Adroddiad blynyddol a chyfrifon Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2020 i 2021 (Fersiwn HTML)
Diweddarwyd 13 December 2022
Yn berthnasol i England and Gymru
Adroddiad blynyddol a gyflwynwyd i’r Senedd yn unol ag Adran 60 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005
Cyfrifon a gyflwynwyd i Dŷ’r Cyffredin yn unol ag Adran 7 o Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000
Cyflwynwyd y cyfrifon i Dŷ’r Arglwyddi ar Orchymyn Ei Mawrhydi
Gorchymynnwyd gan Dŷ’r Cyffredin iddynt gael eu hargraffu ar 21 Gorffennaf 2021
Adroddiad perfformiad
Trosolwg
Mae’r trosolwg yn rhoi crynodeb o waith Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ein pwrpas, y prif rwystrau rhag cyflawni ein nodau a sut rydym wedi perfformio yn ystod y flwyddyn.
Mae’r trosolwg yn cynnwys:
- datganiad y Prif Weithredwr, gan roi ei safbwynt ar ein perfformiad yn ystod 2020 i 2021
- disgrifiad o bwrpas yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus,yr hyn rydym yn ei wneud, ein cwsmeriaid a rhanddeiliaid, ein perthynas gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a’r prif risgiau a materion y gwnaethom eu rheoli yn ystod y flwyddyn
- crynodeb o berfformiad, gan amlinellu sut y gwnaethom berfformio yn erbyn ein nodau darparu gwasanaeth
Mae esboniad manylach o’n perfformiad ac atebolrwydd yn nhudalennau dilynol yr adroddiad.
Roedd y prif risgiau a gafodd eu rheoli yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod 2020 i 2021 yn cynnwys:
- ymateb i her pandemig y coronafeirws (COVID-19), a chyflymder a graddfa addasu ein gwasanaethau ar gyfer ein cwsmeriaid a’n staff
- effaith trosglwyddo o’r UE – nid yw hyn wedi effeithio’n uniongyrchol ar ein gwasanaethau, ond mae wedi newid blaenoriaethau’r llywodraeth a’r rhaglen ddeddfwriaethol
Ceir rhagor o fanylion am y rhain a’r risgiau eraill a reolwyd yn ystod y flwyddyn ar Parodrwydd i dderbyn risg
Datganiad gan y Prif Swyddog Gweithredol Nick Goodwin
Mae digyffelyb yn air sy’n cael ei glywed yn aml y dyddiau hyn. Ond wrth ystyried y flwyddyn a aeth heibio, nid oes disgrifiad gwell o’r heriau rydym wedi’u hwynebu yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus . Wrth ddelio â’r heriau hyn, a’u goresgyn i raddau helaeth, rydym wedi bod yn gyson yn ein hymrwymiad i ddiogelu anghenion rhai o’r oedolion mwyaf agored i niwed yng Nghymru a Lloegr.
Gan ein bod ni i gyd wedi treulio mwy o amser oddi wrth ein hanwyliaid, rydyn ni wedi cael ein hatgoffa o werth ein perthnasoedd ac o ran cefnogi’r rheini sydd angen help. Mae’r gwaith y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei wneud i roi grym i berthnasoedd cefnogol o’r fath yn bwysicach nag erioed. Mae pandemig COVID-19 hefyd wedi tynnu sylw at yr angen dybryd am atwrneiaeth arhosol wedi’i moderneiddio, er mwyn i ddinasyddion allu cael gafael ar ein gwasanaethau’n hawdd ac yn ddiogel, a gwella gwytnwch wrth ddarparu’r gwasanaethau hynny. Rwy’n falch bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn ddiweddarach eleni, yn bwriadu ymgynghori ynghylch moderneiddio atwreiaethau arhosol.
Eleni rydyn ni wedi cael trafferth gyda phrosesau ar bapur. Gyda chyfyngiadau lleol a chenedlaethol, a mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith yn ein swyddfeydd, mae’n briodol ein bod wedi gweithio’n galed i gadw ein pobl yn ddiogel. Mae ein gallu i ddelio ag atwrneiaethau arhosol ar bapur a’u cofrestru wedi lleihau o ganlyniad, ac rydyn ni wedi profi oedi gydag atwrneiaethau arhosol, ac mae’r amseroedd cofrestru’n cymryd hyd at 15 wythnos ar hyn o bryd. Ond rydyn ni wedi parhau i gynnal ansawdd gwasanaeth rhagorol gan fod boddhad ein cwsmeriaid yn 92.2% ar gyfer ein gwasanaeth atwrneiaethau arhosol a 78.2% ar gyfer dirprwyaethau.
Er gwaethaf yr heriau hyn, rwy’n falch o ddweud bod brwdfrydedd a chymhelliant ein pobl wedi bod yn ddiguro, ac rydyn ni wedi’u gwarchod yn y swyddfa ac yn y cartref, gan ganolbwyntio ar les meddyliol a chorfforol fel eu bod yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi wrth wneud gwaith mor hanfodol. Cynnal ymdeimlad o bwrpas ac agosatrwydd a ninnau ar wasgar. Mae hyn wedi cael ei adlewyrchu ar draws 10 dangosydd allweddol yr Arolwg Pobl blynyddol lle gwelsom gynnydd yn gyffredinol.
Rydym hefyd wedi estyn allan i gefnogi ein cydweithwyr sy’n gweithio ar y rheng flaen yn y GIG a gwasanaethau cymdeithasol, drwy gyfathrebu da a drwy gyflwyno gwasanaeth sy’n benodol i COVID-19 yn gyflym iawn. Bu ein chwiliad cofrestr cyflym newydd llwyddiannus yn gymorth i ganfod oedolion mewn perygl sydd ag atwrneiaeth neu ddirprwyaeth yn ei lle, er mwyn i gydweithwyr yn y sector cyhoeddus allu gwneud penderfyniadau budd gorau. Rydym wedi derbyn dros 1,600 o geisiadau ers ei lansio, a byddwn yn parhau i edrych ar ffyrdd o wella’r ffordd yr ydym yn rhannu data â’n cydweithwyr er mwyn eu cefnogi ymhellach yn y gwaith y maent yn ei wneud.
Y llynedd, cawsom gyfleoedd i arloesi’n gyflym. Rydym wedi bwrw ymlaen â gwaith i foderneiddio atwrneiaethau arhosol, wedi lansio ein gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol newydd, wedi cynnal rhith-ymweliadau a gwrandawiadau llys ac wedi hwyluso gweithio gartref ar draws llawer o’n timau.
Ac mae ein hymgyrch Eich Llais, Eich Penderfyniad wedi ymgysylltu â phobl o gymunedau yr effeithiwyd fwyaf arnynt gan COVID-19, gan weithio ochr yn ochr â dros 100 o Bartneriaid Atwrneiaethau Arhosol ledled Cymru a Lloegr, i wneud yn siŵr bod pobl nawr, ac yn y dyfodol, yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch cael atwrneiaeth arhosol.
Mae cynllun ad-dalu atwrneiaethau hanesyddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi llwyddo i weinyddu dros £1.5 miliwn mewn ad-daliadau ar gyfer 37,694 o gwsmeriaid. Mae’r cynllun ad-dalu dirprwyaeth hefyd wedi gweinyddu dros £6.1 miliwn mewn ad-daliadau ar gyfer 19,690 o gwsmeriaid. Rydym hefyd wedi llwyddo i leihau’r ddyled sydd gennym i’w thalu eleni drwy gynnal archwiliad dyledion hanesyddol sydd wedi golygu bod gennym y ddyled isaf ers blynyddoedd lawer. Hefyd, bydd ein polisi dyled newydd yn ein helpu i reoli ein sefyllfa o ran dyledion wrth symud ymlaen.
Mae’r flwyddyn wedi bod yn anodd. Rydyn ni wedi goresgyn llawer o heriau. A hoffwn fynegi fy niolch a’m gwerthfawrogiad i’n pobl ac i’n cwsmeriaid am eu hamynedd. Rydyn ni’n symud i’r flwyddyn nesaf gyda phositifrwydd. Mae ein gwasanaethau’n fwy hanfodol nag erioed, ac mae gan ein pobl ymdeimlad cryf o falchder a phwrpas.
Gyda’n gwerthoedd yn ein harwain, byddwn yn parhau i gyfrannu at Gynllun Cyflawni Canlyniadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau ein bod yn cynnig mynediad cyflym at gyfiawnder i’r rheini sydd angen ein gwasanaethau, ac yn bwrw ymlaen â pheth o’r dysgu a’r arloesi hanfodol o eleni er mwyn cyflawni ein huchelgais i ddiogelu buddiannau gorau pobl nawr ac yn y dyfodol.
Nick Goodwin
Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus dros Gymru a Lloegr
Ynglŷn â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Cyflwyniad
Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor o dan Adran 57 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r SGC, mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn bersonol atebol i’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder am weithredu’r asiantaeth yn effeithiol, gan gynnwys y ffordd mae’r asiantaeth yn gwario arian cyhoeddus ac yn rheoli ei hasedau.
Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael cymorth gan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflawni ei swyddogaethau statudol o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol a Deddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017.
Mae cyfrifoldebau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymestyn ledled Cymru a Lloegr. Mae trefniadau ar wahân ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Gweinidogion y llywodraeth a oedd yn gyfrifol am yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod y cyfnod adrodd hwn oedd:
-
y Gwir Anrhydeddus Robert Buckland CF, yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder (o fis Gorffennaf 2019)
-
Alex Chalk AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder (o fis Chwefror 2020)
Fel asiantaeth weithredol i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ochr yn ochr â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM a’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol, mae ein nodau’n cyd-fynd â chynllun adrannol sengl 2020 i 2021 y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydyn ni’n cyfrannu at gynllun cyflawni canlyniadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn nifer o ffyrdd ac mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cyd-fynd yn llwyr â galluogwyr strategol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac yn cael eu gyrru ganddynt, sef pobl wych, syniadau newydd, canlyniadau gwell a chynaliadwyedd.
Rydym yn gweithredu i sicrhau’r gwasanaeth gorau posibl i ddefnyddwyr drwy weithio i wneud ein gwasanaethau effeithlon ac yn fwy hygyrch, drwy bolisïau sy’n’ cael eu gyrru gan dystiolaeth.
Beth mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei wneud?
Sefydlwyd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ym mis Hydref 2007. Rydym yn cefnogi ac yn galluogi pobl i gynllunio fel bod rhywun yn gofalu am eu hiechyd a’u materion ariannol os byddant yn colli galluedd. Rydym hefyd yn diogelu buddiannau pobl nad oes ganddynt y gallu meddyliol i wneud penderfyniadau penodol drostynt eu hunain.
Rydym yn gyfrifol am y canlynol:
- cofrestru atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus
- goruchwylio dirprwyon a benodwyd gan y Llys Gwarchod
- goruchwylio gwarcheidwaid a benodwyd gan yr Uchel Lys
- cadw cofrestrau cyhoeddus o ddirprwyon, gwarcheidwaid, atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus, ac ymateb i geisiadau i chwilio’r cofrestrau
- ymchwilio i sylwadau, cwynion neu honiadau am gam-drin sydd wedi cael eu gwneud yn erbyn gwarcheidwaid, dirprwyon ac atwrneiod sy’n gweithredu o dan bwerau cofrestredig
Ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid
Mae gennym wahanol fathau o gwsmeriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys y canlynol:
- rhoddwyr – pobl sydd wedi gwneud Atwrneiaeth Barhaus neu Atwrneiaeth Arhosol
- atwrneiod – pobl sydd wedi cael eu penodi dan Atwrneiaethau Parhaus neu Atwrneiaethau Arhosol i wneud penderfyniadau ar ran rhoddwyr
- dirprwyon – unigolion lleyg neu broffesiynol neu awdurdodau cyhoeddus (fel cyfreithwyr neu awdurdodau lleol) sydd wedi cael eu penodi gan y Llys Gwarchod i reoli lles neu faterion ariannol pobl sydd heb alluedd
- y rheini sy’n destun gorchmynion dirprwyaeth – pobl sydd heb alluedd i wneud penderfyniadau penodol, ac mewn perthynas â’r rheini y mae dirprwy wedi cael ei benodi gan y Llys Gwarchod i wneud y penderfyniadau hynny
- unigolion coll – pobl sydd ar goll ac y mae eu materion yn cael eu rheoli gan warcheidwad a benodwyd gan yr Uchel Lys
- gwarcheidwaid – unigolion sydd wedi cael eu penodi gan yr Uchel Lys i reoli eiddo a materion ariannol unigolyn sy’n absennol neu sydd ar goll
- rhanddeiliaid eraill – perthnasau i roddwyr neu’r rhai sy’n destun gorchmynion dirprwyaeth, meddygon teulu neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill, elusennau, a’r sector cyfreithiol
Prif faterion, risgiau ac ansicrwydd
Mae’r prif risgiau a wynebwyd gennym yn ystod 2020 i 2021 wedi’ u nodi yma. Yn erbyn y cefndir hwn, gwnaethom barhau i gyflawni ein busnes o ddydd i ddydd.
Yn 2020 i 2021 mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi delio af effaith trosglwyddo o’r UE ac er nad yw hyn wedi effeithio’n uniongyrchol ar ein gwasanaethau, yn naturiol y mae wedi newid blaenoriaethau’r llywodraeth a’r rhaglen ddeddfwriaethol
Fodd bynnag, bu’r ansicrwydd mwyaf ynghylch pandemig COVID-19, a’r cyflymder a’r graddfa y bu i ni addasu ein gwasanaethau i adlewyrchu canllawiau’r llywodraeth ac anghenion ein defnyddwyr a’n staff. Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn symud i’r flwyddyn sydd i ddod gan barhau i ddelio ag effaith COVID-19 ar ein gwasanaethau ac ar ein pobl.
Llwyddiannau Perfformiad
Mesur ein perfformiad
Yn ystod 2020 i 2021 rydym wedi parhau i adolygu ein mesurau perfformiad, gan sicrhau bod y mesurau sylfaenol yn gyrru’r busnes o ddydd i ddydd ac yn addas i’r diben, a’u bod yn mesur yr wybodaeth briodol yn y ffordd gywir.
Defnyddir Dangosyddion Perfformiad Allweddol i fonitro perfformiad ac mae ein proses rheoli risg yn helpu i dynnu sylw at faterion allweddol sy’n gysylltiedig â chyflawni’r DPA hynny a’r perfformiad ehangach o fewn y sefydliad. Mae rheoli risg yn helpu i reoli ansicrwydd. Un ansicrwydd allweddol y mae angen ei reoli drwy gydol y flwyddyn yw’r llwyth gwaith sy’n dod i mewn – gan mai incwm sy’n ariannu’r asiantaeth ac mae lefel y llwyth gwaith hefyd yn effeithio ar y gallu i fodloni’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol.
Sut rydym ni wedi perfformio?
Mae gan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus set bwysig o dargedau dangosyddion cwsmeriaid – nodwyd y perfformiad yn erbyn y rhain isod, ynghyd â lefelau’r llwyth gwaith allweddol dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae rhagor o fanylion ynghylch yr ystod lawn o dargedau, perfformiad a sut y cânt eu mesur wedi’u nodi yn yr Targedau perfformiad.
Mae heriau COVID-19 wedi ei gwneud yn anodd i ni gyrraedd rhai o’n targedau perfformiad, yn enwedig gan ein bod wedi bod yn addasu’r ffordd rydym yn gweithio fel ei bod yn ddiogel i’n staff. Drwy gydol y broses, rydym wedi canolbwyntio ar gynnal ein darpariaeth gwasanaeth ac ymdrechu tuag at wasanaethau rhagorol i gwsmeriaid. Ar yr un pryd, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i wella ein gwasanaethau – o ran y ffordd y mae’r gwasanaeth yn gweithio a’r ffordd y mae pobl yn cael mynediad at y gwasanaethau.
Mae rhai targedau wedi bod yn anoddach eu cyrraedd nag eraill. Er enghraifft, nid ydym wedi cyflawni ein nod o gofrestru Atwrneiaeth Arhosol o fewn 40 diwrnod. Mae rhagor o wybodaeth am rai o’r heriau allweddol sy’n gysylltiedig â hyn, a’r gwelliannau i’r gwasanaeth rydym wedi’u cyflwyno yn ein tîm atwrneiaethau, ar gael ar yma.
Wynebodd ein tîm ymweliadau heriau mawr yn ystod 2020 i 2021 oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Er bod llawer o ymweliadau wedi’u gohirio i ddechrau – fe wnaethom flaenoriaethu ymweliadau i ganolbwyntio ar ein hachosion mwyaf brys. Cafodd yr heriau hyn effaith ar rannau eraill o’r busnes megis ymchwiliadau a’n tîm cyfreithiol. Er mwyn delio â hyn yn effeithiol, cyflwynodd ein tîm ymweliadau rith-ymweliadau.
57,777 Ar 31 Mawrth 2021 roeddem yn goruchwylio 57,777 o orchmynion dirprwyaeth, sef gostyngiad o 3,016 o ddiwedd 2019 i 2020 |
691,746 Nifer y ceisiadau i gofrestru Atwrneiaethau Arhosol ac Atwrneiaethau Parhaus a dderbyniwyd yn 2020 i 2021 oedd 691,746, gostyngiad o 225,804 ar 2019 i 2020. |
5.3 million Ar ddiwedd y flwyddyn roedd dros 5.3 miliwn o atwrneiaethau ar y gofrestr. |
Ein cyflawniadau
58 diwrnod Amser clirio gwirioneddol ar gyfartaledd ar gyfer ceisiadau am atwrneiaethau Targed: 40 diwrnod |
33 diwrnod Amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol Targed: 40 diwrnod |
7 diwrnod Amser cyfartalog i adolygu adroddiadau blynyddol Targed: 15 diwrnod |
79% Arolwg boddhad cwsmeriaid % gyda gwasanaethau atwrneiaeth (bodlon iawn neu gweddol fodlon) Targed: 80% |
78% Arolwg boddhad cwsmeriaid % gyda gwasanaethau dirprwyaeth (bodlon iawn neu gweddol fodlon) Targed: 80% |
94% Arolwg boddhad cwsmeriaid % gyda gwasanaethau digidol (bodlon iawn neu gweddol fodlon) Targed: 80% |
94% % yr asesiadau risg diogelu a gynhaliwyd o fewn 2 ddiwrnod Targed: 95% |
75 diwrnod Amser cyfartalog i gwblhau ymchwiliadau Targed: 70 days |
56% % y galwadau a atebwyd o fewn 5 munud Targed: 90% |
82% % y cwynion yr ymatebwyd yn llawn iddynt o fewn y terfyn amser Targed: 90% |
Effaith COVID-19 ar Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a sut rydym yn darparu ein gwasanaethau, yn enwedig gan fod llawer iawn o’n prosesau’n dal i fod ar bapur. Fodd bynnag, mae hefyd wedi caniatáu i ni arloesi’n gyflym. Rydym wedi:
- adolygu ein prosesau er mwyn ein galluogi i weithio mewn ffordd fwy digidol, symleiddio rhai prosesau papur a nifer y staff sydd eu hangen yn y swyddfa
- rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch a lles ein staff wrth iddynt weithio mewn ffordd fwy ystwyth
- cefnogi ein staff, gan gynnwys ein Canolfan Gyswllt, er mwyn iddynt allu gweithio o gartref lle bo hynny’n bosibl, gan ddilyn canllawiau’r llywodraeth wrth barhau i ddarparu ein gwasanaethau. Rydym yn disgwyl y bydd rhywfaint o weithio o gartref yn parhau yn y dyfodol
- rhewi recriwtio fel rhan o’n gwaith lliniaru ar gyfer tan-adennill ariannol a chynnal cyfweliadau o bell ar gyfer rolau sy’n hanfodol i fusnes
- cynnal asesiadau offer sgrin arddangos ar-lein
- gweithredu cynllunio hanfodol ar gyfer parhad busnes ac adfer
- creu hyb GOV.UK sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd gyda gwybodaeth am sut mae COVID-19 yn effeithio ar ein gwasanaethau ac sy’n darparu canllawiau perthnasol i’n defnyddwyr
Ein Gwasanaethau
Tynnodd y pandemig sylw at anghydraddoldebau cymdeithasol ledled y byd ac yng Nghymru a Lloegr, yn enwedig ar gyfer y rheini o gymunedau lleiafrifoedd ethnig ac economaidd-gymdeithasol is. Fel sefydliad, rydym wedi ystyried ein rôl a’n cyfrifoldeb i bob dinesydd a’r rhan y gallwn ei chwarae yn agenda ‘codi’r gwastad’ Llywodraeth y DU, gan nodi dau faes lle gallwn wella ein cynnig yn sylweddol.
Mae ein dibyniaeth ar brosesau papur wedi dangos yr angen hollbwysig i foderneiddio. Nid yn unig i ddiogelu ein hunain rhag argyfyngau yn y dyfodol, ond hefyd i wella mynediad at ein gwasanaethau. Dyna pam ein bod yn falch o lansio, ar y cyd â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, bapur ymgynghori yn casglu barn ar ein cynlluniau ar gyfer moderneiddio’r gwasanaeth Atwrneiaeth Arhosol yn 2021. Drwy’r gwaith hwn, rydym yn gobeithio gwneud y gwasanaeth yn fwy hygyrch ac addas ar gyfer y dyfodol i bawb mewn cymdeithas, ac rydym eisoes wedi dechrau ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyfer y gwaith hwn.
Rydyn ni’n falch o’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud yn addysgu’r cyhoedd am atwrneiaethau arhosol a manteision gwneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol sy’n cefnogi ac yn adlewyrchu eu dymuniadau pe baent yn colli galluedd meddyliol. Yn ystod haf 2020, gyda chymorth Swyddfa’r Cabinet, fe wnaethom roi ffocws newydd yn gyflym ar ein hymgyrch Eich Llais, Eich Penderfyniad i’r cyhoedd, gan dargedu ein cyfathrebiadau at gynulleidfaoedd y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt fwyaf.
Gweithio gyda’n gilydd
Fe wnaethom lansio gwasanaeth COVID-19 newydd i chwilio cofrestri’n gyflym ar gyfer cydweithwyr yn y GIG ac Awdurdodau Lleol er mwyn iddynt allu adnabod oedolion mewn perygl sydd ag atwrneiaeth arhosol, atwrneiaeth barhaus neu ddirprwyaeth ar waith. Mae dros 1,600 o chwiliadau wedi dod i law ers y lansiad, ac mae hyn wedi cefnogi ein cydweithwyr i wneud penderfyniadau meddygol allweddol a rheoli nifer cynyddol o gleifion.
Gwasanaethau Atwrneiaeth
Mae’r niferoedd sy’n galw ein Canolfan Gyswllt wedi cynyddu ac mae galwadau wedi cymryd mwy o amser nag arfer wrth iddynt ddod yn fwy heriol a chymhleth. Mae’r amser aros ar gyfartaledd wedi bod tua 12 munud. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod, er nad yw ein targedau amseroedd aros ar gyfer galwadau wedi cael eu cyrraedd, ein bod wedi parhau i ddarparu cymorth o safon i’n cwsmeriaid ac rydym yn falch o hyn.
Gwasanaethau goruchwylio
Fe wnaethom gadw mewn cysylltiad â’n cwsmeriaid mwyaf agored i niwed a’r rhai nad oeddent yn cydymffurfio dros y ffôn, i wirio eu lles ac i ddarparu unrhyw gymorth ychwanegol. Er enghraifft, os oeddent yn cael trafferth (oherwydd cyfyngiadau) i ymweld â’r person sy’n destun y gorchymyn dirprwyaeth, i gael cyfriflenni banc neu bostio’r adroddiad atom.
Ymweliadau
Rydym wedi llwyddo i gynnal 60% o’n hymweliadau targed yn rhithiol lle bo hynny’n bosibl. Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, fe wnaethom gynnal ymweliadau â’r ardd ac ymweliadau cadw pellter cymdeithasol sydd wedi cael eu blaenoriaethu ar gyfer yr ymweliadau mwyaf brys. Mae hyn wedi helpu i ddiogelu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
Cwynion
Rydym wedi gweld nifer uwch o gwynion ers COVID-19 ac rydym wedi ymestyn ein targed o 10 diwrnod i’w datrys lle bo hynny’n briodol.
Ymchwilio i bryderon
Fe wnaeth ôl-groniadau sefydliadol effeithio ar y broses o flaenoriaethu a chefnogi ymchwiliadau , sy’n golygu ei bod wedi cymryd mwy o amser na’r arfer i nodi pryderon diogelu a’u hanfon at dîm ymchwiliadau.Asesu risg pryderon oedd ein prif flaenoriaeth o hyd a chawsant eu gweithredu cyn gynted ag y cawsant eu canfod a’u hanfon at y tîm diogelu.
Ymchwiliadau
Yn ystod y cyfyngiadau symud cychwynnol o fis Mawrth 2020 ymlaen, bu gostyngiad o 28% yn nifer yr achosion a oedd yn cael eu derbyn ar gyfer ymchwiliad ac effeithiodd canllawiau’r llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol ar ein gallu i gynnal ymweliadau’n bersonol. Effeithiwyd ar ein targedau ymchwilio gan ostyngiad yn nifer yr ymweliadau personol. Aethom ati i ailffocysu ein sylw ar ein hachosion ‘camau pellach’ yn ystod y cyfnod hwn, gyda’r nod o gau’r achosion hynaf tra’n sicrhau bod achosion diweddar yn parhau ar y trywydd iawn.
Tîm cyfreithiol
O ganlyniad i’r pandemig, mae’r mwyafrif helaeth o wrandawiadau wedi cael eu cynnal drwy fideo-gynadledda. Mae’r tîm wedi manteisio ar y cyfleoedd sydd wedi deillio o hyn o ran llai o amser teithio, a defnydd mwy hyblyg o gwnsleriaid allanol.
Bu gostyngiad yn nifer yr achosion ymchwilio sy’n cael eu cwblhau a’u cyfeirio at y tîm Cyfreithiol, gan roi cyfle i glirio swm sylweddol o waith a oedd yn weddill. Eleni cyflwynodd y tîm 582 o achosion ymchwilio i’r llys, sy’n gynnydd o 84% ar y flwyddyn flaenorol. Gwnaethom 689 o geisiadau pellach mewn perthynas â materion eraill hefyd.
Ein pobl
Yn ystod y pandemig, mae’r timau Datblygu Pobl wedi darparu cymorth llesiant hanfodol i’n staff, wedi ailgynllunio ein cynnig dysgu a datblygu ac wedi galluogi recriwtio hanfodol i’r busnes drwy wneud y defnydd gorau o gyfleoedd ar-lein.
Mae’r ffocws ar iechyd meddwl yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn galonogol iawn. Rwy’n gwybod pwy i siarad ag ef, os oes ei angen arnaf, sydd wedi gwneud byd o wahaniaeth wrth addasu i weithio o gartref, rwy’n teimlo bod iechyd meddwl yn rhywbeth sy’n cael ei gymryd o ddifrif
Laura - Swyddog Cofrestru
Iechyd a diogelwch
Mae pandemig COVID-19 wedi golygu bod rhaid i ni wneud newidiadau sylweddol yn ein swyddfeydd, fel lleihau nifer y staff a chyflwyno profion llif unffordd – mae ein tîm iechyd a diogelwch wedi bod yn wych o ran sicrhau bod gennym adeiladau diogel o ran COVID sy’n cydymffurfio â holl ganllawiau’r llywodraeth.
Cafodd rhaglen archwiliadau’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ei chynnal, ac fe wnaethom ddarparu diweddariadau ac adroddiadau i gynrychiolwyr undebau llafur nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y rhain.
Cyllid
Cafodd y mesurau cadw pellter cymdeithasol effaith sylweddol ar nifer y ceisiadau a ddaeth i law i gofrestru atwrneiaeth arhosol, gyda gostyngiad o 24.6% yn 2020 i 2021 o’i gymharu â 2019 i 2020. Er bod rhai costau a gweithgareddau busnes wedi’u cwtogi hefyd (fel ymweliadau, post yn mynd allan, defnyddio staff asiantaeth a theithio staff), y gostyngiad mewn niferoedd atwrneiaethau oedd y ffactor mwyaf o bell ffordd yn yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn adennill 76.7% yn unig o’i chostau, llawer is na’r targed o 100%. Roedd yr ansicrwydd a gafodd ei greu gan y pandemig yn golygu bod yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus mor ddibynnol ag erioed ar gefnogaeth ei phartneriaid busnes cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder a modelau rhagolygon incwm a galw Gwasanaethau Dadansoddi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Wynebodd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gostau ychwanegol o £164k i wneud ein swyddfeydd yn ddiogel i staff weithio ynddynt a darparu offer i hwyluso gweithio o bell lle bo hynny’n ymarferol.
Dadansoddi Perfformiad
Rhaglen drawsnewid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2025
Yng nghynllun busnes yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer 2020 i 2021 roedd gennym ddau faes gwaith allweddol – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2025, ein rhaglen drawsnewid a busnes fel arfer yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2025, yn ymwneud â newid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau yn y tymor hir er mwyn i ni wella bywydau gyda’n gilydd. Byddwn yn gwneud gwell defnydd o gynnyrch a gwasanaethau digidol a ffyrdd mwy clyfar o weithio er mwyn gallu cynnig mwy o gymorth, cyngor a chanlyniadau gwell yn ogystal â darparu gwasanaeth mwy effeithlon.
Bydd dyfodol digidol yn gwneud ein gwasanaethau yn fwy hygyrch, hyblyg a syml i gwsmeriaid eu defnyddio mewn ffordd sy’n fforddiadwy ac yn gyfleus iddyn nhw.
Yn 2020 i 2021, fe wnaethom fwrw ymlaen â’n gwaith trawsnewid drwy:
- defnyddio mwy o offer digidol ar draws y busnes lleihau faint o bapur rydyn ni’n e i ddefnyddio wrth ddarparu ein gwasanaethau hanfodol
- dod o hyd i safle newydd i weithio ohoni – byddwn ni’n symud i’r safle newydd o’n lleoliad presennol ym Mirmingham erbyn diwedd 2021
- gorffen cynllunio trawsnewid er mwyn i ni allu canolbwyntio ar wireddu hwn a’r prosiectau fydd yn ein helpu i gyflawni hwn
- datblygu model gweithredu ar gyfer y dyfodol sy’n sicrhau ein bod ni’n gynaliadwy
- parhau i ddatblygu dull gweithredu proffesiynol ar gyfer rheoli newid, gan gynnwys asesu effaith a blaenoriaethu
- datblygu Achos Amlinellu Strategol ar gyfer Moderneiddio atwrniaethau arhosol i egluro cwmpas, nodau, manteision a chostau cam cyntaf prosiect
- lansio’r gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol i wneud Atwrneiaethau Arhosol yn haws i’w defnyddio
- hyrwyddo atwrneiaeth arhosol – sydd wedi’i addasu i fodloni anghenion COVID-19. Roedd hwn yn canolbwyntio ar y bobl a gafodd eu heffeithio fwyaf gan y pandemig, y rheini o gefndiroedd lleiafrif ethnig a chymdeithasol economaidd is
- cynnal cyfarfodydd llwyddiannus â rhanddeiliaid, dan arweiniad y Gweinidog Chalk, AS, i symud ymlaen i’r cam nesaf o foderneiddio’r broses o wneud a chofrestru atwrneiaeth arhosol
Mewnwelediad, perfformiad a dadansoddeg
Rydym wedi:
- creu strategaeth ddata i wella gallu data sefydliadol ac i lywio penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata. This will mean responsiveness and efficiency in meeting our customer needs
- dechrau ar y gwaith o fapio teithiau cwsmeriaid i ddeall profiadau cwsmeriaid yn well a fydd yn galluogi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i wneud gwelliannau yn seiliedig ar hyn
- dechrau ar y gwaith o wella’r cymorth a’r arweiniad rydym ni’n eu cynnig, fel ein bod ni’n gallu deal yn well lle i ganolbwyntio gwelliannau a threialu ffyrdd newydd o gyfathrebu a rhannu arweiniad fel bod cwsmeriaid yn gallu llywio’r
Ein busnes fel arfer
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n holl gwsmeriaid nawr ac yn y dyfodol.
Ein rôl ni yw cofrestru atwrneiaethau, goruchwylio dirprwyon a gwarcheidwaid a benodwyd gan y llys ac ymchwilio i bryderon. Mae hyn yn cynnwys creu gweithlu sy’n derbyn cefnogaeth, yn gynhwysol ac yn llawn cymhelliant sy’n byw yn ôl ei werthoedd. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn lle da iawn i weithio, ond rydym am i bawb deimlo ei fod yn lle gwych i weithio ynddo.
Yn 2020 i 2021 fe wnaethom barhau i wella ein busnes fel arfer drwy wneud y canlynol:
- ymdrechu i gyflawni ein targedau perfformiad a gwasanaeth cwsmeriaid, gan symud ein hadnoddau i feysydd lle rydym ni wedi ei chael yn anodd – gan sicrhau bod ein defnyddwyr yn gallu cael gafael ar ein gwasanaethau
- hyrwyddo lles meddylion ein staff a’u helpu i ddelio â COVID-19 a’r ffyrdd amrywiol y mae wedi effeithio ar unigolion
- gweithredu gweithio o gartref ar gyfer nifer o’n – gan gynnwys defnydd mwy hyblyg o TG a gweithio Ystwyth
- parhau i feithrin rhagor o gynhwysedd yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – gan sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i fod yn lle gwych i weithio
Atwrneiaethau arhosol
Mae cofrestru atwrneiaethau arhosol yn wasanaeth pwysig i’r cyhoedd, felly, mae’n allweddol ein bod yn ymdrechu i wella a datblygu ein gwasanaethau atwrneiaethau arhosol yn barhaus, er mwyn i’n cwsmeriaid gael profiad cadarnhaol.
Mae’r prif dargedau gwasanaeth i gwsmeriaid yn y maes hwn yn canolbwyntio ar y defnyddiwr, sef:
- cofrestru atwrneiaethau arhosol o fewn 40 diwrnod
- ateb 90% o alwadau o fewn 5 munud – ni chyrhaeddir targedau darparu gwasanaeth ac amseroedd aros cyfartalog ar gyfer delio â galwadau
- ymateb i 90% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith
Rydym wedi cynnal ein perfformiad o ran cwynion a chafodd 82% o gwynion eu cwblhau o fewn y targed.
Rydym hefyd wedi parhau i weinyddu cynllun Ad-daliadau Hanesyddol dan arweiniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn llwyddiannus ar ôl cwblhau’r drydedd flwyddyn mewn ymgyrch chwe-blynedd, lle cafodd 37,694 o gwsmeriaid £1,575,812.63 o ad-daliadau.
Dyma’r prif heriau a wynebwyd gan y gwasanaeth atwrneiaethau yn 2021 i 2021:
- cynnal y gwasanaeth a ddarperir oherwydd effaith COVID-19, mae hyn wedi golygu y bu’n rhaid i ni newid y ffordd rydym yn gweithredu ac rydym hefyd wedi gweld morâl y staff yn amrywio. Fe wnaethom adolygu ein prosesau, blaenoriaethu gwaith allweddol a sicrhau bod llesiant ein staff yn flaenoriaeth
- materion staffio o ganlyniad i’r gyfradd gadael a rhewi recriwtio. Mae gennym staff hyfedr a hyfforddedig o rannau eraill o’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddarparu cymorth lle bo hynny’n bosibl
Bore da, yr wyf heddiw wedi derbyn fy Atwrneiaeth Arhosol sydd bellach wedi’i chofrestru. Hoffwn ddiolch i chi, ond yn anad dim, hoffwn ddweud wrthych y fath bobl hyfryd yr ydych yn eu cyflogi. Fel y sylweddolwch, roedd llenwi’r ffurflenni’n ymddangos yn frawychus iawn, yn gymaint felly, fel y bu’n rhaid i mi ffonio’ch swyddfa ar dri achlysur gydag ymholiad. Roedd pob un ohonynt mor garedig a chymwynasgar. Mae’n siŵr bod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn dipyn o her ar brydiau, ond gobeithio, cyn hir, y byddwn i gyd yn ôl i’r drefn arferol. Unwaith eto, diolch yn fawr iawn i chi a dymunaf ddyfodol iach a hapus iawn i bob un ohonoch.
Adborth gan gwsmer y ganolfan gyswllt
Gwelliannau i’r gwasanaethau
Ar yr un adeg â darparu’r busnes o ddydd i ddydd, rydym wedi parhau i ystyried sut y gallwn wella ein gwasanaethau i’n defnyddwyr. Rydym wedi diweddaru rhai o’n gwasanaethau:
- rydyn ni wedi ehangu ein gwasanaeth cofrestr gyflym er mwyn i gydweithwyr o sefydliadau perthnasol yn y sector cyhoeddus allu gofyn i ni chwilio ein cofrestr am bryderon brys am rywun a allai fod ag atwrneiaeth arhosol neu ddirprwyaeth yn ei lle
- lansio’r gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol ym mis Mehefin 2020, mae codau ysgogi wedi cael eu darparu i 1,120,000 o roddwyr ac atwrneiod ar 366,000 o atwrneiaethau arhosol. Mae atwrneiod ar 68,604 o atwrneiaethau arhosol wedi cofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth, ac mae 21,155 o godau mynediad wedi cael eu darparu i sefydliadau
Fe wnaethom wella’r ffyrdd o ryngweithio â’n cwsmeriaid:
- gwella’r ffordd rydym yn rhyngweithio â’n cwsmeriaid drwy ddarparu hyfforddiant Llais Pobl dros Gyfiawnder i staff
- dadansoddi drwy gynnal archwiliadau Sicrhau Ansawdd yn rheolaidd bob mis ar draws ein holl wasanaethau Atwrneiaethau craidd er mwyn nodi meysydd allweddol ar gyfer gwella’r gwasanaeth a ddarperir i gwsmeriaid, gan ddarparu adborth a chefnogaeth reolaidd i staff
- cynnal ymarfer glanhau data, pryd y daeth staff o hyd i’r pedwar gwall mwyaf ar gannoedd o geisiadau am atwrneiaethau arhosol. Mae’r wybodaeth hon wedi cael ei defnyddio i gryfhau hyfforddiant a bydd yn sail i welliannau yn ein gwasanaeth i gwsmeriaid
Fe wnaethom ddarparu hyfforddiant a gwella ein ffyrdd o weithio gartref:
- darparu hyfforddiant technegol ac uwchsgilio 160 aelod o staff i gefnogi’r gwasanaeth atwrneiaeth
- cynnal adolygiad lefel uchel o’n strategaeth ansawdd a gwneud gwelliannau i gefnogi arweinwyr tîm – gan fabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar risg
- buddsoddi mewn teleffoni ac atebion digidol i gefnogi hyblygrwydd ychwanegol a gweithio gartref
- cyflwyno argraffu a phostio o bell
- gweithio’n gallach, fel bod mwy o’n staff yn gallu gweithio gartref – cafodd hyn ei groesawu gan staff a gwelsom gynnydd mewn cynhyrchiant
- cyflwyno Hyb Diogelu i sicrhau bod pryderon diogelu yn cael eu codi’n briodol
Adborth gan Staff:
Mae’r gwaith ar gofrestru yn y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn waith caled, ond ar yr un pryd, yn rhyfedd o gyffrous. Drwy gyfathrebu, rydym wedi meddwl am syniadau arloesol ar gyfer cadw’r llif gwaith i fynd, gan ddangos ochr greadigol rheolwyr a staff fel ei gilydd. Mae ein huwch reolwyr wedi caniatáu i ni roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio, gan ein cefnogi ni gydag oriau gweithio mwy hyblyg. Roedd y sefyllfa’n gorfodi’r unedau Cofrestru i gydweithio i greu cysylltiadau gweithio agosach a gallu defnyddio sgiliau ar draws mwy o dimau. Rydyn ni wedi dod at ein gilydd mewn ffordd na allem fod wedi ei rhagweld cyn COVID-19 ac mae’n rhoi llwyfan gwych i ni adeiladu arni ar gyfer y dyfodol.
