Policy paper

New Plan for Immigration: legal migration and border control (Welsh accessible)

Updated 25 November 2022

This was published under the 2019 to 2022 Johnson Conservative government

ISBN 978-1-5286-3641-4

E02773812 07/22

Rhagair y Gweinidog gan yr Ysgrifennydd Cartref

Am y tro cyntaf ers degawdau mae gennym ni reolaeth ddemocrataidd lawn o’n ffiniau. Mae ffiniau diogel sydd wedi eu rhedeg yn effeithlon yn ganolog i’n diogelwch, ein ffyniant ac i’n synnwyr o genedligrwydd.

Mae’n bleser gen i gyflwyno’r ddogfen hon sy’n amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer ein system ffiniau a mudo’r dyfodol. Ers i’r Llywodraeth yma ddod â rhyddid symudiad i ben, rydym wedi rhoi system fyd-eang sy’n seiliedig ar bwyntiau ar waith ac mae wedi mynd o nerth i nerth, gyda’r niferoedd sy’n ymgeisio am fisa yn uwch na lefelau cyn y pandemig.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf, byddwn yn cyflwyno mwy o welliannau er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gael system ffiniau a mudo cyfreithlon sy’n arwain y byd. Mae’r rhain yn amrywio o ystod o newidiadau gweladwy fel gwell fel gwell gwasanaeth cwsmer i newidiadau anweladwy fel gwell targedu a rhestr-wylio ar y ffin.

Bydd ein ffin yn fwy llyfn ac effeithlon, gyda nifer fwy o gwsmeriaid yn defnyddio e- Glwydi. Mae gennym uchelgais eofn am deithio di-gyffwrdd ar gyfer dinasyddion Prydeinig a’n partneriaid tramor yr ymddiriedir ynddyn nhw fwyaf.

Bydd ein cynllun caniatâd-i-deithio blaenllaw yn golygu ei fod yn haws i’n ffrindiau ddod a chyfrannu i’r DU, ond yn anos i’r sawl nad ydym eisiau i ddod yma. Bydd Awdurdodi Teithio Electronig yn ein galluogi i fynd i’r afael â phroblemau ymhellach i fyny’r gadwyn a byddwn yn gwybod mwy am y sawl sydd yn defnyddio’r system i ddod yma.

Cynrychiola’r cynlluniau hyn, ochr yn ochr â’r rhai sy’n mynd i’r afael â mudo anghyfreithlon, fel ein Partneriaeth Mudo a Datblygu Economaidd gyda Rwanda, brawf pellach fod y Llywodraeth hon yn cymryd ein ffiniau o ddifrif.

Bydd y newidiadau rydym yn eu gwneud i’r system yn dod â buddion i’n holl gwsmeriaid, o ddeiliaid Prydeinig yn Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, i bartneriaid diwydiant a busnesau, i’n sectorau gwyddoniaeth, ymchwil a chreadigol llwyddiannus dros ben a theithwyr cyfreithlon o dramor.

Rwy’n hyderus bydd y datblygiadau a amlinellir yn y ddogfen hon yn arwain at Undeb cryfach, mwy diogel a ffyniannus.

Cyd-destun

1. Tanategir ein strategaeth ar gyfer mudo cyfreithlon a rheoli ffiniau gan uchelgais glir i roi system ffiniau mwyaf effeithiol a chryfa’r byd mewn lle: un sydd yn galluogi ac yn cefnogi twf a ffyniant yn y DU; un sydd yn syml i’w ddeall a’i weithredu; ac un sydd yn blaenoriaethu diogelu’r cyhoedd, drwy wneud ein ffiniau’n fwy diogel. Bydd ein trawsnewidiad o’r ffin yn cynnig buddion i’n holl gwsmeriaid, y cyhoedd, diwydiant ac ymwelwyr.

2. Mae’r strategaeth yn ffurfio rhan o’n Cynllun Newydd dros Fewnfudo cynhwysfawr. Wrth galon ein cynllun mae egwyddor syml: tegwch. Rydym wedi cymryd rheolaeth o’n system mudo gyfreithiol yn ôl drwy ddod â symudiad rhydd i ben a drwy gyflwyno system newydd sy’n seiliedig ar bwyntiau. Mae’r strategaeth yma’n amlinellu ein safbwynt a’n safle i fynd ymhellach, drwy ffocysu ein system ar amgylchiadau unigol i’r sawl sy’n cyrraedd y DU. Byddwn yn croesawu’r sawl sy’n dychwelyd i’r DU neu’n cyrraedd er mwyn cefnogi ein ffyniant. Byddwn yn cryfhau ein ffiniau yn erbyn y sawl na ddylai fod yn y DU.

3. Mae’r ddogfen hon yn adeiladu ar y Cynllun Newydd ar gyfer Mewnfudo: Strategaeth Mudo Gyfreithlon a Ffiniau[footnote 1] a gyhoeddwyd ym mis Mai 2021 ac yn gosod ein gweledigaeth ar gyfer trawsffurfio’r system mudo gyfreithlon a ffiniau mewn modd radical, a sut y byddwn yn cyflawni hyn. Rydym yn gwella ein system mewnfudo a ffiniau drwy liflinio prosesau, drwy gofleidio technoleg, sydd yn cynnig effeithlonrwydd gwell i’n cwsmeriaid, ein heconomi a gweithrediadau ein ffiniau.

4. Cefnogi twf a ffyniant rydym wedi darparu system mewnfudo newydd sydd yn seiliedig ar bwyntiau ac sydd yn cefnogi’r DU i ddenu’r sgiliau a’r dalent sydd ei angen arnom, gan ei gwneud hi’n decach ac yn haws i bobl ddod i’r DU a ffynnu yma fel rhan o fesurau Cynllun y Llywodraeth ar gyfer Twf[footnote 2]. Mae ein system yn gweithio er budd y DU cyfan - Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon - a blaenoriaethu’r sgiliau sydd gan berson i gynnig, nid o ba le mae ei basbort yn dod. Mae Cynllun y Llywodraeth ar gyfer Swyddi[footnote 3] wedi ei ffocysu ar helpu pobl ar draws y wlad i ail-hyfforddi, adeiladu sgiliau newydd a dod ‘nôl i weithio, gyda pholisi mudo sydd yn cefnogi’r gyriad hwn, nid rhoi rhywbeth arall yn ei le.

5. Mae ein system sydd yn seiliedig ar bwyntiau yn cefnogi pecyn ehangach o ymyraethau sydd yn ffurfio dull hirdymor y Llywodraeth i’r farchnad lafur ac ail- adeiladu ein heconomi drwy gefnogi ein busnesau i dyfu a chael pobl yn ôl i’r gwaith. Rhaid i ni weld datrysiadau hirdymor a gyflenwir gan gyflogwyr drwy well hyfforddiant a chyflogi a gwell tâl ac amodau gwaith a rhaid i ni fuddsoddi yn ein gweithlu domestig cyn ymestyn am ein hysgogiadau mudol. Cafodd ein system ei ddylunio i allu ystwytho i ddiwallu anghenion yr economi ac mae wedi gwneud hynny’n llwyddianus dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ymateb yn dda i newidiadau yn y farchnad lafur a digwyddiadau byd-eang. Rydym yn parhau i adolygu ein rheolau wrth i economi a marchnad lafur y DU addasu i’r cyfnod yn dilyn y pandemig.

6. Er mwyn sicrhau fod ein system newydd yn syml ac yn hawdd i’w ddeall a’i weithredu, rydym yn rhoi’r cwsmer wrth ei galon, gan sicrhau ei fod yn haws i’w fordwyo ac yn ddiofyn ddigidol. Mae’n system fyd-eang sydd yn trine i gwsmeriaid fel unigolion, gan ei wneud yn haws ac yn fwy syml tra’n parhau i sicrhau nad yw’r cyfleoedd ar gyfer mudo cyfreithlon yn cael eu cam-drin. Rydym yn byw mewn oes ddigidol, lle mae busnesau a cwsmeriaid yn disgwyl profiad chwim a hawdd ei ddefnyddio. Mae nifer o’n cwsmeriaid yn elwa o daith ddigidol llawn eisoes, gan gynnwys dros chwe miliwn o geisiadau i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS). Mae’r newidiadau a wnaethonm eisoes wedi ein galluogi ni i addasu’n gyflym i ddiwallu anghenion y sawl sy’n cael eu heffeithio gan digwyddiadau rhyngwladol enfawr fel pandemig Covid-19 ac ymosodiad parhaus Rwsia ar yr Wcráin. Dymunwn fynd ymhellach, gyda chwsmeriaid yn profi rhyngwyneb digidol llyfn perthynol gyda’u rhyngweithiadau dyddiol â busnesau neu wasanaethau.

7. Bydd trawsffurfio ein system mudo gyfreithiol hefyd yn trosglwyddo ein hymrwymiad tuag at system deg a chadarn, drwy gynnig llwybrau diogel a chyfreithlon i’r DU ar gyfer y sawl sydd angen cael eu hamddiffyn. Mae hwn yn adeiladau ar ein hanes hir o helpu pobl yn uniongyrchol sydd yn dod o ardaloedd lle mae gwrthdaro ac ansefydlogrwydd. Ar Ionawr 31 2021, fe gyflwynon ni fisa Gwladolion Prydeinig (Tramor) Hong Kong i’r bobl hynny o Hong Kong. O Orffennaf 11, 2022, rydym wedi croesawu 95,400 o bobl o’r Wcráin i’r DU, gyda nifer cynyddol yn gallu gwneud cais heb fod angen mynychu Canolfan Ymgeisio am Fisa yn gorfforol. Roeddem yn gallu cyflwyno hwn ar garlam, mewn ymateb i’r argyfwng dyngarol, drwy hwyluso prosesau a gyflwynwyd drwy ein hagenda trawsffurfio.

8. Bydd ein system yn blaenoriaethu amddiffyn y cyhoedd, drwy wneud ein ffiniau’n fwy diogel a thrawsffurfio’r ffin gyda newidiadau gweledol i fesurau diogelwch, amseroedd aros a phrofiad y teithiwr. Byddwn yn cyflawni hyn drwy ddeall mwy am bobl sydd yn dod i’r DU cyn iddyn nhw deithio, gan ein galluogi ni i reoli llif ac ymyraethau ar y ffin yn seiliedig ar amgylchiadau unigol a llai o giwiau.

