flaenoriaeth sy’n greiddiol i gyflawni amcanion y DU, gan gynnwys yr agenda seiber-bŵer: AI, lled-ddargludyddion, technolegau cwantwm, telathrebu’r dyfodol a bioleg beirianyddol. O dan y model ‘perchnogi, cydweithredu, mynediad’ a gyflwynwyd yn IR2021, byddwn yn sicrhau bod gan y DU lwybr clir at fynediad sicr i bob un, llais cryf mewn dylanwadu ar eu datblygiad a’u defnydd yn rhyngwladol, dull wedi’i reoli o ddelio â risgiau cadwyn gyflenwi, a chynllun i warchod ein mantais wrth i ni ei chreu. Rydym eisoes wedi cyhoeddi strategaethau ar AI a thelathrebu gan fwriadu cyhoeddi strategaethau ar gyfer lled-ddargludyddion a thechnolegau cwantwm yn 2023.
11. Gydag AI yn enwedig, dangosodd ddatblygiadau diweddar fel lansio ChatGPT a chyhoeddi Google Bard botensial pwerus technolegau sy’n seiliedig ar fodelau sylfaen, gan gynnwys modelau iaith mawr. I sicrhau bod y DU ar y blaen gyda’r dechnoleg hon, bwriadwn sefydlu tasglu newydd rhwng llywodraeth a diwydiant i ddod ag arbenigwyr at ei gilydd ac adrodd i’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Gwladol dros DSIT. Bydd gan y tasglu bwerau i ddatblygu hyfedredd sofranaidd y DU mewn modelau sylfaen, gan gynnwys modelau iaith mawr, a rhoi cyngor uniongyrchol i weinidogion. Un o flaenoriaethau cyntaf y tasglu fydd defnyddio ei arbenigedd a’i ddealltwriaeth fanwl o’r sector AI, cyflwyno cenhadaeth glir yn ymwneud â datblygu hyfedredd y DU mewn AI, a blaenoriaethu opsiynau, gweithredu a buddsoddi er mwyn cynorthwyo ein cymdeithas a’n heconomi i ffynnu.
12. Er mwyn creu neu ennill mantais yn y meysydd hyn, bydd hefyd angen i ni chwarae rôl flaenllaw mewn derbyn a seilwaith data, fydd yn allweddol os yw’r DU i fod yn gystadleuol wrth ddatblygu a defnyddio technolegau digidol fel AI, technolegau cwantwm a roboteg. Bydd y DU yn ceisio sbarduno buddsoddi mewn seilwaith rhannu data, chwalu rhwystrau i dderbyn a defnyddio data’n fyd-eang, annog rhyddhau setiau data’n gyhoeddus ac yn hybu rheolaeth unigolion o’u data personol.
13. Yn yr un modd, pan fydd y DU yn dewis deddfu ar dechnolegau newydd, byddwn yn taro’r cydbwysedd iawn rhwng gwarchod diogelwch a phreifatrwydd ein pobl a sicrhau bod busnesau’n gallu arloesi a chystadlu’n rhyngwladol. Mae’r dull hwn wedi goleuo deddfwriaeth arfaethedig fel y Mesur Marchnadoedd Digidol, Cystadlu a Defnyddwyr, y Mesur Gwybodaeth Ddigidol a’r Mesur Diogelwch Ar-lein. Mae hefyd yn goleuo ein cydweithrediad â’n cynghreiriaid a phartneriaid.
14. Ers IR2021, mae’r DU wedi dyfnhau ei phartneriaethau S&T ar draws y byd – gyda’r Unol Daleithiau, drwy AUKUS ac yn yr Indo-Basiffig yn gyffredinol, a thrwy gydweithredu mewn sefydliadau rhyngwladol fel y G7, G20, NATO a’r Undeb Telathrebu Rhyngwladol. Byddwn yn parhau i wneud S&T yn flaenoriaeth yn ein partneriaethau dwyochrog ehangach, er mwyn hybu datblygiad a thwf yn gyffredinol a’n gweledigaeth o gael trefn ddigidol a thechnoleg sydd o fudd i bawb. Rydym hefyd yn cyflwyno cenhadon technoleg a Chanolfan Dechnoleg Arbenigol fel rhan o British Investment Partnerships (BPI), sy’n rhoi mynediad at arbenigedd yn y DU i gynorthwyo twf economaidd cynaliadwy ar draws y byd. Bydd y Strategaeth Dechnoleg Ryngwladol sydd ar fin ei chyhoeddi’n egluro ein cyfranogiad rhyngwladol yn fwy manwl, gan gynnwys ar dechnolegau blaenoriaeth, sicrhau cadwyni cyflenwi allweddol, a chyfrannu at lunio safonau, rheolau a normau technoleg yn fyd-eang.
