Lwfans Ceisio Gwaith: cynlluniau dychwelyd i waith
Diweddarwyd 15 October 2024
Pan fyddwch yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith oherwydd eich bod yn ddi-waith a disgwylir i chi chwilio neu baratoi am waith, mae ystod o gynlluniau ar gael i ddatblygu eich sgiliau a’ch profiad i’ch helpu i ddod o hyd i waith.
Yn ystod eich amser ar Lwfans Ceisio Gwaith, efallai y bydd eich anogwr gwaith yn eich cyfeirio at y cynlluniau hyn. Er enghraifft, os oes angen gwella ar eich Saesneg neu Fathemateg, neu os byddai ennill cymhwyster cydnabyddedig yn helpu. Neu efallai y byddwch yn gwneud profiad gwaith i ychwanegu ychydig o hanes gyrfa i’ch CV. Gall eich anogwr gwaith ddweud wrthych os bydd y cynlluniau a grybwyllir yn y canllaw hwn yn addas i chi.
Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am y gwahanol gynlluniau, gan gynnwys yr hyn rydym yn disgwyl i chi ei wneud pan fyddwch ar un. Dylech ddweud wrth eich anogwr gwaith os oes gennych unrhyw bryderon am yr hyn a olygir gan gynllun neu beth sy’n ofynnol i chi ei wneud. Bydd eich anogwr gwaith am i chi ofyn cwestiynau fel eich bod yn gallu elwa o fod ar gynllun. Cofiwch y rheswm mae gennym y cynlluniau hyn yw i’ch helpu i ddychwelyd i’r gwaith.
Mae rhai o’r cynlluniau yn cael eu darparu ar gyfer y Ganolfan Byd Gwaith gan sefydliadau eraill, a elwir yn ‘ddarparwyr’.
Os ydych yn teimlo y byddai un o’r cynlluniau hyn yn eich helpu, dylech ei drafod â’ch anogwr gwaith. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am unrhyw gymorth lleol arall sydd hefyd ar gael drwy eich canolfan gwaith.
Siaradwch â’ch anogwr gwaith os byddwch angen help i ddeall y canllaw hwn, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill.
Bwriedir y canllaw hwn ar gyfer pobl sydd ar Lwfans Ceisio Gwaith (JSA). Efallai y byddwch yn gallu gwneud rhai o’r cynlluniau hyn os ydych yn hawlio budd-daliadau eraill (fel Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA). Os oes gennych ddiddordeb yn un o’r cynlluniau hyn, dylech siarad â’ch anogwr gwaith ynghylch a allwch ei wneud a sut y gallai effeithio ar eich budd-dal.
Sgiliau
Rydym yn asesu pa sgiliau rydych eu hangen i ddechrau gweithio. Os diffyg sgiliau penodol yw’r prif beth sy’n eich atal rhag cael swydd, byddwn yn eich cyfeirio i gael asesiad sgiliau neu hyfforddiant.
Os nad yw’n glir pa sgiliau rydych eu hangen i’ch helpu i ddod o hyd i waith cewch eich cyfeirio am asesiad sgiliau manwl gan Yrfa Cymru yng Nghymru y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol yn Lloegr, a ‘My World of Work’ yn yr Alban.
Academi Gwaith Seiliedig ar Sector
Efallai y gallech fynychu Academi Gwaith Seiliedig ar Sector os ydych yn byw yn Lloegr neu’r Alban. Bydd yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r ymddygiadau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn gweithwyr newydd.
Mae Academi Gwaith Seiliedig ar Sector yn cynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith mewn math o swydd benodol. Ar y diwedd, byddwch naill ai’n cael cyfweliad swydd neu help gyda phroses gwneud cais y cyflogwr.
Profiad gwaith
Efallai y gallwch wirfoddoli i wneud cyfle profiad gwaith. Fel arfer mae profiad gwaith yn para am hyd at 2 i 8 wythnos, a disgwylir i chi wneud 25 i 30 awr yr wythnos.
Rydym yn galw cyflogwyr sy’n cynnig profiad gwaith yn ‘gyflogwyr sy’n cynnal’ a chyfeirir ato fel ‘profiad gwaith’.
Sancsiynau budd-dal
Sancsiwn budd-dal yw pryd y caiff eich arian ei stopio neu ei leihau am gyfnod penodol. Mae sancsiynau fel arfer yn digwydd os nad ydych wedi bodloni’r amodau ar gyfer cael budd-daliadau, yn cynnwys gwrthod cymryd rhan neu gwblhau gweithgareddau neu gynlluniau penodol.
