Cynllun Cymorthdaliadau’r Gronfa Ffyniant Bro
Diweddarwyd 30 December 2022
Cynllun Cymorthdaliadau
1. Cyflwyniad
1.1. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud y cynllun cymorthdaliadau canlynol (y Cynllun) gan gydymffurfio â’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (y Cytundeb) a chan gydymffurfio ag ymrwymiadau rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar reoli cymorthdaliadau.
1.2. Bydd Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 (y Ddeddf) mewn grym yn llawn o 4 Ionawr 2023 ymlaen. Cynllun etifeddol yw’r Cynllun hwn ac felly nid yw’r gofynion rheoli cymorthdaliadau a amlinellir yn y Ddeddf yn berthnasol heblaw am y gofynion yn ymwneud ag eglurder ym Mhennod 3 Rhan 2 y Ddeddf.
1.3. Gwneir y Cynllun ar 22 Rhagfyr 2022.
1.4. Bydd y Cynllun yn dod i ben ar 31 Mawrth 2029.
1.5. Ceir cyfeirio at y Cynllun fel Cynllun Cymorthdaliadau’r Gronfa Ffyniant Bro.
2. Defnydd
2.1. Caiff yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC), yr Adran Drafnidiaeth (DfT), ac awdurdodau cyhoeddus ddefnyddio’r Cynllun hwn i ddarparu cymorthdaliadau o dan y Gronfa Ffyniant Bro ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2022.
3. Cydymffurfio ag Ymrwymiadau Rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar Reoli Cymorthdaliadau
3.1. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi ystyried yr egwyddorion rheoli cymorthdaliadau yn unol ag ymrwymiadau rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar reoli cymorthdaliadau ac, yn arbennig, Erthygl 366 Rhan 2 Cytundeb Masnach a Chydweithredu 2020 (y cytundeb masnach rydd rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig). Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd ddarparu cronfeydd nad ydynt yn gyfystyr â chymhorthdal pan nad yw’r gweithgarwch yn bodloni nodweddion cymhorthdal.
3.2 Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi ystyried y gweithgareddau o dan y Cynllun yn unol ag ymrwymiadau’r Deyrnas Unedig i Erthygl 10 Protocol Gogledd Iwerddon. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol o’r farn na fydd y Cynllun yn darparu cymhorthdal ar gyfer cynhyrchu na masnachu nwyddau na thrydan cyfanwerth yng Ngogledd Iwerddon. Ni fydd unrhyw gynnig o Ogledd Iwerddon sy’n ymwneud â chynhyrchu nwyddau a gwasanaethau yn bodloni rheolau’r Cynllun hwn ac felly ni fydd yn cael ei ariannu oddi tano. Lle mae cymorth gladwriaethol yn berthnasol o dan Protocol Gogledd Iwerddon, caiff ei implementeiddio drwy Eithriad Cyffredinol y Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer Gogledd Iwerddon.
3.3. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi ystyried y gwaharddiadau a’r gofynion eraill yn Erthygl 367 Rhan 2 y Cytundeb, ac mae o’r farn nad yw’r Cynllun yn darparu ar gyfer rhoi cymhorthdal a fyddai’n cael ei wahardd gan ofyniad a osodir gan unrhyw ddarpariaeth o’r Bennod honno, neu a fyddai’n groes i ofyniad o’r fath.
4. Diben
4.1. Mae’r Cynllun hwn yn amlinellu amodau a gofynion i ganiatáu i DLUHC, DfT ac awdurdodau cyhoeddus ddyfarnu cymorthdaliadau sy’n gydnaws â’r Cytundeb hwn, ar gyfer gweithgareddau penodedig i gefnogi’r broses o ddarparu’r Gronfa Ffyniant Bro.
4.2. Mae’n rhaid i gymorthdaliadau a roddir o dan y cynllun hwn gydymffurfio â’r:
4.2.1. amodau cyffredinol ym mharagraff 6, a’r
4.2.2. amodau a nodir yn yr Atodlen ar gyfer pob categori cymhorthdal.
Gall y Cynllun hwn gael ei ddiwygio o bryd i’w gilydd.
5. Diffiniadau cyffredinol
5.1. Yn y Cynllun hwn:
5.1.1. Mae “y Ddeddf” yn golygu Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022.
5.1.2. Mae “y Cytundeb” yn golygu Cytundeb Masnach a Chydweithredu 2020 y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.
