Cyfarwyddyd ymarfer 70: ymddiriedau o ddewis band dim treth
Diweddarwyd 24 Mehefin 2015
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Yn y cyfarwyddyd hwn:
‘cyd-denantiaeth lesiannol’ yw cydberchnogaeth tir gan ddau neu ragor o bobl, y mae gan bob un ohonynt yr hawl i’r eiddo cyfan, yn hytrach na chyfran anwahanedig ohono. Pan fydd un ohonynt yn marw, mae hawl gan y lleill i gyfran yr ymadawedig o’r tir yn awtomatig, waeth beth fydd unrhyw ewyllys yn ei ddweud
‘trawsgludwr’ yw unigolyn awdurdodedig o fewn ystyr adran 18 o Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 sydd â’r hawl i ddarparu’r gwasanaethau trawsgludo y cyfeirir atynt ym mharagraffau 5(1)(a) a (b) Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, neu unigolyn sy’n cyflawni’r gweithgareddau yn rhinwedd eu dyletswyddau fel swyddog cyhoeddus. Mae hefyd yn cynnwys unigolyn neu gorff sy’n cyflogi, neu sydd ag unigolyn awdurdodedig o’r fath ymhlith eu rheolwyr, a fydd yn cyflawni neu’n goruchwylio’r gweithgareddau trawsgludo hyn (rheol 217A i Reolau Cofrestru Tir 2003)
‘tenantiaeth gydradd’ yw cydberchnogaeth tir gan ddau neu ragor o bobl, y mae gan bob un ohonynt gyfran dybiedig yn yr eiddo, er bod y gyfran yn anwahanedig. Pan fydd un ohonynt yn marw, gall ei gyfran gael ei throsglwyddo yn ei ewyllys.
1.1 Ymddiried o ddewis band dim treth
Mae ymddiried o ddewis yn un y mae gan ei ymddiriedolwyr y dewis o ran sut i ddefnyddio’r incwm a gynhyrchir gan yr asedau a roddir o dan ymddiried a sut i ddosbarthu’r asedion hynny yn y pen draw ymhlith dosbarth o fuddiolwyr posibl.
Mae ymddiried o ddewis band dim treth yn fersiwn o ymddiried o’r fath a ddefnyddir wrth gynllunio ystad i leihau atebolrwydd i dreth etifeddiant ar farwolaeth cydberchennog sy’n goroesi. Caiff ei ddefnyddio’n aml mewn ardaloedd lle y mae prisiau eiddo preswyl yn uwch na throthwy treth etifeddiant, gyda’r nod ychwanegol o osgoi’r angen i werthu cartref teuluol i gwrdd â’r atebolrwydd treth etifeddiant.
Gall ymddiried o’r fath gael ei ddefnyddio hefyd i warchod asedion sydd wedi’u bwriadu ar gyfer buddiolwyr penodol (ee plant o berthynas blaenorol) yn yr achos y bydd y sawl sy’n goroesi’n ailbriodi.
Gall hefyd warchod asedion a fyddai’n debygol o fod yn destun prawf modd os bu’n rhaid i’r sawl sy’n goroesi fynd i ofal hirdymor, neu a allai fod yn fregus i ddyledwyr os yw’r sawl sy’n goroesi’n mynd i drafferthion ariannol.
2. Trefniadaeth ymddiried
2.1 Ymddiried a grëwyd cyn marwolaeth y cydberchennog cyntaf
Os nad yw unrhyw eiddo tirol sy’n rhan o’r ymddiried eisoes wedi’i ddal o dan denantiaeth gydradd, mae’r perchnogion yn hollti eu cyd-denantiaeth.
Mae pob cymar neu bartner sifil yn gwneud ewyllys sy’n gadael becwêdd sy’n gyfartal â gwerth esemptiad dreth etifeddiant unigol (y ‘band dim treth’), a fydd yn cael ei drosglwyddo i’r ymddiriedolwyr, ac nid y partner, a fydd yn ei ddal o dan delerau’r ymddiried, a grëwyd o dan yr ewyllys hefyd, ar gyfer dosbarth o fuddiolwyr o ddewis sydd, fel rheol, yn cynnwys y partner sy’n goroesi a’r plant a/neu wyrion y teulu.
