Gwybodaeth am yr ymgyrch rheoliadau hygyrchedd y Swyddfa Digidol a Data Ganolog
Diweddarwyd 20 April 2021
1. Gwneud gwasanaethau cyhoeddus ar-lein yn hygyrch
Mae rheoliadau newydd yn golygu bod gan sefydliadau sector cyhoeddus ddyletswydd cyfreithiol i ddiwallu gofynion hygyrchedd ar gyfer gwefannau ac apiau symudol. Daeth y Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 yn gyfraith y DU ym Medi 2018 ac maen nhw’n anelu at wneud gwasanaethau cyhoeddus ar-lein yn hygyrch i bawb, gan gynnwys y rheiny ag anableddau.
Mae tri dyddiad cydymffurfio allweddol ar gyfer y rheoliadau:
- 23 Medi 2019
- 23 Medi 2020
- 23 Mehefin 2021
Y dyddiad cau cyntaf i fodloni’r rheoliadau oedd 23 Medi 2019 ac mae’n effeithio ar wefannau ‘newydd’. Mae hyn yn golygu y dylai sefydliadau sector cyhoeddus fod wedi gwirio hygyrchedd gwefannau a gyhoeddwyd ar neu wedi 23 Medi 2018 a chyhoeddi datganiad hygyrchedd cyfredol.
Mae’n rhaid i sefydliadau sector cyhoeddus hefyd sicrhau bod yr holl wefannau sy’n cael eu lansio yn y dyfodol yn bodloni gofynion hygyrchedd a bod ganddynt ddatganiad hygyrchedd.
Mae gan sefydliadau sector cyhoeddus hyd 23 Medi 2020 i wneud gwefannau hŷn yn hygyrch a chyhoeddi datganiad hygyrchedd. Mae’n rhaid i apiau symudol fodloni gofynion hygyrchedd erbyn 23 Mehefin 2021. Rhaid i unrhyw fewnrwydi, allrwydi neu wefannau sy’n wynebu cyflogwyr sy’n cael eu cyhoeddi neu sy’n mynd trwy newid sylweddol ar neu ar ôl 23 Medi 2019 i fodloni’r gofynion hefyd.
2. Beth mae’n rhaid i sefydliadau ei wneud:
Mae pedwar cam y mae’n rhaid i sefydliadau sector cyhoeddus eu cymryd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau:
- Deall sut fydd y rheoliadau yn effeithio arnynt
- Gwirio hygyrchedd eu gwefannau
- Gwneud cynllun i gywiro unrhyw broblemau a ganfyddant
- Cyhoeddi datganiad hygyrchedd
3. Sut y gallwch chi helpu
Mae y Swyddfa Digidol a Data Ganolog (CDDO) wedi cyhoeddi cyfarwyddyd i gynorthwyo sefydliadau sector cyhoeddus i fodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol, sydd ar gael ar. Byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth wrth sicrhau bod eich cynulleidfaoedd yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau a lle gallant gael cyfarwyddyd, wrth rannu deunyddiau ymgyrchu a chyfeirio at wefan yr ymgyrch.
Defnyddio’r hashnod #AccessibilityRegulations yn eich postiadau cyfryngau cymdeithasol fel y gallwn olrhain cyrhaeddiad anfon negeseuon.
4. Rhagor o gefnogaeth
Er y bydd CDDO yn parhau i gynnig cyfarwyddyd i gyrff sector cyhoeddus, mae’n rhaid i sefydliadau ddehongli’r rheoliadau a chyfarwyddyd eu hunain, gan geisio cyngor cyfreithiol yn ôl y gofyn. Mae nifer hefyd o grwpiau cymuned hygyrchedd ar gyfer rhannu gwybodaeth.
Mae sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn profi defnyddwyr yn gallu cofrestru eu diddordeb drwy e-bostio: accessibility-user-research@digital.cabinet-office.gov.uk.
Darllenwch y rheoliadau llawn.
Am gymorth ymgyrchu, e-bostiwch nancy.hull@digital.cabinet-office.gov.uk