Independent report

Operation Soteria Bluestone Year One Report, Welsh (accessible version)

Updated 14 April 2023

Adroddiad a ysgrifennwyd gan yr Athro Betsy Stanko (OBE)

Gyda diolch arbennig i’r Cyd-Arweinydd Strategol Academaidd yr Athro Katrin Hohl ac i’r cyfranwyr; Yr Athro Miranda Horvath, Dr Kari Davies, Dr Kelly Johnson, Dr Olivia Smith, Dr Emma Williams, Jo Lovett, Gavin Hales, Tiggey May, Robin Merrett, Lizzie Peters ac Alice Light.

Hoffem ddiolch hefyd i bawb a rannodd eu hamser, eu meddyliau a’u profiadau personol fel rhan o’r ymchwil hwn. Yr ydym yn wirioneddol ddiolchgar am eich cyfraniad.

Rhagair

Yn rhinwedd fy swydd fel Arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar Droseddau Rhyw Oedolion, byddaf yn gweithio gyda llawer o gydweithwyr ymroddedig a brwd. Yn eu plith mae’r ymarferwyr plismona sy’n gweithio mor galed, a’r academyddion o fri a fu’n cydweithio ar flwyddyn gyntaf Operation Soteria Bluestone. [footnote 1].

Mae cyhoeddi adroddiad Blwyddyn 1 Operation Soteria Bluestone yn garreg filltir ar ein taith i wella deilliannau i ddioddefwyr1. Mae llawer o’r canfyddiadau yn heriol a rhai yn peri pryder. Ond nid diwrnod drwg mo hwn i blismona nac i gyfiawnder troseddol. Mae’r adroddiad hwn yn sail o dystiolaeth i’r camau sydd eu hangen er mwyn creu newid trawsnewidiol. Credaf mai dyma’r cyfle gorau mewn cenhedlaeth i wir ddatrys problem ymchwilio i drais, a’i erlyn. Rhaid i ni fynd ato gyda meddwl agored a chalon lawn.

Trwy gydol y rhaglen hon, yr ydym wedi elwa o arweinyddiaeth wleidyddol, buddsoddiad a chydgordio trawslywodraethol. Rhaid i’r gwaith o wella cyfiawnder i oroeswyr trais a throseddau rhyw gael ei wneud mewn partneriaeth, gan ddwyn ynghyd yr heddlu, llywodraeth, asiantaethau cyfiawnder, y sector wirfoddol a chymunedau. Yr wyf i’n gwbl ymroddedig i’r ymagwedd honno ac eisiau adeiladu ar y gwaith a osodir yn y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar y Cyd gyda CPS a Phlismona, Adolygiad y Llywodraeth o drais, a chwblhau Arolygiad ar y Cyd ac ymchwiliad y Pwyllgor Dethol Materion Cartref.

O’r holl fewnwelediadau cyfoethog a dwfn, a digynsail o bosib, a gawsom, i mi, y peth mwyaf dadlennol ac arwyddocaol yw pwysigrwydd deall seicoleg ddynol - a sut y mae troseddwyr yn defnyddio ac yn ecsbloetio hynny, a thrwy hynny, ninnau, wrth ymchwilio i drais a’i erlyn, a’r continwwm sy’n drais rhywiol. Rhaid i ni eu gwrthdroi trwy ddatgelu eu tactegau a’u defnyddio yn eu herbyn. Rwy’n credu mai adeiladu’r math hwn o wybodaeth arbenigol, a gefnogir gan feddwl beirniadol a meddylfryd o ddatrys problemau, yw’r un newid mwyaf pwysig y gallwn wneud.

Wrth i ni symud ymlaen i Flwyddyn 2 a datblygu’r Model Gweithredu Cenedlaethol am ymchwilio i Drais a Throseddau Rhyw eraill, mae’r Athro Betsy Stanko, yr Athro Katrin Hohl a minnau yn croesawu adborth ac ymwneud gan bartneriaid. Mae eich arbenigedd chi a’ch cefnogaeth yn hanfodol i’n gallu i beri newid gwirioneddol, parhaol a thrawsnewidiol.

Mae Operation Soteria Bluestone yn gyfle o bwys i drawsnewid y ffordd mae’r heddlu yn ymateb i drais a throseddau rhyw ac yn ymchwilio iddynt, ac i lunio’r tirwedd cyfiawnder troseddol i ddioddefwyr y troseddau erchyll hyn. Rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwnnw.

Y Prif Gwnstabl Sarah Crew (QPM)

Crynodeb weithredol

Lansiwyd Operation Soteria gan y Swyddfa Gartref ym Mehefin 2021 fel cam creiddiol yn Adolygiad Cynhwysfawr Llywodraeth y DU o Drais i helpu i gyflwyno’r uchelgais o fwy na dyblu nifer yr achosion o drais oedolion oedd yn cyrraedd y llysoedd erbyn diwedd y Senedd hon (Mai 2024) [footnote 2].

Rhaglen gydweithredol rhwng yr heddlu ac academyddion oedd hon gyda sylfaen gref o ymchwil; yn sail i’r dyluniad ymchwil dulliau-cymysg yr oedd fframwaith damcaniaethol y “Pum Piler” (Hohl a Stanko, 2022) [footnote 3] a’r gwersi o gynllun peilot a gyllidwyd gan y Swyddfa Gartref, Gwyddoniaeth, Technoleg ac Ymchwil (STAR) yr Heddlu gyda heddlu Avon a Gwlad yr Haf o’r enw Prosiect Bluestone rhwng Ionawr - Mawrth 2021. Yr oedd gwybodaeth ymarferol yr heddlu wedi ei chyfuno ag arbenigedd academyddion i anelu at yr un nod: cael cyfiawnder i ddioddefwyr a datblygu Model Gweithredu Cenedlaethol newydd i ymchwilio i ac erlyn trais a throseddau rhyw eraill (TAThRhE[footnote 4]).

Yr oedd rhaglen waith Blwyddyn 1 yn golygu ymchwil ac archwiliadau dwfn mewn pedwar llu heddlu (a adwaenir fel ‘braenarwyr’) rhwng Medi 2021 ac Awst 2022. Y pedwar llu sy’n braenaru yw: Gwasanaeth Heddlu’r Metropolitan, Heddlu Durham, Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr a Heddlu De Cymru.

Dros y flwyddyn gyntaf hon, edrychodd y rhaglen ar ystod eang o ddata yn y lluoedd braenaru. Yr oedd hyn yn cynnwys: dadansoddiad o holl gofnodion yr heddlu o drais a throseddau rhyw eraill yr adroddwyd amdanynt rhwng 2018 a 2020/21 (yn dibynnu ar y llu) , ac achosion a ddaeth i ben gyda Deilliannau 14, 15 a 16[footnote 5], ethnograffeg yr heddlu yn arsylwi ymchwilwyr i drais a’r swyddogion cyswllt dioddefwyr oedd ar sifft, adolygu darnau ffilm Camerâu Fideo Corff o’r ymateb cyntaf i ddatgeliadau o drais, adolygu cyfweliadau Cael y Dystiolaeth Orau (ABE) gyda dioddefwyr trais, grwpiau ffocws ac arolygon swyddogion o bob rheng a swyddogaeth oedd yn rhan o ymchwilio i drais, grwpiau ffocws gydag Ymgynghorwyr Annibynnol Trais Rhywiol (ISVA) a grwpiau ffocws gyda goroeswyr trais[footnote 6], arsylwi ac adolygu hyfforddiant yr heddlu, yn ogystal ag adolygiad o ganllawiau mewnol y llu ar ymchwilio i drais a throseddau rhyw, protocolau a gweithdrefnau ysgrifenedig, gan gynnwys ar waith fforensig digidol.

Yr oedd lled a dyfnder yr ymchwil empeiraidd yn bosib yn unig am i swyddogion o bob rheng a swyddogaeth wedi rhoi mynediad at wahanol fathau o ddata, caniatáu i ymchwilwyr eu cysgodi, cymryd rhan mewn adolygiadau o ffeiliau achos, cyfweliadau, grwpiau ffocws ac arolygon. Mae swyddogion wedi buddsoddi cryn amser ac ymddiriedaeth yn y broses. Teimlodd y tîm academaidd yn wylaidd o ystyried dewrder a pharodrwydd swyddogion i gymryd risgiau personol wrth ddatgelu anawsterau a hyd yn oed fethiannau, yn y gobaith y bydd hyn yn helpu eu llu i wella. Rhoddodd dioddefwyr a’u cefnogwyr, yn enwedigISVAs, eu hamser a rhannu eu profiadau mewn ffordd agored i helpu i lunio’r newidiadau i brosesau ymchwilio’r heddlu.

Mae canfyddiadau manwl ar dudalen 23. Dyma’r canfyddiadau allweddol lefel-uchel:

Nid oes gan ymchwilwyr mewn heddluoedd ddigon o wybodaeth arbenigol am droseddu rhyw. Mae angen arbenigedd ac arferion ymchwilio seiliedig ar arbenigedd ar gyfer trais a throseddau rhyw.

  • Mae’r diffyg gwybodaeth arbenigol ddigonol am droseddu rhyw, ac arferion ymchwilio arbenigol seiliedig ar dystiolaeth am droseddau trais a rhyw yn cael effaith ar ansawdd a deilliannau ymchwiliadau ac ymwneud â dioddefwyr. Mae hyn yn cynnwys diffygion sylweddol yn y meysydd canlynol:

    • gwybodaeth am ymddygiad troseddol rhywiol, natur cyd-destun trais a’i effaith ar wahanol ddioddefwyr o wahanol gefndiroedd ar sail ymchwil academaidd

    • integreiddio’r wybodaeth hon i ddysgu a datblygu dan arweiniad y llu i ymchwilwyr a staff arall yr heddlu (er enghraifft, dadansoddwyr gwybodaeth a pherfformiad a hyfforddwyr yr heddlu), sy’n gwanhau sgiliau a strategaethau ymchwilio yr ymchwilwyr.

    • adnoddau a chefnogaeth gorfforaethol i gadw, gloywi ac adolygu’r gallu a’r medr i gymhwyso’r wybodaeth arbenigol hon

    • trosolwg dadansoddol am gofnodi troseddau trais a throseddau rhyw eraill, yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu’r cynhyrchion dadansoddi hyn, a chydnabod gwerth y trosolygon hyn i atal yn lleol

    • mecanwaith i fonitro a rheoli’r effaith bersonol y caiff ymchwilio i droseddau rhyw ar fywydau swyddogion gartref ac yn y gwaith.

  • Yr oedd ar aelodau staff eraill yr heddlu, yn ogystal â’r ymchwilwyr, angen gwybodaeth arbenigol am droseddau trais a throseddu rhywiol.

Yr oedd gormod o ymdrech ymchwilio yn cael ei rhoi i brofi hygrededd yr hyn a ddywedodd y dioddefwr. Mae angen ail-gydbwyso ymchwiliadau i gynnwys ymchwilio’n drylwyr i ymddygiad troseddol y sawl a amheuir.

  • Dylai ymchwiliadau ganolbwyntio ar ymchwilio i’r drosedd rhyw, gan gynnwys unrhyw dactegau o feithrin perthynas, trin a gorfodi a ddefnyddiodd y sawl dan amheuaeth sy’n uniongyrchol berthnasol i’r drosedd, ar sail gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth o ymddygiad troseddol rhywiol a’i effeithiau ar ddioddefwyr, gan ail-gydbwyso ymchwiliadau ymaith oddi wrth ganoli’n gyntaf ac yn bennaf ar hygrededd y dioddefwr fel tyst.

  • Rhaid i’r lluoedd wella’r ffordd maent yn adnabod a tharfu ar y sawl sy’n dod dan amheuaeth dro ar ôl tro trwy adolygu hanes troseddol a data gan heddluoedd yn systemig, rhannu gwybodaeth yn well, a defnyddio ystod o dactegau gyda’r nod o sicrhau y gall y sawl sy’n ymchwilio ganfod ymddygiad troseddol rhywiol.

Nid oes gan y dysgu a’r datblygu sydd ar gael ar hyn o bryd i ymchwilwyr wybodaeth arbenigol am droseddu. Mae effeithiau andwyol y diffyg gallu hwn yn cael eu gwneud yn waeth gan faich gwaith trwm, cymhlethdod cyd-destunau trais, a diffyg staff, sydd yn effeithio ar ansawdd a deilliant ymchwiliadau, ac yn enwedig ansawdd ymwneud â dioddefwyr.

  • Mae dysgu a datblygu gyda’r wybodaeth arbenigol uchod yn treiddio drwyddo, yn hanfodol er mwyn gwella. Mae arfer adfyfyriol yn allweddol i greu diwylliant lle mae’r llu cyfan yn dysgu, a bydd hyn gyda’i gilydd yn ymdrin â lles yr ymchwilwyr, gwell ymchwiliadau, a gwell gwasanaeth i ddioddefwyr.

  • Rhaid cael gwelliant sydyn yng ngallu a chapasiti gwaith fforensig digidol, trwy ddysgu a datblygu’r gweithlu.

  • Daethom ar draws amrywiaeth mawr ymysg heddluoedd o ran cred ac agweddau swyddogion, eu harferion a’u hymddygiad cymdeithasol (“diwylliant”) tuag at drais a throseddau rhyw. Mae’n angenrheidiol newid diwylliannau mewnol sy’n tanseilio ymchwiliadau teg a chyfartal i drais fel mater o frys.

  • Yn yr holl luoedd oedd yn braenaru, mae hyder ac ymwneud â dioddefwyr yn dioddef i raddau helaeth o’r cyd-destun gwaith uchod lle mae ymchwiliadau i droseddau trais a throseddau rhyw eraill yn digwydd. Pan nad oes gan swyddogion y wybodaeth na’r adnoddau i wneud penderfyniadau cymhleth i fodloni anghenion dioddefwyr neu ddeall y cyd-destunau lle mae troseddau rhyw yn digwydd, maent yn dueddol o fynd at yr hen weithdrefnau a phrosesau. Mae mwy o wybodaeth am y gwahaniaeth mae gwahanol gyd-destunau yn ddwyn i’r strategaeth ymchwilio yn tanseilio’r holl olwg ar droseddu a’r effaith ar y dioddefwr.

Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng swyddogion yn diffygio, diffyg dysgu a datblygu i swyddogion, a hyder swyddogion ynghylch a ydynt yn defnyddio’r strategaethau ymchwilio cywir wrth gynnal ymchwiliadau.

  • Mae hyn yn dweud yn arw ar ymchwilwyr (rhai gwybodus a rhai dibrofiad) ac y mae diffyg cydnabyddiaeth, a ddangosir trwy gefnogaeth gorfforaethol i reoli baich gwaith a lles, er mwyn i waith yr ymchwilwyr ymateb yn briodol i ddioddefwyr a herio’r sawl sydd dan amheuaeth.

  • Dangoswyd fod symptomau blinder a diffygio emosiynol mewn arolwg pwrpasol o swyddogion yn y lluoedd braenaru yn uwch na’r hyn ydoedd ymysg staff y GIG ym mlwyddyn gyntaf pandemig Covid-19 (gweler adroddiad Piler 4).

  • Mae’n gyfrifoldeb corfforaethol rhoi adnoddau i ymchwiliadau i droseddau trais a throseddau rhyw i’r graddau y bydd gobaith realistig y gwnaiff swyddogion gynnal ymchwiliad priodol a chael amser i ymwneud â dioddefwyr.

  • Yr oedd mwyafrif llethol y swyddogion wedi ymrwymo i fanteisio ar y cyfle a roddwyd gan Operation Soteria Bluestone i helpu i drawsnewid eu hymchwiliadau i drais ac ymwneud â dioddefwyr, er gwaethaf lefelau uchel iawn o ddiffygio, beichiau gwaith rhy drwm, a dim digon o adnoddau.

Mae dadansoddiadau strategol o drais a gofnodwyd yn sylfaenol i ddeall y cyd-destunau troseddu mewn strategaethau ymchwilio ac i fonitro perfformiad.

  • Mae rhyw draean o achosion o drais a gofnodwyd gan yr heddlu yn y lluoedd braenaru ac un o bob deg o droseddau rhyw eraill yn cael eu nodi fel rhai cysylltiedig â chamdriniaeth ddomestig. Mae’r gorgyffwrdd rhwng camdriniaeth ddomestig a throseddu rhywiol yn sylweddol ac yn mynnu ystyriaeth mewn strategaethau ymchwilio, diogelu a sut y mae swyddogion yn ymwneud â dioddefwyr o wahanol gefndiroedd. Ar hyn o bryd, gwelir camdriniaeth ddomestig a throseddau rhyw fel meysydd plismona ar wahân mewn rhai lluoedd, yn ogystal ag mewn rhai agweddau ar gefnogaeth i ddioddefwyr.

  • Dengys dadansoddiad o ddata’r lluoedd braenaru fod cyfraddau cyhuddo am droseddau o drais yn amrywio’n fawr, yn dibynnu ar y berthynas rhwng y dioddefwr a’r sawl dan aheuaeth (a phroffil mathau o berthynas sy’n amrywio yn ôl ethnigrwydd y dioddefwr).

  • Gall llai o gyhuddiadau am achosion lle mae partneriaid agos a chynbartneriaid agos fod yn gysylltiedig ag achosion sy’n deillio o ddatgelu damweiniol (fel pan mae dioddefwr yn ymateb i gwestiynau yn ystod asesiad risg yn dilyn digwyddiad ar wahan o gamdriniaeth ddomestig) yn hytrach na bod dioddefwr yn gwneud cwyn o drais wrth yr heddlu gyda golwg ar geisio deilliant cyfiawnder troseddol.

  • Mae cyfraddau cyhuddiadau o drais yn amrywio yn ôl ardaloedd plismona lleol yn y lluoedd braenaru. Dylai lluoedd fod yn chwilfrydig am y rheswm dros y gwahaniaethau hyn, gyda’r nod o ddarparu gwasanaeth cyfartal i bob dioddefwr yn ogystal â bod yn sensitif i lefelau gwahanol o ymddiriedaeth cymunedau mewn plismona.

  • Gall amserlenni deilliant, a thrwy hynny hyd cyfartalog ymchwiliadau, amrywio’n fawr fesul deilliant a llu.

Nid oedd gan yr un o’r lluoedd braenaru ddigon o systemau data, dadansoddwyr na’r gallu dadansoddol i gefnogi dadansoddiad strategol da i wella ymchwiliadau i droseddau trais a throseddau rhyw eraill, cyfrannu at unrhyw weithgaredd lleol oedd yn canoli ar atal troseddau, nac unrhyw flaengynllunio i wella’r galwadau ar y gweithlu ymchwilio.

  • Ar draws yr holl luoedd braenaru, yr oedd cofnodion yr heddlu ar goll neu yn cynnwys data heb ei fewnbynnu’n iawn, er enghraifft ar ethnigrwydd dioddefwyr, y berhtynas rhwng y dioddefwr a’r sawl dan amheuaeth, a chodau deilliant wedi eu gosod yn anghywir, mewn cyfran sylweddol o achosion. Mae data o ansawdd wael gan yr heddlu yn cyfyngu ar ddeall yn iawn unrhyw wahaniaethau mewn deilliannau cyfiawnder a allai effeithio ar rai grwpiau o ddioddefwyr.

  • Mae gwybodaeth ar goll neu wedi ei gofnodi yn anghywir gan yr heddlu, ac yn sgil hynny, ansawdd wael data’r heddlu yn cyfyngu ar ddealltwriaeth y gwahaniaethau mewn deilliannau cyfiawnder, a allai gael effaith ar rai grwpiau o ddioddefwyr. Yr oedd yr adolygiadau o ffeiliau achos yn codi pryderon am ba mor ddibynadwy oedd newidynnau deilliannau.

  • Nid oes gan hedlduoedd y gallu dadansoddol i ddeall natur y galw a’u gallu hwy i ymateb i hyn. Mae defnyddio a deall data’r heddlu ei hun ar droseddau trais a throseddau rhyw yn hanfodol er mwyn cael ymagwedd strategol at wella ymchwiliadau i droseddau trais a throseddau eraill ac atal troseddau.

  • I adeiladu gallu a medr y gweithlu, mae angen i’r heddlu ddeall y materion strategol a roddir gerbron gan eu proffil lleol am droseddau trais a throseddau rhyw eraill. I wneud hyn, mae angen gwneud defnydd strategol o ddata’r heddlu, sydd yn ei dro yn galw am ddata’r r heddlu, systemau data sy’n ddigon da a’r gallu i ddadansoddi’n strategol.

I grynhoi, dengys y canfyddiadau fod ar blismona angen gweithlu medrus, hyderus ac adfyfyriol sydd â gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth am effaith troseddau trais a throseddau rhyw ar ddioddefwyr, y cyd-destunau lle mae troseddau trais a throseddau rhyw eraill yn digwydd, natur troseddu rhywiol yn lleol, a’r strategaethau troseddu a ddefnyddir gan droseddwyr rhyw.

Mae’r ymchwil hwn wedi herio’r ffordd y mae gweithlu’r heddlu yn cael ei broffesiynoli. Mae’n bwysig fod plismona yn symud i ffwrdd oddi wrth ei hanes o ‘hyfforddi’ a thuag at ddiwylliant dysgu ailadroddol, mwy agored ac ar sail ymchwil. Mae gwybodaeth arbenigol am droseddu rhywiol yn hanfodol i strategaethau ymchwilio, nid yn unig i ddeall y drosedd ond i ddeall sut mae troseddwyr yn trin ymchwilwyr.

Ar derfyn pob un o’r archwiliadau dadansoddol dwfn, rhannwyd y canfyddiadau gyda’r llu. Yr oedd y lluoedd wedyn yn cymryd cyfrifoldeb dros berchenogi’r canfyddiadau a datblygu cynllun gweithredu a nodi prosesau corfforaethol a ffyrdd gwell o weithio i ymdrin â’r materion a ddaeth i’r amlwg o’r dadansoddiadau, trwy sgwrsio gyda’r academyddion. Y dyhead am yr ail flwyddyn yw trawsnewid yn gyfan gwbl y modd mae’r heddlu yn ymateb i droseddau trais a throseddau rhyw eraill trwy ddatblygu model gweithredu cenedlaethol i ymchwilio i droseddau trais a throseddau rhyw eraill.

Er bod y canfyddiadau hyn yn canolbwyntio ar blismona, ni all heddluoedd greu gwelliant cynaliadwy ar eu pennau eu hunain. Maent yn sefyll mewn tirwedd plismona ehangach, sy’n un rhan yn unig o’r system cyfiawnder troseddol.

Mae angen sawl asiantaeth alluogi i gefnogi newid yn y llu cyfan a chreu gwelliannau cynaliadwy mewn arferion gwaith. Yn yr holl luoedd braenaru, cawsom fod dyfodiad ymchwilwyr dibrofiad i reoli troseddau trais a throseddau rhyw eraill yn creu problemau, i’r dioddefwyr yn ogystal â’r ymchwilwyr profiadol. Mae cyswllt uniongyrchol rhwng y problemau hyn a dysgu a datblygu annigonol, a rhaid i luoedd ymdrin â’r diffyg hwn trwy gydweithio â’r Coleg Plismona. Mae’n hanfodol fod y gwersi o Operation Soteria Bluestone yn un o’r agweddau y bydd HMICFRS yn ystyried wrth bennu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd lluoedd. Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn hanfodol er mwyn rhoi trosolwg ac i ddal heddluoedd i gyfrif, comisiynu gwasanaethau lleol ac o bosib alluogi gweithio rhyngasiantaethol cydlynus. Mae penderfyniadau gan yr heddlu am ymchwiliadau yn dibynnu ar benderfyniadau wedyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron i gyhuddo’r rhai a amheuir. Mae CPS yn rhan o Operation Soteria a hefyd yn ymdrechu i greu gwelliannau wrth gyflwyno cyfiawnder.

Mae’r canfyddiad fod un o bob tri achos o drais yr adroddir amdanynt yn digwydd mewn cyd-destun camdriniaeth ddomestig yn fater sydd angen ymdrin ag ef nid yn unig gan yr heddlu. Mae cefnogaeth gan y sector cymunedol yn aml (ond nid yn unig) yn cael ei drefnu trwy gefnogaeth a gynigir i ddioddefwyr o bob math o drais rhywiol neu gorfforol. Bydd y drafodaeth hon yn helpu i lunio ymagweddau’r heddlu at ymwneud ac atebolrwydd dioddefwyr.

Mae’r termau ymddiried a hyder wedi eu rhoi wrth galon gwaith Operation Soteria Bluestone. Mae ymchwil yn cadarnhau nad yw pawb yn ymddiried mewn plismona yr un fath. Mae cyfraddau is o ymddiriedaeth gwahanol ddioddefwyr o wahanol gefndiroedd[footnote 7], er enghraifft yr anabl[footnote 8], yn asio mewn ffyrdd cymhleth â’r ffyrdd y mae swyddogion yn trin dioddefwyr. Nid dim ond termau yw ymddiried a hyder, ond yn hytrach brofiadau bywyd, sy’n codi o ymwneud yr heddlu â dioddefwyr. Mae’n cael ei wella trwy well ymwneud â dioddefwyr a’i gryfhau pan fydd pobl yn teimlo eu bod wedi eu trin yn deg, wedi cael eu parchu a bod ganddynt lais (Jackson et al., 2012). Mae gosod llais dioddefwyr wrth galon y gwaith hwn, ac wrth galon y trawsnewid yn hanfodol at y dyfodol.

Yn olaf, dangosodd y rhaglen werth cydweithredu rhwng academyddion a’r heddlu. Mae llawer o wersi o’r cydweithredu hwn a rennir gyda gwasanaeth yr heddlu a’r gymuned academaidd.

Cyflwyniad

1. Yr heddlu yw’r prif geidwaid cyfiawnder troseddol. Fel cynrychiolwyr y wladwriaeth, y gyfraith a chymdeithas, mae gan yr heddlu hefyd gryn bŵer symbolaidd o ran diffinio’r llinell rhwng ymddygiad y tybir sydd yn ‘iawn’ neu yn ‘anghywir’. Mae’r hyn mae’r heddlu’n ei wneud o bwys i ymdeimlad y dinesydd o gyfiawnder. Y camau hyn yw craidd ymddiriedaeth a hyder yng nghyfraith gwlad.

2. Nid oes adroddiadau am y rhan fwyaf o brofiadau o drais rhywiol, felly ni fyddant fyth yn dod wyneb yn wyneb â’r gyfraith a phenderfyniadau cyfreithiol yn ymarferol. Pan fydd dioddefwr, neu rywun ar ei r/rhan, yn estyn allan at yr heddlu am help yn dilyn trais rhywiol, mae gan y wladwriaeth fandad clir i wneud y gofod cyfiawnder hwn yn hygyrch ac ymatebol iddynt. Mae sut mae’r heddlu yn trin troseddau trais a throseddau rhyw eraill ac yn ymwneud â dioddefwyr a’r sawl a amheuir - gan gynnwys o fewn eu rhengoedd eu hunain – yn anfon neges gref i gymdeithas yn ehangach am yr hyn sydd yn foesol dderbyniol a’r hyn nad yw. Mae’r hyn wnaiff yr heddlu pan fydd dioddefwyr yn dweud wrthynt am niwed yn offeryn pwerus i ddilysu profiadau pobl o’r niwed hwnnw. Mae gan harneisio’r pŵer symbolaidd hwn sydd gan yr heddlu, trwy wella yn amlwg ymateb yr heddlu i drais, botensial i gynorthwyo’r achos o roi diwedd ar drais rhywiol, trais, a thrais yn erbyn menywod a merched yn ehangach (Hohl a Stanko, 2022: 222).

3. Mae’r adroddiad hwn yn gosod rhaglen waith blwyddyn gyntaf Operation Soteria Bluestone ar gydweithrediad unigryw rhwng yr heddlu ac academia i drawsnewid ymateb yr heddlu i ymchwilio i drais yng Nghymru a Lloegr. Mae Operation Soteria Bluestone yn elfen greiddiol o Gynllun Gweithredu Adolygiad Cynhwysfawr Llywodraeth y DU o Drais a rhaglen Operation Soteria yn ehangach[footnote 9]. Mae’r fframwaith damcaniaethol sy’n sail i’r rhaglen gydweithredol hon rhwng yr heddlu ac academia yn cael ei osod yn Hohl a Stanko (2022, Atodiad 1).

4. Mae’r Adroddiad Blwyddyn 1 hwn yn rhoi manylion am roi ar waith yn ymarferol y rhaglen waith a gomisiynwyd, gan gynnwys heriau, yn ogystal â chanfyddiadau allweddol[footnote 10]. Mae angen meddwl o’r newydd am y canfyddiadau hyn am drais a throseddau rhyw eraill a ddatgelir wrth yr heddlu, a sut y mae’n rhaid i’r heddlu ymwneud â’r sawl sydd dan amheuaeth, dioddefwyr, ac asiantaethau eraill.

5. Yn olaf, mae’r adroddiad yn cymryd rhagolwg o’r Model Gweithredu Cenedlaethol a rhaglen waith Blwyddyn 2 Operation Soteria Bluestone. Y dyhead am yr ail flwyddyn yw trawsnewid yn gyfan gwbl y modd mae’r heddlu yn ymateb i droseddau trais a throseddau rhyw eraill trwy ddatblygu model gweithredu cenedlaethol i ymchwilio i droseddau trais a throseddau rhyw eraill. Mae GEG hefyd yn datblygu model gweithredu cenedlaethol o ran erlyn am drais.

6. Mae’r tirwedd cenedlaethol yn gosod y llwyfan ar gyfer gweithredu blwyddyn gyntaf Operation Soteria Bluestone (crynodeb yw hyn o’r adroddiad llawn yn Atodiad 4);

a. Bu cynnydd pedwarplyg yng nghyfraddau’r achosion o drais a gofnodwyd gan yr heddlu ers 2012/13, er bod graddfa ac amseru’r cynnydd wedi amrywio rhwng lluoedd. Mae gwahaniaethau mawr hefyd yng nghyfraddau’r achosion o drais a gofnodwyd gan yr heddlu rhwng lluoedd.

b. Mae cyfansoddiad cyffredinol yr holl droseddau rhyw – a throseddau trais a throseddau rhyw eraill yn benodol – a gofnodwyd gan yr heddlu yn amrywio rhwng ardaloedd heddlu; felly hefyd natur y galw.

c. Mae amrywiadau helaeth mewn cyfraddau cyhuddo o droseddau trais a throseddau rhyw difrifol eraill fesul llu, ac y mae hyn yn cael ei ddrysu braidd gan wahaniaethau yn yr amser a gymerir i ddod ag ymchwiliadau i ben, a gwahaniaethau felly yng nghyfran yr achosion sy’n dal ar agor ar unrhyw bwynt mewn amser.

d. Dengys data cenedlaethol ryngweithio cyfraddau cyhuddo ac euogfarnu wedi erlyn: gall cyfraddau cyhuddo uchel gael eu herydu gan gyfraddau euogfarnu isel, ac i’r gwrthwyneb.

Nodau ac amcanion: Newid trawsnewidiol wrth ymchwilio i drais

Nodau ac uchelgeisiau’r rhaglen

7. Dyma’r nodau:

a) Galluogi newid gwirioneddol drawsnewidiol yn ymchwiliadau’r heddlu i drais, fydd yn arwain at ddeilliannau radicalaidd gwell (gan gynnwys deilliannau cyfiawnder, ond nid rheiny’n unig);

b) Cyfiawnder trefniadol i ddioddefwyr a’r rhai a amheuir, o bob cefndir;

c) Ymchwiliadau teg a chytbwys i drais, sy’n canoli ar y drosedd honedig, gan gynnwys ymddygiad perthnasol y sawl a amheuir yn ei gyfanrwydd, heb or-ymchwilio i’r dioddefwr;

8. Dyma’r uchelgeisiau:

a) Cyfrannu at roi diwedd ar drais rhywiol;

b) Gwella yn radicalaidd a chynaliadwy ddeilliant cyfiawnder trefniadol a deilliant ymateb yr heddlu i drodeddau trais a throseddau rhyw eraill;

c) Ymchwilwyr i drais sydd â’r adnoddau digonol a chefnogaeth arbenigol: arbenigwyr sy’n ymfalchïo yn eu gwaith ac y rhoddir gwerth arnynt gan eu llu

9. Mae’r rhaglen hon yn wahanol; mae ei gwersi wedi eu cyd-gynhyrchu gan y tîm ymchwil academaidd a swyddogion yr heddlu. Ni fuasai hyn wedi bod yn bosib heb gyfranogiad gweithredol llawer o heddweision sydd wedi ymrwymo i wella eu harfer. Mae newid corfforaethol, unigol a ledled y llu felly yn seiliedig ar ymchwil, fel y gall yr heddlu lleol ddeall y ffordd fewnol o weithio - sydd yn dylanwadu’n sylweddol ar ymchwiliadau trais a’r rhai sy’n ymchwilio - trwy wybod am y canlynol:

a. problem trais yn eu llu hwy (beth yw’r galw a gynhyrchir trwy droseddau trais a throseddau rhyw eraill yr adroddir amdanynt);

b. gallu’r llu i ymchwilio mewn ffordd sy’n herio ymddygiad troseddol ac yn tarfu ar niwed i ddioddefwyr; a

c. gallu, medru a galluedd eu gweithlu cyfan (ymchwilwyr a staff yr heddlu) i wneud y penderfyniadau gorau a rhyngweithio gyda chyfiawnder a dioddefwyr.

10. I gael newid trawsnewidiol, mae angen i bobl ym mhob llu ymboeni am wella. Cyfarfu’r tîm ymchwil â chymaint o rai sydd wedi ymrwymo i hyn. Ni all fawr ddim newid oni cheir arweinyddiaeth bersonol, ymrwymiad corfforaethol a phersonol gan bobl ar draws llu i asio ynghyd y prosesau y tu mewn i’r llu a chytuno ar weledigaeth o’r hyn yw ymchwiliadau da a gofal am ddioddefwyr. Dylai unrhyw newid fod yn seiliedig ar wybodaeth gan ddioddefwyr, cefnogaeth gan y gymuned, a goruchwylio gan y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Dylai gael ei gefnogi gan asiantaethau ehangach sy’n gyfrifol am blismona goruchwylio a chefnogaeth, megis y Coleg Plismona, HMICFRS, a’r NPCC.

Amcanion Blwyddyn 1

11. Ymysg Amcanion Blwyddyn 1 am Operation Soteria Bluestone mae:

a. Adeiladu ar wersi o Brosiect Bluestone (manylion isod) gan ddefnyddio methodoleg archwiliad dwfn i ddeall y darlun cyfredol ‘fel y mae’;

b. Cefnogi’r lluoedd braenaru, ynghyd ag Avon a Gwlad yr Haf fel y llu peilot, i ddatblygu cynlluniau i fynd i’r afael â materion a amlygwyd yn yr archwiliad dwfn unigol a sefydlu rhwydweithiau cymheiriaid i hwyluso cyfathrebu gweithredol rhwng y lluoedd braenaru;

c. Cyfnewid gwybodaeth trwy rannu’r gwersi yn gyson â phob llu yng Nghymru a Lloegr, trwy Rwydwaith Dysgu Cenedlaethol.

Cefndir a phrawf y cysyniad: Prosiect Bluestone

12. Cychwynnodd Adolygiad Cynhwysfawr y Llywodraeth o Ymateb Cyfiawnder Troseddol i Drais ym Mawrth 2019. Yn yr un flwyddyn, dangosodd canfyddiadau Arolwg Llundain o Drais (2019), a gomisiynwyd gan Gomisiynydd Dioddefwyr Llundain, y cyfrifwyd am 86% o dynnu ymaith adroddiadau am drais yn Llundain gan gamau’r heddlu a’r dioddefwyr[footnote 11]. Yr oedd hefyd yn gosod her arall ynghylch sut beth fyddai ail-feddwl radical am yr agwedd blismona at drais[footnote 12].

13. Mae Adolygiad Cynhwysfawr y Llywodraeth o Drais, yr Arolwg o Drais yn Llundain a llawer iawn o adroddiadau eraill, ynghyd â chorff sylweddol o ymchwil academaidd, wedi dangos fod llawer o ddioddefwyr sy’n ceisio deilliant cyfiawnder yn dilyn achos o drais a gofnodwyd gan yr heddlu yn wynebu rhwystrau cyson. Ar draws plismona yng Nghymru a Lloegr, nid yw tri degawd o ymchwil gan lywodraethau, adroddiadau arolygiadau Arolygiaeth Ei Fawrhydi o Wasanaethau’r Heddlu a Thân ac Achub (HMICFRS), ac ymchwil fewnol i blismona wedi arwain at welliannau cynaliadwy i ymchwilio i drais. Parhau i ddirywio flwyddyn ar ôl blwyddyn a wnaeth deilliannau cyfiawnder gwael mewn troseddau trais a throseddau rhyw eraill. Mae lleisiau dioddefwyr am y daith niweidiol trwy’r system gyfiawnder wedi labelu’r ymateb gan gyfiawnder fel un gwael neu’n waeth na’r treisio rhywiol ei hun[footnote 13].

14. Achosodd canfyddiadau’r Arolwg o Drais yn Llundain i rai o aelodau Swyddfa’r Maer dros Blismona a Throsedd (MOPAC) [footnote 14] i adfyfyrio a meddwl sut y gallai agweddau newydd greu gwelliannau sylfaenol a chynaliadwy i ymateb yr heddlu i drais[footnote 15]. Dechreuodd y swyddogion hyn, trwy weithio gyda’r Athro Stanko a Dr Hohl, sbarduno sgwrs ar draws Llundain, a chyda’r heddlu a Llywodraeth, i awgrymu agwedd drawsnewidiol. Mae’r fframwaith dadansoddol ar gyfer yr agwedd hon yn cynnwys y dystiolaeth ysgolheigaidd fyd-eang ar gyfiawnder trefniadol[footnote 16] ac yn ei gymhwyso’n ymarferol i brofiad y dioddefwyr. Yn sylfaenol i hyn mae dealltwriaeth effro o arferion plismona ar waith.

15. Cafodd y prosiect peilot ei noddi a’i gynnal gan y Dirprwy Brif Gwnstabl (DCC) (bryd hynny) Sarah Crew yn Heddlu Avon a Gwlad yr Haf yn rhinwedd ei swydd fel arweinydd Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Heddlu (NPCC) am Droseddau Rhyw Oedolion mewn ymateb i’r gostyngiad yn nifer y sawl dan amheuaeth oedd yn cael eu cyhuddo a’u herlyn.

16. Ym mis Ionawr 2021, cafodd Prosiect Bluestone, cynllun peilot o’rdyluniad datblygol, gyllid trwy raglen Gwyddoniaeth, Technoleg, Dadansoddiad ac Ymchwil yr Heddlu (STAR) y Swyddfa Gartref. Bwriad y cynllun peilot oedd dwyn ynghyd arbenigwyr academaidd a phlismona gweithredol i edrych i mewn i ffyrdd o wella, ac yn wir o drawsnewid, ymateb yr heddlu i droseddau trais a throseddau rhyw eraill.

17. Prosiect Braenaru Bluestone, a gyflwynwyd yn Avon a Gwlad yr Haf yn gynnar yn 2021, oedd y tro cyntaf i’r ymagwedd newydd hon gael ei chymhwyso yn ymarferol. Yr oedd y canfyddiadau ymchwil a gynhyrchwyd yn unigryw o ran plismona yn y DU, yn rhannol oherwydd i’r ymchwil ddigwydd o fewn ac ar y cyd â swyddogion heddlu wrth eu gwaith, gan harneisio arbenigedd ymchwilwyr academaidd sydd wedi arbenigo mewn astudio effaith trais ac ymosodiadau rhywiol eraill ar oroeswyr, y cyhoedd yn gyffredinol, plismona a chyfiawnder. Arweiniodd hyn at feithrin cydweithredu ac ymddiried gyda heddweision, ac asio gwybodaeth academaidd a enillwyd trwy ddegawdau o ysgolheictod. Nod y prosiect oedd gwreiddio egwyddorion cyfiawnder trefniadol i ddioddefwyr a chyfiawnder sefydliadol i heddweision oedd yn ymchwilio i achosion o drais.

18. Mae gwella ymchwiliadau ynghlwm â phum piler[footnote 17] o ymholi seiliedig ar ymchwil, a ddaeth yn chwe philer ym mis Ebrill 2022. Yr oedd yr ymagwedd pum-piler gwreiddiol (fel ym Mhrosiect Bluestone) yn edrych i mewn i’r mecanweithiau sefydliadol sy’n gyrru deilliannau gwell a mwy trefniadol gyfiawn i ddioddefwyr troseddau trais a throseddau rhyw eraill. Dyma hwy:

  • Piler Un – Rhoi blaenoriaeth i ymchwiliadau sy’n canoli ar y sawl dan amheuaeth; sydd yn

  • Piler Dau - Adnabod, tarfu a herio’r rhai sydd dan amheuaeth dro ar ôl tro; a gwreiddio

  • Piler Tri – Cyfiawnder trefniadol systematig i ymwneud a dioddefwyr yn ystod proses yr heddlu;

  • Piler Pedwar - Gosod dysgu a datblygu swyddogion am y wybodaeth academaidd arbenigol am droseddau trais a throseddu rhywiol, a lles swyddogion, wrth graidd y broses ymchwilio; a

  • Piler Pump – Cefnogi’r uchod oll gyda monitro a gwerthuso gweinyddol da gan yr heddlu o strategaethau ymchwilio a deilliannau cyfiawnder, wedi eu harwain gan ddata ac sy’n gwybod am berfformiad, a gwell dealltwriaeth o broblem trais a throseddau rhyw eraill trwy ddadansoddi strategol.[footnote 18]

Mae’r pileri yn gweithio gyda’i gilydd i gyflwyno’r amodau corfforaethol y gall ymchwiliadau a’r sawl sy’n ymchwilio weithredu ynddynt, a chael cyfiawnder trefniadol i ddioddefwyr. Mae gwella yn llifo o ddealltwriaeth yr heddlu o’u gallu i gyflwyno’r uchod, ac yn fewnol, gosod rhaglen ar waith i newid y ffordd mae’r llu yn rhoi adnoddau, yn dysgu, goruchwylio a monitro perfformiad, ochr yn ochr â ffyrdd gwell o ymateb i ddioddefwyr troseddau trais a throseddau rhyw eraill.

Ffigwr 1

Ymchwilladau sy’n canolbwyntio ar y sawl a amheuir: Arweinydd piler: Yr Athro Horvath.

Rhai dan amheuaeth yn fynych: Arwinedd piler: Dr Davies.

Ymagwedd o Gyfiawnder Trefniadol at ymwneud â didoddefwyr: Dr Johnson/Dr Smith

Dysgu, datblygu a lies swyddogion: Arweinydd piler: Dr Williams.

Data a pherfformiad: Arweinydd piler: J Lovett

Gwaith fforensig digidol: Arweinydd piler: T may

Arweinyddion academaidd: Yr Athro Stanko OBE a Dr Hohl

Gwersi o Brosiect Bluestone

19. Consensws llethol staff yr heddlu a’r timau academaidd oedd yn cymryd rhan ym Mhrosiect Bluestone oedd bod gweledigaeth greiddiol y pum piler yn tanio’r sgyrsiau iawn i ymdrin ag atebion corfforaethol, lleol i’r llu, ac yn mynnu bod gwasanaeth yr heddlu yn dylunio a pherchenogi ffyrdd newydd o weithio. Canfu’r ymchwil rwystrau mewn prosesau a gwneud penderfyniadau yn ystod ymchwiliadau i droseddau trais a throseddau rhyw eraill. Cadarnhaodd hefyd nad oedd y gefnogaeth gorfforaethol angenrheidiol i alluogi’r strategaethau ymchwilio gwell y mae dioddefwyr yn eu haeddu wedi eu halinio’n iawn. Mae manylion y canfyddiadau yn Atodiad 5 a nodweddion ‘cyflwr fel y mae’ cyfredol yn Avon a Gwlad yr Haf yn cael eu hadlewyrchu yn y lluoedd braenaru.

20. Galluogodd canfyddiadau’r pum piler Avon a Gwlad yr Haf i osod gweledigaeth gliriach am y newidiadau pendant fyddai’n esgor ar ddeilliant trefniadol gyfiawn i ddioddefwyr. Gyda’i gilydd, creodd y timau pileri cydweithredol heddlu-academaidd sylfaen i raglen o newid sefydliadol i’r system i gyd, gan ddefnyddio offer a chynhyrchion gyda sail academaidd i osod llwybr ar gyfer gwella.

21. Seiliwyd y camau nesaf am wella yn Avon a Gwlad yr Haf ar gynhyrchion a mewnwelediadau’r ymchwilwyr a gafwyd am yr isod:

  • Ymchwiliadau yn canoli ar y sawl dan amheuaeth, gyda chymorth ‘map ymchwilio’ a gynhyrchwyd gan y prosiect, i ganolbwyntio ar bedair swyddogaeth sylfaenol yr ymchwiliad: ymchwilio tymor-byr; ymwneud â dioddefwyr; cyswllt rhwng yr heddlu-CPS a chanoli yn y tymor hir ar y sawl a amheuir.

  • Tarfu ar a herio’r sawl a amheuir yn fynych yn well. Gan ddefnyddio’r map ymchwilio a gwybodaeth arbenigol i greu strategaethau tymor byr a thymor hir i dargedu trosedd, cydweithio gyda thimau plismona ac asiantaethau eraill i weithio’n fwy cyfannol a rhagweithiol.

  • Cyfiawnder trefniadol systematig i ymwneud a dioddefwyr, sy’n cael ei wella trwy ddefnyddio llyfryn sylfaenol a gwybodus i ddioddefwyr a chynllun cyfathrebu â dioddefwyr sydd wedi ei seilio ym mhrofiadau dioddefwyr, a grëwyd trwy ymgynghori helaeth ag ISVAs a chydweithwyr yn yr heddlu, adborth cyson, a deialog gyda’r gwasanaeth ISVA yn Avon a Gwlad yr Haf.

  • Dysgu a datblygu gan swyddogion, sy’n cael ei hyrwyddo trwy wybodaeth arbenigol am ymatebion dioddefwyr i drais a strategaethau troseddwyr o ran troseddu, gan dalu sylw arbennig i les y swyddogion ymchwilio. Er enghraifft, cynhyrchodd tîm y prosiect gynllun i integreiddio gwybodaeth academaidd i ddysgu a datblygu am ymchwiliadau i droseddau trais a throseddau rhywiol, gan roi sylw arbennig i les y sawl sy’n ymchwilio;

  • Hyrwyddo gwell strategaethau ymchwilio gweinyddol a arweinir gan ddata, a’u monitro a’u gwerthuso; cynhyrchodd tîm y prosiect gynllun gwella data, gyda mapiau fel bod modd olrhain cynnydd a deilliannau achosion, a thempled ar gyfer cynnal proffil problemau strategol er mwyn deall yn well natur troseddau trais a throseddau rhyw, ymatebion ymchwilio a deilliannau cyfiawnder.

22. Dylid asio gwelliannau i ymchwilio i drais gyda galluogwyr corfforaethol sy’n cynnal ymwneud da gyda dioddefwyr. Mae’r ymchwilwyr yn cydnabod mai peth araf yw gwella oherwydd bod ffactorau y tu hwnt i allu’r llu lleol i newid yn sydyn, megis:

a. Mae amserlenni ymchwiliadau yn aml yn hir

b. Nid yw’r deunyddiau arloesol ar gyfer dysgu a datblygu am ymosodiadau rhyw a throseddwyr rhyw ar gael yn lleol

c. Mae’r gefnogaeth lles i swyddogion mewn llu yn ddiffygiol neu heb fod ar gael

d. Rhwystrir y gallu i gynhyrchu deunydd dadansoddol da gan ddiffyg dadansoddwyr, a dim digon o adnoddau dadansoddol penodedig/arbenigol

e. Galwadau beunyddiol llwythi gwaith uchel

f. Nid yw’r wybodaeth i fonitro beth sydd yn gweithio orau i strategaethau ymchwilio a chynnydd gydag achosion yn rhoi’r hyn mae ar luoedd ei angen i nodi gwella sydyn. Ond y mae egin newid eisoes i’w weld.

23. Mae gwaith trawsnewidiol yn digwydd ar hyn o bryd yn Heddlu Avon a Gwlad yr Haf, a bydd yn astudiaeth achos cryf am weithredu newid yn ystod y flwyddyn waith nesaf. Teimlodd y tîm academaidd yn wylaidd o ystyried dewrder a pharodrwydd swyddogion i gymryd risgiau personol wrth ddatgelu anawsterau a hyd yn oed fethiannau, yn y gobaith y bydd hyn yn helpu eu llu i wella. Yr oeddem hefyd yn hynod ddiolchgar i ddioddefwyr oedd yn barod i rannu eu profiadau er mwyn helpu’r llu i wella.

Sefydlu’r rhaglen genedlaethol: Blwyddyn 1 Operation Soteria Bluestone

24. Ym mis Mehefin 2021, adeg cyhoeddi Adroddiad Adolygiad Cynhwysfawr ar Drais am Ganfyddiadau a Chamau[footnote 19] y Llywodraeth, ymddiheurodd y Gweinidogion yn llwyr am fethu dioddefwyr troseddau rhyw, gan ymrwymo i ddatblygu model gweithredu cenedlaethol newydd i ymchwilio i drais ac erlyn erbyn Mehefin 2023 [footnote 20]. Sefydlwyd Operation Soteria Bluestone ac fe’i cyllidir gan y Swyddfa Gartref i ddatblygu agweddau plismona’r model gweithredu cenedlaethol, gan adeiladu ar y fframwaith damcaniaeth a’r gwersi o Brosiect Bluestone.

25. Yr oedd gwasanaeth yr heddlu (NPCC) a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) eisoes wedi rhoi cychwyn i gynllun cenedlaethol ar y cyd (JNAP)[footnote 21] ym Mawrth 2021 a sefydlodd strwythur llywodraethu a chynllun gwella i ymdrin â’r deilliannau cyfiawnder gwael wrth ymchwilio i droseddau trais a throseddau rhyw, ac erlyn. Helpodd y canfyddiadau o Brosiect Bluestone i lunio’r cynllun gweithredu hwn a gosod y seiliau i gynllunio Blwyddyn 1 Operation Soteria Bluestone.

26. Cynhaliwyd pedwar achos o archwiliad dwfn mewn heddluoedd, gan ddefnyddio’r ymagwedd fethodolegol a logistaidd a ddyluniwyd trwy’r gwersi o Brosiect Bluestone ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen (Medi 2021 i Awst 2022). Y lluoedd braenaru yw Gwasanaeth Heddlu’r Metropolitan, Heddlu Durham, Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr a Heddlu De Cymru.

27. Gan weithio gydag arweinyddion y tîm ymchwil ar draws saith prifysgol (gweler Atodiad 3), sefydlodd y cyd-arweinyddion academaidd (Stanko a Hohl) a thîm canolog bychan rhwydwaith cymhleth o gefnogaeth MOPAC canolog a phrifysgolion, gan gydgordio dros 40 o ymchwilwyr unigol gyda set gymysg o sgiliau ac arbenigol disgyblaethol. Bu arweinyddion pileri academaidd[footnote 22] yn llywio timau ymchwil dulliau cymysg gyda sgiliau. Ymysg y disgyblaethau yr oedd seicoleg fforensig, cymdeithaseg, troseddeg, gwyddor data, astudiaethau ffeministaidd a’r gyfraith, gydag arbenigedd mewn gweithio gyda phlismona neu o fewn heddluoedd a dioddefwyr-goroeswyr i lawer o’r tîm. Bu’r ymchwillwyr yn mireinio eu dulliau gan dynnu ar y gwersi o Brosiect Bluestone.

28. Yr oedd logisteg ymdrechion y flwyddyn gyntaf hon yn gymhleth. Saith prifysgol; dros 20 o Asesiadau Effaith Diogelu Data (AEDD), a chytundebau rhannu data gyda phedwar llu gwahanol, pob un â systemau, blaenoriaethau a mecanweithiau gwneud penderfyniadau hollol wahanol i alluogi unrhyw rai o’r ymchwilwyr i holi cwestiynau neu edrych i mewn i ddata am droseddau; fetio diogelwch i’r holl ymchwilwyr, sawl gwaith, am nad oedd rhai lluoedd yn cydnabod fetio o luoedd eraill. Pedwar rheolwr prosiect i’r lluoedd; arweinwyr pileri ym mhob llu; logisteg trefnu cyfweliadau diddiwedd, grwpiau ffocws, sesiynau arsylwi, gwylio fideo a wisgwyd ar gyrff neu gyfweliadau a recordiwyd ar fideo gyda dioddefwyr - a mwy. Nid gor-ddweud yw datgan fod y prosesau hyn ynddynt eu hunain wedi llyncu swm enfawr o amser. Cafwyd caniatâd moeseg gan bob prifysgol[footnote 23].

29. Un o gŵynion allweddol dioddefwyr sy’n adrodd wrth yr heddlu yw’r posibilrwydd o golli eu ffonau fel man cychwyn yr ymchwiliad. Fel y nodwyd uchod, i ymdrin â hyn, ychwanegodd y tîm biler ymchwil arall (Piler chwech) i edrych i mewn i elfen ddigidol ymchwiliadauRAOSO, gan gynnwys y ffordd mae’r heddlu yn cymhwyso arfau fforensig digidol i gasglu tystiolaeth ddigidol (o ffonau yn bennaf) gyda mwy o DPIAs a chytundebau rhannu data a chontractau prifysgol. Mae’n anodd portreadu’r tirlun logistaidd helaeth a chymhleth yr oedd y prosiect yn ymdrin ag ef mewn cyn lleied o amser.

30. Dros y flwyddyn gyntaf hon, edrychodd y rhaglen i mewn i ystod eang o ddata, a gasglwyd trwy’r dulliau canlynol o ddal data:

a. Dadansoddiad o bob achos o droseddau trais a throseddau rhyw difrifol yr adroddwyd amdanynt rhwng Ionawr 2018 ac Ionawr 2020 neu Dachwedd 2021 o bedwar llu. Dadansoddodd y timau 81,705 achos o droseddau trais a throseddau rhyw eraill.

b. Adolygwyd yn fewnol 233 o adolygiadau ffeiliau achos gan o leiaf ddau swyddog ymchwilio (o reng wahanol fel arfer) o bob un o’r pedwar llu, gan ddefnyddio ffrâm godio a osodwyd gan y tîm academaidd a roddodd ganllawiau am sut i’w cwblhau.

c. Ymchwil pwrpasol o 741 cofnod ymchwilio llawn ddefnydd pedwar llu o godau deilliant troseddau a gofnodwyd[footnote 24]. Mae’r codau hyn yn cael eu gosod gan y Swyddfa Gartref, fel ffordd o ddosbarthu rhesymeg swyddogion yr heddlu dros fethu â gallu cyhuddo’r sawl a amheuir a all fod wedi eu cysylltu â throseddau trais neu droseddau rhyw eraill. Yr oedd y cannoedd o achosion hyn yn lens i ymchwilio i drais nad oedd ar gael i ymchwilwyr na’r Swyddfa Gartref cyn hyn. Ymdrinnir â hyn yn nes ymlaen yn yr adroddiad.

d. Arsylwadau personol mewn gorsafoedd heddlu o swyddogion yn gweithio sifftiau ymchwilio i droseddau trais a throseddau rhyw eraill (gan gynnwys cyfweliadau ABE).

e. Mewn tri llu, gwylio a dadansoddi clipiau o Fideo a Wisgir ar y Corff.

f. Yn y pedwar llu, adolygiad dwfn o gyrsiau hyfforddi a gynigir i swyddogion ymchwilio, gan gynnwys cwrs Rhaglen Ddatblygu Ymchwilwyr Arbenigol i Ymosodiadau Rhyw (SSAIDP)[footnote 25].

g. Arolygon o heddweision mewn pedwar llu yn ymchwilio i les, anghenion dysgu a datblygu’r swyddogion, a’r gefnogaeth gorfforaethol a roddir gan bob llu.

h. Cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda swyddogion o bob rheng a swyddogaeth, ISVAs, darparwyr gwasanaethau cefnogi, cyfreithwyr CPS ym mhob un o’r pedwar llu, a phaneli o bobl gyda phrofiad bywyd.

i. Adolygiadau dogfennau trylwyr o ddogfennau mewnol cysylltiedig â RASSO yr holl luoedd a ddarparwyd i ni, megis protocolau, gweithdrefnau, canllawiau a llawer mwy.

j. Sesiynau adborth yn y lluoedd gydag uwch-arweinwyr yn y llu, ynghyd a gweithgor VAWG y llu.

31. Mae Operation Soteria Bluestone yn canoli’n bennaf ar waith ditectifs sy’n ymchwilio i droseddau trais a throseddau rhyw eraill. Tynnodd y cynllun peilot yn Avon a Gwlad yr Haf sylw’r tîm at yr angen i ymchwilio i sgiliau a gwybodaeth ymchwilwyr yn benodol. Mae ymchwilio yn sgil arbennig mewn plismona. Mae gofyn i’w swyddogion gwarantedig fynd ar gyrsiau arbenigol er mwyn bod yn dditectif ymchwilydd i ymchwilio i droseddau.[footnote 26]

32. Wrth ei galon, mae ymwneud Operation Soteria Bluestone â’r lluoedd heddlu yn ymestyn y cynllun peilot yn Avon a Gwlad yr Haf ac yn cynnwys:

a) Dealltwriaeth o gyfraniad profiad bywyd dioddefwyr-goroeswyr o drais ac ymosodiad rhywiol a chyda’r system cyfiawnder troseddol (mae’r tîm ymchwil oll yn arbenigwyr mewn astudiaethau o drais yn erbyn menywod ac ymateb y ector cymunedol[footnote 27] a’r heddlu i’r rhain; mae paneli goroeswyr yn rhan o’r dull o herio ymagweddau a chynhyrchion);

b) Sylfaen i wella seiliedig ar fframwaith o bileri gydag ymchwil yn sail iddo sydd yn asio camau a gweithredu gyda ‘damcaniaeth cyfiawnder trefniadol’– gyda manteision i ddioddefwyr, troseddwyr, swyddogion a staff;

c) gwerthfawrogiad o werth deialog barhaus rhwng heddluoedd ac academyddion i roi cyfeiriad ar atebion newydd a chynaliadwy i welliannau lleol, cyfraniadau am strategaethau ymchwilio a chanllawiau ar wella data’r llu, a defnyddio ymchwil a dadansoddeg i lywio dealltwriaeth o ddeilliannau;

d) cynhyrchu dadansoddiadau newydd a gymerwyd o gofnodion yr heddlu o droseddau tais a throseddau rhyw, adolygiadau achosion gan yr heddlu, a’r cyfoeth o ddata a gasglwyd trwy dechnegau ymchwil gwyddor gymdeithasol aml-ddull gan dros 40 o ymchwilwyr.

33. Dysgodd y tîm ymchwil fod angen i ddeall materion y llu heddlu lleol ac ymwneud gyda hwy a chael adborth ganddynt yn bwrpasol er mwyn bod yn effeithiol. Mae’r mewnwelediad o’r holl luoedd braenaru (gan gynnwys Heddlu Avon a Gwlad yr Haf) yn cyfrannu at adeiladu’r Model Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer ymchwilio i droseddau trais a throseddau rhyw eraill[footnote 28]

Operation Soteria Bluestone: Canfyddiadau allweddol Blwyddyn 1

34. Mae’r adran nesaf hon yn ymdrin â chanfyddiadau allweddol cyffredinol o ymchwil pwrpasol Operation Soteria Bluestone a dadansoddeg a gynhaliwyd yn Heddlu Durham, Gwasanaeth Heddlu’r Metropolitan, Heddlu De Cymru a Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr. Mae’r canfyddiadau hyn gyda’i gilydd yn helpu i roi darlun o blismona yn genedlaethol, gyda’r nod o ddarparu’r sylfaen tystiolaeth i ddatblygu’r Model Gweithredu Cenedlaethol. O’r herwydd, gwnaed gwybodaeth gan luoedd ac ar lefel llu yn ddienw, a chyflwynir dadansoddiadau penodol fel rhai sy’n darlunio cyd-destunau’r trais a nodweddion dioddefwyr ar draws y lluoedd braenaru, gan ddefnyddio data o un neu fwy o luoedd. Gyda’i gilydd, mae’r arsylwadau a’r canfyddiadau yn datgelu cymhlethdodau trais a gofnodwyd ac yn dangos pa heriau sydd i ymchwiliadau o droseddau trais a throseddau rhyw eraill.

35. Mae ymchwilio dan arweiniad data yn Operation Soteria Bluestone yn defnyddio ymagwedd glir at asio’r data ar droseddau a gofnodwyd â deilliannau. Gan nad oes consensws ar draws llywodraethau, plismona a’r system cyfiawnder troseddol yn gyffredinol ynghylch beth sydd yn diffinio ‘difrifoldeb’ mewn troseddau rhyw ac eithrio trais, mae’r canfyddiadau dadansoddol a gyflwynir yma wedi eu hasio ag ymagwedd y Swyddfa Gartref a’r ONS at gyhoeddi troseddau a adroddir wrth yr heddlu ac a gofnodir ganddynt. Mae adroddiadau ac arolygiadau’r llywodraeth, gan gynnwys Operation Soteria, yn defnyddio RASSO fel y llaw-fer i gyfeirio at droseddau trais a throseddau rhyw difrifol. Fel y trafodwyd ym Mhiler Pump yn Atodiad 11, mae tîm academaidd Operation Soteria Bluestone yn defnyddioRAOSO, troseddau trais a throseddau rhyw eraill, fel y term sydd fwyaf cywir yn dal y data a adroddwyd gan y Swyddfa Gartref a’r Swyddfa Ystadegau Genedlaethol (SYG).

Nid oes gan ymchwilwyr hedlduoedd ddigon o wybodaeth arbenigol am droseddu rhywiol. Mae angen arbenigedd ac arferion ymchwilio arbenigol sydd ar sail ymchwil ar gyfer troseddau trais a throseddau rhyw.

36. Mae’r diffyg hwn o wybodaeth arbenigol am droseddu rhywiol, ac arferion ymchwilio arbenigol sydd ar sail ymchwil ar gyfer trais a throseddau rhyw yn effeithio ar ansawdd a deilliannau ymchwiliadau ac ymwneud â dioddefwyr. Hefyd, mae goruchwylio penderfyniadau ymchwilio yn dangos y diffyg gwybodaeth arbenigol neu ei ddefnydd mewn ymchwiliadau i drais a throseddau rhyw[footnote 29].

37. Awgryma’r ymchwil o Operation Soteria Bluestone y dylai arbenigedd heddluoedd mewn ymchwilio i droseddau trais a throseddau rhyw eraill gynnwys:

a. gwybodaeth am ymddygiad troseddu rhywiol, natur cyd-destunau trais a’i effaith ar wahanol ddioddefwyr o wahanol gefndiroedd seiliedig ar ymchwil academaidd[footnote 30]

b. integreiddio’r wybodaeth hon i ddysgu a datblygu a arweinir gan y llu i ymchwilwyr a staff (yn enwedig dadansoddwyr)

c. technolegau a strategaethau fforensig digidol priodol

d. adnoddau a chefnogaeth gorfforaethol i gadw, gloywi ac adolygu gallu a galluedd i gymhwyso’r wybodaeth arbenigol hon

e. trosolygon dadansoddol am gofnodion o droseddau trais a throseddau rhyw eraill, yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu’r cynhyrchion dadansoddol hyn, a chydnabod gwerth y trosolygon hyn i atal yn lleol.

f. Mecanwaith i fonitro a rheoli’r effaith bersonol gaiff ymchwilio i droseddau rhyw ar fywydau swyddogion yn y gwaith a’u cartref.

38. Yr oedd ar staff eraill yr heddlu yn ychwanegol at yr ymchwilwyr angen gwybodaeth arbenigol. Mae lleisiau dioddefwyr a heddweision a gyfwelwyd gan y prosiect hwn yn ategu’r angen i swyddogion ymateb cyntaf, ac eraill yn y llu, ddeall mwy am y ffordd orau i gyfathrebu gyda dioddefwyr troseddau rhyw a’u trin. Felly hefyd mae gwell gwybodaeth am ddata a dadansoddwyr gwybodaeth (staff heddlu sy’n sifiliaid yn aml) yn hanfodol i gyflwyno perfformiad plismona clyfrach wrth ymchwilio i droseddau trais a throseddau rhyw eraill.

Yr oedd ymdrechion ymchwilio anghymesur yn mynd tuag at brofi hygrededd yr hyn mae dioddefwr yn ei ddweud. Mae angen ail-gydbwyso ymchwiliadau i gynnwys ymchwiliad trylwyr i ymddygiad troseddu y sawl sydd dan amheuaeth.

39. Dylai ymchwiliadau ganoli ar ymchwilio i’r drosedd rywiol, gan gynnwys unrhyw dactegau meithrin, trin a gorfodi a ddefnyddir gan yr un dan amheuaeth sydd yn uniongyrchol berthnasol i’r drosedd honedig, ar sail gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth o ymddygiad troseddu rhywiol a’i effeithiau ar ddioddefwyr, a thrwy hynny ail-gydbwyso ymchwiliadau ymaith oddi wrth ganoli’n bennaf ar hygrededd y dioddefwr fel tyst.

40. Ym mhob un o’r lluoedd braenaru yr oedd ymdrech anghymesur i brofi hygrededd yr hyn mae’r dioddefwr yn ei ddweud. Gwelwyd hyn nid yn unig trwy waith Piler Un (gweler Atodiad 7), a edrychodd ar ymchwiliadau oedd yn canoli ar y sawl dan amheuaeth, ond hefyd Piler Pump. Dadansoddodd y Piler 741 o godau deilliant achosion a chanfu dystiolaeth fod lluoedd yn defnyddio hygrededd y dioddefwr fel rhan o’u hesboniad wrth benderfynu peidio â gweithredu ymhellach mewn ymchwiliad. Canfu Piler Chwech, oedd yn edrych i mewn i’r ymagwedd at echdynnu deunydd digidol ac atafael ffonau, hefyd lawer mwy o ganoli ar ddioddefwyr pan oedd yr un dan amheuaeth wedi ei adnabod. Codwyd pryderon am amseru’r echdyniad digidol gan ddioddefwyr (gweler Piler Tri Atodiad 9). Mae pryderon pellach oherwydd y diffyg ystyriaeth a roddwyd i strategaethau troseddu rhyw, megisparatoi at bwrpas rhyw, a all helpu i ddilysu’r hyn a ddywed y dioddefwr. Yr oedd ymddygiad paratoi at bwrpas rhyw hyd yn oed yn fwy amlwg yn yr achosion lle’r oedd rhai dan amheuaeth dro ar ôl tro.

41. Rhaid i luoedd wella’r modd maent yn adnabod y rhai sydd dan amheuaeth yn fynych trwy adolygu yn systematig hanes troseddol a data gwybodaeth gan luoedd, rhannu gwybodaeth yn well a defnyddio ystod o dactegau i sicrhau bod ymchwilwyr yn dal ymddygiad troseddu rhywiol. Nid oedd gwirio adroddiadau blaenorol am y rhai dan amheuaeth a defnyddio gwybodaeth o droseddau rhyw blaenorol lle’r enwyd yr un dan amheuaeth yn cael eu cynnal bob tro. Yn yr holl luoedd braenaru, yr oedd dros hanner y rhai a enwyd fel rhai dan amheuaeth eisoes wedi dod i sylw’r heddlu, sy’n dangos cwmpas a lled y rhai sydd dan amheuaeth yn fynych (gweler Piler Dau, Atodiad 8). Mae methiant i adnabod y rhai sydd dan amheuaeth yn fynych yn effeithio ar strategaethau ymchwilio a gwneud penderfyniadau yn ystod ymchwiliadau ac yn colli cyfle i atal troseddu pellach.

Nid oes gan y dysgu a’r datblygu sydd ar gael ar hyn o bryd i ymchwilwyr wybodaeth arbenigol am droseddu[footnote 31]. Mae effeithiau niweidiol y diffyg medr hwn yn cael ei wneud yn waeth gan lwythi gwaith uchel, cymhlethdod cyd-destunau trais, a dim digon o staff, sy’n rhwystr i ansawdd a deilliant ymchwiliadau, ac yn arbennig ansawdd ymwneud â dioddefwyr.

42. Mae dysgu a datblygu sydd â gwybodaeth arbenigol yn rhan annatod o wella. Mae adfer adfyfyriol yn allweddol i greu diwylliant lle mae’r holl lu yn dysgu, a gallai hyn oll fynd i’r afael â lles yr ymchwilwyr, gwell ymchwiliadau, a gwell gwasanaeth i ddioddefwyr.

43. Nid yw rhai o’r ymchwilwyr yn cael unrhyw ddysgu rhagarweiniol na mynediad at ddatblygu parhaus am droseddau trais a throseddau rhyw. Ymhellach, roeddent wedi eu llethu â nifer a natur gymhleth achosion a diffyg cefnogaeth gorfforaethol fel y gallai eu gwaith fod yn fwy ymatebol i wahanol ddioddefwyr a gwahanol gyd-destunau. Yr oedd hyn yn cael effaith ar y sawl oedd yn hynod wybodus am drais ac ymosodiadau rhywiol, gan wneud iddynt deimlo’n euog ond heb ddigon o amser i fentora a goruchwylio yn iawn, ac eraill oedd yn hynod ddibrofiad (neu hyd yn oed heb eto gymhwyso) fel ditectifs ymchwilio. Mae a wnelo’r diffyg hwn o gefnogaeth gorfforaethol nid yn unig â nifer annigonol o swyddogion sy’n cael eu defnyddio i ymchwilio i droseddau trais a throseddau rhyw eraill. Mae’n cyfeirio at ddiffyg gwasanaethau cefnogi corfforaethol, gan gynnwys dadansoddi a gwybodaeth, dysgu a datblygu ac yn enwedig cefnogaeth i les[footnote 32].

44. Rhaid gwella’r gallu a’r medr mewn gwaith fforensig digidol trwy ddysgu a datblygu’r gweithlu. Yr oedd Piler Chwech yn edrych i mewn i dystiolaeth ddigidol a chanfu bod sawl her arwyddocaol i’r lluoedd braenaru, ac i’r gwasanaeth heddlu yn ei gyfanrwydd. Trefnir y rhain dan dri phennawd: technolegol, sefydliadol ac ymchwiliadol. Ymysg rhai enghreifftiau mae:

  • Mae deunydd tystiolaethol digidol mewn ymchwiliadau i droseddau rhyw wedi cynyddu’n esbonyddol; felly hefyd yr heriau mae tystiolaeth ddigidol yn ei darparu i blismona yn gyffredinol, ac ymchwiliadau RAOSO yn benodol.

  • Mae plismona digidol yn gymhleth ac yn esblygu’n barhaus; mae gallu gwasanaeth yr heddlu i gynnal ymholiadau ac ymchwiliadau cysylltiedig â throseddau rhyw yn cael ei lesteirio gan gyllid, hyfforddiant, rheoli ansawdd, medr digidol, annigonolrwydd technolegol a galluedd swyddogion.

  • Mae dehongli a dadansoddi sgyrsiau o gymwysiadau fel Snapchat, WhatsApp, Tinder, Bumble, TikTok neu sgyrsiau testun syml, yn gymhleth, ac nid oes hyfforddiant digonol.

  • Yn aml, nid oedd swyddogion a staff heddlu yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau tystiolaeth ddigidol ar lefel genedlaethol a llu. Yr oedd ffyrdd o weithio yn wahanol ym mhob llu braenaru. Yr oedd materion allweddol fel rheoli swm y data a storio’r data hyn yn aml y tu hwnt i allu llu unigol i’w unioni.

  • Ni welwyd unrhyw system rheoli ffeiliau achos mewn unrhyw lu braenaru ar gyfer tystiolaeth ddigidol. Mae hyn yn golygu nad yw’n hawdd adfer data yn rhwydd wrth gaffael/atafael dyfeisiadau digidol, echdynnu, dadansoddi, storio, trosglwyddo i CPS, neu ei ddileu, sy’n achosi oedi a rhwystredigaeth i ymchwilwyr. O ganlyniad, rhaid gwneud y broses â llaw o sawl system ar draws pob llu.

  • Mae llawer o waith yn y maes a fwriadwyd i wella mynediad swyddogion at dechnoleg; fodd bynnag, heb hyfforddiant, adnoddau na strategaethau digonol i swyddogion, ni fydd mwy o dechnoleg ynddo’i hun yn datrys problemau defnyddio deunydd digidol yn RAOSO​.

  • Mae adnoddau yn her ar draws plismona yn ehangach, yn enwedig o ran agweddau ymchwiliadol a thechnolegol y defnydd o ddeunydd digidol, sydd wedi arwain at staff heb hyfforddiant, gorddibyniaeth ar lawrlwythiadau cyfan o ffonau, yr awgryma’r dystiolaeth ei fod yn straenllyd iawn i ddioddefwyr a’r heddlu, ac ansawdd wael lawrlwythiadau tystiolaeth ddigidol. (Gweler Piler Chwech, Atodiad 12).

45. Yn ychwanegol at y diffyg dysgu a datblygu ar droseddau trais, troseddau rhyw a throseddu rhywiol, daethom ni, fel tîm ymchwil, ar draws cryn amrywiaeth mewn heddluoedd o ran agweddau, credoau, arferion ac ymddygiad cymdeithasol (“diwylliant”) swyddogion tuag atRAOSO. Mae’n rhaid herio diwylliannau mewnol sy’n tanseilio ymchwiliadau teg a chyfartal i drais fel mater o frys.

46. Yn yr holl heddluoedd braenaru, dangosodd rhai swyddogion a gyfwelwyd ddiwylliant o beidio â chredu dioddefwyr. Mae swyddogion yn gwasanaethu heddiw nad ydynt yn meddwl y dylai RAOSO fod yn flaenoriaeth i blismona. Dywedodd rhai eu bod yn credu bod y rhan fwyaf o adroddiadau am drais yn ddim ond esiamplau o ‘ddifaru wedi rhyw’, neu os oedd gan ddioddefwyr broblemau ychwanegol megis problemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio alcohol/sylweddau, yna problem y dioddefwr oedd hyn, ac nad oedd rheidrwydd ar y system gyfreithiol i’w diogelu. Nid yw’n syndod fod y swyddogion hyn yn llai brwd ynghylch a fyddai unrhyw newid o waith Operation Soteria Bluestone. Lleiafrif oedd y swyddogion hyn, ond serch hynny, maent yn cyfrannu at gryn oedi i gynnydd, neu’n rhwystro cynnydd (naill ai’n fwriadol neu’n anfwriadol), ac yn dylanwadu ar y modd mae swyddogion newydd yn cael eu cymdeithasoli i waithRAOSO.

47. Mae’n bwysig herio diwylliannau plismona sy’n tanseilio cynnydd er mwyn cael trawsnewid yn y maes hwn. Mae’n mynnu bod swyddogion yn yr heddlu yn herio agweddau ac ymddygiad ei gilydd. Rhaid dangos i newydd-ddyfodiaid arferion da/gorau wrth ymwneud â dioddefwyr ac ymchwilio i droseddauRAOSO. Rhaid i heddluoedd ysgwyddo cyfrifoldeb corfforaethol i’w cefnogi yn eu dysgu yn ogystal ag wrth oruchwylio i ddod yn bencampwyr ac eiriolwyr yn y maes hwn o blismona.

48. Pan nad oes gan swyddogion y wybodaeth na’r adnoddau i wneud penderfyniadau cymhleth i fodloni anghenion dioddefwyr na deall y cyd-destunau lle mae troseddau rhyw yn digwydd, yn diofyn maent yn cwympo’n ôl ar weithdrefnau a phrosesau ymchwilio yn hytrach na chysylltu â dioddefwyr. Yn yr holl luoedd braenaru, mae hyder ac ymwneud dioddefwyr yn dioddef i raddau helaeth o’r cyd-destun gweithio uchod lle mae ymchwiliadau i droseddau trais a throseddau rhyw eraill yn digwydd.

49. Mae hyder dioddefwyr yn yr heddlu a’r system cyfiawnder troseddol (gweler Piler Tri, Atodiad 9) yn isel.

50. Mae Operation Soteria Bluestone yn cynnwys rhoi lleisiau dioddefwyr a’u cefnogwyr (megis Ymgynghorwyr Annibynnol Trais Rhywiol) wrth galon yr ymagwedd. Mae consensws llethol ymysg dioddefwyr a’u cefnogwyr sy’n rhan o Operation Soteria Bluestone, fod yn rhaid i leisiau dioddefwyr fod wrth galon unrhyw gynllun gan yr heddlu i wella, ynghyd a thryloywder ac adborth.

Mae cyswllt uniongyrchol rhwng swyddogion yn diffygio, diffyg dysgu a datblygu i swyddogion, a hyder swyddogion mewn defnyddio’r strategaethau ymchwiliol iawn wrth gynnal ymchwiliadau.

51. Mae diffygio yn dweud yn drwm yn bersonol ar ymchwilwyr (profiadol ac amhrofiadol), ac y mae diffyg cydnabyddiaeth, sy’n cael ei ddangos trwy gefnogaeth gorfforaethol i reoli llwythi gwaith a lles, i alluogi gwaith ymchwilwyr i fod yn briodol ymatebol i ddioddefwyr ac yn heriol i’r sawl dan amheuaeth. Yn ystod Blwyddyn 1, canfuwyd:;

a) Fod symptomau diffygio am ludded emosiynol wedi eu dangos o arolwg pwrpasol (gweler Piler 4) yn uwch ymysg ymchwilwyr i droseddau trais a throseddau rhyw nac ymysg staff y GIG yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig Covid-19.

b) Mae dad-broffesiynoli wedi digwydd i rôl ymchwilio i droseddau trais a throseddau rhyw eraill. Mae’r diffyg dysgu a datblygu addas a phriodol yn tanseilio gallu unrhyw lu i uwchsgilio ei swyddogion. Mae defnyddio swyddogion dibrofiad iawn yn rhoi mwy o faich ar yr ychydig o ymchwilwyr profiadol, gan gyfrannu at straen a blino’n llwyr.

c) Mae rhwystrau strwythurol a systemig i iechyd galwedigaethol ym mhob llu (y ffordd mae wedi ei strwythuro, ei reoli mewn silos ac yn methu cydnabod y broblem) a chyfrifoldeb canolfan gorfforaethol pob llu yw unioni hyn[footnote 33].

52. Yr oedd lefelau blinder llwyr a straen a fesurwyd gan offerynnau ymchwil seicolegol profedig yn peri cryn bryder. Yr oedd swyddogion a staff eraill yr heddlu oedd yn frwd am ddarparu gwell gwasanaeth, rhai ohonynt fu’n gwneud eu gorau ar waethaf cyfyngiadau difrifol y datblygu parhaus sydd ar gael, a goruchwylio eu gwaith yn iawn a chefnogol, yn teimlo eu bod yn cael eu rhwystro gan eu llu ac nad oeddent yn cael eu cefnogi. Yr oedd y straen a’r pwysau ar swyddoion ymchwilio a’r sawl o’u cwmpas yn peri loes hyd yn oed i’r rhai oedd yn cynnal yr ymchwil.

53. Yr oedd mwyafrif llethol y swyddogion wedi ymrwymo i fanteisio ar y cyfle a roddir gan Operation Soteria Bluestone i helpu i drawsnewid eu hymchwiliadau i drais ac ymwneud â dioddefwyr er gwaethaf y lefelau uchel o ddiffygio, llwythi gwaith rhy drwm, a dim digon o adnoddau.

Mae dadansoddi yn strategol drais a gofnodwyd yn sylfaenol i ddeall y cyd-destunau troseddu mewn strategaethau ymchwilio ac o ran monitro perfformiad.

54. Mae dadansoddiadau dwfn o dros 80,000 o achosion a gofnodwyd o drais dros y pedair blynedd a aeth heibio ar draws y pum llu braenaru yn amlygu’r nodweddion isod o drais yr adroddwyd amdano sy’n hanfodol i ddeall y cyd-destunau troseddu, llywio strategaethau ymchwilio a deall cymhlethdodau dioddef o droseddau trais.

55. Yn gyson ar draws y lluoedd braenaru, fflagiwyd rhyw draean o achosion o drais a gofnodwyd gan yr heddlu fel rhai cysylltiedig â chamdriniaeth ddomestig (DA); felly hefyd rhyw un o bob deg o droseddau rhyw eraill. Yn y rhan fwyaf o luoedd, yr oedd cysondeb rhwng y newidyn DA a newidyn(nau) [footnote 34]perthynas y dioddefwr/sawl dan amheuaeth. Hefyd, cofnodwyd tuag un o bob deg o achosion trais fel rhai yn y teulu (yn lluoedd A, B ac C yr oedd y gyfran yn amrywio o 8.5 i 13.6 y cant.

Ffigwr 2: Cyfran yr achosion o droseddau trais a throseddau rhyw difrifol eraill a gofnodwyd fel rhai cysylltiedig â chamdriniaeth ddomestig (DA) neu lle’r oedd partner cyfredol neu gynbartner yn rhan

Ffynhonnell: Data RASSO o luoedd braenaru Soteria, 2018-20 (Llu A) neu 2018-21 (Lluoedd B-D)

Llu A 2018-20 Llu B 2018-21 Llu C 2018-21 Llu D 2018-21 Cymedrig
Trais , Fflagiwyd fel DA 31% 35% 28% 29% 31%
Trais , Partner agos cyfredol/cynbartner 33% 29% 26% 14%1 29%2
Troseddau rhyw difrifol eraill , Fflagiwyd fel DA 8% 13% 8% 9% 10%
Troseddau rhyw difrifol eraill , Partner agos cyfredol/cynbartner 8% 7% 6% 2%1 7%2

Nodiadau: (1) Yr oedd data am berthynas gan Lu D yn anghyflawn iawn ac felly heb fod yn ddangosydd dibynadwy. (2) Cyfartaleddau Lluoedd A i C yn unig.

56. Yn lluoedd A (a ddangosir isod i ddarlunio) a B, cynyddu wnaeth y gyfran o droseddau trais a fflagiwyd felDA dros y blynyddoedd diwethaf, tra yn Llu C, cwympo wnaeth y gyfran ac yn Llu D, arhosodd ar yr un lefel.

Ffigwr 3: Cyfran o honiadau o RASSO a gofnodwyd gan Lu A a fflagiwyd fel camdriniaeth ddomestig (DA) fesul blwyddyn adrodd.

Ffynhonnell: Set ddata RASSO Llu A, 2018-20

Cyfran honiadau TAThRhD a fflagiwyd fel DA yn ôl blwyddyn adrodd

2018 2019 2020 2018-2020
Troseddau rhyw eraill 6.2% 8.1% 9.8% 8.0%
Trais 28.7% 31.3% 34.1% 31.4%

57. Ar hyn o bryd, mae camdriniaeth ddomestig a throseddau rhyw difrifol yn cael eu hystyried yn feysydd plismona ar wahan mewn llawer llu, yn ogystal ag mewn rhai agweddau ar gefnogaeth i ddioddefwyr. Mae’r gorgyffwrdd mawr rhwng camdriniaeth ddomestig a throseddu rhywiol yn arwyddocaol ac y mae angen ei ystyried mewn strategaethau ymchwiliol, diogelu a sut y mae swyddogion yn ymwneud â dioddefwyr.

58. Dengys dadansoddiad o ddata’r lluoedd braenaru fod y cyfraddau cyhuddo am droseddau trais yn gwahaniaethu’n fawr yn dibynnu ar y berthynas rhwng y dioddefwr a’r sawl oedd dan amheuaeth. Mae proffil y mathau o berthynas hefyd yn amrywio yn ôl ethnigrwydd y dioddefwr. Mae union batrwm a’r cyfraddau cyhuddo yn amrywio rhywfaint rhwng y pedwar llu braenaru (a hyn yn cael ei gymhlethu gan wahaniaethau ym mha mor gyflawn yw’r data am y berthynas).

59. Yn Llu A y grŵp mwyaf oedd partneriaid agos cyfredol a chyn-bartneriaid (33%), oedd yn gysylltiedig â’r gyfradd gyhuddo isaf (1.2%) gan gyfrif am lai nag un o bob pump o gyhuddiadau (18.2%). Er ei fod yn llai cyffredin o lawer, yr oedd achosion o drais lle na fu unrhyw gyswllt blaenorol rhwng y sawl dan amheuaeth a’r dioddefwr[footnote 35] (5% o bob achos o drais a gofnodwyd yn Llu A) yn gysylltiedig â chyfradd gyhuddo uwch o lawer (8.2%) ac yr oedd yn cyfrif am bron i un o bob pump o gyhuddiadau (19.1%).

