Canllawiau

Credyd Cynhwysol: cynlluniau dychwelyd i waith

Diweddarwyd 15 October 2024

Pan fyddwch yn hawlio Cymhorthdal Incwm oherwydd eich bod yn ddi-waith a disgwylir i chi chwilio neu baratoi am waith, mae ystod o gynlluniau ar gael i ddatblygu eich sgiliau a’ch profiad i’ch helpu i ddod o hyd i waith.

Yn ystod eich amser ar Gredyd Cynhwysol byddwch chi a’ch anogwr gwaith yn cytuno ar y camau sydd angen i chi eu cymryd i baratoi at waith nawr neu yn y dyfodol ac efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio at un neu fwy o’r cyfleoedd hyn. Er enghraifft, os oes angen gwella ar eich Saesneg neu Fathemateg, neu os byddai ennill cymhwyster cydnabyddedig yn helpu i gael gwaith mewn sector benodol.

Bydd profiad gwaith gyda chyflogwr yn gadael i chi ychwanegu ychydig o hanes gyrfa i’ch CV ac ennill llawer o’r sgiliau mae cyflogwyr eu hangen

Gall eich anogwr gwaith ddweud wrthych os bydd y cynlluniau a grybwyllir yn y canllaw hwn yn addas i chi.

Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am y gwahanol gynlluniau sydd ar gael i chi, gan gynnwys beth mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn disgwyl gennych os ydych yn cytuno i ddechrau a tra rydych yn mynychu. Dylech ddweud wrth eich anogwr gwaith os oes gennych unrhyw bryderon am yr hyn a olygir gan gynllun neu beth sy’n ofynnol i chi ei wneud.

Bydd eich anogwr gwaith am i chi ofyn cwestiynau fel eich bod yn gallu elwa o fynychu’r cyfle mwyaf addas. Cofiwch y rheswm rydym yn cynnig y cyfleoedd hyn yw i’ch helpu i baratoi am a dychwelyd i’r gwaith.

Mae rhai o’r cyfleoedd yn cael eu darparu gan gyflogwyr ac eraill gan sefydliadau sy’n gweithio gyda ni i gynnig yr hyfforddiant ar profiad gwaith rydych ei angen. Rydym yn cyfeirio atynt fel ‘ddarparwyr’.

Os, ar ôl darllen y canllaw hwn, rydych yn teimlo y byddai un neu fwy o’r cyfleoedd hyn yn eich helpu, dylech ei drafod â’ch anogwr gwaith. Gall eich anogwr gwaith hefyd drafod unrhyw gymorth lleol arall sydd hefyd ar gael drwy eich canolfan gwaith.

Siaradwch â’ch anogwr gwaith os byddwch angen help i ddeall y canllaw hwn, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill.

Noder:

Bwriedir y canllaw hwn ar gyfer pobl sydd yn derbyn Credyd Cynhwysol ac sydd wedi cytuno i wneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith neu i baratoi at waith sydd wedi’u disgrifio yn eich ymrwymiad hawlydd.

Hyfforddiant neu help arall i ennill sgiliau newydd

Mae anogwyr gwaith yn gwirio’r sgiliau sydd gennych a’r rhai nad oes gennych sy’n eich atal rhag dechrau gweithio. Os mai diffyg sgiliau penodol yw’r prif beth sy’n eich atal rhag gweithio, gallwch gael eich cyfeirio at asesiad sgiliau gyda darparwr i gael yr hyfforddiant rydych ei angen i ddysgu’r sgiliau hyn.

Academi Gwaith Seiliedig ar Sector

Mae’r cyfleoedd hyn ar gael os ydych yn byw yn Lloegr neu’r Alban. Bydd yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r ymddygiadau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn gweithwyr newydd. Mae Academi Gwaith Seiliedig ar Sector yn cynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith mewn math o swydd benodol. Ar y diwedd, byddwch naill ai’n cael cyfweliad swydd neu help gyda phroses gwneud cais y cyflogwr.

Treialon Gwaith

Treialon Gwaith yw cyfnod prawf ar gyfer swydd go iawn lle gallwch chi a’r cyflogwr gymryd rhan heb ymrwymiad pellach. Dyma gyfle delfrydol i sicrhau bod y swydd yn iawn i chi, cyn i chi ddechrau. Nid yw Treial Gwaith yn para mwy na 30 diwrnod, er maent yn debygol o fod yn fyrrach.

Sancsiynau budd-dal

Sancsiwn budd-dal yw pryd y caiff eich arian ei stopio neu ei leihau am gyfnod penodol. Mae sancsiynau fel arfer yn digwydd os nad ydych wedi bodloni’r amodau ar gyfer cael budd-daliadau, yn cynnwys gwrthod cymryd rhan neu gwblhau gweithgareddau neu gynlluniau penodol.

Hyfforddiant neu help arall i ennill sgiliau newydd

Os nad oes gennych y math o sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, efallai y cewch gynnig y gefnogaeth rydych ei angen i wella’ch sgiliau, gan gynnwys cael eich sgiliau wedi’u hasesu, a/neu fynychu hyfforddiant i’ch helpu i gael y sgiliau sydd eu hangen i symud i mewn, ac aros yn y gwaith

Efallai y bydd eich anogwr gwaith yn gofyn i chi gymryd camau i wella’ch sgiliau. Efallai y gofynnir i chi:

  • gwrdd ag ymgynghorydd gyrfaoedd i drafod eich sgiliau a’ch amcanion swydd

  • cwrdd â darparwr hyfforddiant (megis mewn coleg) i drafod hyfforddiant

  • cwblhau cwrs hyfforddiant.

