Adroddiad corfforaethol

Adroddiad blynyddol a chyfrifon OPG 2023 i 2024 (Fersiwn HTML)

Cyhoeddwyd 24 Gorffennaf 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Trosolwg

Diben y trosolwg yw rhoi crynodeb o waith Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG), ein pwrpas, y prif risgiau rydym yn eu hwynebu, a sut rydym wedi perfformio yn ystod y flwyddyn.

Mae’r trosolwg yn cynnwys:

  • datganiad y Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan roi ei safbwynt ar ein perfformiad yn ystod 2023 i 2024
  • disgrifiad o bwrpas Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yr hyn rydym yn ei wneud, ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid, ein perthynas gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a’r prif risgiau a materion y gwnaethom eu rheoli yn ystod y flwyddyn
  • crynodeb o berfformiad, gan amlinellu sut y gwnaethom berfformio yn erbyn ein nodau darparu gwasanaeth

Mae esboniad manylach o’n perfformiad ac atebolrwydd yn nhudalennau dilynol yr adroddiad hwn.

Roedd y prif risgiau a gafodd eu rheoli o fewn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn 2023 i 2024 yn cynnwys:

  • darparu’r lefel ddisgwyliedig o wasanaeth i’n cwsmeriaid
  • sicrhau bod gennym y systemau TG, y capasiti ystadau a’r gweithlu i gyflawni ein gweithrediadau
  • adennill costau yn ystod y flwyddyn a chefnogi ein cynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol

Mae rhagor o fanylion ynghylch y risgiau hyn a’r risgiau eraill a reolwyd yn ystod y flwyddyn o dudalen 88 ymlaen.

Datganiad gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Prif Weithredwr

Mae’n bleser gennyf gyflwyno adroddiad blynyddol a chyfrifon Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer 2023 i 2024. Fel Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwy’n falch o arwain sefydliad o weithwyr proffesiynol mor ymroddedig sy’n cadw ein cwsmeriaid wrth galon popeth maen nhw’n ei wneud. Mae gennym genhadaeth glir – i helpu pawb i wneud y penderfyniadau sydd eu hangen arnynt ac i ddiogelu buddiannau’r rheini nad ydyn nhw’n gallu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain – ac rydym wedi gweithio’n galed eleni i wella’r gwasanaethau rydym yn eu darparu’n barhaus.

Rydym yn falch ein bod yn cefnogi mwy o bobl ac yn gwasanaethu mwy o gwsmeriaid nag erioed o’r blaen. Rydym wedi gweld cynnydd mewn gorchmynion goruchwylio i 60,516, i fyny o 58,194 y llynedd a chynnydd hefyd mewn ymchwiliadau i 3,647, i fyny o 2,849 y llynedd. Fel sefydliad, rydym am i atwrneiaethau arhosol (LPA) fod yn rhan fwy o fywyd bob dydd, er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu grymuso a’u gwarchod. Yn ystod y flwyddyn cawsom 1.37 miliwn o geisiadau i gofrestru atwrneiaethau (atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus), cynnydd o filiwn ers y llynedd. Roedd hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar adfer ôl-groniadau ond, er gwaethaf y niferoedd uwch, rydym wedi lleihau’r ôl-groniad a lleihau amseroedd aros cwsmeriaid. Mae’r cynnydd hwn yn dyst i ymrwymiad a gwytnwch ein pobl a sut rydym wedi addasu fel sefydliad – drwy recriwtio staff ychwanegol, gweithio goramser a dod o hyd i ffyrdd newydd i wella effeithlonrwydd. Rydym wedi monitro cynnydd yn erbyn ein cynllun adfer ac oherwydd bod gwaith i’w wneud o hyd, byddwn yn parhau i flaenoriaethu gwaith yn y maes hwn.

Byddwn yn parhau i hyrwyddo manteision atwrneiaethau arhosol a’r llynedd fe wnaethom ail-lansio ein hymgyrch Eich Llais, Eich Penderfyniad. Mae’r ymgyrch yn cael ei chyflwyno mewn ffordd wedi’i thargedu mewn ardaloedd penodol o Gymru a Lloegr, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cael atwrneiaethau arhosol ar waith. Buom yn gweithio gyda rhanddeiliaid a grwpiau cymunedol i helpu i sicrhau ein bod yn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi mynd ati i gefnogi ein gwaith ac wedi annog sgyrsiau cynnar am atwrneiaethau arhosol.

Mae’r nifer uchel o geisiadau am atwrneiaethau arhosol a gofrestrwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hefyd yn effeithio ar ein sefyllfa ariannol. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gweithredu model adennill costau lle mae’r ffioedd a godir gennym yn cael eu defnyddio i dalu am gost rhedeg ein gwasanaethau, a’n nod yw cydbwyso’r ddau. Eleni, mae gennym ganran gor-adennill o 106.9%, ar ôl tan-adennill costau am y tair blynedd flaenorol. O safbwynt ariannol, nid yw’r ffioedd a godir am atwrneiaeth arhosol yn cael eu cydnabod yn ein cyfrifon nes bod yr atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru. Mae gor-adennill wedi digwydd yn rhannol oherwydd y nifer uwch o atwrneiaethau arhosol sydd wedi cael eu cofrestru, ond hefyd oherwydd gweithiwyd ar gyfran o atwrneiaethau arhosol a’r costau wedi’u hysgwyddo yn ystod blwyddyn ariannol 2022 i 2023, a’r incwm wedi’i gydnabod yn ystod 2023 i 2024.

Yn ogystal â gweithio i leihau’r ôl-groniad mewn ceisiadau am atwrneiaethau arhosol, rydym wedi gweithio’n galed i wella ein gwasanaeth i gwsmeriaid. Rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol. Rydym wedi buddsoddi yn ein canolfan gyswllt, drwy ymestyn oriau agor a thrwy agor canolfan gyswllt newydd yn Birmingham, gan ychwanegu at ein gweithrediadau presennol yn Nottingham. Roeddem hefyd wedi ychwanegu llinell ffôn newydd a oedd yn galluogi cwsmeriaid i wneud taliad cerdyn yn gyflym. Mae’r gwelliannau hyn wedi ein helpu i ateb mwy o alwadau na’r llynedd a lleihau’r amser mae ein cwsmeriaid yn aros i siarad â’n staff.

Dechreuasom y flwyddyn gydag ôl-groniad o gwynion cwsmeriaid sydd bellach wedi’u clirio, ar ôl cynyddu oriau goramser a staffio ein timau cwynion. Ein nod yw ymateb i 90% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith, ac er mai 69% oedd ein cyfartaledd blwyddyn o hyd, mae hyn yn cynnwys dechrau’r flwyddyn pan oedd gennym ôl-groniadau o gwynion. Am y cyfnod o saith mis rhwng mis Medi 2023 a mis Mawrth 2024, roedd gennym gyfartaledd o 90%. Er ei bod yn iawn cydnabod y cynnydd a wnaed o ran gwella profiad y cwsmer, mae meysydd sy’n peri pryder a heriau y mae angen i ni eu goresgyn o hyd. Mae angen i ni barhau i leihau amseroedd aros ar gyfer ceisiadau am atwrneiaethau arhosol a cheisio cyrraedd y targed. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymchwiliadau gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Roedd hyn yn golygu na wnaethom gyflawni ein targed 70 diwrnod gwaith ar gyfer cwblhau ymchwiliadau.

Mae gennym gynllun adfer ar waith i gael ymchwiliadau yn ôl o fewn y targed. Rydym hefyd wedi gweithio i sicrhau bod pob achos yn cael ei frysbennu’n gyflym ar gyfer anghenion diogelu ac rydym wedi blaenoriaethu achosion brys i leihau’r risg i’n cwsmeriaid mwyaf agored i niwed. Rydym wedi rhoi mesurau ar waith i wella cynhyrchiant a lleihau’r amser a gymerir i gwblhau ymchwiliadau. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno tîm cymorth ymchwiliadau newydd i wneud dyletswyddau gweinyddol, fel y gall ein hymchwilwyr ganolbwyntio ymhellach ar yr ymchwiliadau eu hunain.

Gyda’r cwsmer wrth galon popeth a wnawn, rydym wedi parhau i wneud cynnydd gyda’n huchelgais i foderneiddio ein gwasanaethau atwrneiaeth arhosol. Roeddem wedi cyrraedd carreg filltir bwysig, gan weithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, i gael Cydsyniad Brenhinol ar gyfer Deddf Atwrneiaethau 2023. Bydd y Ddeddf hon yn ein galluogi i’w gwneud yn fwy diogel, yn haws ac yn gyflymach i gwsmeriaid wneud atwrneiaeth arhosol. Bydd ein cynlluniau’n trawsnewid sut mae cwsmeriaid yn gwneud atwrneiaeth arhosol a hefyd yn gwella mesurau gwarchod rhag twyll drwy ddweud anwiredd. Rydym yn parhau i ddylunio a datblygu ein gwasanaeth wedi’i foderneiddio. Y cam nesaf yw cwblhau’r is-ddeddfwriaeth angenrheidiol a phrofi’r gwasanaeth ymhellach i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio i’n cwsmeriaid.

Rwy’n ddiolchgar i’m holl gydweithwyr, bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder am eu cefnogaeth a’r cyfan maen nhw wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn. Rwy’n edrych ymlaen at arwain Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’r flwyddyn ariannol nesaf, pan fyddwn yn parhau i sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn lle gwych i weithio ac i adeiladu gwasanaethau gwell, cyflymach a mwy dibynadwy i’n cwsmeriaid.

Dymuniadau gorau,

Amy Holmes
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr

Gwybodaeth am Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Cyflwyniad

Yr Arglwydd Ganghellor sy’n penodi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o dan Adran 57 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Swyddfa, mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn atebol yn bersonol i’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder am weithredu’r asiantaeth yn effeithiol, gan gynnwys y ffordd mae’r asiantaeth yn gwario arian cyhoeddus ac yn rheoli ei hasedau.

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael cymorth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflawni ei swyddogaethau statudol o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r swyddogaethau ychwanegol o dan Ddeddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017. Mae cyfrifoldebau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymestyn ledled Cymru a Lloegr. Mae trefniadau ar wahân ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gweinidogion y llywodraeth a oedd yn gyfrifol am Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod y cyfnod adrodd hwn (1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024) oedd:

  • y Gwir Anrhydeddus Dominic Raab AS, yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder (tan 21 Ebrill 2023)

  • y Gwir Anrhydeddus Alex Chalk CB AS, yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder (o 21 Ebrill 2023)

  • Mike Freer AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder

Fel asiantaeth weithredol, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhan o grŵp adrannol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a chaiff ein canlyniadau eu cyfuno yn adroddiad blynyddol a chyfrifon grŵp y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Beth mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei wneud?

Sefydlwyd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ym mis Hydref 2007. Rydym yn cefnogi ac yn galluogi pobl i gynllunio fel bod rhywun yn gofalu am eu hiechyd a’u materion ariannol os byddant yn colli galluedd. Rydym hefyd yn diogelu buddiannau pobl nad oes ganddynt y gallu meddyliol i wneud penderfyniadau penodol drostynt eu hunain.

Ein prif gyfrifoldebau yw:

  • cofrestru atwrneiaethau arhosol a pharhaus

  • goruchwylio dirprwyon a benodwyd gan y Llys Gwarchod

  • goruchwylio gwarcheidwaid a benodir gan yr Uchel Lys

  • cadw cofrestrau cyhoeddus o ddirprwyon, gwarcheidwaid, atwrneiaethau arhosol a pharhaus, ac ymateb i geisiadau i chwilio drwy’r cofrestrau

  • ymchwilio i sylwadau (gan gynnwys cwynion) am y ffordd mae atwrneiod, dirprwyon a gwarcheidwaid yn arfer eu pwerau

Ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid

Ein cwsmeriaid yw’r rheini sy’n gofyn am ein cymorth o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu Ddeddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017 neu sydd angen ein cymorth, gan gynnwys:

Rhoddwyr
Pobl sydd wedi gwneud atwrneiaethau arhosol neu atwrneiaethau parhaus i drefnu bod penderfyniadau’n cael eu gwneud am eu lles, eu heiddo neu eu materion ariannol os byddant yn colli galluedd meddyliol yn y dyfodol.

Cleientiaid (a elwir yn ‘P’)
Pobl sydd wedi colli galluedd meddyliol ac y mae eu lles, eu heiddo neu eu materion ariannol yn destun achos gerbron y Llys Gwarchod.

Unigolion coll
Pobl sydd ar goll neu’n absennol ac y mae eu materion yn cael eu rheoli gan warcheidwad a benodwyd gan yr Uchel Lys.

Rydym yn cydnabod mai ein diben hefyd yw cefnogi eraill sy’n ymwneud â phrif bwrpas atwrneiaethau parhaus, atwrneiaethau arhosol, dirprwyaethau a gwarcheidiaeth, gan gynnwys:

Atwrneiod
Pobl sydd wedi cael eu penodi gan roddwyr i reoli eu lles, eu heiddo neu eu materion ariannol os byddent yn colli galluedd yn y dyfodol.

Dirprwyon
Unigolion lleyg neu broffesiynol neu awdurdodau (fel cyfreithwyr neu awdurdodau lleol) sydd wedi cael eu penodi gan y Llys Gwarchod i reoli lles neu faterion ariannol y cleient.

Gwarcheidwaid
Unigolion sydd wedi cael eu penodi gan yr Uchel Lys i reoli eiddo a materion ariannol unigolyn sy’n absennol neu sydd ar goll.

Rhanddeiliaid eraill
Perthnasau i gleient neu roddwr, meddygon teulu neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill, elusennau ac aelodau o’r sectorau ariannol a chyfreithiol.

Dadansoddi perfformiad

Sut oedd ein perfformiad yn ystod 2023 i 2024?

Mae perfformiad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn erbyn ein targedau wedi’i nodi isod, ynghyd â’r lefelau baich gwaith mwyaf arwyddocaol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae rhagor o fanylion ynghylch yr ystod lawn o dargedau, perfformiad a sut cânt eu mesur yn yr atodiad.

Un o brif flaenoriaethau’r flwyddyn oedd lleihau maint yr ôl-groniad o geisiadau am atwrneiaethau arhosol. Mae’r cynllun adfer a oedd gennym eisoes wedi bod yn gweithio ac wedi gwneud cynnydd da yn ystod y flwyddyn, er ein bod yn cydnabod bod mwy i’w wneud. Gwelsom gynnydd sylweddol yn y galw, gyda chyfanswm o 1.37 miliwn o geisiadau wedi dod i law i gofrestru atwrneiaethau, o’i gymharu â miliwn y flwyddyn flaenorol. Mae’r galw uwch hwn am atwrneiaethau arhosol i’w groesawu ond roedd yn rhoi pwysau ychwanegol wrth i ni geisio adfer ôl-groniadau. Roedd yr ôl-groniad yn 223,200 o atwrneiaethau arhosol ym mis Mawrth 2023 a chynyddodd i 288,100 o atwrneiaethau arhosol ym mis Awst 2023. Gwnaethom gymryd camau pellach i fynd i’r afael â’r niferoedd uchel hynny, gan recriwtio mwy o staff a phrydlesu gofod swyddfa ychwanegol, ac roeddem yn gallu lleihau’r ôl-groniad i 149,400 o geisiadau ym mis Mawrth 2024 – gostyngiad o 48% yn y saith mis o fis Awst 2023.

Mae’r gostyngiad yn yr ôl-groniad wedi golygu gostyngiad yn yr amser cyfartalog y mae ein cwsmeriaid yn aros i gael eu hatwrneiaethau arhosol cofrestredig. Rhwng 2022 a 2023, roedd ein hamser cyfartalog i gofrestru ac anfon atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus yn 91 diwrnod gwaith. Y flwyddyn ariannol hon, gostyngodd i 76 diwrnod gwaith. Mae dadansoddiad misol hefyd yn dangos patrwm y cynnydd. Ar gyfer atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus a gofrestrwyd ac a anfonwyd ym mis Ebrill 2023 yn unig, roedd hyn ar ôl 80 diwrnod gwaith ar gyfartaledd ar ôl derbyn y cais. Gostyngodd hyn i 62 diwrnod gwaith ar gyfer atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus a gofrestrwyd ac a anfonwyd ym mis Mawrth 2024 yn unig.

Mae gwella profiad y cwsmer drwy gydol y flwyddyn wedi parhau i fod yn flaenoriaeth. Fe wnaethom agor canolfan gyswllt newydd, ymestyn oriau gweithredu ein llinell ffôn, a chreu llinell ffôn newydd ar gyfer cwsmeriaid sy’n dymuno gwneud taliadau cerdyn. Gwnaethom hefyd glirio ein hôl-groniadau o gwynion cwsmeriaid ac rydym wedi gwella prydlondeb ein hymatebion i gwynion yn sylweddol. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y cynnydd hwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Gwelsom fwy o alw am ymchwiliadau eleni yn gysylltiedig â’r galw uwch am atwrneiaethau arhosol a thwf yn ein llwyth achosion goruchwylio. Roedd hyn yn golygu nad oeddem yn cyrraedd ein targed i gwblhau ymchwiliadau o fewn 70 diwrnod gwaith, gyda’n perfformiad terfynol yn 93 diwrnod gwaith. Rydym wedi rhoi cynlluniau adfer ar waith i wella ein perfformiad. Mae ein gwaith i oruchwylio dirprwyon hefyd wedi tyfu i 60,516 o gleientiaid. Cynhaliodd Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth archwiliad o’n gwaith goruchwylio a rhoddodd ei sgôr uchaf o sicrwydd ‘Sylweddol’ o ran llywodraethu, rheoli risg a’r rheolaethau sydd gennym ar waith.

Mae ein Haddewid i Bobl yn ymrwymo i wneud Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn lle gwych i weithio ac rydym wedi parhau i gefnogi ein staff eleni gyda buddsoddiad yn eu lles, eu datblygiad personol, a chyfleoedd dysgu. Amlinellir manylion cynlluniau penodol rydym wedi’u rhoi ar waith o dudalen 41 ymlaen.

Wrth gyflawni ein gweithgareddau gweithredol, rydym hefyd wedi bod yn cynllunio ar gyfer dyfodol gwasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Bydd ein cynlluniau i foderneiddio atwrneiaethau arhosol, drwy wasanaeth digidol newydd a sianel bapur well, yn trawsnewid profiad ein cwsmeriaid o’r broses o wneud cais i gofrestru eu hatwrneiaethau arhosol. Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom gamau breision, gan gynnwys cefnogi’r broses o basio deddfwriaeth newydd yn llwyddiannus (Deddf Atwrneiaethau 2023). Bydd bwrw ymlaen â’n cynlluniau moderneiddio yn parhau i fod yn elfen bwysig yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Rydym hefyd wedi bod yn datblygu prosiect gwella data i wella effeithlonrwydd ein defnydd o ddata ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gwneud gwaith darganfod sylweddol i ddeall beth ddylai ein model gweithredu data fod, gan ystyried enghreifftiau o arferion gorau ar draws y llywodraeth a’r sector preifat. Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn gweithio i roi newidiadau ar waith i’n model gweithredu a dod yn fwy effeithlon wrth i ni fwrw ymlaen â’n taith foderneiddio.

Nodir ein perfformiad cyffredinol yn erbyn ein targedau isod, ac mae rhagor o fanylion yn yr atodiad.

Dangosyddion perfformiad a llwyth gwaith

60,516
Llwyth gwaith goruchwylio
1,370,546
Derbyniwyd ceisiadau am atwrneiaeth (LPA ac EPA)
8,039,546
LPA ac EPA sydd ar y gofrestr ar hyn o byd

Sut y gwnaethom berfformio:

76 diwrnod gwaith
Amser clirio gwirioneddol cyfartalog i geisiadau am atwrneiaeth
Targed: 40 diwrnod gwaith
33 diwrnod gwaith
Amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol gan ddirprwyon yr ydym yn eu goruchwylio
Targed: 40 diwrnod gwaith
11 diwrnod gwaith
Amser cyfartalog i adolygu adroddiadau blynyddol dirprwyon
Targed: 15 diwrnod gwaith
99%
Canran yr asesiadau diogelu risg a gynhaliwyd o fewn dau ddiwrnod
Targed: 95%
93 diwrnod gwaith
Amser cyfartalog i gwblhau ymchwiliadau
Targed: 70 diwrnod gwaith
31%
Canran galwadau a atebwyd o fewn 5 munud
Targed: 90%
76%
Canran y cwsmeriaid sy’n fodlon â gwasanaethau atwrneiaeth
Targed: 80%
72%
Canran y cwsmeriaid yn fodlon â gwasanaethau dirprwyaeth
Targed: 80%
69%
Canran y cwynion yr ymatebwyd yn llawn iddynt o fewn 10 diwrnod gwaith
Targed: 90%
85%
Graddfa boddhad ar gyfer gwasanaeth digidol ‘Defnyddio LPA’
87%
Graddfa boddhad ar gyfer gwasanaeth digidol ‘Gwneud LPA’
80%
Graddfa boddhad ar gyfer gwasanaeth digidol ‘Cwblhau adroddiad dirprwy’

Atwrneiaethau

Cofrestru ceisiadau am atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus yw un o wasanaethau allweddol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae hyn yn caniatáu i unigolion ddewis pwy maent yn dymuno i wneud penderfyniadau ar eu rhan os daw adeg pan na allant wneud y penderfyniadau hynny drostynt eu hunain.

Y prif dargedau gwasanaeth i gwsmeriaid yn y maes hwn yw:

  • cofrestru ac anfon atwrneiaethau mewn 40 diwrnod gwaith ar gyfartaledd

  • ateb 90% o alwadau o fewn pum munud

  • ymateb i 90% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith

Rydym wedi parhau i flaenoriaethu’r gwaith o leihau maint yr ôl-groniad o atwrneiaethau arhosol a gafodd ei greu yn ystod y pandemig, ac a gafodd ei gynnal gan y cynnydd dilynol mewn ceisiadau. Eleni, cawsom y nifer uchaf erioed o geisiadau am atwrneiaeth mewn blwyddyn, gyda 1,370,546 o geisiadau wedi dod i law (atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus). Mae’r graff isod yn dangos y duedd gynyddol yn y galw i gofrestru atwrneiaethau:

Rydym yn croesawu’r galw uwch hwn am atwrneiaethau arhosol gan ein bod yn credu’n gryf y dylent fod i bawb ac yn rhan fwy o fywyd bob dydd. Gan fod y galw uwch yn effeithio ar gyflymder ein gwaith clirio ôl-groniadau, fe wnaethom gymryd camau pellach drwy recriwtio mwy a chymryd gofod swyddfa ychwanegol. Cafodd hyn effaith gadarnhaol ac roedd yn golygu bod yr ôl-groniad wedi parhau i ostwng.

Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf – Mawrth 2023 – roedd yr ôl-groniad yn 223,200 o atwrneiaethau arhosol, cyn cynyddu i 288,100 ym mis Awst 2023, ac yna’n cael ei leihau i 149,400 o atwrneiaethau arhosol ym mis Mawrth 2024. Rhwng mis Awst 2023 a mis Mawrth 2024, mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o 48% mewn saith mis. Mae cyflawni hyn wedi golygu defnyddio adnoddau ychwanegol, patrymau gweithio shifftiau, gweithio goramser, hyfforddi staff ar draws nifer o feysydd gwaith, a pharhau i ganolbwyntio ar gynhyrchiant ac arbedion effeithlonrwydd prosesau. Rydym yn parhau’n benderfynol o wneud rhagor o gynnydd o ran clirio’r ôl-groniad yn llawn ac rydym yn anelu at gyflawni hyn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae’r gostyngiad yn yr ôl-groniad wedi golygu gostyngiad yn yr amser cyfartalog a gymerwyd i gofrestru ac anfon ceisiadau atwrneiaethau. Rhwng 2022 a 2023, cafodd atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus eu cofrestru a’u hanfon mewn 91 diwrnod gwaith ar gyfartaledd, gydag uchafswm o 102 diwrnod gwaith ar gyfer atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus wedi’u cofrestru a’u hanfon ym mis Hydref 2022 yn unig. Rhwng 2023 a 2024, gostyngodd ein cyfartaledd blwyddyn o hyd i 76 diwrnod gwaith ar gyfartaledd. Mae dadansoddiad misol hefyd yn dangos hyd a lled ein cynnydd ymhellach. Ar gyfer atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus a gofrestrwyd ac a anfonwyd ym mis Ebrill 2023 yn unig, roedd hyn ar ôl 80 diwrnod gwaith ar gyfartaledd ar ôl derbyn y cais. Gostyngodd hyn i 62 diwrnod gwaith ar gyfer atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus a gofrestrwyd ac a anfonwyd yn ystod mis Mawrth 2024. Mae’r gostyngiad hwn yn duedd i’w chroesawu wrth i ni weithio tuag at ddychwelyd i’n targed a pherfformiad cyn y pandemig o 40 diwrnod gwaith.

Mae ein hymdrechion i wella ein gwasanaeth i gwsmeriaid a’r gostyngiad mewn amseroedd aros i gofrestru atwrneiaethau arhosol wedi cyfrannu at gynnydd mewn boddhad cwsmeriaid, o 60% y llynedd ar gyfartaledd i 76% eleni. Mae dadansoddiad misol yn dangos ein bod wedi cyrraedd ein targed o 80% ar gyfer mis Mawrth 2024. Rydym yn bwriadu adeiladu ar y cynnydd cryf hwn er mwyn sicrhau cyfartaledd o 80% dros y flwyddyn ariannol nesaf.

Rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd cynllunio ymlaen llaw a chael atwrneiaethau ar waith. Felly, rydym hefyd wedi parhau â’n hymgyrch Eich Llais, Eich Penderfyniad i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd atwrneiaethau arhosol. Mae’r ymgyrch leol hon, sydd wedi’i thargedu, wedi’i hanelu at gynyddu’r nifer sy’n defnyddio atwrneiaethau arhosol. Hyd yma, mae’r ymgyrch wedi cael ei chyflwyno yng Nglannau Mersi, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Manceinion Fwyaf, De Cymru, ac Arfordir Dwyrain Lloegr, ac rydyn ni’n bwriadu parhau i’w rhedeg mewn ardaloedd eraill yng Nghymru a Lloegr ar yr un pryd â gwerthuso ei heffaith wrth iddi fynd rhagddi.

