Brîff Gwybodaeth CThEM: Sut rydym yn mynd i'r afael ag osgoi treth ar incwm alltraeth (Welsh language version)
Published 24 February 2014
Mae CThEM yn mynd ati o ddifrif, yn fwy nag o’r blaen, i ddal twyllwyr treth sy’n osgoi talu trethi drwy guddio incwm, asedion neu enillion alltraeth. O ganlyniad, rydym eisoes wedi casglu dros £1 biliwn mewn refeniw ychwanegol o’n cyfleusterau datgelu. Mae’r briff hwn yn esbonio sut ydym yn cwtogi ar y cyfleoedd i osgoi treth ar incwm alltraeth, yr hyn yr ydym yn ei wneud i ddod o hyd a dal y rheiny sy’n osgoi talu treth, ac yn codi ymwybyddiaeth o’r canlyniadau llym i’r rheiny sy’n osgoi talu eu trethi.
1. Beth yw osgoi treth ar incwm alltraeth?
Mae osgoi treth ar incwm alltraeth yn golygu defnyddio lleoliad sydd y tu allan i’r DU, yn fwriadol ac yn anghyfreithiol, er mwyn osgoi treth y DU. Mae hyn yn cynnwys:
- symud enillion, incwm ac asedion y DU i leoliad alltraeth er mwyn eu celu rhag CThEM
- peidio â datgan incwm neu enillion trethadwy sy’n deillio o dramor, neu asedion trethadwy sy’n cael eu cadw tramor
- defnyddio trefniadau alltraeth cymhleth i gelu asedion, incwm neu enillion
2. Pam fod hyn o bwys
Mae’r rhan fwyaf o unigolion a busnesau’n onest ac yn talu’r dreth sydd arnynt pan ei bod yn ddyledus. Ond mae lleiafrif bach yn ceisio efadu eu trethi trwy guddio arian ac asedau alltraeth. Mae osgoi treth ar incwm alltraeth alltraeth yn anghyfreithlon ac yn niweidiol. Mae’n annheg bod y rheiny all fforddio defnyddio banciau alltraeth costus a strwythurau ariannol cymhleth yn gallu efadu eu cyfrifoldeb i dalu’r trethi sy’n ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Dyna pam yr ydym yn ehangu ein hymdrechion drwy weithio’n ddiflino i sicrhau nad oes yna le i guddio ar gyfer efadwyr treth alltraeth.
3. Yr hyn rydym yn ei wneud yn y DU
Gwnaeth y DU gynnydd mawr yn ystod ei llywyddiaeth o’r grŵp G8 o economïau blaenllaw, yn ei hymdrech i gyflwyno lefelau uwch o dryloywder treth. Maent yn llwyr gefnogi’r safon fyd-eang newydd ar gyfer y cyfnewid awtomatig o wybodaeth, a gytunwyd gan yr OECD, gyda dros 40 o wledydd wedi cytuno i weithredu cynnar, ynghyd ag ymrwymiadau i well tryloywder o berchenogaeth cwmnïau.
Cafodd strategaeth efadu alltraeth CThEM, No safe havens, ei chyhoeddi gyntaf yng Nghyllideb 2013 a gosododd allan ein hymagwedd lem i efadwyr alltraeth, sydd wedi arwain at
- casglu dros £1 biliwn mewn treth, cosbau a llog ychwanegol oddi wrth dros 56,000 o bobl a ddaeth ymlaen o dan y cyfle datgelu.
