Cynlluniau Cofrestrfa Tir EF: cynllun teitl (cyfarwyddyd ymarfer 40, atodiad 5)
Diweddarwyd 3 Ebrill 2023
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
O dan reol 5 o Reolau Cofrestru Tir 2003, bydd cofrestr eiddo ystad gofrestredig mewn tir yn cynnwys disgrifiad o’r ystad gofrestredig sy’n gorfod cyfeirio at gynllun yn seiliedig ar fap yr Arolwg Ordnans ac a elwir yn gynllun teitl. Pan fydd Cofrestrfa Tir EF yn cofrestru eiddo, rydym yn paratoi cofrestr a chynllun teitl. Mae’r cynllun teitl yn un o dair elfen cofrestr teitl, ynghyd â’r gofrestr ac unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt yn y gofrestr ac a ffeilir yng Nghofrestrfa Tir EF. Cynllun o’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr yw’r cynllun teitl, a rhaid edrych arno bob amser ar y cyd â’r gofrestr.
Mae seilio’n cynlluniau teitl ar fapiadau’r Arolwg Ordnans yn ein galluogi i greu cynlluniau i safon foddhaol ac i gysylltu cynlluniau teitl unigol i’w gilydd. Gan ein bod bob amser yn seilio’r cynllun teitl ar fersiwn o fapiad yr Arolwg Ordnans a oedd yn gyfredol pan gofrestrwyd y tir, gall cynlluniau teitl cyffiniol gael eu seilio ar wahanol fersiynau sy’n gallu dangos manylion safle gwahanol. Rydym yn cadw copïau o argraffiadau hanesyddol o gynlluniau teitl, a chedwir y mwyafrif ar ffurf electronig.
2. Diben cynllun teitl
Diben y cynllun teitl yw cefnogi’r disgrifiad eiddo yn y gofrestr trwy ddarparu cynrychiolaeth ddarluniadol a dynodi stent cyffredinol y tir mewn teitl cofrestredig. Yn ogystal â dangos y tir mewn teitl cofrestredig, gall cynllun teitl gynnwys cyfeiriadau cynllun eraill sy’n dynodi unrhyw rannau o’r tir neu dir cyffiniol sydd wedi ei effeithio gan gofnodion yn y gofrestr, megis hawddfreintiau, cyfamodau neu ardaloedd o dir a dynnwyd ymaith o’r teitl. ‘Cynllun ffeil’ oedd yr enw blaenorol ar y cynllun teitl ac mae’n bosibl y gwelwch gyfeiriadau at hyn o hyd.
Mae pob cynllun teitl yn dangos terfynau cyffredinol oni bai y dangosir y llinell terfyn fel pe bai wedi ei phennu o dan adran 60 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
Mae manylion pellach am derfynau cyffredinol a rhai wedi eu pennu i’w cael yng nghyfarwyddyd ymarfer 40, atodiad 3: cynlluniau Cofrestrfa Tir EF – terfynau a chyfarwyddyd ymarfer 40, atodiad 4: cytundebau terfyn a therfynau wedi eu pennui.
Nid oes cynlluniau teitl ar gyfer rhydd-freintiau cysylltiedig a theitlau arglwyddi. Mae’n bosibl, o dan rai amgylchiadau, na fydd gan deitl proffid à prendre mewn gros gynllun teitl chwaith.
3. Mathau o gynllun teitl
Dros y blynyddoedd, mae Cofrestrfa Tir EF wedi adolygu’n gyson sawl agwedd o’r broses gofrestru tir, ac nid yw’r cynllun teitl yn eithriad. Y canlyniad yw bod gennym nifer o wahanol fathau o gynllun teitl erbyn hyn. Yn bennaf, gellir eu gosod i dri chategori:
- fector
- rhastr
- drôr/blwch
3.1 Cynllun teitl fector
Mae cynllun teitl fector yn cael ei greu gan ein system fapio gyfrifiadurol, a chaiff pob cynllun teitl newydd ei greu yn y ffordd hon. Caiff y cynllun teitl fector ei greu a’i storio’n electronig ac mae’n ‘ddeallus’. Mae enghraifft 1 yn Atodiad 2 – Enghreifftiau o gynlluniau teitl yn dangos cynllun teitl fector gyda detholiad o’r gofrestr gyfatebol.