Ffigwr 4: Cyhuddiadau o drais yn Llu A (2018-20) yn ôl perthynas y sawl a amheuir /dioddefwr

Ffynhonnell: Llu A Set ddata TThRhD, 2018-20

Dieithryn 1 Dieithryn 2 Teuluol Cyfaill/cydnabod Agos/agos yn flaenorol Heb gofnodi/ddim yn gwybod
Cyfradd cyhuddo/gwysio am drais yn ôl math o berthynas 8.2% 3.4% 5.3% 1.9% 1.2% 0.3%
Cyfanswm honiadau o drais yn ôl math o berthynas 5.2% 9.9% 10.3% 25.0% 33.0% 16.7%
Canran yr holl gyhuddiadau 19.1% 14.9% 24.7% 21.0% 18.2% 2.1%

60. Mae cwestiynau ynghylch tegwch penderfyniadau’r heddlu ac ymddiriedaeth mewn penderfyniadau ymchwilio yn bwysig o ran dangos cyfiawnder trefniadol teg i wahanol grwpiau sydd â gwahanol lefelau o ymddiriedaeth mewn plismona[footnote 36]. Dangosir y data am drais a gofnodwyd yn ôl ethnigrwydd y dioddefwyr o Lu A isod. Ymhellach, yn Llu A mae’r data yn dangos fod deilliannau (yn enwedig cyfraddau cyhuddo) yn amrywio’n systemaidd yn ôl y math o berthynas rhwng y sawl a amheuir a’r dioddefwr, a phroffil perthynas achosion o drais a gofnodwyd gan yr heddlu yn amrywio yn ôl ethnigrwydd y dioddefwr. Mae hyn yn mynd beth o’r ffordd i esbonio pam fod cyfraddau cyhuddo yn amrywio yn ôl ethnigrwydd y dioddefwr ac yn awgrymu, er mwyn ateb unrhyw gwestiynau ynghylch a yw dioddefwyr o wahanol grwpiau neu fathau o ethnigrwydd yn cael eu trin yn gyfartal, fod yn rhaid i luoedd gofnodi’n fwy cadarn ethnigrwydd y dioddefwr a’r berthynas rhwng y dioddefwr a’r sawl a amheuir.

Ffigwr 5: Achosion o drais a gofnodwyd gan Lu A, fesul ethnigrwydd y dioddefwr a’r berthynas rhwng y dioddefwr/y sawl a amheuir

Ffynhonnell: Set ddata RASSO Llu A, 2018-20

Proffil perthynas yn ôl ethnigrwydd IC1 – Gwyn Gog. Ewropeaidd IC2 – Gwyn De Ewropeaidd IC3 – Du IC4 – Asiaiadd IC5 – Dwreiniol IC6 – Dwyrain Canol Ar goll/anhybsys Cyfanswm
1. Dieithryn 1 1 6.6% 4.9% 4.4% 2.2% 5.5% 2.5% 4.9% 5.2%
2. Dieithryn 2 2 11.1% 8.8% 11.1% 6.6% 13.6% 7.0% 8.2% 9.9%
3. Teuluol 9.8% 10.3% 11.2% 11.2% 5.8% 6.6% 10.5% 10.3%
4. Cyfaill/Cydnabod 25.7% 18.9% 27.6% 18.9% 21.6% 21.9% 26.5% 25.0%
5. Agos/Agos yn flaenorol 30.8% 43.8% 29.9% 51.2% 38.7% 51.8% 25.0% 33.0%
6. Heb gofnodi new anhysbys 16.0% 13.3% 15.8% 10.0% 14.8% 10.1% 24.9% 16.7%
Cyfanswm 100.0% 100.0% 100.0% 100.0% 100.0% 100.0% 100.0% 100.0%

Ffigwr 6: Cyfraddau cyhuddo am drais yn Llu A, fesul ethnigrwydd y dioddefwr a’r berthynas rhwng y dioddefwr/y sawl a amheuir

Ffynhonnell: Set ddata RASSO Llu A, 2018-20

Cyfradd cyhuddo IC1 – Gwyn Gog. Ewropeaidd IC2 – Gwyn De Ewropeaidd IC3 – Du IC4 – Asiaiadd IC5 – Dwreiniol IC6 – Dwyrain Canol Ar goll/anhybsys Cyfanswm
1. Dieithryn 1 1 10.11% 9.84% 9.62% 7.58% 9.09% n/a 1.27% 8.23%
2. Dieithryn 2 2 4.20% 5.50% 3.68% 0.51% 5.56% 2.94% 1.02% 3.38%
3. Teuluol 5.75% 9.38% 5.93% 5.65% 4.35% 9.38% 2.37% 5.35%
4. Cyfaill/Cydnabod 1.96% 5.11% 1.88% 2.13% 2.33% 0.94% 1.02% 1.87%
5. Agos/Agos yn flaenorol 1.69% 1.47% 1.05% 1.05% 0.65% 1.60% 0.33% 1.23%
6. Heb gofnodi neu anhysbys 0.35% 1.21% 0.23% 0.33% n/a n/a 0.08% 0.28%
Pob math o berthynas 2.78% 3.7% 2.37% 1.8% 2.26% 1.86% 0.77% 2.23%
% y dioddefwyr 41.25% 4.76% 20.72% 11.46% 1.52% 1.85% 18.44% 100.0%

61. Gall cyfraddau is o gyhuddo lle mae partneriaid chyn-bartneriaid agos fod yn gysylltiedig ag achosion yn deillio o ddatgelu damweiniol. Yr oedd dadansoddiad o ffeiliau achos o 741 achos o drais a gaewyd gyda deilliannau 14, 15 ac 16[footnote 37] yn amlygu’r ffaith fod yr achosion hyn yn llawer mwy tebygol na mathau eraill o berthynas rhwng y sawl a amheuir /dioddefwr o fod wedi eu datgelu’n ddamweiniol yn hytrach na lle mae dioddefwr wedi mynd ati i adrodd am drais wrth yr hedldu gyda’r nod o geisio deilliant cyfiawnder. Yn y sampl o ffeiliau achos, yr oedd 33% o’r achosion o drais gan bartner neu gyn-bartner agos, ond yr oeddent yn cyfrif am 50% o’r achosion o drais y rhoddwyd y cod ‘datgeliad nid honiad’ iddynt. Gall datgeliadau damweiniol ddigwydd yn ystod asesiad risg camdriniaeth ddomestig (megis y DASH[footnote 38]) yn dilyn digwyddiad o gamdriniaeth ddomestig nad oes a wnelo â thrais a gofnodwyd gan yr heddlu.

62. Mae cyfraddau cyhuddo am drais yn amrywio yn ôl ardaloedd plismona lleol yn y lluoedd braenaru (hyd yn oed ar gyfer math o berthynas trwy reoli). Dylai lluoedd fod yn chwilfrydig am y rheswm pam fod y gwahaniaethau hyn yn bod, a’r nod o ddarparu gwasanaeth cyfartal i bob dioddefwr yn ogystal â bod yn sensitif i lefelau ymddiriedaeth gwahanol cymunedau gwahanol mewn plismona. Yn achos Llu A yr oedd cyfraddau cyhuddo cyffredinol am drais dros dair blynedd yn amrywio o 1.8% i 3.0% yn ôl ardal, ond yr oedd y cyfraddau cyhuddo hefyd yn amrywio wrth edrych ar fathau arbennig o berthynas. Dangosir Dieithryn 1 a phartner/cyn-bartner agos i ddarlunio hyn, yn amrywio o 3.2 i 13.1% (gwahaniaeth pedwarplyg) a 0.7 i 2.3% (gwahaniaeth triphlyg). Yn Llu B, yr oedd yr ardal blismona leol gyda’r gyfradd gyhuddo uchaf 1.3 gwaith yn uwch na’r ardal â’r gyfradd gyhuddo isaf. Yn Llu C yr oedd y gyfradd gyhuddo uchaf 2.4 gwaith yn uwch na’r ardal gyda’r gyfradd gyhuddo isaf[footnote 39]. Dylai’r ystadegau hyn gychwyn deialog am pam fod y gwahaniaethau hyn yn bod. Mae cyhoeddi ystadegau o’r fath yn rhoi tryloywder, ac i gymunedau, mae’n ffordd o ddal asiantaethau cyfiawnder troseddol i gyfrif. O’r herwydd, mae eu hargaeledd yn ganolog i blismona mewn democratiaeth, ac i ddeialog rhwng yr heddlu a’r gymuned.

Ffigwr 7: Cyfraddau cyhuddo am drais yn Llu A, fesul ardal a pherthynas rhwng dioddefwr/y sawl a amheuir

Ffynhonnell: Set ddata RASSO Llu A 2018-20

Cyfraddau cyhuddo o drais fesul ardal Ardal 1 Ardal 2 Ardal 3 Ardal 4 Ardal 5 Ardal 6 Ardal 7 Ardal 8 Ardal 9 Ardal 10 Ardal 11 Ardal 12 Cyfanswm y Llu
1. Dieithryn 1 10.9% 13.1% 8.2% 10.0% 10.3% 4.0% 8.8% 10.4% 3.9% 11.5% 3.2% 5.2% 8.2%
5. Agos/agos yn flaenorol 1.1% 1.4% 1.7% 0.8% 1.3% 1.2% 0.9% 2.3% 1.2% 1.1% 1.3% 0.7% 1.2%
Pob math o berthynas 3.0% 2.6% 2.4% 2.3% 2.3% 2.1% 2.1% 2.1% 2.0% 2.0% 1.8% 1.8% 2.2%

63. Gall amseroedd deilliannau, a thrwy hynny hyd cyfartalog ymchwiliadau, amrywio’n fawr o ran deilliant a llu. Ar draws y pedwar llu braenaru, dangosodd amseroedd ymchwilio arwyddion o gysondeb, yn benodol o ran Deilliant 15, a hefyd gryn amrywiadau, yn benodol am Ddeilliant 1 (cyhuddo/gwysio) yn Llu A, lle’r oedd yr amseroedd yn arbennig o faith, a Deilliannau 14, 16 ac 18[footnote 40] yn Llu C, oedd yn arbennig o fyr. Gan Lu A yr oedd yr amseroedd deilliant hwyaf ar draws yr holl brif ddeilliannau. Yn gyffredinol, mae proffil codau deilliannau yn amrywio rhwng lluoedd.

Ffigwr 8: Amser cyfartalog (dyddiau) o gofnodi trais i ddeilliannau, fesul llu

Ffynhonnell: Data RASSO o luoedd braenaru Soteria, 2018-20 (Llu A) neu 2018-21 (Lluoedd B-D)

Amseroedd deilliant am drais - dyddiau ar gyfartaledd Llu A 2018-20 Llu B 2018-21 Llu C 2018-21 Llu D 2018-21
Deilliant 1 - cyhuddo/gwysio 547 282 345 255
Deilliant 14 - anawsterau tystiolaethol, heb adnabod y sawl a amheuir, nid yw’r dioddefwr yn cefnogi camau pellach 111 99 52 109
Deilliant 15 - anawsterau tystiolaethol, sawl a amheuir wedi ei adnabod, ddioddefwr yn cefnogi camau pellach 258 225 208 215
Deilliant 16 - anawsterau tystiolaethol, sawl a amheuir wedi ei adnabod, nid yw’r dioddefwr yn cefnogi camau pellach 141 127 97 121
Deilliant 18 – ymchwiliad wedi’i gwblhau, neb dan amheuaeth wedi ei adnabod 160 133 52 137

64. Yn y lluoedd braenaru, mae gwahaniaethau systematig yn yr amser a aeth heibio o’r amser y digwyddodd trosedd hyd y pryd y cafodd ei gofnodi gan yr heddlu yn ôl perthynas y sawl a amheuir/dioddefwr. Mae’r amser a gymerir i adrodd yn hwyaf fel arfer am gamdriniaeth gan aelodau teulu a phobl mewn sefyllfaoedd o awdurdod, a’r byrraf am drais gan ddieithryn. Mae Llu B, oedd â lefel gymedrol o fanylion yn yr amrywiolyn perthynas y sawl a amheuir/dioddefwr, yn dangos y cysylltiad hwn. Er enghraifft, tra bod yr amser cymedrig am adrodd yn un diwrnod yn unig am drais gan ddieithryn, yr oedd yn 12 mlynedd am drais gan deulu agos, 14 mlynedd i berthnasau eraill, a 38 mlynedd i droseddwyr oedd mewn sefyllfa o ymddiriedaeth ar y pryd.

Ffigwr 9: Amseroedd cyfartalog a chymedrig (dyddiau) o drosedd o drais hyd at ei gofnodi fel trosedd, yn ôl manylion perthynas y sawl a amheuir/dioddefwr, Llu B

Ffynhonnell: Set ddata RASSO Llu B, 2018-21

Cymedrig Cyfartalog
Anhysbys 1701 4355.6
Dieithryn 1 650.1
Perthynas 5276 6592.6
Perthynas 208 1392.2
Proffesiynol 17 6166.3
Person yr Ymddiriedir 13964 13492.6
Arallr 533 4234.6
Dim wedi’i gofnodi 52 4528.7
Mewn Anghydfod â 31 1533.3
Gwarcheidwad - Ward 3125 3124.5
Teulu 4240 6282.5
Cydymaith Troseddol 183 325.3
Cydymaith 28 2140.2
(gwag) 1288 4618.2
Cyfanswm 300 3310.4

65. Yn achos Llu B, adlewyrchwyd nifer uchel o achosion o gamdriniaeth sefydliadol heb fod yn ddiweddar (yn erbyn dynion) yn y ffaith fod trais yn erbyn dynion yn fwy tebygol o lawer o fod yn hanesyddol na thrais yn erbyn menywod. Mae patrwm tebyg ond efallai yn llai amlwg yn Llu A, lle’r oedd 93% o achosion o drais a gofnodwyd gan yr heddlu yn erbyn dioddefwyr benyw wedi digwydd rhwng 2001 a 2020, o gymharu â 79% o drais yn erbyn dioddefwyr gwryw.

Ffigwr 10: Cyfansoddiad dioddefwyr trais fesul rhyw a dyddiad (blwyddyn) y drosedd, Llu B

Ffynhonnell: Set ddata RASSOLlu B, 2018-21

Blwyddyn y Drosedd Benyw Gwryw
Hyd at 1961 0.2% 0.6%
1962 i 1981 4.1% 18.3%
1982-2001 10.1% 24.8%
2002-2021 85.6% 56.3%

66. Mae proffil oedran dioddefwyr yn y lluoedd braenaru yn gwahaniaethu rhwng trais (fel trosedd ar ei phen ei hun) a throseddau rhyw eraill. Yn gyson ar draws y lluoedd braenaru, yr oedd gan ddioddefwyr troseddau rhyw eraill a gofnodwyd gan yr heddlu broffil oedran is na dioddefwyr trais, ond yn y naill achos a’r llall, yr oedd y dioddefwyr a’r rhai dan amheuaeth yn nodweddiadol yn debyg o ran oed, hynny yw, mae’r rhan fwyaf o droseddu yn gyfoed-ar-gyfoed. Mae a wnelo’r siart isod â Llu C.

Ffigwr 11: Proffil dioddefwyr yn ôl math o drosedd, oedran adeg y drosedd a rhyw’r dioddefwr. Dioddefwyr 0 i 90 oed.

Ffynhonnell: Set ddata RASSO Llu C, 2018-21. Rhyw’r dioddefwyr yn seiliedig ar god troseddau’r Swyddfa Gartref.

Oedran y Dioddefwr Troseddau rhyw difrifol eraill - benyw Troseddau rhyw difrifol eraill - gwryw Trais - benyw Trais - gwryw
0 0.10% 0.10% 0.10% 0.10%
1 0.10% 0.10% 0.10% 0.00%
2 0.20% 0.10% 0.10% 0.00%
3 0.60% 0.20% 0.20% 0.10%
4 0.90% 0.20% 0.40% 0.10%
5 0.80% 0.30% 0.30% 0.20%
6 0.80% 0.40% 0.40% 0.20%
7 0.90% 0.30% 0.40% 0.20%
8 0.90% 0.30% 0.50% 0.20%
9 1.00% 0.40% 0.40% 0.20%
10 1.10% 0.30% 0.40% 0.20%
11 1.60% 0.50% 0.60% 0.20%
12 2.40% 0.60% 1.10% 0.10%
13 2.10% 0.40% 1.20% 0.20%
14 2.30% 0.20% 1.80% 0.10%
15 2.10% 0.30% 2.10% 0.10%
16 1.80% 0.30% 1.90% 0.20%
17 1.80% 0.30% 1.90% 0.10%
18 1.50% 0.10% 1.90% 0.10%
19 1.20% 0.10% 1.80% 0.10%
20 1.20% 0.20% 1.90% 0.10%
21 1.20% 0.10% 1.70% 0.10%
22 1.00% 0.10% 1.30% 0.20%
23 0.90% 0.10% 1.30% 0.10%
24 0.80% 0.10% 1.10% 0.10%
25 0.70% 0.10% 1.30% 0.10%
26 0.70% 0.10% 1.10% 0.10%
27 0.60% 0.10% 1.00% 0.10%
28 0.50% 0.10% 1.00% 0.10%
29 0.50% 0.00% 1.00% 0.10%
30 0.50% 0.10% 1.00% 0.10%
31 0.50% 0.10% 0.90% 0.10%
32 0.50% 0.10% 0.90% 0.10%
33 0.40% 0.10% 0.90% 0.10%
34 0.40% 0.10% 0.80% 0.10%
35 0.40% 0.10% 0.90% 0.10%
36 0.40% 0.10% 0.80% 0.10%
37 0.40% 0.00% 1.00% 0.10%
38 0.40% 0.10% 0.80% 0.10%
39 0.30% 0.00% 0.70% 0.10%
40 0.20% 0.10% 0.50% 0.10%
41 0.20% 0.10% 0.50% 0.00%
42 0.20% 0.00% 0.50% 0.00%
43 0.20% 0.00% 0.40% 0.00%
44 0.20% 0.00% 0.50% 0.00%
45 0.20% 0.00% 0.40% 0.00%
46 0.20% 0.00% 0.40% 0.10%
47 0.20% 0.00% 0.40% 0.00%
48 0.20% 0.00% 0.30% 0.00%
49 0.20% 0.00% 0.30% 0.00%
50 0.20% 0.00% 0.20% 0.10%
51 0.20% 0.00% 0.20% 0.00%
52 0.20% 0.00% 0.30% 0.00%
53 0.10% 0.00% 0.20% 0.00%
54 0.10% 0.00% 0.10% 0.00%
55 0.10% 0.00% 0.20% 0.00%
56 0.10% 0.00% 0.20% 0.00%
57 0.10% 0.00% 0.10% 0.00%
58 0.10% 0.00% 0.10% 0.00%
59 0.10% 0.00% 0.10% 0.00%
60 0.00% 0.00% 0.10% 0.00%
61 0.10% 0.00% 0.00% 0.00%
62 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
63 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
64 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
65 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
66 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
67 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
68 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
69 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
70 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
71 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
72 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
73 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
74 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
75 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
76 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
77 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
78 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
79 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
80 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
81 0.10% 0.00% 0.00% 0.00%
82 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
83 0.10% 0.00% 0.00% 0.00%
84 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
85 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
86 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
87 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
88 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
89 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%
90 0.00% 0.00% 0.00% 0.00%

67. Mae dioddefwyr iau (adeg y drosedd) fel arfer yn cymryd mwy o amser i adrodd wrth yr heddlu eu bod wedi dioddef. Ar draws yr holl lluoedd braenaru, ac i drais a throseddau rhyw eraill, po ieuengaf oedd y dioddefwyr pan wnaethant ddioddef, hwyaf y buont ar gyfartaledd cyn dweud wrth yr heddlu eu bod wedi dioddef; fel yr uchod, yr oedd yr achosion hyn yn nodweddiadol yn achosion o gamdriniaeth gan aelodau’r teulu neu bobl mewn sefyllfa o ymddiriedaeth. O’r herwydd, cofnodwyd rhyw saith o bob 10 o achosion o drais gyda dioddefwyr 12 oed ac iau fwy na phum mlynedd wedi iddynt ddigwydd (y ffigyrau am y data sydd ar gael mewn tair llu oedd 68%, 69% a 72%). Ar y llaw arall, yr oedd dioddefwyr hŷn yn fwy tebygol o lawer o adrodd am drais yn fuan wedi i’r drosedd ddigwydd, fel y dengys y siart hwn am Lu A.

Ffigwr 12: Oedran dioddefwyr trais adeg y drosedd a’r amser rhwng y drosedd ac adrodd wrth yr heddlu, Llu A. Dim ond oedrannau hysbys a ddangosir.

Ffynhonnell: Set ddata RASSO Llu A, 2018-20

Amser rhwng cyflawni’r drosedd a’i riportio i’r heddlu 12 a iau 13 i 15 16 i 25 26 a throsodd
a) 0 i 7 diwrnod 10% 29% 45% 53%
b) 8 i 30 diwrnod 3% 10% 9% 9%
c) 31 i 180 diwrnod 6% 16% 13% 13%
d) 181 i 365 diwrnod 3% 9% 6% 6%
e) 1 i 2 flynedd 3% 6% 6% 5%
f) 2 i 3 blynedd 2% 4% 3% 3%
g) 3 i 5 mlynedd 4% 3% 4% 3%
h) 5 mlynedd + 68% 23% 14% 7%
  99% 100% 100% 99%

Nid oedd gan yr un o’r lluoedd lle bu archwiliad dwfn ddigon o systemau data, dadansoddwyr na’r gallu dadansoddol i gefnogi dadansoddiad strategol da i wella ymchwiliadau i droseddau trais a throseddau rhyw eraill, a allai gyfrannu at unrhyw weithgarwch atal troseddau yn lleol nac unrhyw flaen-gynllunio i reoli llwyrhi gwaith y gweithlu ymchwilio.

68. Ar draws yr holl luoedd braenaru, yr oedd cofnodion yr heddlu ar goll neu’n cynnwys data heb ei fewnbynnu’n iawn, er enghraifft, ar ethnigrwydd dioddefwyr, y berthynas rhwng y dioddefwr-sawl a amheuir a chodau deilliant wedi eu cymhwyso’n anghywir, mewn cyfran sylweddol o achosion. Mae data heddlu o ansawdd wael yn cyfyngu ar y gallu i iawn ddeall unrhyw wahaniaethau mewn deilliannau cyfiawnder a allai gael effaith ar rai grwpiau o ddioddefwyr. Yr oedd ansawdd data yn amrywio ar draws y lluoedd braenaru, gan gynnwys yng nghyswllt cyflawnder, cywirdeb, dibynadwyedd a chysondeb. Mewn rhai achosion, gellid llenwi bylchau yn rhannol trwy ddefnyddio cyfuniad o newidynnau lluosog. Mewn eraill, fodd bynnag, roedd bylchau mawr yn dal yno, sy’n tanseilio dibynadwyedd canfyddiadau. Mae’r tabl isod yn crynhoi maint y bylchau data am drais a gofnodir gan yr heddlu.

Ffigwr 13: Data coll ynghylch y sawl a amheuir o drais a dioddefwyr

Ffynhonnell: Data RASSO o luoedd braenaru Soteria, 2018-20 (Llu A) neu 2018-21 (Lluoedd B-D)

Data coll (trais) Llu A Llu B Llu C Llu D
Rhyw’r dioddefwr [footnote 41] <1% 8% 26% 1%
Oedran y dioddefwr <1% 6% 1% 5%
Canfyddiad ethnigrwydd y dioddefwr gan yr heddlu 18% 13% 56% 44%
Ethnigrwydd a ddiffiniwyd gan y dioddefwr - 16% 68% 58%
Rhyw’r sawl a amheuir 11% 34% 50% 36%
Oedran y sawl a amheuir 27% 27% 41% 38%
Canfyddiad ethnigrwydd y sawl a amheuir gan yr heddlu 51% 34% 58% 12%
Ethnigrwydd a ddiffiniwyd gan y sawl a amheuir - 20% 62% 16%
Perthynas y sawl a amheuir/Dioddefwr 17% 24% 33% 62%

Noder: Llu A: Data am 2018-20. Dioddefwr gyda URN; nifer y sawl a amheuir; perthynas y sawl a amheuir/dioddefwr yn gyfuniad o ddau amrywiolyn. Llu B: Data am 2018-21. Llu C: Data am 2018-21. Perthynas y sawl a amheuir /dioddefwr am 2018-20 yn unig; cyfuniad o ddau newidyn (56% ar goll ar y prif amrywiolyn). Llu D: Data am 2018-21. Eithriwyd ethnigrwydd y sawl a amheuir lle na nodwyd unrhyw un dan amheuaeth

69. Dangosodd tystiolaeth o’r archwiliad dwfn o ffeiliau achos codau deilliant hefyd gyfyngiadau data a gofnodwyd. Yr oedd yr adolygiad o 741 o ffeiliau achos trais a gaewyd gyda deilliannau 14, 15 a 16 yn dangos yn aml iawn lle nad oedd data wedi ei gofnodi mewn ffeiliau strwythuredig, ei fod er hynny wedi ei gofnodi mewn ffeiliau achos, fel arfer fel testun rhydd megis yn log yr ymchwiliad neu rannau eraill o’r ffeil. Mae modd defnyddio’r data testun rhydd hwn i ategu data strwythuredig, sy’n arwain at gynnydd mawr yng nghyfraddau cwblhau newidynnau megis ethnigrwydd dioddefwyr, rhyw’r dioddefwr a’r sawl a amheuir, a’r berthynas rhwng y sawl a amheuir/dioddefwr. Fodd bynnag, erys bylchau mawr yn oedran ac ethnigrwydd y sawl a amheuir, a thybir bod hyn i’w briodoli yn rhannol i’r ffaith nad oedd rhai o’r rhai a amheuir wedi eu hadnabod. Mewn achosion eraill, ymddengys os nad oedd yr achos wedi mynd ymhell, nad oedd yr heddlu wedi darganfod y wybodaeth hon neu eu bod heb ei gofnodi.

70. Nid oes gan heddluoedd y gallu a’r medr dadansoddol i ddeall natur y galw na’u gallu hwy i ymateb iddo. Mae defnyddio a deall data’r heddlu ei hun am droseddau trais a throseddau rhyw yn hanfodol er mwyn cael ymagwedd strategol at wella ymchwiliadau i drais a throseddau rhyw eraill.

71. Mae’r angen i heddluoedd ddeall eu data ar ddioddefwyr am droseddau trais a throseddau rhyw eraill a gofnodir yn egwyddor sylfaenol yn y Model Gweithredu Cenedlaethol. Ni fyddai’r un endid corfforaethol breifat yn rhedeg ei fusnes heb ddeall yn iawn pwy yw ei chwsmeriaid, ei galwadau, ei chadwyn gyflenwi, adnoddau ei gweithlu, ac ar yr un pryd buasent yn edrych i’r dyfodol er mwyn monitro risgiau a chyfleoedd. I blismona, mae a wnelo hyn yn uniongyrchol ag atal troseddau.

72. Mae data ar lefel y llu a’i ddadansoddiadau yn sail i unrhyw allu i fesur gwelliant ac i sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn lleol. Nid rhywbeth ychwanegol yw’r gallu a’r medr i ddadansoddi: mae’n hollbwysig i wella ymchwiliadau i droseddau trais a throseddau rhyw eraill ar draws y llu. Dylid rhannu’r dadansoddiad o ddata gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu a phartneriaid lleol eraill, yn enwedig y rhai sy’n darparu gwasanaethau cymorth.

73. Fel y dengys y siart isod, nid mater syml yw deall y cymhlethdodau rhwng ardaloedd heddlu, penderfyniadau CPS am gyhuddo, a deilliannau euogfarnu. Argymhellir yn gryf y dylai sgyrsiau am wella fod yn seiliedig ar ddata sydd ar gael a dadansoddeg gofalus. Bryd hynny’n unig y gall dadleuon ynghylch lle a sut i wella arferion fod yn seiliedig ar gynllun gwella a yrrir gan ddata ac sy’n cael ei berchenogi yn lleol.

Ffigwr 14: Archwilio’r berthynas rhwng penderfyniadau CPS i gyhuddo fel % o gyfanswm yr achosion o drais a gofnodwyd gan yr heddlu, a chyfraddau euogfarnu wedi erlyn - Fesul ardal heddlu. Cymru a Lloegr, 2019/20 i 2020/21 gan gynnwys yr holl flynyddoedd.

Ffynonellau: Tablau data blynyddolVAWG CPS, blynyddoedd yn diweddu Mawrth 2020 a Mawrth 2021. Data Agored y Swyddfa Gartref am Droseddau a Deilliannau a Gofnodwyd (fel ar Orffennaf 2021).

Data for this chart was not available to publish accessibly.

74. I adeiladu gallu a medr y gweithlu, mae angen i lu heddlu ddeall y materion strategol a gyflwynir gan eu proffil lleol o droseddau trais a throseddau rhyw eraill. I wneud hyn, mae angen gwneud defnydd strategol o ddata’r heddlu, ac y mae hyn yn ei dro yn gofyn am gael data digon da gan yr heddlu, systemau data, a’r gallu i ddadansoddi’n strategol. Gallai lluoedd wedyn weithio gyda’r sector cymunedol a phartneriaid eraill mewn cyfiawnder troseddol i ystyried atal troseddau yn ehangach, a chefnogaeth i ddioddefwyr yn lleol. Mae gan wahanol asiantaethau wahanol ddefnyddwyr gwasanaeth, ac efallai nad ydynt yn dymuno ymwneud â’r heddlu, neu wneud hynny ymhellach. O gael gwybodaeth am degwch, sut mae gwahanol grwpiau o bobl a gwahanol gyd-destunau o drais yn cael eu trin a beth ddaw i’w rhan trwy’r system cyfiawnder yn hwyluso sgyrsiau ehangach am niwed RAOSO yn lleol. Ymysg y cwestiynau hyn mae:

a. Pwy yw’r dioddefwyr sy’n adrodd am RAOSO yma?

b. Beth mae’r wybodaeth am y dioddefwyr hyn yn ei ddweud wrthym am yr achosion o drais yr adroddir amdanynt yn y cyd-destunau sy’n bwysig i ymchwiliadau yma?

c. Beth allwn ni ddysgu am anghenion dioddefwyr, cefnogaeth a ffactorau eraill sydd yn galluogi’r trafodaethau gorau mewn partneriaeth am y mathau o adnoddau sydd eu hangen i gefnogi dioddefwyr yma?

d. Beth mae’r data yn ei ddweud wrthym am droseddu rhyw yn lleol?

e. Pwy sydd dan amheuaeth?

f. Faint o’r rhai a amheuir gan y llu sy’n dod dan amheuaethyn fynych?

g. Sut mae troseddu mynych yn ymddangos mewn strategaethau ymchwilio i droseddau rhyw cysylltiedig neu’r mathau o adnoddau ymchwilio a neilltuir i atal y niwed a achosir gan y bobl hyn sy’n dod dan amheuaeth yn fynych yma?

h. Sut mae arolwg o ddioddefwyr (sy’n cael ei ddatblygu gan Operation Soteria Bluestone) yn rhoi adborth lleol gan ddioddefwyr trais yn uniongyrchol i luoedd am eu profiadau o’r broses?

O wersi’r treiddio dwfn i newid ar draws pob llu

75. Beth sy’n digwydd wedi’r archwiliad dwfn? Mae pob llu yn fframio cynllun gwella strategol trwy adborth pwrpasol penodol i bob llu o’r archwiliad dwfn dan arweiniad academaidd. O’r herwydd, mae ymagweddau’r lluoedd at gynlluniau gwella yn cael eu rheoli’n wahanol yn y pum llu. Mae tîm y prosiect yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd, yn hwyluso integreiddio gydag academyddion i alluogi lluoedd i ddatblygu cynlluniau gwella. Mae’n bwysig fod y cynllun gwella yn ymdrin â newid trawsnewidiol, nid gweithrediadol. Argymhellir yn gryf fod y broses yn cael ei arwain gan Uwch-Swyddog Cyfrifol (SRO) gyda chefnogaeth rheolwr prosiect i alluogi gwell cyfathrebu rhwng arweinyddion pileri a’r rhai sy’n arwain newid mewn llu.

76. Cymysg fu cynnydd a newid ar draws y pum llu braenaru hyd yma. Mae newid mewn SROs ac arweinyddion pileri yn yr heddlu wedi arafu creu map ar gyfer newid mewn dau lu o leiaf. Mae Avon a Gwlad yr Haf, wedi elwa’n gynnar o Brosiect Bluestone, lawer ymhellach ymlaen na’r lluoedd eraill o ran gweithio trwy’r oblygiadau sydd eu hangen am newid yn y llu. Yr oedd De Cymru, gan ddefnyddio’r mewnwelediad a gynhyrchwyd ym Mlwyddyn 1, wedi integreiddio dysgu o’r archwiliad dwfn mewn lluoedd eraill, ac wedi dechrau gwella cyn eu harchwiliad dwfn eu hunain.

77. Mae egin newid yn amlwg yn yr holl luoedd braenaru ac y mae adborth yn amlygu rhai yn unig o’r ymatebion cadarnhaol i’r rhaglen a’r gwelliannau. Crynodebau byr ac arsylwadau yw’r isod gan y lluoedd a gymerodd ran ym Mlwyddyn 1. Trwy gydol Blwyddyn 2, bydd arweinyddion pileri academaidd yn gweithio ar y cyd gydag arweinyddion pileri yn y lluoedd yn cynghori ac yn monitro i weld a yw’r gwelliant yn cael yr effaith a fwriedir.

78. Cymhwyso gwybodaeth arbenigol yn Heddlu De Cymru

“Yr oedd canfyddiadau Operation Soteria Bluestone yn sylfaen o dystiolaeth i gynnydd sylweddol mewn adnoddau, gan alluogi Heddlu De Cymru i gyflwyno timau ymchwilio arbneigol i drais ledled y llu. Bu’r gefnogaeth gan dîm Operation Soteria Bluestone yn natblygiad cyson y gallu arbenigol hwn yn hynod werthfawr.

“Gwelwyd fod datblygu proffesiynol parhaus rheolaidd a chymryd rhan yn y cynllun peilot o raglen datblygu ymchwilwyr i drais, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â’r Coleg Plismona, yn hanfodol i daith ein staff i ddod yn ymchwilwyr arbenigol i drais. Cafodd ein gwaith gyda’n partneriaid o Lwybrau Newydd, Iechyd, a Gwasanaeth Erlyn y Goron ei wella ac yr ydym wëid gweld swyddogion arbenigol a CPS yn nodi cyfleoedd trwy ymagwedd o ganoli ar y sawl a amheuir.

“Arweiniodd un achos o’r fath mewn ymchwiliad i drais heb fod yn ddiweddar at adnabod y sawl oedd dan amheuaeth fel rhywun a gyflawnodd drosedd yn rhywle arall yn y wlad. Rhoddwyd yr achosion wedyn at ei gilydd a’u clywed gerbron llys ar yr un pryd, lle cafwyd ef yn euog o’r ddwy drosedd.

“Gan gydweithio’n agos gyda’n cydweithwyr yn CPS Cymru, rydym wedi gweld cynnydd graddol yn y defnydd o gyngor cynnar, ac ers cyflwyno timau arbenigol, cynyddodd ein cyfradd gyhuddo o 5.7% i 9.6% YTD. Hefyd, rhoddodd HMICFRS beth adborth cadarnhaol o ran ansawdd ymchwiliadau ein tîm trais.”

T/Ditectif Brif Uwch-Arolygydd, Phil Sparrow, Heddlu De Cymru

79. Cryfhau cydweithrediad rhwng yr heddlu a CPS yn Heddlu Avon a Gwlad yr Haf

“Dros y 18 mis diwethaf, mae ein cysylltiadau proffesiynol wedi eu trawsnewid. Daeth y bartneriaeth effeithiol hon o ymchwilwyr a chyfreithwyr yn hyfforddi gyda’i gilydd, gan rannu heriau ac ymwneud yn gynharach o lawer yn yr ymchwiliad i wneud penderfyniadau cytbwys wrth adeiladu achos mewn sgyrsiau adfyfyriol ar y cyd gyda phawb yn parchu ei gilydd yn broffesiynol. Bu hyn yn hanfodol o ran gwella ymddiriedaeth dioddefwyr, a deilliannau cadarnhaol yn gyffredinol.

“Rydym wedi sefydlu paneli craffu NFA (dim camau pellach) ar y cyd, gyda CPS a’r heddlu, ac yn bwysig iawn, ISVA ac academydd, i nodi unrhyw wersi neu arferion da. Rydym yn gweithio ar y cyd mewn strwythur llywodraethu sy’n hwyluso sgyrsiau gonest ac arsylwadau gan ‘gyfeillion beirniadol’, ac mae hyn yn ei dro yn gyrru ein gweithgareddau gwella ac yn gwobrwyo gwaith da gyda llais cadarnhaol y dioddefwr yn cael ei glywed yn gyson.

“Rydym yn siarad iaith hollol newydd; ffordd o edrych ar ymddygiad y troseddwr yn gyntaf, gwrando’n gyson ar y dioddefwr, a herio’r mythau a’r stereoteipiau fu’n ‘norm’ ers cymaint o flynyddoedd. Rydym wedi newid o ganolbwyntio ar sut i oresgyn yr heriau mewn achos, i wedd fwy cyfannol sy’n canoli ar gryfderau, ac yr ydym yn adeiladu achosion heddiw na fuasem wedi’u gwneud ddwy flynedd yn ôl. Yr ydym yn ystyried ein bod yn wirioneddol ffodus i fod yn rhan o’r hyn sy’n teimlo ac yn edrych fel cynnydd go-iawn - heb fod yn hunanfodlon am yr hyn sydd angen ei wneud o hyd: gyda’n gilydd.”

Vicky Gleave, Uwch-Erlynydd y Goron am yr Ardal, CPS De-orllewin Lloegr, ac arweinydd llu Avon a Gwlad yr Haf ar Drais ac Ymosodiadau Rhyw Difrifol, Ditectif Uwch-Arolygydd Lisa Simpson

80. Trawsnewid ymwneud â dioddefwyr yn Heddlu Avon a Gwlad yr Haf

“Cefais fy rhyfeddu gan yr amynedd, y gefnogaeth a’r gofal a roesoch i’m cleient trwy gydol y broses hon. Gwnaeth yr amser y gwnaethoch ei dreulio i wneud iddi deimlo mor gyfforddus ag oedd modd argraff fawr. Rydych wedi fy nwyn i mewn i bob cam o’r broses, a hyn yn ei dro wedi gwneud iddi hi deimlo fod ganddi gefnogaeth, a bod yr holl broses wedi rhedeg mor llyfn ag y gall. Welais i erioed o’r blaen y fath esiampl wych o weithio ar y cyd, ac yr oeddwn i ond eisiau dweud mor ddiolchgar yr ydw i am eich gwaith.​”

ISVA o ​Safelink

“Roeddwn i’n teimlo’n sâl wrth feddwl am fynd yn agos at yr heddlu, ond yr oedd y profiad mor wahanol! Roeddech chi (yrISVA) a’r swyddog wedi gwneud i mi deimlo mor saff, fod gen i gefnogaeth a’ch bod yn gwrando. Mae eich caredigrwydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ‘mywyd, waeth beth fydd yn digwydd nesaf.”

Goroeswr Safelink

81. Datblygu sgiliau arbenigol yng Ngwasanaeth Heddlu’r Metropolitan

Mae’r Dr Patrick Tidmarsh, awdurdod sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ar droseddu rhyw, yn cydweithio gydag Operation Soteria Bluestone i gyflwyno hyfforddiant digidol blaengar ar ffurf pum dosbarth meistr. Mae Gwasanaeth Heddlu’r Metropolitan wedi eu defnyddio:

“Mae’r ffordd wahanol hon o feddwl wedi golygu bod y tîm wedi gweld cynnydd misol mewn canfod achosion o drais ers iddynt wylio’r gweminarau ym mis Rhagfyr 2021, gan gael cyfradd o 18% o ganfod achosion o drais yn Awst a 13.5% FYTD.”

Ditectif Uwch-Arolygydd Tim Mustoe, Gwasanaeth Heddlu’r Metropolitan

82. Trawsnewid sy’n canoli ar y dioddefwr yn Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr

“Rydym yn symud i ail gyfnod Operation Soteria Bluestone gyda mwy o egni a ffocws. Rydym yn gweld y prosiect hwn fel cyfle i drawsnewid a newid y ffordd rydym yn ymateb i adroddiadau o droseddau trais a throseddau rhyw difrifol ac yn ymchwilio iddynt, gan roi’r dioddefwyr wrth galon y gwaith a’u cynnal trwy bob cam o’r daith. Rydym eisoes wedi rhoi nifer o fesurau ar waith ar ôl gwrando ar ddioddefwyr er mwyn deall yn well y profiadau maent wedi mynd drwyddynt. Mae ein holl ymchwilwyr wedi eu hyfforddi mewn arfer gyda gwybodaeth o drawma, ac yr ydym wedi datblygu rhai canllawiau arloesol i’n holl staff. Mae gennym gar brysbennu trais gydag Ymgynghorydd Annibynnol Trais Rhywiol (ISVA) ynddo i roi’r gefnogaeth hanfodol yn y fan a’r lle. Nawr mae gennym gyfreithwyr CPS yn adeiladau’r heddlu sy’n rhoi cyfarwyddyd yn gynt i’r staff. Gwyddom y bydd peth o hyn yn heriol, ond gyda mewnwelediad a chefnogaeth academaidd, rydym yn ffyddiog ac mewn sefyllfa gryfach o lawer i greu newid cynaliadwy yn y tymor hir.”

Ditectif Uwch-Arolygydd, Clare Caddick, Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr

83. Gwella lles i ymchwilwyr yn Heddlu Durham

“Cyflwynwyd mesurau lles i dimau ymchwilio gan gynnwys cefnogaeth gan gymheiriaid sydd â gwybodaeth am drawma, pecynnau lles ar gyfer gweithio’n hwyr, a darparu clinigau iechyd a lles. Sefydlwyd gweithgor o swyddogion rheng-flaen i helpu i wella’r gwasanaeth a gyflwynir trwy ymgynghori mwy effeithiol a mecanweithiau adborth i reolwyr strategol. Cafwyd derbyniad da i’r mesurau hyn, ynghyd â gwelliannau strwythurol sydd ar y gweill megis patrymau sifftiau a chymarebau goruchwylio, a bydd hyn yn gwella gallu timau ymchwilio i ddelio ag achosionRASSO.”

Ditectif Uwch-Arolygydd Nicola Lawrence, Heddlu Durham.

84. Cynnig dysgu a datblygu newydd i ymchwilwyr ar draws Cymru a Lloegr

Yn ychwanegol at welliannau a arweinir gan y lluoedd, sefydlodd Operation Soteria Bluestone ymagwedd o rannu gwybodaeth yn gyson trwy Rwydwaith Dysgu Cenedlaethol (NLN) a sefydlwyd ym mis Hydref 2021 a chreu setiau dysgu cyfoed-i-gyfoed. Sefydlwyd y rhain ar gyfer arweinyddion pileri’r lluoedd braenaru, SROs, rheolwyr prosiect ac OPCCs sy’n rhan o’r archwiliadau dwfn. Mae hyn yn galluogi pob grŵp i gwrdd, rhannu gwersi a rhoi cefnogaeth i’w gilydd wrth i’r lluoedd gynnal archwiliadau dwfn a symud ymlaen i gynllunio newid ledled y llu.

85. Yn dilyn pob archwiliad dwfn gyda llu, cyflwynodd y tîm academaidd hefyd y gwersi o’r archwiliad dwfn a thrafod esblygiad y mewnwelediad a gafwyd o’r ymchwil hwn i gyflwr ‘fel y mae’ ymchwilio i RAOSO yng Nghymru a Lloegr. Gwahoddwyd ymarferwyr ac arweinwyr o holl hedlduoedd y DU, yn ogystal â chydweithwyr oCPS, OPCC a’r llywodraeth. Mae’r digwyddiadau dysgu rhithiol rheolaidd hyn yn gyfle i drafod y canfyddiadau a chael golwg gyntaf ar y sylfaen tystiolaeth y tu ôl i’r Model Gweithredu Cenedlaethol. Gwahoddir aelodau o’r rhwydwaith hwn hefyd i gyrchu’r canfyddiadau o archwiliadau dwfn ar lefel llu o Grwp Hyb Gwybodaeth Soteria Bluestone[footnote 42]. Mae’r grŵp hwn yn weithgar iawn, gyda thros 600 o aelodau. Comisiynodd y rhaglen y Dr Patrick Tidmarsh[footnote 43] i roi ei fewnwelediad ef ar sut i ddeall troseddu rhyw fel craidd strategaethau ymchwiliadau strategol trwy gyfres o weminarau oedd ar gaeldrwy’r NLN.

86. Bu cannoedd o swyddogion yn Nigwyddiadau’r Rhwydwaith Dysgu Cenedlaethol trwy gydol eleni (gweler Atodiad 6). Roeddent yn sôn am y ffordd y gwnaethant ddysgu sut i wella a dod yn eiriolwyr a phencampwyr newid. Mae Blwyddyn 1 yn dangos fod nifer fawr o swyddogion sydd eisiau cymryd rhan mewn trawsnewid o’r tu mewn.

87. Cydweithiodd y Coleg Plismona gydag Operation Soteria Bluestone i ddatblygu Rhaglen Datblygu Sgiliau Ymchwiliadol RAOSO (RISDP), pecyn newydd sy’n cael ei dreialu ar hyn o bryd yng Ngwasanaeth Heddlu’r Metropolitan, Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr a Heddlu De Cymru. Bydd y cynllun peilot yn destun gwerthusiad buan, cyn iddo fod ar gael i luoedd eraill sy’n rhan o’r rhaglen, ac yna’n ehangach i heddluoedd eraill i’w fabwysiadu.

Newid trawsnewidiol mewn heddluoedd a newid systemig ar draws y tirlun plismona

88. Mae’r fframwaith cysyniadol sy’n sail i Operation Soteria Bluestone yn harneisio ymagwedd sy’n mynd ati i wella’r ffyrdd presennol o weithio mewn heddlu lleol. Mae rhesymeg Operation Soteria Bluestone yn cynnwys y ddealltwriaeth, er mwyn gwella’r ymchwilio RAOSO ac ymwneud a dioddefwyr, rhaid i lu ddechrau trwy holi sut y mae’n ymchwilio i’r troseddau hyn, sut mae’n ymwneud â dioddefwyr a sut y mae’n cynnal ei ymchwilwyr nawr. I gael newid trawsnewidiol yn y broses ymchwilio, mae angen i sefydliad fynd i’r afael â llawer o’r busnes corfforaethol, o gynllunio gweithlu i estyn allan i’r gymuned. Dylai’r gefnogaeth hon fod yn gyson, er mwyn galluogi swyddogion i wneud y penderfyniadau gorau trwy roi iddynt yr arbenigedd cyson a chyfoes y mae arnynt ei angen i wneud eu gwaith yn dda.

89. Mae newid trawsnewidiol yn bosib dim ond lle mae’r staff yn gwir ymboeni am wella a bod hyn yn rhan o’r daith. Ni all fawr ddim newid onid oes arweiniad personol, ymrwymiad personol a chorfforaethol gan bobl ar draws llu i asio prosesau y tu mewn i’r llu a chytuno ar sut beth yw ymchwiliadau da a gofal da am ddioddefwyr. Rhaid i’r weledigaeth hon asio gyda barn eiriolwyr ac asiantaethau’r sector cymunedol sy’n gweithio ar drais rhywiol.

90. Mae gan Operation Soteria Bluestone farn am sut beth yw ‘da’, i ymchwiliadau, ymwneud da gyda dioddefwyr a’r math o newid corfforaethol mewnol mewn plismona sy’n angenrheidiol i gyrraedd y naill nod a’r llall. Mae’r mewnwelediad hwn yn cael ei ddwyn i’r drafft o’r Model Gweithredu Cenedlaethol. Gellir mesur gwelliant trwy ddeilliannau cyfiawnder a phrofiadau swyddogion ymchwilio, dioddefwyr, a’r sawl sy’n cynnal dioddefwyr. Mae atebion newid yn organig i amgylchiadau’r llu ar lefel leol a chefnogaeth gymunedol. Bydd y Model Gweithredu Cenedlaethol yn cynnwys y rhai lleol, ac yn gosod allan ar yr un pryd ddisgwyliadau a safonau arfer cenedlaethol a ddisgwylir i gyflwyno’r gorau i ddioddefwyr a staff.

91. Er hynny, ni all heddluoedd unigol greu gwelliant cynaliadwy ar eu pennau eu hunain. Rhaid i’r cyfrifoldeb am drawsnewid lifo’n organig o’u huwch- swyddogion gweithredol ar y cyd â’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (PCCs). Mae llawer o asiantaethau galluogi a all – ac a ddylai - gefnogi newid ledled y llu a helpu swyddogion heddlu sy’n barod i achosi a chynnal gwelliannau cynaliadwy yn eu harferion gwaith eu hunain mewn ymateb i droseddau trais a throseddau rhyw eraill. Ymysg y galluogwyr allweddol y mae’r Swyddfa Gartref, NPCC, Y Coleg Plismona, Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr Arolygiaethau, aPCCs.

92. Canfu Operation Soteria Bluestone fod nifer o ymchwilwyr dibrofiad yn gwneud penderfyniadau mewn achosionRAOSO. Fel y nodwyd uchod, mae llawer o waith yn cael ei wneud i uwchsgilio’r swyddogion hyn sy’n ymuno, yn ogystal â’u goruchwylwyr sydd yn aml ond yn eu swyddi am dymor byr. Gellir gwneud hyn dim ond trwy gydweithio’n agos â’r Coleg Plismona.

93. Mae gan y Coleg Plismona rôl hanfodol i’w chwarae o ran cefnogi a chyflymu newid ar lefel llu. Canfu Operation Soteria Bluestone nad oedd digon o adnoddau yn aml mewn lluoedd i gefnogi dysgu cyson arloesol ac ailadroddol er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth ymchwilwyr oRAOSO, ac ymwneud â dioddefwyr (gweler Piler Pedwar, Atodiad 10). Newydd ddechrau y mae sgyrsiau gyda’r Coleg Plismona am sut y gall y Model Gweithredu Cenedlaethol hau hadau rhyw fath o Drwydded Ymarfer[footnote 44] wrth ymchwilio i TAThRhE.

94. Mae cefnogaeth i wella hefyd yn hanfodol gan HMICFRS. Mae dau arolygiad diweddar gan HMICFRS/HMICPS yn gosod cyflwr ‘fel y mae’ y berthynas rhwng plismona aCPS, ac yn dweud ei fod angen gwelliant sylfaenol. Os am gyflwyno newid trawsnewidiol a’i wreiddio, mae’n hanfodol fod y gwersi o Operation Soteria Bluestone yn un o’r agweddau mae HMICFRS yn gymryd i ystyriaeth wrth bennu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd lluoedd. Mae ymwneud â HMICFRS yn cadarnhau eu bod yn barod ac yn frwd am roi’r mewnwelediad a chyngor wrth i’r Model Gweithredu Cenedlaethol gael ei ddatblygu.

95. Mae gan PCCs rôl hanfodol i’w chwarae wrth drawsnewid yr ymateb plismona iRAOSO. Mae’r PCC a’u swyddfeydd yn dal yr heddluoedd i gyfrif, gan weithio i sicrhau bod y llu yn rhoi gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i’r gymuned mae’n wasanaethu. Mae rôl y PCC o gadarnhau cyllideb y llu a gosod ei strategaeth yn rhoi cryn ddylanwad iddynt dros y modd mae’r llu yn cyflwyno gwasanaethauRAOSO. Mae ganddynt rôl hefyd o ddwyn partneriaid diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol ynghyd, i wneud yn siŵr fod blaenoriaethau lleol wedi eu dwyn ynghyd, ac y gall hyn alluogi gwell gweithio rhwng plismona aCPS. Mae’r modd mae PCC yn comisiynu gwasanaethau ISVA lleol hefyd yn chwarae rhan i lunio profiadau dioddefwyr.

96. Bu Operation Soteria Bluestone yn gweithio’n uniongyrchol â swyddfeydd y PCC yn y pum llu braenaru trwy rwydwaith cyfoed-i-gyfoed a sefydlwyd gan y rhaglen. Mae hyn wedi galluogi’r arweinyddion PCC yn ardaloedd y lluoedd hynny i ddeall y rhaglen a’i chanfyddiadau, gyda’r nod o fod yn sail i oruchwylio ymateb y lluoedd iRAOSO.

97. Mae penderfyniadau gan yr heddlu am ymchwiliadau yn dod dan ddylanwad profiad swyddogion o wneud penderfyniadau gan Wasanaeth Erlyn y Goron mewn achosionRAOSO. Mae’r ddibyniaeth hon yn allweddol. Mae CPS yn rhan o raglen ehangach Operation Soteria, ac y maent yn mynychu Bwrdd Rhaglen Operation Soteria dan arweiniad y Swyddfa Gartref ochr yn ochr â chydweithwyr o Operation Soteria Bluestone. Trwy asiantaethau a newid y mae timau yn gweithio’n annibynnol gan ganolbwyntio ar eu hardaloedd eu hunain, mae cydweithio agos, a’r canfyddiadau yn cael eu rhannu ac mae deialog agored yn digwydd. Mae trafodaethau’n digwydd i asio’r Modelau Gweithredu Cenedlaethol gydag Operation Soteria Bluestone a CPS.

Camau nesaf a sylwadau i gloi: Blwyddyn 2 a datblygu’r Model Gweithredu Cenedlaethol

98. Mae cydweithredu gyda’r pum llu braenaru yn parhau yn yr ail flwyddyn. Nod dadansoddi dyfnach o’r data a gasglwyd eisoes ar adroddiadau o drais, dadansoddiad o ffeiliau achos ac adolygiadau o achosion, cyfweliadau, grwpiau ffocws a gwaith manwl arall yw mireinio’r gwersi, y cynhyrchion a ffurf y Model Gweithredu Cenedlaethol (gweler adroddiadau’r arweinyddion pileri Atodiadau 7 – 12).

99. I gefnogi mwy o luoedd i fod yn barod am y Model Gweithredu Cenedlaethol a sicrhau bod y cynllun peilot yn ddigon cadarn, cyhoeddodd y Gweinidogion ei fod yn ehangu i 14 llu arall yn Rhagfyr 2021[footnote 45]. Datblygwyd ymagwedd hunanasesu arloesol a dyfnach, sy’n adeiladu ar yr ymchwil dadansoddi dwfn presennol, i’w ddefnyddio yn y lluoedd hyn. Mae’r ymagwedd gydweithredol hon gydag 14 llu, a fwriadwyd i ddynwared proses y treiddio dwfn gwreiddiol, yn helpu lluoedd i gael mewnwelediad a gwell dealltwriaeth o’u harfer, a’u galluogi i adnabod cryfderau a mannau datblygu at y dyfodol tuag at wella arfer, wedi’i asio gyda’r Model Gweithredu Cenedlaethol.

100. Mae Operation Soteria Bluestone eisoes wedi tanio sawl sgwrs am blismona, arferion plismona, yr hyn oedd ei angen i wella ymchwiliadau i droseddau trais a throseddau rhyw, lleisiau dioddefwyr i drawsnewid arferion a mwy. Mae’r sylwadau cloi hyn yn gyfle i bwysleisio’r rhain a dwyn y darllenydd i mewn i gymryd rhan yn yr ymgynghori a’r trafodaethau niferus a gynhelir trwy’r rhaglen ymchwil ym Mlwyddyn 2.

101. Yn gyntaf, bu sgyrsiau o fewn plismona, ac am natur plismona mewn cymdeithas sifil, yn greiddiol i’r gwaith hwn.

i. Trwy gydol hyn, gosodwyd y termau ymddiriedaeth a hyder wrth ganol gwaith Operation Soteria Bluestone. Canfu’r ymchwil nad oedd ymwneud yr heddlu â dioddefwyr yn gefnogol nac yn gyson â’r ffordd yr oedd dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael eu trin gan ymchwilwyr neu ymatebwyr cyntaf. Nid dim ond termau yw ymddiriedaeth a hyder: maent yn brofiadau bywyd, ac y mae ymddiriedaeth a hyder yn codi trwy ymwneud yr heddlu â dioddefwyr. Maent yn cael eu gwella trwy well ymwneud â dioddefwyr ac yn cael eu cryfhau pan fydd pobl yn teimlo eu bod wedi eu trin yn deg, eu bod yn cael eu parchu, a bod ganddynt lais. Mae’r ymwneud hwn â dioddefwyr hefyd yn digwydd mewn cyd-destun ehangach lle mae gan rai grwpiau o bobl wahanol lefelau o hyder mewn plismona yn gyffredinol. Bydd gosod llais dioddefwyr wrth ganol y gwaith hwn, ac wrth ganol trawsnewid, yn hanfodol at y dyfodol, a bydd wrth galon y Model Gweithredu Cenedlaethol am ymchwilio i droseddau trais a throseddau rhyw eraill (gweler Atodiad 2 for ddrafft o gynnwys y model hwn).

ii. Drwodd a thro, canfu’r ymchwil fod prosesau a gweithdrefnau’r heddlu yn aml yn cael blaenoriaeth dros ymwneud cydymdeimladol gyda dioddefwyr. Yr oedd hyn yn cael effaith ar swyddogion yr heddlu ac ar y dioddefwyr.

iii. Canfu’r ymchwil fod prosesau a gweithdrefnau’r heddlu yn aml yn cael blaenoriaeth dros ymwneud cydymdeimladol wedi ei wreiddio mewn ymagweddau plismona traddodiadol at ddysgu a datblygu. Consensws yr ymchwilwyr ar draws y pileri yw bod methiant ymagweddau plismona traddodiadol i symud yn gynt yn gysylltiedig â’u hanes o ‘hyfforddi’[footnote 46]. Heddiw, mae’n bwysig symud tuag at ddiwylliant dysgu ailadroddol, mwy agored a seiliedig ar ymchwil mewn plismona. Fe gymer hyn lawer mwy o waith.

102. Yn ail, mae’r defnydd o ddata am droseddau trais a throseddau rhyw eraill a gofnodir yn y pum llu braenaru (ac a awgrymir ar draws plismona) angen mwy o staff dadansoddi. Mae gwybodaeth arbenigol am droseddu rhyw, fel yr awgryma’r Prif Gwnstabl Crew yn ei rhagair, yn hanfodol i strategaethau ymchwiliadol, nid yn unig i ddeall y drosedd ond i ddeall sut mae troseddwyr yn trin ymchwilwyr. Mae angen i’r sawl sy’n ymchwilio i droseddau cymhleth wybod am y darlun strategol o droseddu, dioddefwyr a’r sawl a amheuir yn lleol. Yr oedd hyn ar goll i raddau helaeth yn y lluoedd braenaru.

103. Yn drydydd, mae’r ffaith fod un o bob tri o achosion o drais yn digwydd mewn cyd-destun camdriniaeth ddomestig yn fater sydd angen ymdrin ag ef nid yn unig gan yr heddlu. Mae cefnogaeth gan y sector cymunedol yn aml (ond nid yn unig) yn cael ei threfnu trwy’r hyn a gynigir i gynnal dioddefwyr o fathau o drais rhywiol neu gorfforol. Bydd y drafodaeth hon yn helpu i fframio ymagweddau’r heddlu at ymwneud â dioddefwyr ac atebolrwydd.

104. Yn bedwerydd, dim ond dechrau trafod y mae’r rhaglen gyda lluoedd ac eraill am sut i gynnal gweithlu ymchwiliadol sydd â gwybodaeth arbenigol ac a all fod yn hyblyg i gyfrif am wahanol gyd-destunau trais, megis yr hyn sydd ei angen am ymchwiliadau i gam-fanteisio rhywiol, rheolaeth trwy orfodaeth, neu fasnachu mewn pobl. Mae gan lawer o heddluoedd swyddogion sy’n arbenigo mewn camdriniaeth ddomestig; ychydig o heddluoedd sydd â’r nifer angenrheidiol o swyddogion arbenigol mewn troseddau trais a throseddau rhyw er mwyn ysgwyddo’r llwyth gwaith a gofnodwyd. Nid yw’r prosiect hwn o raid yn awgrymu unedau arunig arbenigol i ymchwilio i drais. Rhaid i heddluoedd lleol ddod o hyd i’r ateb lleol gorau am sut i integreiddio gwybodaeth arbenigol mewn timau ymchwilio er mwyn cael y deilliannau gorau i brofiadau gwahanol ddioddefwyr ac mewn gwahanol gyd-destunau trais.

105. Yn bumed, dangosodd y rhaglen pa mor ddefnyddiol yr oedd y cydweithrediad rhwng academyddion-heddlu, mewn amser ac yn y fan a’r lle. Mae llawer o wersi o’r cydweithredu hwn a rennir gyda gwasanaeth yr heddlu a’r gymuned academaidd.

106. Yn olaf, mae tîm y prosiect yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o sgyrsiau cadarn a rhannu gwersi. Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwil a byddwn yn parhau i gefnogi datblygu’r Model Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer ymchwilio i drais ac ymosodiadau rhywiol eraill, a gyhoeddir ym Mehefin 2023. Bydd rhai o’r cynhyrchion cysylltiedig ar gael erbyn hynny, a chyflwynir eraill erbyn Medi 2023.

ATODIADAU

ATODIAD 1: Y FFRAMWAITH DAMCANIAETHOL A OSODIR YN HOHL A STANKO (2022)

Hohl, K., Stanko, E.A. (2022). Five Pillars: A Framework for Transforming the Police Response to RapeTrais and Sexual Assault. International Criminology, 2, 222–229. https://doi.org/10.1007/s43576-022-00057-y

Ymchwilladau sy’n canolbwyntio ar y sawl a amheuir: Arweinydd piler: Yr Athro Horvath.

Rhai dan amheuaeth yn fynych: Arwinedd piler: Dr Davies.

Ymagwedd o Gyfiawnder Trefniadol at ymwneud â didoddefwyr: Dr Johnson/Dr Smith

Dysgu, datblygu a lies swyddogion: Arweinydd piler: Dr Williams.

Data a pherfformiad: Arweinydd piler: J Lovett

Gwaith fforensig digidol: Arweinydd piler: T may

Arweinyddion academaidd: Yr Athro Stanko OBE a Dr Hohl

ATODIAD 2: AMLINELLIAD DRAFFT AILADRODDOL O’R MODEL GWEITHREDU CENEDLAETHOL

Amlinelliad drafft ‘tabl cynnwys’ i weithio arno yw hwn o’r Model Gweithredu Cenedlaethol, a ddatblygir yn llawnach cyn ei gyhoeddi ym Mehefin 2023.

Operation Soteria Bluestone: DRAFFT ailadroddol o’r Model Gweithredu Cenedlaethol

Nodau

a) Galluogi newid gwirioneddol drawsnewidiol yn ymchwiliadau’r heddlu i drais, fydd yn arwain at ddeilliannau wedi’u gwella’n sylweddol (gan gynnwys deilliannau cyfiawnder, ond nid y rheiny’n unig);

b) Cyfiawnder trefniadol i ddioddefwyr a phobl a amheuir o bob cefndir;

c) Ymchwiliadau trais teg a chytbwys i ganolbwyntio ar y drosedd honedig, gan gynnwys ymddygiad perthnasol y sawl a amheuir, heb or-ymchwilio i’r dioddefwr;

Uchelgeisiau’r NOM

a) Cyfrannu at roi diwedd ar drais rhywiol;

b) Gwella yn sylweddol ac yn gynaliadwy gyfiawnder trefniadol a deilliannol ymateb yr heddlu i droseddau trais a throseddau rhyw eraill;

c) Ymchwilwyr arbenigol i drais gydag adnoddau a chefnogaeth ddigonol: arbenigwyr sy’n teimlo’n falch o’u gwaith ac y mae eu llu yn rhoi gwerth arnynt

Sut mae’r NOM yn gwahaniaethu oddi wrth adolygiadau, arolygiadau, neu allbynnau ymchwil confensiynol:

  • Cyd-gynhyrchu rhwng swyddogion/staff heddluoedd, arweinyddion pileri ac academyddion

  • Edrych i mewn i’r rhwystrau i newid yn lleol

  • Mynd y tu hwnt i ‘arweinir gan bersonoliaeth’ i ‘cefnogir gan system gyfan’

  • Ymchwilio’n onest i faterion allweddol, wedi’i arwain gan ddata

  • Rheoli gwirioneddau annifyr, a chanfod ein ffordd o gwmpas ateb corfforaethol

  • Ymrwymiad i gyd-gynhyrchu gyda’r sector cymunedol ar y Model Gweithredu Cenedlaethol sy’n ymddangos

Drafft o strwythur y NOM

1. Nodau ac amcanion

a. Cynyddu cyfradd cyhuddo

b. Lleihau gwahaniaethau mewn cyfraddau cyhuddo rhwng gwahanol BCU/ardaloedd daearyddol o fewn y llu

c. Lleihau gwahaniaethau mewn cyfraddau cyhuddo i wahanol fathau o berthynas

d. Lleihau’r gwahaniaethau mewn profiad a deilliannau ymysg gwahanol grwpiau o ddioddefwyr

e. Cynyddu cyfiawnder trefniadol i ddioddefwyr, “boddhad” ac ymddiriedaeth

f. Gwella lles, medr a galluedd swyddogion trwy ddefnyddio strategaeth y gweithlu

g. Creu gweithlu arbenigol a gwybodus sy’n cynnal ei hun trwy ymagwedd dysgu a datblygu fwy perthnasol ar sylfaen academaidd

h. Cryfhau systemau cefnogi cyfoed i gyfoed i rannu gwybodaeth arbenigol ymarferwyr yn y llu, ac ar draws pob llu yn genedlaethol

i. Dod yn sefydliad clyfar, a arweinir gan ddata

2. Egwyddorion

a. Gwybodaeth arbenigol wedi ei chyfoethogi trwy gyd-greu cydweithredol rhwng yr heddlu ac academyddion a chyfnewid gwybodaeth

b. Gwybodaeth arbenigol yn gyrru strategaeth ymchwiliadol ac ymwneud â dioddefwyr

c. Monitro fel mater o drefn allu’r gweithlu gyda gwybodaeth arbenigol

d. Cydraddoldeb adnoddau a blaenoriaeth sefydliadol RAOSO yn unol â mathau eraill o droseddau treisgar difrifol

e. Cyfiawnder trefniadol a sefydliadol wrth graidd gofal am ddioddefwyr a staff

f. Hunan-gynaliadwyedd ar gyfer gwella parhaus wrth ymchwilio i RAOSO

g. Cydnabod a chefnogi damcaniaeth system gyfan o newid i gefnogi gwelliant parhaus wrth ymchwilio i RAOSO

3. Ymdrin â chyfleoedd ymchwiliadol i hyblygrwydd y gweithlu i roi adnoddau i dimau ymchwiliadol

a. Ymdrin â gorgyffwrdd tystiolaeth amDA-RAOSO: gwybodaeth gorfforaethol am droseddu rhyw a tharfu ar droseddu

b. Cywerthedd ffwythiannol: adnoddau ymchwilio a dysgu sy’n fwy ymatebol i broffil galw penodol i lu’r heddlu, gan gynnwysDA, CSA, ac ati

4. Mae angen gwybodaeth arbenigol: Dealltwriaeth, gwybodaeth a sgiliau swyddogion sydd eu hangen i ymchwilio i RAOSO

a. Ymdrin â’r tensiwn rhwng canoli ar y sawl a amheuir a chanoli ar y dioddefwr trwy wybodaeth arbenigol a defnydd medrus o farn broffesiynol

b. Rhaglen ddysgu newydd interim am RAOSO

c. Adolygu yr agwedd ddysgu gyfredol at RAOSO cysylltiedig â SSAIDIP a rhaglen ddysgu barhaus (gyda’r Coleg Plismona)

5. Offer a Phrosesau i alluogi gwelliant

a. Offeryn hunanasesu i heddluoedd i helpu i fonitro cynnydd a’r angen am welliannau wedi’u canolbwyntio

b. Map Ymchwiliadol wedi’i Ddigideiddio sy’n cynnwys

i. Canllawiau ar adnabod, ymchwilio a tharfu ar rai a amheuir yn fynych

ii. Canllawiau ar y defnydd cymesur o waith fforensig digidol mewn ymchwiliadau RAOSO

iii. Canllawiau wedi’u digideiddio wedi eu gwreiddio yn y map ymchwiliadol (gyda gwasanaeth digidol yr heddlu)

c. Ymagwedd systemig at ymwneud â dioddefwyr trwy gydol yr ymchwiliad a’r broses cyfiawnder troseddol, gan gynnwys

i. Canllawiau ar ystyriaeth benodol o’r gorgyffwrdd rhwng DA-RAOSO, gan gryfhau’r defnydd o reolaeth trwy orfodaeth fel dewis o gyhuddiad lle bo hynny’n briodol

ii. Canllawiau ar ystyried natur ryngadrannol, anghenion arbennig dioddefwyr a sut i ymdrin â hyn

iii. Canllawiau ar gydweithredu rhwng IVSA a’r heddlu

iv. Canllawiau ar y defnydd o adborth o arolygon dioddefwyr

v. Llyfryn i ddioddefwyr

vi. Canllawiau ar yr arferion gorau i gael adborth parhaus o baneli craffu NFA

vii. Cynllun cyfathrebu rhwng yr Heddlu-Dioddefwyr-ISVA

d. Dysgu a datblygu: Canllawiau ar ddysgu ar y safle a datblygu parhaus, gan ddefnyddio rhaglen gyflwyno rhaglen ddysgu interim a gynlluniwyd gan Operation Soteria Bluestone gyda’r Coleg Plismona

e. Canllawiau ar y dysgu a datblygu sydd ei angen gan ymatebwyr cyntaf a newydd-ddyfodiaid

f. Canllawiau i uwch swyddogion i gefnogi rheoli perfformiad a monitro trwy ddata integredig gyda dadansoddiad da o broblem RAOSO yn lleol, gyda monitro’r mesurau iawn, fel bod modd gwneud gwell penderfyniadau strategol a gweithredol a gweld lle mae angen gwella mewn pryd

g. Canllawiau ar yr hyn sydd yn arfer gorau ynghylch sicrhau cyfiawnder sefydliadol i’r staff, gan gynnwys cadw a gwobrwyo swyddogion

h. Canllawiau yn edrych i mewn i’r wybodaeth a’r cyngor gorau er mwyn sicrhau lles a gwytnwch swyddogion

i. Canllawiau ar wreiddio Rhwydwaith Dysgu Cenedlaethol (NLN) Operation Soteria a rhwydwaith o gefnogi gan gyfoedion i sicrhau rhannu arferion gorau yn gyson ar draws lluoedd.

6. Protocolau

a. Canolbwyntio ar y sawl a amheuir: pob protocol (canllawiau etc) yn deillio o’r map ymchwilio (wedi ei wreiddio yn y Map Ymchwiliadol wedi’i ddigideiddio)

b. Canolbwyntio ar y sawl a amheuir: technegau cyfweld priodol a chanllawiau

c. Canolbwyntio ar y dioddefwr/deilliannau ymchwilio: Canllawiau ar brotocolau adrodd am droseddau a’u cofnodi (e.e.) datgelu vs cwynion ac ymagwedd a awgrymir at adrodd seiliedig ar gudd-wybodaeth yn ddienw;

d. Canolbwyntio ar y dioddefwr: datgelu digidol /cyngor cyfreithiol annibynnol i ddioddefwyr

e. Canolbwyntio ar swyddogion: Protocol am addewid y llu i fonitro canllawiau’r llu ar arfer adfyfyriol, darparu dysgu arbenigol parhaus, a monitro gweithredol ar les ei staff

f. Canllawiau ar wella’r ffordd o gofnodi troseddau i adlewyrchu nodweddion y dioddefwr, yn enwedig monitro deilliannau cyfiawnder o ran nodweddion gwarchodedig

7. KPIs i fonitro cynnydd a llwyddiant (wedi eu hasio gyda nodau ac amcanion): Nodweddion allweddol ar wybod pa mor dda y mae lluoedd yn ymchwilio i RAOSO

a. Deilliannau cyfiawnder, fel isafswm: wedi eu rhannu yn ôl math o berthynas, wedi eu rhannu yn ôl datgeliadau a chwynion, wedi eu rhannu yn ôl ethnigrwydd, wedi eu rhannu yn ôl trais a TRhD

b. Adnabod y sawl a amheuir yn fynych a tharfu arnynt

c. Arolwg boddhad dioddefwyr

d. Amser hyd at y deilliant

e. Llwyth gwaith swyddogion

f. Cymhareb goruchwylwyr i ymchwilwyr

g. Absenoldeb salwch swyddogion a faint sy’n gadael eu swyddi

h. Dysgu a datblygu gwybodaeth arbenigol gan swyddogion

i. Cynllun gwaddol i gadw gwybodaeth arbenigol/gallu yn y llu

8. Hyder y cyhoedd ac atebolrwydd

a. CPS (gan gynnwys cyngor cynnar a hwylusyddion cyfreithiol eraill)

b. Tryloywder ac ymwneud y sector cymunedol mewn monitro cynnydd

c. Adnoddau ISVA yr heddlu lleol a pherthynas waith dda, gan gynnwys fesul BCU/ardal ddaearyddol i osgoi loteri cod post

d. Panel craffu Profiadau Bywyd a mecanweithiau i wreiddio adborth fel dolen atebolrwydd

e. Argaeledd cyngor cyfreithiol annibynnol i ddioddefwyr

f. Mecanweithiau ar gyfer trosolwg effeithiol ac effeithlon - paneli NFA, adborth i’r cyhoedd ac atebolrwydd i’r cyhoedd

g. Cyhoeddi data am hawl dioddefwyr i gael adolygiad – ac adroddiad blynyddol cryno ar y mewnwelediad a’r gwersi o’r achosion hyn

h. Cyngor i PCCs ar oruchwylio a’r math o gwestiynau i’w gofyn wrth edrych i mewn i’r gwasanaeth gorau i ddioddefwyr

i. Y dyhead y bydd y cyfan o’r uchod yn dechrau adeiladu cefnogaeth gymunedol a lloches - gwasanaethau i wella, ac atal troseddau

9. Mesur cyfan o lwyddiant – manteision i’r sector cyhoeddus a chostau i’r cyhoedd – pa gorff cyhoeddus fydd yn gwneud hyn ar y cyd ag Operation Soteria Bluestone

ATODIAD 3: RHESTR LAWN O GYFRANWYR A CHYSYLLTIADAU

Gallwch gysylltu â thîm canolog Operation Soteria Bluestone ar operationsoteriabluestone@mopac.london.gov.uk

Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu: Y Prif Gwnstabl Sarah Crew

Swyddogion Staff yr NPCC: Arolygydd Catherine Larsen a Ditectif Sarjant James Kent

Tîm Canolog

Robin Merrett – Cyfarwyddwr y Rhaglen Genedlaethol

Lizzie Peters – Penaneth Rheoli’r Rhaglen

Yr Athro Betsy Stanko – Ymgynghorydd Strategol ac Arweinydd Academaidd

Yr Athro Katrin Hohl –Arweinydd Academaidd

Alice Light – Pennaeth Cyfathrebu

Ali Winn –Arweinydd Dysgu a Datblygu

Becca Potton – Swyddog Rhaglen

Delisa Trought – Swyddog Cefnogi’r Rhaglen

Henry Herrera – Swyddog Cefnogi’r Rhaglen

Dr Patrick Tidmarsh – Arweinydd, agwedd dysgu ‘Stori Gyfan’

Uwch-Swyddogion Cyfrifol yr Heddluoedd

Heddlu Durham – Prif Uwch-Arolygydd David Ashton

Heddlu De Cymru – Uwch-Arolygydd Philip Sparrow

Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr – Uwch-Arolygydd Annie Miller

Heddlu Avon a Gwlad yr Haf– Uwch-Arolygydd Edward Yaxley

Gwasanaeth Heddlu’r Metropolitan – Comander Melanie Dales a’r Uwch-Arolygydd Mel Laremore

Rheolwyr Prosiect yr Heddlu

Gwasanaeth Heddlu’r Metropolitan - John S Steel

Heddlu Avon a Gwlad yr Haf– Ruth Stevens

Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr – Christopher Jones

Heddlu De Cymru – Amy Thomas

Heddlu Durham - Andrew Woodward

Prifysgolion

Prifysgol y Ddinas, Llundain

Prifysgol Suffolk

Prifysgol Bournemouth

Prifysgol Loughborough

Prifysgol Glasgow

Birkbeck, Prifysgol Llundain

Canolfan Ymchwil a Dysgu’r Heddlu yn y Brifysgol Agored

Prifysgol Metropolitan Llundain

Piler Un – Tîm Academaidd

Yr Athro Miranda Horvath

Yr Athro Emma Bond

Dr Maria Cross

Dr Mark Manning

Dr Ruth Spence

Aneela Khan

Thistle Dalton

Dr Anna Gekoski

Kristina Massey

Dr Joana Ferreira

Dr Katherine Allen

Dr Patrick Tidmarsh

Arianna Barbin

Piler Un – Arweinyddion Piler yr Heddlu

Heddlu Avon a Gwlad yr Haf - Ditectif Arolygydd Andrew Branch

Gwasanaeth Heddlu’r Metropolitan – Ditectif Brif Arolygydd Kamal Patel (arweinydd), Ditectif Arolygydd Jeremy McDermott (dirprwy arweinydd)

Durham – Uwch-Arolygydd Yvonne Dutson

Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr - Ditectif Arolygydd Gagy Bedi

Heddlu De Cymru - Ditectif Arolygydd Dan Sweeney

Piler Dau – Tîm Academaidd

Dr Kari Davies

Yr Athro Jessica Woodhams

Asmaa Majid

Ioana Crivatu

Rosa Heimer

Anca Illiuta

Margaret Hardiman

Sophie Barrett

Louise Trott

Piler Dau – Arweinyddion Piler yr Heddlu

Heddlu Avon a Gwlad yr Haf – Prif Arolygydd Martyn Cannon

Gwasanaeth Heddlu’r Metropolitan – Ditectif Brif Arolygydd Tim Mustoe (arweinydd), Ditectif Arolygydd Ross Morrell (dirprwy arweinydd)

Heddlu Durham - Uwch-Arolygydd Yvonne Dutson

Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr – Sjt. Paul Shannaghan

Heddlu De Cymru - Ditectif Arolygydd Chris Evans

Piler Tri – Tîm Academaidd

Dr Kelly Johnson

Dr Oona Brooks-Hay

Dr Olivia Smith

Dr Andy Myhill

Yr Athro Katrin Hohl

Sophie Geoghegan-Fittall

Dr Rosa Walling-Wefelmeyer

Sarah Molisso

Dr Susan Hillyard

Dr Beth Jennings

Adrian Harris

Piler Tri – Arweinyddion Piler yr Heddlu

Heddlu Avon a Gwlad yr Haf - Ditectif Brif Arolygydd David Lewis

Gwasanaeth Heddlu’r Metropolitan - Ditectif Brif Arolygydd Tracey Cormack (arweinydd)

Ditectif Arolygydd Gail Steele (dirprwy arweinydd)

Heddlu Durham - Ditectif Gwnstabl Nicola Lawrence

Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr – Ditectif Arolygydd Chris Jones

Heddlu De Cymru - Ditectif Arolygydd Gareth Davies

Piler Pedwar – Tîm Academaidd

Dr Emma Williams

Dr Linda Maguire

Dr Nicky Miller

Jennifer Norman

Dr Rachel Ward

Dr Arun Sondhi

Richard Harding

Daniela Abinashi

Ria Williams

Piler Pedwar – Arweinyddion Piler yr Heddlu

Heddlu Avon a Gwlad yr Haf – Prif Arolygydd Jason Shears

Gwasanaeth Heddlu’r Metropolitan – Ditectif Brif Arolygydd Nicola Franklin (arweinydd),

Ditectif Arolygydd Kleo Papachristou (dirprwy arweinydd)

Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr - Ditectif Sarjant Barbara Martin

Heddlu Durham - Uwch-Arolygydd David Cuthbert a Ditectif Sarjant Kezi Smith

Heddlu De Cymru - Ditectif Brif Arolygydd Andrew Bartholomew a Ditectif Gwnstabl Jenna Hargraves

Piler Pump – Tîm Academaidd

Jo Lovett

Yr Athro Liz Kelly

Dr Fiona Vera-Gray

Gavin Hales

Dr Gordana Uzelac

Dr David Buil-Gil

Dr Andy Myhill

Dr Maria Garner

Piler Pump – Arweinyddion Piler yr Heddlu

Heddlu Avon a Gwlad yr Haf - Jon Dowey

Gwasanaeth Heddlu’r Metropolitan – Ditectif Brif Arolygydd David Kemp (arweinydd), Ditectif Arolygydd Allison Upchurch (dirprwy arweinydd)

Heddlu Durham - Fiona McGinn

Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr - Ditectif Arolygydd Mark Cooper

Heddlu De Cymru - Ditectif Arolygydd James Howe

Arweinydd Piler Chwech – Tîm Academaidd

Tiggey May

Dr Rachel Skinner

Dr Catherine Talbot

Samantha Atkinson

Chantelle Butt

Nicola Campbell

Emilly Holtham

Tamzin Jeffs

Amrana Latif

Georgie Markham-Woods

Tiago Garrido Marques

Prosiect Gwaith Fforensig Digidol STAR – Tîm Academaidd

Dr Kari Davies

Tiggey May

Samantha Atkinson

Arianna Barbin

Chantelle Butt

Emilly Holtham

Tamzin Jeffs

Amrana Latif

Asmaa Majid

Georgie Markham-Woods

Tiago Garrido Marques

Elena Reid

Dr Rachel Skinner

Dr Catherine Talbot

Louise Trott

Arweinyddion Piler yr Heddlu am Brosiect Gwaith Fforensig Digidol STAR :

Heddlu Swydd Bedford - (STAR) Ditectif Brif Uwch-Arolygydd Julie Henderson

Norfolk – (STAR) - Ditectif Arolygydd Patrick Thompson

Piler Chwech - Arweinyddion Piler yr Heddlu ac arweinyddion am Brosiect Gwaith Fforensig Digidol STAR:

Heddlu Avon a Gwlad yr Haf (STAR a Philer Chwech) - Samantha Strong

Heddlu Durham - (STAR a Philer Chwech) Ditectif Arolygydd Luke Terry

Heddlu De Cymru - Ditectif Arolygydd Dale Pope

ATODIAD 4: Y DARLUN CENEDLAETHOL: CYD-DESTUN EHANGACH GAN DDEFNYDDIO DATA A GYHOEDDWYD GAN Y SWYDDFA GARTREF[footnote 47]

1. Bu cynnydd pedwarplyg yng nghyfraddau achosion o drais a gofnodwyd gan yr heddlu yn genedlaethol ers 2012/13, er bod graddfa ac amseru’r cynnydd yn amrywio rhwng ardaloedd heddlu. Mae gwahaniaethau mawr hefyd yng nghyfraddau’r achosion o drais a gofnodwyd gan yr heddlu rhwng lluoedd. Mae Operation Soteria Bluestone wedi ei fframio yn y darlun cenedlaethol o droseddau trais a throseddau rhyw eraill a gofnodwyd. Yn 2021/22, yr oedd cyfraddau’r achosion o drais a gofnodwyd gan yr heddlu yn amrywio o 72 am bob 100,000 o drigolion yn Surrey i 171 am bob 100,000 yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (2.4 gwaith yn uwch). Cododd y gyfradd am Gymru a Lloegr gyfan o 29 am bob 100,000 yn 2012/13 i 118 am bob 100,000 yn 2021/22. Fodd bynnag, dengys amcangyfrifon o Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr fod “y cyffredinolrwydd trais neu ymosodiad trwy dreiddio (gan gynnwys ceisio ei wneud) wedi aros yn weddol sefydlog dros y 15 mlynedd a aeth heibio[footnote 48].”

Ffigwr 17: Achosion o drais a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru a Lloegr fesul 100,000 o’r boblogaeth. Blynyddoedd ariannol 2012/13 hyd 2021/22.

Data for this chart was not available to publish accessibly.

Ffynonellau: Data agored y Swyddfa Gartref am droseddau a gofnodwyd gan yr heddlu, Tablau ardaloedd heddlu o’r flwyddyn yn diweddu Mawrth 2013 ymlaen. Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn hyd at 2016 a dderbyniwyd gan y Swyddfa Gartref (gohebiaeth bersonol); 2016-20 o ONS, Troseddu yng Nghymru a Lloegr: Tablau data ardaloedd heddlu, rhifyn Mawrth 2022.

2. Mae cyfansoddiad cyffredinol yr holl droseddau rhyw – a throseddau trais a throseddau rhyw eraill yn benodol – a gofnodwyd gan yr heddlu yn amrywio’n genedlaethol, ac felly hefyd natur y galw. Yn 2020/21, yr oedd 43.2% o’r holl droseddau rhyw a gofnodwyd gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr wedi eu categoreiddio fel trais (yr uchaf ym Mhrydain), o gymharu â 37.6% i Gymru a Lloegr yn gyfan a 29.1% yng Ngogledd Cymru (yr isaf ym Mhrydain), ar wahan i 4.7% ar rwydwaith y rheilffyrdd (Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig).

Ffigwr 18: Trais vs pob trosedd rhyw arall a gofnodwyd yng Nghymru a Lloegr, 2020/21.

Ffynhonnell: Data Agored y Swyddfa Gartref, Deilliannau Troseddau yng Nghymru a Lloegr, Blwyddyn yn Diweddu Mawrth 2021 (cyfoeswyd 21 Gorffennaf 2022)

Data for this chart was not available to publish accessibly.