15. Bydd y cyfrifoldeb am gydgysylltu’r camau nesaf ar yr ymdrechion hyn i gyd yn awr yn trosglwyddo i’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) newydd, gan weithio â’r adrannau a’r asiantaethau perthnasol. Pwrpas craidd y DSIT fydd sicrhau bod y DU yn chwarae rhan flaenllaw mewn datblygiadau gwyddonol a thechnolegol byd-eang. Mae’n dod â rhannau perthnasol o’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol flaenorol, a’r Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon flaenorol, at ei gilydd, gan hefyd ymgorffori GO-Science a Swyddfa’r Strategaeth Wyddoniaeth a Thechnoleg.
Bydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol newydd sedd barhaol ar yr NSC gan ddirprwyo i’r Prif Weinidog yn NSTC.
16. Ar yr un pryd, bydd y Llywodraeth yn ceisio datblygu a chynnal y cryfderau ehangach sy’n caniatáu i’r DU gystadlu ar lwyfan y byd. Mae’r ffaith bod y DU yn gallu meithrin cysylltiadau cryf a chyfnewidiol â gwledydd o gwmpas y byd yn seiliedig ar y gwahanol feysydd y mae gennym gryfderau gwladol ac enw da am lwyddo ynddynt - yr economi ddigidol, addysg, gwasanaethau cyfreithiol ac ariannol, arbenigedd datblygu, y gwyddorau, diwylliant, chwaraeon a’r celfyddydau. Mae gan yr holl feysydd hyn botensial i roi’r dulliau a’r cyfleoedd y gallwn yna eu defnyddio i ennill mantais, a byddwn yn ystyried hyn wrth i ni wneud penderfyniadau polisi a gwariant perthnasol.
17. Yn anad dim, mae cryfder economaidd y DU yn gwbl ganolog i warchod a datblygu ein buddiannau gartref a thramor. Bydd y Llywodraeth yn maethu’r sectorau twf allweddol hyn lle y mae’r DU yn gystadleuol a fydd yn cyfrannu at ein dylanwad byd-eang yn fwy hirdymor, gan gynnwys technoleg ddigidol, gwyddorau bywyd, diwydiannau gwyrdd – fel technolegau glân, gwyddoniaeth, gweithgynhyrchu a chyllid – a hefyd yn y diwydiannau creadigol ac uwch-weithgynhyrchu. Byddwn yn hwyluso twf y diwydiannau hyn drwy fuddsoddi mewn sgiliau perthnasol a seilwaith economaidd, cefnogi cwmnïau arloesi ac ymchwil a thrwy greu’r amgylchedd iawn i fuddsoddi mewn busnesau. Bydd yr Adran Busnes a Masnach newydd yn dod â gweithgareddau busnes a masnach y Llywodraeth at ei gilydd i gefnogi buddsoddi, datgloi allforion ac agor marchnadoedd newydd i fusnesau ym Mhrydain.
18. Fel rhan bwysig o’r agenda hon, mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud y DU’n ganolfan ariannol sero-net gyntaf y byd - gan gefnogi ein sefydliadau ariannol a chwmnïau rhestredig i gyhoeddi cynlluniau o ansawdd ar bontio at sero-net. Mae adolygiad sero-net annibynnol y Gwir Anrh. Chris Skidmore AS yn asesu bod Strategaeth Sicrwydd Ynni a Strategaeth Sero-Net y DU yn darparu’r llwybr a’r fframwaith polisi iawn ar gyfer croesawu buddsoddiad gwyrdd. Disgwylir i bolisïau sero-net y DU ddenu hyd at £100 biliwn o fuddsoddiad preifat a chynnal hyd at 480,000 o swyddi ym Mhrydain erbyn 2030.
Bydd y gweithgarwch a yrrir gan y polisïau hyn hefyd yn cefnogi ein hamcanion rhyngwladol: er enghraifft, bydd ein partneriaethau buddsoddi â’r UAE, Saudi Arabia a Qatar ar ynni adnewyddadwy ac R&D ynni’n helpu i ddyfnhau’r cysylltiadau hyn a chefnogi sicrwydd ynni’r DU yn y dyfodol.
19. Bydd y Llywodraeth hefyd yn parhau i warchod a hyrwyddo’r pŵer meddal a diwylliannol sydd gan y DU yn rhyngwladol. Bydd y DU yn gwneud mwy i ddod â phŵer meddal i’w dull o weithredu ar bolisi tramor, drwy’r Gymanwlad a sefydliadau eraill. Bydd y Llywodraeth hefyd yn gweithio gyda’r BBC i gefnogi ei Gwasanaeth Byd fel ffynhonnell newyddion ddibynadwy drwy’r byd, gan sicrhau gwasanaeth effeithlon a chyfoes sy’n ateb anghenion ei gynulleidfaoedd a rhoi gwerth i dalwyr ffi’r drwydded a’r DU. Fel un o ganlyniadau IR2023, byddwn yn rhoi £20m yn fwy o gyllid i Wasanaeth Byd y BBC - £10m ym mhob un o’r ddwy flynedd ariannol nesaf, 2023/24 a 2024/25 – gan ddiogelu pob un o’r 42 o wasanaethau iaith tramor.