Sue, Rheolwr Uned
Goruchwylio
Llwyth gwaith presennol
Roedd y baich achosion goruchwylio yn 57,777 o orchmynion dirprwyaeth yn 2020 i 2021 o’i gymharu â 60,793 yn 2019 i 2020. Mae perfformiad rhagorol drwy gydol y flwyddyn wedi golygu bod modd bodloni ein holl ddangosyddion perfformiad.
Eleni, cafodd 54.05% o adroddiadau blynyddol eu cyflwyno’n ddigidol, o’i gymharu â 44.13% yn 2019 i 2020. Ac mae ein cynllun ad-dalu ffioedd gwarcheidiaeth a dirprwyaeth wedi cael ei ymgorffori mewn busnes fel arfer heb ddim effaith niweidiol ar ein gwasanaeth i gwsmeriaid nac ar ein perfformiad.
Rydyn ni hefyd wedi gwneud newidiadau i’r daith Cwsmeriaid Lleyg, sy’n rhoi mwy o hyblygrwydd o ran pwyntiau cyffwrdd. Mae hyn yn golygu y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy personol ac wedi’i dargedu, a ddylai leihau lefelau diffyg cydymffurfio.
Y prif heriau a wynebodd y gwasanaeth yn 2020 i 2021; nifer o ddyfarniadau cymhleth a heriol y Llys Gwarchod, gan gynnwys amrywiol atwrneiaethau arhosol a dyfarniad ACC ac eraill. Rydyn ni wedi newid ein prosesau a’n cyfathrebiadau i adlewyrchu’r rhain. Nifer o achosion uchel eu proffil a oedd wedi gofyn am lawer iawn o waith gan y timau Ymchwiliadau a Goruchwylio Dirprwyaethau ac wedi sicrhau bod y rhain yn cael eu cyfleu’n brydlon i’r rhai yr effeithiwyd arnynt.
Gwelliannau i’r gwasanaethau
Rydym yn canolbwyntio ar:
- ein prosesau ar gyfer lleihau a rheoli diffyg cydymffurfio (methu â chydymffurfio â’r Gorchymyn y Llys a wneir gan y Llys Gwarchod sy’n rhoi’r ddirprwyaeth)
- rhyngweithio a chydweithio â chyflenwyr ein bondiau, i sicrhau bod gweithdrefnau cywir yn cael eu dilyn, bod diogelwch yn cael ei ddarparu a bod unrhyw anghysondebau’n cael sylw
- cyflwyno rheoli achosion o’r dechrau i’r diwedd ar draws timau lleyg ar gyfer pob dirprwy lleyg er mwyn rheoli pob agwedd ar eu hachos ac i bwy y gallant gyfeirio unrhyw ymholiadau
- adolygiad o’r wybodaeth a ddarperir i ddarpar ddirprwyon cyn iddynt wneud cais i’r llys, fel eu bod yn deall yn glir beth yw dyletswyddau dirprwy cyn iddynt ysgwyddo’r cyfrifoldeb
- adolygiad, yn unol â’r archwiliad goruchwylio (2019) a gwblhawyd gan Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth , o’n Safonau Proffesiynol ac Awdurdod Cyhoeddus
Rydym hefyd wedi lleihau’r amser a ganiateir i ddirprwyon adrodd i ni er mwyn i ni allu darparu gwell amddiffyniad i’n cwsmer. Ac yn unol â’r archwiliad goruchwylio (2019), rydym wedi cwblhau ‘adolygiad ffurfiol wedi’i gynnal a’i ddogfennu, sy’n rhoi manylion am gyflawni, effaith a datblygiad parhaus y broses sicrhau ansawdd.’ Fel yr argymhellwyd, mae’r adolygiad dwyflynyddol bellach yn rhan o’n prosesau busnes fel arfer.
Rydym wedi cwblhau a gweithredu ein hadolygiad o hyfforddiant technegol. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu cefnogi gwelliannau ar draws goruchwyliaeth a drwy alinio ein hyfforddwyr â gwahanol rannau o’r busnes ar gylchdro, rydym wedyn yn gallu sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am bob agwedd ar ein gwaith. Mae’r Tîm Cefnogi a Chydnerthu Goruchwyliaeth hefyd yn gweithio gyda’n tîm polisi i wneud yn siŵr bod ein cardiau swydd yn gyfredol ac yn adlewyrchu polisïau ac arferion presennol yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Hoffwn roi gwybod i chi am ŵr bonheddig, Ben, Goruchwyliwr Tîm Lleyg 6 sydd wedi mynd yr ail filltir a mwy i’m helpu, i’m cynorthwyo ac i roi cyngor i mi gyda’m dirprwyaeth. Yr wyf wedi bod yn ddirprwy am dros bum mlynedd, ac ef yw’r cyswllt cyntaf sydd wedi fy arwain o ddifrif i fod yn ddirprwy gwell. Yn ystod ei ddiwrnod prysur, mae wedi darganfod yr amser i gysylltu â mi dros y ffôn yn hytrach nag e-bost (sy’n gallu bod yn oeraidd ac yn gallu cael ei gamddarllen). Mae’n glod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Adborth gan gwsmer
Unigolion coll
Rydym nawr yn goruchwylio pum gorchymyn gwarcheidiaeth, sy’n gynnydd o’i gymharu â dau yn 2019 i 2020. Efallai bod y niferoedd yn fach, ond mae’r gwaith hanfodol hwn yn helpu teuluoedd sydd ag anwyliaid ar goll yn ystod cyfnod trawmatig.
Ymchwiliadau
Mae blwyddyn fusnes 2020 i 2021 wedi bod yn her i bob un ohonom, ond drwy’r holl anawsterau a’r newidiadau, yr un peth cyson oedd ymroddiad ein cydweithwyr i barhau i ddiogelu ein hoedolion agored i niwed. Mae’r pandemig wedi golygu bod mwy o oedolion yn cael eu rhoi mewn perygl gyda mynediad at gymorth iddynt yn fwy cyfyngedig. Nid yw hynny wedi ein hatal ni fel ymchwilwyr rhag dod o hyd i ffyrdd arloesol newydd o weithio, i barhau i gydweithio ag asiantaethau eraill a defnyddio technoleg ac unrhyw adnoddau eraill sydd ar gael i ddarparu’r lefel uchel o wasanaeth a ddisgwylir. Rydyn ni’n dal yn gwbl ymroddedig ac yn falch o’r gwaith rydyn ni i gyd yn ei wneud i sicrhau diogelwch ein rhoddwyr bob dydd.
Amina – ymchwilydd
Yn gyffredinol, gostyngodd ymchwiliadau o 3,099 yn 2019 i 2020 i 2,089 yn 2020 i 2021. Bu i’r oedi ar ymweliadau personol â chwsmeriaid oherwydd COVID-19 effeithio’n fawr ar dargedau ymchwiliadau, ond aethom ati’n gyflym i arloesi a chyflwyno ymweliadau rhithiol.
Mae adroddiadau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn crynhoi ymchwiliad ac yn darparu camau gweithredu a argymhellir. Nid oeddem yn gallu cyrraedd ein targed o gymeradwyo adroddiadau Gwarcheidwad Cyhoeddus o fewn 70 diwrnod i’w derbyn. Yn 2020 i 2021 roedd hyn yn 74.6 diwrnod. Er mwyn diogelu ein cwsmeriaid, fe wnaethom ganolbwyntio ar glirio achosion y cyfnod ymchwilio, a oedd yn golygu bod ein targed o ‘weithredu pan nad oedd angen cymryd camau llys o fewn 25 diwrnod i gymeradwyo’r adroddiad PG’ yn 31.6 diwrnod.
Fe wnaethom gau 2,073 o ymchwiliadau yn 2020 i 2021 o’i gymharu â 2,649 yn 2019 i 2020 ac mae gennym 680 o achosion agored sy’n ymchwiliadau gweithredol o’i gymharu â 700 o achosion agored yn 2019 i 2020.
Mae newidiadau yn yr adolygiad o achosion cyfreithiol wedi cael eu cyflwyno’n gynt, a disgwylir y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar amserlenni cyffredinol yn ogystal ag ar ansawdd ein penderfyniadau. Rydym hefyd yn gwneud mwy o newidiadau i’r ffordd rydym yn cynnal gwahanol agweddau ar ein hymchwiliadau a fydd yn arwain at arbedion effeithlonrwydd yn ein gwasanaeth.
Canran yr ymchwiliadau sy’n arwain at achos llys 22.81%. Yn y rhan fwyaf o achosion does dim camau gweithredu’n cael eu cymryd (63.85%) neu mae camau ychwanegol ac eithrio achos llys yn cael eu defnyddio i ddatrys unrhyw broblemau gyda’r atwrneiaeth neu’r ddirprwyaeth (13.34%).
Gwelliannau i’r gwasanaethau
Bu i ni gyflwyno llawer o ddatblygiadau arloesol a newidiadau i brosesau eleni. Ymysg y rhain mae:
- adolygiad wythnosol o’r ôl-groniad o achosion sy’n disgwyl ymweliad i ganfod ffyrdd eraill o’u clirio. Er enghraifft, defnyddio tystiolaeth flaenorol am alluedd gan Awdurdod Cyhoeddus
- rhaglen hyfforddiant dwys ar gyfer uwch ymchwilwyr ac ymchwilwyr newydd gyda system gyfeillio i’w cefnogi. Fe wnaeth hyn gryfhau sefyllfa’r tîm ar gyfer unrhyw gynnydd posibl mewn achosion
- sefydlwyd tasglu yn ystod mis Hydref i ganolbwyntio ar achosion Gweithredu Pellach gyda’r nod o gau’r achosion hynaf yn y cyfnod hwn yn ogystal â sicrhau bod yr achosion mwy diweddar yn aros ar y trywydd iawn
Enghreifftiau o ganlyniadau ymchwiliadau
Achos a aeth i’r llys
Mynegwyd pryder ynghylch gallu rhoddwr i wneud Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer ei faterion iechyd a lles , ac eiddo a materion ariannol .
Trefnwyd ymweliad cyffredinol, a chysylltwyd â darparwr y dystysgrif. Roedd darparwr y dystysgrif yn fodlon bod y rhoddwr yn deall y penderfyniad yr oedd yn ei wneud. Mae darparwr y dystysgrif wedi nodi ei fod yn fodlon y gallai’r rhoddwr bwyso a mesur a dal mewn cof gwybodaeth i ddeall beth fyddai gwneud Atwrneiaeth Arhosol yn ei olygu ac nad oedd unrhyw orfodaeth wedi digwydd.
Roedd gan yr ymwelydd farn wahanol i’r darparwr tystysgrif a daeth i’r casgliad ei bod yn anodd penderfynu a oedd gan y rhoddwr allu i wneud y Atwrneiaeth Arhosol. Oherwydd y dystiolaeth anghyson ynghylch capasiti’r rhoddwr, trefnwyd i ymwelydd arbennig gynnal asesiad ôl-weithredol o’i gapasiti.
Barn yr ymwelydd arbennig oedd nad oedd gan y rhoddwr allu i wneud y Atwrneiaeth Arhosol.
Gwnaed cais i’r llys, a diddymodd y llys y Atwrneiaeth Arhosol.
Achos nad aeth i’r llys
Mynegwyd pryder ynghylch gallu rhoddwr i weithredu ei Atwrneiaeth Arhosol iechyd a lles , ac Atwrneiaeth Arhosol eiddo a materion ariannol .
Tynnodd yr ymchwiliad sylw at wrthdaro rhwng buddiannau o ran bod atwrnai un yn talu ei merch (wyres y rhoddwr) a’i mab yng nghyfraith am ddarparu gofal. Roedd y rhoddwr wedi symud i fyw gyda’r wyres a’r gŵr. Dywedodd atwrnai un fod y rhoddwr bob amser wedi ei chefnogi’n ariannol ac ychwanegodd fod y taliadau bob amser ar gyfer gofal a dim byd arall.
Wrth adolygu sefyllfa ariannol y rhoddwr, nodwyd nifer o roddion. Fodd bynnag, roedd y rhain cyn unrhyw dystiolaeth nad oedd gan y rhoddwr alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau ariannol. Fodd bynnag, nodwyd bod yr atwrnai yn dal un cyfrif ar y cyd â’r rhoddwr.
Tybiwyd bod dementia ar y rhoddwr, ond ni chafwyd diagnosis ffurfiol o hynny.
Tybiwyd bod yr arian a dalwyd am ofal yn rhesymol gan y byddai’r rhoddwr yn wynebu costau uchel pe bai’n cael ei ddarparu drwy gwmni gofal preifat. Hefyd, roedd yn werth nodi nad oedd y rhoddwr yn talu am fwyd, cyfleustodau na rhent tra’n byw yn eiddo’r wyres a’r gŵr.
Gofynnwyd i atwrnai un ailgyfrif ymhen tri mis i ddangos ei bod yn rheoli arian y rhoddwr yn briodol ac er lles gorau’r rhoddwr. Hefyd, roedd atwrnai un i ddarparu tystiolaeth o fewn 30 diwrnod bod ei henw wedi cael ei dynnu o gyfrif ar y cyd a oedd ganddi gyda’r rhoddwr.
Wedi hynny, ailgyfrifwyd yr atwrnai, ac ni chafwyd unrhyw drafodion eraill a oedd yn peri pryder. Hefyd, darparwyd tystiolaeth i ddangos bod ei henw wedi ei dynnu o’r cyfrif ar y cyd yr oedd yn ei rannu gyda’r rhoddwr. Gan y dangosodd atwrnai un ei bod yn gweithredu yn unol â Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r Cod Ymarfer, caewyd yr ymchwiliad.
Y Gyfarwyddiaeth gyfreithiol a gwybodaeth
Yn ystod 2020 i 2021, mae ein tîm cyfreithiol wedi:
- dechrau’r broses o ail-lunio’r tîm er mwyn gwella strwythurau a phrosesau ar gyfer gwaith ymgyfreitha a chynghori
- canolbwyntio ar glirio swm sylweddol o waith sydd heb ei gyflawni hyd at wneud cais i’r llys
- bod yn rhan o nifer o ddyfarniadau sydd wedi pennu cyfeiriad ar gyfer yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a gweithwyr proffesiynol allanol
Dyma fu’r prif heriau eleni:
- yr oedd materion staffio yn golygu bod dibyniaeth ar gyfreithwyr locwm
- ôl-groniadau yn y broses o wneud ceisiadau i’r llys
Ymweliadau
Eleni, rydyn ni wedi gohirio ymweliadau personol ac mae’r rhan fwyaf o’n hymweliadau wedi cael eu cynnal yn rhithiol, gyda rhywfaint o ymweliadau â gerddi ac ymweliadau lle cadwyd pellter cymdeithasol. Fe wnaethom ddiogelu ein cwsmeriaid drwy gwblhau dros 1,200 o ymweliadau rhithiol ac ymweliadau â gerddi i gefnogi ymchwiliadau a sicrhau bod ein hachosion blaenoriaeth yn cael eu cwblhau. Ac rydym wedi parhau i gefnogi ein dirprwyon newydd drwy gynnal eu hymweliadau’n rhithiol hefyd.
Er mwyn helpu i ateb y galw am ymweliadau meddygol/galluedd penodol, penododd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 11 Ymwelydd Arbennig. Mae Ymwelwyr Arbennig yn ymwelwyr sydd wedi cael hyfforddiant meddygol ac sydd fel arfer yn asesu galluedd meddyliol ôl-weithredol ac yn gwneud diagnosis o namau ar y meddwl neu’r ymennydd.
Rydym wedi dyrannu 100% o gomisiynau ymweliadau safonol o fewn pum niwrnod gwaith, wedi cwblhau 99.6% o gomisiynau ymweliadau brys o fewn dau ddiwrnod gwaith ac wedi anfon 99.9% o adroddiadau ymweliadau ymlaen at y swyddog cywir o fewn pum niwrnod gwaith. Cafodd gwerthusiadau ymwelwyr eu cwblhau’n llwyddiannus eto a gwelsom welliant parhaus yn ansawdd y gwaith a gynhyrchwyd.
Gwelliannau i’r gwasanaethau
Rydym wedi gwella ein gwasanaeth drwy:
- gynnal ymweliadau sicrwydd rhithiol i sicrhau bod dirprwyon proffesiynol a dirprwyon awdurdodau cyhoeddus yn cael eu cefnogi
- cyflwyno cyfrifon e-bost diogel i bob ymwelydd contract
Mae nifer o’n hymwelwyr yn cyrraedd diwedd eu contractau yn 2021, felly yn y flwyddyn ariannol nesaf byddwn yn cynnal tair ymgyrch recriwtio. Un ar gyfer ymwelwyr cyffredinol yn Lloegr, a dau yng Nghymru, ar gyfer ymwelwyr cyffredinol ac ymwelwyr arbennig, i sicrhau ein bod yn ateb y galw ac yn cyflawni ein hymrwymiadau o ran yr iaith Gymraeg.
Diogelu
Mae ein tîm cymorth a brysbennu ymchwiliadau yn cwblhau asesiadau risg ac yn brysbennu unrhyw bryderon diogelu. Rydym wedi cyrraedd ein targed pum niwrnod ar gyfer brysbennu, 97.9% ar hyn o bryd, o’i gymharu â 95%.
Yn ystod 2020 i 2021, Mae ein tîm cymorth a brysbennu ymchwiliadau wedi:
- parhau i ddatblygu arferion diogelu, mae’r rhain wedi arwain at roi modiwlau hyfforddiant diogelu ar waith
- wedi mynychu digwyddiadau ymwybyddiaeth i ymgysylltu ag awdurdodau lleol i’w gwneud yn ymwybodol o’n rolau a’n cyfrifoldebau ac annog gweithio cydlynus, gan ganolbwyntio ar feysydd allweddol fel Essex. Cysylltodd awdurdod lleol Essex â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn annibynnol ac ar hyn o bryd rydym wrthi’n cysylltu â phob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr yn dilyn argymhellion ein Huwch Ymarferydd Diogelu
- wedi cael eu marcio’n sylweddol gan archwiliad mewnol gan dîm Archwilio Mewnol y Llywodraeth yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder – sy’n adlewyrchu ein sefyllfa iach
- adolygu ein prosesau staffio a’n prosesau i ddangos ein bod yn sicrhau’r gwerth gorau am arian
- adolygu’r wybodaeth ar wefan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i sicrhau bod cwsmeriaid yn gwybod sut mae cyflwyno pryderon a pha wybodaeth sydd ei hangen arnom
Cwynion
Rydym yn rheoli cwynion cwsmeriaid drwy broses gwyno haenog – mae cwynion yr haen gyntaf yn cael eu hystyried gan y maes busnes sy’n gyfrifol.
Os bydd y cwsmer yn anfodlon â’r ymateb hwn, gellir uwchgyfeirio’r gŵyn at yr ail haen; wedyn, bydd y gŵyn, a’r ffordd y deliwyd â hi, yn cael ei hadolygu gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Os bydd y cwsmer yn parhau i fod yn anfodlon, gall ofyn i’w AS gyfeirio ei gŵyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd er mwyn cynnal adolygiad annibynnol.
Cyfeiriwyd un achos eleni ac fe’i cadarnhawyd yn rhannol gan y Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.
Mae eleni wedi bod yn heriol, ac mae oedi mewn rhannau eraill o’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi effeithio ar ein tîm cwynion, fel prosesu atwrneiaethau arhosol, lefelau cyfnewidiol o gwynion ac achosion cymhleth – mae hyn wedi golygu ei bod wedi bod yn anodd cyrraedd ein targed o ymateb i 90% o gwynion cwsmeriaid o fewn 10 diwrnod gwaith. Er ein bod, ar gyfartaledd, yn gallu ymateb i gwynion cyn pen naw diwrnod gwaith, dim ond i 82% o’r cwynion y bu modd i ni ymateb o fewn 10 diwrnod, o’i gymharu â’n targed o 90%.
Rydym wedi canolbwyntio ar y canlynol:
- sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd gyda’u cwynion, yn enwedig pan na allwn gyrraedd ein targedau
- defnyddio ein data cwynion ac adborth cwsmeriaid i yrru gwelliannau o fewn yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – gan ddefnyddio data’n fwy effeithiol
- rydym yn parhau i gyflwyno arddull ysgrifennu Llais Pobl dros Gyfiawnder o fewn cwynion a meysydd eraill sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Rydym wedi gweithio’n agos gyda First Word i ddarparu pecyn hyfforddi pwrpasol i staff cwynion. Rydym nawr yn gweithio ar weithredu ail garfan o hyfforddiant
Enghraifft o welliant sydd wedi’i wneud isod
Ymchwiliwyd i gŵyn gan yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd – cafodd ei chadarnhau’n rhannol a rhoddwyd camau i ni eu rhoi ar waith. Roedd dau o’r pwyntiau gweithredu hyn yn ymwneud ag adolygu ein llythyrau cau ymchwiliadau a’n hymatebion i gwynion.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i ni adolygu a allem gynnwys rhagor o fanylion yn yr ymatebion (yn unol â chanllawiau GDPR), a gofynnwyd hefyd i ni ystyried darparu gwybodaeth ychwanegol i’n cwsmeriaid am sut y gallant ofyn am wybodaeth yn dilyn ymchwiliad.
Lluniwyd cynllun gweithredu, a gwnaed gwaith ar y cyd gan ymchwiliadau, cwynion, Sicrhau Gwybodaeth a’r tîm cyfreithiol i gyflawni argymhellion y Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth. Roedd gennym derfyn amser o dri mis i gwblhau’r camau gweithredu.
Cafodd y llythyrau eu hadolygu’n llawn, a chafodd templedi newydd eu creu, gyda gwell strwythur a gwybodaeth ychwanegol wedi’i chynnwys. Darparodd y tîm Sicrhau Gwybodaeth eiriad i’w gynnwys a fydd yn helpu ein cwsmeriaid i ofyn am wybodaeth a gwneud ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Bydd y geiriad hwn hefyd yn cael ei ddosbarthu i’w ddefnyddio mewn ymatebion i gwynion, gan wella’r gwasanaeth a ddarparwn i’n cwsmeriaid.
Ymatebodd yr Ombwdsmon ac roedd yn fodlon ein bod wedi cwblhau holl ofynion ei adroddiad terfynol a’i argymhellion.
Derbyniodd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’i gymharu â yn 2020 i 2021
4,146 yn 2020 i 2021 o gymharu â 5,723 yn 2019 i 2020 |
82% Cwynion y deliwyd â nhw mewn 10 diwrnod gwaith oedd Targed: 90% |
9 days Amser cyfartalog i ymateb i Targed: 10 days |
3,155 o gwynion am atwrniaethau arhosol |
244 o gwynion am ddirprwyaethau |
Tri phrif gŵyn am atwrniaethau arhosol
- oedi o ran prosesu atwrniaethau arhosol, delio a sganio dogfennau, oedi wrth gysylltu â chwsmeriaid a rhoi cyngor ynglŷn â phroblemau gyda cheisiadau
- cyswllt ag Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus– Anhapus gyda’r gwasanaeth a ddarparwyd un ai dros y ffôn neu’n ysgrifenedig
- dogfennau coll– atwrniaethau arhosol a rhannau o atwrniaethau arhosol ar goll yn y swyddfa
Tri phrif gŵyn am ddirprwyaethau
- dirprwy/atwrnai – cwynion am ddirprwyon proffesiynol yn cael eu hanfon at y tîm proffesiynol gan drydydd partïon
- cynnwys llythyrau – cywair llythyrau atgoffa, llythyrau atgoffa’n cael eu hanfon ar ôl i wybodaeth gael ei hanfon a cheisiadau am ragor o wybodaeth
- cyswllt gydag Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus –cywair y cyswllt, problemau o ran cael gafael arnom ni a cheisiadau am ragor o wybodaeth
Ein Pobl
Pobl a diwylliant
Rydyn ni wedi rhoi amrywiaeth o fesurau a chymorth llesiant wedi’i deilwra ar waith, gan roi blaenoriaeth i iechyd, diogelwch a llesiant ein holl staff wrth ddelio â COVID-19 a’r ffyrdd mae hyn wedi effeithio arnyn nhw. Rydym wedi hyrwyddo gweithgareddau iechyd meddwl ar gyfer pob cydweithiwr, wedi darparu hyfforddiant llesiant ‘Emosiwn, Ymgysylltiad, Perthnasoedd, Ystyr a Chyflawniadau Cadarnhaol’, wedi cyflwyno pecyn llesiant y gaeaf a gwasanaeth galw’n ôl dyddiol gyda’n swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl a chynghreiriaid iechyd meddwl. Mae’r mesurau hyn wedi sicrhau bod gan ein staff yr wybodaeth a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, pan fydd ei hangen arnynt a’r wybodaeth am ble i fynd am gymorth pellach os oes angen.
Rydym wedi parhau i ganolbwyntio eleni ar ddod yn sefydliad gwirioneddol gynhwysol, sy’n cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac rydym wedi ymrwymo i wrando ar sut mae ein staff yn teimlo. Rydym yn falch o weld effaith ein gwaith o flynyddoedd blaenorol yn cael ei hadlewyrchu yn sgoriau ein Harolwg Pobl. Mae tasglu cynhwysiant Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd i siarad am amrywiaeth a chynhwysiant yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Ers mis Gorffennaf 2020, mae sgyrsiau wedi canolbwyntio ar hil. Gan ddechrau gyda chyfres o Sesiynau Gwrando ar Hil, a gynhaliwyd gan ein rhwydwaith PROUD, fe wnaethom wrando ar yr hyn yr oedd staff yn ei ddweud wrthym ac fe wnaethom ddefnyddio’r hyn a ddysgom o’r sesiynau hyn i gyfrannu at ein cynllun gweithredu ar hil. ‘Gwrando, dysgu ac arwain’ yw’r fframwaith y byddwn yn parhau i’w ddefnyddio i gyflawni ein nodau cynhwysiant yn y dyfodol.
Drwy weithio’n agos gyda’n Tasglu Cynhwysiant, rhwydweithiau staff a thimau pobl, rydym wedi parhau i wella ac addasu prosesau fel ein bod yn recriwtiwr cwbl gynhwysol. Adlewyrchir hyn drwy ein cynnwys recriwtio, yn ein paneli cyfweld amrywiol sydd wedi rhagori ar dargedau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac yn ein hailachrediad fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd – a achredwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Er gwaethaf y pandemig a’n proses o rewi prosesau recriwtio, rydyn ni’n dal wedi gallu cyflawni ein hymrwymiad i gefnogi symudedd cymdeithasol. Yn 2020 i 2021, llwyddodd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i recriwtio cyfanswm o 14 o ymgeiswyr drwy amrywiol gynlluniau llwybrau at waith, chwech drwy’r academi waith seiliedig ar sector, saith drwy’r cynllun pobl ifanc sy’n gadael gofal ac un cynllun Llwybr Carlam. Mewn ymateb i’r cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol, cyflwynodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus broses o gyfweld o bell ar gyfer yr holl rolau busnes hanfodol. Oherwydd lefel y llwyddiant, mae’r broses hon bellach yn Fusnes Fel Arfer ar draws yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyd ar bob graddfa. Dim ond i rolau sy’n hanfodol i fusnes yr ydym wedi recriwtio eleni, ac rydym wedi cyflawni hyn drwy lwyddo i wreiddio’r gallu i gyfweld dros y we yn ein prosesau recriwtio.
Rydyn ni wedi parhau i ganolbwyntio ar gryfhau ein gallu i arwain ac rydyn ni wedi buddsoddi yn ein harweinwyr a’u datblygiad drwy ein rhaglen newydd, Hanfodion Rheolwyr Llinell, rydyn ni wedi’i chyflwyno i dros 12 carfan, gan wella gallu a hyder o ran arweinyddiaeth. Rydym wedi cyflwyno dwy garfan arall o’n rhaglen flaenllaw ar gyfer datblygu arweinyddiaeth, sef ‘Bridges’ sy’n anelu at helpu cydweithwyr BAME i ddatgloi eu potensial a symud ymlaen i rolau arweinyddiaeth ac rydym wedi lansio rhaglen beilot newydd ‘Reach’ yn cefnogi staff anabl i ddatblygu eu gyrfaoedd.
Yn fwy cyffredinol, mae ein tîm Dysgu a Datblygu wedi ailddylunio ein rhaglen ddysgu gynhwysfawr i’w chyflwyno’n rhithiol sydd, ochr yn ochr â chyflwyno Hyb Dysgu newydd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn golygu ein bod yn darparu sbectrwm eang o ddewisiadau dysgu a datblygu hyblyg sydd ar gael yn rhwydd.
Gwelliannau i’r gwasanaethau
Rydym wedi gwella ein gwasanaethau i bobl drwy:
- sefydlu pwyllgor pobl i ddal ein strategaeth a’n perfformiad pobl yn atebol
- cynyddu ein prosesau adrodd ar ddata pobl er mwyn helpu i gael gwybodaeth a llywio camau gweithredu neu ymyriadau priodol
- cynyddu amrywiaeth ein gweithlu a phiblinellau arweinwyr amrywiol y dyfodol drwy ddarparu pedair carfan rhaglen Bridge ac un carfan rhaglen Reach
- sicrhau bod gennym banelau cyfweld amrywiol a chynrychioladol bob amser – sy’n rhagori ar dargedau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn y maes hwn
- lansio Hyb Dysgu ar-lein Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
- ail-ddylunio ein holl raglenni dysgu a datblygu ar gyfer eu darparu ar-lein
- datblygu a lansio ein strategaeth rheoli talent newydd a’n canllawiau a’n fframwaith sgwrs gyrfaoedd
- creu ein proses gyfweld rithiol a chanllawiau ar gyfer rheolwyr swyddi gwag
Prif Lwyddiannau 2021 i 2021:
Roedd ein sgoriau bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu wedi gostwng 8% yn Arolwg Pobl 2020.
Roedd ein sgôr cynhwysiant a thriniaeth deg wedi gwella 3% yn Arolwg Pobl 2020.
Roedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn dau gategori o Wobrau Symudedd Cymdeithasol y DU 2020: Cafodd y rhaglen recriwtio a chamu ymlaen a Mentor y flwyddyn ac enwebiad ein rhaglen Bridges wobr ‘canmoliaeth uchel’.
Rydym hefyd wedi:
- ymestyn ein Strategaeth Pobl i 2025 sy’n cefnogi ein rhaglen drawsnewid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2025
- cyhoeddi ein Cynllun Gweithredu Cynhwysiant Hiliol i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol
- cyhoeddi ein cynllun gweithredu ymgysylltu corfforaethol 2021 sy’n canolbwyntio ar flaenoriaethau ymgysylltu o Arolwg Pobl 2020 yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
- datblygu a darparu rhaglen gefnogi rheoli newid ar gyfer ein cyfarwyddiaethau gweithredol
- lansio ein Rhwydwaith Ymgynghorwyr ‘Confide’
- cynnal Adolygiad Iechyd Meddwl – bydd camau gweithredu o hyn yn cael eu rhoi ar waith fel rhan o Strategaeth Pobl yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod 2021 i 2022
- gweithio ar y cyd â’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol, yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol, y Bwrdd Parôl a’r Cyfreithiwr Swyddogol a’r Ymddiriedolwr Gwladol i lansio strategaeth dysgu a datblygu i hyrwyddo cysondeb ein hagwedd at ddysgu a datblygu a hefyd i ddarparu cynnig modern a hyblyg i’n pobl
2020
- Cynhwysiant a thriniaeth deg 77%
- Bwlio ac aflonyddu (nifer a ddywedodd eu bod wedi cael profiad ohono) 9%
- Gwahaniaethu 12%
- Fideo gwrth-BHD Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn edrych i ymddygiad annymunol
- Lansiad y Rhwydwaith Ymgynghorydd Cyfaddef
- Adolygu a chynnal dadansoddiad bwlch o ddigwyddiadau cynhwysiant y Gwasanaeth Sifil
2019
- Cynhwysiant a thriniaeth deg 74%
- Bwlio ac aflonyddu (nifer a ddywedodd eu bod wedi cael profiad ohono) 17%
- Gwahaniaethu 20%
- Ymgyrch cyfathrebu cynhwysiant mewnol arobryn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
- Fideo cynhwysiant Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – archwilio beth mae cynhwysiant yn ei olygu i’n gweithwyr
- Grwpiau ffocws cynhwysiant staff
- Darparu sesiynau parchu’ch gilydd
- Dathliad blynyddol o Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol
- Ymgyrch gyfathrebu fewnoli gynyddu datganiad amrywiaeth staff
2018
- Cynhwysiant a thriniaeth deg 69%
- Bwlio ac aflonyddu (nifer a ddywedodd eu bod wedi cael profiad ohono) 17%
- Gwahaniaethu (yr un fath â’r blaenorol) 21%
- Uwchgynadleddau Cynhwysiant Misol yr Is-gyfarwyddwr 2018
- Lansio Ymgynghorwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Datblygu cynllun e-ddysgu ymwybyddiaeth BHD gorfodol
- Lansio proses ganolog i ymchwilio i gwynion BHD
- Dathliad blynyddol o Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol
2017
- Cynhwysiant a thriniaeth deg 71%
- Bwlio ac aflonyddu (nifer a ddywedodd eu bod wedi cael profiad ohono) 19%
- Gwahaniaethu (yr un fath â’r blaenorol) 21%
- Adroddiad ACAS ynglŷn ag ymchwillio i ddigwyddiadau o wahaniaethu, bwlio ac aflonyddu
Cyfathrebu ac ymgysylltu
Ers dechrau’r pandemig, rydyn ni wedi addasu i’r heriau o gyfathrebu’n effeithiol â gweithlu yn y swyddfa ac yn y cartref – gan gyflwyno digwyddiadau ffrwd fyw rheolaidd ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i sicrhau bod gan bawb yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt ac agor fforwm ar gyfer sgwrsio. Ers ei lansio, mae’r digwyddiadau hyn yn cyrraedd dros 700 o’n gweithlu o 1,500 a mwy ac yn derbyn 200 o gwestiynau ar gyfartaledd ym mhob sesiwn. Mae ein Hyb COVID ar y fewnrwyd wedi cael dros 13,639 o ymweliadau ers iddo gael ei greu fel pwynt cyfeirio canolog i staff.
Rydyn ni wedi rhoi ein gwerthoedd wrth galon ein cyfathrebiadau, gan weithio gyda chydweithwyr yn y tîm Dysgu a Datblygu i gyfleu cymorth ar gyfer llesiant meddyliol a chorfforol, gan gynnwys pecynnau llesiant gŵyl banc. Mae data’r arolwg staff wedi dangos gwerth y dull hwn – roedd 88% o’r staff yn teimlo bod rheolwyr yn eu cefnogi ers COVID-19, ac roedd 85% o’r staff yn teimlo’n hyderus bod uwch arweinwyr yn delio ag effaith y pandemig ar yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (ffynhonnell – arolwg pyls Swyddfa’r Cabinet Mehefin 2020).
Rydym wedi cydweithio â chydweithwyr yn y ganolfan gyswllt, y gyfraith, polisi ac eraill i sicrhau bod ein defnyddwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i ganllawiau yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, gan gysylltu â chydweithwyr ar draws y llywodraeth i sicrhau cysondeb negeseuon.
Isod ceir rhestr o rai o’r digwyddiadau i randdeiliaid y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’u cynnal neu wedi’u mynychu.
Digwyddiad allanol
cynrychiolwyr | |
Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr (OFWAT | 30 |
Hackney safeguarding network | 10 |
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymr | 30 |
Adult safeguarding summit | 30 |
Age Cymru | 35 |
Singaporean Public Guardian ymweliad rhithiol | 5 |
Cyllid a Thollau ei Mawrhydi | 50 |
Swyddfa’r Cabinet | 30 |
Safeguarding Adults National Network | 30 |
Together for Health | 400 |
Ein heriau ar gyfer 2020 i 2021 fu’r canlynol:
- ymateb i ganllawiau diweddaraf y llywodraeth yn gyflym
- addasu ein dulliau gweithredu ar gyfer y dirwedd gyfathrebu newydd – o ymgysylltu wyneb yn wyneb i ymgysylltu dros y we
- sicrhau bod ein staff yn cael eu cynnwys, yn cael gwybodaeth ac yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi – gan gynnal ymdeimlad o bwrpas a chyd-ddibyniaeth
Ein prif lwyddiannau ar gyfer 2020 i 2021:
- ein canllawiau ar GOV.UK COVID-19 wedi cael eu gweld dros 146,803 o weithiau ers mis Ebrill 2020
- cynnal ein Gwobrau Pobl ar-lein cyntaf erioed ym mis Medi 2020, gyda dros 360 yn bresennol, a’r nifer fwyaf erioed o enwebiadau gan staff ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
- wedi llwyddo i lansio sianeli newydd, gan gynnwys gwasanaeth hysbysu staff GOV.UK ar gyfer negeseuon brys sy’n ymwneud â COVID-19, a chylchlythyr rhanddeiliaid
Rydym hefyd wedi cael cydnabyddiaeth am ein gwaith, drwy nifer o wobrau gan y diwydiant:
- Gwobrau Cyfathrebu ac Ymgysylltu Mewnol 2020 – Gwobr Tîm Cyfathrebu Mewnol y Flwyddyn CIPR
- Gwobrau Cyfathrebu ac Ymgysylltu Mewnol 2020 – Ymgyrch Cyfathrebu Mewnol Orau (Enillydd Efydd)
- Gwobrau Cyfathrebu Gwasanaethau Cyhoeddus 2020 – categori Amrywiaeth a Chynhwysiant (Enillydd Efydd)
- Gwobrau Cenedlaethol y Sefydliad Cyfathrebu Mewnol 2020 – Cyfathrebu diwylliant gorau (Gwobr Rhagoriaeth)
Eich Llais, Eich Penderfyniad
Cafodd ein hymgyrch gyhoeddus – Eich Llais, Eich Penderfyniad – gefnogaeth gan Swyddfa’r Cabinet i ail-lansio yn ystod Haf 2020 gan ganolbwyntio o’r newydd ar y grwpiau hynny y mae COVID-19 wedi effeithio fwyaf arnynt – y rheini o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a lleiafrifoedd ethnig. Gyda £14,000 gan Swyddfa’r Cabinet, fe wnaethom lansio ymgyrch lwyddiannus i gynyddu dealltwriaeth o atwrneiaethau arhosol ymysg y grwpiau hyn gan ddefnyddio hysbysebion radio wedi’u targedu, cyhoeddiadau gwasanaeth cyhoeddus, hysbysebion Facebook, ac ymgysylltu â phartneriaid. Hyd yma, mae gennym dros 100 o bartneriaid atwrneiaeth arhosol o amrywiaeth o sectorau sy’n gweithio gyda ni i helpu’r rheini sydd leiaf tebygol o fod ag atwrneiaeth arhosol ynghylch budd rhoi eu dyfodol yn nwylo’r rheini y maent yn ymddiried ynddynt.
