Canllawiau

Cynlluniau Cofrestrfa Tir EF: Sail cynlluniau Cofrestrfa Tir EF (cyfarwyddyd ymarfer 40, atodiad 1)

Diweddarwyd 30 January 2016

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Asiantaeth mapiadau genedlaethol Prydain Fawr yw’r Arolwg Ordnans ac mae ganddi hanes hir o gynhyrchu mapiau ar bapur a data daearyddol deallus. Mae mapiadau’r Arolwg Ordnans yn dangos nodweddion topograffig oedd yn bodoli ar y ddaear ar adeg yr arolwg tir. Maent yn fapiau amlbwrpas ac nid bwriad y manylion arnynt yw cynrychioli terfynau eiddo.

Yn y gorffennol, roedd holl gynlluniau Cofrestrfa Tir EF yn seiliedig ar y mapiau papur graddfa fawr a gyhoeddwyd gan yr Arolwg Ordnans; hyd yn oed heddiw, mae rhai mapiau’n parhau ar ffurf papur. Erbyn hyn, mae Cofrestrfa Tir EF yn defnyddio MasterMap® yr Arolwg Ordnans fel sail ei holl gynlluniau.

2. Mapiadau’r Arolwg Ordnans

Cynnyrch data map digidol graddfa fawr awdurdodol yr Arolwg Ordnans yw MasterMap. Mae’r Arolwg Ordnans yn cynhyrchu MasterMap mewn lliw, ond gan fod Cofrestrfa Tir EF wedi defnyddio ei chyfeiriadau lliw ei hunan yn draddodiadol i ddarlunio materion y cyfeirir atynt yn y gofrestr, mae lliwiau’r Arolwg Ordnans o fewn MasterMap yn cael eu hatal o gynlluniau a gyhoeddir gan Gofrestrfa Tir EF. At ddibenion gwybodaeth, mae’r enghreifftiau isod yn dangos detholiadau o’r ddau fersiwn.

Caiff MasterMap yr Arolwg Ordnans ei ddarparu a’i gynnal ar ffurf lyfn a chyson ond caiff ei arolygu a’i gynhyrchu ar raddfeydd gwahanol. Mae’r amrediadau a’r graddfeydd a ddefnyddir yn debyg i’r rheiny a ddefnyddiwyd yn draddodiadol gan yr Arolwg Ordnans. Yn dibynnu ar natur a lleoliad y tir sy’n cael ei gofrestru, byddwn yn paratoi cynlluniau teitl, a ddisgrifir yn Atodiad 5 – Cynllun teitl yn fras yn unol â’r graddfeydd canlynol.

  • graddfa 1:1250 (1 cm = 12.5 m) ar gyfer tir mewn ardaloedd trefol, gweler Enghraifft 1.
  • graddfa 1:2500 (1 cm = 25 m) ar gyfer tir mewn ardaloedd gwledig, gweler Enghraifft 2.
  • graddfa 1:10 (1cm = 100m) ar gyfer tir mewn ardaloedd mynydd a rhostir, gweler Enghraifft 3.

2.1 Enghraifft 1: graddfa 1:1250

Detholiad o gynllun Cofrestrfa Tir EF

Land Registry plan extract

OS Mastermap

OS Mastermap

© HAWLFRAINT Y GORON. Cynhyrchwyd gan Gofrestrfa Tir EF. Ni chaniateir atgynhyrchu ymhellach yn llawn neu’n rhannol heb ganiatâd blaenorol yr Arolwg Ordnans.

2.2 Enghraifft 2: graddfa 1:2500

Detholiad o gynllun Cofrestrfa Tir EF

Land Registry plan extract

OS MasterMap

OS MasterMap

© HAWLFRAINT Y GORON. Cynhyrchwyd gan Gofrestrfa Tir EF. Ni chaniateir atgynhyrchu ymhellach yn llawn neu’n rhannol heb ganiatâd blaenorol yr Arolwg Ordnans.