3. Yn genedlaethol, mae cyfraddau cyhuddo ar gyfer trais am unrhyw un flwyddyn yn cynyddu dros amser, o gofio’r amser estynedig cyfartalog am ymchwiliadau i drais, yn enwedig lle mae hawl yn cael ei roi i gyhuddo. O gymryd enghraifft o achosion o drais a gofnodwyd yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021, cynyddodd cyfraddau cyhuddo o 1.51% i 2.99% dros y flwyddyn o Orffennaf 2021 hyd at Orffennaf 2022, wrth i fwy o ymchwiliadau ddod i ben ac i gyfran y rhai oedd yn aros am ddeilliant gwympo o 32.5% i 12.8%.

Ffigwr 19: Cyfraddau cyhuddo a ‘disgwyl am ddeilliant’ am achosion o drais a gofnodwyd yng Nghymru a Lloegr yn 2020/21.

Ffynhonnell: Tablau Data Agored y Swyddfa Gartref am Droseddau a Deilliannau a Gofnodwyd gan yr Heddlu: Data agored am ddeilliannau y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2021. Fersiynau wedi’udiweddaru: Gorffennaf 2021, Tachwedd 2021, Ionawr 2022, Ebrill 2022 a Gorffennaf 2022.

Data for this chart was not available to publish accessibly.

4. Yn genedlaethol, mae amrywiadau eang mewn cyfraddau cyhuddo o droseddau trais a throseddau rhyw difrifol[footnote 49] eraill yn ôl llu heddlu, ac y mae hyn yn cael ei ddrysu ymhellach gan wahaniaethau yn yr amser a gymerir i ddod ag ymchwiliadau i ben, a gwahaniaethau felly yng nghyfran yr achosion sy’n dal yn agored ar unrhyw bwynt.[footnote 50] O ran achosion o drais a gofnodwyd yn 2020/21, fel ar Orffennaf 2022 y gyfradd gyhuddo gyfartalog oedd 3.0%, ond ar lefel llu heddlu, yr oedd yn amrywio o 0.0% yn Ninas Llundain ac 1.0% yn swydd Gaerloyw, i 7.1% yn Sir Gaerhirfryn ac 8.5% yn Durham.

Ffigwr 20: Achosion o drais a gofnodwyd yng Nghymru a Lloegr yn 2020/21: cyfraddau cyhuddo a ‘disgwyl am ddeilliant’ fel ar Orffennaf 2022

Ffynhonnell: Tablau Data Agored y Swyddfa Gartref am Droseddau a Deilliannau a Gofnodwyd gan yr Heddlu: Data agored am ddeilliannau y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2021. Fersiwn wedi’i chyfoesi: Gorffennaf 21 2022.

Data for this chart was not available to publish accessibly.

O archwilio cyfraddau cyhuddo o droseddau trais a throseddau rhyw difrifol eraill ar lefel llu, cydberthynas wan yn unig sydd (r2=0.24). Yn gyffredinol, mae cyfraddau cyhuddo o droseddau rhyw difrifol yn uwch - yn llawer uwch fel rheol - na chyfraddau cyhuddo o drais, gydag un eithriad yn unig (yn 2020/21) sef Durham. O gymharu Durham a Heddlu’r Metropolitan, er enghraifft, er bod gwahaniaeth mawr mewn cyfraddau cyhuddo o drais (8.5% vs 2.5%), mae’r bwlch yn llai o lawer am droseddau rhyw difrifol eraill (8.1% vs 6.9%).

Yn gyffredinol, yr oedd 9.0% o droseddau rhyw difrifol eraill a gofnodwyd yn 2020/21 yn disgwyl am ddeilliant fel ar Fawrth 2022 (nis dangosir ar y siart), o gymharu â 12.8% o’r achosion o drais a gofnodwyd y flwyddyn honno, ar yr un pwynt mewn amser.

Ffigwr 21: Troseddau tais a throseddau rhyw difrifol eraill a gofnodwyd yng Nghymru a Lloegr yn 2020/21, cyfraddau cyhuddo fel ar Orffennaf 2022

Ffynhonnell: Tablau Data Agored y Swyddfa Gartref am Droseddau a Deilliannau a Gofnodwyd gan yr Heddlu: Data agored am ddeilliannau y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2021. Fersiwn wedi’i chyfoesi: Gorffennaf 21 2022.

Ffigwr 22: Cyfraddau cyhuddo o droseddau tais a throseddau rhyw difrifol eraill fesul llu heddlu, achosion o drais yr adroddwyd amdanynt ac a gofnodwyd yn 2020/21 fel ar Orffennaf 2022.

Ffynhonnell: Tablau Data Agored y Swyddfa Gartref am Droseddau a Deilliannau a Gofnodwyd gan yr Heddlu: Data agored am ddeilliannau y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2021. Fersiwn wedi’idiweddaru: Gorffennaf 21 2022.

Enw’r Llu Cyfradd gyhuddo Troseddau Rhyw Difrifol Difrifol
Llundain, Dinas 8.7% 0.0%
Swydd Gaerloyw 6.1% 1.0%
Avon a Gwlad yr Haf 5.1% 1.2%
Wiltshire 5.1% 1.3%
Gorllewin canolbarth Lloegr 2.3% 1.4%
Caint 2.2% 1.5%
Dyfnaint a Chernyw 4.0% 1.5%
Dyfed-Powys 4.2% 1.7%
Sussex 5.9% 1.7%
Surrey 5.7% 1.7%
Manceinion Fwyaf 5.3% 2.0%
Essex 7.8% 2.3%
Swydd Northampton 6.2% 2.3%
Glannau Mersi 7.5% 2.4%
Hampshire 6.3% 2.4%
Norfolk 6.8% 2.4%
Heddlu’r Metropolitan 6.9% 2.5%
Gogledd Cymru 6.1% 2.5%
Swydd Lincoln 7.3% 2.9%
Gwent 6.2% 2.9%
Suffolk 3.3% 3.0%
Swydd Caergaint 3.6% 3.1%
Swydd Stafford 5.9% 3.1%
Swydd Warwig 6.6% 3.3%
Dyffryn Tafwys 5.6% 3.3%
Gorllewin Swydd Efrog 6.2% 3.5%
Gorllewin Mercia 7.0% 3.6%
De Swydd Efroh 6.7% 3.6%
Swydd Bedford 7.9% 3.6%
Gogledd Swydd Efrog 8.2% 3.7%
Swydd Nottingham 7.6% 3.9%
Dorset 6.7% 4.0%
Swydd Gaerlŷr 4.9% 4.4%
Swydd Hertford 9.7% 4.4%
Swydd Derby 7.0% 4.5%
Northumbria 6.7% 4.5%
Cumbria 9.1% 4.6%
Swydd Gaer 9.3% 4.6%
De Cymru 10.9% 5.3%
Glannau Humber 6.7% 5.6%
Cleveland 7.6% 6.1%
Swydd Gaerhirfryn 7.7% 7.1%
Durham 8.1% 8.5%  

5. Dengys data cenedlaethol ryngweithio rhwng cyfraddau cyhuddo ac euogfarnu wedi erlyn: gall cyfraddau cyhuddo uchel gael eu herydu gan gyfraddau isel o euogfarnau wedi erlyn, ac i’r gwrthwyneb. O gyfuno data’r heddlu a CPS am 2019/20 tan 2020/21 mae modd cyfrifo cyfradd euogfarnu gyffredinol, trwy gyfuno cyfradd gyhuddo ddangosol (nifer penderfyniadau CPS i gyhuddo ar draws y tair blynedd wedi’u rhannu a nifer yr achosion o drais a gofnodwyd gan yr heddlu) a chanran erlyniadau CPS a arweiniodd at euogfarnau. Yn genedlaethol, mae cyfradd gyhuddo ddangosol o 3.34% a chyfradd euogfarnau wedi erlyn o 69.6% yn rhoi cyfradd euogfarnau gyffredinol o 2.32% (3.34*0.696=2.32). O siartio’r data am yr holl luoedd, gellir gweld i Northumbria a Sussex (ynghyd â lluoedd fel rhai Swydd Warwig a Swydd Northampton) fod â chyfraddau euogfarnau dangosol cyffredinol am drais, er i’r cyntaf fod â chyfradd gyhuddo (4.8%) oedd 1.7 gwaith yn uwch na’r olaf (2.9%). Y rheswm am hyn oedd i gyfran is o lawer o erlyniadau Northumbria am drais ar draws y tair blynedd arwain at euogfarn (52.7%) nag yn achos Sussex (80%).[footnote 51]

Ffigwr 23: Archwilio’r berthynas rhwng penderfyniadau CPS i erlyn fel % o gyfanswm yr achosion o drais a gofnodwyd gan yr heddlu, a chyfraddau euogfarnu wedi erlyn – fesul Ardal Llu Heddlu. Cymru a Lloegr, gan gynnwys y blynyddoedd 2019/20 i 2020/21.

Ffynonellau: Tablau Data Blynyddol VAWG CPS, blynyddoedd yn diweddu Mawrth 2020 a Mawrth 2021. Data Agored y Swyddfa Gartref am Droseddau a Deilliannau a Gofnodwyd gan yr Heddlu (fel ar Orffennaf 2021).

Data for this chart was not available to publish accessibly.

ATODIAD 5: ARSYLWADAU ALLWEDDOL PROSIECT BLUESTONE (CYNLLUN PEILOT AVON A GWLAD YR HAF A GYLLIDWYD GAN STAR, GWANWYN 2021)

  • Agwedd at ymchwilio a arweiniodd at amau dioddefwyr, a hyn wedi ei wreiddio yn y broses o wneud penderfyniadau a’r iaith a ddefnyddiwyd i’w disgrifio mewn systemau cofnodi data, fframweithiau ddeilliannau ac ymysg y swyddogion eu hunain;

  • A diffyg canolbwyntio ar ymddygiad y rhai oedd dan amheuaeth, dealltwriaeth wael o droseddu rhyw a fawr ddim chwilfrydedd ymchwiliadol;

  • Blaenoriaeth wael i gamau ymchwilio a diffyg gwneud penderfyniadau beirniadol ac adfyfyriol mewn ymchwiliadau;

  • Defnydd gwael ac anghyson o wybodaeth i ganfod a oedd gan bobl a enwyd ac a oedd dan amheuaeth hanes troseddol blaenorol, dealltwriaeth wael o’r hyn yr oedd rhywun dan amheuaethyn fynych yn ei olygu, a diffyg dylanwad y strategaeth ymchwiliadol a grybwyllwyd eisoes;

  • Oedi mawr mewn ymchwiliadau, o ran siarad â’r sawl a amheuir ac wrth gasglu tystiolaeth sensitif o ran amser;

  • Diffyg ymagwedd sefydliadol, cyfannol at darfu ar bobl a amheuiryn fynych, oedd yn mynd y tu hwnt i ymchwilio i’r union achos dan sylw; er enghraifft, fawr ddim defnydd o fesurau tymor-hir i darfu ar droseddu mynych megis cyfeirio at unedau rheoli troseddwyr;

  • Diogelu, asesu a rheoli risg gwael oedd yn gadael dioddefwyr mewn perygl o fwy o niwed ac nad oedd yn ystyried y posibilrwydd o aildroseddu;

  • Cydlynu gwael gyda CPS a arweiniodd at fwy o oedi mewn ymchwilio i benderfyniadau i gyhuddo, yn ogystal â dim llawer o gydweithio gydag unedau heddlu eraill;

  • Defnydd gwael o NICHE (y system ddata o adrodd am droseddau), gan gynnwys diffyg cofnodi data effeithiol o ddemograffeg allweddol i edrych i mewn i driniaeth deg ar draws gwahanol gategorïau o ddioddefwyr;

  • Dim mecanweithiau i nodi arfer da na drwg oherwydd nad oedd llawer o adolygu achosion a dim neu fawr ddim cyfleoedd ar gyfer arfer adfyfyriol;

  • Fawr ddim cyfle i gymhwyso a gwreiddio gwersi o droseddau trais a throseddau rhyw eraill i’w gwaith;

  • Diffyg mentoriaid profiadol (problem gyffredin ar draws plismona yng Nghymru a Lloegr);

  • Diffyg proses ddysgu broffesiynol ailadroddol i alluogi swyddogion i ennill medr ac arbenigedd am droseddu rhyw a throseddau rhyw a sut y gall troseddu rhyw fod yn ymaddasu i’r byd digidol. Yr oedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn wael ac nid oedd unrhyw integreiddio mewnwelediad o ymchwil academaidd a thystiolaeth bwrpasol a ddeilliodd o ddadansoddi data lleol;

  • Goruchwylio gwael ac anghyson o ran cynnydd achosion, gwirio lles swyddogion a rheoli llwythi achos;

  • Diffyg ymagwedd ‘dadansoddi beirniadol’ a blaenoriaethu camau mewn ymchwiliadau oedd ar y gweill, a arweiniodd at ymagwedd gweithredu proses, strategol at dystiolaeth, h.y., camau yn cael eu cymryd heb ystyried llawer a oedd eu hangen neu a oedd brys amdanynt o ran adeiladu achos cyflawn i ddogfennu’r trais neu’r ymosodiad rhywiol;

  • Diffyg dadansoddwyr cudd-wybodaeth dactegol a chudd-wybodaeth droseddol i gefnogi ymchwilio, oedd yn lleihau’r enillion effeithlonrwydd o alluogi aelodau staff eraill yr heddlu i gefnogi ymchwiliadau i drais;

  • Data sylweddol ar goll a phroblemau ansawdd ynghylch newidynnau allweddol i ddeall mor drylwyr ag sydd modd ‘broblem’ trais fel yr adroddir amdano gan ddioddefwyr;

  • Diffyg dadansoddwyr strategol/perfformiad i ddeall cynnydd achosion trwy brofiadau dioddefwyr a’r ystod eang o gyd-destunau lle mae troseddau trais a throseddau rhyw yn digwydd, mewn ffordd sy’n caniatau i wasanaeth yr heddlu wreiddio adolygu cyson o arferion ymchwilio’r heddlu er mwyn gwella yn gyson;

  • Lefel gyfyngedig ac afreolaidd o gynhyrchu proffiliau problemau strategol am y math o droseddau trais a throseddau rhyw eraill yr adroddir amdanynt wrth y llu, methiant i roi trosolwg strategol o adroddiadau am droseddau trais a throseddau rhyw, a methiant i gefnogi gwell dealltwriaeth o natur a chynnydd RAOSO yn ardal y llu. Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol er mwyn gweithio mewn partneriaeth ac adolygu adnoddau fel mater o drefn.

ATODIAD 6: FFIGWR PRESENOLDEB YN Y RHWYDWAITH DYSGU CENEDLAETHOL

Dyma’r ffigyrau presenoldeb yn Nigwyddiadau Canfyddiadau Archwiliadau Dwfn y Rhwydwaith Dysgu Cenedlaethol (NLN):

  • Gwasanaeth Heddlu’r Metropolitan 327 (a 125 o lawrlwythiadau)

  • Heddlu Durham 323 (a 50 o lawrlwythiadau)

  • Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr 434 (a 114 o lawrlwythiadau)

  • De Cymru 383 (rhy gynnar i fesur faint o lawrlwythiadau adeg cyhoeddi hyn)

Dyma’r ffigyrau presenoldeb am weminarau’rNLN:

  • Gwaith Fforensig Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol 216 (a 81 o lawrlwythiadau)

  • Trawsnewid Gwaith Fforensig (a 39 o lawrlwythiadau)

  • Deunydd Digidol a Thechnoleg mewn TThRhD 338 (a 58 o lawrlwythiadau)

Dyma nifer yr ymarferwyr sy’n aelodau o safle Hyb Gwybodaeth Operation Soteria Bluestone:

    1. Fodd bynnag, gall hyn fod yn danamcangyfrif.

Nifer y lawrlwythiadau ar gyfer cyfres dosbarthiadau meistr Dr Patrick Tidmarsh:

  • 7,642. Mynychodd 934 ddosbarth meistr 1 yn bersonol, ond nid yw’r ffigyrau mynychwyr dosbarthiadau meistr 2-5 yn hysbys.

  • Nid yw ffigyrau lawrlwytho yn adlewyrchu’r nifer a edrychodd mewn gwirionedd gan fod modd cadw’r recordiad yn ffolderi’r llu sy’n cael eu rhannu – a’u rhannu, a/neu eu cyhoeddi ar safleoedd mewnrwyd y lluoedd.

ATODIAD 7: PILER UN – YMCHWILIADAU SY’N CANOLBWYNTIO AR Y SAWL A AMHEUIR: ADRODDIAD DIWEDD BLWYDDYN 1

Tîm y Piler

Arweinyddion Piler: Yr Athro Miranda Horvath a Dr. Kari Davies. Tîm y Piler (yn nhrefn yr wyddor): Dr. Katherine Allen, Arianna Barbin, Sophie Barrett, Yr Athro Emma Bond, Ioana Crivatu, Dr. Maria Cross, Thistle Dalton, Joana Ferreira, Dr. Anna Gekoski, Rosa Heimer, Anca Iliuta, Aneela Khan, Margaret Hardiman, Asmaa Majid, Dr. Mark Manning, Kristina Massey, Dr. Ruth Spence, Louise Trott, a’r Athro Jessica Woodhams

Cefndir

Maint troseddu rhyw ac erledigaeth rywiol

Mae troseddu rhyw ac erledigaeth rywiol yn digwydd yn eang.[footnote 52] Yn ôl Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr am y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2020 amcangyfrifwyd bod 773,000 o oedolion wedi dioddef ymosodiadau rhywiol yn ystod y flwyddyn a aeth heibio[footnote 53], a gellir gweld cyffredinedd y math hwn o droseddu ledled y byd[footnote 54]. Mae cyffredinedd troseddu rhyw yn debygol o fod yn danamcangyfrif o wir faint y broblem hon o ganlyniad i faterion sy’n ymwneud â pheidio ag adrodd a normaleiddio ymddygiad rhywiol problemus[footnote 55]. Bu pwysigrwydd profiad y dioddefwr yn destun llawer o ffocws llenyddiaeth academaidd yn y maes hwn - a mae hynny’n gywir - oherwydd y ffaith fod ymchwiliadau’r heddlu yn canolbwyntio’n gyson ar faterion hygrededd y dioddefwr a’u bod yn cynnwys rhagfarnau am ddioddefwyr troseddau rhyw. Er ei bod yn bwysig ymchwilio i brofiadau dioddefwyr, rhaid i ganolbwyntio ein hymdrechion ar droseddwyr rhyw - pwy ydynt, pa fath o droseddau maent yn eu cyflawni, a pham eu bod yn eu cyflawni, ddal i fod yn flaenoriaeth yn yr agenda ymchwil ac yn ymchwiliadau’r heddlu. Mae hyn yn cynnwys deall mwy am ymddygiad troseddwyr rhyw a sut y maent yn defnyddioparatoi i bwrpas rhyw, trin a gorfodi i gyflawni troseddau ac i osgoi craffu gan yr heddlu[footnote 56].

Troseddwyr rhyw – pwy ydynt a beth maent yn wneud?

Er bod problem troseddu rhyw yn amlwg yn gyffredin ac yn bryder rhyngwladol, mae rhai rhagdybiaethau sylfaenol am droseddwyr rhyw sy’n bodoli ymysg y cyhoedd yn gyffredinol a chyda phobl sy’n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol. Mae Davies et al. [footnote 57], yn crynhoi’r broblem hon fel “…ymysg camsyniadau mae mythau a stereoteipiau di-sail am drais sydd yn culhau’r diffiniad o’r hyn yw trais i stereoteip o ‘drais go-iawn’[footnote 58] ac yn rhoi bai yn annheg ar y dioddefwyr eu hunain[footnote 59]. Mae’r camsyniadau hyn yn parhau’r gred fod ‘gwir’ ymosodiad rhyw dim ond yn golygu ymosodiad gan ddieithryn arfog, yn ymosod ar ddioddefwyr mewn stryd gefn dywyll. [footnote 60]” Mae’r rhan fwyaf o droseddu rhyw yn cael eu cyflawni gan rywun sy’n hysbys i’r dioddefwr[footnote 61], yn aml iawn yn bartner neu gyn-bartner[footnote 62], a chyflawnir troseddau rhyw ran amlaf yng nghartref y dioddefwr neu’r troseddwr[footnote 63]. Mae a wnelo troseddu rhyw â rhywedd: dynion yw’r rhan fwyaf o droseddwyr rhyw, a menywod yw’r rhan fwyaf o ddioddefwyr[footnote 64]. Er mai dynion sy’n cyflawni’r rhan fwyaf o droseddau rhyw yn erbyn dynion a menywod, gall dynion fod yn ddioddefwyr[footnote 65] a gall menywod fod yn droseddwyr[footnote 66].

Fel y crybwyllwyd uchod, mae rhai camsyniadau cyffredin hefyd am agweddau ymddygiadol troseddu rhyw. Mae cyffredinedd trais corfforol, er enghraifft, yn aml yn cael ei or-bwysleisio; felly hefyd duedd dioddefwr i wrthwynebu troseddwr yn gorfforol[footnote 67]. Mewn gwirionedd, nid yw’r rhan fwyaf o droseddwyr rhyw yn defnyddio trais corfforol[footnote 68] ac y mae dioddefwyr yn fwy tebygol o gydweithredu neu rewi yn hytrach na brwydro yn erbyn troseddwr[footnote 69]. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos camsynied pryderus am natur troseddu rhyw, ac nid yw hyn yn gwneud dim ond parhau â’r syniad fod trosedd yn un ‘go-iawn’ dan rai amgylchiadau yn unig, sydd yn peri problemau parhaus â datgelu troseddau, adrodd amdanynt a chredu dioddefwyr neu hyd yn oed ddeall fod yr hyn a ddigwyddodd iddynt yn drosedd.

Tidmarsh[footnote 70] a arweiniodd y maes o ran dwyn ynghyd ddealltwriaeth o’r strategaethau a’r tactegau a ddefnyddir gan droseddwyr rhyw, gan dynnu ar dystiolaeth obaratoi i bwrpas rhyw[footnote 71] (sy’n cael ei ddefnyddio’n draddodiadol dim ond i ddeall tactegau oedolion sy’n droseddwyr rhyw i gyrraedd plant i droseddu yn eu herbyn) a chamdriniaeth ddomestig (cysyniadau fel rheolaeth trwy orfodaeth[footnote 72]), gan esbonio[footnote 73] ”er y defnyddir gwahanol dactegau paratoi mewn achosion o blant ac oedolion, yr un egwyddorion sy’n gymwys: [maent yn] creu perthynas o bŵer a/neu awdurdod dros y darpar-ddioddefwr, yna’n symud y berthynas ymlaen i ffrâm rywiol. Mae paratoi yn bresennol ym mhob trosedd, pa mor fuan bynnag mae’n digwydd”. Mabwysiadwyd yr ymagwedd hon gan Heddlu Victoria (Awstralia) sydd bellach yn cydnabod y gall y math hwn o baratoi ddigwydd gydag oedolion a phlant fel ei gilydd, ac yn defnyddio diffiniad bras sydd yn cynnwys dau gam 1) heb fod yn rhywiol a 2) rhywiol: “y broses lle mae unigolyn yn paratoi dioddefwr ar gyfer patrwm o gamdriniaeth rywiol, ac yn cryfhau’r patrwm hwnnw[footnote 74]”.

Mae troseddwyr yn targedu darpar-ddioddefwyr gan ddefnyddio nodweddion unigol sy’n eu gwneud yn fregus (e.e. bod yn ifanc, bod ag anableddau neu broblemau iechyd meddwl, bod wedi cymryd alcohol neu gyffuriau) a chyd-destunau cymdeithasol i fanteisio arnynt. Mae troseddwyr hefyd yn gwneud eu targedau’n fregus; rhydd Tidmarsh[footnote 75] enghreifftiau megis defnyddio gwybodaeth am rywun i greu sefyllfaoedd lle gall troseddwyr fanteisio ar neu waethygu teimladau rhywun o ddiffyg hyder. Mae plismona wedi dysgu, er enghraifft yn eu gwaith ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant (CSE) fod troseddwyr yn aml yn dewis dioddefwyr i’w targedu ar sail eu diffyg gwytnwch, ac o’r herwydd, mae’n hanfodol mai ymddygiad y sawl a amheuir sy’n cael ei gwestiynu a’i herio, a hynny’n gadarn. Defnyddir yr un strategaeth gan droseddwyr rhyw yn erbyn dioddefwyr sy’n oedolion, nid dim ond yng nghyd-destunau CSE. Yn aml, mae dioddefwyr yn rhoi i’r heddlu enwau llawer o rai dan amheuaeth, ond mae hyn weithiau’n peri i ymchwilwyr edrych i mewn dystiolaeth gyfreithiol o ‘gydsyniad’ yn unig yn hytrach nag edrych i mewn i’r hyn wnaeth y sawl a amheuir a’r hyn y gall rhywun rhesymol ei arsylwi, ac y mae hyn yn tanseilio gallu’r dioddefwr i gydsynio.

Fel y crybwyllwyd uchod, mae ymchwil am droseddwyr rhyw yn gyfyngedig, o gymharu ag ymchwil am ddioddefwyr. Daw’r sylfaen tystiolaeth bresennol am droseddwyr rhyw yn bennaf o ymchwil ar gofnodion cyfiawnder troseddol, sydd yn aml ond yn cynnwys data am droseddwyr rhyw a gafwyd yn euog[footnote 76]. Gwyddom, serch hynny, o ystyried y materion cymdeithasol a amlinellwyd uchod sy’n ei gwneud yn anodd i ddioddefwyr adrodd am y troseddau hyn, neu iddynt gyrchu cyfiawnder pan fyddant yn adrodd, sydd yn cynnwys methiannau ymchwiliadol helaeth, mai dim ond ychydig o droseddwyr sy’n cael eu cyhuddo neu eu dedfrydu. Ymhellach, mae ymchwil yn aml yn canolbwyntio ar samplau o droseddau gydag un math o ddioddefwr (e.e. dieithryn ac oedolion benyw[footnote 77]). Er bod hyn yn ddealladwy o safbwynt methodolegol, gyda meintiau sampl bychain o’r troseddau a’r troseddwyr llai cyffredin yn gwneud astudio’r maes hwn yn anodd, y mae’n tueddu i barhau â’r darlun un-dimensiwn ac anghyflawn o gwmpas ac ehangder troseddu rhyw (gweler Piler Dau am fwy o fanylion a thrafodaeth).

Damcaniaethau seicolegol am droseddu rhyw

Gallwn edrych ar ddamcaniaeth seicolegol i ddeall pam fod troseddwyr rhyw yn ymddwyn fel y maent. Tynnodd adolygiad diweddar o’r damcaniaethau amlycaf am droseddu rhyw gan Cording a Ward[footnote 78] sylw at y ffaith fod damcaniaethau yn hanfodol er mwyn datblygu “prif ymdrechion atal a lleihau niwed effeithiol, a rhai eilaidd” (t.124). Mae fframwaith buddiol[footnote 79] ar gyfer deall amrywiaeth y damcaniaethau am droseddu rhyw yn gwahaniaethu rhwng gwahanol lefelau o ddamcaniaeth. Fel y crynhoa Cording a Ward[footnote 80] “Ni ddylid deall unrhyw lefel o ddamcaniaeth fel un bwysicach na’r llall; yn hytrach, mae damcaniaethau ar draws gwahanol lefelau yn gweithio’n synergaidd i ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r ffactorau a’r prosesau sy’n achosi ac yn cynnal ymddygiad rhywiol niweidiol ar draws amser a chyd-destunau.” Daw ymddygiad rhywiol droseddol dan ddylanwad ffactorau mewnol (e.e., ffantasi, oed a rhyw y troseddwyr, eu profiad a’u harbenigedd ac anhwylder meddyliol) ac allanol (nifer y troseddwyr, agweddau diwylliannol o ymddygiad, troseddu unigol versus troseddu cyson, amrywiadau sefyllfaol)[footnote 81]. Mae’n hanfodol i swyddogion yr heddlu ddeall yr elfennau hyn sy’n sylfaen i droseddu rhyw.

Effeithiau agweddau diwylliannol cynhenid ar wneud penderfyniadau wrth ymchwilio

Mae modd gweld effeithiau mythau a stereoteipiau am drais, a’r agweddau diwylliannol anghywir a chynhenid hyn, y tu hwnt i’w heffaith ar ddioddefwyr. Mae sawl enghraifft wedi eu dogfennu o fethiannau ymchwiliadau’r heddlu, e.e., John Worboys a Kirk Reid, lle mae diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ymddygiad troseddwyr rhyw, ynghyd ag agweddau cynhenid sy’n tybio fod dioddefwyr yn dweud celwyddau (adroddiadau cynnar yn dweud ‘dim trosedd’[footnote 82]) ac wedi arwain at adolygiadau mewnol gan yr heddlu[footnote 83]. Yn hanesyddol ac ar hyn o bryd, canolbwyntiodd ymchwiliadau’r heddlu i droseddau trais a throseddau rhywiol eraill (RAOSO) ar y dioddefwyr - eu geirwiredd a’u hygrededd - gan ddibynnu ar fythau am yr hyn yw trais mewn gwirionedd[footnote 84]. Mae hyn er gwaethaf tystiolaeth, er enghraifft Waterhouse et al[footnote 85], a ddefnyddiodd ddata’r heddlu a chanfod, o 400 achos o drais yr adroddwyd amdanynt nad oedd gan yr un ohonynt holl nodweddion myth y ‘trais gwirioneddol’ ond fod y mwyafrif (70.7%) wedi eu cyflawni gan bobl yr oedd y dioddefwr yn eu hadnabod, wedi digwydd mewn cartref, ac nid oedd gan y rhan fwyaf o ddioddefwyr unrhyw anafiadau corfforol. Y canfyddiadau am honiadau ffug o RAOSO yw eu bod yn digwydd ar lefelau uchel, er gwaethaf tystiolaeth sy’n awgrymu nad ydynt ynuwch nag ar gyfer unrhyw drosedd arall[footnote 86], gyda meta-ddadansoddiad diweddar o astudiaethau o wledydd y gorllewin yn amcangyfrif bod rhyw 5% o honiadau o drais yn ffug[footnote 87]. Mae’r unig ganolbwynt yn aml ar hygrededd y dioddefwr mewn ymchwiliadau RAOSO sy’n tynnu ar linellau ymholi a feirniadwyd gan ymchwil academaidd dros ddegawdau[footnote 88] yn creu ‘amodau o anghosbedigaeth fwy neu lai i ddynion rheibus’[footnote 89] a dyma un o sbardunau deilliannau cyfiawnder gwael. Mae sawl adroddiad ac astudiaeth[footnote 90] gan lywodraethau wedi amlygu’r ffaith fod angen dybryd am arbenigwyr ym mhob cam o’r broses cyfiawnder troseddol; fod ymchwiliadau angen gwella a bod angen monitro achosion yn well. Mae Walker et al. [footnote 91] yn ddiweddar wedi amlygu’r ffaith fod y system mewn cylch parhaus, fel y dywed Jan Jordan[footnote 92], o dderbyn ‘rhethreg diwygio ond heb newid fawr ddim ar y realiti sylfaenol’ (t.234). Ni roddwyd blaenoriaeth i RAOSO na’u cymryd o ddifrif, a phan adroddir amdanynt, mae’r ymateb yn wael. I grynhoi, mae’r holl dystiolaeth sydd ar gael yn pwyntio at system fethiannus sydd angen ei hail-wampio ynsylweddol.

Ail-gyfeirio sylw ar y sawl a amheuir

Mae tystiolaeth glir i awgrymu fod safbwyntiau cyfredol ein cymdeithas am fenywod, am ddioddefwyr troseddau rhyw, ac am natur troseddu rhyw ei hun, yn effeithio’n andwyol ar allu’r system cyfiawnder troseddol i weithio’n effeithiol. O gofio pwysigrwydd y dasg hon, o ran mynd i’r afael â throseddu i ddiogelu’r cyhoedd ac o ran rhoi mynediad at gyfiawnder i ddioddefwyr, rhaid i’r sawl sy’n gorfodi’r gyfraith ‘dorri tir newydd’ yn y ffordd maent yn ymchwilio i’r troseddau hyn. Yn fyr, rhaid i ymchwiliadau symud i ffwrdd oddi wrth yr agweddau cymdeithasol problemus sydd hyd yma wedi llunio’r canfyddiad am droseddau rhyw a sut y maent yn cael eu trin. Ym 1990 ysgrifennodd Diana Scully[footnote 93] am gyfweld treiswyr oedd wedi eu cael yn euog er mwyn deall ‘beth mae dynion yn ennill o drais?’, a daeth i’r casgliad bryd hynny fod trais yn ‘drosedd risg isel, gwobr uchel’. Os na fydd y sawl a amheuir yn dod yn ganolbwynt i ymchwiliadau’r heddlu, gall yr ateb fod yr un fath ymhen 30 mlynedd eto. Mae’n amlwg, lle bo ymchwiliadau’n ddiffygiol ar hyn o bryd, nad yw sefydliadau’r swyddogion yn rhoi iddynt y gallu i gyflawni eu rôl gyda’r wybodaeth arbenigol a’r sgiliau sydd eu hangen i symud y tu hwnt i’r agweddau cymdeithasol problemus hyn i ymchwilio yn effeithiol i’r math hwn o drosedd. Dangosodd tystiolaeth gychwynnol fod gwybodaeth a sgiliau arbenigol, gan gynnwys deall ymddygiad troseddwyr rhyw, yn hanfodol er mwyn gwella ymchwiliadau iRAOSO[footnote 94], a bod angen adolygu a rhoi sylw i hyn ar frys os am wella arferion plismona yn hyn o beth.

Yr ydym wedi cysyniadu ymchwiliad sy’n canolbwyntio ar y sawl a amheuir yn unol â Hohl a Stanko[footnote 95] a ddywedodd “rhaid i’r ymchwiliad gychwyn trwy archwilio ymddygiad troseddol y sawl a amheuir yn gynnar yn yr ymchwiliad, yn hytrach na chanolbwyntio ar y dioddefwr fel man cyntaf a phrif fan yr ymchwiliad.” Mae elfennau allweddol yr ymagwedd hon yn cynnwys dwyn y canlynol i’r blaen:

  • Gweithredoedd y sawl a amheuir cyn, yn ystod ac ar ôl y drosedd a’u hesboniad am y gweithredoedd hynny;

  • Amgylchiadau a chyd-destun y drosedd gyda phwyslais penodol ar a wnaeth y sawl a amheuir dargedu’r dioddefwr, baratoi at bwrpas rhyw, cam-fanteisio, trin neu reoli’r dioddefwr trwy orfodaeth;

  • Y berthynas rhwng y sawl a amheuir a’r dioddefwr; ac

  • Ymwybyddiaeth y gall y sawl a amheuir ddefnyddio neu geisio defnyddio technegau megis trin, gorfodaeth a rheolaeth ar swyddogion.

Pwrpas Piler Un

Archwilio sut y mae ymchwiliadau ar hyn o bryd yn cymryd (neu heb gymryd) ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y sawl a amheuir, gyda golwg ar ddarparu argymhellion ac allbynnau i wella’r broses ymchwilio.

Methodoleg

Rhannwyd casglu data am Biler Un gyda Philer Dau, oherwydd bod cymaint o bwyntiau’n cydgyfeirio o ran y wybodaeth oedd ei angen i ateb cwestiynau’r ymchwil. Cynhaliwyd ymchwil i edrych i mewn i hyn mewn pedwar o luoedd heddlu gan ddefnyddio dulliau cymysg fel ffordd o gael dyfnder ac ehangder gwybodaeth, a gwneud iawn am unrhyw wendidau mewn un dull o ymchwil[footnote 96]. Mae defnyddio dulliau cymysg yn tynnu ar gryfderau (ac yn lleihau cyfyngiadau) agweddau meintiol ac ansoddol a gall roi cyfleoedd arloesol i ddeall materion anodd megis ymchwilio iRAOSO[footnote 97]. O gymryd ymagwedd dulliau cymysg, cawsom wedd fwy crwn ar ymchwiliadau RAOSO a’r sawl sy’n ymchwilio iRAOSO; yr oedd ystyried data o wahanol ffynonellau (triongli[footnote 98] ) a gasglwyd trwy ddulliau gwahanol yn caniatau i ni gymharu a gwrthgyferbynnu damcaniaeth yr hyn sydd i fod i ddigwydd mewn ymchwiliad a sut y dylai’r sawl sy’n ymchwilio ymddwyn a’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd, oedd yn hanfodol gan nad oes fawr ddim yn fewnol sy’n esbonio pam fod cymaint o ymchwiliadauRAOSO yn mynd o chwith.

Dyma gwestiynau’r ymchwil archwiliadol:

1) Deall pa mor effeithiol oedd ymchwiliadau RAOSO gan gynnwys a oedd yr ymchwilio yn canolbwyntio’n bennaf ar y dioddefwr ynteu’r sawl a amheuir a sut yr effeithiodd hyn ar hynt yr ymchwiliad.

2) Faint o wybodaeth arbenigol sydd gan swyddogion a staff yr heddlu ynghylch targedu’r sawl a amheuir gan ddefnyddio ymagwedd sy’n canolbwyntio arno/i.

3) Beth yw canfyddiadau swyddogion o effeithiolrwydd ymchwiliadol a pha mor ddefnyddiol yw ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y sawl a amheuir?

4) Pa ganllawiau sy’n cael eu rhoi i swyddogion a sut mae a wnelo hyn â chynnal ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y sawl a amheuir (neu beidio)?

5) Beth yw canfyddiadau swyddogion o’r newidiadau a roddwyd ar waith yn Llu braenaru E ac a yw’r newidiadau wedi arwain at fwy o ymchwiliadau sy’n canolbwyntio ar rai dan amheuaeth?

Mae amlinelliad y fethodoleg a ddarperir yma yn amlygu sut y defnyddiwyd pob haen o ddata i ateb cwestiynau ymchwil penodol yn ymwneud â Philer Un.

Haen 1 – Adolygiadau achos a ddefnyddiwyd i ymdrin â chwestiynau ymchwil 1, 2, 3 a 4

Defnyddiwyd samplo cwota heb debygolrwydd i nodi achosion i’w hadolygu. Gofynnwyd am 72 o achosion caeedig dyddiedig rhwng 2019 a 2022 am bob llu. Nododd y swyddogion yr achosion ac anelu at gynnwys sampl oedd â’r un nifer o achosion trais ar oedolion gan ddieithryn, neu berthynas ddomestig, a naill ai y bu cyhuddiad, nad yw’r dioddefwr yn cefnogi erlyniad, neu’r deilliant oedd dim camau pellach (yn unol â chodau deilliant cyfredol y Swyddfa Gartref, gweler Piler Pump am drafodaeth bellach am hyn). Cynhaliodd y swyddogion yr adolygiadau achos, a chawsant gyfle i gael mewnwelediad i sut yr oedd ymchwiliadau yn cael eu trin yn eu llu hwy yn ogystal â datblygu’r sgiliau adfyfyrio beirniadol (gweler Piler Pedwar). Derbyniodd y swyddogion hyfforddiant am sut i gynnal adolygiadau achos gan yr ymchwilwyr, ac adolygodd yr ymchwilwyr yr adolygiadau achos gan ganolbwyntio ar gysondeb a chywirdeb yn ogystal â chynnwys. Cynhaliwyd yr adolygiadau cyntaf gan DCs (DSs hefyd yn Lluoedd A, B) a chynhaliwyd yr ail adolygiadau gan DIs, DSs (Lluoedd C, D), DCIs, UA, Prif UA, a’rACC. Cwblhawyd cyfanswm o 215 o adolygiadau achos, yn amrywio o 33 i 59 am bob llu. Defnyddiwyd ymagwedd anwythol fel y fframwaith codio, gyda dadansoddiad cynnwys wedi ei ddefnyddio ar gyfer adran ansoddol yr adolygiadau. Cafwyd ystadegau disgrifiadol o’r data ansoddol ar amseroldeb cerrig milltir ymchwiliadol.

Haen 1a - Datblygu adolygiadau achos i’w defnyddio gan ymchwilwyr yn llu braenaru E a ddefnyddiwyd i ymdrin â chwestiwn ymchwil 5

Yr oedd Llu braenaru E eisoes yn gweithredu newidiadau ar sail ein hargymhellion. Datblygwyd yr offeryn adolygu achosion a ddisgrifir yn Haen 1 i’w ddefnyddio gan ymchwilwyr er mwyn i ni allu asesu effaith y newidiadau ar ymchwiliadau. Cwblhawyd 13 adolygiad achos gan ymchwilwyr oedd yn gallu cyrchu system gofnodi troseddau Llu E ar liniaduron a roddwyd gan y llu. Detholwyd 7 o’r rhain ar sail perthynas y dioddefwr-troseddwr a deilliannau o restr excel a ddarparwyd gan Lu E. Detholwyd y 6 achos arall o’r rhai a ddarparwyd gan Dditectif Arolygydd o bob tîm Bluestone Llu E a ddewisodd ddau achos, un yn cynrychioli arfer da a’r llall yn un lle’r oedd angen gwelliant (yr oedd y rhain yn cynnwys rhai achosion y gofynnwyd amdanynt seiliedig ar nodweddion gwarchodedig y dioddefwr-troseddwr, e.e. rhywioldeb, crefydd. etc. Defnyddiwyd yr un broses ddadansoddi â’r un a ddisgrifir yn Haen 1.

Haen 2 – cyfweliadau a ddefnyddiwyd i ymdrin â chwestiynau ymchwil 1, 2, 3, a 4

Defnyddiwyd cyfweliadau ansoddol, neu sgyrsiol, i edrych i mewn i gwestiynau ymchwil dau a thri. Cynhyrchwyd trefn gyfweliadau, i ymdrin â Phileri Un a Dau, gan ddefnyddio cwestiynau penagored, gydag anogwyr lle’r oedd hynny’n gymwys. Defnyddiwyd y rhestr yn hyblyg, fel canllaw, er mwyn ymdrin â meysydd diddordeb oedd wedi eu diffinio eisoes a hefyd i ganiatáu i bynciau godi yn ystod y sgyrsiau. Ymysg y meysydd allweddol yr ymdriniwyd â hwy yr oedd: profiad a hyfforddiant y swyddogion; heriau i ymchwilio; gwybodaeth a ddefnyddiwyd mewn ymchwiliadau i drais; pobl dan amheuaeth a enwyd; pobl a amheuiryn fynych; sut mae’r heddlu yn gweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ar ymchwiliadau trais; a chynnal ymchwiliadau oedd yn canolbwyntio ar y sawl a amheuwyd.

Wrth adrodd am ganlyniadau’r cyfweliadau, ni ddefnyddiwyd data rhifol. Mae’r defnydd o rhifoedd/ meintoli mewn ymchwil ansoddol yn bwnc dadleuol. Dadleua rhai ymchwilwyr o blaid defnyddio data rhifol neu led-rifol - gan ddadlau y gall hyn: wella tryloywder; ychwanegu manylder; galluogi i themâu ddod i’r amlwg yn gliriach; a chynyddu ystyr canfyddiadau hanfodol[footnote 99]. Fodd bynnag, noda Maxwell[footnote 100], ers ‘rhyfeloedd patrymau’ y 1970au a’r 80au, “gwrthododd llawer o ymchwilwyr ansoddol y defnydd o ddata rhifol yn eu hastudiaethau” am resymau athronyddol a gwleidyddol. Yn athronyddol neu’n gysyniadol, dadleuir nad yw defnyddio rhifau mewn ymchwil ansoddol yn gydnaws â safbwynt adeileddol. Felly nid yw’n briodol gwerthuso ymchwil ansoddol mewn fframwaith gwyddonol lle gwelir mai un realiti sydd, y gellir ei fesur a’i feintoli yn wrthrychol er mwyn dod i gasgliadau dilys y gellir eu cyffredinoli. Gall defnyddio data rhifol mewn ymchwil ansoddol ymddangos ar yr wyneb fel petai’n gwneud adroddiad yn fwy ‘gwyddonol’ neu ‘gadarn’ ond nid yw’n llwyddo i gyfrannu’n ystyrlon i’w resymeg; ni ddylid meddwl am dystiolaeth yn unig yn nhermau swm y dystiolaeth. Felly, fel y dadleua Pyett[footnote 101], “mae cyfrif ymatebion yn colli pwynt ymchwil ansoddol”, gan nad yw amlder yn diffinio gwerth. Yn fwy ymarferol, neu ar lefel gymhwysol, os na ofynnwyd yr union un cwestiynau i bob cyfranogwr mewn ymchwil ansoddol yn yr un ffordd yn union, mae perygl y gall amlderau adrodd thema neu ymateb arbennig gam-gynrychioli’r data, hyd yn oed o fewn y sampl a astudiwyd. Ymhellach, gall meintoli dynnu oddi wrth yr arlliw a’r manylion sy’n allweddol mewn gwaith ansoddol[footnote 102].

Gan gadw’r dadleuon hyn mewn cof, defnyddiwyd dadansoddiad thematig atblygol (RTA) yn yr ymchwil, sef ymagwedd hollol ansoddol sy’n tynnu ar batrymau ansoddol priodol megis lluniadaeth[footnote 103]. Mae RTA yn derbyn, yn hytrach na gwrthod, goddrychedd, hyblygrwydd a chreadigrwydd, gan gymryd ymagwedd organig acatblygol. Yn hytrach nag ymdrechu i fod yn ailadroddus a chyrraedd consensws, mae’n annog rôl yr ymchwilydd mewn mynd ati i gynhyrchu gwybodaeth ac yn gwrthod y syniad o godio ‘manwl gywir’ neu ‘ddibynadwy’ a dilysrwydd rhyng-gyfraddwyr. Dilynwyd chwe chyfnod cynnal RTA sydd yn cynnwys: (1) yr ymchwilydd yn ymgyfarwyddo â’r data; (2) cynhyrchu codau; (3) adeiladu themâu; (4) adolygu themâu posib; (5) diffinio ac enwi themâu; a (6) ysgrifennu’r themâu a’u cyflwyno.

Haen 2a – Cyfweliadau dilynol yn llu braenaru E a ddefnyddiwyd i ymdrin â chwestiwn ymchwil 5

Rhwng misoedd Chwefror a Mehefin 2022, defnyddiwyd yr un ymagwedd a amlinellwyd yn Haen 2 gydag 8 o swyddogion o Lu braenaru E. Cynhyrchwyd trefn gyfweld led-strwythuredig, i ymdrin â Phileri Un a Dau, gan ddefnyddio cwestiynau penagored, gydag anogwyr lle’r oedd hynny’n gymwys. Yr oedd y cyfweliadau yn canolbwyntio ar edrych sut y gweithredwyd yr argymhellion o’r cynllun peilot braenaru, a chanfyddiadau a phrofiadau swyddogion o’r ymagwedd newydd. Y rhai a gyfwelwyd oedd Swyddogion Ymwneud a Swyddogion Tarfu, gan gynnwys Ditectif Sarjant o bob un ac un Ditectif Arolygydd (oll o ardaloedd peilot Bluestone yn Llu E). Dadansoddwyd y cyfweliadau fel y disgrifiwyd yn Haen 2.

Mewnwelediadau a chyfyngiadau data

Mae rhai cyfyngiadau ar y data y dylid eu cydnabod:

  • Yr oedd yr adolygiadau achos yn dibynnu ar gael y cyfranogwyr i lenwi’n gywir ac yn llawn y daenlen data a ddarparwyd iddynt. Lle mae data ar goll, gall hyn fod am na chwblhawyd y data yn iawn.

  • Yn yr un modd, adlewyrchiad yn unig yw’r data a gynrychiolir yn yr adolygiadau achos o’r data a gofnodwyd yn systemau cofnodi troseddau y lluoedd. Er y dylai swyddogion nodi’r holl gamau a gymerir mewn ymchwiliad, does dim gwarant fod hyn yn cael ei wneud (gweler adroddiad Piler Pump am ddata tystiolaeth nas cofnodwyd yn gywir), ac felly gall dadansoddiadau gynnwys digwyddiadau gafodd eu cwblhau, ond heb eu cofnodi.

  • Yr oedd peth amrywioldeb yn ansawdd yr adolygiadau achos, a rhai swyddogion yn amlwg wedi cael yr ymagwedd yn haws nag eraill.

  • Trefnwyd y cyfweliadau gan Arweinyddion Pileri’r Heddlu ym mhob un o’r lluoedd. O ganlyniad, efallai eu bod yn destun tuedd wrth ddethol, yn ychwanegol at y duedd wrth ddethol a gysylltir fel arfer ag ymagwedd pelen eira neu grynswth at ymwneud â chyfranogwyr.

  • Yn yr un modd, anfonwyd y ceisiadau am wybodaeth at Arweinyddion Pileri’r Heddlu, a’u casglu ganddynt, a gall hyn eto fod wedi arwain at duedd.

Yr oedd yr ymagweddau at gasglu data a ddefnyddiwyd gennym yn cyfuno dulliau traddodiadol a phrofedig megis cyfweliadau, ond hefyd ddulliau oedd yn cael eu treialu am y tro cyntaf, sef adolygiadau achos. Yr oedd adolygiadau achos yn ffynhonnell data unigryw. Mae gwybodaeth am gynnydd achos ynddo’i hun fel arfer yn arswydus o anodd i’w chael oherwydd bod angen ei echdynnu â llaw allan o systemau cofnodi troseddau, a’r cyfyngiadau amser a diogelwch sy’n gysylltiedig â hyn. Y peth newydd yn yr adolygiadau achos oedd y ffaith mai swyddogion oedd yn eu cynnal, a dau swyddog o wahanol reng a phrofiad yn adolygu’r un achos, gan roi mewnwelediadau i’w canfyddiadau hwy o ymchwiliadau. Yr oedd defnyddio’r ymagwedd hon yn ein galluogi ni (a’r swyddogion a gynhaliodd yr adolygiadau) i weld a gwneud diagnosis o’r hyn sy’n mynd o’i le mewn ymchwiliadau ac yr oedd yn rhan annatod o helpu’r llu i asesu pa mor effeithiol oedd eu hymchwiliadau eu hunain. Ymhellach, dywedodd llawer o swyddogion, er bod gwneud yr adolygiadau achos yn cymryd llawer o amser, fod yr hyn gawsant ohonynt yn taflu llawer o oleuni.

Canfyddiadau

Diffyg gwybodaeth arbenigol

Ar draws yr holl luoedd - er i wahanol raddau - roedd y gweithlu oedd yn ymchwilio i RAOSO yn dueddol o fod yn ifanc ac yn aml yn ddibrofiad. Dywedwyd y gallai swyddogion gael eu taflu i mewn i ymchwilio i drais - weithiau heb unrhyw gefndir ymchwiliadol yn fras, neu heb gefndir o ymchwilio i drais yn benodol. Er enghraifft, yr oedd ditectifs mynediad uniongyrchol, swyddogion ymateb neu swyddogion yn syth o fod mewniwnifform, yn llenwi bylchau mewn timau ymchwilio i drais. Y teimlad, yn enweidg ymysg y ditectifs mewn rhengoedd uwch, oedd bod hyn yn amhriodol ar y gorau, ac ar ei waethaf, yn beryglus.

“Mae [Llu A] yn rhoi ditectifs ar lwybr cyflym ar hyn o bryd, ac y mae’n peri pryder mawr i mi … mae swyddogion ar y llwybr cyflym i fod yn dditectifs sy’n ymchwilio i ymosodiad rhywiol difrifol… Mae meddwl am rywbeth yn digwydd i mi neu i rywun yn agos ata’i, a rhywun gyda dim ond chwe mis o wasanaeth yn ymchwilio. Mae hynna, wel, mae’n anhygoel… mae’n gwneud i mi wingo, braidd” (LLU A7)

“Dwyf i ddim yn meddwl bod ffurf ein timau yn effeithiol. Fel sefydliad, rydym wedi colli llawer iawn o staff profiadol, a staff ifanc iawn sydd ar y llu nawr. Yn bersonol, dwyf i ddim yn meddwl ei bod hi’n briodol rhoi staff ar dimau cymhleth heb fawr ddim profiad o unrhyw fathau eraill o ymchwilio a disgwyl iddyn nhw ddelio’n effeithiol gyda thrais a throseddau rhyw heb lawer o oruchwyliaeth” (LLU C3)

“O ran hyd gwasanaeth a phrofiad, mae rhai o’r swyddogion yn ifanc iawn, iawn yn y gwasanaeth a does dim llawer o brofiad gyda nhw. Maent yn dod i’r mathau hyn o dimau heb achrediad PIP, heb o raid fod wedi eu hyfforddi fel swyddogion SOIT[footnote 104] i ddechrau, ac y maen nhw fel tase nhw’n dal lan gyda hynny yn eitha cyflym ac yn cael eu taflu i’r pen dwfn wir heb gyfle i fod ychydig yn well, bod â mentor go-iawn, a gweld pethau yn eu cyfanrwydd cyn cael eu taflu i’r pen dwfn” (LLU D5)

Gwelwyd diffyg hyfforddiant arbenigol hefyd ar draws pob llu. Yn Llu A, er enghraifft, tra bod SOIT yn cael cwrs hyfforddi 4-wythnos, nid yw ditectifs sy’n ymchwilio i drais yn cael unrhyw hyfforddiant arbenigol am droseddau rhyw:

“Pan fyddwch yn landio fel ditectif sarjant yn [UNED ARBENIGOL] … cefais fy synnu nad oeddwn yn mynd i gael unrhyw hyfforddiant am ei fod mor wahanol. A cheisio addasu i hynny, rwy’n gwybod, i mi a llawer o ‘nghydweithwyr… roedd yn heriol iawn. Felly pam nad yw ditectifs yn ei gael [hyfforddiant] yn dipyn o ddirgelwch i mi” (Llu A9)

Yn Llu B nid oedd hyfforddiant arbenigol chwaith am droseddau rhyw:

“Mae rhai o’r swyddogion, yn enweidg mewn diogelu, wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o drawma – fel ‘rhedeg, brwydro neu rewi’ – ond yn sicr, nid pawb sy’n delio â RASSO wedi ei gael, ac y mae hynny’n fwlch i ni” (Llu B8)

“Byddai hyfforddiant wedi bod yn ddefnyddiol cyn i chi ymchwilio iRASSO, am eu bod nhw’n cymryd yn ganiataol eich bod chi’n gwybod pa help sydd yna i ddioddefwyr. Felly pethau fel beth ywSARCs[footnote 105] acISVAs[footnote 106] a beth allan nhw wneud. Neu wasanaethau cefnogiDA, all helpu gyda thai, a llochesi i fenywod” (Llu B10)

Yn Llu C ni dderbyniodd y swyddogion unrhyw hyfforddiant arbenigol am droseddau rhyw, gan ddweud nad oedd ganddynt amser i CPD oherwydd swm y gwaith, diffyg staff, a strwythur shifftiau.

“Lle mae’r hyfforddiant? Lle mae’r buddsoddiad yn nitectifs y dyfodol? Mae’r ansawdd yn dirywio am nad oes sgiliau yn cael eu dysgu” (Llu C7)

Yn Llu D, nid yw hyfforddiant arbenigol am droseddau rhyw wastad ar gael, neu mae mynediad ato wedi ei gyfyngu oherwydd gallu dysgu a datblygu a llwyth gwaith swyddogion unigol. Nid yw CPD yn cael ei roi chwaith – ond mae’n cael ei weld fel cyfrifoldeb personol – ac y mae’r dyddiau hyn yn cymryd lle cwrs hŷn y Rhaglen Ddatblygu Ymchwilwyr Arbenigol i Ymosodiadau Rhyw (SSAIDP). Soniodd swyddogion hefyd am lawer o ddysgu ‘yn y swydd’ a diffyg mentora ffurfiol.

“Mae’n debyg y bydd bylchau yn eich dysgu o hyd, a dyna lle gallai eich hyfforddiant arbenigol ddod i mewn … Arnoch chi mae’r cyfrifoldeb, wir, i ddod yn gyfarwydd â hynny - siarad gyda chydweithwyr mewn swyddi tebyg a gwneud eich diwydrwydd dyladwy eich hun, mewn gwirionedd” (Llu D6).

Mae ein canfyddiadau yn y maes hwn yn gyson â Philer Pedwar y dylid cyfeirio ato am fwy o fanylion ar y pwnc hwn. Yn y bôn, yr oedd diffyg gwybodaeth arbenigol a sgiliau ar draws yr holl luoedd, a hyd yn oed lle’r oedd hyfforddiant arbenigol ar gael, yn aml iawn, nid oedd amser i fanteisio arno na chynnig i anfon staff ar y cyrsiau hyn. Arweiniodd hyn oll at ymchwiliadau gwael. Nid oedd gan swyddogion yr arfau i ymdrin ag ymchwiliadau i droseddau rhyw. Gall ymchwiliadauRAOSO fod yn gymhleth, felly mae dysgu a datblygu mwy priodol sy’n cymryd ymagwedd o fod yn ymwybodol o drawma ac sy’n gwrthweithio agweddau gwael yn hanfodol. Heb y rhain, nid oes gan swyddogion mo’r paratoad i gynnal yr ymchwiliadau hyn, ac y mae hynny yn ei dro yn cael effaith ar lawer maes allweddol isod.

Dibyniaeth ar brofion ‘hygrededd y dioddefwr’ sy’n tanseilio ffurfio strategaethau ymchwilio priodol

Mae diffyg arbenigedd swyddogion yn fwyaf amlwg yn y ddibyniaeth ar faterion hygrededd y dioddefwr i benderfynu beth i’w wneud gydag ymchwiliad. Mae’r canfyddiad hwn yn cyd-fynd ag adroddiadau mwyaf diweddar HMICFRS[footnote 107] a llawer o adroddiadau ac ymchwiliadau eraill[footnote 108]. Soniodd swyddogion ar draws y lluoedd am ddefnyddio ‘hygrededd y dioddefwr’ i bennu a oedd achosion yn debygol o gael eu dwyn ymlaen. Ymysg y dioddefwyr y teimlwyd na fuasent yn debygol o gael eu credu yr oedd y rhai oedd yn gwneud honiadau lluosog/mynych, gweithwyr rhyw, y rhai â phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau, dioddefwyr meddw, dioddefwyr oedd yn rhoi hanesion ‘anghyson’ neu ‘anghyflawn’, a dioddefwyr a allasai fod wedi dweud celwydd yn y gorffennol (yn unrhyw faes o’u bywyd, bron). Roedd hyn yn arbennig o wir yn Llu A.

“Mae cyfran fawr o’n hachosion ni yn bobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl a hefyd y math o bobl sy’n gwneud honiadau dro ar ôl tro” (Llu A1)

”Yn aml, dyma un o’r cwestiynau cyntaf mae cyfreithwyr CPS yn ei ofyn pan fyddwch yn eu ffonio am gyngor ynghylch cyhuddo. Fe fyddan nhw’n gofyn am gymeriad y dioddefwr. Maen nhw am wybod a yw’r dioddefwr yn hysbys i’r heddlu am unrhyw beth fel, chi’n gwybod, lladrata, byrgleriaeth, troseddau o anonestrwydd, a all ddangos tuedd, chi’n gweld, i beidio â dweud y gwir, ac y mae hynny’n iawn. Ond mae’r peth mwy dadleuol yn codi pan maen nhw hefyd eisiau gwybod am honiadau blaenorol tebyg gan y dioddefwr. Ffaith debyg” (Llu A10)

“Dioddefwyr sy’n weithwyr rhyw … mae’n debyg y bydd hynny’n wastad yn cael effaith ar y ffordd rydych chi’n meddwl … chi’n gwybod, maen nhw yn y sefyllfaoedd hyn oherwydd y gwaith maen nhw’n wneud … rhaid i chi gadw mewn cof y gallan nhw wneud yr honiadau am nad oes arian wedi ei dalu” (Llu A3)

Yr oedd hygrededd dioddefwyr yn ymddangos yn arbennig o bwysig mewn achosion oedd yn troi o gwmpas cydsyniad.

“Pan fo dau o bobl yn adnabod ei gilydd – sef y rhan fwyaf o gwynion y byddwn ni’n eu derbyn – a’i bod yn dod yn fater o gydsynio, mae’n anodd iawn profi hyd at y lefel sydd ei angen. Felly byddwn yn edrych ar ba un ohonyn nhw sydd fwyaf geirwir, ac y mae’n anodd iawn profi ar ba un y gallwch chi ddibynnu fwy i ddweud y gwir” (Llu B7)

Fodd bynnag, mae’r syniad fod y rhan fwyaf o achosion yn dod i lawr i ‘fe ddywedodd ef/fe ddywedodd hi’ yn achos pryder arbennig wrth ystyried nifer y cyfleoedd a gollwyd ddaeth i’r amlwg yn yr adolygiadau achos i fwrw ymlaen â’r ymchwiliadau. Cafodd ‘hygrededd y dioddefwr’ yng nghyd-destun ymchwiliad ei ddefnyddio yn aml fel ffactor absoliwt i beidio â bwrw ymlaen ag ymchwiliad, yn hytrach nag asesu’n feirniadol a oedd yn berthnasol o gwbl i eirwiredd yr honiad a chynnal ymchwiliad llawn a phriodol i’r holl ffeithiau.

“Mae ymddygiad ac ymarweddiad yr achwynydd, meddwdod gan alcohol a phroblemau MH posib yn ei gwneud yn annhebygol i’r hyn a honnwyd ddigwydd, ac ni chymerwyd unrhyw gamau pellach gan yr heddlu. Adroddiad wedi ei gyflwyno i’w gau gan y IIO yr un diwrnod .” (Llu A - Achos 40, Adolygydd 1)

Adlewyrchwyd hyn yn yr adolygiadau achos, gydag 82% ohonynt yn dangos y collwyd cyfleoedd i fwrw ymlaen â’r ymchwiliad (gweler adran 3.3 am fwy am gyfleoedd a gollwyd). Yr oedd y farn hon am ffactorau ‘hygrededd y dioddefwr’ mewn gwirionedd yn aml yn faterion o natur fregus y dioddefwr, er ei bod yn amlwg o nifer y cyfleoedd a gollwyd fod y ffactorau hyn yn cael eu gweld fel ffordd o leihau faint o ymchwilio oedd ei angen, yn hytrach nag ystyried yn feirniadol sut y gallasai’r troseddwr fod wedi cymryd mantais o’r dioddefwr o ganlyniad i’r natur fregus hon. Mewn llawer achos lle’r oedd iechyd meddwl yn ffactor, er enghraifft, yr oedd swyddogion yn gyflym iawn i farnu adroddiad fel honiad ffug, gan weithredu weithiau yn erbyn y gweithdrefnau safonol a methu a chyflawni camau ymchwilio sylfaenol. Er enghraifft, mewn un achos, cafodd dioddefwr oedd mewn uned iechyd meddwl ei chyfweld gan swyddogion ym mhresenoldeb yr aelod staff yr honnodd oedd wedi ymosod arni. Amlygwyd y mater hwn gan y swyddogion adolygu eu hunain.

“Rwy’n teimlo fod trosolwg yr OIC, y DS a’r DI o’r drosedd hon yn rhagfarnllyd trwy grybwyll y ffaith fod gan y dioddefwr broblemau iechyd meddwl. Fe ofynnwyd am rai cofnodion meddygol/iechyd meddwl, ond does dim log yn cofnodi’r penderfyniadau ynghylch y rhain na beth oedd ynddynt.” (Llu B - Achos 17676, Adolygydd 1)

Er bod enghreifftiau lle nad yw swyddogion yn dibynnu ar ganfyddiadau anghywir o hygrededd dioddefwyr ac nad ydynt yn colli cyfleoedd i ymchwilio, yn y mwyaf llethol o achosion, parheir i ddibynnu ar ddealltwriaeth anghywir o ddioddefwyr a throseddwyr. Mae’r farn gyffredinol hon am beth yw mater ‘hygrededd dioddefwr’ yn golygu nad yw natur fregus dioddefwyr yn cael ei ystyried yn briodol, ac o’r herwydd, nid yw dioddefwyr yn cael eu diogelu’n ddigonol nac yn cael y gefnogaeth briodol (gweler Piler Tri am fwy o fanylion):

“Does dim byd wedi ei gofnodi ar log yr ymchwiliad na gofal y dioddefwr i ddangos fod unrhyw fath o gefnogaeth ystyrlon wedi ei gynnig i’r dioddefwr.” (Llu B - Achos 15837, Adolygydd 2)

Mae’n amlwg fod y materion hyn ynghylch hygrededd dioddefwyr yn dylanwadu ar benderfyniadau swyddogion am sut i fwrw ymlaen mewn ymchwiliad, hyd yn oed lle nad oedd yn briodol gwneud hynny. Ar ei waethaf, yr oedd swyddogion yn bendant yn beio’r dioddefwyr a heb fod yn eu credu, a gafodd effaith ar yr ymchwiliad yn sgil hynny. Er enghraifft, canolbwyntiwyd yn aml ar hygrededd dioddefwyr, a defnyddio hynny naill ai i gau neu i beidio ag ymchwilio i achosion mewn rhai lluoedd.

“Mae’r OIC[footnote 109] yn defnyddio deunydd trydydd parti a log blaenorol yr heddlu i danseilio’r hyn mae hi’n ddweud. Ymddengys yr hyn ddywed y dioddefwr yn glir a chryno, ac nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu nad yw’n dweud y gwir.” (Llu C - Achos 15, Adolygydd 1)

Amlygodd sawl adolygiad achos yn llu B enghreifftiau lle nad oedd yr ymchwilwyr yn credu’r dioddefwr ac yn defnyddio iaith oedd yn beio’r dioddefwr. Unwaith i swyddogion benderfynu nad oedd trosedd wedi digwydd, seiliedig ar hygrededd y dioddefwr, roeddent yn arddangos diffyg chwilfrydedd ymchwiliadol, gan golli llinellau ymchwilio posib. Yn Llu C, nid oedd penderfyniadau wastad yn cael eu gwneud er lles achos y dioddefwr, ond yn hytrach yn cael eu llywio gan brinder adnoddau.

“Fuaswn i ddim yn dweud fod hygrededd y dioddefwr yn cael ei gwestiynu, ond yr hyn sydd yn fy mhryderu yw bod y dioddefwr yn dweud wrth y OIV mewn VRI[footnote 110] ei bod yn creu iddi ddioddef ymosodiad rhywiol. Fodd bynnag, mae’r swyddog yn dod i’w farn ei hun nad ymosodiad rhywiol oedd hwn, a hyn yn cael effaith wedyn ar y modd y trinnir y sawl a amheuir.” (Llu B - Achos 14112, Adolygydd 2)

“gwnaed y penderfyniad nad mater troseddol oedd hwn yn gynnar iawn yn yr ymchwiliad. Roedd hyn yn amlwg yn yr ymgais i gael hyn wedi ei symud o’r gronfa ddata lwyfannu (a pheidio â chofnodi trosedd) 16 awr wedi adrodd amdano wrth yr heddlu.“ (Llu B - Achos 11297, Adolygydd 2)

“Cofnododd y DI ar log yr ymchwiliad y dylid cyflwyno’r swabiau, a ddwy awr yn ddiweddarach, mae’r OIC yn cofnodi eu bod wedi hysbysu’r dioddefwr nad yw’r DI wedi awdurdodi’r cyflwyno hwn.” (Llu C - Achos 35, Adolygydd 2)

“Cafodd y darn ffilm hwn a lluniau o anafiadau’r dioddefwr eu storio ar wefan evidence.com ond roeddent wedi eu marcio i’w dileu ar ôl 6 blynedd yn hytrach na 100 mlynedd.” (Llu C - Achos 35, Adolygydd 2)

O ganlyniad i gamddeall yn sylfaenol natur troseddu rhyw a’r canolbwyntio ar hygrededd y dioddefwr, nid oes fawr o le i newid. Mae’r problemau a amlygwyd yn y cyflwyniad yn dal yn bresennol i raddau helaeth mewn plismona heddiw. Mae mythau a stereoteipiau yn amddiffyn troseddwyr ac yn gwneud i ffwrdd â’r angen i swyddogion ystyried natur fregus dioddefwyr dan goch ystyried ‘hygrededd’. Fe wnaethom weld peth ymwybyddiaeth o’r broblem yn dod i’r wyneb gyda rhai swyddogion ac yr oedd hyn yn fwy amlwg mewn llai lluoedd nag eraill; yn gyffredinol, fodd bynnag, nid yw swyddogion hanner digon gwybodus i ddeall sut i drin y materion hyn.

“Rwy’n meddwl ei fod yn llwyr seiliedig ar y dioddefwyr a phrofi eu gonestrwydd nhw, os mynnwch chi. Dwyf i ddim yn meddwl ei fod yn iawn… mae mor anodd, serch hynny, oherwydd weithiau fe gewch chi achosion lle maen nhw wedi bod yn dweud celwydd, efallai nad celwydd yw’r gair, ond ‘dyn nhw ddim wedi bod yn dweud yr holl wir am beth ddigwyddodd. Ac y mae wedi dod mas mewn neges destun, er enghraifft, y daethpwyd o hyd iddo ar ffôn y dioddefwr, neu wedi dod trwy sgwrs gyda rhywun arall a bod rhywun arall wedi dweud” (Llu A11)

Rhaid i swyddogion dorri tir newydd, gwrthwynebu’r mythau a’r stereoteipiau am ddioddefwyr a dal y troseddwyr i safon uwch na’r boblogaeth yn gyffredinol, os am wella ymchwiliadau.

Agwedd rhy ddeddfol at ymchwiliadau heb fawr ddim adfyfyrio beirniadol a cholli llawer o gyfleoedd

Mae swyddogion yn gweithio i raddau helaeth mewn awyrgylch sy’n cael ei yrru gan y dydd heddiw, ac y mae hyn yn mynd yn groes i ymchwilio i RAOSO lle mae cymhlethdodau yn aml a lle gall achosion gymryd amser. Ochr yn ochr â dysgu, datblygu, profiad ac adnoddau annigonol gan swyddogion, nid yw’n syndod fod strategaeth ymchwiliadol ystyrlon yn aml ar goll, a phan fydd rhyw fath o strategaeth ymchwiliadol yn cael ei chyflwyno, mae’n canolbwyntio ar gyfres o gamau, heb ystyried ai’r rhain yw’r camau mwyaf priodol i’w cymryd.

Collwyd sawl cyfle a arweiniodd at wallau sylfaenol yn y broses ymchwilio. Yn llu B, er enghraifft, ar wahan i gyfweliad â’r un oedd dan amheuaeth (a gynhaliwyd yn 59% o’r achosion), yr oedd yr holl gerrig milltir ymchwiliadol eraill ar gael yn llai na hanner yr achosion, gyda rheoli risg troseddwyr yn bodoli mewn 11% yn unig o achosion. Yn lluoedd B ac C ni roddwyd ystyriaeth i’r risg o bobl yn dod dan amheuaethyn fynych, na sut y gall gwaith fforensig helpu i adnabod y sawl a amheuir a chysylltu achosion. Yn yr achosion hyn, nid oedd samplau fforensig weithiau wedi eu cymryd lle gallasent fod wedi cael eu casglu, a phan gawsant eu casglu, yn aml, ni fyddai’r samplau yn cael eu cyflwyno i’w profi o gwbl.

“Ni chymerwyd unrhyw samplau personol agos na rhai heb fod felly gan y sawl a amheuir. Ystyriwyd y naill sampl a’r llall ond y rheswm dros beidio â’u cymryd oedd fod y sawl a amheuwyd angen cyfieithydd. Ni fuasai hyn mewn gwirionedd wedi atal yr heddlu rhag defnyddio pwerau dan A63 PACEi gymryd samplau heb fod yn rhai personol agos, a sut bynnag, fe ddaeth cyfieithydd i’r orsaf yn nes ymlaen. Mewn cyfweliad, gwadodd y sawl oedd dan amheuaeth unrhyw gyswllt rhywiol.” (Llu C - Achos 35, Adolygydd 2)

“Yr achwynydd yn cydsynio i EEK a samplau fforensig…Gallasai fod weid helpu fel rhan o’r ymchwilio i gynnwys yn y rhesymeg pam na chafodd samplau fforensig eu hanfon – yr unig dro mae’r samplau hyn yn cael eu crybwyll yw fel rhan o Adolygiad Trais y DI.” (Llu B - Achos 10595, Adolygydd 2)

Gwnaed gwiriadau cefndir (Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu [PND] / Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu [PNC]) ar bobl a enwyd fel rhai dan amheuaeth mewn llai na 50% o adolygiadau achos ar draws y rhan fwyaf o luoedd. O ganlyniad, yr oedd diffyg rheoli risg priodol ynghylch y sawl oed dan amheuaeth. Er enghraifft, cynhaliwyd gwiriadau cefndir ar bob a newydd fel rhai dan amheuaeth mewn 38.88% yn unig o achosion yn llu D, mewn 50.00% i lu B, ac mewn 75.86% i lu C.

“Dim llawer o dystiolaeth o ystyried y sawl a amheuir ar y log ymchwilio. Ni chofnodir unrhyw gamau PND/PNC. O’r herwydd, nid yw’n glir pa waith rheoli risg a wnaed.” (Llu B - Achos 15147, Adolygydd 2)

Mae hyn yn cysylltu hefyd â chanfyddiadau ym Mhiler Dau ynghylch adnabod, rheoli a tharfu yn briodol ar y sawl sy’n dod dan amheuaethyn fynych.

Ychydig iawn o ddeunydd digidol a gasglwyd ar draws pob llu, gyda deunydd digidol wedi ei gymryd oddi wrth ddioddefwyr mewn 32/168 achos a chan y sawl a amheuir mewn 46/168 achos. Roedd deunydd digidol a allasai fod wedi cadarnhau yr hyn ddywedodd y dioddefwr neu’r sawl oedd dan amheuaeth yn aml yn cael ei gasglu wedi cyfnod o oedi neu ddim o gwbl. Pan oedd deunydd digidol yn cael ei gasglu canoli ar y dioddefwr yr oedd yn aml, gan anwybyddu tystiolaeth a allasai fod gan y sawl a amheuir.

“Archwiliwyd ffôn y dioddefwr, ond dyw hi ddim yn ymddangos bod ffôn y sawl a amheuir wedi’i archwilio. Mae’r strategaeth ddigidol yn unochrog iawn o ran y dioddefwr ac nid i’r ddau.” (Llu B - Achos 13224, Adolygydd 2)

“Adolygiad y DS yn tynnu sylw dioddefwr at y ffaith y bydd angen llawrlwytho ffôn y dioddefwr oherwydd bod y dioddefwr a’r sawl a amheuir wedi cyfathrebu, ond does dim crybwyll rheidrwydd i gipio ffôn y sawl a amheuir, a’r penderfyniad a gymerwyd yw bod cyfweliad gwirfoddol yn briodol. Ail oruchwyliwr … yn amlygu’r angen i gipio ffôn y sawl a amheuir, ond er hynny, nid yw ffôn y sawl a amheuir yn cael ei gipio… cyngor y CPS am gyhuddo yn dweud y bydd tystiolaeth ffôn yn hanfodol, a’r CPS yn cyfeirio’r achos yn ôl at yr heddlu gyda chynllun gweithredu i ail-gyfweld y sawl a amheuir am wahanol faterion gan gynnwys y negeseuon ffôn.” (Llu B - Achos 6, Adolygydd 2)

Crybwyllodd rhai adolygiadau achos yn llu D adegau pan na chasglodd swyddogion ddeunyddiau digidol perthnasol neu lle nad oedd ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i ddadansoddi’r hyn a lawrlwythwyd o ffonau neu ddeunydd digidol. (Ymchwilwyr cyfryngau digidol). Gweler Pileri Pump a Chwech am fwy o fanylion.

“Gall gofyn am y CCTV[footnote 111] 21 i mewn i’r ymchwiliad fod yn risg a gallasai fod wedi bod yn dystiolaeth o bwys yn yr achos hwn, ac wedi ei golli oherwydd yr amser a aeth heibio cyn recordio peth o’r meddalweddCCTV. Efallai y gallesid bod wedi gofyn i Swyddog arall gael hyn yn nyddiau cyntaf yr ymchwiliad, neu ofyn am gymorth tîm adfer CCTVa all lawrlwytho CCTVpan nad oes staff profiadol ar y safle i wneud hynny.” (Llu D - Achos 46, Adolygydd 2)

I grynhoi, awgryma’r data fod camau ymchwiliadol naill ai a) ddim yn cael eu cymryd pan oedd hynny’n briodol, b) yn cael eu cymryd ond yn rhy hwyr, neu c) yn cael eu cymryd ond nid yn ystyrlon, e.e., casglu tystiolaeth fforensig ac yna peidio â rhoi prawf arno. Nid yw’n syndod efallai, pan oedd uwch swyddogion yn cynnal yr ail adolygiadau o’r achosion hyn, eu bod yn aml wedi sylwi ar y cyfleoedd hyn a gollwyd a gweld y gwallau sylfaenol mewn ymchwiliadau.

Roedd yr anallu i reoli neu gau achosion yn briodol yn gysylltiedig â diffyg galluedd ac arbenigedd

Ar draws yr holl luoedd, gwelsom beth tystiolaeth o gychwyn cryf a thuedd i ddrifftio ymlaen am hir mewn ymchwiliadau. O’r adolygiadau achos, hyd cyfartalog ymchwiliad ar draws yr holl luoedd oedd 4 mis, gyda’r achos hwyaf yn parhau 2 flynedd a 7 mis (mae problemau gyda diffinio hyd ymchwiliadau, gweler Piler Pump). Yr oedd camau ymchwiliadol cyntaf yn aml wedi eu cwblhau o fewn wythnos gyntaf yr ymchwiliad, a’u gadael i ddrifftio wedyn oherwydd oedi. Er enghraifft, yn Llu A, yr oedd gweithredoedd tymor-hir (camau ymchwiliadol o’r wythnos gyntaf tan ddiwedd yr ymchwiliad) yn bresennol mewn 40% yn unig o’r achosion a adolygwyd, gyda 20% heb fod yn cynnwys camau ymchwiliadol yn syth nac yn y tymor hir. Yn Llu B, bu llawer o oedi trwy bob cam o’r broses ymchwilio a arweiniodd yn y pen draw at i’r dioddefwr dynnu’n ôl mewn rhai achosion (gweler Piler Tri am fwy ynghylch yr effeithiau ar ddioddefwyr).

“Mae’n eithaf amlwg nad oedd teimlad bod trosedd wedi digwydd yma, ac ymddengys i’r ymchwiliad oedi am sawl wythnos tra bod penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a ddylid canslo’r drosedd ai peidio. Bu oedi cyn cyflwyno’r samplau fforensig (gwnaed hyn yn unig ar ôl yr adolygiad gan y DI). Erbyn i ganlyniadau’r gwaith fforensig hwn ddod yn ôl, yr oedd y dioddefwr yng nghanol episod iechyd meddwl ac yn methu a rhoi’r sampl DNA oedd ei angen at ddibenion dileu.” (Llu B - Achos 11297, Adolygydd 2)

Cafwyd enghreifftiau ar draws pob llu o achosion yn cael eu rheoli’n amhriodol neu fethiant i gau achosion. Er enghraifft, yn Llu A dywedodd swyddogion nad oedd rhai achosion yn cael eu cau yn ddigon buan; yn hytrach, roeddent yn cael eu gwthio i’r cefn, a neb yn cymryd y cyfrifoldeb am ddod i benderfyniad (cafwyd hyn hefyd ym Mhiler Pump). Mae hyn yn arwain at wasanaeth gwael i ddioddefwyr, a gallai gyfrannu at y cyfraddau uchel o dynnu’n ôl gan ddioddefwyr (gweler Piler Tri):

“Beth sy’n digwydd ar hyn o bryd yw bod achosion yn cael eu gadael ar agor am flynyddoedd a neb yn cael ei gyhuddo am na fydd neb yn cymryd y cyfrifoldeb am eu cau. Ac y mae hynny ynddo’i hun yn ddigon drwg, ond dyw e ddim yn wasanaeth da i’r dioddefwr hwnnw chwaith. ‘Ryn ni fel petaen ni’n cymryd arnom ein bod yn ymchwilio iddo, ac yna ddwy flynedd yn ddiweddarach yn dweud ei fod wedi cau, sydd ddim yn wych. Ond mae’n ein stopio ni hefyd rhag ymchwilio i stwff arall a allai mewn gwirionedd fynd i rywle (Llu A8).

“Rwy’n credu’n gryf, os nad yw’r achos yn mynd i’r llys am ba bynnag reswm, yna y dylen ni ei gau cyn gynted ag sydd modd, er lles y dioddefwr” (Llu A9)

“Mae gyda ni achosion sydd yn ddwy a thair blynedd oed a heb fod yn agos at erlyn na datrys. Mae’n debyg oherwydd natur y drosedd, fod goruchwylwyr yn ei chael hi’n anodd gwneud penderfyniadau caled … Felly rydyn ni’n cadw dioddefwr yn dal ymlaen ac ymlaen ar adegau” (Llu C1)

Rydym yn cydnabod, fel y gwnaeth y swyddogion yn y cyfweliadau a’r adolygiadau achos, fod diffyg galluedd i ymdrin â swm y galw hefyd yn achosi amseru gwael mewn ymchwiliadau, e.e. methu cael digon o amser i gasglu data sy’n sensitif o ran amser. Mae hyn hefyd yn arwain at alwadau methiant (gweler Piler Pedwar), h.y., creu mwy o waith am nad oedd gan y swyddogion amser i’w wneud pan ddylasent fod wedi ei wneud, a gorfod rhedeg i ddal i fyny yn gyson.

Cysylltu a chyfathrebu gwael gyda CPS

Mae adroddiadau diweddar HMICFRS[footnote 112] yn disgrifio’r berthynas rhwng yr heddlu a CPS fel un sydd angen gwelliant sylfaenol. Yn ein harchwiliad dwfn ar draws pob llu, nodwyd cyswllt a chyfathrebu gwael gydaCPS. Dywedodd swyddogion nad oeddent yn gallu cyfathrebu’n uniongyrchol â CPS– e.e. dros y ffôn neu mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb – a gorfod dibynnu yn hytrach ar systemau electronig.

“Fel arfer, dim ond cysylltiad electronig yw e. Rydych chi’n ei anfon yn electronig a CPS wedyn yn ei anfon yn ôl yn electronig, gyda chynllun gweithredu o bethe maen nhw’n adolygu yn yr achos, a fe ddywedan nhw: ‘X, Y, Z, rwyf i angen hyn, hyn, hyn a hyn” (Llu C9).

Yr oedd hyn fel petai’n arbennig o wir yn Llu D, lle’r arferid dangos manylion yr erlynwyr - e-byst a rhifau ffôn - ar waelod pob gohebiaeth. Fodd bynnag, wedi symud i system newydd, golygodd problemau gyda chyfyngu ar nifer y geiriau fod y rhain wedi eu symud ymaith, oedd yn gadael swyddogion heb unrhyw ffordd o gyfathrebu’n uniongyrchol âCPS.

“Yn wreiddiol, roedden ni’n arfer cael trafodaeth dros y ffôn gyda GEG ac yna fe ddaeth system (ENW’R SYSTEM) a nawr rydyn ni’n cyfathrebu gyda CPS trwy femos yn electronig” (Llu D2).

Roedd hyn yn broblem arbennig i swyddogion o rengoedd is; yn anaml iawn y byddai ganddynt hwy fanylion cyswllt uniongyrchol yr erlynydd.

“Byddai’n dda o beth gallu codi’r ffôn a chael trafodaeth … Mae’n haws yn y rhengoedd uwch, ond ddim mor hawdd i’r swyddogion” (Llu B5).

Adroddodd swyddogion ar draws y lluoedd am y diffyg cyswllt dynol uniongyrchol hwn a’r ddibyniaeth ar systemau fel rhywbeth oedd yn arwain at rwystredigaeth, camddealltwriaeth a phethau yn ‘mynd ar goll yn y trosi’:

“Rhagfur memos electronig yw hyn … dydyn ni ddim yn cael y trafodaethau wyneb yn wyneb na thros y ffôn, mae’r cyfan yn ysgrifenedig lle mae modd colli neu gamddeall pethau” (Llu D2).

Yr oedd CPS wedi ymwneud ag ychydig dros chwarter o’r achosion a adolygwyd (45 allan o 168). Digwyddodd hyn ar gyfartaledd 76.87 diwrnod (amred: 0 – 467) wedi dechrau’r ymchwiliad, sy’n awgrymu mai anaml y gofynnwyd am gyngor yn gynnar. Mewn achosion lle’r oedd y CPS yn rhan o’r peth, digwyddodd cryn oedi oherwydd camgymeriadau ar ran yr heddlu, diffyg cydymffurfio a galluedd, a pheidio â dilyn llinellau ymholi cyn cael cyngor. Amlygwyd hefyd bwyslais pwyntiau gweithredu ar hygrededd y dioddefwr yn hytrach na’r un oedd dan amheuaeth mewn achosion a gyflwynwyd iCPS.

“Bu oedi o ryw 8 mis gyda’r cyngor ar gyhuddo wrth i’r CPS osod cynlluniau gweithredu i’r heddlu nad oedd wedi eu cwblhau’n llawn cyn i’r heddlu anfon yr achos yn ôl atCPS.” (Llu C - Achos 5, Adolygydd 2)

“Dim cyngor cynnar wedi ei geisio, bu cryn oedi cyn anfon yr achos am benderfyniad ynghylch cyhuddo, a gallasai’r EIA fod wedi cyfarwyddo’r ymholiadau fforensig mewn ymdrech i symleiddio’r ymholiadau hyn er mwyn cael penderfyniad cyhuddo yn gynt.” (Llu D - Achos 64, Adolygydd 1)

Un o’r canfyddiadau cryfaf a welwyd dro ar ôl tro ar draws pob llu, oedd yr atgofion melys am erlynwyr yn cael eu lleoli mewn gorsafoedd heddlu (gweler hefyd Piler Pump). Y teimlad oedd fod yr un pwynt cyswllt hwn wyneb yn wyneb yn ei gwneud yn haws i swyddogion ac erlynwyr adeiladu perthynas a chyfathrebu/cysylltu yn effeithiol; meithrin perthynas waith broffesiynol dda; a chael cyngor amserol - yn hytrach na chwarae ‘tenis memos’.