9. Byddwn yn uchafu’r defnydd o ymyraethau cyn-teithio er mwyn atal pobl niweidiol rhag cyrraedd ein ffin yn y lle cyntaf. Bydd y rhan fwyaf a fydd yn croesi ffin y DU yn profi system gyrraedd eGlwyd gan ddefnyddio awtomeiddio fel eu hunig bwynt cyswllt ar y ffin. Dymunwn yn y pen draw, i’r profiad ar y ffin i fod yn un digyswllt ar gyfer y mwyafrif o bobl. Bydd hyn yn caniatáu i’n Swyddogion Llu’r Ffiniau ganolbwyntio ar y sawl sydd yn cynrychioli’r bygythiad mwyaf neu sydd fwyaf mewn perygl, a chreu arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y gyllideb gyhoeddus.

10. Byddwn yn rhoi’r cwsmer wrth galon ein system newydd a dyma’r peth iawn i’w wneud ac mae’n cynnwys amddiffyn y cyhoedd a’n diogelwch ar bob cam. Rydym yn parhau i sicrhau cydymffurfiaeth gyda rheolau mewnfudo mwy gwydn mewn perthynas â throseddolrwydd a bydd ein hymagwedd ddigidol newydd yn cryfhau ein gallu i adnabod y sawl sy’n fygythiad i’n diogelwch a ffyniant. Mae cydymffurfiaeth gyda chyfreithiau mewnfudo’r DU yn rhan hanfodol o system mewnfudo sydd yn gweithredu mewn modd teg, cadarn a gydag unplygrwydd. Rydym wedi amlinellu ein disgwyliadau’n glir ar gyfer y sawl sy’n dymuno dod a pharhau i aros yn y DU a chanlyniadau peidio cydymffurfio gyda’n rheolau a chyfreithiau. Bydd y sawl sy’n cydymffurfio â’n rheolau yn cael eu croesawu i’r DU gyda phroses ymgeisio haws i allu gadael a chroesi ein ffin. Bydd y sawl nad yw eu presenoldeb yn y DU yn gydnaws â’r lles cyhoeddus yn ei chael hi’n anos i gyrraedd ein ffin.

11. Mae’r holl newidiadau mawrion hyn yn y system mudo a ffiniau yn gyfochrog ac yn ategu at y pecyn a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar Ebrill 14, 2022 i fynd i’r afael â mudo anniogel ac anghyfreithlon.[footnote 4] Mae cyflenwi’r strategaeth hon yn rhan ganolog o Gynllun Cyflenwi Deilliant y Swyddfa Gartref (ODP), sy’n cynnwys y deilliant i “alluogi symudiad cyfreithlon pobl a nwyddau er mwyn cefnogi ffyniant economaidd”.[footnote 5] Rydym yn arloesi ac yn defnyddio technoleg newydd er mwyn gwella ein prosesau, cryfhau ein diogelwch ar y ffîn tra’n denu talent byd-eang. Mae hyn yn golygu y gallwn gyflenwi profiad cwsmer mwy cyfeillgar i’r defnyddiwr.

Rheoli Mudo

12. Gyda lansiad y system newydd sy’n seiliedig ar bwyntiau ym mis Rhagfyr 2020, mae gennym ni reolaeth ddemocrataidd lawn nawr o’r system mewnfudo. Mae’r Llywodraeth wedi cymryd penderfyniadau ar y cyd ynglŷn â chynnig mudo’r DU, gan gydbwyso’r camau sydd eu hangen i gefnogi adferiad economaidd o’r pandemig a datrys heriau cyflenwi byr- dymor, gyfochr â sicrhau bd cyflogwyr yn tynnu ar ac yn uwchsgilio gweithlu domestig y DU. Mae ein system wedi cyfrannu at un o’r adferiadau economaidd cyflymaf o Covid ymhlith yr G7 ac mae wedi ein galluogi i ymateb i ddigwyddiadau yn y byd yn Hong Kong, Afghanistan a’r Wcráin.

13. Rydym wedi dod â symudiad rhydd i ben. Mae yna fwy o weithwyr medr uwch yma yn cyfrannu tuag at economi’r DU, ac mae pobl Prydain o’r diwedd yn rheoli polisi mudo cyfreithlon y DU. Yn ystod y 12 mis hyd at ddiwedd Mis Mawrth 2022, fe roesom ni mwy na 182,000 o fisas i weithwyr medrus, 3,500 fisa talent byd-eang a 466,000 fisa myfyriwr. Mae ein polisi mudo yn caniatau’r hawl i fudo i’r DU, tra’n osgoi targedau mympwyol ac afrealistig. Rydym wedi cymryd rheolaeth nôl a gallwn benderfynu nawr pwy sydd â hawl i gael mynediad at y system seiliedig ar bwyntiau. Yn dilyn yr ymrwymiad yma yn y maniffesto i leihau niferoedd yn gyffredinol, rydym yn adolygu’r tueddiadau hyn yn barhaus.

14. Byddwn yn mabwysiadu dull llywodraeth gyfannol tuag at gefnogi’r farchnad lafur er mwyn rhwystro llwybrau mewnfudo rhag cael eu gweld fel y datrysiad cyntaf ar gyfer ystod eang o faterion yn ymwneud â’r farchnad lafur. Mae’r datganiad yma’n cynnig y cyfle i weithio ynghyd ag adrannau Llywodraeth eraill ac ail-gadarnhau ein hymrwymiad tuag at system fewnfudo gadarn a theg.

Ein llwyddianau

Y System Seiliedig ar Bwyntiau

15. Mae system y DU sy’n seiliedig ar bwyntiau yn cynnig ffordd syml, effeithiol a hyblyg i fusnesau a sefydliadau addysgol i gael mynediad at dalent o stod eang o ar draws y byd. Fe’i adeiladwyd ar seiliau cadarn a ddatblygwyd yn ein Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a fu’n hynod o lwyddianus (EUSS).

16. Mae’r system yn sicrhau ein bod yn gyrchfan byd-eang deniadol ar gyfer pobl â medrau uchel sydd yn helpu’r DU i ffynnu. Mae ein system:

  • Yn decach oherwydd ein bod yn croesawu pobl yn seiliedig ar y medrau sydd ganddyn nhw i’w cynnig a sut y byddan nhw’n cyfrannu i’r DU, yn hytrach na’u cendligrwydd neu basport.
  • Yn fwy gwydn oherwydd bod gennym ni reolaeth o’n ffiniau ein hunain a gallwn benderfynu pwy sy’n dod mewn i’r wlad, gan addasu’r rheolau os oes angen i ni dynhau ar fudo.
  • Wedi ei arwain gan sgiliau oherwydd y gallwn gael mynediad at y medrau sydd eu hangen ar ein heconomi, gyda phobl yn cael pwyntiau ar gyfer cynnig o swydd ar lefel medr priodol, gan gwrdd â’r trothwy cyflog priodol ac os ydyn nhw’n siarad Saesneg i lefel addas.

17. Yr egwyddorion hyn sy’n sicrhau fod gan ddinasyddion y DU a phobl eraill sydd yn y DU yn gyfreithlon, hyder yn effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ein system. Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored a thryloyw wrth ddeall effaith y system seiliedig ar bwyntiau ac wedi cyhoeddi Asesiad Effaith Cydraddoldeb diwygiedig[footnote 6] ym mis Chwefror 2022. Rydym yn oarhau i adolygu effeithiau cydraddoldebau mewn perthynas â’r system newydd. Bydd gwerthusiad gwydn yn parhau i sicrhau bod ein ymagwedd tuag at bolisi a chyflenwi yn cael ei arwain gan y dystiolaeth. Er mwyn amddiffyn y bobl fregus, rydym hefyd yn parhau i ymgysylltu gyda’r sawl sy’n mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern, gan gynnwys y Comisiynydd Gwrth-Gaethwasiaeth. Does gan gaethwasiaeth fodern na masnachu pobl unrhyw le o fewn ein cymdeithas o gwbl ac rydym wedi ymrwymo tuag at gryfhau ein system mewnfudo yn erbyn y troseddau anfad hyn, tra’n sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu hamddiffyn a throseddwyr yn cael eu herlid.

18. Mae’r system sy’n seileidig ar bwyntiau yn oerfformio’n dda, er gwaethaf effaith anochel y pandemig. Mae‘r trywyddion a lansiwyd wedi cefnogi busnesau’r DU, ein gwyddoniaeth, technoleg a sectorau addysg i fedru adlamu ynôl gydag adferiad economaidd cryf yn dilyn y pandemig, drwy roi mynediad iddyn nhw at dalent o amgylch y byd. Rydym wedi creu system sydd yn gallu addasu a diwallu anghenion marchnad lafur sy’n newid os oes angen. Yn ystod y deuddeg nis diwethaf rydym wedi Estyn croeso i wyddonwyr, plymwyr, prif-gogyddion, doctoriaid, nyrsys, cyfarwyddwyr ffilm, peirianegwyr, penseiri, cerddorion, cigyddion ac uwch-weithwyr gofal drwy gyfrwng Trywydd y Gweithiwr Medrus. Mae’r nifer o fisas a ddyranwyd ar draws y trywyddion gwaith ac astudio nawr yn fwy na lefelau cyn y pandemig gyda 749,000 yn y flyddyn yn diweddu Mawrth 2022 o gymharu â 598,000 yn y flwyddyn a orffenodd ym mis Mawrth 2020.