Hyfforddiant neu help arall i ennill sgiliau newydd
Os nad oes gennych y math o sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, efallai y cewch gynnig y gefnogaeth rydych ei angen i wella’ch sgiliau, gan gynnwys cael eich sgiliau wedi’u hasesu, a/neu fynychu hyfforddiant i’ch helpu i gael y sgiliau sydd eu hangen i symud i mewn, ac aros yn y gwaith
Efallai y bydd eich anogwr gwaith yn gofyn i chi gymryd camau i wella’ch sgiliau. Efallai y gofynnir i chi:
-
gwrdd ag ymgynghorydd gyrfaoedd i drafod eich sgiliau a’ch amcanion swydd
-
cwrdd â darparwr hyfforddiant (megis mewn coleg) i drafod hyfforddiant
-
cwblhau cwrs hyfforddiant.
Efallai y cytunir ar hyn fel rhan o’ch Ymrwymiad Hawlydd. Os felly, rhaid i chi gwblhau’r gweithgaredd hwn neu gellir lleihau neu stopio eich budd-daliadau. Gelwir hyn yn sancsiwn budd-dal.
Bydd ymgynghorydd gyrfaoedd yn eich helpu i ystyried y math o swyddi yr hoffech eu gwneud, y sgiliau sydd gennych a sut y gall hyfforddiant wella’ch cyfle o ddod o hyd i waith neu swydd â chyflog gwell.
Bydd darparwr hyfforddiant yn edrych i asesu:
-
eich sgiliau Saesneg, Mathemateg, a Thechnoleg Gwybodaeth Gyfrifiadurol (ICT)
-
eich sgiliau iaith llafar, os nad Cymraeg neu Saesneg yw eich iaith gyntaf
-
unrhyw sgiliau neu gymwysterau sy’n benodol i swydd sydd gennych eisoes
-
sgiliau gwaith eraill o swyddi blaenorol neu brofiad gwaith
Am faint o amser mae’n para?
Bydd faint o amser rydych yn ei dreulio mewn hyfforddiant yn dibynnu ar y math o gwrs a’r help rydych ei angen i wella’ch sgiliau. Mae hyfforddiant ar gyfer swyddi penodol, fel hyfforddiant gwasanaeth cwsmeriaid, yn para am 1 i 2 wythnos fel arfer. Fel rheol bydd hyfforddiant i wella eich sgiliau Saesneg, mathemateg neu gyfrifiadurol yn hirach. Bydd eich anogwr gwaith yn esbonio beth mae’r cwrs yn ei olygu a phryd y mae angen i chi fynychu.
Pryd y gallaf gymryd rhan?
Pan fyddwch yn mynychu’ch cyfweliad cyntaf gyda’ch anogwr gwaith, byddant yn trafod os yw asesu’ch sgiliau a dechrau hyfforddiant priodol yn addas i chi.
Oes rhaid i mi fynychu?
Os ydych yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith oherwydd eich bod yn ddi-waith, mae’n rhaid i chi fynychu a chwblhau unrhyw weithgaredd y cytunwyd arno gyda’ch anogwr gwaith a’i gofnodi ar eich Ymrwymiad Hawlydd.
Os ydych yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gymhorthdal Incwm oherwydd bod gennych gyflwr iechyd neu gyfrifoldebau gofalu, bydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud.
Os ydych yn methu â mynychu cyfweliad gydag ymgynghorydd gyrfaoedd, cwblhau’r asesiad sgiliau neu fynychu’r cwrs hyfforddi fel y cytunwyd gyda’ch anogwr gwaith, heb reswm da, gallai eich budd-dal gael ei leihau neu ei stopio. Gelwir hyn yn sancsiwn budd-dal.
Os ydych yn dechrau hyfforddiant a gofynnir i chi adael oherwydd camymddwyn difrifol (fel dwyn, trais neu gam-drin geiriol), efallai y bydd eich budd-dal yn cael ei sancsiynu.
Beth sy’n digwydd os na fyddaf yn mynychu neu gymryd rhan?
Bydd Rhan 1 o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995, Rheoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996 a Rheoliadau Lwfans Ceisio Gwaith (Cynlluniau ar gyfer Cynorthwyo Pobl i Gael Cyflogaeth) 2013 yn gymwys.
Mae’n bwysig eich bod yn mynychu, cymryd rhan mewn a chwblhau’r asesiad neu hyfforddiant sgiliau. Bydd eich budd-dal yn cael ei stopio neu ei leihau os na fyddwch yn gwneud hynny ac na allwch roi rheswm da. Gelwir hyn yn sancsiwn.
Darganfyddwch fwy am sancsiynau
A oes rhaid i mi gymryd rhan mewn Hyfforddiant Sgiliau os yw fy anogwr gwaith wedi dweud wrthyf wneud?
