Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 69: cyllid Islamaidd

Diweddarwyd 9 Medi 2019

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Daw’r sail ddiwinyddol ar gyfer cyllid Islamaidd yn rhannol o’r gwaharddiad traddodiadol o usuriaeth neu log, sy’n golygu efallai na fydd benthyg sy’n seiliedig ar log yn apelio at lawer o ddilynwyr Islam. Mae cynnyrch cyllid Islamaidd wedi’u strwythuro er mwyn osgoi talu llog. Datblygwyd y cynhyrchion ariannol hyn fel eu bod yn dod o dan fframwaith rheoleiddiol a chyfreithiol Cymru a Lloegr ac felly nid ydynt yn cyflwyno cysyniad newydd yng nghyd-destun Cofrestrfa Tir EF. Maent ar gael yn y DU i Fwslemiaid a phobl nad ydynt yn Fwslemiaid.

Y tri math o gontract yw:

Mae’r cyfarwyddyd hwn hefyd yn trafod ymddangosiad y bond Islamaidd neu’r farchnad sukuk.

1.1 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Os yw eich cais am gofrestriad cyntaf, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol fel rheol.

Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf. Gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

2. Morgais Ijara wa Iqtina

Prydles eitem gan ei pherchennog i gwsmer yw Ijara a phrydles eitem sydd fel rheol yn arwain at werthu’r eitem yn y pen draw i’r cwsmer ar ddiwedd cyfnod y brydles yw Ijara wa Iqtina. Yn achos prynu eiddo gan ddefnyddio Ijara wa Iqtina, bydd y banc yn prynu’r eiddo a ddewiswyd gan ei gwsmer am bris a gytunwyd ac yna’n rhoi prydles i’r cwsmer. Fel rheol bydd y brydles am gyfnod digon hir i wneud cofrestriad yn ofynnol o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Defnyddir y math hwn o forgais ar gyfer ariannu prynu tŷ ac i berchnogion tai presennol newid o forgais sy’n dwyn llog.

Fel rheol bydd taliadau ‘morgais’ misol y cwsmer yn cynnwys y taliad rhent, yn ogystal â swm a gedwir gan y banc i weithredu fel gwarant y bydd y cwsmer yn gallu talu am brynu’r eiddo ar ddiwedd cyfnod y brydles. Mae’r taliadau ‘morgais’ misol yn sefydlog yn y fath fodd y bydd y banc yn cael ei brif swm yn ôl ynghyd â rhywfaint o elw.

Mae’r banc hefyd yn rhoi addewid i’r cwsmer i drosglwyddo rifersiwn yr eiddo i’r cwsmer ar ddiwedd y cyfnod neu pan derfynir y trefniant. Pan fydd y cwsmer am werthu’r eiddo, neu derfynu’r trefniant, gallant roi rhybudd ar unrhyw bryd i’r banc ac yna naill ai caiff yr eiddo ei drosglwyddo i’r cwsmer am y pris y cytunwyd arno’n wreiddiol, llai’r taliadau ar y cyfrif, neu gall y cwsmer roi cyfarwyddyd i’r rhoddwr benthyg werthu i drydydd parti, gan wneud trefniadau i derfynu’r brydles.

2.1 Dogfennau angenrheidiol

Bydd yn rhaid i chi anfon y canlynol atom:

  • trosglwyddiad o’r rifersiwn i’r cyllidwr Islamaidd (y rifersiwn yw’r ystad y rhoddir y brydles ohoni; gall fod yn rhydd-ddaliol, ond gallai fod yn brydlesol arall), a
  • prydles o’r cyfan i’r cwsmer

Os oes cytundeb neu ‘addewid i werthu’ yr ystad rifersiwn, gallwch wneud cais i nodi hyn ar y gofrestr fel rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti ar y gofrestr.

Efallai y bydd y cwsmer yn llofnodi ‘addewid i brynu’ y rifersiwn, ond os na fydd hyn yn creu baich ar dir (sy’n annhebygol) ni fydd modd ei nodi.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a anfonir atom.

2.2 Treth Dir y Dreth Stamp a Threth Trafodiadau Tir

Ar yr amod y cyflawnir yr amodau statudol, mae’r brydles, trosglwyddiad y rifersiwn ac unrhyw drosglwyddiadau canolradd cyfrannau yn y rhydd-ddaliad wedi eu heithrio rhag Treth Dir y Dreth Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir fel y mae’r trosglwyddiad cychwynnol os yw’r cwsmer yn berchennog cofrestredig.