19. Rydym wedi dilyn y trywyddion canlynol yn llwyddianus:

  • Trywydd y Gweithiwr Medrus – hwn sy’n caniatau i gyflogwyr recriwtio pobl sydd wedi cael cynnig o swydd mewn galwedigaeth medrus cymwys gan noddwr sydd wedi ‘i gymeradwyo gan y Swyddfa Gartref, i weithio mewn swydd penodol.
  • Trywydd Myfyriwr – mae hwn yn cynnig llwybrau mwy syml a llyfn i fyfyrwyr ac yn sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn gystadleuol mewn marchnad addysgu byd-eang sy’n newid yn barhaus.
  • Trywydd Graddedigion – mae hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr aros yn y DU i weithio neu chwilio am waith ar ôl iddyn nhw raddio.
  • Trywydd Arloeswr – mae hwn yn caniatau i’r sawl sy’n ceisio sefydlu busnes yn y DG yn seiliedig ar syniad busnes arloesol, hyfyw a all dyfu (a gynhyrchwyd neu a gyfranwyd tuag ati’n sylweddol ganddyn nhw).
  • Trywydd Talent Byd-Eang – sydd yn caniatau i’r sawl sydd yn 18 oed neu drosodd y maes gwyddoniaeth, peirianneg, dynoliaethau, meddygaeth, tehnoleg digidol neu gelfyddau a diwylliant all ddangos talent neu addewid eithriadol.
  • Fisa Iechyd a Gofal – sydd yn caniatau i bobl proffesiynol clinigol i weithio mewn swydd gymwys gyda chyflogwr iechyd neu ofal cymdeithasol.
  • Trywydd Symudoledd Busnes Byd-Eang – mae hwn yn gynnig sydd wedi ei gydgrynhoi, symleiddio a’i ehangu ar gyfer busnesau tramor sydd angen anfon cyflogedigion dros dro i’r DU am bwrpas penodol.
  • Trywydd Unigol a Chanddo Botensial Uchel – yn cynnig fisa gwaith byr- dymor ar gyfer graddedigion neu ôl-raddedigion o’r 50 sefydliad academaidd gorau sydd tu allan i’r DU. Trywydd yw hwn ar gyfer graddedigion rhyngwladol sydd wedi cael cymhwyster cymwys mewn prifysgol tramor sydd yn ymddangos ar y Rhestr Prifysgolion Byd-Eang yn y 5 mlynedd yn union cyn gwneud eu cais.

20. Rydym wedi cael llwyddiant pellach gyda chyflwyniad ceisiadau ar-lein a thystiolaeth digidol o statws mewnfudo (eFisa). Gwnaed dros chwe miliwn a hanner o geisiadau ar gyfer yr EUSS ar-lein ac rydym wedi adeiladu ar y seiliau hyn gyda chyflwyniad trywydd digidol Hong Kong ar gyfer Gwladolion Prydeinig (Tramor). Golygai cyflwyno statws digidol ar gyfer y trywydd hwn y gallai ymgweiswyr wneud cais heb fynychu Canolfan Ymgeisio am Fisa (VAC), gan gyflymu’r broses.

Trywyddion mewnfudo newydd a diwygiedig

21. Mae esblygiad y system sydd yn seiliedig ar bwyntiau yn sicrhau ein bod yn parhau i fod mewn rheolaeth o bwy sydd yn dod mewn i’r DU. Eleni, byddwn yn lansio trywydd newydd arall ac yn parhau i ddiwygio trywyddion eraill, gan gynnwys:

22. Trywydd Tyfu (22/08/2022) – Rhaid fod gan fusnes sydd wrthi’n tyfu gael deg neu fwy o gyflogwyr a’i fod yn tyfu mwy na 20% o drosiant bob blwddyn am dair blynedd. Mae’r busnesau hyn yn cyfrannu £1 triliwn i economi’r DU bob blwyddyn ac mae yna gystadleuaeth rhyngwladol cryf. Bydd y trywydd newydd yn gwella cynnig fisa’r DU, gyda thrywydd pwrpasol ar gyfer gweithiwr noddedig i’r sawl a gaiff eu recriwtio i swyddi cymwys o fewn cwmniau blaenllaw’r DU sydd wrthi’n tyfu.

23. Teulu a Phreswylio – Yn ystod gweddill 2022 ac i mewn i 2023, bydwn yn parhau i symleiddio pob trywydd teulu, bywyd preifat a phreswylio. Ceir sawl trywydd teulu a llwybrau tuag at breswylio’n barhaol; er mwyn symleiddio hyn ar gyfer cwsmeriaid, byddwn yn cyflwyno proses ymgeisio llyfnach a gofynion tystiolaeth cyson. Mae’r gwaith hwn yn mynd yn ei flaen gyda lansiad y trywyddion preswylio ar gyfer y sawl sydd ar y trywydd Arloeswr a thrywyddion’r teulu deng-mlynedd a bywyd preifat eleni.

Trywyddion Diogel a Chyfreithlon

24. Mae gan y DU hanes balch o helpu’r sawl syd mewn angen. Mae’r system sydd yn seiliedig ar bwyntiau yn fwriadol hyblyg, ac mae rhoi’r trywyddion newydd ar waith wedi rhoi’r seiliau hynny i ni i allu ymateb yn effeithiol a chyflwyno sawl trywydd diogel a chyfreithiol:

25. Trywydd Gwladolion Prydeinig Hong Kong (Tramor): Fe wnaethon ni gyflwyno trywydd pwrpasol ar gyfer Gwladolion Prydeinig Hong Kong (Tramor) a’u teuluoedd gan ddefnyddio proses ymgeisio digidol a galluoedd gwirio hunaniaeth aloesol. Fe wnaeth hyn gydnabod ein hymrwymiad hanesyddol i bobl Hong Kong a bleidleisiodd i gadw cyswllt gyda’r DU. Cafodd dros 92,000 fisa Gwladolyn Prydeinig (Tramor) eu dyfranu rhwng Ionawr 31, 2021 a Mawrth 31, 2022.

26. Cynllun Adsefydlu DInasyddion Affganistan: Y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan, sydd yn cynnig trywydd diogel a chyfreithlon i 20,000 o fenywod a phlant a phobl eraill sydd mewn perygl i breswylio yn y DU. Rydym yn disgwyl i ragori ar ein nod gwreiddiol o adsefydlu 5,000 drwy’r cynllun yn y flwyddyn gyntaf.

27. Cynlluniau’r Wcrain: Mae Cynllun Teulol yr Wcrain a Chynllun Cartrefi ar gyfer yr Wcrain, a lansiwyd ym mis Mawrth 2022, nawr yn gwbl ddigidol ac yn ffurfio un o’r rhaglenni fisa mwyaf ac a weithredwyd gyflymaf yn hanes y DU. Fe lawnsion ni Gynllun Estyniad yr Wcrain ar Fai 3, 2022 gan roi tair mlyned o ganiatad i Wcraniaid oedd eisoes yn y DU i aros a chael mynediad llawn at waith, astudio, ac arian cyhoeddus. Mae 187,800 o bobl wedi cwblhau’r broses gweud cais ar gyfer ein cynlluniau’r Wcrain (52,200 o bob lar gyfer Cynllun Teulu’r Wcrain a dros 135,600 ar gyfer Cynllun Cartrefi i’r Wcrain).

28. Byddwn yn gweithredu ymrwymiadau a wnaed yn ystod taith y Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 gan gynnwys ar gyfer lluoedd arfog Hong Kong, ar gyfer Tsiagosiaid (Tiriogaethau Indiaidd Tramor Prydeinig) a diwygiadau i gyfreithiau cenedligrwydd i fynd i’r afael ag anhegwch hanesyddol.

Symleiddiad

29. Er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu mordwyo’r system yn hawdd, cael yr hyn sydd ei angen a deall sut mae cydymffurfio gyda’n rheolau, rydym yn symleiddio ein Rheolau Mewnfudo ac yn gweithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith. Bydd hyn yn torri drwy gymhlethdod ac yn gwneud y Rheolau’n glir, cyson a hygyrch, er mwyn annog y sawl sydd â’r medrau hynny neu’r talent fydd o fudd i’r DU ac yn mynd i;r afael yn dynn ar fewwnfudo anghyfreithlon a chael gwared â’r sawl sydd yn camdrin ein lletygarwch drwy droseddu.

30. Mae’r ymagwedd yma’n sicrhau bod y seiliau cywir mewn lle ar gyfer system mewnfudo a ffiniau syml, gwydn, a diwygiedig. Mae’r rheolau newydd wedi cael eu strwythuro fel bo’r gofynion ar gyfer pob trywydd yn gyffrdinol ar gael mewn un lle, gan eu gwneud nhw’n haws i ddod o hyd iddyn nhw. Ysgrifenwyd y rheolau mewn iaith blaen er wmyn eu gwneud yn haws i’w deall ar gyfer y sawl sy’n defnyddio ein system. Rydym yn gweithio gyda Chomisiwn y Gyfraith ar gyfnerthu deddfwriaeth mewnfudo i wneud y system gyfreithiol yn haws i bob defnyddiwr ei fordwyo a’i ddeall.

Ein Gweledigaeth: System ddigidol wedi’i lyfnhau, sydd yn ymateb i anghenion cwsmer ac yn gwella diogelwch y DU

31. Mae’r datagniad strategaeth hwn yn amlinellu ein huchelgais ar gyfe rnewid trawsffurfiol i bawb sydd yn defnyddio ein systemau ac yn croesi fin y DU. Byddwn yn cyflenwi profiad cwsmer digidol llawn o’r dechrau i’r diwedd o’r ffordd mae pobl yn gwneud cais am ganiatad i deithio, sut maen nnhw’n profi eu hunaniaeth er mwyn bodloni’r meini prawf perthnasol i gael dod mewn i’r wlad, sut maen nhw’n derbyn a phrofi eu statws ar draws y ffin a sut maen nhw’n arddangos eu hawliau o fewn y DU.

32. Bydd ein cwsmeriaid yn profi gwell gwasanaeth ac un mwy arloesol, gan adeiladu ar yr ystod o wasanaethau cyhoeddus rydym yn eu cynnig ar-lein eisoes.Byddant yn deall telerau eu fisa ac yn gwybod beth sydd angen iddyn nhw ei wneud er mwyn cydymffurfio. Dymunwn arwain y byd a gosod safonau ar gyfer ffiniau modern. Rydym wedi ymrwymo tuag at wneud y system yn un gwych ar gyfer y sawl sydd yn cydymffurfio, ac yn dosturiol tuag at y sawl sydd ei angen. Ac eto, rhaid ni ni sicrhau fod y system yn ein diogelu rhag y sawl sydd yn cynrychioli perygl neu fygythiad mawr ac yn lleihau ffyrdd lle y gellir manteisio ar hynny. Erbyn 2025 bydd gyda ni ffin a system mewnfudo lle mae’r cwsmer yn ganolog a chanddi wellianau yn cynnwys:

Cynllunio i ddod

  • Cyfarwyddyd cwsmer symlach ar gov.uk i helpu pobl fordwyo’r system yn haws a deall sut mae cydymffurfio gyda’n rheolau.
  • Sianeli cysylltu cwsmeriaid sydd weid eu trawsffurfio, gan gynnwys canolfannau galwa hunan-wasanaeth digidol, helpu pobl i gael yr wybodaeth sydd ei angen arnyn nhw, yr hyn i’w ddisgwyl o’r broses ymgeisio a sut mae sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda’n rheolau.