Oes. Os yw’ch anogwr gwaith wedi eich anfon ar y cynllun Hyfforddiant Sgiliau, bydd angen i chi gymryd rhan ynddo a chwblhau’r cwrs. Os na allwch roi rheswm da pam na wnaethoch hynny, bydd eich budd-dal yn cael ei stopio neu ei leihau.
Dylech drafod y cynllun gyda’ch anogwr gwaith, fel eich bod yn deall pam y dylech wneud y cwrs. Bydd unrhyw hyfforddiant y bydd yr anogwr gwaith yn eich cyfeirio ato er mwyn gwella’ch sgiliau i’ch helpu i gael swydd. Os yw eich nodau swydd yn newid, mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth eich anogwr gwaith.
A fydd angen dal i mi fynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith a chwilio am waith?
Os ydych yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith, fel arfer, bydd yn rhaid i chi lofnodi, felly os bydd eich hyfforddiant yn eich atal rhag llofnodi ar eich amser arferol, mae’n rhaid i chi gysylltu â’ch anogwr gwaith ymlaen llaw. Bydd eich anogwr gwaith hefyd yn dweud wrthych a ydynt yn disgwyl i chi chwilio am waith tra’ch bod ar yr hyfforddiant. Bydd hyn yn dibynnu ar y nifer o oriau rydych mewn hyfforddiant a’ch amgylchiadau unigol.
Bydd yn rhaid i chi hefyd fynychu unrhyw gyfarfodydd eraill yn y ganolfan gwaith y gofynnir i chi fynychu. Bydd angen i chi wneud hyn os ydych ar Gredyd Cynhwysol hefyd, gan y bydd eich anogwr gwaith am sicrhau eich bod yn cyflawni unrhyw gamau a gytunwyd fel rhan o’ch Ymrwymiad Hawlydd, yn ogystal ag os oes unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau wedi bod.
Eto, os bydd eich hyfforddiant yn eich atal rhag mynd i gyfarfod canolfan gwaith, fel y cytunwyd gyda’ch anogwr gwaith, dylech gysylltu â hwy ymlaen llaw.
Beth sy’n digwydd os byddaf yn cael swydd?
Os ydych yn cael swydd neu os bydd eich cais Lwfans Ceisio Gwaith yn dod i ben, dylech gysylltu â’ch anogwr gwaith canolfan gwaith.
Academi Gwaith Seiliedig ar Sector
Mae’r Rhaglenni Academi Gwaith Seiliedig ar Sector (SWAPs) ar gael yn Lloegr a’r Alban. Maent wedi cael eu cynllunio i helpu pobl sydd yn barod i ddechrau gweithio, ond sydd efallai angen dysgu’r sgiliau a’r ymddygiadau y mae cyflogwyr mewn diwydiannau penodol yn chwilio amdanynt mewn gweithwyr newydd.
Os bydd eich anogwr gwaith yn trafod SWAP gyda chi, gallwch benderfynu cymryd rhan neu beidio, ond unwaith y byddwch wedi cytuno i ymuno mae’n rhaid i chi gwblhau rhai rhannau o’r cynllun. Bydd eich cyfleoedd o gael a chadw swydd gyda’r cyflogwr sy’n cynnal, neu gyflogwr arall sy’n cynnig gwaith tebyg, yn gwella drwy gwblhau SWAP.
Defnyddir y cynllun SWAP gan gyflogwyr i’w helpu i recriwtio i mewn i sectorau swyddi sydd â galw uchel am staff. Felly, bydd y math o SWAP sydd ar gael yn lleol yn amrywio. Mae SWAP wedi ei gynllunio i’ch helpu i fagu hyder mewn modd sy’n gwella eich rhagolygon swydd ac yn ychwanegu at eich CV.
Am faint o amser mae’n para?
Mae’r SWAP yn para hyd at 6 wythnos ac yn rhoi hyfforddiant a phrofiad gwaith i chi mewn math o swydd benodol. Ar y diwedd, byddwch yn cael naill ai cyfweliad swydd neu help gyda phroses gwneud cais y cyflogwr.
Pryd allaf gymryd rhan?
Bydd eich anogwr gwaith yn trafod gyda chi os yw SWAP yn addas i chi.
A oes rhaid i mi fynychu?
Mae penderfynu derbyn y cynnig o SWAP yn wirfoddol. Ond unwaith y byddwch wedi cytuno i ymuno ac rydych yn cael JSA oherwydd eich bod yn ddi-waith, mae’n rhaid i chi gwblhau’r hyfforddiant cyn-gyflogaeth, a mynychu’r cyfweliad gwarantedig am swydd (os yw wedi’i gynnwys).
Os byddwch yn methu cwblhau y rhannau o SWAP mae angen i chi eu gwneud heb reswm da, gallai eich budd-dal gael ei leihau neu ei stopio.