“Rwy’n mynd yn ôl i’r hen ddyddiau nawr: roedden ni’n arfer cael cyfreithiwr CPS yng ngorsaf yr heddlu … roeddech chi’n arfer mynd lan a chael sgyrsiau gyda hwy, yn rhwydd … Gallai pethe gael eu sortio allan mewn sgwrs dwy funud, wyneb yn wyneb yn y cyntedd, neu sesiwn holi ac ateb dros baned o goffi yn anffurfiol adeg amser cinio rhywun” (Llu A10).

“Rwy’n cofio yn yr hen ddyddiau roedden ni’n arfer bod â chyfreithiwr CPS yng ngorsaf yr heddlu. Gallech gymryd unrhyw adroddiad am drosedd a dweud: A yw’n werth ei wneud neu beidio? Fuasech chi’n cymryd yr achos hwn petawn i’n gwneud X, Y ac Z ac mai’r canlyniad oedd X, Y a Z? Wel, na, fuasen ni ddim. Buasem yn gwneud” (Llu C6).

Dywedodd swyddogion yr hoffent weld erlynwyr nid o raid wedi eu lleoli mewn gorsafoedd, ond wedi eu cyd-leoli gyda’r heddlu yn yr un adeilad, er mwyn cyrraedd yr un nod o well cyfathrebu a deilliannau.

“Rwyf wedi bod yn dweud ers amser maith y dylen ni fod gyda’r erlynwyr yn yr un adeilad er mwyn i ni allu cael sgyrsiau … tra byddwch chi’n coginio eich cinio a’ch mêt chi wrth y meicrodon. Petaen ni’n cael y cyswllt dynol yna a gwell perthynas waith broffesiynol, rwy’n meddwl y byddai’r cyfraddau cyhuddo yn cynyddu” (Llu C1).

Mae’r gred y byddai gwell cyfathrebu a pherthynas rhwng yr heddlu a CPS yn arwain at gynnydd yn nifer y cyhuddiadau wedi ei gefnogi gan dystiolaeth gan Lu C, a gynhaliodd gynllun peilot yn ddiweddar o glinigau cyngor cynnar wyneb yn wyneb. O’n naw achos a adolygwyd dros gyfnod o bum wythnos – a fuasai fel arall wedi cael eu cau fel deilliant 15 (oherwydd anawsterau tystiolaethol) neu ddeilliant 14/16 (am nad oedd y dioddefwr yn cefnogi camau gan yr heddlu) – tybiwyd y bydd y rhan fwyaf yn arwain at gyhuddo.

Goruchwylio gwael

Mae’r holl ffactorau a amlinellwyd hyd yma wedi eu hadlewyrchu yn yr oruchwyliaeth wael yr adroddodd y goruchwylwyr eu hunain a swyddogion eraill amdano ar draws yr holl luoedd. Yr oedd hyn yn ymddangos fel problem arbennig yn Llu C, gyda swyddogion yn sôn am oruchwylwyr dibrofiad, a rhai ohonynt heb erioed fod yn ymchwilwyr. Ymysg problemau eraill yr oedd goruchwylwyr yn symud ymlaen yn fuan, rhengoedd uwch yn gorfod gwneud gwaith goruchwylio, a goruchwylwyr heb wneud penderfyniadau hollbwysig, a hyn oll yn cael effaith ar ansawdd yr ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal.

“Rwy’n meddwl i mi gael tua 12-13 o oruchwylwyr mewn cyfnod o ddwy flynedd a hanner, sy’n chwerthinllyd. A’r goruchwylwyr hynny, dyw llawer ohonyn nhw erioed wedi bod yn dditectifs wedi’u hachredu nac yn dod o gefndir lle buon nhw’n gwneud unrhyw fath o ymchwiliadau” (Llu C11).

“Rwy’n meddwl bod gyda ni broblem gyda goruchwylio eto oherwydd maint y baich gwaith. Ar bapur, mae gan ein tîm canolog ni 34 o staff ac mae’n cario 600 a mwy o droseddau. Nawr mae’n amhosib, yn enwedig pan nad oes gyda’r cyflenwad llawn o sarjants, i bobl oruchwylio’r rheiny yn effeithiol” (Llu C3)

Soniodd rhai goruchwylwyr hefyd nad oeddent wedi eu hyfforddi’n iawn a’u bod wedi eu llethu gan eu llwythi achos (gweler hefyd Piler Pump), gyda rhai yn cario mwy na 100 o achosion. Dywedodd un goruchwyliwr yn Llu D, er enghraifft:

“Wnes i checio’r sgoriau bore yma, a mae gen i dros 100 o achosion. Does dim sens yn y peth, a bod yn onest. Sut mae disgwyl i mi reoli a goruchwylio cymaint â hynna? Pan mae’n cyrraedd unrhyw faint dros 70, rydych chi wir yn brwydro i gadw lan gyda beth yw beth … Pobl yn fy swyddfa’n dod ata’i ac yn dweud: ‘Dyma beth sy’n digwydd, dyma’r diweddara, rwy newydd fod yn siarad ar y ffôn gyda X, Y, Z.’ A finne’n edrych arnyn nhw’n syn, achos does gen i ddim syniad am beth maen nhw’n sôn. A dwyf i’n bersonol ddim yn hoffi hynny fel goruchwyliwr. Mae’n fy mwrw i am fy mod i’n hoffi cadw ‘mys ar y pỳls, rwyf am wneud job dda, ond rwy’n teimlo fy mod i’n mynd ar goll dan y domen o waith… rwy’n teimlo dan straen ac yn colli lot o gwsg … Rydyn ni’n gorfod dewis a dethol achosion ar sail llinellau amser, cyfyngiadau gyda chlociau mechnïaeth, pobl yn y ddalfa, clociauPACE. Mae llawer o bethau’n gorfod aros, er na ddylen nhw” (Llu D8)

Roedd cyswllt hefyd rhwng oedi gydag ymchwiliadau ag ansawdd wael ac anghysondeb adolygiadau gan uwch-swyddogion. Yr oedd adolygu afreolaidd ar achosion gan oruchwylwyr yn gadael i ymchwiliadau ddrifftio. Mewn llawer o achosion o Lu A, roedd ymchwiliadau wedi parhau am fwy na blwyddyn, ac eto, nifer fechan o adolygiadau a gafwyd gan oruchwylwyr, gyda rhai o’r adolygiadau cyntaf yn digwydd fisoedd wedi’r adroddiad cychwynnol.

“Ymchwiliad yn rhedeg am, ryw 3 blynedd a does dim ôl troed gan DCI.” (Llu A - Achos 11, Adolygydd 2)

Lle cynhaliwyd y broses o adolygu gan oruchwyliwr yn fwy rheolaidd, roedd hyn yn aml yn cael ei wneud er mwyn bodloni mesuriadau perfformiad. Mewn achosion o’r fath, yr oedd y cyfraniad gan y goruchwyliwr yn fwy rheolaidd, ond nid oedd yn cynnwys dim ond y mymryn lleiaf o wybodaeth heb i unrhyw gynllun gweithredu gael ei osod. Yn yr achosion hyn, methodd yr uwch-swyddogion ag adolygu’r holl wybodaeth oedd wrth law, gan adael i’r ditectifs arwain eu hymchwiliadau eu hunain heb fawr ddim cyfarwyddyd. Mae hyn eto yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd yr ymchwiliadau ac yn dwyn canlyniadau i les y staff (gweler Piler Pedwar).

Materion strwythurol yn achosi tensiwn rhwng staff

Weithiau, gwelwyd tensiynau mewn timau, gyda swyddogion mewn gwahanol rolau heb yn wastad weithio gyda’i gilydd cystal ag y gallent; ambell waith, mae’n ymddangos mai’r rheswm am hyn oedd gwahanol lefelau o brofiad rhwng swyddogion. Er enghraifft, yn Llu A, nid oedd yr ymatebwyr cyntaf, SOITs, a ditectifs o wahanol rengoedd/profiad yn wastad yn gweithio’n gydlynus, a gallai hyn ar ei waethaf arwain at wneud camgymeriadau a allai beryglu’r ymchwiliad, fel yn yr enghreifftiau isod.

“Y swyddogion mewn lifrai sy’n cyrraedd y fan gyntaf, dydyn nhw ddim yn derbyn unrhyw hyfforddiant arbenigol chwaith. Ac wrth gwrs mae hyn yn creu ei heriau ei hun o ran y gefnogaeth angenrheidiol y bydd dioddefwyr yn dderbyn pan fyddant yn cyrraedd, neu hyd yn oed gael tystiolaeth anghywir … Ro’i enghraifft i chi. Yn ddiweddar, roedd yna adeg pan aeth swyddog, swyddog mewn lifrai, i alwad ac fe roddodd swab i’r dioddefwr iddi hi ei hun gymryd swab o’i fagina” (Llu A5)

“Y dydd o’r blaen, roeddwn i’n cyfweld rhywun sydd ddim hyd yn oed wedi gwneud y cwrs cyfweld sylfaenol na’r cwrs i dditectifs, dyw e ddim hyd yn oed wedi pasio’r arholiad, a rydych chi i fod i wneud hynna. Rydych chi i fod i’w basio cyn cael eich ystyried i fod yn dditectif dan hyfforddiant. Felly rhyw fath o dditectif cyn ei hyfforddi oedd e, ac yn arwain y cyfweliad gyda rhywun dan amheuaeth mewn ymchwiliad i drais, sydd yn ofnadwy” (Llu A8)

“Rhaid i chi gofio mai rhyw ddwy neu dair blynedd o brofiad plismona sydd gan rai o’r swyddogion sydd yn awr yn ymchwilio i’r achosion hyn, a, heb fod yn anghwrtais, pobl ifanc ydyn nhw, ifanc o ran profiad bywyd eu hunain. Ac mae’n debyg nad ydyn nhw hyd yn oed wedi dod i gysylltiad â grŵp cymdeithasol-economaidd y dioddefwr maen nhw nawr yn gefnogi. A mae eu dealltwriaeth nhw’n isel iawn, wir” (Llu A10)

Mae newid yn bosib

Mae’r canfyddiadau yn Adrannau 3.1 i 3.8 wedi nodi’n glir nifer o broblemau mewn ymchwiliadau. Yn groes i hyn, siaradodd swyddogion yn Llu C am y ffordd nad ydynt yn wastad wedi cael pethau’n iawn yn y gorffennol, ond fod newid sylfaenol yn y ffordd o feddwl am drais a throseddau rhyw yn bosib ac eisoes wedi dechrau.

“Rwy’n meddwl ein bod ni’n fwy ymwybodol o lawer o rai o’r mythau a’r problemau oedd gyda ni yn y gorffennol … Mae’n symudiad diwylliant i ddweud, ‘Rydyn ni yma i’ch helpu chi, rydyn ni eisiau ymchwilio.’ Yn wahanol i – fel yr oedd hi – fe fyddai pobl wedi gwneud eu meddwl i fyny cyn iddyn nhw gyrraedd y drosedd: efallai mai’r cariad sydd wedi ffeindio mas, felly dyna’r unig reswm maen nhw’n sôn am y peth nawr, neu maen nhw wedi meddwi. Fel rwy’n dweud, rwy’n meddwl yn sicr fod pethau’n symud yn y cyfeiriad iawn gyda’r timau arbenigol a cheisio creu’r ddealltwriaeth well yna” (Llu C6)

Daw tystiolaeth bellach o hyn i’r amlwg yn Llu E lle maent eisoes wedi gwneud addasiadau sylweddol i’w hagwedd at ymchwiliadau RAOSO mewn ardaloedd peilot, gan gynnwys gweithio fel tîm a rhoi blaenoriaeth i wybodaeth arbenigol. Dengys ein hadolygiadau achos dilynol (wedi’r treiddio dwfn) yn Llu E (a gynhaliwyd flwyddyn wedi iddynt ddechrau cyflwyno newidiadau) beth tystiolaeth fod strategaethau ymchwilio yn dod i ganolbwyntio fwy ar y sawl a amheuir. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, roedd oedi o hyd cyn cwblhau camau ynghylch yr un oedd dan amheuaeth, gyda chamau yn ymwneud â’r dioddefwr yn cael eu cwblhau yn gyntaf. Mewn tri achos, roedd tystiolaeth o well canolbwyntio ar y sawl dan amheuaeth, o ran cymryd ymagwedd ragweithiol tuag at arestio’r sawl a amheuir. Arestiwyd yr un a amheuwyd yn syth wedi’r adroddiad, gyda strategaeth am yr un a amheuwyd wedi ei gosod o’r dechrau, gan gynnwys ystyried amodau mechnïaeth i atal cysylltiad rhwng y sawl a amheuwyd a’r dioddefwr. Yr oedd hyn yn unol â chanfyddiadau o’n cyfweliadau dilynol, lle mynegodd y rhan fwyaf o gyfranogwyr y newid hwn mewn agwedd ac mewn strategaeth ymchwiliadol. Weithiau, yr oedd diffyg canolbwyntio cynnar ar y sawl a amheuir mewn achosion, neu fethiant i gyflenwi strategaeth gychwynnol am y sawl a amheuir, wedi digwydd oherwydd oedi cyn neilltuo OIC/Swyddog Tarfu oherwydd problemau staffio (yn enwedig ar ddechrau’r peilot) neu fod yr OIC/ Swyddog Tarfu yn brysurach gydag achosion eraill oherwydd llwyth gwaith uchel. Yr oedd achosion mwy diweddar, nad oedd hyn yn effeithio arnynt, yn canolbwyntio lawer mwy ar y sawl a amheuir, ac yr oedd camau ynghylch y sawl a amheuir wedi eu cwblhau mewn dull mwy amserol.

Weithiau, yr oedd camau ymchwiliadol/logiau cofnodi troseddau yn amrywio o ran canolbwyntio ar y sawl a amheuir seiliedig ar swyddogion unigol, sy’n dangos pwysigrwydd cael nifer o swyddogion yn gweithio ar bob ymchwiliad. Er enghraifft, yr oedd trais domestig, y dioddefwr ddim yn cefnogi achos yr erlyniad oedd yn gyffredinol heb ganolbwyntio ar y sawl a amheuir; fodd bynnag, yr oedd un swyddog a’r goruchwyliwr yn canolbwyntio fwy ar y rhai dan amheuaeth ac yn ystyried a oedd angen cynnal gwiriadau system cofnodi troseddau, PNC, a PND ar y sawl a amheuwyd, yn ogystal â’r angen i sefydlu a oedd y dioddefwr yn ymwybodol o unrhyw risgiau diogelwch eraill yng nghyswllt y rhai oedd dan amheuaeth (e.e. risg i eraill). Y goruchwyliwr hwn oedd y swyddog Bluestone cyntaf i weithio ar yr achos hwn, yn ôl logiau’r system cofnodi troseddau.

Yn wahanol i rai o’r adolygiadau achos cyntaf a gynhaliwyd gan ymchwilwyr, mae’n ymddangos bod yr achosion mwy newydd a diweddar a adolygwyd (4) yn canolbwyntio mwy ar gryfderau’r ymchwiliad. Edrychwyd i mewn i wahanol linellau ymholi a’r dystiolaeth oedd ar gael er mwyn adeiladu’r achos. Cafodd hyn ei raddio yn ‘dda’ i dri o’r achosion hyn ac ‘angen peth gwelliant’ i un - lle codwyd hygrededd y dioddefwr, er nas defnyddiwyd i roi’r gorau i’r achos, a thaniwyd llinellau ymchwilio pellach. Yn ogystal â chanolbwyntio ar gryfderau, dangosodd un achos dystiolaeth o newid yn yr iaith a oedd yn cael ei defnyddio, lle cofnododd swyddogion ymwybyddiaeth o ‘heriau i’w goresgyn’ yn hytrach na ‘gwendidau’. Yr oedd peth o’r iaith hon yn amlwg mewn achosion cynharach yn yr archwiliad dwfn, ond nid yn gyson, ac yr oedd yn amrywio yn dibynnu ar y swyddog. Dangosodd logiau nad oedd ymwybyddiaeth o rai mythau a stereoteipiau am drais (e.e. ymwybyddiaeth fod unigolion yn adweithio i drawma mewn ffyrdd gwahanol a’r adroddiad fod y dioddefwr ‘yn ymddangos yn iawn’ yn dilyn y digwyddiad) yn dangos a ddigwyddodd y peth ai peidio, ac ni ddefnyddiwyd tystiolaeth wrthgyferbyniol i gwestiynu hygrededd y dioddefwr.

Crynodeb a chasgliad

Gwyddom fod pobl yn gwneud penderfyniadau i gyflawni troseddau RAOSO a dod yn droseddwyr rhyw. Rhaid i ymddygiad y sawl a amheuir tuag at y dioddefwr, y dewisiadau maent yn eu gwneud, a’r ffordd maent yn ateb am y dewisiadau hyn, fod yn ganolbwynt ymchwiliad. Mae ystyried ymddygiad y sawl a amheuir yn caniatau blaenoriaethu yn briodol y strategaeth ymchwiliadol, rhoi gwell cefnogaeth i’r dioddefwr, a gall helpu i hwyluso adeiladu achosion cryfach.

Ar hyn o bryd, nid yw ymchwiliadau RAOSO yn canolbwyntio ar y sawl a amheuir, ac y mae angen newidiadau sylweddol i alluogi i hyn ddigwydd. Yn rhannol, mae hyn yn ganlyniad i ddiffyg gwybodaeth arbenigol am drais rhywiol a throseddu rhyw. Nid yw llawer o swyddogaethau ymchwiliadol sylfaenol yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd, gyda swyddogion yn dibynnu ar brofion ‘hygrededd dioddefwyr’ sy’n tanseilio ffurfio strategaethau a gweithredoedd priodol i ymchwilio i’r sawl a amheuir. Mae’r agwedd at ymchwiliadau RAOSO yn drefniadol hyd at y pwynt o nodi bocsys heb ddim neu fawr ddim adfyfyrio na meddwl beirniadol, a hyn oll yn cael ei wneud yn waeth gan swyddogion dibrofiad a diffyg goruchwylio a chyfarwyddyd. Gadewir llawer o achosion i ddrifftio trwy gyfuniad o ddiffyg galluedd, diffyg gwybodaeth a sgiliau arbenigol, anallu i reoli neu gau achosion yn briodol, cyswllt a chyfathrebu gwael gydaCPS, a phroblemau strwythurol sy’n achosi tensiynau rhwng staff.

Yr ydym o blaid datblygu rôl arbenigol o ymchwilio i droseddau rhyw, gyda gwybodaeth arbenigol, sgiliau a gallu i drin yr holl swyddogaethau mewn ymchwiliad a pheidio â chael ei neilltuo i rai agweddau, megis gofal am ddioddefwyr. Un o ganfyddiadau arwyddocaol Piler Un yw pwysigrwydd cydnabod y wybodaeth arbenigol a’r sgiliau sydd eu hangen i ymchwilio i RAOSO os yw newid cadarnhaol am ddigwydd. Mae hyn hefyd yn gofyn am gydnabod yr isod:

  • Yr arbenigeddau niche yn yr ymchwiliadau hyn, e.e. cyfweld ymchwiliadol;

  • Lle gall arbenigeddau orgyffwrdd, e.e. yr ymagwedd o ymwybyddiaeth o drawma sydd ei hangen i ymdrin â dioddefwyr llawer o wahanol droseddau rhyngbersonol gwahanol megis camfanteisio ar blant a chamdriniaeth ddomestig.

Mae’r canfyddiadau o’r archwiliad dwfn a’r sylfaen tystiolaeth bresennol a ddarperir yn yr adran am gefndir yn cyfiawnhau ymagwedd arbenigol at ymchwiliadauRAOSO. Mae hyn yn awgrymu fod angen newidiadau strwythurol, ac o safbwynt cywerthedd swyddogaethol, gall y ffordd y caiff hyn ei roi ar waith edrych yn wahanol mewn gwahanol luoedd, e.e. defnyddio unedau RAOSO arbenigol mewn rhai lluoedd, o gymharu â’r defnydd o unedau ‘troseddau rhyngbersonol’ ehangach mewn eraill. Dylai cydnabod y gofyniad am arbenigeddau o leiaf roi cyfleoedd i sicrhau a chyfiawnhau cyllid wedi ei ddiogelu a’i neilltuo ar gyfer adnoddau lle’r ystyrir RAOSO yn flaenoriaeth, ac i sicrhau fod gan yr holl swyddogion sy’n gweithio ar y mathau hyn o droseddau yr arbenigedd, sgiliau a’r gefnogaeth briodol i wneud hyn yn effeithiol. Ochr yn ochr â’r angen am arbenigedd ym Mhiler Pedwar, yr ydym yn galw am i werthuso ac adfyfyrio beirniadol ddod yn rhan allweddol o ymchwiliadau a rôl swyddogion yn ehangach. O ystyried ein canfyddiadau o’r adolygiadau achos, sydd yn aml yn hollol groes i’r hyn a ddywed swyddogion mewn cyfweliadau, collir llawer cyfle mewn ymchwiliadauRAOSO. O’r herwydd, er mwyn mynd i’r afael â hyn , cynigiwn ymagwedd o weithio mewn tîm at y dyfodol. Sylfaen ymagwedd o weithio mewn tîm yw herio adeiladol a chefnogaeth ymysg cydweithwyr. Mae angen i ymagwedd o weithio mewn tîm hefyd gael ei asio gyda goruchwylio a chyfarwyddo ymchwiliadau mewn ffordd sy’n ystyrlon a rheolaidd, er mwyn rhoi cyfleoedd i ddysgu, datblygu a gwella mewn strategaethau ymchwiliadol yn ogystal â chynnal lles y swyddogion (gweler Piler Pedwar am fwy ynghylch hyn). O ystyried y methiannau lu mewn ymchwiliadau, y diffyg gallu i gynhyrchu a gweithredu strategaethau ymchwiliadol effeithiol, a’r cyfleoedd lu a gollwyd, yr ydym wedi cynhyrchu Map Ymchwiliadau Operation Soteria i helpu i dywys swyddogion ac eraill sy’n gwneud penderfyniadau ar elfennau allweddol ymchwiliadau RAOSO effeithiol.

Yr hyn y gellir ei gyflwyno yn gyffredinol yw’r cyfraniad i’r Model Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer ymchwilio i drais, a fydd yn bont rhwng strategaethau trawsfwaol cyffredinol, a gwaith plismona beunyddiol. Bydd ein cyfraniad yn sicrhau y bydd y Model Gweithredu Cenedlaethol yn gwreiddio arbenigedd, ymagwedd o weithio fel tîm, a’r map ymchwiliadau, sydd yn cynnwys ymagwedd o ganoli ar y sawl a amheuir at ymchwiliadau ynghyd â tharfu yn awr ac yn y tymor hir ar y sawl sy’n dod dan amheuaeth yn fynych.

ATODIAD 8: PILER DAU – TARGEDU’R SAWL SY’N DOD DAN AMHEUAETH DRO AR ÔL TRO: ADRODDIAD DIWEDD BLWYDDYN 1

Tîm y Piler

Arweinyddion Piler: Dr. Kari Davies a’r Athro Miranda Horvath. Tîm y piler (yn nhrefn y wyddor): Dr. Katherine Allen, Arianna Barbin, Sophie Barrett, Yr Athro Emma Bond, Ioana Crivatu, Dr. Maria Cross, Thistle Dalton, Joana Ferreira, Dr. Anna Gekoski, Rosa Heimer, Anca Iliuta, Aneela Khan, Margaret Hardiman, Asmaa Majid, Dr. Mark Manning, Kristina Massey, Dr. Ruth Spence, Louise Trott, a’r Athro Jessica Woodhams

Cefndir

Troseddu mynych - pwnc hanfodol wrth ymchwilio i droseddau trais a throseddau rhyw eraill

Mae troseddu mynych yn fater hanfodol wrth blismona troseddu rhyw. Yr oedd adroddiad yn 2013 gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Swyddfa Gartref, a’r Swyddfa Ystadegau Genedlaethol, er enghraifft, yn amlygu’r ffaith, o’r 2,900 o ddifinyddion a erlynwyd am drais yn 2011, eu bod wedi eu herlyn am gyfartaledd o 2.3 o droseddau o drais yr un. Ymhellach, yr oedd gan ryw bedwar y cant o droseddwyr a gafwyd yn euog o drosedd rhyw bump neu fwy o euogfarnau neu rybuddion am drosedd rhyw[footnote 113]. Er bod y ffigyrau hyn yn datgelu rhywfaint ar ba mor helaeth yw troseddumynych, mae sawl her ynghylch adrodd am, ymchwilio, ac erlyn troseddau rhyw yn gyffredinol sy’n arwain at gyfraddau isel o euogfarnu (ac ail-euogfarnu) (gweler Piler Un am drafodaeth o’r materion hyn). Mae’r problemau hyn yn ei gwneud yn debyg mai dim ond megis cyffwrdd â nifer y troseddwyr mynych y mae’r ffigyrau swyddogol. Yn wir, pan edrychwn ar ffynonellau gwybodaeth eraill am droseddumynych, megis astudiaethau sy’n defnyddio methodolegau hunan-adrodd, gallant roi hanes mwy cynhwysfawr o natur a chwmpas troseddumynych. Er enghraifft, dangosodd un darn o ymchwil, am bob un trosedd rywiol dreisgar (e.e. trais, ymyrryd â phlentyn) a gyflawnwyd gan droseddwr, eu bod wedi adrodd am gyflawni tua 30 o droseddau eraill[footnote 114]. Mae ymchwil hefyd wedi dangos fod troseddwyr wedi cyfaddef iddynt gyflawni troseddau eraill heb fod yn rhai rhyw yn ogystal â throseddau rhyw[footnote 115]. Mewn astudiaeth arall, er enghraifft, yr oedd sampl o 120 o ‘dreiswyr heb eu darganfod’ (y rhai yr oedd eu troseddau yndiwallu’r diffiniad cyfreithiol o drais neu geisio treisio, ond nas erlynwyd erioed) yn gyfrifol am 1,225 o droseddau rhyngbersonol treisgar, gan gynnwys troseddau treisgar, trais, a cham-drin plant a chamdriniaeth gorfforol[footnote 116].

Er bod problemau ynghylch cadarnhau ffigyrau o’r fath yn yr astudiaethau hyn oherwydd nad oes modd dilysu honiadau a wnaed gan droseddwyr, y maent yn rhoi peth dealltwriaeth i ni o’r graddau y mae troseddwyr yn cyflawni troseddau mynych ac yn paentio darlun o rai troseddwyr o leiaf sy’n arddangos tuedd i droseddu’n fynych. Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol mewn plismona oherwydd, er bod ystyriaethau moesegol pwysig ynghylch cynnwys y sawl a amheuir ond nas cafwyd yn euog mewn samplau at ddibenion ymchwil, ar y sail o sicrhau nad yw euogrwydd yn cael ei ragdybio dan yr amgylchiadau hyn, mae rhagosodiad gwaith yr heddlu yn seiliedig ar gasglu ynghyd wybodaeth, yn seiliedig ar yr honiad yn hytrach na data am euogfarnau. Mae gan yr heddlu, trwy gofnodi honiadau am droseddau, gyfoeth o wybodaeth y gellir ei ddefnyddio i edrych i mewn i droseddu mynych a’r sawl sy’n dod dan amheuaeth dro ar ôl tro[footnote 117].Mae gan yr heddlu felly gyfle i dynnu ar y wybodaeth sydd yn eu cofnodion eu hunain i ddeall yn well natur troseddu mynych a’r sawl sy’n dod dan amheuaeth dro ar ôl tro, a gwneud penderfyniadau mwy deallus am sut i fynd i’r afael â’r math hwn o droseddu.

Damcaniaethau seicolegol am droseddu mynych

Gall damcaniaethau seicolegol am droseddu mynych gynnig fframwaith i bennu a yw troseddwyr yn cyflawni sawl trosedd yn ystod eu gyrfa fel troseddwyr, sut y gwnânt hyn (neu pam nad ydynt yn ei wneud ). Awgryma un damcaniaeth o’r fath y gellir nodweddu patrymau o ymddygiad gwrthgymdeithasol naill ai fel rhywbeth sydd wedi ei gyfyngu i lasoed neu sy’n parhau gydol oes[footnote 118]. Dengys hyn fod cyfran o leiaf o’r boblogaeth droseddu sy’n debygol o aildroseddu yn ystod eu hoes. Awgryma gwaith diweddar gan Dr. Patrick Tidmarsh[footnote 119] fod rhai yn eu harddegau yn cyflawni nifer fawr o’r holl droseddau rhyw, ac er y gall troseddu adeg glasoed yn unig gael ei gyfyngu i gyfnod penodol mewn amser, nid yw’r ddamcaniaeth yn cau’r troseddwyr hyn allan o droseddu mynych yn ystod y cyfnod hwn.

Mae nifer hefyd o ffactorau a all gyfrannu at duedd unigolyn i barhau i droseddu. Mae ymchwil, er enghraifft, wedi edrych i mewn i’r ffactorau sy’n gysylltiedig ag ail-garcharu, sy’n awgrymu y gall ffactorau bregusrwydd megis bod yn gaeth i gyffuriau chwarae rhan mewn patrymau ailadroddus o ymddygiad troseddol[footnote 120]. Mae ymyriadau a rhaglenni triniaeth mewn trais domestig wedi eu fframio trwy egwyddorion Risg, Anghenion, Ymateb sydd yn mynd i’r afael â’r rhesymau pam y gall troseddwyr gyflawni, a dal i gyflawni, rhai mathau o droseddau[footnote 121]. O safbwynt troseddu rhyw yn benodol, gall y symbyliad i gyflawni troseddau rhyw megis dicter neu foddhad rhywiol[footnote 122] sbarduno troseddumynych.

Amrywiaeth troseddu mynych

Gall troseddu mynych edrych yn amrywiol. Mae amrywiaeth yn y ffordd mae troseddau’n digwydd dro ar ôl tro, gan gynnwys pa mor aml, y math o ddioddefwr sy’n cael ei dargedu, a’r ymddygiad a ddefnyddir. Gall y mathau o droseddau a gyflawnir yn ystod gyrfa fel troseddwr ymledu dros lawer math gwahanol o droseddau. Wrth ystyried troseddumynych, mae cwmpas eang i’r modd o synied am batrymau ymddygiad troseddol, ac yn aml, nid yw’r derminoleg a ddefnyddir i ddisgrifio cymhlethdod ac amrywiaeth troseddu mynych yn wastad yn glir. Cyflwynwn yma rai o’r ystyriaethau allweddol ynghylch amrywiaeth ac ehangder yr hyn y gellir ei ystyried yng nghyd-destun troseddumynych.

Un o’r agweddau mwyaf pwysig i’w nodi wrth drafod troseddu ‘mynych’ yw mai term ambarél yw hwn mewn gwirionedd y gellir ei ddefnyddio i gwmpasu sawl gwahanol math o batrwm o ymddygiad mynych sy’n gallu digwydd mewn sawl gwahanol gyd-destun:

  • Troseddu ‘lluosog’ – troseddu sawl gwaith yn erbyn un dioddefwr yn yr un digwyddiad;

  • Troseddu ‘sbri’ - troseddu yn erbyn nifer o ddioddefwyr yn yr un digwyddiad;

  • Troseddu ‘cyson’ – troseddu yn erbyn yr un dioddefwr ar sawl gwahanol achlysur;

  • Troseddu ‘cyfresol’ – troseddu yn erbyn gwahanol ddioddefwyr ar wahanol adegau mewn amser[footnote 123].

Gall y sawl a amheuir droseddu dro ar ôl tro mewn un o’r ffyrdd hyn, neu’r cyfan. Byddai’r diffiniad o rywun dan amheuaeth gyson yn ffitio, er enghraifft, rhywun a amheuir o gamdriniaeth ddomestig sy’n targedu partner yn gyson dros gyfnod o amser. Gellir amau hefyd eu bod yn gyfresol os ydynt weid troseddu yn erbyn nifer o bartneriaid gwahanol yn ystod eu gyrfa fel troseddwyr. Yr ydym yn cydnabod fod y diffiniad hwn o rai a amheuir yn fynych yn fras iawn, ac mewn llawer cyd-destun, dim ond rhai mathau o bobl a amheuir yn fynych a amlinellir yma all fod yn berthnasol i ymchwiliad. Mae’n hanfodol, fodd bynnag, i blismona ddeall nad un peth yw troseddumynych, a’r gwahanol gyd-destunau lle gall troseddu mynych ddigwydd, er mwyn gwneud y penderfyniadau mwyaf gwybodus trwy gydol ymchwiliad a sut i gyfrannu at darfu ar droseddumynych.

Nid yw meddwl am droseddu mynych chwaith wedi ei gyfyngu i’r syniad o droseddwyr yn cyflawni troseddau rhyw dro ar ôl tro. Mae corff o lenyddiaeth sy’n awgrymu nad yw troseddwyr rhyw yn dueddol o ‘arbenigo’ mewn cyflawni troseddau rhyw yn unig, a’u bod mewn gwirionedd yn hyblyg yn y math o droseddau maent yn gyflawni[footnote 124]. Y rheswm pam fod hyn yn berthnasol yng nghyd-destun plismona yw am ei fod yn golygu, ynghyd â’r cyfoeth o wybodaeth fydd gan yr heddlu am ymddygiad troseddu rhyw rhywun a amheuir, mae cyfle i dynnu ar wybodaeth am hanes troseddol heb fod yn rhywiol. Mae ymchwil yn awgrymu, er enghraifft, fod cyswllt rhwng byrgleriaeth, troseddu rhyw, a nodweddion y troseddwr, megis hyd ei yrfa fel troseddwr[footnote 125]. Mae’n bwysig, felly, hyd yn oed pan na thybir fod troseddu blaenorol yn uniongyrchol gysylltiedig â throsedd gyfredol sy’n destun ymchwiliad, ei fod yn dal i gael ei ystyried yng nghyd-destun casglu gwedd cyfannol ar y sawl a amheuir.

Yn ogystal â chyflawni llawer math gwahanol o droseddau, gall y sawl a amheuir hefyd fod wedi troseddu yn erbyn llawer math o ddioddefwyr. Mae corff o lenyddiaeth am droseddu rhyw sydd yn dangos sut mae rhai pobl a amheuir yn troseddu yn erbyn dioddefwyr gwryw a benyw, dioddefwyr o wahanol berthnasoedd â’r sawl a amheuir, a dioddefwyr o wahanol oedrannau, ar draws cyfres o droseddau, gyda rhyw chwarter yn arddangos ymddygiad sy’n croesi drosodd yn o leiaf un o’r categorïau hyn[footnote 126]. Mae’r gyfran o droseddwyr sydd wedi targedu gwahanol gategorïau o ddioddefwyr yn cynyddu pan ofynnir y cwestiynau hyn i droseddwyr dan amodau poligraff[footnote 127].

I grynhoi, mae deall cwmpas ac ehangder troseddu mynych yn bwysig am ei fod ag oblygiadau hanfodol i blismona. Mae’n bwysig o ran cydnabod patrymau ymddygiad a all helpu i gysylltu troseddau ynghyd fel cyfres a gyflawnwyd gan yr un person sydd dan amheuaeth. Mae ganddo’r gallu i fwydo i mewn i asesiadau risg a diogelu mwy priodol, yn ogystal â chreu strategaethau ymchwiliadol mwy cynhwysfawr, gan gynnwys ymchwilio i nifer o droseddau fel cyfres lle bo hynny’n briodol. Gallai casglu ynghyd safleoedd troseddau lluosog seiliedig ar gyfres o droseddau ganiatau casglu tystiolaeth ynghyd yn fwy effeithiol. Mae gosod cyfyngiadau ar hap ar yr hyn a ystyrir neu nas ystyrir yn droseddu perthnasol, felly, yn golygu nad yw gwybodaeth berthnasol am y sawl a amheuir yn cael ei gynnwys mewn strategaethau ymchwiliadol a gall effeithio ar effeithiolrwydd ymchwiliadau’r heddlu i droseddau trais a throseddau rhyw eraill ar nifer o lefelau.

Dewisiadau ymchwiliadol i darfu ar droseddu mynych

Ymchwilio yn y tymor byr i droseddu mynych

Mae sawl maes yn yr ymchwiliad cyntaf i drosedd rhyw lle daw gwybodaeth am droseddu mynych yn berthnasol. Fel rhan o’r strategaeth ymchwiliadol, gall gwybodaeth am droseddu mynych hefyd gael ei ddefnyddio fel sail i asesiad risg y sawl a amheuir a gynhelir gan swyddogion. Dylai fod yn rhan o’r modd mae’r strategaeth ymchwiliadol gychwynnol yn cael ei llunio, a gall gwybodaeth am droseddu mynych gael effaith ar y strategaeth hon mewn nifer o ffyrdd. Gall helpu i gasglu ynghyd a chyfuno tystiolaeth o nifer o fannau troseddu lluosog, e.e. data ymddygiadol ac ANPR, tystiolaeth fforensig o wahanol fannau troseddau, neu hanesion tystion ac eitemau a gafwyd mewn mannau ar wahan. Gall hefyd gynorthwyo i wneud penderfyniadau ynghylch camau ymchwiliadol a gymerir, megis y penderfyniad i gyfweld rhywun a amheuir yn wirfoddol, neu i’w arestio a’i gyfweld dan rybudd. Gellir cynnal dadansoddiad ymddygiadol ar gyfres o droseddau i gasglu mwy o wybodaeth am ffordd rhywun a amheuir o ymddwyn, yn ogystal â chwilio am gysylltiadau posib â throseddau eraill, nas gwyddys amdanynt eto, y gall y sawl a amheuir fod wedi eu cyflawni (e.e. dod o hyd i fwy o ddioddefwyr rhywun a amheuir sydd fel arfer yn defnyddio Snapchat fel dull o dargedu dioddefwyr). Gellid ystyried achosion oedd gynt wedi eu cau yng nghyd-destun eu hail-agor i ymchwilio i rywun a amheuir am gyfres o droseddau.

Mae’n bwysig nodi fod modd ystyried sut y mae gwybodaeth am droseddu mynych yn cael ei gynnwys fel rhan o ymchwiliad, pan fo’r sawl a amheuir yn hysbys, yn ogystal â phan nad ydym yn gwybod pwy ydynt. Nid yw’r ffaith na wyddom pwy yw troseddwr yn golygu na ellir ymdrechu i gydnabod cyfres o droseddau ac ymchwilio iddynt; er enghraifft, gellir defnyddio cysylltu tystiolaeth fforensig i ganfod a yw set o droseddau yn gyfres sy’n debyg o fod wedi eu cyflawni gan yr un troseddwr. Yn hyn o beth, gellir defnyddio cysylltu troseddau ymddygiadol hefyd i weld a yw troseddau yn debygol o fod wedi eu cyflawni gan yr un person sydd dan amheuaeth[footnote 128].

Yn olaf, nid yn unig y mae deall cyfres o droseddu yn bwysig o safbwynt ymchwiliadol a thystiolaethol, ond hefyd o safbwynt logistaidd ac adnoddau. Mae cydnabod cyfres o droseddu - gan rai a amheuir sy’n hysbys ac anhysbys - yn caniatau neilltuo adnoddau’r heddlu yn fwy priodol, i swyddogion fod â dealltwriaeth fwy cyfannol a manwl o ymddygiad cyffredinol y sawl a amheuir, a sicrhau llai o ddyblygu ymdrechion ar ran y sawl sy’n gorfodi’r gyfraith wrth ymdrin â’r rhai sydd dan amheuaeth dro ar ôl tro.

Tarfu yn y tymor hir ar droseddu mynych

Un o agweddau allweddol adnabod troseddu mynych yw’r potensial i’r sawl sy’n gorfodi’r gyfraith i gymryd ymagwedd fwy strategol a thymor-hir at darfu ar y sawl a amheuir dro ar ôl tro. Mae tarfu yn y tymor hir ar droseddu (rhyw) yn arbennig o bwysig, nid yn unig i gael gwell cyfiawnder i ddioddefwyr a gwneud gwell defnydd o adnoddau’r heddlu, ond hefyd i atal niwed yn hytrach nag ymateb i droseddau: un o egwyddorion allweddol Peel o blismona[footnote 129]. Yma, mae angen hefyd asesu risg, sydd yn mynd y tu hwnt i risg a gyflwynir gan droseddwr wrth ymchwilio’n benodol i drosedd neu droseddau, ond gellir dechrau ei gysyniadu o ran y risg ehangach - neu’r niwed - a ddaw o du’r troseddwr. Mae a wnelo hyn fwy â tharfu yn y tymor hir ar droseddu a’r math o waith atal troseddu y dylai gorfodi’r gyfraith weithio arno (ac a wna weithiau). Er bod materion moesegol pwysig i’w hystyried ynghylch targedu pobl a amheuir, yn hytrach na throseddwyr, o fewn ffiniau plismona, nid yw hyn yn gysyniad newydd: mae troseddwyr problemus a chyson yn aml yn cael eu blaenoriaethu i’w targedu er mwyn tarfu ar batrymau niweidiol o droseddu, megis troseddau trefnedig neu droseddau gyda gynau. Gallai hyn gynnwys dewisiadau fel rhoi tystiolaeth cymeriad drwg mewn llysoedd neu wneud cais am orchmynion sifil.

Rhesymeg Piler Dau – targedu’r sawl a amheuir yn well

Mae cryn dipyn o wybodaeth sy’n awgrymu nad yw’r sawl sy’n gorfodi’r gyfraith yn deall troseddu rhyw yn dda iawn. Mae Piler Un yn amlinellu’r agweddau diwylliannol gwael sy’n treiddio trwy’r heddlu yn ogystal ag yn fwy cyffredinol mewn cymdeithas, sy’n gweld dioddefwyr fel y rhai sy’n gyfrifol am droseddau rhyw a gyflawnir yn eu herbyn, a bod y troseddu a’i oblygiadau yn cael eu bychanu. Mae Piler Un hefyd yn amlinellu sut nad yw’r sawl a amheuir o’r troseddau hyn yn cael eu hystyried yn briodol ac na chanolbwyntir arnynt, yn enwedig o ran eu bwriad i gyflawni troseddau rhyw a’u gallu i fanteisio ar ddioddefwyr bregus a defnyddio technegau fel paratoi at bwrpas rhyw a rheolaeth dan orfodaeth i droseddu fel hyn. Mae’r un materion yn berthnasol i Biler Dau; mae’r diffyg canolbwyntio ar y sawl a amheuir ac i ddeall troseddu rhyw a’r sawl a amheuir o’u cyflawni yn ymestyn i droseddu mynych a’r potensial i droseddwyr rhyw gyflawni troseddau rhyw a rhai eraill dro ar ôl tro. Nid yw diffyg dealltwriaeth o droseddu mynych wedi ei gyfyngu i droseddu rhyw; gwelwn dystiolaeth fod y sawl sy’n gorfodi’r gyfraith yn cael trafferth i gysyniadu neu darfu ar droseddau sydd, yn eu hanfod, yn droseddaumynych, fel y gwelir o dystiolaeth adroddiad diweddar HMICFRS i stelcian ac aflonyddu[footnote 130].

Mae anallu’r sawl sy’n gorfodi’r gyfraith i gydnabod yn briodol y sawl sy’n dod dan amheuaeth dro ar ôl tro ac i ddefnyddio gwybodaeth i’w chynnwys mewn ymchwiliadau yn amlwg mewn sawl achos proffil-uchel sy’n dangos ehangder y methiannau yn hyn o beth (e.e. John Worboys a Kirk Reid). Yn fwy diweddar, dangosodd achos Stephen Port fethiannau sylweddol i gynnal gwiriadau gwybodaeth arferol a fuasai wedi arwain at gynhyrchu gwybodaeth berthnasol yn ystod yr ymchwiliad[footnote 131]. Mae’r ffaith nad oes gan y sawl sy’n gorfodi’r gyfraith y gallu i weld troseddu fel patrwm o ymddygiad a all amlygu ei hun trwy sawl gwahanol math o drosedd a throseddau gwahanol yn fethiant difrifol mewn plismona. Yn ychwanegol at y ffordd yr ymdrinnir â throseddu rhyw, sydd eisoes yn wael ar lefel gyffredinol oherwydd y diffyg canolbwyntio ar y sawl a amheuir, mae angen rhoi sylw ar frys i’r ffordd mae’r sawl sy’n gorfodi’r gyfraith yn cysyniadu, adnabod a tharfu yn well ar droseddu (rhyw) mynych yn y tymor byr a’r tymor hir.

Yn fyr, mae’r sawl a amheuir dro ar ôl tro yn risg sylweddol i’r cyhoedd ac nid yw’r heddlu ar hyn o bryd yn meddu ar y dulliau na’r arbenigedd i ymdrin â’r math hwn o droseddu rhyw. Mae troseddu mynych yn amrywiol ei natur a rhaid ei ddeall yn iawn er mwyn ymchwilio iddo yn effeithiol ac yn llawn, gan gynnwys bod â dealltwriaeth arbenigol a sylweddoli pa ystod eang o ddewisiadau sydd i dargedu troseddu mynych yn y tymor byr a’r tymor hir, a galluedd swyddogion i wneud hyn.

Pwrpas Piler Dau, felly, yw ymchwilio i arfer cyfredol lluoedd o adnabod a tharfu ar y sawl a amheuir dro ar ôl tro, gyda’r nod o roi argymhellion ac allbynnau i nodi’n glir sut rai yw’r rhain, faint sydd yno, a sut y gall plismona wella tarfu ar droseddu mynych yn y tymor byr a’r tymor hir.

Methodoleg

Rhannwyd y data a gasglwyd ar gyfer Piler Dau gyda Philer Un, oherwydd bod nifer o bwyntiau yn dod at ei gilydd o ran y wybodaeth oedd ei angen i ateb cwestiynau’r ymchwil. Am fwy o fanylion am yr ymagwedd fethodolegol oedd yn sylfaen i hyn ac am y data a gasglwyd fel rhan o’r ddau Biler, gweler adroddiad Piler Un. Yr oedd Haenau 1, 3, a 5 yn benodol i Biler Dau yn unig ac felly rhoddir manylion amdanynt yma. Mae’r manylion methodolegol isod yn amlygu sut y defnyddiwyd pob haen o ddata i ateb cwestiynau ymchwil penodol yn ymwneud â Philer Dau.

Dyma oedd cwestiynau ymchwil cychwynnol Piler Dau:

1) Faint o droseddu mynych sydd yn y lluoedd?

2) Sut beth yw troseddumynych?

3) Sut (a pha mor effeithiol) y mae swyddogion yn cysyniadu’r sawl a amheuir dro ar ôl tro?

4) Sut (a pha mor effeithiol) mae swyddogion yn adnabod y sawl a amheuir dro ar ôl tro?

5) Sut (a pha mor effeithiol) y mae gwybodaeth o droseddu mynych yn dod yn rhan o strategaethau ymchwiliadol?

6) Pa ddewisiadau tymor-hir a ddefnyddir i darfu ar droseddumynych?

7) Beth yw canfyddiadau swyddogion o’r newidiadau a weithredwyd yn Llu braenaru E ac a yw’r newidiadau wedi arwain at ganoli mwy ar droseddumynych?

Haen 1 -data meintiol (Piler Dau yn unig; defnyddiwyd i ymdrin â chwestiynau ymchwil 1 a 2)

Casglwyd dwy set ddata meintiol o’r pum llu braenaru. Y cyntaf (a gydlynwyd gyda Philer Pump) oedd sampl pedair-blynedd, wedi ei wneud yn ddienw, o’r holl droseddau rhyw a gofnodwyd gan y lluoedd rhwng Ionawr 2018 a Rhagfyr 2021 gan gynnwys y wybodaeth a ganlyn:

  • ID y drosedd, math (grŵp trosedd a disgrifiad o’r drosedd), cod y Swyddfa Gartref, dyddiad y digwyddodd, dyddiad adroddwyd amdani, fflagio am drais domestig, lleoliad, dyddiad y deilliant, a’r deilliant plismona

  • ID y sawl a amheuir, oedran adeg y digwyddodd y drosedd ac yr adroddwyd amdani, ethnigrwydd a pherthynas â’r dioddefwr

  • ID y dioddefwr, oedran adeg y digwyddodd y drosedd ac yr adroddwyd amdani, ac ethnigrwydd

Yr oedd yr ail set ddata yn cynnwys manylion am yr holl ddata o hanes troseddol blaenorol yr holl droseddwyr a enwyd yn y set ddata gyntaf, oedd yn cynnwys peth manylion am y sawl a amheuir a manylion am y drosedd - cod HO, disgrifiad, dyddiad y drosedd, a’r deilliant. Cafwyd manylion am hanes troseddol y sawl a amheuir mor bell yn ôl ag y gallai’r lluoedd eu darparu, oedd yn dueddol o fod yn 1995, ar wahan i Lu A oedd yn mynd yn ôl i 1993 a Llu C oedd yn mynd yn ôl i 1996. Cynhwyswyd manylion yr holl droseddu, heb eu cyfyngu i droseddau rhyw.

Dyma gyfanswm nifer y pwyntiau data a gafwyd o bob llu (A, B, C, D ac E):

Haen 2 - adolygiadau achos (a ddefnyddiwyd i ymdrin â chwestiynau ymchwil 1-6); Haen 2a - datblygiad adolygiadau achos i’w defnyddio gan ymchwilwyr yn Llu braenaru E (a ddefnyddiwyd i ymdrin â chwestiwn ymchwil 7)

Gweler methodoleg 2.1 Piler Un am fanylion.

Haen 3 – arolwg (Piler Dau yn unig; a ddefnyddiwyd i ymdrin â chwestiynau ymchwil 4-6)

Yr oedd deg cwestiwn penagored yn yr arolwg, yn holi am fentrau a phrosiectau i dargedu y sawl a amheuwyd o droseddau rhyw a throseddwyr, defnyddio systemau gwybodaeth, manylion timau/fframweithiau rheoli troseddwyr, y defnydd o orchmynion sifil, defnyddio datgeliadau trydydd parti, manylion am waith gyda sefydliadau allanol i dargedu troseddwyr niwed uchel, ac unrhyw enghreifftiau eraill o arferion da cysylltiedig ag ymchwilio i a thargedu’r sawl a amheuwyd o droseddau rhyw a’r troseddwyr a’u cyflawnodd, ac unrhyw heriau a wynebwyd. Oherwydd bod ymchwiliadau a rheoli RAOSO yn dod yn bennaf dan warchod y cyhoedd, anfonwyd yr arolwg at bob DCI mewn gwarchod y cyhoedd yn y pum llu, yn ogystal ag unrhyw swyddogion eraill y tybiai Arweinyddion Piler yr Heddlu fyddai’n berthnasol. Anfonodd un llu hefyd y wybodaeth allan yn genedlaethol, ac arweiniodd hyn at ddarparu gwybodaeth ychwanegol gan luoedd yn ehangach, a chynhwyswyd hyn yn y cyfanswm. Derbyniwyd cyfanswm o 20 cais am wybodaeth gan luoedd, yn amrywio o ddim mewn un llu i naw mewn un arall. Defnyddiwyd dadansoddiad cynnwys er mwyn tynnu allan enghreifftiau penodol o arfer yr heddlu oedd yn berthnasol i’r prosiect. Targedwyd yr arolwg yn bennaf at Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd i gael mewnwelediad pellach i’r modd y mae swyddogion yn adnabod ac yn targedu troseddumynych, gan gynnwys unrhyw strategaethau a mentrau wedi eu hanelu at gynnal tarfu yn y tymor hir.

Haen 4 – cyfweliadau (a ddefnyddiwyd i ymdrin â chwestiynau ymchwil 3-6)

Gweler methodoleg Piler Un Haen 2.2 am fanylion.

Haen 5 – adolygiad o ddogfennau (Piler Dau yn unig; a ddefnyddiwyd i ymdrin â chwestiynau ymchwil 3-6)

Darparodd Arweinyddion Piler yr Heddlu ym mhob llu yr holl ddogfennau polisi a gweithdrefnau am ymchwilio i drais ac ymosodiadau rhywiol y tybient hwy oedd yn berthnasol, gan gynnwys dogfennau polisi cenedlaethol a lleol, hyfforddiant a chanllawiau lleol (ond nid y rhain yn unig). Darparwyd cyfanswm o 177 o ddogfennau; adolygwyd y rhain gan y tîm ymchwil, eu graddio am berthnasedd i ymchwiliadau i drais ac ymosodiadau rhywiol (blaenoriaeth uchel, canolig neu isel - seiliedig ar berthnasol iawn, peth perthnasedd, amherthnasol), a’u dadansoddi. Golygodd cyfyngiadau amser mewn rhai lluoedd mai dim ond dogfennau blaenoriaeth uchel a chanolig a ddadansoddwyd. Defnyddiwyd dadansoddiad thematig yn cyfateb yn fras i chwe cham Braun a Clarke[footnote 134], h.y., ymgyfarwyddo i ddechrau gyda’r set ddata, codio pob dogfen, adolygu ‘themâu’ posib neu gysyniadau canolog yng nghyswllt y set ddata gyfan, a diffinio ffiniau/adnabod nodweddion penodol pob ‘thema’ neu gysyniad. Trafododd y tîm hefyd themâu/cysyniadau o’r adolygiad dogfennau.

Mewnwelediadau a chyfyngiadau data

Mae rhai cyfyngiadau ar y data y dylid eu cydnabod:

  • Nid yw rhai lluoedd yn defnyddio dulliau adnabod unigol i unigolion yn eu systemau cofnodi troseddau. Felly, er mwyn chwilio am hanes troseddol blaenorol y sawl oedd dan amheuaeth a enwyd, mewn rhai lluoedd, rhaid oedd gwneud hyn trwy gyfatebu cofnodion a defnyddio enwau cyntaf, enwau olaf a dyddiadau geni’r sawl a amheuir. Nid yw’r dull hwn yn ddi-fai ac yn sicr, bron, bydd wedi arwain at or-adnabod (e.e. cyfatebu pobl wahanol gyda’r un cyfenw) a than-adnabod (e.e. peidio â chysylltu’r un person oherwydd camsillafu neu fod data ar goll) y sawl a amheuir yn fynych[footnote 135]. Er hynny, y mae’n cynrychioli’r dull y buasai’r swyddogion eu hunain wedi ei ddefnyddio i gael gwybodaeth am droseddumynych.

  • Yr oedd yr adolygiadau achos yn dibynnu ar gael cyfranogwyr yn llenwi taenlen y data a roddwyd iddynt yn gywir ac yn llawn. Lle mae data ar goll, mae’n bosib i hyn ddigwydd oherwydd na lenwyd y daenlen yn iawn.

  • Yn yr un modd, adlewyrchiad yn unig yw’r data a gynrychiolir yn yr adolygiadau achos o’r data a gofnodwyd yn systemau cofnodi troseddau y lluoedd. Er y dylai swyddogion nodi i lawr yr holl gamau a gymerir mewn ymchwiliad, does dim gwarant fod hyn yn cael ei wneud (yn wir, gweler Adran 3.6.3 yr adroddiad hwn am dystiolaeth na chofnodwyd data yn gywir), ac felly gall dadansoddiadau gynnwys camau a gafodd eu cwblhau, ond heb eu cofnodi.

  • Trefnwyd y cyfweliadau gan Arweinyddion Piler yr Heddlu ym mhob un o’r lluoedd. O ganlyniad, fe allasent fod yn destun tuedd wrth ddethol, yn ychwanegol at y duedd wrth ddethol a gysylltir fel arfer ag ymagwedd pelen eira neu grynswth at ymwneud gan gyfranogwyr.

  • Yn yr un modd, anfonwyd y ceisiadau am wybodaeth a chasglwyd y dogfennau i’w hadolygu gan Arweinyddion Piler yr Heddlu, a gallai hyn hefyd fod wedi arwain at duedd wrth samplo.

Yn yr un modd, serch hynny, mae’r data a gasglwyd fel rhan o Flwyddyn 1 Operation Soteria Bluestone yn cynrychioli peth o’r wybodaeth fwyaf manwl ac amrywiol o’r math hwn i gael ei chasglu:

  • Mae’r sampl o ddata meintiol o bob un o’r pum llu braenaru yn sampl yn unig o droseddau, y sawl a amheuir, a dioddefwyr, yn unigryw nid yn unig o ran cwmpas a maint, ond hefyd oherwydd bod troseddau wedi eu cynnwys oedd â deilliannau plismona amrywiol (yn hytrach na chanolbwyntio yn unig ar ddata am gyhuddo neu euogfarnu). Bydd y gallu i gyfatebu’r sawl a amheuir a dioddefwyr â digwyddiadau unigol ac i gysylltu data am hanes troseddol y sawl a amheuir yn y sampl hwn yn caniatáu i ni gael mewnwelediadau newydd i batrymau a llwybrau troseddu ym Mlwyddyn 2.

  • Mae’r adolygiadau achos a gynhaliwyd yn ffynhonnell unigryw arall o ddata a gasglwyd fel rhan o Bileri Un a Dau. Mae gwybodaeth am gynnydd achosion ei hunain fel arfer yn arswydus o anodd i’w chael, oherwydd yr angen i’w thynnu allan o systemau cofnodi troseddau, a’r cyfyngiadau amser a diogelwch a gysylltir â hyn fel rheol. Mae’r wybodaeth hon yn rhoi golwg unigryw i ni am y modd mae ymchwiliadau yn mynd yn eu blaen. Ymhellach, mae data’r adolygiadau hefyd yn unigryw am eu bod yn rhoi gwedd newydd ar ganfyddiadau OICs (Swyddogion â Gofal) ac uwch-swyddogion am ba mor effeithiol yw ymchwiliadau. Yr oedd y data o adolygiadau achos hefyd yn rhan annatod o helpu lluoedd i asesu effeithiolrwydd eu hymchwiliadau eu hunain.

Canfyddiadau

Adnabod gwahanol fathau o bobl a amheuir yn fynych

Fel y nodwyd yn y cyflwyniad, mae sawl ffordd o gysyniadu troseddumynych. Mae’n bwysig i swyddogion ddeall y gwahanol ffyrdd y gall troseddu mynych ddigwydd oherwydd y ffyrdd y dylai’r wybodaeth hon ddod yn rhan o ymchwiliad. Er enghraifft, er y gall troseddu ‘lluosog’ gynrychioli sawl math o drosedd a gyflawnir yr un pryd, megis trais a lladrata, yn enwedig yng nghyd-destun cyflawni’r un drosedd dro ar ôl tro, e.e. achosion lluosog o drais, mae’n debyg o fod yn gysylltiedig â bod a mynediad at yr un dioddefwr am gyfnod estynedig o amser. Mae i hyn yn ei dro oblygiadau i ddiogelwch dioddefwyr, gan y dangoswyd fod llofruddion rhywiol yn treulio mwy o amser gyda dioddefwyr na threiswyr[footnote 136]. Gall troseddu cyson hefyd awgrymu fod y sawl a amheuir yn gallu mynd at ddioddefwr yn gyson, efallai yng nghyd-destun camdriniaeth ddomestig, sydd ag oblygiadau i ddioddef parhaus y dioddefwr hwnnw ac yn sgil hynny sut y mae swyddogion yn meddwl am ddiogelu’r dioddefwr yn briodol. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i’r risg sy’n gysylltiedig â throseddwyr ‘sbrî’, o gofio’r risgiau ychwanegol a all fod yn gysylltiedig â chadw rheolaeth dros ddioddefwyr lluosog ar yr un pryd, a all ddangos y lefel uwch o risg mae troseddwr yn barod i’w chymryd. Yn olaf, dengys troseddwyr cyfresol fod rhai a amheuir yn dal i droseddu, o fewn yr un math o drosedd neu trwy gyflawni llawer math gwahanol o droseddau, a bod angen ystyried a fydd y patrymau troseddu hyn yn parhau heb ymyriad gan orfodwyr y gyfraith (neu eraill), ac os felly, sut.

At ddibenion y dadansoddiadau yma, gwnaethom ddiffinio’r sawl a amheuir yn fynych fel unrhyw un oedd yn rhan o fwy nag un drosedd, e.e. dwy drosedd o drais. Gyda’r wybodaeth hon, roedd modd i ni edrych i mewn i nifer o wahanol fathau o rai ddaeth dan amheuaeth sy’n cael eu cwmpasu gan y term ambarél hwn;

  • troseddu ‘sbrî’ neu ddau achos o drais a gyflawnwyd gan yr un person a amheuir yn yr un digwyddiad yn erbyn dioddefwyr gwahanol,

  • troseddu ‘cyson’, neu ddau achos o drais a gyflawnwyd yn erbyn yr un dioddefwr mewn digwyddiadau gwahanol, a

  • troseddu ‘cyfresol’, neu ddau achos o drais a gyflawnwyd mewn dau ddigwyddiad gwahanol yn erbyn dau ddioddefwr gwahanol.

Yr oedd y dadansoddiadau yn cynnwys yr holl hanes am droseddu mynych ac nid oeddent wedi eu cyfyngu yn ôl y math o drosedd, e.e. gellid galw rhywun dan amheuaeth yn ‘gyson’ petai wedi treisio dioddefwr ac yna wedi dwyn oddi wrthi/o ar adeg wahanol. Nodwn yma nad yw ein data yn cynnwys troseddu ‘lluosog’, lle troseddir yn erbyn un dioddefwr sawl gwaith yn yr un digwyddiad, e.e. dioddefwr yn cael ei herwgipio a’i th/dreisio bedair gwaith dros gyfnod o 12 awr. Nid oedd modd i ni asesu’r math hwn o droseddu am y rheswm logistaidd fod yr heddlu, dan yr amgylchiadau hyn, yn cofnodi un drosedd yn unig am bob digwyddiad, felly nid oes modd cael ffigwr manwl gywir o’r math hwn o droseddu heb gymryd y data yn uniongyrchol o’r hyn a ddywed y dioddefwr.

O’r data a samplwyd, mae mwyafrif llethol y sawl a amheuir yn fynych dan amheuaeth yn gyfresol. Er enghraifft, yn Llu D, dim ond 1.1% o’r rhai a amheuwyd oedd am sbrî-yn-unig, a 6.9% yn rhai cyson-yn-unig (gan gynnwys pob math o drosedd); cyfanswm o 8.0%. Yr oedd gweddill y rhai a amheuwyd (92.0%[footnote 137]) yn rhai cyfresol, a allai gynnwys cyfresol-yn-unig, cyfresol-sbrî, cyfresol-cyson, neu gyfresol-sbrî-cyson.

Nifer y sawl a amheuir yn fynych

Ar sail data am y sawl a amheuwyd ac a enwyd, sy’n caniatau i ni olrhain hanes troseddol y sawl a amheuwyd, dengys Tabl 1 nifer y sawl dan amheuaeth sy’n gysylltiedig yng nghronfeydd data’r lluoedd â mwy nag un drosedd rhyw, â mwy nag un drosedd o unrhyw fath, ac na ddaeth erioed i sylw’r heddlu o’r blaen. Sylwer fod mwyafrif y rhain sy’n dod dan amheuaeth yn rhai a gyflawnodd fwy nag un drosedd yn erbyn mwy nag un dioddefwr (yn ôl y ffigyrau yn Adran 3.1).

Tabl 1. Nifer y rhai a amheuwyd ac a enwyd oedd â hanes o droseddu

Cysylltiedig â mwy nag un math o drosedd rhyw (ystod-cyfrif) Cysylltiedig â mwy nag un drosedd o unrhyw fath (ystod-cyfrif)* Heb ddod i sylw’r heddlu o’r blaen * Data wedi eu cynnwys
Llu A 45.6% (2-173) 50.6% (2-178) 49.4% RASSO^ yn unig
Llu B 26.0% (2-84) 41.4% (2-155) 58.6% RASSOyn unig
Llu C 19.5% (2-40) 58.8% (2-264) 41.2% Pob trosedd rhyw
Llu D 24.9% (2-170) 63.9% (2-315) 36.1% Pob trosedd rhyw
Llu E [footnote 138] 23.3% (2-19) 60.5% (2-200) 39.5% RASSOyn unig[footnote 139]

* Mae’r colofnau hyn yn dod i 100%.

Fel y dengys Tabl 1, mae nifer y sawl a amheuwyd ac a enwyd sy’n gysylltiedig â mwy nag un trosedd rhyw yn uchel, yn amrywio o 19.5% i 45.6%. 173 oedd y nifer uchaf o droseddau rhyw a gyflawnwyd gan un dan amheuaeth. O ystyried yr holl droseddau, mae nifer y rhai a amheuir yn fynych yn cynyddu, gan amrywio o 41.4% i 63.9%. Ym mhob llu ar wahan i Lu B, nid oedd llai na hanner y rhai a amheuwyd erioed wedi dod i sylw’r heddlu o’r blaen, sy’n dangos cwmpas ac ehangder y rhai a amheuir yn fynych yn y sampl a gafwyd yma. Mae’r ffigyrau hyn yn arbennig o drawiadol pan ystyriwn fod ein data wedi eu cyfyngu o ran amser a llu (ni allwn, er enghraifft, ddweud unrhyw beth am droseddu mynych sy’n croesi ffiniau lluoedd). Nodwn na fydd yr holl hanes o droseddu blaenorol yn berthnasol i’r ymchwiliad, ond y mae’n dangos yn union pa mor aml y bydd gwybodaeth a all fod yn berthnasol ar gael i swyddogion a’r rheidrwydd arnynt i fod yn barod gyda’r holl wybodaeth berthnasol a’r amser i allu asesu’r wybodaeth hon yn briodol o ran sut y mae’n dod yn rhan o strategaeth ymchwiliadol yn y tymor byr a’r tymor hir.

Tra bod dadansoddiadau o’r data hyn yn dal i fynd ymlaen, dangosodd dadansoddiadau cychwynnol mai dim ond 7.3% o’r rhai a amheuwyd yn fynych yn Llu C a 12.7% yn Llu D a gyflawnodd droseddau rhyw yn unig erioed, sy’n dangos amrywiaeth y mathau o droseddu oedd yn y sampl. Bydd dadansoddi pellach ar y data yn caniatáu i ni chwilio am gysylltiadau penodol rhwng troseddu mynych ac a yw’r sawl a amheuir yn dangos patrymau penodol o droseddu, megis cyflawni llawer math o droseddau camdriniaeth ddomestig, gan gynnwys troseddau rhyw, a yw’r sawl a amheuir yn ein sampl yn gyffredinolwyr ynteu’n arbenigwyr, a pha mor amrywiol ydynt yn y math o ddioddefwyr maent yn eu targedu. Mae hefyd yn werth ystyried fod ein dadansoddiadau cychwynnol yn dangos maint hanesion troseddol rhai o’r rhai a amheuir, e.e. yr oedd un a amheuwyd yn Llu D wedi ei gysylltu â 315 o droseddau. Mae i hyn oblygiadau pwysig am y modd yr ydym yn cysyniadu troseddu mynych o ran natur doreithiog rhai o’r bobl a amheuir, a sut beth yw’r llwybrau troseddu hyn.

Materion ynghylch adnabod y sawl a amheuir yn fynych

Y cam cyntaf i dargedu’r sawl sydd dan amheuaeth yn fynych yw eu hadnabod yn effeithiol. Datgelodd y dadansoddiadau nifer o faterion ynghylch adnabod pobl sy’n dod dan amheuaeth yn fynych sydd â’r potensial i effeithio ar yr ymchwiliad yn y tymor byr ac ar ystyried dewisiadau tarfu yn y tymor hwy.

Diffyg dealltwriaeth o’r hyn yw rhywun a amheuir yn fynych

Fel y nodwyd uchod, gall cwmpas yr hyn a ystyrir yn droseddu mynych fod yn eang, ond dylai swyddogion fod yn barod i ystyried sut beth yw troseddu mynych ar nifer o lefelau fel y gallant adnabod y math hwn o droseddu yn briodol, a defnyddio’r wybodaeth hon i gyfrannu at strategaeth effeithiol i ymchwilio a tharfu ar y troseddu. Wrth drafod troseddu mynych gyda swyddogion, yn gyffredinol yr oedd eu dealltwriaeth o’r hyn yw rhywun sy’n dod dan amheuaeth yn fynych yn canoli o gwmpas y prif deip a nodwyd yma; pobl sy’n dod dan amheuaeth yn gyfresol sydd wedi troseddu yn erbyn mwy nag un dioddefwr ar wahanol bwyntiau mewn amser. Ar lefel gyffredinol, yr oedd hanes troseddol blaenorol yn cael ei ystyried yn berthnasol, ond lle’r oedd rhai swyddogion yn dueddol o ystyried pob math o droseddu yn eu hasesiad o sut y dylai’r wybodaeth hon fod yn rhan o ymchwiliad, yr oedd paramedrau’n cael eu gosod gan rai swyddogion ar y diffiniad o’r rhai oedd yn dod dan amheuaeth yn fynych oedd yn cyfyngu ar eu cysyniad o droseddumynych. Gwelwyd y gwahaniaethau hyn mewn lluoedd a rhyngddynt. Er enghraifft, yr oedd y diffiniad o droseddu mynych yn aml yn troi o gwmpas yr hyn oedd yn hanes troseddol ‘perthnasol’. Fel y nodwyd uchod, mae’n anhebygol y bydd pob hanes troseddol yn berthnasol i gynnydd ymchwiliad na’r modd y mae swyddogion yn mynd ati i dargedu’r rhai hynny a amheuir yn y tymor hir. Fodd bynnag, cafwyd enghreifftiau lle’r oedd swyddogion yn gosod cyfyngiadau cyffredinol ar yr hyn oedd yn cael ei ystyried yn droseddu perthnasol. Yr oedd y rhan fwyaf o swyddogion yn ystyried hanes blaenorol o droseddu treisgar a rhywiol yn uniongyrchol berthnasol, er bod peth anghytundeb ynghylch a fyddai troseddau ‘anonestrwydd’ yn cael eu hystyried yn berthnasol:

“Os ydyn nhw’n unigolion treisgar gyda hanes o fod â chyllyll neu’n enwedig os ydyn nhw mewn gang … byddai mwy o risg … A byddai hynny’n sicr yn achos pryder … Felly byddai’n rhan o’n gweledigaeth” (Llu A5)

“Mae trais yn wastad yn berthnasol am y gall fod ar raddfa sy’n cynyddu. Stelcian yn un arall, aflonyddu – fe allan nhw i gyd ragflaenu troseddau rhyw” (Llu D4)

“Os yw’n drosedd anonestrwydd, yna wrth gwrs mae hynny’n berthnasol oherwydd fel y dywedon ni o’r blaen, gair un yn erbyn y llall yw e, ac os oes gan y llall nifer fawr o euogfarnau am anonestrwydd … efallai nad yw’n dweud y gwir yn yr achos hwn … fuasen i’n tybio mewn ymchwiliad i drais, y bydde anonestrwydd yn un allweddol” (Llu A13)

“Rwy’n meddwl bod y rhan fwyaf o droseddau’n berthnasol, er fuasen i ddim o raid yn edrych ar ddwyn syml o siop fel rhywbeth fuase’n arwain at droseddau rhyw” (Llu D4)

Mae cyfyngu ar yr hyn sydd yn golygu rhywun dan amheuaeth yn fynych ar lefel cyfansymu, heb ystyried amgylchiadau unigol y drosedd, yn broblem oherwydd fe all swyddogion fod yn colli gwybodaeth berthnasol, naill ai trwy beidio â chwilio amdani, neu ddiffyg dadansoddi beirniadol, a allai gyfrannu at yr ymchwiliad er mwyn ymchwilio’n fwy effeithiol a thargedu’r sawl a amheuir. Ymhellach, er nad yw peth troseddu mynych yn berthnasol i’r ymchwiliad yn y fan a’r lle, gall ddod yn berthnasol o ystyried sut y gellid tarfu ar droseddwr arbennig o doreithiog yn y tymor hwy. Mae’n bwysig felly i swyddogion ddeall y gwahaniaethau annelwig hyn a sut y maent yn cyfrannu at ymchwiliadau ar wahanol gyfnodau.

Methu adnabod yn iawn y sawl a amheuir yn fynych

Yn ogystal â’r heriau wrth gydnabod cwmpas troseddumynych, yr oedd problem hefyd wrth adnabod pa wybodaeth oedd ei hangen i ddod i farn ynghylch a oedd rhywun dan amheuaeth yn un mynych. Yr oedd swyddogion yn cydnabod y dylid cynnal gwiriadau trwy ddefnyddio gwahanol gronfeydd data i chwilio am wybodaeth am hanes troseddol blaenorol pan enwir unrhyw un oedd yn cael ei amau. Yr oedd yn glir o’r cyfweliadau a’r adolygiadau achos, fodd bynnag, nad oedd hyn yn digwydd yn wastad, ac yr oedd hyn yn ganfyddiad cyson ar draws pob llu. Er enghraifft, yn Llu B, nid oedd hanes troseddol rhai a amheuwyd, yn enweidg rhai o genedligrwydd tramor, yn cael ei wirio o gwbl - felly ni fu gwiriad ar eu statws fel rhai oedd yn dod dan amheuaeth yn fynych (neu nid oedd yn cael ei logio). Dywedodd swyddogion ar draws lluoedd nad oedd gwiriadau PNC/PND (Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu/Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu) am rai a amheuir yn fynych weithiau yn cael eu cynnal (neu’n cael eu cynnal ond heb eu cofnodi).

“Fe fuase’n dda gen i ddweud ein bod ni’n gwirio pawb yn genedlaethol … rwy’n meddwl y buasen i’n bendant yn gwirio ar PND petaen ni’n gwybod eu bod wedi byw yn ardal llu gwahanol … yna fe fuasen ni’n gwneud yn siwr fod hynny wedi’i wirio … Ond nid pawb sy’n gallu mynd at… mae PND yn gwrs ar wahan y buase’n rhaid i chi wneud. Felly buase’n rhaid i ni roi cais i mewn i’n timau gwybodaeth lleol iddyn nhw wneud hynny … Felly fuasen i ddim yn dweud fod pob un unigolyn yn cael ei wirio arPND ” (Llu A3)

“A yw e wastad yn digwydd [gwirio’rPND]? Na, petawn i’n onest, na dyw e ddim wastad yn digwydd … mae’n gam sy’n cael ei osod o hyd ond fuasen i’n dweud â hyder eu bod o hyd yn cael eu gwneud 100 y cant? Na, ddyweden i mo hynny” (Llu A5)

Dywedodd swyddogion yn Llu C fod eu system weithredu ‘anodd’ a ‘thrwsgl’ newydd yn rhwystro adrodd a chofnodi gwiriadau gwybodaeth yn effeithiol:

“Ar yr hen system fe fyddai swyddog yn codi job ac yn gwneud y gwiriadau ac yna’n rhoi’r holl ganlyniadau hynny at ei gilydd. A maen nhw’n mynd ar ein cofnod ymchwilio yn dwt ac yn daclus. Felly, fe allech weld beth oedd yr hanes rhwng y naill a’r llall. Beth sy’n digwydd nawr, rwy’n meddwl, yw bod y gwiriadau yn cael eu gwneud, ond ddim yn cael eu cofnodi, ac mae’n debyg mai’r rheswm am hynny yw bod [system y Llu] yn fwy anodd. Mae’n teimlo’n drwsgl. A rwy’n meddwl bod yna risg yn hynny” (Llu C3)

Dengys y canfyddiadau hyn fod diffyg adnabod y sawl a amheuiryn fynych, neu o leiaf gofnodi gwiriadau arnynt yn wael, yn effeithio ar strategaeth ymchwiliadol a gwneud penderfyniadau trwy gydol ymchwiliadau am nad oes gan y swyddogion y wybodaeth berthnasol i wneud y penderfyniadau ymchwilio mwyaf priodol.

Anwybyddu gwybodaeth am y sawl a amheuir yn fynych

Ar y gwaethaf, cafwyd adegau lle’r oedd swyddogion wedi fflagio rhai a amheuwyd ac a enwyd fel troseddwyrmynych, ac yna wedi nodi nad oeddent yn bobl a amheuwydyn fynych, er iddynt ddarganfod tystiolaeth glir i’r gwrthwyneb. Gwelwyd hyn yn yr adolygiadau achos, lle, ar draws lleoedd A i D, adnabuwyd 19% o’r rhai a amheuwyd fel rhai a amheuwyd yn fynych gan swyddogion. Fodd bynnag, pan aeth yr ymchwilwyr trwy’r wybodaeth a ddarparwyd iddynt gan yr adolygwyr, nodwyd 38% o’r rhai a amheuwyd fel rhai a ddaeth dan amheuaethyn fynych. Golyga hyn, er bod gwybodaeth fod rhywun dan amheuaeth wedi cael ei amau yn fynych ar gael yn rhwydd, roedd rhai ohonynt heb gael eu hadnabod fel rhaimynych. Tra gellir priodoli rhai o’r penderfyniadau hyn a wnaed i swyddogion yn cymhwyso diffiniad mwy cul o droseddu, cafwyd enghreifftiau lle cafodd manylion am euogfarnau blaenorol yn benodol am droseddau rhyw eu dogfennu, ac yna’u hanwybyddu.

“Er hynny, mae yna ddatgeliad am ymosodiad gan y dioddefwr yn 2018. Alla’i ddim gweld unrhyw wiriadau PNC na PND ar y dioddefwr na’r sawl a amheuir a dwyf i ddim yn gwybod a oes gan y sawl a amheuir unrhyw euogfarnau blaenorol am droseddau tebyg. Mae cofnod gan y swyddog ** a siaradodd i ddechrau gyda’r dioddefwr fod y sawl a amheuir yn hysbys am ymosod. Alla’i ddim gweld unrhyw wybodaeth bellach am hyn.” (Llu C - Achos 15, Adolygydd 1)

“Diffyg canolbwyntio ar y sawl a amheuir. A wnaed gwiriadPND? Mae 158 o ddigwyddiadau niche wedi eu cysylltu â’r sawl a amheuir 1 – a ymchwiliwyd yn llawn i hyn? Mae 38 o ddigwyddiadau wedi eu fflagio am y sawl a amheuir 2 – eto, a ymchwiliwyd i hyn? Mae weid cael ei fflagio fel camdriniwr domestig cyfresol, alla’i ddim gweld hyn wedi ei logio yn unman ar yr OEL. Mae S1 hefyd wedi ei fflagio fel troseddwr DA risg-uchel.” (Llu D – Achos 4, Adolygydd 2)

O amlygu’r effaith uniongyrchol ar ymchwiliadau a strategaeth ymchwiliadol (a ddatblygir yn Adran 3.6), canfuom yn Llu C fod patrymau ailadroddus o ymddygiad yn peri pryder, gan gynnwys troseddau blaenorol tebyg/troseddau cysylltiedig megis herwgipio, ymosod a chamdriniaeth ddomestig wedi eu hanwybyddu yn aml, ac o ganlyniad, nad oedd yr hanesion hyn yn cael eu bwydo i mewn i asesiadau risg nac i benderfyniadau, a allasai fod wedi newid hynt ymchwiliadau.

Defnyddio gwybodaeth am y rai a amheuir yn fynych yn ystod ymchwiliad

Pan ddatgelir gwybodaeth am droseddumynych, dylid wedyn ystyried ei berthnasedd i’r ymchwiliad. Dylai hyn gael ei wneud ar sawl lefel, gan gynnwys sut y mae’n cael ei ddefnyddio i gynnal asesiadau risg a sut y mae’n dod yn rhan o strategaeth ymchwiliadol.

Asesiadau risg anghyson

Mae ystyried troseddu mynych yn agwedd allweddol ar asesu risg, gan y dylai fod yn rhan o ganfyddiadau swyddogion am y modd y maent yn rheoli’r risg honno, ac yn sgîl hynny yn diogelu’r dioddefwr dan sylw a’r cyhoedd yn gyffredinol. Roedd rhai arwyddion fod gwybodaeth am rai oedd yn dod dan amheuaeth yn fynych yn cael ei defnyddio i farnu rhywun a amheuir fel un risg uchel:

“Felly rwy’n meddwl eich bod chi’n ymchwilio i rywun a gweld ei fod wedi ei arestio, yn sicr wedi ei gael yn euog o drosedd, ond hyd yn oed ei arestio am drosedd, mae eich lefel risg yn codi. Ac fe all effeithio ar pa mor fuan y gallwch, y byddwch yn blaenoriaethu hynny, am wn i, pa mor fuan y byddwch yn gwahodd y person hwnnw i mewn am gyfweliad neu fynd allan i’w arestio. Felly mae gwybodaeth yn eithaf allweddol o ran asesu risg “ (Llu A13)

“Roedd y troseddwr yn droseddwr ailadroddus o ran DV, a chyfeirir at hyn drwy’r amser ac y mae’n sail i’r penderfyniad i gadw yn y ddalfa ac yn benderfyniad i’r MARAC [Cynhadledd Amlasiantaethol Asesu Risg].” (Llu D - Achos 71, Adolygydd 1)

Tra bod un o’r enghreifftiau uchod yn dod o’r adolygiadau achos, yn y data hyn yr oedd yn glir hefyd fod gwybodaeth am droseddu mynych yn aml yn cael ei hanwybyddu wrth ystyried risg y sawl a amheuir, sy’n awgrymu bod hyn yn rhywbeth a ystyrir mewn egwyddor, yn hytrach na’i wneud mewn gwirionedd:

“Rwy’n nodi fod y DP wedi ei fflagio fel rhywun oedd yn cyflawni camdriniaeth ddomestig yn gyfresol yn erbyn ei bartneriaid, ac yr oedd ei bartneriaid blaenorol wedi bod a risg DV uchel ac yn destun MARAC. Mae’n amlwg yn risg i fenywod a fedra’i ddim gweld hyn wedi ei ddogfennu yn unman. Cafodd ei remandio tan yr achos llys, ond yn syfrdanol, fe’i cafwyd yn ddieuog yn y llys. Gellid bod wedi ystyried ei gyfeirio at brosiect Wisdom am ei fod yn amlwg yn risg i fenywod.” (Llu D - Achos 60, Adolygydd 2)

“Dyw hi ddim yn glir a oedd yr SOM [Rheolwr Troseddwyr Rhyw] wedi trafod y troseddu/ymddygiad gyda’r sawl a amheuir nac wedi ystyried a yw hyn yn batrwm o ymddygiad. Nid yw’n glir felly a ystyriwyd unrhyw orchmynion gwarchod.” (Llu C – Achos 11, Adolygydd 2)

Roedd tystiolaeth hefyd o risg yn cael ei Hasesu yn anghywir:

“Diffyg ystyriaethau ehangach ynghylch cyfeirio / ISVAs - canolig oedd y raddfa risg ar y DARA [Asesiad Risg Camdriniaeth Ddomestig] - fe ddylasai fod wedi bod yn uchel o gofio’r achosion lluosog o drais - roedd wedi ei gysylltu â threisio aelodau o’r teulu, wedi ei gael yn euog o’r blaen o droseddu’n rhywiol, yn defnyddio trais corfforol, etc. Hefyd, polisi’r llu yw fod pob achos o drais yn cael eu categoreiddio fel rhai risg uchel.” (Llu C - Achos 4, Adolygydd 2)

Mae’r canfyddiadau hyn hefyd yn ffitio i mewn â’r rhai o Biler Un sy’n awgrymu, yn gyffredinol, nad oedd asesiadau risg yn cael eu cynnal o gwbl, ac yn amlygu, pan oeddent yn digwydd, eu bod yn aml yn anghywir neu heb fod yn gwneud defnydd da o wybodaeth i’w gwneud yn rhan o’r penderfyniadau a wneir.

O rai o’r dyfyniadau uchod gan swyddogion yn trafod ymddygiad troseddu mynych perthnasol, mae peth tystiolaeth fod swyddogion yn ymwybodol o’r potensial i droseddwr waethygu, gyda rhai arwyddion eu bod yn teimlo fod rhai mathau o droseddu yn berthnasol o safbwynt asesu risg. Er enghraifft, yr oedd rhai sylwadau diddorol am y modd y gall gwybodaeth benodol am ymddygiad ddod yn rhan o ganfyddiad o risg, e.e. parodrwydd troseddwr i gario arf a sut y gall hyn fod yn berthnasol i fathau erial o droseddu. Yr oedd swyddogion ar draws y lluoedd, er hynny, yn nodi’n aml fod troseddwyr mynych oedd yn ddieithriaid yn gyffredinol yn cael eu gweld yn ‘fwy o risg’ na’r rhai oedd yn troseddu yn erbyn yr un unigolyn (troseddau domestig fel rheol). Soniodd swyddogion yn aml am y risg i’r cyhoedd a’r elfen ‘anhysbys’ o droseddau gan ddieithriaid, heb wybod lle y gallent daro nesaf, yn erbyn pwy, neu a allai eu troseddau waethygu, gyda’r troseddau hyn yn haeddu mwy o frys, amser ac adnoddau. Ar y llaw arall, y gred oedd bod y troseddau domestig yn cario llai o risg ar sail eu helfen ‘rhywun adnabyddus a amheuir’, sy’n golygu y gall swyddogion osod amodau i helpu i amddiffyn y dioddefwr.