Ymgeisio i ddod

  • Prosesau ymgeisio digidol mwy llyfn a di-dor gan gynnwys cipio a gwirio hunaniaeth arloesol, er mwyn gwella’r profiad i’r cwsmer.
  • System noddi wedi’i drawsffurfio er mwyn cyflymu’r broses ar gyfer cwsmeriaid a noddwyr.

Teithio i’r DU

  • Caniatâd i Deithio, gan gynnwys cyflwyno cynllun Awdurdodi Teithio Electronig, fydd yn galluogi mwy o wiriadau diogelwch ymhellach i fyny’r gadwyn, i atal mwy o bobl niweidiol rhag cyrraedd ffin y DU yn y lle cyntaf.
  • Cyflwyno eFisas – statws mewnfudo digidol, gwybodaeth wedi ei gyrchudrwy system sythweledol, hawdd i’w ddefnyddio, ar-lein neu wasanaethau system i system..

Croesi’r Ffin

  • Gan ddefyddio’r hyn a wyddom am bobl i roi gwybod am lif ac ymyrraethau ar y ffin, “cyfrif i mewn ac allan” gwell a mwy gwybodus.
  • Technoleg arloesol yn cynyddu awtomeiddio ar gyfer paw sydd yn teithio i’r DU ar draws pob modd o deithio, prawf o gysyniadau mewn lle er mwyn profi opsiynau “teithio di-gyswllt” yn llawn.

Byw yn y DU

  • Gweithredu pellach o gyfrifon, eFisas cwsmeriaid a Gweld & Phrofi gan roi y gallu i ddefnyddwyr arddangos eu hawliau yn y DU drwy gyfrwng gwasanaethau ar-lein syml.
  • Lleihau’r angen i bobl brofi eu hawliau wrth iddyn nhw gyrchu gwasanaethau cyhoeddus drwy rannu data’n gynyddol gydag adrannau llywodraethol eraill, ac adeladu ar y sytemau oedd eisoes mewn lle gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau ei Mawrhydi a GIG Lloegr a GIG Cymru.

Gwellianau ar draws y System

  • Cynnydd yn y defnydd a wneir o fiometreg arloesi er mwyn cadarnhau hunaniaeth ein defnyddwyr ac i’w hadnabod fel unigolion ar wahanol bwyntiau o fewn y system.
  • Mwy o bartneriaeth arloesol gyda diwydiant, gan gynnwys pob math o gludwr a phyrth, er mwyn gyrru’r profiad gorau i bob cwsmer.
  • Proses gwaith achos digidol mwy llyfn ar gfer llif gwaith mwy effeithiol, trefnu apwyntiad a gwneud penderfyniadau er mwyn bodo o fudd i gwsmeriaid a gweithwyr achos.

Cynllunio dod i’r DU

Trosolwg

33. I’r sawl sydd yn cynllunio dod i’r DU, rydym yn ei gwneud hi’n fwy syml a sythweledol i bobl ddeall os ydyn nhw’n gwmwys i gael fisa, pa gamau sydd angen iddyn nhw eu cymryd i wneud cais, a os yw’n cael ei ganiatau, amodau eu harhosiad yn y DU. Caiff hyn ei gyflawni drwy gyfarwyddyd a chynnwys mwy eglur ar gov.uk, gan gynnwys offer cymorth i gwsmeriaid newydd.

34. Rydym yn trawsffurfio taith y cwsmer o’r dechrau i’r diwedd ac rydym eisoes wedi cyflenwi nifer o wellianau. Rydym wedi gweithredu’r offeryn ‘Gwiriwch os oes angen fisa y DU arnoch’ i helpu cwsmeriaid gael gwybod yn hawdd pa fisa maen nhw’n gymwys iddo.[footnote 7] Yr offeryn yma yw’r cynnwys fisa sy’n cael ei gyrchu fwyaf ar wefan gov.uk.

35. Er mwyn cefnogi cwsmeriaid sy’n gwneud cais drwy drwydded y Gweithiwr Medrus, rydym wedi lansio offeryn sythweledol a rhyngweithiol newydd – Gwiriwr Cymhwysedd y Gweithiwr Medrus.[footnote 8] Mae’r offeryn hwn yn ei wneud hi’n haws i weithwyr a chyflogwyr ddeall os yw swydd arbennig yn gymwys drwy ateb cyfres o gwestiynau mewn perthynas â’u swydd ac amgylchiadau, gan ddefnyddio dewislenni wedi’u poblogi â setiau data penodol i roi dangosydd cymhwysedd ar unwaith.

Taith Cwsmer yn y Dyfodol

36. Bydd gyda ni daith di-dor, llwyr ddigidol, o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer cwsmeriaid sydd yn rhyngweithio gyda’r system mewnfudo erbyn 2025. Bydd yn cynnig cyfarwyddyd symlach ac yn sythweledol o ran dyluniad gyda chynnyrch hawdd i’w defnyddio fydd yn lleihau’r nifer o ymholiadau gan gwsmeriaid. Ar gyfer y cwsmeriaid hynny fydd angen dod i gyswllt â ni o hyd, caiff ymholiadau eu datrys drwy gyfrwng cymorth hunan-wasanaeth digidol fydd yn eu cymryd yn uniongyrchol i’r cynnwys sydd ei angen arnyn nhw. Rydym yn datblygu nodweddion sgwrsfot a llaisfot gyda’r bwriad o lansio’r cymorth digidol hwn o 2023, gan roi i gwsmeriaid y gallu i ddatrys eu hymholiadau’n effeithiol, heb fod angen aros i gael sgwrs gydag asiant. Bydd hyn yn adlewyrchu’r gwasanaeth cwsmer effeithlon ac effeithiol maent yn arfer ei dderbyn gan fusnesau.

37. Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar gyfarwyddyd mwy syml ac wedi ei deilwra ar gyfer gov.uk, gyda disgwyl am y set gyntaf o gyfarwyddyd mwy syml ar gyfer fisas gwaith yn hwyrach yn 2022. Ein bwriad yw defnyddio mwy o fideos ‘Sut mae gwneud…’ er mwyn dangos gam wrth gam sut mae’r system yn gweithio ac i helpu defnyddwyr gwblhau tasgiau’n llwyddianus fel gwneud cais am ETA, profi eu hunaniaeth neu gofrestru fel noddwr. Bydd y datblygiadau hyn o fudd i’r cwsmer ond hefyd yn eu helpu i ddeall ein disgwyliadau pan ddaw hi i gydymffurfio gyda rheolau mewnfudo.

Ymgeisio i ddod i’r DU

Trosolwg

38. Rydym wedi trawsffurfio’r ffordd mae pobl yn ymgeisio am fisas i ddod i’r DU, a’i gwneud hi’n haws ac yn symlach i’n cwsmeriaid ymgeisio. Mae’r ffurflen gais nawr ar-lein ar gyfer y rhan fwyaf o’n cwsmeriaid a gall miliynau o ymgeiswyr lanlwytho eu biometreg wynebol gan ddefnyddio ffôn clyfar. Mae nifer o bobl nawr yn cael eFisa - sef fersiwn digidol o’u statws mewnfudo y gallant ei gyrchu drwy gyfrwng cyfrif ar-lein. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf bydd y broses ymgeisio “diofyn ddigidol” yn cael ei gylchredeg i fwy o gwsmeriaid. Rydym yn datblygu ein model cymorth i gwsmeriaid digidol a bydd gan asiantau yn ein canolfan ddatrys, fynediad at olwg sengl o’r system mewnfudo i gefnogi cwsmeriaid, beth bynnag eu hymholiad.

Diofyn Ddigidol

39. Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae pobl yn dibynnu’n gynyddol ar wasanaethau digidol o apiau bancio yn hytrach na chardiau corfforol, i dalu eu trethi ar-lein a dymunwn i’n cwsmeriaid gael mynediad at wasanaethau mewnfudo yn yr un ffordd ac ar gyfer trafodion eraill yn ymwneud â’r Llywodraeth.

40. Dydy’r system mewnfudo ddim yn eithriad gyda cheisiadau am drywyddion eraill yn cael eu cynnal ar-lein, gan gymryd lle cynnyrch corfforol ac ar bapur gyda gwasanaethau digidol ac ar-lein sy’n hygyrch a hawdd i’w defnyddio. Mae hyn yn cynnwys galluogi nifer o bobl i ddefnyddio ffôn clyfar i roi biometregau wyneb i sefydlu neu wirio eu hunaniaeth a galluogi ailddefnydd biometreg ôl-bysedd a gafodd eu rhoi ar gadw yn flaenorol. Ynghyd â chyflwyno eFisas, mae hwn wedi lleihau’r angen i bobl fynd i Ganolfannau Ymgeisio am Fisa i roi biometreg neu gasglu fisa corfforol. Gall ceisiadau gael eu casglu’n llwyddiannus o gartref y cwsmer erbyn hyn.

41. Rydym wedi arddangos budd a rhwyddineb system mewnfudo ddigidol ar ôl prosesu dros chwe miliwn o geisiadau ar-lein ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog ar gyfer Dinasyddion yr UE. Fe wnaethon ni adeiladu ar y seiliau hyn gyda chyflwyniad y trywydd Gwladolion Prydeinig (Tramor) Hong Kong, sydd yn galluogi ymgeiswyr i wneud cais heb fynychu Canolfan Awdurdodi Fisa er mwyn cofrestru eu biometreg a chael eFisa hygyrch ar unwaith, yn hytrach na gorfod aros am gael llun bach cyn y gallant deithio.