Bu i ni ganolbwyntio ein gwaith cyfathrebu ar straeon go iawn sydd wedi profi i fod yn berthnasol i grwpiau ein cynulleidfa targed. Gwnaethom hyn drwy amrywiaeth eang o sianeli ac am y tro cyntaf, fe wnaethom gynhyrchu pedair hysbyseb radio yn Gymraeg a Saesneg gyda sgript am fod yn gaeth dan do yn ystod COVID-19 ac am wasanaeth Atwrneiaeth Arhosol a gofalu am blant.
- cafodd tair hysbyseb radio eu darlledu ledled Cymru a Lloegr gan gyrraedd hyd at 700,000 o wrandawyr
- fe wnaethom gynnal pedwar hysbyseb Facebook dros fis ym mis Mawrth 2021 a chael 309,439 o argraffiadau gan droi 1% o draffig i safle’r ymgyrch gan arwain at 93% o ddefnyddwyr newydd
- gwnaethom gynnal cyhoeddiadau gwasanaeth cyhoeddus drwy wasanaeth Llenwi Radio Swyddfa’r Cabinet rhwng mis Mehefin 2020 a mis Mawrth 2021, gan gael dros 5,399 o ddarllediadau dros sianeli masnachol a 4,520 wedi’u lawrlwytho o sianeli cymunedol
Perfformiad ariannol
Rhagolygon incwm
Rydym wedi cynnal ein gallu cadarn i ragweld galw ac incwm dros y flwyddyn ddiwethaf, drwy ein partneriaeth gydweithredol barhaus â Gwasanaethau Dadansoddi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a thimau dadansoddi canolog ym maes Partneriaethau Busnes Cyllid. Oherwydd pandemig COVID-19, roedd yr incwm am y flwyddyn yn amrywio’n sylweddol o’r rhagamcanion cychwynnol, gydag incwm o geisiadau am atwrneiaethau’n dod i mewn 30% yn is na’r disgwyl, ac incwm o wasanaethau dirprwyaeth 5% yn is, oherwydd gostyngiadau yn y galw am wasanaethau. Rydym yn adolygu ac yn diweddaru’r rhagolygon galw ac incwm yn ystod y flwyddyn fel rhan o’r trefniadau misol ar gyfer rheolaeth ariannol a pherfformiad, gan ddefnyddio’r wybodaeth a gafwyd i fodelu effaith debygol y newidiadau i’r amgylchedd mewnol ac allanol.
Perfformiad ariannol
Mae’r adran hon yn darparu sylwebaeth i gefnogi’r Datblygiadau Ariannol a’n perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae Nodyn 2 i’r Datganiadau Ariannol yn nodi’r Ffioedd a’r Taliadau ar gyfer yr incwm isod, ac mae nodiadau 3-5 yn cynnwys mwy o fanylion ynghylch y gwariant ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Isod ceir y balansau allweddol ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn 2020 i 2021.
76.7%
Adennill costau, 24.0% o ostyngiad
Incwm Atwrneiaethau
Cafodd pandemig COVID-19 effaith sylweddol ar nifer y ceisiadau am atwrneiaethau a dderbyniwyd pan oedd y cyfyngiadau symud a’r mesurau cadw pellter cymdeithasol eraill ar waith
£51.4m, gostyngiad o 24.6%
Incwm goruchwylio
Roedd cynnydd sydyn yn nifer yr achosion a ddaeth i ben yn cyd-daro â thon gyntaf y pandemig, ac roedd y niferoedd cyffredinol wedi gostwng 2% yn unig ar ddiwedd y flwyddyn o’i gymharu â 2019 i 2020
£10.6m, 0.2% o gynnydd
Costau staff
Tâl o £1,965k mewn perthynas ag atebolrwydd treth IR35 oedd y ffactor mwyaf arwyddocaol o ran cynyddu costau staff
£51.2m, 6% o gynnydd
Adroddiadau ymwelwyr proffesiynol
Cafodd y mesurau cadw pellter cymdeithasol effaith ar nifer yr ymweliadau wedi’u targedu a wnaed
£1.7m, 40% o ostyngiad
Postio
Y gyrrwr allweddol ar gyfer costau postio yw nifer y ceisiadau am atwrneiaethau a dderbyniwyd ac, o’r herwydd, maent wedi gostwng yn unol â hynny
£2.9m, 21.8% o ostyngiad
Yn 2020 i 2021 llwyddodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i adennill 76.7% o’i chostau, gan gofnodi diffyg o £18.9m. Gyrrwyd hyn yn bennaf gan ostyngiad o 25% yn nifer y ceisiadau newydd am atwrneiaethau a dderbyniwyd, yn enwedig pan oedd y cyfyngiadau symud a’r mesurau cadw pellter cymdeithasol eraill ar waith. Y galw i gofrestru atwrneiaethau yw un o’r prif sbardunau ar gyfer perfformiad ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Dyma’r flwyddyn gyntaf i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fethu ag adennill costau’n llawn.
Nick Goodwin
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
13 Gorffennaf 2021
Adroddiad cynaliadwyedd
Rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith ar y byd naturiol ac i gefnogi ein cymunedau. I wneud hyn, rydym yn mesur ein heffaith ar y byd ac yn gweithio i leihau ein defnydd o adnoddau cyfyngedig, allyriadau nwyon tŷ gwydr a theithio diangen.
Casglu data a chwmpas adroddiadau
Rydym yn adrodd ar y cyfleustodau a ddefnyddiwyd, teithiau a’r gwastraff a gynhyrchwyd. Mesurir y rhain yn erbyn y blynyddoedd blaenorol ac ar y cyd â thargedau Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth . Daeth y targedau GGC i ben yn 2014 i 15 ond fe’u diwygiwyd ym mis Mawrth 2018, felly rydym nawr yn adrodd yn erbyn yr ymrwymiadau newydd hyn, ac mae gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder dargedau penodol ar eu cyfer.
Mae ein data yn cael ei gymryd yn uniongyrchol o fesuryddion cyfleustodau, cyflenwyr a chontractwyr gwaredu gwastraff. Os ydym yn rhannu adeiladau a chyflenwad cyfleustodau, rydym yn seilio ein ffigurau defnydd ar y gofod a ddefnyddir.
Nid oes gennym gerbydau fflyd, ac mae milltiroedd cerbydau personol (fflyd lwyd) a ddefnyddir ar gyfer teithiau busnes yn cael eu nodi yn yr hawliadau am dreuliau.
Dim ond defnydd o bapur y swyddfa gefn y mae’n rhaid i ni adrodd amdano; fodd bynnag, rydym yn defnyddio llawer iawn o bapur wrth ddarparu pecynnau atwrneiaeth arhosol i gwsmeriaid, felly rydym yn adrodd ar y rhain hefyd. Mae gwasanaeth argraffu allanol newydd wedi cael ei gyflwyno sydd wedi disodli argraffu yn y swyddfa. Mae’r ffigurau ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u cynnwys yn yr adroddiadau ar ddefnydd papur.
Ar ddiwedd y flwyddyn mae ein data yn cael ei grynhoi yn adroddiad blynyddol a chyfrifon adrannau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Effaith COVID-19
Mae effaith COVID-19, gyda’r rhan fwyaf o staff yn gweithio gartref, wedi newid y ffigurau gwastraff, dŵr a theithio yn sylweddol. Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cyrraedd y targedau ar gyfer eleni, fodd bynnag, ni ddylid defnyddio’r rhain ar gyfer meincnodi yn y dyfodol oherwydd natur ddigynsail y flwyddyn.
Gwybodaeth am ein hystadau
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn defnyddio ystadau yn Birmingham a Nottingham. Ffigurau blwyddyn 2017 i 18 sydd wedi gosod y waelodlin - byddwn yn defnyddio’r rhain i fesur blynyddoedd y dyfodol yn eu herbyn yn fewnol, ar ôl blynyddoedd lawer o ehangu a newid.
Nid yw tîm o bump yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Petty France wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn gan fod ffigurau’r safle hwn yn cael eu hadrodd yn uniongyrchol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Ein targedau
Mae targedau Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth a pherfformiad yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’w gweld yn y tablau isod.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, nid yw’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cyrraedd y targed papur oherwydd y cynnydd parhaus yn y llwyth gwaith a nifer y staff ers y blynyddoedd gwaelodlin. Trafodir y meysydd hyn yn fanwl isod.
Serch hynny, rydym wedi cyflawni’r targedau ar gyfer allyriadau carbon deuocsid a faint o wastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.
Ni chofnodwyd unrhyw hediadau domestig.
Sylwch, wrth gymharu’r tablau isod â’r blynyddoedd blaenorol y dylid ystyried newidiadau i’r blynyddoedd gwaelodlin.
Ymrwymiad Gwyrdd y Llywodraeth | Targed y Weinyddiaeth Gyfiawnder hyd at 2020 | Ein sefyllfa ar 31 Mawrth 2021 |
Canlyniad |
Allyriadau nwyon tŷ gwydr | 38% o ostyngiad o’i gymharu â 2009 o 2010 | 70% o ostyngiad | Wedi’i fodloni |
Hediadau domestig | Gostyngiad o 30% mewn hediadau domestig o’i gymharu â 2009 i 2010 | Ni wnaed unrhyw deithiau hedfan domestig | Amh. |
Gwastraff | Gostyngiad o 31% yn y cyfanswm gwastraff o’i gymharu â 2015 i 2016 | 21% o ostyngiad | |
<10% i safle tirlenwi | 0% | Wedi’i fodloni | |
Cynyddu ailgylchu a rhagori ar lefelau 2015 i 2016 (59%) | 100% | Wedi’i fodloni | |
Dŵr | Gostyngiad o 4% o’i gymharu â 2014 i 2015 | Ni nodwyd darlleniadau defnydd dŵr oherwydd COVID-19. Cyfeiriwch at Dŵr | |
Papur | Gostyngiad o 50% o’i gymharu â 2009 i 2010 | 160% o gynnydd mewn termau absoliwt, gostyngiad o 70% mewn defnydd fesul achos | Ddim wedi’i fodloni |
Dangosir ffigurau cyfanswm defnydd ac allyriadau, ynghyd â gwariant, os yw ar gael, isod
Ffynonellau CO2 | Swm | Tunelli CO2e | Gwariant |
Nwy (cwmpas 1) | 570,000 kWhr | 99 | £17,600 |
Trydan (cwmpas 2) | 807,000 kWhr | 187.5 | £172,600 |
Teithio (cwmpas 3) | |||
Rheilffordd (gan gynnwys y London Underground) | 6,575km | 0.247 | £2,200 |
Fflyd lwyd (ceir) | 4,534km | 0.76 | £1,600 |
Awyr | Amh | Amh | Amh |
Adnoddau Cyfyngedig | Swm | Gwariant | |
Gwastraff | Cyfanswm | 41.8 unnell | |
Wedi’i ailgylchu | 70% | ||
Ynni o wastraff | 30% | Anhysbys fel rhan o’r tâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau | |
Dŵr | Ni nodwyd darlleniadau defnydd dŵr oherwydd COVID-19. Cyfeiriwch at Dŵr | Anhysbys fel rhan o’r tâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau | |
Papur | 9,420 rîm (swyddfa gefn) 23,000 rîm allanol 7,040 fel pecynnau Atwrneiaeth Arhosol |
£25,000 |
Gwastraff
Nid oes gennym gontractau gwaredu gwastraff tirlenwi yn ein swyddfeydd yn Birmingham a Nottingham, felly cafodd ein holl wastraff ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio drwy ei drosi yn olew tanwydd. Cafodd ein holl wastraff papur a chardfwrdd ei ailgylchu mewn dolen gaeedig.
Mae’n anodd mesur cyfanswm ein gwastraff a gynhyrchwyd yn erbyn blynyddoedd blaenorol, gan fod y mwyafrif helaeth o staff yn gweithio gartref oherwydd cyfyngiadau COVID-19, felly roedd llawer llai o wastraff yn cael ei gynhyrchu yn y swyddfa, er enghraifft, gwastraff bwyd.
Yn ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2019 i 2020, rhagwelwyd y byddai effeithiau ffrydiau gwastraff wedi’u gwahanu ym mhob un o’n swyddfeydd yn cael eu hadrodd eleni. Unwaith eto, oherwydd cyfyngiadau COVID-19, nid yw’r ffigurau hyn yn ddilys o’u cymharu â 2019 i 2020. Rhagwelir y bydd 2021 i 2022 yn darparu data cadarn ar gyfer adrodd.
Dŵr
Pennwyd y targedau blaenorol ar gyfer defnyddio dŵr ar sail fesul-FTE. Mae’r targedau newydd ar gyfer gostyngiad absoliwt. O ganlyniad i gynnydd parhaus yn nifer y staff ers 2014 i 2015, mae ein defnydd o ddŵr wedi cynyddu 60% i fis Mawrth 2020, gan fethu’r targed. Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, nid yw darlleniadau mesuryddion dŵr yn gofnod ystyrlon o’r defnydd o ddŵr gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gan fod ein hadeiladau yn cynnwys rhannu deiliadaeth ac wedi cael eu defnyddio ar wahanol gyfraddau am wahanol gyfnodau gyda dim ond un prif fesurydd. Mae hyn wedi ei gwneud yn amhosibl amcangyfrif faint o ddŵr mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei ddefnyddio.
Mae mecanweithiau llenwi a fflysio hen ffasiwn ac annibynadwy ar doiledau wedi cael eu hadnewyddu ym mis Mawrth 2021, a bydd hyn yn gwella’r defnydd o ddŵr yn y dyfodol.
Defnyddio papur
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi methu’r targed o ostyngiad o 50% yn y defnydd o bapur swyddfa gefn, oherwydd twf y busnes yn y cyfnod adrodd a mesur. Daeth 2020 i 2021 i ben gyda chynnydd o 185% yn y defnydd o linell sylfaen 2009/10. Roedd gostyngiad o 4% yn y defnydd o bapur yn ystod 2019 i 2020, yn bennaf oherwydd bod COVID-19 wedi lleihau nifer y ceisiadau am atwrneiaeth arhosol a dderbyniwyd. Fodd bynnag, mae gwell effeithlonrwydd yn y systemau argraffu allanol a mwy o ddefnydd o e-bost, ffôn a llwybrau cyswllt digidol eraill wedi cael eu defnyddio hefyd.
Teithio
Yn 2020 i 2021, cafodd teithio ei ddileu bron yn llwyr gan gyfyngiadau COVID-19. Cafodd cyfanswm o 6,500 o gilometrau eu teithio ar y trên a 4,000 mewn car preifat, llai na 1% o ffigurau’r flwyddyn flaenorol.
Roedd cyfyngiadau’n ei gwneud yn anodd i ymwelwyr y Llys Gwarchod oruchwylio dirprwyon drwy gynnal ymweliadau wyneb yn wyneb, mewn llawer o achosion roedd y rhain Adnoddau Cyfyngedigyn cael eu cynnal yn rhithiol. I bob pwrpas ni fu dim teithio rhwng swyddfeydd, a lle bu angen, cafodd ei wneud mewn car preifat i sicrhau diogelwch y staff.
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi ystyried llawer o’r gwersi a ddysgwyd a’r dewisiadau eraill a ddarperir gan adnoddau cyfarfodydd rhithiol, a rhagwelir y bydd llawer iawn o deithio’n cael ei ddileu’n barhaol yn y blynyddoedd i ddod, a’i ddisodli gan ddulliau ar-lein. Rhagwelir y bydd offer cyfarfod rhithwir pwrpasol yn cael eu darparu yn safle newydd Birmingham.
Rydym yn gweithio’n agos gyda chynghorau lleol a gweithredwyr trafnidiaeth i alluogi staff i fanteisio ar docynnau bws am bris is yn ogystal â chyfleusterau parcio a theithio rhatach. Mae’r cynllun beicio i’r gwaith yn cael ei hyrwyddo’n helaeth ac mae cyfleusterau newid a storfa ddiogel i feiciau’n cael eu darparu. Mae opsiynau teithio llesol hefyd yn cael eu hyrwyddo fel rhan o agenda lles Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus er mwyn hyrwyddo ymarfer corff a ffyrdd iach o fyw.
Cyfleustodau Eraill
Nid yw’r defnydd o gyfleustodau wedi gostwng cymaint â’r disgwyl, o ystyried bod 70% neu fwy o staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi gweithio gartref am y rhan fwyaf o 2020/21. Y rheswm am hyn yw bod gweithgareddau busnes hanfodol yn cael eu cynnal ar y ddau brif safle, a bod costau gwresogi a goleuo mawr yn aros boed ar gyfer un person neu 1,600. Bu gostyngiad bach yn y defnydd o drydan o 17% (gostyngiad o 24% mewn allyriadau CO2 o ganlyniad i wneud y grid yn fwy gwyrdd) yn 2019/20 o ganlyniad i gau lloriau ac adrannau nad ydynt yn cael eu defnyddio, a llai o ddefnydd pŵer gan liniaduron ar y safle.
Dim ond ein swyddfa yn Birmingham sy’n defnyddio nwy. Oherwydd problemau cofnodi mesuryddion, amcangyfrifir bod y defnydd o nwy yr un fath â 2019/20, sef tua 570,000.
Cwblhawyd prosiect i ddisodli’r holl hen oleuadau tiwb fflworoleuol yn Embankment House ym mis Mawrth 2021, a fydd yn lleihau 3% ar drydan a CO2 Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus bob blwyddyn gydag amser ad-dalu o 4.5 mlynedd.
Gwreiddio cynaliadwyedd yn ein dyfodol
Fe wnaeth COVID-19 gyflymu llawer o newidiadau i wella hyblygrwydd o ran sut rydym yn gweithio. Roedd gallu’r rhan fwyaf o’r staff, gan gynnwys y rhai sy’n delio â galwadau ffôn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i weithio gartref yn golygu mwy o hyblygrwydd o ran patrymau gweithio, llai o alw am ofod swyddfa, llai o gymudo a gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Er y bydd y rhan fwyaf o’r staff yn dychwelyd i’r swyddfa, rhagwelir y bydd y mwyafrif yn treulio rhywfaint o amser yn gweithio gartref neu mewn hybiau.
Mae’r anallu i deithio rhwng swyddfeydd wedi dangos effeithiolrwydd adnoddau cydweithio o bell a rhith-gyfarfodydd ar gyfer y rhan fwyaf o achosion. Er y bydd angen bob amser am gyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ymweliadau ar draws y safle, dylai fod gostyngiad sylweddol yn yr angen am deithio rhwng swyddfeydd.
Ni chynhaliwyd unrhyw ddigwyddiadau wyneb yn wyneb eleni. Fodd bynnag, cafodd negeseuon a chyfathrebiadau eu cynnal, ac mae gwersi a ddysgwyd o ddigwyddiadau allanol yn golygu y bydd gan ddigwyddiadau yn y dyfodol agwedd rithiol, sy’n caniatáu i hyd yn oed mwy o staff ymuno neu ddal i fyny ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw.
Nick Goodwin
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
13 Gorffennaf 2021
Adroddiad Atebolrwydd
Adroddiad llywodraethu corfforaethol
Cyflwyniad
Diben yr adroddiad llywodraethu corfforaethol yw egluro cyfansoddiad a threfniadaeth strwythurau llywodraethu’r corff a sut maen nhw’n helpu i gyflawni amcanion y corff.
Mae ein dogfen fframwaith yn nodi’r trefniadau ar gyfer llywodraethu, atebolrwydd, cyllido, staffio a gweithrediadau.
Fel prif weithredwr a swyddog cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwy’n gyfrifol am ddefnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o adnoddau wrth iddi gyflawni ei swyddogaethau fel y nodir yn y ddogfen fframwaith. Mae ‘Managing Public Money’, fel y’i cyhoeddir gan Drysorlys EM, hefyd yn nodi cyfrifoldebau swyddog cyfrifyddu.
Fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwyf yn gyfrifol yn bersonol am: amddiffyn y cronfeydd cyhoeddus rwyf yn gyfrifol amdanynt, sicrhau priodoldeb a chysondeb wrth ymdrin â chronfeydd cyhoeddus, a gweithrediadau a rheolaeth y Swyddfa o ddydd i ddydd. Ar ben hynny, mae’n rhaid i mi sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyffredinol yn cael ei rhedeg yn unol â’r safonau, a hynny mewn perthynas â llywodraethu, gwneud penderfyniadau a rheoli arian.
Mae fy adroddiad yn amlinellu’r trefniadau llywodraethu sydd ar waith i reoli’r risgiau o beidio â chyflawni’r amcanion a’r targedau mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cytuno arnynt. Mae hefyd yn darparu trosolwg a rheolaeth effeithiol dros adnoddau ac asedau’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’n cynnwys y canlynol:
- adroddiad y cyfarwyddwr
- datganiad o gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu
- datganiad llywodraethu
Adroddiad y Cyfarwyddwr
Cyflwyniad
Isod mae strwythur bwrdd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, y pwyllgor archwilio a risg , a’r tîm gweithredol. Maen nhw’n gyfrifol am osod cyfeiriad strategol yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ogystal â monitro perfformiad yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt.
Datganiad o fuddiannau’r cyfarwyddwyr
Mae gofyn i gyfarwyddwyr anweithredol ddatgan unrhyw gyfarwyddiaethau a gwrthdaro buddiannau adeg eu penodi i’r swydd. Mae gofyn hefyd i bob aelod o’r bwrdd ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau cyn dechrau pob cyfarfod.
Roedd pedwar datganiad o ddiddordeb o 1 Ebrill 2020-31 Mawrth 2021:
- Shrin Honap: gwnaeth ddatganiad ym Mwrdd yr wyllgor archwilio a risg ar 1 Ebrill 2020 – penodwyd fel Cyfarwyddwr Anweithredol yn y Storfa Gwastraff Lefel Isel Cyf
- Shrin Honap: gwnaed datganiad gan Fwrdd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 5 Ionawr 2021 – penodwyd i’r Panel Penderfynu ar Bensiynau o 1 Ionawr 2021 (swyddogaeth anghenion nad yw’n rôl Cyfarwyddwr Anweithredol)
- Alison Sansome: gwnaed datganiad ar 1 Medi 2020 Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus– bellach yn aelod o Banel Dyfarnu’r Cod ar gyfer yr Awdurdod Gwasanaethau Talu dros y Ffôn
- Anne Fletcher: gwnaed datganiad ar 19 Ionawr 2021 yn y pwyllgor archwilio a risg – penodwyd i’r Panel Penderfynu ar Bensiynau
Digwyddiadau yn ymwneud â data personol
Ystyriwyd a oedd unrhyw ddigwyddiad yn cynnwys data personol mor ddifrifol fel bod angen rhoi gwybod i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth amdano. Ni chafwyd unrhyw ddigwyddiadau.
Mae’r datganiad llywodraethu yn rhoi ystyriaeth bellach i arferion sicrhau gwybodaeth a diogelwch data yn yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Iechyd a diogelwch
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ei chyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a lles ei chyflogeion a’r holl bobl sy’n defnyddio ei safleoedd.
Mae aelodaeth Bwrdd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynnwys y canlynol:
Gwarcheidwad Cyhoeddus/Prif Weithredwr (cadeirydd), Nick Goodwin
Pump o uwch weision sifil yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Julie Lindsay
Jan Sensier (ar secondiad o fis Mawrth 2020 i gefnogi’r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol gyda’r ymateb i COVID-19)
Chris Jones (Dirprwy Gyfarwyddwr dros dro o fis Ebrill 2020 ymlaen)
Sunil Teeluck (ar secondiad rhwng mis Awst 2020 a 3 Mai 2021)
Stuart Howard (Dirprwy Gyfarwyddwr Interim o fis Awst 2020. Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro o 3 Mai 2021)
Pump cyfarwyddwr anweithredol
Alison Sansome
Shirnivas Honap
Karin Woodley
Anne Fletcher (daeth y penodiad i ben ar 31 Ionawr 2021)
Dr Jackie Craissati (penodwyd o 1 Chwefror 2021)
Cynrychiolydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Abigail Plenty/Laura Beaumount (rhannu swydd)
Cynrychiolydd cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Paul Henson
Georgia Bottomley
Datganiad o gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu
Dan Adran (7)2 o Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000, mae Trysorlys EM wedi cyfarwyddo Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i baratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar y ffurf a’r sail a nodwyd yn y Cyfarwyddyd Cyfrifyddu. Caiff y cyfrifon eu paratoi ar sail croniadau ac mae’n rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’i hincwm a gwariant, Datganiad o Sefyllfa Ariannol, newidiadau yn ecwiti trethdalwyr a llif arian ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Wrth baratoi’r cyfrifon, mae gofyn i’r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth ac yn benodol:
-
glynu wrth y Cyfarwyddyd Cyfrifyddu a gyhoeddir gan Drysorlys EM, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu priodol yn gyson
-
gwneud penderfyniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol
-
datgan a yw’r safonau cyfrifyddu perthnasol sydd wedi’u nodi yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth wedi cael eu dilyn, a datgelu ac esbonio unrhyw wyriadau o bwys yn y datganiadau ariannol
-
paratoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes byw
-
cadarnhau bod yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol dros yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon a’r dyfarniadau sy’n ofynnol er mwyn penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy
Mae Prif Swyddog Cyfrifyddu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dynodi’r prif weithredwr fel swyddog cyfrifyddu’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae cyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu, gan gynnwys cyfrifoldeb dros briodoldeb a chysondeb y cyllid cyhoeddus y mae’r swyddog cyfrifyddu yn atebol amdanynt, cadw cofnodion cywir ac amddiffyn asedau’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, wedi’u nodi yn Rheoli Arian Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM. Fel y swyddog cyfrifyddu, rwy’n cadarnhau fy mod:
- wedi cymryd yr holl gamau y dylwn fod wedi’u cymryd i sicrhau fy mod yn ymwybodol o’r wybodaeth archwilio berthnasol
- ac i sicrhau bod archwilwyr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymwybodol o’r wybodaeth honno
Nid oes gwybodaeth archwilio berthnasol nad yw’r archwilwyr yn ymwybodol ohoni, hyd y gwn i.
Nick Goodwin
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
13 Gorffennaf 2021
Datganiad llywodraethu
Mae’r datganiad hwn yn esbonio sut rwyf i, fel Swyddog Cyfrifyddu, wedi cyflawni fy nghyfrifoldeb o reoli adnoddau’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod y flwyddyn. Es i ar secondiad rhwng 31 Awst a 2 Tachwedd 2020 i gefnogi ymateb GLITEM i COVID-19, gan adael Julie Lindsay fel Prif Weithredwr dros dro tra hefyd yn parhau â’i rôl fel Prif Swyddog Gweithredu ar yr un pryd.
Roedd cyfrifoldebau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn aros gyda mi. Mae’r datganiad hwn yn disgrifio trefniadau llywodraethu’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac yn cyflwyno asesiad o’r modd rwyf wedi mynd ati i gydbwyso risg, sicrwydd a rheolaeth drwy gydol 2020 i 2021.
Cyflwyniad
Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw prif swyddog cyfrifyddu’r adran. Mae cyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu wedi’u nodi ym mhennod 3 Rheoli Arian Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM. Mae’r prif swyddog cyfrifyddu wedi fy nynodi fel swyddog cyfrifyddu ar gyfer gwariant gweinyddol yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ac mae wedi diffinio fy nghyfrifoldebau a’r berthynas rhwng swyddog cyfrifyddu a phrif swyddog cyfrifyddu’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn swydd-ddeiliad statudol a benodir gan yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder dan Adran 57 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Caiff y rôl statudol hon ei chyfuno gyda rôl weinyddol prif weithredwr yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r swyddog cyfrifyddu ar gyfer yr asiantaeth, fel y nodir yn nogfen fframwaith y Weinyddiaeth Gyfiawnder/Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’i sicrhau bod y prosesau a’r rheolaethau ar gyfer gweithgareddau pob maes busnes yn gadarn ac yn effeithiol ac y gellir dangos tystiolaeth ohonynt. Yn benodol, mae wedi monitro materion ariannol, risg a pherfformiad yr asiantaeth yn rheolaidd, gan roi cyfleoedd ar waith i wella gwasanaeth i gwsmeriaid. Arhosodd aelodaeth y Bwrdd yr un fath, a gall hefyd ddarparu sicrwydd ar gyfer y cyfnod hwn hefyd. Ni fu unrhyw ymadawiadau ac mae ein fframwaith llywodraethu yn ystyried y cod ymarfer.
Fframwaith llywodraethu
Mae effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu, rheolaeth risg a system rheoli mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’u nodi yn y ddatganiad llywodraethu hwn. Mae’r Fframwaith Llywodraethu hwn wedi cael ei adolygu yn ystod y flwyddyn yn erbyn y codau perthnasol fel Llywodraethu Corfforaethol yn Adrannau Llywodraeth Ganolog: Cod Ymarfer Gorau i sicrhau ei fod yn addas i’r diben. I atgyfnerthu pwysigrwydd hyn yn yr asiantaeth, mae’r weithrediaeth sy’n gyfrifol am lywodraethu corfforaethol wedi ymgymryd â Diploma CIPFA mewn Llywodraethu Corfforaethol yn ystod 2020 i 2021.
Mae’r datganiad yn cynnwys yr asesiad gofynnol o gydymffurfiaeth â Chod Llywodraethu Corfforaethol y Trysorlys. Er bod y cod yn canolbwyntio ar adrannau gweinidogol, lle bo’n berthnasol, mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymhwyso’r egwyddorion y mae’n ystyried eu bod yn gymesur â’i faint, ei statws a’i fframwaith cyfreithiol.
Fframwaith llywodraethu’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Mae strwythurau’r bwrdd a’r pwyllgorau ar hyn o bryd yn cael eu dangos yn y diagram isod.
Beth mae’r bwrdd yn ei wneud
Yn 2020 i 2021, mi wnaeth y bwrdd arwain Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn strategol ac yn weithredol. Bu hefyd yn craffu ac yn herio materion a oedd yn effeithio ar ein perfformiad a’n polisïau. Mae gan y bwrdd wyth prif faes o gyfrifoldeb:
-
diogelu a gwella enw da Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus drwy lywio a goruchwylio cyfeiriad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ran cyflawni ei nodau a’i amcanion
-
gweithredu o fewn dogfen fframwaith y Weinyddiaeth Gyfiawnder/Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus y cytunwyd arni gyda’r gweinidog a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol perthnasol. Mae ei aelodau’n gwneud penderfyniadau ar y cyd ac nid fel cynrychiolwyr y meysydd busnes y maen nhw’n eu harwain
-
darparu cyfeiriad strategol, cytuno ar gynlluniau, nodau ac amcanion busnes, tra’n gosod targedau ar gyfer y sefydliad ac ar gyfer cyflawni’r weledigaeth
-
monitor ein perfformiad, cyfathrebu â staff ynglŷn â gwerthoedd ac ymddygiad, tra’n goruchwylio gweithrediadau ac yn rheoli risg
-
cymeradwyo neilltuo’r gyllideb flynyddol ac unrhyw newidiadau sylweddol iddi yn ystod y flwyddyn t
-
cefnogi’r gwaith o gynnal perthnasoedd gweithio cadarn rhwng einstaff a sefydliadau partner
-
cymeradwyo ein fframwaith a’n rheoliadau corfforaethol a monitor eu gweithrediad yn chwarterol
-
sicrhau bod cynllunio, perfformiad a rheolaeth ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu gwneud yn effeithiol ac yn effeithlon ac yn agored a thryloyw. Cyfrannau at ddatblygiad ein cynllun busnes blynyddol a’i gymeradwyo
Y tîm rheoli gweithredol
Yn ogystal â derbyn papurau cyllid, perfformiad a risg ym mhob cyfarfod, mae’r bwrdd:
-
adolygu a dwyn i gyfrif yn rheolaidd y rheini yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus drwy drefniadau arweinyddiaeth swyddogaethol i ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd gyflawni blaenoriaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
-
mae’r bwrdd yn derbyn gwybodaeth ariannol, perfformiad a risg yn rheolaidd ac maen nhw’n rhydd i ofyn am ragor o wybodaeth os oes ei hangen arnyn nhw. Mae’ bwrdd yn derbyn y data oherwydd bod fforymau eraill fel y pwyllgor archwilio a risg yno i sicrhau bod y data sy’n cyrraedd y bwrdd yn gywir ac yn adlewyrchiad teg o’r sefyllfa yn yr asiantaeth
-
parhau i ddarparu cyfeiriad strategol ar gyfer rhaglen waith Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2025 er mwyn gweithio i sicrhau dealltwriaeth glir drwy’r asiantaeth o’r prif flaenoriaethau i’w cyflawni
-
darparu’r penderfyniadaustrategol angenrheidiol i sicrhau bod cyllid yr asiantaeth yn aros o fewn y gyllideb yn enwedigffioedd
-
darparu cyfeiriad strategol ar gynlluniau sydd ar waith o ran sut mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gweithredu yn ystod y cyfyngiadau symud, rheoli dogfennau, symud safle adeiladu, a moderneiddio Atwrneiaeth Arhosol
-
ailbenodwyd Alison Sansome, aelod anweithredol o’r bwrdd am dair blynedd arall i ychwanegu parhad a sefydlogrwydd i’r bwrdd a’r pwyllgortrawsnewid
Roedd bwriad i gynnal adolygiad allanol o effeithiolrwydd y bwrdd wedi’i gynllunio yn 2020 i 2021 ond cafodd hyn ei ohirio oherwydd pandemig COVID-19 – ailedrychir ar hyn yn 2021 i 2022. Ar ddiwedd cyfarfodydd y bwrdd mae’r bwrdd yn pwyso a mesur effeithiolrwydd y cyfarfodydd ac yn gweithio gyda’r ysgrifenyddiaeth i roi unrhyw welliannau ar waith i gyfarfodydd, agendâu neu bapurau.
Ein his-bwyllgorau a’r pwyllgor ymgynghori annibynnol
Mae gan y bwrdd ddau is-bwyllgor; y cyfarfod rheoli gweithredol a’r pwyllgor trawsnewid. Mae pwyllgor archwilio a risg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn bwyllgor ymgynghori annibynnol i’rbwrdd. Mae’r bwrdd yn dirprwyo gwaith i’rpwyllgorau/gweithrediaethaufel bod grwpiau bach yn gallu archwilio materion mewn rhagor o fanylder. Yna, mae’r pwyllgorau’n cyflwyno eu canfyddiadau i’r bwrdd er mwyn cael trafodaeth a dod i gasgliad (gan ddilyn “Cod Arfer Da Llywodraethu Corfforaethol mewn adrannau llywodraeth ganolog”).