5.1.3. Mae “Buddiolwr” yn golygu’r fenter sy’n derbyn cymhorthdal o dan y Cynllun hwn.
5.1.4. Mae “Gwariant cyfalaf” yn golygu caffael tir a/neu adeiladau, costau cyn datblygu, costau seilwaith, costau adeiladu, lwfansau rhesymol ar gyfer hapddigwyddiadau a chwyddiant, ffïoedd proffesiynol a chostau rheoli prosiect wedi’u cyfalafu, costau cyllid, a phrynu offer.
5.1.5. Mae “Safle halogedig” yn golygu safle lle y cadarnhawyd bod sylweddau peryglus yn bresennol, o ganlyniad i weithgarwch dynol, o’r fath lefel sy’n achosi risg sylweddol i iechyd dynol neu’r amgylchedd o ystyried y defnydd presennol o’r tir a’r defnydd ohono a gymeradwywyd yn y dyfodol.
5.1.6. Mae “Tir diffaith” yn golygu tir anghynhyrchiol sydd wedi’i ddifrodi cymaint gan ddatblygiad diwydiannol neu ddatblygiad arall fel na ellir gwneud defnydd buddiol ohono heb ei drin.
5.1.7. Mae “Costau prosiect cymwys” yn golygu’r gwariant cyfalaf a/neu’r costau adfer tir a geir gan y buddiolwr wrth gwblhau’r Prosiect.
5.1.8. Mae “Menter” yn golygu naill ai unigolyn sy’n ymwneud â gweithgarwch economaidd sy’n cynnwys cynnig nwyddau neu wasanaethau ar y farchnad, i’r graddau bod yr unigolyn yn ymwneud â’r cyfryw weithgarwch, neu grŵp o unigolion o dan berchnogaeth gyffredin neu reolaeth gyffredin sy’n ymwneud â gweithgarwch economaidd sy’n cynnwys cynnig nwyddau neu wasanaethau ar y farchnad, i’r graddau bod y grŵp yn ymwneud â’r cyfryw weithgarwch. Cymerir y diffiniad o “fenter” o Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 Adran 7 a ddaeth i rym ar 28 Ebrill 2022.
5.1.9. Bydd “Adfer Tir” yn golygu’r broses o adfer tir diffaith a/neu safle halogedig fel ei fod yn barod i’w ddatblygu.
5.1.10. Mae “Costau Adfer Tir” yn cynnwys costau astudiaethau, arolygon ac ymchwiliadau safle, paratoi amcangyfrifon costau, gwaith i sefydlogi safleoedd, costau trin safle halogedig a chostau trin tir diffaith i’w ddychwelyd i ddefnydd cynhyrchiol.
5.1.11. Mae “Seilwaith Lleol” yn golygu’r seilwaith a ddatblygwyd a/neu a adferwyd ar lefel leol i wella lleoedd, a bydd yn cynnwys swyddfeydd, lle manwerthu, lle hamdden, tai, gwestai, lleoliadau adloniant, llety diwydiannol, seilwaith ymchwil a datblygu, cyfleusterau chwaraeon cymunedol, canolfannau cynadledda ac arddangos, atyniadau diwylliannol a thwristiaeth, a seilwaith safle cyffredinol fel priffyrdd, cyfleustodau a mannau gwefru trydanol.
5.1.12. Mae “Arian cyfatebol” yn golygu cyllid a ddarperir gan y buddiolwr a/neu un trydydd parti neu fwy i dalu unrhyw gyfran o’r costau prosiect cymwys.
5.1.13. Mae “Costau cyn datblygu” yn golygu gweithgareddau sydd wrthi’n cael eu gwneud neu a gwblhawyd cyn i waith ffisegol ddechrau, ac maen nhw’n cynnwys gweithgareddau fel ymchwiliadau safle, paratoi amcangyfrifon costau, datblygu gwaith dylunio, cael caniatâd cynllunio, neu negodi caffael tir a/neu adeiladau.
5.1.14. Mae “Prosiect” yn golygu’r gweithgareddau a ddisgrifir yn y cais a gyflwynwyd i’r Gronfa Ffyniant Bro.
5.1.15. Bydd “Awdurdod cyhoeddus” yn golygu unigolyn sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, ond nid yw’n cynnwys: (a) y naill Dŷ’r Senedd na’r llall; (b) Senedd yr Alban; (c) Senedd Cymru, na (ch) Chynulliad Gogledd Iwerddon.
