Canllawiau

Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd: beth sydd angen i chi ei ddweud wrthym os ydych yn gwneud unrhyw waith

Diweddarwyd 15 Medi 2023

Rhaid i chi roi gwybod i’r Ganolfan Byd Gwaith os ydych yn gwneud unrhyw waith tra eich bod yn cael Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd.

Gall eich budd-dal gael ei leihau neu ei atal os nad ydych yn rhoi gwybod am newid yn syth.

Fel arfer, ni allwch gael JSA Dull Newydd os ydych yn gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd, oni bai eich bod yn gweithio swyddi penodol.

Os ydych yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos, efallai y gallwch gael JSA Dull Newydd, ond gallai faint y byddwch yn ei dderbyn yn lleihau.

Beth i’w wneud os ydych yn gwneud unrhyw waith

Os ydych yn mynychu apwyntiadau yn rheolaidd yn y ganolfan gwaith

Bydd angen i chi:

  • ddod â’ch slipiau cyflog i’r apwyntiad

  • llenwi ffurflen gyda’ch anogwr gwaith yn ystod eich apwyntiad i’nn hysbysu am unrhyw waith rydych wedi’i wneud yn ystod y pythefnos diwethaf

Os nad ydych yn mynychu apwyntiadau yn y ganolfan gwaith

Bydd angen i chi ofyn i’ch anogwr gwaith i anfon ffurflen ‘datganiad gwaith’ a ffurflen B7 i chi am bob swydd rydych yn ei wneud. Llenwch y ffurflenni a’u hanfon yn ôl i’r ganolfan byd gwaith gyda’ch slipiau cyflog.

Beth sydd angen i chi ei ddweud wrthym

Wrth i chi lenwi’r ffurflenni am y gwaith rydych wedi’i wneud, bydd angen i chi ddweud wrthym:

  • enw, cyfeiriad a rhif ffôn eich cyflogwr

  • y dyddiadau rydych wedi gweithio

  • y nifer o oriau a munudau rydych wedi gweithio bob wythnos

  • y dyddiad neu’r dyddiadau y cawsoch eich talu

  • faint oedd eich enillion cyn unrhyw ddidyniadau

  • swm y didyniadau am bethau megis treth, Yswiriant Gwladol, cyfraniadau pensiwn, tanysgrifiadau undeb a thaliadau cynhaliaeth plant

  • os rhoddodd eich cyflogwr fwy o arian i chi am unrhyw beth arall, ac os wnaethant, faint ac am beth oedd yr arian (er enghraifft, ffioedd bws neu drên neu dreuliau gwaith)

Gallech gael eich dwyn i’r llys neu orfod talu cosb os ydych yn rhoi’r wybodaeth anghywir neu heb roi gwybod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.

Os ydych yn gweithio’n rheolaidd

Os ydych yn gweithio’n rheolaidd, bydd eich anogwr gwaith yn rhoi gwybod i chi a ydy hi’n bosibl i chi leihau faint o wybodaeth y mae angen i chi ei darparu bob tro.

Sut mae enillion yn effeithio ar JSA Dull Newydd

Fel arfer, gallwch ennill hyd at £5 yr wythnos cyn i’ch enillion effeithio ar eich JSA Dull Newydd. Bydd unrhyw enillion dros £5, ar ôl didyniadau am bethau megis treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, yn gostwng eich taliad JSA Dull Newydd.

Er enghraifft, os ydych yn ennill £50.25 yr wythnos, ar ôl didyniadau am bethau megis treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, caiff eich JSA Dull Newydd ei ostwng gan £45.25.

Os ydych yn gweithio mewn swyddi penodol

Gallwch ennill hyd at £20 yr wythnos cyn i’ch enillion effeithio ar eich JSA Dull Newydd os ydych yn:

  • ddiffoddwr tân rhan amser

  • gwyliwr y glannau cynorthwyol sy’n gweithio i wasanaethau achub y glannau

  • aelod o griw bad achub rhan amser neu’n ymwneud â lansio bad achub

  • aelod o’r lluoedd arfog neu’r lluoedd arfog wrth gefn

  • pysgotwr cyfran

Bydd enillion dros £20, ar ôl didyniadau am bethau megis treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, yn gostwng eich JSA Dull Newydd.

Er enghraifft, os ydych yn ennill £50.25 yr wythnos, ar ôl didyniadau am bethau megis treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn, caiff eich JSA Dull Newydd ei ostwng gan £30.25.

Pryd y gallwch weithio 16 awr neu fwy

Efallai y gallwch gael JSA Dull Newydd o hyd os ydych yn gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd a bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gweithio i elusen neu sefydliad gwirfoddol neu rydych yn wirfoddolwr a’r unig daliad rydych yn ei gael yw treuliau

  • rydych ar gynllun hyfforddiant ac yn cael lwfans hyfforddi

  • rydych yn ddiffoddwr tân rhan amser

  • rydych yn wyliwr y glannau cynorthwyol sy’n gweithio i wasanaethau achub y glannau

  • rydych yn aelod o griw bad achub rhan amser neu’n ymwneud â lansio bad achub

  • rydych yn aelod o’r lluoedd arfog neu’r lluoedd arfog wrth gefn

  • rydych yn gynghorydd lleol

  • rydych yn cael eich talu i fod yn rhiant maeth

  • rydych yn cael eich talu i ddarparu gofal seibiant

  • rydych yn cael eich cyllido i gymryd rhan mewn chwaraeon

  • rydych ar raglen profiad gwaith