2.3 Enghraifft 3: graddfa 1:10 000

Detholiad o gynllun Cofrestrfa Tir EF

Land Registry plan extract

OS MasterMap

OS MasterMap

© HAWLFRAINT Y GORON. Cynhyrchwyd gan Gofrestrfa Tir EF. Ni chaniateir atgynhyrchu ymhellach yn llawn neu’n rhannol heb ganiatâd blaenorol yr Arolwg Ordnans.

3. Graddfeydd a chywirdeb mapiadau’r Arolwg Ordnans

Gan ddefnyddio eu prosesau arolygu tir a mapio safonol, nid yw’n bosibl i’r Arolwg Ordnans ddyblygu union leoliad pob nodwedd ddiriaethol ar y ddaear. Yr enw ar y raddfa o amrywiaeth rhwng y lleoliad ‘go iawn’ a’r hyn a gofnodwyd ar y map yw’r goddefiad cywirdeb wedi ei bennu. Bydd hyn yn golygu efallai na fydd mesuriadau a raddiwyd rhwng nodweddion ar fap yr Arolwg Ordnans yn cyfateb yn union i’r gwir bellter o’i fesur rhwng yr un nodweddion ar y ddaear. Mae gwahanol raddfeydd o gywirdeb yn gymwys yn ôl graddfa’r map a’r dull arolygu gwreiddiol a ddefnyddiwyd i’w greu.

Fel rheol gyffredinol, mae lled llinell ar fap 1:1250 yr Arolwg Ordnans yn cynrychioli tua 0.3 metr ar y ddaear. Mae lled llinell ar fap 1/2500 yr Arolwg Ordnans yn cynrychioli tua 0.6 metr ar y ddaear. Mae’r Arolwg Ordnans yn cyhoeddi’r cywirdeb sydd i’w ddisgwyl o’u mapiau o ran cywirdeb absoliwt a chymharol, a gwelir crynodeb o hyn yn Cywirdeb cymharol a Cywirdeb absoliwt.

Am y rhesymau hyn, ni all Cofrestrfa Tir EF ddarparu mesuriadau wedi eu graddio o gynlluniau teitl neu o fapiadau’r Arolwg Ordnans.

Lle y mae map yr Arolwg Ordnans wedi ei helaethu o’i raddfa wreiddiol, mae’r radd o gywirdeb yn parhau’r un fath â’r manyleb map gwreiddiol. Er enghraifft, bydd cynllun a arolygwyd ar raddfa 1:2500 ac a helaethwyd i 1:1250 yn amodol o hyd ar fanylebau arolwg mapiadau 1:2500.

Dylid nodi bod copïo, lleihau neu helaethu cynllun yn debygol o lurgunio ei gywirdeb.

3.1 Categorïau cywirdeb

Cynhyrchwyd map yr Arolwg Ordnans ar raddfa fawr ar amrywiol raddfeydd trwy ddefnyddio amrywiol ddulliau arolygu tir gan beri amrywiol lefelau o gywirdeb.

Ceir pedwar categori o gywirdeb.

  • graddfa 1:1250
  • graddfa ail-arolwg/diwygiedig 1:2500
  • graddfa a atgyweiriwyd 1:2500. Mapiau a ail-luniwyd yn wreiddiol o fapiau Cyfres y Siroedd cyn 1946
  • graddfa 1:10 000

Mae’r Arolwg Ordnans yn disgrifio cywirdeb mewn dwy ffordd.

  • cywirdeb cymharol
  • cywirdeb absoliwt neu leoliadol

3.2 Cywirdeb cymharol

Mae cywirdeb cymharol yn mesur cysondeb lleoliadol pwynt data mewn perthynas â phwyntiau lleol eraill. Mae cywirdeb cymharol yn cymharu’r pellter graddedig rhwng nodweddion a fesurwyd o’r data map gyda phellteroedd a fesurwyd o’r un nodweddion ar y ddaear. Mae’r tabl canlynol yn cynrychioli’r cywirdeb cymharol sy’n gymwys i’r raddfa cipio.