“Pan mae’n ymosodiad gan ddieithryn, mae siawns y bydd y dieithryn yn troseddu eto a dydyn ni ddim yn gwybod pwy yw. Felly mae’n bwysig cael gafael ar y person hwnnw cyn gynted ag y gallwn, trio ffeindio allan pwy ydyw a’i leoli, ei arestio cyn gynted â phosib. Fel bod dim niwed arwyddocaol yn cael ei wneud i unrhyw bobl neu ddioddefwyr eraill” (Llu C9)

“Pryd bynnag y bydda’i yn meddwl am drais gan ddieithryn, rwy’n meddwl amdano yn nhermau bygythiad, risg, niwed, effaith ar y gymuned, y wasg … Gyda thrais gan ddieithryn, mae elfen o risg anhysbys a allai fod yn risg hefyd i eraill yn y gymuned, a hyn yn arwain at densiynau yn y gymuned. Mae’n golygu bod yn rhaid i’r broses ymchwiliadol i adnabod unigolion fod yn gyflym. Felly, cael pethau wedi eu prysuro trwy ein darparwyr gwasanaeth fforensig, er enghraifft. Felly achos o drais domestig, dwyf i ddim yn bychanu hynny o gwbl, ond does dim gorfodaeth o raid i’w gyflymu - os yw’r partner yn dweud fe dreisiodd fy ngŵr i fi dydd Mawrth diwethaf - am fod yna elfen hysbys i’r peth” (Llu D3)

“Os mai dieithryn ydyw, dylai’r tri thîm fod yn gweithio i’r eithaf. Dylai pawb roi’r gorau i bopeth arall a gweithio ar hynny … cael cyfarfodydd briffio rhwng y tri thîm, gweld beth allan nhw wneud o ran CCTV, cyflymu gwaith fforensig, unrhyw dystion” (Llu C7)

O safbwynt blaenoriaethu’r sawl a amheuir ac sydd ‘allan yn rhydd’, mae’n rhesymol barnu bod hyn yn fwy o risg i aelodau eraill y cyhoedd neu i neilltuo adnoddau i adnabod y troseddwr hwnnw, yn ogystal ag ystyried oblygiadau ehangach disgwyliadau’r gymuned. Mae posibilrwydd hefyd y gall swyddogion roi gwell gwarchodaeth i rywun sydd eisoes yn dioddef trosedd camdriniaeth ddomestig, am fod yr amgylchiadau yn caniatau rhoi cefnogaeth ychwanegol i’r dioddefwr hwnnw. Er hynny, gwelwyd peth dryswch ymysg swyddogion yma o ran y risg o ail-droseddu gan ddieithryn versus troseddwr camdriniaeth ddomestig i ddioddefwyr yn y dyfodol, gyda’r rhagdybiaeth fod y cyntaf yn fwy tebygol o lawer o ail-droseddu. Bydd dadansoddiadau pellach ym Mlwyddyn 2 yn gwneud y gwaith hwn, ond mae’n bwysig nodi nad yw’r rhagdybiaeth gyffredinol fod dieithriaid a amheuir yn fwy tebygol o ail-droseddu, heb ystyried y sawl a amheuir sydd dro ar ôl tro yn targedu’r un dioddefwr (ac a all fedru mynd yn rhwydd a chyson at y dioddefwr hwnnw), na’r syniad na all y sawl a amheuir sy’n cyflawni troseddau camdriniaeth ddomestig hefyd gyflawni troseddau yn erbyn mathau eraill o ddioddefwyr, yn rhagdybiaeth ddilys i’w gwneud ar sail y dystiolaeth sydd ar gael. Eto, mae’r syniad o neilltuo adnoddau i rywun a amheuir ac sydd ‘allan yn rhydd’ yn gwneud synnwyr o safbwynt risg, ond nid yw swyddogion ar hyn o bryd yn cydnabod (neu fel pe nad ydynt yn deall) y gall pobl a amheuir o drais camdriniaeth ddomestig neu yn erbyn rhywun maent yn adnabod ac sydd hefyd ‘allan yn rhydd’ - o gofio tuedd llawer o’r rhai a amheuir i gyflawni troseddau yn erbyn dioddefwyr sydd mewn perthynas wahanol iddynt - hefyd fod yn risg i ddioddefwyr ar wahan i’r un dioddefwr a adroddodd am y drosedd.

Defnydd anghyson o’r wybodaeth hon yn ffactorio i mewn i’r strategaeth ymchwiliadol

Pan fydd rhywun a amheuir yn cael ei adnabod fel un a amheuiryn fynych, dylid ystyried sut mae’r wybodaeth hon yn bwydo i mewn i’r ymchwiliad, ac a fydd yn dylanwadu ar y strategaeth ymchwiliadol. Yn y cyfweliadau, dywedodd swyddogion ar draws y lluoedd yn aml y byddai nodi rhywun fel yn dan amheuaeth yn fynych yn effeithio ar yr ymchwiliad ar lefelau gwahanol. Er enghraifft, dywedodd swyddogion y buasent yn aml yn ceisio arestio yn hytrach na gwahodd rhywun fu dan amheuaeth yn fynych i mewn am gyfweliad, neu geisio eu cadw yn y ddalfa yn hytrach na chaniatáu mechniaeth, ac y buasent yn ystyried defnyddio gorchmynion sifil ac atal mewn achosion o gamdriniaeth ddomestig:

“Os yw rhywun wedi cael ei gyhuddo o’r blaen o rywbeth tebyg, rydych chi eisiau cadw gafael yn dynn arnyn nhw. Os oes gyda chi ddigon i’w cyhuddo a’u cadw yn y ddalfa y diwrnod hwnnw neu dan amodau mechniaeth … maen nhw’n fygythiad i unrhyw un ardal, sut byddwn ni’n eu rheoli yn y gymuned” (Llu B6)

“Weithiau byddwn ni’n arestio rhywun am drosedd, darganfod trosedd arall gysylltiedig ac yna nid yn unig y byddwn ni’n dadansoddi mwy ar ffôn y person hwnnw, ond yn gofyn hefyd i’n Tîm Gwybodaeth Lleol i wneud tipyn o ddadansoddi mapio troseddau i weld a oes troseddau eraill y gallasai’r person hwnnw fod wedi eu cyflawni ac y gallwn ni ei gysylltu â nhw. A fyddai hynny ddim fel arfer yn digwydd i droseddwr tro cyntaf na fyddai gyda ni unrhyw seiliau rhesymol i’w amau o unrhyw droseddau eraill” (Llu A10)

“Os yw’n debygol o fod yn rhywun sy’n ymosod yn rhywiol … os tybiwn ni ei fod yn risg i gymdeithas, heb sôn am y dioddefwr, yna byddwn yn penderfynu ei arestio y cyfle cyntaf a gawn.” (Llu A5)

Mae tystiolaeth o’r adolygiadau achos, fodd bynnag, yn awgrymu nad oedd y wybodaeth am droseddu mynych yn cael ei defnyddio’n aml i wneud penderfyniadau am yr ymchwiliad a allai, fel y nododd Adolygydd 2 yn Achos 65, fod ag oblygiadau diogelu i’r dioddefwr:

“Dim sôn am ddim ar y cofnod trosedd am hanes troseddol blaenorol y sawl a amheuir. O edrych ar [y gronfa ddata cofnodi troseddau], mae’r sawl a amheuir yn destun gorchymyn aflonyddu yn erbyn ei gyn-bartner ac wedyn wedi ei gyhuddo o drais gan fenyw wahanol 6 mis yn ddiweddarach.” (Llu B – Achos 19466, Adolygydd 1)

“Roedd gan y cyhuddedig hanes o ddigwyddiadau domestig ac wedi ei gyhuddo o drais yn y gorffennol. Nid oedd hyn yn ffurfio rhan o’r ymchwiliad ac ni chafodd ei gyflwyno i CPS yn y CM01. Gallasai hyn yn y pen draw fod wedi arwain at iddo gael mechniaeth gan y llys a bod wedi arwain at ddigwyddiad arall i’r dioddefwr.” (Llu D - Achos 65, Adolygydd 2)

Unwaith eto, awgryma’r gwahaniaeth rhwng y cyfweliad a data adolygu’r achos fod gwahaniaeth rhwng yr hyn mae swyddogion eisiau ei wneud (neu’n teimlo y dylent wneud), a’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd. Mae gan ddiffyg cynnwys gwybodaeth am droseddu mynych yn y strategaeth ymchwiliadol botensial i gael effaith ar yr ymchwiliadau ar sawl lefel, megis cynhyrchu cynlluniau arestio priodol a strategaethau cyfweld.

Yn olaf, fel rhan o gynhyrchu strategaeth ymchwilio, mae’r cysyniad o ail-agor achosion a gaewyd er mwyn ymchwilio i set o achosion fel cyfres, neu gyfuno sawl achos sy’n mynd ymlaen ar yr un pryd. Ni thrafodwyd llawer o hyn, ond pan wnaed, negyddol oedd yr agwedd tuag ato:

“Weithiau, byddwn yn mynd yn ôl ac yn siarad â hen ddioddefwyr ond does dim fawr o archwaeth am hynny gan yr heddlu a’r CPS oherwydd galluedd” (Llu A19)

Mae hyn yn mynd yn groes i’r syniad o ymchwilio mwy effeithiol trwy gasglu ynghyd adroddiadau, gwybodaeth a thystiolaeth niferus, a allai yn y tymor hir helpu gyda galluedd oherwydd bod rhai a amheuir sy’n dod i sylw’r heddlu yn fynych yn cael eu trin yn fwy cyfannol ac yn y tymor hir.

Nid oes cysondeb wrth logio’r wybodaeth

Cafwyd tystiolaeth ar adegau o ddefnydd gwael o systemau logio troseddau lle nad oedd gwiriadau ar rai a amheuwyd yn fynych yn cael eu logio, hyd yn oed pan oedd yr adolygiadau achos yn awgrymu eu bod wedi eu cynnal:

“Honiad blaenorol o drosedd rhyw yn erbyn y cyhuddedig heb ei ddogfennu. Dim PNDi’r cyhuddedig.” (Llu D - Achos 71, Adolygydd 2)

Trafodir goblygiadau cofnodi data yn wael yn fanylach ym Mhiler Pump, ond nodwn, o safbwynt Piler Dau, y byddai gwell cofnodi yn arwain at ddeall yn gliriach unrhyw droseddu mynych, i unrhyw swyddogion eraill sy’n darllen trwy ddeunyddiau’r achos, ac i’r OIC a all, fel y nodwyd ym Mhiler Un, orfod dychwelyd at nodiadau’r achos wedi amser maith.

Fawr ddim tystiolaeth o darfu tymor-hir i dargedu troseddu mynych a thoreithiog

Er bod swyddogion ar draws lluoedd yn sôn am y posibilrwydd o ddefnyddio gorchmynion sifil i darfu ar droseddu yn y tymor hwy, nid oedd fawr ddim tystiolaeth fod hyn yn cael ei wneud mewn gwirionedd, oherwydd llwythi gwaith trwm a/neu ddiffyg dealltwriaeth. Meddai swyddogion yn Llu A:

“Yn aml, mae gan swyddogion gyfle mewn rhai ymchwiliadau maen nhw’n gynnal i wneud cais am naill ai orchmynion troseddol neu sifil, fel Gorchmynion Atal Niwed Rhywiol neu Orchmynion Risg Rhywiol. A tydyn nhw ddim yn deall, ddim hyd yn oed yn gwybod beth yw’r rhain, na sut i fynd ati i’w cael. Ac yna pan maen nhw’n gwneud, mae ganddyn nhw’r her o reoli eu baich achos presennol a rheoli’r cais arbennig hwn. Mae hyn yn creu problem, a tydw i ddim yn meddwl ein bod ni’n cael digon ohonyn nhw, a bod yn onest, fel cam ataliol” (Llu A10)

Ni chafodd y syniad hwn o atal troseddau ei drafod yn fanwl gan unrhyw rai o’r swyddogion, yn y cyfweliadau na’r adolygiadau achos. Nodwn yma fod targedu troseddumynych yn symud y tu hwnt i’r angen yn y fan a’r lle i ymchwilio i’r sawl a amheuir ac y dylai - o safbwynt atal troseddau, diogelu dioddefwyr, ac adnoddau - ystyried dewisiadau yn y tymor hwy i darfu ar droseddu. Rhaid i blismona fod yn fwy rhagweithiol ei agwedd at darfu ar bobl a amheuir y mae ganddynt wybodaeth amdanynt sydd yn cyflawni troseddau mynych. Fel hyn, amlygir pwysigrwydd Piler Dau trwy angen swyddogion i ystyried ffyrdd tymor-byr o ymchwilio i’r rhai a amheuir yn fynych, ond yn hanfodol hefyd i ddeall sut y mae tarfu yn y tymor hir yn chwarae rhan i frwydro yn erbyn troseddumynych.

Diffyg ymwneud ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith a heddluoedd eraill i dargedu’r sawl sy’n dod dan amheuaeth yn fynych

Cafwyd llawer enghraifft lle dangosodd swyddogion ddiffyg ymwneud ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith neu heddluoedd eraill. Er enghraifft, ac fel y nodwyd uchod, nid oedd gwiriadau gwybodaeth am dramorwyr o genhedloedd eraill yn aml yn cael eu gwneud, nid oedd cyswllt ag Unedau Rheoli Troseddwyr (OMUs) yn cael ei ystyried, ac nid oedd asiantaethau eraill sydd gan yr heddlu yn cael eu hystyried chwaith:

“Nid yw’n ymddangos i’r achos hwn gael ei godi i MARAC sydd yn peri pryder am ei fod yn amlwg fod y sawl a amheuir yn unigolyn a all fod yn beryglus ac mai mater o amser fydd hi nes y bydd yn aildroseddu neu’n gwneud rhywbeth gwaeth.” (Llu B – Achos 14109, Adolygydd 2)

Gwelwn ddiffyg cydlynu tebyg gyda CPS i dargedu’r sawl a amheuir yn fynych. Defnyddiwyd Cyngor Cynnar mewn 6.78% o achosion yn unig lle’r adnabu’r heddlu rywun a amheuwyd yn fynych. (6/76; neu 3.95% o achosion os defnyddir dull adnabod yr ymchwilwyr neu rai a amheuwydyn fynych; 6/152), ac adlewyrchwyd hyn yn sylw’r erlynwyr am y diffyg gwybodaeth a roddwyd iddynt am droseddu mynych a’r problemau a achoswyd gan hyn:

“Ddyweda’i wrthoch chi beth, dydyn ni ddim o raid yn cael gwybod fod rhain yn droseddwyr ailadroddus … dydw i ddim yn meddwl ein bod ni’n gwneud digon rhyngom ni a’r heddlu, nad oes cysylltiad i’r mathau hyn o achosion … Does dim cyswllt gyda fi â neb am droseddwyr ailadroddus, na’r math o berson y buaswn i’n alw yn droseddwr peryglus y mae angen i ni wneud rhywbeth yn ei gylch. Ac a dweud y gwir, fe all hynna fod yn rhywbeth mae’n rhaid i ni gael ar lefel uwch o lawer, sgwrs lefel uchel am lle’r ydym ni’n mynd, beth yw ein strategaeth ar gyfer yr achosion hynny” (Llu A, CPS1)

Tystiolaeth gyfyngedig sydd o unrhyw weithio ar y cyd, gan gynnwys i wella arbenigedd ymchwiliadol trwy ddefnyddio cydweithwyr, ac y mae hyn oll yn bwydo i mewn i ddarlun o ddiffyg dealltwriaeth o’r angen i adnabod, ymchwilio a thargedu’n strategol y sawl a amheuir yn fynych.

Diffyg gwybodaeth arbenigol a galluedd sy’n rhwystro’r gallu i adnabod, cydnabod ac ymchwilio i rai a amheuir yn fynych a tharfu arnynt yn y tymor hir

Mae’r diffyg uchod o gydnabod beth yw rhywun a amheuir yn fynych, y diffyg gallu i adnabod y wybodaeth hon, na deall sut i’w defnyddio yn syth yn yr ymchwiliad ac fel rhan o gynllun tymor-hir i darfu ar droseddu yn dystiolaeth o swyddogion nad ydynt wedi eu harfogi’n iawn, o ran eu dealltwriaeth a’u galluedd, i dargedu’r sawl a amheuir yn fynych. Mae hyn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r canfyddiadau ym Mhileri Un a Phedwar am yr angen dybryd am ymagwedd arbenigol at ymchwilio i droseddau rhyw. Mae’n dangos nad yw swyddogion yn gyffredinol ar hyn o bryd yn deall troseddu rhyw, gan gynnwys troseddumynych, sydd yn cynhyrchu dibyniaeth ar agweddau diwylliannol sydd wedi dyddio, ac yn arwain at golli cyfleoedd ac arferion ymchwilio gwael yn y tymor byr a’r tymor hir. Er bod peth tystiolaeth o wybodaeth arbenigol yng nghyswllt targedu’r sawl sydd dan amheuaeth yn fynych y gellid tynnu arno o feysydd plismona eraill, nid oes llawer o dystiolaeth fod y wybodaeth hon yn cael ei rhannu ar hyn o bryd.

Mae’n bwysig nodi yma, i ymchwilwyr, nad oedd y syniad o darfu yn y tymor hir yn rhan o’u rôl nac wedi cael ei ystyried ar lefel galluedd. Fel y nodwyd ym Mhiler Un, gwelwyd llawer o gyfleoedd wedi eu colli yn yr adolygiadau achos, ac nid oedd y rhai lle’r oedd pobl a amheuwyd yn fynych yn eithriad o gwbl, gyda 67% o achosion lle nodwyd y sawl a amheuir fel rhai mynych yn cynnwys y mathau hyn o wallau ymchwilio. Nid oes gan swyddogion yr amser na’r lle i ystyried dewisiadau tymor-hir ar gyfer tarfu ar droseddu, a dim llwybrau clir i swyddogion fod yn rhan o’r gwaith hwn unwaith i ymchwiliad gau. Mae hyn yn cynnwys diffyg cefnogaeth gan ddadansoddwyr i helpu adnabod ac yn sgîl hynny darfu yn y tymor hir ar droseddu.

Arferion addawol

O’r arolygon a’r adolygiad o’r dogfennau, nodwyd llawer o arferion addawol a roddwyd ar waith gan rai o’r lluoedd i dargedu’r sawl a amheuir o droseddu rhyw ynfynych. Yr oedd hyn yn cynnwys tystiolaeth o ymagweddau mwy rhagweithiol at blismona megis:

  • Operation Vigilant: plismona mannau cyhoeddus economi’r nos i ddiogelu dioddefwyr posib;

  • Operation Bassona: gweithredu rhagweithiol i dorri ar draws, tarfu ar neu blismona’r rhai a nodwyd fel troseddwyr a allai fod yn risg uchel, gan ddefnyddio’r model Diweddar, Amlder, Difrifoldeb;

  • Uned Troseddwyr Ymosodol; uned sy’n canoli ar droseddwyr gyda’r nod o fynd i’r afael â throseddu rhyw mynych.

Mae’n bwysig nodi, er i lwybrau ar gyfer tarfu yn y tymor hir gael eu crybwyll yn aml yng nghyd-destun casglu’r math hwn o ddata, megis defnyddio gorchmynion sifil, awgryma tystiolaeth o’r cyfweliadau a’r adolygiadau achos nad yw’r dewisiadau hyn mewn gwirionedd yn cael eu deall yn dda na’u hystyried fel mater o drefn. Er i blismona gwybodus a moesegol hefyd gael ei grybwyll fel rhan o gasglu’r data hwn, o ran nodi lle y rhoddwyd i swyddogion y mewnwelediad a’r wybodaeth i’w galluogi i ddelio ag ymchwiliadau i droseddau rhyw, yr oedd tystiolaeth gref yn y cyfweliadau a’r adolygiadau achos nad yw gwybodaeth yn hyn o beth ar gael yn ymarferol (mae Piler Pedwar yn ymdrin yn fanylach â hyn). Ymhellach, codwyd rhai problemau gyda rhai mentrau, megis y ffaith fod yr Uned Troseddwyr Ymosodol yn canolbwyntio’n bennaf ar droseddau gan ddieithriaid, ac nad oeddent yn aml yn cael y wybodaeth angenrheidiol i helpu i ymchwilio i’r troseddau hyn.

Mae newid yn bosib

Dangosodd yr adolygiadau achos a gynhaliwyd fel rhan o’r gwaith peilot yn Llu E ryw lefel gyffredinol o welliant o ran adnabod a tharfu ar a rai a amheuiryn fynych. Er enghraifft, mae’n debyg i’r rhan fwyaf o wiriadau gael eu cynnal/ceisio am y sawl a amheuwyd yn yr holl achosion a adolygwyd, er bod oedi weithiau gyda’r gwiriadau hyn, ac mewn achosion eraill, nid oedd tystiolaeth ar y system cofnodi troseddau i ddangos fod y gwiriadau wedi eu cwblhau ar ôl cael eu gosod fel gweithred. Mewn chwech o’r 12 achos oedd ar gael adeg ysgrifennu hyn, gofynnwyd am wiriadau gwybodaeth am ddioddefwyr, ac mewn dau achos, cynhaliwyd y gwiriad dioddefwr cyn gwiriad y sawl a amheuwyd, sy’n awgrymu yr erys lefel o amheuaeth a chraffu ar ddioddefwyr hyd yn oed wrth i ymchwiliadau ganolbwyntio yn awr yn fwy ar y sawl a amheuir.

Gwnaeth rhai o’r achosion mwy diweddar a adolygwyd ddefnydd digonol o dactegau tarfu tymor-byr, megis y defnydd o amodau mechniaeth a rhybuddion brawychu tystion, ac yr oedd yn edrych fel petai mwy o ymwybyddiaeth o’r defnydd o orchmynion sifil. Gwelwyd dwy enghraifft mewn achosion domestig o arferion da yn hyn o beth. Mewn un achos, sefydlwyd cynllun rheoli tarfu yn syth gan y Ditectif Sarjant oedd yn goruchwylio, oedd yn cynnwys arestio’r un dan amheuaeth a defnyddio amodau mechniaeth. Er i un o’r achosion hyn gael eu cau oherwydd deilliant 15 (oherwydd anawsterau tystiolaethol) a’r llall fel deilliant 14/16 (am nad oedd y dioddefwr yn cefnogi gweithredu gan yr heddlu), bu cydweithio da gyda’r Ymgynghorydd Trais Domestig Annibynnol / Ymgynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol i sicrhau tarfu yn y tymor hir ar y sawl oedd dan amheuaeth a diogelu’r dioddefwr trwy ei helpu i gael gorchymyn peidio ag ymyrryd. Hefyd, sefydlwyd ‘strategaeth gadael i’r sawl a amheuwyd’ oedd yn un cynhwysfawr ac yn cynnwys cynllun rheoli risg i darfu yn y tymor hir, gyda’r Gwasanaeth Prawf yn dal i reoli’r sawl a amheuwyd (y cofnodwyd ei fod wedi torri gorchmyn peidio ag ymyrryd blaenorol yn erbyn y dioddefwr a’i fod wedi ei nodi felly fel un a ddaeth dan amheuaethyn fynych).

Yr oedd peth tystiolaeth hefyd o neilltuo adnoddau yn fwy priodol i ymchwilio i set o droseddau fel cyfres, yn hytrach nac ymchwiliadau ar wahan. Cysylltwyd yr achos oedd yn cael ei adolygu yn syth â dau achos arall (a thri yn nes ymlaen pan ddigwyddodd un arall cysylltiedig) gyda’r un person dan amheuaeth (un gyda’r un dioddefwr, un lle’r oedd y dioddefwr yn bartner y dioddefwr cyfredol a thyst yn yr un achos), gyda chofnodion y troseddau’n cael eu cysylltu â’i gilydd yn logiau troseddu perthnasol eraill. Yn hytrach nag ymchwilio iddynt ar wahan, neilltuwyd yr un OIC i’r achosion hyn, a chyfwelwyd y sawl a amheuwyd a’r dioddefwr am y tri achos. Bu rhai problemau gyda chofnodi dros y tri log cofnodi troseddu gwahanol; er enghraifft, cofnodwyd cyfeiriad diogelu’r dioddefwr ar log trosedd, ond nid y lleill, er i hyn gael ei fflagio fel heb fod yn bresennol ar un o’r logiau gan y meddalwedd prosesu data, a’i newid wedyn gan yr OIC. Mae hyn yn dangos rhyw ymgais ar ran Llu E i ystyried troseddu mynych yn fwy cyfannol a gwneud penderfyniadau ymchwilio gwahanol o’r herwydd.

Crynodeb a chasgliad

Yr oedd yr heriau wrth adnabod rhai oedd yn cael eu hamau yn fynych, defnyddio’r wybodaeth hon yn ystod ymchwiliad, ac ystyried tarfu ar droseddu yn y tymor hir, yn debyg ar draws y pum llu braenaru. Mae’r data a gasglwyd a’r materion a ddaeth i’r amlwg yn dangos yn union pa mor bwysig yw pwnc troseddu mynych ac mai mater o’r pwys mwyaf yw ateb yr her. Mae’r heriau cyffredin a welwyd ar draws pob llu yn dangos diffyg dealltwriaeth gyffredinol o sut y gall troseddu mynych ymddangos, sut i’w adnabod, a sut y gall gwybodaeth a gafwyd am droseddu mynych gyfrannu at yr ymchwiliad ar sawl lefel. Mae’n amlwg hefyd nad oes fawr ddealltwriaeth o sut i darfu ar droseddu mynych yn y tymor hwy. Lle mae’r wybodaeth yn bodoli, mae diffyg galluedd yn aml o du swyddogion i allu cynnal ymchwiliad llawn a thrylwyr ac i gymryd perchenogaeth o daclo troseddu mynych y tu hwnt i ffiniau’r ymchwiliad sy’n digwydd ar y pryd.

Fel y nodwyd uchod, mae tarfu yn y tymor hir ar droseddu mynych yn arbennig o bwysig os yw gorfodi’r gyfraith am gael effaith strategol, ystyrlon ar droseddu o safbwynt atal. Mewn rhai cyd-destunau plismona eraill, mae’r math hwn o darfu yn cael ei wneud i ryw raddau gan Unedau Rheoli Troseddwyr (e.e., Unedau Troseddwyr Niwed Uchel22), ond erys diffyg cysylltiad, gyda’r swyddogion fu’n rhan o’r achos perthnasol yn methu bod â pherchenogaeth - na’r arbenigedd i wneud hynny - o rywun a amheuir yn fynych, sydd angen targedu mwy strategol. Unwaith eto, mae cyfleoedd i dynnu ar fathau eraill o droseddau i edrych ar ddewisiadau mwy strategol i darfu ar droseddu, megis defnyddio Cynadleddau Asesu Risg Amlasiantaethol (MARAC) i dargedu troseddu domestig, ond yma eto, awgryma tystiolaeth nad yw’r dewisiadau sydd ar gael yn cael eu hystyried ac nad oes trefn gyfatebol, benodol i droseddu rhyw, wedi ei sefydlu i swyddogion wneud defnydd ohoni sydd yn gweithredu y tu hwnt i reoli troseddwyr a gafwyd yn euog.

Mae’r allbynnu a gynhyrchwyd ym Mlwyddyn 1 Piler Dau yn ymdrin â rhai o’r heriau allweddol a nodwyd yn ystod yr archwiliad dwfn. Mae’r Map Ymchwiliadau newydd yn amlinellu sut y gall swyddogion ymgorffori ystyried troseddu mynych ym mhob pwynt yn yr ymchwiliad. Dylai’r ymagwedd o gael tîm arbenigol a gynigir roi amser a lle i swyddogion allu ystyried ymchwilio yn y tymor byr a tharfu yn y tymor hir, a rhoi i swyddogion y gefnogaeth a’r arbenigedd i adfyfyrio yn feirniadol ar benderfyniadau a wnaed, gyda chefnogaeth briodol gan oruchwylwyr a dadansoddwyr i wneud yn siwr fod mynd i’r afael â throseddu mynych yn dod yn rhan ganolog o strategaeth plismona i wrthweithio troseddu rhyw.

Yr hyn a gyflwynir yn gyffredinol gan Biler Dau yw’r cyfraniad i’r Model Gweithredu Cenedlaethol am ymchwiliadau i droseddau trais a throseddau rhyw eraill, fydd yn bont rhwng strategaethau perthnasol cyffredinol a gwaith plismona o ddydd i ddydd. Bydd ein cyfraniad yn sicrhau bod y model yn gwreiddio arbenigedd, ymagwedd o weithio fel tîm, a’r Map ymchwiliadau, sy’n cynnwys ymagwedd o ganolbwyntio ar y sawl a amheuir at ymchwiliadau ynghyd a tharfu yn syth ac yn y tymor hir ar y sawl a amheuir yn fynych.

ATODIAD 9: PILER TRI - GWREIDDIO CYFIAWNDER TREFNIADOL AC YMWNEUD Â DIODDEFWYR

Tîm y Piler

Arweinyddion y Piler: Dr Olivia Smith a Dr Kelly Johnson. Tîm y Piler (yn nhrefn y wyddor): Dr Oona Brooks-Hay (cyd-ymchwilydd), Sophie Geoghegan-Fittall, Dr Beth Jennings, Adrian Harris (Cydlynydd y Prosiect), Dr Susan Hillyard, Yr Athro Katrin Hohl (cyd-ymchwilydd), Sarah Molisso, Dr Andy Myhill (cyd-ymchwilydd), Dr Rosa Walling-Wefelmeyer.

Beth yw sylfeini Piler Tri?

Dengys ymchwil y gall y broses cyfiawnder troseddol aildrawmateiddio dioddefwyr-goroeswyr trais rhywiol. Cydnabu’r Adolygiad Trais hyn, gan nodi fod “trawma’r drosedd a’u profiad wedyn yn peri i lawer dioddefwr ddatgysylltu oddi wrth y broses cyfiawnder troseddol… Gwyddom fod dioddefwyr a’r mudiadau sy’n eu cefnogi yn teimlo eu bod wedi eu siomi yn ddrwg” [footnote 140]. Crynhowyd y broblem gan un dioddefwr-goroeswr fu’n siarad â ni fel: “rydych yn cael eich rhoi mewn sefyllfa ymyrrol pan gewch eich treisio ac yna mae’r ymchwiliad yr un mor ymyrrol o’r dechrau i’r diwedd” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 3).

Mae methiannau hysbys y system cyfiawnder troseddol mewn trais rhywiol wedi cyfrannu at hyder isel mewn plismona. Mewn arolwg gan y Comisiynydd Dioddefwyr[footnote 141], dim ond 14% o 491 o ddioddefwyr-goroeswyr a gytunodd fod modd cael cyfiawnder trwy ddweud wrth yr heddlu. Ceisiodd yr Adolygiad Trais adennill hyder trwy gynyddu cyfraddau cyhuddo a chyflwyno dangosfyrddau cyflawni perfformiad. Fodd bynnag, nid yw hyn ynddo’i hun yn adlewyrchu yn ystyrlon nac yn llawn anghenion dioddefwyr-goroeswyr. Fel y dywedodd un dioddefwr-goroeswr:

“Diweddodd fy achos i gyda dyfarniad o euog a dedfryd o ddeng mlynedd, ond pan fydd pobl yn fy holi am fy mhrofiad, nid dweud yr ydw i ‘hwrê, fe gafodd ei roi yn y carchar’, ond ‘wel, mi gefais dro gwael ar y pwynt yma, a’r pwynt yma, a’r pwynt yma” (Dioddefwr-Goroeswr, Llu B).

Y prif fframwaith damcaniaethol i gynyddu hyder yn yr heddlu yw Damcaniaeth Cyfiawnder Trefniadol (PJT). Amlinellwyr PJT yn dda gan Hohl, Johnson a Molisso[footnote 142], ond y syniad creiddiol yw, trwy gydnabod grym symbolaidd y modd maent yn trin pobl, y gall yr heddlu gynnig ymdeimlad o gyfiawnder y tu hwnt i’r deilliannau eu hunain. Mewn geiriau eraill, mae’r ffordd mae’r heddlu yn trin dioddefwyr-goroeswyr, y sawl a amheuir ac aelodau eraill y cyhoedd yn anfon neges am eu gwerth mewn cymdeithas yn ehangach. Mae dioddefwyr-goroeswyr yn ymwybodol o’r grym symbolaidd:

“Os nad yw’r heddlu yn ei gymryd o ddifrif, a’i bod yn drosedd, pam na ddylai cymdeithas wneud yr un peth?” (Dioddefwr-Goroeswr, Llu C)

Mae cydrannau PJT wedi newid dros amser, ond fe’u disgrifir yn bennaf fel: llais, urddas a pharch, niwtraliaeth, a chymhellion dibynadwy. Fodd bynnag, datblygwyd PJT yng nghyd-destun stopio ac archwilio, gan dynnu fel arfer ar arolygon meintiol gydag aelodau’r cyhoedd[footnote 143]. Ychydig sy’n hysbys am y modd mae PJT yn gymwys i ddioddefwyr-goroeswyr, ac edrychwyd i mewn lai fyth iddo yng nghyd-destun trais rhywiol[footnote 144]. Mae Piler Tri felly yn edrych i weld sut y gall yr heddlu wreiddio cyfiawnder trefniadol wrth ddwyn i mewn ddioddefwyr-goroeswyr trais a throseddau rhyw eraill.

Methodoleg Piler Tri

Gwnaethom fabwysiadu ystod o ddulliau ym Mhiler Tri. Yn genedlaethol, ymgynghorwyd â 42 o ddioddefwyr-goroeswyr ar draws pum panel o arbenigwyr-trwy-brofiad i gael eu barn am ddamcaniaeth cyfiawnder trefniadol. Yr oedd y paneli hyn yn cynnwys ymgynghori â dioddefwyr-goroeswyr niwroamrywiol[footnote 145], rhai ag anabledd dysgu, gwryw, a lleiafrifoedd hil.

Gwnaethom hefyd gwblhau pedwar ‘Archwiliadau Dwfn’. Yr oedd union ffynonellau’r data yn amrywio rhwng pob gwaith Archwiliad Dwfn yn dibynnu ar beth oedd ar gael a sut i’w gyrchu, ond dyma oedd ein sampl ar draws y flwyddyn:

  • 324 awr o arsylwadau ethnograffig gyda 14 uned ymchwilio.

  • 34 awr o gyfweliadau a recordiwyd ar fideo (VRIs) gyda dioddefwyr-goroeswyr mewn 27 achos.

  • 17 x grŵp ffocws gyda’r heddlu o dimau anfon, ymateb ac ymchwilio.

  • 15 x cyfweliad neu grŵp ffocws gyda gweithwyr cymorth o ddarparwyr y trydydd sector, Ymgynghorwyr Annibynnol Trais Rhywiol (ISVAs) yn bennaf.

  • 14 awr o fideo a wisgir ar y corff (BWV) o’r cyswllt cyntaf gydag 16 dioddefwr-goroeswr.

  • 8 x ymgynghoriad gyda dioddefwyr-goroeswyr o baneli lleol arbenigwr-trwy-brofiad.

  • 8 x cyfweliad gydag uwch-reolwyr yr heddlu oedd â chyfrifoldeb dros benderfyniadau strategol am adnoddau a KPIs.

  • Mapio 108 o ddogfennau polisi a chyfarwydd mewnol am ddioddefwyr-goroeswyr.

Mae ymwneud yr heddlu â dioddefwyr-goroeswyr yn anghyson

Yn yr holl archwiliadau dwfn a’r paneli arbenigwyr-trwy-brofiad, clywsom am amrywiadau yn ansawdd ymateb yr heddlu i drais rhywiol. Yr oedd dioddefwyr-goroeswyr yn disgwyl mai negyddol fyddai’r rhan fwyaf o brofiadau, ac yr oeddent yn teimlo’n ‘lwcus’ petaent yn osgoi hyn:

“Loteri cod post yw hi, ac y mae’n dibynnu ar y swyddog gewch chi.” (Dioddefwr-Goroeswr, Llu C)

“Cafodd [enw] brofiad ofnadwy gyda’r heddlu, a beth ddywedodd [enw] yw bod y profiad gyda’r heddlu yn wych. Mae fel ‘dewis ar hap’. Os ewch chi ar ddydd Iau, fe gewch y loteri. Os ewch ar ddydd Gwener, fe gollwch.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 2)

Yr oedd y rhan fwyaf o heddweision y buom ni’n siarad â hwy ac yn eu harsylwi eisiau rhoi gwasanaeth da i ddioddefwyr-goroeswyr. Yr oeddent yn tanlinellu pwysigrwydd trin dioddefwyr-goroeswyr yn dda, gwrando arnynt a gwneud iddynt deimlo fod rhywun yn clywed yr hyn roeddent yn ddweud. Cafodd gwneud ‘job dda’ i dddioddefwyr-goroeswyr yn aml ei ddisgrifio fel rhan o’u gwaith oedd yn werthfawr, ac yr oedd swyddogion yn aml yn mynegi rhwystredigaeth am nad oed ganddynt ddigon o amser i ymwneud â dioddefwyr-goroeswyr a chynnig cefnogaeth iddynt.

Yr oedd lluoedd ar wahanol gyfnodau o ystyried amrywiol gydrannau cyfiawnder trefniadol, ond yr oedd llawer o swyddogion unigol yn cydnabod pwysigrwydd llais, ymddiriedaeth, tegwch, urddas, a pharch. Er enghraifft, yr oedd llawer o swyddogion yn Llu B yn cydnabod fod gan ddioddefwyr-goroeswyr fywydau cymhleth y tu allan i’r ymchwiliad ac mai diogelwch all fod y peth pwysicaf:

“Mewn llawer achos efallai na chewch chi euogfarn droseddol, ond fe gewch ganlyniad diogelu, sy’n wych o’u safbwynt hwy. Efallai y cewch chi rywbeth trwy’r llysoedd teulu neu hyd yn oed Orchymyn Gwarchod rhag Trais Domestig.” (Arsylwadau, Llu B)

Ar yr un pryd, cydnabuwyd fod y llu “wedi ei yrru gan ystadegau yn anad dim” (Swyddog Heddlu, Llu B), heb ffordd ffurfiol o gydnabod pwysigrwydd trin dioddefwyr-goroeswyr.

Lle bynnag y gwelsom arfer da, yr oedd hyn yn dueddol o gael ei sbarduno gan arweinwyr unigol ar draul eu lles eu hunain, er gwaethaf canfyddiad o gyfraniad cyfyngedig gan Brif Gwnstabliaid neu uwch-reolwyr eraill. Er enghraifft, yr oedd gan Lu C weithlu wedi ‘blino’n lan’, gyda rheolwyr oedd yn gweithio oriau anghynaladwy i osod mentrau newydd arweiniol yn genedlaethol. Yr oedd y rhain yn cynnwys cynlluniau peilot fydd yn mynd ymlaen i Flwyddyn 2, megis: cyd-leoli ISVA-heddlu, llysoeddpenodedig, ymgynghorwyr ymwneud cymunedol, a fforymau Llais y Dioddefwyr.

Yr oedd ISVAsa dioddefwyr-goroeswyr yn cydnabod ymdrechion llawer o heddweision i roi gwasanaeth da. Fodd bynnag, clywsom hefyd am brofiadau hynod drawmatig ynghylch adrodd wrth yr heddlu:

“Fe wnes i bopeth a phopeth y gofynnodd yr heddlu, ond delio â hwy oedd y profiad gwaethaf a mwyaf trawmatig. Maent yn annynol, misogynistaidd, difeddwl a chreulon … Rwyf wedi fy nhreisio ac wedi dioddef chraffu arnaf, cymerwyd fy ngwaed, swabiau o bob rhan o ‘nghorff, pobl yn edrych ar fy organau cenhedlu, fy nghyffwrdd i, cymryd fy ffôn a f’eiddo a pheidio â’u rhoi yn ôl. Roedd fy hanes wedi ei gymryd a’i adolygu a’i farnu am unrhyw rithyn o wybodaeth y gallent ei ddefnyddio yn f’erbyn.” (Dioddefwr-Goroeswr, Llu A).

Felly, tra bod rhai dioddefwyr-goroeswyr yn cael eu trin yn dda, nid yw hyn yn digwydd i eraill, a rhaid ymdrin â’r anghysondeb hwn yn awr:

“Ddylai hi ddim golygu bod un o bob deg o swyddogion yr heddlu yn trin dioddefwr â pharch, dylai fod yn ddeg allan o ddeg yn trin dioddefwr a pharch. Byddai deg allan o ddeg o ddioddefwyr yn galw’r heddlu eto. Ddylai hi ddim bod yn un o bob deg o ddioddefwyr.” (Dioddefwr-Goroeswr, Llu B)

Methiant i fodloni hawliau Cod Dioddefwyr y dioddefwyr-goroeswyr

Yr oedd yr holl luoedd yn cydnabod pwysigrwydd y Cod Ymarfer Dioddefwyr (Cod Dioddefwyr). Fel rhan o ymrwymiad y Cod Dioddefwyr i wybodaeth am yr ymchwiliad, yr oedd gan Lu D darged mewnol o ddiweddariadau bob saith diwrnod. Yr oedd Llu B hefyd yn gwirio a fu diweddariadau o leiaf bob 28 diwrnod fel rhan o adolygiadau achos arferol gan uwch-swyddogion. Yn yr un modd, yr oedd ganddynt ffurflenni i annog swyddogion i ystyried pryd a sut i ymwneud a dioddefwyr-goroeswyr, er enghraifft, a ddylid osgoi rhai dyddiau neu amseroedd oherwydd eu hymlyniad crefyddol, sefyllfa ddomestig, meddyginiaeth neu amgylchiadau eraill. Tameidiog oedd ymwybyddiaeth a defnydd o’r ffurflen, ond yr oedd yn dangos symudiad tuag at ymwneud yn bwrpasol ac yn ystyriol â dioddefwyr-goroeswyr.

Mewn mannau eraill, yr oedd yr hawl i ddiweddariadau o leiaf bob 28 diwrnod dan y Cod Dioddefwyr yn cael ei ystyried yn foethusrwydd:

“Y Cod Dioddefwyr. Dydyn ni byth yn cadw ato.” (Heddwas, Llu C)

“Mae’r cyfathrebu wedi bod yn rwtsh a hyd yn oed amlygu’r Cod Dioddefwyr a’r pethau maent i fod i wneud, does dim byd wedi newid. Ac y maen nhw’n ymddiheuro, neu, rwy’n teimlo ei bod yn bychanu ac yn gwneud esgusodion, wir, yn hytrach nag ymdrin â’r pryderon. Ond dwyf i ddim yn teimlo bod neb yn malio.” (Dioddefwr-Goroeswr, Llu C)

Mae’r Cod Dioddefwyr hefyd yn amlinellu’r hawl i ddioddefwyr-goroeswyr gael eu cefnogi i ddeall y broses cyfiawnder a chyfathrebu’n dda; fodd bynnag, yr oedd pob llu yn ei chael yn anodd sicrhau cyfieithwyr a chyfryngwyr o ansawdd uchel yn gyflym.

Gall hawliau preifatrwydd gael eu hanwybyddu neu eu tanseilio (yn aml yn anfwriadol):

Awgrymodd ein harsylwadau a grwpiau ffocws yr heddlu ar draws pedwar llu braenaru fod ffonau dioddefwyr-goroeswyr yn cael eu lawrlwytho fel mater o drefn yn ystod y cyfweliad oedd yn cael ei recordio ar fideo. Yr oedd swyddogion yn gwneud hyn i gefnogi dioddefwyr-goroeswyr trwy sicrhau nad oeddent yn cael eu gadael heb ffôn, gan gydnabod y byddai hyn yn tarfu yn enbyd:

“Mae’r swyddog yn dweud wrtha’i fod y broses o archebu ffonau i mewn yn gweithio’n reit dda ac y mae dioddefwyr heb eu ffonau am ddwy awr yn unig [tra’u bod yn cael eu cyfweld]. Mae hi’n dweud fod ganddyn nhw ffonau y gallant roi i ddioddefwyr os byddan nhw heb un, ond maen nhw wedi dod yn dipyn o jôc yn y swyddfa am nad oes ganddyn nhw wefrydd neu fydd yna ddim credyd ar y SIM. Pan roddodd y rheolwr ffôn iddi roi i ddioddefwr a hithau’n dweud nad oes yna wefrydd, fe ddywedon nhw ‘wel, mi all brynu gwefrydd.” (Arsylwadau, Llu D)

Fodd bynnag, mae hyn yn golygu yn anfwriadol y gofynnir i’r rhan fwyaf o ddioddefwyr-goroeswyr am eu ffôn naill ai cyn cwblhau eu cyfweliadau hwy neu’r sawl a amheuir. Mae hyn fel petai’n mynd yn erbyn yr ‘ymagwedd feddylgar’ a osodir yn R v Bater-James (2020), gan ei bod yn anhebygol fod ‘sail y gellir ei adnabod yn glir’ dros gredu fod y ffôn yn cynnwys tystiolaeth berthnasol yn y cyfnod cynnar hwn. Yr oedd canllaw mewnol Llu D hyd yn oed yn annog cymryd ffonau ar y pwynt ymateb cyntaf, cyn i’r ymchwiliad hyd yn oed gychwyn. Felly, yr oedd swyddogion yn ceisio rhoi dioddefwyr-goroeswyr wrth galon eu penderfyniadau am dystiolaeth ddigidol, ond yr oedd hyn yn cael canlyniadau negyddol nas rhagwelwyd.

Mae effaith lawrlwythiadau anghymesur o ffonau wedi ei esbonio’n dda mewn mannau eraill (er enghraifft, adroddiad y Comisiynydd Gwybodaeth[footnote 146] yn 2020). Mae ein canfyddiadau yn ychwanegu mwy o gefnogaeth i’r gwaith hwn, gan amlygu’r angen i ystyried tystiolaeth ddigidol yn ofalus[footnote 147], yn enwedig lle nad oedd y sawl a amheuir yn destun yr un math o graffu:

“Doedd ffonau symudol ddim hyd yn oed wedi eu dyfeisio pan oeddwn i’n cael fy ngham-drin, ond bu fy ffôn ganddyn nhw am saith mis ac fe ddefnyddiwyd negeseuon yn f’erbyn yn y llys. Roeddwn i’n teimlo mai fi oedd yn destun yr ymchwiliad.” (Dioddefwr-Goroeswr, Llu A)

“Beth am ei ffôn symudol e, beth am ei gyfryngau cymdeithasol, beth am gloddio i stwff a negeseuon testun y gallasai fe fod wedi eu hanfon, e-byst y gallasai fe fod wedi eu hysgrifennu pan ddigwyddodd hyn. Does dim diddordeb ganddyn nhw, a, ‘Wel, dyw hynny ddim yn llinell ymholi resymol, dyw hi ddim yn rhesymol i ni edrych ar ei gofnodion cyfryngau cymdeithasol, dyw hi ddim yn rhesymol edrych ar ei negeseuon testun oherwydd ei fod ymhell yn ôl, fyddai hi ddim yn rhesymol i ni wneud. Wel, mae’n rhesymol edrych ar fy rhai i. Rydych chi wedi edrych ar fy negeseuon sgwrsio msn, wedi edrych ar fy ffôn symudol, fy nghardiau sim, pam nad ar ei rai e?” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 5)

Ychydig o ymwybyddiaeth chwaith oedd ymysg swyddogion o’r angen i fynediad at ddata fod yn ‘hollol angenrheidiol’ a heb fod yn bosib eu cyrchu trwy ddulliau ymarferol eraill. Nid oedd yr un llu yn defnyddio technegau llai ymyrrol, megis sgrinluniau, yn gyntaf. Yn yr un modd, ychydig iawn o dystiolaeth oedd o ddefnyddio Hysbysiadau Prosesu Digidol (DPNs) Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, a pheth awgrym y gellid cwblhau DPNs dim ond adeg cyfeirio achos atCPS, yn hytrach nag ar bwynt cyrchu dyfeisiadau digidol.

Mae Pennod 3 rhan 2 Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (PCSC)[footnote 148] yn sefydlu am y tro cyntaf sail statudol clir i echdynnu gwybodaeth o ddyfeisiadau electronig gyda chytundeb defnyddiwr y ddyfais, ac yn cyflwyno mesurau i warchod preifatrwydd dioddefwyr, tystion ac eraill. Mae’r Ddeddf yn gwneud defnydd o hysbysiad ysgrifenedig megis Hysbysiad Prosesu Digidol yn ofyniad cyfreithiol ac yn cyflwyno cod ymarfer newydd i roi canllawiau i’r heddlu am ddefnyddio’r pwerau[footnote 149]. Cyflwynodd y Llywodraeth ymgynghoriad cyhoeddus am y cod ymarfer a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2022. Cyflwynwyd y cod ymarfer terfynol gerbron y Senedd ar 17 Hydref 2022 a daeth y pwerau a’r cod ymarfer i rym ar 08 Tachwedd 2022.

Yr oedd ymdeimlad o hyd ymysg yr heddlu ym mhob llu fod rhai ceisiadau am dystiolaeth ddigidol a deunydd trydydd-parti yn dal yn eang iawn:

“‘I ddioddefwyr byddwn yn gofyn am bopeth, cofnodion ysgol, cofnodion gwasanaethau cymdeithasol, ond i’r sawl a amheuir, fyddwn ni ddim. Byddwn yn edrych arno os cafodd ei gyhuddo o drosedd rywiol o’r blaen, ond byddwn yn edrych ar hygrededd y dioddefwr, ‘Rwy’n bendant y meddwl ein bod yn craffu fwy ar y dioddefwr na’r sawl a amheuir’.” (Arsylwadau, Llu D)

“Rhoddodd y swyddog enghraifft o achos DA [camdriniaeth ddomestig] lle’r oedden nhw [CPS] wedi gofyn am fanylion partner blaenorol oedd yn cam-drin ddeng mlynedd yn ôl. Dywedodd y gallasai ddeall petai’r dioddefwr â hanes treisgar gan y gall hynny danseilio achos, ond nid yw bod yn ddioddefwr i rywun arall sy’n cam-drin yn berthnasol. Holodd a oedd rhai o’r ceisiadau hyd yn oed yn cydymffurfio â GDPR. Dywedodd fod CPS yn dweud nad ymchwilwyr ydyn nhw, ond yn mynd ymlaen wedyn i gyfarwyddo’r ymchwiliad; dywedodd eu bod yn osgoi risg yn ormodol a heb fod eisiau unrhyw beth annisgwyl na chael eu ‘dal gyda’u trowsus i lawr’. Gofynnodd i’r Sarjant a oedd yr ymwneud âCPS wedi gwaethygu. Dywedodd nad yw CPS wir eisiau ymwneud.” (Arsylwadau, Llu C)

Mae’r dyfyniad olaf hwn yn adlewyrchu’r sylwadau a glywsom ym mhob llu fod swyddogion heddlu yn teimlo y byddai CPS yn gofyn am ddata sensitif am ddioddefwyr-goroeswr. Yr oedd rhwystredigaeth am y ceisiadau hyn gan CPS oherwydd yr effeithiau negyddol posib ar amseroedd ymchwilio a’r dioddefwyr-goroeswr. Cafodd Llu B hyfforddiant yn ddiweddar a welwyd fel rhywbeth llwyddiannus iawn i roi grym i swyddogion herio ceisiadau CPS am dystiolaeth anghymesur:

“Roedd gen i un ar gyfer yr achos llys yna wythnos diwethaf, lle’r oedd CPS yn dweud ‘o, allwn ni gael popeth trydydd parti’, a finne’n dweud, ‘wel, i beth? Pa wybodaeth sydd gyda chi nad oes gen i, sy’n golygu bod yn rhaid i ni gael y trydydd parti hwn?’ a doedd ganddyn nhw ddim byd. Ac roedd yr amddiffyniad wedi dweud eto, o fe hoffen ni adolygu’r holl bethau trydydd parti, ac eto, doedd dim rheswm dros hyn. Pysgota oedden nhw, dyna i gyd. Ym, felly rwy’n meddwl ein bod ni’n eitha da am wthio’n ôl a dweud, ‘na, does mo’i angen’ ac fel y dywedsoch chi, buasen ni’n cael y deunydd trydydd parti yn unig os oedd rheidrwydd.” (Heddwas, Llu B)

Arweiniodd ceisiadau am dystiolaeth ddigidol ac am ddeunydd trydydd parti at oedi’r ymchwiliad. Er enghraifft, cofioddISVA:

“Roedd gyda ni gleient gafodd ei threisio fel oedolyn, fe adroddodd wrth yr heddlu, ac fe wnaethon nhw ofyn am ei holl gofnodion gofal cymdeithasol ers pan oedd hi’n blentyn. Nawr, roedd cymaint o gofnodion gofal cymdeithasol, fe achosodd oedi enfawr gyda’r achos oherwydd roedd llawer o focys o gofnodion gofal cymdeithasol a chofnodion addysgol i’r heddwas fynd drwyddynt. Wel beth sydd a wnelo hyn â’r trais a ddioddefodd yn oedolyn? Ond roedden nhw’n mynnu bod angen iddyn nhw fynd drwy’r peth, ac fel y dywedais i, fe achosodd oedi enfawr gyda’r achos. Felly mae angen iddyn nhw ddweud, rhaid i ni edrych ar hyn, am ein bod yn meddwl hyn, neu rydyn ni’n tybio y gall hyn-a-hyn fod yno, wyddoch chi, dim ond rhoi rheswm penodol.” (ISVA, Llu C)

Gofynasom am y ffurflenni cydsynio a ddefnyddiwyd am ddeunydd trydydd-parti, a’r unig bethau a gawsom oedd ffurflenni datgelu archwiliadau meddygol fforensig. Gan un llu yn unig y cawsom y ffurflenni DPN am dystiolaeth ddigidol, wedi gofyn am yr holl ganllawiau a ffurflenni mewnol oedd yn ymwneud ag achwynwyr am drais rhywiol.

Cysylltwyd triniaeth wael a gafodd dioddefwyr-goroeswr â diffyg arbenigedd, adnoddau, a blino’n lan

Gan adleisio canfyddiadau Pileri Un, Dau a Phedwar, yr oedd yr holl luoedd yn cael trafferth i gydnabod yr amser a’r arbenigedd ychwanegol oedd ei angen i ymwneud â dioddefwyr-goroeswyr troseddau rhyw, gan adael uwch-reolwyr yn methu asesu llwythi achos yn gywir. Mae’r diffyg adnoddau digonol hwn yn golygu na roddwyd blaenoriaeth i ymwneud â dioddefwyr-goroeswyr:

“Mae’r swyddogion yn dweud fod y cyswllt cyntaf gyda dioddefwyr yn dda fel arfer, ond ei fod yn dirywio wedyn am nad oes ganddynt ddigon o amser i’w neilltuo i gysylltu â dioddefwyr.” (Arsylwadau, Llu D)

“Y rhai euog yma yw’r llywodraeth ganolog am nad ydynt yn cyllido’r heddlu a CPS yn iawn. Felly mewn gwirionedd, mae’r holl broblemau sy’n bod eisoes yn yr heddlu yn gwaethygu am eu bod dan bwysau, am nad oes ganddynt ddigon o adnoddau, eu bod wedi gorflino a’u llethu, ac ati ac ati.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 4)

Yr oedd swyddogion hefyd yn dueddol o fod yn weddol ddibrofiad:

“Mae gennym ni weithlu ifanc iawn ar hyn o bryd ar [uned], rwy’n meddwl ar fy sifft i yn unig, fod rhyw 80% o bobl gyda llai na 2 flynedd o wasanaeth. A phan ddaw job trosedd rhyw i mewn, rydych chi bron yn cael panig fel ‘o, mawredd, beth ydw i i fod i wneud.” (Heddwas, Llu B)

“[Mae’r swyddog yn dweud] am nad oes gan bob DS brofiad oRASSO, maen nhw’n dysgu ei gilydd rywbeth nad ydyn nhw eu hunain yn wybod, a’r DC yn cael eu goruchwylio gan bobl nad ydyn nhw’n deall achosion RASSO. Mae fel y dall yn arwain y dall. Mae’r holl swyddogion profiadol wedi gadael. Does dim digon o hyfforddiant RASSO chwaith. Does dim digon o swyddogion wedi eu hyfforddi i wneud VRIs [cyfweliadau fideo] a maen nhw ond yn eu gwneud pan fyddan nhw’n meddwl fod achos yn ‘mynd i rywle.” (Arsylwadau, Llu C)

Yr oedd yn anodd llenwi swyddi gwag yn y tîm; er enghraifft soniodd llawer o swyddogion yn Llu B am heriau recriwtio, ac yr oedd Llu D yn ddiweddar wedi hysbysebu swyddi ond heb dderbyn yr un cais. Yr oedd swyddogion yn rhannu barn negyddol am dimau ymchwilio i drais oedd ganddynt hwy a chydweithwyr:

“Dywedodd swyddog yr arferai fod yn y CID ac ‘i fod yn onest’ roedd yn arfer meddwl am RASSO fel yr achosion ‘pinc a fflwfflyd’ am eu bod yn canolbwyntio ar y dioddefwr, ac yntau’n eu hosgoi ac yn mynd yn hytrach at fyrgleriaeth a lladrata. Mae’n dweud wrtha’i ei fod yn ffordd hollol wahanol o weithio. Mae’n dweud eu bod wedi eu ffurfio i fod eisiau dal y dynion drwg, felly gall cymhelliant yn RASSO fod yn fwy anodd.” (Arsylwadau, Llu D)

“Pan ymunais i â [uned], fe gefais fy rhybuddio gan nifer o swyddogion o bob llu a ddywedodd, pam wyt ti’n gwneud hynna? Dy bostio di yno fel cosb yw hynna … A weithiau, ti’n dweud, a wel, ti’n gwybod, os wy’n mynd i gicio a sgrechen am wneud X, Y a Z, a finne eisoes yn [uned] beth mwy allan nhw wneud i ti?” (Swyddog Heddlu, Llu C)

Yr oedd yn ymddangos bod tosturi, blino a thrawma eilaidd yn creu mwy o rwystrau i drin dioddefwyr-goroeswyr yn sensitif ac urddasol:

“Rywf wedi penderfynu poeni llai, am mai dyna’r unig ffordd i fynd drwy’r peth” (Swyddog Heddlu, Llu A)

“Fe gyrhaeddodd y pwynt lle daeth hi i ‘nhŷ ac yr oedd hi bron yn llefen am ei bod yn dweud na allai ymddiheuro digon a bod ganddi gymaint o waith, a, wel, yn y diwedd roeddwn i’n teimlo biti drosti hi, ac yn ei deall. Ond, chi’n gwybod, nid, nid dyna dylse hi fod.” (Dioddefwr-Goroeswr, Llu C)

Roedd trosiant staff uchel hefyd yn golygu fod dioddefwyr-goroeswyr yn teimlo eu bod yn cael eu pasio o biler i bost:

“Rwy’n meddwl ‘mod i wedi siarad â 10 o wahanol swyddogion erbyn hyn. [mae’n chwerthin] Does neb wir yn gwybod am yr achos. Neb yn malio” (Dioddefwr-Goroeswr, Llu C)

“Mae gen i ymchwiliad pedair-blynedd lle’r oedd y cleient yn mynd drwy ei hachos, ac am ddeunaw mis o hynny, roedd ei ffeil jest yn iste yno am bod cymaint o staff a DIs a DSs a beth bynnag yn newid o gwmpas. Does neb wedi codi ei ffeil ers dros ddeunaw mis, neb hyd yn oed wedi edrych arni.” (ISVA, Llu D)

Hefyd, mae achosion ‘byw’ yn cymryd blaenoriaeth dros achosion heb fod mor ddiweddar ym mhob llu, gan achosi oedi ac ymdeimlad o hierarchaeth am achosion sy’n cael eu tybio yn rhai ‘byw’:

“Yr ateb gefais i o [holi am ddiweddariadau] oedd, am ei fod yn achos hanesyddol, ‘nid eich achos chi yw’r unig un’. Mae hyn air am air, ‘nid eich achos chi yw’r unig un i ni orfod delio ag ef. Mae 20 o achosion eraill yn eistedd o’ch blaen chi.” (Dioddefwr-Goroeswr, Llu C)

“Maent o hyd yn gorfod ymateb i achosion byw (nid dim ondRASSO) ac y mae hynny’n gwthio pob ymrwymiad arall i gefn y ciw. Roedd yn rhaid iddyn nhw roi cant o achosion hanesyddol mewn ffolder mewnflwch caeedig am 12 mis a pheidio â chyffwrdd â nhw am nad oedd ganddyn nhw’r staff i ymdrin â nhw.” (Arsylwadau, Llu C)

“Byddwn yn codi ‘ngobeithion o siarad â swyddog, a’r swyddog hwnnw yn dweud y byddai yno am dri o’r gloch. Codi ‘ngobeithion. Yna does dim golwg o’r swyddog a chwpl o ddyddiau wedyn mae’r swyddog yn dod i gysylltiad ac yn dweud, ‘Sori, ond fe ddaeth achos byw i mewn.’” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 5)

Yn wir, yr oedd dioddefwyr-goroeswyr yn sôn am deimlo mai “dim ond rhif” oeddynt. (Dioddefwr-Goroeswr, Llu C). Crybwyllodd eraill iddynt deimlo eu bod yn faich, neu’n colli ffydd o gael eu pasio o un swyddog i’r llall:

“Fe ges i’r teimlad fy mod i’n anghyfleustra, fod rhywbeth o’i le gyda mi, am fod mor bryderus. Yn hytrach na bod hyn yn hollol normal mewn sefyllfa annormal.” (Dioddefwr-Goroeswr, Llu A)

“Mae’n rhaid i chi adeiladu ymddiriedaeth gyda rhywun, a dyna dorri’r ymddiriedaeth gyda’r troseddwr a stwff fel yna. Felly rwy’n meddwl, beth ydych chi’n sôn amdano fan yna, fel swyddogion gwahanol a stwff felna, falle eich bod chi wedi dechre ymddiried yn un person, wedyn rydych chi’n cael swyddog gwahanol. Fi ddim yn meddwl bod hynna’n iawn.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 3)

Arferion da a welwyd er gwaethaf y rhwystrau

Er gwaethaf y diffyg profiad, trosiant staff uchel a dim digon o adnoddau, yr oedd y rhan fwyaf o swyddogion y buom yn siarad â hwy wedi eu symbylu i wneud ‘job dda ’ i ddioddefwyr-goroeswyr. Yn yr arsylwadau, gwelsom enghreifftiau o swyddogion yn creu perthynas o gydymdeimlad gyda dioddefwyr-goroeswyr ac amlygodd grwpiau ffocws yr heddlu bwysigrwydd magu ymddiriedaeth.

Yn y fideo a wisgwyd ar y corff (BWV) a’r cyfweliadau a recordiwyd ar fideo (VRIs), sylwom ar fwy o ymdrechion i greu perthynas o gydymdeimlad, er nad oedd y rhain yn wastad yn llwyddiannus. Er enghraifft, dangosodd un BWV y swyddog heddlu yn gwneud yn siwr ei bod yn eistedd i lawr fel ei bod ar yr un lefel â’r dioddefwr-goroeswr; cyflwynodd ei hun a’r broses, yna cynnig lle ac amser i holi cwestiynau (Adolygiad BWV, Llu B). Mewn achosion eraill, yr oedd y BWV yn dangos lletchwithdod gan ganolbwyntio ar gwblhau gofynion tystiolaethol, y byddwn yn eu trafod ymhellach ym Mlwyddyn 2.

Roedd gan Lu D arferion arbennig o dda ynghylch eu VRIs. Er bod lle i wella o hyd, yr oedd y swyddogion cyfweld yn cynnig cyfle i sôn am y ‘stori gyfan’ a rhoi lle i ddioddefwyr-goroeswyr siarad am gyd-destunau ehangach y berthynas oedd yn esbonio dynameg rhyngbersonol y gamdriniaeth honedig. Roeddent hefyd yn gofyn i’r dioddefwyr-goroeswyr beth oeddent yn deimlo ar bob pwynt o’r gamdriniaeth, gan roi mwy o le i’w llais. Byddai’r swyddogion hefyd yn dueddol o ofyn i’r dioddefwyr-goroeswyr beth oeddent eisiau o’r ymchwiliad, a all fod yn anodd i’w ateb, ond y mae’n ymgais i ymwneud ag anghenion dioddefwyr-goroeswyr y tu hwnt i ddim ond cael euogfarn.

Erys peth tystiolaeth o fythau am drais a hygrededd dioddefwyr-goroeswyr

Gan adleisio canfyddiadau Piler Un, tynnodd llawer o swyddogion sylw at bwysigrwydd herio mythau am drais, deall gwahanol gyd-destunau dioddefwyr, a chwilio am fregusder yn hytrach na barnu ‘hygrededd’ dioddefwr-goroeswr. Yr oedd hyn yn arbennig o nodedig yn Llu B, lle’r oedd camsyniadau am drais yn cael eu cydnabod yn gryf a’u herio. Fodd bynnag, yr oedd lleiafrif sylweddol o swyddogion mewn mannau eraill yn gwneud datganiadau’n agored ar sail mythau:

“Dylai [Uned] ymchwilio i achosion go-iawn o drais, S1 a 2 [trais gan ‘ddieithryn’], a dylai trais DA [camdriniaeth ddomestig], sy’n tagu’r system, fod yn destun ymchwil gan y tîmDA.” (Heddwas, Llu A)

Dywedodd eraill, er eu bod yn gwybod am realiti trais, fod rheithgorau yn dod dan eu dylanwad a’u bod felly yn dal i ddylanwadu ar ddeilliannau achosion:

“Po fwyaf o brofiad sydd gyda chi, wyddoch chi, o brosesau’r llys ac ati, fe wyddoch yn union am beth mae’r amddiffyniad yn mynd i neidio arno … Os oes yna, fath o, unrhyw beth ym mhersonoliaeth neu ddull o fyw y dioddefwr, y gallan nhw neidio arno i’w tanseilio, fe wnân.” (Swyddog Heddlu, Llu D)

Mae hyn yn mynd yn groes i’r polisi swyddogol, sy’n datgan y dylid seilio atgyfeirio at CPS ar yr hyn y gallai rheithgor rhesymol dybio, nid un nodweddiadol.

Roedd Llu C wedi creu system ‘brysbennu’ i reoli llwythi achos, ond roedd i hyn botensial i ategu mythau am drais oherwydd y canolbwyntio ar ‘hyfywedd achosion’ oedd wedi ei gysylltu â hygrededd tybiedig dioddefwyr-goroeswyr. Yr oedd swyddogion heddlu yn y timau ymchwilio yn cydnabod fod risg gydag ymagwedd o’r fath:

“Holais sut yr oedd y dosbarthiadau’n cael eu pennu ac fe awgrymodd hi eu bod nhw’n oddrychol. Fe ddywedodd mai’r Sarjant ddylai wneud, ond mewn gwirionedd, nhw sy’n gwneud. Dywedodd bod unrhyw ymchwiliwr sydd heb ‘deimlad yn ei ddŵr’ am a fydd achos yn mynd ymlaen neu beidio yn dweud celwydd.” (Arsylwadau, Llu C)

Yr oedd arsylwadau yn y llu hwn yn datgelu agweddau problemus ymysg rhai o’r timau ymchwilio, gan gynnwys rhai am achosion oedd yn diweddu mewn euogfarn:

“Dywedodd y swyddog fod dau o bobl yn rhan o hyn ac y gallai’r dyn gael ei gyhuddo ar gam, a difetha ei fywyd ef hefyd. Dywedodd fod dynion yn teimlo eu bod yn cael noson dda, lle gall menywod deimlo eu bod wedi cael eu treisio. Dywedodd fod menywod eraill sy’n twyllo eu cariadon, ond yn honni trais wedi i’w cariadon holi cwestiynau am beth roedden nhw’n wneud. Dangosodd nifer o fideos i mi o fenywod yn feddw ac yn ‘fflyrtian’ gyda dynion. Dywedodd na allai fyth gael euogfarnau am eu bod yn ‘pryfocio’ dynion cyn y weithred rywiol. Dywedodd y swyddog mai’r rhan fwyaf o’i waith oedd olrhain beth ddigwyddodd i fenywod ar y noson am nad oedden nhw’n gallu cofio.” (Arsylwadau, Llu C)

“Disgrifiodd y swyddog sut, mewn negeseuon/sgwrs, fod y sawl a amheuir wedi rhannu llun o’r dioddefwr yn cysgu ac yr oedd hithau’n anfon negeseuon yn dweud, ‘Rwy’n dy garu di, caru ti’ ac yna, ‘yn sydyn “wnest ti ‘nhreisio i”’. Y gwahaniaeth yma mewn goslef wnaeth i’r swyddog amau’r achos … Fe holais beth allasai fod wedi perswadio’r rheithgor yn y pen draw, ac mae’n debyg fod y dioddefwr ‘yn dod drosodd yn well’ na fe, ei bod wedi ‘crio yn y llefydd iawn’ a hefyd ei bod ‘yn dod o deulu da’, tra’r oedd e ‘chydig bach yn seimllyd’ ac yn gwisgo ‘trowsus traci’”. (Arsylwadau, Llu C)

Roedd cred ymysg uwch-reolwyr yn Llu C fod y “system yn cael ei thagu gan honiadau ffug”. Efallai mai dyma pam eu bod hwy (yn ogystal â Llu D) yn dechrau llawer o gyfweliadau â dioddefwyr-goroeswyr gyda thrafodaeth am y gwir a chelwyddau. Dylai’r drafodaeth hon ddigwydd yn unig lle mae’r tyst dan 18 oed neu ag anawsterau cyfathrebu / dysgu a allai gael effaith ar eu gallu i wahaniaethu rhwng y gwir a’r gau:

“Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn dweud y gwir”​ (VRI, Llu D)

“Dwyf i ddim yn mynd i’ch sarhau chi yma, ond yn amlwg, rydych chi’n deall y gwahaniaeth rhwng dweud y gwir a dweud celwydd a chanlyniadau’r gweithredoedd hynny.” Mae’r swyddog yn gofyn i’r dioddefwr-goroeswr roi enghraifft syml o ganlyniad dweud anwiredd “Yn amlwg … [rwy’n gwybod y] gwahaniaeth rhwng malu cachu a dweud y gwir … Rwy’n deall beth chi’n ddweud, rwy’n gwybod beth yw celwydd ac rwy’n gwybod beth yw’r gwir.” (VRI, Llu C)

Mae gwerth weithiau yn cael ei roi ar wasanaethaucymorth, ond nid bob tro.

Yr oedd gan bob llu berthynas amwys gyda’u gwasanaethau cymorth yn y trydydd sector yn lleol, er i ni ddod ar draws enghreifftiau o weithio gwych mewn partneriaeth (a manteision hynny i ddioddefwyr-goroeswyr[footnote 150]). Er enghraifft, yr oedd Llu D yn defnyddio gweithwyr cymorth mewn argyfwng i roi help emosiynol i ddioddefwyr-goroeswyr yn ystod y cyfweliadau oedd yn cael eu recordio ar fideo. Nodwyd cefnogaeth arbenigol, yn enwedig YATRh, gan rai swyddogion fel cymorth eithriadol o dda i ymwneud â dioddefwyr-goroeswyr, gan roi “cefnogaeth eithriadol” (Swyddog Heddlu, Llu D). Fodd bynnag, amrywiol oedd cyfathrebu, yn dibynnu ar swyddogion unigol, gyda chyfoesiadau yn cael eu disgrifio naill ai fel “trwyadl iawn, sylfaenol iawn, neu ddim o gwbl” (YATRh, Llu D).

Yr oedd dealltwriaeth rhai swyddogion o wasanaethau cymorth yn gyfyngedig, neu nid oeddent yn siwr am y gwahaniaeth rhwng gwahanol rolaucymorth. Er enghraifft, soniodd rhai swyddogion o Lu B am Ymgynghorwyr Annibynnol Trais Domestig pan oeddent yn golyguISVAs, a chafodd rhai dioddefwyr eu briffio am ISVAs fel pobl fyddai’n cwnsela:

“Dyma fi wedyn yn clywed galwad ffôn at ddioddefwr RASSO lle mae hi fel petae’n cynnig cyfeirio at gwnsela. Dyma fi’n ei chlywed yn dweud fod ‘diffyg tystiolaeth yn yr achos hwn’ ac yna’n nes ymlaen ‘Mae’n flin gen i eich ypsetio am hynny’. Pan ddaw hi’n ôl wedyn at bwnc cwnsela, mae’n sôn am [wasanaeth] a dyma fi’n meddwl pa mor glir yw hi i’r dioddefwr ai at ISVA neu gwnselydd y mae’n cyfeirio’r dioddefwr.” (Arsylwadau, Llu C)

I ymdrin â hyn, roedd ISVAs yn dueddol o gynnig hyfforddiant i’r heddlu, ond yr oedd trosiant uchel o swyddogion yn golygu nad oedd hyn yn datrys problemau ymwybyddiaeth. Yr oedd trosiant uchel hefyd yn lleihau gweithio mewn partneriaeth am ei fod yn golygu nad oedd modd meithrin perthynas bersonol:

“Fuaswn i ddim hyd yn oed yn gwybod lle i ddod o hyd i rif ffônISVA.” (Swyddog Heddlu, Llu B)

“Dyw llawer o’r swyddogion ddim yno bellach, a mae yna wastad drosiant uchel o swyddogion newydd, rhai ohonyn nhw ddim yn deall ein rôl, a rhai ddim hyd yn oed yn gwybod pwy ydyn ni.” (ISVA, Llu C)

Mewn rhai mannau, yr oedd gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau ISVA wedi torri i lawr yn llwyr, am fod swyddogion yr heddlu yn teimlo fod heriau i’w harferion yn mynd y tu hwnt i rôl yrISVA. Gwelwyd eiriolaeth o’r fath fel beirniadaeth bersonol o’r swyddogion, yn hytrach na bod yn ‘elfen hanfodol’ o rôl yrISVA[footnote 151].

Yr oedd cyfyngiadau ariannol a galw uchel hefyd yn creu rhestrau aros maith ar draws ardaloedd y lluoedd. Mae angen cyllid priodol a chynaliadwy ar draws y trydydd sector. Yr oedd gwasanaethau annibynnol ‘gan ac er mwyn’ bron wedi eu cau allan yn gyfan gwbl, a phan ofynnwyd am wasanaethau lleol, yr oedd swyddogion yr heddlu yn canolbwyntio ar SARCs ac ynaISVAs. Mae gwasanaethau ‘gan ac er mwyn’ yn fwy tebygol o gael eu cyrchu gan oroeswyr lleiafrifol, felly mae’n bwysig ehangu gweithio mewn partneriaeth er mwyn dwyn yr holl gymuned i mewn yn well. Mae bylchau hefyd mewn cefnogaeth arbenigol; er enghraifft amlygodd ein panel ymgynghori â dioddefwyr-goroeswyr niwroamrywiol a rhai ag anableddau dysgu ddiffyg darpariaeth wedi ei deilwra i’r bobl hyn.

Meddyliau dioddefwyr-goroeswyr am gysyniadau presennol o gyfiawnder trefniadol

Ar wahan i’r archwiliadau dwfn, buom yn ymgynghori â dioddefwyr-goroeswyr mewn paneli ‘arbenigwyr-trwy-brofiad’ cenedlaethol am gysyniadau traddodiadol mewn damcaniaeth cyfiawnder trefniadol (PJT): Llais, niwtraliaeth, parch a chymhellion y gellir ymddiried ydynt. Cododd eu mewnwelediadau lawer o gwestiynau ymysg ein tîm, a byddwn yn treulio tri mis arall i geisio deall y cyfraniadau hyn gan arbenigwyr, yn ogystal â thrafodaethau tebyg gyda swyddogion heddlu.

Yr hyn ddaeth yn amlwg o’r ymgynghori oedd bod y rhan fwyaf o ddioddefwyr-goroeswyr wedi cael profiadau gyda’r heddlu oedd yn peri loes a/neu rwystredigaeth. Teimlai llawer nad oedd yr heddlu wedi eu trin gydag unrhyw gyfiawnder nac ymwneud â hwy ar lefel ddynol:

“Rydych yn mynd trwy broses lle mae eich penderfyniadau, a’ch hawliau, a’ch urddas yn cael ei gymryd ymaith. Rydych chi’n teimlo, dyna ydych chi’n deimlo, eich bod yn ail-fyw’r trawma i rywun, drosodd a thro.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 3)

“Dwyf i ddim eisiau bod yn gas wrth yr hedldu, ond dwyf i ddim yn meddwl eu bod yn ystyried y person cyfan.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 1)

Meddyliau dioddefwyr-goroeswyr am ‘lais’

Efallai mai’r elfen a dderbynnir fwyaf mewn cyfiawnder trefniadol yn y llenyddiaeth bresennol yw ‘llais’, sy’n cael ei gysyniadu fel rhoi lle i ddioddefwyr-goroeswyr fynegi eu safbwynt a rhoi adborth[footnote 152]. Awgrymodd ein paneli ymgynghori fod llais yn wir yn bwysig:

“Mae dewis mor bwysig i bob goroeswr oherwydd pan wnaethon ni ddioddef ymosodiad rhywiol, camdriniaeth, trais, ymyrraeth, galwch ef beth fynnwch chi, pa bynnag fath o drosedd rywiol a gyflawnwyd yn ein herbyn, roedd ein dewis dros ein corff, ein dewis personol wedi ei gymryd i ffwrdd oddi wrthym. Os unrhyw beth, mae teimlo bod rhywun yn gwrando ac yn deall, a theimlo i ni gael cyfiawnder, os byddwn yn adrodd amdano neu beidio, yn rhoi’r dewis yn ôl i ni. Rhowch ddewis yn ôl i ni.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 5)

Yr oedd y rhan fwyaf o drafodaethau wedi eu gwreiddio mewn enghreifftiau pan deimlai dioddefwyr-goroeswyr fod eu lleisiau’n cael eu hanwybyddu:

“[Petaen nhw wedi gwrando, fyddai’r heddlu] ddim wedi troi i fyny wrth fy nrws. Fe fuasen nhw wedi mynd trwy fyISVA fel y gofynnais, am mai dyna un cam diogelwch oeddwn i wir ei angen, am nad ydw i’n gwneud yn dda gyda’r heddlu.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 5)

“Mae’r rhan fwyaf, rhai pobl, yn cymryd amser i brosesu gwybodaeth. Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod pawb yma yn prosesu gwybodaeth ar y pryd. Mae’n cymryd amser. Rhaid i chi ail-adrodd. Felly rydych chi’n trin pawb fel unigolion, gwybod sut maen nhw’n prosesu gwybodaeth.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel 2)

Golyga hyn nad oedd ‘llais’ ynddo’i hun yn ddigon, am ei fod yn gorfod arwain at weithredu, a “rhaid i’r person arall wrando” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 5). Mae angen cydnabod gwahanol anghenion cyfathrebu hefyd, yn enwedig i ddioddefwyr-goroeswyr niwroamrywiol neu rai ag anableddau dysgu. Tynnodd un ISVA hefyd sylw at rwystrau iaith nad ydynt o hyd yn cael eu cydnabod:

“Mae gan rai goroeswyr anghenion iaith penodol, ac fe welais un achos… fuasen nhw ddim yn defnyddio’r cyfieithydd pan fyddent yn ei galw. A dweud ‘na, ond mae hi’n deall’, a finne’n dweud, ‘wel, nad yw. Fydda’i yn gwneud sesiynau gyda hi pan mae’r cyfieithydd yn bresennol, a mae bwlch cyfathrebu nad ydych yn talu sylw iddo’. Felly fe fu’n rhaid i ni wir weithio gyda hynny … dyw cael yr heddlu i dalu sylw i anghenion penodol rhywun ddim mor syml â hynny.” (ISVA, Llu A)

Meddyliau dioddefwyr-goroeswyr am ‘urddas a pharch’

Ail gydran PJT yw urddas a pharch, a gysyniadwyd gan Holder[footnote 153] fel golygu bod gwerth yn cael ei roi ar ddioddefwr-goroeswr fel person (nid dim ond tyst) a bod yr honiadau’n cael eu cymryd o ddifrif. Cytunodd ein paneli ymgynghori am werth ‘urddas a pharch’,ond gan nodi’r risg y gallai ddigwydd yn arwynebol:

“Mae parch yn fwy na bod yn gwrtais. Nid mater yn unig o’r geiriau mae’r heddlu’n ddefnyddio a sut maent yn eu dweud, mae hefyd am y penderfyniadau maen nhw’n wneud a’r rhesymau maen nhw’n ddefnyddio i’w cyfiawnhau.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 4)

Yn yr un modd, teimlai rhai dioddefwyr-goroeswyr nad oedd yr heddlu yn meddwl nac yn gweithredu’n barchus o bell ffordd:

“Dwyf i ddim yn meddwl y gallwch holi neu siarad am barch o ran yr heddlu. Rwy’n meddwl bod angen i chi gamu’n ôl a gofyn iddyn nhw, ‘Ydych chi wir yn gweld rhywun sy’n cerdded i mewn i orsaf heddlu fel bodau dynol?’ A dwyf i ddim yn meddwl y buasen nhw’n ateb ydym. Ac os nad ydych chi’n gweld pobl fel bodau dynol, yna mae’r holl stwff y buon ni’n drafod heddiw, dyw e ddim yn mynd i ddigwydd” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 4)

Meddyliau dioddefwyr-goroeswyr am ‘gymhellion y gellir ymddiried ynddynt’

Diffiniodd Mazerolle et al[footnote 154] gydran nesaf PJT, gallu ymddiried, fel y graddau y teimla dinasyddion fod yr heddlu yn ddidwyll ac yn agored, yn ogystal â’u bod wedi eu symbylu gan les y cyhoedd. Cytunodd dioddefwyr-goroeswyr fod ymddiriedaeth yn bwysig, ond gan sôn yn bennaf am y diffyg ymddiriedaeth oedd ganddynt yn awr:

“Pan fyddwch yn colli ymddiriedaeth yn yr heddlu hefyd, dwi ddim yn meddwl y daw’n ôl. Fel, rydych chi’n brwydro am flynyddoedd wedyn hefyd, dweud wrth yr heddlu am bethau.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 3)

“Y prif beth yw sut ydych chi’n cael eich trin; os na chewch eich trin yn iawn, sut gallwch chi ymddiried yn yr heddlu? Os ydyn nhw’n eich amharchu a chi’n gweld eu bod nhw’n dweud un peth, a wedyn ddim yn dweud wrthych a hwy wedi addo gwneud. Ie, mae hynna wir yn ofnadwy. A mae’n gwneud i chi deimlo eich bod wedi eich siomi ac yn ansicr a falle ddim yn saff, os na wyddoch chi beth sy’n mynd ymlaen.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel 1)

Mae hyn yn tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng ymddiriedaeth, parch a diogelwch. Yr oedd teimlo’n anniogel yn thema ar draws holl brofiadau’r dioddefwyr-goroeswr, felly mae’n bwysig ystyried sut y gall PJT adlewyrchu hyn.