3.2 Cynllun teitl rhastr
Delwedd wedi ei storio’n electronig o’r hyn oedd yn gynllun teitl papur yw cynllun teitl rhastr. Yn wreiddiol, roedd pob cynllun teitl ar ffurf papur. Erbyn hyn, mae pob cynllun teitl papur wedi cael ei sganio, ac eithrio’r rheiny a ddisgrifir yn Cynllun teitl drôr/blwch. Mae cynllun teitl yn wahanol am nad yw’n ‘ddeallus’. Mae enghraifft 2 yn Atodiad 2 – Enghreifftiau o gynlluniau teitl yn dangos cynllun teitl rhastr gyda detholiad o’r gofrestr gyfatebol.
3.3 Cynllun teitl drôr/blwch
Mae cynlluniau teitl drôr/blwch yn bodoli ar ffurf papur dim ond am eu bod yn rhy fawr i’w sganion. Cânt eu ffeilio’n fflat mewn drôr neu eu cadw mewn blwch metal i’w diogelu. Mae’r cynlluniau teitl hyn yn perthyn yn ddieithriad i hen deitlau cofrestredig.
4. Creu cynllun teitl
Mae’r cynllun teitl ar gyfer pob stent cofrestredig yn seiliedig ar y wybodaeth wedi ei chynnwys yn y gweithredoedd teitl gwreiddiol a rhoddir rhif teitl unigryw iddo. Ar yr amod bod y cynlluniau yn y gweithredoedd a’r manylion a welir ar fapiadau’r Arolwg Ordnans yn gytûn, ni fyddwn yn cynnal arolwg o’r tir fel mater o drefn – gweler Arolygon tir. Lle nad yw’r eiddo wedi ei ddiffinio’n llawn gan nodweddion diriaethol ar fapiadau’r Arolwg Ordnans, byddwn yn plotio unrhyw derfynau heb eu diffinio gan ddefnyddio llinellau pigedig.
5. Graddfeydd cynllun teitl
Graddfa cynllun teitl fel rheol yw 1:1250 mewn ardaloedd trefol ac 1:25000 mewn ardaloedd gwledig – gweler cyfarwyddyd ymarfer 40, atodiad 1: sail cynlluniau Cofrestrfa Tir EF. Lle y mae cynllun teitl yn ymdrin ag ardal wledig fawr, gellir ei baratoi naill ai ar raddfeydd 1:5000 neu 1:10000. Lle mai dim ond rhan fach o’r manylion ar y cynllun teitl y mae angen ei darlunio’n fwy eglur, gellir ychwanegu helaethiad at y cynllun teitl lle bo angen. Am wybodaeth am gywirdeb y cynllun teitl, gweler cyfarwyddyd ymarfer 40, atodiad 1: Sail cynlluniau Cofrestrfa Tir EF.
6. Maint cynllun teitl
Mae maint cynlluniau teitl papur yn amrywio. Paratowyd y rhan fwyaf ar bapur B4. Pan oedd stent y cynllun teitl yn fwy na B4, crëwyd tudalennau neu fflapiau. Paratowyd cynlluniau teitl drôr/blwch i ba bynnag faint a oedd yn dal stent y teitl. Nid oedd maint penodedig ar gyfer y rhain heblaw eu bod yn fwy na B4 ac nid oeddynt yn cael eu torri i fflapiau. Gellir paratoi cynlluniau teitl fector ar y maint papur lleiaf o A4, hyd at y mwyaf, sef A0.
7. Yr hyn y mae’n rhaid i gynllun teitl ei ddangos bob amser
Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, byddwn yn dangos y tir mewn teitl cofrestredig trwy ymylu coch ar y cynllun teitl. Mae’r ymyl goch yn dilyn ochr fewnol llinell y terfynau diriaethol neu linellau plotiog terfynau amhenodol sy’n amgylchynu’r eiddo. O dan amgylchiadau eithriadol, gall yr ymylu ddilyn ochr allanol y llinell neu gellir dangos y tir trwy arlliw pinc. Mae modd defnyddio’r dulliau hyn ar ardaloedd bach iawn o dir, er enghraifft safleoedd muriau, lle bo’n anymarferol defnyddio ymylu arferol. O dan yr amgylchiadau hyn, efallai caiff nodyn eglurhaol ei ychwanegu yn y gofrestr eiddo. Yn y gorffennol, defnyddiwyd arlliw pinc ar gynlluniau hefyd i ddangos stent y tir mewn rhybuddiad, ond erbyn hyn caiff stent rhybuddiad ei ddangos trwy ymylu coch.