Cywirdeb cymharol
Graddfa Gwall cymharol Terfyn hyder 95% Terfyn hyder 99% Uchafswm y pellter a fesurwyd
1:1250 (trefol) <±0.5m <±0.9m <±1.1m 60.0m
1:2500 ail-arolwg neu ddiwygiedig (trefol a gwledig) <±1.0m <±1.9m <±2.5m 100.0m
1:2500 atgyweirio (trefol a gwledig) <±1.8m <±3.6m <±4.7m 200.0m
1:10 000 (mynydd a rhostir) <±4.0m <±7.7m <±10.1m 500.0m

I egluro hyn yn fwy ymarferol, os, ar raddfa o 1:1250 byddai’r pellter rhwng pwyntiau diffiniedig 60.0m ar wahân yn cael eu mesur ar y ddaear, byddai disgwyliad y byddai 95 y cant yn cael ei gynrychioli ar fap yr Arolwg Ordnans trwy bellteroedd graddedig rhwng 59.1m a 60.9m. Yn yr un modd, ar ail-arolwg o 1:2500 roedd y pellter mesuredig rhwng y pwyntiau ar wahân o 100.0m, byddai disgwyliad y byddai 95 y cant yn cael ei gynrychioli ar fap yr Arolwg Ordnans gan bellteroedd graddedig rhwng 98.1m a 101.9m.

3.3 Cywirdeb absoliwt

Cywirdeb absoliwt yw’r mesur sy’n dangos pa mor agos mae cyfesurynnau pwynt data map yr Arolwg Ordnans yn cytuno â ‘gwir’ gyfesurynnau Grid Cenedlaethol yr un pwynt ar y ddaear. Am nad oes modd gwybod yr union wir leoliad, caiff yr ystadegyn ei ddyfynnu o’i gymharu â’r lleoliad mwyaf adnabyddus a bennwyd trwy ddulliau arolwg manwl gywir. Mae’r Arolwg Ordnans yn cyhoeddi’r gwerthoedd cywirdeb absoliwt disgwyliedig canlynol ar gyfer pwyntiau a ddiffiniwyd yn dda o fewn pob categori o fap sydd yn y Gronfa Ddata Topograffig Genedlaethol.

Cywirdeb absoliwt
Graddfa RMSE* Lefel hyder 95% Lefel hyder 99%
1:1250 (trefol) <±0.5m <±0.8m <±0.9m
1:2500 (gwledig) (ail-arolwg neu ddiwygiedig) <±1.1m <±1.9m <±2.4m
1:2500 (gwledig) <±2.8m <±4.7m <±5.8m
1:10 000 (mynydd a rhostir) <±4.1m <±7.1m <±8.8m

*RMSE (cyfeiliornad isradd cymedr sgwâr) yw ail isradd cymedr swm sgwariau’r cyfeiliornadau rhwng y mesuriadau.

Atgynhyrchir y wybodaeth uchod gyda chaniatâd caredig yr Arolwg Ordnans.

4. Cynrychiolaeth nodwedd ar fapiadau’r Arolwg Ordnans

Mae map yr Arolwg Ordnans yn dangos nodweddion diriaethol parhaol, fel arfer ar lefel y ddaear, ynghyd ag amrywiaeth o wybodaeth a symbolau disgrifiadol. Yn gyffredinol, mae map yr Arolwg Ordnans yn dangos nodweddion dros 30cm o uchder megis muriau, ffensiau, perthi neu amlinelliad adeiladau trwy linellau duon cadarn. Caiff nodweddion sy’n llai na 30cm o uchder, megis ymylon palmant neu lle y mae dau wahanol wyneb yn cyffwrdd, eu dangos gyda llinellau duon dotiog. Gall llinellau du dotiog hefyd gynrychioli nodweddion sy’n crogi uwchben megis amlinelliad adeilad uwchben lefel y ddaear neu lle ceir ffordd o dan.

Beth bynnag yw’r nodwedd, mae’n bwysig cofio bod ei ddarluniad yn giplun mewn amser; mae’r map yn dangos yr oedd nodwedd mewn lleoliad penodol ar yr adeg y cynhaliwyd yr arolwg ac fe’i dangosir i lefel o gywirdeb a chyfanrwydd a ganiatawyd gan y technegau arolygu a mapio ar y pryd.