42. Rhan allweddol o’n ffin yn y dyfodol yw digideiddio’r modd y byddwn yn rhoi ar gadw, gwirio a sicrhau hunaniaeth cwsmer, gan gynnwys eu gwybodaeth biometrig. Yn 2022 a 2023, bydd hyn yn cynnwys helaethu’r ail-ddefnyddio data biometrig sydd eisoes ar gadw gan y Swyddfa Gartref i fwy o drywyddion, fel na fydd angen i gwsmeriaid roi eu hôl-bysedd eto. Golyga hyn ein bod yn cynnal diogelwch ein systemau, yn ogystal â gwella profiad y cwsmer.

Cyfrifon Cwsmer Digidol

43. Mae gan gwsmeriaid sy’n ymgeisio drwy’r system seiliedig ar bwyntiau gyfrif cwsmer digidol i gael mynediad at eu eFisa a gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’u hawliau. Yn ystod 2022 a 2023, fe fydd yna welliannau pellach i’r cyfrif cwsmer digidol, gan gynnwys mwy o integreiddio di-dor a mwy o fordwyo sythweledol rhwng gwasanaethau. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y llywodraeth, gan gynnwys y rhaglen Un Mewngofnodiad i edrych ar gyfleoedd i uno gwasanaethau’r llywodraeth.

44. Byddwn yn cynnig cyfarwyddyd a chymorth i gwsmeriaid â chanddynt statws mewnfudo cyfredol, i’w helpu i gael mynediad at eFisa fydd yn rhoi mynediad iddyn nhw i’r ystod lawn o nodweddion a gwasanaethau ar-lein. Erbyn diwedd 2024 fe fyddan nhw’n gallu rhyngweithio â system mewnfudo ddigidol gan gael gwared â’r angen i gael dogfen gorfforol yn ei le.

eFisas

45. Mae gan filiynau o’n cwsmeriaid eFisa eisoes - sef tystiolaeth ddigidol o’u statws mewnfudo - ac yn ei ddefnyddio i ddod mewn a byw yn y DU. Gellir gwylio a gwirio eu gwybodaeth statws mewnfudo wedi’i ddiweddaru ar-lein, cyn gynted a bydd caniatâd yn cael ei roi. Bydd yr eFisas hyn yn cael gwared â’r angen am gwsmeriaid i fynd i Ganolfan Awdurdodi Fisa i gasglu fisa papur, gan leihau’r cysylltiadau corfforol gyda’r system mewnfudo a’r baich ar unigolion.

46. Canlyniad yr ymagwedd ddigidol hon fydd cael tystiolaeth gorfforol o’ch statws mewnfudo, mewn ffurf lluniau bychain a Thrwydded neu Gerdyn Preswylio Biometrig, fydd yn dod i ben yn raddol erbyn mis Rhagfyr 2024. Rydym yn ymwybodol o’r gwersi a ddysgwyd o Windrush ac rydym wedi ymrwymo tuag at sicrhau fod pob cwsmer, gan gynnwys y rhai mwyaf bregus, yn cael eu cefnogi’n gywir wrth i ni drawsffurfio ein system mewnfudo. Ddylai neb gael ei adael ar ôl o ganlyniad i’n trawsffurfiad digidol. Os yw cwsmeriaid yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at eu eFisa ar-lein neu’n cael unrhyw broblemau technegol, bydd ein Canolfan Datrys un-pwrpas ar gael i’w cefnogi nhw. Bydd cwsmeriaid hefyd yn parhau i dderbyn hysbysiad ysgrifenedig o’u statws mewnfudo gyfochr â’u eFisa, a gallant gadw hwnnw ar gyfer eu cofnodion eu hunain.

47. Er mwyn sicrhau y gall cwsmeriaid sydd â thystiolaeth hanesyddol ac ar bapur o’u statws mewnfudo, fanteisio o’r buddion a ddaw gyda statws digidol, byddwn yn cynnig cyfarwyddyd ynglŷn â sut mae cofrestru ar gyfer cyfrif digidol a throsglwyddo i eFisa. Rydym yn cynllunio gweithgarwch cyfathrebu pellach wedi ei anelu at y grŵp yma er mwyn eu cynghori ar yr hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud ac erbyn pryd. Byddwn hefyd yn ceisio cyrraedd pobl fregus sydd yn llai hyderus yn ddigidol drwy gydweithio gyda rhanddeiliaid ac adrannau eraill o’r Llywodraeth.

Cefnogi Cwsmeriaid

48. Er mwyn cefnogi cwsmeriaid yn well, mae gennym ni Ganolfan Ddatrys, sydd ar agor saith dydd yr wythnos ar gyfer ymholiadau ffôn ac e-bost. Mae’r ganolfan nawr yn cynnig cymorth ffôn ac e-bost i gwsmeriaid gydag eFisa neu sy’n defnyddio gwasanaethau statws mewnfudo ar-lein. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth cwsmer:

  • I gael mynediad at neu adfer cyfrif digidol.
  • I ddiweddaru manylion personol.
  • I rannu statws ar gyfer cwsmeriaid sydd yn methu gwneud hyn eu hunain.

49. Er mwyn bod o gymorth i gwsmeriaid sydd yn cael anawsterau technegol gyda’u eFisa, gall y Ganolfan Ddatrys wirio statws drwy ffyrdd amgen. Er mwyn cefnogi cwsmeriaid sydd heb fynediad at dechnoleg, neu’r medrau digidol na’r hyder i gwblhau’r ffurflen ar-lein, mae gennym ni wasanaeth digidol â chymorth ar draws y DU.

50. Byddwn yn parhau i adeiladu ar allu ein hasiantau o 2023, gyda gwasanaeth cwsmer o safon fyd-eang wedi’i ddarparu gan arbenigwyr mewnol sydd â mynediad at olygfa sengl o ryngweithiadau’r cwsmer gyda’r system mewnfudo.

Noddi

51. Er mwyn gwella profiad y cwsmer ar gyfer cyflogwyr sydd yn dymuno noddi rhywun i ddod i weithio yn y DU, rydym wedi gwneud rhai newidiadau sylweddol i’n system nawdd cyflogwyr ac wedi gostwng hyd y broses. Rydym wedi:

  • Cael gwared â’r ‘Prawf Marchnad Lafur i Breswyliwr’, gan leihau’r amser o adnabod angen hyd at gyflogi gweithiwr mudol a chael fisa ar gyfer y gweithiwr hynnw i 4 wythnos.
  • Gohirio’r cap ar Weithwyr Medrus, gan leihau’r amser prosesu i hyd at bedair wythnos.

  • Gwneud y cais am drwydded noddwr yn hollol ddi-bapur, wedi ail-ddylunio’r cyfarwyddyd i noddwyr a gwneud y system yn symlach, yn fwy llyfn a hygyrch.

52. Mae cydymffurfiaeth wrth graidd ein system noddi ac mae gofyn i bob noddwr gydymffurfio gyda holl ddeddfwriaeth berthnasol y DU. Gwnawn wiriadau perthnasol ar bob noddwr potensial, gan gynnwys troseddoldeb yn y gorffennol neu droseddau mewnfudo, er mwyn sicrhau diogelwch y sawl sydd yn dod i’r DU am waith ac unwaith y dyfarnir statws noddwr, mae gyda ni’r gallu nawr i wirio’n awtomatig os yw gweithwyr medrus yn cael eu talu’n unol â’r hyn a ymgymerodd y Noddwr i wneud.

53. Mae dros 40,000 o gyflogwyr eisoes wedi dod yn noddwyr trwyddedig llwyddiannus, gyda nifer ohonyn nhw’n fusnesau bychain. Penderfynir ar y rhan fwyaf o geisiadau noddwr o fewn llai nac wyth wythnos gydag opsiwn i gael penderfyniad wedi’i hwyluso o fewn 10 diwrnod gwaith am dâl. Ar hyn o bryd mae trwyddedau noddwr yn cael eu prosesu o fewn y safonau gwasanaeth a bydd gwelliannau ychwanegol rhwng nawr a 2024 yn lleihau’r amser y bydd hi’n cymryd i noddwr gyflogi gweithiwr tramor ymhellach. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i adolygu safonau’n gwasanaeth ac i gyflenwi gwelliannau i’n cwsmeriaid. Mae blaenoriaethu ein gwaith i fedru ymateb i faterion byr dymor fel cyflenwad llafur wedi effeithio ar ein hamserlen a disgwyliwn nawr i gyflenwi ein gwelliannau erbyn Gwanwyn 2023.

54. Ym mis Awst 2021, fe wnaethon ni gyhoeddi ein Trywydd Noddi[footnote 9] a amlinellodd ein pecyn o ddiwygiadau sylweddol i’r system noddi hyd at 2024, gan gynnwys y newidiadau angenrheidiol i gyflenwi system lyfn a modern sydd yn diwallu anghenion cwsmeriaid. Bydd y trawsffurfiad hwn yn golygu system sydd yn gynt ac yn fwy syml, ac yn llai o faich gweinyddol ar y noddwyr. Fodd bynnag, er bod y nod yn y pen draw o gael system noddi wedi ei drawsffurfio’n llwyr i gyflogwyr yn aros yr un peth, bydd hyn nawr yn weithredol erbyn 2025, yn amodol ar adborth gan ddefnyddwyr a llwyddiant y prif a amlinellir yn y tabl sy’n dilyn.

Pecyn Dyddiadau cyflenwi a gynlluniwyd ar gyfer cyflwyniad cyfyngedig Trosglwyddadwy
Noddi Fisa Yn Gynnar yn 2023 Er mwyn llyfnhau’r broses ar gyfer noddwyr ac ymgeiswyr a galluogi gwaith achos mwy effeithiol, bydd gan noddwyr presennol y gallu i wahodd gweithiwr i wneud eu cais am fisa unwaith i fanylion y swydd gael eu cymeradwyo gyda’r wybodaeth swydd wedi ei lenwi eisoes.
Rheoli Trwydded Yn Hwyr yn 2023 Er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth i ni ynglŷn â noddwr a’i weithiwr noddedig, ac i ganiatau penderfyniadau cynt, bydd y system rheoli ar-lein ar gyfer pob noddwr i gynnal gweithgareddau ôl-drwydded yn cael ei wella e.e. caniatau noddwyr i wneud newidiadau fel ychwanegu defnyddwyr i’w trwydded.
Dod yn Noddwr Yn Gynnar yn 2024 Er mwyn ei wneud yn haws i noddwyr arfaethedig i wneud cais am drwydded noddwr, bydd gwiriadau data awtomatig yn cael eu cyflwyno. Bydd hyn yn lleihau’r cyfle i gamdrin, lleihau a symleiddio gofynion y dystiolaeth a roddir ar noddwyr arfaethedig, ac yn lleihau’r amser sydd ei angen i brosesu gwaith achos.