Cyfarfod rheoli gweithredol | Y Pwyllgor Trawsnewid | Y Pwyllgor Archwilio a Risg | |
Rolau a chyfrifoldebau | Canolbwyntio’n bennaf ar gyflawni busnes gweithredol yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ddydd i ddydd, gan gynnwys: cyllid, perfformiad risg, gweithlu, newid/cynllunio, cwynion, HE (rheoli presenoldeb, recriwtio), arweinyddiaeth o ran cyflawni busnes, ymgysylltu â chyflogeion a dathlu llwyddiant. | Dod â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd o bob rhan o’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a, phartneriaid i sicrhau bod y portffolio o raglenni newid yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei gyflawni Mae gan y Pwyllgor Trawsnewid strwythur llywodraethu dirprwyedig oddi tano er mwyn sicrhau bod y portffolio o brosiec-tau’n cael ei gyflawni. |
Rheolaeth a chynghori ar sut y gellir hwyluso gwelliannau a phenderfynu ar gynnydd o ran ymatebion rheolwyr i risgiau a nodwyd. Cytuno bod polisïau cyfrifyddu yn gywir ac yn cael eu cymhwyso’n briodol i drafodion y sefydliad. Darparu argymhellion i’r swyddog cyfrifyddu ar bob mater y mae’r pwyllgor yn ei ystyried yn briodol. |
Cadeirydd | Nick Goodwin, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr | Chris Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Interim, Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol | Shrinivas Honap, Cyfarwyddwr Anweithredol o’r Bwrdd |
Cyfarfod rheoli gweithredol | **Y Pwyllgor Trawsnewid ** | Y Pwyllgor Archwilio a Risg | |
Prif lwyddiannau a chyflawniadau | Rheoli perfformiad, cyllid a risg o ddydd i ddydd Cynrychioli SGC mewn digwyddiadau allanol (drwy MS Teams) Cynllun Busnes SGC wedi’i gymeradwyo gan Nick Goodwin, Mike Driver, yr Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidogion cyn iddo gael ei gyhoeddi ym mis Hydref 2020 Cynnal diwrnod cwrdd i ffwrdd i adolygu effeithiolrwydd y bwrdd, a hwyluswyd yn annibynnol Fframwaith gweithredu cymeradwy’r SGC yn dod i rym o fis Ebrill 2020 Siarter EMM y cytunwyd arni yn unol â gwerthoedd yr SGC Hydref 2020 Ymgyrch Eich Llais – Ionawr 2020 |
Dirprwyo cyfrifoldeb dros gyflawni’r portffolio o Fwrdd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus Sicrhau bod y fframwaith a’r strategaeth ar gyfer gweledigaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2025 ar y trywydd iawn Sicrhau bod y portffolio o brosiectau o fewn SGC yn cael ei gyflawni Rheoli dogfennau Symud safle adeiladu |
Parhau i roi sicrwydd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus mewn materion sy’n ymwneud â rheoli’r fframwaith risg cyfan a risgiau unigol penodol a’r camau lliniaru sy’n deillio ohonynt Sicrhau bod y rhaglen archwilio flynyddol yn cael ei chyflawni mewn ffordd gost-effeithiol gan sicrhau bod yr holl feysydd risg sylweddol yn cael eu hadolygu gan archwilwyr mewnol ac allanol Cytundebau ar sut y byddai risgiau gwrth-dwyll yn cael eu nodi a’u monitro Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon SGC 2019 i 2020 Derbyn Aelod Annibynnol newydd o 1 Chwefror 2021 – Jackie Craissati a gymerodd le Anne Fletcher y daeth ei phenodiad chwe blynedd i ben ar 31 Ionawr 2021 |
Bwrdd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus | Rheoli gweithredol | Y Pwyllgor Archwilio a Risg | Y Pwyllgor Trawsnewid | |||||
Nifer y cyfarfodydd a fynychwyd | Nifer y cyfarfodydd cymwys | Nifer y cyfarfodydd a fynychwyd | Nifer y cyfarfodydd cymwys | Nifer y cyfarfodydd a fynychwyd | Nifer y cyfarfodydd cymwys | Nifer y cyfarfodydd a fynychwyd | Nifer y cyfarfodydd cymwys | |
Nick Goodwin – Prif Swyddog Gweithredol a Gwarcheidwad Cyhoeddus | 8 | 12 | 7 | 12 | 3 | 4 | 7 | 12 |
Sunil Teeluck Head - Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfreithiol a Gwybodaeth (hyd at fis Gorffennaf 2020) | 4 | 4 | 3 | 4 | 1 | 2 | 3 | 4 |
Stuart Howard - Dirprwy Gyfarwyddwr Interim, Cyfreithiol a Gwybodaeth (Awst 2020) | 8 | 8 | 6 | 8 | 2 | 2 | 8 | 8 |
Julie Lindsay – Prif Swyddog Gweithredu | 12 | 12 | 12 | 12 | 1 | 1 | 11 | 12 |
Chris Jones - Dirprwy Gyfarwyddwr Interim, Strate-gaeth a Gwasanaethau Corfforaethol (Ebrill 2020) | 11 | 12 | 10 | 12 | 4 | 4 | 10 | 12 |
Paul Henson Dirprwy Gyfarwyddwr – Cyllid (hyd at fis Tachwedd 2020) | 6 | 7 | - | - | 3 | 3 | ||
Georgia Bottomley – Dirprwy Gyfarwyddwr Part-neriaethau Busnes Cyllid (Hydref 2020) | 6 | 6 | - | - | 1 | 1 | ||
Abigail Plenty/Laura Beaumont - Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Bregusrwydd | 8 | 12 | - | - | - | - | - | - |
Shrinivas Honap - Cyfarwyddwr Anweithredol | 10 | 12 | - | - | 4 | 4 | - | - |
Alison Sansome - Cyfarwyddwr Anweithredol | 12 | 12 | 2 | 2 | 11 | 12 | ||
Karin Woodley - Cyfarwyddwr Anweithredol | 9 | 12 | - | - | 2 | 4 | - | - |
Anne Fletcher - Aelod Annibynnol Archwilio a Risg | - | - | - | - | 4 | 4 | - | - |
Helen Journeaux - Head, Pennaeth Interim, Perfformiad, Cynllunio a Datblygu Busnes | - | - | 11 | 12 | 1 | 2 | 9 | 12 |
Paul Karim - Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol | - | - | 6 | 6 | 3 | 3 | 7 | 8 |
Jill Twigger – Pennaeth, Gwasanaethau Goruchwylio ac Ymchwilio | - | - | 9 | 12 | - | - | 1 | 1 |
Marie Owen - Pennaeth, Gwasanaeth Atwrneiaeth | 9 | 12 | - | - | 1 | 1 | ||
Ria Baxendale - Pennaeth, Polisi | - | - | 4 | 5 | - | - | 6 | 7 |
Marie Lane – Pennaeth, Datblygu Pobl | - | - | 7 | 12 | - | - | 6 | 12 |
Angela Hall – Dirprwy Bennaeth, Sicrhau Gwybodaeth Gyfreithiol | - | - | 2 | 3 | - | - | ||
Gemma Harvey – Pennaeth Cyfrifon Rheoli a Phartneriaethau Busnes | - | - | - | - | - | - | 8 | 9 |
May Smith – Uwch Bartner Busnes Cyllid | - | - | 11 | 12 | - | - | 3 | 3 |
Lucy Denton – Pennaeth, Cyfathrebu | - | - | 11 | 12 | - | - | 11 | 12 |
Meera Bhalla – Uwch Bartner Busnes Adnoddau Dynol | - | - | 8 | 12 | - | - | 8 | 11 |
Su Morgan –Pennaeth Digidol a Thechnoleg, y Weinyddiaeth Gyfiawnder | - | - | 10 | 12 | - | - | 10 | 12 |
Navdeep Hear – Pennaeth, Gwasanaethau Corfforaethol/Pennaeth Interim, Llywodraethu a Sicrwydd | - | - | - | - | 1 | 1 | 4 | 4 |
Cylch gorchwyl
Mae cylch gorchwyl pwyllgor a Bwrdd yn unol â Chanllawiau Effeithiolrwydd Bwrdd y Cyngor Adrodd Ariannol (Mawrth 2011) a’r Safon Llywodraethiant Da ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth / Office for Public Management Ltd, i sicrhau bod ei drefniadau llywodraethiant yn cael eu hadlewyrchu yn y cylchoedd gorchwyl.
Mae gwaith wedi cael ei wneud yn ystod 2020 i 2021 i sicrhau bod fframwaith weithredu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus dal i fod yn addas i’r pwrpas o ystyried y newidiadau ym maint yr asiantaeth dros amser, ac i’w adolygu i sicrhau ei fod yn gyson â’r dogfennau a restrwyd uchod. Mae’r cylchoedd gorchwyl wedi cael eu hadolygu i sicrhau bod cysondeb ac eglurder llywodraethiant yn cael ei weithredu ar draws y busnes, ac i sicrhau bod llinellau clir o ran gwneud penderfyniadau ac i gryfhau perchnogaeth ac atebolrwydd fframwaith lywodraethu gyffredinol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ac mae’r rhain wedi cael eu rhai at ei gilydd mewn un ddogfen.
Mae’r ddogfen hon hefyd yn amlinellu’r cysylltiadau rhwng y bwrdd a’i bwyllgorau, goddefiannau a fframwaith adolygu clir i bawb. Mae’r fframwaith weithredu hon hefyd yn cynnwys is-bwyllgorau newydd o dan y cyfarfod rheolwyr gweithredol, death I rym ym mis Ebrill 2020 a bydd yn cael ei adolygu ar ôl iddo fod mewn grym am 12 i 18 mis. Roedd yr adolygiad wedi cael ei ohirio oherwydd COVID-19 ac er mwyn caniatáu i gyfarfodydd ddychwelyd i normalrwydd yn ogystal ag yn ddigidol.
Archwiliad mewnol
Fel swyddog cyfrifyddu a phrif weithredwr, rydw i wedi sefydlu a chynnal trefnai-dau ar gyfer darparu gwasanaethau archwilio mewnol o Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn unol â’r amcanion a’r safonau ar gyfer archwiliadau mewnol a nodir yn y Safonau Archwilio Mewnol ar gyfer y Sector Cyhoeddus (a gyhoeddwyd gan Drysorlys ei Mawrhydi). Mae hyn yn galluogi gwerthusiad annibynnol a gwrthrychol o berfformiad rheoli o ran darparu trefniant effeithiol ar gyfer llywodraethiant, rheoli risg a rheoliadau mewnol.
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cael copïau o gynlluniau archwilio mewnol blynyddol ac adroddiad blynyddol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gennyf fi. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Swyddfa’r cabinet yn cael gwybod am unrhyw dwyll neu anghysondebau o fewn y diffiniad a nodir gan Drysorlys ei Mawrhydi.
Cynhaliodd Asiantaeth Achwilio Mewnol y Llywodraeth chew archwiliad ar ran Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod 2020 i 2021. Cafodd yr holl aseiniadau archwilio mewnol a gwblhawyd eu graddio’n gymedrol neu’n sylweddol.
Sgôr | Teitl yr archwiliad |
Sylweddol | Ymateb i COVID-19 Brysbennu diogelu |
Cymedrol | Rheoli dyledion Cydymffurfio â MCA Llywodraethu data / cydymffurfio â GDPR |
Mae’r pennaeth archwilio mewnol yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2020 i 2021 wedi rhoi barn flynyddol gymedrol i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar y fframwaith rheoli risg, llywodraethu a rheolaeth. Diffinnir barn gymedrol fel ‘mae angen gwneud rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth
Rheoli risg, rheolaeth a sicrwydd
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynnal dull cyson o ran rheoli risg. Defnyddir dulliau rheoli risg yn effeithiol i dynnu sylw’r busnes at fygythiadau go iawn neu faterion sy’n dod i’r amlwg ac sy’n debygol o effeithio ar y gallu i gyflawni amcanion y busnes - mae ein rheolaeth risg yn aeddfed a than reolaeth.
Y prif risgiau lefel corfforaethol a gafodd eu hystyried yn ystod y flwyddyn oedd:
- cydymffurfio â GDPR
- Arweinyddiaeth Weithredol
- methu ag adfer costau
- oedi o ran mynd ag achosion i’r llys pan fo angen cymryd camau cyfreithiol
-
cadw staff
- pontio wrth adael yr UE a’i effaith ar flaenoriaethau’r llywodraeth a’r rhaglen ddeddfwriaethol
Mae’r materion a’r risgiau sy’n dod i’r amlwg y bydd angen eu rheoli yn y flwyddyn i ddod yn cynnwys:
-
mae methu â chael adennill costau llawn wedi bod yn ganlyniad uniongyrchol i effaith COVID-19 a’r gostyngiad cyfatebol mewn ceisiadau am atwrneiaethau arhosol. Cafodd yr holl wariant ei adolygu’n rheolaidd i asesu’r cyfleoedd ar gyfer arbedion ychwanegol a chafodd gwariant ei gwtogi. Bydd angen i hyn gynnwys cynllun adfer
-
mae oedi wrth symud achosion i’r llys wedi’i gynorthwyo gan ailstrwythuro o fewn y tîm i wella llif gwaith a recriwtio cyfreithwyr ychwanegol. Mae cymorth cyfreithiol ychwanegol wedi cael ei ddarparu i sicrhau dealltwriaeth o ofynion deddfwriaethol a lleihau oedi
-
mae cadw staff a chadw arbenigedd wedi bod yn broblemus oherwydd y gwahaniaeth mewn cyflogau rhwng yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac adrannau eraill y llywodraeth, sydd wedi cynnal ymgyrchoedd recriwtio rhanbarthol mawr. Mae gan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus nifer o swyddi gwag, yn bennaf mewn gweithrediadau ac ar hyn o bryd mae’n chwilio am opsiynau i recriwtio staff ychwanegol
Mae risgiau o dan y lefel gorfforaethol yn cael eu rheoli o fewn cyfarwyddiaethau ac os oes angen, bydd risgiau’n cael eu huwchgyfeirio i’r gofrestr gorfforaethol. Mae’r tîm llywodraethu’n cysylltu’n fisol â’r meysydd busnes i ddiweddaru cofrestrau cyn cyfarfodydd y bwrdd a’r pwyllgor. Mae’r tîm llywodraethu yn cysylltu’n fisol â meysydd busnes i ddiweddaru cofrestri wrth baratoi ar gyfer cyfarfodydd bwrdd a phwyllgorau. Bydd archwiliad pellach o reoli risg yn cael ei wneud mewn cyfarfod adolygu canol blwyddyn wyneb yn wyneb gyda’r swyddog cyfrifyddu. Mae perchnogion risg yn mynychu’r cyfarfod hwn ac yn trafod y gwaith o reoli’r risgiau a nodwyd a’r camau gweithredu sydd ar y gweill i gael gwared ar y risg erbyn diwedd y flwyddyn.
Edrychir ar risg gorfforaethol a risg rhaglen gyda’i gilydd mewn cyfarfodydd adolygu rheolaidd fel bod dealltwriaeth glir o’r amgylchedd risg cyfan o fewn yr asiantaeth. Caiff risgiau sylweddol o’r rhaglen eu huwchgyfeirio i’r gofrestr risg gorfforaethol. Yn ystod y flwyddyn, gwnaed gwaith hefyd i edrych ar sut yr eir ati i reoli risgiau o fewn yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – gan symud tuag at edrych ar risgiau yn ôl categori – fel cyllid, perfformiad, rhaglenni gydag is-risgiau wedi’u rhestru oddi tanynt. Mae’r gwaith hwn yn parhau, a’r bwriad yw symud drosodd yn llwyr i ddefnyddio’r ffordd hon o reoli risgiau yn ystod 2021.
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi parhau i adrodd ar ei dwy risg allweddol i Bwyllgor Gwaith y Weinyddiaeth Gyfiawnder (ExCo) fel rhan o fframwaith rheoli risg ehangach yr Adran, gan fod cefnogaeth ExCo i raglen newid tymor hwy yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn bwysig er mwyn lliniaru’r risgiau hyn. Y ddwy risg a nodwyd yn ystod y flwyddyn oedd:
-
cynaliadwyedd yr asiantaeth yn y tymor canolig i’r tymor hir (ac fel rhan allweddol o hynny cyflwyno Atwrneiaeth Arhosol cwbl ddigidol) a’r
-
posibilrwydd o dwyll a cholli enw da’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus oherwydd gwendidau yn y prosesau
Nid yw’r ail o’r rhain yn risg sylweddol o fewn yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ond mae’n un a ddylai ysgogi’r newidiadau o fewn y prosesau dros amser. Yn ystod y flwyddyn, mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd wedi edrych ar brosesau a’u newid i liniaru’r risg cyn unrhyw newidiadau mwy sylweddol. O ganlyniad, ni chafodd ei rheoli fel risg benodol yn yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod 2020 i 2021 ond mae wedi bwydo i mewn i risgiau eraill.
Strwythur sicrwydd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn annog arloesi gydag agwedd bwyllog at risg. Mae gan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus agwedd gytbwys at risg; er enghraifft, mae ganddi oddefiant uchel i risgiau sy’n ymwneud â hyrwyddo gallu digidol i wella cynnyrch yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ond mae ganddi oddefiant is mewn meysydd fel sicrhau bod pryderon yn cael eu hasesu a’u hymchwilio i ddiogelu pobl agored i niwed a’u hasedau.
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn mabwysiadu dull “tair llinell o ddiogelwch” i’r modd rydym ni’n rheoli risg, i sicrhau cydymffurfiad a galluogi sicrwydd.
Parodrwydd i dderbyn risg
Mae parodrwydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i dderbyn risg yn cael ei ysgogi a/neu ei gyfyngu gan ddyletswyddau statudol y Gwarcheidwad Cyhoeddus i sicrhau bod y rhai rydym yn gweithio gyda nhw yn cael llais.
Prif risg | Effaith | Gweithgareddau lliniaru | Effaith ar risg y gweithgareddau lliniaru |
Methu ag adfer costau | SGC ddim yn gal-lu talu ei gostau | Diweddariadau ariannol rheolai yn y Cyfarfod Rheolwyr Gweithredol ac ym Mwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus Lleihau recriwtio a nifer y staff i leihau’r costau staffio. Prosiectau bychain, cyflym wedi’u gohirio a byddant yn cael eu hailddechrau os bydd y sefyllfa ariannol yn gwella yn ystod y flwyddyn |
Adfer costau yn 2020/21 heb ei gyflawni oherwydd COVID-19 ond cytunwyd ar gynllun gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer 2021 i 2022 i sicrhau cynali-adwyedd |
Cadw staff yn yr asiantaeth – o ran nifer a sgiliau | SGC ddim yn gallu darparu mor effeithiol ac effeithlon â phosib Amser ac adnoddau a dreulir ar recriwtio a hyfforddi |
Gostyngiadau o ran re-criwtio a nifer y staff er mwyn lleihau costau staff Alinio cyflogau ar draws y swyddfeydd yn Nottingham a Birmingham |
Mae’r cyfraddau newid staff wedi gostwng yn SGC |
Oedi o ran mynd ag achosion i’r llys pan fo angen cymryd camau cyfreithiol | Mae oedi sylweddol wedi bod o ran cael achosion o’r SGC i’r Llys Gwar-chod – gan roi oedolion sy’n agored i niwed mewn perygl | Mae cyfreithwyr a staff cefnogi ychwanegol wedi cael eu recriwtio, ac mae rhagor o waith recriwtio ar y gweill Mae ffyrdd newydd o weithio – gan gynnwys mwy o gydweithio ar draws Cyfarwyddiaethau, a gwell systemau rheoli llif gwaith – yn cael effaith Roedd y gostyngiad yn y llwyth gwaith oherwydd y coronafeirws yn golygu bod modd neilltuo adnoddau ychwanegol ar gyfer clirio achosion |
Mae’r rhan fwyaf o achosion hŷn wedi cael sylw erbyn hyn, a disgwylir y bydd achosion newydd yn cael sylw yn unol â’r targed o Awst 21 ymlaen |
Cydymffurfio â GDPR | Dydy SGC ddim yn cydymffurfio’n llawn â rhe-oliadau GDPR - gan arwain at gwynion a cholli enw da | Gweithio gyda MoJ Digitech i symud ymlaen â gwaith ar systemau TG yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus Cynllun gweithredu i fwrw ymlaen â gwaith ychwanegol ar GDPR o fewn yr asiantaeth |
Mwy o ymwybyddiaeth o rwymedigaethau GDPR mewn busnes a lleihau nifer y tor diogelwch gwybodaeth, gyda dim un wedi cael ei uwchgyfeirio at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ystod y flwyddyn ddiwetha |
Arweinyddiaeth weithredol | Dydy SGC ddim yn cael ei weld fel blaenoriaeth ar gyfer meysydd gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac nid yw’n gallu cystadlu am yr adnoddau neu’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni ei newidiadau a’i raglenni gwaith BAU | Mae pob maes swyddogaethol yn bresennol yng nghyfarfodydd EMM yr SGC a’r bwrdd yn ôl yr angen Meysydd swyddogaethol ymrwymo i gynllun busnes yr SGC Cyfarfodydd rheolaidd rhwng dirprwy gyfarwyddwyr a meysydd Arweinyddiaeth Swyddogaethol i alinio’r materion y gellir eu cyflawni |
Mae SGC wedi cael mynediad at y rhan fwyaf o’r sgiliau a’r adnoddau sydd eu hangen ond mae rhai meysydd – Digitech – wedi’u rhwystro gan faterion recriwtio a chadw staff ac nid ydynt yn gallu darparu, ar adegau, yr holl adnoddau sydd eu hangen. Rheolwyd hyn trwy flaenoriaethu gwaith ar y cyd i sicrhau bod y ddarpariaeth wedi gallu parhau |
Ôl-groniad o geisiadau am atwrneiaethau arhosol – niferoedd cynyddol a dim digon o staff i’w prosesu | Nid yw’r SGC yn gallu adfer yr ôl-groniad | Defnyddio goramser a gweithio gydag asiantaethau i recriwtio staff dros dro Os caiff cadw pellter cymdeithasol ei godi, cynyddu nifer y staff sy’n bresennol yn yr adeilad mewnol ar gyfer prosesau papur |
Rhaglen adfer ar gyfer yr ôl-groniad cyfredol o geisiadau atwrneiaeth arhosol |
Pobl - effaith niweidiol COVID-19 a’r gofynion cadw pellter cymdeithasol | Arweiniodd hyn at rwystrau’n datblygu gydag elfennau prosesu papur o’r ôl-groniadau presennol, mwy o geisiadau a diffyg adnoddau’r gweithlu i gyd yn achosi pwysau sylweddol ar ein gallu gweithredol i brosesu atwrneiaethau arhosol i gwsmeriaid | Y Prif Swyddog Gweithredu yn goruchwylio’r cynlluniau adfer. Bydd goramser yn parhau drwy gydol mis Ebrill i fis Awst i ganolbwyntio ar glirio ôl- groniadau Mae’r safle profi asymptomatig yn cefnogi ac yn helpu i leihau’n sylweddol yr achosion o COVID-19 a amheuir ar y safle, a achosodd gau yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt a tharfu ar lif gwaith. Rydym wedi mynd yn fyw gyda Casglu yn y Gweithle ac mae staff wedi dangos llawer o ddiddordeb yn y cynnig hwn Dilyn opsiynau gyda thîm Masnachol y Weinyddiaeth Cyfiawnder er mwyn cael gafael ar adnoddau’r asiantaeth yn gyflym ar gyfer rolau gweithredol ym meysydd gwaith atwrneiaethau arhosol Mae cynnydd yn nifer y derbyniadau wedi parhau ac mae’r gwaith recriwtio ar unwaith i liniaru yn erbyn hyn o 45 aelod o staff asiantaeth wedi’i gyflawni gan ddarparwyr asiantaeth. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan apwyntiadau pellach nes bydd ein hymgyrch recriwtio barhaol wedi’i chwblhau a fydd yn cymryd 4/5 mis cyn i’r staff ddechrau yn eu swyddi. |
Effaith mesurau lliniaru yw bod yr effaith a’r tebygolrwydd risg yn aros yr un fath a ddim yn gwaethygu ymhellach Cafodd y mater ei uwchgyfeirio i Fwrdd Cynllunio’r Gaeaf ar 8 Ebrill a byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n ofalus. Cynhelir yr adolygiad nesaf ar 31 Awst 2021 |
Y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gweithredu y tu allan i gylch gwaith statudol | Diffyg dealltwriaeth o swyddogaethau a chyfrifoldebau statudol y Gwarcheidwad Cyhoeddus o fewn Timau Gweithredol. Arwain at ddull gweithredu anghyson o ran sicrhau prosesau gweithredol newydd yn cael eu cyflawni o fewn rheoliadau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Ddeddf Galluedd Meddyliol | Timau gweithredol i geisio cyngor cyfreithiol mewnol ar ymholiadau polisi ac ymarfer gweithredol, os yw rôl y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn aneglur Adolygu cyfrifoldebau’r SGC i sefydlu a chofnodi unrhyw fey-sydd sy’n peri pryder ar hyn o bryd Datblygu proses glir i sianelu ymholiadau i’r Tîm Polisi Mae’r tîm cyfreithiol a SIS wedi trefnu cynl-lun peilot i gynnal adolygiadau achos cyfreithiol cyn y llofnodwr PG |
Adolygu parhaus ar feysydd lle mae risg ar unwaith neu’n bryder posibl Ymyriad cynharach gan Gyfreithwyr yn gwella’r broses Cyswllt agosach ar draws y meysydd cyfreithiol, polisi a gweithrediadau i dynnu sylw at broblemau a’u datrys |
Proses Atwrneiaethau Arhosol | Mae gwendidau yn y broses gyfredol o gofrestru atwrneiaethau arhosol yn caniatáu cofrestru atwrneiaeth arhosol dwyllodrus Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddim yn cynnal y gwiriadau gofynnol ar atwrneiaethau arhosol ac yn cofrestru atwrneiaethau arhosol annilys | Mae’r grŵp llywio Cwbl Ddigidol yn adolygu di-chonoldeb ac effeithiau cynnydd posibl mewn atwrneiaethau arhosol twyllodrus a chysyllti-adau twyll allweddol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r SGC yn cael eu defnyddio i ffurfio’r camau nesaf Ystyriaeth yn cael ei rhoi i sut rydym yn mynd i’r afael ag unrhyw bryderon gan y sector ariannol ynghylch atwr-neiaethau arhosol twyllodrus Adolygu dyletswyddau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o dan y Ddeddf Galluedd Med-dyliol, gyda golwg ar gofrestru a/neu gynnal y gofrestr Mae’r rhaglen Cwbl Ddigidol yn ystyried beth ellir ei wneud yn fewnol heb newid deddfwriaethol. Bydd hyn yn bwydo i’r gwaith Cwbl Ddigidol/ Twyll y pwerau y dylai’r Gwarcheidwad Cyhoeddus eu dal i gyflawni’r gwiriadau |
Bydd gwaith atal twyll tymor hir yn cael ei gipio dan ymbarél yr Atwrneiaeth Arhosol Cwbl Ddigidol a bydd hefyd yn cael ei gynnwys fel rhan o fforwm Polisi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder/Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus Mae nifer cyfyngedig o atwrneiaethau arhosol twyllodrus wedi cael eu codi neu eu canfod. Fel canran o’r cofrestriadau cyffredinol, mae’r niferoedd yn llai na 0.1%. Gellir ystyried mân newidiadau posibl i’r canllawiau a’r ffurflenni Atwrneiaeth Arhosol i ddarparu mesurau diogelu pellach ar gyfer y cynnyrch papur |
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2025 | Ni ellir cyflwyno’r rhaglen o fewn yr amlen ariannol. Anallu i gael yr adnoddau a’r cyllid cyfalaf angenrheidiol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder Anallu i gael y ddeddfwriaeth angenrheidiol i sefydlu cynnyrch cwbl ddigidol Gallai cyd-destun a chymhlethdod gwleidyddol arwain at oedi. Ffactorau allanol yn effeithio ar y gallu i gyflawni Mae dyled dechnegol hynafol o fewn systemau yn atal y gallu i ddatblygu gwasanaethau newydd neu wireddu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd |
Datblygu cynllun ariannol pum mlynedd a chostiadau wedi’u datblygu ar gyfer y rhaglen. Llwybr critigol yn cael ei ddefnyddio i flaenoriaethu camau allweddol Adolygiad llywodraethu wedi’i gynnal a datblygwyd rolau a chyfrifoldebau clir. Goddefiannau i’w gosod ar gyfer prosiectau Gweithio gyda meysydd Swyddogaethol i sicrhau bod sgiliau arbenigol ar gael. Ymgysylltu â swyddogaeth cyflawni prosiect y Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn llenwi bylchau o ran capasiti a gallu Cyfathrebu rheolaidd â staff, adran Gyfreithiol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, polisi, Digitech ac Ysgrifenyddion Parhaol/gweinidogion Rheoli risg yn cael ei gryfhau gyda ffocws ar gywirdeb, prydlondeb ac ansawdd data gyda phrosiectau Deallusrwydd Artiffisial a reolir gan CMO yn cael eu hadolygu ar bob cam i sicrhau eu bod yn addas i symud ymlaen |
Atwrneiaeth Arhosol cwbl ddigidol – sefydlu grŵp llywio i sicrhau lefelau da o gyfathrebu gyda’r bobl allweddol. Perthnasoedd gweithio a ffyrdd cydweithredol o weithio yn amlwg gyda thimau Digidol Trafodaethau’n parhau drwy gydol y cyfnod gyda chyflawni prosiectau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn helpu i lenwi swyddi addas. Mae gan bob prosiect grŵp llywio erbyn hyn gyda chyfres o gylchoedd gorchwyl clir Mae penderfyniadau allweddol wedi cael eu gwneud mewn perthynas â safleoedd adeiladu newydd a bwrw ymlaen â DocMan ac mae gwaith yn parhau ar y prosiect Dylunio Sefydliadol a fydd yn ysgogi newid o fewn yr asiantaeth |
Diffyg parodrwydd i reoli rhagor o darfu ar barhad busnes yn ystod y pandemig | Diffyg ffocws ar sicrhau bod risgiau BC nad ydynt yn gysylltiedig â’r pandemig yn hysbys ac yn cael sylw gyda rheolaethau addas Diffyg ymgysylltu â chyflenwyr a rhanddeiliaid er mwyn cael dealltwriaeth o unrhyw amhariad ar gyflenwyr/rhanddeiliai d a allai amharu ar wasanaethau’r SGC |
Timau Rheoli Digwyddi-adau a Parhad Busnes a chynlluniau ar gael Mae gan feysydd busnes gynlluniau ar gyfer Dadansoddi’r Ef-faith ar Fusnes sy’n ymdrin â llawer o bosibiliadau Sianeli cyfathrebu yn eu lle gan gynnwys Llinell Wybodaeth i Staff, grwpiau WhatsApp a Call Cascades Mae gan gyflenwyr a darparwyr TG ymyriadau i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl Bydd System Rheoli Par-had Busnes newydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cael ei rhoi ar waith er mwyn gwella aeddfedrwydd a gallu |
Nodi’r prif bwyntiau methiant a cheisio sicrwydd ynghylch yr opsiynau adfer Cynyddu’r posibiliadau profi ar wahanol fathau o darfu; TG, bygythiad Seiber, y Llys Gwarchod Cafodd y Comisiwn Cynllunio’r Gaeaf ei gwblhau i asesu risgiau BC ychwanegol ynghyd ag adrodd yn wythnosol i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder drwy’r bwrdd Bird, sitrep a’r bwrdd Cynllunio Gaeaf wythnosol |
Fframwaith llywodraethu’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Atal twyll, llwgrwobrwyo a llygredd
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi parhau i weithredu Safon Swyddogaethol y Llywodraeth ar gyfer Atal Twyll (GovS013) sy’n nodi’r disgwyliad ar gyfer rheoli risg twyll, llwgrwobrwyo a llygredd ar draws holl sefydliadau’r llywodraeth. Mae Canolfan Ragoriaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder wrthi’n drafftio strategaeth ar hyn o bryd a bydd gofyn i ni ddrafftio cynllun polisi ac ymateb yn unol â chynllun y Ganolfan Ragoriaeth.
Defnyddir proses sicrwydd flynyddol i bennu’r lefel cydymffurfio yn erbyn y safonau swyddogaethol, ac mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi llunio a gweithredu Cynllun Gweithredu Gwrth-dwyll sef y prif gamau i’w cymryd i wella gallu, gweithgarwch a chadernid – mae hyn wedi cynnwys cynnal asesiadau risg. Un cam allweddol oedd sicrhau bod aelodau’r tîm yn cwblhau’r hyfforddiant newydd ar asesu risg twyll. Mae hyn wedi cael ei gwblhau a bydd adolygiad o’r holl asesiadau risg twyll presennol yn dechrau ym mis Mai 2021. Cyflwynwyd Asesiad Blynyddol Safonau Swyddogaethol yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ym mis Hydref 2020 a chafwyd adborth ym mis Rhagfyr 2020.
Llwyddwyd i gwrdd â saith maes, tri yn rhannol a dau heb eu bodloni. Bydd y rhain yn rhan o’r gwaith parhaus ar y cynllun gweithredu.
Mae’r safonau swyddogaethol yn nodi y dylai sefydliadau gael mynediad at ymchwilwyr hyfforddedig sy’n bodloni safonau sgiliau’r sector cyhoeddus – hyd yma, nid oes cynlluniau ar waith i fuddsoddi mewn hyfforddi ymchwilwyr twyll achrededig yn yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Serch hynny, mae modd i ni geisio cymorth gan Ganolfan Ragoriaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar Atal Twyll i’n cynghori ar ymchwilio i dwyll. Nid oes cytundeb ffurfiol wedi’i sefydlu. Byddwn yn ei adolygu’r sefyllfa’n gyson.
Adroddiadau chwythu’r chwiban
Nid oedd unrhyw achosion yn y flwyddyn ariannol hon.
Parhad busnes
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cynnal lefel dda o wytnwch er mwyn cefnogi’r gwaith o adfer a darparu gwasanaethau yr effeithiwyd yn niweidiol arnynt gan COVID-19 eleni. Rydym wedi ymateb i nifer fawr o gomisiynau ochr yn ochr â’n gwaith parhaus o gynllunio ac adrodd ar barhad busnes, sydd wedi canolbwyntio ar gynllunio ymateb i COVID-19.
Eleni fe wnaethom:
- greu templedi archwilio adeiladau ar gyfer diogelwch ffisegol, cafodd y rhain eu cydnabod fel arfer gorau gan weithgor diogelwch ffisegol y Weinyddiaeth Gyfiawnder
- Cynhaliodd Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth adroddiad archwilio ar ymateb yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i COVID-19, a gafodd sgôr sylweddol
- dylunio a gweithredu proses adrodd COVID-19 leol a darparu’r canllawiau angenrheidiol i reolwyr a staff. Mae hyn wedi bod yn hollbwysig i’r busnes o ran rhoi gwybod am achosion a amheuir ar y safle
- O ran archwilio, mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y sefyllfa orau ers blynyddoedd lawer ar hyn o bryd
- cyflwynwyd meddalwedd rheoli parhad Busnes y Weinyddiaeth Gyfiawnder i wella ein cadernid
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd sy’n arwain grŵp parhad busnes rhanbarthol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn. Mae’r grŵp yn rhannu arferion gorau, yn trafod syniadau ac yn croesawu siaradwyr gwadd. Oherwydd y pandemig, ni fu modd i ni gynnal ond un cyfarfod ym mis Mehefin 2020. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar adrodd ar sut yr oedd asiantaethau’n rheoli parhad busnes yn ystod y pandemig.
Diogelwch a sicrwydd gwybodaeth yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Mae Pennaeth y Gyfarwyddiaeth Gyfreithiol a Gwybodaeth yn cyflawni rôl Uwch- berchennog Risg Gwybodaeth ar gyfer yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac mae uwch unigolyn o bob cyfarwyddiaeth busnes yn ymgymryd â rôl Perchennog Asedau Gwybodaeth ar gyfer eu maes. Mae’r IAO a’r SIRO yn cwrdd yn rheolaidd i reoli risgiau gwybodaeth, ac mae’r Tîm Sicrhau Gwybodaeth yn gweithio i’w cefnogi gydol y flwyddyn.
Derbyniodd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 46 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn 2020 i 2021, a chwblhaodd 96% o’r rhain o fewn 20 diwrnod gwaith o’i gymharu â tharged o 90%. Derbyniodd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 32 cais am fynediad at ddata gan destun y data hynny, a chwblhawyd 94% o’r rhain o fewn un mis calendr o’i gymharu â tharged o 90%.
Mae’r asesiad o risgiau preifatrwydd yn yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei reoli gan IA, sy’n cynnwys cefnogi’r busnes i gwblhau Asesiadau o’r Effaith ar Ddiogelu Data lle bo angen. Mae aelodau’r tîm yn hyrwyddo preifatrwydd yn ôl y bwriad, ac ymgynghorir â nhw fel mater o drefn ynghylch preifatrwydd ar ddechrau cynnig. Mae hyn wedi cynnwys ailgynllunio prosesau gweithredol i alluogi staff i weithio gartref yn ystod y pandemig, datblygiad parhaus llwyfannau digidol a newidiadau polisi.
Digwyddiadau (colli/peryglu) gwybodaeth
Roedd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyfrifol am 572 achos o golli gwybodaeth a/neu dorri diogelwch gwybodaeth yn ystod 2020 i 2021, ac ystyriwyd bod 10 ohonynt yn ‘niweidiol iawn’. Roedd y mwyafrif o’r achosion o golli gwybodaeth wedi digwydd oherwydd camgyfeirio’r post.
Prosesodd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus tua 4.3 miliwn darn o bost yn 2020 i 2021, sy’n golygu mai dim ond mewn 0.01% o achosion y collwyd gwybodaeth. Mae cyflwyno’r Gwasanaeth Post Xerox Hybrid ym mis Mehefin 2020 wedi arwain at ostyngiad yn nifer yr achosion o golli gwybodaeth. Ni ystyriwyd bod unrhyw achos o golli gwybodaeth yn ddigon difrifol i warantu camau gan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i hysbysu’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Er mwyn sicrhau ein bod yn cymryd camau i leihau’r achosion o golli gwybodaeth, mae Tîm Sicrhau Gwybodaeth yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i weithio gyda’r busnes i ddarparu hyfforddiant, addysg ac ymwybyddiaeth i staff ynghylch diogelu data a diogelwch gwybodaeth. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys cyflwyno pecynnau hyfforddiant sy’n benodol i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus er mwyn ategu modiwlau e-ddysgu gorfodol y Gwasanaeth Sifil ynghyd â chyfathrebiadau rheolaidd i staff drwy fewnrwyd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a sesiynau ymwybyddiaeth i staff ar draws y sefydliad.
Rheoli cofnodion
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhan o brosiect gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i wella’r ffordd y mae cofnodion yn cael eu rheoli yn yr adran, ac mae hyn yn cynnwys diweddaru polisïau a chanllawiau i helpu staff i reoli cofnodion yn unol â gofynion busnes.
Bydd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynnal adolygiad llawn o’r Amserlen Cadw a Gwaredu Cofnodion gyfredol yn ystod 2021 i 2022, ac yn gweithio gyda chydweithwyr i roi unrhyw newidiadau ar waith. Bydd archwiliadau cofnodion manylach yn dilyn i roi sicrwydd i Berchnogion Asedau Gwybodaeth bod yr Amserlen RRDS yn cael ei dilyn.
Cydymffurfiad cyflenwyr
Mae contractau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu rheoli’n ganolog gan y Weinyddiaeth gyfiawnder ac felly mae cydymffurfiad cyflenwyr yn gorwedd gyda thîm masnachol canolog y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Iechyd a diogelwch
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ei gyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas â iechyd, diogelwch, a lles ei weithwyr a phab sydd yn defnyddio ei adeiladau.
Rydym ni’n cydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a’r holl reoliadau a deddfwriaethau perthnasol fel sy’n briodol. Eleni, rydym wedi creu Cynlluniau Ymateb Argyfwng Interim, wrth i ni ddelio ag effaith COVID-19. Rydym wedi dilyn canllawiau’r llywodraeth mewn perthynas â COVID-19, i wneud yn siŵr bod ein swyddfeydd yn ddiogel o ran COVID, gan ystyried pethau fel cadw pellter cymdeithasol. Mae hyn wedi golygu y bu’n rhaid i ni newid ein prosesau arferol.
Rydym wedi darparu cyfarpar sgrin arddangos i gyfran helaeth o staff yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sydd wedi gorfod gweithio gartref oherwydd y pandemig. Ac rydym wedi ymgysylltu â chontractwyr i sicrhau bod cyfarpar DSE yn cael ei ddanfon i gyfeiriadau cartref staff. Rydym hefyd wedi addasu ein hasesiadau risg DSE fel y gellir eu gwneud yn rhithiol.
Mae profion llif unffordd hefyd wedi cael eu cyflwyno ar gyfer staff sydd wedi’u lleoli yn ein swyddfeydd i gefnogi’r llywodraeth yn ei hymateb i COVID-19.
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod bod angen i elfennau allweddol gael eu rhoi ar waith er mwyn rheoli iechyd a diogelwch yn effeithiol, fel yr amlinellir yn ‘HSG65 Deddf Cynllunio Gwneud Gwirio Gweithredu’ (canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar reoli ar gyfer iechyd a diogelwch). Yr elfennau hyn yw polisi, trefnu, cynllunio, mesur perfformiad, archwilio ac adolygu.
Cynhaliwyd cyfanswm o 68 o sesiynau cynefino iechyd a diogelwch ar gyfer staff eleni, sy’n cyfrannu at y ffigwr cyffredinol o 1,603 sy’n cynrychioli 97% o’r holl staff mewn swyddi. Mae wedi bod yn anodd cynnal sesiynau ‘cerdded ar dân’ oherwydd cyfyngiadau COVID-19 sydd wedi cyfrannu at yr oedi i staff wrth gwblhau rhestrau gwirio sefydlu.
Adolygir polisïau iechyd a diogelwch yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus bob blwyddyn neu pan fyddant yn cael eu newid. Mae strategaeth iechyd a diogelwch ar waith sy’n cyd-fynd â’r amcanion busnes, ac mae’n cael ei datblygu i wella iechyd a diogelwch galwedigaethol a diogelwch tân.
Caiff cofrestr risg iechyd a diogelwch ei chymeradwyo gan ddeiliad dyletswyddau’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac sy’n seiliedig ar asesiad risg lleol. Caiff ei chynnal a’i hadolygu yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch bob chwarter ac mae ar gael ar dudalennau ein mewnrwyd.