Fel rheol, gall y partner sy’n goroesi gael budd o’r ymddiried trwy dderbyn taliadau o ddewis neu fenthyciadau gan yr ymddiriedolwyr.
Pan fydd y partner sy’n goroesi’n marw, nid yw’r eiddo a gedwir o dan yr ymddiried yn llunio rhan o’i ystad, a bydd buddiolwyr y partner sy’n goroesi’n arbed y dreth etifeddiant a fyddai’n daladwy ar ei werth.
Mewn cyferbyniad, os yw’r cydberchnogion yn cadw’r eiddo fel cyd-dentantiaid llesiannol ac nid ydynt yn gwneud trefniadau ymddiried o ddewis yn eu hewyllysion, ar ôl yr ail farwolaeth bydd yr ystad gyfan yn cael ei throsglwyddo i etifeddion y sawl sy’n goroesi, yn ddarostyngedig i dreth etifeddiant. Fel arfer, caiff yr atebolrwydd i dreth etifeddiant ei leihau gan esemptiad unigol y sawl sy’n goroesi yn unig, ac os yw’r cartref teuluol yn llunio rhan o grynswth yr ystad, mae’n bosibl y bydd yn rhaid ei gwerthu er mwyn cwrdd ag atebolrwydd y dreth etifeddiant.
2.2 Ymddiried a grëwyd ar ôl y farwolaeth gyntaf
Os nad yw cymheiriaid neu bartneriaid sifil y byddai eu teuluoedd yn cael budd o gynllun o’r fath yn cymryd y camau angenrheidiol cyn y farwolaeth gyntaf, gall y partner sy’n goroesi a’i deulu/theulu ymrwymo i weithred (a elwir yn aml yn weithred trefniadau teulu) i greu un.
Bydd y weithred yn amrywio gwarediad yr eiddo sydd wedi ei gynnwys yn ystad yr ymadawedig sydd eisoes wedi digwydd ar adeg y farwolaeth – waeth a yw wedi’i effeithio gan ewyllys, o dan y gyfraith yn ymwneud â diewyllysedd neu fel arall (er enghraifft, o dan hawl trwy oroesi mewn perthynas ag eiddo ar y cyd) – er mwyn rhoi’r cynllun priodol ar waith a chaniatáu’r arbedion dreth etifeddiant a ddisgrifir yn Ymddiried a grëwyd cyn marwolaeth y cydberchennog cyntaf.
Cyn belled ag y gwneir hyn o fewn y cyfnod o ddwy flynedd ar ôl y farwolaeth gyntaf, mae cyfraith treth yn trin y trefniadau fel pe baent wedi’u gwneud gan y partner sydd wedi marw (gweler adran 142 o Ddeddf Treth Etifeddiant 1984).
3. Y goblygiadau ar gyfer Cofrestrfa Tir EF
Nid yw’r hyn a ganiateir o dan gyfraith dreth o reidrwydd yn cael ei ganiatáu o dan gyfraith eiddo cyffredinol. O ganlyniad, gellir cyflwyno ceisiadau mewn perthynas ag ymddiried o ddewis band dim treth sydd wedi’u camddeall ac nad oes modd eu cwblhau trwy gofrestriad (gweler isod).
3.1 Ceisiadau’n seiliedig ar ‘holltiad’ ar ôl marwolaeth
Bydd Cyllid a Thollau EM yn derbyn holltiad honedig mewn offeryn ar gyfer amrywio at ddibenion treth, ond nid oes effaith ganddo mewn cyfraith eiddo cyffredinol. Mae cyd-denant llesiannol yn caffael perchnogaeth lwyr yr eiddo cyfan ar farwolaeth y perchennog arall/perchnogion eraill, fel y trafodir yn fanylach yn ‘Holltiad’ gan y cyd-denant llesiannol sy’n goroesi. Os cyflwynir cais i gyflwyno cyfyngiad Ffurf A ar sail holltiad ar ôl marwolaeth, caiff ei wrthod.
Fodd bynnag, gall eiddo ddod yn destun ymddiried o ganlyniad i gamau eraill a gymerir gan y partner sy’n goroesi.