Mae’r SWAP hefyd yn cynnwys profiad gwaith. Nid yw hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i chi ei wneud ond rydym yn eich annog i gymryd rhan lle bynnag y bo modd. Mae profiad gwaith yn amhrisiadwy ac yn caniatáu i chi a’r cyflogwr sy’n cynnal i weld a ydych yn addas ar gyfer y math o waith sydd ar gael.
Ni chaiff eich budd-dal ei stopio neu ei leihau (sancsiynu) os penderfynwch beidio â chymryd y lleoliad profiad gwaith.
Os ydych chi’n dechrau SWAP a gofynnir i chi adael oherwydd camymddwyn difrifol (fel dwyn, trais neu gam-drin geiriol), gan gynnwys yn ystod profiad gwaith, efallai y bydd eich budd-dal yn cael ei sancsiynu.
Pryd allaf gymryd rhan?
Mae SWAP yn agored i chi o ddiwrnod cyntaf eich cais, cyn belled nad ydych angen hyfforddiant sylfaenol mewn Saesneg neu Fathemateg i ddod o hyd i waith.
A oes rhaid i mi fynychu?
Na. Mae ymuno â SWAP yn wirfoddol. Ond unwaith y byddwch wedi cytuno i ymuno, rhaid i chi gwblhau’r hyfforddiant cyn-gyflogaeth, a mynychu’r cyfweliad swydd gwarantedig (os yw’n cael ei gynnwys). Os na allwch roi rheswm da dros wneud hynny, bydd eich budd-dal yn cael ei stopio neu ei leihau.
Efallai y bydd yn rhaid i chi deithio i leoliad gwaith y cyflogwr neu i ble mae’r hyfforddiant yn cael ei gynnal.
Gallwch gael help gyda chost eich taith i’r lleoliad hyfforddiant trwy drafnidiaeth cyhoeddus ac unrhyw gostau gofal plant priodol.
Mae’r SWAP hefyd yn cynnwys profiad gwaith. Nid yw hyn yn rhywbeth y bydd angen i chi ei wneud ond rydym yn eich annog i gymryd rhan lle bynnag y bo modd. Mae profiad gwaith yn amhrisiadwy, ac mae’n caniatáu i chi a’r cyflogwr sy’n cynnal weld a ydych yn addas ar gyfer y math o waith sydd ar gael.
Ni chaiff eich budd-dal ei stopio neu ei leihau (sancsiynu) os penderfynwch beidio â derbyn y lleoliad profiad gwaith.
Os ydych yn dechrau SWAP a gofynnir i chi adael oherwydd camymddwyn difrifol (megis dwyn, trais neu gam-drin geiriol), gan gynnwys yn ystod profiad gwaith, efallai y bydd eich budd-dal yn cael ei sancsiynu.
Bydd Rhan 1 o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995, Rheoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996 a Rheoliadau Lwfans Ceisio Gwaith (Cynlluniau ar gyfer Cynorthwyo Pobl i Gael Cyflogaeth) 2013 yn gymwys.
Darganfyddwch fwy am sancsiynau
Oes rhaid i mi dderbyn y swydd os caiff ei gynnig i mi yn dilyn y cyfweliad gwarantedig?
Mae’n ofynnol i bobl sy’n cael Lwfans Ceisio Gwaith oherwydd diweithdra gymryd swydd pan fydd yn cael ei gynnig. Os cynigir swydd neu brentisiaeth i chi yn dilyn y cyfweliad gwarantedig ar gyfer SWAP, efallai y bydd eich anogwr gwaith angen i chi ei derbyn.
Os bydd hyn yn digwydd ond nad ydych y derbyn y swydd, fe’i gelwir yn ‘gwrthod cyflogaeth’ a bydd eich budd-dal yn cael ei stopio neu ei leihau (sancsiynu) am beidio â derbyn y swydd oni bai fod gennych reswm da. Dylech siarad â’ch anogwr gwaith i ddarganfod mwy o wybodaeth.
A fydd dal angen i mi fynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith a chwilio am waith?
Fel arfer, bydd yn rhaid i chi barhau i lofnodi, mynychu unrhyw gyfarfodydd y ganolfan gwaith eraill, a bod wrthi’n chwilio am waith. Os bydd mynychu’r SWAP yn eich atal rhag llofnodi ar eich amser arferol neu fynd i gyfarfodydd y ganolfan gwaith eraill, mae’n rhaid i chi gysylltu â’ch anogwr gwaith ymlaen llaw.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cael swydd?
Os ydych yn cael swydd neu os yw eich cais am Lwfans Ceisio Gwaith yn dod i ben, dylech gysylltu â’ch anogwr gwaith yn y ganolfan gwaith.