Gallai’r trosglwyddiad i’r cyllidwr Islamaidd a’r brydles i’r cwsmer fod yn drafodion hysbysadwy. Os byddant yn uwch na’r trothwy ar gyfer hysbysu Cyllid a Thollau EF neu Awdurdod Cyllid Cymru, bydd yn rhaid i chi anfon tystysgrif ffurflen trafodiad tir (ffurflen SDLT5 neu dystysgrif LTT) i Gofrestrfa Tir EF.

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF i gael rhagor o fanylion am Dreth Dir y Dreth Stamp neu Awdurdod Cyllid Cymru i gael rhagor o fanylion am Dreth Trafodiadau Tir.

2.3 Ffïoedd

Yn debyg i adrannau eraill y llywodraeth, mae ein ffïoedd yn seiliedig ar faint y gwaith sydd i’w gyflawni, a chânt eu hasesu o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol fel a ganlyn:

  • trosglwyddiad i roddwr benthyg – graddfa 1 (os yw am werth) neu raddfa 2 (os nad yw am werth)
  • prydles i gwsmer – graddfa 1
  • cytundeb – atodlen 3; ni chodir tâl os yw’n cael ei gyflwyno ar yr un pryd â cheisiadau eraill

Gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

2.4 Pan fydd y trefniant Ijara wa Iqtina wedi dod i ben

Pan fydd y trefniant Ijara wa Iqtina wedi dod i ben, dylech anfon trosglwyddiad y rifersiwn i’r cwsmer atom, ac, os dymunir, cais i gyd-doddi’r brydles yn ôl i’r rifersiwn. Os ydych wedi cofrestru cytundeb, gellir ei dynnu ymaith gan ddefnyddio ffurflen CN1 (rhybudd a gytunwyd) neu ffurflen UN2 neu ffurflen UN4 (rhybudd unochrog).

Gallai’r trosglwyddiad i’r cwsmer fod yn drafodiad hysbysadwy posibl ar gyfer Treth Dir y Dreth Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir. Os yw’r gydnabyddiaeth yn uwch na’r trothwy ar gyfer hysbysu Cyllid a Thollau EF neu Awdurdod Cyllid Cymru, bydd yn rhaid i chi anfon tystysgrif ffurflen trafodiad tir (ffurflen SDLT5 neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir) i Gofrestrfa Tir EF.

Mae ffi yn daladwy ar y trosglwyddiad i’r cwsmer, sy’n cael ei hasesu o dan raddfa 1 y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (os yw am werth) neu raddfa 2 (os nad yw am werth). Ni chodir tâl i gyd-doddi neu dynnu rhybudd ymaith, ar yr amod y gwneir y cais ar yr un pryd â’r trosglwyddiad.

2.5 Diffyg talu gan y cwsmer

Pe byddai’r cwsmer yn peidio â thalu, gallai fod darpariaeth gan y banc i’w wneud yn ofynnol i’r cwsmer ail-brynu’r eiddo neu ganiatáu iddo gael ei werthu, yn rhydd o’r brydles feddiannol. Yn yr achos hwnnw, byddem yn disgwyl gweld trosglwyddiad i’r cwsmer neu drydydd parti, ynghyd â chais i gyd-doddi’r brydles â’r rifersiwn.

Fel arall, gall y banc ddibynnu ar y dulliau arferol o gywiro’r diffyg taliad rhent a cheisio terfynu’r brydles. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 26: prydlesi – terfynu.

3. Musharaka gostyngol (partneriaeth)

Ystyr musharaka yw ‘partneriaeth’ neu ‘fenter ar y cyd’ a chaiff ei ddefnyddio ar gyfer ariannu prynu cartref. Mae nifer o ffyrdd y gall y bartneriaeth hon weithredu yng nghyd-destun cynllun prynu cartref. Fel arfer, byddai cwsmer yn hoffi prynu cartref lle nad oes ganddo ddigon o arian i wneud hynny. O dan yr amgylchiadau hyn gallai’r banc gytuno i dalu 80 y cant o’r pris prynu, er enghraifft, gyda’r 20 y cant sy’n weddill yn cael ei dalu gan y cwsmer. Caiff y teitl cyfreithiol ei drosglwyddo i’r banc, y banc a’r cwsmer, neu ymddiriedolwr trydydd parti, ac yna caiff yr eiddo ei brydlesu i’r cwsmer.