Lle nad yw ‘ynys’ o dir wedi ei gynnwys mewn teitl byddwn yn ei dangos trwy arlliw neu linellu gwyrdd gydag ymyl coch o’i hamgylch ac yn ychwanegu nodyn am y cau allan hwn at y gofrestr eiddo a’r cynllun teitl.
Lle y mae cofrestriad yn cynnwys rhan yn unig o adeilad, er enghraifft ystafell dros gyntedd, byddwn yn gwneud nodyn eglurhaol yn y gofrestr eiddo ac weithiau’n darparu cyfeiriad ar y cynllun teitl ar gyfer yr ardal o dir o dan sylw. Er eglurder, efallai y byddwn yn dangos lefelau llawr cymhleth ar gynllun atodol wedi ei gysylltu wrth y cynllun teitl. Caiff hwn ei baratoi ar raddfa fwy neu efallai y byddwn yn ychwanegu gweithred y cyfeirir ati yn y gofrestr eiddo at y cynllun teitl.
Lle y mae tir yn cael ei dynnu ymaith o un cynllun teitl i un arall, caiff ei ymylu â gwyrdd fel arfer ac ychwanegir y rhif teitl newydd yn wyrdd. Dull arall a ddefnyddiwn yw arlliwio gwyrdd heb ddangos y rhifau teitl newydd. Ym mhob achos byddwn yn ychwanegu nodyn eglurhaol at y gofrestr ac weithiau at y cynllun teitl.
8. Cynlluniau teitl lefel llawr prydlesol
Mae’r rhan fwyaf o gynlluniau prydles a gyflwynir i’w cofrestru bellach yn cael eu cynhyrchu’n ddigidol, gan ddangos yn glir union osodiad maint yr eiddo ar raddfa fwy. Ni allwn gynhyrchu cynlluniau teitl sy’n adlewyrchu cymhlethdodau o’r fath ar fapiau graddfa llai yr Arolwg Ordnans a ddefnyddir gennym.
Oherwydd hyn, newidiwyd ein polisi ar gyfer creu cynlluniau teitl ar gyfer cofrestriadau lefel llawr prydlesol ym mis Hydref 2014. O ganlyniad, efallai mai dim ond amlinelliad yr adeilad fel y’i cyhoeddwyd ar fap yr Arolwg Ordnans y bydd yr ymylu coch ar gynllun teitl y tenant yn dangos. Newidiwyd geiriad cofnod rhif 1 yn y gofrestr eiddo i adlewyrchu’r polisi newydd.
Lle mae ardaloedd eraill y tu allan i’r adeilad, fel mannau parcio, wedi eu cynnwys yn y brydles, bydd y rhain yn parhau i gael eu dangos ar gynllun teitl y tenant trwy ymylu coch neu gyfeirnod addas arall.
Ar ddatblygiadau prydlesol mwy, bydd maint y brydles yn cael ei gofnodi’n fwy penodol ar gynllun teitl y landlord felly gellir dangos safle’r holl brydlesi mewn perthynas â’i gilydd, fel y gwelir yn yr enghraifft isod.
Fel gyda phob teitl prydlesol, rhaid darllen y gofrestr a’r cynllun teitl ar y cyd â’r brydles i ddeall y cytundeb a wnaed rhwng y partïon gwreiddiol.