Profiad gwaith
Os nad oes gennych lawer neu ddim hanes gwaith, gall profiad gwaith eich helpu i gael profiad gyda chyflogwyr sy’n cynnal y gellir ychwanegu at eich CV. Fel arfer, mae profiad gwaith wedi’i anelu at bobl 18 i 24 oed, ond gall hefyd fod yn ddefnyddiol i geiswyr gwaith hŷn. Bydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych pa gyfleoedd sydd ar gael.
Pam ddylwn i fod â diddordeb mewn profiad gwaith?
Mae profiad gwaith yn rhoi cyfle i chi ychwanegu rhywfaint o brofiad hanfodol i adran gyrfa ar ffurflenni cais a’ch CV, gan gynnwys cael canolwr. Mae hefyd yn helpu gyda:
-
gwella eich rhagolygon o gael swydd
-
gweld pa sgiliau ac ymddygiadau y mae cyflogwyr eu heisiau gan bobl
-
gweld sut y mae eich sgiliau yn cydweddu â’r gweithle
-
magu eich hyder
-
dangos y sgiliau sydd gennych i gyflogwr
Beth fydd bod ar brofiad gwaith yn ei olygu?
Bydd hyn yn amrywio, ond mae rhai enghreifftiau yn cynnwys gweithio mewn swyddfa, warws, siop neu fwyty. Bydd y cyflogwr sy’n cynnal yn esbonio eich dyletswyddau, ond gallai gynnwys pethau fel gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli stoc neu ddyletswyddau gweinyddol.
Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn dangos yr un safonau ymddygiad â gweithwyr eraill, yn enwedig:
-
presenoldeb
-
cadw amser
-
hylendid personol ac ymddangosiad
-
dilyn yr holl reolau Iechyd a Diogelwch a roddir i chi gan y cyflogwr sy’n cynnal.
Am faint o amser mae’n para?
Gallwch wneud profiad gwaith gyda chyflogwr sy’n cynnal yn yr ardal rydych yn byw ynddo. Mae profiad gwaith yn para am 2 i 8 wythnos, a bydd disgwyl i chi wneud 25 i 30 awr yr wythnos oni bai eich bod wedi cytuno ar gyfyngiadau ar yr oriau y byddwch yn eu gweithio, a elwir yn ‘argaeledd’, gyda’ch anogwr gwaith.
Os bydd y cyflogwr sy’n cynnal yn cynnig prentisiaeth i chi, sy’n swydd â thâl gyda hyfforddiant, ac rydych yn ei derbyn, gallwch wneud hyd at bedair wythnos ychwanegol o brofiad gwaith tra bod y gwaith papur ar gyfer eich prentisiaeth yn cael ei gwblhau. Byddwch yn parhau i gael budd-dal hyd nes bod eich prentisiaeth yn dechrau.
Pryd allai gymryd rhan?
Gallwch gymryd rhan o wythnos 13 eich cais am Lwfans Ceisio Gwaith os ydych yn 18 i 24 oed. Gall rhai pobl cymryd rhan yn gynt yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, felly mae’n werth siarad â’ch anogwr gwaith i weld os allwch wneud profiad gwaith yn gynharach.
Gall anogwyr gwaith ei awgrymu i hawlwyr dros 24 oed os ydynt yn credu y byddent yn addas.
Sut y gallaf wneud cyfle profiad gwaith?
Efallai y byddwch yn dod o hyd i gyfle eich hun neu bydd eich anogwr gwaith yn nodi beth sydd ar gael, ac yn dibynnu ar y cyflogwr efallai y bydd rhaid i chi fynd drwy broses ymgeisio. Gallai hyn olygu cwblhau ffurflen gais neu fynd i gyfweliad anffurfiol. Bydd y broses hon yn eich helpu i adeiladu ar eich sgiliau gwneud cais.
Bydd eich anogwr gwaith yn gofyn i chi lofnodi ffurflen ganiatâd data fel y gallent rannu eich gwybodaeth gyda’r cyflogwr sy’n cynnal.
A fydd hyn yn effeithio ar fy mudd-dal?
Nid oes rhaid i chi wneud profiad gwaith ac ni fydd yn effeithio ar eich Lwfans Ceisio Gwaith os nad ydych am gymryd rhan mewn cyfle.
Os ydych yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith ac yn dechrau profiad gwaith a gofynnir i chi adael oherwydd camymddwyn difrifol (fel dwyn, trais neu gam-drin ar lafar), efallai y caiff eich budd-dal ei stopio neu ei leihau (sancsiynu).
A fydd dal angen i mi fynychu cyfarfodydd y ganolfan gwaith a chwilio am waith?