Efallai y cytunir ar hyn fel rhan o’ch Ymrwymiad Hawlydd. Os felly, rhaid i chi gwblhau’r gweithgaredd hwn neu gellir lleihau neu stopio eich budd-daliadau. Gelwir hyn yn sancsiwn budd-dal.

Bydd ymgynghorydd gyrfaoedd yn eich helpu i ystyried y math o swyddi yr hoffech eu gwneud, y sgiliau sydd gennych a sut y gall hyfforddiant wella’ch cyfle o ddod o hyd i waith neu swydd â chyflog gwell.

Bydd darparwr hyfforddiant yn edrych i asesu:

  • eich sgiliau Saesneg, Mathemateg, a Thechnoleg Gwybodaeth Gyfrifiadurol (ICT)

  • eich sgiliau iaith llafar, os nad Cymraeg neu Saesneg yw eich iaith gyntaf

  • unrhyw sgiliau neu gymwysterau sy’n benodol i swydd sydd gennych eisoes

  • sgiliau gwaith eraill o swyddi blaenorol neu brofiad gwaith

Am faint o amser mae’n para?

Os cewch eich cyfeirio i fynychu cwrs, bydd faint o amser y byddwch yn ei dreulio yn hyfforddi yn dibynnu ar y math o gwrs a’r help rydych ei angen i wella’ch sgiliau. Mae hyfforddiant ar gyfer swyddi penodol, fel hyfforddiant gwasanaeth cwsmeriaid, yn para am un i ddwy wythnos fel arfer. Fel rheol bydd hyfforddiant i wella eich sgiliau Saesneg, mathemateg neu gyfrifiadurol yn hirach. Bydd eich anogwr gwaith yn esbonio beth mae’r cwrs yn ei olygu a phryd y mae angen i chi fynychu.

Pryd y gallaf gymryd rhan?

Pan fyddwch yn mynychu’ch cyfweliad cyntaf gyda’ch anogwr gwaith, byddant yn trafod os yw asesu’ch sgiliau a dechrau hyfforddiant priodol yn addas i chi.

Oes rhaid i mi fynychu?

Os yw’ch anogwr gwaith yn eich anfon i gwrdd ag ymgynghorydd gyrfaoedd neu ddarparwr hyfforddiant, rhaid i chi fynychu’r apwyntiad.

Os bydd gofyn i chi fynychu hyfforddiant, rhaid i chi fynychu a chwblhau unrhyw weithgaredd y cytunwyd arno gyda’ch anogwr gwaith ac sydd wedi’i gofnodi ar eich Ymrwymiad Hawlydd.

Os ydych yn methu â mynychu cyfweliad gydag ymgynghorydd gyrfaoedd neu ddarparwr hyfforddiant neu rydych yn methu â mynychu unrhyw gwrs hyfforddiant fel y cytunwyd  gyda’ch anogwr gwaith, heb reswm da, gallai eich budd-dal gael ei leihau neu ei stopio. Gelwir hyn yn sancsiwn budd-dal.

Os ydych yn dechrau hyfforddiant a gofynnir i chi adael oherwydd camymddwyn difrifol (fel dwyn, trais neu gam-drin geiriol), efallai y bydd eich budd-dal yn cael ei sancsiynu.

Bydd Rhan 1 o Deddf Diwygio Lles 2012 a Rheoliadau Credyd Cynhwysol 2013 yn gymwys.

Darganfyddwch fwy am sancsiynau

A fyddaf yn cael help gydag unrhyw gostau?

Efallai y bydd yn rhaid i chi deithio i’r man lle cynhelir yr hyfforddiant. Gallwch gael help ar gyfer cost eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus ac unrhyw gostau gofal plant priodol. Trafodwch hyn gyda’ch anogwr gwaith a fydd yn gallu dweud wrthych a ydych yn gymwys i gael help gyda chostau a sut rydych yn gwneud cais.

A fydd dal angen i mi fynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith a chwilio am waith?

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, byddwch wedi derbyn Ymrwymiad Hawlydd sy’n nodi beth y mae angen i chi ei wneud i gadw mewn cysylltiad â’ch anogwr gwaith a’r pethau y mae’n rhaid i chi eu gwneud i baratoi ar gyfer gwaith a chwilio am waith. Os bydd bod ar hyfforddiant yn eich atal rhag mynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith neu wneud pethau eraill a nodir yn eich Ymrwymiad Hawlwyr, rhaid i chi gysylltu â’ch anogwr gwaith ymlaen llaw.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cael swydd?

Gan eich bod yn dal i allu hawlio Credyd Cynhwysol pan fyddwch yn gweithio, mae’n bwysig dweud wrthym os ydych yn dod o hyd i waith â thâl. Os ydych yn gweithio, efallai na fydd yn rhaid i chi fynychu cyfweliadau gyda ni mwyach ac efallai y byddwn yn dal i allu talu Credyd Cynhwysol i chi. Cadwch mewn cysylltiad â ni i sicrhau nad ydych yn colli allan ar arian y mae gennych hawl iddo.

