Brîff Gwybodaeth: Adennill Dyledion yn Uniongyrchol
Cyhoeddwyd 5 Awst 2015
Mae’r mwyafrif helaeth o drethdalwyr yn talu eu trethi yn llawn ac ar amser, ond mae lleiafrif yn gyson yn dewis peidio â thalu, er bod ganddynt y modd i wneud hynny.
Mae’r brîff gwybodaeth hwn yn egluro sut y byddwn yn sicrhau chwarae teg trwy adennill dyledion treth neu ddyledion credydau treth yn uniongyrchol o gyfrifon banc a chymdeithas adeiladu’r lleiafrif hynny. Mae’n manylu sut bydd hyn yn gweithio’n ymarferol, a’r dulliau diogelu cadarn y byddwn yn eu defnyddio. Caiff y dulliau diogelu hyn eu hamlinellu mewn manylder yn adran 4.
1. Pam fod adennill dyled yn bwysig?
Mae’n rhaid i unigolion a busnesau dalu’r dreth sy’n ddyledus, neu ddychwelyd gordaliadau credydau treth, neu fel arall mae’n annheg ar y mwyafrif gonest. Mae’r arian yr ydym yn ei gasglu yn hanfodol i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r mwyafrif helaeth o bobl yn talu eu trethi yn llawn ac ar amser. Y llynedd, cafwyd £517.7 biliwn gan tua 45 miliwn o drethdalwyr unigol a 5.2 miliwn o fusnesau. Talwyd tua 90% ar amser ond ni thalwyd tua £50 biliwn, a daeth yn ddyled.
Mae angen anogaeth ar rai pobl neu nodyn atgoffa ychwanegol i dalu’r hyn sydd arnynt, ac mae nifer sylweddol o bobl yn talu unwaith y byddwn yn dechrau mynd ar drywydd yr arian sy’n ddyledus. Y llynedd, cysylltwyd â thua 16 miliwn o ddyledwyr trwy lythyr, dros y ffôn, drwy neges destun neu drwy ddulliau eraill, gan gynnwys ymweliadau wyneb yn wyneb.
Mae Adennill Dyledion yn Uniongyrchol (DRD) yn effeithio ar nifer fach o unigolion a busnesau sy’n gwneud penderfyniad gweithredol i beidio â thalu, neu i ohirio talu, yr arian sy’n ddyledus ganddynt, er bod ganddynt ddigon o arian yn eu cyfrifon. Rydym yn amcangyfrif y byddwn yn defnyddio’r pwerau hyn mewn nifer fach iawn o achosion (tua 11,000 o weithiau’r flwyddyn ymhlith mwy na 50 miliwn o drethdalwyr).
Mae nifer o awdurdodau treth ledled y byd yn gwneud hyn eisoes. Yn y DU, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) eisoes yn defnyddio pŵer tebyg ar gyfer y rheini sydd ar ei hôl hi gyda thaliadau cynnal plant.
2. Beth sy’n digwydd nawr?
Cyhoeddodd y llywodraeth yng Nghyllideb 2014 ei bod yn bwriadu caniatáu i CThEM adennill dyledion treth a dyledion credydau treth gan bobl a busnesau, yn uniongyrchol o’u cyfrifon banc, drwy ddefnyddio’r broses DRD. Bu ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y cynigion rhwng 6 Mai a 29 Gorffennaf 2014. Derbyniwyd 124 ymateb.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, gwnaeth y llywodraeth nifer o newidiadau i’r modd y bydd y broses DRD yn cael ei chyflwyno. Ymgynghorodd y llywodraeth hefyd ar ddeddfwriaeth ddrafft, a gwneud sawl addasiad yn dilyn trafodaethau hynod o ddefnyddiol â rhanddeiliaid allanol. Mae’r llywodraeth bellach wedi cyflwyno’r ddeddfwriaeth ddrafft hon i’r Senedd ym Mil Cyllid yr Haf 2015 fel bo modd ei harchwilio’n fanwl.