Fel arfer, bydd yn rhaid i chi barhau i lofnodi, mynychu unrhyw gyfarfodydd y ganolfan gwaith eraill, a bod wrthi’n chwilio am waith. Bydd eich cyflogwr sy’n cynnal yn ymwybodol o hyn ac efallai y bydd eich anogwr gwaith yn gallu trefnu cyfarfodydd o amgylch eich amser ar brofiad gwaith.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cael swydd?
Os ydych yn cael swydd neu os yw eich cais am Lwfans Ceisio Gwaith yn dod i ben, dylech gysylltu â’ch anogwr gwaith yn y ganolfan gwaith.
Y Rhaglen Waith ac Iechyd a Pioneer
Mae’r Rhaglen Waith ac Iechyd a Pioneer yn cael ei darparu gan ddarparwyr preifat, cyhoeddus a gwirfoddol i ddarparu cyflogaeth barhaus i bobl anabl, grwpiau mynediad cynnar a’r di-waith hirdymor.
Pan ymunwch â’r Rhaglen Waith ac Iechyd neu Pioneer bydd eich darparwr yn dweud wrthych am y gefnogaeth y byddant yn gallu ei roi i chi a sut y gallant eich helpu. Gyda’ch gilydd, byddwch yn gwneud cynllun gweithredu o bethau y mae angen i chi eu gwneud i baratoi ar gyfer gwaith.
Pryd y byddaf yn cael fy nghyfeirio at y Rhaglen Waith ac Iechyd neu Pioneer?
Mae’r Rhaglen Waith ac Iechyd a Pioneer yn raglenni gwirfoddol. Bydd angen i chi drafod ymuno y naill raglan neu’r llall gyda’ch anogwr gwaith.
Am faint o amser mae’n para?
Bydd eich darparwr Rhaglen Gwaith ac Iechyd neu Pioneer yn eich cefnogi am 456 diwrnod (15 mis), hyd yn oed os yw’ch budd-dal yn newid neu os byddwch yn dod o hyd i swydd.
Os ydych yn dod o hyd i swydd, gallant gynyddu’r gefnogaeth i 639 diwrnod (21 mis) os byddwch ei angen.
Beth fydd yn digwydd yn ystod y Rhaglen Waith ac Iechyd neu Pioneer?
Oherwydd bod y Rhaglen Waith ac Iechyd a Pioneer wedi’i theilwra i unigolion, bydd y math o gymorth yn cael ei bersonoli i anghenion y sawl sy’n cymryd rhan. Mae enghreifftiau o’r math o gefnogaeth sydd ar gael yn cynnwys y sawl sy’n cymryd rhan yn cael gweithiwr allweddol personol gyda chyswllt wyneb yn wyneb rheolaidd, mentora a chymorth cyfoedion, mynediad integredig at rwydweithiau cymorth arbenigol ar lefel leol gan gynnwys gweithwyr proffesiynol iechyd a lles a chymorth gan arbenigwyr cyflogedig ymroddedig â gwybodaeth am gyfleoedd gwaith lleol.
Ble bydd fy nghyfarfodydd Rhaglen Waith ac Iechyd neu Pioneer yn cael ei gynnal?
Bydd eich darparwr Rhaglen Gwaith ac Iechyd neu Pioneer yn anfon llythyr atoch i roi gwybod i chi am amser, dyddiad a lleoliad eich cyfarfod.
Sancsiynau budd-dal os ydych yn ddi-waith ac yn chwilio am waith
Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith oherwydd eich bod yn ddi-waith ac wrthi’n chwilio am waith, mae rhai pethau rydym yn disgwyl i chi eu gwneud i barhau i gael eich budd-dal.
Byddwch yn cwrdd ag anogwr gwaith a fydd yn cael gwybod am eich sefyllfa. Byddant yn:
-
eich helpu i nodi beth mae’n rhaid i chi ei wneud i ddod o hyd i waith (bydd y camau hyn yn cael eu hychwanegu at eich Ymrwymiad Hawlydd)
-
cwrdd â chi’n rheolaidd i adolygu eich cynnydd
Efallai y bydd angen i chi gymryd rhan mewn cynllun cyflogaeth. Darperir cynlluniau cyflogaeth gan sefydliadau arbenigol i’ch helpu i ddod o hyd i ac aros mewn gwaith. Efallai y gall darparwr eich cynllun hefyd nodi pethau mae’n rhaid i chi ei wneud i ddod o hyd i waith.
Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud popeth o fewn eich gallu i ddod o hyd i waith. Yn gyfnewid am hyn, byddwch yn derbyn eich taliad budd-dal a’n cefnogaeth. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud popeth y gallant. Os na wnewch hynny, gall eich taliad budd-dal gael ei stopio neu leihau dros dro (sancsiwn), neu gallai eich cais gael ei ddirwyn i ben.
Beth sydd angen i mi ei wneud i gadw fy nhaliad budd-dal llawn?