Academi Gwaith Seiliedig ar Sector

Mae’r Rhaglenni Academi Gwaith Seiliedig ar Sector (SWAPs) ar gael yn Lloegr a’r Alban. Maent wedi cael eu cynllunio i helpu pobl sydd yn barod i ddechrau gweithio, ond sydd efallai angen dysgu’r sgiliau a’r ymddygiadau y mae cyflogwyr mewn diwydiannau penodol yn chwilio amdanynt mewn gweithwyr newydd.

Os bydd eich anogwr gwaith yn trafod SWAP gyda chi, gallwch benderfynu cymryd rhan neu beidio, ond unwaith y byddwch wedi cytuno i ymuno mae’n rhaid i chi gwblhau rhai rhannau o’r cynllun. Bydd eich cyfleoedd o gael a chadw swydd gyda’r cyflogwr sy’n cynnal, neu gyflogwr arall sy’n cynnig gwaith tebyg, yn gwella drwy gwblhau SWAP.

Defnyddir y cynllun SWAP gan gyflogwyr i’w helpu i recriwtio i mewn i sectorau swyddi sydd â galw uchel am staff. Felly, bydd y math o SWAP sydd ar gael yn lleol yn amrywio. Mae SWAP wedi ei gynllunio i’ch helpu i fagu hyder mewn modd sy’n gwella eich rhagolygon swydd ac yn ychwanegu at eich CV.

Am faint o amser mae’n para?

Mae’r SWAP yn para hyd at 6 wythnos ac yn rhoi hyfforddiant a phrofiad gwaith i chi mewn math o swydd benodol. Ar y diwedd, byddwch yn cael naill ai cyfweliad swydd neu help gyda phroses gwneud cais y cyflogwr.

Pryd allaf gymryd rhan?

Os oes gennych ddiddordeb mewn dechrau SWAP, siaradwch â’ch anogwr gwaith, a fydd yn trafod gyda chi y math o gyfleoedd sydd ar gael yn eich ardal leol ac a yw Academi Gwaith Seiliedig ar Sector yn addas i chi.

A oes rhaid i mi fynychu?

Mae penderfynu derbyn y cynnig o SWAP yn wirfoddol. Ond unwaith y byddwch wedi cytuno i ddechrau, mae’n rhaid i chi gwblhau’r hyfforddiant cyn-gyflogaeth, a mynychu’r cyfweliad gwarantedig am swydd (os yw wedi’i gynnwys).

Os byddwch yn methu cwblhau  y rhannau o SWAP mae angen i chi eu gwneud heb reswm da, gallai eich budd-dal gael ei leihau neu ei stopio.

Mae’r SWAP hefyd yn cynnwys profiad gwaith. Nid yw hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i chi ei wneud ond rydym yn eich annog i gymryd rhan lle bynnag y bo modd. Mae profiad gwaith yn amhrisiadwy ac yn caniatáu i chi a’r cyflogwr sy’n cynnal i weld a ydych yn addas ar gyfer y math o waith sydd ar gael.

Ni chaiff eich budd-dal ei stopio neu ei leihau (sancsiynu) os penderfynwch beidio â chymryd y lleoliad profiad gwaith.

Os ydych chi’n dechrau SWAP a gofynnir i chi adael oherwydd camymddwyn difrifol (fel dwyn, trais neu gam-drin geiriol), gan gynnwys yn ystod profiad gwaith, efallai y bydd eich budd-dal yn cael ei sancsiynu.

Bydd Rhan 1 o Deddf Diwygio Lles 2012 a Rheoliadau Credyd Cynhwysol 2013 yn gymwys.

Darganfyddwch fwy am sancsiynau

A fyddaf yn cael help gydag unrhyw gostau?

Efallai y bydd yn rhaid i chi deithio i leoliad gwaith y cyflogwr. Gallwch gael help ar gyfer cost eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus ac unrhyw gostau gofal plant priodol. Trafodwch hyn gyda’ch anogwr gwaith a fydd yn gallu dweud wrthych a ydych yn gymwys i gael help gyda chostau a sut rydych yn gwneud cais.

Efallai y bydd yn rhaid i chi deithio i leoliad gwaith y cyflogwr neu i ble mae’r hyfforddiant yn cael ei gynnal. Gallwch gael help ar gyfer cost eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus ac unrhyw gostau gofal plant priodol.

Oes rhaid i mi dderbyn y swydd os caiff ei gynnig i mi yn dilyn y cyfweliad gwarantedig?

Mae’n ofynnol i bobl sy’n cael Credyd Cynhwysol oherwydd diweithdra gymryd swydd pan fydd yn cael ei gynnig. Os cynigir swydd neu brentisiaeth i chi yn dilyn y cyfweliad gwarantedig ar gyfer SWAP, efallai y bydd eich anogwr gwaith angen i chi ei derbyn.

Os bydd hyn yn digwydd ond nad ydych y derbyn y swydd, fe’i gelwir yn ‘gwrthod cyflogaeth’ a bydd eich budd-dal yn cael ei stopio neu ei leihau (sancsiynu) am beidio â derbyn y swydd oni bai fod gennych reswm da. Dylech siarad â’ch anogwr gwaith i ddarganfod mwy o wybodaeth.

A fydd dal angen i mi fynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith a chwilio am waith?

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, byddwch wedi derbyn Ymrwymiad Hawlydd sy’n nodi beth y mae angen i chi ei wneud i gadw mewn cysylltiad â’ch anogwr gwaith a’r pethau y mae’n rhaid i chi eu gwneud i baratoi ar gyfer gwaith a chwilio am waith. Os bydd bod ar SWAP yn eich atal rhag mynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith neu wneud pethau eraill a nodir yn eich Ymrwymiad Hawlydd, rhaid i chi gysylltu â’ch anogwr gwaith ymlaen llaw.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cael swydd?