3. Sut bydd hyn yn gweithio
Bydd y polisi hwn yn caniatáu CThEM i adennill arian yn uniongyrchol o gyfrifon banc a chymdeithas adeiladu, ac arian a ddelir yng Nghyfrifon Cynilo Unigol (ISAs), dyledwyr sydd â £1,000 neu fwy o ddyled (yn ddibynol ar y dulliau diogelu sydd wedi’u manylu yn adran 4). Yn dilyn trafodaethau gyda rhanddeiliaid, cadarnhaodd y llywodraeth na fyddai adenill dyledion drwy’r broses DRD yn gymwys i gyfrifon cynilo unigol stociau a chyfranddaliadau.
Mae ein hymchwil yn dangos bod gan y dyledwyr y’u heffeithir gan y broses DRD, ddyled, ar gyfartaledd, o dros £7,000. Mae gan bron i hanner o’r dyledwyr hynny dros £20,00 yn eu cyfrifon.
4. Y dulliau diogelu
Mae’r llywodraeth yn cynnwys dulliau diogelu llym er mwyn sicrhau nad yw dyledwyr yn dioddef caledi gormodol unwaith y caiff arian ei dynnu’n uniongyrchol o’u cyfrifon, a bod diogelwch digonol ar gael ar gyfer cwsmeriaid sy’n agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys:
- dim ond cymryd camau yn erbyn y rhai sydd â dyledion wedi eu sefydlu, sydd wedi mynd heibio’r amserlen ar gyfer apeliadau, ac sydd wedi anwybyddu ein hymdrechion i gysylltu dro ar ôl tro - mae gan unrhyw un sy’n dadlau’r swm sy’n ddyledus yr hawl awtomatig i apelio.
- gwarantu y bydd pob dyledwr yn derbyn ymweliad wyneb yn wyneb gan asiantau CThEM, cyn y bydd eu dyledion yn cael eu hystyried ar gyfer cael eu hadennill drwy’r broses DRD - bydd y cyfarfod hwn yn rhoi cyfle pellach i ni:
- adnabod y trethdalwr yn bersonol a chadarnhau’r ddyled
- esbonio i’r dyledwyr yr hyn sydd arnynt, pam eu bod yn cael eu herlid am daliad, ac i drafod talu’r ddyled
- trafod opsiynau ar gyfer setlo’r ddyled, gan gynnwys cynnig trefniant Amser i Dalu i’r dyledwr, lle bo hynny’n briodol
- adnabod dyledwyr sydd mewn sefyllfa fregus a chynnig y cymorth iddynt gan dîm arbenigol i’w helpu i setlo’u dyledion
- dim ond dyledwyr sydd wedi derbyn yr ymweliad wyneb yn wyneb hwn, sydd heb eu hadnabod fel bod mewn sefyllfa fregus, sydd ag arian digonol yn y banc ac sydd yn dal i wrthod setlo eu dyledion, a fydd yn cael eu hystyried ar gyfer adennill dyled drwy’r broses DRD
- dim ond yn ystyried defnyddio’r broses DRD ar y rheini sydd â dyledion treth neu ddyledion credydau treth o fwy na £1,000
- bob tro gadael o leiaf £5,000 yng nghyfrifon y dyledwyr, fel nad ydym yn atal arian sydd ei angen ar gyfer talu cyflogau, morgeisi neu dreuliau hanfodol y busnes neu’r cartref
Bu’r llywodraeth hefyd yn cryfhau goruchwyliaeth annibynnol o’r broses DRD a chydnabod yr angen i ddyledwyr cael gweithdrefnau clir yn eu lle os ydynt am apelio eu hachos. Mae hyn yn cynnwys:
- rhoi cyfnod o 30 diwrnod (unwaith y dechreuir y broses o adennill dyledion) i ddyledwyr rhoi gwrthwynebiad i ni - caiff arian ei ddal yn y cyfrif ond ni throsglwyddir unrhyw arian i ni hyd nes bod y cyfnod hwn wedi mynd heibio, a gwneir penderfyniad ynghylch gwrthwynebiadau o fewn 30 diwrnod.