Gwelliannau i’r gwasanaeth

Fel rhan o’n hymrwymiad i wella profiad y cwsmer, un ffocws allweddol eleni fu gwella sut rydym yn delio ac yn ymateb i’r nifer sylweddol o alwadau ffôn rydym yn eu cael. Mae’r camau rydym wedi’u cymryd yn cynnwys:

  • agor canolfan gyswllt newydd yn Birmingham, yn ogystal â’n canolfan gyswllt bresennol yn Nottingham

  • ymestyn ein horiau gweithredu llinell ffôn i agor o 9:00am ar bedwar diwrnod gwaith, yn hytrach na 9:30am

  • ychwanegu cwestiynau cyffredin mwy penodol ar wahanol linellau ffôn a chyfeirio cwsmeriaid yn well at adnoddau sydd eisoes ar gael ar ein gwefan

  • cyflwyno llinell ffôn newydd yn benodol ar gyfer cwsmeriaid sydd angen gwneud taliadau cerdyn

Mae’r camau hyn wedi sicrhau effaith gadarnhaol fesuradwy ar ein cwsmeriaid. Ym mis Ebrill 2023, arhosodd cwsmer ar gyfartaledd bron i 24 munud cyn gallu siarad ag ymgynghorydd, ac erbyn mis Mawrth 2024, roedd hyn wedi gostwng i 10 munud. Gwnaethom ateb cyfanswm o 240,000 o alwadau gan gwsmeriaid yn ystod y flwyddyn, i fyny o 203,000 y llynedd. Rydyn ni eisiau gwneud yn well a lleihau amseroedd aros ymhellach fyth. Byddwn yn lansio system ffôn newydd yn y flwyddyn ariannol nesaf i wella profiad galwadau ein cwsmeriaid a’n staff ymhellach.

Rydym wedi defnyddio adborth gan gwsmeriaid i wella ein gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol. Dyma ein gwasanaeth ar-lein sy’n galluogi rhoddwyr ac atwrneiod i rannu manylion eu hatwrneiaeth arhosol yn gyflym ac yn rhwydd gyda sefydliadau. Rydym wedi gwella’r wybodaeth i gwsmeriaid sy’n defnyddio’r gwasanaeth ar-lein ac mewn llythyrau, drwy egluro’r gwahaniaeth rhwng rhifau cyfeirnod cofrestru ac allweddi cadarnhau. Rydym ni hefyd wedi egluro beth mae angen i gwsmeriaid ei wneud gyda’u hallwedd cadarnhau i alluogi trydydd partïon i gael gafael ar fanylion atwrneiaethau arhosol yn ddigidol. Fe wnaethom ryddhau animeiddiad fideo ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i egluro’r codau a’r rhifau cyfeirnod gwahanol.

Ym mis Gorffennaf 2023, fe wnaethom ryddhau nodweddion newydd yn ein gwasanaethau Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol a Gweld Atwrneiaeth Arhosol. Mae cyfarwyddiadau a dewisiadau (cyfyngiadau ac amodau), nad oedd modd eu gweld ar-lein ar y pryd, bellach ar gael i’w gweld. Mae’r camau hyn yn ei gwneud yn haws i atwrneiod a thrydydd partïon weld atwrneiaethau arhosol, gan leihau’r tebygolrwydd y bydd angen tystiolaeth bapur o’r atwrneiaeth arhosol. Gan ddefnyddio adborth gan gwsmeriaid, rydyn ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid allanol i gefnogi eu dealltwriaeth o sut mae ein gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol yn gweithio.

Mae ein cwsmeriaid a’n sefydliadau allanol, fel y GIG, hefyd yn dibynnu ar ein gwasanaeth OPG100 i chwilio drwy ein cofrestrau i weld a oes atwrneiaethau arhosol, atwrneiaethau parhaus a dirprwyaethau ar waith. Fe wnaethom ddatblygu ffordd awtomatig newydd o weithio, a oedd yn lleihau ein hamser ymateb i geisiadau chwilio o 15 diwrnod gwaith ar ddechrau’r flwyddyn ariannol, i ddim ond 6 diwrnod gwaith erbyn mis Mawrth 2024.

Rydym wedi parhau i fwrw ymlaen â’n cynlluniau i foderneiddio atwrneiaethau arhosol. Bydd sianel ddigidol newydd ar gyfer gwneud cais i gofrestru atwrneiaethau arhosol, ochr yn ochr â phroses well ar bapur. Bydd y cynlluniau hyn yn trawsnewid sut mae cwsmeriaid yn gwneud cais i gofrestru eu hatwrneiaethau arhosol a’u profiad o’n gwasanaethau, ochr yn ochr â chefnogi cynaliadwyedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Ym mis Medi 2023, gan weithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, fe wnaethom gyrraedd carreg filltir bwysig pan gawsom Gydsyniad Brenhinol ar gyfer Deddf Atwrneiaethau 2023. Bydd y Ddeddf hon, ochr yn ochr â’r is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i wneud y gwasanaeth wedi’i foderneiddio yn weithredol, yn gwneud y gwasanaeth yn fwy diogel, yn haws ac yn gyflymach, yn ogystal â gwella mesurau gwarchod rhag twyll. Rydym wedi bod yn dylunio a datblygu ein gwasanaeth wedi’i foderneiddio. Edrychwn ymlaen at gynnal profion ar brofiad cwsmeriaid ar ôl i ni weithio drwy’r dyluniad manwl, a sicrhau bod yr is-ddeddfwr aeth angenrheidiol ar waith.

Goruchwyliaeth

Os yw unigolyn wedi colli galluedd meddyliol ac nad oes ganddo atwrneiaeth barhaus neu atwrneiaeth arhosol, gall y Llys Gwarchod benodi dirprwy i wneud penderfyniadau am faterion ariannol neu iechyd yr unigolyn hwnnw. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn goruchwylio’r holl ddirprwyon sy’n cael eu penodi gan y Llys. Ein llwyth achosion goruchwylio yw cyfanswm nifer yr unigolion y penodwyd dirprwyon ar eu cyfer. Cyfeirir at yr unigolion hyn fel ‘P’ gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Mae’r llwyth achosion goruchwylio wedi cynyddu o 58,194 ar ddiwedd 2022 i 2023, i 60,516 ddiwedd eleni.

Ein nod yw cysylltu â dirprwyon newydd o fewn 35 diwrnod gwaith i’w penodi, ac yn ystod 2023 i 2024, gwnaethom hynny o fewn 23 diwrnod gwaith ar gyfartaledd. Mae hyn yn helpu dirprwyon i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi i gyflawni eu rolau, er mwyn i’r Swyddfa allu sicrhau bod buddiannau P yn parhau i dderbyn gofal.

Yn ystod y flwyddyn, cyflwynwyd 65% o adroddiadau blynyddol yn ddigidol, o’i gymharu â 63% yn 2022 i 2023. Mae cyflwyno adroddiadau’n ddigidol yn galluogi dirprwyon i ychwanegu gwybodaeth at eu hadroddiad digidol yn ystod y flwyddyn yn hytrach nag aros tan ddiwedd y flwyddyn i gasglu’r holl wybodaeth berthnasol.

Cynhaliodd Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth (GIAA) archwiliad o’n gweithgarwch goruchwylio a daeth i ben gyda sgôr sicrwydd ‘Sylweddol’, y sgôr gryfaf y gall yr Asiantaeth ei dyfarnu. Mae hyn yn golygu bod yr Asiantaeth yn ystyried bod fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth ein tîm goruchwylio yn ddigonol ac yn effeithiol. Mae hwn yn gasgliad i’w groesawu ar gyfer gwaith trylwyr y tîm i sicrhau bod dirprwyon yn cael eu goruchwylio’n dda a bod buddiannau P yn derbyn gofal da.

Yn gyffredinol, am y flwyddyn, cawsom sgôr boddhad cwsmeriaid o 72% o ran ein gwasanaethau dirprwyaeth. Rydym yn parhau i weithio i wella ein gwasanaethau er mwyn cyrraedd ein targed o sgôr boddhad o 80%.

Gwelliannau i’r gwasanaeth

Rhoddwyd nifer o newidiadau polisi ar waith eleni i wella’r ffordd rydym yn goruchwylio. Er enghraifft, daeth polisi newydd i rym ynghylch taliadau gofal teulu. Mae hyn yn llywodraethu priodoldeb unrhyw daliadau a wneir gan ddirprwy, i deulu neu ffrindiau P neu’r dirprwy, i ddarparu gofal anffurfiol i P. Gyda’r polisi newydd hwn, gallwn helpu i sicrhau bod penderfyniadau am gyllid P yn parhau i gael eu gwneud er lles pennaf P. Rydym hefyd wedi cyflwyno polisi newydd sy’n amlinellu’r amgylchiadau lle byddwn yn ceisio rhyddhau dirprwy. Nid yw’n anghyffredin i ddirprwy fethu â chyflawni ei rôl, oherwydd ymddeoliad yn achos cyfreithwyr sy’n gweithredu fel dirprwyon, neu oherwydd salwch yn achos teulu neu ffrindiau sy’n gweithredu fel dirprwyon. Mae ein polisi newydd yn amlinellu’r broses ar gyfer sefydlu dirprwy newydd fel y gellir parhau i ofalu am fuddiannau P.

Fe wnaethom lansio ein safonau dirprwyon diwygiedig ym mis Chwefror 2023, ac rydyn ni wedi bod yn gweithio eleni i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio gan ddirprwyon. I gefnogi hynny, rydym yn bwriadu gwella ffurflen adroddiad blynyddol OPG102, sy’n galluogi dirprwyon a benodir gan y llys i adrodd ar gamau a gymerwyd ar ran eu cleientiaid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Rydym hefyd wedi dechrau ar y gwaith o adnewyddu’r panel dirprwyon yn ystod 2024 i 2025. Mae’r rhain yn ddirprwyon y gellir eu penodi gan y Llys Gwarchod pan nad oes unrhyw un arall yn fodlon nac yn gallu gweithredu fel dirprwy ar ran rhywun sydd heb alluedd meddyliol. Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n rheoli’r rhestr o ddirprwyon paneli. Mae’r panel yn gorfod cael ei adnewyddu bob 10 mlynedd ac mae’n gyfle i sicrhau bod digon o bobl ar y panel.

Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar ddatblygu a gweithredu’r gwaith o adnewyddu dirprwyon y panel a gwelliannau i adroddiadau blynyddol dirprwyon.

Cynllun Ad-daliadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi arwain ac ariannu cynllun ad-daliadau hanesyddol ar gyfer ffioedd atwrneiaeth. Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, cafodd cwsmeriaid gyfanswm o £20,568.45 mewn ad-daliadau. Mae’r cynllun hwn wedi dod i ben yn dilyn ymgyrch o chwe blynedd.

Rydym hefyd yn parhau i weinyddu’r cynllun i ad-dalu ffioedd dirprwyaeth a ordalwyd, a derbyniodd cwsmeriaid gyfanswm o £168.70 yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Unigolion coll

Eleni, fe wnaethom oruchwylio naw gorchymyn gwarcheidiaeth, ar ôl goruchwylio wyth yn 2022 i 2023. Er bod y niferoedd yn dal yn isel, mae’r gorchmynion a dderbynnir gan yr Uchel Lys yn hanfodol i deuluoedd sydd ag anwyliaid ar goll, ac maent yn eu helpu i ddelio â materion ariannol yn ystod cyfnod sydd eisoes yn drawmatig.

Ymchwiliadau

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’i awdurdodi i ymchwilio i honiadau o gam-drin gan atwrneiod a dirprwyon a benodwyd gan y llys, lle mae atwrneiaeth gofrestredig neu orchymyn llys ar waith. Os bydd y rhoddwr neu P yn marw, neu os bydd yr atwrneiaeth neu’r gorchymyn llys yn cael eu diddymu, yna bydd pwerau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ymchwilio hefyd yn dod i ben. Rydym yn cynnal ymchwiliad os oes sail i awgrymu nad yw buddiannau gorau’r rhoddwr neu P yn cael eu diwallu.

Eleni, fe wnaeth ymchwiliadau gynyddu’n sylweddol i 3,647, o 2,849 y llynedd. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 28%. Mae pob ymchwiliad yn arwain at adroddiad sy’n rhoi crynodeb o’r ymchwiliad a, lle bo angen, yn argymell camau gweithredu. Mae’r adroddiadau’n cael eu cytuno a’u llofnodi gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus neu’r rheini yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sydd â chyfrifoldeb dirprwyedig i lofnodi ar ran y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Targed Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer cwblhau a sicrhau cymeradwyaeth y Gwarcheidwad Cyhoeddus ar yr adroddiadau hyn yw dim mwy na 70 diwrnod gwaith.

Eleni nid oeddem yn gallu cyrraedd y targed o 70 diwrnod gwaith. Cafodd ymchwiliadau eu cwblhau o fewn 93 diwrnod gwaith ar gyfartaledd, o’i gymharu â 78 diwrnod gwaith yn ystod 2022 i 2023. Mae’r twf yn ein atwrneiaethau arhosol a’n llwyth achosion goruchwylio wedi bod yn ffactorau allweddol yn y galw cynyddol am ymchwiliadau. Mewn ymateb, ac i fod o fewn targed, rydym wedi rhoi nifer o fesurau adfer yn eu lle. Rydym yn parhau i wneud gwelliannau o ran sut rydym yn cynyddu ein cynhyrchiant a chyflymder ymchwiliadau, fel drwy lansio tîm cymorth ymchwiliadau newydd sy’n canolbwyntio ar gyflawni’r tasgau gweinyddol sy’n gysylltiedig ag ymchwiliadau. Rydym bob amser yn parhau i flaenoriaethu achosion brys a lleihau’r risg i’r rhoddwyr mwyaf agored i niwed.

Mae cynorthwyo ein hasiantaethau partner gyda diogelu yn flaenoriaeth arbennig i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn ystod 2023 i 2024, yn erbyn targed o 95%, fe wnaethom asesu risg 99% o’r holl bryderon o fewn dau ddiwrnod gwaith. Yn erbyn targed o 95%, derbyniodd 93% o’r pryderon hynny benderfyniad o fewn pum diwrnod gwaith ynghylch a allai Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ymchwilio i’r pryder neu gyfeirio at yr awdurdod priodol. Roeddem ychydig allan o’r targed o ganlyniad i gyfnod byr lle cafwyd cynnydd sydyn mewn pryderon, yn ystod mis Awst 2023. Mewn ymateb, fe wnaethom flaenoriaethu adnoddau i gyrraedd y targed deuddydd a lleihau unrhyw risgiau diogelu. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i fonitro galw a lefelau adnoddau er mwyn sicrhau y gellir cyrraedd y ddau darged.

At ei gilydd, fe wnaethom gau 2,884 o ymchwiliadau yn ystod 2023 i 2024 o’i gymharu â 2,504 yn 2022 i 2023. Roedd gennym 1,778 o ymchwiliadau gweithredol ar 31 Mawrth 2024 o’i gymharu â 1,034 ar yr un pryd y llynedd.

Mewn 77% o ymchwiliadau a wnaed eleni, ni chymerwyd unrhyw gamau. Mae hyn yn cymharu â 72% y llynedd. Eleni, arweiniodd 15% o ymchwiliadau at gamau’r Llys Gwarchod o gymharu â 21% y llynedd. Ar gyfer 8% o ymchwiliadau eleni, o’i gymharu â 7% y llynedd, fe wnaethom ddefnyddio fesurau nad oedd yn golygu mynd i’r llys, fel gofyn i atwrnai ail-gyfrifo mewn ychydig fisoedd i ddangos eu bod yn glynu wrth y cod ymarfer.

Gwelliannau i’r gwasanaeth

Er mwyn cefnogi mesurau diogelu ymhellach, fe wnaethom gyflwyno tîm cymorth ymchwiliadau newydd i wneud gwaith ar ddechrau ymchwiliad i baratoi’r achos ar gyfer gweithredu. Mae’r tîm newydd hwn wedi bod yn galluogi ymchwilwyr i gael mwy o amser i ganolbwyntio ar dasgau manwl fel asesu a datblygu ymchwiliadau.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno dangosydd perfformiad allweddol newydd, lle byddwn yn anelu at ateb galwadau ffôn i’n canolfan gyswllt, sy’n ymwneud â diogelu, o fewn tri munud. Mae hyn yn tanlinellu’r flaenoriaeth uchel a roddwn ar ymateb yn effeithiol i unrhyw bryderon diogelu a godir gyda ni.

Enghraifft o achos lle’r oedd angen i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gymryd camau cyfreithiol

Codwyd pryderon gyda’r Swyddfa gan awdurdod lleol ynghylch atwrnai a oedd wedi’i benodi i reoli materion ariannol rhoddwr. Honnwyd bod ffioedd gofal y rhoddwr mewn ôl-ddyledion a bod cynilion y rhoddwr wedi’u gwario gan yr atwrnai.

Canfu ymchwiliad gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus nad oedd gan y rhoddwr alluedd meddyliol mwyach i reoli ei faterion ei hun, nad oedd wedi bod â’r galluedd ers peth amser, a bod ei gynilion mewn gwirionedd wedi’u camreoli. Roedd hyn yn golygu nad oedd y rhoddwr yn gallu talu ei ffioedd gofal a’i fod wedi cronni dyled sylweddol.

Yn ystod yr ymchwiliad, methodd yr atwrnai ag ymateb i geisiadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am wybodaeth mewn perthynas â sut yr oedd materion ariannol y rhoddwr wedi cael eu rheoli. Bu’r Swyddfa yn gweithio gydag asiantaethau eraill, fel yr awdurdod lleol a’r heddlu, a sefydlwyd fod yr atwrnai wedi gwario cynilion y rhoddwr ar bryniannau nad oedd yn ymddangos eu bod er lles gorau’r rhoddwr. Roedd hyn yn gadael y rhoddwr heb ddigon o gynilion i dalu am ei ffioedd gofal. Daeth atwrnai arall, a gofrestrwyd i gefnogi’r un rhoddwr, yn ymwybodol o’r sefyllfa a chymerodd gamau i atal y rhoddwr rhag achosi cam-drin ariannol pellach.

O ganlyniad i’r ymchwiliad, gwnaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gais i’r Llys Gwarchod i ddirymu’r atwrnai cyntaf o atwrneiaeth arhosol y rhoddwr. Roedd hyn er mwyn atal camreoli materion y rhoddwr ymhellach. Cytunodd y Llys Gwarchod â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus nad oedd yr atwrnai dan sylw wedi rheoli materion ariannol y rhoddwr er ei les pennaf. Wedi hynny, dileodd y Llys yr atwrnai hwnnw o’r atwrneiaeth arhosol. Dechreuodd yr ail atwrnai, a oedd wedi cymryd camau i atal y rhoddwr rhag cam-drin ariannol pellach, weithio i adennill yr arian a wariwyd gan yr atwrnai a ddiddymwyd.

Enghraifft o achos lle nad oedd angen cymryd camau pellach

Codwyd pryderon gan weithiwr cyfreithiol proffesiynol mewn perthynas â cham-drin ariannol honedig yn ymwneud ag arian rhoddwr a rheolaeth o fusnes y rhoddwr. Lansiwyd ymchwiliad a oedd yn cynnwys cysylltu ag atwrnai cofrestredig y rhoddwr a chynnal ymweliad arbennig â’r rhoddwr. Cynhaliwyd ymweliad arbennig i asesu galluedd meddyliol y rhoddwr mewn perthynas â rheoli ei eiddo a’i faterion ariannol ei hun, ac i gael barn ar alluedd meddyliol ôl-weithredol y rhoddwr.

O’r ymweliad, darganfuwyd bod y rhoddwr mewn gwirionedd wedi colli’r gallu i reoli ei eiddo a’i faterion ariannol. Datgelodd dadansoddiad ariannol fod yr atwrnai wedi trosglwyddo swm mawr o arian, a arweiniodd at godi’r pryderon cychwynnol. Datgelodd yr ymchwiliad fod yr arian wedi’i symud o un o gyfrifon y rhoddwr i un o gyfrifon eraill y rhoddwr. Roedd hyn wedi’i wneud er mwyn diogelu’r arian rhag mynediad trydydd parti.

Yn seiliedig ar y wybodaeth a gafwyd trwy gydol yr ymchwiliad, ysgrifennwyd adroddiad, a daeth yr ymchwiliad i ben heb fod angen unrhyw gamau pellach. Roedd yr ymchwiliad wedi canfod trwy dystiolaeth na chafodd y pryderon a godwyd eu cadarnhau i unrhyw raddau, a bod yr atwrnai mewn gwirionedd yn gweithredu er lles pennaf y rhoddwr. Hysbyswyd yr holl bartïon a fu’n ymwneud â’r ymchwiliad, gan gynnwys yr un a gododd y pryder a’r atwrnai, o ganlyniad yr ymchwiliad, a darparwyd esboniad o’r canfyddiadau yn yr ohebiaeth derfynol. Darparodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ganllawiau pellach i helpu’r atwrnai i reoli materion y rhoddwr er ei les pennaf.

Ymweliadau

Rydym yn gweithio gyda’n hymwelwyr o’r Llys Gwarchod i ymweld â chleientiaid, rhoddwyr, atwrneiod a dirprwyon. Pan fo angen, bydd ymwelydd meddygol arbenigol yn ymweld.

Mae ymweliadau’n caniatáu i ni wneud y canlynol:

  • gwneud yn siŵr bod pobl yn deall ac yn cyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol

  • gwneud yn siŵr bod y rheiny sydd angen cymorth yn ei dderbyn

  • gofyn am wybodaeth fel rhan o ymchwiliadau

Yn ystod 2023 i 2024, comisiynodd ein tîm ymweliadau 12,603 o ymweliadau o’i gymharu ag 13,141 yn 2022 i 2023. Fe wnaethom hefyd redeg ymgyrch recriwtio i benodi mwy o ymwelwyr. Roedd yr ymgyrch hon yn llwyddiannus gydag ymwelwyr ychwanegol yn cael eu penodi ac rydym yn rhagweld penodiadau pellach yn y flwyddyn ariannol newydd.

Yn 2023 i 2024 fe wnaethom y canlynol:

  • dyrannu 97% o gomisiynau ymweliadau safonol o fewn pum diwrnod gwaith

  • dyrannu 97% o gomisiynau ymweliadau brys o fewn dau ddiwrnod gwaith

  • prosesu 99.8% o’r holl adroddiadau ymweliadau a gwblhawyd o fewn pum diwrnod gwaith

Cyfreithiol

Mae ein tîm cyfreithiol yn darparu ystod o wasanaethau cyfreithiol i alluogi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyflawni ei swyddogaethau statudol. Yn ogystal ag ymgyfreitha, mae’r tîm hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad cyfreithiol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer cyflawni busnes fel arfer a mentrau strategol. Mae hyn wedi cynnwys cefnogi cydweithwyr gweithredol gydag ymholiadau achos-benodol, gweithio gyda’r tîm polisi ar ganllawiau newydd, prosesau mwy effeithlon, neu gefnogi datblygiad gwasanaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’i foderneiddio, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer ymgeisio i gofrestru atwrneiaethau arhosol.

Fe wnaeth y tîm ymgyfreitha ar ran y Gwarcheidwad Cyhoeddus drwy gydol y flwyddyn a mynd i 330 o wrandawiadau. Os caiff y Gwarcheidwad Cyhoeddus ei ychwanegu fel parti i achosion y Llys Gwarchod, bydd y tîm yn gweithredu ar ei ran. Fodd bynnag, mae mwyafrif yr ymgyfreitha yn ymwneud â’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel ymgeisydd. Yn ystod 2023 i 2024, gwnaethom 577 o geisiadau goruchwylio ac ymchwilio i’r Llys Gwarchod, o gymharu â 704 o geisiadau yn ystod 2022 i 2023.

Fe wnaeth y tîm hefyd ymgyfreitha i ddatrys ansicrwydd o ran effeithiolrwydd cyfreithiol darpariaethau mewn atwrneiaethau arhosol, er mwyn sicrhau ein bod yn diogelu buddiannau gorau’r rhoddwr. Yn ystod 2023 i 2024, gwnaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 1,387 o geisiadau i’r Llys Gwarchod i geisio datrys ansicrwydd o’r fath, o gymharu ag 875 o geisiadau yn ystod 2022 i 2023.

Ni chafodd ein disgwyliadau o ran yr amser a gymerwyd i gyflwyno achosion i’r llys eu bodloni eleni. Mewn perthynas ag ymchwiliadau, ein nod yw 35 diwrnod gwaith o ddyddiad derbyn yr argymhelliad y dylid cymryd camau yn y llys er mwyn cychwyn achos llys. Eleni, fe wnaethom gyhoeddi achosion llys mewn 44 diwrnod gwaith ar gyfartaledd, o’i gymharu â 32 diwrnod gwaith yn ystod 2022 i 2023. Ni wnaethom gyrraedd y targed eleni oherwydd cynnydd sylweddol mewn gwrandawiadau ynghyd â throsiant staff uwch. Rydym wedi cymryd camau i wella’r broses o gadw cyfreithwyr a bydd manteision y system rheoli achosion cyfreithiol newydd, unwaith y bydd wedi’i sefydlu, yn cyfrannu at well perfformiad yn y maes hwn. Yn ogystal, rydym yn parhau i adolygu ai’r targed o 35 diwrnod gwaith yw’r metrig cywir. Mae’r metrig hwn yn rhagdybio bod angen cais llys prydlon ar gyfer pob achos, ac efallai na fydd ei angen mewn gwirionedd, er enghraifft lle gallai proses cyn-achos ffurfiol fod y ffordd orau o weithredu.

Gwelliannau i’r gwasanaeth

Roedd y system rheoli achosion cyfreithiol newydd a lansiwyd gennym yn ail hanner 2023 yn brosiect allweddol i ni ddatblygu ein galluoedd digidol ymhellach. Datblygwyd y system i fodloni ein gofynion penodol ar gyfer rheoli achosion ac mae’n disodli prosesau etifeddol. Mae cael cronfa ddata ganolog yn sicrhau gwell diogelwch data ar gyfer gwaith achos a dogfennau llys, system wedi’i moderneiddio ar gyfer rheoli ac adrodd yn gywir, yn ogystal â chynaliadwyedd ariannol ac amgylcheddol ar gyfer ein gweithrediadau cyfreithiol.