Nid oedd gan ddioddefwyr-goroeswyr chwaith fawr o hyder fod lluoedd heddlu eisiau newid ystyrlon, yn ogystal â fawr ddim ymddiriedaeth yng ngallu argymhellion yn unig i wella plismona:

“Alla’i ofyn: pan gewch chi eich canfyddiadau a’ch bod chi’n mynd at yr heddlu, ai dim ond argymhellion fydd hi eto? Oherwydd hyn rydyn ni’n weld, chi’n gwybod, fel yr ymchwiliad annibynnol, dim ond un argymhelliad ar ôl y llall, gwersi wedi eu dysgu, ond dim yn newid.” (Dioddefwr-Goroeswr, Llu C)

“Dyw hi ddim yn gwneud sens dysgu’r heddlu fod angen iddyn nhw barchu pobl, neu fod gallu ymddiried ynoch yn bwysig, oherwydd dyn nhw ddim yn deall beth mae’n feddwl. Maen nhw’n defnyddio eu diffiniad eu hunain yn eu pennau rywsut, a, ie, dal ati gyda’r un hen batrymau.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 4)

Er mwyn ymddiried yng nghymhellion yr heddlu, soniodd dioddefwyr-goroeswyr felly am yr angen i’r heddlu fod yn agored i graffu, bod yn barod i gael eu dal i gyfrif, a gwneud mwy na dim ond chwarae o gwmpas ar ymylon y status quo. Gwnaeth rhai dioddefwyr-goroeswyr hefyd hi’n glir eu bod wedi syrffedu â rhethreg am gymryd trais rhywiol o ddifrif heb i asiantaethau cyfiawnder troseddol hefyd gael eu dal i gyfrif. Er enghraifft, soniodd dioddefwyr-goroeswyr dro ar ôl tro am yr angen i ystyried atebolrwydd yr heddlu a/neu y Llywodraeth:

Dioddefwr-Goroeswr 1: Mae gyda ni broblem gyda’r heddlu…

Dioddefwr-Goroeswr 2: Sy’n fwy na ni a thrais rhywiol

Dioddefwr-Goroeswr 1: Ie [enw], tydyn ni ddim yn dal yr heddlu i gyfrif am lawer iawn o bethau gwahanol” (Panel Cenedlaethol 4)

“Beth am i ni roi rhestr i’r llywodraeth o’r menywod y maen nhw’n gyfrifol am eu marwolaethau am na wnaethon nhw eu trin yn iawn …” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 3)

Elfen olaf gallu ymddiried yn rhywun yn y llenyddiaeth sy’n bod eisoes yw medr[footnote 155]. Yr oedd hyn yn bwysig i ddioddefwyr-goroeswyr, a nododd, er bod triniaeth dda yn bwysig, fod angen i swyddog heddlu ddal i fod yn effeithiol:

“Wnaethon nhw ddim fy nhrin yn wael o ran ymwneud personol, doeddwn nhw ddim yn anghwrtais fel y cyfryw, ond roedden nhw’n anobeithiol o ran cynnal ymchwiliad iawn.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 4)

“Doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n cael fy nhrin yn annheg oherwydd pwy oeddwn i, ond roeddwn i’n teimlo nad oedden nhw’n dda i ddim gyda’r hyn maen nhw’n wneud.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 4)

Meddyliau dioddefwyr-goroeswyr am ‘niwtraliaeth’

Efallai mai elfen fwyaf dadleuol PJT yw ‘niwtraliaeth’, a ddisgrifir gan Murphy a Barkworth[footnote 156] fel gwneud penderfyniadau mewn modd diduedd sydd yn gyson yn cymhwyso rheolau cyfreithiol. Soniodd dioddefwyr-goroeswyr am eu hofn y byddai penderfyniadau a gymerir gan yr heddlu yn rhagfarnllyd, sy’n awgrymu pwysigrwydd ‘niwtraliaeth’ fel y’i diffinnir ganPJT:

“Mae gen i hanes gyda’r heddlu. Yn f’arddegau, roeddwn i mewn a mas o’r carchar a phethau fel yna, felly pan na wnaeth yr heddlu ddim yn y bôn am y trais, meddyliais i mi fy hun, ‘Wel, rwyf mewn dosbarth is, trydydd neu hyd yn oed bedwerydd dosbarth, chi’n gwybod, am i mi fod mewn trwbl gyda’r heddlu, does gan yr heddlu ddim mwy o ddiddordeb ynof i. Dyna’r rhagdyb oedd gen i.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 5)

“Mae ‘nheulu i gyd yn sipsiwn a theithwyr, felly yn amlwg, wrth fynd i mewn, mae gyda nhw eisoes farn go ddu o’r gymuned sipsiwn/teithwyr, felly roedd y ffaith mod i wedi mynd i mewn, rhoi adroddiad, yn dipyn bach o, ‘ti’n siwr? Wnaeth e ddigwydd? On’d yw hynny’n normal gyda pobl fel chi?’ Felly rwy’n meddwl bod yn rhaid bod yn ofnadwy o ymwybodol o wahanol ddiwylliannau.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 3)

“Rhaid i mi ddweud bod rhagfarn mewn cymdeithas yn erbyn pobl ag anabledd dysgu; chi’n gwybod, mae pobl yn troi i ffwrdd oddi wrthyn nhw, … Rwyf wedi clywed swyddogion yn dweud, ‘wyddoch chi beth, fe ddylse hi fod yn lwcus fod hynna wedi digwydd, achos all neb arall ei chael hi’n ddeniadol.” (YATRh, Llu A)

Fodd bynnag, roedd gan ‘niwtraliaeth’ gynodiadau negyddol i ddioddefwyr-goroeswyr yn yr holl baneli ymgynghori. I rai, roedd yn awgrymu bod yn oer a dideimlad:

Dioddefwr-Goroeswr 1: Rwy;’n meddwl bod niwtraliaeth law-yn-llaw â thegwch. Mae’n debyg iawn, iawn. Rydych chi’n meddwl, mae hyn yn deg, mae hynna’n deg. Rhagdybiaethau. Mae arnoch chi angen rhywun sy’n hollol niwtral i unrhyw fath o sefyllfa ac sydd ddim yn dod i mewn gydag unrhyw farn. Felly maen nhw’n hollol niwtral i unrhyw beth ddywedwch chi wrthyn nhw.

Dioddefwr-Goroeswr 2: Wn i ddim, dwyf i ddim … i mi, fe fydde’n ymddangos fel, rhywun sy’n aros yn niwtral yw rhywun sydd, wel, a llais undonog, mae jyst fel, rhyw drefn arall mae’n rhaid iddyn nhw ddilyn. (Panel Cenedlaethol 3)

Mae niwtraliaeth hefyd yn cael ei feirniadu’n hallt mewn llenyddiaeth academaidd fel lluniad gwryw-ganolog nad yw’n ystyried mannau cychwyn gwahanol a’r rhwystrau a all fod ar ffordd gwahanol grwpiau o ddioddefwyr-goroeswyr (Smith, 2021). Adlewyrchwyd hyn ym mhryderon rhai dioddefwyr-goroeswyr fod ‘niwtraliaeth’ yn awgrymu y gall gwneud penderfyniadau fod yn wrthrychol:

“Dwyf i ddim yn meddwl ei bod yn realistig dweud y bydd yr heddlu yn hollol niwtral, oherwydd does neb arall yn y byd felly, yn anffodus. Felly, mae llawer y gallwch chi wneud i geisio gwneud yn siwr eu bod yn trin pobl yn deg a chyda meddwl agored, a pheidio â gwneud rhagdybiaethau. Ond rwy’n meddwl ei bod hi’n well cychwyn o’r safbwynt fod gan bawb ryw fath o ragfarnau mewn gwahanol ffyrdd, ac nad yw pawb fel arfer yn ymwybodol o hynny bob tro, ac yna ceisio gweithio’n ôl o hynny.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 4)

Nid yw pryderon dioddefwyr-goroeswyr am ddiogelwch wedi eu cynnwys ar hyn o bryd mewn PJT

Mae ein trafodaethau cychwynnol hefyd yn awgrymu nas ymdrinnir yn glir â rhai cysyniadau pwysig mewnPJT. Yr oedd diogelwch (iddynt hwy eu hunain ac eraill) yn bryder o bwys i lawer o ddioddefwyr-goroeswyr trwy gydol yr holl broses a thu hnwt, waeth pa mor ddiweddar y digwyddodd y drosedd/troseddau:

“Mae arna’i ofn, fe allwn gael fy lladd, rwy’n gwybod hynny.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 2)

“Fe fuaswn i’n dadlau eich bod mewn mwy o berygl ar ôl i’ch achos ddod i ben na phan mae’n mynd ymlaen.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 3)

Yr oedd dioddefwyr-goroeswyr yn croesawu pan fyddai’r heddlu yn cynnig mesurau oedd yn cyfrannu at eu diogelwch. Roedd yn amlwg fod dioddefwyr-goroeswyr yn aml yn ceisio cael yr heddlu i’w hamddiffyn, ond roedd canfyddiad nad yw swyddogion o hyd yn deall ofnau dioddefwyr-goroeswyr am ddiogelwch:

“Felly roeddwn i wedi mynd o deimlo, wel o leia rwy’n teimlo’n saff am nad yw’n gwybod f’enw, i fod yn bryderus ofnadwy am ei fod mewn gwirionedd wedi gwybod pwy oeddwn i drwy’r amser. Fe roeswn nhw larwm panig i mi, oedd yn wych, ond fe wnaethon nhw i mi deimlo fy mod yn bod yn orbryderus am y peth” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 4)

“Rwy’n meddwl mai parch yw peidio â gwneud i chi deimlo eich bod yn wallgo. Fel, hyd yn oed os cewch chi euogfarn neu beidio, os yw’r person yn y carchar neu beidio, mae’r teimlad yna o hyd fod rhywun yn dod amdanoch chi.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 3)

“Roeddwn i’n teimlo nad oedden nhw’n fy amddiffyn, f’amddiffyn i rhagddo fe, am mod i’n byw mewn tref fach.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 1)

Yr oedd ofnau dioddefwyr-goroeswyr yn mynd y tu hwnt i ddiogelwch corfforol, i bryderon am eu gallu i gwrdd â galwadau’r broses cyfiawnder troseddol ac ymdopi â’r effaith y gallai gael arnynt:

“Ofn mynd i’r llys, cael eich rhwygo’n ddarnau am eich bod chi, y gallwch fod yn amhendant, methu rhoi dyddiadau neu amseroedd na’r holl bethe mae’r heddlu eisiau i chi wneud, all yr heddlu mo’u rhoi. A hefyd ofn cofio a chael ôl-fflachiadau, a gorfod mwyn drwy hynna i gyd a heb o raid gael y therapi a’r gefnogaeth sydd arnoch ei angen i ddelio â’r cyfan.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 1)

Er nad yw PJT yn rhoi diogelwch fel un o’i egwyddorion, gwelwyd ymagwedd drefniadol gyfiawn fel rhywbeth canolog i ddiogelwch a goroesiad dioddefwyr-goroeswyr:

“Rôl yr heddlu yw gwarchod y cyhoedd ac, mewn gwirionedd, gwarchod bywydau. Nawr, pan fyddant yn cyfaddawdu ar unrhyw rai o’r agweddau a drafodwyd - parch, urddas, agwed bersonol, llais, amser, adnoddau neu degwch, pan fyddant yn dod â’u rhagfarnau eu hunain a’u barn, maent mewn ffordd yn peryglu goroesiad pobl.” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 4)

Fel piler, byddwn yn parhau i adfyfyrio ar rôl diogelwch ac a yw’n cael ei ddeall orau fel deilliant cyfiawnder trefniadol, neu fel cydran o gyfiawnder trefniadol ei hun.

Diolchiadau

Diolch i’r swyddogion, gweithwyr y gwasanaethau cefnogi arbenigol, a dioddefwyr-goroeswyr a gymerodd ran yn ein gwaith yn ystod Blwyddyn 1. Yr ydym yn arbennig eisiau cydnabod cyfraniadau tra gwerthfawr dioddefwyr-goroeswyr a fu mor hael â rhannu eu profiadau gyda ni. Diolch hefyd i’n holl dîm ymchwil, sydd wedi gweithio’n anhygoel o galed.

Awgrym o Gyfeiriad

Smith, O.; Johnson, K; a Brooks-Hay, O. (2022). Detailed Learning from Pillar Three of Soteria: Embedding procedural justice and engaging victims. Rhan o Operation Soteria Bluestone.

ATODIAD 10: PILER PEDWAR – DYSGU, DATBLYGIAD A LLES SWYDDOGION

Arweinydd: Dr Emma Williams Tîm: Dr Nicky Miller; Richard Harding, Dr Arun Sondhi, Dr Linda Maguire; Jenny Norman; Daniela Abinashi a Dr Rachel Ward

Cyflwyniad

Dros y blynyddoedd diwethaf, bu newidiadau i addysg yr heddlu ar lefel mynediad a phrosesau datblygu proffesiynol parhaus (CPD yn ganolog i’r ddadl am broffesiynoleiddio gwasanaeth yr heddlu. O ran gwella ymateb yr heddlu i droseddau trais a throseddau rhyw eraill (RAOSO) ac ymchwilio iddynt, bu’r angen am hyfforddiant mwy effeithiol yn thema a ail-adroddwyd trwy gydol adolygiadau gan lywodraethau, y trydydd sector ac academia oedd â’r nod o edrych i mewn i broblem gyson ymgilio a dosbarthu anghyfartal cyfiawnder yn y broses cyfiawnder troseddol lle mae’r heddlu yn dod yn rhan. Mae’n hanfodol rhoi mwy o sgiliau i swyddogion a sicrhau mynediad at y wybodaeth arbenigol sydd ei angen i newid agweddau ac ymddygiad swyddogion ymchwilio er mwyn cymryd ymagwedd fwy proffesiynol at y drosedd hynod gymhleth hon. Er bod rhai sefydliadau heddlu wedi gwneud newidiadau strwythurol i sefydlu unedau arbenigol ac wedi ‘neilltuo’ swyddogion i ymchwilio i drais, nid oes ymchwil wedi ei gynnal eto yn y maes plismona hwn i’r rhagdybiaeth y bydd gwelliannau neu gynnydd yn hyfforddiant yr heddlu yn arwain at well ymatebion. Ymhellach, er bod cwricwlwm safonol bellach yn Rhaglen Ddatblygu Ymchwilio i Ymosodiadau Rhyw Difrifol (SSAIDP) y Coleg Plismona, mae ardaloedd heddlu lleol yn datblygu’r cynnwys hyfforddi a’r arddull gyflwyno yn annibynnol heb unrhyw drosolwg gan y Coleg ei hun.

Mae lles swyddogion yn faes arall o ddiddordeb ar hyn o bryd. Lansiwyd Gwasanaeth Cenedlaethol Lles yr Heddlu (NPWS) yn 2019 i roi cefnogaeth a chyfarwyddyd i luoedd heddlu ledled Cymru a Lloegr. Ei nod yw gwneud gwelliannau ac adeiladu iechyd a lles swyddogion trwy nifer o weithgareddau ac adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Rhan o’u gwaith fu datblygu ‘Pecyn Cymorth Ymchwilwyr’ sydd wedi ei seilio ar dystiolaeth ac sy’n cyfeirio swyddogion at gefnogaeth o ran adeiladu gwytnwch ac anghenion lles. Er bod cyfoeth o lenyddiaeth am y trawma a ddaw i ran swyddogion sy’n ymwneud â throseddau cymhleth[footnote 157], mae llai o fewnwelediad i ddylanwad ffactorau sefydliadol ar straen swyddogion, nac yn wir unrhyw rwystrau a all effeithio ar benderfyniadau i gyrchu cefnogaeth i les swyddogion - yn enwedig yng nghyswllt ymchwilio iRAOSO.

Mae ymchwilio i droseddau cymhleth fel RAOSO yn gofyn am swyddogion ymchwilio arbenigol sy’n meddu ar sgiliau o’r radd flaenaf a’r wybodaeth berthnasol i gyflawni eu rôl[footnote 158]. O ganlyniad i hyn, Piler Pedwar yw’r galluogwr canolog i gyflwyno ymchwiliadau mwy proffesiynol a gofal effeithiol i ddioddefwyr trwy’r Model Gweithredu Cenedlaethol newydd a adeiledir ar sylfeini Operation Soteria Bluestone.

Nodau Piler Pedwar oedd:

  • Deall i ba raddau y mae gan swyddogion y wybodaeth angenrheidiol i ymchwilio ac ymateb i RAOSO a’u gallu i’w gymhwyso yn ymarferol

  • Ymchwilio i’r gefnogaeth i anghenion lles ymchwilwyr i RAOSO

  • Deall yr hyn sy’n sbarduno problemau lles i ymchwilwyr i RAOSO

  • Deall y cyfyngiadau ar ddysgu ym maes RAOSO

Cefndir

Mae meithrin a rhoi gwerth ar ddysgu a gwybodaeth yn hanfodol i ddatblygu’r sefydliad a gwella’r gwasanaeth a gyflwynir[footnote 159]. Mae galluogi ymarferwyr y fynd at adnoddau dysgu a CPD yn ganolog i hunaniaeth broffesiynol unigol ac i ymrwymiad y sefydliad[footnote 160].Yn wir, mae syniadau am broffesiynoldeb yn cysylltu â naratifau am gyfreithlondeb y sefydliad, gwneud penderfyniadau annibynnol y gellir ymddiried ynddynt, medr, ac uniaethu fel rhywun proffesiynol[footnote 161]. Fodd bynnag, canfu ymchwil fod mynediad at ddysgu a CPD yn ysbeidiol mewn plismona ac yn anodd i lawer[footnote 162]. Yn erbyn cefndir o alwadau cynyddol, anghenion cymhleth dioddefwyr[footnote 163], cyni a phrinder ymchwilwyr profiadol[footnote 164], cyfyngir mwy fyth ar allu swyddogion i gyrchu unrhyw ddysgu sy’n cael ei gynnig.

Felly, mae’r fframwaith damcaniaethol y seilir Piler Pedwar arno yn dod o’r llenyddiaeth am gyfiawnder sefydliadol. Adeiladwyd Piler Tri a’r canolbwyntio ar drin y dioddefwyr yn gadarn ar y syniad o gyfiawnder trefniadol ond y mae tystiolaeth ehangach sy’n cysylltu cyflwyno triniaeth deg yn allanol (er enghraifft i ddioddefwyr) a chanfyddiadau swyddogion am degwch a chyfartaledd y tu mewn i sefydliadau. Mae cyfiawnder sefydliadol yn cydnabod y gofyniad am gyfranogi cynhwysol a rôl y gweithlu i rymuso pobl i wneud eu gwaith yn effeithiol ac yn broffesiynol. (Nilsson a Townsend, 2014). Mae sawl astudiaeth yn disgrifio sut y cysylltir sefydliadau teg a chyfiawn a theimlad o werth, teyrngarwch, ymrwymiad i amcanion y sefydliad, ac ymlyniad emosiynol i’w llu heddlu[footnote 165]. Ymhellach, mae manteision cyrchu a chymhwyso gwybodaeth arbenigol a CPD yn cynnwys gwelliannau yn hyder swyddogion i gyflawni eu rôl yn y gwaith, a chynnydd mewn proffesiynoldeb[footnote 166]. Mae meddu ar y wybodaeth arbenigol sydd ei angen i ddelio â chymhlethdod RAOSO yn hanfodol i ddioddefwyr ac i les swyddogion fel ei gilydd, ac fel y dadleua ymchwilwyr[footnote 167], rhaid fframio hyn yng nghyd-destun cyfiawnder sefydliadol. Mae medr a hunan-effeithiolrwydd yn gysylltiedig ag ennill gwybodaeth broffesiynol[footnote 168] a gall hyn wrthweithio datblygu gorflinder o ran cydymdeimlad ablino’n lan[footnote 169].

Mae llawer o awduron wedi cynnal dadleuon am y materion strwythurol a diwylliannol cymhleth sy’n ymwneud â’r hyn sy’n cyfrif fel gwybodaeth mewn plismona ac y mae a wnelo llawer o hyn â’r canfyddiad o danseilio gwybodaeth o brofiad y bydd swyddogion yn ei hennill yn ystod eu cyfnod yn plismona[footnote 170]. O ganlyniad i hyn, cynhwysodd Piler Pedwar ddeilliannau cadarnhaol sy’n cael eu cydnabod o arferion gwaith adfyfyriol fel ffordd bellach o ddal dysgu gan swyddogion eu hunain ac i gymhwyso dysgu mwy ffurfiol mewn ffordd ymarferol a real[footnote 171]. Fel rhan o gymhwyso damcaniaeth cyfiawnder trefniadol, ystyriodd Piler Pedwar ganfyddiadau swyddogion o’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan y sefydliad i gymhwyso eu dysgu yn ymarferol ac effeithiol fel rhan o’r adolygiad hwn.

Methodoleg

O ganlyniad i’r cwestiynau ymchwil oedd yn rhan o hyn, cymerodd Piler Pedwar ymagwedd o ddulliau cymysg trwy ddefnyddio dulliau casglu data ansoddol a meintiol. Dyma gwestiynau’r ymchwil:

  • Pa ddeunyddiau dysgu ac arddull cyflwyno sydd i swyddogion RAOSO ar lefel leol, a sut mae’r deunydd yn talu sylw i’r cwricwlwm a SSAIDP ac arferion da y mae tystiolaeth amdanynt o gyflwyno dysgu i’r heddlu?

  • Pa rwystrau a galluogwyr sydd i swyddogion allu mynd at ddysgu a chymorth lles?

  • Pa adnoddau sydd ar gael i swyddogion RAOSOyn lleol?

  • A oes perthynas rhwng cynnig dysgu yn y sefydliad a lles y swyddogion sy’n rhan o ymchwiliadauRAOSO?

  • Sut mae swyddogion yn cael eu galluogi i gymhwyso ac adfyfyrio ar eu dysgu yn ymarferol?

Ymchwil ansoddol:

Ar draws y pedwar llu heddlu braenaru, cynhaliwyd cyfanswm o 28 o gyfweliadau a 23 grŵp ffocws, gydag 119 o gyfranogwyr, trwy strategaeth samplo pwrpasol a ddatblygwyd trwy gydweithredu ag arweinyddion Piler Pedwar yr heddlu lleol. Oherwydd natur cwestiynau’r ymchwil, roedd angen swyddogion a rolau penodol, a thargedwyd unigolion allweddol felly yn y sampl. Cynhaliwyd y cyfweliadau ar lefelau strategol a gweithredol gyda swyddogion a staff yn yr Uwch-Dîm Arweinyddiaeth, arweinyddion dysgu a datblygu, cydlynwyr lles, a thimau pensaernïaeth busnes. Yn y grwpiau ffocws yr oedd swyddogion ymateb cyntaf, ymchwilwyrRAOSO, goruchwylwyr o lefel PC i DCI. Mae’r tabl isod yn amlinellu nifer y cyfranogwyr ym mhob gweithgaredd casglu data.

Llu A Llu B Llu C Llu D CYFANSWM
CYFWELIADAU 8 6 11 3 28
GRWPIAU FFOCWS 8 5 5 5 23
CYFANSWM NIFER Y CYFRANOGWYR MEWN GRWPIAU FFOCWS 48 25 25 21 119
YMATEBION I AROLWG 198 82 94 75 449
YMATEBION TESTUN RHYDD I AROLWG 102 28 52 32 214

Tabl 1: Blwyddyn 1, gweithgaredd ymchwil Piler Pedwar – niferoedd cyfranogwyr mewn cyfweliadau, grwpiau ffocws ac arolwg

Yn ychwanegol at y cyfweliadau, adolygwyd deunyddiau dysgu’r llu a’r holl adnoddau lles lleol i weld eu cynnwys. Gwahoddwyd ni hefyd i arsylwi sesiynau hyfforddi yn ardal pob llu.

Cafodd y grwpiau ffocws a’r cyfweliadau a recordiwyd eu trawsgrifio, eu codio, a’u dadansoddi yn thematig gan ddefnyddio NVivo[footnote 172]. Defnyddiodd yr awduron fframwaith codio agored i drefnu’r dadansoddiad fel bod modd adnabod y themâu pwysicaf neu gategorïau cysyniadol oedd yn dod i’r amlwg. Dadansoddwyd y data gan ddau ymchwilydd er mwyn sicrhau dibynadwyedd rhyng-raddiwr annibynnol.

Yr oedd y deunydd dysgu a adolygwyd ar gyfer pob cwrs yn cynnwys:

  • Cynlluniau gwersi

  • Deunydd y cwrs (h.y., sleidiau PowerPoint)

  • Deunydd cyfeirio ategol

Dylid nodi mai’r deunydd dysgu a ddarparwyd ar gyfer y cyrsiau troseddau rhyw heb fod yn benodol oedd yr hyn oedd yn ymwneud ag ymchwiliadau RAOSO yn unig; yr oedd hyn yn cynnwys deunydd am y broses ymchwilio, brics adeiladu ymchwiliad, gwneud penderfyniadau a ffynonellau tueddiad, yn ogystal â chyfraith achos a phrosesau fforensig.

Llu Arsylwadau Cyrsiau
Llu A 1 diwrnod o arsylwi ‘Stori dioddefwr’ i’r cwrs Hyfforddi Ymchwilio i Droseddau Rhyw (SOIT) SOIT, SSAIDP ac adrannau perthnasol yn ymwneud ag ymchwiliadau RAOSO ynghylch Rhaglen Dysgu a Datblygu Cychwynnol yr Heddlu (IPLDP), Rhaglen Datblygu Gychwynnol Ymchwilwyr i Droseddau (ICDIP) a Phrentisiaeth Gradd Cwnstabl yr Heddlu (PCDA)
Llu B 1 diwrnod o gwrs ICIDP perthnasol ICIDP, SSAIDP, PCDA a diwrnod DPP Ymchwilwyr
Llu C 2 ddiwrnod o arsylwi’r cwrs SSADP; 2 ddiwrnod o’r cwrs STO (yn cael ei redeg gan swyddog lleol nad oedd yn gwrs ffurfiol ond yn debycach i CPD mewnol) SSAIDP
Llu D 3 diwrnod o arsylwi hyfforddiant Hydra perthnasol; 3 diwrnod o arsylwi cwrs PIP2 Cwrs PIP2; a SSAIDP (er y bu oedi o rai blynyddoedd gyda’r cwrs)

Cafodd y deunydd dysgu ei ddadansoddi a’i ystyried yn erbyn y cwricwlwm SSAIDP, y dystiolaeth gyfredol sy’n ymwneud â deall RAOSO (megis mythau am drais, natur fregus dioddefwyr, a thrawma). Adolygwyd dull y cyflwyno yn erbyn tystiolaeth o agweddau pedagogaidd effeithiol o gyflwyno dysgu. Dylid nodi nad arsylwyd yr holl ddysgu a bod asesiadau felly wedi eu gwneud ar sail adolygiad o’r deunyddiau heb weld eu cyflwyno ar waith. Y mae’r tîm ymchwil yn ymwybodol o’r cyfyngiadau a ddeilliodd o hyn o ran arsylwi arddull cyflwyno’r cyrsiau hynny.

Ymchwil meintiol:

Prif ganolbwynt dadansoddiad meintiol Piler Pedwar oedd datblygu a gweinyddu Arolwg Dysgu a Lles wedi’i gymhwyso’n systemaidd i’r pum llu braenaru. Cyd-gynhyrchodd tîm Bluestone yr arolwg mewn partneriaeth a swyddogion a chyn-swyddoion heddlu i ymgorffori sylwadau am yr amgylchedd gwaith-dysgu gan ddefnyddio dulliau a ddilyswyd oedd wedi eu datblygu mewn parthau ymddygiadol sefydliadol. Yr oedd y rhain yn cynnwys cwestiynau ychwanegol am yr hyfforddiant a dderbyniwyd gan swyddogionRAOSO. Mae’r adrannau am iechyd a lles yn cynnwys cwestiynau o Arolwg Staff y GIG[footnote 173] er mwyn caniatau cymariaethau uniongyrchol. Mae cwestiynau ychwanegol yn canolbwyntio ar symptomau blino’n lan trwy ddefnyddio rhestr drwyddedig sydd wedi ei dilysu i fesur gor-flinder emosiynol, dadbersonoleiddio a llwyddiannau personol[footnote 174]. Mae cwestiynau eraill yn canolbwyntio ar ganfyddiadau o ymagweddau tuag at ddioddefwyr/goroeswyr, blaenoriaethau sefydliadol a rhwystrau i gyflwyno’r gwasanaeth.

Yn sail i ddadansoddiad yr arolwg mae damcaniaethau yn ymwneud ag Adnoddau Galwadau-SwyddJD-R), lle mae blino’n lan a straen cysylltiedig â gwaith yn ddangosydd patholegol am swyddi gyda galwadau uchel a diffyg adnoddau[footnote 175].

Gweinyddwyr yr arolwg ar-lein a derbyniwyd 538 o ymatebion ar draws y pum llu heddlu (cyfradd ymateb o 37%). Cafwyd peth anhawster i bennu enwadur y swyddogion heddlu cymwys. Yr oedd hyn oherwydd ail-ffurfio’r gwaith tuag at fodelau mwy cyffredinol, ac felly gall fod rhai swyddogion wedi cael eu gwahodd i ymateb i’r arolwg ond heb fod ganddynt lwyth achosRAOSO, oedd yn gwanhau’r gyfradd ymateb i’r arolwg. Yr oedd dadansoddi data’r arolwg ar y cyd â thystiolaeth ansoddol yn caniatau gwell dealltwriaeth o’r ymwneud rhwng galwadau’r gwaith, hinsoddau dysgu a chynnydd mewn dadbersonoleiddio, oedd yn amlygu ei hun fel methiant i gydymdeimlo â dioddefwyr[footnote 176]. Ymhellach, gwnaethom ddefnyddio dadansoddiadau aml-amryweb i ddeall cydberthynas tair cydran llosgi allan.

Crynodeb o’r canfyddiadau

Er bod rhai gwahaniaethau rhwng y 4 llu braenaru, datgelodd y dadansoddiad dair thema strategol greiddiol yr ymchwil a gynhaliwyd ym Mhiler Pedwar. Er y trafodir y themâu hyn ar wahan yn yr adroddiad hwn, mae’n amlwg fod dibyniaethau clir rhyngddynt.

1: Dad-broffesiynoleiddio rôl y swyddog RAOSO

2: Rhwystrau strwythurol a systemaidd i alluogi dysgu ac iechyd sefydliadol

3: Gwytnwch unigol i ‘ymdopi’ a’r diffyg gwytnwch i swyddogion a ddarperir gan y sefydliad

Dad-broffesiynoleiddio rôl y swyddog RAOSO

Adeiladu cynhwysedd nid adeiladu medr

Oherwydd lefelau’r galw a diffyg cyffredinol o dditectifs mewn plismona, mae tuedd i wneud penderfyniadau trafodaethol am adeiladu cynhwysedd mewn timau yn hytrach nag ystyried medr a gallu swyddogion i gyflawni eu rôl yn broffesiynol. Mae hyn yn erbyn cefndir o Ymgodiad yr Heddlu a rhaglenni mynediad uniongyrchol i fod yn dditectif sydd wedi arwain at swyddogion ifanc iawn yn y gwasanaeth yn cael eu gosod mewn timau sy’n ymchwilio i droseddau hynod gymhleth heb fod wedi cael y gwersi angenrheidiol. Wedi cwblhau eu cwrs PIP2[footnote 177] a’r asesiad 12-mis seiliedig ar waith o’r portffolio medr, sydd ei angen i gael achrediad fel ditectif, gall swyddogion wedyn gyrchu’r SSAIDIP ac ymchwilio iRAOSO. Fodd bynnag, canfu’r ymchwil, ar draws safleoedd, fod swyddogion na chawsant unrhyw hyfforddiant arbenigol i ymchwilio iRAOSO.

”…Mae gen i rywun rwy’n diwtora heddiw a wnaeth y cwrs [PIP2] ym mis Mehefin, ac sydd eisoes wedi ei neilltuo i jobRAOSO. Dyna pa mor brysur yr yden ni. Rwy’n meddwl ei bod yn amherthnasol os yw’r hyfforddiant ychwanegol yna gennych chi neu beidio…” (Llu A)

Nid yw gofynion hyfforddi unigol a phriodol i’r rôl yn cael eu nodi’n effeithiol trwy oruchwylio nac yn cael blaenoriaeth. Ymhellach, yr oedd mynediad at unrhwy ddysgu a gynigid yn y lluoedd yn cael ei atal oherwydd pryder am yr amser mae’n rhaid i swyddogion ei gymryd i fynychu cyrsiau, a sut y mae hyn yn cael effaith ar y galwadau maent yn ceisio eu rheoli. Datgelodd yr arolwg, ar draws y 4 llu braenaru, fod dros 80% o ymatebwyr yn teimlo ‘nad oes gen i amser i gymryd rhan mewn hyfforddiant’ ac eto mai dim ond 2.7% sy’n teimlo ‘nad oes angen i mi gymryd rhan mewn dysgu a datblygu am fy mod yn fedrus yn fy swydd’. Dengys hyn yn glir gymaint y carai swyddogion dderbyn mwy o ddysgu. Fel y dywed y swyddog hwn:

“Yn amlwg, mae ‘na dditectifs sy’n gweithio ar reng flaen ymchwiliadau gyda beichiau achos, baich gwaith sy’n delio gyda thrais corfforol a rhywiol difrifol, a does dim modd rhyddhau niferoedd mawr ohonyn nhw er mwyn gwneud yr hyfforddiant a chael eu hachredu. Oherwydd, yn amlwg, fe fyddai hynny yn gadael neb i wneud y gwaith. Mae’n fater o ddod o hyd i’r cydbwysedd rhwng yr hyfforddiant sy’n cael ei gynnig a’r hyn y gall y llu ei gynnal” (Llu D)

Mae hyn yn gwneud i’r swyddogion deimlo nad oes gwerth yn cael ei roi ar gyfarparu swyddogion sy’n gweithio yn y maes hwn y dysgu mae arnynt ei angen. Caiff hyn effaith negyddol pellach ar recriwtio a chadw yn y timau.

“Mae baich y gwaith yn ormodol, a dim digon o staff. Mae hyn yn peri pryder i swyddogion bob dydd, a rwy’n gwybod fod y rhan fwyaf o’r staff yn gweithio oriau hwy heb dâl dim ond i geisio cadw’u troseddau dan ryw fath o reolaeth. Rwy’n pryderu hefyd ein bod ni nawr yn cael myfyrwyr o swyddogion yn dod i mewn i’r depo yn delio ag ymchwiliadau risg uchel a heb fod â’r profiad, a’r depo heb fod â’r swyddogion i’w cefnogi o ddydd i ddydd” (Llu C)

‘Rwy’n gwenu mas yna drwy’r adeg. Fi yw Mr Positif. Fe allwn ni wneud hyn. Rhan o dîm ydyn ni. Yma (y swyddfa), mae ‘mhen yn fy nwylo ran fwyaf o’r amser.. rwy’n syllu ar ddalen sy’n llawn o swyddi gwag neu bobl ar secondiad ac wedi eu hatodi, ac yn meddwl: does gen i ddim syniad sut y gallwn ni wneud hyn (Llu B)

Gwelwyd yr un heriau a nodwyd gan swyddogion ymchwilio ymysg y rhai oedd yn gwneud gwaith goruchwylio ac sydd â throsolwg strategol o’r ymchwiliadau ac anghenion eu timau.

“…Does dim dysgu, dim hyfforddiant, a rwy’n meddwl fe alle, efallai, cael gwell cyfraniad am yr hyn sy’n cael ei ddisgwyl ohonoch chi felOIC. Ond rydych chi’n gorfod yn llythrennol fwrw ymlaen…” (Llu C)

Yn niffyg ffynonellau dysgu ffurfiol, mae ymarferwyr yn dysgu o’u profiadau profi a methu eu hunain a’u cyfoedion, heb fawr ddim amser i adfyfyrio am eu penderfyniadau na’u gwerthuso. Nid yw’r agwedd hon at ddysgu yn debygol o ymdrin ag arferion a chredoau diwylliannol am gymhlethdodau ymdrin â TAThRhERAOSO. Er enghraifft, ffug-chwedlau am drais, natur fregus dioddefwyr, a sut i ymchwilio.

Medru gwneud popeth, a diffyg gwybodaeth arbenigol

Mae RAOSO yn wahanol i ymchwiliadau eraill am ei fod yn golygu asesu cydsyniad, a’i fod yn aml yn fater o unigolion sy’n adnabod ei gilydd. Mae gan ddioddefwyr RAOSO yn nodweddiadol lawer o bethau sydd yn eu gwneud yn fregus, ac sy’n galw am ddealltwriaeth arbenigol, yn enwedig yng nghyd-destun cysylltu ffactorau o’r fath â thynnu’n ôl[footnote 178]. Ar hyn o bryd, yng nghyd-destunRAOSO, mae dibyniaeth helaeth ar gael pawb i allu gwneud popeth, gyda swyddogion ac ymchwilwyr yn gweithio fel ‘cyffredinolwyr ymchwiliadol’. Trwy ddarparu gwybodaeth arbenigol y gall unigolion ddelio’n effeithiol â’r amwysedd sy’n rhan o’r achosion hyn, holi cwestiynau beirniadol ac adfyfyrio ar eu harfer. Mae diffyg gwybodaeth arbenigol mewn timau ymchwiliom, ac y mae hyn yn peri pryder ac yn cael effaith ar dynnu cyhuddiadau’n ôl, ar y gefnogaeth a roddir i ddioddefwyr, ac ar hyder swyddogion yn eu rôl. Dangosodd yr arolwg mai dim ond ychydig dros 30% sy’n cytuno bod ‘fy sefydliad yn darparu hyfforddiant i mi mewn sgiliau uwch’.

“Mae’r adran ar ei gliniau ac yn gwaethygu’n raddol. Prin bod unrhyw swyddogion profiadol ar ôl yn yr adran, ac mae’r rhai sydd yno yn chwilio am swyddi newydd. Rydym yn delio â rhai o’r achosion mwyaf dychrynllyd yn y llu, ond chawn ni ddim amser i wneud ymchwiliad trylwyr, a maen nhw’n aml yn cael eu gadael yn nwylo swyddogion ar brawf heb ddim neu fawr ddim profiad o drin troseddauRASSO” (Llu C)

Gall hyn arwain at ddibyniaeth ar wybodaeth fewnol yr heddlu am yr hyn sydd yn wir yn drais pan fydd swyddogion yn gwneud asesiadau am hygrededd dioddefwyr. Canfu’r arolwg fod dros 30% o ymatebwyr yn teimlo y gallent ddweud a fydd achos yn mynd yn ei flaen neu beidio ar sail eu hasesiad cynnar o hygrededd y dioddefwr.

“…Rydych chi’n cymhwyso eich profiad ddysgoch chi eich hun o’ch prawf tystiolaethol, eich prawf budd y cyhoedd fel y buasech yn gwneud gydag unrhyw achos arall; gwybod pa bwyntiau sylfaenol mae’n rhaid i chi brofi a naws ymchwiliad o’ch hyfforddiant sylfaenol. Er bod gyda ni ymchwilwyr arbenigol a all godi sgiliau arbenigol ar hyd y ffordd, ar lefel goruchwylio, os nad ydych chi mewn gwirionedd wedi gwneud hynny, does dim llawer y gallwch fynd ar ei ôl…” (Llu A)

Deilliant negyddol arall o’r diffyg gwybodaeth arbenigol oedd y gwrthgyferbyniad rhwng methu â gallu delio’n effeithiol ag anghenion dioddefwyr, ac awydd personol y swyddogion i wneud eu gorau dros ddioddefwyr y drosedd hon. Mae’r dyfyniad pwerus hwn yn crynhoi’r adran hon yn berffaith ac yn tynnu sylw at y broblem eithafol a wynebir gan swyddogion RAOSO:

“Wn i ddim faint [mwy] y galla’i reoli hyn ar fy mhen fy hun heb i ymchwiliad fynd ar chwâl neu i mi fynd yn ddifrifol wael. Rwyf wedi ymlâdd, a dyw’r llu, a bod yn onest, ddim yn hidio taten a jest eisiau mwy a mwy gen i.…Dwyf i ddim yn meddwl eu bod nhw’n gwybod am y cyflwr ofnadwy rydyn ni ynddo. Dydyn ni ddim yn rhoi lefel dda o wasanaeth i’r dioddefwyr ac yr ydym yn dinistrio ein staff” (Llu C)

Mae cyflwyno a chynnwys dysgu ffurfiol yn anghyson, heb gael ei asesu’n iawn ac y mae diffyg amlwg o sylfaen tystiolaeth i’r dysgu (a’r arfer)

Datgelodd yr adolygiad o’r deunydd dysgu fylchau sylweddol mewn gwybodaeth am ymchwil academaidd, cyflwyniadau didactig nad oedd yn cysylltu ffactorau allweddol ynghyd (megis natur fregus dioddefwyr a thynnu achosion yn ôl), pwyslais cryf ar ennill sgiliau gweithredu, dim llawer o enghreifftiau o fywyd go-iawn na data lleol i swyddogion ystyried y dysgu yn ei gyd-destun, a chyfyngedig hefyd oedd y cyfleoedd am ymwneud beirniadol, adfyfyrio a chymhwyso. Yr oedd y dysgu a gynigiwyd hefyd yn amrywio ar draws safleoedd. Yr oedd gan un llu gyrsiau wedi eu byrhau fel bod modd cyflwyno rhywbeth o leiaf, ac yr oedd 3 (ac adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, y 4) [footnote 179] wedi oedi cyflwyno SSAIDIP er mwyn canolbwyntio ar feysydd eraill lle’r oedd angen hyfforddi. Yr oedd yr ymagweddau at gyflwyno yn amrywio, ond yn fras, nid oedd integreiddio dysgu (ffurfiol) ac (yn bennaf) yn y gweithle yn amlwg, na chwaith werthuso’r gwersi a gyflwynwyd.

Ar wahan i un llu oedd â barn fwy cadarnhaol gan swyddogion am yr amgylchedd dysgu, teimlai llai na 45% o ymatebwyr yn yr arolwg fod y dysgu a datblygu a gynigiwyd gan eu llu yn diwallu eu hanghenion. Ar y llaw arall, dywedodd dros 90% o ymatebwyr yr hoffent gymryd rhan mewn digwyddiadau dysgu petaent ar gael.

Er bod y canfyddiad o’r cynnig dysgu yn Llu D yn fwy cadarnhaol nac eraill, datgelodd yr ymchwil gyfleoedd anghyfartal i gyrchu dysgu ar draws timau gwahanol. Yr oedd tîm ymchwilio trais a ail-drefnwyd yn ddiweddar yn Llu D yn teimlo wedi eu llethu gan y galw a’r adnoddau cyfyngedig, ond nid oedd timau ymchwilio safonol eraill yn rhannu’r farn hon. Mae’r ddau ddyfyniad isod yn amlygu hyn:

“Yn bersonol, mae gen i broblemau adnoddau enfawr yn fy nhimau. Rydym wedi colli llawer o brofiad. Felly fe wnaethom ddechrau’r timau ym [Mis], yna roedd yna gynnydd mewn ymchwilio i droseddau arbenigol oedd yn digwydd bod yn ein huned ni, sy’n golygu fy mod wedi colli llawer o swyddogion profiadol i rolau eraill. Felly rydym yn cael trafferthion lle mae adnoddau yn y cwestiwn. Ac mae’n amlwg y bydd pwy bynnag sydd gennym nawr â llai o brofiad. Rydym yn edrych ar rai ohonynt heb fawr ddim profiad mewn amgylchedd ymchwilio o gwbl. Felly mae’n anodd”

“Roedd nifer wedi gorfod gadael pan wnes i etifeddu’r tîm ym [Mis] am y tro cyntaf, am i ni gael nifer o ddigwyddiadau difrifol a bod troseddau mawr wedi cymryd llawer o’n hadnoddau, a rhai swyddi gwag. Ond ers y flwyddyn newydd, rwyf wedi cael cefnogaeth eitha da gan fySMT, a dim ond un swydd wag sydd gen i ar ôl ar y tîm ar hyn o bryd. Ac mae’n debyg bod 80% o ‘nhîm ag achrediad PIP hefyd, sy’n gwneud gwahaniaeth mawr. Maen nhw wedi cwblhau eu portffolio. Mae ganddyn nhw ddealltwriaeth eitha da o bob math o ymchwiliad yn ogystal â phrofiad o ddelio â thrais… efallai nad oes ganddo gymaint o gefnogaeth neu adnoddau, efallai, nag sydd gennym yn rhywle arall”

Yn y pen draw, er bod gan y llu hwn dîm arbenigol wedi ei neilltuo iRAOSO, ni chafodd y swyddogion y sgiliau a’r wybodaeth arbenigol sy’n sail i’r arbenigedd hwnnw.

I grynhoi, mae’r diffyg gwybodaeth arbenigol a gynigir ar draws y safleoedd wedi dad-broffesiynoleiddo rôl ymchwilwyrRASSO. Mae’r canfyddiad hwn am ddiffyg gwerth sefydliadol y wybodaeth hon at ddibenion cyfiawnder yn cael effaith ar benderfyniadau swyddogion i ymgymryd â’r gwaith hwn. Mae’r cyswllt rhwng medr, hyder swyddogion a darparu dysgu a gallu mynd ato yn cryfhau’r defnydd o wybodaeth ddiwylliannol wrth i swyddogion ddysgu o brofiadau ‘profi a methu’. Dadleua Piler Pedwar, yn unol â damcaniaeth cyfiawnder sefydliadol, fod gan y gweithle gyfrifoldeb i alluogi bod yn broffesiynol yn y maes plismona cymhleth hwn.

Rhwystrau strwythurol a systemaidd i alluogi dysgu ac iechyd sefydliadol

Penderfyniadau trafodaethol yn cael eu gwneud heb fawr ddim amser i ddealltwriaeth strategol na risgiau posib

Ym mhob safle, yr oedd dibyniaeth ar wneud penderfyniadau trafodaethol heb ddim llawer o ystyriaeth strategol oedd ei angen i sbarduno diwygio llwyddiannus yn y tymor hwy. Hyn sydd wedi cael effaith dros amser ar y diffyg gwir newid ym mhlismona trais a’r problemau gyda chyfraddau tynnu achosion yn ôl. Yn wir, dysgu unigol a sefydliadol gyda’r nod o newid ymddygiad swyddogion yw un o’r prif bethau sy’n peri gwir newid.

Yr oedd pob llu ar ryw bwynt dros y blynyddoedd diwethaf wedi gwneud newidiadau i dimau trais, fel arfer ar sail argymhellion o adolygiadau a/neu arolygiadau gan HMICFRS, i’r graddau bod hyn, yn Llu C, wedi creu dryswch a blinder i swyddogion. Fel yr eglura’r swyddog hwn:

“Efallai eich bod chi wedi gweld yn barod gydag arolygon, fod y staff yn teimlo’n flinedig. Nid dim ond [CWMNI YMGYNGHORI], yn [LLU C], rydym ni’n hoffi dal ati i ofyn i bobl am arolygon. Rydym yn holi dal i newid pethau. Os arhoswch yn llonydd, ewch chi byth i unman, ond hefyd, mae’r staff wedi blino. Ac efallai bod rhai yn cael trafferth gwahaniaethu rhwng [CWMNI YMGYNGHORI], MOP CPRL, trawsnewid y gwasanaeth, gwelliant parhaus, rydym ni wedi cael llawer o bethau’n mynd ymlaen” (Llu C)

Er bod hyn yn wir am bob llu, mae Llu B wedi gwreiddio diwylliant cryf o berfformio a haenau o fiwrocratiaeth yr oedd synied amdanynt yn wahanol iawn rhwng y tîm uwch a’r swyddogion ar lawr gwlad. Ymddengys bod diffyg dealltwriaeth am effaith prosesau’r llu ar lawr gwlad ar ddioddefwyr a swyddogion. Mae’r ddau ddyfyniad isod yn dystiolaeth o hyn:

Strategol ‘Rwy’n meddwl mai’r model o arweinyddiaeth gefnogol sydd gennym yn [LLU B] yw’r un iawn. Nid dweud yr ydw i ei fod yn wastad yn cael ei ddefnyddio’n berffaith, ond ar y cyfan, o gydnabod yr effaith ar unigolion, rwy’n meddwl ein bod yn llai hierarchaidd o lawer o ran comanders’

Gweithredol: ‘Fel y mae pethau yn ein llu ni ar hyn o bryd, rydyn ni’n cael ei mesur ar bob affliw o ddim. A rwy’n golygu mesur ar eich dioddefwyr, eich troseddau, eich cyfraddau deilliant, eich troseddau a grëwyd …rydym yn cael ei mesur ar bopeth a’n beirniadu am bopeth hefyd. … A rwy’n meddwl bod hynny yn cael effaith negyddol enfawr ar les ein swyddogion.

Yr oedd swyddogion yn teimlo fod y prosesau ‘rheoli’ hyn, ynghyd â lefel y galw, yn dylanwadu ar benderfyniadau am flaenoriaethu achosion. Ymhellach, mae canfyddiadau o’r arolwg hefyd yn awgrymu tensiwn rhwng yr awydd i gyflawni targedau sefydliadol neu gorfforaethol (mwy o gyhuddiadau, euogfarnau etc.) a darparu gwasanaeth sydd wedi ei gyfeirio ar y dioddefwr waeth beth fydd y deilliant. Mewn dau lu (B ac C) yr oedd a wnelo hyn a deall risg a chymhwyso THRIVE i asesu achosion. Yn y pen draw, golygodd hyn mai achosion o drais gan ddieithriaid oedd yn cael eu blaenoriaethu yn bennaf, ac achosion newydd oedd yn dod i mewn yn cael blaenoriaeth dros ddiweddaru dioddefwyr oedd yn rhan o ymchwiliadau oedd ar y gweill dros amser.

“Mae’n amhosib, wir […] rwy’n meddwl, o ran jyglo, y bydda’i wastad yn gollwng rhywbeth. Alla’i ddim gwneud y baich gwaith amhosib hwn 100%. Fe fyddai’n rhaid i mi ollwng rhywbeth i reoli rhywbeth arall” (Llu A)

“Mae llawer gormod o achosion i ymchwilio iddynt yn golygu ein bod yn rhoi gwasanaeth ofnadwy i’r cyhoedd. Rwy’n teimlo cywilydd pan mae’n rhaid i mi esbonio i ddioddefwyr, oherwydd baich y gwaith na allwn ni gynnig y gwasanaeth maen nhw’n haeddu. Mae’r adran ar ei gliniau ac yn gwaethygu’n raddol” (Llu C)

Dealltwriaeth strategol o’r galw a’r defnydd o ddata a gwybodaeth leol yn gyfyngedig

Nid oedd y sefydliadau yn rheoli’r galw’n effeithiol nac yn deall beth oedd ygalw yn ei olygu trwy ddefnyddio data a ddelir yn lleol. Clywodd y tîm ymchwil storïau am ailgyfeirio a rheoli’r galw fel dulliau o ymdopi. Gwnaed hyn yn waeth oherwydd y diffyg gwybodaeth arbenigol a chymhlethdod rhai o’r achosion oedd yn dod i mewn. Mae cymhwyso mythau am drais i asesu dioddefwyr ‘da/drwg’ o ran y rhai all fwrw ymlaen yn fwy llwyddiannus i gyhuddiadau, a blaenoriaethu achosion newydd dros rai sydd ar y gweill yn enghreifftiau o’r ffyrdd mae swyddogion yn rheoli’r galw trwyailyfeirio.

Yn wir, canfu’r arolwg, mewn un llu lle’r oedd y galw yn arbennig o uchel, fod 43% o ymatebwyr yn meddwl bod rhai dioddefwyr yn haeddu eu hamser yn fwy nag eraill. Gydag agweddau fel hyn, mae gwir risg y bydd y mythau’n cael eu cymhwyso i roi blaenoriaeth i lwythi achos. Mae hyn yn ymhlyg yn y dyfyniad hwn:

“Maen nhw i gyd yn frwd ac ymrwymedig. Yr hyn ydw i’n deimlo mewn gwirionedd yw eu bod nhw wedi torri. Maen nhw wedi eu llethu gymaint â gwaith, eu bywyd gwaith, fel na allan nhw wneud eu gorau. Ac o ganlyniad i hynny, dyna lle mae peth torri corneli’n digwydd, a lle mae’r math o [asesu] hygrededd dioddefwyr yn dod, er enghraifft” (Llu B)

Byddai dadansoddi’r galw hefyd yn ei gwneud yn haws adnabod anghenion dysgu a chael dewisiadau datblygu ar sail y math o achosion yr adroddir amdanynt yn lleol. Byddai cyfarparur swyddogion yn strategol gyda’r wybodaeth mae arnynt ei hangen i gefnogi dioddefwyr bregus ac ymchwilio i’r cymhlethdodau hyn mewn ffyrdd gwahanol yn helpu i reoli’r galw yn fwy effeithiol. Mae hyn, ynghyd â’r ffordd y defnyddir adnoddau, yn golygu na all swyddogion ymdopi â’r math na’r nifer o achosion sy’n dod i mewn. Yn wir, canfu’r arolwg mai llai na 25% o ymatebwyr oedd yn teimlo y gallant reoli eu llwyth gwaith yn effeithiol, a bod bron i 80% yn teimlo nad oes ganddynt ddigon o amser i wneud eu gwaith.

“…Rwyf jyst eisiau dweud, pan gyflwynwyd y Tîm Ymchwilio i Drais, yr addawyd rhywbeth i ni na chafodd ei gyflawni. Oherwydd yn amlwg, fe ddywedon nhw eu bod eisiau ei broffesiynoleiddio… Fe fuasen nhw’n gweithio ochr yn ochr â ni hefyd. A dyw hynny ddim wedi digwydd. Felly roedden ni’n meddwl y buase’r gefnogaeth yna gyda ni. Felly rwyf yn meddwl ein bod yn dechrau rhoi gwasanaeth da i ddioddefwyr [aneglur]. Ac y mae ein baich gwaith yn codi a chodi…” (Llu D)

Amser i oruchwylio’n effeithiol

Yr oedd gan y galw fwy o ganlyniadau i oruchwylio achosion a staff. Yr oedd adolygiadau achos, trafodaethau beirniadol am wneud penderfyniadau, adnabod anghenion lles a phrosesau dysgu sefydliadol oll yn cael eu peryglu gan natur delio a’r galw yn y lluoedd, oedd fel ymladd tanau. Ymhellach, nid yw ymdrin â natur gronnus delio â’ r troseddau hyn yn cael ei godi mewn sesiynau goruchwylio gyda staff. Adroddodd Llu D yn yr arolwg ei bod yn haws mynd at eu goruchwylwyr nag mewn lluoedd eraill, ond y mae hyn mewn perygl. Fel y dywedodd y goruchwyliwr hwn wrthym:

” Fel goruchwyliwr ar y tîm ymchwilio i drais, alla’i ddim rheoli’r galw ar hyn o bryd fel rhywun sy’n gorfod goruchwylio dros 100 o achosion byw. Mae’r baich gwaith trwm yn effeithio ar fy effeithiolrwydd fel goruchwyliwr ar bob agwedd. A minnau wedi gweithio fel goruchwyliwr mewn rolau ac adrannau eraill, dyma’r rôl/adran brysuraf a mwyaf straenllyd i mi weithio ynddi. Rwy’n credu mai’r unig ffordd i ostwng y galw hwn yw dod â mwy o oruchwylwyr i mewn i’r adran i rannu’r baich, fel bod modd craffu’n agosach a chael cynlluniau gweithredu i’r achosion sydd yn dal ymlaen”

Achosodd y diffyg profiad mewn timau broblemau ychwanegol i’r goruchwylwyr am eu bod yn codi llwyth gwaith na all ymchwilwyr newydd ddelio ag ef.

“Rwy’n meddwl ei bod yn werth ychwanegu ein bod yn sôn am swm y gwaith mae’r DIs a’r DCIs yn roi i’r ymchwiliadau ac yn gwneud iawn am y diffyg profiad yn ein timau. Ond mae yna hefyd yr agwedd o reoli ein timau yn arbenigol. Am bod ein timau yn ifanc o ran eu gwasanaeth, does ganddyn nhw ddim o raid y lefel yna o hyfforddi a gallu, a’r holl elfennau eraill” (Llu C)

I grynhoi, mae goblygiadau’r problemau yn ddifrifol i ddioddefwyr, deilliannau cyfiawnder, lles swyddogion a datblygu proffesiynol. Mae’r ymagwedd hon o ‘ymladd tanau’ at reoli’r galw yn gallu arwain at wneud penderfyniadau nad ydynt yn foesegol ynghylch rhai achosion, a hyn heb gael ei gydnabod oherwydd y diffyg adolygiadau achos yn y lluoedd. Mae cyfreithlondeb y newid i RASSO yn fewnol yn cael ei danseilio oherwydd natur drafodaethol y broses, y diffyg dealltwriaeth o effaith hyn ar les y staff a gwir barodrwydd yr heddlu i newid a gwella i ddioddefwyr.

Gwytnwch unigol i ‘ymdopi’ â’r diffyg gwytnwch i swyddogion a ddarperir gan y sefydliad

Mae a wnelo’r thema olaf â’r gwytnwch unigol a ddarperir gan swyddogion i gefnogi ymchwilio i drais trwy’r anawsterau hyn. Mae strategaethau ymdopi ‘gwenwynig’ yn cael cryn effaith ar les a bywyd cartref swyddogion mewn hinsawdd lle nad oes fawr o oruchwyliaeth, amser i fynd at gefnogaeth yn gyfyngedig, a swyddogion yn teimlo’n euog am gymryd amser i ffwrdd a gadael mwy o alwadau ar eu cydweithwyr. Amlygwyd cyfrifoldeb y sefydliad am yr effaith ar les y swyddogion trwy gydol yr ymchwil hwn.

“…Gorfod gweithio ar ein diwrnodiau rhydd hefyd. Rwyf wedi gwneud hynny nifer o weithiau, dim ond i ddal i fyny â mechniaeth lle’r wy’n gwneud oriau ychwanegol o gartref fel, pan ddo’i i mewn, y bydd gen i rywfaint o amser i gymryd fy ngwynt, felly mae’n cael effaith enfawr ar eich bywyd teuluol a chartref hefyd…” (Llu D)

Mae canfyddiadau’r arolwg yn dangos lefelau uchel o ganfyddiadau am afiechyd a straen ymysg swyddogionRASSO. Mae’r lefel straen yn uwch ymysg swyddogion RASSO o gymharu â staff y GIG (64.5% o gymharu â 46.8% yn y GIG seiliedig ar arolwg staff y GIG yn 2021). Cyfaddefodd trigain y cant o swyddogion RASSO eu bod wedi dod i’r gwaith yn ystod y tri mis a aeth heibio er eu bod yn sâl (o gymharu â 54.5% o staff y GIG) [footnote 180]. Dangoswyd fod symptomau llosgi allan oherwydd gorflinder emosiynol yn uchel o gymharu ag astudiaethau a gynhaliwyd yn y GIG.

Mae dadansoddiad o ddata’r arolwg ar y cyd â thystiolaeth ansoddol yn amlygu’r cyswllt rhwng galwadau’r gwaith a mwy o ddadbersonoli, sy’n amlygu ei hun fel methu a chydymdeimlo â dioddefwyr[footnote 181]. Hefyd, mae tystiolaeth i ddangos bod swyddogion yn dal i weithio er gwaethaf afiechyd oherwydd eu hymlyniad at y dasg[footnote 182]. Canfu’r dadansoddiad hefyd fod galwadau’r gwaith yn effeithio ar gydbwysedd gwaith-bywyd, pwysau ar unigolion o du rheolwyr a chydweithwyr i ddod i’r gwaith er eu bod yn sâl, ac amrywiaethau yng nghydlyniad timau (galwadau’r swydd). Ar y llaw arall, mae hinsawdd dysgu cadarnhaol a boddhad gyda pholisïau iechyd y sefydliad yn gwrthweithiogorflinder (adnoddau’r swydd).

Yn yr holl luoedd mae swyddogion yn dangos lefelau gorflinder emosiynol sydd o leiaf yn cyfateb neu’n uwch na rhai’r staff meddygol fu’n destun arolwg mewn dwy astudiaeth oedd yn canolbwyntio ar fesuriadau o orflinder gan ddefnyddio’r un offeryn mesur (Rhestr Llosgi Allan Maslach) [footnote 183] yn ystod Covid ac yn teimlo llai o lwyddiant personol yn eu gwaith. Ymhellach, mewn un llu yn arbennig (B) yr oedd y ffaith fod problemau lles yn cael eu derbyn a’u normaleiddio fel rhan o’r gwaith yn peri pryder arbennig. Yn ogystal â ffactorau galw, mae cysylltiad clir rhwng canfyddiadau swyddogion o hinsawdd dysgu eu sefydliad a’r ymrwymiad i ddysgu a lles swyddogion, a pherthynas rhwng gallu mynd at gefnogaeth sefydliad a lles. Mae llai na 35% o swyddogion yn teimlo ar hyn o bryd fod eu llu yn gweithredu’n gadarnhaol ar iechyd a lles.

“Rwy’n teimlo dan straen drwy’r amser. Rwy’n teimlo’n flin fy nhymer, wedi ymlâdd ac yn rhwystredig” (Llu D)

“Dim digon o hyfforddiant, heb unrhyw lwybr agored a thryloyw i fynd ato. Dim amser i CPD nac i gwblhau’r portffolios sydd eu hangen ar gyfer cyrsiau CoP. Y sefydliad yn gwrthod ymateb yn effeithiol i broblemau cynhwysedd a medr, h.y., staffio a hyfforddi. Dim ymateb rhagweithiol digonol i les, h.y., llai o faith gwaith sy’n gatalydd. Nid yw’r sefydliad yn ymateb i broblemau ar lawr gwlad sy’n creu straen a rhwystredigaeth, h.y., hyfforddiant, TG, gliniaduron, cerbydau, adnoddau, staffio oll yn annigonol” (Llu C)

“Mae llawer yn llosgi allan, ond rydych yn dal i fynd er mwyn eich cydweithwyr. Does dim help am y baich gwaith trwm” (Llu C)

Nid yw’r sefydliad yn gwneud llawer i rymuso swyddogion yn eu rôl, o ran eu lles na’u sgiliau. Awgryma ymchwil[footnote 184] i lu heddlu fod yn gweithredu mewn dull trefniadol gyfiawn, y dylai yn gyntaf greu gweithrediadau mewnol sy’n drefniadol gyfiawn. Mae’n anodd disgwyl i’r heddlu drin unigolion â chyfiawnder trefniadol os nad ydynt hwy eu hunain yn cael eu trin â pharch ac urddas gan ei harweinwyr a’u sefydliad. Mae’r ymchwil hwn yn amlygu’r cysylltiad rhwng llosgi allan, dysgu a chefnogaeth lles galwedigaethol. Swyddogion yr heddlu yw’r sianel rhwng cyfiawnder sefydliadol a chyfiawnder trefniadol - gall eu canfyddiadau o degwch a pharch trefniadol yn y gweithle gael effaith yn ei dro ar gyflwyno cyfiawnder trefniadol deg, tryloyw a chynhwysol i ddioddefwyr. Mae hyn yn allweddol mewn ymchwiliadauRAOSO.

I grynhoi, mae lefel y gorflinder yn y garfan hon o swyddogion yn llethol. Mae cyfuniad o alw nad oes modd ei reoli, diffyg gwybodaeth arbenigol a gallu i fynd at ddysgu, a dim digon o amser i gyrchu cefnogaeth yn effeithio’n sylweddol ar les swyddogion. Mae’r risgiau i’r sefydliad, dioddefwyr, a’i asedau mwyaf gwerthfawr - y swyddogion - yn glir. Cyfrifoldebau sefydliadol yw’r rhain, ac fel yr edrychwyd iddo yn y fframwaith damcaniaethol i Biler Pedwar, mae’r risg i gyfreithlondeb mewnol ac allanol y sefydliad yn sylweddol.

Diolchiadau

Hoffem ddiolch o waelod calon i’r holl swyddogion a staff a rannodd eu meddyliau gyda ni ar y pwnc pwysig hwn i’r ymchwil. Yr oedd eu mewnwelediad a’u cyfraniadau y tu hwnt o werthfawr.

ATODIAD 11: PILLAR PUMP - DATA A PHERFFORMIAD

Arweinydd y Piler: Jo Lovett Tîm y Piler: Gavin Hales, Liz Kelly, Fiona Vera-Gray, Gordana Uzelac, David Buil-Gil ac Andy Myhill.

Cyflwyniad

Mae pob llu heddlu yn dal , ac yn parhau i gasglu, cryn dipyn o ddata am yr achosion yr adroddir iddynt amdanynt ac y maent yn ymchwilio iddynt. Nod Piler Pump oedd edrych i weld beth allai’r data hyn ddweud wrthym am natur trais ac achosion eraill o droseddau rhyw (RAOSO) sy’n dod i mewn i’r pedwar llu, ar lefel llu unigol a chyda’i gilydd. Yr oeddem hefyd am asesu sut ac a yw lluoedd ar hyn o bryd yn defnyddio data fel sail i’w hymatebion i’r troseddau hyn, gan gynnwys argaeledd ac ansawdd data y gellir seilio canfyddiadau o’r fath arnynt. Dyma oedd yr amcanion, felly:

  • dadansoddi’n ddwfn y data ar achosion RAOSO ar lefel llu ac ar draws lluoedd i nodi patrymau a thueddiadau o ran adrodd am RAOSO, cynnydd achosion a’r deilliannau;

  • deall yn well pam nad yw cyfran fawr o achosion RAOSO yr adroddir amdanynt yn bwrw ymlaen, yn benodol y rhai sy’n terfynu fel deilliannau 14, 15 ac 16;

  • asesu sut mae lluoedd yn cofnodi, dadansoddi ac yn defnyddio data gweinyddol a ddelir gan yr heddlu;

  • rhoi cyngor a chanllawiau am sut i wneud hyn yn fwy effeithiol.

Bwriad y dadansoddiad annibynnol o ddata yn ac ar draws y pum llu braenaru oedd rhoi tystiolaeth newydd am natur achosion RAOSO yr adroddir amdanynt, a’r patrymau sy’n gysylltiedig â chynnydd a deilliannau achosion, gan fwydo i mewn i ddatblygiadau ac ymatebion polisi lleol a chenedlaethol. Y rhesymeg oedd y buasai gwell defnydd o ddata’r heddlu yn helpu lluoedd unigol i ddatblygu dealltwriaeth strategol gliriach o natur trais ac ymosodiadau rhyw yn lleol, a thrwy hyn, ddod yn fwy ymwybodol o’r strategaethau a’r agweddau ymchwiliadol fydd eu hangen i gael gwell deilliannau. Hefyd, dylai sicrhau fod monitro perfformiad yn bod yn well wrth ddal tueddiadau yn ymateb yr heddlu lleol i drais ac ymosodiadau rhyw helpu i nodi mannau allweddol lle mae heriau sydd angen eu gwella.

Cefndir

Dangosodd ymchwil dros y pedair degawd a aeth heibio nad yw mwyafrif yr achosion o drais yr adroddir amdanynt wrth yr heddlu yn mynd y tu hwnt i ymchwiliad yr heddlu[footnote 185]. Er bod ffigyrau am adrodd wedi dilyn tuedd tuag i fyny sydd yn weddol gyson ers llawer blwyddyn, dwysáu wnaeth y cynnydd hwn dros y pum i ddeng mlynedd diwethaf. Ar yr un pryd, mae cyhuddiadau ac erlyniadau wedi ‘plymio i’r gwaelod’[footnote 186], gan beri i rai holi’n dreiddgar pam fod ymchwiliadau i drais yn methu, a rhai yn holi a yw trais mewn gwirionedd wedi ei ‘ddad-droseddoli’[footnote 187].

Adolygwyd fframwaith deilliannau troseddau y Swyddfa Gartref yn 2015 i symud ymaith oddi wrth ganolbwyntio’n simplistig ar ganfod tuag at ddeilliannau ehangach, ac i roi mwy o dryloywder am y modd mae’r heddlu yn trin y troseddau yr adroddir amdanynt[footnote 188]. Rhaid i’r heddlu adrodd am y deilliannau hyn i’r Swyddfa Gartref trwy Hyb Data y Swyddfa Gartref. Yr oedd Adolygiad Cynhwysfawr ar Drais diweddar Llywodraeth y DU ar Ganfyddiadau a Gweithredoedd[footnote 189] a chyd-arolygiad thematig HMICFRS ac HMCPSI[footnote 190] yn amlygu cynnydd yn nifer y dioddefwyr a dynnodd yn ôl o’r broses (deilliannau dynodedig 14 ac 16 yn y fframwaith), ac y mae naratif gyhoeddus gynyddol sy’n holi pam fod cymaint o ddioddefwyr yn datgysylltu oddi wrth broses yr heddlu[footnote 191].

Mae angen gweld y tueddiadau hyn yn erbyn cefndir ehangach o newidiadau i arferion cofnodi troseddau. Cyflwynwyd Rheolau Cyfrif y Swyddfa Gartref (HOCR), y fframwaith cenedlaethol i ddehongli, dosbarthu a chyfrif troseddau[footnote 192] a’r Safon Cenedlaethol Cofnodi Troseddau (NCRS) [footnote 193] yn gynnar yn y 2000au i ymdrin ag arferion cofnodi anghyson. Mae’r HOCR a NCRS wedi eu gosod gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod data troseddau a gofnodir gan yr heddlu yn fwy dilys a dibynadwy, ac arweiniodd hyn at gynnydd yn syth yn nifer y troseddau a gofnodwyd[footnote 194]. Yn dilyn problemau cofnodi cyson a nodwyd, yn enwedig am droseddau rhyw[footnote 195], bu mwy o newidiadau a chanllawiau newydd gan gynnwys: cyflwyno un drosedd am bob dioddefwr/rhywun a amheuir mewn cofnodion trosedd trais yn yr HOCR; eglurhad yn yr NCRS ynghylch pa adroddiadau trydydd parti ddylai gael eu gweld fel rhai sydd er budd y dioddefwyr ac o’r herwydd eu cofnodi; a symudiad cyffredinol yn ysbryd sut a phryd y dylid galw digwyddiad yn drosedd. Daeth ymlyniad at yr NCRS a’r HOCR yn gynyddol fforensig yn dilyn y canolbwyntio ar gofnodi troseddau dan raglen archwilio ‘Uniondeb Data Troseddau’ (CDI) HMICFRS. Canolbwyntiwyd yn benodol ar droseddau trais a throseddau rhyw yn arolygiadau ac adroddiadau’r CDI, oherwydd, yn hanesyddol, fod lefelau tan-gofnodi a dweud nad troseddau oedd y rhain wedi eu hamlygu fel rhai oedd yn peri pryder arbennig[footnote 196]. ‘Dim trosedd’ yw lle daw gwybodaeth ychwanegol i’r fei sy’n pennu na ddigwyddodd trosedd. Cafwyd bod hyn yn faes pryder arbennig yn ystod arolygiadau cynnar CDI yr HMICFRS, ond gwelwyd cryn welliant mewn arolygiadau mwy diweddar.

Nodwyd pryderon cyffredinol hefyd gyda data’r heddlu: er enghraifft, fflagiwyd data coll yng nghofnodion yr heddlu o droseddau trais mewn nifer o adolygiadau ac arolygiadau[footnote 197], felly hefyd rai o’r problemau sy’n wynebu dadansoddwyr yr heddlu o ran seilwaith a systemau TG, diffyg cefnogaeth dechnegol, ac anghenion hyfforddi a datblygu[footnote 198]. Tanlinellwyd hefyd bwysigrwydd casglu gwell data am nodweddion defnyddwyr y CJS er mwyn monitro mynediad at gyfiawnder a chydraddoldeb[footnote 199].

Methodoleg

Dechreuasom Flwyddyn 1 trwy ganolbwyntio ar RASSO (achosion Troseddau Trais a Throseddau Rhywiol Difrifol) yn ôl brîff y rhaglen. Yn ystod y treiddio dwfn, daeth yn amlwg fod diffyg consensws am ddiffinio a defnyddio RASSO ymysg lluoedd heddlu ac asiantaethau eraill, er bod y rhan fwyaf yn dehongli hyn yn fras i olygu troseddau trais a throseddau rhyw treiddiol neu gyswllt. Yr ydym wedi canolbwyntio yn bennaf ar achosion o drais yn y dadansoddiadau isod, ond lle bo hynny’n berthnasol, rydym wedi edrych i mewn i’r troseddau rhyw ychwanegol yn ein sampl. Fel rhaglen, rydym wedi mabwysiadu’r term RAOSO (trais a throseddau rhyw eraill) i osgoi’r awgrym fod rhai troseddau yn fwy neu’n llai difrifol nac eraill.

Defnyddiwyd cyfuniad o ddulliau meintiol ac ansoddol[footnote 200] yn yr archwiliadau dwfn. O ddefnyddio dulliau cymysg, roedd modd triongli rhwng ffynonellau data i roi prawf ar gysondeb, a rhoi dealltwriaeth fwy cynhwysfawr. Yr oedd yr haenau gwaith meintiol ac ansoddol yn bwydo i’w gilydd ac yn rhoi ehangder a dyfnder canfyddiadau. Er enghraifft, rhoddodd cyfweliadau gyda staff heddlu a’r dadansoddiad o ffeiliau achos gyd-destun ac esboniad o rai o’r canfyddiadau ystadegol lefel-uwch, ac yr oeddent hefyd yn sail i’n dealltwriaeth o fylchau yn y data meintiol. Yn yr un modd, yr oedd y gwaith meintiol yn rhoi trosolwg o dueddiadau cyffredinol, a gellid gosod y canfyddiadau ansoddol ynddynt.

Dadansoddiad o ddata wedi ei ddad-bersonoleiddio o’r holl honiadau RASSOa adroddwyd wrth bob llu yn 2018-2020/21 (81,705 achos, sef 47,213 o drais a 34,492 TRhD)

Echdynnwyd y setiau data hyn a’u casglu ynghyd gan bob llu, a’u rhannu gyda’r tîm ymchwil ar ffurf Excel. Maent yn cynnwys nodweddion dioddefwyr, y sawl a amheuir, a throseddau, yn ogystal â gwybodaeth am ddeilliannau achosion. Yn y setiau data mae’r holl achosion RASSO yr adroddwyd amdanynt i’r heddlu yn y blynyddoedd calendr 2018 i 2021. Yr oedd dau lu fymryn yn brin o hynny, gan i un gallu cyflenwi data dim ond hyd at ddiwedd 2020 ac un arall hyd at ddiwedd Tachwedd 2021, gan i amseru’r treiddio dwfn ddigwydd yn ystod 2021. Bu’r data yn destun dadansoddi meintiol archwiliadol. Byddwn yn cyfeirio at hwn fel ‘set ddata 2018-21’.

Dadansoddiad ffeiliau achosion o drais a gaewyd fel deilliannau 14, 15 ac 16 (741 achos)

Yn Llu A, archwiliwyd 100 o gofnodion ffeiliau achos o bob un math o ddeilliant o’r cyfnod yn union cyn pob treiddio dwfn, ond oherwydd maint y dasg, gostyngwyd hyn i 50 yn Lluoedd B, C ad D. I sicrhau cysondeb yn y samplo ar draws y lluoedd, canolbwyntio ar achosion trais yn unig a wnaethom yma. Gadawyd nifer fechan o achosion allan am eu bod wedi’u dyblygu neu fod ffeiliau ar goll. Rhannwyd ffeiliau achos gyda’r tîm ymchwil mewn dwy ffordd wahanol, yn dibynnu ar y cytundebau rhannu data a drafodwyd gyda phob llu. Rhoddodd Lluoedd A a D ddetholiadau wedi eu golygu a’u gwneud yn ddienw o’r achos, gan gynnwys y log ymchwilio a ffeil camau’r heddlu ar ffurf PDF, tra yn Lluoedd B ac C y rhoddwyd mynediad o bell dan reolaeth i systemau’r heddlu trwy liniaduron diogel yr heddlu er mwyn gallu ymgynghori â’r cofnodion yn uniongyrchol. O gofnodion y ffeiliau achos, tynnodd y tîm ymchwil wybodaeth a gofnodwyd am y drosedd, y dioddefwr a’r sawl a amheuwyd, adrodd, deilliannau ac amserlenni. Yr oedd hyn yn cynnwys dal rhesymau manwl pan nad oedd achosion yn mynd rhagddynt er mwyn taflu goleuni ar yr amrywiaeth o ffactorau oedd yn sail i hyn gyda’r nod o ddatblygu codau is-ddosbarthu posib. Hefyd cwblhawyd memos ymchwil ansoddol i grynhoi pob achos, rhoi cyd-destun naratif ehangach, plotio llinell amser ymchwilio a disgrifio penderfyniadau allweddol a gymerwyd yng nghyswllt deilliannau. Bu data ansoddol ar broblemau tystiolaethol a rhesymeg deilliannau achosion yn destun dadansoddiad cynnwys thematig er mwyn cynhyrchu codau i ddisgrifio pam y caewyd achosion. Byddwn yn cyfeirio at hyn fel y ‘set ddata ffeiliau achos’. Seilir y dadansoddiad o ffeiliau achos a gyflwynir yma ar 591 achos o Luoedd A, B ac C[footnote 201].

Cyfweliadau gyda staff heddlu (cyfwelwyd 37)

Cynhaliwyd cyfweliadau ansoddol lled-strwythuredig gydag arweinyddion heddlu strategol a gweithredol, dadansoddwyr, staff rheoli troseddau a chofrestryddion troseddu y llu ym mhob un o’r lluoedd. Nodwyd y rhain gan ein harweinyddion pileri ym mhob llu fel y rhai mwyaf perthnasol i’n maes ymholi. Yr oedd cyfweliadau yn canolbwyntio ar brofiadau’r cyfranogwyr o sut y defnyddir data, sut mae perfformiad yn cael ei fonitro, cofnodi troseddau, a phroblemau am gynnydd achosion yn eu llu. Dadansoddwyd trawsgrifiadau’r cyfweliadau yn thematig[footnote 202].

Arolwg gyda dadansoddwyr mewn un llu (24 ymateb)

Yn Llu A, oedd â nifer fawr o ddadansoddwyr, buom yn dosbarthu arolwg arlein i’r holl ddadansoddwyr gwybodaeth, strategol ganolog, a pherfformiad canolog ac ar lefel ardal.

Adolygu dogfennau

Adolygwyd dogfennau perthnasol ym mhob llu, gan gynnwys proffiliau problemau a dadansoddiadau eraill, fframweithiau ac adroddiadau perfformiad, a pholisiau yn ymwneud â chofnodi ac ymchwilio i droseddau, a’r deilliannau.

Mae’r tabl isod yn torri i lawr fesul llu y corff data llawn a gafwyd.

Tabl 1: Corff data Piler Pump

Dull Llu A Llu B Llu C Llu D Cyfanswm
Data 2018-21 am achosion RASSO yr adroddwyd amdanynt 36,921 7,109 26,990 10,685 81,705
Dadansoddiad ffeiliau achos- Deilliant 14 98 50 50 50 248
Dadansoddiad ffeiliau achos- Deilliant 15 96 49 47 50 242
Dadansoddiad ffeiliau achos- Deilliant 16 100 51 50 50 251
Cyfanswm 294 150 147 150 741
Cyfweliadau gyda staff heddlu 10 11 6 10 37
Arolwg gyda dadansoddwyr 24 - - - 24

Crynodeb o ganfyddiadau allweddol

Mae’r adrannau a ganlyn yn dogfennu ein canfyddiadau allweddol o ran y pedwar llu braenaru: ansawdd a defnydd o ddata’r heddlu; proffil achosionRAOSO; cofnodi troseddau a’u deilliannau; ac ymwneud â dioddefwyr. Ymysg y canfyddiadau allweddol mae:

  • Mae data’r heddlu yn anghyflawn ac anghyson mewn nifer o feysydd.

  • Ymysg achosion o drais a gofnodwyd, yr oedd rhwng chwarter a thraean yn rhai gyda phartneriaid agos, ond yr oedd cyfran gymharol uchel o ddata coll ar berthynas rhwng y sawl a amheuir-dioddefwr ym mhob llu.

  • Yn gyson ar draws y pedwar llu, yr oedd tua thraean o achosion o drais a gofnodwyd gan yr heddlu wedi eu fflagio fel rhai’n gysylltiedig â chamdriniaeth ddomestig.

  • O ran deilliant 14, yr oedd hanner yr achosion yr adroddwyd amdanynt wedi dod gan drydydd parti yn unig neu’n ddatgeliad nas bwriadwyd fel adroddiad ffurfiol (‘dweud nid adrodd’).

  • Mae’r cyfuniad o or-gofnodi a dim canlyniadau ‘dim trosedd’ yn golygu bod yr enwadur am gyfrifo cyfraddau cyhuddo yn uwch, a’r cyfraddau cyhuddo tybiedig yn sgîl hynny yn is na’r hyn a fuasent fel arall.

  • Mae swm cynyddol yr achosion o drais a gofnodwyd gan yr heddlu wedi cyd-ddigwydd âchyni; o gymryd popeth arall yn gyfartal, buasai hyn wedi golygu bod llai o adnoddau ar gael am bob ymchwiliad i drais a gofnodwyd.

  • Ym mhob llu, mae codau deilliant yn aml yn cael eu cymhwyso’n anghywir, ac mewn rhai lluoedd maent yn cael eu goruchwylio yn arbennig o wael.

  • Yn set ddata 2018-21 mae deilliannau, ac yn enwedig gyfraddau cyhuddo, yn amrywio’n systemaidd yn ôl math o berthynas y sawl a amheuir/dioddefwr.

Ansawdd a’r defnydd o ddata’r heddlu

Cynhyrchodd y pedwar llu braenaru ddata ar nifer enfawr o achosion dros y cyfnod pedair blynedd a archwilir yma - dros 80,000. Yn gyffredinol, mae’r setiau data hyn yn adnodd cyfoethog dros ben, yn enwedig lle llwyddasom i dreiddio i lawr i ffeiliau achosion unigol i gael darlun mwy cyflawn o’r achos a datblygiad yr ymchwiliad.

Serch hynny, ar draws y pedwar llu, gwelsom, mewn nifer o agweddau, fod data’r heddlu yn anghyflawn ac anghyson. Mae hyn yn gwneud dadansoddi strategol yn anodd, a dilysrwydd a dibynadwyedd rhai canfyddiadau yn ansicr. Dylid cydnabod fod y prif fanylion am droseddau yn aml yn cael eu cofnodi ar bwynt gwneud yr adroddiad cyntaf, a all fod yn amser anodd a straenllyd i ddioddefwyr (neu drydydd partïon sy’n gwneud yr adroddiad) a staff yr heddlu fel ei gilydd, ac efallai na fydd modd cael yr holl wybodaeth sydd o ddiddordeb i ddadansoddwyr am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys y ffaith na fydd dioddefwyr/trydydd partïon efallai yn gwybod amdano neu eisiau ei ddatgelu. Fodd bynnag, os daw’r manylion hyn i’r amlwg yn nes ymlaen yn yr ymchwiliad, mae modd eu dal o hyd.

Mae a wnelo bylchau allweddol fel arfer â data am ethnigrwydd y dioddefwr a’r sawl a amheuir, fel y’i diffinnir ganddynt hwy a chan yr heddlu, a’r berthynas rhwng y sawl a amheuir a’r dioddefwr (gweler Tabl 2).

Tabl 2: Data coll ar draws lluoedd yn set ddata 2018-21 (achosion trais)

Data coll (trais) Llu A Llu B Llu C Llu D
Rhyw’r dioddefwr 0% 8% 26% 1%
Oedran y dioddefwr 0% 6% 1% 5%
Ethnigrwydd y dioddefwyr yn ôl canfyddiad yr heddlu 18% 13% 56% 44%
Ethnigrwydd y dioddefwr yn ôl ei d/ddiffiniad ei hun - 16% 68% 58%
Rhyw’r sawl a amheuir 11% 34% 50% 36%
Oedran y sawl a amheuir 27% 27% 41% 38%
Ethnigrwydd y sawl a amheuir yn ôl canfyddiad yr heddlu 51% 34% 58% 12%
Ethnigrwydd y sawl a amheuir yn ôl ei d/ddiffiniad ei hun - 20% 62% 16%
Perthynas rhwng y sawl a amheuir-dioddefwr 17% 24% 33% 62%

Nodiadau:

Llu A: Data am 2018-20. Dioddefwr gydag URN; sawl a amheuir wedi eu rhifo; perthynas rhwng y sawl a amheuir-dioddefwr yn gyfuniad o ddau amrywiolyn.

Llu B: Data am Tach. 2018-21.

Llu C: Data am 2018-21. Perthynas rhwng y sawl a amheuir-dioddefwr am 2018-20 yn unig; cyfuniad o 2 amrywiolyn (56% ar goll ar y prif amrywiolyn).

Llu D: Data am 2018-21. Ni chynhwyswyd ethnigrwydd y sawl a amheuir pan nad oedd wedi ei adnabod

O archwilio’r ffeiliau achos, gwelwyd, er y gall gwybodaeth fod ar goll o’r meysydd strwythuredig lle dylid ei chofnodi, fod peth ohoni yn hysbys i’r heddlu, am iddi gael ei chofnodi yn rhywle arall yng nghofnodion, megis yn y log ymchwilio. Yr oedd manylion rhyw’r dioddefwr a’r sawl a amheuir yn hysbys ym mhob un o’r achosion, bron, yn set ddata’r ffeiliau achos, ac yr oedd llai o fylchau o lawer o ran ethnigrwydd ac yn enwedig am berthynas y sawl a amheuir-dioddefwr. Fodd bynnag, yn Llu C, yr oedd y bylchau data yn dal yn arwyddocaol (gweler Table 3).

Tabl 3: Data coll ar draws lluoedd yn set ddata’r ffeiliau achos (achosion trais)

Data coll (trais) Llu A Llu B Llu C
Rhyw’r dioddefwr - 0% 1%
Oedran y dioddefwr - 0% 5%
Ethnigrwydd y dioddefwyr yn ôl canfyddiad yr heddlu 16% 4% 48%
Ethnigrwydd y dioddefwr yn ôl ei d/ddiffiniad ei hun - - -
Rhyw’r sawl a amheuir 1% 1% 4%
Oedran y sawl a amheuir 8% 31% 48%
Ethnigrwydd y sawl a amheuir yn ôl canfyddiad yr heddlu 11% 33% 65%
Ethnigrwydd y sawl a amheuir yn ôl ei d/ddiffiniad ei hun - - -
Perthynas rhwng y sawl a amheuir-dioddefwr 5% 7% 15%

Nodiadau:

Yr oedd data rhyw, oedran ac ethnigrwydd y dioddefwyr yn aml wedi ei olygu ar y PDF yn Llu A, felly nid yw gwir lefel y data sydd ar gael yn glir.

Anaml y cofnodir nodweddion gwarchodedig eraill, megis anabledd, yn systemaidd, os o gwbl, ac y mae dau lu bellach wedi creu categori hunaniaeth rhyw/rhywedd cyfun[footnote 203], sy’n golygu na ellir dadelfennu troseddau rhyw yn erbyn pobl draws/anneuaidd[footnote 204]. Mae data am y sawl a amheuir yn aml yn anghyflawn, ac nid yw hyn yn gyfyngedig yn unig i achosion lle nad yw’r sawl a amheuir yn hysbys. Gall gwallau ddigwydd gyda dyddiadau, gan gynnwys dyddiadau geni a dyddiadau troseddau yn arbennig. Er enghraifft, mewn rhai achosion lle na wyddys union ddyddiad y drosedd, mae dyddiad adrodd amdani yn cael ei roi yn lle hynny, sy’n cyfyngu ar y posibilrwydd o ddadansoddi hyd yr amser a gymerir i adrodd ac ymchwilio. Bwlch arall ar draws y lluoedd yw camau ymchwiliadol yr heddlu (er enghraifft, cynnal cyfweliadau gyda’r dioddefwr a’r sawl a amheuir), sy’n dueddol o gael eu cofnodi mewn logiau naratif yn hytrach na meysydd strwythuredig, sy’n gwneud dadansoddi a monitro systematig yn anodd.