- cyflwyno sancsiynau llymach, gan gynnwys cosbau o hyd at 200 y cant o’r dreth yr aethpwyd ati i’w hosgoi, ymchwiliadau ac erlyniadau troseddol, a chyhoeddi enwau’r rheiny sy’n osgoi talu treth yn fwriadol
- ymgynghori ar gosbau uwch ar gyfer efadu alltraeth yng Nghyllideb 2014
- ymelwa ar wybodaeth a roddir i ni oddi wrth ystod o drydydd parti, gan gynnwys “profi a dysgu” ar ddata a dderbyniwyd o dan Gyfarwyddeb Arbed DU, mewn parodrwydd ar gyfer derbyn mwy o wybodaeth o gytundebau cyfnewid gwybodaeth yn awtomatig newydd yn 2016
- buddsoddi £3 miliwn y flwyddyn i ddatblygu agweddau newydd i osgoi treth alltraeth
- buddsoddi mewn 2,500 o staff ychwanegol, timoedd arbenigol ymroddgar a defnyddio technoleg ar flaen y gad i leihau arbed ac osgoi. Mae ein system dadansoddi technoleg -uwch Connect, eisoes wedi gwneud pedwar biliwn o gysylltiadau ar draws cofnodion treth cwsmer ac owybodaeth o sawl ffynhonnell arall i adnabod mannau lle mae casglu treth mewn perygl
4. Yr hyn rydym yn ei wneud yn rhyngwladol
Mae’r DU yn gweithio gyda gwledydd eraill i gwtogi ar y cyfleoedd i osgoi treth ac i gyrchu at wybodaeth newydd a all ein helpu i adnabod a mynd ar ôl y rhai hynny sy’n osgoi treth,
Mae’r DU yn:
- un o’r prif ysgogwyr tu ôl i’r safon fyd-eang ar gyfer cyfnewid gwybodaeth yn awtomatig sydd eisoes wedi ei gytuno gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD)
- rhan o’r rhwydwaith o 137 cytundeb gyda gwledydd eraill sy’n caniatáu ar gyfer cyfnewid gwybodaeth am drethdalwyr.
- disgwyl adennill o gwmpas £1 biliwn mewn refeniw dros y chwe mlynedd nesaf, drwy gyfnewid gwybodaeth gyda gwledydd dibynnol ar y Goron, megis, Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw, ynghyd ac oddi wrth eu cyfleusterau datgelu. Er ei bod yn ddyddiau cynnar, mae miloedd o bobl wedi cysylltu â ni eisoes am y cyfleusterau datgelu hyn
- adennill treth o bobl drwy ddefnyddio’r Adnodd Datgelu Liechtenstein, drwy roi’r cyfle i bobl gyda chyfrifon alltraeth neu asedau setlo eu hatebolrwydd treth. Mae’r cyfleusterau hyn yn cau yn 2016
- clirio materion osgoi treth o’r gorffennol a chadw’r pwysau ymlaen i sicrhau bod cyfnewidiadau awtomatig o wybodaeth gydag awdurdodau treth eraill
- casglu treth sydd heb ei thalu, o dan gytundeb gyda’r Swisdir, a ddaeth i rym yn Ionawr 2013
- dadansoddi llawer o ddata ar strwythurau busnes alltraeth cyfrinachol, mewn cydweithrediad gyda’r Swyddfa Trethi Awstralaidd a Gwasanaeth Refeniw mewnol yr Unol Daleithiau (IRS)
- cynyddu ein dealltwriaeth o pam a sut mae trethdalwyr yn osgoi alltraeth
- ehangu ein rhwydwaith ryngwladol o Swyddogion Cyswllt Trosedd Cyllidol i weithio gyda sefydliadau ariannol, tollau a sefydliadau gorfodaeth cyfraith tramor
Mae ein neges i osgowyr alltraeth yn glir:
A ydych yn cuddio unrhyw incwm sydd heb ei ddatgan yn alltraeth? Bydd cytundebau newydd rhyngwladol yn ein caniatáu i weld mwy o wybodaeth am eich cyfrifon tramor, felly mae’r rhwyd yn cau amdanoch. Os ydych wedi datgan eich holl incwm yna nid oes gennych unrhyw beth i boeni yn ei gylch. Os nad ydych ac rydym yn eich dal, bydd rhaid i chi dalu’r dreth sydd heb ei datgan, cosb o hyd at ddwbl y dreth sydd arnoch a gallech hyd yn oed fynd i’r carchar.
Mae gan bobl sydd ag incwm trethadwy mewn cyfrifon alltraeth y cyfle i ddod ymlaen drwy ein cyfleusterau datgelu cyn y byddant yn cau yn 2016. Rydym yn eu hannog i wneud hynny a chymryd mantais o’r cyfleusterau cyn iddi fod yn rhy hwyr.