Sicrwydd gwybodaeth

Mae ein tîm sicrwydd gwybodaeth yn gweithio’n agos gyda’n tîm cyfreithiol i sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydymffurfio â gofynion diogelu data statudol. Mae’r tîm sicrwydd gwybodaeth yn parhau i drin ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI) a Cheisiadau Gwrthrych am Wybodaeth (SARs) yn ogystal â darparu cyngor technegol i dimau’r Swyddfa. Yn ystod y flwyddyn, derbyniwyd 77 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth, ac ymatebwyd i 66 (86%) ohonynt o fewn yr amserlen statudol o 20 diwrnod gwaith, ychydig yn llai na’n targed o 90%. Cafodd newidiadau gweithredol i’n gweithdrefnau clirio ymatebion Rhyddid Gwybodaeth effaith tymor byr ar ein cyfradd ymateb, gan arwain at nifer fach o achosion heb eu cwblhau o fewn yr amserlen statudol. Derbyniwyd 96 o Geisiadau Gwrthrych am Wybodaeth, ac ymatebwyd i 93 (97%) ohonynt o fewn yr amserlen statudol o un mis calendr, gan fodloni ein targed o 90%.

Amlinellir rhagor o wybodaeth am ein hatebolrwydd sicrwydd gwybodaeth a thrin data.

Gwelliannau i’r gwasanaeth

Arweiniodd y tîm Sicrwydd Gwybodaeth y broses o gyflwyno proses cofnodi digwyddiadau diogelwch gwybodaeth wedi’i diweddaru ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Awst 2023. Mae’r broses newydd yn sicrhau, lle mae staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn credu y gallai data cwsmeriaid fod wedi’u rhoi mewn perygl, bod llwybr clir i staff roi gwybod am ddigwyddiadau o’r fath ac y gellir ymchwilio i’r adroddiadau hyn yn gyflym.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae ein tîm Sicrwydd Gwybodaeth yn paratoi i sicrhau bod datblygiad ein gwasanaeth atwrneiaeth arhosol modern yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data. Mae’r tîm yn gweithio i sicrhau bod yr holl lifau data personol ar gyfer swyddogaethau digidol newydd a rhai wedi’u diweddaru yn bodloni gofynion diogelu data. Mae’r tîm hefyd yn cefnogi gweithrediad prosesau gwirio hunaniaeth trwy sicrhau’r cytundebau rhannu data trydydd parti gofynnol.

Polisi

Blaenoriaeth ein tîm polisi fu cefnogi ein cynlluniau i foderneiddio atwrneiaethau arhosol trwy wasanaeth digidol newydd a llwybr papur gwell. Mae gwaith helaeth wedi’i wneud i gwmpasu a datblygu polisïau gweithredol newydd sy’n ofynnol ar gyfer agweddau newydd ar y prosesau atwrneiaeth arhosol arfaethedig. Mae enghreifftiau’n cynnwys polisïau a fydd yn sail i sut y byddwn yn dilysu hunaniaeth rhoddwyr a darparwyr tystysgrifau sy’n ymwneud â chreu atwrneiaethau arhosol a sut i drin gwrthwynebiadau a gyflwynir cyn cofrestru atwrneiaeth arhosol.

Bydd ein gwasanaeth modern hefyd yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg, er mwyn sicrhau gwasanaeth cyfartal i siaradwyr Cymraeg a Saesneg. Yn ystod y broses ddatblygu, rydym wedi diweddaru swyddogion Llywodraeth Cymru, wedi gweithio gyda grwpiau buddiant yn y Gymraeg gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg, ac wedi cynnal ymchwil defnyddwyr gyda siaradwyr Cymraeg.

Mae’r tîm wedi cynllunio ac ailadrodd ffurflenni atwrneiaeth arhosol drafft a chanllawiau i’w profi gyda defnyddwyr terfynol ar gyfer y sianel bapur well, ac wedi cynnal sesiynau profi manwl i ddefnyddwyr, i gael gwybodaeth uniongyrchol gan amrywiaeth o ddarpar gwsmeriaid.

Yn y flwyddyn ariannol nesaf, rydym yn bwriadu:

  • parhau i ddatblygu polisi sy’n ymwneud â’n cynlluniau i foderneiddio atwrneiaethau arhosol

  • gwella prosesau goruchwylio, gan alluogi dirprwyon i ddeall eu rolau’n well, ac fel y gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus barhau i gefnogi P yn effeithiol

  • ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid fel bod rhanddeiliaid yn deall rôl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wrth gofrestru atwrneiaethau arhosol, ac yn gallu helpu cwsmeriaid trwy’r daith hon yn well

Cwynion

Rydym yn rheoli cwynion cwsmeriaid drwy broses gwyno haenog. Y maes busnes perthnasol sy’n ystyried cwynion Haen 1 ac yn ymateb iddynt. Os yw cwsmer yn anfodlon â’r ymateb, gellir uwchgyfeirio’r gŵyn i Haen 2. Ar y cam hwn, bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn adolygu’r gŵyn, a’r ffordd y caiff ei thrin, neu bydd aelod o’r uwch dîm arwain yn gwneud ar ei rhan. Mae gohebiaeth a gawn gan seneddwyr hefyd yn cael ei thrin gan ein tîm cwynion Haen 2. Cawsom 225 darn o ohebiaeth gan seneddwyr eleni, gostyngiad o 659 a gafwyd yn 2022 i 2023. Yn gyffredinol, cawsom 3,889 cwyn eleni, gostyngiad o 6,551 a gafwyd y llynedd.

Os bydd y cwsmer yn dal yn anfodlon, gall ofyn i’w AS gyfeirio ei gŵyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd er mwyn cynnal adolygiad annibynnol. Ar gyfer ei adolygiad, gall yr Ombwdsmon wedyn wneud ymholiadau pellach gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, cyn penderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad ffurfiol. Derbyniodd yr Ombwdsmon un achos i ymchwilio iddo yn ystod 2023 i 2024. Fe wnaethom gynorthwyo’r Ombwdsmon yn ei ymchwiliad, a disgwyliwn gael y canlyniad yn y flwyddyn ariannol nesaf. Ni chafwyd yr un achos lle dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwiliad yn ystod 2022 i 2023 a chyhoeddi eu penderfyniad i ni yn ystod 2023 i 2024.

Mae’n hanfodol bod ein cwsmeriaid yn gallu cyrchu sianeli cwynion ymatebol os na fyddwn yn gwneud pethau’n iawn. Yn ystod ychydig fisoedd cyntaf y flwyddyn, gweithiodd ein timau cwynion Haen 1 a Haen 2 yn galed i fynd i’r afael â’n hôl-groniad o gwynion cwsmeriaid. Un llwyddiant allweddol eleni oedd clirio’r ôl-groniadau hyn a gwelliant sylweddol yn ein hamseroedd ymateb i gwynion. Mae hyn yn dilyn y cynlluniau adfer a roddwyd ar waith yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, a oedd yn cynnwys staffio ychwanegol a phrosesau mwy effeithlon.

O ganlyniad, mae prydlondeb ein hymatebion i gwynion hefyd wedi gwella. Yn erbyn targed o ymateb i 90% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith, yn ystod y flwyddyn fe wnaethom ymateb i 69% o gwynion o fewn yr amser hwn. Mae hyn yn welliant sylweddol o 21% yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, ac yn duedd i’w groesawu wrth i ni weithio tuag at ein targed o 90%. Mae dadansoddiad misol hefyd yn dangos ein cynnydd. Gan gwmpasu’r cyfnod o saith mis rhwng Medi 2023 a Mawrth 2024, fe wnaethom gyrraedd ein targed o 90% o gwynion yn derbyn ymatebion o fewn 10 diwrnod gwaith. Yn gyffredinol, am y flwyddyn, ymatebwyd i gwynion o fewn 18 diwrnod gwaith ar gyfartaledd, sy’n sylweddol is o gymharu â 75 diwrnod gwaith y flwyddyn flaenorol. Rydym yn bwriadu adeiladu ar y cynnydd hwn a dod â’n cyfartaledd blwyddyn o hyd o fewn 10 diwrnod gwaith.

Gwelliannau i’r gwasanaeth

Yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe wnaeth yr Ombwdsmon adolygu a diweddaru’r safonau newydd ar gyfer cwynion trawslywodraethol. Mewn ymateb, cynhaliodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus asesiad mewnol o ba mor effeithiol oeddem yn erbyn y safonau hynny a llunio cynllun gweithredu i nodi gwelliannau yn ein dull o ymdrin â chwynion. O ganlyniad, rydym wedi cymryd camau fel:

  • darparu hyfforddiant ychwanegol i’n tîm cwynion

  • gwella cyfathrebu mewnol ynghylch tueddiadau cwynion a’r camau sy’n cael eu cymryd

  • dechrau Fforwm Mewnwelediad Cwsmeriaid newydd i helpu i sicrhau bod adborth gan gwsmeriaid yn llywio ein gwasanaethau

  • ymuno â fforwm cwynion traws-lywodraethol newydd i sicrhau ein bod yn cyfnewid arferion gorau ag adrannau eraill y llywodraeth

Yn ogystal, mae’r tîm cwynion Haen 1 yn y gwasanaethau atwrneiaeth wedi sefydlu swyddogion cwynion ym mhob cam o’r broses cofrestru atwrneiaeth arhosol. Mae hyn yn sicrhau bod swyddogion cwynion yn gallu cyfathrebu’n well am welliannau posibl i’n gwasanaethau sy’n cael eu nodi o gwynion cwsmeriaid.

Enghraifft o gŵyn

Gofynnodd cwsmer am ein cymorth gyda phedwar cais atwrneiaeth arhosol, gan gredu eu bod yn barod i’w cofrestru. Yn anffodus, er i ni roi sicrwydd dros y ffôn bod pob cais, gan gynnwys atwrneiaeth arhosol iechyd a lles, yn barod i’w prosesu, roedd gwall yn adran 5 (sy’n caniatáu i’r rhoddwr benderfynu sut mae am i’w atwrneiod wneud penderfyniadau ynghylch triniaeth cynnal bywyd) yn golygu bod yr atwrneiaeth arhosol iechyd a lles yn annilys mewn gwirionedd. Roedd angen naill ai atgyfeiriad i’r llys i’w ddatrys er mwyn unioni’r gwall hwn, neu gwblhau atwrneiaeth arhosol newydd, gan arwain at gostau ychwanegol i’r cwsmer. Ysgrifennodd y cwsmer atom yn dweud ei fod yn anhapus gyda’r cyngor anghywir a roddwyd a’r diffyg cyfathrebu. Roedd hyn wedi eu gadael yn teimlo’n ddryslyd ac yn ansicr ynghylch yr hyn oedd ei angen er mwyn cofrestru atwrneiaeth arhosol. Roedd y mater wedi’i waethygu gan amseroedd prosesu hir a’r ôl-groniadau a brofwyd ar yr adeg y cyflwynwyd eu ceisiadau. Gwnaethom gydnabod y rhwystredigaeth a’r anghyfleustra a achoswyd i’r cwsmer a chymerwyd camau yn gyflym i unioni pethau. Ymddiheurwyd gennym am ein cyngor anghywir, esboniwyd y rhesymau y tu ôl i’r oedi, ac amlinellwyd mesurau a oedd ar y gweill i wella ein darpariaeth gwasanaeth.

Er na allwn ildio ffioedd ar gyfer cais am atwrneiaeth arhosol newydd, fe wnaethom ymestyn y cyfnod ffioedd gostyngol a chyflymu’r gwaith o brosesu’r atwrneiaeth arhosol iechyd a lles newydd, fel y cafodd ei gofrestru ar y dyddiad disgwyliedig. Yn ogystal, aethom i’r afael â’r gwallau drwy rannu adborth i dimau perthnasol, a thrwy hynny wella perfformiad unigolion a thimau i atal gwallau tebyg rhag codi eto yn y dyfodol. Roeddem yn falch o nodi bod y cwsmer yn cydnabod ein dull rhagweithiol o ymdrin â’r gŵyn. Diolchodd y cwsmer am ein hymdrechion gan ddweud eu bod yn teimlo bod eu hyder yn ein gwasanaethau wedi’i adfer.

Cafodd OPG 3,889
o gwynion yn 2023 i 2024 o’i gymharu â 6,551
o gwynion yn 2022 i 2023
Canran o gwynion a gafodd ymateb o fewn 10 diwrnod 69%

Targed: 90%
18 diwrnod gwaith
Amser ar gyfartaledd i ymateb i gwynion
Target: 10 diwrnod

Roedd dau brif faes i’r cwynion, sef:

2,954
Gwasanaethau atwrneiaeth
222
Gwasanaethau Dirprwyaeth

Dyma’r tair prif gŵyn am wasanaethau atwrneiaeth:

  • Cyswllt â’r Swyddfa
  • Dogfennau ar goll
  • Oedi

Dyma’r tair prif gŵyn am wasanaethau dirprwyaeth:

  • Ffioedd
  • Cyswllt â’r Swyddfa
  • Cynnwys llythyr

Ein pobl

Rydym am wneud Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn lle gwych i weithio. Mae ein staff yn ganolog i ddarparu ein gwasanaethau, cefnogi ein cwsmeriaid, a pharatoi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer ein dyfodol. Mae ein Haddewid i Bobl yn pennu ein hymrwymiad i’n staff ac yn cynnwys pum thema rydym eisiau eu gwreiddio ar draws y profiad mae ein staff yn ei gael:

  • perthyn

  • teimlo’n dda

  • datblygu ein hunain

  • arweinwyr gwych ar bob lefel

  • addas ar gyfer y dyfodol

Er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i’r Addewid i Bobl, gwnaethom gyflawni’r mentrau canlynol:

Cynllun Pobl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Yn dilyn Arolwg Pobl 2022, fe wnaethom baratoi cynllun gweithredu y gwnaethom ei rannu â’n staff a dechrau ei roi ar waith yn ystod 2023. Mae’r cynllun yn nodi ein gwaith i gefnogi iechyd a lles staff, annog eu dysgu a’u datblygiad, a mynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu. Dangosodd canlyniadau Arolwg Pobl 2023 welliannau ac rydym yn benderfynol o adeiladu arnynt.

Ymrwymiad Gyrfaoedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Ein hymrwymiad yw darparu llwybrau clir ar gyfer datblygu gyrfa a chyfleoedd dilyniant. Ategir hyn gan gyflwyniad offeryn newydd i annog sgyrsiau gyrfa o safon o leiaf ddwywaith y flwyddyn, gydag arweiniad a hyfforddiant perthnasol ar gael i reolwyr. Rydym wedi cyflwyno’r cyfle i gynnal ymgynghoriadau gyrfa un i un gydag aelod o’r tîm talent, cyrchu cyfleoedd cysgodi swyddi ac rydym yn paratoi i roi mynediad i’n staff i lwyfan hyfforddi a mentora newydd.

Ymrwymiad Galluedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Rydym yn rhoi ein Hymrwymiad Galluedd ar waith i sicrhau bod ein holl staff yn cael mynediad i’r dysgu sydd ei angen arnynt, boed i lwyddo yn eu rolau presennol neu i ddatblygu eu hunain a ffynnu mewn rolau yn y dyfodol. Yn ystod y flwyddyn fe wnaethom:

  • ddarparu 291 o sesiynau dysgu
  • hyfforddi 2,867 o gynrychiolwyr, ac o’r cynrychiolwyr a roddodd adborth, dywedodd 96% fod y ddarpariaeth yn dda neu’n rhagorol
  • sefydlu 506 o ddechreuwyr newydd
  • cael 17,270 o bobl yn gweld y dudalen ar gyfer Academi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ein hyb dysgu ar-lein

ELEVATE

Fe wnaethom lansio rhaglen ddatblygu newydd wedi’i thargedu o’r enw ELEVATE, ar gyfer staff o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a/neu sydd ag anableddau. Mae staff o’r nodweddion gwarchodedig hyn yn cael eu tangynrychioli ar lefelau uwch yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac mae’r rhaglen wedi’i hanelu at gefnogi eu datblygiad gyrfa. O ystyried y diddordeb sylweddol yn y rhaglen, bydd sawl carfan yn cael eu darparu yn ystod 2024 i 2025. Mae hyn yn ychwanegol at gynlluniau trawslywodraethol a redir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder sydd hefyd ar gael i’n staff.

Arolwg Pobl

Roedd gan ein Harolwg Pobl 2023 gyfradd ymateb o 76%, sy’n cyfateb i’n cyfradd ymateb ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Ar y cyfan, sgôr ymgysylltu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus oedd 64%, cynnydd o 1% o’r flwyddyn flaenorol. Fe wnaethom nodi’r tair prif flaenoriaeth o ganlyniadau ein Harolwg Pobl a chynnal sesiynau ‘Dweud Eich Dweud’ gyda’n staff i gael eu hadborth ar y ffordd orau o wella eu profiad o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y meysydd hyn. Mae’r canlyniadau a’r adborth wedi cael eu defnyddio i greu ein Cynllun Pobl ar gyfer 2024 i 2025. Byddwn yn canolbwyntio ar y themâu canlynol, gyda rhagor o fanylion am y camau gweithredu isod:

  • cynhwysiant a mynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu
  • arweinyddiaeth a rheoli newid
  • dysgu a datblygu

Mynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu

Rydyn ni eisiau i bawb yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus deimlo eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi, a’u bod yn perthyn yno. Nid yw unrhyw fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dderbyniol, ac ymhellach isod rydym wedi amlinellu camau penodol rydym wedi’u cymryd i greu’r amgylchedd amrywiol, cynhwysol a chroesawgar y mae ein staff yn ei haeddu.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd o ran mynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu. Yn 2018, dywedodd 17% o’n staff eu bod wedi cael profiad o fwlio ac aflonyddu, a dywedodd 21% eu bod wedi cael profiad o wahaniaethu. Erbyn 2023, roedd y ddau ffigur hyn wedi disgyn i 10%. Mae mynd i’r afael â hyn yn dal yn flaenoriaeth uchel i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac mae’r camau rydym wedi’u cymryd wedi’u hamlinellu isod:

2023

Sgôr cynhwysiant a thriniaeth deg: 77%

Wedi profi bwlio ac aflonyddu: 10%

Wedi profi gwahaniaethu: 10%

Camau a gymerwyd:

  • sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gael i’n staff: Cynghorwyr Ymddiried Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, llinell gymorth gyfrinachol PAM Assist, a Chynghorwyr Bwlio ac Aflonyddu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder

  • sefydlu gweithgor yn ein swyddfa yn Birmingham i ddeall y rhesymau posibl dros y cyfraddau uwch o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu

  • cyhoeddi rhagor o ddeunydd cyfathrebu ar draws y sefydliad ynghylch sut beth yw ymddygiad annerbyniol yn y gweithle, yr effaith y mae’n ei chael, a sut y gall staff fynd i’r afael ag ef

  • rhoi gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth glir i reolwyr er mwyn sicrhau bod staff ag anableddau yn cael eu cefnogi’n benodol

  • cynnal hyfforddiant ychwanegol gan gynnwys hyfforddiant ‘ymyrraeth gwylwyr’ ar sut gall staff gefnogi cydweithwyr sy’n profi ymddygiad annerbyniol

Rydym hefyd wedi dechrau rhaglen beilot gyda Phrifysgol Loughborough i ddefnyddio tystiolaeth yn fwy o ran pa mor strwythurol a seicolegol barod yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i fynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu. Gan ddefnyddio ymchwil academaidd, canlyniadau ein Harolwg Pobl, grwpiau ffocws ychwanegol ac adborth anffurfiol, paratowyd cynlluniau gweithredu ar gyfer pob cyfarwyddiaeth a byddant yn cael eu cyflwyno dros y misoedd nesaf.

Byddwn yn monitro gweithrediad y cynlluniau gweithredu hyn yn ofalus ac yn gwerthuso eu heffaith. Un o themâu allweddol ein Haddewid i Bobl yw sicrhau bod ein staff yn teimlo eu bod yn perthyn yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’u bod yn teimlo’n dda amdanyn nhw eu hunain. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn gwneud rhagor o gynnydd yn y maes hwn.

Amrywiaeth a chynhwysiant

Yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rydym yn ymdrechu i greu sefydliad sy’n agored, yn gynhwysol ac sy’n wirioneddol gwerthfawrogi ac yn dathlu amrywiaeth ein gweithlu. Mae’n hanfodol ein bod yn deall ac yn gwasanaethu anghenion y gymdeithas amrywiol rydym yn rhan ohoni. Mae hyn beth bynnag fo’u cefndir cymdeithasol, eu rhyw, eu hoedran, eu hethnigrwydd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu credoau, eu hanableddau neu eu salwch tymor hir neu eu cyfrifoldebau gofalu.

Mae ein data yn dangos bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn sefydliad amrywiol. Gan adlewyrchu’r dinasoedd y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’i lleoli ynddynt, mae 54% yn dod o gefndiroedd ethnig leiafrifol, mae 57% yn fenywod, mae gan 21% anabledd, ac mae 7% yn ystyried eu hunain yn LGBO. Mae gennym hefyd nifer o rwydweithiau staff sydd ag uwch noddwyr. Er enghraifft, rhwydweithiau ar gyfer staff LHDT+, hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, grwpiau ffydd, a staff ag anableddau, ymysg eraill.

Yn ystod y flwyddyn, rhoesom ein cynllun gweithredu amrywiaeth a chynhwysiant ar waith, sy’n cyd-fynd â Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ehangach y Gwasanaeth Sifil 2022 i 2025. Mae cyflawni’r cynllun gweithredu wedi bod yn gam allweddol i’n helpu i gyflawni ein blaenoriaeth o sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn lle gwych i weithio, gan ein galluogi i ddenu a chadw cydweithwyr drwy ein Haddewid i Bobl.

Mae’r cynllun gweithredu wedi ymdrin ag amrywiaeth o feysydd. Fe wnaethom adnewyddu ein hachrediad Hyderus o ran Anabledd ac fe wnaethom nodi digwyddiadau allweddol fel Mis Hanes LHDT+ a diwrnodau iechyd meddwl ‘Amser i Siarad’. Rydym hefyd wedi ymrwymo i brofi ein polisïau ac wedi cyhoeddi datganiad wedi’i ddiweddaru sy’n amlinellu sut rydym yn cyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn manteisio ar fentrau symudedd cymdeithasol ehangach yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae ganddi hefyd uwch hyrwyddwr symudedd cymdeithasol i hybu’r cynnydd, gan gynnwys cynyddu cyfraddau datgan staff am gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac unrhyw ddyletswyddau gofalu. Mae’r Swyddfa’n parhau i gymryd rhan yn y cynllun interniaeth Cefnogi Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal a’r Academi Gwaith Seiliedig ar Sector wrth recriwtio staff.

Gweithlu

Fe wnaethom barhau i gynnal ymgyrchoedd recriwtio drwy gydol y flwyddyn. Ar y cyfan, fe gynhaliom 95 o ymgyrchoedd recriwtio yn ystod 2023 i 2024. Mae’r ffigurau isod yn dangos nifer y staff newydd a recriwtiwyd gennym, a nifer y staff a adawodd

  Staff wedi’u recriwtio Staff wedi gadael
Gweision sifil – Gweithwyr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 353 195
Gweithwyr asiantaeth 207 238

Dysgu a datblygu

Mae cefnogi dysgu a datblygu ein staff yn ganolog i thema Addewid i Bobl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, sef ‘datblygu ein hunain’. Mae gan staff fynediad at Academi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, cyfeiriadur ar-lein o’r dysgu sydd ar gael a llyfrgell gysylltiedig o ddeunyddiau, gan gynnwys cynnig hyfforddiant hanfodion rheoli llinell sy’n cael adolygiadau arbennig o gadarnhaol gan ein staff. Mae gennym hefyd ein menter ymrwymiad i alluedd, sy’n cefnogi staff i ddysgu a datblygu yn ôl eu hoff ddull dysgu. At ei gilydd, yn ystod y flwyddyn, darparodd ein tîm dysgu a datblygu hyfforddiant cynefino ar gyfer 506 o staff. Rydym wedi cymryd camau fel darparu sesiynau dysgu a datblygu cryno i sicrhau eu bod yn hygyrch i’n holl staff. Fe wnaethom ddechrau’r set gyntaf o ddosbarthiadau meistr arweinyddiaeth ar gyfer staff sydd wedi bod yn rheolwyr llinell ers dros 12 mis. Rydym hefyd wedi bod yn paratoi i roi mynediad i’n staff at lwyfan mentora newydd er mwyn iddynt allu elwa o fentoriaid a hyfforddwyr o bob rhan o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Perfformiad ariannol

Rhagweld galw ac incwm

Rydym wedi parhau i weithio gyda chydweithwyr cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â’n rhagolygon galw ac incwm ac roedd y gwaith hwn yn hanfodol wrth ddatblygu’r cynllun adfer ar gyfer yr ôl-groniad o geisiadau atwrneiaethau arhosol. Roedd adennill costau rhwng 2023 a 2024 dros 100% am y tro cyntaf ers cyn y pandemig. Mae hyn yn bennaf oherwydd cynnydd mewn cynhyrchiant o ran cefnogi’r gwaith o leihau’r ôl-groniad o atwrneiaethau arhosol.

Perfformiad ariannol

Mae’r adran hon yn cynnwys sylwadau i gefnogi’r datganiadau ariannol a’n perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r datganiadau ariannol wedi’u nodi ar adran Datganiadau ariannol. Isod ceir pwyntiau allweddol perfformiad ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn 2023 i 2024.