Mae’r sgîl-effaith ar ddadansoddi a chamddehongli data am nad yw’r meysydd hynny’n cael eu mewnbynnu’n gywir, yn enfawr, mae’n newid ein proffiliau yn llwyr (dadansoddwr Llu D).

Ymysg ffactorau oedd yn effeithio ar gwblhau data yn wael a nodwyd gan staff heddlu a gyfwelwyd yr oedd gormod o bwysau ar adnoddau (er enghraifft, dim digon o drinwyr galwadau i swm y galwadau) a beichiau gwaith trwm i ymchwilwyr, ac fe welsom ddiffyg canllawiau i swyddogion am sut i fewnbynnu data mewn cofnodion achos a sut i ddehongli amrywiolion neu neilltuo categoriau. Mewn un llu, dywedwyd wrthym fod newid yn y system lle nad oedd rhai meysydd bellach yn orfodol wedi arwain at gwymp mewn cyfraddau cwblhau. Hefyd, yr oedd diffyg naratif corfforaethol am bwysigrwydd data da, nid yn unig fel tasg weinyddol, ond fel rhywbeth fyddai o les i swyddogion a’r sefydliad cyfan - fel cofnod clir o’r ymchwiliad, fel gwybodaeth ac fel ffynhonnell dealltwriaeth strategol, dysgu a datblygu sefydliadol. Hefyd, nid oedd cwblhau data yn rhywbeth a ymddangosai fel petai’n cael ei wirio fel mater o drefn mewn adolygiadau goruchwylio nac ar bwynt cau’r ffeil mewn unrhyw lu.

Dywedodd dadansoddwyr yn aml nad oedd systemau TG yr heddlu wedi eu dylunio i gynnal dadansoddiad strategol.

Mae’n system ofnadwy i ddadansoddi. Chafodd hi mo’i chynllunio i ddadansoddwyr (dadansoddwr, Llu B).

[Dyw hi] ddim yn codio’r data yn y ffordd rydym ni ei angen ar gyfer ein hadroddiad (dadansoddwr, Llu D).

Mae’n debyg ei bod yn addas at y diben pan gafodd ei hadeiladu, ond mae llawer o bethau yr hoffwn weld wedi eu cynnwys yno (dadansoddwr, Llu A).

Un broblem yw bod llawer o wybodaeth werthfawr am y drosedd a’r ymchwiliad yn cael ei chadw ar logiau naratif neu atodiadau yn hytrach nag mewn meysydd strwythuredig, chwiliadwy, sy’n anos o lawer eu dadansoddi’n systemaidd.

Mae llawr o ddata wedi ei guddio dan [y meysydd strwythuredig] na alla’i gael ato. Nid rhan o fy rôl i yw darllen trwy 20, 30 tudalen o [log ymchwiliad] (dadansoddwr, Llu A).

Mewn dau o’r pedwar llu, mae dadansoddwyr yn lliniaru’r problemau data hyn trwy grey setiau data cyfochrog y maent yn eu llenwi â llaw o ffeiliau achos, a’u defnyddio wedyn ar gyfer dadansoddi. Fodd bynnag, mae hyn yn drwm ar lafur, gan ei gwneud yn anodd yn aml edrych y tu hwnt i samplau bychain o achosion; mae’n dyblygu ymdrechion ac yn dwyn amser ymaith oddi wrth y dadansoddi ei hun. Dywed y Model Gwybodaeth Cenedlaethol y gwrthwyneb yn hollol, sef: “Rhaid rhoi amser penodedig i ddadansoddwyr gynnal dadansoddiad o safon ac ni ddylid eu tynnu ymaith i wneud tasgau rheoli gwybodaeth sylfaenol” [footnote 205]. Er bod y prosesau hyn yn datgelu gwallau data yn y cofnod gwreiddiol, ym mhob ahcos, bron, nid ydynt yn cael eu cywiro yn y prif systemau cofnodi.

Er gwaethaf argymhellion gan arolygiaethau’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron[footnote 206] (CPS) ar y cyd y dylai fod gan luoedd broffiliau problemau perthnasol a chyfoes, nid oedd gan yr un llu un ar drais naRAOSO. Yr oedd gan un llu broffil thematig yn canolbwyntio’n unig ar drais gan ddieithriaid, sy’n lleiafrif o’r holl achosion. Dylid nodi fod dau lu wedi dechrau datblygu proffil newydd yn ystod y treiddio dwfn.

Ym mhob llu, yr oedd nifer o systemau data yn cael eu defnyddio, a chysylltiadau gwael rhyngddynt. Yr oedd yn arbennig o anodd cyrchu data’r CPS na gweld posibiliadau cysylltu data. Mae prosiect partneriaeth rhwng Heddlu Avon a Gwlad yr a CPS De-orllewin Lloegr yn datblygu offeryn prototeip i gysylltu data ar draws asiantaethau troseddu er mwyn ymdrin â rhai o’r materion hyn yn lleol.

Mae cefnogaeth ddadansoddol fel petai’n amrywio’n fawr rhwng heddluoedd, o ran adnoddau a lefelau profiad ac arbenigedd.

Proffil achosion RAOSO yr adroddir amdanynt

Cyflwynwyd rhai canfyddiadau o ddadansoddiad set ddata 2018-21 yn y prif adroddiad. Yma, adroddwn am nifer o nodweddion allweddol yr achosion ddaeth i’r pedwar llu hwn yn ystod y cyfnod hwn. Gan gadw mewn cof y cafeatau am ansawdd data a’r bylchau a nodwyd uchod, wrth adrodd am y canfyddiadau hyn, lle bo hynny’n bosib, byddwn yn edrych ar gymariaethau rhwng lluoedd i weld a oes meysydd cysondeb a ffynonellau data eraill, megis y ffeiliau achos a chyfweliadau, i groeswirio a rhoi mewn cyd-destun.

Mathau o drosedd

Ac eithrio am Lu A, lle’r oedd y rhan fwyaf o droseddau yn drais, yr oedd rhaniad bras 50/50 rhwng trais a throseddau rhyw eraill.

Tabl 4: Dadansoddiad o droseddau RASSO yn ôl trais / SSO

Llu Trais Troseddau rhyw difrifol eraill
Llu A 71% 29% (1)
Llu B 41% 59%
Llu C 50% 50%
Llu D 43% 57%

Noder: (1) Golygodd yr hyn sy’n edrych fel gwall gyda’r data a ddarparwyd gan Lu A fod rhai troseddau rhyw difrifol eraill wedi eu colli[footnote 207], gan ddatgan llai na’u cyfran o droseddau RASSO ar y cyfan. Mewn data cenedlaethol, mae’r gyfran yn nes at 50/50.

Proffil perthynas y sawl a amheuir-dioddefwr

Yr oedd Lluoedd A, B ac C yn weddol gyson o ran perthynas y sawl a amheuir-dioddefwr. Yn y tri, y grŵp mwyaf oedd partneriaid agos, sef rhwng chwarter a thraean o achosion, tra bod rhwng 10% a 17% yn ddieithriaid. Effeithiwyd ar Lu D gan lefelau uchel o ddata oedd am goll am yr amrywiolyn hwn.

Table 5: Proffil perthynas y sawl a amheuir-dioddefwr o achosion trais a gofnodwyd gan yr heddlu

Llu A (1) Llu B (2) Llu C (1) Llu D (2)
‘Dim’     5.7%  
Dieithryn 15.0% 10.9% 16.6% 4.3%
Teulu 10.3% 12.2% 8.5% 4.7%
Cyfaill/ cydnabod 25.0% 19.7% 6.0% 15.1%
Partner agos/cyn-bartner agos 33.0% 26.1% 26.3% 14.3%
Arall   5.8% 3.6%  
Heb gofnodi / anhysbys 16.7% 25.3% 33.3% 61.5%

Nodiadau: (1) 2018-20; (2) 2018-21.

Yn gyson ar draws y pedwar llu, yr oedd rhyw draean o achosion o drais a gofnodwyd gan yr heddlu wedi eu fflagio fel rhai cysylltiedig â chamdriniaeth ddomestig (CDd); felly hefyd tua un o bob deg o droseddau rhyw difrifol eraill. Yn y rhan fwyaf o luoedd, yr oedd cysondeb rhwng yr amrywiolyn CDd a’r amrywiolyn/ion perthynas y sawl a amheuir-dioddefwr (gan nodi nad pob achos CDd fydd yn cynnwys partneriaid agos).

Tabl 6: Cyfran o achosion gyda fflag camdriniaeth ddomestig o gymharu â pherthnasoedd agos

Llu A 2018-20 Llu B 2018-21 Llu C 2018-21 Llu D 2018-21 Avg
Trais: Fflagiwyd fel DA 31% 35% 28% 29% 31%
Trais: Partner agos/cyn-bartner agos 33% 29% 26% 14%(1) 29%(2)
Troseddau rhyw difrifol eraill: Fflagiwyd fel DA 8% 13% 8% 9% 10%
Troseddau rhyw difrifol eraill: Partner agos/cyn-bartner agos 8% 7% 6% 2%(1) 7%(2)

Nodiadau: (1) 2018-20; (2) 2018-21.

Amseru adrodd/ cofnodi

Daw Ffigwr 1 o Lu A ac y mae’n dangos yr oedi arbennig rhwng troseddau ac adrodd mewn achosion o drais teuluol, ond hefyd y ffordd, ar draws pob math o berthynas, fod gwasgariad y data ar sgiw yn drwm, gyda chynffon hir (adrodd am droseddau yn hwyrach). Gan ddefnyddio categoriau perthynas manylach yn Llu B (nas dangosir),adroddwyd hyd yn oed yn hwyrach am achosion o drais a gyflawnwyd gan ‘bobl yr ymddiriedwyd ynddynt’, gyda’r amser cymedrig tua 38 mlynedd (a rhai o leiaf o’r achosion hyn yn gysylltiedig â honiadau ar raddfa fawr o gamdriniaeth hanesyddol mewn sefydliadau yr oedd y llu yn ymchwilio iddynt).

Ffigwr 1: Honiadau o drais: amser o’r drosedd hyd at adrodd (dyddiau)

Gwelir patrwm cyson ar draws lluoedd lle mae oedran y dioddefwr adeg y drosedd mewn perthynas wrthdro â’r amser a gymerir i adrodd wrth yr heddlu.

Cymedrig Cyfartalog
1. Dieithryn 1 1 932
2. Dieithryn 2 2 659
3. Teuluol 2,925 5,398
4. Cyfaill/cydnabod 23 1,571
5. Agos/Agos yn flaenorol 65 900
6. Heb gofnodi neu anhysbys 1 1,034
Trais - cyfanswm 19 1,531

Ac eithrio am Lu D, lle’r amlygodd dadansoddwyr y llu a’n hadolygiad ni o ffeiliau achos bryderon am gofnodi dyddiadau troseddau hanesyddol, adroddwyd yn gyson am tua 7 o bob 10 achos o drais gyda dioddefwyr 12 oed ac iau fwy na 5 mlynedd wedi iddynt ddigwydd (y ffigyrau am Luoedd A i C oedd 68%, 69% a 72%). Ar y llaw arall, yr oedd dioddefwyr hŷn yn fwy tebygol o lawer o adrodd am drais yn nes at amser y drosedd, fel y dengys y siart hwn am Lu A (gweler Ffigwr 2).

Ffigwr 2: Oedran y dioddefwr adeg y drosedd a’r amser rhwng y drosedd ac adrodd wrth yr heddlu

Data for this chart was not available to publish accessibly.

Cofnodi troseddau a deilliannau

Bu cynnydd sylweddol yn y troseddau o drais a gofnodwyd gan yr heddlu, yn genedlaethol ac yn holl ardaloedd yr archwiliadau dwfn dros y ddegawd a aeth heibio, er i gyfradd y cynnydd a’r cyfraddau a ddeilliodd o hynny (trais a gofnodwyd gan yr heddlu am bob 100,000 o’r boblogaeth breswyl) amrywio’n fawr o gwmpas y cyfartaleddau cenedlaethol (gweler Ffigwr 3, lle’r amlygir y lluoedd braenaru, ochr yn ochr â’r rhai gyda’r cyfraddau uchaf ac isaf o achosion o drais a gofnodwyd gan yr heddlu). Fodd bynnag, mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn amcangyfrif y bu’r achosion o drais yn weddol sefydlog dros y 15 mlynedd diwethaf[footnote 208]

Ffigwr 3: Achosion o drais a gofnodwyd gan luoedd heddlu yng Nghymru a Lloegr 2012/13-2021/22

Data for this chart was not available to publish accessibly.

Mae ein dadansoddiad yn cefnogi’r farn fod newid mewn arferion cofnodi troseddau wedi cynyddu nifer yr achosion o drais a gofnodwyd gan luoedd heddlu (yn fwy felly mewn rhai nag eraill) a bron yn sicr wedi gweld proffil achosion o drais a gofnodwyd yn newid dros amser. Fel y nodwyd uchod, ymysg y newidiadau ffurfiol allweddol mae cyfuno un drosedd am bob dioddefwr/sawl a amheuir a chofnodi pob adroddiad gan drydydd parti fel trais, a llawer o hyn yn digwydd heb i’r dioddefwr wybod na chydsynio. Byddwn yn trafod manylion a chanlyniadau’r newidiadau hyn fel y gwelwyd yn yr adolygiad dwfn o ffeiliau achos isod.

Priodoli deilliannau

Ym mhob llu, mae codau deilliant yn aml yn cael eu cam-gymhwyso, ac mewn rhai lluoedd, maent yn cael eu goruchwylio’n arbennig o wael. Mewn o leiaf chwarter o’r sampl o ffeiliau achos, yr oedd manylion a ddogfennwyd yn y ffeil yn awgrymu bod y deilliant anghywir wedi ei briodoli. Gwelsom sawl enghraifft o’r canlynol:

  • Achosion lle’r enwir rhywun a amheuir yn cael eu terfynu fel deilliant 14

  • Achosion lle nad oes rhywun a amheuir wedi ei adnabod yn cael eu terfynu fel deilliant 16

  • Achosion lle bu farw’r sawl a amheuir yn cael eu terfynu fel deilliant 14, 15 neu 16 yn hytrach na 5 neu 12.

Mae prosesau terfynu deilliannau yn amrywio ar draws lluoedd, gydag amrywiol haenau o oruchwylio a phartïon yn gyfrifol am hyn, sydd â goblygiadau i ba mor ofalus y caiff y deilliant ei wirio, ond hefyd i ba mor hir y cymer y broses. Mae hyn yn ei dro yn effeithio ar ddadansoddi amserlenni ymchwiliadau, yn dibynnu ar sut i gyfrifo pryd y daeth yr ymchwiliad i ben - pwynt cyflwyno i’w gau ynteu pwynt terfynu’r deilliant. Yn y dadansoddiad o ffeiliau achos, roedd hyn yn amrywio’n fawr rhwng lluoedd, er bod gwahaniaethau amlwg o fewn lluoedd yn ôl y math o ddeilliant.

Yn set ddata 2018-21 yr oedd deilliannau, ac yn enwedig cyfraddau cyhuddo, yn amrywio’n systematig yn ôl math o berthynas y sawl a amheuir/dioddefwr. Er enghraifft, mae cyfraddau cyhuddo am droseddau ‘dieithryn 1’ a throseddau teuluol fel arfer yn uwch o lawer na lle mae honiadau’n digwydd rhwng partneriaid agos cyfredol/cyn-bartneiriad neu gyfeillion a chydnabod. Gall hyn adlewyrchu’r rhesymau cymhleth pam nad yw dioddefwyr eisiau neu fwriadu i’r heddlu weithredu, gan mai achosion gyda phartneriaid cyfredol/cynbartneriaid sy’n cael ei nodi’n arbennig trwy’r categori ‘dweud nid adrodd’- er enghraifft, trwy’r DASH neu ddatgelu fel rhan o ymchwiliad/adroddiad arall. Mae’n debyg fod y gwahaniaethau hefyd yn adlewyrchu’r gwahanol raddau o gydsyniad. Yng nghyswllt hyn, ni welsom lawer o ddealltwriaeth o sut i adeiladu achosion lle mae amddiffyniad o gydsynio, yn enwedig lle bu perthynas flaenorol.

Gellir disgwyl felly i unrhyw wahaniaethau ym mhroffil perthynas achosion o drais a gofnodwyd rhwng lluoedd arwain at wahaniaethau yn y cyfraddau cyhuddo cyffreidnol. I liniaru hyn, yn ddelfrydol byddai cyfraddau cyhuddo yn cael eu cyfrifo a’u cyhoeddi fesul math o berthynas y sawl a amheuir-dioddefwr fel bod modd gwneud cymariaethau ystyrlon.

Rhesymau pam nad yw achosion a ddynodwyd fel deilliant 15 yn bwrw ymlaen

Dengys dadansoddiad o’r sampl o ffeiliau achos a ddynodwyd yn ddeilliant 15 (lle’r enwir y sawl a amheuir ond bod anawsterau tystiolaethol yn atal camau pellach gan yr heddlu) fod problemau tystiolaethol yn elfen mewn llai na hanner yr achosion (gweler Ffigwr 5). Mewn tuag un o bob pump o achosion, ymddengys asesiad o hygrededd y dioddefwr yn ffactor allweddol. Yr oedd cyfrannau bychain o achosion yn gysylltiedig â’r dioddefwr yn tynnu’n ôl, adroddiadau trydydd parti a dim troseddau posib (trafodir y rhain yn fanylach wrth drafod deilliannau 14 ac 16 isod).

Ffigwr 5: Rhesymau pam nad yw achosion deilliant 15 yn bwrw ymlaen

%
Anhysbys 9%
Rhywbeth arall 9%
Adroddiad gan drydydd parti 5%
Dioddefwr yn tynnu cwyn/cydweithrediad yn ôl 5%
Dim tystiolaeth o ymosod/posib na fu trosedd 6%
Hygrededd y dioddefwr 20%
Materion tystiolaethol 45%

Yn y categori o broblemau tystiolaethol, dywedodd yr heddlu ran amlaf nad oedd y dystiolaeth yn ddigon cryf neu codwyd pryderon ynghylch a oedd y dioddefwr, mewn gwirionedd, yn cydsynio. Yr oedd gwerthusiadau o gryfderau a gwendidau achos yn aml yn lleoli tystiolaeth ‘gref’ mewn ffordd mai model seiliedig ar ddieithryn sy’n llywio’r ymagwedd at adeiladu achos. Yr oedd problemau tystiolaethol felly yn rheolaidd yn ymwneud â diffyg tystiolaeth ddigidol, fforensig neu CCTV, ac yr oedd y ffaith fod y sawl a amheuir yn rhoi amddiffyniad o gydsynio yn rheolaidd yn cael ei restru fel gwendid yng nghyswllt gwneud penderfyniad i gyhuddo. Mae dadansoddiad manwl o’r hyn a ddeellir fel tystiolaeth gref neu wan mewn achos yn rhywbeth yr edrychir i mewn iddo ymhellach yn ein gwaith ym Mlwyddyn 2. Lle’r oedd hygrededd dioddefwr yn ffactor, roedd hyn fel arfer yn gysylltiedig ag anghysonderau tybiedig yn yr hyn a ddywedodd y dioddefwr, problemau iechyd meddwl a/neu sylweddau cymhleth, honiadau blaenorol, a pharodrwydd y dioddefwr i roi ei ffôn a chyfarpar digidol arall, neu gydsynio i’r heddlu gysylltu â thrydydd partion, fel eu meddyg teulu, am ddeunydd i gefnogi.

Tynnodd y dadansoddiad o achosion deilliant 15 sylw yn arbennig at y ffaith yr ymddengys nad yw rhai sy’n ymchwiolio i drais yn deall y gyfraith ar gydsynio yn llawn. Mae tystiolaeth yn y data ffeiliau achos o ragdybio cydsyniad oni wnaeth y dioddefwr yn glir na fu cydsynio, a diffyg cymhwyso dealltwriaeth o’r amod ‘rhyddid’ yn y diffiniad statudol o gydsyniad.

Rhesymau pam nad yw achosion a ddynodwyd yn ddeilliant 14 ac 16 yn bwrw ymlaen

Mae naratif cyhoeddus fod y CJS yn methu dioddefwyr-goroeswyr sydd eisiau gweithredu - ac y mae enghreifftiau o hyn ymysg yr achosion deilliant 15 - ond mae’r raddfa’n cael ei chwyddo oherwydd yr arferion cofnodi cyfredol. Yr oedd ein dadansoddiad archwiliadol[footnote 209] o achosion a derfynwyd fel deilliant 14 ac 16, a ddisgrifir fel arfer yn nhermau’r ‘dioddefwr yn tynnu’n ôl’[footnote 210], yn dangos fod ‘tynnu’n ôl’ mewn gwirionedd gan y dioddefwr o’r ymchwiliad yn cyfrif am 16% yn unig o achosion deilliant 14 a 34% o achosion deilliant 16 (gweler Ffigwr 4). Yr oeddem yn cynnwys yn hyn achosion lle tynnwyd yn ôl yn amlwg trwy ddatganiadtynnu’n ôl, a rhai lle peidiodd y dioddefwyr â chydweithredu â’r ymchwiliad, gan beidio ymateb yn aml i sawl ymgais gan yr heddlu i ddod i gysylltiad â hwy. Hyd yn oed o gynnwys y ‘tynnu’n ôl’ olaf, llai ffurfiol hwn, dengys y data nad yw mwyafrif yr achosion a derfynwyd fel deilliant 14 ac 16 yn deillio o’r dioddefwr yn tynnu cefnogaeth yn ôl o ymchwiliad a gefnogwyd yn flaenorol. Am ryw chwarter o’r rhain, yr oedd ofn/amwysedd am broses y CJS yn bwnc allweddol. Yr oedd ffactorau eraill yn cynnwys yr angen i flaenoriaethu materion eraill yn eu bywydau, megis iechyd neu addysg.

Ffigwr 4: Rhesymau pam nad yw achosion deilliant 14 ac 16 yn bwrw ymlaen

14 16
Rhywbeth arall 9% 11%
Materion tystiolaethol 2% 3%
Collodd yr heddlu gysylltiad â’r dioddefwr 4% 2%
Dioddefwr yn methu â rhoi hanes llawn 6% 3%
Dim tystiolaeth o ymosod/posib na fu trosedd 15% 6%
Tynnu cwyn/cydweithrediad yn ôl 16% 34%
Dweud nid adrodd 25% 23%
Adroddiad gan drydydd parti 25% 16%

Mae’n bwysig deall ystod lawn yr achosion o drais yr adroddwyd amdanynt a/neu a gofnodwyd gan yr heddlu, yn enwedig y rhai hynny nad ydynt yn bwrw ymlaen, a sut (yn enwedig i ran ddeiliaid) y gall hyn fod yn wahanol i broffil dioddefwyr a throseddau a welir gan wasanaethauISVA. Mae mewnwelediadau o’r ffeiliau achos yn codi cwestiwn am gyfran yr achosion a gaewyd ar ddeilliant 14 ac 16 nad ydynt yn bwrw ymlaen oherwydd diffyg ymwneud â’r dioddefwyr.

Awgryma dadansoddiad fod codau deilliant troseddau y Swyddfa Gartref yn gosod y cyfrifoldeb ar y dioddefwyr heb gynnig fawr o olwg glir ar y rhesymau dros dynnu’n ôl. Er y gwnaed mân newidiadau dros amser i’r geiriad a ddefnyddir yn fframwaith y deilliannau[footnote 211], er hynny, cyfeirir yn gyffredin at ddeilliannau 14 ac 16 fel rhai ‘seiliedig ar y dioddefwr’, er eu bod yn dod yn dod dan bennawd ehangach ‘anawsterau tystiolaethol’, ac y mae gwaddol geiriad blaenorol yn dal yn rhan o systemau’r heddlu. Ail-adroddir y math hwn o iaith gan swyddogion trwy gydol y broses o wneud penderfyniadau, sy’n arwain at sgript o ddioddefwyr trais fel y rheswm pam fod achosion yn methu mewn plismona (trwy dermau fel ‘amharod, ‘ anghydweithredol’, ‘gwrthod’ a ‘thynnu’n ôl’).

Mae iaith ‘ymwneud â’r dioddefwyr’ yn gosod y cyfrifoldeb ar y dioddefwyr am sicrhau y gall achosion fynd yn eu blaenau, lle cafwyd rhai enghreifftiau le ‘collodd’ yr heddlu y dioddefwr oherwydd methiant i gysylltu mewn pryd. Yr oedd y baich ymwneud yn gadarn felly ar y dioddefwyr yn hytrach nag ar yr heddlu, lle dylai’r heddlu hefyd ysgwyddo peth cyfrifoldeb am ddod o hyd i ffyrdd mwy creadigol o ddwyn dioddefwyr i mewn a’u cefnogi, gan gynnwys pan nad ydynt eisiau bwrw ymlaen, gan gydnabod y gall problemau iechyd meddwl, trawma a’u hamgylchiadau effeithio ar eu (diffyg) ymateb (gweler Piler Tri). Mae hyn hefyd yn pwyntio at broblemau cenedlaethol ynghylch cyfyngiadau’r codau deilliannau i adlewyrchu’n gywir beth sy’n digwydd. Yr oedd yr iaith a ddefnyddiwyd gan swyddogion yn y ffeiliau achos yn aml yn rhoi darlun negyddol o ddioddefwyr, gan ddefnyddio termau fel ‘rhwystrol’, ‘heriol’, ‘gwrthod’, ‘amharod’ ac ‘ anghydweithredol’ (gweler hefyd Piler Tri). Cafwyd hyn yn oed un achos lle’r oedd y swyddog oedd yn gyfrifol am gysylltu yn datgysylltu’n bendant oddi wrth y dioddefwr, gan ddweud:

Gall yr adroddiad hwn gael ei gau, hyd nes y bydd y dioddefwr yn cysylltu ac yn cytuno i siarad â’r heddlu yn y ffordd iawn.

Dengys adolygiad dwfn o’r ffeiliau achos, hyd yn oed lle cofnodwyd troseddau heb i ddioddefwr-goroeswr wybod na chefnogi, fod dioddefwr-goroeswr yn mynegi adwaith negyddol i ymchwiliad ffurfiol yn cael eu labelu fel peidio â chefnogi na chydweithredu.

Yn y sampl o achosion deilliant 14 a 16 a ddadansoddwyd gennym, yr oedd tri chategori o achosion yn cyfrif am gyfran helaeth o’r cofnodion hyn a wnaed heb wybodaeth na chefnogaeth y dioddefwr-goroeswr. Y cyntaf yw adroddiadau a wneir wrth yr heddlu am y dioddefwr ond nid gan y dioddefwr. Nid oedd yr achosion trydydd parti hyn fel arfer yn cael eu cefnogi gan y dioddefwr, a byddai adroddiadau’n aml yn cael eu gwneud heb iddynt wybod, a allai achosi loes ac ymdeimlad o fradychu yng nghyswllt y sawl wnaeth yr adroddiad. Canfuom hefyd gofnodi a therfynu rhai adroddiadau trydydd parti dan ddeilliannau ‘seiliedig ar y dioddefwr’, lle dywed y sawl mae’r trydydd parti yn honni sydd yn ddioddefwr na ddigwyddod unrhyw drosedd (gweler y drydedd enghraifft ym Mocs 1 isod).

Yr ail yw’r hyn a ddiffiniwyd gennym fel ‘dweud nid adrodd’. Mae dweud nid adrodd am achosion wedi arwain at gofnodi achosion, yn aml oedd yn rhai heb fod yn ddiweddar, nad oedd dioddefwyr wedi dewis adrodd amdanynt ar y pryd ac nad oeddent am adrodd amdanynt yn awr. Mae hyn yn cynnwys enghreifftiau lle mae’r heddlu yn cofnodi troseddau o drais a ddatgelwyd iddynt yn ystod proses asesu risg DASH[footnote 212] , gan fod y dioddefwyr yma yn ‘datgelu/ateb’ cwestiwn am drais rhywiol, nid mynd ati i ‘adrodd amdano’. (Yr oedd hyn yn wir hefyd am 17% o achosion o drais a gofnodwyd yn Adolygiad Trais Llundain yn 2019[footnote 213]). Enghreifftiau eraill, a welir ym Mocs 2, yw lle mae dioddefwr trosedd yn cynnig eglurhad - megis nad ydynt am siarad â heddwas gwryw oherwydd profiadau blaenorol o drais rhywiol - a datgeliad a wneir yn ystod ymchwiliad gwahanol, ar wahan. Yr oedd eu cofnodi yn golygu i beth lefel o ymchwilio ddigwydd, ac nad oedd y dioddefwyr yn croesawu hyn ac a oedd yn aml yn peri loes iddynt, ac effeithiodd hyn weithiau ar eu hymddiriedaeth a’r hyder yn yr heddlu.

Yn achos deilliant 14, gwnaed hanner yr adroddiadau gan drydydd parti yn unig neu bu datgeliad nas bwriadwyd i fod yn adroddiad ffurfiol (‘dweud nid adrodd’). Yn yr un modd, yr oedd ymhell dros draean o achosion deilliant 16 yn adroddiadau trydydd parti (16%) a lle’r oedd y dioddefwr yn ‘dweud nid adrodd’ (23%) (gweler Ffigwr 4). O archwilio’r achosion hyn, gwelwyd yn glir nad yw pob trais a gofnodwyd gan yr heddlu yn deillio o ddioddefwyr yn cysylltu â’r heddlu i adrodd iddynt gael eu treisio (heb sôn am eisiau ymchwiliad iddo). Yr oedd grŵp bychan hefyd o achosion lle na allodd dioddefwyr gymryd rhan mewn ymchwiliad na rhoi cyfrif llawn, yn aml oherwydd problemau neu argyfyngau iechyd meddwl cronig.

Bocs 1: Achosion trydydd parti

(1) Mae seiciatrydd yn adrodd fod menyw, yn ystod ymgynghoriad, wedi dweud iddi gael ei threisio. Mae’r seiciatrydd yn rhoi enw’r fenyw ac yn dweud nad oes ganddo’i chaniatâd i adrodd am hyn wrth yr heddlu ond ei bod yn cytuno i gael cymorth meddygol. Mae’r heddlu yn siarad â meddyg yn y SARC sy’n dweud fod hyn yn torri cyfrinachedd rhwng cleient a chlaf, ond y byddai’n cysylltu â’r dioddefwr am ddod i’r SARC. Pan gysyllta’r SARC â’r fenyw, mae hi’n synnu, ac wedi digio am fod cyswllt â’r heddlu wedi digwydd am nad oed hi am adrodd am y digwyddiad na chynnal unrhyw ymchwiliad. Cododd bryderon am y ffaith i’w meddyg gysylltu â’r heddlu. Nid oedd eisiau unrhyw gysylltiad â’r heddlu. Cofnodir hyn fel adroddiad am drais a’i derfynu dan ddeilliant 14.

(2) Mae gwasanaeth camdriniaeth ddomestig yn cysylltu â menyw yn dilyn atgyfeiriad o broses MARAC, am ei bod wedi ei dynodi yn risg uchel, fod ganddi broblemau iechyd meddwl, mae’n ddigartref a chanddi hanes o gamdriniaeth ddomestig. Mae’n datgelu i’r gwasanaeth iddi gael ei threisio gan ei chyn-bartner, ac y maent hwy’n rhoi gwybod i’r hedldu. Pan fydd yr heddlu yn cysylltu â hi i ddilyn y mater, dywed nad oedd am i’r heddlu gael gwybod, ac y mae wedi dychryn eu bod yn galw arni. Nid yw’n barod i siarad â’r heddlu. Fe’i disgrifir fel dioddefwr ‘amharod’.

(3) Mae menyw’n dod adref mewn tacsi wedi noson allan. Mae’n feddw ac yn cael ffrae gyda’r gyrrwr sy’n ei gorfodi i fynd allan o’r car. Mae wedyn yn mynd i garej ac yn eistedd i lawr, yn crio. Galwodd gweithiwr yn y garej yr heddlu, gan ddweud wrthynt fod menyw y tu allan yn crio ac yn awgrymu y gall fod wedi ei threisio. Pan ddaw’r heddlu i siarad gyda hi, dywed na chafodd ei threisio, ac y mae’n esbonio beth ddigwyddodd. Mae eisiau gwneud cwyn yn erbyn gyrrwr y tacsi. Mae hyn yn cael ei gofnodi fel trais a’i derfynu yn neilliant 14.

Bocs2: Achosion o ddweud nid adrodd

(1) Mae menyw mewn car heddlu wedi galwad 999 lle gellid clywed gweiddi a menyw yn dweud wrth ddyn am fynd allan o’i chyfeiriad. Tra’i bod yn y car, mae’n dweud ei bod yn nerfus o ddynion ac eisiau siarad â’r heddwas benyw am iddi gael ei threisio o’r blaen ac iddi adrodd am hyn wrth yr heddlu. Cofnodir hyn fel adroddiad am drais er i’r swyddog ddweud, wrth ofyn am derfynu, i’r “drosedd hon gael ei chrybwyll wrth basio”.

(2) Mae menyw yn adrodd am drais domestig wrth yr heddlu. Fel rhan o’r ymosodiad diwethaf, dywedodd y camdriniwr o flaen ei phlant ei bod wedi cael ei threisio. Dywedodd hi wrth yr heddlu iddo ddweud hyn a bod hyn wedi peri gofid iddi am nad oedd eisiau i’w phlant wybod. Dywedodd nad oedd eisiau adrodd am y trais, fe ddigwyddodd 20-30 mlynedd yn ôl a’i bod eisoes wedi adrodd amdano wrth lu arall a ymchwiliodd iddo. Ni all [y llu hwn] ddod o hyd i’r adroddiad [a wnaed i’r llu arall] ac felly maent yn cofnodi hyn fel adroddiad o drais ac yna’n ei derfynu dan Ddeilliant 14.

Mewn cyfran fechan o achosion deilliant 14 ac 16 yr oedd gwybodaeth yn y ffeiliau achos yn awgrymu ‘dim trosedd’ posib (sef bod tystiolaeth yn awgrymu na ddigwyddodd ymosodiad mewn gwirionedd). Yr oedd hyn i’w weld yn amlycach ymysg achosion a ddynodwyd yn ddeilliant 14 (gweler Bocs 3).

Bocs 3: Enghreifftiau o ddim troseddau posib

(1) Mae dyn gyda phroblemau iechyd meddwl, PTSD ac anawsterau dysgu sy’n byw mewn tai â chymorth yn gwneud adroddiad trydydd parti wrth yr heddlu yn dweud ei fod yn gallu clywed ffrind yn cael ei threisio. Pan ddaw’r heddlu yno, dywed iddo glywed y trais yn ei ben, yna dywed nad yn ei ben yr oedd, ac y mae’n mynd â hwy at y drws lle clywodd ef. Dywed y ddau breswyliwr yno eu bod yn iawn ac nad oedd dim wedi digwydd. Gwnaeth y galwr alwadau tebyg o’r blaen a dywed y staff fod ei gyflwr wedi gwaethygu. Ni adnabuwyd unrhyw ddioddefwr ac nid amheuwyd neb, ond terfynir yr achos ar 16.

(2) Mae adroddiad trosedd a ddyblygwyd sydd eisoes wedi ei gofnodi fel trosedd yn cael ei gau fel deilliant 16 yn hytrach na chael ei ganslo.

(3) Galwad pranc gan blentyn, heb unrhyw honiad clir, dioddefwr na neb dan amheuaeth, yn cael ei chofnodi a’i therfynu fel deilliant 16.

Mae’r ceisiadau i gofnodi dim trosedd a welsom yn y dadansoddiad o ffeiliau achos yn ddieithriad yn cael eu gwneud trwy gyfeirio at reolau cyfrif yr HO. Digwyddodd craffu ar gofnodi troseddau gan HMICFRS, yn enwedig trais mewn perthynas â phenderfyniadau ‘dim trosedd’ yn sgîl nifer o arolygiadau ac adolygiadau a gafodd fod yr heddlu yn tangofnodi troseddau rhyw ac achosion ‘dim trosedd’ a ddylai fod wedi cael eu galw’n droseddau. Mae dyfodiad HMICFRS wedi gwneud cofrestryddion troseddau lluoedd yn awyddus iawn i osgoi risg ac o’r herwydd yn gyndyn o awdurdodu penderfyniadau ‘dim trosedd’. Dangosodd cyfweliadau ansoddol gyda swyddogion heddlu, timau rheoli troseddau a Chofrestryddion Troseddau Lluoedd fod y bar wedi ei osod yn rhy uchel am ‘ddim trosedd’. Dywed ymchwilwyr eu bod yn aml yn peidio â thrafferthu gofyn am benderfyniadau dim trosedd oherwydd bod y broses mor llafurus acyn annhebyg o gael eu hawdurdodi.

Mae mynd trwy’r broses dim trosedd yn erchyll […] rhaid i chi roi tystiolaeth ychwanegol i ddweud na ddigwyddoadd, yna mae’n mynd i banel. Gallwch wastraffu chwe mis i flwyddyn iddo ddod yn ôl, ac yna mewn ychydig iawn o achosion, wel, fuasech chi byth yn cael un yn ôl (Swyddog, Llu A).

Yr anhawster gyda nodi ‘dim trosedd’ yw bod swyddogion yn priodoli deilliannau gwahanol, sy’n aml yn seiliedig ar ddioddefwyr, i’r achosion hyn, sy’n rhoi mwy o hygrededd i’r farn mai amharodrwydd dioddefwyr sy’n peri i achosion beidio â bwrw ymlaen.

[I mi] os yw’n cael ei ddosbarthu fel trais, rhaid i ni ei gau dan god deilliant 14, 15, 16 neu 18 (Heddwas, Llu A).

Y bar am nodi ‘dim trosedd’ yn awr yw y tu hwnt i amheuaeth resymol na ddigwyddodd trosedd, hynny yw, fod angen tystiolaeth sy’n profi na ddigwyddodd trosedd - yr un ag ar gyfer euogfarn. Er bod y bar wedi ei osod yn uchel i atal dioddefwyr bregus hag cael eu rhoi dan bwysau neu eu hanwybyddu wrth ddod i benderfyniad na ddigwyddodd trosedd o drais, yn ymarferol, mae’n creu paradocs. Mae arferion cofnodi cyfredol yn golygu, er nad oes angen llawer o dystiolaeth er mwyn cofnodi trais, am ei fod yn cael ei gofnodi cyn yr ymchwiliad, mae angen Gwybodaeth Gwiriadwy Ychwanegol (AVI) i brofi na ddigwyddodd. Yng nghyswllt hyn, unwaith iddo gael ei gofnodi, mae dioddefwyr yn wynebu lefelau tebyg o anghrediniaeth a chraffu pan ddywedant fod rhywbeth wedi digwydd â phan ddywedant na ddigwyddodd. Yn y ddwy enghraifft, ni chymerir gair y dioddefwr fel tystiolaeth gredadwy o beth a ddigwyddodd neu na ddigwyddodd.

Yn ychwanegol, mewn rhai lluoedd, mae nifer fechan o ddioddefwyr yn cyfrif am swm anghymesur o achosion o drais a gofnodwyd, fel arfer lle mae eu hymddygiad o ran adrodd yn gysylltiedig ag afiechyd meddyliol gwaelodol. Yr oedd dau unigolyn o’r fath o ddau lu o leiaf yn amlwg yn y ffeiliau achos a samplwyd. Mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau hyn yr adroddir amdanynt yn cael eu nodi fel ‘troseddau’, er bod rhai lluoedd yn datblygu polisïau lleol i alw honiadau o natur debyg sy’n gysylltiedig ag unigolion ac amgylchiadau penodol yn y dyfodol yn ‘ddim trosedd’’[footnote 214]. Bwriad hyn yw gweithredu yn gyfyngedig, fesul achos gyda chofrestrydd troseddau’r llu yn goruchwylio hyn. Ochr yn ochr â hyn, rhaid cael ymagwedd glir o ddiogelu a system dryloyw o fonitro’r math hwn o droseddumynych.

Canlyniadau anfwriadol rheolau cyfrif y Swyddfa Gartref amRAOSO.

Yn yr holl gategorïau uchod (achosion trydydd parti, ‘dweud nid adrodd’, ac achosion dim trosedd), mae cofnodion troseddau yn cael eu cynhyrchu er mwyn cydymffurfio â’r HOCR am fod trosedd wedi ei datgelu. Canfu dadansoddiadau dwfn o ffeiliau achos a chyfweliadau enghreifftiau o swyddogion ymchwilio yn bendant fod troseddau’n cael eu cofnodi ar gyfer “rheolau adrodd y Swyddfa Gartref yn unig.” Tra bod gan gofnodi troseddau rôl bwysig o ran cofrestru maint troseddu, cydnabod niwed i’r dioddefwr ac amlygu’r risgiau posib o du’r sawl a amheuir, awgryma ein dadansoddiad fod arferion cofnodi o’r fath a’r prosesau sy’n deillio ohonynt yn esgor ar ganlyniadau anfwriadol ar draws pedwar dimensiwn cyd-gysylltiedig: dioddefwyr-goroeswyr, uniondeb data, llwyth gwaith yr heddlu, a diwylliant plismona ehangach.

Dioddefwyr-goroeswyr: Mae terfynu’r achosion hyn fel deilliant 14 neu 16 yn priodoli’r rheswm dros gau achosion i ddioddefwyr am achosion na wnaethant erioed eu hadrodd. Mae dioddefwyr-goroeswyr yn cael eu hunain mewn ymchwiliad heddlu nad oeddent am iddo ddigwydd, a gall hyn eu rhoi mewn sefyllfa o fwy o niwed neu loes, fel y gwelir isod.

“Dydw i ddim a doeddwn i ddim am gofnodi hyn fel trosedd ac erlyn na chael [y sawl a amheuir] wedi ei arestio na’i gyfweld. Rwy’n dal mewn cysylltiad ag ef er mwyn iddo weld ein plentyn a phetai’n cael ei gyfweld a/neu ei gyhuddo, rwy’n gwybod y buasai hyn yn creu llawer o broblemau a, y gwn na fuasai’n ymateb yn dda iawn. Er mwyn ceisio cadw’r sefyllfa rhyngom mor dawel ag sydd modd cyhyd ag sydd modd a’i atal rhag gwaethygu, dwyf i ddim am iddo gael ei gyfweld am y mater hwn”. (Dioddefwr mewn achos deilliant 14)

Mae gwraig Asiaidd yn adrodd am ei gŵr, sydd yn swyddog o’r heddlu, am gamdriniaeth ddomestig, yn enwedig ei ymddygiad rheoli, tra’i fod ef allan o’r wlad. Mae ateb ie i’r cwestiwn ar drais rhywiol ar y DASH a chofnodir trais. Mae’r fenyw yn glir na fydd yn rhoi datganiad am y trais. Caiff y camdriniwr ei arestio pan ddaw’n ôl i’r wlad a’i gyfweld am yr honiad o drais, mae’r achos yn cael ei derfynu fel deilliant 16. Does dim cofnod o unrhyw gam yn cael ei gymryd am ei chŵyn gychwynnol. (Achos deilliant 16)

Lle daeth trais rhywiol i’r amlwg trwy’r DASH neu ymchwiliad camdriniaeth ddomestig, mae potensial i’r heddlu wrth fynd ar ôl cyhuddiad RAOSO hefyd roi llai o flaenoriaeth i’r hyn mae’r dioddefwr mewn gwirionedd yn adrodd amdano – camdriniaeth ddomestig – a gall eu hatal rhag mynd ar ôl unrhyw weithredu gan yr heddlu yn y dyfodol. Yn hytrach na chynyddu hyder, fe all ei leihau. Yn olaf, mae tystiolaeth yn ffeiliau’r heddlu o restru’r cofnodion hyn mewn adroddiadau yn y dyfodol o drais fel gwendid (h.y., cyfrif yn erbyn y penderfyniad i ddwyn cyhuddiad yn y dyfodol o drais, sydd yn aml heb gysylltiad).

Uniondeb data: O ran uniondeb data, mae arferion cofnodi cyfredol ar hyn o bryd yn ei gwneud yn amhosib sefydlu gwir nifer y dioddefwyr sy’n tynnu’n ôl o adroddiad a wnaethant i’r heddlu gyda’r bwriad o gael ymchwiliad iddo. Mae’r ffeiliau achos yn awgrymu fod lluoedd heddlu yn goramcangyfrif adrodd a’r graddau y mae dioddefwyr yn tynnu’n ôl. Mae gwaelodlinau yn cael eu cynyddu trwy gofnodi unrhyw grybwyll am drais a’r anallu i nodi dim trosedd. Mae cofnodi yn awtomatig achosion a ddatgelwyd trwy brosesau fel DASH hefyd yn cymhlethu unrhyw ganfyddiadau yng nghyswllt perthynas troseddwyr a deilliannau, sydd fel petaent yn dangos cyfraddau cyhuddo arbennig o isel o gymharu â’r rhan fwyaf o fathau eraill o berthynas.

Llwythi gwaith yr heddlu: Mae goblygiadau pwysig hefyd yn y canfyddiadau hyn i’r heddlu o ran llwythi gwaith ac adnoddau i’r baich gweinyddol o achosion na fydd fyth yn mynd ymlaen, am fod angen cofnodi, prosesu ac ymateb iddynt. Bydd hyn o raid yn ychwanegu canfyddiadau o bileri eraill yng nghyswllt llwyth gwaith yr heddlu a’u lles.

Diwylliant plismona: Yn olaf, mae goblygiadau i ddiwylliant plismona a hyder y cyhoedd yn yCJS. Mae galw achosion nad yw dioddefwyr eisiau adrodd amdanynt yn droseddau ac yna priodoli’r rhain i ddeilliant ‘seiliedig ar y dioddefwr’ yn parhau â’r syniad o ddioddefwyr trais fel y rheswm fod achosion yn methu (cyfyd y termau ‘amharod’, ‘anfodlon’, ‘gwrthod’ dro ar ôl tro yn ffeiliau’r achos) mewn plismona, ar yr un pryd ag arwain y cyhoedd a llunwyr polisi i holi beth sydd o’i le gyda phlismona a’r CJS sy’n gwneud i ddioddefwyr fod eisiau tynnu’n ôl. Yn olaf, mae arferion cofnodi cyfredol yn cyfrannu at ddarlun negyddol cyffredinol o ddioddefwyr-goroeswyr yn y diwylliant plismona ehangach wrth i ddioddefwyr-goroeswyr gael eu portreadu fel rhai sy’n rhwystro plismona trosedd trwy fod yn ‘anghefnogol’, ‘amharod’, neu ‘anfodlon’ i gefnogi ymchwiliad nad oeddent erioed ei eisiau nac yn ei ddisgwyl.

Cyfraddau adrodd a chyhuddo

O’u cymryd gyda’i gilydd, mae’r canfyddiadau a amlinellir uchod yn golygu bod angen rhoi cyfraddau adrodd sy’n codi a chyfraddau cyhuddo sy’n gostwng yn eu cyd-destun cywir. Gyda’r newidiadau mewn arferion cofnodi troseddau, mae’n debygol na fuasai cyfran o’r achosion o drais sy’n cael eu cofnodi heddiw wedi digwydd 10 mlynedd yn ôl – felly mae llawer o’r cynnydd wedi digwydd nid mewn adrodd ond mewn arferion cofnodi. Mae’r cyfuniad i or-gofnodi a dim canlyniadau ‘dim trosedd’ yn arwain at godi’r enwadur am gyfrifo cyfradd cyhuddiadau, a’r hyn sy’n edrych fel cyfraddau cyhuddo o’r herwydd yn is na’r hyn fyddai wedi digwydd fel arall. Mae gan achosion o drais sydd bellach yn cael eu cofnodi nodweddion sy’n golygu y gallant fod yn llai tebygol o fynd ymlaen i gyhuddiad gan nad oes dioddefwr-goroeswr yn ceisio ymchwiliad.

Dylid nodi hefyd fod cynnydd yn nifer yr achosion o drais a gofnodwyd gan yr heddlu wedi cyd-fynd â chyni; a chymryd popeth arall yn gyfartal, y canlyniad fyddai llai o adnoddau ar gael am bob ymchwiliad a gofnodwyd i drais. Mae amserlenni hwyr yr heddlu a’r CJS yn gyffredinol yn golygu nad yw rhai achosion o drais a gofnodwyd mewn un flwyddyn yn cael eu terfynu tan flynyddoedd wedyn, gyda chyhuddiadau yn cymryd y mwyaf o amser fel rheol o holl ddeilliannau’r Swyddfa Gartref. Felly mae cyfraddau cyhuddo am un flwyddyn yn parhau i godi dros y blynyddoedd dilynol. Mae hyn yn cynyddu pwysigrwydd edrych ar ddata dros amser.

Yr oedd y baich ymwneud yn gadarn felly ar y dioddefwyr yn hytrach nag ar yr heddlu, lle dylai’r heddlu hefyd ysgwyddo peth cyfrifoldeb am ddod o hyd i ffyrdd mwy creadigol o ddwyn dioddefwyr i mewn a’u cefnogi, gan gynnwys pan nad ydynt eisiau bwrw ymlaen, gan gydnabod y gall problemau iechyd meddwl, trawma a’u hamgylchiadau effeithio ar eu (diffyg) ymateb (gweler Piler Tri). Mae hyn hefyd yn pwyntio at broblemau cenedlaethol ynghylch cyfyngiadau’r codau deilliannau i adlewyrchu’n gywir beth sy’n digwydd.

ATODIAD 12: PILER CHWECH[footnote 215] ARCHWILIO, DEALL A GWELLA’R DEFNYDD O DDEUNYDD DIGIDOL MEWN YMCHWILIADAU TAThRhE

Arweinydd y Piler: Tiggey May, Tîm y Piler: Dr Catherine Talbot, Dr Rachel Skinner gyda Samantha Atkinson, Arianna Barbin, Chantelle Butt, Emilly Holtham, Tamzin Jeffs, Amrana Latif, Asmaa Majid, Georgie Markham-Woods, Tiago Garrido Marques, Elena Reid, a Louise Trott

Cyflwyniad

Cyflwynwyd Piler Chwech i Operation Soteria Bluestone yn dilyn gwaith archwiliadau dwfn digidol a gynhaliwyd mewn pedwar llu yn Lloegr fel rhan o grant Gwyddoniaeth, Technoleg ac Ymchwil a gyllidwyd gan y Swyddfa Gartref gyda’r nod o archwilio siwrne ymchwiliadol ddigidolRAOSO. Yr oedd y gwaith archwiliadau dwfn yn dilyn ymagwedd fethodolegol debyg i Bileri Un-Pump Operation Soteria Bluestone lle’r oedd canfyddiadau yn ymddangos o Bileri Un-Pump hefyd yn datgelu natur broblemus tystiolaeth ddigidol mewn ymchwiliadauRAOSO; yn ymwneud yn bennaf â thrin ffonau symudol dioddefwyr (Piler Tri), diffyg strategaeth ymchwiliadol ddigidol (Pileri Un a Dau), absenoldeb hyfforddiant digidol i lawer o swyddogion RAOSO (Piler Pedwar) a diffyg unrhyw ddata perfformiad digidol y gellid ei fesur (Piler Pump). Nod cyffredinol ein hymchwil Piler Chwech ym Mlwyddyn 1 fu i archwilio a deall pwysigrwydd, amlygrwydd, a phroblemau tystiolaeth ddigidol i ymchwiliadau ac ymchwilwyr RAOSO mewn pedwar llu ar draws Cymru a Lloegr.

Cefndir

Ddeng mlynedd yn ôl, gwelwyd data digidol fel elfen ymylol mewn ymchwiliadau i droseddau. Nawr, mae swm y data personol a’r deunydd digidol a ddelir ar ddyfeisiadau symudol,PCs a llechenni wedi cynyddu mor sydyn fel y datganodd y Strategaeth Gwyddor Fforensig Digidol yn 2020[footnote 216] fod elfen ddigidol bellach i dros 90% o droseddau a gofnodwyd (NFSS[footnote 217], 2020; Wilson-Kovacs, 2021[footnote 218]). Er gwaethaf amlygrwydd data digidol, cyfyng yw’r ddeallwtriaeth, y tu allan i Unedau Fforensig Digidol, o sut orau i gynnal ymchwiliad digidol fedrus sy’n cydymffurfio’n fforensig[footnote 219] (Vincze, 2016[footnote 220]). Nid yw’n syndod fod swm y cyfryngau cymdeithasol a thystiolaeth ddigidol arall a geir fel mater o drefn mewn ymchwiliadau digidol yn gyfryw fel bod y “’gwn newydd ei danio’ hanfodol” yn cael ei weld yn gynyddol fel y “’nodwydd mewn tas wair’ hanfodol” (Brown[footnote 221], 2015).

Mae’r heriau digidol sy’n wynebu’r heddlu heddiw yn we o bynciau rhyng-gysylltiedig yn ymwneud nid yn unig â rhoi i’r heddlu y dechnoleg angenrheidiol i gyrchu ac echdynnu data perthnasol (Casey, Katz a Lewthwaite, 2013[footnote 222], Muir a Walcott, 2021) ond hefyd â rhoi i swyddogion a staff yr heddlu y sgiliau a’r hyfforddiant angenrheidiol i allu mynd i’r afael â heriau ymchwiliadol data digidol (Swyddfa Gartref, 2015[footnote 223]; Muir a Walcot, 2021[footnote 224]), a chadw mewn cof ar yr un pryd hawliau moesegol a phreifatrwydd dioddefwyr, y sawl a amheuir, a thystion (Aminnezhad, A., a Dehghantanha, A. 2014[footnote 225],, Muir a Walcott, 2021). Hefyd, mae heriau sefydliadol sy’n ymwneud a sicrhau bod yr holl ddata digidol a ddelir gan yr heddlu yn cael eu storio, trosglwyddo a’u dileu mewn modd sy’n cydymffurfio â’r deddfau diogelu data perthnasol sy’n llywodraethu’r prosesau hyn (Al-Khateeb, H. M. a Cobley, P; 2015[footnote 226]).

Yn dilyn chwalu treial R v Allan[footnote 227], taflwyd goleuni llachar ar yr heriau tystiolaeth ddigidol sy’n wynebu plismona ac yn sgîl hynny y system cyfiawnder troseddol yn ehangach[footnote 228].. Mae’r twf sydyn ym mhwysigrwydd gwaith fforensig digidol wedi golygu y cafodd gweithdrefnau, polisïau ac adnoddau lleol drafferth i ddal i fyny â’r galw[footnote 229]. Gyda sylw cynyddol ar waith fforensig digidol, esblygodd polisïau niferus yn sydyn iawn, gan greu cyflwr cyffredinol o ddryswch digidol a diffyg cysondeb ar draws nifer o luoedd. (May et al., wrthi’n cael ei baratoi)[footnote 230]At hyn, mae offer dadansoddi a ddylasai helpu ymchwilwyr wedi eu disgrifio mewn gwahanol ffyrdd gan swyddogion a staff yr heddlu fel rhai sy’n “llyncu amser”, “anhygyrch”, ac sy’n “methu cyfathrebu” gyda systemau sy’n bodoli eisoes (Schreuders et al., 2018; McPhee a Rumney 2020; Rappert, Redfern a Wilson-Kovacs 2021). Canlyniad hyn oll yw bod swyddogion yn ardaloedd sawl llu yn dal i wneud y gwaith golygu, mewnbynnu a dadansoddi â llaw, sy’n cymryd amser. Hefyd, soniodd ymatebwyr yn astudiaeth Schreuder (2018) nad oedd eu meddalwedd rheoli achosion yn gydnaws â systemau eraill yr heddlu, sy’n arwain at amwysedd mewn cadw cofnodion a dyblygu data dros nifer o systemau gwahanol (Schreuders et al., 2018).

Er gwaetha’r craffu a’r sylw ychwanegol roddir bellach i ymchwiliadau digidol, a’r cynnydd mewn dogfennau polisi, deddfwriaethol, arfer a chanllawiau sydd ar gael yn awr gan y Coleg Plismona, Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Swyddfa Gartref, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, y Comisiynydd Dioddefwyr a nifer o gyrff y sector cyhoeddus ac elusennol sy’n gweithio yn y maes hwn, mae’n dal i gael ei weld gan lawer fel maes plismona sy’n parhau yn ‘ddiffygiol’, o ran dealltwriaeth swyddogion a staff o’r mesurau sicrhau ansawdd, hyfforddiantpwrpasol, canllawiau clir, technoleg briodol, a buddsoddiad (Foster et al. 2019; Rappert, Wheat a Wilson-Kovacs 2020; Muir a Walcott 2021; May et al. Wrthi’n cael ei baratoi).

Ymagwedd Fethodolegol

Dull cymysg oedd yr agwedd fethodolegol a fabwysiadwyd gan Biler Chwech[footnote 231] ac yr oedd yn golygu’r canlynol:

  • Dadansoddi 137 o adolygiadau achos RAOSO wedi eu gwneud yn ddienw, oedd yn cynnwys data digidol, dros gyfnod tair-blynedd o 01/01/2018 i 01/01/2021[footnote 232]

  • Dadansoddiad meintiol o 14,708[footnote 233] haen data perthnasol i ddata digidol yr heddlu [footnote 234]

  • 40 cyfweliad ansoddol dwfn gyda swyddogion RAOSO/Adran Ymchwilio i Droseddau (CID) a staff DFU

  • 14 cyfweliad mapio ansoddol dwfn i ddeall strwythur, medru a chynhwysedd systemau a phrosesau digidol a RAOSO

  • Adolygiad o 141 o ddogfennau polisi, gweithdrefnau a chanllawiau’r llu yn ymwneud â: caffael, cipio, dadansoddi, storio, trosglwyddo a dileu data/tystiolaeth ddigidol

  • Dadansoddiad dogfennol o ddiagramau llif a dogfennau a ddarparwyd gan y pedwar llu yn amlinellu’r defnydd o ddeunydd a thechnoleg ddigidol trwy gylch einioes ymchwiliadolRAOSO, o hysbysu am y digwyddiad hyd at gyflwyno ffeil iCPS.

Rhesymeg Fethodolegol

Gofynnwyd am y data ar ffeiliau achos a meintiol er mwyn i ni allu deall yn well pa ddata digidol sy’n cael eu casglu fel mater o drefn mewn ymchwiliadauRAOSO, ei werth i’r ymchwiliad a’r gwahaniaethau mewn ceisiadau a dadansoddi data rhwng dioddefwyr, y sawl a amheuir, a thystion. Yr oedd yr adolygiadau achos hefyd yn ein galluogi i gasglu ffactorau pwysig mewn casglu deunydd digidol o ran pam y’i casglwyd a beth, er enghraifft, oedd yn cael ei echdynnu o ddyfais. Cynhaliwyd cyfweliadau dwfn er mwyn deall y prosesau gwneud penderfyniadau y tu ôl i’r strategaeth ymchwiliadol ddigidol a barn swyddogion/staff yr heddlu am ‘sut mae hi’ yn ddigidol ar hyn o bryd ym mhob llu. Rhoddodd y cyfweliadau i ni hefyd ddealltwriaeth ddofn o farn y swyddogion /staff am gryfderau a gwendidau cynhwysedd, medru a bregusrwydd digidol pob llu. Yr oedd y cyfweliadau mapio yn rhoi i ni ddealltwriaeth gynhwysfawr o gylch oes ymchwiliadol ddigidolRAOSO, o’r cychwyn hyd at derfyn yr achos. Yn olaf, caniataodd yr adolygiad o ddogfennau i ni ddadansoddi’r polisiau, gweithdrefnau a chanllawiau digidol sydd ar gael i swyddogion am bob un o’r prosesau craidd sy’n rhan o ymchwiliad digidol[footnote 235].

Cyfyngiadau Data

Ni allodd tri o’r pedwar llu ddarparu data digidol meintiol, oherwydd yr amser fyddai ei angen i echdynnu’r data hyn, a’r ffaith fod y data’n cael eu dal ar draws systemau lluosog, a dim un ohonynt yn cysylltu â’i gilydd. Er i’r pedwerydd llu roi dros 14,000 o haenau data, yr oedd data digidol ar goll neu heb fodoli mewn cyfran arwyddocaol o achosion. Er i’r holl luoedd ddarparu data ar ffeiliau achos, fe’n cyfyngwyd i nifer cymharol fychan o achosion oherwydd anhawster tynnu allan y data, sy’n cael ee storio ar draws systemau lluosog ac yn gorfod cael eu llenwi â llaw gan y swyddogion, sy’n cael effaith ar eu llwythi gwaith.

Canfyddiadau

Wynebodd y pedwar llu heriau digidol a gwelwyd arferion da ar draws tri maes allweddol:

1. Sefydliadol

2. Ymchwiliadol

3. Technolegol

Diddorol oedd gweld nad oedd a wnelo llawer o’r pryderon a godwyd gan y sawl a gyfwelwyd â’r dechnoleg ei hun, ond yn hytrach y ffactorau dynol sy’n sail i ddefnyddio technoleg. Cyflwynwn ein canfyddiadau dan y tair thema allweddol a ddeilliodd o’n hymchwil treiddgar.

Her sefydliadol 1: Diffyg systemau tystiolaeth ddigidol integredig

Ar draws y pedwar llu, yr oedd cyfuniad o systemau a phrosesau dal a golygu data ar waith. Yr oedd rhai lluoedd wedi prynu systemau digidol; eraill wedi creu eu systemau mewnol eu hunain. Yr oedd rhai yn golygu ffeiliau â llaw, ac yr oedd gan eraill offer golygu syml. Yr oedd dadansoddi data yn dueddol o ddigwydd yn ôl chwiliadau geiriau allweddol, o fewn ffiniau amser diffiniedig, rhwng unigolion a enwyd neu o rai llwyfannau megis WhatsApp neu Tinder. Credai swyddogion o’r pedwar llu nad oedd y dechnoleg na’r hyfforddiant yn y maes hwn yn ddigonol, er eu bod oll yn ymwybodol o’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Gyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Heddlu, nifer o wasanaethau fforensig digidol, Gwasanaeth Digidol yr Heddlu, yr Amgylchedd Medr Cyflymedig, a’r Llywodraeth, sydd oll â’r nod o geisio datrys y problemau hyn. Heb systemau integredig i ddal, golygu a dadansoddi data, ni fu modd i ni ddal y cylch digidol RAOSO yn ei gyfanrwydd. Canlyniad absenoldeb system ddigidol o reoli achosion allai ddal a storio data o’r digwyddiad a’r ymchwiliad oedd bod swyddogion yn gorfod rhoi’r un data i mewn â llaw ar draws systemau lluosog. Yr oedd hyn yn gwneud y baich gweinyddol yn drymach ac yn creu posibilrwydd gwallau/anghysondeb. I swyddogion newydd ar dîmRAOSO, nid oedd unrhyw ddiagramau llif digidol/ymchwiliadol na dogfennaeth oedd yn disgrifio’r daith ddigidol RAOSO o hysbysu am ddigwyddiad hyd at gyflwyno ffeil iCPS, a chanlyniad hyn oedd bod swyddogion yn dysgu gan ei gilydd, sydd yn y pen draw yn cynnwys arferion ardderchog a gwael. Yn y rhan fwyaf o luoedd, yr oedd rhwydwaith fforensig y DFU ar wahan i rwydwaith y llu ac nid oedd modd ei gyrchu trwyddo[footnote 236]. Yn niffyg technoleg y cwmwl, roedd cofau bach yn cael eu defnyddio i drosglwyddo data rhwng rhwydweithiau, neu byddai’n rhaid i swyddogion deithio i DFUs i gael golwg ar ffeiliau mawr. Mewn rhai lluoedd, byddai un siwrne o’r fath yn rhwydd yn waith diwrnod. Mae’r her hon hefyd yn esbonio pam ei bod mor anodd casglu data am adolygiadau achos a setiau data meintiol mawr.

I gyrraedd y DFU mae’n rhaid i mi yrru; tair awr yno a thair awr yn ôl[footnote 237], diwrnod cyfan i edrych ar un ffeil. Y fath wastraff adnoddau (Swyddog RASSO Llu D)

Her sefydliadol 2: Adnoddau staff

Yr oedd adnoddau staff yn her i’r pedwar llu. Amlygwyd prinder staff RAOSO hyfforddedig fel un o’r prif resymau am y swm o ffonau’r sawl a amheuir oedd wedi cronni ac yn aros i gael eu lawrlwytho, a hyn yn cael ei wneud yn waeth gan swm yr achosion RAOSO oedd yn y system ar unrhyw un adeg lle’r oedd angen lawrlwytho ffonau. Dywedwyd mai diffyg staff hyfforddedig oedd y brif ffactor oedd yn cyfrannu at hyn, a hynny yn ei dro yn rhoi mwy o bwysau ar y staff hyfforddedig. Y canlyniad oedd tagfa o ffonau, eiddo’r sawl a amheuwyd yn bennaf[footnote 238], yn aros i gael eu lawrlwytho, oedd yn oedi ymchwiliadau ac yn cynyddu amseroedd aros i ddioddefwyr, tystion a’r sawl a amheuir fel ei gilydd. Yn ychwanegol at y ffaith fod lluoedd yn symud at ymagwedd fwy cymesur at lawrlwytho ffonau, dywedwyd fod cyflwyno ciosgau Lefel 1[footnote 239] lawrlwytho ffonau hefyd yn helpu i leihau’r amser a gymerir i echdynnu a dadansoddi’r dagfa o ffonau yn y pedwar llu.

Mae swm anferth o ddyfeisiadau digidol, ac y maen nhw’n cymryd cymaint o amser i’w dadansoddi, llawrlwytho, etc. Yma neu yn ein huned arbenigol, does gyda ni mo’r oriau gwaith sydd eu hangen. Nid dim ond datganiad yw hynna, does jyst dim digon o blismyn …mae staffio’n waeth nag y mae unrhyw un yn sylweddoli (Swyddog RASSO Llu B)

Her sefydliadol 3: Storio a dileu data

Er i bob llu /swyddog gael eu rhwymo gan egwyddorion Rheoli Gwybodaeth yr Heddlu (MoPI), sy’n datgan pa mor hir y dylid storio data, yn dibynnu ar y math o drosedd ac oedran y dioddefwr, ac y dylai fod gan bob llu Arweinydd Data a Llywodraethu all roi cyfarwyddyd am y modd mae’r llu unigol yn cadw ac yn gwaredu, gwelwyd fod storio a dileu data digidol yn her, gyda rhai cyfranogwyr yn dweud eu bod yn ddryslyd am y polisiau, oedd naill ai’n anhysbys neu heb fod yn cael eu dilyn. Er enghraifft, mewn un llu, pan ofynnwyd am brotocol storio data am achosionRAOSO, crybwyllodd y cyfranogwyr amseroedd storio data oedd yn amrywio o chwe mis i 30 mlynedd. O’r adolygiadau achos, yr oedd anghysondeb ar draws lluoedd ac ynddynt am sut mae data digidol yn cael ei storio: soniwyd mewn rhai achosion am storio cynnwys ffonau wedi’i lawrlwytho/tebyg ar gofau bach a DVD/Disgiau, tra bod peth data’n cael eu storio ar weinyddion diogel gyda lefelau uchel o ddiogelwch. Lleisiwyd pryderon hefyd gan rai a gyfwelwyd am y polisiau a’r protocolau ynghylch mynediad staff at ffonau wedi’u lawrlwytho, gan ddweud nad oedd mynediad at ffôn dioddefwr neu rywun dan amheuaeth wedi ei gyfyngu i’r rhai oedd yn gweithio ar yr achos.

Os yw’n cael ei gadw yn y storfa eiddo, er enghraifft, gall unrhyw swyddog sydd eisiau ei gymryd allan” (Swyddog Llu B).

Mae gan bob heddwas fynediad at y feddalwedd, felly fe allen gyrchu’r ffeil ac edrych arni, dim ond gwybod y rhif cyfeirio sydd angen” (Swyddog Llu E)

Galla’i gyrchu unrhyw rai ohonyn nhw [deunydd wedi’i lawrlwytho o ffonau] dyn nhw ddim wedi eu diogelu gyda chyfrinair; fe alla’i edrych arnyn nhw i gyd…fe ddylen nhw fod yn agored [hygyrch] dim ond i’r bobl sydd yn rhan [yn gweithio] o’r achos hwnnw (Swyddog RASSO Llu D)

Mae CCTV a lluniau’n aml yn cael eu storio ar system o’r enw Tystiolaeth yn Gweithio, a’r lasenw arno yn ein llu ni yw Tystiolaeth Ddim yn Gweithio …… Ryn ni wedi cael problemau lu gydag e. Nid yw’n uwchlwytho bob tro; mae’n mynd oddi ar lein o hyd, a phethau’n cymryd oesoedd i’w llwytho lan. (Swyddog Llu E)

Her sefydliadol 4: Hyfforddi a datblygiad proffesiynol

Rhywbeth sy’n gwaethygu problem adnoddau swyddogion a staff yw’r canfyddiad am ddiffyg hyfforddiant ac arbenigedd priodol y tu allan iDFUs, o ran medru dadansoddi, dehongli data, a chyflwyno deunydd digidol mewn achosionRAOSO, oedd yn cael ei ystyried yn hanfodol, ond ar draws y pedwar llu, roedd yn ddiffygiol. Teimlai’r sawl a gyfwelwyd fod yr hyfforddiant cyfredol yn sylfaenol, yn rhy gyffredinol a heb unrhyw hyfforddiant penodol am ddefnyddio deunydd digidol mewn achosionRAOSO[footnote 240] . Credent fod yr agwedd ar hyn o bryd yn “broblem sy’n achosi pryder” o gofio rôl hanfodol deunydd digidol mewn llawer o ymchwiliadau TAThRhE. Dywedodd cyfranogwyr mewn dau o’r lluoedd mai tueddu i ddysgu wrth weithio yr oeddent, ond yn aml, serch hynny, gan staff RAOSO gweddol ddibrofiad. Yr oedd pryderon hefyd am y diffyg gwybodaeth ddigidol arbenigol, y tybiai swyddogion oedd ei angen o ddechrau ymchwiliad, ar draws y pedwar llu mewn unedau RAOSO ac adrannau CID. Dywedwyd fod hyn yn peri oedi mewn ymchwiliadau, a hyn yn ei dro yn arwain at golli tystiolaeth bwysig. Dywedodd y sawl a gyfwelwyd y dylid ystyried mynediad at arbenigedd digidol fel rhywbeth arferol a hanfodol, nid rhyw foethusrwydd ychwanegol, yn enwedig o ystyried mor gyflym yr oedd technoleg yn datblygu.

Byddai’n dda petai pawb yn cael o leiaf ryw fath o sylfaen o wybodaeth ddigidol (Swyddog Llu D)

Felly, dyma chi’n cael eich dysgu gan rywun heb fawr ddim profiad, mae’n hyfforddiant yn llungopi o lungopi o lungopi. Rydych chi ond yn dysgu’r hyn mae’ch tiwtor yn wybod ac felly mae delwedd yn dirywio, yr ansawdd yn dirywio. Rydyn ni’n dysgu ymchwilio oddi wrth ein gilydd, mae’n lles i rai ond yn wael i eraill (Swyddog Llu F)

Her ymchwiliadol 1: Diffyg protocolau ffurfiol[footnote 241]

Yr oedd a wnelo un her ymchwiliadol â diffyg protocolau ffurfiol am dystiolaeth ddigidol mewn ymchwiliadauRAOSO. Yn Llu B dywedodd swyddogion y tueddent i i weithredu’n annibynnol, heb lawer o brotocolau oedd i fod i sicrhau cysondeb agwedd o ran deunydd digidol, a dim safoni wrth holi data. Ar draws y pedwar llu, nid oedd unrhyw ddogfennau canllaw oedd yn ymdrin yn benodol â’r isod:

  • Llinellau ymholi rhesymol

  • Cadw cofnodion ar gyfnodau allweddol yn y broses o ymchwilio digidol:atafael, echdynnu, storio, trosglwyddo a dileu

  • Cydsyniad y dioddefwr, y tyst a’r sawl a amheuir i gymryd dyfeisiadau digidol[footnote 242]

  • Dinistrio data

Tra bod dogfennau’r llu yn crybwyll y cyfan o’r uchod, nid ymdriniwyd â’r un ohonynt yn fanwl, ac ni roddodd yr un esiamplau i’w darlunio y gallai swyddogion eu dilyn. Yn yr un modd â llinellau ymholi rhesymol, fe grybwyllwyd pwysigrwydd cadw cofnodion cyfoes trwy gydol gwahanol gyfnodau’r broses, ond nid oedd unrhyw ganllawiau na goruchwylio unswydd. Tybiai’r sawl a gyfwelwyd fod hyn yn y pen draw yn arwain at fabwysiadu arferion gwahanol mewn ardaloedd lluoedd ac ar eu traws. Thema bwysig arall oedd yn absennol o ddogfennau cyfarwyddyd i’r lluoedd oedd esboniad a diffiniad o gydsyniad dioddefwyr a thystion. Yr oedd dogfennau yn cyfeirio at ac yn crybwyll pwysigrwydd cydsyniad dioddefwyr a thystion, ond er hynny, nid oedd hyn yn cael ei esbonio ymhellach i swyddogion RAOSO newydd. Yn ei hanfod, roedd y syniad o gydsynio yn cael ei amlygu fel rhywbeth pwysig, ond heb unrhyw eglurhad o ystyr cydsynio, beth i’w wneud os bydd cydsyniad yn cael ei dynnu’n ôl, a than ba amgylchiadau y dylid ei gael. Yr oedd dinistrio data yn broses weinyddol a chyfreithiol bwysig arall lle nad oedd cyfarwyddyd ar draws y pedwar llu. Nod oedd fawr ddim cyfeiriad at y pwnc hwn mewn unrhyw un o ganllawiau’r lluoedd. Cefnogwyd y canfyddiad hwn gan y cyfweliadau mapio.

does dim canllawiau pendant na dogfen yn dweud ar beth y byddwn yn edrych, na phryd mae angen i ni edrych arno. (Swyddog Llu B)

Her Ymchwiliadol 2: Swm y data a lawrlwythiadau cymesur

Ar draws y pedwar llu, nododd y cyfranogwyr natur broblemus y llwyth o ddata digidol oedd ar gael iddynt, gan ei amlygu fel un o’r sawl her allweddol sy’n wynebu’r heddlu, yn enweidg mewn ymchwiliadauRAOSO . Lleisiodd llawer o gyfranogwyr bryder am pa mor sylfaenol wael y mae plismona wedi ei arfogi i reoli’r swm o ddata digidol sydd ar gael ar hyn o bryd, a fydd ond yn cynyddu a fwy na thebyg yn dod yn fwy cymhleth wrth i ddyfeisiadau digidol ac apiau newydd ddod ar y farchnad. I swyddogion a staffDFU, mae digideiddio cyson ein bywydau, a swm y data mae hyn yn ddwyn hyd yn oed i’r ymchwiliadau symlaf, yn golygu galwadau enfawr ac fe’i disgrifiwyd hefyd fel rhywbeth oedd yn “llethu’r ysbryd”. Canfu’r adolygiadau achos fod y rhan fwyaf o ddadansoddiadau yn golygu chwilio am eiriau allweddol a chyfyngu’r data cychwynnol o fewn paramedrau dyddiad/amser penodol, ac amser oedd â’r gyfran uchaf o ddeunydd perthnasol y daethpwyd o hyd iddo. Er bod cyfranogwyr yn disgrifio defnyddio chwilio am eiriau allweddol i gyfyngu ar y data oedd yn cael ei lawrlwytho, nid oedd neb wedi derbyn unrhyw hyfforddiant allanol gan arbenigwyr mewn trais rhwng partneriaid agos/cydnabod, rheoli dan orfodaeth nac arferion ystrywgar gyda’r nod o gywilyddio a/neu ddistewi dioddefwr. O’r herwydd, yr oedd chwiliadau am eiriau allweddol yn dueddol o fod yn sylfaenol a rhywiol, megis: “nob, dick, boobs, fisting, cyffuriau, porn, fuck/ffwc, finger/bysedd, tits, underwear, consent/cydsynio, headlock, role play, dioddefwr, heddlu, trais a penis/pidlen”. Hefyd, dywedodd swyddogion RAOSO ar draws y lluoedd mai ychydig o hyfforddiant a gawsant am sut i benderfynu ar na diffinio paramedrau echdynnu.

Dywedodd swyddogion ar draws y pedwar llu mai ychydig o fesurau rheoli ansawdd oedd ar gael i sicrhau bod paramedrau echdynnu ymchwiliadauRAOSO, dadansoddi ac adolygu data a lawrlwythwyd o ffonau yn gymesur a phriodol i’r ymchwiliad.

Mewn ymchwiliad diweddar, roedd yr hyn lawrlwythwyd o ffôn yn enfawr, roedd hanner miliwn o negeseuon testun yn unig (Swyddog Llu E)

Fel gyda’r canfyddiadau o Bileri Un a Dau ar ymchwiliadau yn canolbwyntio ar rai dan amheuaeth a Philer Tri yn ymwneud â’r dioddefwyr, yr oedd y sawl a gyfwelwyd am RAOSO o Biler Chwech, er eu bod yn deall pwysigrwydd “lawrlwytho cymesur”, hefyd yn pwysleisio sut yr oedd lawrlwytho’r cyfan o ddyfeisiadau dioddefwyr a’r sawl a amheuir yn “well” ac yn “llesol” i’r ymchwiliad. Yr oedd un swyddog, o Lu E, yn gweld lawrlwytho crynswth fel offeryn fyddai yn y pen draw yn arbed amser ymchwilio: “byddai lawrlwytho crynswth yn arbed amser, siwr iawn, os cymerwn ni bopeth y cyfle cyntaf a gawn”. Fodd bynnag, dywedodd un arall y gall lawrlwytho llawn esgor ar “derabeitiau o ddata, ac wedyn mae’n broblem ar raddfa feiblaidd”. Gall yr awydd am lawrlwytho crynswth, a leisiwyd gan rai swyddogion, er hynny fod yn fwy o arwydd o’r modd y mae’r strategaeth ymchwiliadol ddigidol mewn rhai ymchwiliadau RAOSO wedi ei hysgaru oddi wrth y strategaeth ymchwiliadol ehangach; ac o’r herwydd, heb ei hintegreiddio nac wedi meddwl drwyddi gan ddefnyddio’r un egwyddorion.

Dylem yn wastad gael y mwyaf o’r ddyfais …. unwaith i’r ffôn yna fynd o’ch gafael a mynd i unman arall, fe allai gael ei ddileu, ei lygru, ei dorri, ei ddifrodi. Fe allai gael ei newid (Swyddog Llu D)

Her Ymchwiliadol 3: Tensiynau gyda’r CPS

Ar draws y pedwar llu, soniodd cyfranogwyr am ‘wrthdaro diwylliant’ rhwng yr heddlu aCPS. Rhwystredigaeth gyffredin oedd y CPS yn aml yn gofyn am lawrlwythiadau llwyr o ffonau dioddefwyr, neu yn gofyn i’r heddlu geisio mynediad at ddeunydd trydydd parti, fel cofnodion meddygon, gwasanaethau cymdeithasol neu ysgolion. Hefyd, mynegodd y sawl a gyfwelwyd rwystredigaeth am fod CPS yn gwrthod derbyn tystiolaeth ar rai fformatiau, megis sgrinluniau o negeseuon, a bod swyddogion yn credu, er y gellid ystyried nad oedd mesurau o’r fath yn fforensig gadarn, eu bod yn llai ymyrrol ac yn osgoi’r rheidrwydd i ddioddefwyr orfod rhoi eu ffonau symudol i gael data wedi ei echdynnu ohonynt. Er nad oes eto dechnoleg sy’n cynnal echdynnu dethol yn gyfan gwbl[footnote 243], tybiai swyddogion fod yr ‘heddlu’ yn symud yn araf tuag at agwedd fwy cymesur at echdynnu data digidol, a theimlai’r cyfranogwyr nad oedd hyn eto wedi ei wreiddio’n llawn ynCPS. Soniodd cyfranogwyr hefyd am gyfathrebu gwael rhyngddynt hwy aCPS, gyda’r hyn oedd i’w gyflwyno yn aml yn sefyll mewn ciw porth am amser maith cyn derbyn ymateb gan gyfreithiwr o’rCPS.

Mae system CPS ar ei hôl hi’n ddifrifol …mae’n fiwrocrataidd, yn anodd a’r [prosesau yn] cymryd cymaint o amser. Mae llawer o adegau pan maen nhw’n dweud nad ydyn nhw wedi derbyn pethau a bod yn rhaid i chi eu hail-anfon, a bod yn rhaid i chi roi tystiolaeth ar ryw fformat arbennig gyda rhyw gonfensiwn enwi penodol. Mae’r cyfan yn feichus dros ben (Swyddog Llu F)

Her Dechnolegol 1: Adnoddau technolegol

Trwy gydol ein hastudiaeth, tynnodd cyfranogwyr sylw at y modd yr oeddent yn cael trafferth cyrchu’r caledwedd a’r feddalwedd angenrheidiol i brosesu ffonau symudol a dyfeisiadau digidol eraill yn amserol ac effeithiol. Beirniadwyd y feddalwedd oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hyd yn oed yr holi digidol mwyaf syml am nad oedd yn newydd na soffistigedig. Yr oedd swyddogion hefyd yn feirniadol o allu plismona i gadw i fyny a datblygiad cyflym technoleg. Codwyd mynediad at y feddalwedd angenrheidiol, hyd yn oed, fel problem. Soniodd nifer o gyfranogwyr fel yr oedd gwahanol adrannau yn dueddol o rannu mynediad at feddalwedd arbenigol, a hyn yn golygu bod yn rhaid i staff o nifer o adrannau, sy’n cyrchu’r un feddalwedd, orfod aros i’w ddefnyddio, oedd yn creu mwy o oedi cyn cyrraedd elfen ddigidol llawer o brosesau ymchwilio. I swyddogion, yr oedd hyn yn creu oedi annerbyniol i’r dioddefwr a’r sawl a amheuir fel ei gilydd.

Mae’r hyn sy’n cadw data pobl yn fwy diogel yn ei wneud yn fwy anodd i ni fynd ato, mae’n ras arfau yr ydym ni [yr heddlu] yn ei cholli (Swyddog Llu F)

Mae rhwystredigaeth am aros am yr arfau sy’n eich galluogi i wneud eich job yn iawn (Swyddog Llu E)

Dim ond dau liniadur sydd gyda ni all fedr wneud echdyniadau cwmwl i swyddfa lle mae 20 o staff (DFU Llu D)

Her Dechnolegol 2: Medr technolegol

Ar draws y pedwar llu, soniwyd am allu technolegol fel ‘dim ond yn ddigon da’. A “ddim yn ffantastig …mae’n gwneud y tro”. Tra’r ymdrinnir â gallu technolegol gan Wasanaeth Digidol yr Heddlu trwy’r Rhaglen Alluogi Digidol, mae cyfoesiadau cyson i ffonau a datblygiadau gydag apiau gyda mwy o amgryptio yn golygu mai buan iawn y mae meddalwedd arbenigol a drud yn dyddio. Dywedwyd fod gallu’r feddalwedd sydd ar gael i blismona yn effeithio ar drosglwyddo gwybodaeth o’r heddlu iCPS, a oedd, adeg ysgrifennu hyn, â chyfyngiad o 1MB ar drosglwyddo dogfennau, sy’n golygu bod y rhan fwyaf o’r hynna gyflwynir i CPS yn gorfod cael ei dorri i fyny, proses sy’n cymryd amser arswydus i swyddogion a staff yr heddlu ac un sy’n cael cryn effaith ar faich gwaith swyddogion, rhwystredigaeth dioddefwyr, ac oedi gydag achosion cyfiawnder troseddol.

Petae gennym ni fwy o bobl hyfforddedig, gellid byddai modd gwneud [ymchwiliadau digidol] yn well o lawer (Swyddog Llu B)

Dychmygwch fod gyda chi achos o drais gyda llawer iawn o ddogfennau a phob un yn ei dro yn gorfod rhoi bod i’r un weithdrefn. Mae’n ddigon i wneud i bobl grio. Dyna chi’n eu gweld wrth y sganwyr ar ddau neu dri diwrnod ar y tro. Pan fyddwch chi’n gofyn beth amen nhw’n wneud, stwff yw e y gallasech chi neu fi fod wedi ei atodi i e-bost a’i anfon mewn saith eiliad. Yn lle hynny, mae gyda chi rywun ar sganiwr llungopïo am ddiwrnod cyfan (Swyddog Llu B)

Arferion da ymchwiliadol

Er i sawl her gael eu crybwyll wrthym gan swyddogion a staff heddlu digidol aRAOSO, fe gafwyd swyddogion hefyd yn ymdrechu i roi arferion da ac arloesedd ar waith ar draws y pedwar llu y treiddiwyd yn ddwfn iddynt.