- cyflwyno opsiwn i ddyledwyr apelio yn erbyn ein penderfyniad i Lys Sirol ar seiliau penodol, gan gynnwys caledi a hawliau trydydd parti
- cryfhau ein gweithdrefnau llywodraethol ar gyfer y broses DRD, gan gynnwys goruchwyliaeth gan gomisiynwyr CThEM
- ymrwymo i dryloywder gwell ar y pŵer hwn, a chyhoeddi ystadegau am y nifer o weithiau y mae’r pŵer hwn yn cael ei ddefnyddio ac apeliadau sy’n cael eu codi
- adolygu’r broses DRD yn llawn ar ôl i’r polisi fod yn weithredol am ddwy flynedd, a gosod yr adroddiad hwn gerbron y Senedd
Bydd gennym linell ffôn arbennig ar gyfer apeliadau ac i bobl wneud trefniadau eraill i dalu eu dyledion.
5. Helpu’r rhai hynny sy’n wynebu gwir anhawster
Rydym yn gwybod bod rhai pobl yn profi gwir anhawster ariannol wrth dalu eu treth neu wrth glirio dyled. Mae hyn yn aml yn digwydd pan fydd eu bywyd yn cael ei effeithio gan ddigwyddiad personol mawr, eu busnes yn datblygu problem, neu eu bod wedi derbyn gordaliad credydau treth y mae’n rhaid ei ad-dalu.
Rydym fel mater o drefn yn defnyddio agwedd cydymdeimladol tuag at y rhai hynny sydd angen cefnogaeth ychwanegol.
Pan fydd pobl yn sylweddoli nad ydynt yn mynd i allu talu ar amser, neu os oes angen cymorth ychwanegol arnynt gyda’u trethi, rydym yn annog ein cwsmeriaid i gysylltu â ni cyn gynted ag y bo modd.
Mae gan CThEM hanes cryf yn y maes hwn, gydag:
- ychydig o dan 750,000 o drefniadau Amser i Dalu (a oedd werth £2.3 biliwn ym mis Mai 2015) ar waith sy’n galluogi unigolion a busnesau i dalu’r hyn sydd arnynt mewn rhandaliadau hawdd i’w trin - mae bron i hanner y trefniadau hyn yn ymwneud â chwsmeriaid sydd â dyledion credydau treth
- ein gwasanaeth ‘Angen Cefnogaeth Ychwanegol’ yn rhoi cefnogaeth ychwanegol dros y ffôn i gwsmeriaid TWE a Hunanasesiad, gydag ymgynghorwyr sydd â’r amser, sgiliau, gwybodaeth ac empathi i ddelio ag ymholiadau cwsmeriaid ar gyflymder sy’n addas iddynt
Er mwyn gwneud yn siwr bod cwsmeriaid sy’n agored i niwed yn cael eu cefnogi’n llawn trwy gydol y cyfnod o weithredu a defnyddio’r broses DRD, rydym wedi:
- sefydlu uned arbenigol i gefnogi dyledwyr sydd angen cefnogaeth ychwanegol: os bydd dyledwr yn bodloni’r amodau llym ar gyfer y broses DRD, ond ein bod yn credu, ar ôl ymweliad wyneb yn wyneb, ei fod/bod yn agored i niwed neu fod angen cefnogaeth ychwanegol arno/arni, ni fyddwn yn defnyddio’r broses DRD, a byddwn yn cynnig cymorth drwy’r tîm arbenigol
- ymrwymo i weithio gyda sefydliadau gwirfoddol a chyrff proffesiynol ar eu cyfathrebiadau â dyledwyr y’u heffeithir gan y broses DRD, er mwyn sicrhau eu bod yn addas, a rhoi cyngor defnyddiol ar sut i gael cymorth pellach
- penderfynu defnyddio’r broses DRD mewn nifer bach o achosion yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn 2015-16, i gychwyn y broses ar sail fach, wedi ei thargedu, a chael profiad ac adborth
6. I gael mwy o wybodaeth
Edrychwch ar yr ymgynghoriad neu wybodaeth ynghylch trefniadau Amser i Dalu
Cyhoeddwyd brîff ymchwil ar Adennill Dyledion yn Uniongyrchol gan lyfrgell Tŷ’r Cyffredin ym mis Rhagfyr 2014, yn ogystal.