Adroddiad corfforaethol

Brîff gwybodaeth: lwfans priodasol

Cyhoeddwyd 20 Chwefror 2015

Gallai parau priod a phartneriaid sifil dalu hyd at £212 yn llai o dreth bob blwyddyn, o ganlyniad i lwfans priodasol newydd sy’n dod i rym yn ystod y flwyddyn dreth 2015 i 2016. Gall parau cymwys gofrestru i fynegi diddordeb ar wefan GOV.UK nawr, ac fe’u gwahoddir i wneud cais ffurfiol ar-lein ar ôl 6 Ebrill. Mae’r brîff hwn yn esbonio pwy allai dderbyn y lwfans, a sut i’w gael.

1. Beth yw’r lwfans priodasol?

Bydd y lwfans priodasol yn caniatáu priod neu bartner sifil sydd ag incwm o lai na £10,600 i drosglwyddo £1,060 o’i lwfans personol, sy’n rhydd o dreth, i’w briod neu bartner sifil sydd ag incwm uwch nag ef neu hi. Ar yr amod nad yw’r person y trosglwyddir y lwfans iddo yn talu treth ar y gyfradd uwch na’r gyfradd ychwanegol (i’r rhan fwyaf o bobl golyga hyn incwm o hyd at £42,385) gallai parau dalu hyd at £212 yn llai o dreth bob blwyddyn, neu tua £17.66 yn llai bob mis.

Cafodd y lwfans ei grybwyll gyntaf yn ystod 2013, a chyhoeddwyd manylion llawn fel rhan o Gyllideb 2014.

2. Pwy sy’n gymwys?

Mae tua 4 miliwn o barau priod a phartneriaid sifil, a aned ar ôl 6 Ebrill 1935, yn gymwys i dderbyn y lwfans priodasol. Gall parau a aned cyn 1935 dderbyn y Lwfans Pâr Priod, sy’n wahanol.

3. Cofrestru i fynegi diddordeb yn y lwfans

Gall parau cymwys gofrestru i fynegi diddordeb yn y lwfans priodasol nawr yn gov.uk/marriageallowance.

Mae’n syml i gofrestru: mae’r priod neu’r partner sy’n derbyn yr incwm isaf yn cofrestru i fynegi diddordeb i drosglwyddo’i lwfans personol drwy nodi manylion sylfaenol (enw a chyfeiriad e-bost) ar wefan GOV.UK. Yna bydd Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn cadarnhau, drwy gyfrwng e-bost, bod y cwsmer wedi cofrestru i fynegi diddordeb, ac yn esbonio pryd fydd parau yn derbyn gwahoddiad i wneud cais.

Ni fydd y rheiny sydd ddim yn cofrestru ar eu colled; gallant wneud cais yn ystod y flwyddyn dreth 2015 i 2016 a dal i dderbyn y lwfans llawn.

Mae’r broses o gofrestru yn cael ei chynnal gan fod ymchwil yn dangos bod rhai cwsmeriaid am gael gwybod yn gynnar ynglŷn ag unrhyw newidiadau i’w materion ariannol personol. Yn ogystal, bydd o gymorth i CThEM wrth gyflwyno newid sylweddol i lwfansau treth personol. O fis Ebrill ymlaen byddwn yn gwahodd cwsmeriaid sydd wedi cofrestru, i wneud cais ffurfiol am y lwfans. Gwneir hyn mewn sypiau. Golyga hyn y gallwn gadw gwell rheolaeth ar y galw disgwyliedig wrth i bobl wneud cais am y lwfans newydd.

Gellir ond cofrestru ar-lein ar gyfer y lwfans priodasol. Mae’n syml, a dylai ond gymryd tua 3 munud. Nid yw’n bosib cofrestru ar gyfer y lwfans priodasol drwy alw CThEM.

4. Gwneud cais

O fis Ebrill 2015 ymlaen bydd CThEM yn gwahodd pobl sydd wedi cofrestru gyda ni, i wneud cais am y lwfans. Yna, byddwn yn dweud wrthynt am y newid i’w cod treth Talu Wrth Ennill (TWE) neu’n dangos y newidiadau yn eu cyfrifiadau Hunanasesiad. Gwneir ceisiadau drwy gyfrwng GOV.UK. Bydd CThEM yn rhoi cymorth i gwsmeriaid sydd ei angen.

Bydd parau sy’n dewis peidio â chofrestru yn gallu gwneud cais uniongyrchol am y lwfans nes ymlaen yn ystod 2015.

5. I gael mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth, ac i gofrestru i fynegi diddordeb, ewch i gov.uk/marriageallowance.