Gan eich bod yn dal i allu hawlio Credyd Cynhwysol pan fyddwch yn gweithio, mae’n bwysig dweud wrthym os ydych yn dod o hyd i waith â thâl. Os ydych yn gweithio, efallai na fydd yn rhaid i chi fynychu cyfweliadau gyda ni mwyach ac efallai y byddwn yn dal i allu talu Credyd Cynhwysol i chi. Cadwch mewn cysylltiad â ni i sicrhau nad ydych yn colli allan ar arian y mae gennych hawl iddo.

Bydd Rhan 1 o Deddf Diwygio Lles 2012 a Rheoliadau Credyd Cynhwysol 2013 yn gymwys.

Profiad gwaith

Os nad oes gennych lawer neu ddim hanes gwaith, gall profiad gwaith eich helpu i gael profiad gyda chyflogwyr sy’n cynnal y gellir ychwanegu at eich CV. Fel arfer, mae profiad gwaith wedi’i anelu at bobl 18 i 24 oed, ond gall hefyd fod yn ddefnyddiol i geiswyr gwaith hŷn. Bydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych pa gyfleoedd sydd ar gael.

Pam ddylwn i fod â diddordeb mewn profiad gwaith?

Mae profiad gwaith yn rhoi cyfle i chi ychwanegu rhywfaint o brofiad hanfodol i adran gyrfa ar ffurflenni cais a’ch CV, gan gynnwys cael canolwr. Mae hefyd yn helpu gyda:

  • gwella eich rhagolygon o gael swydd

  • gweld pa sgiliau ac ymddygiadau y mae cyflogwyr eu heisiau gan bobl

  • gweld sut y mae eich sgiliau yn cydweddu â’r gweithle

  • magu eich hyder

  • dangos y sgiliau sydd gennych i gyflogwr

Beth fydd bod ar brofiad gwaith yn ei olygu?

Bydd hyn yn amrywio, ond mae rhai enghreifftiau yn cynnwys gweithio mewn swyddfa, warws, siop neu fwyty. Bydd y cyflogwr sy’n cynnal yn esbonio eich dyletswyddau, ond gallai gynnwys pethau fel gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli stoc neu ddyletswyddau gweinyddol.

Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn dangos yr un safonau ymddygiad â gweithwyr eraill, yn enwedig:

  • presenoldeb

  • cadw amser

  • hylendid personol ac ymddangosiad

  • dilyn yr holl reolau Iechyd a Diogelwch a roddir i chi gan y cyflogwr sy’n cynnal.

Am faint o amser mae’n para?

Gallwch wneud profiad gwaith gyda chyflogwr sy’n cynnal yn yr ardal rydych yn byw ynddo. Mae profiad gwaith yn para am 2 i 8 wythnos, a bydd disgwyl i chi wneud 25 i 30 awr yr wythnos (oni bai eich bod wedi cytuno ar gyfyngiadau ar yr oriau y byddwch yn eu gweithio, a elwir yn ‘argaeledd’, gyda’ch anogwr gwaith).

Os bydd y cyflogwr sy’n cynnal yn cynnig prentisiaeth i chi (sy’n swydd â thâl gyda hyfforddiant, ac rydych yn ei derbyn, gallwch wneud hyd at bedair wythnos ychwanegol o brofiad gwaith tra bod y gwaith papur ar gyfer eich prentisiaeth yn cael ei gwblhau. Byddwch yn parhau i gael budd-dal hyd nes bod eich prentisiaeth yn dechrau.

Os ydych ar y Rhaglen Cymorth Rhwymedigaeth Ieuenctid (ar gyfer ceiswyr gwaith 18 i 21 oed) ac wedi bod yn ddi-waith am 6 mis, byddwch yn cael cynnig cyfle profiad gwaith 3 mis gwarantedig, os na fyddwch yn mynd ar hyfforddiant arall sy’n gysylltiedig â gwaith ar yr amser hyn, i’ch helpu i gyflawni eich nodau swydd.

Pryd allai gymryd rhan?

Mae lleoliadau profiad gwaith ar agor i chi o ddiwrnod 1 eich cais, bydd eich anogwr gwaith yn trafod gyda chi os oes lleoliadau sy’n addas i chi.

Sut y gallaf ddarganfod am gyfle profiad gwaith?

Efallai y byddwch yn dod o hyd i gyfle eich hun neu bydd eich anogwr gwaith yn nodi beth sydd ar gael, ac yn dibynnu ar y cyflogwr efallai y bydd rhaid i chi fynd drwy broses ymgeisio. Gallai hyn olygu cwblhau ffurflen gais neu fynd i gyfweliad anffurfiol. Bydd y broses hon yn eich helpu i adeiladu ar eich sgiliau gwneud cais.

Os byddwch yn dod o hyd i gyfle eich hun, mae’n bwysig rhoi gwybod i’ch anogwr gwaith a all sicrhau bod y cyflogwr yn addas ac yn cynnig cyfle profiad gwaith o safon.

Bydd eich anogwr gwaith yn gofyn i chi lofnodi ffurflen ganiatâd data fel y gallent rannu eich gwybodaeth gyda’r cyflogwr sy’n cynnal.