Adennill costau 106.9%
fyny o

97.8 %

Incwm atwrneiaeth
Perfformiad gwell wrth gofrestru atwrneiaethau a thwf yn y galw
£103.9 miliwn, Cynnydd o(10%)

Incwm goruchwylio
Oherwydd cynnydd yn y llwyth achosion goruchwylio a gostyngiad yn nifer y bobl sy’n destun gostyngiadau ac esemptiadau esemptiadau
£11.3 miliwn, Cynnydd o(10%)

Costau staff
Cynnydd oherwydd bod staff ychwanegol yn cael eu staff being recruited to recriwtio i adfer yr ôl-groniad, a’r taliad costau byw untro.
£70.4 miliwn, Cynnydd o (22%)

Adroddiadau ymwelwyr proffesiynol
Gostyngiad oherwydd newid yn y fethodoleg ar gyfer cyfrifo ymweliadau heb eu bilio.
£2.4 miliwn, Gostyngiad o (14%)

Postio
Cynnydd oherwydd twf yn nifer y ceisiadau atwrneiaeth a gafwyd ac a gofrestrwyd, a hefyd chwyddiant prisiau.
£7.6 miliwn, Cynnydd o (49%)

Adroddiad cynaliadwyedd

Rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith ar y byd naturiol. I wneud hyn, rydym yn mesur ein heffaith ar yr amgylchedd ac yn gweithio i leihau ein defnydd o adnoddau cyfyngedig, allyriadau nwyon tŷ gwydr a theithio diangen.

Rydym wedi ystyried yn ofalus ganllawiau Trysorlys EF ar gymhwyso argymhellion y Tasglu ar Ddatgelu Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd (TCFD). Mae’n ofynnol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddilyn y canllawiau hyn drwy fodloni’r meini prawf ar gyfer cyflogi mwy na 500 o staff cyfwerth ag amser llawn ar draws cyfnod adrodd 2023 i 2024. Mae Atodiad B y canllawiau yn datgan, “Bydd endidau adrodd yn darparu Datganiad Cydymffurfio TCFD a’r datgeliadau a argymhellir ar gyfer: Llywodraethu; Metrigau a Thargedau (b), dim ond pan fyddant ar gael o’r prosesau adrodd presennol”. Dylid ystyried y paragraff

hwn fel ein Datganiad Cydymffurfio, ac isod rydym wedi amlinellu sut rydym yn cydymffurfio â’r datgeliadau a argymhellir. Yn unol â gweithredu’r datgeliadau’n raddol, fel yr amlinellir yn Atodiad B y canllawiau, y flwyddyn nesaf (cyfnod adrodd 2024 i 2025) byddwn yn ymateb i’r datgeliadau a argymhellir ar Reoli Risg. Mewn cyfnodau adrodd dilynol (2025 i 2026 ymlaen), byddwn hefyd yn ymateb o ran datgeliadau a argymhellir ar y Strategaeth.

Llywodraethu

Fel y nodir yn y canllawiau, y datgeliadau a argymhellir yw:

a) disgrifio sut mae’r bwrdd yn goruchwylio risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd

b) disgrifio rôl y rheolwyr o ran asesu a rheoli risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd

Ystyrir effaith ein prosiectau portffolio ar gynaliadwyedd a’r amgylchedd wrth ddatblygu achosion busnes, sy’n destun craffu gan y Bwrdd Portffolio a Newid. Ystyrir cynaliadwyedd hefyd wrth flaenoriaethu prosiectau o fewn y portffolio. Gweinyddir adolygiadau gateway ffurfiol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac maent yn ystyried cynaliadwyedd, er nad oedd angen adolygiadau o’r fath yn ystod 2023 i 2024.

Metrigau a Thargedau

Fel y nodir yn y canllawiau, mae’r datgeliad a argymhellir yn adran (b) isod ac o’r prosesau presennol, ond rydym hefyd yn gallu datgelu (a) ac (c) hefyd:

a) datgelu’r metrigau a ddefnyddir gan y sefydliad i asesu risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd yn unol â’i strategaeth a’i broses rheoli risg

b) datgelu allyriadau nwyon tŷ gwydr Cwmpas 1, Cwmpas 2, ac, os yw’n briodol, allyriadau nwyon tŷ gwydr Cwmpas 3, a’r risgiau cysylltiedig

c) disgrifio targedau’r sefydliad i reoli risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd a pherfformiad yn erbyn targedau

Rydym yn adrodd ar y cyfleustodau a ddefnyddiwyd, teithiau a wneir a’r gwastraff a gynhyrchir. Mesurir y rhain yn erbyn blynyddoedd blaenorol ac ar y cyd â thargedau Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth sy’n nodi’r camau y bydd adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth yn eu cymryd i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Diwygiwyd y rhain yn 2021 ac maent yn berthnasol tan 2025.

Mae ein data yn cael ei gymryd yn uniongyrchol o fesuryddion cyfleustodau, cyflenwyr a chontractwyr gwaredu gwastraff. Os ydym yn rhannu adeiladau a chyflenwad cyfleustodau, rydym yn seilio ein ffigurau defnydd ar y gofod a ddefnyddir.

Nid oes gennym gerbydau fflyd, ac mae milltiroedd cerbydau personol a ddefnyddir ar gyfer teithiau busnes yn cael eu nodi yn yr hawliadau am dreuliau.

Dim ond ar ddefnydd swyddfa gefn o bapur y mae’n rhaid i ni adrodd arno. Fodd bynnag, rydym yn defnyddio llawer iawn o bapur wrth ddarparu pecynnau atwrneiaeth arhosol i gwsmeriaid, felly er mwyn bod yn dryloyw rydym yn adrodd ar y rhain hefyd. Yn 2020, cyflwynwyd trefniadau argraffu oddi ar y safle a phostio uniongyrchol, sydd wedi disodli rhan fawr o’r gwaith argraffu yn y swyddfa. Mae’r ffigurau ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u cynnwys yn yr adroddiadau ar ddefnydd papur.

Caiff ein data ei grynhoi yn adroddiad blynyddol a chyfrifon adrannau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd Strategaeth Addasu Newid yn yr Hinsawdd sy’n gosod fframwaith i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyd-fynd ag ef.

Gwybodaeth am ein hystadau

Mae prif swyddfeydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Birmingham a Nottingham. Ffigurau ar gyfer y flwyddyn 2017 i 2018 osododd y llinell sylfaen flaenorol sydd wedi cael ei defnyddio i fesur y blynyddoedd i ddod yn fewnol.

Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2021-2022, symudodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus eu swyddfeydd yn Birmingham i safle mwy modern, llai gan ddefnyddio model gweithio hybrid. Rhaid i gymariaethau â blynyddoedd blaenorol ystyried hyn, a bydd newidiadau ym mherfformiad adeiladau yn y dyfodol yn defnyddio blwyddyn ariannol 2022 i 2023 fel llinell sylfaen.

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus nifer fach o staff sy’n gweithio yn adeiladau eraill y Weinyddiaeth Gyfiawnder nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn gan mai’r Weinyddiaeth sy’n adrodd y ffigurau ar gyfer y safleoedd hyn.

Ein targedau

Mae targedau Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth a’n perfformiad yn erbyn y rhain i’w gweld yn y tablau isod. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cyrraedd y targed papur oherwydd y cynnydd parhaus yn y llwyth gwaith a nifer y staff ers y blynyddoedd llinell sylfaen. Trafodir y meysydd hyn yn fanwl isod.

Mae moderneiddio atwrneiaethau arhosol a’r defnydd cynyddol o arloesi digidol yn rhoi cyfleoedd i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wella perfformiad yn erbyn ein targedau cynaliadwyedd.

Cyrhaeddwyd y targed ar gyfer faint o wastraff a anfonwyd i safleoedd tirlenwi. Roedd allyriadau carbon deuocsid ar y trywydd iawn i fodloni Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth tan 2022, pan fu cynnydd mewn allyriadau unwaith eto. Trafodir hyn isod.

Wrth gymharu’r tablau isod â’r blynyddoedd blaenorol, dylid ystyried newidiadau i’r blynyddoedd llinell sylfaen.

Ymrwymiadau
Gwyrddu’r Llywodraeth
Targed y Weinyddiaeth Gyfiawnder hyd at 2025 Ein Sefyllfa
31 Mawrth 2024
Canlyniad    
Allyriadau nwyon tŷ gwydr 41% o ostyngiad rhwng 2017 a 2018 Lleihad o 0% Heb ddigwydd    
  23% o ostyngiad mewn allyriadau uniongyrchol 260% o gynnydd Heb ddigwydd    
Hediadau domestig Lleihau teithiau hedfan domestig 30% o’i gymharu â 2017 i 2018 Ni wnaed unrhyw deithiau hedfan domestig yn ystod y flwyddyn, lleihad o’r tair taith hedfan a wnaed yn ystod 2022 i 2023 oherwydd tarfu ar y rheilffyrdd Wedi digwydd    
Gwastraff 15% o ostyngiad yn y cyfanswm gwastraff o’i gymharu â 2017 i 2018 cynnydd o 11% Heb ddigwydd    
  llai na 5% o wastraff i safleoedd tirlenwi 0% Met    
  Ailgylchu 70% o’n gwastraff blynyddol, a rhagori ar lefelau ailgylchu 2017 i 2018 100% Wedi digwydd    
Dŵr 8% o ostyngiad o’i gymharu â 2017 i 2018 32% o ostyngiad Wedi digwydd    
Papur 50% o ostyngiad yn ein defnydd o bapur o’i gymharu â lefelau 2017 i 2018 101% o gynnydd Heb ddigwydd    

Isod, dangosir ffigurau cyfanswm defnydd ac allyriadau, ynghyd â gwariant, os yw’r wybodaeth ar gael

CO2 Ffynonellau Niferoedd Tunelli CO2e Gwariant
Nwy (cwmpas 1) 2,295,240 kWhr 413.1 Anhysbys fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau
Trydan (cwmpas 2) 734,827 kWhr 138.9 Anhysbys fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau
Teithio (cwmpas 3)      
Teithio ar drên (gan gynnwys y London Underground ) 295,740 km 10.5 £113,247
Fflyd lwyd (ceir) 49,726 km 8.4 £22,590
Hedfan 0 hediad N/A N/A
Adnoddau Cyfyngedig Niferoedd Gwariant
Gwastraff Cyfanswm: 85 tunnell wedi ei
Ailgylchu: 72 tunnell (85%)
Ynni o wastraff: 13 tunnell 15%
Anhysbys fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau
Dŵr 5,266 metr ciwbig Anhysbys fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau
Papur 15,025 rîm (swyddfa gefn)
53,750 rîm ar gontract allanol
8,470 fel pecynnau LPA
£5.9 miliwn

Gwastraff

Mae gennym gontractau gwaredu gwastraff ‘dim i safleoedd tirlenwi’ ar gyfer ein swyddfeydd yn Birmingham a Nottingham. Cafodd ein gwastraff yn ystod 2023 i 2024 naill ai ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio drwy ei droi’n olew tanwydd ac ailgylchwyd 100% o’n gwastraff papur a chardfwrdd mewn dolen gaeedig, sy’n golygu bod ein cyflenwyr wedi ei ailbrosesu’n gynnyrch newydd o bapur. Yn gyffredinol, roedd 85% o’r gwastraff yn cael ei ailgylchu’n llawn, gyda 15% yn cael ei ddefnyddio ar gyfer troi gwastraff yn ynni. Ar hyn o bryd nid ydym yn compostio ein gwastraff bwyd ac mae unrhyw ailgylchu, ailddefnyddio ac adfer gwastraff TGCh yn cael ei gofnodi yn nata canolog y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Yn 2023 i 2024, bu cynnydd o 4% yn y gwastraff cyffredinol a gynhyrchwyd yn y ddwy swyddfa o’i gymharu â 2022 i 2023, yn bennaf oherwydd bod mwy yn defnyddio swyddfeydd. O gymharu â llinell sylfaen 2017 i 2018, er bod cynnydd o 64% yn nifer y staff, mae gwastraff swyddfa ond wedi codi 42%, i 85 tunnell (41.4 tunnell heb gynnwys gwastraff papur). Mae hyn yn ostyngiad sylweddol yn y gwastraff a gynhyrchir fesul person. Daw cyfran sylweddol o’r gwastraff papur o becynnau Atwrneiaeth Arhosol a dogfennau diangen a dderbynnir gan ymgeiswyr. Mae hyn i gyd yn cael ei ailgylchu.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Nottingham yn gwahanu ffrydiau gwastraff yn llawn i wydr, cerdyn a phapur, ailgylchu cymysg sych, a bwyd a deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu. Gan fod safle Birmingham yn adeilad preifat, nid oedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gallu gweithredu ffrydiau gwastraff cwbl ar wahân ar y safle – mae gwastraff yn cael ei wahanu yn y cyfleuster ailgylchu ac adfer.

Gall unrhyw un sy’n bwriadu gwneud atwrneiaeth arhosol ofyn am becyn atwrneiaeth arhosol gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’r rhain yn cael eu hanfon mewn bagiau post bioddiraddadwy wedi’u gwneud o wastraff câns siwgr i leihau’r defnydd o betrocemegion ac atal gwastraff nad yw’n pydru rhag mynd i safleoedd tirlenwi.

Dŵr

Pennwyd y targedau blaenorol ar gyfer defnyddio dŵr ar sail ‘cyfwerth ag amser llawn’. Mae’r targedau newydd ar gyfer gostyngiad absoliwt. Ers blwyddyn llinell sylfaen 2017 i 2018, mae defnydd dŵr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi gostwng 32% i 5,266 metr ciwbig, gan ragori ar y targed o 8% yn Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth.

Defnyddio papur

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi methu’r targed o ostwng y defnydd o bapur swyddfa gefn o 50%, oherwydd y twf yn y galw am ein gwasanaethau. Bu cynnydd o 101% yn y defnydd o bapur o’i gymharu â llinell sylfaen 2017 i 2018. Roedd cynnydd o 50% yn y defnydd o bapur o’i gymharu â 2022 i 2023 a bu cynnydd o 20% yn y papur a ddefnyddiwyd fesul achos, a’n huchelgais yw lleihau hyn. Mae’r cynnydd sydyn hwn yn y defnydd o bapur yn deillio o’r cynnydd yn nifer y ceisiadau am atwrneiaethau arhosol sy’n cael eu derbyn a’u prosesu. Gwelwyd cynnydd o 17% yn nifer y pecynnau atwrneiaeth arhosol a anfonwyd yn uniongyrchol at ymgeiswyr eleni, er, ar gyfradd is na’r cynnydd o 28% mewn ceisiadau am atwrneiaethau (arhosol a pharhaus) a dderbyniwyd eleni o’i gymharu â’r llynedd. Mae disgwyl i’n cynlluniau i foderneiddio atwrneiaethau arhosol a chynnig llwybr digidol newydd ar gyfer cofrestru atwrneiaethau arhosol helpu i leihau faint o bapur sy’n cael ei ddefnyddio yn yr asiantaeth.

Teithio

Cynyddodd y cyfanswm a deithiwyd yn sylweddol eleni mewn termau absoliwt, oherwydd cynnydd mewn teithio rhwng swyddfeydd, a gwnaethom hefyd gomisiynu 12,603 o ymweliadau gan ymwelwyr y Llys Gwarchod fel yr amlinellwyd yn gynharach yn yr adroddiad hwn.

Cyfanswm y pellter a deithiwyd rhwng 2023 a 2024 oedd 345,466 km, i fyny 79% o 193,495 km y llynedd. Roedd allyriadau CO2 cysylltiedig yn ystod 2023 i 2024 wedi codi 72% ers y llynedd. Mae cyfanswm y pellter a deithiwyd yn 37% o lefel llinell sylfaen 2017 i 2018, ac mae allyriadau cysylltiedig yn 33% o lefel llinell sylfaen 2017 i 2018. Mae ymgyrchoedd recriwtio bellach yn cael eu cynnal yn genedlaethol yn ddiofyn ar gyfer swyddi addas, sy’n golygu bod rhai staff wedi’u lleoli mewn lleoliadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar wahân i Birmingham a Nottingham. Gallai hyn effeithio ar gyfanswm y pellter a deithiwyd yn y blynyddoedd i ddod gan fod rhai staff yn teithio pellteroedd hirach rhwng safleoedd. Rydym yn parhau i wneud defnydd effeithiol o offer cyfarfod digidol i leihau teithiau diangen.

Rydym yn gweithio’n agos gyda chynghorau lleol a gweithredwyr trafnidiaeth i alluogi staff i fanteisio ar docynnau bws am bris is yn ogystal â chyfleusterau parcio a theithio. Mae’r cynllun beicio i’r gwaith yn cael ei hyrwyddo’n helaeth ac mae cyfleusterau newid a storfa ddiogel i feiciau’n cael eu darparu. Mae opsiynau teithio llesol hefyd yn cael eu hyrwyddo fel rhan o agenda lles y Swyddfa i annog ymarfer corff a ffyrdd iach o fyw, a chynhaliwyd digwyddiad a oedd yn tynnu sylw at opsiynau teithio a sesiwn cynnal a chadw beiciau dilynol, gyda digwyddiad arall wedi’i drefnu yn 2024.

Cyfleustodau eraill

Roedd y defnydd o drydan yn dal yn gyson ar gyfer 2023 i 2024 o’i gymharu â 2022 i 2023. Yn erbyn y flwyddyn llinell sylfaen 2017 i 2018, mae allyriadau trydan wedi gostwng o 35%. Fodd bynnag, bu cynnydd o 260% yn y defnydd o nwy ar gyfer gwresogi yn Birmingham o’i gymharu â 2017 i 2018. Y rheswm am hyn oedd ein bod wedi recriwtio staff ychwanegol i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o geisiadau am atwrneiaethau arhosol, ac mae staff hefyd yn gweithio goramser ac ar draws nifer o batrymau shifft. Felly, mae nwy ar gyfer gwresogi a dŵr poeth yn ein swyddfa yn Birmingham yn cael ei redeg am oriau llawer hirach ac yn cael ei ddefnyddio gan fwy o staff.

Cwblhawyd y gwaith o osod paneli solar yn ein swyddfa yn Nottingham ddechrau 2022, ac fe wnaethant gynhyrchu 63,968 kWh o drydan yn ystod 2023 i 2024. Roedd hyn yn 16% o ddefnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o drydan yn Nottingham (9% o gyfanswm y Swyddfa), gan arbed 13.2 tunnell o allyriadau CO2. Nid yw to ein swyddfa yn Birmingham yn addas ar gyfer gosod paneli solar.

Bioamrywiaeth

Mewn partneriaeth â’r landlord yn ein swyddfa yn Nottingham, mae rhan fawr o laswellt yn cael ei gadael heb ei thorri rhwng mis Ebrill a mis Medi, er mwyn annog blodau gwyllt i dyfu a chefnogi pryfed peillio a phryfed ac adar eraill. Mae rhywfaint o bren wedi’i dorri hefyd yn cael ei adael yn yr ardaloedd coediog i bryfed.

Gwreiddio cynaliadwyedd yn ein dyfodol

Yn ystod y flwyddyn nesaf, rydym yn disgwyl cynnal digwyddiadau eto ar gyfer Diwrnod y Ddaear, trefnu digwyddiad i annog teithio llesol a chynaliadwy yn Birmingham, a BioBlitz arall i wneud arolwg ar natur lleol.

Mae tîm ystadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi bod yn gweithio’n agos gydag Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth i sicrhau bod lleoliadau swyddfeydd yn y dyfodol yn addas yn weithredol ac yn bodloni safonau cynaliadwyedd y llywodraeth.

Amy Holmes
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr Dydd Gwener
16 Gorffennaf 2024

Adroddiad llywodraethu corfforaethol

Cyflwyniad

Diben yr adroddiad llywodraethu corfforaethol yw egluro cyfansoddiad a threfniadaeth ein strwythurau llywodraethu a sut maent yn helpu i gyflawni amcanion ein corff.

Mae ein dogfen fframwaith yn nodi’r trefniadau ar gyfer llywodraethu, atebolrwydd, cyllido, staffio a gweithrediadau. Gellir darllen y ddogfen yn llawn ar GOV.UK yn www.gov.uk/government/publications/opg-corporate-framework.cy

Fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwyf yn gyfrifol am ddefnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o adnoddau wrth gyflawni ei swyddogaethau fel y nodir yn y ddogfen fframwaith. Mae Rheoli Arian Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan Drysorlys ei Mawrhydi, hefyd yn cyflwyno cyfrifoldebau swyddog cyfrifyddu.

Rwy’n gyfrifol yn bersonol am amddiffyn y cronfeydd cyhoeddus yr wyf yn gyfrifol amdanynt, sicrhau priodoldeb a chysondeb wrth ymdrin â chronfeydd cyhoeddus, a gweithrediadau a rheolaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ddydd i ddydd. Ar ben hynny, mae’n rhaid i mi sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyffredinol yn cael ei rhedeg yn unol â safonau, a hynny mewn perthynas â llywodraethu, gwneud penderfyniadau a rheoli arian.

Mae fy adroddiad yn amlinellu’r trefniadau llywodraethu sydd ar waith i reoli’r risgiau o beidio â chyflawni’r amcanion a’r targedau y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cytuno arnynt. Mae hefyd yn darparu trosolwg a rheolaeth effeithiol dros adnoddau ac asedau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’n cynnwys:

  • adroddiad y cyfarwyddwr
  • datganiad o gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddus
  • datganiad llywodraethu

Adroddiad y Cyfarwyddwr

Cyflwyniad

Mae strwythurau bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, y pwyllgor archwilio a risg, a’r pwyllgor gweithredol, ar gael isod. Maent yn gyfrifol am osod cyfeiriad strategol y Swyddfa yn ogystal â monitro perfformiad yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt.

Datganiad o fuddiannau

Mae gofyn i aelodau anweithredol ddatgan unrhyw gyfarwyddiaethau a gwrthdaro rhwng buddiannau adeg eu penodi i’r swydd. Mae gofyn hefyd i bob aelod o’r bwrdd ddatgan unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau cyn dechrau pob cyfarfod. Roedd tri datganiad o fuddiant rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024.

Datganodd Martyn Burke yng nghyfarfod bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 5 Medi 2023 ei fod wedi dechrau ei rôl fel Cadeirydd a Chyfarwyddwr Anweithredol y Bwrdd ar gyfer Tai Trefol a Gwledig. Crybwyllwyd bwriad Martyn i gyflawni’r rôl hon yn adroddiad blynyddol y llynedd

Datganodd Karin Woodley yng nghyfarfod bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 16 Ionawr 2024 ei bod wedi dechrau ei rôl fel Cyfarwyddwr Anweithredol Pwyllgor Lloegr o Gronfa’r Loteri Genedlaethol

Mewn perthynas ag eitem ar yr agenda yng nghyfarfod bwrdd 16 Ionawr 2024, datganodd Karin hefyd ei rôl fel Cadeirydd y Sefydliad Cydraddoldeb Hiliol

Digwyddiadau yn ymwneud â data personol

Ystyriwyd a oedd unrhyw ddigwyddiad yn cynnwys data personol mor ddifrifol fel bod angen rhoi gwybod i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth amdano. Ni chafwyd unrhyw ddigwyddiadau o’r fath. Mae’r datganiad llywodraethu yn rhoi ystyriaeth bellach i arferion sicrhau gwybodaeth a diogelwch data yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Iechyd a diogelwch

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ein cyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a lles ein gweithwyr a’r holl bobl sy’n defnyddio ein safleoedd.

Aelodaeth y bwrdd

Rhai o aelodau bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod 2023 i 2024 oedd:

Gwarcheidwad Cyhoeddus (Cadeirydd)

  • Amy Holmes

Cyfarwyddwyr anweithredol

  • Alison Sansome – tan fis Medi 2023
  • Greig Early – o fis Tachwedd 2023
  • Karin Woodley
  • Martyn Burke

Cynrychiolydd cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder

  • Ann Owen – tan fis Mai 2023
  • Caroline Patterson – o fis Mehefin 2023

Penodir Cyfarwyddwyr Anweithredol ar ôl cystadleuaeth deg ac agored, ac am gyfnod o dair blynedd. Mae holl aelodau newydd y Bwrdd yn cael sesiwn gynefino a darperir rhagor o gyfleoedd hyfforddi i ddatblygu dealltwriaeth aelodau’r Bwrdd o’r Swyddfa, ein model ffioedd a’n swyddogaethau statudol.

Datganiad o gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu

O dan adran (7)2 o Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000, mae Trysorlys EF wedi cyfarwyddo Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i baratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar y ffurf a’r sail a nodwyd yn y Cyfarwyddyd Cyfrifyddu. Caiff y cyfrifon eu paratoi ar sail croniadau ac mae’n rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa’r Swyddfa a’i hincwm a’i gwariant, ei datganiad o sefyllfa ariannol a llif arian ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Wrth baratoi’r cyfrifon, mae gofyn i’r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth ac yn benodol:

  • glynu wrth y Cyfarwyddyd Cyfrifyddu a gyhoeddir gan Drysorlys EF, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu priodol yn gyson
  • gwneud penderfyniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol
  • datgan a yw’r safonau cyfrifyddu perthnasol sydd wedi’u nodi yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth wedi cael eu dilyn, a datgelu ac esbonio unrhyw wyriadau o bwys yn y datganiadau ariannol
  • paratoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes byw
  • cadarnhau bod yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol dros yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon a’r dyfarniadau sy’n ofynnol er mwyn penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy

Mae Prif Swyddog Cyfrifyddu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dynodi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel Swyddog Cyfrifyddu’r Swyddfa. Mae cyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu, gan gynnwys cyfrifoldeb dros briodoldeb a chysondeb y cyllid cyhoeddus y mae’r swyddog cyfrifyddu yn atebol amdanynt, cadw cofnodion cywir ac amddiffyn asedau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, wedi’u nodi yn Rheoli Arian Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwy’n cadarnhau’r canlynol:

  • nid oes unrhyw wybodaeth berthnasol nad yw archwilwyr y Swyddfa’n ymwybodol ohoni, ac rwyf wedi cymryd yr holl gamau y dylwn eu cymryd i sicrhau fy mod yn ymwybodol o wybodaeth archwilio berthnasol a sicrhau bod archwilwyr y Swyddfa’n ymwybodol o’r wybodaeth honno
  • mae’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, ac rwy’n cymryd cyfrifoldeb personol dros yr adroddiad a’r cyfrifon blynyddol a’r dyfarniadau sy’n ofynnol er mwyn penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy

Amy Holmes
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr
16 Gorffennaf 2024

Datganiad llywodraethu

Mae’r datganiad hwn yn esbonio sut rwyf i, Amy Holmes, fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, wedi cyflawni fy nghyfrifoldeb o reoli adnoddau’r Swyddfa yn ystod y flwyddyn. Mae’r adroddiad hwn yn cyflawni fy nghyfrifoldeb i ddarparu adroddiad blynyddol i’r Arglwydd Ganghellor am gyflawni swyddogaethau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn unol ag adran 60 Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

Cyflwyniad

Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw Prif Swyddog Cyfrifyddu’r adran.

