Hysbysiad preifatrwydd mesurau nad ydynt yn ymwneud â thir a weinyddir gan weithrediadau masnachwyr
Mae'r mesurau a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys gwasanaethau'r Asiantaeth Taliadau Gwledig sy'n ymwneud â mewnforion, allforion, sefydliadau cynhyrchwyr bwyd ac ymyriadau.
Dogfennau
Manylion
Diben Prosesu
Mae’r mesurau hyn yn cynnwys y gwasanaethau canlynol:
Cynllun Trwyddedu Mewnforion ac Allforion (gan gynnwys Cwotâu Cyfraddau Tariff)
Y system ar gyfer rheoli trwyddedau mewnforio ac allforio mewn perthynas â’r rheolau ar ryddhau a fforffedu gwarannau a adneuir ar gyfer trwyddedau o’r fath.
Ardystiadau ar gyfer Allforio Hopys
Yr Asiantaeth Taliadau Gwledig yw’r awdurdod cymwys ar gyfer rhoi Ardystiad o Gyfwerthedd Hopys ym Mhrydain Fawr er mwyn gallu allforio hopys a chynhyrchion hopys i’r Undeb Ewropeaidd (UE).
Tystysgrifau VI1 ar gyfer Gwin
Yr Asiantaeth Taliadau Gwledig yw’r awdurdod cymwys i roi tystysgrifau VI1 ar gyfer Gwin i ailallforio gwin a fewnforiwyd i’r UE.
Sefydliadau Cynhyrchwyr Llaeth
Sefydliad a ffurfiwyd gan grŵp o ffermwyr, sydd ag un neu fwy o nodau. Mae hyn yn cynnwys negodi contractau ar gyfer cyflenwi llaeth heb ei drin ar ran ei aelodau.
Sefydliadau Cynhyrchwyr Ffrwythau a Llysiau
Cymorth i helpu tyfwyr i fod yn fwy cystadleuol yn y gadwyn gyflenwi.
Storio Preifat (Llaeth, Powdr Llaeth Sgim a Chig Mochyn)
Mesurau cymorth i’r farchnad yw cynlluniau hyn, sy’n helpu i sefydlogi prisiau cynhyrchion penodol.
Ymyriad Cyhoeddus (Menyn, Grawnfwyd, Llaeth a Phowdr Llaeth Sgim)
Mesurau cymorth i’r farchnad yw cynlluniau ymyrryd, sy’n helpu i sefydlogi prisiau cynhyrchion penodol.
Cynllun Llaeth Ysgol
Cymorth i gyflenwi llaeth mewn sefydliadau addysgol.
Pam y gallwn brosesu eich data personol
Mae’r gyfraith yn caniatáu i ni brosesu eich data personol o dan Erthygl 6 (1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU). Caniateir i ni brosesu data personol pan fydd angen i ni ymgymryd â thasg gyhoeddus.
Y gyfraith berthnasol ar gyfer pob un o’r gwasanaethau hyn yw:
-
Cynllun Trwyddedu Mewnforion ac Allforion (gan gynnwys Cwotâu Cyfraddau Tariff) – Offeryn Statudol (OS) 2020 Rhif 1432
-
Ardystiadau ar gyfer Allforio Hopys – Rheoliad a Gymathwyd 1295/2008
-
Tystysgrifau VI1 ar gyfer Gwin – Rheoliad a Gymathwyd 1295/2013
-
Sefydliadau Cynhyrchwyr Llaeth – Rheoliadau a Gymathwyd 1308/2013, 880/2012 a 511/2012
-
Sefydliadau Cynhyrchwyr Ffrwythau a Llysiau – Cyfundrefn Sefydliadau Cynhyrchwyr, Rhaglenni Gweithredol a Chymorth – Rheoliadau a Gymathwyd 1308/2013, 2017/891 a 2017/892 ac Offerynnau Statudol 2019/1446 a 2021/756
-
Storio Preifat (Llaeth, Powdr Llaeth Sgim a Chig Mochyn) – Rheoliadau a Gymathwyd 1308/2013, 2016/1238, 2016/1240, SI 2019/748, 2019/765, 2019/831, 2019/1402 a 2020/1445
-
Ymyriad Cyhoeddus (Menyn, Grawnfwyd, Llaeth a Phowdr Llaeth Sgim) – a ddirymwyd gan OS 2023/124 yn Lloegr – R1308/2013, 2016/1238, 2016/1240, 1370/2013, 906/2014, 907/2014, 908/2014. OS 2019/748, 2019/765, 2019/831, 2019/1402, 2020/1445
-
Ymyriad Cyhoeddus Mesurau Argyfwng – Rheoliad a Gymathwyd 1308/2013 Erthyglau 219 – 222
-
Cynllun Llaeth Ysgol – Rheoliadau a Gymathwyd 1308/2013, 2017/39 a 2017/40
Mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ddarparu data buddiolwyr i Defra, sy’n eu cyhoeddi er mwyn bodloni deddfwriaeth yr UE a ddargedwir, sydd â’r nod o hyrwyddo tryloywder.
Pa ddata personol rydym yn eu prosesu
Y wybodaeth rydym yn ei chasglu ac yn ei phrosesu yw:
- gwybodaeth gofrestru cwsmeriaid
- cymhwystra, ceisiadau, grantiau a manylion taliadau
- gwerthusiad o gryfderau eich cais yn erbyn blaenoriaethau’r cynllun
- yr ystyriaeth a roddwyd i effeithiolrwydd y cynllun neu’r swyddogaeth yn gyffredinol ac a wnaeth y canlyniadau gyflawni’r nodau
- gwersi a ddysgwyd
- gwybodaeth am y ffordd y cafodd polisïau a chynlluniau newydd eu datblygu
- manylion unrhyw un sy’n gweithredu ar eich rhan, er enghraifft asiant
Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu eich data personol, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost a gaiff ei gynnwys mewn unrhyw gwestiynau neu adborth y byddwch yn eu hanfon atom. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi am grantiau’r dyfodol a diweddariadau i’r polisi ffermio a fyddai’n berthnasol i chi.
Eich cyfrifoldeb o ran data personol pobl eraill
Os ydych wedi cynnwys data personol am bobl eraill yn eich cofnodion, mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt. Rhaid i chi roi copi o’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn iddynt er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod y bydd eu data personol yn cael eu defnyddio.
Ble y bydd eich data personol yn cael eu storio
Rydym yn storio, yn trosglwyddo ac yn prosesu eich data personol ar ein gweinyddion yn y Deyrnas Unedig (y DU) ac yn yr Undeb Ewropeaidd (UE).
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol
Byddwn yn cadw eich data am saith mlynedd.
Cyfeiriwch at ein Siarter Gwybodaeth Bersonol a’r adran ‘Am faint o amser y byddwn yn cadw data’ am ragor o wybodaeth am unrhyw eithriadau posibl.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data personol
Rydym yn rhannu eich data personol â’r canlynol:
- Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd
- Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
- Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
- Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
- Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi
- Cyfarwyddiaeth Taliadau Gwledig ac Arolygiadau Llywodraeth yr Alban
- Taliadau Gwledig Cymru Llywodraeth Cymru
- Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon
Eich hawliau
Darllenwch ein Siarter Gwybodaeth Bersonol i gael gwybod pa hawliau sydd gennych o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.
Sut i wneud cwyn
Os bydd gennych bryderon ynglŷn â’r ffordd y mae’r RPA yn defnyddio eich data personol, darllenwch am sut i gysylltu â ni neu am sut i wneud cwyn.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 August 2024 + show all updates
-
Added Welsh translation.
-
First published.