Cadw Prydain i Weithio: Cylch gorchwyl
Updated 24 January 2025
Cadw Prydain i Weithio: Adolygiad Annibynnol o Rôl Cyflogwyr o ran Iechyd ac Anabledd
Crynodeb
Mae gwrthdroi’r cynnydd o ran anweithgarwch economaidd sy’n gysylltiedig â salwch ac anabledd yn flaenoriaeth genedlaethol. Mae dros draean o’r holl bobl oedran gweithio (16-64 oed) yn nodi bod ganddynt gyflwr iechyd hirdymor ac mae tua chwarter yn cael eu hystyried yn anabl. Mae pobl anabl bron i deirgwaith yn fwy tebygol na phobl nad ydynt yn anabl o fod yn economaidd anweithgar.
Mae hyn yn arwain at effeithiau niweidiol sylweddol i’r bobl yr effeithir arnynt, i fusnesau, ac i’r economi, gan gynnwys cyllid cyhoeddus.
Mae iechyd gwael yn effeithio ar unigolion, gan gyfyngu ar eu cyfleoedd bywyd ac o ran ffyniant. Mae tystiolaeth yn awgrymu po hiraf y bydd rhywun i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch, yr anoddaf yw iddynt ddychwelyd i’r gwaith. Mae hefyd yn gosod cost fawr ar gyflogwyr, gan gynnwys colledion o ran perfformiad; costau oherwydd absenoldeb; colledion o ran profiad gwerthfawr; a chostau uwch o ran recriwtio. I’r Llywodraeth, mae anweithgarwch economaidd oherwydd iechyd gwael yn cyfyngu ar botensial twf yn yr economi ac mae’n ffactor pwysig sy’n cyfrannu at y cynnydd o ran taliadau lles.
Mae’n annhebygol y bydd y Llywodraeth neu gyflogwyr yn gweithredu ar eu pennau eu hunain yn llwyddo i fynd i’r afael â’r mater hwn yn llwyddiannus. Yn hytrach, mae gan gyflogwyr rôl allweddol i’w chwarae wrth greu gweithleoedd cynhwysol sy’n diogelu iechyd ac yn cefnogi cadwac adsefydlu i weithwyr, gan gynnwys y rhai sydd ag anableddau a chyflyrau iechyd, ac mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i annog, hyrwyddo a chefnogi arferion effeithiol.
Mae’r Llywodraeth yn awyddus i archwilio ymhellach pa rôl y gallai cyflogwyr a’r llywodraeth ei chwarae o ran atal mwy o bobl rhag mynd allan o waith ac wrth greu llwybrau newydd yn ôl i’r gwaith.
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach wedi comisiynu adolygiad annibynnol anstatudol i rôl cyflogwyr a Llywodraeth y DU wrth fynd i’r afael ag anweithgarwch sy’n gysylltiedig ag iechyd a chreu a chynnal gweithleoedd iach a chynhwysol. Bydd yn canolbwyntio’n benodol ar gydweithio i ddeall yr hyn y gall cyflogwyr a’r Llywodraeth ei wneud i gynyddu recriwtio, cadw a dychwelyd i waith pobl anabl a phobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor, er mwyn sicrhau bod ganddynt y sgiliau i ffynnu yn y gwaith a darganfod sut mae hynny’n cael ei ddatgloi a’i gefnogi orau.
Mae’r adolygiad hwn yn cyd-fynd â’r camau yr ydym eisoes yn eu cymryd ar draws y Llywodraeth fel rhan o’r Cynllun Gwneud i Waith Dalu a fydd yn helpu mwy o bobl i aros mewn gwaith, gwella diogelwch swyddi a hybu safonau byw.
Mae’r Ysgrifenyddion Gwladol wedi penodi Syr Charlie Mayfield i arwain yr adolygiad.