3.2 Ceisiadau’n dilyn arwystlon ecwitïol a chydsyniadau cyfrannau ecwitïol
Mewn achos nodweddiadol, bydd gwerth cyfran ecwitïol y partner ymadawedig yn y cartref teuluol yn llunio rhan o’r asedion sydd i’w rhoi mewn ymddiried o ddewis band dim treth. Ni ellir cyflawni gwerth y gyfran ecwitïol heb werthu’r eiddo, ac os yw’r partner sy’n goroesi’n dymuno parhau i fyw yno, efallai na fydd hynny’n bosibl.
Yn lle hynny, bydd cynrychiolwyr personol y partner ymadawedig yn arwystlo’r gyfran i’r ymddiriedolwyr er mwyn bodloni’r becwêdd. Fel arfer, mae’r cynrychiolwyr personol yn gwneud cydsyniad wedyn, yn ddarostyngedig i’r arwystl, i’r buddiolwr.
Ni ellir cofrestru cydsyniad y gyfran ecwitïol. Ni ellir cofrestru arwystl ecwitïol y gyfran ecwitïol na’i warchod trwy rybudd.
Weithiau daw cais i ddileu cyfyngiad Ffurf A gyda cheisiadau’n dilyn arwystl a chydsyniad cyfran ecwitïol i’r partner sy’n goroesi. Mae cais o’r fath wedi’i gam-amgyffred yng ngoleuni’r arwystl sydd wedi’i greu ar gyfran ecwitïol.
4. Y cais priodol yn dilyn creu ymddiried o ddewis band dim treth
Trafodir sefyllfa’r partner sy’n goroesi, y cynrychiolwyr personol, yr ymddiriedolwyr a’r buddiolwyr wrth wneud unrhyw gais yn Cefndir: cyfraith eiddo a materion cofrestru tir.
Yn y rhan fwyaf o achosion, yr unig gais priodol fyddai tynnu enw’r cydberchennog ymadawedig ymaith o’r gofrestr a chofrestru cyfyngiad safonol Ffurf A, lle nad oes un yn bodoli eisoes.
Am wybodaeth gyffredinol am wneud ceisiadau o’r fath, gweler cyfarwyddyd ymarfer 6: disgyniad ar farwolaeth perchennog a chyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr.
5. Cefndir: cyfraith eiddo a materion cofrestru tir
5.1 ‘Holltiad’ gan y cyd-denant llesiannol sy’n goroesi
Mae statudau treth amrywiol yn caniatáu ‘holltiad ar ôl marwolaeth’ cyd-denantiaeth lesiannol. Fodd bynnag, waeth beth y mae’r ddeddfwriaeth dreth yn ei chaniatáu, nid oes addasiad i egwyddorion sylfaenol cyfraith eiddo tirol, fel:
-
lle’r oedd gan A a B yr hawl ar y cyd yn gyfan gwbl i’r buddion llesiannol ac roeddent, yn union cyn marwolaeth A, yn eu dal fel cyd-denantiaid llesiannol, yn syth ar ôl marwolaeth A daw B yn unig berchennog cyfreithiol. Nid oes buddion llesiannol. Maent wedi’u cynnwys yn unrhyw ystadau cyfreithiol. Os yw trydydd parti wedi cyfrannu i’r eiddo, fodd bynnag, efallai y bydd y gyfraith wedi gosod amod ymddiried canlyniadol neu adeiladol, na fydd yn amlwg.
-
os yw B yn dymuno ‘hollti’, ni all B wneud hynny. Nid oes unrhyw beth i’w hollti
-
yr hyn y mae’n rhaid i B ei wneud yw creu ymddiried newydd o dir lle y mae B yn datgan fod B yn ei ddal ar ymddiried ar gyfer B a chynrychiolwyr personol A
-
er mwyn bod yn orfodadwy, rhaid i ymddiried o’r fath gydymffurfio â naill ai adran 52 neu 53 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925. Yn benodol, rhaid i’r ymddiried naill ai fod trwy weithred neu’n ysgrifenedig. Heb amheuaeth, gwarediad fyddai hwn at ddibenion Deddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996, ac felly gallai gynnwys cyfyngiadau o ran pwerau’r ymddiriedolwyr
5.2 Pwy sy’n gallu, neu sy’n gorfod, gwneud cais am gyfyngiad ar ôl creu ymddiried o ddewis band dim treth
5.2.1 Y perchennog sy’n goroesi
-
Yn syth ar ôl i B ddatgan yr ymddiried, mae B o dan ddyletswydd statudol i wneud cais am gyfyngiad Ffurf A (rheol 94(1)(a), Rheolau Cofrestru Tir 2003).