Fel rheol, cedwir yr eiddo mewn ymddiried ar gyfer y banc a’r cwsmer. Caiff contract partneriaeth gostyngol ar wahân rhwng y banc a’r cwsmer ei greu i rannu’r budd llesiannol yn yr eiddo, yn dibynnu ar gyfraniad y naill barti a’r llall i’r pris prynu. Yn ein henghraifft, byddai gan y banc yr hawl i 80 y cant o’r budd llesiannol tra y byddai budd llesiannol y cwsmer yn 20 y cant.

Ar ôl prynu’r eiddo, mae’r cwsmer yn ei ddefnyddio at ei ddibenion preswyl ei hun ac yn talu rhent i’r banc am ddefnyddio cyfran 80 y cant y banc yn yr eiddo. Fel rheol bydd y brydles i’r cwsmer yn warediad cofrestradwy a gellir ei arwystlo i’r banc.

Yn ogystal â’r taliad rhent, gydag amser mae’r cwsmer yn prynu budd llesiannol y banc yn yr eiddo ac ymhen hir a hwyr daw’n berchennog ar gyfran 80 y cant y banc. Ar y cam hwn mae cyfanswm taliad rhent y cwsmer yn sero a chaiff y teitl cyfreithiol ei drosglwyddo i’r cwsmer yng Nghofrestrfa Tir EF. Dangosir yr enghraifft hon yn Niagram A isod.

Mae’r dull Musharaka Gostyngol o gyllido yn caniatáu i’r banc hawlio rhent yn unol â’i gyfran o berchnogaeth o’r eiddo ac ar yr un pryd mae’n rhoi adenillion cyfnodol i’r banc o’r prif swm cyllid, gan y caiff ei ad-dalu mewn rhannau.

Bydd y banc yn rhoi ymgymeriad i’r cwsmer ar y dechrau i drosglwyddo’r holl eiddo yn ôl ar ddiwedd y cyfnod neu pan ddaw’r trefniant i ben.

Defnyddir y math hwn o forgais ar gyfer ariannu prynu tŷ ac i berchnogion cartrefi presennol newid o forgais sy’n dwyn llog

Diagram A – Morgais Musharaka Gostyngol

image 1

3.1 Dogfennau angenrheidiol

Bydd yn rhaid i chi anfon y canlynol atom:

  • trosglwyddiad y rifersiwn i’r banc, y banc a’r cwsmer, neu ymddiriedolwr trydydd parti; o ystyried natur y trafodiad, mae’n debygol y bydd y banc a’r cwsmer yn denantiaid cydradd llesiannol mewn cyfrannau anghyfartal
  • os yw’r trosglwyddiad i unig berchennog na all roi derbynneb ddilys am arian cyfalaf, cais i gofnodi cyfyngiad Ffurf A
  • prydles o’r cyfan i’r cwsmer

Os oes trefniant neu ‘addewid i werthu’ yr ystad rifersiwn, gallwch wneud cais i nodi hyn yn y gofrestr fel rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti ar y gofrestr.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a anfonir atom.

3.2 Treth Dir y Dreth Stamp a Threth Trafodiadau Tir

Ar yr amod y cyflawnir yr amodau statudol, mae’r brydles, trosglwyddiad y rifersiwn ac unrhyw drosglwyddiadau canolradd cyfrannau yn y rhydd-ddaliad wedi eu heithrio rhag Treth Dir y Dreth Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir, fel y mae’r trosglwyddiad cychwynnol os yw’r cwsmer yn berchennog cofrestredig.

Gallai’r trosglwyddiad i’r cyllidwr Islamaidd a’r brydles i’r cwsmer fod yn drafodion hysbysadwy. Os byddant yn uwch na’r trothwy ar gyfer hysbysu Cyllid a Thollau EF neu Awdurdod Cyllid Cymru, bydd yn rhaid i chi anfon Tystysgrif Ffurflen Trafodiad Tir (ffurflen SDLT5) i Gofrestrfa Tir EF.

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF i gael rhagor o fanylion am Dreth Dir y Dreth Stamp neu Awdurdod Cyllid Cymru i gael rhagor o fanylion am Dreth Trafodiadau Tir.