Byddwch yn cael eich taliad budd-dal llawn gyhyd â’ch bod yn:
-
mynd i gyfarfodydd ar amser gyda’ch anogwr gwaith a chymryd rhan mewn cyfweliadau
-
gwneud cais am swyddi addas y bydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych amdanynt
-
gwneud unrhyw weithgaredd y bydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych i’w wneud i ddod o hyd i waith, fel mynychu cwrs hyfforddiant neu ddiweddaru eich CV
-
gwneud popeth y gallwch i ddod o hyd i waith, gan gynnwys cymryd camau gweithredu yn eich Ymrwymiad Hawlydd
-
cymryd rhan mewn cynlluniau cyflogaeth pan fydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych i wneud hynny. Bydd angen i chi gwrdd â’ch darparwr cynllun cyflogaeth yn brydlon a chymryd camau a ddywedant wrthych eu cymryd. Bydd angen i chi barhau i gwrdd â’ch anogwr gwaith a gwneud y gweithgaredd a nodir yn eich Ymrwymiad Hawlydd
Os nad ydych yn gallu, neu wedi peidio â gwneud y pethau hyn, dywedwch wrth eich anogwr gwaith neu ddarparwr cynllun cyflogaeth ar unwaith.
Os gallwch ddangos bod gennych reswm da, byddwch yn parhau i gael eich taliad budd-dal llawn.
Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch, cyn gynted ag y gallwch. Er enghraifft, ffoniwch eich anogwr gwaith os nad ydych yn gallu dod i gyfarfod a rhoi gwybod iddynt pam na allwch fynychu.
Os na wnewch y pethau hyn, ac nid oes gennych reswm da, gellir stopio neu leihau eich taliad budd-dal am gyfnod o amser, neu gallai eich cais gael ei derfynu.
Mae’n bwysig eich bod yn deall yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud i gael eich taliad budd-dal, a beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn gwneud hyn. Gofynnwch i’ch anogwr gwaith i esbonio os nad ydych yn siŵr.
Am faint o amser y gellir stopio neu leihau fy nhaliad budd-dal?
Mae faint o amser y bydd eich budd-dal yn cael ei stopio neu’i leihau yn dibynnu ar:
-
y rheswm rydych yn hawlio budd-dal - er enghraifft, os cawsoch eich diswyddo am gamymddwyn yn eich swydd ddiwethaf, neu adael heb reswm da
-
beth nad ydych wedi’i wneud i ddod o hyd i waith
-
p’un a yw eich taliad budd-dal wedi’i stopio, neu fod eich cais wedi’i derfynu yn y flwyddyn ddiwethaf, a’r rheswm (rhesymau) dros hyn.
Mathau o sancsiynau budd-dal
Byddwch yn cael sancsiwn lefel is neu lefel canolradd os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith os:
-
nad ydych yn mynd i gyfarfodydd ar amser gyda’ch anogwr gwaith a chymryd rhan mewn cyfweliadau
-
nad ydych yn gwneud yr hyn y mae eich anogwr gwaith yn ei ddweud wrthych i’w wneud i chwilio am waith, fel dilyn cwrs hyfforddi neu ddiweddaru eich CV
-
nad ydych yn cymryd rhan mewn cynlluniau cyflogaeth pan fydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych
-
nad ydych yn cwrdd â darparwr eich cynllun cyflogaeth ar amser neu gymryd camau maent yn eu dweud wrthych i’w gwneud
-
rydych yn dechrau cais newydd am Lwfans Ceisio Gwaith o fewn 13 wythnos i’ch cais diwethaf ddod i ben oherwydd nad oeddech yn gwneud popeth o fewn eich gallu i ddod o hyd i waith
Mae’r cynlluniau cyflogaeth a gwmpesir gan y math hwn o sancsiwn yn cynnwys:
-
Amodoldeb Sgiliau
-
y Rhaglen Waith
-
Lwfans Menter Newydd
-
y Rhaglen Waith ac Iechyd
-
Rhaglen Academi Gwaith Seiliedig ar Sector (hyfforddiant).
Efallai y bydd cynlluniau eraill yn rhedeg yn lleol a bydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych a oes disgwyl i chi fynychu un o’r rhain.
Os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith, rhain hefyd yw’r sancsiynau ar gyfer profiad gwaith (gan gynnwys fel rhan o SWAP neu’r Rhaglen Waith) os ydych yn dewis i gymryd y cyfle profiad gwaith, yna yn cael eich diswyddo am gamymddwyn difrifol.