-
Os yw’r ymddiried y mae B yn ei ddatgan yn cynnwys cyfyngiadau ar bwerau’r ymddiriedolwyr, rhaid i B wneud cais am gyfyngiad ar Ffurf B (rheol 94(4), Rheolau Cofrestru Tir 2003) hefyd.
-
Os yw B yn methu â gwneud cais am gyfyngiad pan fo angen, mae’n torri dyletswydd ymddiriedolwr B. Mewn egwyddor, byddai B yn atebol am unrhyw golled a achoswyd gan fethiant B.
5.2.2 Y cynrychiolwyr personol
-
Gall cynrychiolwyr personol A, sydd bellach yn cadw budd o dan ymddiried tir, wneud cais am gyfyngiad ar Ffurf A (a Ffurf B os yw gweithred yr ymddiried yn cynnwys cyfyngiadau ar bwerau’r ymddiriedolwyr) gan ddefnyddio rheol 93(1) neu (c) o Reolau Cofrestru Tir 2003 fel eu hawdurdod.
-
Mae cais am gyfyngiad ar Ffurf Q yn bosibl hefyd gyda thystiolaeth gefnogol (copi o’r weithred ymddiried fel rheol) bod gweithred neu warediad yr ymddiried yn gosod gofyniad am gydsyniad y cynrychiolwyr personol.
-
Os yw gwarediad yr ymddiried yn cynnwys gofynion cydsyniad, gall cynrychiolwyr personol A (fel perchnogion cyfran lesiannol A) wneud cais am gyfyngiad yn debyg i Ffurf N.
5.2.3 Yr ymddiriedolwyr
-
Lle na chofrestrwyd cyfyngiad safonol Ffurf A, efallai bydd yn rhaid i’r ymddiriedolwyr wneud cais am un er mwyn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau fel ymddiriedolwyr.
-
Os yw’r ymddiried yn cynnwys cyfyngiadau ar bwerau’r ymddiriedolwyr, rhaid iddynt wneud cais am gyfyngiad ar Ffurf B (rheol 94(4), Rheolau Cofrestru Tir 2003) hefyd.
-
Gellir nodi cyfyngiad safonol Ffurf N o blaid ymddiriedolwyr yr ymddiried o ddewis os gwneir cais dilys gan neu gyda chydsyniad y perchennog sy’n goroesi. Os yw’r perchennog cofrestredig sy’n goroesi yn un o’r ymddiriedolwyr yr ymddiried o ddewis, gellir ei enwi gyda’r ymddiriedolwyr eraill yn y cyfyngiad Ffurf N.
5.2.4 Y buddiolwyr
-
Os yw’r ymddiriedolwyr yn methu â gwneud cais am gyfyngiad Ffurf A, gall unrhyw fuddiolwr wneud hynny.
-
Os yw’r weithred ymddiried yn gosod gofyniad am gydsyniad y buddiolwyr, gall buddiolwr wneud cais, gyda thystiolaeth gefnogol, am gyfyngiad ar Ffurf B neu Ffurf N.
5.3 Sefyllfa’r partner sy’n goroesi ar ôl creu’r ymddiried o ddewis band dim treth
Unwaith y nodir cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr perchnogaeth, ni all B werthu nac arwystlo’r ystad gyfreithiol a gedwir yn yr ymddiried tir fel yr unig berchennog cofrestredig os yw arian cyfalaf yn codi o’r trafodiad, a chaiff unrhyw gais i gofrestru arwystl ei wrthod gan Gofrestrfa Tir EF gan ei fod yn torri’r gyfraith.