6. Amodau cyffredinol
6.1 Mae’n rhaid i awdurdod cyhoeddus gael y wybodaeth ganlynol, o leiaf, gan fuddiolwr cyn rhoi cymhorthdal o dan y Cynllun hwn:
6.1.1. Enw’r buddiolwr; a
6.1.2. Disgrifiad o’r prosiect arfaethedig, gan gynnwys ei leoliad, dyddiadau dechrau a gorffen, costau’r prosiect, arian cyfatebol, strwythurau llywodraethu, methodoleg darparu a chanlyniadau disgwyliedig.
6.2. Ni chaiff awdurdod cyhoeddus roi cymhorthdal ar gyfer prosiect sydd wedi dechrau, ac eithrio:
6.2.1. lle mae’r buddiolwr wedi dechrau mynd i gostau cyn datblygu neu eisoes wedi gwneud hynny, ond nid yw gwaith ffisegol a gwaith arall ar y prosiect cymwys yn destun ymrwymiad cyfreithiol nac wedi dechrau.
6.2.2. lle mae’r awdurdod cyhoeddus o’r farn na fyddai’r prosiect yn hyfyw oni bai ei fod yn dechrau cyn i’r cymhorthdal gael ei ddyfarnu ac mae’r awdurdod cyhoeddus wedi darparu awdurdodiad ysgrifenedig i’r buddiolwr i’r prosiect ddechrau cyn i’r cymhorthdal gael ei roi. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cadw’r hawl i gefnogi costau a gafwyd cyn y dyddiad dyfarnu ac felly ni ddylid tybio eu bod yn gymwys.
6.2.3. lle mae’r awdurdod cyhoeddus o’r farn y gallai presenoldeb cymhorthdal ehangu cwmpas y prosiect ac y bydd yn cyflawni canlyniadau ychwanegol.
Nid oes unrhyw beth yn is-baragraffau 6.2.1, 6.2.2 a/neu 6.2.3 sy’n cynrychioli nac yn gyfystyr ag ymrwymiad cyfreithiol neu addewid neu fwriad neu unrhyw fath o sicrwydd y bydd awdurdod cyhoeddus yn darparu cymhorthdal ar gyfer unrhyw ran o brosiect neu’r cyfan ohono.
7. Math o gymhorthdal a phrisiad
7.1. Ceir dyfarnu cymorthdaliadau ar ffurf grantiau.
7.2. Uchafswm y cymhorthdal sydd i’w ddarparu i brosiect o dan y Cynllun yw £20 miliwn.
7.3. Gellir darparu cymhorthdal i fuddiolwr i gwblhau prosiect o dan Gategori 1A a Chategori 1B ar yr amod nad yw gwerth cyfunol y cymhorthdal yn fwy nag £20 miliwn.
7.4. Bydd gwerth y cymhorthdal yn cael ei gyfrifo gan gydymffurfio â’r amodau a nodir yn yr Atodlen ar gyfer pob categori cymhorthdal.
8. Tryloywder
8.1. Mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio â’r gofynion tryloywder a amlinellir ym Mhennod 3 Rhan 2 y Ddeddf. Mae’n rhaid i unrhyw gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun hwn sy’n fwy na £100,000 gael ei lanlwytho i’r gronfa ddata cymorthdaliadau o fewn tri mis o gadarnhau’r penderfyniad dyfarnu.
8.2 Pan fydd yr awdurdod cyhoeddus sy’n dyfarnu yn gwneud ymrwymiad cyfrwymol, bydd yn gyfrifol am lanlwytho manylion y cymhorthdal i’r gronfa ddata tryloywder o fewn 3 mis calendr o ddyfarnu’r cymhorthdal. Mae’r Cynllun yn cynnal ei ymrwymiad parhaus i gydymffurfio ag Erthygl 369, felly bydd gwiriadau’n cael eu cynnal i sicrhau bod dyfarniadau cymorthdaliadau’n cael eu lanlwytho i’r gronfa ddata tryloywder.
9. Cyfuno
9.1. Mae’n rhaid i Awdurdod Cyhoeddus ystyried yr arian cyfatebol a’r symiau cronnol o gymorthdaliadau a dderbyniwyd gan y buddiolwr ar gyfer y prosiect, a roddwyd o dan y Cynllun hwn neu fel arall.