3.3 Ffïoedd

Yn debyg i adrannau eraill y llywodraeth, mae ein ffïoedd yn seiliedig ar faint y gwaith sydd i’w gyflawni, a chânt eu hasesu o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol fel a ganlyn:

  • trosglwyddiad i’r banc, y banc a’r cwsmer, neu ymddiriedolwr trydydd parti – graddfa 1 (os yw am werth) neu raddfa 2 (os nad yw am werth)
  • prydles i gwsmer – graddfa 1
  • cytundeb – Atodlen 3; ni chodir tâl os yw’n cael ei gyflwyno ar yr un pryd â cheisiadau eraill

Gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

3.4 Pan fydd y trefniant Musharaka Gostyngol wedi dod i ben

Pan fydd y trefniant Musharaka Gostyngol wedi dod i ben, dylech anfon trosglwyddiad yr eiddo yn ôl i’r cwsmer atom, ac, os dymunir, cais i gyd-doddi’r brydles yn ôl i’r rifersiwn. Os ydych wedi cofrestru cytundeb, gellir ei ddileu gan ddefnyddio ffurflen CN1 (rhybudd a gytunwyd) neu ffurflen UN2 neu ffurflen UN4 (rhybudd unochrog).

Gallai’r trosglwyddiad i’r cwsmer fod yn drafodiad hysbysadwy posibl ar gyfer Treth Dir y Dreth Stamp. Os yw’r gydnabyddiaeth yn uwch na’r trothwy ar gyfer hysbysu Cyllid a Thollau EF neu Awdurdod Cyllid Cymru, bydd yn rhaid i chi anfon tystysgrif ffurflen trafodiad tir (ffurflen SDLT5 neu dytsysgrif Treth Trafodiadau Tir) i Gofrestrfa Tir EF.

Mae ffi yn daladwy ar y trosglwyddiad i’r cwsmer, sy’n cael ei hasesu o dan raddfa 1 y v (os yw am werth) neu raddfa 2 (os nad yw am werth), gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru. Ni chodir tâl ar gyfer cyd-doddi ceisiadau neu ddileu rhybudd i warchod y cytundeb, ar yr amod y gwneir y cais ar yr un pryd â’r trosglwyddiad. Mae’r weithred ildio’n ddarostyngedig i ffi o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol.

4. Murabaha

Ystyr Murabaha yw gwerthu eitem i brynwr lle mae’r gwerthwr yn sôn yn benodol am y costau a gafwyd ar y nwyddau i’w gwerthu ac yn ei werthu i rywun arall trwy ychwanegu rhywfaint o elw neu ychwanegiad sy’n hysbys i’r prynwr. Er mwyn gweithredu morgais Murabaha bydd banc yn prynu’r eiddo sydd ei angen ar y cwsmer gan y gwerthwr am bris a gytunwyd ac yn ei werthu ar unwaith i’w cwsmer am faint elw a gytunwyd dros y gost. Felly nid yw Murabaha yn fenthyciad a roddir ar log; mae’n werthiant nwydd am arian.

Bydd y cwsmer yn talu pris yr eiddo mewn rhandaliadau dros nifer o flynyddoedd ac yn morgeisio’r eiddo i’r banc er mwyn diogelu’r rhandaliadau sy’n ddyledus. Dangosir trefniant Murabaha syml ar gyfer cyllid cartref yn Niagram B.

Diagram B – Murabaha

image 2

4.1 Dogfennau angenrheidiol

Bydd yn rhaid i chi anfon y canlynol atom:

  • trosglwyddiad yr eiddo i’r banc
  • trosglwyddiad gan y rhoddwr benthyg i’r cwsmer, ac
  • arwystl o blaid y banc.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a anfonir atom.

4.2 Treth Dir y Dreth Stamp a Threth Trafodiadau Tir

Mae’r atebolrwydd i dalu Treth Dir y Dreth Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir wedi’i strwythuro i adlewyrchu pryniant wedi ei ariannu trwy forgais arferol, felly bydd y dreth briodol yn daladwy ar y gwerthiant cyntaf gan y gwerthwr i’r banc, os yw’n uwch na’r trothwy. Gellir hawlio eithriad ar yr ail werthiant, yn amodol ar rai eithriadau.

Gallai’r naill drosglwyddiad a’r llall fod yn drafodion hysbysadwy. Os byddant yn uwch na’r trothwy ar gyfer hysbysu Cyllid a Thollau EF neu Awdurdod Cyllid Cymru, bydd yn rhaid i chi anfon tystysgrif ffurflen trafodiad tir (ffurflen SDLT5 neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir) i Gofrestrfa Tir EF.