Caiff eich Lwfans Ceisio Gwaith ei stopio am 4 wythnos neu 13 wythnos yn dibynnu ar y nifer o weithiau rydych wedi cael eich sancsiynu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Byddwch yn cael sancsiwn lefel uchel os:
-
rydych wedi cael eich diswyddo am gamymddwyn o’ch swydd ddiwethaf
-
rydych wedi gadael eich swydd ddiwethaf, neu golli cyflog o ganlyniad i gamymddwyn neu adael eich swydd ddiwethaf yn wirfoddol, heb reswm da
-
nid ydych yn cymryd camau i wneud cais am swyddi addas y bydd eich anogwr gwaith neu ddarparwr yn dweud wrthych amdanynt
-
nid ydych yn cymryd swydd a gynigir i chi
Mae sancsiwn lefel uchel yn golygu y bydd eich Lwfans Ceisio Gwaith yn cael ei stopio am 13, 26 neu 156 wythnos yn dibynnu ar y nifer o weithiau rydych wedi cael eich sancsiynu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Os nad ydych yn gwneud popeth y gallwch i chwilio am waith a bod ar gael i weithio
Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, gellir dod a’ch cais i ben os nad ydych ar gael i weithio, neu’n gwneud popeth o fewn eich gallu, i ddod o hyd i waith. Gallwch wneud cais eto os byddwch yn ymrwymo i wneud popeth y gallwch i ddod o hyd i waith. Fodd bynnag, gellir atal eich budd-dal ar ddechrau eich cais newydd.
Beth ddylwn ei wneud os bydd fy nhaliad budd-dal yn cael ei stopio neu os caiff fy nghais ei derfynu?
Os yw eich taliad budd-dal yn cael ei stopio, dylech barhau i wneud popeth o fewn eich gallu i ddod o hyd i waith. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gall eich taliad budd-dal gael ei stopio am gyfnod pellach, neu gall eich cais gael ei derfynu.
Os ydych yn cael budd-dal tai neu ostyngiad yn eich treth cyngor, dylech gysylltu â’ch cyngor lleol ar unwaith os caiff eich taliad Lwfans Ceisio Gwaith ei stopio neu’i leihau, neu fod eich cais am Lwfans Ceisio Gwaith yn cael ei derfynu. Dylech gysylltu â hwy i ddeall pa wybodaeth y byddant eisiau gennych er mwyn sicrhau eich bod yn dal i gael unrhyw fudd-dal tai a gostyngiad yn eich treth cyngor y gallai fod gennych hawl i’w gael.
Taliadau caledi
Os yw eich taliad budd-dal yn cael ei stopio ac nad oes gennych ddigon o arian i fyw arno, efallai y byddwch yn gallu cael taliad caledi. Mae hwn yn swm llai o fudd-dal. Cysylltwch â ni os ydych am ddeall mwy am daliadau caledi ac i weld a allwch wneud cais.
Beth os nad wyf yn cytuno â’r penderfyniad i stopio neu leihau fy nhaliad budd-dal, ddod a fy nghais i ben?
Rhowch wybodaeth lawn i ni
Os ydych yn cael gwybod efallai y bydd eich taliad budd-dal yn cael ei stopio neu’i leihau, neu efallai y bydd eich cais yn cael ei derfynu, dylech roi gwybodaeth newydd ar unwaith am pam nad ydych wedi mynychu cyfarfodydd ar amser neu gymryd camau gweithredu.
Bydd swyddog gwneud penderfyniadau’r DWP, yn hytrach na’ch anogwr gwaith neu ddarparwr cynllun cyflogaeth, yn penderfynu os oes gennych reswm da.
Os byddant yn penderfynu nad oes gennych reswm da, byddant yn penderfynu pa mor hir i stopio eich taliad budd-dal, neu p’un ai ddod a’ch cais i ben. Gallwch ofyn pam fod penderfyniad wedi ei wneud drwy gysylltu â ni.
Gofyn i ni ailystyried y penderfyniad
Os ydych yn credu fod y penderfyniad yn anghywir, gallwch ofyn iddo gael ei edrych arno eto o fewn mis i’ch budd-dal cael ei stopio, ei leihau neu i’ch cais cael ei gau. Eglurwch pam fod y penderfyniad yn anghywir a dangoswch unrhyw dystiolaeth sydd gennych. Bydd y penderfyniad yn cael ei edrych arno eto a byddwn yn anfon llythyr i ddweud wrthych beth sydd wedi’i benderfynu a pham.
Rydym yn galw’r llythyr hwn yn ‘Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol’.
Apêl
Os ydych yn anghytuno â’r Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol, gallwch apelio i dribiwnlys. Mae’n rhaid i chi aros am yr ‘Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol’ cyn i chi ddechrau apêl.
Mae’r daflen hon yn darparu gwybodaeth gyffredinol yn unig ac nid yw’n ddatganiad cyflawn ac awdurdodol o’r gyfraith.