Arferion da sefydliadol: Arbenigaeth

Nid oedd yr holl luoedd wedi cyflwyno arbenigwyr, ond fodd bynnag, yn Lluoedd D ac E, yr oedd arbenigedd yn dechrau cael ei gyflwyno. Yn Llu D, cyflogwyd ymchwilwyr cyfryngau digidol (DMIs) i gynnal y rhan fwyaf o echdyniadau ffôn, gan arbed amser ymchwilwyrRAOSO, ac ar yr un pryd yn caniatau i ymchwilydd RAOSO drafod ei strategaeth ddigidol gydag arbenigwr digidol. Yr oedd Llu F wrthi’n cyflwyno swyddi penodedig ar gyfer lawrlwytho ac echdynnu ffonau, a’r nod oedd arbed amser i ymchwilwyr, a chydnabod ar yr un pryd fod angen sgiliau arbenigol i weithio gyda dioddefwyr er mwyn datblygu cynllun yn y ffordd leiaf ymyrrol a mwyaf cydweithredol. Amlygwyd mynediad at y math hwn o wybodaeth arbneigol gan y sawl a gyfwelwyd fel un ffordd o leihau oedi, arbed arian ac yn y pen draw, gwella ymchwiliadauRAOSO.

Rydyn ni’n mynd i gael yr arbenigwyr craidd yma (staff llawrlwytho ac echdynnu ffonau) sy’n mynd i setlo hyn i ni. Fe fydd yn arbed gwaith i ni ac yn mynd i wella’r broses i ddioddefwyr, gobeithio. (Swyddog Llu D)

Ar draws y pedair uned DFU, RASSO a CID, yr oedd swyddogion ar y cyfan yn cytuno bod rolau a gwybodaeth arbenigol yn arfer da mewn ymchwiliadauRAOSO, nid yn unig o ran trin deunydd digidol ond hefyd i’r ymchwiliad yn ei gyfanrwydd. Trafododd un llu eu tîm uned benodedig ymchwilio i drais a sefydlwyd yn ddiweddar. Er yn cydnabod ei bod yn rhy gynnar i ganfod unrhyw effaith tymor-hir fyddai’n deillio o’r newid sefydliadol hwn, yr oedd y sawl a gyfwelwyd yn credu bod swyddogion yn gweld hyn fel symudiad cadarnhaol. Dywedodd y swyddogion fod cyflwyno’r uned trais benodedig yn awr yn gadael i achosion RAOSO gadw blaenoriaeth heb symud adnoddau staffio o achosion pwysig eraill, megis troseddau mawr. Ymysg manteision yr ymagwedd hon a amlygwyd gan y sawl a gyfwelwyd yr oedd darparu gwell gwasanaeth i’r dioddefwr, gwella ysbryd y swyddogion, ac ysgafnhau’r pwysau gwaith gormodol.

Fe garen i feddwl, trwy gael tîm unswydd, ein bod ni’n rhoi gwell gwasanaeth i ddioddefwyr am mai ar drais yn unig y byddwn yn canolbwyntio. Mae’r bobl sydd ar y tîm yma am ei bod yn faes lle mae gennym naill ai arbenigedd neu ddiddordeb, ac nad ydyn ni’n ceisio rheoli byrgleriaethau a lladrata a phopeth arall ochr yn ochr ag e. Gallwn neilltuo llawer mwy o amser ar yr un maes penodol hwn. Felly garen i feddwl ei fod wedi gwneud gwelliannau i ddioddefwyr. Rwy’n meddwl ei fod yn well o ran ysbryd y swyddogion am fod y bobl sy’n gweithio ar y tîm eisiau bod yma, ac rwy’n gwybod ei fod wedi helpu’r CID ar eu beichiau gwaith sydd ddim ynRASSO, ac am eu bod wedi gweld ysgafnhau eu baich, fe allant fod yn fwy cynhyrchiol. Felly ar y cyfan, mae wedi bod yn eitha positif i’r swyddogion ac efallai’r dioddefwyr. (Swyddog Llu D)

Rydyn ni’n mynd i gael yr arbenigwyr craidd yma (staff llawrlwytho ac echdynnu ffonau) sy’n mynd i setlo hyn i ni. Fe fydd yn arbed gwaith i ni ac yn mynd i wella’r broses i ddioddefwyr, gobeithio. (Swyddog Llu D)

Arferion da ymchwiliadol: Sensitifrwydd dioddefwyr

Ar draws y lluoedd, gwelsom newid pwyslais ymaith oddi wrth gipio data digidol yn ei gyfanrwydd i ymagwedd fwy cymesur ac a oedd yn canolbwyntio ar y dioddefwr. Dywedodd llawer o swyddogion pa mor gyndyn y buasen i roi eu ffôn i swyddog heddlu nad oeddent erioed wedi ei g/chyfarfod, gan amlygu, efallai, mwy o sensitifrwydd i brofiad y dioddefwr. Er nad pob swyddog oedd yn rhannu’r farn hon, symudodd llawer i ffwrdd oddi wrth ofyn am lawrlwythiad llawn o ffôn, a defnyddio ymagwedd fwy cymesur yn lle hynny, gyda pharamedrau wedi eu sefydlu gyda’r dioddefwr, a chydsyniad wedi ei gymryd trwy ddefnyddio ffurflenni Hysbysiad Prosesu Digidol[footnote 244]. Fodd bynnag, yr oedd hyn yn mynd law yn llaw â rhwystredigaeth swyddogion gyda’r hyn a welent fel cynnydd araf ar gael atebion i echdynnu dethol a dadansoddi wedi’i awtomeiddio.

Pwysleisiodd y sawl a gyfwelwyd hefyd bwysigrwydd dychwelyd ffonau dioddefwyr cyn gynted ag oedd modd wedi echdynnu. Tynnodd y pedwar llu sylw at eu hymrwymiad i gyrraedd uchelgais y Llywodraeth “na fydd yn un oedolyn a ddioddefodd drais yn cael ei g/adael heb ffôn symudol am fwy na 24 awr dan unrhyw amgylchiadau.” [footnote 245] Er y bu newid yn y maes plismona hwn, yr oedd swyddogion yn ymwybodol fod ffordd bell i fynd eto i argyhoeddi dioddefwyr na fydd eu ffôn yn destun ‘noeth-chwilio digidol’ llawn a thrylwyr.

Ers i Operation Soteria ddod allan, ffôn y dioddefwr mewn achosion trais yw ein prif flaenoriaeth. Byddwn fel ‘tae ni’n gollwng popeth pan ddaw achos dioddefwr trais i mewn. Swyddog Llu D

Fe fyddwn ni nawr yn wastad yn mynd am ddulliau llai ymyrrol, a rwy’n meddwl bod hynny yr un mor wir am ddioddefwyr a phobl dan amheuaeth am eu bod nhw i gyd yn haeddu preifatrwydd, a does neb wedi ei gael yn euog o ddim ar y pwynt hwnnw Swyddog Llu F

Arferion Da Technolegol: Ymgodiad Technoleg a Gyllidwyd gan y Swyddfa Gartref

Er nad oedd pob un o’n pum llu wedi derbyn ymgodiad technoleg a gyllidwyd gan y Swyddfa Gartref, dywedodd y sawl a’i cafodd fod yr ymgodiad wedi gwella’r adnoddau technolegol oedd ar gael iddynt, ac o ganlyniad, eu bod yn tybio eu bod wedi gwella’r gwasanaeth a roddid i ddioddefwyr a’r sawl a amheuir. Dywedwyd fod faniau digidol wedi ‘newid popeth’ o ran caniatau i ymchwilwyr cyfryngau digidol hyfforddedig ymweld â dioddefwyr mewn man oedd yn gyfleus iddynt hwy, ac os oedd hynny’n briodol, cael data wedi’i echdynnu o’u dyfais. Petai’n well gan y dioddefwr ddod i’r orsaf, mae’r dewis hwn ar gael fel apwyntiad a drefnir ar adeg gyfleus i’r dioddefwr. Cyn i’r ymagwedd hon ddod i rym, byddai dioddefwr yn aml yn rhoi’r ffôn i’r swyddog ymchwilio heb wybod o hyd pryd y câi ef yn ôl. Yr oedd ffonau eraill hefyd yn cael eu cynnig i ddioddefwyr yn rhai o luoedd Operation Soteria Bluestone, er bod rhai swyddogion yn dweud bod hyn yn codi cywilydd arnynt, am nad oedd ynddynt unrhyw gredyd, eu bod yn hen fodelau a heb eu gwefrio cyn eu rhoi i’r dioddefwr.

Arloesi ac arfer addawol

Yn ychwanegol at yr ymgodiadau technolegol i’r lluoedd, gwelsom hefyd enghreifftiau o arloesi yn lleol o ran yr heriau cyllido digidol /technoleg/sgiliau sy’n wynebu lluoedd ar hyn o bryd. Yn Llu F, roedd y DFU wedi datblygu set o gwestiynau am ddeunydd trydydd-parti, i fod yn sail o wybodaeth i echdynnu’r data a’r strategaeth ymchwiliadol. Dywedodd y swyddogion fod yr agwedd wedi eu cynorthwyo i ddidol, torri allan a phrosesu’r meintiau enfawr o ddata a geid, a thorri i lawr yn sylweddol ar yr angen i lawrlwytho crynswth. Disgrifiodd swyddogion y set gwestiynau fel “offeryn gwerthfawr” i achosionRAOSO, oedd yn darparu strategaeth systemig trwy set o gwestiynau a atebir gan y dioddefwr a’r sawl a amheuir er mwyn nodi pa wybodaeth oedd ei hangen.

Pwysleisiodd Ditectif Arolygydd y tîm hwn bwysigrwydd datblygu strategaeth ddigidol glir, nid yn unig o ran yr amser mae’n ei arbed i ymchwiliad ond hefyd i ymyrryd llai â’r dioddefwr a’r sawl a amheuir a gostwng swm y data fydd angen ei holi. Gwelir y set gwestiynau fel rhywbeth nad yw’n ymyrrol ac sy’n symud i ffwrdd oddi wrth y diwylliant o “ddal popeth”. Yr oedd yr un llu hefyd yn edrych i mewn i ddal data trwy sgrin ar ddrych; dywedwyd fod y broses hon yn helpu swyddogion i ddal data sydd weithiau’n anodd i’w lawrlwytho ar fformat darllenadwy, e.e.,negeseuon WhatsApp. Yn lle llawrlwytho’r math hwn o neges, caiff ei gofnodi trwy ddefnyddio drych. Mae defnyddio drych i gofnodi sgrîn yn caniatau i swyddogion ddal y deunydd mae ganddynt hwy ddiddordeb penodol ynddo.

Bellach mae gyda ni set gwestiynau yn benodol ar gyferRASSO, sy’n cael eu gwneud fel rhan o’r cyfweliad gyda’r dioddefwr, a’r sawl a amheuir, a ddylid eu gwneud cyn y llawrlwytho …mae wir yn bwysig i ni wybod sut mae’r bobl hyn yn cyfathrebu fel rhan o’r cyfweliad fel y gallwn wedyn wneud ein strategaethau digidol yn iawn, a bod yn siwr nad yden ni’n llawrlwytho’r ffonau jest er mwyn gwneud hynny (Swyddog Llu F)

Rydym yn rhoi prawf ar y darn arall yma o offer ar hyn o bryd sy’n caniatau i ni ddal sgrîn fideo cysyniadol o’r ffôn. Lle mae’r ffôn wedi ei blygio i mewn i sgrîn fawr a’r hyn sy’n digwydd ar y ffôn yn cael ei gofnodi. (Swyddog Llu F)

Diolchiadau

Hoffai tîm Piler Chwech fynegi ein diolch i swyddogion a staff yr heddlu ar draws y pedwar llu archwiliad dwfn, a roes i ni ddata ansoddol oedd yn hynod anodd i’w echdynnu; a roes o’u hamser i gael eu cyfweld, gan roi i ni eu barn a’u mewnwelediad am yr heriau maent yn wynebu a’r camau arloesol y maent yn ceisio eu gweithredu. Hoffen ddiolch hefyd i dimau Op Soteria Bluestone y Swyddfa Gartref a MOPAC am eu cefnogaeth ac am ein cadw ar y llwybr cul. Yn olaf, diolch yn arbennig i’r timau ymchwil o Bileri Un i Bump ac i Betsy Stanko a Katrin Hohl am groesawu Piler Chwech gyda breichiau agored a chynhaliol.

ATODIAD 13: PAPURAU ACADEMAIDD A GYHOEDDWYD

Cyhoeddwyd y papurau academaidd a ganlyn yn seiliedig ar gynllun peilot Prosiect Bluestone. Cyhoeddir yr erthyglau yn “fynediad agored” sy’n golygu bod modd eu darllen a’u lawrlwytho am ddim, a heb orfod cofrestru.

Hohl, K., Stanko, E.A. (2022). Five Pillars: A Framework for Transforming the Police Response to Rape and Sexual Assault. International Criminology, 2, 222–229. https://doi.org/10.1007/s43576-022-00057-y

Dalton, C. T., Barrett, S., Horvath, M. A., & Davies, K. (2022). Adolygiad systemaidd o’r llenyddiaeth am blismona arbenigol trais a throseddau rhywiol difrifol. International Criminology, 2, 230–252. https://doi.org/10.1007/s43576-022-00062-1

Hohl, K., Johnson, K., & Molisso, S. (2022). A Procedural Justice Theory Approach to Police Engagement with Victims-Survivors of rape and Sexual Assault: Initial Findings of the ‘Project Bluestone’ Pilot Study. International Criminology, 2, 253–261.

https://doi.org/10.1007/s43576-022-00056-z

Williams, E., Norman, J., Ward, R., & Harding, R. (2022). Linking professionalism, learning and wellbeing in the context of rape investigation: Early findings from Project Bluestone. International Criminology, 2, 62–275. https://doi.org/10.1007/s43576-022-00059-w

Norman, J., Fox, A., Harding, R., Majid, A., Williams, E., Davies, K., & Horvath, M. A. (2022). Critical reflection: The importance of case reviews and reflective practice in rape and serious sexual offences investigations. International Criminology, 2, 2, 276–285.

https://doi.org/10.1007/s43576-022-00061-2

Maguire, L., & Sondhi, A. (2022). Stress-related psychosocial risk factors among police officers working on Rape and Serious Sexual Offences. The Police Journal, arlein yn gyntaf.

https://doi.org/10.1177/0032258X221128398

Lovett, J., Hales, G., Kelly, L., Khan, A., Hardiman, M., & Trott, L. (2022). What can We Learn from Police Data About Timeliness in Rape and Serious Sexual Offence Investigations in England and Wales? International Criminology, 2, 286–298.

https://doi.org/10.1007/s43576-022-00069-8

Stanko, E. A., & Crew, S. (2022). From Project Bluestone to Operation Soteria Bluestone: An Academic-Police Collaboration. International Criminology, 2, 299–304. https://doi.org/10.1007/s43576-022-00065-y

https://doi.org/10.1007/s43576-022-00056-z

Lovell, R., Huang, W., Overman, L., Flannery, D., & Klingenstein, J. (2020). Offending histories and typologies of suspected sexual offenders identified via untested sexual assault kits. Criminal Justice and Behavior, 47, 470-486.

  1. Rhaglen uchelgeisiol ar y cyd rhwng yr Heddlu a CPS yw Operation Soteria i ddatblygu modelau gweithredu cenedlaethol newydd i ymchwilio i drais a’i erlyn. Mae Operation Soteria Bluestone yn cyfeirio at agweddau plismona rhaglen Operation Soteria a gyllidir gan y Swyddfa Gartref. 

  2. Gweler https://www.gov.uk/government/publications/end-to-end-rape-review-report-on-findings-and-actions 

  3. Hohl, K., Stanko, E.A. (2022). Five Pillars: A Framework for Transforming the Police Response to Rape and Sexual Assault. International Criminology, 2, 222–229. https://doi.org/10.1007/s43576-022-00057-y 

  4. Mae adroddiadau ac arolygiadau’r Llywodraeth, gan gynnwys Operation Soteria, yn defnyddio TAThRhD fel llaw-fer i gyfeirio at drais a throseddau rhyw difrifol. Fel y trafodir gan Biler Pump yn Atodiad 11, mae tîm academaidd Operation Soteria Bluestone yn defnyddioRASO, trais a throseddau rhyw eraill, fel y term sydd yn dal yn fwyaf cywir y data a adroddwyd gan y Swyddfa Gartref a’r Swyddfa Ystadegau Genedlaethol( SYG). 

  5. Deilliant 14: Anawsterau tystiolaethol seiliedig ar y dioddefwr – ni chafodd y sawl a enwyd fel un dan amheuaeth ei adnabod. Cadarnhawyd y drosedd, ond mae’r dioddefwr yn gwrthod neu’n methu a chefnogi camau pellach gan yr heddlu i adnabod y troseddwr. Deilliant 15: Anawsterau tystiolaethol lle’r adnabuwyd y sawl a enwyd fel un dan amheuaeth - cadarnhawyd y drosedd ac y mae’r dioddefwr yn cefnogi camau gan yr heddlu ond mae anawsterau tystiolaethol yn atal camau pellach. Deilliant 16: Anawsterau tystiolaethol seiliedig ar y dioddefwr - adnabuwyd y sawl a enwyd fel un dan amheuaeth. Nid yw’r dioddefwr yn cefnogi camau’r heddlu (neu mae’n tynnu cefnogaeth yn ôl. Crime outcomes in England and Wales: Technical Annex - GOV.UK (www.gov.uk) 

  6. Defnyddir y termau goroeswr a dioddefwr yn yr adroddiad hwn. Dioddefwr yw’r term a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio’r sawl sy’n adrodd am ymosodiadau rhyw wrth yr heddlu. Mae’r term goroeswr ymosodiad rhyw yn derm grymuso sy’n cydnabod fod y sawl a brofodd ymosodiad rhywiol ar daith i wella. 

  7. Jackson, J., Bradford, B., Stanko, B., & Hohl, K. (2012). Just authority?: Trust in the police in England and Wales. Willan. 

  8. Gibbs, V., Love, A. M., Cai, R. Y., & Haas, K. (2021). Police interactions and the autistic community: perceptions of procedural justice. Disability & Society, 1-18. 

  9. Gweler https://www.gov.uk/government/publications/end-to-end-rape-review-report-on-findings-and-actions 

  10. Cynhaliwyd adolygiad llenyddiaeth yn ddiweddar gan (arweinydd Piler Pump) Jo Lovett https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/994165/rape-review-research-report-appendix-d.pdf. Datblygwyd y fframwaith damcaniaethol sy’n sail i Operation Soteria Bluestone, gweler Hohl, K., Stanko, E.A. Five Pillars: A Framework for Transforming the Police Response to Rape and Sexual Assault. Int Criminol (2022). https://doi.org/10.12007/s43576-022-00057-y (Atodiad 1). 

  11. Gweler paragraff 3 uchod 

  12. Datblygwyd y fethodoleg ar gyfer yr adolygiad hwn gan yr Athro Betsy Stanko yn y 2000au cynnar pan fu’n gweithio i Wasanaeth Heddlu’r Metropolitan. Am hadau Prosiect Bluestone, gweler Hohl, K. a Stanko, E., (2015) Complaints of rape and the criminal justice system: Fresh evidence on the attrition problem in England and Wales. European Journal of Criminology, 12 (3):324-41 

  13. Gweler, er enghraifft, E. Brooks (2020) The Right Thing to Do: Reporting rape in Britain’s criminal justice system ISBN: 978-1-716-88811-3; E Hunt (2022) We need to talk. London: Mardle Books. 

  14. Mae tîm MOPAC yn cynnwys Robin Merrett, Cyfarwyddwr Cenedlaethol a chyn-Bennaeth Trosolwg Gweithredol MOPAC, Lizzie Peters, Pennaeth Rheoli Rhaglenni a’r Athro Betsy Stanko, Ymgynghorydd Strategol a oedd yn gyfrifol, gyda’r Athro Katrin Hohl, am ddatblygu’r agwedd hon at drawsnewid sy’n seiliedig ar ymchwil. 

  15. Gweler, K Hohl ac EA Stanko Five pillars: A framework for transforming the police response to rape and sexual assault (2022) International Criminology. 

  16. Mae a wnelo damcaniaeth cyfiawnder trefniadol â’r syniad o brosesau teg, a sut yr effeithir yn gryf ar ganfyddiadau pobl o degwch gan ansawdd eu profiadau, ac nid yn unig ganlyniad y profiadau hyn yn y pen draw. Gweler Hohl, K., Johnson, K., & Molisso, S. (2022). A Procedural Justice Theory Approach to Police Engagement with Victim-Survivors of Rape and Sexual Assault: Initial Findings of the ‘Project Bluestone’ Pilot Study. International Criminology, 2, 253–261. 

  17. Ym mis Ionawr 2022 daeth yn amlwg fod tystiolaeth ddigidol mewn ymchwiliadau RAOSO yn alluogydd/analluogydd creiddiol i ymchwiliadau/erlyniadau llwyddiannus. Daeth Piler Chwech yn swyddogol yn un o bileri Operation Soteria Bluestone ym mis Ebrill 2022; fodd bynnag, cyn ei gyflwyno’n ffurfiol i Operation Soteria Bluestone, cyllidwyd Piler Chwech gan grant Gwyddoniaeth, Technoleg ac Ymchwil y Swyddfa Gartref gan fabwysiadu’r un ymagwedd fethodolegol o archwiliad dwfn â Phileri Un i Bump. 

  18. Bydd yr adroddiad yn nes ymlaen yn trafod ychwanegu chweched piler, gwell dealltwriaeth o waith fforensig digidol wrth ymchwilio, a ychwanegwyd at y rhaglen ym mis Ebrill 2022. 

  19. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/1001417/end-to-end-rape-review-report-with-correction-slip.pdf 

  20. Mae CPS yn creu eu model gweithredu cenedlaethol eu hunain a gyhoeddir ym Mehefin 2023. 

  21. https://www.cps.gov.uk/sites/default/files/documents/publications/RASSO-JNAP-2021.pdf 

  22. Gweler Atodiad 3 am restr o’r arweinyddion pileri academaidd a’u timau 

  23. Mae’r rhan hon o’r broses ymchwil a sgyrsiau archwiliadol gyda lluoedd yn aml wedi eu cuddio o’r canfyddiadau cyhoeddedig. 

  24. Yr oedd y dadansoddiad ffeiliau yn canolbwyntio ar achosion y rhoddwyd y gorau iddynt neu rai heb ddim gweithredu pellach (NFA) yn y cyfnod ymchwilio gan yr heddlu, ac a gaewyd fel deilliant 14, 15 ac 16 yn ôl fframwaith Deilliannau Troseddau’r Swyddfa Gartref. Achosion yw’r rhain oll lle’r oedd anawsterau tystiolaethol, ond yn neilliannau 14 ac 16 gwelir y dioddefwr fel un nad yw’n cefnogi’r ymchwiliad, tra yn neilliant 15 y mae’r dioddefwr yn cefnogi, ond fod heriau tystiolaethol ychwanegol yn atal yr heddlu rhag gweithredu ymhellach. Mae’r tri deilliant trosedd hyn yn fwyafrif cynyddol o’r holl achosion y rhoddir y gorau iddynt yng nghyfnod yr heddlu, felly yr oedd yn bwysig dadelfennu’r ystod o bethau oedd yn atal yr achosion hyn rhag bwrw ymlaen. 

  25. Mae’r Coleg Plismona yn gosod safonau dysgu, ond nid yw’n cyflwyno RAOSO na sicrhau ansawdd yn y llu. Maent yn cydnabod fod cryn amrywiaeth yn y modd mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno rhwng lluoedd. 

  26. Byddai disgwyl yn rhesymol i dditectif sy’n ymchwilio i RAOSO dderbyn datblygiad fyddai’n cynnwys PIP2 a SSAIDP. Yn ôl Susskind a Susskind (2022), ‘mae gan weithwyr proffesiynol wybodaeth nad oes gan leygwyr’ (p20); Mae disgwyl i weithwyr proffesiynol fynychu… hyfforddiant… er mwyn gallu dangos eu bod wedi ennill digon o wybodaeth a phrofiad ymarferol ar hyd y daith…a’u bod wedi derbyn goruchwyliaeth ddigonol wrth ei wneud (t21)’. Gweler R. Susskind a D. Susskind (2022) The Future of the Professions: How technology will transform the work of human experts. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen. 

  27. Adwaenir weithiau fel y ‘trydydd sector’ mae’r term yn cynnwys gwaith elusennol a gwirfoddol ac fe’i gelwir hefyd yn ddiwydiant ‘nid-er-elw’. 

  28. Gweler Atodiad 2. 

  29. Mater i’r Coleg Plismona yw safonau, rheoleiddo ac arferion da cydnabyddedig i dditectifs ymchwiliadol. Mae’r Coleg Plismona yn cefnogi gwaith arloesol Operation Soteria Bluestone ac yn cefnogi datblygu’r model gweithredu cenedlaethol. Bydd y Coleg yn hollbwysig o ran cefnogi’r cynnydd cyflym yn y dysgu a’r datblygu sydd ei angen i’r sawl sy’n ymchwilio i droseddau trais a throseddau rhyw eraill. 

  30. Mae gwybodaeth academaidd yn y maes hwn yn helaeth ac yn canoli o gwmpas gwersi allweddol sy’n hanfodol i swyddogion fod yn ymwybodol ohoynt a’u hymgorffori yn eu harferion er mwyn ymateb yn briodol; yr angen i wybod am drawma, amharodrwydd dioddefwyr i ymwneud a phlismona; amharodrwydd didodefwyr i ddweud wrth unrhyw un, heb sôn am yr heddlu, am y drosedd; natur fregus iawn llawer o ddioddefwyr (a’i effaith ar fywydau dioddefwyr a all arwain at fathau eraill o afiechyd. Jordan, J. (2022). Women, rape and justice: Unravelling the rape conundrum. Routledge, Taylor & Francis Group. Horvath, M, a Brown, J. (Gol.) (2022) Rape: Challenging contemporary thinking - 10 years on. Routledge, Taylor & Francis Group. 

  31. Ym Mlwyddyn 2 byddwn yn edrych i weld sut y gallai’r model gweithredu cenedlaethol arwain y ffordd i greu Trwydded Ymarfer i swyddogion gweithredol sy’n ymchwilio i droseddau trais a throseddau rhyw eraill (gweler Police Foundation (2022), argymhelliad 33, t 16). 

  32. Mae’r canfyddiadau hyn yn adleisio adroddiadau arolygiadau HMICFRS/HMCPSI (2021) https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publications/a-joint-thematic-inspection-of-the-police-and-crown-prosecution-services-response-to-rape/ ac adoddiad HMICFRS yng Ngorffennaf/Medi 2021 ac https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publications/a-joint-thematic-inspection-of-the-police-and-crown-prosecution-services-response-to-rape-phase-two-post-charge/. 

  33. Os na allant wneud hyn oherwydd bod y lluoedd yn dweud nad oes ganddynt mo’r gallu ariannol i wneud hynny, disgwylir i’r lluoedd hyn ennyn cefnogaeth y cyhoedd yn y cyfnod hwn o argyfwng economaidd i fynnu gwell a mwy o adnoddau i gyflawni’r ymchwiliadau hyn. 

  34. Mae camdriniaeth ddomestig yn digwydd mewn teuluoedd, a’r rhan fwyaf yr adroddir amdano gan bartneriaid neu gyn-bartneriaid agos. 

  35. Gall un llu ddadansoddi’r categori ‘dieithryn’. Diffinnir trais ‘Ddieithryn 1’ fel trais a gyflawnir gan rywun a amheuir sydd heb berthynas â’r dioddefwr. Diffinnir trais Dieithryn 2 fel trais a gyflawnir gan rywun a amheuir a all fod wedi cwrdd â’r dioddefwr yn y 24 awr cyn y drosedd. Mae’r categoreiddio hwn yn fuddiol i helpu i ddadelfennu’r math o gwestiynau sydd gan ymchwilwyr, dioddefwyr a’r sawl a amheuir ynghylch cydsynio a chred resymol am gydsynio. 

  36. Jackson, J., Bradford, B., Stanko, B., & Hohl, K. (2012). Just authority?: Trust in the police in England and Wales. Willan. 

  37. Mae deilliannau troseddau yn cael eu cofnodi gan heddluoedd unwaith i ymchwiliadau gael eu cwblhau, o restr a ddiffinnir gan y Swyddfa Gartref. Mae a wnelo deilliannau 14, 15 ac 16 ag achosion lle mae ‘anawsterau tystiolaethol’ a hwy yw mwyafrif deilliannau ymchwiliadau i drais. Dyma hwy: Deilliant 14: Anawsterau tystiolaethol: y sawl dan amheuaeth heb ei adnabod; nid yw’r dioddefwr yn cefnogi camau pellach; Deilliant 15: Anawsterau tystiolaethol (y sawl a amheuir wedi ei adnabod; dioddefwr yn cefnogi camau); Deilliant 16: Anawsterau tystiolaethol: y sawl a amheuir wedi ei adnabod; nid yw’r dioddefwr yn cefnogi camau pellach. Gweler Piler Pump Atodiad 11. Mae canllaw am ddeilliannau troseddau i ddefnyddwyr gan y Swyddfa Gartref (2016) gyda mwy o fanylion ar gael yn https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/560132/pprc-user-guide-oct16.pdf 

  38. DASH: Offeryn asesu risg camdrinaieth ddomestig, stelcian a thrais seiliedig ar anrhydedd a ddefnyddir gan lawer llu heddlu yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal ag ymarferwyr eraill, i’w helpu i nodi a all rhywun fod mewn perygl o niwed o gamdriniaeth ddomestig. 

  39. Mae’r cyfrifiadau am Lu D ar y gweill. 

  40. Deilliant 14: Anawsterau tystiolaethol seiliedig ar y dioddefwr – neb dan amheuaeth wedi ei enwi. Cadarnhawyd y drosedd ond mae’r dioddefwr yn gwrthod neu’n methu cefnogi camau pellach gan yr heddlu i adnabod y troseddwr. Deilliant 15: Anawsterau tystiolaethol y sawl dan amheuaeth wedi ei enwi a’r dioddefwr yn cefnogi camau gan yr heddlu ond anawsterau tystiolaethol yn atal gweithredu pellach. Deilliant 16: Anawsterau tystiolaethol seiliedig ar y dioddefwr– enwy ac adnabod y sawl a amheuir. Nid yw’r dioddefwr yn cefnogi camau gan yr heddlu (neu mae wedi tynnu cefnogaeth yn ôl). Deilliant 18: Ymchwiliad wedi’i gwblhau – ni adnabuwyd neb dan amheuaeth (o Ebrill 2014): Ymchwiliwyd i’r drosedd cyhyd ag sy’n rhesymol bosib – achos wedi ei gau hyd nes y daw mwy o gyfleoedd ymchwilio i’r golwg. Crime outcomes in England and Wales: Technical Annex - GOV.UK (www.gov.uk) 

  41. Wrth gofnodi troseddau, mae gofyn i heddluoedd yng Nghymru a Lloegr gydymffurfio â Rheolau Cyfrif y Swyddfa Gartref. Nid yw’r rhain ar hyn o bryd yn rhoi unrhyw gyngor na gofynion am gofnodi rhyw unigolyn, boed hwy yn ddioddefwyr, troseddwyr, tystion neu rai sy’n rhoi gwybodaeth. 

  42. Gall gweithwyr plismona proffesiynol gyrchu cynhyrchion Operation Soteria Bluestone ar yr Hyb Gwybodaeth: https://knowledgehub.group/group/bluestone-programme-learning-and-development 

  43. Tidmarsh, P. (2021) The whole story: investigating sexual crime - trust, lies and the path to justice. Jonathan Cape. 

  44. Gweler hefyd https://www.policingreview.org.uk/wp-content/uploads/srpew_final_report.pdf , argymhelliad 

  45. Mae mwy o wybodaeth am ehangu yn https://www.gov.uk/government/publications/end-to-end-rape-review-action-plan-progress-update 

  46. Gweler EA Stanko (2020) Learning versus Training: Thoughts about the origins of the Home Office Innovation Fund project ‘Developing an evidence-based police degree holder entry programme’ 2016-18 Policing: A journal of policy and practice, 14:1,43-51. 

  47. Llawer o ddiolch i Gavin Hales, aelod craidd o Biler Pump, am y dadansoddiadau a welir yma. 

  48. https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/articles/sexualoffencesprevalenceandtrendsenglandandwales/yearendingmarch2020 

  49. ‘Troseddau rhyw difrifol’ wedi eu diffinio yn ôl diffiniad gwaddol y Swyddfa Gartref (APACS – Asesu Plismona a Diogelwch Cymunedol) o 2015/16 a ddarparwyd gan un o luoedd Soteria, sy’n cwmpasu codau trosedd 17/13-16, 20/3-6, 21/2-25, 22/2-5, 70/1-24, a 71/1-16 y Swyddfa Gartref. 

  50. Canfu dadansoddiad i gefnogi Adolygiad Cynhwysfawr y Llywodraeth o Drais y gellir cyfrif am y gwahaniaethau hyn “yn bennaf gan wahaniaethau yn nodweddion troseddau unigol Dim ond rhan fechan o’r amrywiad yn nhebygolrwydd cyhuddo y gellir ei briodoli i ardal CPS neu ardaloedd heddlu “ (Faas et al., 2021: 7). 

  51. Sylwer fod data’r heddlu yn ymwneud ag achosion o drais a gofnodwyd yn ystod y 3 blynedd ariannol, tra bod a wnelo data CPSâ chyhuddiadau ac erlyniadau am drais yn ystod yr un cyfnod. Mae angen hyn oherwydd nad oes data cynhwysfawr sy’n cwmpasu’r heddlu, CPS a’r llysoedd yn bodoli ar hyn o bryd. 

  52. Westmarland, N., & Gangoli, G. (Gol.) (2012). International approaches to rape. Policy Press. 

  53. Swyddfa Ystadegau Genedlaethol (2021). Sexual offences in England and Wales overview, year ending March 2020. Sexual offences in England and Wales overview - Swyddfa Ystadegau Genedlaethol (ons.gov.uk) 

  54. Sefydliad Iechyd y Byd. (2021). Violence against women prevalence estimates, 2018. https://www.who.int/publications/i/item/9789240022256 

  55. Peterson, Z.D., Voller, E.K., Poulsny, M.A., Murdoch, M. (2011). Prevalence and consequences of adult sexual assault of men: Review of empirical findings and state of the literature. Clinical Psychology Review, 31(1), 1-24.; Wilson, L.C. & Miller, K.E. (2016). Meta-analysis of the prevalence of unacknowledged rape. Trauma, Violence, & Abuse, 17(2), 149-159. 

  56. Tidmarsh, P. (2021). The whole story. Investigating sexual crime: Truth. Lies & the path to justice. Llundain: Jonathon Cape. 

  57. t.196 yn Davies, K., Flowe, H. & da Silva, T. (2022). The behaviour of sex offenders. In J.M. Brown & M.A.H. Horvath (Eds) The Cambridge Handbook of Forensic Psychology (2il Arg). Gwasg Prifysgol Caergrawnt. 

  58. Estrich, S. (1987). Real rape. Harvard University Press. 

  59. Peterson, Z. D., & Muehlenhard, C. L. (2004). Was It Rape? The Function of Women’s Rape Myth Acceptance and Definitions of Sex in Labeling Their Own Experiences. Sex Roles: A Journal of Research, 51(3-4), 129–144. 

  60. Golge, Z. B., Yavuz, M. F., Mudderrisoglu, S., & Yavuz, M. S. (2003). Turkish university students’ attitudes toward rape. Sex Roles, 49, 653–661. 

  61. Larsen, M. L., Hilden, M., & Lidegaard, Ø. (2015). Sexual assault: A descriptive study of 2,500 female victims over a 10-year period. BJOG: An International Journal of Obstetrics & Gynaecology, 122, 577–584. 

  62. Du Mont, J., Miller, K.-L., & Myhr, T. L. (2003). The role of “real rape” and “real victim” stereotypes in the police reporting practices of sexually assaulted women. Violence Against Women, 9, 466–486.; Tarczon, C. & Quadara, A. (2012). The nature and extent of sexual assault and abuse in Australia, ACSSA Resource Sheet no. 5, The nature and extent of sexual assault and abuse in Australia (aifs.gov.au); Waterhouse, G.F., Reynolds, A., & Egan, V. (2016). Myths and legends: The reality of rape offences reported to a UK police force, The European Journal of Psychology Applied to Legal Context, 8 (1), 1-10. 

  63. Feist, A., Ashe, J., Lawrence, J., McPhee, D., & Wilson, R. (2007). Investigating and detecting recorded offences of rape (Home Office online report 18/07); Waterhouse, G.F., Reynolds, A., & Egan, V. (2016). Myths and legends: The reality of rape offences reported to a UK police force, The European Journal of Psychology Applied to Legal Context, 8 (1), 1-10. 

  64. Swyddfa Ystadegau Genedlaethol (202117). Sexual offences in England and Wales overview, year ending March 202017. Sexual offences in England and Wales overview - Swyddfa Ystadegau Genedlaethol (ons.gov.uk) 

  65. Turchik, J. A., & Edwards, K. M. (2012). Myths about male rape: A literature review. Psychology of Men & Masculinity, 13(2), 211 

  66. Cortoni, F., Babchishin, K., & Rat, C. (2017). The Proportion of Sexual Offenders Who Are Female Is Higher Than Thought: A Meta-Analysis. Criminal Justice & Behaviour, 44(2), 145-162. 

  67. Sleath, E. & Woodhams, J. (2014). Expectations about victim and offender behaviour during stranger rape, Psychology, Crime & Law, 20(8),798-820. 

  68. Tidmarsh, P., Powell, M., & Darwinkel, E. (2012). Whole story: A new framework for conducting investigative interviews about sexual assault. Journal of Investigative Interviewing: Research and Practice, 4, 33–44. 

  69. Gerber, G., Corman, L., & Suresh, N. (2009). Victim resistance and perceived consent in sexual assault between acquaintances. Washington DC: American Psychological Association; Larsen, M. L., Hilden, M., & Lidegaard, Ø. (2015). Sexual assault: A descriptive study of 2,500 female victims over a 10-year period. BJOG: An International Journal of Obstetrics & Gynaecology, 122, 577–584 

  70. Tidmarsh, P. (2021). The whole story. Investigating sexual crime: Truth. Lies & the path to justice. London: Jonathon Cape.; Tidmarsh, P., Powell, M., & Darwinkel, E. (2012). Whole story: A new framework for conducting investigative interviews about sexual assault. Journal of Investigative Interviewing: Research and Practice, 4, 33–44. 

  71. e.e. Craven, S., Brown, S., & Gilchrist, E. (2006). Sexual grooming of children: Review of literature and theoretical considerations. Journal of Sexual Aggression, 12(3), 287– 299.; Williams, A. (2015). Child sexual victimisation: ethnographic stories of stranger and acquaintance grooming. Journal of Sexual Aggression, 21(1), 28–42 

  72. Stark, E. (2009). Rethinking coercive control. Violence Against Women, 15(12), 1509-1525. 

  73. p.53 in Tidmarsh, P. (2021). The whole story. Investigating sexual crime: Truth. Lies & the path to justice. London: Jonathon Cape. 

  74. Tidmarsh, P., Powell, M., & Darwinkel, E. (2012). Whole story: A new framework for conducting investigative interviews about sexual assault. Journal of Investigative Interviewing: Research and Practice, 4, 33–44 

  75. Tidmarsh, P. (2021). The whole story. Investigating sexual crime: Truth. Lies & the path to justice. Llundain: Jonathon Cape. 

  76. Furby, L., Weinrott, M., & Blackshaw, L. (1989). Sex offender recidivism: A review. Psychological Bulletin, 105, 3-30; Prentky, R., Lee, A., Knight, R., & Cerce, D. (1997). Recidivism rates among child molesters and rapists: A methodological analysis. Law and Human Behavior, 21(6), 635-659.; Seto, M., & Barbaree, H. (1999). Psychopathy, treatment behavior, and sex offender recidivism. Journal of Interpersonal Violence, 14(12), 1235-1248. 

  77. Santtila, P., Junkkila, J., & Sandnabba, N. K. (2005).Behavioral linking of stranger rapes. Journal of Investigative Psychology and Offender Profiling, 2, 87-103. 

  78. Cording, J. R. & Ward, T. (2022). Theories of sexual offending. Yn J.M. Brown & M.A.H. Horvath (Gol.) The Cambridge Handbook of Forensic Psychology (2il Arg.) Gwasg Prifysgol Caergrawnt. 

  79. Ward, T. & Hudson, S.M. (1998). The construction and development of theory in the sexual offending area: A metatheoretical framework. Sexual Abuse: Journal of Research and Treatment, 10(1), 47-63. 

  80. t.112 yn Cording, J. R. & Ward, T. (2022). Theories of sexual offending. In J.M. Brown & M.A.H. Horvath (Eds) The Cambridge Handbook of Forensic Psychology (2nd Ed). Gwasg Prifysgol Caergrawnt. 

  81. Davies, K., Flowe, H. & da Silva, T. (2022). The behaviour of sex offenders. Yn J.M. Brown & M.A.H. Horvath (Gol.) The Cambridge Handbook of Forensic Psychology (2il arg.). Gwasg Prifysgol Caergrawnt. 

  82. Nid deilliant trosedd swyddogol yw ‘Dim trosedd’, ond cyfeiriad at lle mae heddluoedd yn cofnodi trosedd ac yn dod i’r farn wedyn na ddigwyddodd trosedd mewn gwirionedd. 

  83. Stern, V. (2010). The Stern review: An independent review of how rape complaints are handled by public authorities in England and Wales. Llundain: Government Equalities Office. 

  84. Estrich, S. (1987). Real rape. Harvard University Press. 

  85. Waterhouse, G.F., Reynolds, A., & Egan, V. (2016). Myths and legends: The reality of rape offences reported to a UK police force, The European Journal of Psychology Applied to Legal Context, 8 (1), 1-10. 

  86. Gilmore, K., & Pittman, L. (1993). To report or not to report: A study of victim/survivors of sexual assault and their experience of making an initial report to the police. Melbourne: Centre Against Sexual Assault (CASA House) and Royal Women’s Hospital.; Kelly, L. (2002). A research review on the reporting, investigation and prosecution of rape cases. London: HMCPSI.; Kelly, L. (2010). The (In)credible Words of Women: False Allegations in European Rape Research. Violence Against Women, 16(12), 1345–1355. Hefyd am achos Malcolm Rewa gweler Jordan, J. (2008). Serial survivors: Women’s narratives of surviving rape. Sydney, Awstralia: Federation Press. 

  87. Ferguson, C. E., & Malouff, J. M. (2016). Assessing police classifications of sexual assault reports: A meta-analysis of false reporting rates. Archives of Sexual Behavior, 45(5), 1185–1193 

  88. Jordan, J. (2004). The word of a woman: Police, rape and belief. London: Palgrave.; Kelly, L., Lovett, J., & Regan, L. (2005). A gap or a chasm? Attrition in reported rape cases (Home Office Research Study 293). London: HMSO.; Temkin, J. & Krahé, B. (2008). Sexual Assault and the Justice Gap: A Question of Attitude Oxford: Hart. 

  89. P. 1345 - Kelly, L. (2010). The (In)credible Words of Women: False Allegations in European Rape Research. Violence Against Women, 16(12), 1345–1355. 

  90. e.g. Angiolini, E. (2015). Report of the Independent Review into The Investigation and Prosecution of Rape in London. Ar gael gan https://www.cps.gov.uk/publication/report-independent-review-investigation-and-prosecution-rape-london-rt-hon-dame-elish; Chambers, G., & Millar, A. (1983). Investigating rape. Edinburgh, UK: HMSO.; Harris, J., & Grace, S. (1999). A question of evidence? Investigating and prosecuting rape in the 1990s. Llundain:Y Swyddfa Gartref; HMCPSI & HMIC, (2002). A report on the joint inspection into the investigation and prosecution of cases involving allegations of rape. HMCPSI & HMIC, London.; HMCPSI (2019). Rape Inspection. HMCPSI, Llundin.; Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron Ei Fawrhydi ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Fawrhydi. (2007). Without consent: A report on the joint review of the investigation and prosecution of rape offences. Llundain: Swyddfa Gwybodaeth Ganolog; Llywodraeth EF (2021). The end-to-end rape review report on findings and actions. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/1001417/end-to-end-rape-review-report-with-correctionslip.pdf; Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi. (2021). Police response to violence against women and girls: Final inspection report. https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publications/police-response-to-violence-against-women-and-girls/; Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi. (2021). A joint thematic inspection of the police and Crown Prosecution Service’s response to rape - Phase one: From report to police or CPS decision to take no further action. https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publications/a-joint-thematic-inspection-of-the-police-and-crown-prosecution-services-response-to-rape/; Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi. (2022). A joint thematic inspection of the police and Crown Prosecution Service’s response to rape - Phase two: Post-charge. https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publication-html/a-joint-thematic-inspection-of-the-police-and-crown-prosecution-services-response-to-rape-phase-two/ ; Stern, V. (2010). The Stern review: A report of an independent review into how rape complaints are handled by public authorities in England and Wales. Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth a’r Swyddfa Gartref. 

  91. Walker, T., Foster, A., Majeed-Ariss, R. & Horvath, M. A. H. (2021). The justice system is still failing victims and survivors of sexual violence. The Psychologist, 34, 42-45. 

  92. t. 234 yn Jordan, J. (2011). Here we go round the review-go-round: Rape investigation and prosecution—are things getting worse not better? Journal of Sexual Aggression, 17(3), 234-249. 

  93. Scully, D. (1990). Understanding Sexual Violence: A Study of Convicted Rapists. Harper Collins, Llundain. 

  94. Dalton, T., Barrett, S., Horvath, M.A.H. & Davies, K. (2022). A Systematic Literature Review of Specialist Policing of Rape and Serious Sexual Offences. International Criminology.; Rumney, P., McPhee, D., Fenton, R. A., & Williams, A. (2021). A police specialist rape investigation unit: a comparative analysis of performance and victim care. Policing and Society, 30, 548-568.; Westmarland, N., Aznaraz, M., Brown, J., & Kirkham, E. (2012). The benefits of specialist rape teams: A report commissioned and funded by the association of chief police officer (ACPO). https://www.researchgate.net/publication/281492166_The_benefits_of_police_specialist_rape_teams_A_report_commissioned_and_funded_by_the_Association_of_Chief_Police_Officers_ACPO; Westmarland, N., Brown, J., Smith, O., & Smailes, F. (2015). Cost-benefit analysis of specialist police rape teams. ACPO phase three report. http://nicolewestmarland.pbworks.com/w/file/fetch/96627840/ACPO%20phase%20three%20report.pdf 

  95. Hohl, K. & Stanko, E. (2022). Five Pillars: A Framework for Transforming the Police Response to Rape and Sexual Assault. International Criminology. 

  96. Bryman, A., (2015). Social Research Methods - 5th Edition. 5th ed. Oxford: OXFORD University Press. 

  97. Fetters, M. D., Curry, L. A., & Creswell, J. W. (2013). Achieving integration in mixed methods designs-principles and practices. Health Serv Res, 48(6 Pt 2), 2134-2156. doi:10.1111/1475-6773.12117; Teddie, C., & Tashakkori, A. (2009). Foundations of Mixed Methods Research: Integrating Quanititative and Qualitative Approaches in the Social and Behaviioral Sciences. California: Sage. 

  98. Torrance, H. (2012). Triangulation, respondent validation, and democratic participation in mixed methods research. Journal of Mixed Methods Research, 6(2), 111-123.; Webb, E. J., Campbell, D. T., Schwartz, R. D., & Sechrest, L. (1999). Unobtrusive Measures: SAGE Publications. 

  99. Neale, J., Miller, P. & West, R. (2014). Reporting quantitative information in qualitative research: guidance for authors and reviewers. Addiction, 109(2), 175-176. 

  100. t.475 yn Maxwell, J. (2010). Using Numbers in Qualitative Research. Qualitative Inquiry, 16(6), 475–482. 

  101. t.1174 yn Pyett, P.M. (2003). Validation of qualitative research in the “real world”. Qualitative Health Research, 13(8), 1170-1179. 

  102. Neale, J., Miller, P. & West, R. (2014). Reporting quantitative information in qualitative research: guidance for authors and reviewers. Addiction, 109, 175-6.. 

  103. Braun, V. & Clarke, V. (2019). Novel insights into patients’ life-worlds: the value of qualitative research. Lancet Psychiatry, 6(9), 720-721.; Braun, V. & Clarke, V. (2020). One size fits all? What counts as quality practice in (reflexive) thematic analysis? Qualitative Research in Psychology, 18(3), 328-352. 

  104. Swyddogion Technegau Ymchwiliadol Troseddau Rhyw 

  105. Canolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhyw 

  106. Ymgynghorwyr Annibynnol Trais Rhywiol 

  107. Arolygiaeth Ei Mawrhydi o’r Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub. (2021). Police response to violence against women and girls: Final inspection report. https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publications/police-response-to-violence-against-women-and-girls/; Arolygiaeth Ei Mawrhydi o’r Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub. (2021). A joint thematic inspection of the police and Crown Prosecution Service’s response to rape - Phase one: From report to police or CPS decision to take no further action. https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publications/a-joint-thematic-inspection-of-the-police-and-crown-prosecution-services-response-to-rape/; Arolygiaeth Ei Mawrhydi o’r Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub. (2022). A joint thematic inspection of the police and Crown Prosecution Service’s response to rape - Phase two: Post-charge. https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publication-html/a-joint-thematic-inspection-of-the-police-and-crown-prosecution-services-response-to-rape-phase-two/ 

  108. Angiolini, E. (2015). Report of the Independent Review into The Investigation and Prosecution of Rape in London. Ar gael o https://www.cps.gov.uk/publication/report-independent-review-investigation-and-prosecution-rape-london-rt-hon-dame-elish; Chambers, G., & Millar, A. (1983). Investigating rape.Caeredin, DU: HMSO.; Harris, J., & Grace, S. (1999). A question of evidence? Investigating and prosecuting rape in the 1990s. Llundain: Y Swyddfa Gartref; HMCPSI & HMIC, (2002). A report on the joint inspection into the investigation and prosecution of cases involving allegations of rape. HMCPSI & HMIC, Llundain.; HMCPSI (2019). Rape Inspection. HMCPSI, Llundain; Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Heddlu Ei Mawrhydi. (2007). Without consent: A report on the joint review of the investigation and prosecution of rape offences. Llundain: Swyddfa Ganolog Gwybodaeth; Llywodraeth EM (2021). Adroddiad yr adolygiad cynhwysfawr o drais ar ganfyddiadau a gweithredoedd. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/1001417/end-to-end-rape-review-report-with-correctionslip.pdf; Stern, V. (2010). The Stern review: A report of an independent review into how rape complaints are handled by public authorities in England and Wales. Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth a’r Swyddfa Gartref. 

  109. Swyddog â Gofal 

  110. Cyfweliad a Gofnodwyd yn Weledol 

  111. Teledu cylch cyfyng 

  112. Arolygiaeth Ei Mawrhydi o’r Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub. (2021). A joint thematic inspection of the police and Crown Prosecution Service’s response to rape - Phase one: From report to police or CPS decision to take no further action. https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publications/a-joint-thematic-inspection-of-the-police-and-crown-prosecution-services-response-to-rape/; Arolygiaeth Ei Mawrhydi o’r Hedldu a Gwasanaethau Tân ac Achub. (2022). A joint thematic inspection of the police and Crown Prosecution Service’s response to rape - Phase two: Post-charge. https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publication-html/a-joint-thematic-inspection-of-the-police-and-crown-prosecution-services-response-to-rape-phase-two/ 

  113. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Swyddfa Gartref a’r Swyddfa Ystadegau Genedlaethol, (2013). An overview of sexual offending in England and Wales. Statistics bulletin. 

  114. Abel, G. G., Becker, J. V., Mittelman, M., Cunningham-Rathner, J., Rouleau, J. L., & Murphy, W. D. (1987). Self-reported sex crimes of nonincarcerated paraphiliacs. Journal of Interpersonal Violence, 2, 3-25. 

  115. Weinrott, M. R. & Saylor, M. (1991). Self-report of crimes committed by sex offenders. Journal of Interpersonal Violence, 6, 286-300. 

  116. Lisak, D. & Miller, P. M. (2002). Repeat rape and multiple offending among undetected rapists. Violence and Victims, 17, 73-84. 

  117. Rydym yn defnyddio’r term y sawl a amheuir yma i amlygu’r ffaith nad sôn yr ydym am droseddwyr a gafwyd yn euog. 

  118. Moffitt, T. E. (2017). Life-course-persistent versus adolescence-limited antisocial behavior. In T. R. McGee & P. Mazerolle (Eds.), Developmental and life-course criminological theories (pp. 75-103). Routledge. 

  119. Tidmarsh, P. (2021). The whole story. Investigating sexual crime: Truth, lies & the path to justice. Jonathon Cape. 

  120. Sánchez, F. C., Ignatyev, Y., & Mundt, A. P. (2020). The revolving prison door: Factors associated with repeat incarcerations in Spain. Journal of Forensic and Legal Medicine, 72. 

  121. Scott, K., Heslop, L., Kelly, T., & Wiggins, K. (2015). Intervening to prevent repeat offending among moderate-to high-risk domestic violence offenders: A second-responder program for men. International Journal of Offender Therapy and Comparative Criminology, 59, 273-294. 

  122. Reid, J. A., Beauregard, E., Fedina, K. M., & Frith, E. N. (2014). Employing mixed methods to explore motivational patterns of repeat sex offenders. Journal of Criminal Justice, 42, 203-212. 

  123. Yr ydym yn cydnabod y gall termau eraill gael eu defnyddio yn y llenyddiaeth, neu y gall y termau hyn ddod gyda diffiniadau gwahanol mewn cyd-destunau eraill. Defnyddir y termau hyn ar hyn o bryd ym Mhilder Dau oherwydd yr angen i wahaniaethau rhwng llawer math o droseddu ailadroddus a byddant yn cael eu trafod a’u dadansoddi ymhellach ym Mlwyddyn 2 

  124. Miethe, T. D., Olson, J., & Mitchell, O. (2006). Specialization and persistence in the arrest histories of sex offenders: A comparative analysis of alternative measures and offense types. Journal of Research in Crime and Delinquency, 43, 204-229. 

  125. Harris, D. A., Pedneault, A., & Knight, R. A. (2013). An exploration of burglary in the criminal histories of sex offenders referred for civil commitment. Psychology, Crime & Law, 19, 765-781. 

  126. Cann, J., Friendship, C., & Gozna, L. (2007). Assessing crossover in a sample of sexual offenders with multiple victims. Legal and Criminological Psychology, 12, 149-163. 

  127. Heil, P., Ahlmeyer, S., & Simons, D. (2003). Crossover sexual offenses. Sexual Abuse: A Journal of Research and Treatment, 15, 221-236. 

  128. Davies, K. & Woodhams, J. (2019). The practice of crime linkage: A review of the literature. Journal of Investigative Psychology and Offender Profiling, 16, 169-200. Woodhams, J. & Bennell, C. (Eds.). (2014). Crime linkage: Theory, research, and practice. CRC Press. 

  129. What Are the 9 Police Peelian Principles? - Police Success 

  130. living-in-fear-the-police-and-cps-response-to-harassment-and-stalking.pdf (justiceinspectorates.gov.uk) 

  131. Stephen Port: Met Police failings led to more deaths - BBC News 

  132. Seilir nifer y pwyntiau data ynghylch y sawl a amheuir o lu E ar dair blynedd o ddata yn unig. 

  133. Yr oedd nifer y dioddefwyr ar gael yn unig ar gyfer y sampl pedair blynedd yn Llu E, ac felly nid ydynt wedi eu cynnwys yma. 

  134. Braun, V. & Clarke, V. (2006). Using thematic analysis in psychology. Qualitative Research in Psychology, 3, 77-101. 

  135. Roedd natur y set ddata a wnaed yn ddienw yn golygu na allodd yr ymchwilwyr wneud unrhyw wiriadau â llaw o’r cyfatebiaethau hyn. 

  136. Healey, J., Lussier, P., & Beauregard, E. (2013). Sexual sadism in the context of rape and sexual homicide: An examination of crime scene indicators. International Journal of Offender Therapy and Comparative Criminology, 57, 402-424. 

  137. Brasamcan o ffigwr yw hwn; mae dadansoddi’n dal i ddigwydd i weld faint o rai ‘sbrî-cyson’ a amheuir, er, o gofio nifer fechan y rhai a amheuir o droseddu sbrî-yn-unig a chyson-yn-unig, rhagwelir na fydd nifer y rhain yn uchel. 

  138. Cynhwysir er mwyn cyfeirio, a chasglwyd fel rhan o brosiect Braenaru Project Bluestone. 

  139. Mae dadansoddiadau yn dal i gael eu cynnal a gall y canlyniadau fod oherwydd mân newidiadau wrth i setiau data gael eu cyfuno, eu cofnodi a’u hail-ddadansoddi. Hyd yma, mae rhai lluoedd wedi darparu data yn unig am droseddau trais a throseddau rhyw difrifol (fel y’u diffiniwyd gan y lluoedd eu hunain). 

  140. Llywodraeth EF (2021), Adroddiad ar ganfyddiadau a gweithredoedd yr adolygiad cynhwysfawr o drais, HM Stationery Office (tt. i-ii). 

  141. Comisiynydd Dioddefwyr (2020), Rape survivors and the criminal justice system, Swyddfa’r Comisiynydd Dioddefwyr. 

  142. Hohl, Johnson a Molisso (2022), A Procedural Justice Theory Approach to Police Engagement with Victim-Survivors of Rape and Sexual Assault: Initial Findings of the ‘Project Bluestone’ Pilot Study. International Criminology, DOI: 10.1007/s43576-022-00056-z 

  143. Stott, C. (2021), From Coercion to Consent: Police Ethnography and Procedural Justice. Institute for Global City Policing Webinar Series, https://www.youtube.com/watch?v=QRPLQxlxNXI 

  144. Hohl, Johnson & Molisso (2022), ibid. 

  145. Am ddiffiniad o niwroamrywiol gweler https://neuroqueer.com/neurodiversity-terms-and-definitions/ 

  146. Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (2020) Mobile phone data extraction by police forces in England and Wales: Investigation report. Ar gael yn: https://ico.org.uk/media/about-the-ico/documents/2617838/ico-report-on-mpe-in-england-and-wales-v1_1.pdf 

  147. Nid yw hyn yn golygu nad oes unrhyw rym ymchwiliadol i dystiolaeth ddigidol, ac mewn gwirionedd, clywsom gan ddioddefwyr-goroeswyr oedd yn “ymbil ar yr heddlu: ‘plîs wnewch chi gymryd fy ffôn’” (Dioddefwr-Goroeswr, Panel Cenedlaethol 5). 

  148. Am fwy o wybodaeth gweler Police, Crime, Sentencing and Courts Act 2022 (legislation.gov.uk) 

  149. Echdynnu gwybodaeth o ddyfeisiadau electronig: cod ymarfer. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/consultations/extraction-of-information-from-electronic-devices-code-of-practice 

  150. Soniodd dioddefwyr-goroeswyr wrthym am fanteisionISVAs: “Rwy’n lwcus i mi gael YATRh, lwcus i mi gael un o’r cychwyn cyntaf. Roedd fy ISVA wrth f’ochr yn fy nghynnal o’r dechrau’n deg, mae hyn yn hanfodol” (Dioddefwr-Goroeswr, Llu A). 

  151. Y Swyddfa Gartef (2017), The Role of the Independent Sexual Violence Adviser: Essential Elements. HM Stationery Office (adran 5.12). 

  152. Goodman-Delahunty, J. (2010), Four ingredients: New recipes for procedural justice in Australian policing. Policing: A Journal of Policy and Practice, 4(4), tt. 403-410. 

  153. Holder, R. (2015). Satisfied? Exploring victims’ justice judgments. Yn : Crime, Victims and Policy (tt. 184-213). Palgrave Macmillan, Llundain. 

  154. Mazerolle, L; Bennett, S; Davis, J; Sargeant, E. & Manning, M. (2013). Procedural justice and police legitimacy: A systematic review of the research evidence. Journal of Experimental Criminology, 9(2013), tt.245-274. 

  155. Murphy, K., Mazerolle, L., & Bennett, S. (2014). Promoting trust in police: Findings from a randomised experimental field trial of procedural justice policing. Policing and society, 24(4), 405-424. 

  156. Murphy, K., & Barkworth, J. (2014). Victim willingness to report crime to police: Does procedural justice or outcome matter most? Victims & offenders, 9(2), 178-204. 

  157. Foley, J., Hassett, A. and Williams, E. (2022) ‘“Getting on with the job”: A systematised literature review of secondary trauma and post-traumatic stress disorder (PTSD) in policing within the United Kingdom (UK)’, Police journal (Chichester), 95(1), pp. 224–252. Ar gael yn: https://doi.org/10.1177/0032258X21990412. 

  158. Rumney, P., McPhee, D., Fenton, R. A., & Williams, A. (2021). A police specialist rape investigation unit: a comparative analysis of performance and victim care. Policing and Society, 30, 548-568. https://doi.org/10.1080/10439463.2019.1566329 

  159. Nonaka, I., Toyama, R., & Konno, N. (2001). SECI, Ba and leadership: A unified model of dynamic knowledge creation. In I. Nonaka & D. Teece (Eds.), Managing industrial knowledge: Creation, transfer and utilization (tt. 13-43). Sage. 

  160. Norman J. & Fleming, J. (2021). Utilising police knowledge and skills: Experiences from police practitioners studying a police specific degree. International Journal of Police Science & Management. doi:10.1177/14613557211064051 

  161. Evetts, J. (2011). Sociological analysis of professionalism: Past, present and future, Comparative Sociology, 10, 1-37. https://doi.org/10.1163/156913310X522633 

  162. Norman, J. & Williams, E. (2017). Putting learning into practice: Self reflections from cops. European Police Science and Research Bulletin, (3), 197-203. https://bulletin.cepol.europa.eu/index.php/bulletin/article/view/294 

  163. Charman, S. & Williams, E. (2021). Accessing justice: The impact of discretion, ‘deservedness’ and distributive justice on the equitable allocation of policing resources. Criminology & Criminal Justice, online first https://doi.org/10.1177/17488958211013075 

  164. Williams, E., Norman, J. and Boag-Munroe, F. (2021) ‘Direct Entry: Fairness, resilience and the impact on regular cops’ International Journal of Law and Criminal Justice. Cyf 64 

  165. Bradford, B. a Quinton, P. (2014) ‘Self-legitimacy, police culture and support for democratic policing in an English constabulary’, British journal of criminology, 54(6), pp. 1023–1046. doi:10.1093/bjc/azu053; Williams, E. & Cockcroft, T. (2018). Knowledge wars, professionalisation, organisational justice and competing knowledge paradigms in British policing. In R. Mitchell & L. Huey (Gol.), Evidence based policing (tt. 131-144). Policy Press. 

  166. Norman J. & Fleming, J. (2021). Utilising police knowledge and skills: Experiences from police practitioners studying a police specific degree. International Journal of Police Science & Management. doi:10.1177/14613557211064051 

  167. Birch, P., Vickers, M., Kennedy, M., & Galovic, S. (2017). Wellbeing, occupational justice and police practice: an ‘affirming environment’?, Police Practice and Research, 18, 26-36. doi:10.1080/15614263.2016.1205985 

  168. Lauermann, F. & König, J. (2016). Teachers’ professional competence and wellbeing: Understanding the links between general pedagogical knowledge, self-efficacy and burnout. Learning and Instruction, 45, 9-19. https://doi.org/10.1016/j.learninstruc.2016.06.006 

  169. Anshell, M. H., Umscheid, D., & Brinthaupt, T.M. (2013). Effect of a combined coping skills and wellness program on perceived stress and physical energy among police emergency dispatchers: An exploratory study, Journal of Police and Criminal Psychology, 28, 1-14. oi: 10.1007/s11896-012-9110-x 

  170. Williams, E. & Cockcroft, T. (2018). Knowledge wars, professionalisation, organisational justice and competing knowledge paradigms in British policing. In R. Mitchell & L. Huey (Gol.), Evidence based policing (tt. 131-144). Policy Press. 

  171. Christopher, S. (2015). The police service can be a critical reflective practice … If it wants, Policing: A Journal of Policy and Practice, 9, 326-339. https://doi.org/10.1093/police/pav007 

  172. Pecyn meddalwedd ansoddol yw NVivo sy’n helpu i reoli a dadansoddi data ymchwil. 

  173. Arolwg trawsadrannol blynyddol yw Arolwg Staff y GIG sydd â’r nod o ddeall canfyddiadau ac agweddau pobl a gyflogir ledled y GIG https://www.nhsstaffsurveys.com/ 

  174. Maslach, C., Jackson, S. E., & Leiter, M. P. (1997). Maslach burnout inventory. Scarecrow Education. 

  175. Bakker, A. B., & Demerouti, E. (2007). The job demands‐resources model: State of the art. Journal of managerial psychology. Demerouti, E., Bakker, A. B., Nachreiner, F., & Schaufeli, W. B. (2001). The job demands-resources model of burnout. Journal of Applied psychology, 86(3), 499. 

  176. Maguire L. and Sondhi A. (in press), Stress-related psychosocial risk factors among police officers working on Rape and Serious Sexual Offences, The Police Journal: Theory, Practice and Principles. 

  177. Mae’r rhaglen PIP (a ddatblygwyd gan Goleg Plisomna’r DU, y corff proffesiynol dros blismona yng Nghymru a Lloegr) yn rhoi llwybr datblygu incrementaaidd a fwriedir i ddarparu rhaglen gyson o gofrestru, arholi, hyfforddi, asesu yn y gweithle ac ardystio i osod safonau cenedlaethol ar bob lefel o ddatblygiad gyrfa ymchwilydd. Mae ennill PIP yn cael ei gefnogi gan ddatblygu proffesiynol parhuas. Am fwy o fanylion, gweler Professionalising investigation programme (PIP) - Coleg Plismona (2021) Investigation career pathway. Ar gael yn: https://www.college.police.uk/career-learning/career-development/career-pathways/investigation (accessed 16/05/2022). 

  178. Hohl, K. & Stanko, E. A. (2015). Complaints of rape and the criminal justice system: Fresh evidence on the attrition problem in England and Wales. European Journal of Criminology, 12, 324-341. https://doi.org/10.1177/1477370815571949 

  179. Oherwydd y bylchau difrifol a nodwyd yn yr ymchwil, daeth argymhelliad o Biler Pedwar i ddatblygu cwrs interim byrrach i swyddogion. Datblygwyd hwn gyda’r Coleg Plismona a Patrick Tidmarsh ar sail ei ‘agwedd stori gyfan’. Mae’r cwrs yn cael ei redeg fel peilot ar hyn o bryd, ond nid oes bwriad i redeg y cwrs hwn y tu hwnt i Ragfyr 2023 am fod cwricwlwm SSAIDP yn cael ei ail-ysgrifennu yn ehangach i’w lansio ym mis Ionawr 2024 (amcangyfrif o’r dyddiad). 

  180. Daw data cymharol y GIG o Arolwg Staff y GIG am 2021 (https://www.nhsstaffsurveys.com/results/national-results/). Mae hyn yn cymharu lefelau canfyddiadau o afiechyd a ffactorau straen yn y pum ardal braenaru gyda’r arolwg o staff y GIG, oherwydd bod cwestiynau cymharol. Sylwer fod y cymariaethau hyn yn wahanol i fesuriadau cynharach o losgi allan nad ydynt yn cael eu casglu fel mater o drefn yn Arolwg Staff y GIG. Daeth mesuriadau cynharach o losgi allan o ddwy astudiaeth drawsadrannol sy’n defnyddio’r un fethodoleg i ganiatau cymharu (mwy o fanylion dros y ddalen). 

  181. Maguire L. a Sondhi A. (2022), Stress-related psychosocial risk factors among police officers working on Rape and Serious Sexual Offences, The Police Journal: Theory, Practice and Principles. 

  182. Carless, S. A., & De Paola, C. (2000). The measurement of cohesion in work teams. Small Group Research, 31(1), 71–88. doi: 10.1177/104649640003100104 

  183. Orru et al. (2021); Barello et al (2020). 

  184. Bradford, B. a Quinton, P. (2014) ‘Self-legitimacy, police culture and support for democratic policing in an English constabulary’, British journal of criminology, 54(6), tt. 1023–1046. doi:10.1093/bjc/azu053. 

  185. Harris, J. and Grace, S. (1999). A Question of Evidence? Investigating and Prosecuting Rape in the 1990s. Home Office Research Study 196. Llundain: Y Swyddfa Gartref; Kelly, L., Lovett, J. and Regan, L. (2005). A Gap or a Chasm? Attrition in Reported Rape Cases. Home Office Research Study 276. Llundain: Y Swyddfa Gartref; Feist, A., Ashe, J., Lawrence, J., McPhee, D. a Wilson, R. (2007). Investigating and Detecting Offences of Rape. Project Report. Y Swyddfa Gartref: Llundain; Hohl, K. a Stanko, B. (2015). Complaints of Rape and the Criminal Justice System: Fresh Evidence on the Attrition Problem inCymru a Lloegr. European Journal of Criminology, 12(3): 324–341; Murphy, A., Hine, B., Yesberg, J., Wunsch, D. and Charleton, B. (2021). Lessons from London: a contemporary examination of the factors affecting attrition among rape complaints. Psychology, Crime & Law, 28(1): 82-114. 

  186. Llywodraeth EM. (2021). The end-to-end rape review report on findings and actions. Ar gael arlein ar: [https://www.gov.uk/government/publications/end-to-end-rape-review-report-on-findings-and-actions]. 

  187. Centre for Women’s Justice, End Violence Against Women coalition, Imkaan, and Rape Crisis England & Wales. (2020). The Decriminalisation of Rape: Why the justice system is failing rape survivors and what needs to change. Ar gael arlein ar: [https://www.centreforwomensjustice.org.uk/s/Decriminalisation-of-Rape-Report-CWJ-EVAW-IMKAAN-RCEW-NOV-2020.pdf]. 

  188. McKee, C. (2014). Crime Outcomes in England and Wales 2013/14, (argraffiad cyntaf). Home Office Statistical Bulletin 01/14. Llundain: Y Swyddfa Gartref. 

  189. Llywodraeth EM, op. cit. 

  190. HMICFRS ac HMCPSI (2021) A joint thematic inspection of the police and Crown Prosecution Service’s response to rape Phase one: From report to police or CPS decision to take no further action. Ar gael arlein yn: [https://www.justiceinspectorates.gov.uk/cjji/inspections/a-joint-thematic-inspection-of-the-police-and-crown-prosecution-services-response-to-rape/]. 

  191. Er enghraifft, Dathan, M. (2022). Big rise in number of rape cases collapsing. Times, Sadwrn 5 Mawrth. Ar gaela rlein yn: [https://www.thetimes.co.uk/article/big-rise-in-number-of-rape-cases-collapsing-v03j2gn7z]. 

  192. Y Swyddfa Gartref. (2021). Counting Rules for Recorded Crime. Ar gael arlein yn: [https://www.gov.uk/government/publications/counting-rules-for-recorded-crime]. 

  193. NCRS ar gael yn: [https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/992833/count-general-jun-2021.pdf]. 

  194. Pwyllgor Dethol Gweinyddiaeth Gyhoeddus Tŷ’r Cyffredin (PASC). (2014). Caught Red-Handed: Why We Can’t Count on Police Recorded Crime Statistics. Thirteenth Report of Session 2013–14, Llundain: The Stationery Office. 

  195. PASC, Caught Red-Handed. HMIC. (2014). Making the victim count: The final report of an inspection of crime data integrity in police forces in England and Wales. HMIC. Ar gael arlein ar: https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publications/crime-recording-making-the-victim-count/

  196. Gweler, er enghraifft, HMIC. Making the victim count. 

  197. HMIC a HMCPSI. (2012). Forging the links: rape investigation and prosecution. Ar gael arlein yn : [https://www.justiceinspectorates.gov.uk/hmicfrs/publications/forging-the-links-rape-investigation-and-prosecution/]. HMICFRS a HMCPSI op. cit. 

  198. Bryant, R., Roach, J. a Williams, E. (2018). Crime and Intelligence Analysis through Partnership (CIAP). Adroddiad Terfynol a baratowyd i’r Coleg Plismona. 

  199. Byrom, N. (2019) Digital Justice: HMCTS data strategy and delivering access to justice. Guilford: The Legal Education Foundation. 

  200. Bryman, A. (2006). Integrating Quantitative and Qualitative Research: How is it Done?. Qualitative Research, 6: 97– 113. 

  201. Mae data’r ffeiliau achos o Lu D yn dal i gael eu dadansoddi. 

  202. Braun, V. a Clarke, V. (2006). Using thematic analysis in psychology. Qualitative Research in Psychology, 3:2, 77-101. 

  203. Er enghraifft, y categori ‘benyw’ oedd ‘benyw/benyw draws’. 

  204. Mae gwaith yn mynd rhagddo dan nawdd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, i wella casglu data am nodweddion gwarchodedig ar draws gwasanaeth yr heddlu. 

  205. National Centre for Policing Excellence. (2005). Guidance on the National Intelligence Model. ACPO Centrex,tp. 43. Mae’r Model Gwybodaeth Cenedlaethol(NIM) yn fodel gorfodi’r gyfraith a seiliwyd ar agwedd o arwain gan wybodaeth, a ddaeth yn bolisi Cymdeithas y Prif Swyddogion Heddlu (ACPO) yn 2000. 

  206. HMIC a HMCPSI, Forging the links. 

  207. Nodwyd y mater hwn yn rhy hwyr yn yr ymchwil i gael ei gywiro, ond nid yw’n newid ein prif ffocws yma, sef achosion o drais. Pan fydd y data yn cael eu diweddaru, bydd yn cwmpasu pob trosedd rhyw. 

  208. ONS. (2021). Sexual offences prevalence and trends, England and Wales: year ending March 2020. https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/articles/sexualoffencesprevalenceandtrendsenglandandwales/yearendingmarch2020 

  209. Seiliedig ar Luoedd A, B ac C (Llu D yn dal i gael ei ddadansoddi). 

  210. Wunsch, D., Davies, T. a Charleton, B. (2021). The London Rape Review 2021: An examination of cases from 2017 to 2019 with a focus on victim technology. Llundain: MOPAC; George, R. and Ferguson, S. (2021) Review into the Criminal Justice System response to adult rape and serious sexual offences across England and Wales, Research Report. Lllundain: Llywodraeth EM. 

  211. Newidiwyd agwedd seiliedig ar y dioddefwr y label am ddeilliannau 14 ac 16 o ‘nid yw’r dioddefwr yn cefnogi camau pellach’ mewn fersiynau cynharach i ‘dioddefwr yn gwrthod neu yn methu cefnogi camau pellach gan yr heddlu i adnabod pwy yw’r troseddwr’ (deilliant 14) a ‘dioddefwr ddim yn cefnogi gweithredu gan yr heddlu (neu wedi tynnu cefnogaeth yn ôl) (dilliant 16). 

  212. Domestic Abuse, Stalking and Honour Based Violence (DASH) Risk Identification, Assessment and Management Model. 

  213. MOPAC (2019) The London Rape Review A review of cases from 2016. Llundain: MOPAC. 

  214. Trwy ddosbarthiad N100/2 (adroddwyd am ddigwyddiad – tystioaleth gredadwy i’r gwrthwyneb yn bodoli). 

  215. Daeth Piler Chwech yn Biler swyddogol Operation Soteria Bluestone ym mis Ebrill 2022. Cyn dod yn Biler ffurfiol, cyllidwyd Piler Chwech trwy grant Gwyddoniaeth, Technoleg ac Ymchwil y Swyddfa Gartref gan fabwysiadu’r un agwedd fethodolegol o dreiddio’n ddwfn â Phileri 1-5. 

  216. NPCC, Transforming Forensics, Forensic Capability Network, Association of Police and Crime Commissioners. Digital Forensic Science Strategy (2020) 

  217. As stated by Mark Stokes, quoted in the House of Lords report ‘Forensic Science and the Criminal Justice System: A Blueprint for Change’. https://publications.parliament.uk/pa/ld201719/ldselect/ldsctech/333/333.pdf 

  218. Wilson-Kovacs (2021) Digital Media Investigators: Challenges and Opportunities in the use of digital forensics in police investigations in England and Wales. Policing and International Journal f Police Strategies & Management Cyf 43 Rhifyn 1 

  219. Vincze, E. (2016), Challenges in digital forensics, Police Practice and Research, Cyf. 17 Rhif. 2, tt. 183-194. 

  220. Vincze, E. (2016), Challenges in digital forensics, Police Practice and Research, Cyf. 17 Rhif. 2, tt. 183-194. 

  221. Brown, Cameron S D. (2015) Investigating and Prosecuting Cyber Crime: Forensic Dependencies and Barriers to Justice International Journal of Cyber Criminology; Cyf. 9, Rhifyn 1: 55-119. 

  222. Brown, Cameron S D. (2015) Investigating and Prosecuting Cyber Crime: Forensic Dependencies and Barriers to Justice International Journal of Cyber Criminology; Cyf. 9, Rhifyn 1: 55-119. 

  223. Y Swyddfa Gartref, 2015 “Digital investigation and intelligence: policing capabilities for a digital age. Report produced by the College of Policing, National Crime Agency, National Police Chiefs’ Council. HMSO, Llundain 

  224. Muir, R a Walcott, S. (2021). Unleashing the Value of Digital Forensics. Llundain, Police Foundation 

  225. Aminnezhad, A., a Dehghantanha, A. (2014). A survey on privacy issues in digital forensics. International Journal of Cyber-Security and Digital Forensics (IJCSDF), 3(4), 183-199 

  226. Al-Khateeb, H. M. a Cobley, P. (2015) ‘How you can Preserve Digital Evidence and why it is Important’, A Practical Guide to Coping with Cyberstalking, National Centre for Cyberstalking Research, UK: Andrews UK Limited 

  227. Gwasanaeth Heddlu’r Metropolitan a Gwasanaeth Erlyn y Goron, Llundain (2018) A Joint Review of the Disclosure Process in the Case of R v Allan: Findings and Recommendations for the MPS and CPS London. https://www.cps.gov.uk/sites/default/files/documents/publications/joint-review-disclosure-Allan.pdf 

  228. Er bod llawer her yn gysylltiedig â thystiolaeth ddigidol, cafwyd nifer o achosion hefyd ledled y byd lle holwyd tystiolaeth ddigidol yn llwyddiannus mewn ymchwiliadau ac erlyniadau troseddol, fel yr amlygwyd gan Matt Burgess mewn erthygl yn Wired yn 2018. “Around the world, data from connected devices is finding its way into law enforcement. In Australia, Apple Watch movement data was used to arrest a woman accused of murder. US law enforcement used Fitbit data to charge a man with the murder of his wife, and Amazon handed over data from an Amazon Echo that was believed to have witnessed a murder”. https://www.wired.co.uk/article/uk-police-courts-data-justice-trials-digital-evidence-rape-cases-cps 

  229. Yn Ebrill 2022, daeth Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (2022) i rym. Daeth y pwerasu ‘Echdynnu Gwybodaeth’ i rym ym mis Tachwedd 2022. Ymysg y darpariaethau, mae’r Ddeddf yn awryn mynnu bod yr heddlu yn cymryd agwedd gymesur a chyson wrth geisio gwybodaeth o ffonau a dyfeisiadau electronig eraill, ar sail angen yn hytrach na dymunoldeb https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2022/32/contents 

  230. May, T., Skinner, R., Holtham, E., Atkinson, S., a Talbot, C (wrthi’n cael ei baratoi). Digital Innovation and Confusion in Rape and Other Sexual Offence Investigations. 

  231. Daw data a gyflwynir yn yr atodiad hwn o dri o luoedd braenaru Soteria Bluestone, Lluoedd B, D, E ac un Llu STAR, llu F. Ym Mlwyddyn 2, ni fydd Piler Chwech yn gweithio yn Llu F ond bydd yn gweithio yn Lluoedd A ac C. 

  232. Yr oedd rhai achosion y tu allan i gylch gorchwyl y dyddiad hwn fel y’u darparwyd gan y lluoedd 

  233. Darparodd Llu A set ddata sylweddol; fodd bynnag, ni ddaethpwyd o hyd i’r data digidol y gwnaethom gais amdano neu yr oedd ar goll mewn cyfran sylweddol o’r achosion a ddarparwyd i ni. Ni allodd y lluoedd eraill ddarparu’r data hyn oherwydd anawsterau am fod data digidol yn cael ei ddal ar draws systemau lluosog, a’r un ohonynt yn cysylltu â’i gilydd. 

  234. Yr oedd a wnelo haenau data y gofynnwyd amdanynt o systemau’r hedldu â denfnddio technoleg a deunydd digidol (e.e., nifer o echdyniadau o ffonau), yn ogystal a data perfformiad (e.e., amseroedd aros cyn dychwelyd dyfeisiadau). 

  235. Y prosesau craidd oedd: cael/cipio, echdynnu, dadansoddi, storio, trosglwyddo, a dileu. 

  236. Mae rhwydweithiau fforensig DFU ar wahan i rwydweithiau lluoedd er mwyn diogelu’r data a ddelir gan y DFU a mewnrwyd y llu rhag cael eu heintio â drwgwedd posib sydd ynghudd ar ffôn neu ddyfais ddigidol arall. 

  237. Yr oedd y pedwar llu yn lledu dros ardaloedd daearyddol helaeth, oedd yn ychwanegu at yr amser a gymerwyd i deithio yn ôl ac ymlaen o’rDFU. Bydd amseroedd teithio i’rDFU, er hynny, yn wahanol yn y 43 llu ac ar eu traws. 

  238. Dywedodd y pedwar llu fod ffonau dioddefwyr yn cael eu trin yn wahanol o gymharu â chyn 2021. Yr oedd apwyntiadau yn dueddol o gael eu trefnu ar adeg hwylus i’r dioddefwr i lawrlwytho’r ffôn. Os yw ffôn y dioddefwr wedi ei ddifrodi, fyddai’n galw am lawrlwytho Lefel 2 neu 3, sy’n aml yn cymryd yn hwy na llawrlwytho Lefel 1, cynigir ffôn yn ei le. Ni ddywedodd neb a gyfwelwyd gennym y byddai’n rhaid iddynt ddweud wrth y dioddefwr y cymerai fwy na 24 awr i’w ffôn gael ei ddychwelyd. 

  239. Mae Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 yn gosod allan sail gyfreithiol i swyddogion gael ac echdynnu gwybodaeth o ddyfeisiadau electronig. Dyma lefelau echdynnu ac archwilio data ar ddyfeisiadau symudol: Lefel 1, echdyniad rhesymegol wedi ei ffurfweddu gan swyddog/aelod o staff sifilaidd hyfforddedig ar giosg fforensig. Lefel 2, sef echdyniad rhesymegol a ffisegol a wneir gan swyddog/aelod o staff sifilaidd hyfforddedig mewn hwb/uned fforensig, labordy neu ddarparwr gwasanaeth fforensig; a Lefel 3, sy’n echdyniad ac archwilidad arbenigol a wneir gan swyddog/aelod o staff sifilaidd hyfforddedig mewn hwb/uned fforensig, labordy neu ddarparwr gwasanaeth fforensig. 

  240. Mae hyfforddi a dysgu ar hyn o bryd yn gyfrifoldeb y swyddog unigol, y llu lle’i cyflogir, a’r Coleg Plismona yn gweithio gyda’i gilydd i gynnal datblygiad unigolyn. 

  241. Ym mhob llu, gofynasom am holl ganllawiau, protocolau a dogfennaeth gyffredinol ynghylch caffael, echdynnu, dadansoddi, storio, trosglwyddo a dileu deunydd digidol (ar draw pob math o drosedd). 

  242. Gweler Troednodyn 15, sy’n cyfeirio at Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (2022), am ddyfeisiadau digidol dioddefwyr a thystion. 

  243. Mae cynhyrchion ar gael mewn rhai lluoedd lle gwneir echdyniad llawn a’i fod yn cael ei gadw yn y cefndir, tra cynhyrchir adroddiad gyda’r wybodaeth y gofynnwyd amdano. O’r herwydd ni ellir ei ystyried yn echdynnu dethol oherwydd fod popeth yn cael ei gymryd o’r ddyfais ac adroddiad wedi ei olygu/fyrhau yn cael ei ddarparu. Ar hyn o bryd, yr unifg ffordd y gall lluoedd gynnal echdyniad hollol ddethol yw trwy gyrcuu’r deunydd ar y ddyfais a dal dim ond y darn hwnnw o wybodaeth ar y sgrîn. 

  244. Dywed Adran 37 Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (2022) lle bo gan ddioddefwr neu dyst wybodaeth ar ddyfais, megis ffôn symudol, fod pwer priodol ar gael yn awr (A.37) i ganiatau i hyn ddigwydd a phroses y cytunwyd arni (y DPNa) y mae’n rhaid i’r heddlu gadw ati. 

  245. Cymerwyd y dyfyniad o: ADR 722 – Examination of victim’s mobile phone in adult rape investigations Guidance notes 2022-23. Y Swyddfa Gartref. Llundain (canllaw drafft terfynol).