Diben a Chwmpas
Bydd gan yr adolygiad Cadw Prydain i Weithio ddau gam penodol:
-
Bydd y cyntaf yn gam darganfod, gyda’r nod o ddeall nodweddion ac ysgogwyr lefelau cynyddol o anweithgarwch ac afiechyd, y croestoriad â lefel sgiliau a chymhwyster, yr hyn y mae cyflogwyr yn ei wneud ar hyn o bryd i helpu cyflogi, hyfforddi a chadw pobl anabl a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd a sut mae cyflogwyr yn profi hyn yn ymarferol. Nod y cam hwn fydd nodi beth sy’n ysgogi anweithgarwch economaidd a lle mae’r potensial mwyaf i gyflogwyr a’r Llywodraeth wneud gwahaniaeth. Bydd canfyddiadau’r cam hwn yn cael eu cyhoeddi, gan gynnwys y cwestiynau a’r meysydd allweddol y disgwylir iddynt fod yn ganolbwynt ar gyfer ail gam yr adolygiad.
-
Dilynir y cam darganfod drwy archwilio a datblygu argymhellion ar gyfer camau ymarferol, i gyflogwyr ac i’r Llywodraeth, fynd i’r afael â’r broblem gymhleth hon, gan gynnwys yr hyn y gallent ei wneud yn fwy, y cymorth sydd ei angen, gan gynnwys trwy’r ‘Gwasanaeth Swyddi a Gyrfaoedd Cenedlaethol’ (Darpar gyfieithiad am National Jobs and Careers Service y DU) newydd, yn ogystal ag ystyried yr effeithiau busnes. Yn yr ail gam hwn, mae disgwyl i’r adolygiad ystyried recriwtio, cadw, atal, ymyrraeth gynnar, dychwelyd i’r gwaith, a sgiliau – pob mater sydd wedi’i gynnwys ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth Get Britain Working a gyhoeddwyd ar 26 Tachwedd 2024.
Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried y ffactorau a’r egwyddorion canlynol i wneud y mwyaf o’i effaith:
-
Bydd yr adolygiad yn anelu at ymgysylltu’n eang, a bydd yn gweithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid perthnasol, gan gynnwys busnesau, grwpiau sy’n cynrychioli anabledd yn ogystal ag unigolion. Bydd Syr Charlie Mayfield, arweinydd yr adolygiad annibynnol, yn cynnull panel bach i gefnogi’r adolygiad, gyda’r potensial i ehangu’r panel a/neu gynnull mewnbwn arbenigol wrth i’r adolygiad fynd yn ei flaen.
-
Bydd yr adolygiad yn ceisio nodi argymhellion byrdymor a thymor hwy. Bydd yr adolygiad yn ystyried pa gamau y gellir eu cymryd ar unwaith i ddechrau mynd i’r afael ag unrhyw faterion a nodwyd, a hefyd yn archwilio a fydd angen unrhyw atebion neu newidiadau strwythurol tymor hwy.
-
Bydd yr adolygiad yn ystyried ac yn gwerthuso cymesuredd o ran unrhyw gamau gweithredu a argymhellir ar gyfer busnesau ochr yn ochr â’u rhwymedigaethau presennol.
-
Mae’r polisi treth y tu hwnt i gwmpas yr adolygiad.
Bydd Syr Charlie a’r panel yn cael cefnogaeth a chydweithrediad llawn gan DWP a DBT wrth gwblhau eu hadolygiad annibynnol, a chaiff Syr Charlie fel Prif Adolygydd fynediad at yr holl wybodaeth briodol, addas ac angenrheidiol gan y llywodraeth i gynnal yr adolygiad.
Amseru
Disgwylir i’r cam darganfod ddod i ben yn y Gwanwyn 2025, gyda’r adolygiad annibynnol i adrodd a gwneud argymhellion yn yr Hydref 2025.
Rhaid cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad i’r Ysgrifenyddion Gwladol dros Waith a Phensiynau a Busnes a Masnach ar ddyddiad i’w benderfynu, y disgwylir iddo fod yn yr Hydref 2025. Cyfrifoldeb yr adolygydd yn unig yw cynnwys yr adroddiad a benodir i gynnal y gwaith, a fydd yn cael y gair olaf ar yr holl allbynnau ac argymhellion allweddol. Caiff amseru a dull cyhoeddi’r adroddiad annibynnol eu pennu gan yr Ysgrifenyddion Gwladol.