9.2. Pan fydd prosiect yn derbyn symiau cronnol o gymorthdaliadau sy’n fwy na’r terfynau ym mharagraff 7.2, ni fydd y prosiect o fewn cwmpas y Cynllun hwn mwyach.
9.3. Ni cheir osgoi’r terfynau ym mharagraff 7.2 trwy rannu prosiect unigol mewn modd artiffisial yn sawl prosiect cyfansawdd â nodweddion neu amcanion tebyg.
10. Gwaharddiadau Cyffredinol
10.1. Ni chaiff awdurdod cyhoeddus roi cymhorthdal o dan y Cynllun hwn a fyddai’n ddarostyngedig i unrhyw un o’r gwaharddiadau a’r gofynion eraill a gynhwysir yn Erthygl 367 Rhan 2 y Cytundeb.
11. Camddefnyddio cymhorthdal
11.1. Dylai awdurdod cyhoeddus sicrhau bod unrhyw gymhorthdal a roddir o dan y Cynllun hwn yn cael ei roi yn ddarostyngedig i amod sy’n caniatáu i’r awdurdod cyhoeddus adennill swm cyfan y cymhorthdal neu ran ohono, i’r graddau bod y cymhorthdal yn cael ei ddefnyddio at ddiben heblaw am y diben y’i rhoddwyd ar ei gyfer ac i’r graddau nad yw buddiolwr yn dilyn rheolau’r Cynllun, gan felly gamddefnyddio’r cymhorthdal.
Categori 1A: Cymorth i ddatblygu Seilwaith Lleol
1. Cyflwyniad
1.1. Ceir dyfarnu cymhorthdal i Fuddiolwr o dan y categori hwn i helpu i ddarparu Seilwaith Lleol (y “Prosiect” at ddibenion y categori hwn).
2. Gweithgarwch cymwys
2.1. I fod yn gymwys o dan y categori hwn, mae’n rhaid i Brosiect gynnwys un o’r mathau canlynol o Seilwaith Lleol neu gyfuniad ohonynt:
2.2. Swyddfeydd
2.2.1. Adeiladu neu adnewyddu safle i ddarparu lle masnachol i’w feddiannu gan ystod o ddefnyddwyr. Er enghraifft, datblygiad swyddfa Gradd ‘A’, lleoliad gwaith a reolir, neu le ar gyfer rhannu mannau gwaith a lle hyblyg.
2.3. Manwerthu
2.3.1. Adeiladu neu adnewyddu safle i ddarparu lle masnachol ar gyfer busnesau manwerthu. Er enghraifft, ad-drefnu canolfannau siopa, ad-drefnu siopau adrannol, neu ailddatblygu eiddo gwag ar y stryd fawr.
2.4. Hamdden
2.4.1. Adeiladu neu adnewyddu safle i ddarparu lle masnachol ar gyfer busnesau hamdden. Er enghraifft, creu seilwaith i wella’r economi dydd a nos, gan gynnwys caffis, bwytai, a bariau.
2.5. Tai
2.5.1. Adeiladu neu adnewyddu safle i ddarparu tai. Er enghraifft, creu datblygiadau tai, fflatiau ar wahân neu’n rhan o ddatblygiad defnydd cymysg, tai fforddiadwy, a thai cymdeithasol.
2.6. Gwestai a llety arall
2.6.1. Adeiladu neu adnewyddu safle i ddarparu gwestai. Er enghraifft, creu gwestai yng nghanol dinasoedd a threfi, neu wahanol fathau o lety lle mae galw gan ymwelwyr.
2.7. Adloniant
2.7.1. Adeiladu neu adnewyddu safle i ddarparu lleoliadau adloniant. Er enghraifft, creu sinemâu, ac arenâu.
2.8. Llety diwydiannol
2.8.1. Adeiladu neu adnewyddu safle i ddarparu llety diwydiannol. Er enghraifft, unedau diwydiannol cyffredinol a warysau.
2.9. Ymchwil a datblygu
2.9.1. Adeiladu neu adnewyddu safle i hyrwyddo gweithgarwch ymchwil a datblygu. Er enghraifft, canolfannau ymchwil, unedau hybu, lle i dyfu, ac asedau sy’n hyrwyddo cydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant.
2.10. Chwaraeon cymunedol
2.10.1. Adeiladu neu adnewyddu cyfleusterau chwaraeon cymunedol. Er enghraifft, creu canolfannau hamdden, meysydd a stadia ar gyfer gweithgareddau chwaraeon amatur a chymunedol, a chanolfannau lles.