A oes rhaid i mi fynychu?

Mae penderfynu derbyn cynnig lleoliad profiad gwaith yn gwbl wirfoddol.

Unwaith y byddwch wedi cytuno i fynychu’r lleoliad profiad gwaith, mae’n fuddiol i chi fynychu a chymryd rhan, ond nid yw’n rhywbeth y mae’n ofynnol i chi ei wneud.

Ni chaiff eich budd-dal ei stopio neu ei leihau (sancsiynu) os penderfynwch beidio â chymryd neu gwblhau’r lleoliad profiad gwaith.

A fyddaf yn cael help gydag unrhyw gostau?

Bydd yn rhaid i chi deithio i leoliad gwaith y cyflogwr, gallwch gael help ar gyfer cost eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus ac unrhyw gostau gofal plant priodol.

Oes rhaid i mi dderbyn y swydd os caiff ei gynnig i mi yn dilyn y cyfweliad gwarantedig?

Os cynigir swydd i chi yn ystod neu ar ôl eich profiad gwaith, mae’n debygol y bydd eich anogwr gwaith yn eich annog i’w dderbyn, ac mae’n debyg y bydd gofyn i chi ei dderbyn. Os bydd hyn yn digwydd ond nad ydych y derbyn y swydd, fe’i gelwir yn ‘gwrthod cyflogaeth’ a gallech gael eich sancsiynu am beidio â derbyn y swydd oni bai fod gennych reswm da. Dylech siarad â’ch anogwr gwaith i ddarganfod mwy o wybodaeth.

A fydd dal angen i mi fynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith a chwilio am waith?

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, byddwch wedi derbyn Ymrwymiad Hawlydd sy’n nodi beth y mae angen i chi ei wneud i gadw mewn cysylltiad â’ch anogwr gwaith a’r pethau y mae’n rhaid i chi eu gwneud i baratoi ar gyfer gwaith a chwilio am waith. Os bydd bod ar brofiad gwaith yn eich atal rhag mynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith neu wneud pethau eraill a nodir yn eich Ymrwymiad Hawlwyr, rhaid i chi gysylltu â’ch anogwr gwaith ymlaen llaw.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cael swydd?

Gan eich bod yn dal i allu hawlio Credyd Cynhwysol pan fyddwch yn gweithio, mae’n bwysig dweud wrthym os ydych yn dod o hyd i waith â thâl. Os ydych yn gweithio, efallai na fydd yn rhaid i chi fynychu cyfweliadau gyda ni mwyach ac efallai y byddwn yn dal i allu talu Credyd Cynhwysol i chi. Cadwch mewn cysylltiad â ni i sicrhau nad ydych yn colli allan ar arian y mae gennych hawl iddo.

Y Rhaglen Waith ac Iechyd a Pioneer

Mae’r Rhaglen Waith ac Iechyd a Pioneer yn cael ei darparu gan ddarparwyr preifat, cyhoeddus a gwirfoddol i ddarparu cyflogaeth barhaus i bobl anabl, grwpiau sydd dan anfantais a’r di-waith hirdymor.

Pan ymunwch â’r Rhaglen Waith ac Iechyd neu Pioneer bydd eich darparwr yn dweud wrthych am y gefnogaeth y byddant yn gallu ei roi i chi a sut y gallant eich helpu. Gyda’ch gilydd, byddwch yn gwneud cynllun gweithredu o bethau y mae angen i chi eu gwneud i baratoi ar gyfer gwaith.

Pryd y byddaf yn cael fy nghyfeirio at y Rhaglen Waith ac Iechyd neu Pioneer?

Mae’r Rhaglen Waith ac Iechyd a Pioneer yn raglenni gwirfoddol. Bydd angen i chi drafod ymuno y naill raglan neu’r llall gyda’ch anogwr gwaith.

Am faint o amser mae’n para?

Bydd eich darparwr Rhaglen Gwaith ac Iechyd neu Pioneer yn eich cefnogi am 456 diwrnod (15 mis), hyd yn oed os yw’ch budd-dal yn newid neu os byddwch yn dod o hyd i swydd.

Os ydych yn dod o hyd i swydd, gallant gynyddu’r gefnogaeth i 639 diwrnod (21 mis) os byddwch ei angen.

Beth fydd yn digwydd yn ystod y Rhaglen Waith ac Iechyd neu Pioneer?

Oherwydd bod y Rhaglen Waith ac Iechyd a Pioneer wedi’i theilwra i unigolion, bydd y math o gymorth yn cael ei bersonoli i anghenion y sawl sy’n cymryd rhan. Mae enghreifftiau o’r math o gefnogaeth sydd ar gael yn cynnwys y sawl sy’n cymryd rhan yn cael gweithiwr allweddol personol gyda chyswllt wyneb yn wyneb rheolaidd, mentora a chymorth cyfoedion, mynediad integredig at rwydweithiau cymorth arbenigol ar lefel leol gan gynnwys gweithwyr proffesiynol iechyd a lles a chymorth gan arbenigwyr cyflogedig ymroddedig â gwybodaeth am gyfleoedd gwaith lleol.

Ble bydd fy nghyfarfodydd Rhaglen Waith ac Iechyd neu Pioneer yn cael ei gynnal?

Bydd eich darparwr Rhaglen Gwaith ac Iechyd neu Pioneer yn anfon llythyr atoch i roi gwybod i chi am amser, dyddiad a lleoliad eich cyfarfod.