Mae’r ffigurau damweiniau, digwyddiadau ac achosion a fu bron â digwydd ar gyfer blwyddyn ariannol 2020 i 2021 wedi gostwng o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Dim ond chwe damwain, 15 digwyddiad a dau achos a fu bron â digwydd oedd wedi cael eu hadrodd yn 2020 i 2021.
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi ymrwymo i wella Iechyd a Diogelwch yn barhaus. Rydym wedi monitro ein hymatebwyr brys yn barhaus i sicrhau bod digon o staff ar gael ac wedi cynnal cwrs hyfforddi warden tân – mae hyn yn rhoi mwy o werth am amser ac arian wrth hyfforddi gwirfoddolwyr newydd.
Casgliad y Swyddog Cyfrifyddu
Fel swyddog cyfrifyddu, rydw i’n gyfrifol am adolygu effeithiolrwydd system reoli fewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan gynnwys y fframwaith rheoli. Mae fy adolygiad yn cynnwys gwaith yr archwilwyr mewnol a’r rheolwyr gweithredol yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Nhw sy’n gyfrifol am ddatblygu a chynnal y fframwaith reoli fewnol, a sylwadau’r archwilwyr allanol yn eu llythyr rheoli ac adroddiadau eraill.
Yn eu hadroddiad blynyddol, mae ein harchwilwyr mewnol wedi rhoi lefel sicrwydd cyffredinol o ‘gymedrol’, sy’n golygu bod angen rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheolaeth, llywodraethu a rheoli risg. Rwyf wedi cael cyngor ar oblygiadau canlyniadau fy adolygiad gan y bwrdd a’r pwyllgor archwilio a risg. Rwy’n fodlon bod cynllun i fynd i’r afael â gwendidau yn y system rheolaeth fewnol, a sicrhau bod y system yn gwella’n barhaus, yn ei lle. Rwyf hefyd yn fodlon fod yr holl risgiau perthnasol wedi’u nodi, a bod y risgiau hynny’n cael eu rheoli’n briodol.
Nick Goodwin
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
13 Gorffennaf 2021
Tâl ac adroddiad staff
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi polisi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar dâl Aelodau gweithredol o’r Bwrdd ac Aelodau Anweithredol o’r Bwrdd. Mae hefyd yn rhoi manylion y costau gwirioneddol a’r trefniadau contractiol.
Mae’r adroddiad staff a thâl wedi cael ei baratoi’n unol a gofynion y Canllaw Adrodd Ariannol a gyhoeddwyd gan Drysorlys ei Mawrhydi.
Contractau Gwasanaeth
Mae Deddf Diwygio a Llywodraethu Cyfansoddiadol 2010 yn gofyn bod penodiadau i’r Gwasanaeth Sifil yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod a hynny’n dilyn cystadleuaeth agored a theg. Mae’r Egwyddorion Recriwtio a gyhoeddwyd gan Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil yn nodi’r amgylchiadau pan fo modd gwneud penodiadau mewn rhyw ffordd arall.
Oni nodir yn wahanol isod, mae’r swyddogion sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn yn meddu ar benodiadau sy’n ben agored. Byddai dod â’r contract i ben, oni bai ei fod oherwydd camymddwyn, yn golygu bod yr unigolyn yn cael ei ddigolledu yn unol â Chynllun Digolledu’r Gwasanaeth Sifil.
Mae rhagor o wybodaeth am waith Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ar gael ar https://civilservicecommission.independent.gov.uk/
Polisi Tâl
Mae tâl uwch weision sifil yn cael ei osod gan y Prif Weinidog yn dilyn cyngor annibynnol gan y Corff Adolygu Cyflogau Uwch-swyddogion.
Mae cyflogau Aelodau Gweithredol o’r Bwrdd yn cael eu pennu gan Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn unol â’r rheolau sydd wedi’u nodi ym Mhennod 7.1 Atodiad 1 o God Rheoli’r Gwasanaeth Sifil.
Cyn rhoi ei argymhellion, mae’r corff adolygu wedi ystyried y canlynol:
- yr angen i recriwtio, ail-hyfforddi, ysgogi a, lle bo hynny’n berthnasol, dyrchafu pobl abl a chymwys i ymarfer eu cyfrifoldebau gwahanol
- amrywiadau rhanbarthol/lleol yn y marchnadoedd llafur a’u heffeithiau ar recriwtio, cadw a, lle bo hynny’n berthnasol, dyrchafu staff
- polisïau’r llywodraeth i wella gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y gofynion bod adrannau’n bodlonni targedau allbwn ar gyfer darparu gwasanaethau adrannol
- y cyllidebau sydd ar gael i adrannau fel y nodir yng nghyfyngiadau gwariant adrannol y llywodraeth
- targed chwyddiant y llywodraeth
Mae’r corff adolygu’n ystyried y dystiolaeth mae’n ei derbyn am ystyriaethau economaidd ehangach a fforddiadwyedd ei argymhellion.
Cyfanswm cyflog a ffioedd
Mae cyflogau a lwfansau yn cynnwys symiau pensiwnadwy ac amhensiwnadwy ac maen nhw’n cynnwys cyflogai gros; amser ychwanegol; hawliau neilltuol i bwysoli daearyddol neu lwfansau daearyddol; lwfansau recriwtio a chadw; lwfansau swyddfa breifat neu lwfansau eraill sy’n ddarostyngedig i dreth yn y DU ac unrhyw daliadau ex-gratia. Nid yw’n cynnwys symiau sy’n ad-daliadau o gostau a ddaeth yn sgil dyletswyddau unigolyn.
Pob budd-daliad trethadwy
Mae gwerth ariannol budd-daliadau mewn nwyddau neu wasanaethau yn cynnwys unrhyw fudd-daliadau sy’n cael eu darparu gan yr adran ac sy’n cael eu trin fel enillion gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi.
Taliadau bonws
Mae taliadau bonws yn seiliedig ar lefelau perfformiad ac maen nhw’n cael eu rhoi fel rhan o’r broses werthuso reolaidd.
Pob budd-daliad sy’n ymwneud â phensiwn
Mae Adran 229 o Ddeddf Cyllid 2004 yn pennu’r lefel flynyddol uchaf o gynilion pensiwn y gellir eu casglu o dan drefniant budd-daliadau penodol cyn bod treth yn cael ei chodi. Y cynilion a ddangosir yn Nhabl A yw’r cynnydd yng ngwerth budd-daliadau arfaethedig unigolyn dros gyfnod mewnbwn y pensiwn (sef y flwyddyn ariannol ar gyfer OPS). Unrhyw gynnydd yn y gwahaniaeth rhwng gwerth budd-daliadau’r unigolyn ar ddechrau cyfnod mewnbwn y pensiwn (1 Ebrill 2020) a gwerth budd-daliadau’r unigolyn ar ddiwedd cyfnod mewnbwn y pensiwn (31 Mawrth 2021); mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw gynnydd yn y tâl pensiwnadwy.
Mae’r rheoliadau’n nodi addasiad i reolau Cyllid a Thollau ei Mawrhydi ar gyfer y diben hwn, er mwyn gwerthuso’r budd-daliadau mae Trysorlys ei Mawrhydi wedi cynghori cynlluniau pensiwn i ddefnyddio lluosydd o 20.
Tabl A1 tâl uwch weithwyr – Costau cyflogaeth
2020 i 2021 | 2019 i 2020 | |||||||||
Cyflog | Taliadau bonws | Buddion trethadwy (i’r £100 agosaf) | Buddion yn ymwneud â phensiwn | Cyfanswm | Cyflog | Taliadau bonws | Buddion trethadwy (i’r £100 agosaf) | Buddion yn ymwneud â phensiwn | Cyfanswm | |
£000 | £000 | £000 | £000 | £000 | £000 | £000 | £000 | £000 | £000 | |
Nick Goodwin Nick Goodwin Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus (o 1 Gorffennaf 2019) |
100-105 | 10-15 | - | 56 | 165-170 | 70-75 (FYE 100-105) | - | 1.1 | 53 | 125-130 |
Alan Eccles CBE Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus (o 4 Gorffennaf 2019) |
- | - | - | - | - | 30-35 (FYE 115-120) | - | 2.4 | - | 30-35 |
Julie Lindsay Prif Swyddog Gweithredolr |
80-85 | 0-5 | - | 136 | 215-220 | 70-75 | 0-5 | - | 33 | 110-115 |
Jan C Sensier2 Is-gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol |
- | - | - | - | - | 80-85 | - | 8.0 | 32 | 120-125 |
Chris Jones IIs-gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol |
70-75 | 0-5 | - | 30 | 100-105 | - | - | - | - | - |
Sunil Teeluck IPennaeth Cyfreithiol a Gwybodaeth (4 Mawrth 2019 i 2 Awst 2020) |
20-25 (FYE 70-75) | - | - | 13 | 35-40 | 70-75 | - | 13.8 | 33 | 115-120 |
Stuart Howard Is-gyfarwyddwr Cyfreithiol a Gwybodaeth dros dro (o 3 Awst 2020) |
55-60 | - | - | 49 | 100-105 | - | - | - | - | - |
Cynrychiolydd cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder Paul Henson3 Is-gyfarwyddwr, Prif Swyddog Ariannol y Grŵp (hyd at 6 Hydref 2020) |
40-45 (FYE 80-85 | 5-10 | - | 16 | 65-70 | 80-85 | 5-10 | - | 32 | 120-125 |
Cynrychiolydd cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder Georgia Bottomley3 Is-gyfarwyddwr, Prif Swyddog Ariannol y Grŵp (o 7 Hydref 2020) |
35-40 (FYE 80-85) | 0-5 | - | 17 | 55-60 | - | - | - | - | - |
1 Cyfrifir gwerth y buddion pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn fel (y cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn wedi’i luosi ag 20) llai (y cyfraniadau a wneir gan yr unigolyn). Nid yw’r cynnydd gwirioneddol yn cynnwys cynnydd oherwydd chwyddiant nac unrhyw gynnydd neu ostyngiad oherwydd trosglwyddo hawliau pensiwn.
2 Mae gan Jan C Sensier drefniadau lleoliad gwaith dyblyg. Mae’r costau yn cyfleu’r buddion ar gyfer yr holl deithio i ac o’r lleoliadau gwaith deublyg am y cyfnod yr oedd yn aelod o’r bwrdd. Mae cyflog Jan wedi’i dalu gan OGD yn ystod ei secondiad.
3 Mae Paul Henson a Georgia Bottomley yn weithwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n talu eu cyflogau
Tabl A: Taliadau uwch gyflogeion – Costau cyflogaeth (yn amodol ar archwiliad)
2019 i 2020 | 2018 i 2019 | |||||||||
Cyflog | Taliadau bonws | Buddion trethadwy (i’r £100 agosaf) | Buddion yn ymwneud â phensiwn | Cyfanswm | Cyflog | Taliadau bonws | Buddion trethadwy (i’r £100 agosaf) | Buddion yn ymwneud â phensiwn | Cyfanswm | |
£000 | £000 | £000 | £000 | £000 | £000 | £000 | £000 | £000 | £000 | |
Shrinivas Honap (hyd at 1 June 2018) |
5-10 | - | - | - | 5-10 | 5-10 | N/A | 0.9 | N/A | 5-10 |
Karin Woodley (hyd at 1 October 2018) |
5-10 | - | - | - | 5-10 | 5-10 | N/A | 1.3 | N/A | 5-10 |
Alison Sansome | 5-10 | - | 0.1 | - | 5-10 | 5-10 | N/A | 1.7 | N/A | 5-10 |
Anne Fletcher I Aelod annibynnol o ARAC (hyd at 31 Ionawr 2021) |
0-5 | - | - | - | 0-5 | 0.5 | N/A | - | N/A | 0.5 |
Jackie Craisatti Aelod annibynnol o ARAC (o 1 Chwefror 2021) |
0-5 | - | - | - | 0-5 | - | - | - | - | - |
Lluosyddion tâl (yn ddibynnol ar archwiliad)
Mae gofyn i gyrff adrodd ddatgelu’r berthynas rhwng tâl y cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf yn eu sefydliad a thâl canolrifol gweithlu’r sefydliad.
Tâl band y cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y flwyddyn ariannol 2020 i 2021 oedd £110,000-£115,000 (2019 i 2020, £100,000-£105,000). Roed hyn 5.5 gwaith (2019 i 2020, 5.0) tâl canolrifol y gweithlu oedd yn £20,283 (2019 i 2020, £20,444). Mae’r newid yn y tâl canolrifol wedi cael ei achosi gan ostyngiad yn y cyflog canolrifol yn gyffredinol.
Yn 2020 i 2021, ni chafodd unrhyw gontractwyr (2019 i 2020, dim contractwyr) dâl oedd yn uwch na’r cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf. Roedd y tâl blynyddol yn amrywio o £16,899 i £112,700 (2019 i 2020, £16,018 a £100,000).
Mae’r tâl yn cynnwys cyflog, tâ yn ymwneud â pherfformiad heb ei groni â budd-ddaliadau ar ffurf nwyddau neu wasanaethau. Nid yw’n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn cyflogwyr a gwerth trosglwyddo sy’n cyfateb i arian parod pensiynnau.
Budd-daliadau pensiwn (yn ddibynnol ar archwiliad)
Tabl B: Aelodau gweithredol y bwrdd – Costau pensiwn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021
Wedi’i gronni adeg oed pensiwn ar 31/3/21 a’r cyfandaliad cysylltiedig | Cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn a lwmp swm cysylltiedig ar oedran pensiwn | CETV ar 31/3/21 | CETV ar 31/3/20 | Real increase in CETV | |
Aelodau gweithredol y bwrdd | £000 | £000 | £000 | £000 | £000 |
Nick Goodwin Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus |
30-35 (Lwmp sum of 55–60) |
2.5-5 Lwmp sum of 0–2.5 |
468 | 417 | 30 |
Julie Lindsay Prif Swyddog Gweithredol |
40–45 Lump sum 95–100 |
5–7.5 Lwmp swm 12.5–15 |
806 | 666 | 115 |
Chris Jones Is-gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol dros dros (o 1 Ebrill 2020) |
20-25 | 0-2.5 | 254 | 229 | 12 |
Sunil Teeluck Pennaeth Cyfreithiol a Gwybodaeth (4 Mawrth 2019 i |
|||||
2 Awst 2020) | 15-20 | 0-2.5 | 220 | 213 | 5 |
Stuart Howard Pennaeth Cyfreithiol a Gwybodaeth (4 Mawrth 2019 i 2 Awst 2020) |
40–45 Lump sum 105–110 |
2.5–5 Lump sum 2.5–5 |
877 | 807 | 41 |
Paul Henson Is-gyfarwyddwr, Prif Swyddog Ariannol y Grŵp (hyd at 6 Hydref 2020) |
5-10 | 0-2.5 | 52 | 45 | 5 |
Georgia Bottomley Is-gyfarwyddwr, Prif Swyddog Ariannol y Grŵp (o 7 Hydref 2020) |
25–30 Lwmp swm 5-10 |
0–2.5 Lwmp swm 0–2.5 |
424 | 402 | 8 |
Pensiynau’r Gwasanaeth Sifil
Mae budd-daliadau pensiwn yn cael eu darparu drwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. O 1 Ebrill 2015 cafodd cynllun pensiwn newydd ei gyflwyno ar gyfer gweision – Cynllun Pensiwn Gweision Sifil a Gweithwyr Eraill neu alpha, sy’n darparu budd-daliadau ar sail cyfartaledd gyrfa gyda’r oedran pensiwn arferol yr un peth ag Oedran pensiwn Gwladol yr aelod (neu 65 os yn uwch). O’r dyddiad hwnnw fe wnaeth pob gwas sifil newydd a’r rhan fwyaf o’r rhai oedd eisoes yn y gwasanaeth ymuno ag alpha. Cyn y dyddiad hwnnw, roedd gweision sifil yn rhan o’r Prif Gynllun Pensiwn ar gyfer Gweision Sifil .
Mae gan y PCSPS bedair adran: tair yn cynnig budd-daliadau ar sail cyflog terfynol (clasurol, premiwn neu clasurol plws) gydag oedran pensiwn arferol o 60; ac un yn cynnig budd-daliadau ar sail gyrfa gyfan (nuvos) gydag oedran pensiwn arferol o 65.
Nid yw’r trefniadau statudol hyn wedi’u cyllido ac mae cost y buddion yn cael ei thalu gan swm a benderfynir drwy bleidlais gan y Senedd bob blwyddyn. Mae pensiynau sy’n daladwy o dan classic, premium, classic plus, nuvos ac alpha yn cynyddu’n flynyddol yn unol â deddfwriaeth cynyddu censiwn. Arhosodd aelodau sy’n rhan o’r cynllun PCSPS a oedd o fewn 10 mlynedd o’u hoed pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn y cynllun PCSPS ar ôl 1 Ebrill 2015. Bydd y rhai a oedd rhwng 10 mlynedd a 13 mlynedd a phum mis o’u hoedran pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn newid i alpha rywbryd rhwng 1 Mehefin 2015 a 1 Chwefror 2022. Bydd buddion PCSPS pob aelod sy’n newid i gynllun alpha yn cael eu ‘bancio’, gyda’r rheini sydd â buddion cynt yn un o adrannau cyflog terfynol y PCSPS yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael cynllun alpha. Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos y pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel y bo’n briodol. Os oes gan y swyddog fuddion yn y PCSPS ac alpha y ffigur a ddyfynnir yw gwerth cyfunol eu buddion yn y ddau gynllun. Gall aelodau sy’n ymuno o Hydref 2002 ymlaen ddewis naill ai’r trefniant buddion diffiniedig priodol neu bensiwn cyfranddeiliaid ‘prynu arian’ gyda chyfraniad cyflogwr (cyfrif pensiwn partneriaeth).
Mae cyfraniadau’r cyflogai’n gysylltiedig â chyflog ac maent yn amrywio rhwng 4.6% a 8.05% ar gyfer aelodau’r cynllun clasurol, premiwm, clasurol a mwy, nuvos ac alffa. Mae’r buddion yn y cynllun clasurol yn cronni ar gyfradd o 1/80fed o enillion pensiynadwy terfynol am bob blwyddyn o wasanaeth. Yn ogystal, telir cyfandaliad sydd gyfwerth â thair blynedd o bensiwn cychwynnol pan fydd cyflogai’n ymddeol. Gyda’r cynllun premiwm, mae’r buddion yn cronni ar gyfradd o 1/60fed o enillion pensiynadwy terfynol am bob blwyddyn o wasanaeth. Yn wahanol i’r cynllun clasurol, nid oes cyfandaliad awtomatig.
Mae Clasurol a Mwy yn ei hanfod yn gynllun hybrid gyda buddion yng nghyswllt gwasanaeth cyn 1 Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo’n fras fel y cynllun Clasurol, a buddion am wasanaeth ar ôl mis Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo fel yn y cynllun Premiwm.Yn nuvos mae aelod yn cronni pensiwn yn seiliedig ar ei enillion pensiynadwy yn ystod cyfnod ei aelodaeth o’r cynllun. Ar ddiwedd blwyddyn y cynllun (31 Mawrth) mae cyfrif pensiwn a enillwyd yr aelod yn cael ei gredydu gyda 2.3% o’i enillion pensiynadwy ym mlwyddyn honno’r cynllun ac mae’r pensiwn cronedig yn cael ei gynyddu yn ôl deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Mae’r buddion yn alffa yn cronni mewn ffordd debyg i nuvos, ond mae’r gyfradd gronni yn 2.32%. Ym mhob achos, gall aelodau ddewis rhoi rhan o’u pensiwn heibio (cyfnewid) i gael cyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004.
Cyfrif pensiwn partneriaeth
Mae’r cyfrif pensiwn partneriaeth yn drefniant pensiwn cyfranddeiliaid. Mae’r cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylfaenol o rhwng 8% a 14.75% (yn dibynnu ar oed yr aelod) i gynnyrch pensiwn cyfranddeiliaid a ddewisir gan y cyflogai gan y darparwr a benodwyd – Legal & General. Nid oes raid i’r cyflogai gyfrannu, ond os bydd yn gwneud cyfraniadau, bydd y cyflogwr yn talu swm cyfatebol hyd at derfyn o 3% o gyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% o gyflog pensiynadwy i dalu cost yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marw yn y swydd ac ymddeol yn sgil salwch).
Y pensiwn cronedig a ddyfynnir yw’r pensiwn y mae gan yr aelod hawl i’w gael pan fydd yn cyrraedd oed pensiwn, neu’n syth ar ôl peidio â bod yn aelod gweithredol o’r cynllun os yw wedi cyrraedd oed pensiwn neu dros yr oedran hwnnw. Yr oedran pensiwn yw 60 i aelodau clasurol, premiwm a chlasurol a mwy, n65 ar gyfer aelodau nuvos, a’r uchaf o 65 neu Oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer aelodau alpha.
(Mae’r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos y pensiwn a enillwyd yn y PCSPS neu alffa – fel sy’n briodol. Os oes gan y swyddog fuddion yn y PCSPS ac alffa, mae’r ffigur a ddyfynnir yn gyfystyr â gwerth cyfunol y buddion yn y ddau gynllun, ond sylwer y gallai rhan o’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o oedrannau gwahanol.)
Mae manylion pellach am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gael yn www.civilservicepensionscheme.org.uk. www.civilservicepensionscheme.org.uk
Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod
Gwerth Trosglwyddo sy’n cyfateb i Arian Parod yw gwerth buddion y cynllun pensiwn wedi’i gyfalafu a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Buddion a gronnwyd gan yr aelod yw’r buddion a brisir ynghyd ag unrhyw bensiwn wrth gefn i briod sy’n daladwy o’r cynllun. CETV yw taliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn i sicrhau buddiannau pensiwn mewn cynllun pensiwn neu drefniant arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo’r buddiannau y mae wedi eu cronni yn ei gynllun blaenorol. Mae’r ffigurau pensiwn a nodir yn ymwneud â buddion y mae’r unigolyn wedi eu cronni o ganlyniad i gyfanswm ei aelodaeth yn y cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swydd uwch y mae’r datgeliad yn berthnasol iddo.
Mae’r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae’r aelod wedi ei drosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd i’r aelod o ganlyniad iddo brynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun. Cyfrifir CETV yn unol â Rheoliadau’r Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygiad) 2008 ac nid yw’n ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i Dreth Lwfans Oes a allai fod yn daladwy pan gymerir buddion pensiwn.
Cynnydd real mewn CETV
Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd yn y CETV sy’n cael ei ariannu gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys cynnydd yn y pensiwn cronedig oherwydd chwyddiant, cyfraniadau’r cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae’n defnyddio ffactorau prisio cyffredin y farchnad ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.
Adroddiad staff
Costau staff (yn amodol ar archwiliad)
2020 i 2021 |
2019 i 2020 |
|||
Cyfanswm | Staff a gyflogir barhaol |
Eraill | Cyfanswm | |
Costau staff | £000 | £000 | £000 | £000 |
Cyflogau wythnosol a misol | 39,749 | 33,884 | 5,865 | 37,798 |
Costau nawdd cymdeithasol | 3,044 | 3,044 | 0 | 2,839 |
Costau pensiwn eraill | 8,461 | 8,461 | 0 | 7,711 |
Cyfanswm costau gros | 51,254 | 45,389 | 5,865 | 48,348 |
Llai asedau adferadwy mewn per-thynas â secondiadau i’r tu allan |
(40) 51,214 |
(40) 45,349 |
0 5,865 |
(18) 48,330 |
Aelodau anweithredol (ffioedd a buddion) |
25 | 25 | 0 | 25 |
Cyfanswm costau net | 51,239 | 45,374 | 5,865 | 48,355 |
Cyflwynodd y llywodraeth yr Ardoll Brentisiaethau ar 1 Ebrill 2017. Ystyrir bod talu’r ardoll yn fath o drethiant ac felly caiff ei chyfrif fel cost treth fel rhan o gostau staff.
Niferoedd staff (yn amodol ar archwiliad)
Roedd cyfartaledd nifer yr unigolion cyfwerth ag amser llawn a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn fel a ganlyn:
2020 to 2021 |
2019 to 2020 |
|||
Cyfanswm | Staff a gyflogir Yn barhaol |
Eraill | Cyfanswm | |
Wedi’u cyflogi’n uniongyrchol | 1,366 | 1,366 | - | 1,394 |
Arall | 122 | - | 122 | 165 |
Cyfanswm | 1,488 | 1,366 | 122 | 1,559 |
Cyfansoddiad staff
Mae’r tabl cyfansoddiad staff yn dangos nifer y staff mewn swyddi ar 31 Mawrth 2021.
Gwryw | Benyw | |
Aelodau’r Bwrdd | 4 | 5 |
Cyflogeion yr SGC (ac eithrio’r Uwch Weision Sifil) | 629 | 826 |
Uwch Weision Sifil
Mae aelodau’r bwrdd yn cynnwys y staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus canlynol a delir yn uniongyrchol – un gwryw ar SCS2, ac un fenyw a dau wryw ar SCS1.
Absenoldeb salwch
Cyfartaledd y diwrnodau gwaith a gollwyd eleni oedd 8.8 diwrnod gan gynnwys salwch COVID (2019 i 2020 9.5 diwrnod).
Ymgysylltiad Staff
Yn 2020 i 2021, y trosiant staff yw 4.5% (2019 i 2020 5.3%) ac mae trosiant yr adran yn 10.5% (2019 i 2020 11.4%). Mae trosiant yr adran yn cynnwys trosglwyddo staff o fewn y gwasanaeth sifil. Nid yw trosglwyddiadau o fewn y Gwasanaeth Sifil wedi’u cynnwys yn y trosiant staff. Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i fonitro cyfraddau trosiant ac yn cefnogi cynlluniau i gynnal lefel trosiant iach. Mae Arolwg Pobl blynyddol y Gwasanaeth Sifil ynghyd â darnau eraill o ymchwil, yn ein helpu i ddeall profiad ein pobl o weithio yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a chymryd camau priodol i wella effeithiolrwydd, gan gynnwys pan fydd trosiant yn creu problemau.
Ymgysylltiad Staff
Mae ein cyfradd ymateb o 72% i’r Arolwg Pobl yn rhoi darlun da o brofiadau pawb yn yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mewn blwyddyn pan nad yw cyfathrebu clir a chadw mewn cysylltiad drwy’r pandemig erioed wedi bod yn bwysicach, mae ein sgôr mynegai ymgysylltu wedi cynyddu i 64%, i fyny o 62% y llynedd a 3% yn uwch na’r sgôr cyfartalog ar draws y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym wedi cynyddu ein sgoriau mewn chwech o’r naw thema ymgysylltu craidd.
- Arweinyddiaeth a rheoli newid – ein cynnydd mwyaf a gododd saith pwynt, i 55% yn gyffredinol.
- Cynhwysiant – mae ein mynegai cynhwysiant a thriniaeth deg wedi parhau i gynyddu, gan godi dri phwynt, i 77% yn gyffredinol.
- Bwlio, Aflonyddu a Gwahaniaethu – er ein bod wedi gostwng y sgoriau hyn yn sylweddol ers y llynedd, gyda gostyngiadau o wyth pwynt yn y ddau faes, rydym yn ymdrechu i ostwng y sgoriau presennol o 9% ar gyfer bwlio ac aflonyddu a 12% ar gyfer gwahaniaethu
- Llesiant – roedd 76% o’r ymatebwyr yn teimlo eu bod yn gallu siarad â’u rheolwr am eu hiechyd a’u lles.
Polisïau staff a ddefnyddiwyd yn ystod y flwyddyn
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydymffurfio â pholisi anabledd y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â recriwtio, hyfforddi a datblygu staff ag anableddau. Rydym yn recriwtio, hyfforddi a datblygu pobl ar sail eu sgiliau, cymhwyster a gallu i wneud y swydd.
Fel rhan o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, rydym yn gweithredu yn unol ag amrywiaeth o bolisïau, gweithdrefnau ac arferion adnoddau dynol, sy’n cynnwys:
- gweithio’n hyblyg
- bwlio ac aflonyddu
- cyfryngu
- recriwtio a dethol
- cydraddoldeb ac amrywiaeth
- rheoli presenoldeb (mae gennym nifer o staff ag anabledd lle cytunwyd ar addasiadau rhesymol er mwyn eu galluogi i gyflawni eu dyletswyddau)
- rheoli perfformiad
- hyfforddiant.
Ymgysylltiadau oddi ar y gyflogres
Yn ystod blwyddyn ariannol 2020 i 2021, mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi adolygu ymgysylltiadau oddi ar y gyflogres lle mae’n rhaid i ni ystyried cyfryngwyr, (IR35), deddfwriaeth gan ddefnyddio canllawiau CThEM a dangosydd statws ar-lein. Rydym wedi hysbysu ein corff contractio ynghylch canlyniad y penderfyniadau ar statws fel bod didyniadau treth yn cael eu gwneud, lle bo hynny’n briodol, yn y tarddiad o daliadau a wneir mewn perthynas ag ymgysylltu â’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae rhagor o fanylion am ymgysylltiadau oddi ar y gyflogres yn yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gael yng nghyfrifon adnoddau adrannol y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Yn 2019, heriodd CThEM grŵp y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ailedrych ar benderfyniadau ynghylch statws cyflogaeth ar gyfer yr holl weithwyr oddi ar y gyflogres a ddefnyddiwyd o fis Ebrill 2017, lle yr oedd wedi penderfynu eisoes bod gweithwyr yn gweithredu y tu allan i reolau gweithio oddi ar y gyflogres. Cafodd y rhwymedigaeth ei chrisialu yn 2020 i 2021, gan arwain at daliad o £1,965k i CThEM mewn perthynas â rhwymedigaethau IR35 yn deillio o asesiadau anghywir o statws cyflogaeth y gweithwyr hynny. Datgelir hyn hefyd yn yr Adroddiad Atebolrwydd ac Archwilio Seneddol.
Adrodd am gynlluniau Gwasanaeth Sifil a chynlluniau iawndal eraill –pecynnau ymadael (yn amodol ar archwiliad)
Talwyd costau dileu swydd a chostau ymadael eraill yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil, sy’n gynllun statudol a luniwyd dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972.
Cyfrifir y costau ymadael yn llawn yn y flwyddyn ymadael berthnasol.
Pan fydd adran y llywodraeth wedi cytuno ar ymddeoliadau cynnar, mae’r costau ychwanegol yn cael eu talu gan yr adran ac nid gan Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.
Ni thalwyd pecynnau ymadael yn 2020 i 2021 (2019 i 2020: dim pecynnau ymadael wedi cael eu talu).
Amser cyfleuster undebau llafur
Nifer y cyflogeion a oedd yn swyddogion undeb perthnasol yn ystod 2020 i 2021 | 8 |
Faint o gyflogeion a oedd yn swyddogion undeb perthnasol yn ystod y cyfnod perthnasol a oedd wedi treulio |
|
a) 0%, b) 1 – 50%, c) 51-99% neu d) 100% o’u horiau gwaith ar amser cyfleuster | b) 8 |
Canran cyfanswm y bil cyflogau a dreuliwyd ar amser cyfleuster | 0.063% |
Amser a dreuliwyd ar weithgareddau undebau llafur â thâl fel canran o gyfanswm oriau amser cyfleuster gyda thâl | 0 |
Gwariant ar ymgynghorwyr
Nid oedd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cyflogi ymgynghorwyr yn ystod 2020 i 2021 (2019 i 2020: dim).
Iawndal am golli swydd (yn amodol ar archwiliad)
Ni wnaed unrhyw iawndaliadau yn 2019 i 2020 ar gyfer ymddeoliad cynnar neu golli swydd (2018 i 2019: dim).
Nick Goodwin
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
13 Gorffennaf 2021
Atebolrwydd Seneddol ac adroddiad archwilio
Datganiad cyflenwad seneddol
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei hariannu’n bennaf o ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol, ond mae hefyd yn cael cyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, o’i Chyflenwad Seneddol.
Yn yr un modd ag asiantaethau eraill y llywodraeth, rhaid i gyllid ar gyfer y dyfodol gael ei gymeradwyo gan yr Adran noddi, a chan y Senedd. Rhoddwyd cymeradwyaeth eisoes ar gyfer 2021/22 ac mae’r cyfrifon hyn wedi cael eu paratoi ar sail busnes byw ar gyfer adrodd ariannol a phrisio asedau.
Os nad yw’r ffioedd a gynhyrchir yn ddigon i dalu costau mewn blwyddyn ariannol, bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder, fel y rhiant-adran, yn darparu’r arian i dalu am unrhyw ddiffyg a gynhyrchir, os bydd angen.
Rheoleidd-dra gwariant (yn amodol ar archwiliad)
Mae’r Prif Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dynodi Prif Weithredwr yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer yr asiantaeth. Mae cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, gan gynnwys cyfrifoldeb dros briodoldeb a chysondeb y cyllid cyhoeddus y mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol amdanynt, cadw cofnodion cywir ac amddiffyn asedau’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, wedi’u nodi yn Rheoli Arian Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM. Nid oedd materion rheoleidd-dra i sôn amdanynt.
Ffioedd a thaliadau (yn amodol ar archwiliad)
Ym mis Ebrill 2017, gostyngodd y ffi am gofrestru atwrneiaeth i £82.00. Mae hon yn ffi uwch o dan Adran 180 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, sy’n caniatáu i’r Arglwydd Ganghellor, gyda chydsyniad y Trysorlys, i osod ffi sy’n fwy na chost darparu’r gwasanaeth hwnnw. Mewn blynyddoedd blaenorol, rydym wedi defnyddio’r pŵer hwn i godi ffi uwch ar gyfer cofrestru atwrneiaethau i dalu am gostau dileu ffioedd ac esemptiad rhag talu ffioedd ac i sybsideiddio costau gweithredu’r gwasanaeth goruchwylio.
Fodd bynnag, roedd gostyngiad sylweddol yn nifer y ceisiadau atwrneiaethau, a achoswyd gan bandemig COVID-19, wedi golygu bod y gwasanaeth atwrneiaethau wedi cofnodi diffyg o £6.7m yn 2020 i 2021, sy’n cyfateb i tua £9.68 y cais. Nid oedd gwarged ar gael i draws- sybsideiddio’r gwasanaeth goruchwylio Mae costau llawn darparu gwasanaethau’r asiantaeth a’r ffioedd a godir mewn perthynas â hyn wedi’u nodi yn y tabl isod.
Cyfanswm incwm | Cost Lawn | Cost Uned | Gor-dâl) / croes- gymhorthdal |
|
£000 | £000 | £ | £000 | |
Atwrneiaethau Arhosol | 50,697 | 57,435 | 84 | 6,738 |
Atwrneiaethau Barhaus | 661 | 617 | 84 | (44) |
Penodi Dirprwy | 841 | 2,736 | 266 | 1,895 |
Goruchwylio | 9,761 | 20,061 | 342 | 10,300 |
Copïau swyddfa | 299 | 281 | 33 | (18) |
Nid yw’r tabl uchod yn cynnwys incwm o ffioedd Gwarcheidwadaeth oherwydd y nifer isel o achosion
Ffioedd a ddilëwyd
Cafodd 82,439 o ffioedd eu dileu neu eu heithrio. Cyfanswm y gwerth oedd £6.568k (2019/20: 114,036 achos – £7,944k) fel y disgrifiwyd yn Nodyn 2). Ni chynhwysir hawlildiad o ffioedd yn y ffigurau hyn.
Adennill costau
Adenillodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 76.7% o’i chostau, gan gofnodi diffyg o £18.9m. Gyrrwyd hyn yn bennaf gan ostyngiad o 25% yn nifer y ceisiadau newydd am atwrneiaethau a dderbyniwyd, yn enwedig pan oedd y cyfyngiadau symud a’r mesurau cadw pellter cymdeithasol eraill ar waith. Y galw i gofrestru atwrneiaethau yw un o’r prif sbardunau ar gyfer perfformiad ariannol yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Dyma’r flwyddyn gyntaf i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fethu ag adennill costau’n llawn. (gweler nodyn 6 yn y datganiadau ariannol)
Cynllun ad-dalu ffioedd hanesyddol
Mi wnaethom gyhoeddi yn 2016 i 2017 y byddai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn lansio cynllun ar gyfer ad-dalu cyfran o’r ffi atwrneiaeth i gwsmeriaid a allai fod wedi talu mwy nag y dylent yn ystod cyfnod o bedair blynedd. Penodwyd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflwyno’r cynllun, a lansiwyd ar 1 Mawrth 2018. Mae dros 322,000 o ad-daliadau (£16.42miliwn) wedi’u talu mewn perthynas â ffioedd atwrneiaethau. Lansiwyd y cynllun ad-dalu ar gyfer achosion goruchwylio ym mis Hydref 2019, a bydd yn dod i ben ymhen tair blynedd. Nifer posibl yr achosion gweithredol a chaeedig cyfunol yr effeithiwyd arnynt oedd tua 82,000. Cost ddisgwyliedig y cynllun hwnnw yw hyd at £18m. Hyd yma, mae 19,690 o achosion wedi cael eu had-dalu, sef cyfanswm o £6.1m. Mae £80k arall wedi cael ei dalu hyd yma mewn perthynas â cheisiadau am ad-daliad a dderbyniwyd ar gyfer 274 o achosion caeedig. Daeth y gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer ad-daliadau ffioedd Atwrneiaeth i ben ar 31 Ionawr 2021, ac o ganlyniad rhagwelir y bydd nifer y ceisiadau’n gostwng. Bydd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i dderbyn ceisiadau drwy’r post am ad-daliadau ffioedd Atwrneiaeth a Goruchwyliaeth tan Ionawr 2024 a Hydref 2025 yn y drefn honno. Mae gwybodaeth ariannol sy’n ymwneud â’r cynllun wedi cael ei chofnodi yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Colledion a thaliadau arbennig (yn amodol ar archwiliad
2019 i 2020 | 2018 i 2019 | |||
Nifer | £000 | Nifer | £000 | |
Taliadau iawndal | 1 | 15 | - | - |
Costau cyfreithiol anffafriol | 6 | 14 | - | - |
Taliadau di-fudd | 1 | 1,965 | - | - |
Ildio ffioedd | 6,478 | 513 | 7,808 | 647 |
Dileu symiau nad ydynt yn ffioedd | 28 | 4 | - | - |
Ex gratia | 118 | 46 | 712 | 24 |
Colledion arian parod | 113 | 10 | - | - |
Adroddwyd am yr holl golledion a thaliadau arbennig ar sail croniadau.
Yn 2020 i 2021, cafwyd un golled dros £300k fel a ganlyn: £1,965k yn daladwy i CThEM mewn perthynas â rhwymedigaethau IR35 yn deillio o asesiadau anghywir o statws cyflogaeth gweithwyr.