2.11. Diwylliannol a thwristiaeth
2.11.1. Adeiladu neu adnewyddu safle diwylliannol a thwristiaeth. Er enghraifft, theatrau, orielau, amgueddfeydd, ac atyniadau i ymwelwyr.
2.12. Seilwaith cyffredinol
2.12.1. Adeiladu seilwaith safle a ddefnyddir i ddarparu gweithgarwch economaidd – naill ai oherwydd bod gweithredwr y seilwaith yn cynnal gweithgarwch economaidd, neu oherwydd bod y seilwaith yn darparu budd penodol i un trydydd parti a nodwyd neu fwy. Er enghraifft, creu priffyrdd, gwasanaethu safle, cyfleustodau, mannau gwefru trydanol, a pharatoi tir datblygu yn gyffredinol gan gynnwys dymchwel a chlirio.
2.13. Canolfannau cynadledda ac arddangos
2.13.1. Adeiladu neu adnewyddu canolfannau cynadledda ac arddangos. Er enghraifft, cyfleusterau sy’n darparu awditoria, lle ar gyfer digwyddiadau, ac ystafelloedd cyfarfod.
3. Cymhwysedd menter
3.1. Gellir darparu cymhorthdal i unrhyw fuddiolwr sy’n creu seilwaith lleol.
4. Costau cymwys
4.1. Ceir dyfarnu cymorthdaliadau o dan y categori hwn ar gyfer costau cymwys canlynol Prosiect yn unig:
4.1.1. Gwariant cyfalaf angenrheidiol a chymesur a gafwyd gan fuddiolwr i gyflawni’r prosiect.
4.2. Ni ddylai cymhorthdal ddigolledu gwariant cyfalaf y byddai’r buddiolwr wedi’i ariannu heb unrhyw gymhorthdal.
5. Amodau ychwanegol
5.1. Bydd seilwaith lleol ar gael i ddefnyddwyr ar sail agored.
5.2. Bydd defnyddwyr yn talu pris y farchnad i ddefnyddio neu brynu’r seilwaith lleol.
5.3. Ni fydd seilwaith lleol wedi’i deilwra yn cael ei greu er mwyn un buddiolwr neu ddefnyddiwr yn unig.
5.4. Bydd unrhyw weithredwr trydydd parti ar gyfer y seilwaith lleol yn cael ei benodi trwy broses gaffael agored a thryloyw.
5.5. Ni fydd gwerth y cymhorthdal yn fwy na bwlch hyfywedd a bennwyd ex-ante gan arbenigwyr annibynnol y diwydiant.
5.6. Mae’n rhaid i’r buddiolwr ymrwymo i gynnal defnydd o’r prosiect tan 31 Mawrth 2032.
6. Cymarebau cymorthdaliadau
6.1. Gellir dyfarnu cymhorthdal o dan y categori hwn yn erbyn costau prosiect cymwys hyd at werth y bwlch hyfywedd.
7. Trothwyon cymorthdaliadau
7.1. Uchafswm y cymhorthdal sydd i’w ddarparu i fuddiolwr neu fuddiolwyr ar gyfer prosiect yw £20 miliwn.
8. Math o gymhorthdal
8.1. Darperir cymorthdaliadau ar ffurf grantiau.
Categori 1B: Cymorth i Fuddsoddi mewn Adfer Tir
1. Cyflwyniad
1.1. Ceir dyfarnu cymhorthdal i Fuddiolwr o dan y categori hwn i helpu i Adfer Tir (y “Prosiect” at ddibenion y categori hwn).
2. Gweithgarwch cymwys
2.1. I fod yn gymwys o dan y categori hwn, mae’n rhaid i Brosiect gwblhau gweithgareddau Adfer Tir.
3. Cymhwysedd menter
3.1. Gellir darparu cymhorthdal i unrhyw fenter sy’n cynnal gweithgareddau Adfer Tir.
4. Costau cymwys
4.1. Ceir dyfarnu cymorthdaliadau o dan y categori hwn ar gyfer costau cymwys canlynol Prosiect yn unig:
4.1.1. Costau Adfer Tir angenrheidiol a chymesur a gafwyd i gwblhau gweithgareddau Adfer Tir a bennwyd gan arbenigwyr annibynnol y diwydiant.
4.1.2. Ni ddylai cymhorthdal ddigolledu gwariant a gafwyd i gwblhau gweithgareddau Adfer Tir y byddai’r buddiolwr wedi’i ariannu heb unrhyw gymhorthdal.