Treialon Gwaith

Mae rhai pobl rydym yn gwybod eu bod yn fwy tebygol o gael trafferth o ran cystadlu am swyddi a sicrhau cyflogaeth. Rydym hefyd yn gwybod y gall rhai cyflogwyr fod ag amheuon am rai pobl, ac efallai y byddant yn llai tebygol o gyflogi rhywun y mae ganddynt amheuon amdanynt.

Pwrpas Treial Gwaith yw goresgyn unrhyw amheuon sydd gan gyflogwr a/neu efallai y bydd gennych chi yn dilyn cyfweliad ffurfiol am swydd wag. Yn syml, i’r ddau barti, mae Treial Gwaith yn gyfle i ‘roi cynnig arni cyn i chi brynu’.

Gallwch ddechrau Treial Gwaith os yw’r swydd y mae’r cyflogwr wrthi’n ceisio ei llenwi yn un y cynigir i chi wneud cais amdani. Mae hyn yn golygu, drwy gydol y treial, mai chi yw’r unig berson dan ystyriaeth ar gyfer y swydd wag dan sylw, sy’n golygu bod y swydd yno i chi os ydych chi a’r cyflogwr yn fodlon ar ôl y cyfnod prawf.

Mae’n rhaid i’r cyflogwr gael swydd wag wirioneddol y maent yn edrych i’w llenwi:

  • rhaid i’r swydd wag bara am 16 awr yr wythnos neu fwy

  • rhaid disgwyl i’r swydd bara o leiaf 13 wythnos

  • rhaid i’r swydd wag fod yn y Deyrnas Unedig

  • ni fydd y swydd wag mewn galwedigaeth neu sector y mae DWP yn ei ystyried yn amhriodol

Mae’r pwyntiau hanfodol hyn yn rhoi ei hunaniaeth unigryw i Dreial Gwaith a’i wahanu oddi wrth Brofiad Gwaith neu hyfforddiant arall yn y gwaith y gellid ei gynnal o fewn rhaglenni marchnad lafur eraill.

Maent wedi’u cynllunio i helpu pobl sy’n barod i ddechrau gweithio, ond a allai fod angen dysgu’r sgiliau a’r ymddygiadau y mae cyflogwyr mewn diwydiannau penodol yn chwilio amdanynt mewn gweithwyr newydd.

Am faint o amser mae’n para?

Rydym yn argymell yn gryf y dylai’r cyfnod prawf cychwynnol fod am ychydig ddyddiau yn unig. Yna gellir adolygu ac ymestyn hyn, os yw pawb yn cytuno.

Mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, gall treial bara hyd at uchafswm o 30 diwrnod gwaith (dros gyfnod nad yw’n fwy na 6 wythnos calendr), ac rydych yn penderfynu hyd pob Treial Gwaith gyda’r cyflogwr.

Pryd allai gymryd rhan?

Os ydych yn credu y byddai dechrau Treial Gwaith yn eich helpu gyda’r swyddi rydych yn gwneud cais amdanynt, siaradwch â’ch anogwr gwaith, a fydd yn ei drafod gyda chi ac, os yw’n briodol, eich helpu i gael cynnig o Dreial Gwaith.

A oes rhaid i mi fynychu?

Mae cymryd rhan mewn treial gwaith yn gwbl wirfoddol, os cytunir ar gyfnod prawf gyda chyflogwr, rydym yn eich annog i fanteisio ar y cyfle hwn i ddod dros unrhyw amheuon a allai fod gennych chi neu’r cyflogwr.

Ni chaiff eich budd-dal ei stopio neu ei leihau (sancsiynu) os penderfynwch beidio â chymryd Treial Gwaith neu os ydych yn penderfynu wrth ei wneud nad yw’r swydd yn addas i chi.

A fyddaf yn cael help gydag unrhyw gostau?

Mae’n amlwg y bydd yn rhaid i chi deithio i weithle cyflogwyr ac mae’r DWP yn glir na fydd unrhyw hawlydd “allan o boced”, felly trafodwch eich treuliau teithio gyda’ch anogwr gwaith oherwydd gallwch gael help ar gyfer cost eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus ac unrhyw gostau gofal plant priodol.

Bydd disgwyl i chi dalu costau unrhyw brydau bwyd a brynir yn ystod eich Treial Gwaith.

Oes rhaid i mi dderbyn y swydd os caiff ei gynnig i mi yn dilyn y Treial Gwaith?

Mae Treialon Gwaith wedi’u cynllunio i’ch helpu i wneud y penderfyniad cywir wrth dderbyn swydd. Os cynigir y swydd neu brentisiaeth i chi yn ystod/yn dilyn y Treial Gwaith, chi sy’n penderfynu a ydych am ei dderbyn ai peidio. Nid yw’ch anogwr gwaith yn gofyn i chi ei dderbyn fel rhan o’ch cais am fudd-dal Credyd Cynhwysol.

A fydd dal angen i mi fynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith a chwilio am waith?

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, byddwch wedi derbyn Ymrwymiad Hawlydd sy’n nodi beth y mae angen i chi ei wneud i gadw mewn cysylltiad â’ch anogwr gwaith a’r pethau y mae’n rhaid i chi eu gwneud i baratoi ar gyfer gwaith a chwilio am waith. Tra byddwch ar Dreial Gwaith mae’n dal yn ofynnol i chi fodloni’r gofynion a nodir yn eich Ymrwymiad Hawlydd, gan gynnwys mynychu cyfarfodydd gyda’ch anogwr gwaith. Bydd eich anogwr gwaith yn gwneud trefniadau gyda chi i sicrhau eich bod yn gallu mynychu unrhyw gyfarfod o’r fath.