9. Mesuriadau
Mae rhai cynlluniau teitl yn dangos mesuriadau a gymerwyd o weithredoedd, fel rheol ar adeg yr adeg y cofrestrwyd y tir. Bydd cynlluniau teitl yn dangos mesuriadau dim ond os dangoswyd y rhain ar gynlluniau a gafodd eu cynnwys yn y gweithredoedd teitl. Er ei bod yn bosibl y gall y rhain roi arwydd ychwanegol o leoliad y terfyn, dim ond y terfyn cyffredinol fydd y cynllun teitl yn dangos o hyd. Ymhellach, mae’n bosibl y bydd yr union bwynt neu nodwedd o’r hyn y gwnaed y mesuriadau wedi diflannu neu newid, gan wneud unrhyw fesuriadau a ddangosir yn annibynadwy.
Er y gall mesuriadau o gynlluniau gweithredoedd ymddangos ar gynlluniau teitl hŷn, nid ydynt bellach yn cael eu hatgynhyrchu fel mater o drefn.
Ni fu unrhyw drosi mesuriadau imperial ar raddfa eang ar gynlluniau teitl neu gofrestri a grëwyd cyn 1995. Gall perchennog cofrestredig wneud cais i drosi mesuriadau imperial i fetrig. Bydd unrhyw drosi mesuriadau imperial yn cael ei wneud yn fanwl gywir i bedwar lle. Mae ffi o dan gymal 12 y Gorchymyn Ffi yn daladwy lle nad yw’r cais i drosi’r mesuriadau yn dod gyda chais lle y mae ffi ar raddfa’n daladwy.
10. Cyfeiriadau lliw
Yn ogystal â dangos stent tir mewn teitl cofrestredig, gall cynllun teitl gynnwys cyfeiriadau eraill sy’n nodi unrhyw rannau o’r tir neu dir cyffiniol sy’n cael eu heffeithio gan gofnodion yn y gofrestr, er enghraifft hawddfreintiau, cyfamodau neu ardaloedd o dir a dynnwyd ymaith o’r teitl. Mae’r cyfeiriadau hyn yn cynnwys arlliwio (ardaloedd wedi eu lliwio), llinellu ac ymylu gyda gwahanol liwiau, rhifo, llinellau lliw toredig ayb.
Fodd bynnag, lle y gellir adnabod hawddfraint megis ffordd dramwy yn glir, er enghraifft cyntedd wrth gefn eiddo, byddwn yn gwneud disgrifiad geiriol ohono yn y gofrestr yn hytrach na darparu cyfeiriad cynllun a chofnod cofrestr ar wahân ar ei gyfer.
Rydym yn dilyn trefn wrth baratoi cynlluniau teitl – gweler Atodiad 1. Mae o gymorth os yw’r arferion hynny’n cael eu dilyn wrth baratoi cynlluniau gweithred, yn enwedig o ran hawliau tramwy. Lle nad yw’r cyfeiriadau lliw am hawliau tramwy ar weithredoedd sy’n bodoli’n dilyn yr arferion, byddwn yn atgynhyrchu’r cyfeiriadau a welir yn y weithred ar y cynllun teitl lle bo’n ymarferol.
Fel rheol, dangosir lleoliad hawliau draenio penodol a roddwyd gan weithred ar y cynllun teitl trwy linell liw doredig a cheir cyfeiriad ato yn y gofrestr.
Ar ystadau sy’n datblygu, mae hawddfreintiau a roddwyd ac a neilltuwyd gan y gwerthwr mewn gweithredoedd unigol yn debygol o fod yn debyg neu o natur gyffredinol yn cynnwys hawliau tramwy dros ffyrdd ystad, tramwyfeydd cyffredin a hawliau draenio. Ni fyddwn yn dangos cyfeiriadau unigol ar gyfer yr hawddfreintiau ar ystadau sy’n datblygu, ond byddwn yn gwneud cofnod geiriol cyffredinol yn y gofrestr i ymdrin â’r materion. Weithiau mae’n anodd dangos yr holl fanylion terfyn neu’r holl gyfeiriadau cynllun ar gynllun teitl wedi ei fapio i’r raddfa arolwg wreiddiol, er enghraifft lle y mae gan y teitl hawddfreintiau neu gyfamodau helaeth neu gymhleth. I ddatrys hyn mae’n bosibl y bydd yn rhaid inni ychwanegu helaethiad neu gynllun atodol i ddarlunio’r tir yn fwy eglur.