O fewn gerddi preifat, yr unig nodweddion y bydd map yr Arolwg Ordnans yn eu dangos yw adeiladau parhaol gydag arwynebedd dros 12 metr sgwâr, ffyrdd a llwybrau dros 100m o hyd. Mae map yr Arolwg Ordnans hefyd yn dangos nodweddion di-dor eraill fel nentydd a nodweddion sy’n nodi llinell terfyn gweinyddol. Mae manyleb map yr Arolwg Ordnans wedi newid dros y blynyddoedd, sy’n gallu arwain at rai anghysondebau ymddangosiadol.

Bydd y maint o wybodaeth a ddangosir ar fap yr Arolwg Ordnans yn amrywio yn ôl y graddfeydd. Gellir dangos mwy o fanylder ar fap graddfa fwy nag ar fap o raddfa lai; felly, caiff map 1:1250 ei arolygu i gynnwys mwy o wybodaeth a manylion na map 1:12500. Er enghraifft, gellir dangos nodwedd fach megis bargodiad metr o uchder mewn adeilad neu ffens tro cam fach ar raddfa 1:1250 lle na fyddai’n bosibl efallai i ddangos yr un nodwedd ar raddfa o 1:2500. Enghraifft arall fyddai lle mae dwy nodwedd ar y ddaear, megis perth a ffens, yn rhy agos at ei gilydd i’w plotio’n gywir ar raddfa. Yn yr achos hwn, caiff dwy nodwedd meter ar wahân ar raddfa 1:1250 neu 2 fetr ar wahân ar raddfa 1:2500 eu cynrychioli gan nodwedd unigol ar y map. Wrth benderfynu pa un o’r nodweddion i’w dangos, mae’r Arolwg Ordnans yn mabwysiadu’r drefn ganlynol. Bydd yn dangos y nodwedd:

  • a ddefnyddir i uno terfyn gweinyddol (er enghraifft, os yw’r terfyn gweinyddol yn dilyn gwreiddyn perth, y berth fyddai’r nodwedd wedi ei harolygu)
  • sy’n ymddangos ei bod yn diffinio stent eiddo – cofier mai dyma yw dehongliad yr Arolwg Ordnans o stent eiddo yn hytrach na stent y dangoswyd teitl dogfennol ar ei gyfer neu a gofrestrwyd
  • sy’n ymddangos ei bod yn fwy pwysig (er enghraifft, os oes mur neu berth nesaf at ffens stoc, y mur neu berth fyddai’r nodwedd wedi ei harolygu)

5. Mapiadau’r Arolwg Ordnans sydd ar gael

Ni all Cofrestrfa Tir EF ddarparu detholiadau o ddata map yr Arolwg Ordnans a gedwir ganddi, naill ai’n gyffredinol neu at ddibenion trawsgludo. Nid yw mapiau tai neu eiddo ar gyfer caniatâd cynllunio a/neu i’w cyflwyno i Gofrestrfa Tir EF ar gael yn uniongyrchol gan yr Arolwg Ordnans neu Gofrestrfa Tir EF. Ewch i www.ordnancesurvey.co.uk/pam i ddod o hyd i’ch partner Arolwg Ordnans agosaf sy’n gwerthu mapiau graddfa fawr at y diben hwn.

6. Hawlfraint

Mae hawlfraint y Goron ar holl gynlluniau Cofrestrfa Tir EF a chedwir pob hawl. Ar gyfer unrhyw ymholiadau o ran hawlfraint, anfonwch ebost at DRO@landregistry.gov.uk.

7. Cysylltu â’r Arolwg Ordnans

Am wybodaeth bellach am raddfeydd, cywirdeb a’r ffordd y dangosir nodweddion ar fapiadau’r Arolwg Ordnans ewch i wefan yr Arolwg Ordnans , neu defnyddiwch y manylion cysylltu canlynol:

  • post:

Customer Service Centre,
Ordnance Survey,
Adanac Drive,
Southampton SO16 0AS

8. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.