Teithio i’r DU

Trosolwg

55. Er mwyn cryfhau ffin y DU ymhellach, rydym yn cyflwyno cynllun Caniatâd i Deithio. Bydd hyn yn dweud mwy wrthym am y sawl sy’n dymuno dod yma ac atal y sawl a welwn fel bygythiad eisoes rhag dod yma. Rydym yn gweithio’n agos gyda chludwyr ar draws pob modd o deithio mewn i’r DU er mwyn gwneud y broses yn un gynhwysfawr ac o fudd i bawb.

Caniatâd i deithio

56. Er mwyn cryfhau ffin y DU ymhellach rydym yn cyflwyno cynllun Caniatâd i Deithio yn 2023. Bydd angen caniatâd o flaen llaw ar bawb sydd yn dymuno teithio i’r DU. Bydd hyn yn cynyddu ein gwybodaeth ynglŷn ‘r sawl sydd yn ceisio dod i’r DU ac yn atal y sawl a welwn fel bygythiad eisoes rhag dod yma. Yn hytrach na gwrthod pobl wrth iddyn nhw gyrraedd ein ffin, neu eu cadw ar gost fawr i’r trethdalwr, bydd y dull yma yn ein galluogi i atal pobl rhag teithio i’r DU yn y lle cyntaf. Byddwn yn cyflenwi dull wedi ei dargedu’n fwy ar gyfer rheolaeth ffiniau ar gyrraedd ac yn rhoi gwybodaeth ar gydymffurfiaeth. Caiff hyn ei arddangos gan:

  • Pasbort – ar gyfer dinasyddion Prydeinig a Gwyddelig.
  • eFisa – ar gyfer gwladolion fisa ac unrhywun sydd yn byw neu’n dod i weithio neu astudio.
  • Awdurdodaeth Teithio Electronig (ETA) – ar gyfer ymwelwyr cenedl di-fisa.

57. Cyflwynodd y Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 y pŵer i’w wneud yn orfodol i deithwyr i’r DU gael ETA – sef cymeradwyaeth ddigidol i deithio i’r DU. Mae hyn yn unol ag ymagwedd nifer o bartneriaid rhyngwladol y DU tuag at ddiogelwch ffiniau, gan gynnwys UDA (ESTA), Canada (ETA), Awstralia (eTA) a Seland Newydd (NZeTA). Disgwylir i’r Undeb Ewropeaidd lansio cynllun tebyg yn 2023 (ETIAS).

58. Bydd cwsmeriaid sydd yn ymgeisio am ETA yn rhoi eu manylion biograffig, biometrig a chyswllt, ac yn ateb set byr o gwestiynau priodoldeb. Caiff yr wybodaeth yma ei wirio yn erbyn ein systemau a’i asesu er mwyn penderfynu os oes gan y person ganiatâd i deithio i’r DU. Bydd y mwyafrif o gwsmeriaid yn derbyn eu ETA o fewn cyfnod byr wedi iddyn nhw gyflwyno eu cais. Nid fisa yw’r ETA. Mae’n awdurdodi unigolyn i fynd ar gludwr i deithio i’r DU. Ar gyrraedd ffin y DU, bydd angen i’r unigolyn gael caniaâd i ddod mewn o hyd, yn unol â’r broses nawr.

Cyflwyno ETA 2023

Integreiddiad Cludwyr

59. Er mwyn cefnogi cludwyr gyda’r hawl i deithio, rydym yn datblygu ymagwedd integredig, sengl tuag at wiriadau cyn-ymadael ar ddiogelwch, mewnfudo, ac iechyd (os yn gymwys), yn seiliedig ar ein systemau Gwybodaeth Teithiwr Hysbys (GTH). Bydd cludwyr yn cael un neges gan y Swyddfa Gartref yn cadarnhau p’un a oes gan unigolyn ganiatâd i deithio pan fyddan nhw’n cyflwyno data GTH. Bydd hyn yn helpu cludwyr i gyflawni eu goblygiadau statudol o dan gynllun ‘atebolrwydd cludwr’ y DU, er mwyn sicrhau bod gan deithwyr y dogfennau cywir cywir ar gyfer teithio i’r DU heb fod angen gwirio dogfennau mewnfudo ychwanegol. Bydd y cynllun hwn yn cael ei ddiwygio a’i wella er mwyn adlewyrchu cyflwyniad yr ETA’s a’r gofynion sydd yn ymwneud â chaniatâd ehangach i deithio.

60. Tra bydd disgwyl o hyd i gludwyr wirio bod gan unigolyn ddogfen deithio cymwys, bydd y neges caniatâd i deithio yn eu helpu hefyd i benderfynu os oes gan y teithiwr y fisa neu’r ETA priodol. Bydd hyn yn lliniaru’r risg o fynd i gostau o dan gynllun atebolrwydd y cludwyr. Bydd y dull integredig newydd hwn hefyd yn lleihau’r nifer o ddigwyddiadau lle bydd gofyn i gludwyr, o dan ddeddfwriaeth mewnfudo bresennol, ddychwelyd unigolion sydd wedi cael eu gwrthod rhag dod mewn i’r DU ar y ffin, ar draul eu hunain.

61. Rydym wedi bod yn ymgysylltu â’r gymuned gludo ar draws y sectorau trafnidiaeth awyrennau, rheilffyrdd a morol ynglŷn â’n cynlluniau ers 2021 ac wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau hedfan i helpu i lunio ein dull o weithredu a’n hymagwedd tuag at integreiddio cludwyr. Bu’r “mabwysiadwyr cynnar” hyn yn hanfodol ar gyfer ennill mewnwelediadau ac adborth ar ein cynlluniau i integreiddio gyda chludwyr dros y blynyddoedd nesaf.

62. Ym mis Ebrill 2022, fe wnaethon ni gyflwyno nodweddion newydd a phrofi’n gallu i anfon negeseuon i gludwyr i gadarnhau y gallwn gymharu teithwyr unigol ar deithlwybrau penodol gyda chofnodion caniatâd dilys gan ddefnyddio’r System Wybodaeth Teithiwr o Flaen Llaw rhyngweithiol (iAPI). Rydym yn edrych ar ddatrysiadau amgen ar gyfer cludwyr nad sy’n defnyddio’r iAPI er mwyn iddyn nhw allu danfon API a chael caniatâd i ymatebion teithio. Bydd ymgysylltiad gyda’r cludwyr hyn yn ein helpu i ddeall sut gall y dechnoleg weithredu mewn teithlwybrau teithwyr ar draws gwahanol foddau o drafnidiaeth. Bydd integreiddiad gyda holl gludwyr wedi digwydd erbyn yn gynnar yn 2024.

Croesi’r Ffin

Trosolwg

63. Rydym yn trawsffurfio croesi’r ffin, gyda gwelliannau i ddiogelwch, profiad y teithiwr ac amseroedd ciwio. Rydym yn cynyddu awtomeiddio er mwyn ein galluogi ni i reoli llif ac ymyrraethau’n well ger y ffin. Byddwn yn uchafu’r defnydd a wneir o ymyrraethau cyn-teithio er mwyn cynyddu diogelwch drwy atal pobl niweidiol rhag cyrraedd y ffin yn y lle cyntaf.

Strategaeth Ffin y DU

64. Ar Ragfyr 17, 2020, cyhoeddoedd Llywodraeth Ei Mawrhydi ei ‘Strategaeth Ffiniau’r DU 2025’[footnote 10], sef ffrwyth ymgysylltiad helaeth gyda diwydiant yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Mae’r strategaeth yn amlinellu cynllun uchelgeisiol i drawsffurfio’r ffin erbyn 2025 a thu hwnt, i greu’r ffin mwyaf effeithiol yn y byd. Gan adeiladu ar yr uchelgais a amlinellwyd yn Strategaeth Ffin y DU 2025, mae ein amcanion i drawsffurfio’r ffin drwy arloesi digidol yn cynnwys:

  • Cynyddu diogelwch.
  • Gwella profiad y cwsmer.
  • Gwella llifedd drwy feysydd awyr a phorthladddoedd.
  • Torri’r cyswllt presennol rhwng niferoedd teithwyr ac adnoddau Llu’r Ffiniau.
  • Caniatau i swyddogfion Llu’r Ffiniau i roi eu medrau a’u barn broffesiynol ar waith er mwyn gwellla diogelwch a deillianau diogelu.

65. Mae’r hyn a gaiff ei ddarparu mewn porthladdoedd y DU yn anghyson a thrawsffurfiad allweddol o’r hyn sydd angen ei gyflenwi yn Strategaeth Llu’r Ffiniau 2025 yw sefydlu ‘porthladdoedd y dyfodol’ gwydn. Byddwn yn amlinellu’r safonau a gofynion ar gyfer isadeiledd ffin a chyfleusterau, drwy bartneru gyda phorthladdoedd a diwydiant y ffin, i gefnogi arloesi, dyluniadau modern a rhai sydd wedi eu canolbwyntio ar y defnyddiwr, cyflymu a diogelu taith pobl a nwyddau drwy borthladdoedd. Bydd hyn yn gwella’r profiad o groesi’r ffin, lleihau gwendidau ac adeiladu gallu’r staff.

66. Rydym wedi sefydlu Grwp Gweledigaeth Ffin Ymgynghorol sydd yn rhoi’r cyfle i ni weithio’n agos gydag arbenigwyr academaidd ac o’r diwydiant i yrru ymchwil damcaniaethol i ddatrysiadau ffin ar flaen y gad. Bydd y datrysiadau rydym yn eu datblygu o fudd i’r holl gwsmeriaid ar y ffin, yn ogystal â gweithredwyr porthladdoedd a chludwyr.