Mae cyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu wedi’u nodi ym mhennod tri Rheoli Arian Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Mae’r Prif Swyddog Cyfrifyddu wedi fy nynodi fel Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer gwariant gweinyddol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ac mae wedi diffinio fy nghyfrifoldebau a’r berthynas rhwng Swyddog Cyfrifyddu a Phrif Swyddog Cyfrifyddu’r Swyddfa.

Deiliad swydd statudol yw’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a benodir gan yr Arglwydd Ganghellor o dan Adran 57 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Cyfunir y swydd statudol hon â swydd y swyddog cyfrifyddu, ac fel arfer gyda rôl weinyddol y prif swyddog gweithredol.

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’i sicrhau bod y prosesau a’r rheolaethau ar gyfer gweithgareddau pob maes busnes yn gadarn ac yn effeithiol ac y gellir dangos tystiolaeth ohonynt. Yn benodol, mae wedi monitro materion ariannol a risg a pherfformiad yr asiantaeth yn rheolaidd, gan roi cyfleoedd ar waith i wella gwasanaeth i gwsmeriaid. Gall aelodaeth y bwrdd ddarparu sicrwydd ar gyfer y cyfnod hwn hefyd.

Fframwaith llywodraethu

Mae effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu, rheoli risg a system rheolaeth fewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’u nodi yn y datganiad llywodraethu hwn. Adolygwyd y fframwaith llywodraethu hwn yn ystod y flwyddyn yn erbyn y codau perthnasol, fel Llywodraethu corfforaethol yn adrannau llywodraeth ganolog: cod arferion gorau’, i sicrhau ei fod yn addas i’r diben.

Mae’r datganiad yn cynnwys yr asesiad gofynnol o gydymffurfiad â chod llywodraethu corfforaethol Trysorlys EF. Er bod y cod yn canolbwyntio ar adrannau gweinidogol, pan fo’n berthnasol, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn defnyddio’r egwyddorion maent yn ystyried sy’n gymesur â’i maint, ei statws a’i fframwaith cyfreithiol. Dangosir strwythurau’r bwrdd a’r pwyllgorau fel a ganlyn:

*O 31 Mawrth 2024 ymlaen, roedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi lansio proses recriwtio i benodi Cadeirydd Anweithredol newydd i’r Bwrdd. Disgwylir i’r broses gael ei chwblhau yn y flwyddyn ariannol nesaf. Ar ôl penodi’r Cadeirydd newydd, bydd y Prif Weithredwr yn peidio â bod yn Gadeirydd ond bydd yn parhau i fod yn aelod o’r bwrddr.

Mae Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn: Darparu arweiniad a chyfeiriad strategol, gan gefnogi’r gwaith o gyflawni’r amcanion sydd yn y cynllun busnes.

Pwyllgor gweithredol: Yn atebol i’r Prif Weithredwr. Sicrhau rheolaeth effeithiol o gyllid, perfformiad, risg, y gweithlu, Adnoddau Dynol, cwynion, cyflenwi busnes, arweinyddiaeth a dathlu llwyddiant.

Y pwyllgor archwilio a sicrwydd risg: Yn rhoi barn annibynnol i’r Prif Weithredwr o ddulliau llywodraethu, rheoli risg a sicrwydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Bwrdd portffolio a newid: Yn adrodd i’r pwyllgor gweithredol a’r bwrdd. Yn gyfrifol am fonitro cynnydd rhaglen trawsnewid a phrosiectau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o fewn ei chylch gwaith, gan adolygu, datrys a gweithredu ar risgiau a materion a allai beryglu cyflawni a gwireddu buddion yn amserol.

Pwyllgor iechyd a diogelwch: Yn cynorthwyo’r Prif Weithredwr â’i chyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn lle diogel ac iach i weithio ynddo.

Pwyllgor polisi a gweithredu: Darparu fforwm gwneud penderfyniadau wedi’i chydlynu ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus mewn perthynas â pholisi, o fewn y lefelau gwneud penderfyniadau y cytunwyd arnynt gan y pwyllgor gweithredol.

Pwyllgor pobl: Cydlynu’r gweithgareddau sy’n ymwneud â phobl i gefnogi rhaglen a phrosiectau trawsnewid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Yr hyn mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei wneud

Mae bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cefnogi’r pwyllgor gweithredol i ddatblygu a gweithredu amcanion strategol a chynlluniau busnes y Swyddfa. Mae’r bwrdd yn gwneud hyn drwy ddarparu goruchwyliaeth, gwaith craffu a herio perfformiad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan oruchwylio gweithrediadau a rheoli risg drwy’r pwyllgor archwilio a sicrhau risg. Mae’r bwrdd hefyd yn gyfrifol am gymeradwyo Fframwaith Llywodraethu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, i sicrhau bod gwaith cynllunio, perfformiad a rheolaeth ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei wneud yn effeithiol ac yn dryloyw.

Cadeirydd: Amy Holmes, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr

Effeithiolrwydd a phrif lwyddiannau

Yn ogystal â derbyn papurau am gyllid, perfformiad a risg ym mhob cyfarfod, roedd y bwrdd yn gwneud y canlynol:

  • cytuno ar fframwaith llywodraethu corfforaethol newydd, gan wella eglurder o ran gwneud penderfyniadau ac atebolrwydd
  • defnyddio dull sy’n seiliedig ar ddata drwy ddefnyddio gwybodaeth arolwg cwsmeriaid i adolygu a gwella gwasanaeth i gwsmeriaid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • cynnal gweithdy gwerthfawr i drafod uchelgeisiau hirdymor Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer y dyfodol, er mwyn llywio ein cyfeiriad strategol
  • adolygu gwybodaeth ariannol, perfformiad a risg yn rheolaidd ac yn gallu gofyn am wybodaeth ychwanegol os oes angen
  • parhau i ddarparu’r cyfeiriad strategol ar brif gynlluniau newid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • wedi ystyried yr holl gamau y gallai Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus eu cymryd i wella perfformiad, gan gynnwys mesurau i glirio’r ôl-groniad o geisiadau am atwrneiaethau arhosol

Yn dilyn arolwg a gynhaliwyd o aelodau’r Bwrdd, mae’r Bwrdd yn credu ei fod yn gweithredu’n effeithiol, a phan fydd adborth gan aelodau’r Bwrdd wedi nodi gwelliannau posibl, bydd camau gweithredu perthnasol yn cael eu datblygu yn ystod 2024 i 2025. Mae’r Bwrdd hefyd yn credu ei fod yn cael gwybodaeth briodol a chywir, gan gynnwys dangosyddion allweddol, am ddarpariaeth a pherfformiad ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn dilyn hynny, mae’r Bwrdd yn teimlo ei fod yn cael digon o wybodaeth i wneud penderfyniadau effeithiol ac i roi cyfarwyddyd ac arweiniad i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Ein his-bwyllgorau a’r pwyllgor cynghori annibynnol

Mae gan y bwrdd ddau is-bwyllgor: y pwyllgor gweithredol a’r pwyllgor portffolio a newid. Mae’r pwyllgor archwilio a sicrwydd risg yn bwyllgor cynghori annibynnol i’r bwrdd.

Y pwyllgor gweithredol

Mae’r pwyllgor hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar gyflawni busnes gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ddydd i ddydd, gan gynnwys cyllid, perfformiad, risg, gweithlu, newid a chynllunio, cwynion, Adnoddau Dynol (rheoli presenoldeb a recriwtio), cyflenwi busnes, arweinyddiaeth, ymgysylltu â gweithwyr a dathlu llwyddiannau.

Cadeirydd: Amy Holmes, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr

Ystyriwyd amrywiaeth o faterion allweddol yn ystod y flwyddyn. Fe wnaeth y pwyllgor:

  • adolygu trywydd y galw a’r cynllun adennill yn rheolaidd er mwyn gwella’r rhagolygon ar gyfer adennill costau. O ganlyniad, llwyddwyd i adennill costau’n llawn yn ystod y flwyddyn ariannol hon, a rhagwelir y bydd yr ôl-groniad o atwrneiaethau arhosol yn cael ei glirio yn ystod 2024 i 2025. Ystyriwyd modelu incwm a rhagolygon ar gyfer y dyfodol hefyd
  • cynnal sesiynau ‘manwl’ rheolaidd ar gyfer pob risg strategol i asesu pa mor ddigonol yw’r rheolaethau a’r camau gweithredu o ran rheoli a/neu leihau risg, i gyd-fynd â’r archwaeth risg
  • goruchwylio gwaith Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan gynnwys prosesu mwy o geisiadau am atwrneiaethau arhosol nag mewn unrhyw flwyddyn flaenorol
  • adolygu a chymeradwyo rhaglen ddatblygu newydd (ELEVATE) gyda’r nod o gynyddu nifer yr uwch arweinwyr o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli
  • goruchwylio camau i wella gwasanaeth i gwsmeriaid. Er enghraifft, clirio’r ôl-groniadau cwynion, buddsoddi yn ein canolfannau cyswllt, a goruchwylio’r gwaith o brydlesu llawr ychwanegol yn ein swyddfa yn Birmingham i ehangu ein capasiti gweithredol
  • herio a chytuno ar gyllidebau gwariant blynyddol, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel y pwyllgor buddsoddi
  • hefyd wedi cymeradwyo: adolygiad o ffioedd ymwelwyr arbennig, caffael partner allanol i gefnogi gwaith ar y prosiect gwella data, a chaffael Baringa Partners i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein prosiectau trawsnewid

Bwrdd portffolio a newid

Mae’r bwrdd portffolio a newid yn dod â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd o bob rhan o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’n partneriaid i sicrhau bod y portffolio o raglenni newid yn y Swyddfa’n cael ei gyflawni’n llwyddiannus.

Mae gan y pwyllgor hwn hefyd strwythur llywodraethu dirprwyedig oddi tano er mwyn sicrhau bod y portffolio o brosiectau’n cael ei gyflawni.

Cadeirydd: Amy Holmes, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr

Ystyriwyd amrywiaeth o faterion allweddol yn ystod y flwyddyn. Fe wnaeth y pwyllgor:

  • ddatblygu gwaith ar Foderneiddio Atwrneiaethau Arhosol, gan gefnogi gwaith gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau bod Deddf Atwrneiaethau 2023 yn cael ei phasio
  • cynyddu maint yr ystâd er mwyn i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus allu darparu ar gyfer staff ychwanegol i leihau’r ôl-groniad o atwrneiaethau arhosol, a phrosesu’r niferoedd uwch o geisiadau am atwrneiaethau arhosol sy’n dod i law
  • gwella’r Dangosfwrdd Portffolio drwy gynnwys dibyniaethau, adnoddau ac effeithiau newid fel bod gwaith yn ystod y cyfnod trawsnewid hwn yn cael ei flaenoriaethu a’i reoli’n briodol
  • goruchwylio’r broses o roi’r system rheoli achosion cyfreithiol newydd ar waith. Yn benodol, ystyriodd y bwrdd yr effeithiau ar rannau eraill o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a sicrhau bod y system newydd yn cael ei chyflwyno’n ddidrafferth.

Y pwyllgor archwilio a sicrwydd risg

Mae’r pwyllgor yn rheoli ac yn rhoi cyngor ar sut gellir hwyluso gwelliannau a monitro’r cynnydd o ran ymatebion rheolwyr i risgiau a nodwyd. Mae’r pwyllgor hefyd yn cymeradwyo gwaith archwiliadau mewnol ac allanol, yn asesu a yw polisïau cyfrifyddu yn gywir ac yn cael eu cymhwyso’n briodol i drafodion Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ac yn darparu argymhellion i’r Swyddog Cyfrifyddu ar bob mater sy’n briodol ym marn y pwyllgor.

Cadeirydd: Martyn Burke, Aelod Anweithredol o’r Bwrdd

Ystyriwyd amrywiaeth o faterion allweddol yn ystod y flwyddyn. Fe wnaeth y pwyllgor:

  • wella darpariaeth sicrwydd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ran rheoli’r fframwaith risg, risgiau penodol a’u camau lliniaru. Gwnaed hyn drwy gynnal ymchwiliadau manwl a chymeradwyo’r gwersi a ddysgwyd yn ystod pandemig COVID-19
  • cymeradwyo adroddiad blynyddol a chyfrifon 2022 i 2023, gan ganiatáu iddynt gael eu cyflwyno i’r Senedd fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005
  • cynnal ymchwiliad manwl i atal twyll, gweithio gydag Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth i ganfod risgiau twyll, a datblygu rheolaethau lliniaru – mae hyn wedi arwain at well ymwybyddiaeth fewnol o dwyll

Cylch gorchwyl

Mae cylch gorchwyl bwrdd a phwyllgorau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyd-fynd â’r canlynol:

  • ‘Canllawiau ar effeithiolrwydd byrddau’ (2018) a baratowyd gan y Cyngor Adrodd Ariannol
  • ‘Safon llywodraethu da ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus’ (2004) a baratowyd gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth a’r Swyddfa Rheolaeth Gyhoeddus Cyf.

Presenoldeb ar fwrdd a phwyllgor Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (Ebrill 2023 tan fis Mawrth 2024)

    Bwrdd OPG   Executive
committee
  Audit and risk
assurance committee
  Portfolio and
change board
  Nifer y
cyfarfodydd a fynychwyd
Nifer y
cyfarfodydd cymwys
Nifer y
cyfarfodydd a fynychwyd
Nifer y
cyfarfodydd cymwys
Nifer y
cyfarfodydd a fynychwyd
Nifer y
cyfarfodydd cymwys
Nifer y
cyfarfodydd a fynychwyd
Nifer y
cyfarfodydd cymwys
Amy Holmes – Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr 6 6 10 12 4 4 12 12
Stuart Howard - Dirprwy Gyfarwyddwr, Sicrwydd Gwybodaeth a Chyfreithiol (tan 10 Tachwedd 2023)                
3 4 7 7 3 3 6 7  
Mary MacGregor –Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Sicrwydd Gwybodaeth a Chyfreithiol (rhwng 13 Tachwedd 2023 ac 1 Mawrth 2024) 1 2 3 4 0 1 4 5
Peter Boyce – Dirprwy Gyfarwyddwr, Sicrwydd Gwybodaeth a Chyfreithiol (o 4 Mawrth 2024 ymlaen) 1 1 1 1     0 1
Julie Lindsay – Dirprwy Gyfarwyddwr, Prif Swyddog Gweithredu 5 6 11 12     11 12
Ruth Duffin – Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth a Gwasanaethau Canolog 5 6 10 12 4 4 12 12
Emma Sharp – Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth a Gwasanaethau Canolog 3 3 6 6     5 6
Ann Owen – Dirprwy Gyfarwyddwr -Partneriaethau Busnes Cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder (tan 31 Mai 2023) 0 2     1 1    
Caroline Patterson – Cyfarwyddwr Cyllid, Gweithrediadau (o fis Mehefin 2023) 2 5     2 3    
Louisa Harrison – Uwch Bartner Busnes Cyllid     8 12     8 10
Alison Sansome - Aelod Bwrdd Anweithredol (tan 30 Medi 2023) 1 3     2 2 5 6
Greig Early - Aelod Anweithredol o’r Bwrdd (o 1 Tachwedd 2023) 3 3     1 1 4 5
Karin Woodley - Aelod Anweithredol o’r Bwrdd 5 6     2 4    
Martyn Burke - Aelod Anweithredol o’r Bwrdd 5 6     4 4    
Jackie Craissati - Aelod Annibynnol         0 4    
Gulsen Gray – Pennaeth Cynllunio, Datblygu Busnes a Data, wedi’i newid i’r Pennaeth Trawsnewid a Newid (o fis Medi 2023)             11 12
Jane Tiffany – Dirprwy Gyfarwyddwr, Masnachol             10 12
Su Morgan – Pennaeth Digidol a Thechnoleg             11 12
Gayle Douglas – Pennaeth Cyfathrebu             9 12
Caron Welsh – Pennaeth Partneriaethau Busnes Adnoddau Dynol             9 11
Jon Griffiths – Prif Swyddog Cyflawni Prosiectau             4 7

Archwilio mewnol

Un o swyddi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw sefydlu a chynnal trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau archwilio mewnol gan Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth (GIAA). Mae’r rhain yn cyd-fynd â’r amcanion a’r safonau ar gyfer archwilio mewnol a nodir yn ‘Safonau archwilio mewnol y sector cyhoeddus’ Trysorlys EF. Mae hyn yn golygu bod modd gwerthuso perfformiad rheoli o ran cyflawni trefniadau effeithiol ar gyfer llywodraethu, rheoli risg a rheolaethau mewnol mewn ffordd annibynnol a gwrthrychol.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn derbyn copïau o gynlluniau archwilio mewnol blynyddol ac adroddiad barn derfynol blynyddol y Swyddfa. Bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Swyddfa’r Cabinet yn cael gwybod am unrhyw dwyll neu afreoleidd-dra o fewn y diffiniad a nodir gan Drysorlys EF.

Cynhaliodd y GIAA bum archwiliad ar ran Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod 2023 i 2024. Gellir graddio aseiniadau archwilio mewnol sydd wedi’u cwblhau naill ai’n sylweddol, yn gymedrol, yn gyfyngedig neu’n anfoddhaol. Diffinnir y sgoriau hyn gan GIAA fel a ganlyn:

  • Sylweddol: Mae’r fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheoli yn ddigonol ac yn effeithiol.
  • Cymedrol: Mae angen rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheolaeth, llywodraethu a rheoli risg.
  • Cyfyngedig: Mae gwendidau sylweddol yn y fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheoli fel y gallai fod yn annigonol ac yn aneffeithiol.
  • Anfoddhaol: Mae gwendidau sylfaenol yn y fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheoli fel ei fod yn annigonol ac yn aneffeithiol neu’n debygol o fethu.

Cafodd y pum archwiliad a gynhaliwyd y sgoriau canlynol:

Teitl yr archwiliad Sgôr
Rheoli cwsmeriaid rhanddeiliaid Cymedrol
Goruchwylio (Dirprwyaeth) Sylweddol
Cynnydd yn erbyn Moderneiddio Atwrneiaethau Arhosol Amh. – Cynghori
Arolwg Pobl 2022 Cymedrol
Mesur Perfformiad Cymedrol
Twyll (Wedi’i ohirio tan 2024 - 2025)

O ran ‘Cynnydd yn erbyn Moderneiddio atwrneiaethau arhosol’, cydnabu GIAA natur ‘ar y gweill’ ein cynlluniau i foderneiddio atwrneiaethau arhosol. Felly, yn hytrach nag archwiliad ffurfiol, cynhaliodd GIAA adolygiad ymgynghorol i ddarparu cymorth annibynnol a gwrthrychol. Daeth yr adolygiad i ben gyda chyngor ac argymhellion i ni eu hystyried.

Fel enghraifft o ymateb i argymhellion gan GIAA, yn ystod y flwyddyn ymgymerodd ein tîm perfformiad â gwaith i foderneiddio ein hadroddiadau perfformiad mewnol. Mae hyn wedi gwella ein proses o olrhain data mewnol allweddol, fel nifer y ceisiadau am atwrneiaethau arhosol sy’n cael eu derbyn, faint o geisiadau sydd ar bob cam o’r broses, lefel yr adnoddau staff a ddyrennir i bob cam, ymysg gwybodaeth arall. Mae hyn yn sicrhau bod ceisiadau cwsmeriaid yn gallu llifo drwy ein prosesau mewnol mor effeithlon â phosibl ac y gellir lliniaru heriau sy’n codi. Mae argymhellion GIAA yn cael eu hystyried yn ofalus yn y ffordd hon i gefnogi ein gweithrediad effeithiol fel sefydliad ac, yn y pen draw, y gwasanaeth a ddarparwn i’n cwsmeriaid.

Rheoli risg, rheolaeth a sicrwydd

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynnal dull cyson o ran rheoli risg. Defnyddir dulliau rheoli risg i dynnu ein sylw at fygythiadau go iawn neu faterion sy’n dod i’r amlwg ac sy’n debygol o effeithio ar y gallu i gyflawni ein hamcanion.

Mae archwaeth risg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei siapio gan ddyletswyddau statudol y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Rhoddir manylion y prif risgiau a ystyriwyd yn ystod y flwyddyn yn yr adran nesaf.

Mae ein tîm sicrwydd wedi cyflawni gwelliannau mewn meysydd gan gynnwys rheoli risg, canfod twyll a llywodraethu mewnol. Er enghraifft:

  • mae ein cofrestr risg strategol wedi cael ei hadnewyddu yn unol â chanllawiau arferion gorau gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder
  • yn unol â chynlluniau trawslywodraethol i ddatblygu swyddogaethau gwrth-dwyll, rydym wedi gweithio i wella gallu’r Swyddfa i ganfod twyll. Mae ein gwaith yn y maes hwn wedi cael ei gydnabod yn gadarnhaol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae rhagor o waith ar y gweill i sicrhau ein bod yn parhau i weithredu yn unol â disgwyliadau Awdurdod Twyll y Sector Cyhoeddus • mae adolygiadau effeithiolrwydd pwyllgorau mewnol wedi dechrau, a byddant yn parhau i’r flwyddyn ariannol nesaf, gan sicrhau bod ein holl bwyllgorau’n cyflawni eu nodau ac mor effeithlon â phosibl

Yn ei adroddiad barn derfynol blynyddol ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2023 i 2024, mae’r GIAA wedi rhoi barn flynyddol ‘gymedrol’ i’r Swyddfa. Diffinnir barn gymedrol fel ‘mae angen rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheolaeth, llywodraethu a rheoli risg’.

Canfu’r GIAA fod gan y Swyddfa fframwaith rheoli cadarn ar waith yn gyffredinol, sy’n cael ei adlewyrchu yng nghanlyniadau’r archwiliadau fel yr amlinellir yn y tabl uchod. Er mwyn gwella, byddwn yn canolbwyntio ar gadw’r dogfennau polisïau a’r canllawiau diweddaraf, a byddwn yn adeiladu ymhellach ar y gwaith sylweddol sydd eisoes wedi’i wneud i roi profiad cyson i gwsmeriaid.

Risgiau allweddol

Rhwng 2023 a 2024, cynhaliodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus adolygiad o risgiau strategol a nodi risgiau ychwanegol i’w cynnwys ar y gofrestr risg gorfforaethol. Mae hyn wedi gwella’r ffocws ar risgiau allweddol sy’n bygwth darparu gwasanaethau’r Swyddfa. Mae swyddogion gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn craffu ar hyn, sy’n cynnal ymchwiliad manwl bob mis i risg benodol, er mwyn herio perchnogion risg o ran rheoli rheolaethau ac asesu unrhyw oblygiadau ehangach sy’n gysylltiedig â’r risg. Mae’r pwyllgor archwilio a sicrwydd risg yn darparu her bellach bob chwarter sy’n cynnwys adolygiad llawn o’r sefyllfa risg bresennol. Mae hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol at wella a mireinio adroddiadau rheoli risg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Nid yw’r prif risgiau sydd wedi cael eu rheoli eleni yn newydd ac maent yn cynnwys y canlynol:

Risg
Methiant i ddarparu’r lefel ddisgwyliedig o wasanaeth i gwsmeriaid a phartneriaid sy’n derbyn gwasanaethau/cynnyrch Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hyd at a thrwy gydol y cyfnod lansio Moderneiddio Atwrneiaethau Arhosold.

Prif effeithiau:
Cynnydd mewn cwynion gan gwsmeriaid.

Cynnydd mewn traffig canolfan alwadau.

Cwsmeriaid anfoddhaol. Gwneud cwsmeriaid yn fwy agored i niwed.

Cyhoeddusrwydd anffafriol.

Mwy o graffu gan weinidogion a’r cyhoedd.

Lliniaru risgiau:
Rhagolygon o ran y galw.

Monitro perfformiad.

Ymgyrchoedd recriwtio – staff ychwanegol wedi’u sefydlu.

Cynlluniau adfer ar ôl trychineb.

Canolbwyntio ar gyfathrebu â chwsmeriaid.

Effaith y mesurau lliniaru:
Gostyngiad cyffredinol yn yr ôl-groniad o atwrneiaethau arhosol o 223,200 (Mawrth 2023) i 149,400 (Mawrth 2024).

Mae cwsmeriaid yn gwybod yn well beth i’w ddisgwyl wrth wneud cais i gofrestru atwrneiaeth arhosol.

Mae dull gweithredu clir ar waith ar gyfer lleoli staff er mwyn diwallu’r galw pan fydd ein gwasanaethau wedi’u moderneiddio yn cael eu cyflwyno.

Risg
Methiant llwyfannau TG sy’n hanfodol i gyflawni busnes Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Prif effeithiau:
Sganiwr yn methu gan achosi gostyngiad yn y gweithrediad.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddim yn gallu darparu ei gwasanaethau – cofrestru atwrneiaethau arhosol, goruchwyliaeth a chanolfan gyswllt.

Mwy o bosibilrwydd o gam-drin defnyddwyr agored i niwed.

Niwed i enw da.

Difrod i systemau TG. Bygythiadau allanol yn cael eu cyflwyno i systemau TG.

Colled ariannol i gwsmeriaid.

Lliniaru risgiau:
Mae gan ddarparwyr gwasanaeth lefel o ddarpariaethau adfer ar ôl trychineb sy’n cael eu gweithredu yn unol â safonau GovAssure.

Adolygiadau rheolaidd o systemau diogelwch wedi’u sefydlu.

Fframwaith TGCh ar waith.

Cwblhawyd asesiad model cyflawni ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus Digidol yn erbyn Safonau Swyddogaethol Swyddfa’r Cabinet.

Camau ar waith i gytuno ar risgiau a phrosesau gyda thîm diogelwch y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer unrhyw ymosodiadau seiber.

