Guidance

Prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol: taliadau ffioedd ymgeisio o 1 Ebrill 2024/25

Updated 24 July 2024

Applies to England and Wales

Codir tâl ar ymgeiswyr am y canlynol:

  • ceisiadau i’w hawdurdodi o dan adrannau 52 a 53 Deddf Cynllunio 2008, cael gwybodaeth am fuddiannau mewn tir a hawliau mynediad
  • costau lleoliad, lle nad yw’r Ymgeisydd yn darparu lleoliad ar gyfer gwrandawiad
  • ffi i gyd-fynd â’r cais (y ‘Ffi dderbyn’)
  • ffi Cyn-archwiliad yn dilyn penodi’r Arolygydd/Arolygwyr a ddewiswyd i archwilio’r cais yn y lle cyntaf
  • taliad cychwynnol yn gysylltiedig â thrin cais (sy’n daladwy ar ddechrau’r cam Archwilio, yn dilyn y Cyfarfod Rhagarweiniol)
  • taliad terfynol yn gysylltiedig â thrin cais (sy’n daladwy ar ôl cwblhau’r cam Archwilio)

1. Taliadau Ffioedd o 1 Ebrill 2024

Mae’r tabl isod yn dangos y ffioedd sy’n daladwy o 1 Ebrill 2024 ar gyfer ceisiadau presennol a newydd. Gellir gweld Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffioedd) 2010 a diwygiadau dilynol yn legislation.gov.uk

Y ffi yn gysylltiedig â cheisiadau am awdurdodiad o dan adrannau 52 a 53   
Cais am awdurdodiad o dan adran 52(2) (gwybodaeth am fuddiannau mewn tir). £1,958
Cais am awdurdodiad o dan adran 53(1) (hawliau mynediad). £1,958
Y ffi i gyd-fynd â chais
Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio godi ffi ar yr Ymgeisydd yn gysylltiedig â phenderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 55 (Derbyn ceisiadau) ynglŷn â ph’un ai derbyn y cais ai peidio. Mae’n rhaid i’r ffi gyd-fynd â’r cais. £8,796
Ffi Cyn-archwiliad  
Yn dilyn penderfyniad o dan adran 61 (Dewis cychwynnol o Banel neu Arolygydd unigol), mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio hysbysu’r Ymgeisydd yn ysgrifenedig am y ffi Cyn-archwiliad. Y ffi Cyn-archwiliad yw:-      
Un Arolygydd £25,462
Panel o ddau Arolygydd £42,108
Panel o dri Arolygydd £58,754
Panel o fwy na thri Arolygydd £84,214
Taliad cychwynnol yn gysylltiedig â thrin cais  
Pan fydd archwiliad yn cael ei drin gan un Arolygydd £1,204 fesul diwrnod perthnasol amcangyfrifedig
Pan fydd archwiliad yn cael ei drin gan banel o ddau Arolygydd £1,915 fesul diwrnod perthnasol amcangyfrifedig
Pan fydd archwiliad yn cael ei drin gan banel o dri Arolygydd £2,624 fesul diwrnod perthnasol amcangyfrifedig
Pan fydd archwiliad yn cael ei drin gan banel o fwy na thri Arolygydd £3,996 fesul diwrnod perthnasol amcangyfrifedig
Taliad terfynol yn gysylltiedig â thrin cais
Yn dilyn hysbysiad ynghylch cwblhau’r cam Archwilio o dan adran 99. Mae’r taliad terfynol yn dibynnu ar nifer y diwrnodau a oedd yn ofynnol ar gyfer yr archwiliad, mewn gwirionedd:-      
Pan fydd un Arolygydd wedi archwilio’r cais £2,409 fesul diwrnod perthnasol
Pan fydd panel o ddau Arolygydd wedi archwilio’r cais £3,831 fesul diwrnod perthnasol
Pan fydd panel o dri Arolygydd wedi archwilio’r cais £5,249 fesul diwrnod perthnasol
Pan fydd panel o fwy na thri Arolygydd wedi archwilio’r cais £7,992 fesul diwrnod perthnasol