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF i gael rhagor o fanylion am Dreth Dir y Dreth Stamp neu Awdurdod Cyllid Cymru i gael manylion pellach am Dreth Trafodiadau Tir.

4.3 Ffïoedd

Yn debyg i adrannau eraill y llywodraeth, mae ein ffïoedd yn seiliedig ar faint y gwaith sydd i’w gyflawni, a chânt eu hasesu o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol fel a ganlyn:

  • trosglwyddiad i’r banc – graddfa 1 (os yw am werth) neu raddfa 2 (os nad yw am werth)
  • trosglwyddiad i gwsmer – graddfa 1
  • arwystl – graddfa 2 (ni chodir tâl os caiff ei gyflwyno ar yr un pryd â’r trosglwyddiad)

Gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

4.4 Pan fydd y trefniant Murabaha wedi dod i ben

Dylech ryddhau’r arwystl gan ddefnyddio DS1, ED neu e-DS1. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 31: rhyddhau arwystlon.

4.5 Diffyg talu gan y cwsmer

Mae dulliau’r banc mewn achos o ddiffyg taliad yr un modd ag ar gyfer arwystl arferol. Felly’r cais arferol fyddai trosglwyddiad o dan bŵer gwerthu gan ddefnyddio ffurflen TR2.

5. Sukuk

Gellir ystyried Sukuk fel math o fond gyda gwarant buddsoddiad (lluosog ‘sakk’ yw sukuk ac mae’n golygu ‘tystysgrifau ariannol’). Fodd bynnag, mae sukuk yn nodweddiadol wahanol i fond a roddir fel tystiolaeth o fenthyciad (lle mae’n rhaid ad-dalu’r benthyciad gyda llog) ac yn hytrach mae’n golygu perchnogaeth rannol ased (Sukuk al Ijara) neu fusnes (Sukuk al Musharaka). At ddibenion y cyfarwyddyd hwn dim ond ar Sukuk al Ijara y byddwn yn edrych.

Mae Sukuk al Ijara yn debygol o gael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â thrafodion eiddo mawr iawn, fel canolfannau siopa, gwestai neu bortffolios eiddo. Yn y trefniant hwn, bydd y darparwr cyllid yn prynu eiddo’r cwsmer ei hun, neu’n fwy tebygol, caiff ei werthu i gwmni a sefydlwyd yn arbennig a elwir yn ‘gyfrwng diben arbennig’ (‘special purpose vehicle’). Bydd y cyfrwng diben arbennig (neu’r darparwr cyllid) yn prydlesu’r eiddo yn ôl i’r cwsmer, a fydd yn talu rhent. Yna bydd y cyfrwng diben arbennig neu’r darparwr cyllid yn cyhoeddi sukuk neu fondiau i fuddsoddwyr, a fydd yn cael incwm yn seiliedig ar yr ased eiddo.

Pan ddaw’r trefniant i ben, mae’r banc yn trosglwyddo’r eiddo yn ôl i’r cwsmer. Mae trefniadau o’r fath wedi’u heithrio o Dreth Dir y Dreth Stamp a Threth Trafodiadau Tir, ond er mwyn atal efasiwn treth stamp gan eraill, gosodir arwystl ar yr eiddo gan Gyllid a Thollau EF neu Awdurdod Cyllid Cymru, fel y bo’n briodol, a gaiff ei dynnu ymaith pan drosglwyddir yr eiddo yn ôl i’r cwsmer.

Er mwyn esbonio hyn, mae angen £100 miliwn ar gwmni X er mwyn ehangu ei fusnes. Mae X yn gwerthu tir gwerth £100 miliwn i gyfrwng diben arbennig. Yn ogystal, mae cwmni X yn addo prynu’r tir yn ôl ar ôl 10 mlynedd.

Mae’r cyfrwng diben arbennig yn rhoi sukuk 10 mlynedd o hyd i’r buddsoddwyr. Yn gyfnewid am y £100 miliwn, mae’r cyfrwng diben arbennig yn prydlesu’r tir yn ôl i X am gyfnod o 10 mlynedd am £12 miliwn y flwyddyn. O safbwynt Cwmni X mae hyn yn ddull iddynt godi cyfalaf. O safbwynt y buddsoddwyr, mae sukuk yn fath o fuddsoddiad bond lle yr ad-delir y cyfalaf cychwynnol ynghyd ag adenillion rhent (yn hytrach na llog). Mae’r uchod yn enghraifft a ddangosir yn Niagram C isod.