Diweddaru ein dulliau gwladweiniol ar gyfer cystadlu systemig
20. Wrth i’r amgylchedd rhyngwladol esblygu, rhaid i ddulliau gwladweiniol y DU hefyd addasu, gan ddefnyddio ein cryfderau gwladol i warchod a hyrwyddo ein buddiannau. Mae cymhlethdod ein hoes hynod gystadleuol ac aml-begynnol yn gofyn defnyddio ystod ehangach o ddulliau i gyflawni ein hamcanion: diweddaru ac addasu ein dulliau i’r cyd-destun newydd a gwella sut y defnyddiwn y dulliau hynny’n integredig, o fewn llywodraeth a gyda’n cynghreiriaid a phartneriaid.
21. Bydd y camau a gymerwn i gryfhau a diweddaru dulliau amddiffyn, diogelwch gwladol, datblygu, economaidd a gwybodaeth y DU – fel y disgrifiwyd yn gynharach yn y fframwaith strategol – yn elfennau pwysig o’r ymdrech hon. Yn ogystal byddwn yn:
- Adnewyddu ac ail-sgilio ein dulliau diplomyddol craidd gan sicrhau y gallwn ddeall a chwrdd â heriau oes o gystadlu systemig. Rhaid i ddiplomyddion y DU hyrwyddo buddiannau Prydain mewn amgylchedd llawer mwy enbyd nag ers degawdau, ac mae angen arbenigedd arnynt i gyd-fynd â’r realiti hwn. Dylai cymysgedd newydd o sgiliau yn y gweithlu polisi tramor ar draws llywodraeth adlewyrchu blaenoriaethau o bedwar piler y fframwaith hwn, gan gynnwys maes o law: arbenigedd newydd mewn materion strategol; yr arbenigeddau daearyddol diweddaraf; a mwy o ffocws ar atal drwy ddulliau niwclear a di-niwclear, technolegau newydd ac aflonyddol, diplomyddiaeth reoleiddio, a gwydnwch a diogelwch. Fel y nodwn uchod, byddwn yn dyblu’r cyllid i ddatblygu arbenigedd y llywodraeth ar Tsieina.
- Parhau i ddatblygu dulliau a phwerau angenrheidiol ein hasiantaethau cudd-wybodaeth, i gefnogi gweithgareddau cudd ac agored. Byddwn yn lleoli mwy o staff dramor i wella ein cydweithrediad â phartneriaid - nid dim ond yn y Pum Llygad - i ddeall ac ymateb i’r heriau a gyflwynir gan y newidiadau di-baid i’r amgylchedd technolegol a geo-wleidyddol. Rydym hefyd yn datblygu ein dulliau sganio’r gorwel ac yn buddsoddi mewn partneriaethau mwy agored â’r sector technoleg. Wrth ehangu presenoldeb ein hasiantaethau cudd-wybodaeth yng ngogledd-orllewin Lloegr - erbyn 2030 bydd traean o staff GCHQ wedi eu lleoli yno - defnyddiwn ecosystem arbennig o ragoriaeth gyhoeddus, breifat ac academaidd gan wneud defnydd llawn o dalentau ein gwlad.
- Sefydlu hỳb cudd-wybodaeth ffynhonnell-agored (OSINT) newydd i uwchraddio ac integreiddio’n well sut y mae’r Llywodraeth yn casglu a dadansoddi gwybodaeth gyhoeddus a masnachol. Byddwn yn buddsoddi mewn dulliau ar lefel pobl a thechnoleg, gan gynnwys AI a gwyddor data, i sicrhau bod ein penderfyniadau’n seiliedig ar y data mwyaf cywir ac eang posib. Yn rhannol, bydd yn adeiladu ar waith y Ganolfan Sefyllfa Genedlaethol newydd a fu’n defnyddio prosesau deall a dadansoddi data ar draws a’r tu allan i lywodraeth i gefnogi ein hymateb i ddigwyddiadau fel ymosodiad Rwsia ar Wcráin, gwres eithafol a gweithredu diwydiannol. Bydd y gwasanaeth digidol Cyfnewid Gwybodaeth a Data (INDEX) newydd yn cyflymu rhannu a dadansoddi data ymhellach. Byddwn hefyd yn harneisio partneriaethau newydd â’r sector preifat, cyrff polisi ac academia, gan ddefnyddio eu sgiliau, arbenigedd ac arloesi.
- Hyfforddi ein hymarferwyr diogelwch gwladol yn ehangach mewn dulliau gwladweiniol a sgiliau hanfodol eraill. Drwy’r Coleg Diogelwch Gwladol (CfNS) – ymrwymiad yn IR2021 – rydym yn lansio a darparu Cwricwlwm Diogelwch Gwladol cyntaf y DU, gan ddefnyddio arbenigedd y Senedd, busnesau, diwydiant, academia a’n cynghreiriaid. Byddwn yn ymrwymo £2m ym mhob un o’r ddwy flynedd ariannol nesaf i wreiddio’r CfNS ym mhensaernïaeth ein diogelwch gwladol.
Torch ar thema Wcráin yn 10 Downing Street ar 24 Chwefror 2023, i nodi blwyddyn ers i Rwsia ymosod ar Wcráin. © Hawlfraint y Goron 2023