67. Erbyn 2025, bydd golwg wahanol iawn ar ffin y DU. Unwaith i ni ymgymryd â chysyniadau prawf a rhaglenni peilot ar gyfer gwella awtomeiddio pellach, gan gynnwys cyflwyno ETA a darpariaeth gynyddol a nodweddion eGlwydi, byddwn yn gallu trawsffurfio model gweithredu’r ffin. Er mwyn cefnogi diwydiant i fod yn barod ar gyfer ffin y dyfodol byddwn yn gweithio ar draws llywodraeth i amlinellu Model Gweithredu Targed ar gyfer pa olwg ddylai fod ar y ffin erbyn diwedd 2023. Bydd hyn yn cynnwys defnyddwyr y ffin fel teithwyr, cludwyr a phorthladdoedd. Fe fydd yna neuaddau croeso llai, wedi eu hail-ffurfweddu ac yn fwy twt, yn caniatáu i’r rhan fwyaf o deithwyr ddod mewn i’r DU yn gyflym ac yn ddiogel. Byddwn yn chwilota dyluniad optimaidd rheolaeth y ffin i gefnogi awtomeiddio gyda gweithredwyr porthladdoedd fel y rhagosodiad ar gyfer gwirio. Dim ond teithwyr o ddiddordeb o ganlyniad i ystod o ffactorau, gan gynnwys gwirio hunaniaeth; proffil risg; cudd- wybodaeth benodol; ymyrraeth arall a gyfeiriwyd at yr asiantaeth; neu bryder yn ymwneud a diogelu, a gaiff eu cyfeirio at Swyddog Llu’r Ffiniau i gael eu harchwilio.

Awtomeiddio

68. Ar gyfartaledd ceir 144 miliwn o groesiadau bob blwyddyn ar ffin y DU. Mae nifer o’r rhain wedi eu hawtomeiddio – yn bennaf drwy eGlwydi yn y rhan fwyaf o feysydd awyr a rhai gorsafoedd rheilffordd – gan ganiatau gwell profiad teithiwr ar gyfer pobl (12 oed neu’n hŷn) sydd yn cynnig risg gymharol isel yn nhermau trosedd, diogelwch genedlaethol neu gamdrin y Rheolau Mewnfudo.

69. Er mwyn gwella llifedd y ffin, rydym wedi ehangu’r defnydd a wneir o eGlwydi i deithwyr o wledydd ‘B5JSSK’ yn ogystal â chenedligion Prydeinig, Gwyddelig a’r UE.[footnote 11] Cafodd cyflwyniad cenedlaethol o dechnoleg Croesi Ffin (BX) newydd ei gwblhau, ar amser, erbyn mis Mehefin 2021. Mewn ymateb i COVID, cafodd cyflwyniad BX ar draws eGlwydi ei ddwyn ymlaen a’i gwblhau chwe mis yn gynnar erbyn Hydref 2021, i alluogi awtomeiddio gwiriadau’r Ffurflen Lleoli Teithiwr. Cafodd dros 28 miliwn o deithwyr eu prosesu’n llwyddianus gan ddenfyddio BX yn y flwyddyn gyntaf o’i weithredu.

Sut olwg a theimlad fydd ar ffin y dyfodol ?

70. Ein gweledigaeth yw i drawsffurfio ffin y DU, gan wneud newidiadau gweladwy i ddiogelwch, llifedd a phrofiad y teithiwr drwy alluogi mynediad i’r DU sydd wedi ei awtomeiddio ar gyfer y rhan fwyaf o deithwyr ar draws y rhan fwyaf o ddulliau teithio ymhob porthladd. Bydd hyn yn caniatau Swyddogion Llu’r Ffiniau i roi eu medrau ar waith yn ogystal â’u brn broffesiynol i dargedu a chynyddu eu gallu ar gyfer deillianau diogelwch a diogelu. Drwy gyfrwng caniatâd i deithio byddwn yn gwybod mwy am y bobl sydd yn dod i’r DU cyn iddyn nhw deithio. Ynghyd â gwellianau gweledol ar gyfer cwsmeriaid, rydym hefyd yn buddsoddi mewn gwell targedu a rhestrau a systemau gwyliadwraeth er mwyn cynnal ein galluoedd diogelwch o safon byd eang. Rydym wedi adnabod y camau fydd angen i ni eu cymryd er mwyn cyrraedd ein gweledigaeth ar gfyer ffin y dyfodol.

Tymor Agos – diwedd 2023

71. Ein blaenoriaeth yw cynyddu’r defnydd o awtomeiddio drwy yrru’r defnydd a wneir ohono ymhlith y sawl sydd eisoes yn gymwys i ddefnyddio eGlwydi. Rydym hefyd yn gweithio i gynyddu gwydnwch yr eGlwydi a’r nifer sydd ar gael ar unrhyw adeg er mwyn sicrhau amser oedd ciwio llai. Er mwyn cynyddu mynediad wedi ei awtomeiddio drwy eGlwyd byddwn:

  • Yn cynnal treialon profi cysyniad er mwyn gweld os gellir gostwng y terfyn oedran ar gyfer cenhedloedd cymwys cyfredol a all ddefnyddio eGlwydi o 12 i 10 mlwydd oed.
  • Gwellla negeseuon a’i gwneud hi’n glir a chyson i helpu teithwyr a’u cyfeirio i’r ciw cywira sicrhau bod cwsmeriaid yn gwybod sut mae defnyddio’r eGlwyd yn gywir.

Tymor Canol

72. O 2023 bwriadwn ehangu ein defnyddo awtomeiddio ymhellach (gan gynnwys eGlwydi) i garfannau na all eu defnyddio ar hyn o bryd. Gan ganolbwyntio ar unigolion sydd â chanddynt ganiatâd mewnfudo eisoes e.e, pobl a chanddynt Ganiatâd Penagored i Aros, neu Fisas Myfyrwyr. Er nad yw’r niferoedd yn rhai sylweddol nac arwyddocaol yn nhermau’r nifer sy’n croesi’r ffin, mae’r amser a gaiff ei dreulio yn eu prosesu yn hirach, felly byddai unrhyw awtomeiddio ar gyfer y carfannau hyn yn gwellla llifedd ar y fin.

HIr Dymor

73. Byddwn yn canolbwyntio ar y newid mewn camau a thrawsnewidiad y defnydd a wneir o awtomeiddio ar gyfer pob teithiwr i wella cynhwysedd llifedd mewn meysydd awyr, gorsafoedd rheilffordd a phorthladdoedd. Drwy gyfrwng y Grŵp Ymgynghorol a sefydlwyd ym mis Rhagfyr 2020, rydym yn ymgysylltu gydag academyddion, cyflenwyr y diwydiant, rheolwyr porthladdoedd a chludwyr i chilota dyfodol awtomeiddio. Bydd y digwyddiadau ‘hacathon’ hyn lle bydd nifer fawr o bobl yn cwrdd er mwyn cydweithio, yn oarhau drwy gydol 2022, gan gynnnig catalydd ar gyfer ei dyluniad manwl ar gyfer y dyfodol. Byddwn:

  • Yn adnabod datrysiadau technegol dichonadwy ar gyfer awtomeiddio’r dyfodol, fel mynediad di-gyswllt.
  • Yn cynnal cysyniadau profi gan gynnwys defnyddio technolegau awtomeiddio newydd cyfredol a newydd ar gyfer meysydd awyr, gorsafoedd rheilfordd a phorthladdoedd, yn cynnwys y sawl sydd yn ymddangos wrth y ffin mewn cerbydau o 2023 a chynlluniau peilot mewn porthladdoedd gweithredol yn 2024.
  • Yn treialu model cyn-caniatau yn erbyn model o ffin sydd wedi ei awtomeiddio’n helaeth lle bydd gofuynion rheolaeth ffin yn cael eu cyflawni cyn ymadawiad.

Byw yn y DU

Trosolwg

74. Ar gyfer pobl sydd yn byw yn y DU, rydym yn ei gwneud hi’n syml i gydymffurfio gyda’n rheolau a hawliau mynediad, p’un a yw hynny’n arddangos yr hawl i weithio neu gael mynediad at y GIG. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy ein datblygiad pellach o wasanaethau cyfrif ac ar-lein i ganiatau defnyddwyr i weld a phrofi eu hawliau.

75. Mae cyflwyniad eFisas yn caniatau unigolion i edrych ar eu statws mewnfudo wedi ei ddiwedaru ar-lein ar unrhyw adeg ac i rannu gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’u hawliau yn ddigidol ac yn ddiogel gyda thrydydd partion, fel cyflogwyr neu darpawyr gwasanethau cyhoeddus neu breifat. Mae hyn yn lleihau costau ac yn arbed amser ar gyfer y cwsmery Swyddfa Gartref, a sefydliadau Gwirio.

76. Rydym eisoes wedi dechrau ar y daith hon, gyda miliynau o unigolion eisoes yn profi eu hawliau drwy gyfrwng gwasanaethau ar-lein ‘gwylio a phrofi’, ‘Hawl i Weithio’ a ‘Hawl i Rentu’ ar gov.uk. Mae gwasanaethau ar-lein i gyflogwyr a landlordiaid eisoes yn eu caniatau i wirio hawl unigolyn i weithio neu rentu drwy wiriad syml digidol.

77. Er mwyn cefnogi cyflogwyr a landlordiaid rydym wedi symleiddio’r broses ar gyfer gwirio hawl person i weithio a rhentu. Ni al cyflogwyr na landlordiaid dderbyn y cerdyn BRP/BRC mwyach. Mae hyn yn gwella diogelwch a chadernid y system gyfan ac mae’n rhan o waith y Swyddfa Gartef i foderneiddio a digideiddio’r cynlluniau Hawli Weithio a Hawli Rhentu. Yn ystod y cyfyngiadau Covid-19, fe wnaeth nifer o gwsmeriaid ei chael hi’n help mawr i rannu statws ac arddangos eu cymhwysedd o bell. Mae hyn hefyd wedi symleiddio’r broses ar gfyer cyflogwyr a landlordiaid drwy leihau’r nifer o ddogfennau y dibynnir arnyn nnhw i brofi statws ac mae’n galluogi gwiriadau i gael eu cynnal yn hawdd ac o bell.