Yn 2019, heriodd CThEM grŵp y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ailedrych ar benderfyniadau ynghylch statws cyflogaeth ar gyfer yr holl weithwyr oddi ar y gyflogres a ddefnyddiwyd rhwng 6 Ebrill 2017 a 5 Ebrill 2020, lle yr oedd wedi penderfynu eisoes bod gweithwyr yn gweithredu y tu allan i reolau gweithio oddi ar y gyflogres. Mae’r rhwymedigaeth hon wedi crisialu ac yn meintioli’r rhwymedigaeth ddibynnol a ddatgelwyd yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019 i 2020 y Weinyddi-aeth Gyfiawnder. Gan y gallai’r adran fod wedi osgoi’r taliadau treth ac Yswiriant Gwladol hyn pe bai dyfarniad gwahanol wedi’i wneud yn wreiddiol, mae’r rhwymedigaeth yn cael ei dosbarthu’n ddi-fudd. Mae’r swm a ddatgelwyd yn ymwneud â gweithwyr oddi ar y gyflogres a oedd yn cael eu cyflogi gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Ildio ffioedd yn ôl disgresiwn
Rhoddir ildiad ffi naill ai yn unol â’r offeryn statudol pan nad yw’r rhoddwr/person sy’n destun y gorchymyn dirprwyaeth yn gymwys i gael esemptiad neu ddilead ond yn ôl dyfarniad y Gwarcheidwad Cyhoeddus, byddai talu’r ffi yn achosi caledi gormodol i gydnabod camweinyddu.
Rhwymedigaethau digwyddiadol o bell (yn amodol ar archwiliad)
Nid oes rhwymedigaethau digwyddiadol o bell (2019 i 2020: dim).
Rhoddion (yn amodol ar archwiliad)
Nid oedd y rhoddion a wnaed gan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn 2020 i 2020 a 2019 i 2020 yn fwy na’r trothwy adrodd o £300,000.
Nick Goodwin
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
13 Gorffennaf 2021
Tystysgrif ac adroddiad y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol i ddau Dŷ’r Senedd
Barn ar y datganiadau ariannol
Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021 dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000. Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys: Datganiadau o Wariant Net Cynhwysfawr, Sefyllfa Ariannol, Llif Arian Parod, Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr; a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu pwysig. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd wrth eu paratoi yw’r gyfraith berthnasol a safonau cyfrifyddu rhyngwladol fel y’u dehonglwyd yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth gan Drysorlys EM.
Rwyf hefyd wedi archwilio’r wybodaeth yn yr Adroddiad Atebolrwydd y nodir ei bod wedi’i harchwilio yn yr adroddiad hwnnw.
Yn fy marn i, mae’r datganiadau ariannol:
-
yn rhoi darlun cywir a theg o gyflwr materion Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 31 Mawrth 2021 a’i diffyg gweithredol net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar y dyddiad hwnnw; ac
-
wedi’u paratoi’n briodol yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a chyfarwyddiadau Trysorlys ei Mawrhydi a gyhoeddwyd dan y ddeddf.
Barn ar reoleidd-dra
Yn fy marn i, ym mhob ffordd o bwys mae’r incwm a’r gwariant a gofnodir yn y datganiadau ariannol wedi cael eu defnyddio at y dibenion y’u bwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodir yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.
Sail y farn
Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (y DU) a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwilio Datganiadau Ariannol Endidau Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig’. Caiff fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yng nghyfrifoldebau’r Archwilydd er mwyn archwilio adran datganiadau ariannol fy nhystysgrif.
Mae’r safonau hynny’n ei gwneud yn ofynnol i mi a fy staff gydymffurfio â Safon Moesegol Diwygiedig y Cyngor Adrodd Ariannol 2019. Rwyf hefyd wedi dewis cymhwyso’r safonau moesegol sy’n berthnasol i endidau a restrir. Rwyf yn annibynnol ar Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad a’r datganiadau ariannol yn y DU. Mae fy staff a minnau wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn.
Credaf fod y dystiolaeth rwyf wedi’i chasglu o’r archwiliad yn ddigonol ac yn briodol er mwyn rhoi sail ar gyfer fy marn.
Casgliadau’n ymwneud â busnes byw
Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod defnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o sail cyfrifyddu busnes byw wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.
Ar sail y gwaith rwyf wedi’i wneud, nid wyf wedi nodi unrhyw ansicrwydd o bwys sy’n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i barhau fel busnes byw am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o’r adeg yr awdurdodir cyhoeddi’r datganiadau ariannol.
Disgrifir fy nghyfrifoldebau a chyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes byw yn adrannau perthnasol y dystysgrif hon.
Mae’r sail cyfrifyddu busnes byw ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei mabwysiadu wrth ystyried y gofynion a nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Llywodraeth Trysorlys EM sy’n mynnu bod endidau’n mabwysiadu’r sail cyfrifyddu busnes byw wrth baratoi’r datganiadau ariannol lle’r oedd yn rhagweld y byddai’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau i’r dyfodol.
Gwybodaeth Arall
Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys gwybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol, ond nid yw’n cynnwys rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd y nodir eu bod wedi’u harchwilio yn yr adroddiad hwnnw, y datganiadau ariannol a’m tystysgrif archwilio ar hynny. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall. Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cynnwys yr wybodaeth arall ac eithrio i’r graddau a nodir yn benodol yn fy nhystysgrif, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd arno. Yng nghyswllt fy archwiliad o’r datganiadau ariannol, fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall a, drwy wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn sylweddol anghyson â’r datganiadau ariannol neu fy ngwybodaeth a gafwyd yn yr archwiliad neu sydd yn ymddangos fel camddatganiad sylweddol fel arall. Os byddaf yn canfod anghysonderau o bwys neu gamddatganiadau o bwys amlwg o’r fath, mae’n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad o bwys yn y datganiadau ariannol eu hunain. Ar sail y gwaith rwyf wedi’i wneud, os byddaf yn dod i’r casgliad bod camddatganiad o bwys o’r wybodaeth arall hon, mae’n rhaid i mi adrodd ar y ffaith honno.
Nid oes gennyf ddim i’w adrodd i’r perwyl hwn.
Barn ar faterion eraill
Yn fy marn i, ar sail y gwaith a wnaed yn ystod yr archwiliad:
- mae’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd sydd i’w harchwilio wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys ei Mawrhydi a wnaed dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon 2000 y Llywodraeth; ac
- mae’r wybodaeth yn yr Adroddiadau Perfformiad ac Atebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r datganiadau ariannol wedi’u paratoi ar ei chyfer yn cyd-fynd â’r datganiadau ariannol
Materion y cyflwynaf adroddiad arnynt drwy eithriad
Yng ngoleuni fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’i hamgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi dod o hyd i unrhyw gamddatganiadau materol yn yr Adroddiad Perfformiad na’r Adroddiad Atebolrwydd. Nid oes gennyf ddim i’w adrodd yng nghyswllt y materion canlynol lle mae’n ofynnol i mi roi gwybod i chi os ydw i’n credu:
- nad oes digon o gofnodion cyfrifyddu wedi’u cadw neu os nad oes ffurflenni perthnasol i’n harchwiliad wedi cael eu cyflwyno gan ganghennau nad yw ein staff wedi ymweld â nhw; neu
- os nad yw’r datganiadau ariannol a rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd a fydd yn cael ei archwilio’n cyd-fynd â’r cofnodion cyfrifyddu a’r ffurflenni; neu
- nad yw rhai o’r taliadau a nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth gan Drysorlys EM yn cael eu datgelu; neu
- Nid wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad; neu
- nid yw’r Datganiad Llywodraethu’n adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EM.
Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu dros y datganiadau ariannol
Fel yr eglurir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, mae’r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am y canlynol:
-
paratoi’r datganiadau ariannol yn unol â’r fframwaith adrodd ariannol perthnasol ac ar gyfer bod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg;
-
rheolaethau mewnol y mae’r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu yn penderfynu sy’n angenrheidiol i alluogi paratoi datganiadau ariannol i fod yn rhydd o gamddatganiadau o bwys, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad.
-
asesu gallu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i barhau fel busnes byw, gan ddatgelu, fel y bo’n berthnasol, faterion sy’n gysylltiedig â busnes byw a defnyddio’r sail cyfrifyddu busnes byw oni fo’r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.
Cyfrifoldebau’r Archwilydd dros archwilio’r datganiadau ariannol
Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio, ardystio ac adrodd ar y datganiadau ariannol yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.
Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau o bwys, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, a rhoi tystysgrif sy’n cynnwys fy marn i. Mae sicrwydd rhesymol yn golygu lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw hynny’n gwarantu bod archwiliad sy’n cael ei gynnal yn unol ag ISA (DU) bob amser yn canfod camddatganiadau sylweddol. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wallau ac maent yn cael eu hystyried yn gamddatganiadau o bwys os, yn unigol neu gyda’i gilydd, y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr sydd wedi’u gwneud ar sail y datganiadau ariannol hyn.
Rwy’n dylunio gweithdrefnau yn unol â fy nghyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol yng nghyswllt peidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll.
Roedd fy ngweithdrefnau’n cynnwys y canlynol:
- Holi rheolwyr a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennau ategol sy’n ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n ymwneud â’r canlynol:
- canfod, gwerthuso a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau ac a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio;
- canfod ac ymateb i risgiau twyll ac a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, twyll a amheuir neu dwyll honedig; a’r
- rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau gan gynnwys rheolaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n ymwneud â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a Rheoli Arian Cyhoeddus;
- trafod ymysg y tîm ymgysylltu, ynghylch sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll. Fel rhan o’r drafodaeth hon, nodais y posibilrwydd o dwyll yn y meysydd canlynol: cydnabod refeniw, postio cyfnodolion anarferol, amcangyfrifon cyfrifyddu ac yn benodol cyfrifo’r lwfans amhariad symiau derbyniadwy;
- cael dealltwriaeth o fframwaith awdurdod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae’r endid a archwiliwyd yn gweithredu ynddynt, gan ganolbwyntio ar y cyfreithiau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’r prif ddeddfau a rheoliadau y rhoddais ystyriaeth iddynt yn y cyd-destun hwn, yn cynnwys Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth 2020-21 a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol a gyhoeddwyd yno dan Reoliadau Rheoli Arian Cyhoeddus, Cyfraith Cyflogaeth, Pensiynau a Threthi, deddfau diogelu data a’r Ddeddf Galluedd Meddyliol.
Yn ogystal â’r uchod, roedd fy ngweithdrefnau i ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol:
- adolygu datgeliadau’r datganiadau ariannol a phrofi dogfennau ategol i asesu cydymffurfiad â’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
- holi rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r cwnsler cyfreithiol mewnol ynghylch ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
- darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu a’r Bwrdd;
- wrth fynd i’r afael â’r risg o dwyll drwy ddiystyru rheolaethau gan reolwyr, profi priodoldeb cofnodion dyddlyfrau ac addasiadau eraill; asesu a yw’r penderfyniadau a wneir wrth wneud amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o ragfarn bosibl; a gwerthuso rhesymeg busnes unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu y tu allan i gwrs arferol busnes.
- sicrhau bod yr incwm a godir yn unol â’r cyfraddau ffioedd a nodir yn y ddeddfwriaeth a bod y dileadau a ganiateir yn bodloni’r gofynion cymhwyster yn y ddeddfwriaeth.
Rwyf hefyd wedi cyfleu’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a nodwyd a’r risgiau posibl o ran twyll i holl aelodau’r tîm ymgysylltu, gan gynnwys arbenigwyr mewnol a thimau archwilio cydrannau sylweddol, ac roeddwn yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.
Mae disgrifiad pellach o fy nghyfrifoldebau dros archwilio’r datganiadau ariannol ar gael ar wefan y Cyngor Adroddiadau Ariannol yn: www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae’r disgrifiad hwn yn rhan o fy nhystysgrif.
Ar ben hynny, rhaid i mi gael tystiolaeth sy’n ddigon i roi sicrwydd rhesymol bod yr incwm a’r gwariant yr adroddir arnynt yn y datganiadau ariannol wedi cael eu defnyddio at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a’r trafodion ariannol i gydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.
Rwyf yn cyfathrebu â’r rheini sydd yn gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymysg materion eraill, cwmpas ac amseriad yr archwiliad a chanfyddiadau pwysig yr archwiliad, gan gynnwys unrhyw ddiffygion sylweddol mewn rheolaeth fewnol y byddaf yn dod o hyd iddynt yn ystod fy archwiliad.
Datganiad cyflenwad seneddol
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei hariannu’n bennaf o ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol, ond mae hefyd yn cael cyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, o’i Chyflenwad Seneddol.
Yn yr un modd ag asiantaethau eraill y llywodraeth, rhaid i gyllid ar gyfer y dyfodol gael ei gymeradwyo gan yr Adran noddi, a chan y Senedd. Rhoddwyd cymeradwyaeth eisoes ar gyfer 2021 i 2022 ac mae’r cyfrifon hyn wedi cael eu paratoi ar sail busnes byw ar gyfer adrodd ariannol a phrisio asedau.
Os nad yw’r ffioedd a gynhyrchir yn ddigon i dalu costau mewn blwyddyn ariannol, bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder, fel y rhiant-adran, yn darparu’r arian i dalu am unrhyw ddiffyg a gynhyrchir, os bydd angen.
Rheoleidd-dra gwariant (yn amodol ar archwiliad)
Mae’r Prif Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dynodi Prif Weithredwr yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer yr asiantaeth. Mae cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, gan gynnwys cyfrifoldeb dros briodoldeb a chysondeb y cyllid cyhoeddus y mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol amdanynt, cadw cofnodion cywir ac amddiffyn asedau’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, wedi’u nodi yn Rheoli Arian Cyhoeddus
Ffioedd a thaliadau (yn amodol ar archwiliad)
Ym mis Ebrill 2017, gostyngodd y ffi am gofrestru atwrneiaeth i £82.00. Mae hon yn ffi uwch o dan Adran 180 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, sy’n caniatáu i’r Arglwydd Ganghellor, gyda chydsyniad y Trysorlys, i osod ffi sy’n fwy na chost darparu’r gwasanaeth hwnnw. Mewn blynyddoedd blaenorol, rydym wedi defnyddio’r pŵer hwn i godi ffi uwch ar gyfer cofrestru atwrneiaethau i dalu am gostau dileu ffioedd ac esemptiad rhag talu ffioedd ac i sybsideiddio costau gweithredu’r gwasanaeth goruchwylio.
Fodd bynnag, roedd gostyngiad sylweddol yn nifer y ceisiadau atwrneiaethau, a achoswyd gan bandemig COVID-19, wedi golygu bod y gwasanaeth atwrneiaethau wedi cofnodi diffyg o £6.7m yn 2020 i 2021, sy’n cyfateb i tua £9.68 y cais. Nid oedd gwarged ar gael i draws-sybsideiddio’r gwasanaeth goruchwylio Mae costau llawn darparu gwasanaethau’r asiantaeth a’r ffioedd a godir mewn perthynas â hyn wedi’u nodi yn y tabl isod.
Cyfanswm incwm uned | Cost lawn | Cost | Gor-dâl/ croes-gymhorthdal |
|
£000 | £000 | £ | £000 | |
Atwrneiaethau arhosol | 50,697 | 57,435 | 84 | 6,738 |
Atwrneiaethau parhaus | 661 | 617 | 84 | (44) |
Penodi Dirprwy | 841 | 2,736 | 266 | 1,895 |
Goruchwylio | 9,761 | 20,061 | 342 | 10,300 |
Copïau swyddfa | 299 | 281 | 33 | (18) |
Nid yw’r tabl uchod yn cynnwys incwm o ffioedd Gwarcheidwadaeth oherwydd y nifer isel o achosion.
Ffioedd a ddilëwyd
Cafodd 82,439 o ffioedd eu dileu neu eu heithrio. Cyfanswm y gwerth oedd £6.568k (2019 i 2020: 114,036 achos – £7,944k) fel y disgrifiwyd yn Nodyn 2). Ni chynhwysir hawlildiad o ffioedd yn y ffigurau hyn.
Adennill costau
Adenillodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 76.7% o’i chostau, gan gofnodi diffyg o £18.9m. Gyrrwyd hyn yn bennaf gan ostyngiad o 25% yn nifer y ceisiadau newydd am atwrneiaethau a dderbyniwyd, yn enwedig pan oedd y cyfyngiadau symud a’r mesurau cadw pellter cymdeithasol eraill ar waith. Y galw i gofrestru atwrneiaethau yw un o’r prif sbardunau ar gyfer perfformiad ariannol yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus . Dyma’r flwyddyn gyntaf i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fethu ag adennill costau’n llawn. (gweler nodyn 6 yn y datganiadau ariannol).
Cynllun ad-dalu ffioedd hanesyddol
Yn 2016 i 2017, gwnaethom gyhoeddi y byddai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn lansio cynllun ar gyfer ad-dalu cyfran o’r ffi i gwsmeriaid a allai fod wedi talu mwy nag y dylent yn ystod cyfnod o bedair blynedd. Penodwyd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflwyno’r cynllun, a lansiwyd ar 1 Chwefror 2018. Talwyd dros 270,000 o ad-daliadau (£14.5m) mewn perthynas â ffioedd atwrneiaethau.
Lansiwyd y cynllun ad-dalu ar gyfer achosion goruchwylio ym mis Hydref 2019, a bydd yn dod i ben ymhen tair blynedd. Nifer posibl yr achosion gweithredol a chaeedig cyfunol yr effeithiwyd arnynt oedd tua 82,000. Cost ddisgwyliedig y cynllun hwnnw yw hyd at £18m. Hyd yma, mae 19,690 o achosion wedi cael eu had-dalu, sef cyfanswm o £6.1m. Mae £80k arall wedi cael ei dalu hyd yma mewn perthynas â cheisiadau am ad-daliad a dderbyniwyd ar gyfer 274 o achosion caeedig. Daeth y gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer ad-daliadau ffioedd Atwrneiaeth i ben ar 31 Ionawr 2021, ac o ganlyniad rhagwelir y bydd nifer y ceisiadau’n gostwng. Bydd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i dderbyn ceisiadau drwy’r post am ad-daliadau ffioedd Atwrneiaeth a Goruchwyliaeth tan Ionawr 2024 a Hydref 2025 yn y drefn honno. Mae gwybodaeth ariannol sy’n ymwneud â’r cynllun wedi cael ei chofnodi yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Colledion a thaliadau arbennig (yn amodol ar archwiliad)
2019 i 2020 | 2018 i 2019 | |||
Nifer | £000 | Nifer | £000 | |
Taliadau iawndal | 1 | 15 | - | - |
Costau cyfreithiol anffafriol | 6 | 14 | - | - |
Taliadau di-fudd | 1 | 1,965 | - | - |
Ildio ffioedd | 6,478 | 513 | 7,808 | 647 |
Dileu symiau nad ydynt yn ffioedd | 28 | 4 | - | - |
Ex gratia | 118 | 46 | 712 | 24 |
Colledion arian parod | 113 | 10 | - | - |
Adroddwyd am yr holl golledion a thaliadau arbennig ar sail croniadau.
Yn 2020 i 2021, cafwyd un golled dros £300k fel a ganlyn: £1,965k yn daladwy i CThEM mewn perthynas â rhwymedigaethau IR35 yn deillio o asesiadau anghywir o statws cyflogaeth gweithwyr.
Yn 2019, heriodd CThEM grŵp y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ailedrych ar benderfyniadau ynghylch statws cyflogaeth ar gyfer yr holl weithwyr oddi ar y gyflogres a ddefnyddiwyd rhwng 6 Ebrill 2017 a 5 Ebrill 2020, lle yr oedd wedi penderfynu eisoes bod gweithwyr yn gweithredu y tu allan i reolau gweithio oddi ar y gyflogres. Mae’r rhwymedigaeth hon wedi crisialu ac yn meintioli’r rhwymedigaeth ddibynnol a ddatgelwyd yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019 i 2020 y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Gan y gallai’r adran fod wedi osgoi’r taliadau treth ac Yswiriant Gwladol hyn pe bai dyfarniad gwahanol wedi’i wneud yn wreiddiol, mae’r rhwymedigaeth yn cael ei dosbarthu’n ddi-fudd. Mae’r swm a ddatgelwyd yn ymwneud â gweithwyr oddi ar y gyflogres a oedd yn cael eu cyflogi gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Ildio ffioedd yn ôl disgresiwn
Rhoddir ildiad ffi naill ai yn unol â’r offeryn statudol pan nad yw’r rhoddwr/person sy’n destun y gorchymyn dirprwyaeth yn gymwys i gael esemptiad neu ddilead ond yn ôl dyfarniad y Gwarcheidwad Cyhoeddus, byddai talu’r ffi yn achosi caledi gormodol i gydnabod camweinyddu.
Rhwymedigaethau digwyddiadol o bell (yn amodol ar archwiliad)
Nid oes rhwymedigaethau digwyddiadol o bell (2019 i 2020: dim).
Rhoddion (yn amodol ar archwiliad)
Nid oedd y rhoddion a wnaed gan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn 2020 i 2021 a 2019 i 2020 yn fwy na’r trothwy adrodd o £300,000.
Nick Goodwin
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
13 Gorffennaf 2021
Tystysgrif ac adroddiad y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol i ddau Dŷ’r Senedd
Barn ar y datganiadau ariannol
Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021 dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000. Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys: Datganiadau o Wariant Net Cynhwysfawr, Sefyllfa Ariannol, Llif Arian Parod, Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr; a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu pwysig. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd wrth eu paratoi yw’r gyfraith berthnasol a safonau cyfrifyddu rhyngwladol fel y’u dehonglwyd yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth gan Drysorlys EM.
Rwyf hefyd wedi archwilio’r wybodaeth yn yr Adroddiad Atebolrwydd y nodir ei bod wedi’i harchwilio yn yr adroddiad hwnnw.
Yn fy marn i, mae’r datganiadau ariannol:
-
yn rhoi darlun cywir a theg o gyflwr materion Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 31 Mawrth 2021 a’i diffyg gweithredol net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar y dyddiad hwnnw; ac
-
wedi’u paratoi’n briodol yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a chyfarwyddiadau Trysorlys ei Mawrhydi a gyhoeddwyd dan y ddeddf.
Barn ar reoleidd-dra
Yn fy marn i, ym mhob ffordd o bwys mae’r incwm a’r gwariant a gofnodir yn y datganiadau ariannol wedi cael eu defnyddio at y dibenion y’u bwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodir yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.
Sail y farn
Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (y DU) a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwilio Datganiadau Ariannol Endidau Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig’. Caiff fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yng nghyfrifoldebau’r Archwilydd er mwyn archwilio adran datganiadau ariannol fy nhystysgrif.
Mae’r safonau hynny’n ei gwneud yn ofynnol i mi a fy staff gydymffurfio â Safon Moesegol Diwygiedig y Cyngor Adrodd Ariannol 2019. Rwyf hefyd wedi dewis cymhwyso’r safonau moesegol sy’n berthnasol i endidau a restrir. Rwyf yn annibynnol ar Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad a’r datganiadau ariannol yn y DU. Mae fy staff a minnau wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn.
Credaf fod y dystiolaeth rwyf wedi’i chasglu o’r archwiliad yn ddigonol ac yn briodol er mwyn rhoi sail ar gyfer fy marn.
Casgliadau’n ymwneud â busnes byw
Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod defnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o sail cyfrifyddu busnes byw wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.
Ar sail y gwaith rwyf wedi’i wneud, nid wyf wedi nodi unrhyw ansicrwydd o bwys sy’n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i barhau fel busnes byw am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o’r adeg yr awdurdodir cyhoeddi’r datganiadau ariannol.
Disgrifir fy nghyfrifoldebau a chyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes byw yn adrannau perthnasol y dystysgrif hon.
Mae’r sail cyfrifyddu busnes byw ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei mabwysiadu wrth ystyried y gofynion a nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Llywodraeth Trysorlys EM sy’n mynnu bod endidau’n mabwysiadu’r sail cyfrifyddu busnes byw wrth baratoi’r datganiadau ariannol lle’r oedd yn rhagweld y byddai’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau i’r dyfodol.
Gwybodaeth Arall
Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys gwybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol, ond nid yw’n cynnwys rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd y nodir eu bod wedi’u harchwilio yn yr adroddiad hwnnw, y datganiadau ariannol a’m tystysgrif archwilio ar hynny. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall. Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cynnwys yr wybodaeth arall ac eithrio i’r graddau a nodir yn benodol yn fy nhystysgrif, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd arno. Yng nghyswllt fy archwiliad o’r datganiadau ariannol, fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall a, drwy wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn sylweddol anghyson â’r datganiadau ariannol neu fy ngwybodaeth a gafwyd yn yr archwiliad neu sydd yn ymddangos fel camddatganiad sylweddol fel arall. Os byddaf yn canfod anghysonderau o bwys neu gamddatganiadau o bwys amlwg o’r fath, mae’n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad o bwys yn y datganiadau ariannol eu hunain. Ar sail y gwaith rwyf wedi’i wneud, os byddaf yn dod i’r casgliad bod camddatganiad o bwys o’r wybodaeth arall hon, mae’n rhaid i mi adrodd ar y ffaith honno.
Nid oes gennyf ddim i’w adrodd i’r perwyl hwn.
Barn ar faterion eraill
Yn fy marn i, ar sail y gwaith a wnaed yn ystod yr archwiliad:
- mae’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd sydd i’w harchwilio wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys ei Mawrhydi a wnaed dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon 2000 y Llywodraeth; ac
- mae’r wybodaeth yn yr Adroddiadau Perfformiad ac Atebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r datganiadau ariannol wedi’u paratoi ar ei chyfer yn cyd-fynd â’r datganiadau ariannol.
Materion y cyflwynaf adroddiad arnynt drwy eithriad
Yng ngoleuni fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’i hamgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi dod o hyd i unrhyw gamddatganiadau materol yn yr Adroddiad Perfformiad na’r Adroddiad Atebolrwydd. Nid oes gennyf ddim i’w adrodd yng nghyswllt y materion canlynol lle mae’n ofynnol i mi roi gwybod i chi os ydw i’n credu:
- nad oes digon o gofnodion cyfrifyddu wedi’u cadw neu os nad oes ffurflenni perthnasol i’n harchwiliad wedi cael eu cyflwyno gan ganghennau nad yw ein staff wedi ymweld â nhw; neu
- os nad yw’r datganiadau ariannol a rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd a fydd yn cael ei archwilio’n cyd-fynd â’r cofnodion cyfrifyddu a’r ffurflenni; neu
- nad yw rhai o’r taliadau a nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth gan Drysorlys EM yn cael eu datgelu; neu
- Nid wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad; neu
- nid yw’r Datganiad Llywodraethu’n adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EM.
Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu dros y datganiadau ariannol
Fel yr eglurir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, mae’r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am y canlynol:
- paratoi’r datganiadau ariannol yn unol â’r fframwaith adrodd ariannol perthnasol ac ar gyfer bod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg;
- rheolaethau mewnol y mae’r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu yn penderfynu sy’n angenrheidiol i alluogi paratoi datganiadau ariannol i fod yn rhydd o gamddatganiadau o bwys, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad.
- asesu gallu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i barhau fel busnes byw, gan ddatgelu, fel y bo’n berthnasol, faterion sy’n gysylltiedig â busnes byw a defnyddio’r sail cyfrifyddu busnes byw oni fo’r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.
Cyfrifoldebau’r Archwilydd dros archwilio’r datganiadau ariannol
Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio, ardystio ac adrodd ar y datganiadau ariannol yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.
Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau o bwys, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, a rhoi tystysgrif sy’n cynnwys fy marn i. Mae sicrwydd rhesymol yn golygu lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw hynny’n gwarantu bod archwiliad sy’n cael ei gynnal yn unol ag ISA (DU) bob amser yn canfod camddatganiadau sylweddol. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wallau ac maent yn cael eu hystyried yn gamddatganiadau o bwys os, yn unigol neu gyda’i gilydd, y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr sydd wedi’u gwneud ar sail y datganiadau ariannol hyn.
Rwy’n dylunio gweithdrefnau yn unol â fy nghyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol yng nghyswllt peidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll.
Roedd fy ngweithdrefnau’n cynnwys y canlynol:
- Holi rheolwyr a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennau ategol sy’n ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n ymwneud â’r canlynol:
- canfod, gwerthuso a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau ac a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio;
- canfod ac ymateb i risgiau twyll ac a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, twyll a amheuir neu dwyll honedig; a’r
- rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau gan gynnwys rheolaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n ymwneud â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a Rheoli Arian Cyhoeddus;
- trafod ymysg y tîm ymgysylltu, ynghylch sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll. Fel rhan o’r drafodaeth hon, nodais y posibilrwydd o dwyll yn y meysydd canlynol: cydnabod refeniw, postio cyfnodolion anarferol, amcangyfrifon cyfrifyddu ac yn benodol cyfrifo’r lwfans amhariad symiau derbyniadwy;
- ael dealltwriaeth o fframwaith awdurdod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae’r endid a archwiliwyd yn gweithredu ynddynt, gan ganolbwyntio ar y cyfreithiau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’r prif ddeddfau a rheoliadau y rhoddais ystyriaeth iddynt yn y cyd-destun hwn, yn cynnwys Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth 2020 i 2021 (FReM) a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol a gyhoeddwyd yno dan Reoliadau Rheoli Arian Cyhoeddus, Cyfraith Cyflogaeth, Pensiynau a Threthi, deddfau diogelu data a’r Ddeddf Galluedd Meddyliol.
Yn ogystal â’r uchod, roedd fy ngweithdrefnau i ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol:
- adolygu datgeliadau’r datganiadau ariannol a phrofi dogfennau ategol i asesu cydymffurfiad â’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
- holi rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r cwnsler cyfreithiol mewnol ynghylch ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
- darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu a’r Bwrdd;
- wrth fynd i’r afael â’r risg o dwyll drwy ddiystyru rheolaethau gan reolwyr, profi priodoldeb cofnodion dyddlyfrau ac addasiadau eraill; asesu a yw’r penderfyniadau a wneir wrth wneud amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o ragfarn bosibl; a gwerthuso rhesymeg busnes unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu y tu allan i gwrs arferol busnes.
- sicrhau bod yr incwm a godir yn unol â’r cyfraddau ffioedd a nodir yn y ddeddfwriaeth a bod y dileadau a ganiateir yn bodloni’r gofynion cymhwyster yn y ddeddfwriaeth.
Rwyf hefyd wedi cyfleu’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a nodwyd a’r risgiau posibl o ran twyll i holl aelodau’r tîm ymgysylltu, gan gynnwys arbenigwyr mewnol a thimau archwilio cydrannau sylweddol, ac roeddwn yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.
Mae disgrifiad pellach o fy nghyfrifoldebau dros archwilio’r datganiadau ariannol ar gael ar wefan y Cyngor Adroddiadau Ariannol yn: www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae’r disgrifiad hwn yn rhan o fy nhystysgrif.
Ar ben hynny, rhaid i mi gael tystiolaeth sy’n ddigon i roi sicrwydd rhesymol bod yr incwm a’r gwariant yr adroddir arnynt yn y datganiadau ariannol wedi cael eu defnyddio at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a’r trafodion ariannol i gydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.
Rwyf yn cyfathrebu â’r rheini sydd yn gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymysg materion eraill, cwmpas ac amseriad yr archwiliad a chanfyddiadau pwysig yr archwiliad, gan gynnwys unrhyw ddiffygion sylweddol mewn rheolaeth fewnol y byddaf yn dod o hyd iddynt yn ystod fy archwiliad.
Adroddiad
Nid oes gennyf sylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.
Gareth Davies
Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol
14 Gorffennaf 2021
Swyddfa Archwilio Genedlaethol
157-197 Buckingham Palace Road
Victoria, Llundain
SW1W 9SP
Datganiadau ariannol
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021
Nodyn |
2020 i 2021 £’000 |
2019 i 2020 £’000 |
|
Costau staff | 3 | 51,239 | 48,355 |
Costau gweithredu eraill | 4 | 10,688 | 13,917 |
Gwariant anariannol arall | 5 | 19,203 | 16,167 |
Refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid | 2 | (62,262) | (78,996) |
Gwarged net gweithredol | (18,868) | (557) |
Gwariant Net Cynhwysfawr Arall ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021
Nodyn |
2020 i 2021 £’000 |
2019 i 2020 £’000 |
|
Eitemau na chânt eu hailgategoreiddio i’r diffyg net gweithredol (gwarged) | £’000 | £’000 | |
Colled/(enillion) net ar ailbrisio eiddo, offer a chyfarpar | 7 | (6) | (28) |
Enillion net ar ailbrisio asedau anniriaethol | 8 | (20) | (9) |
Cyfanswm incwm a gwariant cynhwysfawr | (18,854) | (594) |
Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol ar 31 Mawrth 2021
Nodyn | 31 Mawrth 2021 | 31 Mawrth 2020 | |
£’000 | £’000 | ||
Asedau anghyfredol | |||
Eiddo, offer a chyfarpar | 7 | 882 | 1,833 |
Asedau anniriaethol | 8 | 674 | 1,328 |
Cyfanswm asedau anghyfredol | 1,496 | 3,161 | |
Asedau cyfredol | |||
Masnach a symiau derbyniadwy eraill | 9 | 9,310 | 14,022 |
Arian parod a chyfwerth ag arian parod | 10 | 6,429 | 5,416 |
Cyfanswm asedau cyfredol | 15,739 | 19,438 | |
Cyfanswm asedau | 17,235 | 22,599 | |
Rhwymedigaethau cyfredol | |||
Masnach a symiau taladwy eraill | 11 | (28,497) | (20,774) |
Darpariaethau | 12 | (683) | (241) |
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol | (29,180) | (21,015) | |
Cyfanswm yr asedau llai’r rhwymedigaethau cyfredol | (11,945) | 1,584 | |
Rhwymedigaethau anghyfredol | |||
Masnach a symiau taladwy eraill | 11 | (153) | (478) |
Darpariaethau | 12 | (829) | (620) |
Cyfanswm rhwymedigaethau anghyfredol | (982) | (1,098) | |
Cyfanswm yr asedau llai cyfanswm y rhwymedigaethau | (12,927) | 486 | |
Ecwiti trethdalwyr | |||
Y gronfa gyffredinol | 13,014 | (264) | |
Y gronfa ailbrisio wrth gefn | (87) | (222) | |
Cyfanswm ecwiti Trethdalwyr | 12,927 | (486) |
Nick Goodwin
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
13 Gorffennaf 2021
Datganiad Llif Arian ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021
Nodyn |
2020 i 2021 £’000 |
2019 i 2020 £’000 |
|
Llif arian o weithgareddau gweithredol | |||
Gwarged net gweithredol | SoCNE | (18,868) | 557 |
Taliadau nad ydynt yn arian parod | 5 | 19,203 | 16,167 |
335 | 16,724 | ||
Gostyngiad/(cynnydd) mewn masnach a symiau derbyniadwy | 5 & 9 | 916 | 53 |
Cynnydd mewn symiau masnach a symiau taladwy eraill | 11 | 7,466 | 1,199 |
Defnyddio darpariaethau a setlwyd gan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus | 12 | 6 | 0 |
Mewnlif arian net o weithgareddau gweithredol | 8,711 | 17,976 | |
Llif arian parod o weithgareddau buddsoddi | |||
Prynu eiddo, offer a chyfarpar | 7 & 11 | (99) | 0 |
Prynu asedau anniriaethol | 8 & 11 | 0 | (1,901) |
All-lif arian parod net o weithgareddau buddsoddi | (99) | (1,901) | |
Llif arian o weithgareddau ariannu | |||
Trosglwyddiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder | (7,599) | (20,406) | |
All-lif arian parod net o weithgareddau cyllido | (7,599) | (20,406) | |
Gostyngiad)/cynnydd net mewn arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod | 10 | 1,013 | (4,331) |
Arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod ar ddechrau’r flwyddyn | 10 | 5,416 | 9,747 |
Arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y flwyddyn | 10 | 6,429 | 5,416 |
Datganiad Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021
Nodyn | General fund £000 |
Revaluation reserve £000 |
||
Balans ar 01 Ebrill 2020 | (264) | (222) | ||
Tâl yr Archwilydd | 5 | (63) | 0 | |
Gwarged gweithredu net am y flwyddyn | SoCNE | 18,868 | 0 | |
Symudiad yng nghronfeydd wrth gefn y Weinyddiaeth Gyfiawnder* | 7,599 | 0 | ||
Enillion net ar ailbrisio: | ||||
Eiddo, offer a chyfarpar | 7 | 0 | 6 | |
Asedau anniriaethol | 8 | 0 | (20) | |
Trosglwyddiad ailbrisio | (149) | 149 | ||
Elfen dybiannol ad-gostau adrannol** | 5 | (12,977) | 0 | |
Balans ar 31 Mawrth 2021 | 13,014 | (87) |
*£12,977k yw’r gost dybiannol i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan bencadlys y Weinyddiaeth Gyfiawnder am wasanaethau cefnogi corfforaethol.
**£12,977k yw’r gost dybiannol i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan bencadlys y Weinyddiaeth Gyfiawnder am wasanaethau cefnogi corfforaethol.
Note | Y gronfa gyffredinol £000 |
Ailbrisio cronfa wrth gefn £000 |
|
Balans ar 01 Ebrill 2019 | (12,598) | (407) | |
Tâl yr Archwilydd | 5 | (63) | 0 |
Gwarged gweithredu net am y flwyddyn | SoCNE | (557) | 0 |
Symudiad yng nghronfeydd wrth gefn y Weinyddiaeth Gyfiawnder | 26,153 | 0 | |
Enillion net ar ailbrisio: | |||
Eiddo, offer a chyfarpar | 7 | 0 | (28) |
Asedau anniriaethol | 8 | 0 | (9) |
Trosglwyddiad ailbrisio | (222) | 222 | |
Elfen dybiannol ad-gostau adrannol** | 5 | (12,977) | 0 |
Balans ar 31 Mawrth 2020 | (264) | (222) |
*Mae symudiad o £26,153k yn y cronfeydd wrth gefn yn cynrychioli trosglwyddiad balansau arian parod dros ben o’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i bencadlys y Weinyddiaeth Gyfiawnder, setliad balansau rhwng cwmnïau a throsglwyddo asedau anniriaethol sydd wrthi’n cael eu hadeiladu i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
**£12,977k yw’r gost dybiannol i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan bencadlys y Weinyddiaeth Gyfiawnder am wasanaethau cefnogi corfforaethol.
Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021
1. Datganiad polisïau cyfrifyddu
1.1. Sail paratoi
Mae’r cyfrifon hyn wedi cael eu paratoi yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth 2019/20 a gyhoeddir gan Drysorlys EM o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a chyfarwyddiadau’r Ysgrifennydd Gwladol a gyhoeddwyd o dan y ddeddf. Mae’r polisïau cyfrifo a gynhwysir yn FReM yn defnyddio Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol fel y’u haddaswyd neu y’u dehonglwyd ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus.
Pan fydd y Llawlyfr yn caniatáu dewis o ran polisi cyfrifyddu, dewiswyd y polisi cyfrifyddu y tybiwyd iddo fod yr un mwyaf priodol i amgylchiadau penodol yr asiantaeth er mwyn gallu rhoi darlun cywir a theg. Mae polisïau cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’u rhoi ar waith yn gyson wrth ymdrin â’r eitemau a ystyriwyd yn berthnasol yng nghyswllt y cyfrifon hyn.