Effaith y mesurau lliniaru:
Mae’r model gweithredu a ddefnyddir yn y Swyddfa, a Gweithrediadau Gwe wedi’u gwreiddio ym mhob tîm cyflenwi a chynnyrch, yn golygu bod systemau’n cael eu huwchraddio a’u diweddaru’n barhaus i wella perfformiad a diogelwch, sydd wedi arwain at adborth cadarnhaol.

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddealltwriaeth gliriach o’r camau i’w cymryd os bydd ymosodiad seiber.

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hyder mewn systemau cyflenwyr a’r gallu i roi gwasanaethau yn ôl ar waith os bydd trychineb.

Risg
Rheolaeth annigonol o’r ystâd bresennol a strategaeth ystadau’r dyfodol i gyflawni busnes Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Prif effeithiau:
Anallu i ddarparu amgylchedd gwaith diogel a chynhyrchiol.

Anaf a lefelau absenoldeb uwch.

Costau heb eu cyllidebu sy’n deillio o geisiadau busnes am newid i ofynion adeiladau ac atgyweirio ystadau.

Nid yw’r gofod desgiau a gweithio yn ddigonol ar gyfer staff sydd angen mynediad i swyddfeydd, gan arwain at arferion gweithio aneffeithlon.

Lliniaru risgiau:
Rheoli cyfleusterau a’r tîm iechyd a diogelwch ar waith i weithredu a rhoi arweiniad ar arferion gorau.

Cynllunio gofod ar waith i wneud defnydd effeithiol o’r gofod sydd ar gael.

Cynhelir adolygiadau perfformiad gydag Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth (GPA) bob chwarter i fonitro’r gwasanaeth a ddarperir a’u dal i gyfrif.

Victoria Square House (VSH) yn Birmingham, gan alluogi tua 150 o ddesgiau ychwanegol ar draws VSH o fis Chwefror 2024 ymlaen.

Ymgysylltu â GPA i ddatblygu opsiynau ar gyfer dyfodol tymor canolig yn VSH ac Embankment House yn Nottingham.

Effaith y mesurau lliniaru:
Mae gan y Swyddfa les ar gyfer gofod ychwanegol ar y llawr gwaelod sy’n caniatáu iddi wneud ei gwaith mewn amgylchedd diogel.

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddigon o le ar gyfer y staff sydd eu hangen i ddarparu ei gwasanaethau.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynllunio ar gyfer y dyfodol drwy’r strategaeth ystadau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol.

Risg
Methiant i ddenu, datblygu a chadw gweithlu medrus i gefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion busnes Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a phontio drwy drawsnewid.

Prif effeithiau:
Dim digon o staff gyda’r capasiti a’r gallu angenrheidiol.

Cyfradd cadw staff isel neu gynnydd mewn cyfraddau gadael.

Diffyg cynhyrchiant.

Lefelau uchel o absenoldeb oherwydd salwch.

Mwy o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.

Gostyngiad mewn sgoriau ymgysylltu â staff.

Lliniaru risgiau:
Sefydlu Addewid i Bobl a Chynlluniau Pobl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Mae ein darpariaeth dysgu a datblygu yn cynnwys: Rhaglen ddatblygu newydd, ELEVATE, hyfforddi a mentora, diwrnodau datblygu ac ati.

Cynllun cymeradwy’r Pwyllgor Gweithredol i fynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.

Cyfathrebu mewnol rheolaidd a chlir gyda’n pobl i sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am newid.

Darparu pecyn cymorth cynhwysfawr ar gyfer newid gan gynnwys hyfforddiant a chynllun ymgysylltu.

Gwella sgiliau a chynyddu gallu rheolwyr llinell.

Effaith y mesurau lliniaru:
Gweithlu sydd â’r sgiliau a’r galluoedd cywir i gyflawni amcanion busnes y Swyddfa a phontio drwy drawsnewid.

Gweithlu sy’n hyderus ac yn wybodus ynghylch newid.

Risg
Methiant i adennill costau yn ystod y flwyddyn a chynaliadwyedd ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y dyfodol.

Prif effeithiau:
Llai o allu i ddelio ag amrywiadau tymhorol.

Angen mwy o adnoddau.

Llai o staff ar gael.

Rhagolygon rhy optimistaidd (gwario mwy na’r gwariant a ragwelwyd). Gorwario/ adennill annigonol.

Llai o incwm.

Lliniaru risgiau:
Achosion busnes ar gyfer swyddi gwag.

Cyfarfodydd cyllid misol.

Adolygiad chwarterol o ragolygon incwm a chymeradwyo’r rhagolwg.

Cyllideb adnoddau, cynlluniau adfer a chyllid goramser.

Cyfarfodydd herio chwarterol y Dirprwy Gyfarwyddwr.

Sgyrsiau arweinyddiaeth swyddogaethol rheolaidd.

Amserlen i edrych yn fanwl ar wybodaeth ariannol.

Cofrestr risgiau a chyfleoedd cyllid.

Gweithgarwch casglu dyledion effeithiol.

Gweithgareddau rhagweld parhaus sy’n seiliedig ar senarios (incwm, gwariant, niferoedd staff).

Effaith y mesurau lliniaru:
Adfer costau yn llwyddiannus - yn dilyn tair blynedd ddilynol o beidio ag adfer costau. Wedi adfer 106.9% o’r costau ar gyfer 2023 i 2024.

Risg
Gweithgarwch twyllodrus gan staff sy’n arwain at golled ariannol a niwed i enw da.

Prif effeithiau:
Colled ariannol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus/y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Niwed i enw da.

Lliniaru risgiau:
Polisi gwrth-dwyll a chynllun ymateb i hynny.

Llwybr clir i staff roi gwybod am amheuon o dwyll drwy gyfeiriad e-bost penodol yn y Swyddfa a phroses chwythu chwiban MOJ.

Dysgu gorfodol ar gyfer yr holl staff.

Cydymffurfio â safonau swyddogaethol ar gyfer atal twyll.

Ymgyrchoedd ymwybyddiaeth ar atal twyll drwy Ddysgu a Datblygu, y Fewnrwyd a sesiynau ymgysylltu.

Effaith y mesurau lliniaru:
Staff gwybodus sydd wedi cael yr hyfforddiant gofynnol ac sy’n dilyn polisïau.

Mae’n hawdd i staff roi gwybod am amheuaeth o dwyll.

Mae’r Swyddfa’n nodi bod risgiau ar lefel strategol. Mae rheoli risg yn cyd-fynd ag amcanion ein sefydliad ac yn cysylltu â’r egwyddorion a nodir yn Llyfr Oren Llywodraeth EF (‘Rheoli Risg – Egwyddorion a Chysyniadau’).

Mae’r gofrestr risg strategol yn cael ei hadrodd a’i thrafod bob mis gyda phwyllgor gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus er mwyn rhoi sicrwydd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ynghylch camau lliniaru a rheoli risgiau. Mae’r tîm risg a sicrwydd yn casglu diweddariadau gan berchnogion risg o bob rhan o’r sefydliad. Maent yn dwyn y perchnogion risg i gyfrif lle bo angen ac yn defnyddio gwybodaeth a phrofiad o risg i gefnogi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus drwy roi cyngor ac arweiniad ynghylch rheoli risg, i sicrhau bod y Swyddfa’n rheoli risg yn dda.

Mae cynrychiolwyr y Swyddfa hefyd yn trafod rheoli risg mewn cyfarfodydd misol rheolaidd gyda Phartneriaid Busnes Risg ehangach y Weinyddiaeth Gyfiawnder a bob chwarter blwyddyn yng ngrŵp cynghori risg y Weinyddiaeth, dan gadeiryddiaeth Canolfan Ragoriaeth Risg y Weinyddiaeth. Mae gan y fforymau hyn gynrychiolwyr o bob rhan o’r Weinyddiaeth, gan gynnwys cyrff hyd braich, ac maent yn cwrdd i drafod arferion gorau a newidiadau i arferion neu weithdrefnau, yn ogystal ag at gydweithredu.

Rydym yn parhau i gyflwyno adroddiadau risg bob chwarter i bwyllgor gwaith y Weinyddiaeth Gyfiawnder fel rhan o fframwaith rheoli risg ehangach yr adran. Mae cefnogaeth y pwyllgor gwaith i’r rhaglen newid tymor hwy yn bwysig er mwyn lliniaru’r risgiau hyn. Dyma’r prif risgiau yr adroddwyd amdanynt yn ystod y flwyddyn:

  • cynnydd deddfwriaeth sy’n caniatáu i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddarparu atwrneiaeth arhosol ddigidol, sy’n hanfodol i gynaliadwyedd y Swyddfa yn y blynyddoedd i ddod
  • risg i enw da Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn sgil yr oedi wrth gofrestru atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau arhosol a wnaed drwy dwyll
  • effaith yr ôl-groniad o geisiadau atwrneiaethau arhosol ar wasanaeth i gwsmeriaid a chyllid
  • parhad busnes yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn enwedig mewn perthynas â’r sganwyr a ddefnyddir i fewnbynnu ceisiadau atwrneiaethau arhosol papur i system gyfrifiadurol Sirius

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn annog arloesi ac mae ganddi agwedd gytbwys tuag at risg. Er enghraifft, mae ganddi fwy o oddefiant i risgiau sy’n ymwneud â hyrwyddo gallu digidol i wella cynnyrch Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ond mae ganddi oddefiant is mewn meysydd fel sicrhau bod pryderon yn cael eu hasesu a’u hymchwilio i gefnogi diogelu pobl agored i niwed a’u hasedau.

Fframwaith llywodraethu a sicrwydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Bwrdd OPG

Mae bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhan o’r gwaith o bennu’r cyfeiriad strategol a’r fframwaith ar gyfer gweithrediadau ac mae’n gyfrifol am sicrhau safonau uchel o lywodraethu corfforaethol bob amser. Mae’n gosod archwaeth risg yr asiantaeth a sicrhau bod fframwaith rheoli priodol ar gael ar waith sy’n rhoi sicrwydd ynghylch asesiadau risg.

Pwyllgorau’r Bwrdd

Archwilio a Risg sicrwydd
Mae’n darparu cyngor a sicrwydd i’r bwrdd ar risg, rheolaeth a llywodraethu.

Bwrdd Portffolio a newid
Gyda goruchwyliaeth a chraffu ar risgiau penodol i brosiectau a rhaglenni.

Pwyllgor Gweithredol
Cyfrifoldeb dyddiol ar gyfer monitro risg.

Pwyllgor Iechyd a diogelwch
Goruchwylio a chraffu ar risgiau o ran iechyd a diogelwch.

Fforwm risg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Yn ystyried y risgiau strategol a’r risgiau o dan y lefel honno, ac mae hefyd yn hwyluso dysgu am risg ar draws yr Asiantaeth.

Perchnogion a noddwyr risg
Yn gyfrifol am sicrhau bod risgiau’n cael eu deall yn briodol, yn cael eu rheoli’n weithredol, eu hadrodd riportio a’u monitro.

Grŵp cynghori ar risg y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Edrych ar risgiau ar draws Weinyddiaeth Gyfiawnder, asiantaethau a’u cyrff hyd braich, ac yn sicrhau bod risgiau a rennir yn cael eu hadrodd fel un a bod risgiau asiantaeth yn gallu bod yn huwchgyfeirio yn ôl yr angen.

Archwiliadau Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth
Mae archwiliadau mewnol yn adlewyrchu ac yn digwydd yn y meysydd lle mae’r risg strategol uchaf, ac yn darparu .

Diwygio swyddogaethau

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn darparu swyddogaethau corfforaethol a phroffesiynol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan gynnwys: gwasanaethau dadansoddi, masnachol, cyfathrebu, gwrth-dwyll, dyledion, digidol, cyllid, grantiau, pobl, cyflawni prosiectau, eiddo a diogelwch.

Mae aeddfedrwydd cyffredinol y swyddogaethau, gan gynnwys cynnydd o ran gwreiddio safonau swyddogaethol, yn cael ei asesu drwy ‘adroddiad archwilio iechyd’ ddwywaith y flwyddyn sy’n cynnwys cyfarfod manwl gyda Phrif Swyddog Gweithredu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i brofi cydymffurfiad â safonau swyddogaethol. Mae hefyd yn cael ei gefnogi gan hunanasesiadau blynyddol neu ddwywaith y flwyddyn gan ddefnyddio fframweithiau asesu gwelliant parhaus Swyddfa’r Cabinet. Mae’r raddfa aeddfedrwydd yn amrywio o ‘dda’, sy’n dangos cydymffurfiaeth ag elfennau gorfodol y safon swyddogaethol, i ‘gwell’ a ‘gorau’.

Drwy gydol 2023 i 2024, mae dealltwriaeth y swyddogaethau o ofynion eu safonau swyddogaethol wedi aeddfedu ac mae eu dealltwriaeth o weithrediad fframweithiau rheoli i sicrhau mwy o gydymffurfiad yn gwella.

Adroddiadau chwythu’r chwiban

Mae chwythu’r chwiban yn ymwneud â datgelu gwybodaeth yn fewnol neu’n allanol er mwyn amlygu camweddau neu gamweddau posibl mewn sefydliad yn y gorffennol neu ar hyn o bryd. Os gofynnir i unigolyn wneud rhywbeth, neu os yw’n ymwybodol o weithredoedd pobl eraill sydd, yn eu barn nhw, yn sylfaenol anghywir, yn anghyfreithlon, neu a allai beryglu eraill neu fynd yn groes i werthoedd Cod y Gwasanaeth Sifil, dylent godi pryder drwy chwythu’r chwiban. Rhoddir cyhoeddusrwydd mewnol i staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am y broses ar gyfer mynegi pryder drwy chwythu’r chwiban. Ni chodwyd unrhyw achosion chwythu’r chwiban ffurfiol yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod y flwyddyn.

Bu ein Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn ymchwilio’n fanwl i’n prosesau chwythu’r chwiban a’r ffyrdd y gall staff godi pryderon yn anffurfiol. Rydym wedi penodi swyddog enwebedig annibynnol, a’i rôl yw rhoi cefnogaeth a chyngor i staff ynghylch sut i godi pryder. Mae Llinell Gymorth Gonestrwydd y Gwasanaeth Sifil hefyd ar gael i staff gysylltu â hi os nad ydynt yn teimlo’n gyfforddus yn mynegi pryder i’r rheolwyr. Gellir hefyd rhoi gwybod am unrhyw bryderon neu amheuon am weithgarwch twyllodrus yn uniongyrchol ac yn ddienw i Ganolfan Arbenigedd Atal Twyll y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Cyhoeddwyd nifer o negeseuon cyfathrebu mewnol yn ystod y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth gyda’n staff o chwythu’r chwiban, twyll a diogelwch a’r prosesau adrodd priodol.

Rheolau Penodiadau Busnes

Mae Gweision Sifil, ar bob lefel, yn rhwym wrth reolau ynghylch derbyn penodiadau allanol ar ôl gadael y Gwasanaeth Sifil. Pwrpas y Rheolau Penodiadau Busnes yw osgoi’r canlynol:

  • y risg y gallai cyflogwr gael mantais amhriodol drwy benodi cyn-swyddog sydd â gwybodaeth am eu cystadleuwyr, neu am bolisi sydd ar y gweill gan y llywodraeth
  • unrhyw amheuaeth y gallai penodiad fod yn wobr am ffafrau yn y gorffennol
  • y risg bod cyn swyddog yn ymelwa’n amhriodol ar fynediad breintiedig at gysylltiadau yn y llywodraeth
  • cwestiynu annheg neu feirniadaeth ar uniondeb cyn gweision sifil

Gall staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus weld manylion llawn am y Rheolau Penodiadau Busnes, pryd maent yn berthnasol a’r broses ymgeisio ar fewnrwyd y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yn ystod 2023 i 2024, ni chafwyd unrhyw geisiadau gan weithwyr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus mewn perthynas â’r rheolau hyn. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r Rheolau Penodiadau Busnes, adnewyddwyd cynnwys y fewnrwyd, rhoddwyd gwybod i uwch arweinwyr, a diweddarwyd geiriad y llythyrau rheoli ymadawiadau.

Parhad busnes

Fe wnaethom recriwtio Rheolwr Parhad Busnes dynodedig ac fe wnaethom lwyddo i lwytho ein holl gynlluniau parhad busnes i fyny ar adnodd parhad busnes canolog y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yn y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn yn sicrhau ymwybyddiaeth bellach ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’r adnodd, yn anelu at gynyddu ei ddefnydd, ac yn cynnal hyfforddiant senario i staff. Bydd y camau hyn yn cefnogi ymateb Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i reoli digwyddiadau er mwyn iddynt fod yn effeithiol.

Diogelwch a sicrwydd gwybodaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae ein Dirprwy Gyfarwyddwr ar gyfer Sicrhau Gwybodaeth a Chyfreithiol yn cyflawni rôl uwch-berchennog risg gwybodaeth ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac mae uwch unigolyn o bob cyfarwyddiaeth busnes yn ymgymryd â rôl perchennog asedau gwybodaeth ar gyfer eu maes. Mae pob perchennog asedau gwybodaeth ac uwch-berchennog risg gwybodaeth yn cwrdd yn rheolaidd i reoli risgiau gwybodaeth, ac mae’r tîm sicrhau gwybodaeth yn gweithio i’w cefnogi gydol y flwyddyn.

Cafodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 77 o geisiadau rhyddid gwybodaeth yn 2023 i 2024, a chwblhaodd 86% o’r rhain o fewn 20 diwrnod gwaith yn erbyn targed o 90%. Cafodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 96 cais gwrthrych am wybodaeth, a chwblhawyd 97% o’r rhain o fewn un mis calendr yn erbyn targed o 90%.

Mae’r asesiad o risgiau preifatrwydd yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei reoli gan y tîm sicrhau gwybodaeth, sy’n cynnwys cefnogi’r busnes i gwblhau asesiadau o’r effaith ar ddiogelu data lle bo angen. Mae aelodau’r tîm yn hyrwyddo preifatrwydd yn ôl y bwriad, ac ymgynghorir â’r tîm fel mater o drefn ynghylch preifatrwydd ar ddechrau cynnig

Digwyddiadau (colli/peryglu) gwybodaeth

Roedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyfrifol am 2,197 achos o golli gwybodaeth a/neu dorri diogelwch gwybodaeth yn ystod 2023 i 2024, ac ystyriwyd bod un ohonynt yn ‘niweidiol iawn’. Ni ystyriwyd bod unrhyw achos o golli gwybodaeth yn ddigon difrifol i gyfiawnhau camau gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i hysbysu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cymryd camau i leihau’r achosion o golli gwybodaeth, mae tîm sicrhau gwybodaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i weithio ar draws yr asiantaeth i ddarparu hyfforddiant, addysg ac ymwybyddiaeth i staff ynghylch diogelu data a diogelwch gwybodaeth.

Rheoli cofnodion

Parhaodd ein tîm sicrwydd gwybodaeth i gefnogi’r Prosiect Moderneiddio Atwrneiaethau Arhosol o ran rheoli cofnodion a gedwir gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a bydd hyn yn arwain at bolisi cadw cofnodion diwygiedig llawn. Cefnogodd y tîm y Weinyddiaeth Gyfiawnder gyda’r gwaith o weithredu newidiadau i lwyfan Office 365 i wella sut mae’r adran yn rheoli ei chofnodion ac mae wedi bod yn gweithio i weithredu’r newidiadau i bolisi Dosbarthiadau Diogelwch y Llywodraeth. Cynhaliodd y tîm adolygiad o restr ffeiliau ffisegol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a gedwir yn ein harchif oddi ar y safle, a bydd hyn yn arwain at leihau nifer ein daliadau cyffredinol.

Cydymffurfiaeth cyflenwyr

Mae contractau dros drothwy Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu caffael drwy dîm masnachol canolog y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Fodd bynnag, mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd reolwr contract gweithredol dynodedig sy’n bwydo i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ar gyfer contractau gwerth is, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn caffael gwasanaethau a nwyddau drwy ein tîm masnachol ein hunain, ac mae gennym hefyd reolwyr contractau ledled y Swyddfa sy’n rheoli’r contractau a’r cyflenwyr hynny.

Iechyd a diogelwch

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ei chyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a lles ei gweithwyr a’r holl bobl sy’n defnyddio ei safleoedd. Rydym yn cydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a’r holl reoliadau a deddfwriaethau perthnasol eraill fel sy’n briodol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cefnogi ein staff i ddelio â’r amgylchedd gwaith sy’n newid yn barhaus. Yn ystod y cyfnod hwn, mae ein tîm iechyd a diogelwch wedi cefnogi tîm prosiect i sicrhau lle ychwanegol priodol yn ein swyddfa yn Birmingham, gan sicrhau bod yr offer angenrheidiol yn cael ei symud, a gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd swyddfa ychwanegol yn diwallu anghenion ein staff.

Rydym wedi parhau i ddarparu offer sgrin arddangos i’n staff yn eu prif fan gwaith. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, rydym wedi cwblhau 651 o asesiadau cyfarpar sgrin arddangos ar gyfer staff.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod bod angen i elfennau allweddol fod ar waith er mwyn rheoli iechyd a diogelwch yn effeithiol. Mae canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar reoli iechyd a diogelwch yn nodi’r elfennau hyn fel polisi, trefnu, cynllunio, mesur perfformiad, archwilio ac adolygu Cynhaliwyd cyfanswm o 475 o sesiynau cynefino iechyd a diogelwch ar gyfer staff eleni ar draws ein swyddfeydd yn Birmingham a Nottingham.

Adolygir polisïau iechyd a diogelwch Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus bob blwyddyn neu pan fyddant yn cael eu newid. Mae gennym strategaeth iechyd a diogelwch ar waith sy’n cyd-fynd â’n hamcanion busnes, ac wedi’i datblygu i wella iechyd a diogelwch galwedigaethol, yn ogystal â diogelwch tân. Mae cofrestr risg iechyd a diogelwch yn cael ei chymeradwyo gan ddeiliad dyletswydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac mae’n seiliedig ar asesiad risg lleol. Mae’r gofrestr yn cael ei chynnal a’i hadolygu yn y pwyllgor iechyd a diogelwch chwarterol, a’i rhannu â phwyllgor iechyd, diogelwch a thân y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae’n cael ei chyhoeddi ar ein mewnrwyd.

Mae’r ffigurau damweiniau, digwyddiadau a damweiniau a fu bron â digwydd eleni wedi cynyddu o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn adlewyrchu nifer y staff sy’n bresennol yn y swyddfa. Rhwng 2023 a 2024, ar draws ein swyddfeydd yn Birmingham a Nottingham, cawsom 14 o ddamweiniau, 68 o ddigwyddiadau (gyda 41 ohonynt yn ddigwyddiadau iechyd cyffredinol), a chwe damwain a fu bron â digwydd. Mae’r ffigurau hyn yn gynnydd o 2022 i 2023, pan gofnodwyd 13 o ddamweiniau, 48 o ddigwyddiadau (pan roedd 28 ohonynt yn ddigwyddiadau iechyd cyffredinol), a dwy ddamwain a fu bron â digwydd. Mae’r cynnydd hwn yn bennaf oherwydd cynnydd yn nifer ein staff a chynnydd yn nifer y bobl sy’n mynd i’r swyddfa. Nid oedd angen rhoi gwybod i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o dan y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi ymrwymo i wella iechyd a diogelwch yn barhaus. Drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi parhau i fonitro ac adolygu nifer yr ymatebwyr brys sydd gennym ar waith i sicrhau bod digon o staff ar gael ar holl safleoedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Rydym wedi cynllunio a threfnu hyfforddiant ar gyfer wardeiniaid tân, swyddogion rheoli digwyddiadau, gweithredwyr cadeiriau achub a chymorth cyntaf. Eleni, bu’r tîm iechyd a diogelwch yn gweithio gyda’r tîm dysgu a datblygu i ennill cymwysterau cydnabyddedig ar gyfer swyddogion cymorth cyntaf ychwanegol (28 aelod o staff), aseswyr risg (saith aelod o staff), diogelwch ar gyfer uwch swyddogion gweithredol (wyth aelod o staff), a hyfforddiant cadeiriau achub (saith aelod o staff).

Un tîm iechyd a diogelwch sy’n rholi ein swyddfeydd yn Birmingham a Nottingham. Mae gan y ddau safle eu heriau eu hunain, ond drwy hyfforddiant effeithiol, cyfathrebu, glynu wrth ddeddfwriaeth ac ymgysylltu rhagweithiol, gall y tîm reoli a datrys problemau wrth iddynt godi.

Casgliad y Swyddog Cyfrifyddu

Fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwy’n gyfrifol am adolygu effeithiolrwydd system rheolaeth fewnol y Swyddfa, gan gynnwys y fframwaith rheoli risg. Mae fy adolygiad yn seiliedig ar waith yr archwilwyr mewnol a’r rheolwyr gweithredol o fewn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Maent yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal y fframwaith rheolaeth fewnol ac ymateb yn briodol i sylwadau a wneir gan yr archwilwyr allanol yn eu llythyr rheoli ac mewn adroddiadau eraill. Mae’r system rheolaeth fewnol wedi bod ar waith, gyda mân addasiadau, ar gyfer y flwyddyn 2023 i 2024, a hyd at ddyddiad cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a chyfrifon.

Yn eu hadroddiad blynyddol, mae ein harchwilwyr mewnol wedi rhoi lefel sicrwydd cyffredinol o ‘gymedrol’, sy’n golygu bod angen rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheolaeth, llywodraethu a rheoli risg. Rwyf wedi cael cyngor ar oblygiadau canlyniadau fy adolygiad gan y bwrdd a’r pwyllgor archwilio a sicrwydd risg. Rwy’n fodlon fod cynllun ar waith i fynd i’r afael â gwendidau yn y system o reolaeth fewnol, yn ogystal â sicrhau gwelliant parhaus y system.

Rwyf hefyd yn fodlon fod yr holl risgiau perthnasol wedi’u nodi, a bod y risgiau hynny’n cael eu rheoli’n briodol drwy ein cofrestr risg.

Amy Holmes
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr Dydd Gwener
16 Gorffennaf 2024

Adroddiad tâl a staff

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi polisi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar dâl aelodau a chyfarwyddwyr anweithredol y bwrdd gweithredol. Mae hefyd yn darparu manylion y costau gwirioneddol a’r trefniadau cytundebol. Paratowyd yr adroddiad tâl a staff yn unol â gofynion y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF.