11. Gwybodaeth arall ar gynllun teitl
Gall y detholiadau o fap yr Arolwg Ordnans ar yr hyn y mae’r cynlluniau teitl yn cael eu paratoi ddangos gwybodaeth nad yw’n uniongyrchol berthnasol i’r cofrestriad, er enghraifft, symbolau map megis rhifau caeau neu barseli’r Arolwg Ordnans. Ni fydd gan y rhain arwyddocâd arbennig mewn perthynas â’r teitl cofrestredig oni bai bod y marciau wedi eu defnyddio fel cyfeiriadau cynllun ar gyfer tir y mae hawddfreintiau neu gyfamodau’n effeithio arno. Yn y fath achos, byddant wedi eu cylchu’n las gyda chofnod cyfatebol yn cyfeirio ato yn y gofrestr. Nid ydym yn defnyddio rhifau parsel fel cyfeiriadau ar y cynllun teitl erbyn hyn.
12. Diweddaru cynllun teitl
Er bod Cofrestrfa Tir EF yn cymryd diweddariadau map gan yr Arolwg Ordnans yn ddyddiol, nid yw cynlluniau teitl yn cael eu diweddaru fel mater o drefn. O ganlyniad, bydd cynllun teitl yn aros yn ei ffurf wreiddiol hyd nes y bydd gweithgaredd ar y teitl yn awgrymu y dylid ei ddiweddaru.
Fel rheol gyffredinol, unwaith y bydd cynllun teitl wedi cael ei baratoi, dim ond gyda chytundeb y perchennog cofrestredig neu o ganlyniad i gais penodol y gwneir newid i’r terfyn teitl.
Yn ystod y broses gofrestru, daw’n angenrheidiol weithiau i ystyried diweddaru cynlluniau teitl yn unol â’r wybodaeth arolwg ddiweddaraf. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’n bosibl y byddwn yn paratoi cynllun teitl newydd ac yn ychwanegu nodyn addas at y gofrestr yn egluro hynny.
Gallwn hefyd ddiweddaru cynlluniau teitl i ddangos gwybodaeth fapio hwyrach yr Arolwg Ordnans lle y mae tir wedi ei werthu o’r teitl.
13. Isrannu cofrestr teitl a chynllun
Rhannu teitl naill ai ar gofrestriad cyntaf neu wedi hynny, gyda phob rhan yn cael ei chofrestru o dan deitl ar wahân, yw isrannu. Mae pob rhan wedi ei rhannu yn eiddo i’r un perchnogion cofrestredig ac yn yr un swyddogaeth. Pan fyddwn yn isrannu teitl byddwn yn sicrhau bod y gofrestr ar gyfer pob rhan sydd wedi ei rhannu yn cynnwys yr holl gofnodion sy’n effeithio ar y rhan honno.
O dan reol 3(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003, gall y cofrestrydd, ar gofrestriad cyntaf ystad gofrestredig, agor cofrestr unigol ar gyfer pob darn o dir ar wahân yr effeithir arno gan ystad gofrestredig y perchennog fel y mae’n ei ddynodi.
O dan reol 3(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003, gall y cofrestrydd rannu teitl cofrestredig:
-
ar gais perchennog(perchnogion) yr ystad gofrestredig ac unrhyw arwystl cofrestredig drosti, neu
-
os yw’n ystyried ei bod yn ddymunol cadw’r teitl cofrestredig, neu
-
ar gofrestriad arwystl o ran.
Nid yw gwarediad o’r ystad gofrestredig yn hanfodol ar gyfer 1 a 2.
Mae pŵer y cofrestrydd i isrannu teitl bob amser yn ôl disgresiwn, hyd yn oed ar gyfer arwystlon o ran. Lle mae cwsmer yn gwneud cais i isrannu, mae gennym hawl i wybod y rhesymau dros y cais, cyn inni gytuno i symud ymlaen.
Rhaid gwneud cais annibynnol i isrannu ar ffurflen AP1 gyda’r esboniad uchod fel rheswm pam fod angen hynny. Os yw’r cais yn cael ei wneud fel rhan o gais arall, gellir gwneud hyn trwy lythyr a gyflwynir gyda’r cais yn cynnwys yr un wybodaeth. Byddwn yn trin pob cais yn ôl ei rinweddau, ac ni fydd bob amser yn bosibl nac yn ddymunol i isrannu.