Nid yw’r Datganiad Gwariant Net Cynhwysfawr wedi’i rannu rhwng gwariant net gweinyddu a rhaglenni, gan fod gwariant net yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei ddosbarthu fel rhaglen 100%. Mae hyn yn seiliedig ar asesiad o’r gwaith a wneir gan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, sef gwasanaethau rheng flaen yn bennaf. Cytunwyd ar y dosbarthiad hwn gyda Thrysorlys EM.
1.2. Newidiadau mewn polisi cyfrifyddu a datgeliadau
Cyhoeddwyd safonau, diwygiadau a dehongliadau newydd ond nid ydynt yn weithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2020.
Prydlesi IFRS 16
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi asesu’r amcangyfrif o’r effaith y bydd rhoi IFRS 16 ar waith yn ei chael ar ei datganiadau ariannol, fel y disgrifir isod. Gall gwir effeithiau mabwysiadu’r safon ar 1 Ebrill 2021 newid oherwydd mae’n bosibl y bydd y polisïau cyfrifyddu newydd yn newid nes bydd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyflwyno ei datganiadau ariannol cyntaf sy’n cynnwys dyddiad y cais cychwynnol.
Mae IFRS 16 yn darparu model cyfrifyddu un prydlesai, gan ei gwneud yn ofynnol i brydleseion gydnabod asedau a rhwymedigaethau ar gyfer pob prydles oni bai fod cyfnod y brydles yn 12 mis neu lai neu fod gan yr ased sylfaenol werth isel. Bydd yr asedau, a gaiff eu disgrifio fel asedau “hawl defnyddio”, yn cael eu cyflwyno o dan eiddo, offer a chyfarpar. Bydd Grŵp y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn mabwysiadu IFRS 16 yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021, er y bydd y rhan fwyaf o gyrff y llywodraeth yn ei fabwysiadu yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol.
Gweithredir IFRS 16 gan ddefnyddio’r dull dal i fyny cronnus. O ganlyniad, ni fydd asedau cymharol yn cael eu hailddatgan a bydd mesur yr asedau a’r balansau atebolrwydd sy’n cael eu cydnabod o 1 Ebrill 2021 yn adlewyrchu bwriadau’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar y dyddiad hwnnw. Ar y dyddiad trosglwyddo i IFRS 16, bydd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ased hawl i ddefnyddio ac atebolrwydd prydles.
Bydd atebolrwydd y brydles yn cael ei fesur yn ôl gwerth gweddill y taliadau prydles, a ddiystyrir naill ai gan y gyfradd llog sydd ymhlyg yn y les, neu lle nad oes modd pennu hyn yn rhwydd, y gyfradd fenthyca gynyddrannol a gynghorir gan Drysorlys EM. Os yw’r brydles yn cynnwys opsiynau ymestyn neu derfynu, bydd taliadau’r brydles ar gyfer y cyfnod na ellir ei ganslo ynghyd ag unrhyw opsiynau ymestyn y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhesymol sicr o’u defnyddio ac unrhyw opsiynau terfynu y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhesymol sicr o beidio â’u hymarfer.
Bydd yr ased hawl i ddefnyddio yn cael ei fesur yn y lle cyntaf ar sail gwerth yr atebolrwydd prydles, wedi’i addasu ar gyfer: unrhyw daliadau les a wnaed cyn y dyddiad cychwyn; unrhyw gymhellion prydles a gafwyd; unrhyw gostau cynyddrannol o gael y les; ac unrhyw gostau o gael gwared â’r ased ac adfer y safle ar ddiwedd y les. Fel cyfleuster ymarferol ar gyfer prydlesi gweithredol presennol a gydnabyddir wrth drosglwyddo, ni fydd y ddwy elfen olaf yn cael eu cynnwys yng ngwerth yr ased.
Gweler Nodyn 1.7 am fanylion polisi prydlesi cyfredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Bydd y prydlesi hynny sy’n cael eu cydnabod ar hyn o bryd fel prydlesi gweithredol yn cael eu trosi i asedau a rhwymedigaethau hawl i ddefnyddio wrth drosglwyddo i IFRS 16, gyda’r rheini sy’n cael eu cydnabod ar hyn o bryd fel prydlesi cyllid yn trosglwyddo yn ôl eu gwerthoedd presennol.
Ar gyfer y trefniadau perthnasol sydd o fewn cwmpas IFRS 16, ystyrir bod effaith y gweithredu ar hyn o bryd yn gynnydd mewn asedau a rhwymedigaethau o tua £2,135k a £2,437k yn y drefn honno.
Contractau Yswiriant IFRS 17
Mae Contractau Yswiriant IFRS 17 yn gofyn am ddull sy’n defnyddio llif arian wedi’i ddisgowntio yng nghyswllt cyfrifyddu ar gyfer contractau yswiriant. Caiff ei roi ar waith ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2023, neu ar ôl hynny. Er mwyn asesu effaith y safon, mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn adolygu contractau sy’n bodloni’r diffiniad o gontractau yswiriant. Nid yw’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn credu y bydd unrhyw safon neu ddehongliad newydd neu ddiwygiedig yn cael effaith sylweddol.
1.3. Confensiwn cyfrifyddu
Paratowyd y Cyfrifon hyn ar sail croniadau o dan y confensiwn cost hanesyddol wedi’i addasu i ystyried ailbrisio asedau anghyfredol.
1.4. Busnes byw
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei hariannu’n bennaf o ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol, ond mae hefyd yn cael cyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, o’i Chyflenwad Seneddol.
Yn yr un modd ag asiantaethau eraill y llywodraeth, rhaid i gyllid ar gyfer y dyfodol gael ei gymeradwyo gan yr Adran noddi, a chan y Senedd. Rhoddwyd cymeradwyaeth eisoes ar gyfer 2021 i 2022 ac mae’r cyfrifon hyn wedi cael eu paratoi ar sail busnes byw ar gyfer adrodd ariannol a phrisio asedau.
Os nad yw’r ffioedd a gynhyrchir yn ddigon i dalu costau mewn blwyddyn ariannol, bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder, fel y rhiant-adran, yn darparu’r arian i dalu am unrhyw ddiffyg a gynhyrchir, os bydd angen.
Ar ben hynny, nid oes tystiolaeth o newidiadau polisi arfaethedig yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder a fydd yn arwain at roi’r gorau i swyddogaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus neu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel endid.
1.5. Refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid
Mae refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid yn cynnwys ffioedd am wasanaethau sy’n cael eu pennu ar sail adfer costau llawn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae incwm o ffioedd yn cynnwys symiau am wasanaethau Atwrneiaeth, Goruchwyliaeth, a chopïau o dystysgrifau atwrneiaeth, a ddarperir. Mae incwm yn cael ei gydnabod yn unol ag IFRS 15 (Refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid).
Ffioedd ar gyfer ceisiadau i gofrestru atwrneiaethau arhosol a pharhaus
Mae ffioedd atwrneiaethau’n daladwy ar ôl derbyn y cais ond, yn unol ag IFRS 15, ni fydd incwm sy’n deillio ohonynt yn cael ei gydnabod nes cwblhau’r gwasanaeth a ddarperir, naill ai wrth gofrestru’r atwrneiaeth neu os bydd camau prosesu’n dod i ben cyn cofrestru. Pan fydd cwsmeriaid yn talu ffioedd atwrneiaethau ar-lein cyn cyflwyno eu cais, mae’r cronfeydd hyn hefyd yn cael eu dal mewn rhwymedigaethau contract. Os na dderbynnir cais ar-lein ar ôl i’r cwsmer dalu, caiff y swm a dalwyd ei ad-dalu.
Ffioedd goruchwylio a dirprwyaeth
Cydnabyddir incwm goruchwylio bob dydd ar gyfer pob achos gweithredol. Mae incwm goruchwylio yn cael ei anfonebu ar gylch blynyddol hyd at y dyddiad y daw gwaith goruchwylio achos i ben, wedi’i gyfrifo ar sail pro rata. Mae incwm yn cael ei gydnabod yn y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol fel asedau contract. Mae darpariaeth drwgddyled yn cael ei chyfrifo, ar sail y model colled credyd disgwyliedig, ac mae’n cael ei netio oddi ar asedau contract, naill ai pan fydd ffioedd yn cael eu hanfonebu neu wrth iddynt gronni.
Esemptiadau a dileu ffioedd
Mae incwm ffioedd yn cael ei gydnabod net o esemptiadau a dileu ffioedd. Mae’r cynllun dileu ffioedd wedi’i ragnodi yn Rheoliadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (Ffioedd, etc) 2007 a gymeradwywyd gan y Senedd, ac ni chesglir ffioedd a ddilëwyd gan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Rhaid gwneud cais am esemptiad neu ddileu ffi gyda’r cais cychwynnol i gofrestru atwrneiaeth neu, ar gyfer ffioedd goruchwylio, rhaid ei gyflwyno o fewn 6 mis i ddyddiad hawlio’r ffi.
Yn yr achosion lle nad yw cais am esemptiad neu ddileu ffi yn cael ei wneud adeg hawlio’r ffi, mae’n rhaid cyflwyno cais wedi’i gwblhau am esemptiad neu ddileu ffi o fewn 6 mis o anfonebu.
Pan fydd ffi wedi’i thalu ac y cytunir ar esemptiad neu ddileu ffi wedi hynny, rhoddir ad-daliad.
1.6. Buddion cyflogeion
Croniadau gwyliau a bonws perfformiad cyflogeion
Bydd gwyliau blynyddol a gwyliau hyblyg y cyflogai sydd heb eu cymryd yn cael eu cronni. Mae bonysau perfformiad a ddyfarnwyd, ond sydd heb gael eu talu cyn diwedd y cyfnod cyfrifyddu, hefyd yn cael eu cronni.
Pensiynau
Mae darpariaethau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil , a ddisgrifir yn yr adroddiad tâl a staff, yn berthnasol i gyflogeion y gorffennol a’r presennol. Mae’r cynlluniau buddion diffiniedig heb eu hariannu. Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod cost ddisgwyliedig yr elfennau hyn ar sail systematig a rhesymol dros y cyfnod pan fydd yn elwa o wasanaethau cyflogeion drwy dalu i Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil symiau a gyfrifir ar sail croniadau. Mae’r rhwymedigaeth i dalu buddion yn y dyfodol yn cael ei phriodoli i’r PCSPS. Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyfrif y cynlluniau fel cynlluniau cyfraniadau wedi’u diffinio am nad oes digon o wybodaeth ar gael i’w cyfrif fel cynlluniau buddion diffiniedig. Felly, mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod y cyfraniadau sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn ariannol.
1.7. Prydlesi
Caiff prydlesi’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus eu hystyried yn brydlesi gweithredol a chaiff y rhenti eu codi ar y SoCNE ar sail llinell syth dros gyfnod y brydles. Yn unol ag egwyddorion IAS 17 (Prydlesi) a’r canllawiau atodol a nodir yn SIC 15 (Prydlesi gweithredol - cymhellion), mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi lledaenu gwerth y cyfnod heb dalu rhent am y lle mae’n ei ddefnyddio yn Axis, Birmingham ac yn Embankment House, Nottingham dros gyfnod y brydles gychwynnol.
1.8. Costau tybiannol
Cynhwysir costau tybiannol yn y SoCNE i adlewyrchu cost lawn gwasanaethau’r asiantaeth. Mae’r taliadau hyn yn cynnwys:
-
Taliad cydnabyddiaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol am archwilio cyfrifon yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
-
Defnydd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o wasanaethau corfforaethol a ddarperir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan gynnwys gwasanaethau Arweinyddiaeth Swyddogaethol.
Gweithgareddau rhwng adrannau
Mae gweithgareddau rhwng adrannau’n ymwneud â’r setliad rhwng yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder:
-
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn setlo rhywfaint o wariant yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar ran yrasiantaeth.
-
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynhyrchu mewnlif arian net, a chaiff y rhain eu hildio o bryd i’w gilydd i’rWeinyddiaeth Gyfiawnder.
Nid yw gweithgareddau rhwng adrannau’n arwain at gofnod yn y SoCNE ac maent yn cael eu cydnabod yn uniongyrchol yn y Gronfa Gyffredinol drwy’r Datganiad Ecwiti Trethdalwyr.
1.9. Eiddo, offer a chyfarpar
Cydnabyddiaeth gychwynnol a throthwy cyfalafu
Mae eiddo, offer a chyfarpar, gan gynnwys gwariant dilynol ar asedau presennol, yn cael eu cydnabod yn y lle cyntaf yn ôl y gost. Trothwy cyfalafu asedau unigol yw £10k. Pan fydd gwariant sylweddol ar asedau unigol (sydd ar eu pennau eu hunain yn is na’r trothwy cyfalafu) mewn cysylltiad â phrosiect unigol, maen nhw’n cael eu trin fel asedau wedi’u grwpio. Mae pob trothwy yn cynnwys TAW anadferadwy.
Dull prisio dilynol
Ar ôl cael eu cydnabod i gychwyn, mae pob ased ar wahân i asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu’n cael eu datgan ar sail eu gwerth presennol ac yn cael eu hailbrisio ar bob dyddiad adrodd gan ddefnyddio Mynegai Prisiau’r Cynhyrchwyr a baratoir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Ailbrisio
Caiff enillion sy’n codi yn sgil ailbrisio eu credydu i’r Gronfa Ailbrisio Wrth Gefn a’u dangos yn y Gwariant Net Cynhwysfawr Arall, oni bai eu bod yn gwrthdroi gostyngiad ailbrisio ar yr un ased. Caiff gwrthdroadau eu credydu i’r SoCNE i’r un graddau â’r swm blaenorol sydd wedi’i osod fel treuliau, a chaiff unrhyw swm dros ben ei gredydu i’r Gronfa Ailbrisio Wrth Gefn.
Mae gostyngiad ailbrisio (ac eithrio yn sgil lleihad parhaol) yn cael ei wrthdroi yn erbyn unrhyw swm presennol a gedwir yn y Gronfa Ailbrisio Wrth Gefn mewn perthynas â’r un ased, gydag unrhyw ostyngiad gweddilliol yn cael ei gymryd i’r costau gweithredu net yn SoCNE.
Bob blwyddyn, mae’r gwahaniaeth rhwng dibrisiant ar sail swm cario wedi’i ailbrisio’r ased a godir ar y SoCNE a dibrisiant ar sail cost wreiddiol yr ased yn cael ei drosglwyddo o’r Gronfa Ailbrisio Wrth Gefn i’r Gronfa Gyffredinol.
Dibrisiant
Priodolir dibrisiant ar sail llinell syth ar gyfraddau sydd wedi’u cyfrifo i ddileu gwerth asedau llai’r amcangyfrif o’r gwerth gweddilliol yn gyson dros eu hoes ddefnyddiol.
Adolygir oes ddefnyddiol asedau neu gategorïau asedau bob blwyddyn.
Os yw eitem o eiddo, offer a chyfarpar yn cynnwys dwy gydran neu fwy, gydag oes ddefnyddiol sy’n sylweddol wahanol, yna caiff pob cydran ei thrin ar wahân at ddibenion dibrisiant a’i dibrisio dros ei hoes ddefnyddiol unigol.
Amcangyfrifir oes ddefnyddiol asedau o fewn yr ystodau a ganlyn:
-
gwelliannau lesddaliad – gweddill cyfnod y brydles
-
dodrefn a ffitiadau – 10 mlynedd
-
offer a chyfarpar – 5 i 7 mlynedd
-
technoleg gwybodaeth – 3 i 7 mlynedd
Gwaredu asedau anghyfredol
Bydd enillion a cholledion wrth waredu asedau anghyfredol yn cael eu pennu drwy gymharu’r elw â’r swm cario ac fe’u cydnabyddir yn y SoCNE.
Pan werthir asedau sydd wedi’u hailbrisio, bydd y symiau sydd wedi’u cynnwys yn y Gronfa Ailbrisio Wrth Gefn yn cael eu trosglwyddo i’r Gronfa Gyffredinol.
Asedau wrthi’n cael eu hadeiladu
Bydd asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu’n cael eu prisio ar sail eu cost hanesyddol o fewn eiddo, offer a chyfarpar ac asedau anniriaethol ac ni fydd y rhain yn cael eu dibrisio na’u hamorteiddio. Ar ôl iddo gael ei gwblhau, bydd gwerth cario’r ased yn cael ei drosglwyddo i’r categori asedau perthnasol.
Mae gwariant yn cael ei gyfalafu lle gellir ei briodoli’n uniongyrchol i’r gwaith o sicrhau bod yr ased mewn cyflwr sy’n gweithio, fel costau ymgynghorwyr allanol, costau cyflogeion perthnasol a chyfran briodol o orbenion perthnasol.
1.10. Asedau anniriaethol
Mae balans yr asedau anniriaethol yn cynnwys meddalwedd a ddatblygwyd yn fewnol neu gan drydydd partïon ac sy’n eiddo i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn 2019/20 cafodd costau meddalwedd sydd wrthi’n cael ei hadeiladu eu trosglwyddo i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Gwasanaeth Digidol y Weinyddiaeth Gyfiawnder sydd bellach yn datblygu meddalwedd i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ei defnyddio. Ar ôl iddynt gael eu datblygu, bydd costau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i waith dylunio, datblygu a phrofi cynnyrch meddalwedd unigryw sydd i’w defnyddio gan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn unig yn cael eu trosglwyddo’n ôl i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac yn cael eu nodi fel asedau meddalwedd yng nghyfrifon yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn unol â’r meini prawf a nodir yn y FReM, sydd wedi’i addasu o IAS 38 Asedau Anniriaethol.
Mae gwariant arall nad yw’n bodloni’r meini prawf hyn yn cael ei nodi fel gwariant fel mae’n codi. Nid yw costau a nodwyd eisoes fel traul yn cael eu nodi fel ased mewn cyfnod wedi hynny.
Priodolir amorteiddiad ar sail llinell syth ar gyfraddau sydd wedi’u cyfrifo i ddileu gwerth asedau llai’r amcangyfrif o’r gwerth gweddilliol yn gyson dros eu hoes ddefnyddiol.
Mae oes ddefnyddiol meddalwedd a ddatblygir yn fewnol yn amrywio rhwng 2 a 7 mlynedd. Yn unol ag IAS 38 (Asedau Anniriaethol), mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn adolygu oes economaidd ddefnyddiol ei hasedau anniriaethol ym mhob blwyddyn ariannol.
Trothwy cyfalafu prosiectau meddalwedd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw £10k (gan gynnwys TAW anadferadwy).
Ar ôl cael eu cydnabod i gychwyn, caiff asedau anniriaethol eu cydnabod ar sail eu gwerth presennol. Gan nad oes marchnad weithredol yn bodoli ar gyfer asedau anniriaethol yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, asesir bod y gwerth presennol yn gost amnewid llai unrhyw amorteiddiad cronedig a cholledion yn sgil amhariadau.
Bydd asedau anniriaethol yn cael eu hailbrisio ar bob dyddiad adrodd gan ddefnyddio Mynegai Prisiau’r Cynhyrchwyr a baratoir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
1.11. Amhariad
Bob blwyddyn, mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymgymryd ag adolygiad amhariadau ar draws yr holl gategorïau asedau pwysig. Os oes dangosyddion amhariadau’n bodoli, caiff yr asedau dan sylw eu profi am amhariad drwy gymharu gwerth cario’r asedau hynny â’u symiau adferadwy.
1.12. Arian parod a chyfwerth ag arian parod
Mae arian parod a chyfwerth ag arian parod sydd wedi’i gofnodi yn y SoFP a’r Datganiad Llif Arian yn cynnwys adneuon a gedwir yng Ngwasanaeth Bancio’r Llywodraeth.
1.13. Treth ar werth
Nid oes gan yr asiantaeth gofrestriad TAW unigol gyda Chyllid a Thollau EM, ond daw o dan gofrestriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n rhoi gwybod i’r asiantaeth ynglŷn ag unrhyw TAW wrth brynu sy’n adferadwy.
Priodolir TAW anadferadwy i’r categori gwariant perthnasol neu fe’i cynhwysir yng nghost pryniant wedi’i chyfalafu’r asedau anghyfredol. Lle codir TAW wrth werthu neu lle bydd TAW wrth brynu yn adferadwy, bydd y symiau’n cael eu datgan net o TAW.
1.14. Adroddiadau segmentol
Mae’r tîm rheoli yn adolygu perfformiad yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel cyfarwyddiaeth sengl oherwydd natur debyg yr holl weithgareddau. Ni fyddai dadansoddiad pellach o’r gweithgareddau hyn yn darparu dadansoddiad ystyrlon yn unol â bwriad yr IFRS 8 (Segmentau Gweithredu).
1.15. Amcangyfrifon a dyfarniadau cyfrifyddu critigol
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwneud amcangyfrifon a thybiaethau ynglŷn â’r dyfodol. Anaml fydd y gwir ganlyniadau’n cyfateb i’r amcangyfrifon cyfrifyddu. Mae’r amcangyfrifon a’r tybiaethau sydd â risg sylweddol o achosi addasiad perthnasol i symiau cario asedau a rhwymedigaethau o fewn y flwyddyn ariannol nesaf yn cael eu trafod isod.
Mae’r amcangyfrifon a’r dyfarniadau yn cael eu gwerthuso’n barhaus ac fe’u seilir ar brofiad hanesyddol a ffactorau eraill, gan gynnwys disgwyliadau ynghylch digwyddiadau yn y dyfodol y credir eu bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
Amhariad asedau contract
Rydym yn dal symiau derbyniadwy yn ôl eu swm gros i ddechrau ac ar ôl iddynt gael eu cydnabod i gychwyn, ar sail cost wedi’i hamorteiddio gan ddefnyddio colledion credyd disgwyliedig gydol oes.
Ar 31 Mawrth 2020, penderfynwyd ar y colledion credyd disgwyliedig drwy ddefnyddio proffiliau talu hanesyddol, a oedd yn tybio y byddai perfformiad yn y dyfodol yn adlewyrchu perfformiad yn y gorffennol ac na fyddai newid sylweddol yn y proffil talu na’r cyfraddau adfer. Fe wnaethom hefyd asesu a oedd unrhyw effeithiau economaidd yn y dyfodol yr oedd angen i ni addasu ar eu cyfer. Roedd ymarfer parhaus i gadw trefn ar ddyledion yn golygu nad oedd rhestr o hen ddyledion ar gael ar 31 Mawrth 2020: yn lle hynny, roedd y model amhariad yn tracio anfonebau, dileadau a derbyniadau arian parod i asesu adennill dyledion blaenorol.
Ym mis Awst 2020, cafodd yr ymarfer cadw tŷ ei gwblhau, ac ers hynny mae’r rheolwyr wedi datblygu techneg amcangyfrif ddiwygiedig, sy’n heneiddio dyledion ar sail yr anfoneb gynharaf nad oedd y cwsmer wedi’i thalu, ac mae’n grwpio symiau masnach derbyniadwy yn seiliedig ar nodweddion gwahanol y cwsmer, gan gynnwys eu hanes talu. Mae’r rheolwyr wedi defnyddio’r data hwn a’r wybodaeth am y sylfaen cwsmeriaid i asesu’r cyfraddau casglu disgwyliedig ac wedi cymhwyso’r cyfraddau hynny i’r categorïau symiau derbyniadwy: tra bo’r asesiad hwn yn seiliedig ar ddealltwriaeth y rheolwyr a’r data o’r sylfaen cwsmeriaid, mae’n ddyfarniad, ac felly mae’n cynnwys elfen o ansicrwydd amcangyfrif.
Mae’r dechneg amcangyfrif ddiwygiedig wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y lleihad mewn symiau derbyniadwy, a ddatgelir yn Nodyn 9, Symiau masnach derbyniadwy a symiau derbyniadwy eraill. Mae’r cynnydd yn y ddarpariaeth yn cael ei sbarduno gan nifer o newidiadau, ac yn allweddol mae’r ffaith ein bod nawr yn amharu ar rai anfonebau a godwyd yn ystod y 12 mis diwethaf ar 100%, yn amharu ar fwy o gategorïau derbyniadwy ar 100%, ac wedi cynyddu ein cyfraddau amharu ar gyfer eraill.
Ar 31 Mawrth 2021, mae dyled wedi’i grwpio a’i amharu fel a ganlyn:
Achosion byw
-
Dyled heb ei thalu 1af dros 3 blwydd oed: 100%
-
Dyled heb ei thalu 1af rhwng 2-3 blwydd oed: 50%
-
Dyled heb ei thalu 1af rhwng 1 a 2 flynedd: 37.5%
-
Dyled heb ei thalu 1af dros 1 flwydd oed: 10%
Achosion a derfynwyd
-
Dyled heb ei thalu 1af dros 2 flwydd oed: 100%
-
Dyled heb ei thalu 1af rhwng 1-2 flwydd oed: 90%
-
Dyled heb ei thalu 1af dros 1 flwydd oed: 50%
Mae’r canrannau a gymhwyswyd yn seiliedig ar y data sydd ar gael a gwybodaeth y rheolwyr am y sylfaen cwsmeriaid. Er mwyn asesu colledion credyd disgwyliedig yn y dyfodol, rhaid defnyddio technegau amcangyfrif a barn rheolwyr: efallai na fydd y colledion credyd gwirioneddol yn y dyfodol yr un fath â’r ddarpariaeth a wnaed.
Mae’r rheolwyr wedi cynnal dadansoddiad o sensitifrwydd, gan ddangos yr effeithiau canlynol posibl o ran cynnydd/(gostyngiad) mewn canrannau amhariad:
Gostyngiad yn y ddarpariaeth | -15% | -10% | -5% | +5% |
£m | £m | £m | £m | |
Achosion byw | (1.1)* | (1.0) | (0.5) | 0.4 |
Achosion a derfynwyd | (0.4) | (0.2) | (0.1) | 0.1 |
Cyfanswm | (1.5) | (1.2) | (0.6) | 0.5 |
*Darperir yn erbyn achosion byw dan flwydd oed ar 10%: mae’r cyfrifiad hwn yn tybio na ddarperir ar eu cyfer.
Mae’r ddwy dechneg amcangyfrif yn gyson ag IFRS 9, Offerynnau Ariannol, ac yn unol ag IAS 8, Polisïau Cyfrifyddu, Newidiadau mewn Amcangyfrifon a Gwallau Cyfrifyddu, mae’r newid yn y dechneg amcangyfrif yn arfaethedig ac nid oes gofyniad i’w chymhwyso’n ôl-weithredol.
Nid oes addasiad ychwanegol yn amhariad symiau derbyniadwy Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 31 Mawrth 2021 i adlewyrchu effaith macro-economaidd bosibl COVID-19 yn y dyfodol: mae hyn yn seiliedig ar nodweddion yr unigolion sy’n gyfrifol am y ddyled i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan nad ydym yn credu y bydd hyn yn cael effaith o bwys ar y gallu i adennill y symiau derbyniadwy sy’n cael eu nodi yn y cyfrifon hyn.
Darpariaeth esemptiadau a dileu ffioedd
Mae amseriad y bilio blynyddol ar gyfer goruchwyliaeth, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, yn golygu bod ceisiadau am esemptiadau a dileu ffioedd ar gyfer y biliau hynny fel arfer yn cael eu derbyn yn y flwyddyn ganlynol. Felly, mae darpariaeth o fewn y symiau derbyniadwy sy’n seiliedig ar asesiad manwl o’r graddau y rhoddwyd esemptiadau a dileu ffioedd goruchwylio yn ystod y flwyddyn ar ôl cydnabod yr incwm. Mae hyn yn cynrychioli swm disgwyliedig yr esemptiadau a’r dileu ffioedd a dderbynnir yn y flwyddyn ganlynol. Mae’r ddarpariaeth yn tybio bod gwerth yr esemptiadau a dileu ffioedd a ddyfarnwyd yn hanesyddol yn cynrychioli’r gwerth yn y dyfodol.
Darpariaethau
Cydnabyddir darpariaethau pan fydd gan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus rwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol bresennol, o ganlyniad i ddigwyddiadau yn y gorffennol, ac mae’n debygol y bydd all-lif o fuddion economaidd yn ofynnol i setlo’r rhwymedigaeth, ac y gellir gwneud amcangyfrif dibynadwy ar gyfer swm y rhwymedigaeth.
1.16. Offerynnau ariannol
Gan fod gofynion arian parod yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu bodloni drwy’r broses amcangyfrifon, nid yw offerynnau ariannol yn chwarae cymaint o rôl wrth greu a rheoli risg ag y byddent mewn corff heb fod yn y sector cyhoeddus. Mae’r rhan fwyaf o offerynnau ariannol yn ymwneud â chontractau i brynu eitemau anariannol yn unol â gofynion disgwyliedig yr asiantaeth o ran prynu a defnyddio, ac felly nid yw’r asiantaeth yn agored i fawr ddim risg o ran credyd, hylifedd na’r farchnad. Mae’r holl asedau a rhwymedigaethau ariannol yn cael eu datgan ar sail eu cost wedi’i hamorteiddio.
1.17. Cronfa wrth gefn gyffredinol
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn defnyddio’r gronfa wrth gefn gyffredinol i setlo taliadau tybiannol a balansau rhwng grwpiau yr adroddir amdanynt yn y cyfrifon fel gwariant ond nad ydynt yn cael eu setlo gydag arian parod. Mae unrhyw arian y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei gynhyrchu, y tu hwn i’w gofynion ei hun i dalu costau gweithredu cyllidol, yn cael ei ildio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae hefyd yn cael ei dalu drwy gronfeydd wrth gefn cyffredinol.
1.18. Y gronfa ailbrisio wrth gefn
Mae’r gronfa ailbrisio wrth gefn yn dangos unrhyw enillion neu golledion ar werth eiddo, offer a chyfarpar, neu asedau anniriaethol lle cofnodwyd ailbrisiad blaenorol.
2. Dadansoddiad o ffioedd a thaliadau
2020 i 2021 £000 |
2019 i 2020 £000 |
|
Refeniw Ffi’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus | ||
Atwrneiaethau arhosol | 55,172) | (72,998) |
Atwrneiaethau parhaus | (677) | (796) |
Goruchwylio Dirprwyon | (12,139) | (12,260) |
Penodi Dirprwy | (1,054) | (1,250) |
Arall | (301) | (283) |
(69,343) | (87,587) | |
Esemptiadau a dileu ffioedd | ||
Atwrneiaethau arhosol | 3,961 | 4,997 |
Atwrneiaethau parhaus | 16 | 22 |
Goruchwylio Dirprwyon | 2,378 | 2,611 |
Penodi Dirprwy | 213 | 314 |
Hawlildiad o Ffioedd yn ôl Disgresiwn | 513 | 647 |
7,081 | 8,591 | |
Cyfanswm refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid | (62,262) | (78,996) |
3. Costau staff
2020 i 2021 £000 |
2019 i 2020 £000 |
|||
Cyfanswm | Cyflogir yn barhaol |
Eraill | Cyfanswm | |
Cyflogau wythnosol a misol | 39,749 | 33,884 | 5,865 | 37,798 |
Costau Nawdd Cymdeithasol | 3,044 | 3,044 | 0 | 2,839 |
Costau pensiwn eraill | 8,461 | 8,461 | 0 | 7,711 |
Cyfanswm costau gros | 51,254 | 45,389 | 5,865 | 48,348 |
Llai asedau adferadwy mewn perthynas â secondiadau i’r tu |
(40) | (40) | 0 | (18) |
51,214 | 45,349 | 5,865 | 48,330 | |
Aelodau Anweithredol y Bwrdd (ffioedd a buddion) |
25 | 25 | 0 | 25 |
Cyfanswm costau net | 51,239 | 45,374 | 5,865 | 48,355 |
Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil a’r Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill – a elwir yn ‘alffa’ yn gynlluniau buddion diffiniedig sawl-cyflogwr nas cyllidir ond ni all yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus nodi ei chyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sy’n sail iddo. Yn unol â’r FReM, mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyfrif am y rhain fel cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio.
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod cyfraniadau sy’n daladwy i gynlluniau cyfraniadau diffiniedig fel traul yn y flwyddyn y’i codir, ac mae’r rhwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol wedi’i chyfyngu i’r swm y mae’n cytuno i’w gyfrannu at y gronfa.
Ar gyfer 2020 i 2021, roedd cyfraniadau cyflogwyr o £8,393k yn daladwy i’r PCSPS (2019 i 2020: £7,639k ar 1 o 4 cyfradd yn yr amrediad 26.6% i 30.3% o gyflog pensiynadwy, yn seiliedig ar fandiau cyflog.
Bydd Actiwari’r Cynllun yn adolygu cyfraniadau cyflogwyr, fel arfer bob pedair blynedd yn dilyn prisiad llawn o’r cynllun.
Pennir cyfraddau’r cyfraniadau i gwrdd â chost buddiannau sy’n cronni yn ystod 2020 i 2021 i’w talu pan fydd yr aelod yn ymddeol ac nid y buddion a delir yn ystod y cyfnod hwn i rai sydd eisoes yn bensiynwyr.
Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, pensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr. Talwyd cyfraniadau cyflogwr o £72k (2019 i 2020: £6k) i 1 darparwr pensiwn cyfranddeiliaid penodedig. Mae cyfraniadau’r cyflogwr yn seiliedig ar oedran, ac maent yn amrywio o 8% i 14.75% o enillion pensiynadwy.
Mae cyflogwyr hefyd yn rhoi cyfraniad sy’n cyfateb i gyfraniadau’r cyflogeion hyd at 3% o enillion pensiynadwy.
Mae crynodeb pellach ar gostau staff yn yr Adroddiad Atebolrwydd.
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn disgwyl talu cyfraniadau pensiwn cyflogwr o £7,865k yn 2021 i 2022.
4. Costau gweithredu eraill
2020 i 2021 £000 |
2019 i 2020 £000 |
|
£000 | £000 | |
Adeiladau, cynnal a chadw a chyfleustodau | 2,147 | 2,251 |
Ffioedd prydlesi | 765 | 1,028 |
Nwyddau traul y swyddfa | 181 | 474 |
Postio | 2,899 | 3,709 |
Gwasanaethau proffesiynol | 474 | 572 |
Gwasanaethau a rennir | 1,674 | 1,796 |
Hyfforddiant a chostau eraill sy’n gysylltiedig â staff | 191 | 599 |
Teithio, cynhaliaeth a lletygarwch | 63 | 317 |
Gwasanaethau ymwelwyr | 1,654 | 2,746 |
Costau rhedeg eraill | 640 | 425 |
Cyfanswm | 10,688 | 13,917 |
5. Gwariant anariannol arall
2020 i 2021 £000 |
2019 i 2020 £000 |
|
£000 | £000 | |
Ad-daliadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder | 12,977 | 12,977 |
Dibrisiant - eiddo, offer a chyfarpar | 958 | 766 |
Amorteiddiad - asedau anniriaethol | 674 | 1,661 |
Tâl yr archwilydd allanol** | 63 | 63 |
Colled wrth waredu eiddo, offer a chyfarpar ac asedau anniriaethol | 78 | 205 |
Darpariaeth ar gyfer rhwymedigaethau: | ||
Darparwyd yn ystod y flwyddyn | 657 | 241 |
Darpariaeth a ddefnyddiwyd | 0 | (13) |
Darpariaethau a ysgrifennwyd yn ôl | 0 | (8) |
Symudiad mewn amhariad masnach a symiau derbyniadwy eraill | 3,767 | 78 |
Masnach heb ei gasglu a symiau derbyniadwy eraill | 29 | 194 |
Taliadau eraill nad ydynt yn arian parod | 0 | 3 |
Cyfanswm taliadau nad ydynt yn arian parod | 19,203 | 16,167 |
*Nid oedd y C&AG wedi darparu unrhyw wasanaethau heb fod yn rhai archwilio yn ystod 2020 i 2021 (nil: 2019 i 2020).
6. Ffioedd a thaliadau
Mae’n rhaid i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn unol â Rheoli Arian Cyhoeddus, ddatgelu canlyniadau ar gyfer meysydd y gweithgareddau a wnaeth yn ystod y flwyddyn ariannol, lle codwyd ffioedd a thaliadau. Mae rhagor o fanylion am sut y ffioedd a chymorthdaliadau’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sydd ar gael i gwsmeriaid allanol.
Darperir cymhorthdal fel y bwriadwyd er mwyn gwneud yn siŵr na wrthodir gwasanaethau igleientiaid am nad ydynt yn gallu fforddio’r ffioedd gofynnol.
2020 i 2021 £000 |
2019 i 2020 £000 |
|
£000 | £000 | |
Cyfanswm incwm | (62,262) | (78,996) |
Cyfanswm gwariant | 81,130 | 78,439 |
Gwarged | 18,868 | (557) |
Adennill costau (%) | 76.7% | 100.7% |
Mae Adran 180 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn caniatáu i’r Arglwydd Ganghellor, gyda chydsyniad Trysorlys EM, i osod ffi sy’n fwy na chost darparu’r gwasanaeth hwnnw. Ers mis Ebrill 2017, mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi defnyddio’r pŵer hwn i godi ffi uwch ar gyfer cofrestru atwrneiaethau i dalu am gostau dileu ffioedd ac esemptiad rhag talu ffioedd ac i sybsideiddio costau gweithredu’r gwasanaethau goruchwylio.
Gwireddwyd yr amcan ariannol i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyflawni o fewn 5% i adennill costau’n llawn (fel y cytunwyd arno gyda Thrysorlys EM ac yn unol â chynllun dirprwyo’r gyllideb gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder) drwy gyflawni 100.7% (2019 i 2020: 100.7%). Ceir rhagor o wybodaeth yn Atebolrwydd Seneddol ac adroddiad archwilio.