Diagram C – Sukuk al Ijara

image 3

5.1 Dogfennau angenrheidiol

Bydd yn rhaid i chi anfon y canlynol atom:

  • trosglwyddiad o’r eiddo i’r banc neu gyfrwng diben arbennig
  • prydles gan y banc neu gyfrwng diben arbennig i’r tenant, ac
  • arwystl cyfreithiol cyntaf o blaid Comisiynwyr Cyllid a Thollau EF neu Awdurdod Cyllid Cymru – gweler Treth Dir y Dreth Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir (os oes arwystlon cofrestredig eraill, bydd yn rhaid eu gohirio i roi blaenoriaeth i’r arwystl cyntaf hwn).

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a anfonir atom.

5.2 Treth Dir y Dreth Stamp a Threth Trafodiadau Tir

Mae Cyllid a Thollau EF ac Awdurdod Cyllid Cymru wedi cytuno bod trefniadau fel hyn wedi’u heithrio rhag Treth Dir y Dreth Stamp a Threth Trafodiadau Tir, ar yr amod y bodlonir amodau penodol er mwyn eu hatal rhag cael eu defnyddio i osgoi treth tir. Un o’r amodau hyn yw y bydd y banc neu’r cyfrwng diben arbennig yn cyflawni arwystl cyfreithiol cyntaf o blaid Cyllid a Thollau EF neu Awdurdod Cyllid Cymru i gynnwys unrhyw atebolrwydd am unrhyw dreth tir, llog a chosbau a allai ddod yn ddyledus.

Os byddant yn uwch na’r trothwy ar gyfer hysbysu Cyllid a Thollau EF neu Awdurdod Cyllid Cymru, bydd yn rhaid i chi anfon tystysgrif ffurflen trafodiad tir (ffurflen SDLT5 neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir) i Gofrestrfa Tir EF.

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF i gael rhagor o fanylion am Dreth Dir y Dreth Stamp, neu Awdurdod Cyllid Cymru i gael manylion pellach am Dreth Trafodiadau Tir.

5.3 Ffïoedd

Mae ein ffïoedd yn seiliedig ar faint y gwaith sydd i’w gyflawni, a chânt eu hasesu o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol fel a ganlyn:

  • trosglwyddiad i’r banc neu gyfrwng diben arbennig – graddfa 1 (os yw am werth) neu raddfa 2 (os nad yw am werth)
  • prydles i’r cwsmer – graddfa 1
  • arwystl – graddfa 2 (ni chodir tâl os caiff ei gyflwyno gyda’r cais am drosglwyddiad)

Gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

5.4 Pan fydd cyfnod y sukuk wedi dod i ben

Pan fydd cyfnod y sukuk yn dod i ben, dylech anfon trosglwyddiad yr eiddo yn ôl i’r cwsmer atom yn ddarostyngedig i’r arwystl o blaid Cyllid a Thollau EF neu Awdurdod Cyllid Cymru ac, os dymunir, cais i gyd-doddi’r brydles â’r rifersiwn.

Unwaith y byddwch wedi derbyn y datganiad cwblhau cofrestriad a’r ddogfen gwybodaeth am deitl, dylech eu hanfon at Gyllid a Thollau EF neu Awdurdod Cyllid Cymru, a fydd yn rhyddhau eu harwystl.

Gallai’r trosglwyddiad i’r cwsmer for yn drafodiad hysbysadwy. Os yw’r gydnabyddiaeth yn uwch na’r trothwy ar gyfer hysbysu Cyllid a Thollau EF neu Awdurdod Cyllid Cymru, bydd yn rhaid i chi anfon tystysgrif ffurflen trafodiad tir (ffurflen SDLT5 neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir) i Gofrestrfa Tir EF.

Mae ffi yn daladwy ar y trosglwyddiad i’r cwsmer, sy’n cael ei hasesu o dan raddfa 1 y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (os yw am werth) neu raddfa 2 (os nad yw am werth) gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru. Ni chodir tâl ar gyfer cyd-doddi neu ddileu rhybudd, ar yr amod y gwneir y cais ar yr un pryd â’r trosglwyddiad.

6. Gwybodaeth am bris eiddo

Nid yw trafodion nad ydynt yn werthiannau’r farchnad agored wedi’u cynnwys yn ein cronfa ddata o brisiau eiddo, er mwyn sicrhau na chaiff y ffigurau hyn eu gwyrdroi.

7. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.