Dylech bob amser ystyried unrhyw broblemau posibl a allai godi wrth isrannu.
14. Arolygon tir
Mae canran fach o geisiadau i gofrestru neu ymholiadau yn peri bod angen cynnal arolwg tir. Yr Arolwg Ordnans sy’n cyflawni’r holl arolygon.
Fel arfer bydd arolygon yn cael eu gwneud am un neu fwy o’r rhesymau canlynol:
- i gyflenwi manylion topograffig newydd
- i wirio cywirdeb manylion presennol lle maent yn groes i dystiolaeth yn y gweithredoedd teitl
- i ddarparu amrywiaeth o wybodaeth safle sydd ei hangen wrth gofrestru er enghraifft mesuriadau tir, oed a natur nodweddion terfyn, defnydd a meddiannaeth tir, ffotograffau
Os ydych yn cyflwyno cais a bod arolwg yn ofynnol, byddwn yn anfon llythyr atoch chi, at unrhyw bartïon sy’n ymwneud â’r cais ac at unrhyw berchnogion cofrestredig eraill yr effeithir arnynt.
Bydd y llythyr yn gofyn i’r derbynwyr lenwi ffurflen we ar-lein yr Arolwg Ordnans yn www.os.uk/surveyorvisit oherwydd bydd angen gwybodaeth bwysig gan bob parti ar yr Arolwg Ordnans cyn gellir cwblhau’r arolwg.
Bydd y wybodaeth sydd ei hangen yn cynnwys manylion am fynediad i’r eiddo ac unrhyw beryglon posibl ar y safle. Bydd angen iddynt wybod a oes mynediad cyhoeddus agored anghyfyngedig, a roddir caniatâd i’r arolygwr tir fynd i mewn i’r eiddo heb i’r meddiannydd fod yn bresennol a manylion cyswllt er mwyn gwneud apwyntiad ar gyfer amser addas i gynnal yr arolwg os yw apwyntiad yn angenrheidiol.
Peidiwch ag anfon unrhyw gais am apwyntiad nac unrhyw fanylion cyswllt personol i Gofrestrfa Tir EF gan na fyddwn yn gallu trosglwyddo’r wybodaeth hon i’r Arolwg Ordnans. Gellir ychwanegu’r holl wybodaeth hon at ffurflen we’r Arolwg Ordnans.
Rôl yr arolygwr tir yw gweld bod mapiau’r Arolwg Ordnans yn gywir a gwneud unrhyw ddiweddariadau i’r map lle bo angen. Gall wneud cofnod o wybodaeth ychwanegol hefyd, megis oedran a natur terfynau, os gofynnir am hynny gan Gofrestrfa Tir EF.
Ni fydd gan yr arolygwr tir wybodaeth fanwl am y cais a gyflwynwyd i Gofrestrfa Tir EF ac ni fydd yn gallu gwneud sylwadau ar unrhyw agweddau ohono.
Ni fydd yr arolygwr tir yn gallu cofnodi unrhyw wybodaeth a ddarperir gan unrhyw un sy’n mynychu’r arolwg. Os yw rhywun am roi gwybodaeth ychwanegol sy’n berthnasol yn ei farn i’r arolwg neu’r cais, gall gysylltu â ni trwy:
customersupport@mail.landregistry.gov.uk
neu trwy ysgrifennu atom:
HM Land Registry Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester GL14 9BB
15. Atodiad 1: arferion cynllun teitl
16. Atodiad 2 – Enghreifftiau o gynlluniau teitl
Enghraifft 1: cynllun teitl fector a’i gofnodion cyfatebol yn y gofrestr
Nodyn: Mae’r cynllun yn gopi llai o’r gwreiddiol ac wedi ei atgynhyrchu at ddibenion enghreifftiol yn unig.
Enghraifft 2: cynllun teitl rhastr a’i gofrestr gyfatebol
Nodyn: Mae’r cynllun yn gopi llai o’r gwreiddiol ac wedi ei atgynhyrchu at ddibenion enghreifftiol yn unig.
17. Pethau i’w cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.