7. Eiddo, offer a chyfarpar
Gwelliann Prydles |
Technoleg gwybodaeth |
Offer a Pheiriannau |
Dodrefn a Ffitiadau |
Asedau wrthi’n cael eu hadeiladu |
Cyfanswm | |
2020 i 2021 | £’000 | £’000 | £’000 | £’000 | £’000 | £’000 |
Cost neu brisiant ar 1 Ebrill 2020 | 884 | 2,234 | 68 | 905 | 99 | 4,190 |
Ychwanegiadau | 31 | 0 | 0 | 0 | 0 | 31 |
Ail-gategoreiddio | 0 | 0 | 0 | 99 | (99) | 0 |
Gwarediadau | (73) | 1,057) | (68) | 0 | 0 | (1,198) |
Ailbrisio | (456) | 37 | 0 | 2 | 0 | (417) |
Cyfanswm cost neu brisiant ar 31 Mawrth 2021 | 386 | 1,214 | 0 | 1,006 | 0 | 2,606 |
Dibrisiant ar 1 Ebrill 2020 | 0 | (1,851) | (68) | (438) | 0 | (2,357) |
Taliad yn ystod y flwyddyn | (448) | (333) | 0 | (177) | 0 | (958) |
Gwarediadau | 0 | 1,052 | 68 | 0 | 0 | 1,120 |
Ailbrisio | 448 | (36) | 0 | (1) | 0 | 411 |
Cyfanswm dibrisiant ar 31 Mawrth 2021 | 0 | (1,168) | 0 | (616) | 0 | (1,784) |
Gwerth cario net ar 1 Ebrill 2020 | 884 | 383 | 0 | 467 | 99 | 1,833 |
Gwerth cario net ar 31 Mawrth 2021 | 386 | 46 | 0 | 390 | 0 | 822 |
*Mae’r holl eiddo, offer a chyfarpar a ddatgelir uchod yn eiddo llwyr i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Gwelliannau Prydles |
Technoleg gwybodaeth |
Offer a Pheiriannau |
Dodrefn a Ffitiadau |
Asedau wrthi’n cael eu hadeiladu |
Cyfanswm | |
2019 i 2020 | £’000 | £’000 | £’000 | £’000 | £’000 | £’000 |
Cost neu brisiant ar 1 Ebrill 2019 | 1,266 | 2,220 | 124 | 1,096 | 12 | 4,718 |
Ychwanegiadau | 0 | 0 | 0 | 0 | 99 | 99 |
Gwarediadau | (5) | 0 | (57) | (184) | (12) | (258) |
Ailbrisio | (377) | 14 | 1 | (7) | 0 | (369) |
Cyfanswm cost neu brisiant ar 31 Mawrth 2020 |
884 | 2,234 | 68 | 905 | 99 | 4,190 |
Dibrisiant ar 1 Ebrill 2019 | 0 | (1,657) | (124) | (264) | 0 | (2,045) |
Taliad yn ystod y flwyddyn | (405) | (184) | 0 | (177) | 0 | (766) |
Gwarediadau | 0 | 0 | 57 | 0 | 0 | 57 |
Ailbrisio | 405 | (10) | (1) | 3 | 0 | 397 |
Cyfanswm dibrisiant ar 31 Mawrth 2020 | 0 | (1,851) | (68) | (438) | 0 | (2,357) |
Gwerth cario net ar 1 Ebrill 2019 | 1,266 | 563 | 0 | 832 | 12 | 2,673 |
Gwerth cario net ar 31 Mawrth 2020 | 884 | 383 | 0 | 467 | 99 | 1,833 |
*Mae’r holl eiddo, offer a chyfarpar a ddatgelir uchod yn eiddo llwyr i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
8. Asedau Anniriaethol
Trwyddedau Meddalwedd |
Meddalwedd a gynhyrchwyd yn fewnol |
Asedau wrthi’n cael eu hadeiladu |
Cyfanswm | |
2020 i 2021 | £’000 | £’000 | £’000 | £’000 |
Cost neu brisiant ar 1 Ebrill 2020 | 148 | 14,105 | 0 | 14,253 |
Gwarediadau | (148) | (3,840) | 0 | (3,988) |
Ailbrisio | 0 | 321 | 0 | 321 |
Cyfanswm cost neu brisiant ar 31 Mawrth 2021 | 0 | 10,586 | 0 | 10,586 |
Amorteiddio ar 1 Ebrill 2020 | (148) | (12,777) | 0 | (12,925) |
Taliad yn ystod y flwyddyn | 0 | (674) | 0 | (674) |
Gwarediadau | 148 | 3,840 | 0 | 3,988 |
Ailbrisio | 0 | (301) | 0 | (301) |
Cyfanswm amorteiddiad ar 31 Mawrth 2021 | 0 | (9,912) | 0 | (9,912) |
Gwerth cario net ar 1 Ebrill 2020 | 0 | 1,328 | 0 | 1,328 |
Gwerth cario net ar 31 Mawrth 2021 | 0 | 674 | 0 | 674 |
*Mae’r holl asedau anniriaethol a ddatgelir uchod yn eiddo llwyr i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Trwyddedau Meddalwedd |
Meddalwedd a gynhyrchwyd yn fewnol |
Asedau wrthi’n cael eu hadeiladu |
Cyfanswm | |
2019 i 2020 | £’000 | £’000 | £’000 | £’000 |
Cost neu brisiant ar 1 Ebrill 2019 | 147 | 13,842 | 4,196 | 18,185 |
Ychwanegiadau | 0 | 18 | 1,712 | 1,730 |
Ail-gategoreiddio | 0 | 154 | (154) | 0 |
Trosglwyddo** | 0 | 0 | (5,750) | (5,750) |
Gwarediadau | 0 | 0 | (4) | (4) |
Ailbrisio | 1 | 91 | 0 | 92 |
Cyfanswm cost neu brisiant ar 31 Mawrth 2020 | 148 | 14,105 | 0 | 14,253 |
Amorteiddio ar 1 Ebrill 2019 | (147) | (11,034) | 0 | (11,181) |
Taliad yn ystod y flwyddyn | 0 | (1,661) | 0 | (1,661) |
Ailbrisio | (1) | (82) | 0 | (83) |
Cyfanswm amorteiddiad ar 31 Mawrth 2020 | (148) | (12,777) | 0 | (12,925) |
Gwerth cario net ar 1 Ebrill 2019 | 0 | 2,808 | 4,196 | 7,004 |
Gwerth cario net ar 31 Mawrth 2020 | 0 | 1,328 | 0 | 1,328 |
*Mae’r holl asedau anniriaethol a ddatgelir uchod yn eiddo llwyr i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
** Yn 2019 i 2020, trosglwyddwyd cyllideb gyfalaf anniriaethol yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder fel rhan o arweinyddiaeth swyddogaethol, sy’n golygu nad oes gan Brif Weithredwr yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyllideb gyfalaf ddirprwyedig ac nid oes ganddo reolaeth dros asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu, a hynny’n rhai sy’n bodoli’n barod ac yn rhai sydd newydd gael eu datblygu. Cafodd y gyllideb gyfalaf ei dirprwyo i Digitech y Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn datblygu asedau digidol y Weinyddiaeth Gyfiawnder; gallan nhw benderfynu pa brosiectau i ddyrannu adnoddau iddynt, sut i ddatblygu asedau a pha rai i’w blaenoriaethu. Felly, mae rheolaeth dros yr asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu o fewn y Weinyddiaeth Gyfiawnder; rydym ni’n teimlo y dylid cydnabod yr asedau hyn yng nghyfrifon y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn hytrach na rhai’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn 2019 i 2020, cafodd yr asedau a oedd wrthi’n cael eu hadeiladu, a oedd yn arfer cael eu cydnabod gan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, eu trosglwyddo i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn adlewyrchu’r ffaith y byddai datblygiad pellach o’r asedau hyn yn dod o dan reolaeth Digitech y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac nid yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
9. Masnach a symiau derbyniadwy eraill
31 Mawrth 2021 | 31 Mawrth 2020 | |
Symiau a ddaw’n ddyledus o fewn blwyddyn | £’000 | £’000 |
Swm sy’n ddyledus gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder | 180 | 483 |
TAW adferadwy | 71 | 114 |
Swm sy’n ddyledus gan Adrannau Eraill y Llywodraeth | 69 | 177 |
Symiau masnach derbyniadwy | 14,679 | 14,288 |
llai: dibrisiant* | (6,406) | (2,487) |
Symiau derbyniadwy drwy fasnach | 8,273 | 11,801 |
Rhagdaliadau | 78 | 261 |
Symiau staff derbyniadwy | 403 | 576 |
Asedau contract | 53 | 610 |
Symiau derbyniadwy eraill | 183 | 0 |
Cyfanswm masnach a symiau derbyniadwy eraill | 9,310 | 14,022 |
*Mae’r amhariad symiau derbyniadwy yn cynnwys: dyledion amheus £4,760k (2019 i 2020: £4,760k); canslo ffioedd £491k (2019 i 2020: £339k) a darpariaeth dileu ffioedd £1,155k (2019 i 2020: £853k). Mae’r ddarpariaeth dileu ffioedd yn cael ei nodi yn erbyn yr adran dileu ffioedd ac esemptiadau yn Nodyn 2.
10. Arian parod a chyfwerth ag arian parod
2020 i 2021 | 2019 i 2020 | |
£000 | £000 | |
Balans ar 1 Ebrill | 5,416 | 9,747 |
(All-lif)/mewnlif arian parod net | 1,013 | (4,331) |
Balans ar 31 Mawrth | 6,429 | 5,416 |
Mae’r balans uchod yn cael ei ddal yng Ngwasanaeth Bancio’r Llywodraeth.
11. Masnach a symiau taladwy eraill
31 Mawrth 2021 |
31 Mawrth 2020 | |
Symiau a ddaw’n ddyledus o fewn blwyddyn | £’000 | £’000 |
Swm sy’n ddyledus gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder | 966 | 1,151 |
Swm sy’n ddyledus gan Adrannau Eraill y Llywodraeth | 119 | 0 |
Trethi a nawdd cymdeithasol | 597 | 620 |
Croniadau* | 12,938 | 6,645 |
Rhwymedigaethau contract | 11,573 | 10,745 |
Symiau masnach taladwy | 271 | 174 |
Symiau taladwy eraill | 2,033 | 1,439 |
28,497 | 20,774 | |
Symiau a ddaw’n ddyledus o fewn blwyddyn | ||
Symiau taladwy eraill** | 153 | 478 |
153 | 478 | |
Cyfanswm symiau masnach taladwy a rhwymedigaethau eraill | 28,650 | 21,252 |
- Mae croniadau yn cynnwys £31k o groniadau cyfalaf ar gyfer asedau diriaethol (2019 i 20: £99k) o gyfalaf wedi’i gronni ar gyfer asedau anniriaethol
** Rydym yn cydnabod elfen anghyfredol y cymhellion prydlesi ar gyfer y prydlesi gweithredol a ddatgelwyd yn Nodyn 13.
2020 i 2021 | 2019 i 2020 | |
Cysoni incwm gohiriedig | £’000 | £’000 |
Balans agoriadol | 10,745 | 10,841 |
Incwm atwrneiaethau gohiriedig | 52,7000 | 68,679 |
Incwm atwrneiaethau a gydnabyddir yn ystod y flwyddyn | (51,872) | (68,775) |
Balans terfynol incwm gohiriedig | 11,573 | 10,745 |
12. Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau
Dadfeiliadau | Arall | Cyfanswm | |
2020 i 2021 | £’000 | £’000 | £’000 |
Balans ar 1 Ebrill | 620 | 241 | 861 |
Darparwyd yn ystod y flwyddyn | 629 | 28 | 657 |
Darpariaethau a ysgrifennwyd yn ôl | 0 | 0 | 0 |
Darpariaethau a ddefnyddiwyd yn y flwyddyn | 0 | (6) | (6) |
Balans ar 31 Mawrth | 1,249 | 263 | 1,512 |
Dadansoddiad o amseru disgwyliedig llifau arian parod | |||
Heb fod yn hwyrach na blwyddyn | 420 | 263 | 683 |
Yn hwyrach na blwyddyn a heb fod yn hwyrach na 5 mlynedd | 829 | 0 | 829 |
Yn hwyrach na 5 mlynedd | 0 | 0 | 0 |
1,249 | 263 | 1,512 |
Dadfeiliadau
Yn dilyn adolygiad, cynyddodd yr asiantaeth ei darpariaeth dadfeiliadau, yn deillio o feddiannu eiddo’r swyddfa lesddaliadol yn Nottingham, i £829k. Cafodd darpariaeth ar gyfer costau tynnu allan meddal yn adeilad Axis ei chreu hefyd am £420,000.
13. Ymrwymiadau dan brydlesi gweithredol
Mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn prydlesu dau eiddo, yn Birmingham a Nottingham, o dan drefniadau prydlesi gweithredol nad oes modd eu canslo. Mae telerau’r prydlesi yn amrywio rhwng 4-10 mlynedd. Nid oes gan y prydlesi opsiynau prynu ac nid oes rhenti wrth gefn yn daladwy ar brydlesi gweithredol. Trafodir adnewyddu gyda’r lesydd yn unol â darpariaeth y cytundebau prydles unigol.
Nodir cyfanswm taliadau prydles sylfaenol i’r dyfodol o dan brydlesi gweithredol nad oes modd eu canslo yn y tabl isod ar gyfer pob un o’r cyfnodau canlynol:
2020 i 2021 | 2019 i 2020 | |
Prydlesi gweithredol - Ymrwymiadau o dan brydlesi | £000 | £000 |
Tir ac adeiladau | ||
Heb fod yn hwyrach na blwyddyn | 1,243 | 1,301 |
Yn hwyrach na blwyddyn ond heb fod yn hwyrach na phum mlynedd | 2,608 | 2,293 |
Yn hwyrach na phum mlynedd | 0 | 279 |
Cyfanswm tir ac adeiladau | 3,851 | 3,873 |
Pennir y taliadau prydles sylfaenol o’r cytundebau prydles perthnasol, ac nid ydynt yn adlewyrchu cynnydd posibl o ganlyniad i adolygiadau seiliedig ar y farchnad.
Datgelir y gwariant ar brydlesi a nodir yn y SoCNE yn Nodyn 4.
14. Trafodion partïon cysylltiedig
Mae’r asiantaeth yn asiantaeth weithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder. MoJ is regarded as a related party. Ystyrir yWeinyddiaeth Gyfiawnder yn barti cysylltiedig. Yn ystod y cyfnod, mae’r asiantaeth wedicael nifer o drafodion materol gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n rheoli’r trefniadau prydlesi a’r costau llety sy’ngysylltiedig â defnydd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’i swyddfeydd.
Cyfrifiadau methodoleg ailgodi tâl y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw’r sail a ddefnyddiryn dryloyw ac yn gyson i ddosrannu gorbenion gan gynnwys Adnoddau Dynol, Cyllida TG i holl adrannau ac asiantaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar sail dybiannol. Hefyd, mae Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth yn darparu gwasanaethau archwilio mewnol i’r asiantaeth.
Roedd yr asiantaeth hefyd wedi cael trafodion gydag adrannau ac endidau eraill y llywodraeth.
Nid oes unrhyw aelod o fwrdd yr asiantaeth, staff rheoli allweddol na phartïon cysylltiedig eraill wedi cynnal unrhyw drafodion o bwys gyda’r asiantaeth yn ystod y flwyddyn ariannol.
15. Rhwymedigaethau digwyddiadol
Ar 31 Mawrth 2021, nid oedd unrhyw rwymedigaethau digwyddiadol (2019 i 2020: dim).
16. Offerynnau ariannol
Gan fod gofynion arian parod yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu bodloni drwy’r broses amcangyfrifon, nid yw offerynnau ariannol yn chwarae cymaint o rôl wrth greu a rheoli risg ag y byddent mewn corff heb fod yn y sector cyhoeddus. Mae’r rhan fwyaf o offerynnau ariannol yn ymwneud â chontractau i brynu eitemau anariannol yn unol â gofynion disgwyliedig yr asiantaeth o ran prynu a defnyddio, ac felly nid yw’r asiantaeth yn agored i fawr ddim risg o ran credyd, hylifedd na’r farchnad. Mae’r holl asedau a rhwymedigaethau ariannol yn cael eu datgan ar sail eu cost wedi’i hamorteiddio.
17. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd
Mae digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd yn cael eu hystyried hyd at ddyddiad awdurdodi’r cyfrifon i’w cyhoeddi. Dehonglir hyn fel dyddiad tystysgrif ac adroddiad y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol.
Targedau perfformiad
Dangosydd effaith: Amser clirio gwirioneddol ar gyfartaledd ar gyfer atwrneiaetha
Targed yr amser clirio gwirioneddol ar gyfartaledd yw 40 diwrnod gwaith.
Pwrpas | Dull cyfrifo | Ffynhonnell data |
Cyflawnwyd hyd 31 Mawrth 2021 |
Mae’r dangosydd hwn yn cyfrifo nifer y diwrnodau gwaith ar gyfartaledd a gymerir i gofrestru ac anfon pob atwrneiaeth mewn cyfnod adrodd penodol. Dyma’r amser a gymerir rhwng dyddiad y cais a’r dyddiad anfon. | O’r holl atwrneiaethau, gyda dyddiad anfon o fewn cyfnod adrodd, caiff nifer y diwrnodau gwaith (ac eithrio gwyliau banc a phenwythnosau) rhwng y ‘dyddiad anfon’ a’r ‘dyddiad derbyn’ eu cyfrif ac yna cynhyrchir cyfartaledd ar sail nifer y ceisiadau. ‘Dyddiad derbyn’ yw’r diwrnod y bydd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn y cais gyda thaliad dilys neu, fel arall, ddyddiad penderfyniad ar gyfer cais llwyddiannus am esemptiad neu ddileu ffi. Dyma’r adeg y bydd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dechrau prosesu’r cais. ‘Dyddiad anfon’ yw’r dyddiad y caiff yr atwrneiaeth gofrestredig ei hanfon fel rhan olaf y broses sydd wedyn yn dangos bod y cais wedi’i gofrestru ar ein systemau rheoli achosion mewnol. |
Systemau rheoli achosion mewnol yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. | Cyfartaledd Amser Clirio Gwirioneddol o 58 diwrnod gwaith o’i gymharu â tharged o 40 diwrnod gwaith. |
Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: canolfan cyswllt cwsmeriaid
Y ganran darged ar gyfer galwadau a atebir o fewn 5 munud yng nghanolfan cyswllt cwsmeriaid yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw 90%
Pwrpas | Dull cyfrifo | Ffynhonnell data |
Cyflawnwyd hyd 31 Mawrth 2021 |
Mae’r dangosydd hwn yn mesur cefnogaeth ac arweiniad amserol a chywir ar gyfer holl wasanaethau’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a chyfeirio at wasanaethau’r Llys Gwarchod lle bo hynny’n briodol. | Nifer y galwadau a atebwyd o fewn 5 munud + nifer y galwadau sy’ncael eu gadael o fewn 5munud wedi’u rhannu âchyfanswm y galwadau aatebwyd + cyfanswm nifer ygalwadau sy’n caeleu gadael. *Mae galwadau sy’n cael eu hailgyfeirio y tu allan i’r cwmpas yn cael eu tynnu o gyfanswm y galwadau er mwyn osgoi eu cyfrif ddwywaith gan fod y rhain yn cael eu hadrodd ar wahân pan fo angen. |
System rheoli data teleffoni yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. | % y galwadau a atebwyd o fewn pum munud oedd 56% yn erbyn targed o 90%. |
Dangosydd effaith: Arolygon digidol yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o fodlonrwydd cwsmeria
Y ganran darged o gwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â gwasanaethau digidol yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw 80%
Pwrpas | Dull cyfrifo | Ffynhonnell data |
Cyflawnwyd hyd 31 Mawrth 2021 |
Mae’r dangosydd effaith hwn yn helpu i sicrhau ein bod yn datblygu ein gwasanaethau digidol i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid. | Nifer y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â’r gwasanaethau digidol wedi’i rhannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg sy’n ateb y cwestiwn hwn. | Arolwg boddhad cwsmeriaid - adnodd digidol atwrneiaethau. | Sgôr yr arolwg boddhad cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 94%. |
Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: Arolwg boddhad cwsmeriaid yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – Gwasanaethau Atwrneiaeth
Canran darged y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â’r gwasanaethau atwrneiaethau yw 80%.
Pwrpas | Dull cyfrifo | Ffynhonnell data |
Cyflawnwyd hyd 31 Mawrth 2021 |
Mae’r dangosydd hwn yn ein helpu i ddeall anghenion ein cwsmeriaid. Mae hefyd yn ein helpu i nodi tueddiadau er mwyn i ni allu gwella gwasanaethau yn barhaus. | Nifer sydd wedi ymateb eu bod yn ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ wedi’i rhannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg. | Arolygon o fodlonrwydd cwsmeriaid - atwrneiaethau. | Sgôr yr arolwg boddhad cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 79%. |
Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: Arolwg boddhad cwsmeriaid yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – Gwasanaethau Dirprwyaeth
Canran darged y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â’r gwasanaethau dirprwyaeth yw 80%.
Pwrpas | Dull cyfrifo | Ffynhonnell data |
Cyflawnwyd hyd 31 Mawrth 2021 |
Mae’r dangosydd hwn yn ein helpu i ddeall anghenion ein cwsmeriaid. Mae hefyd yn ein helpu i nodi tueddiadau er mwyn i ni allu gwella gwasanaethau yn barhaus. | Nifer sydd wedi ymateb eu bod yn ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ wedi’i rhannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg. | Arolygon boddhad cwsmeriaid - dirprwyaeth. | Sgôr yr arolwg boddhad cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 78%. |
Dangosydd effaith: goruchwylio dirprwyon
a) Targed amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol o fewn 40 diwrnod gwait
b) Targed amser cyfartalog i adolygu adroddiadau blynyddol o fewn 15 diwrnod gwai
c) Mae’r targed ar gyfer adroddiadau blynyddol heb eu cwblhau am dros 98 diwrnod calendr yn 4.5% neu lai.
Pwrpas | Dull cyfrifo | Ffynhonnell data |
Cyflawnwyd hyd 31 Mawrth 2021 |
Mae’r dangosyddion hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod Yn darparu cefnogaeth gymesur a phriodol i bob dirprwy. | a) Nifer cyfartalog y diwrnodau gwaith rhwng ‘dyddiad erbyn’ yr adroddiad (40 diwrnod gwaith ar ôl pen blwydd yr achos llys) a’r diwrnod y cafodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yr adroddiad b) Nifer cyfartalog y diwrnodau gwaith rhwng y dyddiad pan fo’r adroddiad blynyddol yn cyrraedd a’r dyddiad y mae’n cael ei adolygu c) Nifer yr achosion gydag o leiaf un adroddiad yn hwyr am dros 98 diwrnod / nifer yr archosion sydd wedi bod ag o leiaf un adroddiad yn hwyr am 100 diwrnod |
Systemau rheoli achosion mewnol yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. | a) Yr amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol oedd 33 diwrnod gwaith (Adroddwyd un mis ar ei hôl hi sef fel yr oedd ar 28 Chwefror 2021) b) Adolygwyd pob adroddiad blynyddol o fewn 15 diwrnod, gyda chyfartaledd o saith diwrnod gwaith. c) Roedd 2.6% o adroddiadau blynyddol heb eu cwblhau am dros 98 diwrnod calendr. |
Pwrpas | Dull cyfrifo | Ffynhonnell data |
Cyflawnwyd hyd 31 Mawrth 2021 |
Mae’r dangosyddion hyn yn canolbwyntio ar gyfrifoldeb yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddiogelu oedolion agored i niwed. a) a (b) bydd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymgymryd â phroses asesu risg i benderfynu ar y canlynol: i) a oes gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus awdurdodaeth i ymchwilio i bryderon ac, os nad oes ganddo, i gyfeirio’r pryder at yr asiantaeth berthnasol ii) cytunir i gymeradwyo cais llys (lle mae hyn yn rhagddyddio adroddiad gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus) iii) a ellir ymchwilio i’r pryder dros gyfnod hwy c) Mae ymchwiliad yn cael ei ystyried yn un sydd wedi dod i ben os: i) oes adroddiad ysgrifenedig ffurfiol wedi’i lofnodi gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus ii) cytunir igymeradwyo cais llys (lle mae hyn yn rhagddyddio adroddiad gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus) iii) yw rheolwr cydymffurfiaeth yn cytuno i ddirwyn yr ymchwiliad i ben oherwydd credir bod adroddiad i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ddiangen iv) bydd y cleient yn marw (a’r rheolwr cydymffurfiaeth yn penderfynu bod digon o waith wedi’i wneud ar yr achos i fod yn deilwng o ddosbarthiad) |
a) Mae dau ddiwrnod gwaith yn dechrau o’rdyddiad y mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn y pryder. Diwrnod 1 yw’r diwrnod gwaith y daw’r pryder ilaw. b) ) Mae pum diwrnod gwaith yn dechrau o’rdyddiad y mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn y pryder. Diwrnod 1 yw’r diwrnod gwaith y daw’r pryder ilaw. c) Mae’r cyfnod o 70 diwrnod gwaith yndechrau ar y dyddiad ymae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn ypryder sy’n arwain atymchwiliad. d) Mae’r cyfnod o 35 diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad ymae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymeradwyo’r adroddiad. Diwrnod 1 fydd y diwrnod mae’r adroddiad yn cael ei gymeradwyo. e) Mae’r cyfnod o 25 diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymeradwyo’r adroddiad. Diwrnod 1 fydd y diwrnod mae’r adroddiad yn cael ei gymeradwyo. |
Asesir risg pob cwyn a phryder ac ystyrir awdurdodaeth y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Cofnodir atgyfeiriadau ac maent yn cynnwys y canlynol: y dyddiad y mae’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn y pryder y dyddiad y mae’r tîm ymchwilio yn derbyn y pryder dyddiad yr asesiad risg amser yr asesiad risg dyddiad cwblhau’r ymchwiliad canlyniad y cais i gyfnod y Llys Gwarchod (diwrnodau gwaith) cyfnod ymchwilio (cyn yr adroddiad) cyfnod ymchwilio (ar ôl yr adroddiad) argymhellion-dyddiad cymeradwyo ei gau. |
a) roedd 94% o bryderon yn destun asesiad risg o fewn 2 ddiwrnod gwaith b) roedd 98% o bryderon yn cyrraedd y canlyniad terfynol cyn pen 5 diwrnod gwaith. c) Yr amser cyfartalog i gwblhau ymchwiliadau oedd 75 diwrnod gwaith. d) Yr amser cyfartalog i gwblhau pob argymhelliad lle barnwyd bod achos llys yn hanfodol oedd 154 diwrnod gwaith. e) Yr amser cyfartalog i gwblhau pob argymhelliad lle barnwyd nad oedd achos llys yn hanfodol oedd 31 diwrnod gwaith |
Dangosydd effaith: Ymchwiliadau parhad
a) Y targed yw asesu risgiau 95% o bryderon a leisiwyd cyn pen 2 ddiwrnod gwaith
b) Y targed yw i 95% o asesiadau risg diogelu gyrraedd canlyniad terfynol cyn pen 5 diwrnod gwai
c) Y targed yw cwblhau pob ymchwiliad cyn pen 70 diwrnod gwaith
d) Y targed yw’r amser cyfartalog a gymerir i roi camau sy’n eiddo i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar waith o fewn argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus, lle barnwyd bod angen achos llys o fewn 35 diwrnod gwaith
e) Y targed yw’r amser cyfartalog a gymerir i roi camau sy’n eiddo i’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar waith o fewn argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus, lle barnwyd nad oes angen achos llys o fewn 25 diwrnod gwaith
Pwrpas d) ac (e) Mae argymhelliad yn cael ei ystyried yn un sydd wedi dod i ben os:
i) gwneir cais i’r Llys Gwarchod, lle’r oedd hyn o ganlyniad i argymhelliad a gymeradwywyd gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus ii) mae achos yn cael ei gymeradwyo ar gyfer ei gau dan yr amgylchiadau canlynol:
-
ni fernir bod an-gen achos llys
-
mae’r ymchwilydd yn rhannu canlyniad yr ymchwiliad ac unrhyw ofynion pellach i’r at-wrnai/dirprwy. Ni fydd hyn yn cynnwys monitro’r achos yn ddiweddarach.
-
mae’r dirprwy yn gwneud cais i’r Llys Gwarchod
Dull cyfrifo: n/a
Ffynhonnell data: n/a
Cyflawnwyd hyd a 31 Mawrth 2021: n/a
Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: cwynion
Y targed yw ymateb i 90% o holl gwynion cwsmeriaid cyn pen 10 diwrnod gwaith o’u derbyn.
Pwrpas | Dull cyfrifo | Ffynhonnell data |
Cyflawnwyd hyd a 31 Mawrth 2021 |
Mae’r dangosydd hwn yn chwarae rhan bwysig o ran helpu’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddeall i ba raddau rydym yn cyflawni disgwyliadau ein cwsmeriaid. | Bob mis, mae rheolwr cwynion haen 2 yn coladu nifer y cwynion y dylid delio â nhw yn ystod y mis (‘cyfanswm gyda tharged yn y mis’) a nifer y cwynion a gwblhawyd yn unol â’r targed (‘cyfanswm yr ymatebwyd iddynt yn unol â’r targed’). Cyfrifir y dangosydd gyda chymorth y fformiwla ganlynol: Cwynion a gwblhawyd yn unol â’r targed/cwynion y dylid delio â nhw x 100 |
Gwybodaeth reoli o bob maes busnes unigol. | Ymatebwyd i 82% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith o’u derbyn |
Y targed yw i 30% o gwsmeriaid ddewis cwblhau eu ceisiadau atwrneiaeth gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein
Pwrpas | Dull cyfrifo | Ffynhonnell data |
Cyflawnwyd hyd a 31 Mawrth 2021 |
Mae’r dangosydd hwn yn chwarae rhan bwysig o ran helpu’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i wella’r offer digidol i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau ar-lein | Canran y cymeriant digidol = Nifer yr atwrneiaethau arhosol a dderbyniwyd ar-lein yn ystod y cyfnod adrodd/ Cyfanswm nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod adrodd X 100 | Systemau rheoli achosion mewnol yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. | 35% o geisiadau at-wrneiaethau arhosol wedi’u cwblhau drwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein. |
Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: mesur ansawdd ar gyfer yr atwrneiaethau arhosol a gofrestrwyd
Y targed yw cyflawni cyfradd gwallau o 5% neu lai o’r archwiliadau ansawdd a gwblhawyd adeg cofrestru’r atwrneiaethau arhosol.
Pwrpas | Dull cyfrifo | Ffynhonnell data |
Cyflawnwyd hyd a 31 Mawrth 2021 |
Mesur ansawdd yw’r dangosydd hwn ac mae’n mesur nifer yr atwrneiaethau arhosol a gofrestrwyd heb wall | I gael canran y gyfradd gwallau, mae nifer yr achosion a wiriwyd gyda gwall yn cael ei rhannu â chyfanswm yr acho-sion a wiriwyd | Proses â llaw yw hon sy’n defnyddio gwybodaeth a gymerwyd o’r system rheoli achosion mewnol a’r llythyrau go iawn a anfonwyd at gwsmeriaid | Cofrestrwyd 98% o at-wrneiaethau arhosol heb wall, gan adael y gyfradd gwallau yn 5% |
gwasanaeth ar-lein Dangosydd pobl: Ymgysylltu â staff
a) Y targed yw sicrhau sgôr ymgysylltu â staff o 62%.
b) Y targed ar gyfer % y staff sydd wedi cael eu bwlio neu aflonyddu arnynt yn y gweithle yw 11% neu lai.
c) Y targed ar gyfer % y staff sydd wedi dioddef gwahaniaethu yn y gweithle yw 11% neu lai.
Pwrpas | Dull cyfrifo | Ffynhonnell data |
Cyflawnwyd hyd a 31 Mawrth 2021 |
Mae’r dangosyddion hyn yn ein helpu i greu lle gwych i weithio ac i gefnogi agwedd dim goddefgarwch tuag at fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn y gweithle. | a) Mae pob un o’r pum cwestiwn ymgysylltu yn yr arolwg wedi’u pwysoli gyda sgôr o 100-0. Mae’r sgorau canlyniadol yn cael eu hadio at ei gilydd a’u rhannu â 5 (nifer y cwestiynau) i greu’r sgôr mynegai ymgysylltu b) Cyfrifir y dangosydd hwn drwy rannu nifer yr ymatebwyr sy’n datgan profiad o fwlio a/neu aflonyddu â chyfanswm yr ymatebwyr c) Cyfrifir y dangosydd hwn drwy rannu nifer yr ymatebwyr sy’n datgan profiad o wahaniaethu â chyfanswm yr ymatebwyrs |
Arolwg Blynyddol (ymgysylltu â staff) ac Arolwg Clyfar (Smart Survey). | a) Y sgôr ymgysylltu â staff oedd 64% b) 9% o staff wedi cael profiad o fwlio ac aflonyddu c) 12% o staff wedi cael profiad o wahaniaethu |
Dangosydd pobl: data gweithlu
a) Y targed ar gyfer trosiant staff yw 10% neu lai
b) Y targed yw sgôr o 7.5 diwrnod gwaith neu lai sy’n cael eu colli oherwydd absenoldeb salwch.
Pwrpas | Dull cyfrifo | Ffynhonnell data |
Cyflawnwyd hyd a 31 Mawrth 2021 |
Mae’r dangosyddion hyn yn helpu ein penderfyn-wyr i sicrhau bod gan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddigon o adnoddau, a fydd yn galluogi’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflawni amcanion ei chynllun busnes, gwired-du ei gweledigaeth ac ymdrechu i fodloni gwerthoedd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud. | a) Cyfrifir y dangosydd drwy rannu cyfanswm nifer y rhai sy’n gadael mewn cyfnod treigl o 12 mis â chyfanswm nifer cyfartalog y staff dros gyfnod treigl o 12 mis. b) Cyfrifir y dangosydd trwy rannu cyfanswm y diwrnodau gwaith a gollwyd mewn cyfnod â blynyddoedd staff mewn cyfnod |
Darperir y data gan dîm Gwasanaethau Dadansoddi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yna tîm Gwasanaethau Dadansoddi yn llwytho’r data i lawr o SOP, System Rheoli Achosion Adnoddau Dynol y Weinyddiaeth Gyfiawnder. | a) Roedd trosiant staff yn 10% (Adroddwyd un mis ar ei hôl hi, sef fel yr oedd ar 28 Chwefror 2021) b) Cyfartaledd y diwrnodau gwaith a gollwyd oedd 8.8 diwrnod gwaith (Adroddwyd un mis ar ei hôl hi sef fel yr oedd ar 28 Chwefror 2021) |
Dangosydd pobl: amser cyfartalog i recriwtio
Y targed yw 52 diwrnod gwaith
Pwrpas | Dull cyfrifo | Ffynhonnell data |
Cyflawnwyd hyd a 31 Mawrth 2021 |
Mae’r dangosydd hwn yn helpu ein penderfynwyr i sicrhau bod gan yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddigon o adnoddau, a fydd yn galluogi’r Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflawni amcanion ei chynllun busnes, gwireddu ei gweledigaeth ac ymdrechu i fodloni gwerthoedd yr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud. | Mae nifer y diwrnodau gwaith i gyflogi yn cael eu cyfrifo drwy gyfrif nifer y diwrnodau gwaith rhwng y dyddiad ‘hysbysebu swydd wag’ a dyddiad dechrau’r contract ar gyfer pob dechreuwr newydd yn y cyfnod adrodd ac yna eu cyfuno. Gwneir cyfrifiad cyfartaledd cymedrig ar y ffigur uchod. Bydd hyn yn cyfrifo’r amser cyfartaalog i recriwtio (diwrnodau gwaith). |
System rheoli achosion recriwtio’r Weinyddiaeth Gyfiawnder | Cyfartaledd amser i recriwtio yw 43 diwr-nod gwaith o’r data di-weddaraf a adroddwyd sydd ar gael. |
Dangosydd pobl: dysgu a datblygu
Y ganran darged o staff sydd wedi cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu a datblygu yw 90%.
Pwrpas | Dull cyfrifo | Ffynhonnell data |
Cyflawnwyd hyd a 31 Mawrth 2021 |
Mae’r dangosydd hwn yn helpu i greu lle gwych i weithio a chael cefnogaeth i ddatblygu set ehangach o sgiliau a chynnig gyrfaoedd mwy amrywiol i helpu i ddal gafael ar y dalent orau | Mae’r dangosydd yn cael ei gyfrifo drwy rannu’r ymatebwyr sy’n nodi gweithgaredd L a D gyda holl ymatebwyr yr arolwg | Bydd y data’n cael ei gasglu, ei fonitro a’i ddadansoddi drwy lwyfan Arolwg Clyfar ar-lein | 68% o staff wedi cymryd rhan mewn gweithgared-dau dysgu a datblygu |
Geirfa
Atwrnai
Yr unigolyn sydd wedi’i ddewis i weithredu ar ran rhywun arall fel rhan o atwrneiaeth barhaus neu atwrneiaeth arhosol.
Atwrneiaeth arhosol
Dogfen gyfreithiol sy’n cael ei defnyddio i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan. Mae dau fath o atwrneiaeth arhosol:
- iechyd a lles personol
- arian ac eiddo
Rhaid cofrestru’r ddau fath o atwrneiaeth arhosol gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn y gellir eu defnyddio.
Atwrneiaeth barhaus
Wedi cael eu disodli gan atwrneiaeth arhosol ym mis Hydref 2007. Fel atwrneiaeth arhosol, mae’n ddogfen gyfreithiol sy’n cael ei defnyddio i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan pe baech chi’n colli’r gallu meddyliol i wneud hynny.
Mae atwrneiaethau parhaus sydd wedi’u dyddio cyn 1 Hydref 2007 yn parhau i fod yn ddilys a gellir eu cofrestru gydag Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus pan fo’r rhoddwr yn dechrau colli, neu wedi colli, eu gallu meddyliol.
Budd pennaf
Rhaid i unrhyw benderfyniadau sy’n cael eu gwneud, neu gamau sy’n cael eu cymryd, ar ran unigolyn sydd wedi colli eu galluedd meddyliol fod er eu budd. Mae yna gamau safonol i’w dilyn wrth benderfynu ar fuddion pennaf rhywun. Maen nhw wedi’u nodi yn Adran 2 yng nghod ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
Defnyddiwr
Unrhyw un sy’n defnyddio gwasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Gallai’r rhain fod yn rhoddwyr, atwrneiod, dirprwyon, unigolion sy’n ddarostyngedig i orchmynion dirprwyaeth, partneriaid neu gyfryngwyr. Mae hefyd yn cynnwys staff sy’n defnyddio systemau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Dirprwy
Unigolion proffesiynol neu leys neu awdurdodau cyhoeddus (fel atwrneiod neu awdurdodau lleol) sydd wedi cael ei penodi gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar ran pobl sydd heb y gallu i wneud hynny.
Galluedd meddyliol
Y gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen gwneud y penderfyniad hwnnw. Gallwch chi ddod o hyd i ddiffiniad cyfreithiol galluedd meddyliol yn adran 2 o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol.
P
Unigolion sy’n rhan o achos yn y Llys Gwarchod, a/neu mewn perthynas â rhywun y mae trefniadau wedi cael eu gwneud i benderfyniadau am eu heiddo a’u lles personol gael eu gwneud gan rywun arall– p’un ai drwy atwrneiaeth barhaus neu atwrneiaeth arhosol, neu o dan orchymyn dirprwyaeth.
Rhoddwr
Rhywun sydd wedi creu atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus. Maent yn cael eu galw’n rhoddwyr oherwydd eu bod wedi rhoi rhai pwerau gwneud penderfyniadau i rywun arall.
Ymchwiliadau
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gallu cynnal ymchwiliad i weithredoedd dirprwy, atwrnai cofrestredig, neu rywun sydd wedi’i awdurdodi gan y Llys gwarchod i wneud trafodiadau ar ran rhywun sydd ddim yn gallu gwneud hynny, ac i adrodd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus neu’r Llys Gwarchod. Yna mae’r argymhellion yn adroddiad yr ymchwiliad yn cael eu hystyried gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus, sydd yn gyfrifol am sicrhau bod yr argymhellion er budd y rhoddwr neu’r cleient, ac yna bydd yn cymeradwyo’r adroddiad. Dyma ran hanfodol o rôl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus mewn diogelu oedolion sydd yn agored i niwed.