Canllawiau

Gwasanaethau Cyfreithiol: Helpu defnyddwyr i ddewis cyfreithiwr

Cyhoeddwyd 15 December 2016

Mae ein hargymhellion wedi eu cynllunio i sicrhau y gall defnyddwyr fod yn hyderus ynghylch y pris neu wasanaeth y gallant ddisgwyl wrth gyflogi cyfreithiwr.

Rydym wedi gofyn i reolyddion gyflwyno safonau uwch

Bydd gofyn i gyfreithwyr gyhoeddi prisiau ar eu gwefan fel bod prisiau yn dryloyw.

Bydd cyfreithwyr yn cael eu hannog i ymgysylltu gydag adolygiadau a graddiadau fel bod cwsmeriaid yn gwybod o flaen llaw pa mor dda yw eu cyfreithiwr.

Am y tro cyntaf bydd cwsmeriaid yn gallu bod yn hyderus bod ganddynt yr wybodaeth gywir ar yr adeg gywir.

Rydym wedi gofyn i reolyddion ddarparu eu data i drydydd partïon

Bydd data yn cael ei gyhoeddi gan reolyddion cyfreithiol i hwyluso offer cymharu i helpu cwsmeriaid i ganfod y cyfreithiwr cywir.

Marchnad sy’n well i bawb

Bydd yr argymhellion yn gwneud y farchnad yn fwy cystadleuol, a fydd yn annog cyfreithwyr i wneud eu gwasanaethau a busnesau yn fwy effeithiol ac i gynnig gwell ansawdd.

Rydym eisiau i gwsmeriaid gael y diogelwch priodol

Rydym wedi argymell bod y llywodraeth yn adolygu os oes gan gwsmeriaid i ddarparwyr heb awdurdod fynediad digonol at unioniad.

Rydym eisiau sicrhau bod rheoleiddio yn annog cystadlu ac arloesi

Rydym wedi argymell fod y llywodraeth yn adolygu’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer y tymor hwy.

Dylai cyfreithwyr fod mor hawdd i’w cymharu ag unrhyw beth arall a brynwch. Cofiwch chwilio am y fargen orau.

Rydym yn newid y farchnad gyfreithiol i wneud cyflogi cyfreithiwr yn haws ac yn fwy teg.

Cyflawnodd y CMA ymchwiliad i’r farchnad sy’n cwmpasu gwaith pob proffesiwn cyfreithiol.

Fe ganfu bod yna broblemau o ran tryloywder prisiau ac ansawdd ac nad oedd gan gwsmeriaid yr wybodaeth ofynnol cyn cyflogi cyfreithiwr.