78. Fel rhan o’n diwygiad ehangach o’r system mewnfudo, rydym yn gyyddol yn galluogi adrannau eraill o’r Llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus i allu cael mynediad awtomatig at wybodaeth statws mewnfudo. BYdd y gwasanaethau system-i-system yma yn caniatau adrannau eraill o’r Llywodraeth i gael mynediad at yr wybodaeth berthnasol yn awtomatig, wheb fod orfod i’r unigolyn fynd ar-lein i orfod profi ei hawliau.

79. Mae gwiriadau system i system, sydd yn cefnogi miliynau o wiriadau eisoes bob mis, eisoes yn weithredol gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Cyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) a GIG Cymru a GIG Lloegr. CYnllunir gwasanaethau pellach drwy gydol 2022 a 2023 gyda phartneriaid fel y DVLA, Social Security Scotland, y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr a rhai awdurdodau lleol. Mae’r data sydd yn cael ei wneud ar gael yn benodol ar gyfer yr hyn mae pob adran ei angen ac yn cynnwys yr wybodaeth angenrheidiol yn unig er mwyn goleuo eu pendefyniadau. Drwy wneud data ar gael yn y modd yma, rydym yn lleihau’r nifer o achlysuron y bydd angen i gwsmer brofi ei hawliau. Golyga ein gwiriadau cyflog gyda HMRC y gallwn sicrhau fod gweithwyr yn cael eu talu yr hyn mae eu cyflogwyr wedi ymrwymo i’w talu, a thrwy hynny helpu atal ecsploetio gweithwyr.

80. Rydym yn parhau i gael ein harwain gan wybodaeth a chudd-wybodaeth yn ein gweithredoedd cydymffurfio sydd yn targedu noddwyr a all beri risg uwch neu sydd heb unrhyw hanes o gydymffurfiaeth. Gall sancsiynau am fethu a chydymffurfio amrywio o amodau neu gyfynguadau ar recriwtio, cynlluniau gwaith wedi’i rheoli neu atal neu ddiddymiad trwydded noddwr.

Cyfathrebiadau ac ymgysylltiad

81. Mae trawsffurfiad parhaus ac arloesi system mewnfudo’r DU yn effeithio ar nifer o gynulleidfaoedd sydd angen deall sut maen nnhw’n cael eu heffeithio a pha gamau sydd angen iddyn nhw eu cymryd, o’r sawl sydd yn dod i ymweld neu weithio yn y DU i’r diwydiant teithio. Mae hi hefyd yn hanfodol i barhaus i oleuo’r cyhoedd pellach ynglŷn â sut mae’r Llywodraeth yn cyflenwi ei Gynllun Newydd ar fewnfudo. Rydym wedi ymrwymo tuag at gefnogi’r newid hwn drwy gyfathrebu cynhwysfawr ac ymgyrchoedd ymgysylltu.

82. Hyd heddiw, rydym wedi cefnogi Cynllun Preswylio’n Barhaol Dinasyddion yr UE yn llwyddiannus, system mewnfudo sy’n seiliedig ar bwyntiau a thrywyddion diogel a chyfreithlon dyngarol, gydag ymgyrchoedd i yrru ymwybyddiaeth a pharodrwydd ymhlith y sawl sydd yn cael eu heffeithio a’r cyhoedd ehangach, gan ddefnyddio ystod o sianelu gan gynnwys darlledu, fideo ar alw, cyfryngau cymdeithasol, a hysbysebu ar fyrddau arddangos a thrafnidiaeth gyhoeddus. Byddwn yn parhau gyda’r gefnogaeth hyn drwy negeseuon wedi eu targedu ac estyn allan i gynulleidfaoedd newydd a phresennol sy’n cael eu heffeithio gan newidiadau i’r system.

83. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau newydd sydd yn targedi’s sawl sydd yn cynllunio teithio i’r DU, croesi’r ffin a byw a gweithio yn y DU. BYdd ein neges yn gyrru ymwybyddiaeth o gyflwyno ETAs, eFisas, cyfrifon cwsmer a gwasanaethau ar-lein gyda’r nod o alluogi trawsffurfiad mor ddi-dor â phosib ar gyfer ein cwsmeriaid.

84. Rydym yn parhau i ymgysylltu â’n Grwpiau Ymgynghorol Arbenigol a rhanddeiliaid allweddol mewn busnes, y byd academaidd a’r trydydd sector ar newidiadau pellach sydd yn cael eu gweithredu yn ystod bywyd y rhaglen. Mae’r Grwpiau Ymgynghorol yn parhau i fod yn gyfrannol wrth roi adborth a mewnwelediad i ni ar drawsffurfiad y system, y byddwn yn ei fwydo ‘nôl i’r rhaglen. Mae’r grwpiau hefyd yn parhau i roi cyfleoedd ymgysylltu ehangach i ni ar draws yr holl sectorau a effeithir gan y newidiadau rydym yn eu gwneud.

85. Mae ymgysylltiad wyneb yn wyneb gyda rhanddeiliaid yn hanfodol. Mae ein rhaglen o ddigwyddiadau ymgysylltu yn parhau, gyda gweithgarwch wedi ei anelu yn enwedig at y newydd ddyfodiad i’r system. Hyd yn hyn mae digwyddiadau wedi cyrraedd dros 40,000 o randdeiliaid, gan gynnwys busnes, landlordiaid, sefydliadau ariannol, sefydliadau addysgol, awdurdodau lleol, gweinyddiaethau a dinasyddion tramor, ac maent wedi bod yn ffordd bwysig o roi eglurder a chael adborth ynglŷn â’r newidiadau rydym yn eu rhoi ar waith.

System mewnfudo sydd yn seiliedig ar bwyntiau

Gyda diwedd y Rhyddid i Symud ar Ragfyr 31, 2020 a lansiad y system mewnfudo seiliedig ar bwyntiau, ym mis Medi 2020, lansiodd y Swyddfa Gartref ymgyrch gyfathrebu ar draws y radio, cyfryngau cymdeithasol, fideo ar alw a hysbysfyrdd ar draws y wlad er mwyn hysbysu a pharatoi’r sawl a effeithiwyd.

Fe barhaodd yr ymgyrch 24 iaith cenedlaethol a rhyngwladol o dargedu dinasyddion yr UE a chyflogwyr y DU o ddiwedd 2020 i ganol 2021. Ymhlith y negeseuon cafwyd galwadau clir i ddinasyddion yr UE oedd yn preswylio yn y DU i gymryd camau i sicrhau eu hawl i barhau i aros, gyda chyflogwyr a gwledydd yr UE yn cael eu hysbysu’n barhaus ynglŷn â’r ffyrdd y gallai unigolion ymweld, gweithio a byw yn y DU drwy ein system seiliedig ar bwyntiau.

Cafodd hyn ei danategu gan gannoedd o ddigwyddiadau ymgysylltu oedd yn agored i’r sawl oedd yn dymuno dysgu am y system mewn manylder, gan dargedu pob sector, rhanbarth a chenedl ar draws ein Teyrnas Unedig yn ogystal ag yn rhyngwladol.

Cafodd darlledu a digwyddiadau pwrpasol ar gyfer busnesau mawr a bach fel rhan o’u fforymau rheolaidd eu cynnwys yn yr ymgysylltiad, gyda sesiynau mewn cyswllt ag adrannau eraill o’r Llywodraeth fel rhan o’u fforymau rheolaidd, a digwyddiadau ymchwyddo ar gyfer statws preswylwyr sefydlog ar gyfer dinasyddion yr UE a phartïon â diddordeb lle y cyrhaeddwyd bron i 4,000 o randdeiliaid yn ystod cyfnod o 10 diwrnod ar ddiwedd Mehefin 2021.

Diolch i’n neges glir ac amserol rydym wedi sicrhau bod dinasyddion yr UE sydd yn preswylio yn y DU wedi sicrhau eu hawliau i fyw a gweithio yn y DU, gyda dros 6 miliwn o ddyfarniadau statws o dan y Cynllun Preswylio’n Barhaol i Ddinasyddion yr UE. Mae cyflogwyr y DU wedi gallu addasu i recriwtio gweithwyr medrus y DU drwy ein system fyd-eang seiliedig ar bwyntiau tecach, ac mae’r sawl sy’n gymwys ar gyfer cynlluniau dyngarol wedi gallu sicrhau’r cymorth yr oedden nhw ei angen.

Mae ein rhaglen ymgysylltu helaeth a phellgyrhaeddol, sydd yn targedu cyflogwyr a phartïon eraill sydd â diddordeb yn y Cynllun Preswylio Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a’r system mewnfudo newydd, wedi cael eu derbyn yn wresog, gyda’r system mewnfudo a’r prosesau yn cael eu gwneud yn eglur ac o ganlyniad i’r ymgysylltiad hyn, yn gweld cynnydd yn y nifer o geisiadau noddwr, fisa a Phreswylio’n Sefydlog gan Ddinasyddion y UE.

Cyfarwyddyd yr Wcráin ar gyfer Landlordiaid a Chyflogwyr

Ym mis Ebrill a Mai 2022, rhedodd y Swyddfa Gartref, mewn cyswllt â’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Y Rhwydwaith Cyflogaeth i Ffoaduriaid a’r Awdurdod Gangfeistr a Cham-drin Llafur, gyfres o ddigwyddiadau ar gyfer cyflogwyr a landlordiaid. Mewn cyfnod o wythnos mynychodd tua 1000 o randdeiliaid gan gael eglurhad o’r cynlluniau fisa Wcrain, gwybodaeth ar hawliau i weithio a rhentu, a sut gall rhanddeiliaid helpu’r sawl sydd â’r fisas hyn gael mynediad at waith a llety preifat i’w rentu os a phryd fyddan nhw’n barod i wneud hynny. Roedd y sawl a fynychodd hefyd yn gallu gofyn cwestiynau i banel o gynrychiolwyr o adrannau’r llywodraeth a sefydliadau ar holl agweddau’r cynlluniau.

E02773812

978-1-5286-3641-4