Polisi tâl – uwch weision sifil

Y Prif Weinidog sy’n gosod tâl uwch weision sifil ar ôl cael cyngor annibynnol gan y Corff Adolygu ar Gyflogau Uwch-swyddogion.

Wrth wneud ei argymhellion, mae’r Corff Adolygu ar Gyflogau Uwch wedi ystyried y canlynol:

  • yr angen i recriwtio, cadw a chymell pobl sydd â’r gallu a’r cymwysterau priodol i gyflawni eu cyfrifoldebau gwahanol

  • amrywiadau rhanbarthol a lleol mewn marchnadoedd llafur a’u heffaith ar recriwtio a chadw staff

  • polisïau’r llywodraeth i wella gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y gofyniad ar Adrannau i gyrraedd y targedau allbwn ar gyfer darparu gwasanaethau Adrannol

  • yr arian sydd ar gael i adrannau fel y nodir yn nherfynau gwariant adrannol y llywodraeth

  • targed chwyddiant y llywodraeth

Mae’r Corff Adolygu ar Gyflogau uwch yn ystyried y dystiolaeth y mae’n ei gael am ystyriaethau economaidd ehangach a fforddiadwyedd ei argymhellion.

Polisi tâl – gweision sifil heb fod mewn swydd uwch

Mae pecynnau tâl yn dod o dan y cynlluniau a weithredir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac maent yn dilyn canllawiau polisi’r Llywodraeth ar gyfer cyflogau’r sector cyhoeddus. Mae perfformiad yn cael ei gydnabod drwy bolisïau Rheoli Perfformiad a Gwobrwyo a Chydnabyddiaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae staff ar bob gradd yn gymwys i gael eu gwobrwyo yn ystod y flwyddyn a ddefnyddir i gydnabod staff yn brydlon drwy gydol y flwyddyn ariannol.

Contractau gwasanaethau

Mae Deddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 yn mynnu bod penodiadau’r Gwasanaeth Sifil yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod a hynny wedi’i seilio ar gystadleuaeth deg ac agored.

Oni nodir yn wahanol isod, mae’r swyddogion a gwmpesir gan yr adroddiad hwn yn dal penodiadau agored. Byddai terfynu swydd, ac eithrio am gamymddwyn, yn golygu y byddai’r unigolyn yn derbyn iawndal fel y nodir yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil.

Tâl uwch reolwyr (yn amodol ar archwiliad)

Tâl aelodau gweithredol y bwrdd

            2023 to 2024         2022 to 2023
  Cyflog Bonysau Buddion trethadwy (y £100 agosaf) Buddion perthnasol i’r pensiwn (y £1,000 agosaf) Taliadau diswyddo Cyfanswm Cyflog Bonysau Buddion trethadwy (y £100 agosaf) Buddion perthnasol i’r pensiwn (y £1,000 agosaf) Cyfanswm
  £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000 £000
Amy Holmes-
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr
110-115 10-15 - n/a - 120-125 50-55 FYE 105-110 - - (1) 50-55
Julie Lindsay-
Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau a Phrif Swyddog Gweithredu
80-85 0-5 - n/a - 85-90 75-80 - - (23) 50-55
Ruth Duffin-
Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog
80-85 5-10 - n/a - 90-95 75-80 0-5 - 25 100-105
Emma Sharp-
Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog 3
40-45 FYE 80-85 - - n/a - 40-45 - - - - -
Stuart Howard-
Dirprwy Gyfarwyddwr Materion Cyfreithiol a Sicrwydd Gwybodaeth 4
55-60 FYE 85-90 0-5 - n/a - 55-60 90-95 5-10 - (20) 75-80
Mary MacGregor-
Dirprwy Gyfarwyddwr Interim Materion Cyfreithiol a Sicrwydd Gwybodaeth5
20-25 FYE 75-80 - - n/a - 20-25 - - - - -
Peter Boyce-
Dirprwy Gyfarwyddwr Materion Cyfreithiol a Sicrwydd Gwybodaeth 6
5-10 FYE 80-85 - - n/a - 5-10 - - - - -
Ann Owen-
Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Gweithrediadau Partneriaethau Busnes Ariannol 7
20-25 FYE 80-85 - - n/a 9 25-30 70-75 FYE 80-85 - - (3) 65-70
Caroline Patterson-
Cyfarwyddwr Cyllid, Gweithrediadau 8
95-100 FYE 115-120 - - n/a - 95-100 - - - - -

3 Penodwyd ar 18 Medi 2023. Rhannu swydd llawn amser gyda Ruth Duffin. 4 Yn 2023 i 2024, Dirprwy Gyfarwyddwr Materion Cyfreithiol a Sicrwydd Gwybodaeth tan 10 Tachwedd 2023. Yn 2022 i 2023, Gwarcheidwad Cyhoeddus dros dro o 1 Ebrill hyd 26 Medi 2022. 5 Dirprwy Gyfarwyddwr dros dro Materion Cyfreithiol a Sicrwydd Gwybodaeth o 13 Tachwedd 2023 i 4 Mawrth 2024. 6 Dirprwy Gyfarwyddwr Materion Cyfreithiol a Sicrwydd Gwybodaeth o 4 Mawrth 2024. 7 Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Gweithrediadau Cyllid Partneriaethau Busnes o 16 Mai 2022 tan 16 Mehefin 2023. Roedd Ann Owen yn gweithio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a thalwyd ei chyflog gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Gadawodd Ann Owen y Weinyddiaeth Gyfiawnder dan gynllun effeithiolrwydd gadael yn gynnar yn wirfoddol oedd ar draws y Weinyddiaeth ac a awdurdodwyd dan adran 6.3 o God Rheoli’r Gwasanaeth Sifil. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder dalodd y costau, gan gynnwys £86k a dalwyd i’r PCSPS mewn perthynas ag ymddeoliad cynnar. 8 Cyfarwyddwr Cyllid, Gweithrediadau, o 17 Mehefin 2023. Mae Caroline Patterson yn gweithio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a thelir ei chyflog gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Nid yw buddion sy’n gysylltiedig â phensiynau wedi’u cynnwys yn y tabl uchod ar gyfer 2023 i 2024 oherwydd oedi eithriadol wrth gyfrifo’r ffigurau hyn ar ôl defnyddio’r ateb pensiynau gwasanaeth cyhoeddus. Caiff ffigurau pensiynau eu cyfrifo gan MyCSP, y gweinyddwr pensiynau, yn hytrach na Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Tâl aelodau anweithredol o fyrddau

    2023 i 2024   2022-23
  Ffïoedd Buddion trethadwy (y £100 agosaf) Ffïoedd Buddion trethadwy (y £100 agosaf)
  £000 £000 £000 £000
Martyn Burke 5-10 - 5-10 -
Jackie Craisatti 9 0-5 - 0-5 -
Alison Sansome 10 0-5 0.2 5-10 0.5
Karin Woodley 5-10 0.1 5-10 -
Greig Early - 0.1 - -

9 Gadawodd ar 31 Ionawr 2024 10 Gadawodd ar 30 Medi 2024 11 Penodwyd 01 Tachwedd 2023 Bydd ffïoedd ar gyfer Tachwedd 2023 - Mawrth 2024 yn cael eu talu yn 2024-25.

Nid oes gan yr un o aelodau anweithredol y bwrdd hawliau pensiwn gyda’r adran, ac nid ydynt yn derbyn taliadau bonws.

Cyflog

Mae’r cyflog yn cynnwys cyflog gros, goramser, ac unrhyw lwfans arall i’r graddau y mae’n ddarostyngedig i drethiant y DU. Os yw unigolyn wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Gweithredol am ran o’r flwyddyn, caiff cyflog cyfwerth â blwyddyn lawn (FYE) pro rata ei ddatgelu.

Taliadau bonws

Mae taliadau bonws yn amodol ar berfformiad yn ystod y flwyddyn, gan ddilyn canllawiau Swyddfa’r Cabinet. Mae’r polisi ar gyfer tâl perfformiad heb ei gyfuno yn parhau i nodi y dylid cyfyngu taliadau o’r fath i’r 25% sy’n perfformio orau.

Mae’r bonysau a gofnodwyd yn 2023 i 2024 yn ymwneud â pherfformiad yn 2022 i 2023 ac mae’r bonysau cymharol a gofnodwyd ar gyfer 2022-23 yn ymwneud â pherfformiad yn 2021-22.

Buddion o fath arall

Mae gwerth ariannol unrhyw fuddion o fath arall yn cynnwys unrhyw fuddion (er enghraifft, treuliau teithio) a ddarparwyd gan yr Adran ac sy’n cael ei drin gan Gyllid a Thollau EF fel enillion trethadwy.

Buddion pensiwn

Cyfrifir gwerth y buddion pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn fel (y cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn wedi’i luosi ag 20) a’r (cynnydd gwirioneddol mewn unrhyw gyfandaliad) llai (y cyfraniadau a wneir gan yr unigolyn). Nid yw’r cynnydd gwirioneddol yn cynnwys cynnydd oherwydd chwyddiant nac unrhyw gynnydd neu ostyngiad oherwydd trosglwyddo hawliau pensiwn.

Buddion pensiwn (yn amodol ar archwiliad)

Buddion pensiwn aelodau gweithredol y bwrdd

Nid yw buddion pensiynau cronedig a CETV ar gael ar gyfer 2023 i 2024 oherwydd oedi eithriadol wrth gyfrifo’r ffigurau hyn ar ôl defnyddio’r ateb pensiynau gwasanaeth cyhoeddus. Gweler www.gov.uk/government/collections/how-the-public-service-pension-remedy-affects-your-pension. Caiff ffigurau pensiynau eu cyfrifo gan MyCSP, y gweinyddwr pensiynau, yn hytrach na Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

  Pensiwn cronedig a chyfandaliad cysylltiedig ar oedran pensiwn 31 Mawrth 2024 Cynnydd real mewn pensiwn a chyfandaliad cysylltiedig ar oed pensiwn CETV ar 31 Mawrth 2024 CETV ar 31 Mawrth 2023 Cynnydd real/ (gostyngiad) mewn CETV
  £000 £000 £000 £000 £000
Amy Holmes- Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr n/a n/a n/a n/a n/a
Stuart Howard- Dirprwy Gyfarwyddwr Sicrwydd Gwybodaeth a Chyfreithiol n/a n/a n/a n/a n/a
Julie Lindsay- Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau a Phrif Swyddog Gweithredu n/a n/a n/a n/a n/a
Ruth Duffin- Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog n/a n/a n/a n/a n/a
Emma Sharp- Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog n/a n/a n/a n/a n/a
Peter Boyce- Dirprwy Gyfarwyddwr Materion Cyfreithiol a Sicrwydd Gwybodaeth n/a n/a n/a n/a n/a
Mary MacGregor- Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro Sicrwydd Gwybodaeth a Chyfreithiol n/a n/a n/a n/a n/a
Ann Owen- Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Gweithrediadau Partneriaeth Busnes Cyllid n/a n/a n/a n/a n/a
Caroline Patterson- Cyfarwyddwr Cyllid, Gweithrediadau n/a n/a n/a n/a n/a

Pensiynau’r Gwasanaeth Sifil

Darperir buddion pensiwn drwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Cyn 1 Ebrill 2015, yr unig gynllun oedd Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS), sy’n cael ei rannu’n wahanol adrannau – clasurol, premiwm, a chlasurol a mwy, ac mae’n darparu buddion ar sail cyflog terfynol, ac mae nuvos yn darparu buddion ar sail gyrfa ar gyfartaledd. O 1 Ebrill 2015 cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil – y Gweision Sifil ac Eraill Cynllun Pensiwn neu alpha, sy’n darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa. Fe wnaeth pob gwas sifil newydd, ynghyd â’r rhan fwyaf o’r bobl eisoes mewn swydd, ymuno â’r cynllun newydd.

Mae PCSPS ac alpha yn gynlluniau statudol heb eu hariannu. Mae gweithwyr a chyflogwyr yn gwneud cyfraniadau (mae cyfraniadau gweithwyr yn amrywio rhwng 4.6% ac 8.05%, yn dibynnu ar eu cyflog). Telir gweddill cost y buddiannau sy’n cael eu talu gan arian mewn pleidlais gan y Senedd bob blwyddyn. Mae pensiynau sy’n cael eu talu yn cael eu cynyddu’n flynyddol yn unol â’r ddeddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Yn hytrach na’r trefniadau buddion diffiniedig, gall cyflogeion ddewis pensiwn cyfraniadau diffiniedig gyda chyfraniad cyflogwr, cyfrif pensiwn y bartneriaeth.

Yn alpha, mae’r pensiwn yn cronni ar gyfradd o 2.32% o enillion pensiynadwy bob blwyddyn, ac mae’r cyfanswm a gronnwyd yn cael ei addasu’n flynyddol yn unol â chyfradd a bennir gan Drysorlys EF. Gall aelodau ddewis rhoi rhan o’u pensiwn heibio (cyfnewid) i gael cyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004. Mae buddion pob aelod sydd wedi newid i gynllun alpha o PCSPS yn cael eu ‘bancio’, gyda’r rheini sydd â buddion cynt yn un o adrannau cyflog terfynol y PCSPS yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael cynllun alpha.

Mae’r pensiwn cronedig yn yr adroddiad hwn yn dangos y pensiwn mae gan yr aelod hawl i’w gael pan fydd yn cyrraedd oed pensiwn arferol, neu’n syth ar ôl peidio â bod yn aelod gweithredol o’r cynllun os yw wedi cyrraedd oed pensiwn arferol neu dros yr oedran hwnnw. 60 yw’r oedran pensiwn arferol ar gyfer aelodau cynlluniau clasurol, premiwm a chlasurol a mwy, a 65 ar gyfer aelodau nuvos, a 65 oed neu Oed Pensiwn y Wladwriaeth, pa bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau cynllun alpha. Mae’r ffigurau pensiwn yn yr adroddiad hwn yn dangos y pensiwn a enillwyd yn y PCSPS neu alpha – fel sy’n briodol. Os oes gan aelod fuddion yn y PCSPS ac alpha, mae’r ffigurau yn dangos gwerth cyfunol eu buddion yn y ddau gynllun, ond sylwer y gallai rhangyfansoddol o’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o oedrannau gwahanol.

Pan gyflwynodd y Llywodraeth gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus newydd yn 2015, roedd trefniadau pontio a oedd yn trin aelodau presennol y cynllun yn wahanol ar sail eu hoedran. Roedd aelodau hŷn o PCSPS yn aros yn y cynllun hwnnw, yn hytrach na symud i alpha. Yn 2018, canfu’r Llys Apêl fod y trefniadau trosiannol yn y cynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn aelodau iau.

O ganlyniad, mae camau’n cael eu cymryd i unioni’r diwygiadau hynny yn 2015, gan wneud darpariaethau’r cynllun pensiwn yn deg i bob aelod. Mae’r cam unioni pensiynau gwasanaeth cyhoeddus yn cynnwys dwy ran. Caeodd rhan gyntaf y PCSPS ar 31 Mawrth 2022, gyda’r holl aelodau gweithredol yn dod yn aelodau o alpha o 1 Ebrill 2022 ymlaen. Mae’r ail ran yn dileu’r gwahaniaethu ar sail oedran ar gyfer y cyfnod unioni, rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022, drwy symud aelodaeth aelodau cymwys yn ystod y cyfnod hwn yn ôl i’r PCSPS ar 1 Hydref 2023. Caiff hyn ei alw’n “rollback” yn Saesneg.

Ar gyfer aelodau sydd o fewn cwmpas y datrysiad pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, mae cyfrifo eu buddion at ddibenion cyfrifo eu Gwerth Trosglwyddo sy’n Cyfateb i Arian Parod a’u ffigur tâl sengl, rhwng 31 Mawrth 2023 a 31 Mawrth 2024, yn adlewyrchu’r ffaith bod aelodaeth rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 wedi cael ei gyflwyno’n ôl i’r PCSPS. Er y bydd aelodau’n cael dewis maes o law i benderfynu a ddylai’r cyfnod hwnnw gyfrif tuag at fuddion PCSPS neu alpha, mae’r ffigurau’n dangos y sefyllfa wedi’i chyflwyno’n ôl h.y. buddion PCSPS ar gyfer y cyfnod hwnnw.

Mae cyfrif pensiwn y bartneriaeth yn drefniant pensiwn cyfraniadau galwedigaethol diffiniedig sy’n rhan o Mastertrust Legal & General. Mae’r cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylfaenol o rhwng 8% a 14.75% (yn dibynnu ar oed yr aelod). Nid oes raid i’r cyflogai gyfrannu, ond os bydd yn gwneud cyfraniadau, bydd y cyflogwr yn talu swm cyfatebol hyd at derfyn o 3% o gyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% o gyflog pensiynadwy i dalu cost yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marw yn y swydd ac ymddeol yn sgil salwch).

Mae manylion pellach am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gael yn www.civilservicepensionscheme.org.uk

Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod

Gwerth Trosglwyddo sy’n cyfateb i Arian Parod (CETV) yw gwerth buddion y cynllun pensiwn wedi’i gyfalafu a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Buddion a gronnwyd gan yr aelod yw’r buddion a brisir ynghyd ag unrhyw bensiwn wrth gefn i briod sy’n daladwy o’r cynllun. CETV yw taliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn i sicrhau buddiannau pensiwn mewn cynllun pensiwn neu drefniant arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo’r buddiannau y mae wedi eu cronni yn ei gynllun blaenorol. Mae’r ffigurau pensiwn a nodir yn ymwneud â buddion y mae’r unigolyn wedi eu cronni o ganlyniad i gyfanswm ei aelodaeth yn y cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swydd uwch y mae’r datgeliad yn berthnasol iddo.

Mae’r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae’r aelod wedi ei drosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd i’r aelod o ganlyniad iddo’n prynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun.

Cyfrifir CETV yn unol â Rheoliadau’r Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygiad) 2008 ac nid yw’n ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i Dreth Lwfans Oes a allai fod yn daladwy pan gymerir buddion pensiwn.

Cynnydd real mewn CETV

Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd yn y CETV sy’n cael ei ariannu gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys cynnydd yn y pensiwn cronedig oherwydd chwyddiant, cyfraniadau’r cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae’n defnyddio ffactorau prisio cyffredin y farchnad ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Datgeliad cyflog teg (yn amodol ar archwiliad)

Mae’n ofynnol i gyrff adrodd ddatgelu’r berthynas rhwng tâl y swyddog gweithredol sy’n cael y cyflog mwyaf yn eu sefydliad â thâl chwartel isaf, canolrifol a chwartel uchaf gweithlu’r sefydliad.

Bandiau cyflog teg a chymarebau

  2023 i 2024 2022-23
  £000 £000
Swyddog gweithredol sy’n cael y cyflog uchaf 115-120 105-110
Cyflog yr aelod o staff sy’n cael y cyflog isaf 20-25 15-20
  £ £
Cyflog chwartel isaf 22,940 21,775
Cyfanswm taliadau chwartel isaf 22,940 21,775
Cyflog chwartel canolrifol 22,940 21,775
Cyfanswm taliadau chwartel canolrifol 25,017 23,602
Cyflog chwartel uchaf 27,250 25,827
Cyfanswm taliadau chwartel uchaf 28,613 26,055
  Cymhareb14 Cymhareb
Chwartel isaf 5.6:1 4.9:1
Chwartel canolrifol 5.1:1 4.6:1
Chwartel uchaf 4.5:1 4.1:1

14 Rhwng cyfanswm tâl y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf a chyfanswm tâl ar y chwartelau isaf, y canolrif a’r chwartel uchaf.

Yn 2023 i 2024 a 2022 i 2023, ni dderbyniodd unrhyw weithwyr dâl mwy na’r swyddog gweithredol sy’n derbyn y cyflog mwyaf.

Mae’r cyfanswm tâl yn cynnwys cyflog, taliadau goramser, tâl seiliedig ar berfformiad heb ei gyfuno, a buddion o fath arall. Nid yw’n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr na gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian pensiynau.

Mae’r cyflog chwartel isaf a’r cyflog chwartel canolrifol yr un fath, gan fod nifer sylweddol o staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael yr un cyflog.

Newid canrannol blynyddol yng nghyfanswm y taliadau a thaliadau bonws

  Cyflog a lwfansau % Taliadau bonws %
Cyfartaledd staff 10.9 161.0
Y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf 7.9 n/a

Yn 2020-2021, yn dilyn cymeradwyaeth gan Swyddfa’r Cabinet a Thrysorlys EM, cyflwynwyd cytundeb cyflog tair blynedd ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan gynnwys gweithwyr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Fe wnaeth y cytundeb tâl redeg am dair blynedd yn rhedeg o 1 Awst 2020 tan 31 Gorffennaf 2023. Drwy roi’r dyfarniad cyflog ar waith, cynyddwyd y tâl cyfartalog ar gyfer staff. Cytunwyd ar ddyfarniad cyflog pellach o 1 Awst 2023 ymlaen. Ar ben hynny, ar draws y Gwasanaeth Sifil, cafodd staff sy’n is na graddau’r Uwch Wasanaeth Sifil daliad heb ei gyfuno o £1,500 rhwng 2023 a 2024.

Cafodd y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf fonws yn 2023 i 2024, ond ni chafodd un yn 2022 i 2023.

Adroddiad staff

Costau a niferoedd staff (yn amodol ar archwiliad)

Costau staff

      2023 i 2024 2022-23
  Staff a
gyflogir
yn barhaol
Eraill Cyfanswm Cyfanswm
  £000 £000 £000 £000
Cyflogau a thaliadau 49,169 6,041 55,210 44,761
Costau nawdd cymdeithasol 4,599 - 4,599 3,528
Costau pensiwn 10,567 - 10,567 9,209
Costau gros 64,335 6,041 70,376 57,498

Pecynnau ymadael y Gwasanaeth Sifil a phecynnau ymadael eraill (yn amodol ar archwiliad)

Telir costau dileu swydd a chostau ymadael eraill yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil, sy’n gynllun statudol a luniwyd o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Cyfrifir y costau ymadael yn llawn yn y flwyddyn ymadael berthnasol. Pan fydd yr Adran wedi cytuno ar ymddeoliadau cynnar, mae’r costau ychwanegol yn cael eu talu gan yr Adran ac nid gan Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae costau ymddeol oherwydd salwch yn cael eu talu gan y cynllun pensiwn ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn y tablau uchod.

Rhwng 2023 a 2024, talwyd un pecyn ymadael, fel y’i datgelir yn nhabl taliadau aelodau’r bwrdd gweithredol (2022 i 2023: dim). Roedd y pecyn ymadael hwn yn ymwneud â gweithiwr y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a chafodd yr holl gostau eu talu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yn ystod 2023 i 2024, nid oedd unrhyw ymddeoliadau oherwydd salwch (2022 i 2023: un).

Costau ymgynghori ac ymgysylltu oddi ar y gyflogres (yn amodol ar archwiliad)

Yn ystod 2023 i 2024, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi adolygu ymgysylltiadau oddi ar y gyflogres lle mae’n rhaid i ni ystyried cyfryngwyr, deddfwriaeth (IR35) gan ddefnyddio canllawiau Cyllid a Thollau EM a dangosydd statws ar-lein. Rydym wedi hysbysu unrhyw gorff contractio ynghylch canlyniad y penderfyniadau ar statws fel bod didyniadau treth yn cael eu gwneud, lle bo hynny’n briodol, yn y tarddiad o daliadau a wneir mewn perthynas ag ymgysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae datgeliadau oddi ar y gyflogres ar gyfer y Swyddfa wedi’u cynnwys yn adroddiad blynyddol a chyfrifon Grŵp y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Yn ystod 2023 i 2024, codwyd £0.618 miliwn ar gyfer costau ymgynghori (2022 i 2023: £0.096 miliwn). Roedd y rhan fwyaf o’r gwariant yn 2023 i 2024 yn ymwneud â rhaglen drawsnewid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a’r rhaglen Moderneiddio Atwrneiaethau Arhosol.

Niferoedd staff (yn amodol ar archwiliad)

Roedd nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogwyd ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn fel a ganlyn:

  2023 i 2024 2022-23
Staff a gyflogir yn barhaol 1,629 1,422
Eraill 177 204
Cyfanswm 1,806 1,626

Cyfansoddiad staff

Ar ddiwedd y flwyddyn, roedd nifer y staff, ac eithrio staff yr Uwch Wasanaeth Sifil fel a ganlyn:

  31 Mawrth 2024 31 Mawrth 2023
Gwryw 789 718
Benyw 1,037 930
Cyfanswm 1,826 1,648

Uwch Weision Sifil (SCS)

Yn ystod y flwyddyn, cawsom bum rôl ar raddfa SCS:

  • SCS2 (prif weithredwr)

  • SCS1 (prif swyddog gweithredu)

  • SCS1 (dau ddirprwy gyfarwyddwr yn rhannu swydd amser llawn ar gyfer strategaeth a gwasanaethau canolog)

  • SCS1 (dirprwy gyfarwyddwr ar gyfer sicrwydd cyfreithiol a gwybodaeth)

Ar 31 Mawrth 2024, roedd y pum aelod o staff uchod yn cynnwys pedair menyw ac un dyn.

Absenoldeb salwch

Nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd ar gyfartaledd eleni oedd 8.6 diwrnod (2022 i 2023: 8.9 diwrnod gwaith).

Trosiant staff

Yn 2023 i 2024, roedd trosiant staff yn 10.2% (2022 i 2023: 9.8%). Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i fonitro cyfraddau trosiant ac yn cefnogi cynlluniau i gynnal lefel trosiant iach. Mae Arolwg Pobl blynyddol y Gwasanaeth Sifil ynghyd â darnau eraill o ymchwil, yn ein helpu i ddeall profiad ein pobl o weithio yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac i gymryd camau priodol i wella effeithiolrwydd, gan gynnwys pan fydd trosiant yn creu problemau.