Os ydych yn teimlo bod eich Treial Gwaith yn eich atal rhag gwneud y pethau a nodir yn eich Ymrwymiad Hawlydd, mae’n rhaid i chi gysylltu â’ch anogwr gwaith ymlaen llaw.

Sancsiynau budd-dal os ydych yn ddi-waith ac yn chwilio am waith

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol mae rhai pethau rydym yn disgwyl i chi eu gwneud i barhau i dderbyn eich budd-dal.

Byddwch yn cwrdd âg anogwr gwaith a fydd yn cael gwybod am eich sefyllfa. Byddant yn:

  • helpu i nodi’r hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud i ddod o hyd i waith (bydd y camau hyn yn cael eu hychwanegu at eich Ymrwymiad Hawlydd)

• adolygu eich cynnydd naill ai wyneb yn wyneb neu drwy eich dyddlyfr yn rheolaidd

Efallai y bydd angen i chi gymryd rhan mewn cyfleoedd sydd wedi’u cynllunio i wella’ch rhagolygon gwaith ac sydd wedi eu disgrifio yn y canllaw hwn. Mae’r cyfleoedd hyn yn cael eu darparu gan ddarparwyr i’ch helpu i ddod o hyd i waith ac aros ynddo. Efallai y bydd eich darparwr hefyd yn nodi pethau ychwanegol y mae’n rhaid i chi eu gwneud i ddod o hyd i waith.

Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud popeth o fewn eich gallu i ddod o hyd i waith. Yn gyfnewid am hyn, byddwch yn derbyn eich taliad budd-dal a’n cefnogaeth. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud popeth y gallant. Os na wnewch hynny, gallai eich taliad budd-dal gael ei leihau neu ei stopio dros dro (sancsiwn).

Beth mae’n rhaid i mi ei wneud i gadw fy nhaliad llawn o fudd-daliadau?

Byddwch yn cael eich taliad llawn cyn belled â’ch bod yn:

  • mynd i gyfarfodydd ar amser gyda’ch anogwr gwaith a chymryd rhan mewn cyfweliadau

  • gwneud cais am swyddi addas naill ai rydych chi neu’ch anogwr gwaith yn eu nodi

  • gweithredu ar weithgareddau/pethau i’w gwneud sy’n cael eu hanfon atoch drwy’ch Dyddlyfr (ar gyfer y rhai sy’n hawlio Gwasanaeth Llawn UC), fel mynychu cwrs hyfforddiant neu ddiweddaru eich CV

  • gwneud popeth o fewn eich gallu i ddod o hyd i waith drwy ymgymryd â’r holl gamau a ddisgrifir yn eich Ymrwymiad Hawlydd

  • cymryd rhan mewn cyfleoedd rydych yn cytuno i fynychu yn dilyn trafodaethau gyda’ch anogwr gwaith neu asesiad gyda darparwr. Bydd angen i chi barhau i gwrdd â’ch anogwr gwaith (gweithredu eich dyddlyfr o fewn Gwasanaeth Llawn UC) a gwneud y gweithgareddau a nodir yn eich Ymrwymiad i Hawlydd

  • os na allwch neu os nad ydych wedi gwneud y pethau hyn, dywedwch wrth eich anogwr gwaith neu ddarparwr pam yn syth

Os gallwch ddangos bod gennych reswm da, byddwch yn parhau i gael eich taliad llawn o fudd-dal. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch, cyn gynted â phosibl. Er enghraifft, ffoniwch eich anogwr gwaith os na allwch ddod i gyfarfod a rhowch wybod iddynt pam.

Os na fyddwch yn gwneud y pethau hyn, ac nad oes gennych reswm da, gallai eich taliad budd-dal gael ei leihau neu ei stopio am gyfnod o amser.

Mae’n bwysig eich bod yn deall beth sy’n rhaid i chi ei wneud i gael eich taliad budd-dal, a beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn gwneud hyn. Gofynnwch i’ch anogwr gwaith i egluro os nad ydych yn siŵr.

Am faint o amser y gellir stopio neu leihau fy nhaliad budd-dal?

Mae faint o amser y bydd eich budd-dal yn cael ei stopio neu’i leihau yn dibynnu ar:

  • y rheswm rydych yn hawlio budd-dal. Er enghraifft, os cawsoch eich diswyddo am gamymddwyn yn eich swydd ddiwethaf, neu adael heb reswm da

  • beth nad ydych wedi’i wneud i ddod o hyd i waith

  • p’un a yw eich taliad budd-dal wedi’i stopio, neu fod eich cais wedi’i derfynu yn y flwyddyn ddiwethaf, a’r rheswm neu resymau) dros hyn.