5. Amodau ychwanegol
5.1. Gwerth y cymhorthdal fydd cyfanswm y costau Adfer Tir llai’r cynnydd amcangyfrifedig yng ngwerth tir y tir wedi’i adfer. Dylai’r cynnydd amcangyfrifedig yng ngwerth tir y tir wedi’i adfer gael ei bennu ex-ante gan arbenigwyr annibynnol y diwydiant.
5.2. Bydd tir a adferwyd sydd wedi elwa o gymhorthdal yn cael ei waredu ar werth y farchnad yn unig.
6. Egwyddor y llygrwr sy’n talu
6.1. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cydnabod bod “egwyddor y llygrwr sy’n talu” (sy’n deillio o’r cytundeb amgylcheddol amlochrog a adwaenir fel “Datganiad Rio 1992 ar yr Amgylchedd a Datblygu, y Confensiwn Newid yn yr Hinsawdd a’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol” ac yn arbennig Egwyddor 16 y cytundeb hwnnw) wedi’i gwreiddio yn neddfwriaeth y Deyrnas Unedig ac yn cydnabod y cydymffurfir â’r egwyddor yn y Cynllun hwn.
6.2 Pan nodir yn glir fod yr unigolyn yn gyfrifol am lygru tir a nodwyd (gan y Cynllun hwn) fel safle halogedig, mae’n rhaid i’r unigolyn hwnnw ariannu’r gwaith adfer yn unol â’r egwyddor y llygrwr sy’n talu ac ni cheir darparu cymhorthdal i gefnogi’r gweithgarwch hwn. Pan na ellir nodi’r unigolyn sy’n gyfrifol am y llygredd neu na ellir ei orfodi i ddwyn y gost, caiff yr unigolyn sy’n gwneud y gwaith adfer dderbyn cymhorthdal.
6.3. Yr hyn a olygir gan ‘yr unigolyn sy’n gyfrifol am y llygredd’ yw’r unigolyn sy’n atebol o dan y gyfraith gymwys. Yn ôl yr egwyddor y llygrwr sy’n talu yn y Deyrnas Unedig, mae’n rhaid i’r rhai sy’n gyfrifol am achosi’r llygredd wneud y tir yn ddiogel ar gyfer ei ddefnydd presennol. Ni fydd cymorthdaliadau ar gael o dan y cynllun mewn achosion o’r fath oni bai na ellir nodi’r llygrwr neu ei orfodi i ddwyn y gost.
6.4. Mae’r cynllun yn rhagweld y bydd cymhorthdal ar gael i gwblhau gwaith ychwanegol ar y tir er mwyn ei wneud yn ddiogel ar gyfer unrhyw ddefnydd newydd; er enghraifft, i sicrhau bod tir yn bodloni’r safonau amgylcheddol uwch sy’n ofynnol ar gyfer adeiladu tai newydd. Mewn achosion o’r fath, bydd arbenigwyr annibynnol y diwydiant yn cyfrifo cost ychwanegol gwneud y tir yn ddiogel ar gyfer unrhyw ddefnydd newydd. Bydd arbenigwyr annibynnol y diwydiant yn sicrhau bod gwahaniaeth clir rhwng gwaith sy’n angenrheidiol i wneud y tir yn ddiogel ar gyfer ei ddefnydd presennol a gwaith sy’n ofynnol i’w wneud yn ddiogel ar gyfer unrhyw ddefnydd newydd. Bydd cymhorthdal ar gael dim ond ar gyfer cost ychwanegol gwneud y tir yn addas ar gyfer unrhyw ddefnydd newydd.
6.5. Pan fydd tir diffaith a thir llygredig, bydd yr egwyddor y llygrwr sy’n talu yn berthnasol i elfen lygredig y tir.
7. Cymarebau cymorthdaliadau
7.1. Gellir dyfarnu cymhorthdal o dan y categori hwn yn erbyn costau Adfer Tir hyd at y gwerth a gyfrifir gan baragraff 5.1.
8. Trothwyon cymorthdaliadau
8.1. Uchafswm y cymhorthdal sydd i’w ddarparu i fuddiolwr neu fuddiolwyr ar gyfer cyflawni’r prosiect yw £20 miliwn.
9. Math o gymhorthdal
9.1. Darperir cymorthdaliadau ar ffurf grantiau.