Os nodir cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr perchnogaeth, mewn gwirionedd gall B arwystlo’r ystad gyfreithiol a gedwir yn yr ymddiried tir os yw’n penodi ymddiriedolwr arall i weithredu gydag ef/hi. Mae p’un ai y dylid arwystlo ystad gyfreithiol yn fater i’r ymddiried datganedig a chyfraith ymddiried. Un effaith arwystlo, wrth gwrs, yw lleihau gwerth yr holl fuddion ecwitïol a gedwir o dan yr ymddiried tir.
Gall B arwystlo ei gyfran lesiannol. Nid yw arwystl o’r fath yn arwystl ar y tir ac felly ni ellir ei gofrestru. Ni ellir ei nodi ychwaith gan nad yw’n arwystl ar ystad gyfreithiol, ond yn hytrach ar fudd ecwitïol o dan ymddiried tir. O ganlyniad, ni dderbynnir unrhyw rybudd unochrog na rhybudd a gytunwyd gan Gofrestrfa Tir EF mewn perthynas ag ef. Ac ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn derbyn cais i warchod arwystl trwy gofnodi cyfyngiad yn y gofrestr perchnogaeth, heblaw cyfyngiad Ffurf A lle na chofrestrwyd un eisoes.
5.4 Lle y mae’r sawl sy’n goroesi’n gynrychiolydd personol hefyd
O dan drefniadau ymddiried o ddewis band dim treth, mae’n eithaf cyffredin i gynrychiolwyr personol A arwystlo becwêdd band dim treth cyfan neu o ran a/neu unrhyw eiddo sy’n llunio rhan ohono i ymddiriedolwyr band dim treth A. Yn aml, cynrychiolydd personol A bydd B, y perchennog cofrestredig sy’n goroesi.
Gall dryswch godi oherwydd
-
bod ymarferyddion yn drysu swyddogaeth B. Ar y pwynt hwn, mae B yn dal yr ystad gyfreithiol yn y tir fel unig ymddiriedolwr. Mae B yn cadw ei fudd ecwitïol llwyr ei hun. Yn ogystal, mae B yn gynrychiolydd personol i A ac yn cadw budd ecwitïol A o dan yr ymddiried ewyllys. Gall B wneud rhai pethau mewn un swyddogaeth ac eraill mewn swyddogaeth arall. Yr hyn na all B ei wneud, os yw cyfyngiad Ffurf A wedi ei gofnodi yn y gofrestr perchnogaeth, yw arwystlo’r ystad gyfreithiol os yw arian cyfalaf yn codi (gan fod B yn unig ymddiriedolwr yr ymddiried tir o hyd)
-
Os yw wedi’i awdurdodi i wneud hynny gan delerau’r ymddiried, gall B arwystlo’r gyfran lesiannol maent yn ei chadw fel cynrychiolydd personol. Mae hyn yn arwystl budd ecwitïol. Ni ellir ei gofrestru. Ni ellir ei nodi yn y gofrestr. Nid yw o ddiddordeb i Gofrestrfa Tir EF heblaw i’r graddau y mae ei fodolaeth yn golygu y cedwir yr ystad gyfreithiol o dan ymddiried tir sy’n gwarantu nodi cyfyngiad Ffurf A os nad oes un wedi’i gofrestru eisoes
-
Fel cynrychiolydd personol A, os yw B yn cydsynio i’r gyfran, nid yw’r cydsyniad hwn o ddiddordeb i Gofrestrfa Tir EF. Nid yw o’r ystad gyfreithiol. Ni ellir ei gofrestru na’i nodi. Fodd bynnag, os caiff y gyfran ei chydsynio gan B ac o ganlyniad, mae gan B yr hawl i’r budd llesiannol cyfan o dan yr ymddiried tir yn rhydd o unrhyw lyffetheiriau a grëwyd gan A cyn ei farwolaeth neu gan B, gall B wneud cais i ddileu unrhyw gyfyngiad Ffurf A gan nad oes buddion llesiannol ac mae gan B yr hawl i’r ystad gyfreithiol yn llwyr. Yn ogystal, gall B wneud cais i dynnu unrhyw gyfyngiadau ar Ffurf B neu yn debyg i Ffurf N yn ôl, gan fod yr ymddiried wedi dod i ben
-
Os yw B, fel cynrychiolydd personol A, yn arwystlo’r budd llesiannol a gedwir yn ystad A ac yna’n cydsynio i’r gyfran, unwaith eto nid yw’r cydsyniad hwn o ddiddordeb i Gofrestrfa Tir EF. Nid yw’n rhan o’r ystad gyfreithiol. Ni ellir ei gofrestru na’i gofnodi. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, nid yw’r ymddiried wedi dod i ben oherwydd, cyn belled â bod y llyffethair yn bodoli ar y gyfran, mae ymddiried tir. Ni fu unrhyw undod dilyffethair o fudd llesiannol gyda’r ystad gyfreithiol. Ni all B wneud cais i ddileu unrhyw gyfyngiad Ffurf A.