Mathau o sancsiynau budd-dal

Byddwch yn cael sancsiwn lefel is os:

  • nad ydych yn mynd i gyfarfodydd ar amser gyda’ch anogwr gwaith a chymryd rhan mewn cyfweliadau

  • nad ydych yn gwneud beth rydych wedi cytuno i’w wneud i ddod o hyd i waith, fel mynychu cwrs hyfforddiant neu ddiweddaru eich CV

  • nad ydych yn cymryd rhan mewn cyfleoedd fel y ddisgrifir yn y canllaw hwn ar ôl cytuno i fynychu

  • nad ydych yn cwrdd â darparwr eich cynllun cyflogaeth ar amser neu gymryd camau maent yn eu dweud wrthych i’w gwneud

Bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau neu ei stopio am nifer y ddyddiau o’r diwrnod y gwnaethoch fethu â gwneud yr hyn y gofynnwyd neu rydych wedi cytuno i’w wneud, hyd y diwrnod cyn i chi ei wneud neu wneud gweithgaredd tebyg a osodwyd gan eich anogwr gwaith neu ddarparwr cynllun.

Bydd eich budd-dal parhau i gael ei leihau neu ei stopio am gyfnod penodol pellach o 7, 14 neu 28 diwrnod yn dibynnu ar nifer yr achlysuron y cawsoch eich sancsiynu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Byddwch yn cael sancsiwn lefel uchel os:

  • rydych wedi cael eich diswyddo am gamymddwyn o’ch swydd ddiwethaf

  • rydych wedi gadael eich swydd ddiwethaf, neu golli cyflog o ganlyniad i gamymddwyn neu adael eich swydd ddiwethaf yn wirfoddol, heb reswm da

  • nad ydych yn cymryd camau i wneud cais am swyddi addas y bydd eich anogwr gwaith neu ddarparwr yn dweud wrthych amdanynt

  • nad ydych yn cymryd swydd a gynigir i chi

Mae sancsiwn lefel uchel yn golygu y bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei stopio am 13, 26 neu 156 wythnos yn dibynnu ar y nifer o weithiau rydych wedi cael eich sancsiynu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Os nad ydych yn gwneud popeth y gallwch i chwilio am waith a bod ar gael i weithio

Os ydych yn hawlydd Credyd Cynhwysol disgwylir i chi wneud popeth y gallwch yn rhesymol i ddod o hyd i waith a dechrau gweithio ar unwaith. Fel arall, efallai y byddwch yn derbyn sancsiwn lefel ganolig os nad oes gennych reswm da dros beidio â gwneud hynny.

Os cewch sancsiwn lefel ganolig, bydd eich budd-dal yn cael ei leihau neu ei stopio am gyfnod penodol o 28 neu 91 diwrnod yn dibynnu ar nifer yr achlysuron y cawsoch eich sancsiynu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Beth ddylwn ei wneud os bydd fy nhaliad budd-dal yn cael ei stopio neu os caiff fy nghais ei derfynu?

Os yw eich taliad budd-dal yn cael ei stopio, dylech barhau i wneud popeth o fewn eich gallu i ddod o hyd i waith. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gall eich taliad budd-dal gael ei stopio am gyfnod pellach, neu gall eich cais gael ei derfynu.

Os ydych yn cael g ostyngiad yn eich treth cyngor, dylech gysylltu â’ch cyngor lleol ar unwaith os caiff eich taliad Credyd Cynhwysol ei stopio neu’i leihau. Dylech gysylltu â hwy i ddeall pa wybodaeth y byddant eisiau gennych er mwyn sicrhau eich bod yn dal i gael unrhyw fudd-dal tai a gostyngiad yn eich treth cyngor y gallai fod gennych hawl i’w gael.

Taliadau caledi

Os yw eich taliad budd-dal yn cael ei stopio ac nad oes gennych ddigon o arian i fyw arno, efallai y byddwch yn gallu cael taliad caledi. Mae hwn yn swm llai o fudd-dal. Cysylltwch â ni os ydych am ddeall mwy am daliadau caledi ac i weld a allwch wneud cais.

Beth os nad wyf yn cytuno â’r penderfyniad i stopio neu leihau fy nhaliad budd-dal, ddod a fy nghais i ben?

Rhowch wybodaeth lawn i ni

Os ydych yn cael gwybod efallai y bydd eich taliad budd-dal yn cael ei stopio neu’i leihau, neu efallai y bydd eich cais yn cael ei derfynu, dylech roi gwybodaeth newydd ar unwaith am pam nad ydych wedi mynychu cyfarfodydd ar amser neu gymryd camau gweithredu.

Bydd swyddog gwneud penderfyniadau’r DWP, yn hytrach na’ch anogwr gwaith neu ddarparwr cynllun cyflogaeth, yn penderfynu os oes gennych reswm da.

Os byddant yn penderfynu nad oes gennych reswm da, byddant yn penderfynu pa mor hir i stopio eich taliad budd-dal, neu p’un ai ddod a’ch cais i ben. Gallwch ofyn pam fod penderfyniad wedi ei wneud drwy gysylltu â ni.

Gofyn i ni ailystyried y penderfyniad

Os ydych yn credu fod y penderfyniad yn anghywir, gallwch ofyn iddo gael ei edrych arno eto o fewn mis i’ch budd-dal cael ei stopio, ei leihau neu i’ch cais cael ei gau. Eglurwch pam fod y penderfyniad yn anghywir a dangoswch unrhyw dystiolaeth sydd gennych. Bydd y penderfyniad yn cael ei edrych arno eto a byddwn yn anfon llythyr i ddweud wrthych beth sydd wedi’i benderfynu a pham. Rydym yn galw’r llythyr hwn yn ‘Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol’.

Apêl

Os ydych yn anghytuno â’r Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol, gallwch apelio i dribiwnlys. Mae’n rhaid i chi aros am yr ‘Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol’ cyn i chi ddechrau apêl.