5.5 Benthyciadau gan yr ymddiriedolwyr
Weithiau caniateir i ymddiriedolwyr band dim treth wneud benthyciadau a derbyn addewidion o ad-daliadau mewn perthynas â’r benthyciadau. Gallent dderbyn sicrwydd am y benthyciadau hynny hefyd. Gall y sicrwydd a gynigir fod:
-
y gyfran ym meddiant llesiannol personol B
-
y gyfran yn ystad A y mae B yn gynrychiolydd personol ohoni. Yn y ddwy sefyllfa uchod, mae’r sicrwydd yn arwystl ecwitïol o fudd ecwitïol. Ni ellir ei gofrestru. Ni ellir ei gofnodi. Ni ellir derbyn cais i nodi cyfyngiad, heblaw cais i gofnodi cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr perchnogaeth os na chofrestrwyd un eisoes, oherwydd bod yr arwystl yn fudd deilliadol
-
ystad gyfreithiol B wedi ei dal fel ymddiriedolwr. Mewn unrhyw achos lle mai B yw’r unig berchennog cofrestredig, a nodwyd cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr perchnogaeth, caiff unrhyw gais i gofrestru arwystl o’r ystad gyfreithiol ei wrthod gan Gofrestrfa Tir EF.
6. Dod ag ymddiried i ben yn ystod oes partner sy’n goroesi
Gellir gweld felly nad yw ymddiried o ddewis band dim treth yn cynnig mantais o ran treth, naill ai oherwydd cyflwyno’r band dim treth trosglwyddadwy ar adeg marwolaeth yr ail bartner ar neu ar ôl 9 Hydref 2007 (adrannau 8A-8C ac 151BA o Ddeddf Treth Etifeddiant 1984 (fel y’i newidiwyd gan atodlen 4 i Ddeddf Cyllid 2008)), neu oherwydd bod cynnydd yn esemptiad dreth etifeddiant unigol wedi derbyn y band dim treth uwchlaw gwerth cyfun yr asedion yn yr ymddiried ac asedion y sawl sy’n goroesi
Yn yr achos hwn, gall partner sy’n goroesi, gyda chytundeb yr ymddiriedolwyr, benderfynu dod â’r ymddiried i ben er mwyn sicrhau bod ei asedion ar gael yn ystod ei oes. Ar yr amod bod hyn yn digwydd o fewn dwy flynedd o farwolaeth y partner cyntaf, bydd Cyllid a Thollau EM yn trin penodiad asedion yr ymddiried o blaid y sawl sy’n goroesi fel pe bai wedi’u gadael iddynt yn gyfan gwbl.
Nid yw’r penodiad o unrhyw ddiddordeb i Gofrestrfa Tir EF gan nad yw’n rhan o’r ystad gyfreithiol. Ond, o ganlyniad, os caiff y partner sy’n goroesi’r hawl i’r buddion llesiannol cyfan yn rhydd o unrhyw lyffethair, gall wneud cais i ddileu unrhyw gyfyngiad Ffurf A, a gall y sawl sydd â budd y cyfyngiadau eraill wneud cais i’w tynnu ymaith.
Bydd yn rhaid i ddatganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd gan y ceiswyr, neu dystysgrif gan eu trawsgludwr, nad yw dim o’r cyfrannau llesiannol yn yr eiddo wedi’u llyffetheirio gyd-fynd â’r cais ar ffurflen RX3.
Mae cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd yn rhoi gwybodaeth am ddefnyddio datganiadau o wirionedd i gefnogi ceisiadau i Gofrestrfa Tir EF.
7. Pethau i’w cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.