Ymgysylltu â staff

Mae ein cyfradd ymateb o 76% i’r Arolwg i Bobl yn rhoi darlun da o brofiadau staff yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Roedd ein sgôr ymgysylltu yn 64%, i fyny o 63% yn ystod 2022 i 2023. O’n naw thema ymgysylltu craidd, fe wnaethom gynyddu ein sgoriau ar wyth thema, ac aros yn sefydlog ar y nawfed thema arall yr oedd gennym sgôr uchel arni eisoes.

Polisïau staff a ddefnyddiwyd yn ystod y flwyddyn

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydymffurfio â pholisi anabledd y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â recriwtio, hyfforddi a datblygu staff ag anableddau. Rydym yn recriwtio, hyfforddi a datblygu pobl ar sail eu sgiliau, eu cymhwyster a’u gallu i wneud y swydd.

Fel rhan o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, rydym yn gweithredu yn unol ag amrywiaeth o bolisïau, gweithdrefnau ac arferion adnoddau dynol, sy’n cynnwys:

  • gweithio’n hyblyg

  • bwlio ac aflonyddu

  • cyfryngu

  • recriwtio a dethol

  • cydraddoldeb ac amrywiaeth

  • rheoli presenoldeb (mae gennym nifer o staff ag anabledd lle cytunwyd ar addasiadau rhesymol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau)

  • rheoli perfformiad

  • hyfforddiant

Amser cyfleuster undebau llafur

Nifer y gweithwyr a oedd yn swyddogion undeb perthnasol yn ystod 2023 i 2024 11
Faint o weithwyr a oedd yn swyddogion undeb perthnasol yn ystod y cyfnod perthnasol a dreuliodd (a) 0%, (b) 1-50%, (c) 51-99% neu (d) 100% o’u horiau gwaith ar amser cyfleuster (a) 2, (b) 9
Canran cyfanswm y bil cyflogau a dreuliwyd ar amser cyfleuster 0.02%
Amser a dreuliwyd ar weithgareddau undebau llafur â thâl fel canran o gyfanswm oriau amser cyfleuster gyda thâl 0%

Amy Holmes
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr
Dydd Gwener 16 Gorffennaf 2024

Atebolrwydd Seneddol ac adroddiad archwilio

Pwrpas yr adroddiad archwilio ac atebolrwydd seneddol yw bodloni gofynion archwilio ac atebolrwydd Seneddol.

Cyflenwad Seneddol

Ariennir Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder o’i chyflenwad seneddol, a chan incwm sy’n deillio o ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol.

Yn yr un modd ag asiantaethau eraill y llywodraeth, rhaid i gyllid ar gyfer y dyfodol gael ei gymeradwyo gan ein hadran noddi, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a chan y Senedd. Mae cymeradwyaeth eisoes wedi cael ei rhoi ar gyfer 2024-2025 ac nid oes rheswm dros gwestiynu cyllid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y dyfodol. Felly, mae datganiadau ariannol wedi cael eu paratoi ar sail busnes byw at ddibenion adrodd ariannol a phrisio asedau.

Rheoleiddio gwariant (yn amodol ar archwiliad)

Nid oes unrhyw faterion rheoleidd-dra i adrodd arnynt.

Ffioedd a thaliadau (yn amodol ar archwiliad)

Y ffi am gofrestru atwrneiaeth yw £82.00. Mae hon yn ffi uwch o dan adran 180 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, sy’n caniatáu i’r Arglwydd Ganghellor, gyda chydsyniad Trysorlys EF, i osod ffi sy’n fwy na chost darparu’r gwasanaeth hwnnw.

Defnyddir y ffi uwch i dalu am gostau eithrio a dileu ffioedd ac i roi cymhorthdal tuag at y costau gweithredu i ddarparu goruchwyliaeth a gwasanaethau eraill. Mae costau llawn darparu gwasanaethau’r asiantaeth a’r ffioedd a godir mewn perthynas â hyn wedi’u nodi yn y tabl isod.

  Incwm gros Cost lawn Cost uned Gor-daliad/
(croes-gymhorthdal)
  £000 £000 £ £000
LPAs 102,557 79,103 58 23,454
EPAs 457 799 58 (342)
Goruchwylio dirprwyon 10,347 23,010 339 (12,663)
Penodi dirprwyon 990 4,061 340 (3,071)
Copïau swyddfa 536 800 31 (264)

Nid yw’r tabl uchod yn cynnwys incwm o ffioedd gwarcheidiaeth oherwydd y nifer isel o achosion.

Ffioedd a ddilëwyd (yn amodol ar archwiliad)

Cafodd 106,661 o ffioedd eu dileu neu eu heithrio. Cyfanswm y gwerth oedd £8.279 miliwn (2022 i 2023: 98,218 o achosion – £7.039 miliwn fel y disgrifir yn Nodyn 2). Ni chynhwysir hawlildiad o ffioedd yn y ffigurau hyn.

Adennill costau

Cawsom sefyllfa adennill costau o 106.9%, cynnydd o 97.8% y llynedd. Amlinellir hyn yn Nodyn 4 y datganiadau ariannol hyn. Cyflawnwyd y gor-adferiad hwn ar ôl tan-adennill am y tair blynedd flaenorol yn olynol.

Mae 106.9% y tu allan i’n targed goddefiant o 5%, ac mae hyn yn rhannol oherwydd y nifer uwch o atwrneiaethau arhosol sydd wedi cael eu cofrestru, ond hefyd oherwydd bydd cyfran o atwrneiaethau arhosol yn destun gwaith, a’r costau wedi’u hysgwyddo yn 2022 i 2023, a’r incwm wedi’i gydnabod yn ystod 2023 i 2024. Ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, rydym yn disgwyl adennill gormod, ac mae hyn yn bennaf oherwydd cynnydd mewn ceisiadau am atwrneiaethau arhosol, sydd wedyn yn effeithio ar ein hincwm.

Colledion a thaliadau arbennig (yn amodol ar archwiliad)

    2023 i 2024   2022-23
  Nifer £000 Nifer £000
Taliadau arbennig 51 4 59 5
Hepgoriadau ffioedd 7,249 910 7,246 902
Symiau a ddiddymir 8,036 1,049 4,550 546
Taliadau ex gratia 327 7 259 7
Cyfanswm 15,663 1,970 12,114 1,460

Adroddwyd am yr holl golledion a thaliadau arbennig ar sail croniadau.

Ildio ffioedd yn ôl disgresiwn

Rhoddir hawlildiad o ffioedd yn unol â’r offeryn statudol pan nad yw’r rhoddwr na’r cleient yn gymwys i gael esemptiad neu ddileu ffi ond y byddai talu’r ffi, ym marn y Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn achosi caledi mawr.

Rhwymedigaethau digwyddiadol pell (yn amodol ar archwiliad)

O 31 Mawrth 2024 ymlaen, nid oes unrhyw rwymedigaethau digwyddiadol pell (31 Mawrth 2023: dim).

Amy Holmes
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr
Dydd Gwener 16 Gorffennaf 2024

Tystysgrif ac adroddiad y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol i Dŷ’r Cyffredin

Barn ar y datganiadau ariannol

Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024 dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.

Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys datganiadau canlynol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus:

  • Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol ar 31 Mawrth 2024;

  • Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, Datganiad Llifoedd Arian a Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny; ac

  • y nodiadau cysylltiedig gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu pwysig.

Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r datganiadau ariannol yw’r gyfraith berthnasol a’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU.

Yn fy marn i, mae’r datganiadau ariannol:

  • yn rhoi darlun cywir a theg o gyflwr materion Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 31 Mawrth 2024 a’i gwarged net gweithredol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar y dyddiad hwnnw; ac

  • wedi’u paratoi’n briodol yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a chyfarwyddiadau Trysorlys ei Mawrhydi a gyhoeddwyd dan y ddeddf.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ym mhob ffordd o bwys mae’r incwm a’r gwariant a gofnodir yn y datganiadau ariannol wedi cael eu defnyddio at y dibenion y’u bwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodir yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Sail y farn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (y DU) a Nodyn Ymarfer 10 Archwilio Datganiadau Ariannol a Rheoleidd-dra Cyrff Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig (2022). Caiff fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yng nghyfrifoldebau’r Archwilydd er mwyn archwilio adran datganiadau ariannol fy nhystysgrif.

Mae’r safonau hynny’n ei gwneud yn ofynnol i mi a fy staff gydymffurfio â Safon Moesegol Diwygiedig y Cyngor Adrodd Ariannol 2019. Rwyf yn annibynnol ar Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad a’r datganiadau ariannol yn y DU. Mae fy staff a minnau wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn.

Credaf fod y dystiolaeth rwyf wedi’i chasglu o’r archwiliad yn ddigonol ac yn briodol er mwyn rhoi sail ar gyfer fy marn.

Casgliadau’n ymwneud â busnes byw

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod defnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o sail cyfrifyddu busnes byw wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.

Ar sail y gwaith rwyf wedi’i wneud, nid wyf wedi nodi unrhyw ansicrwydd o bwys sy’n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i barhau fel busnes byw am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o’r adeg yr awdurdodir cyhoeddi’r datganiadau ariannol.

Disgrifir fy nghyfrifoldebau a chyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes byw yn adrannau perthnasol y dystysgrif hon.

Mae’r sail cyfrifyddu busnes byw ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei mabwysiadu wrth ystyried y gofynion a nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth Trysorlys EF, sy’n mynnu bod endidau’n mabwysiadu’r sail cyfrifyddu busnes byw wrth baratoi’r datganiadau ariannol lle’r rhagwelir y byddai’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau i’r dyfodol.

Gwybodaeth arall

Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys gwybodaeth sydd yn yr Adroddiad Blynyddol, ond nid yw’n cynnwys y datganiadau ariannol na thystysgrif ac adroddiad fy archwilydd arnynt. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall.

Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cynnwys yr wybodaeth arall ac eithrio i’r graddau a nodir yn benodol yn fy nhystysgrif, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar hynny.

Fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall a, drwy wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn sylweddol anghyson â’r datganiadau ariannol neu fy ngwybodaeth a gafwyd yn yr archwiliad neu sydd yn ymddangos fel camddatganiad sylweddol fel arall.

Os byddaf yn canfod anghysonderau o bwys neu gamddatganiadau o bwys amlwg o’r fath, mae’n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad o bwys yn y datganiadau ariannol eu hunain. Ar sail y gwaith rwyf wedi’i wneud, os byddaf yn dod i’r casgliad bod camddatganiad o bwys o’r wybodaeth arall hon, mae’n rhaid i mi adrodd ar y ffaith honno.

Nid oes gennyf ddim i’w adrodd i’r perwyl hwn.

Barn ar faterion eraill

Yn fy marn i, mae’r rhan o’r Adroddiad Tâl a Staff sydd i’w harchwilio wedi’i pharatoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys EF a roddwyd o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon 2000 y Llywodraeth.

Yn fy marn i, ar sail y gwaith a wnaed yn ystod yr archwiliad:

  • mae’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd sy’n destun archwiliad wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys ei Mawrhydi a roddwyd o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon 2000 y Llywodraeth;

  • mae’r wybodaeth yn yr Adroddiadau Perfformiad ac Atebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r datganiadau ariannol wedi’u paratoi ar ei chyfer yn cyd-fynd â’r datganiadau ariannol ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Materion y cyflwynaf adroddiad arnynt drwy eithriad

Yng ngoleuni fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’i hamgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi dod o hyd i unrhyw gamddatganiadau materol yn yr Adroddiad Perfformiad na’r Adroddiad Atebolrwydd.

Nid oes gennyf ddim i’w adrodd yng nghyswllt y materion canlynol lle mae’n ofynnol i mi roi gwybod i chi os ydw i’n credu:

  • nad oes digon o gofnodion cyfrifyddu wedi’u cadw gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus neu os nad oes ffurflenni perthnasol i’n harchwiliad wedi cael eu cyflwyno gan ganghennau nad yw ein staff wedi ymweld â nhw; neu

  • Nid wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad; neu

  • os nad yw’r datganiadau ariannol a rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd a fydd yn destun archwiliad yn cyd-fynd â’r cofnodion cyfrifyddu a’r ffurflenni; neu

  • nid yw rhai o’r taliadau a nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth gan Drysorlys EF wedi cael eu gwneud neu nid yw rhannau o’r Adroddiad Tâl a Staff sydd i’w harchwilio yn cyd-fynd â’r ffurflenni a’r cofnodion cyfrifyddu; neu

  • nid yw’r Datganiad Llywodraethu’n adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EF.

Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu dros y datganiadau ariannol

Fel yr eglurir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am y canlynol:

  • cadw cofnodion cyfrifyddu priodol;

  • rhoi mynediad i’r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol at yr holl wybodaeth y mae’r rheolwyr yn ymwybodol ei bod yn berthnasol i baratoi’r datganiadau ariannol fel cofnodion, dogfennau a materion eraill;

  • rhoi’r wybodaeth a’r esboniadau ychwanegol sydd eu hangen ar y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol ar gyfer ei archwiliad;

  • rhoi mynediad digyfyngiad i’r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol i unigolion yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus y mae’r archwilydd yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol cael tystiolaeth archwilio ganddynt;

  • sicrhau bod rheolaethau mewnol o’r fath ar waith yn ôl yr angen er mwyn gallu paratoi datganiadau ariannol nad ydynt yn cynnwys camddatganiadau o bwys, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad;

  • paratoi datganiadau ariannol sy’n rhoi darlun cywir a theg a’u bod yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys EF a roddwyd o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000;

  • paratoi’r adroddiad blynyddol, sy’n cynnwys yr Adroddiad Taliadau a Staff, yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys EF a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000; ac

  • asesu gallu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i barhau fel busnes byw, gan ddatgelu, fel y bo’n berthnasol, faterion sy’n gysylltiedig â busnes byw a defnyddio’r sail cyfrifyddu busnes byw oni fo’r Swyddog Cyfrifyddu yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan y Swyddfa yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.

Cyfrifoldebau’r Archwilydd dros archwilio’r datganiadau ariannol

Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio, ardystio ac adrodd ar y datganiadau ariannol yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau o bwys, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, a rhoi tystysgrif sy’n cynnwys fy marn i. Mae sicrwydd rhesymol yn golygu lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw hynny’n gwarantu bod archwiliad sy’n cael ei gynnal yn unol ag ISA (DU) bob amser yn canfod camddatganiadau sylweddol. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wallau ac maent yn cael eu hystyried yn gamddatganiadau o bwys os, yn unigol neu gyda’i gilydd, y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr sydd wedi’u gwneud ar sail y datganiadau ariannol hyn.

I ba raddau yr ystyriwyd bod yr archwiliad yn gallu canfod achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll

Rwy’n dylunio gweithdrefnau yn unol â fy nghyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol yng nghyswllt peidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll. Nodir isod fanylion ynghylch i ba raddau y gall fy ngweithdrefnau ganfod achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll.

Canfod ac asesu risgiau posibl yn ymwneud â pheidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll

Wrth ganfod ac asesu risgiau camddatganiadau perthnasol yng nghyswllt peidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll, fe wnes i:

  • ystyried natur y sector, yr amgylchedd rheoli a pherfformiad gweithredol gan gynnwys dyluniad polisïau cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, dangosyddion perfformiad allweddol a chymhellion perfformiad;

  • holi rheolwyr, pennaeth archwilio mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennau ategol sy’n ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ynghylch:
    • nodi, gwerthuso a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau;
    • canfod ac ymateb i risgiau o dwyll; a
    • rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau gan gynnwys rheolaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n ymwneud â chydymffurfiad y Swyddfa â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a Rheoli Arian Cyhoeddus;
  • holi rheolwyr, pennaeth archwilio mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, os oeddynt:
    • yn ymwybodol o unrhyw enghreifftiau o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau;
    • yn gwybod am unrhyw dwyll gwirioneddol, amheuaeth o dwyll neu dwyll honedig,
  • yn trafod gyda’r tîm ymgysylltu ynghylch sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll.

O ganlyniad i’r gweithdrefnau hyn, ystyriais y cyfleoedd a’r cymhellion a allai fodoli yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer twyll a nodais bod y posibilrwydd mwyaf ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cydnabod refeniw, postio cyfnodolion anarferol, trafodion cymhleth, tuedd mewn amcangyfrifon rheoli a’r lwfans amhariad ar gyfer symiau derbyniadwy wedi’u goruchwylio. Yn yr un modd â phob archwiliad o dan ISAs (y DU), mae’n ofynnol i mi ddilyn gweithdrefnau penodol i ymateb i’r risg y bydd rheolwyr yn diystyru rheolaethau.

Cefais ddealltwriaeth o fframwaith awdurdod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae’r Swyddfa’n gweithredu ynddynt. Canolbwyntiais ar y cyfreithiau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar symiau a datgeliadau sylweddol yn y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Roedd y cyfreithiau a’r rheoliadau allweddol a ystyriais yn y cyd-destun hwn yn cynnwys Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000, Deddf Rheoli Arian Cyhoeddus, Deddf Cyflenwi a Dyraniadau (Prif Amcangyfrifon) 2023, cyfraith cyflogaeth a deddfwriaeth pensiynau, deddfwriaeth treth, deddfau diogelu data a Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

Ystyriais y gweithdrefnau asesu risg a ddefnyddiwyd mewn perthynas â thwyll, diffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, a rheoleidd-dra.

Ymateb yr archwiliad i risg a nodwyd

Ymateb i’r risgiau a nodwyd sy’n deillio o’r gweithdrefnau uchod:

  • Adolygais ddatgeliadau’r datganiadau ariannol a phrofi dogfennau ategol i asesu cydymffurfiad â darpariaethau’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a ddisgrifir uchod fel eu bod yn cael effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol;

  • Fe wnes i holi rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r cwnsler cyfreithiol ynghylch ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl;

  • Adolygais gofnodion cyfarfodydd y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu a’r Bwrdd ac adroddiadau archwilio mewnol; ac

  • Fe wnes i fynd i’r afael â’r risg o dwyll drwy ddiystyru rheolaethau gan reolwyr, drwy brofi priodoldeb cofnodion dyddlyfrau ac addasiadau eraill; asesu a yw’r penderfyniadau ar amcangyfrifon yn arwydd o ragfarn bosibl; a gwerthuso rhesymeg busnes unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu y tu allan i gwrs arferol busnes.

Rwyf wedi cyfleu’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a nodwyd a’r risgiau posibl o ran twyll i holl aelodau’r tîm ymgysylltu, ac roeddwn yn dal yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.

Mae disgrifiad pellach o fy nghyfrifoldebau dros archwilio’r datganiadau ariannol ar gael ar wefan y Cyngor Adroddiadau Ariannol yn: www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae’r disgrifiad hwn yn rhan o fy nhystysgrif.

Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd

Mae’n rhaid i mi gael tystiolaeth sy’n ddigon i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm sydd wedi’u cofnodi yn y datganiadau ariannol wedi cael eu defnyddio at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod trafodion ariannol y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Rwyf yn cyfathrebu â’r rheini sydd yn gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymysg materion eraill, cwmpas ac amseriad yr archwiliad a chanfyddiadau pwysig yr archwiliad, gan gynnwys unrhyw ddiffygion sylweddol mewn rheolaeth fewnol rwy’n dod o hyd iddynt yn ystod fy archwiliad.

Adroddiad

Nid oes gennyf sylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Gareth Davies
Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol
Dydd Gwener 17 Gorffennaf 2024

Swyddfa Archwilio Genedlaethol
157-197 Buckingham Palace Road
Victoria
Llundain SW1W 9SP

Datganiadau ariannol

Datganiad o (incwm) net cynhwysfawr/gwariant ar gyfer y

      2023
- 24
2022
- 23
    Nodyn £000 £000
Refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid 2 (115,046) (85,245)  
Cyfanswm incwm gweithredu   (115,046) (85,245)  
Costau staff 3 70,376 57,498  
Costau gweithredu eraill 3 30,806 25,348  
Dibrisiant, amorteiddiad a thaliadau amhariad 3 6,457 4,302  
Cyfanswm gwariant gweithredu   107,639 87,148  
(Gwarged) gweithredol net / diffyg   (7,407) 1,903  
Gwariant cynhwysfawr arall        
Enillion net ar ailbrisio asedau 5 (87) (234)  
Enillion net ar ailbrisio eiddo, offer a chyfarpar 6 (58) (149)  
Cyfanswm (incwm) net cynhwysfawr/gwariant   (7,552) 1,520  

Datganiad o’r sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2024

Ni ysgwyddwyd unrhyw wariant cynhwysfawr arall yn ystod y flwyddyn.

Mae’r holl incwm a gwariant yn deillio o weithrediadau parhaus.

Mae’r nodiadau ar adran Nodiadau i’r datganiadau ariannol yn rhan o’r datganiadau ariannol hyn.

    31 Mawrth
2024
31 Mawrth
2023
 
    Nodyn £000 £000
Asedau anghyfredol        
Asedau anniriaethol 5 8,163 8,570  
Eiddo, offer a chyfarpar 6 2,453 2,797  
Asedau hawl i ddefnyddio 7 6,113 7,185  
Cyfanswm asedau anghyfredol   16,729 18,552  
Asedau cyfredol        
Masnach a symiau 9 12,584 11,337  
derbyniadwy eraill 10 8,889 14,108  
Cyfanswm asedau cyfredol   21,473 25,445  
Cyfanswm asedau   38,202 43,997  
Rhwymedigaethau cyfredol        
Masnach a symiau 11 (44,578) (41,448)  
Rhwymedigaethau ariannol eraill 12 (2,973) (2,707)  
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol   (47,551) (44,155)  
Cyfanswm yr asedau llai’r rhwymedigaethau cyfredols   (9,349) (158)  
Rhwymedigaethau anghyfredol        
Cyfanswm rhwymedigaethau anghyfredol 12 (2,144) (4,203)  
Darpariaethau 13 (3,400) (2,622)  
Cyfanswm yr asedau llai’r rhwymedigaethau   (5,544) (6,825)  
Cyfanswm yr asedau llai’r rhwymedigaethau   (14,893) (6,983)  
    31 Mawrth
2024
31 Mawrth h
2023
 
    £000 £000  
Ecwiti trethdalwyr        
Y gronfa gyffredinol   (15,338) (7,420)  
Y gronfa ailbrisio wrth gefn   445 437  
Cyfanswm ecwiti trethdalwyr   (14,893) (6,983)  

Mae’r nodiadau ar adran Nodiadau i’r datganiadau ariannol yn rhan o’r datganiadau ariannol hyn.

Amy Holmes

Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr Dydd Gwener 16 Gorffennaf 2024

Datganiad llif arian ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth

    2023
to 24
2022
to 23
 
  Nodyn £000 £000  
Llif arian o weithgareddau gweithredol        
Gwarged gweithredol net / (diffyg)   7,407 (1,903)  
Addasiadau ar gyfer trafodion tybiannol a rhai nad ydynt yn arian parod 3 17,876 14,696  
Cynnydd mewn symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill 9 (749) (250)  
Cynnydd mewn symiau masnach a symiau taladwy eraill 11 3,137 6,466  
Gostyngiad mewn s 12 (1,793) (2,471)  
rhwymedigaethau ariannol eraill Llai symudiad mewn rhwymedigaethau lesoedd nad ydynt yn mynd drwy’r Datganiad (incwm) net cynhwysfawr / gwariant 7 1,793 2,471  
Mewnlif arian parod net o weithgareddau gweithredol   27,671 19,009  
Llif arian a ddefnyddiwyd mewn gweithgareddau buddsoddi        
Prynu eiddo, offer a chyfarpar 6 (364) (926)  
Gostyngiad mewn croniadau cyfalaf 11 (7) (1,236)  
All-lif arian parod net a ddefnyddiwyd mewn gweithgareddau buddsoddi   (371) (2,162)  
Llif arian o weithgareddau ariannu        
Ildio arian parod dros ben i’r Weinyddiaeth GyfiawnderJ   (29,952) (8,758)  
Ad-dalu cyfalaf ar lesoedds 7 (2,567) (2,471)  
All-lif arian parod net a ddefnyddiwyd mewn gweithgareddau ariannu   (32,519) (11,229)  
Cynnydd / (gostyngiad) net mewn arian parod a symiau 10 (5,219) 5,618  
Arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod ar ddechrau’r flwyddyn 10 14,108 8,490  
Arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y flwyddyn 10 8,889 14,108  

Mae’r nodiadau ar adran Nodiadau i’r datganiadau ariannol yn rhan o’r datganiadau ariannol hyn.

Datganiad newidiadau yn ecwiti trethdalwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024

    Cronfa
gyffredinol
Cronfa
ailbrisio
Cyfanswm
  Nodyn £000 £000 £000
Balans ar 01 Ebrill 2023   (7,420) 437 (6,983)
Gwarged gweithredu net am y flwyddyn   7,407 7,407
Ildio arian parod dros ben i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder   (29,952) (29,952)
Addasiadau nad ydynt yn arian parod        
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ailgodi tâl tybiannol 3 12,071 12,071
Ffi archwilio allanol tybiannol 3 81 81
Trosglwyddo asedau o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder 5 2,338 2,338
Enillion net ar ailbrisio Asedau anniriaethol 5 87 87
Eiddo, offer a chyfarpar 6 58 58
Trosglwyddiad ailbrisio   137 (137)
Balans ar 31 Mawrth 2024   (15,338) 445 (14,893)
Balans ar 01 Ebrill 2022   (10,405) 81 (10,324)
Diffyg gweithredol net am y flwyddyn   (1,903) (1,903)
Ildio arian parod dros ben i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder   (8,758) (8,758)
Addasiadau nad ydynt yn arian parod        
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ailgodi tâl tybiannol 3 11,079 11,079
Ffi archwilio allanol tybiannol 3 74 74
Trosglwyddo asedau o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder 5 2,466 2,466
Enillion net ar ailbrisio        
Asedau anniriaethol 5 234 234
Eiddo, offer a chyfarpar 6 149 149
Trosglwyddiad ailbrisio   27 (27)
Balans ar 31 Mawrth 2023   (7,420) 437 (6,983)

Mae’r nodiadau ar adran Nodiadau i’r datganiadau ariannol yn rhan o’r datganiadau ariannol hyn.

Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024

1. Datganiad polisïau cyfrifyddu

Mae’r datganiadau ariannol hyn wedi cael eu paratoi yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth 2023 i 2024 (FReM) a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Mae’r polisïau cyfrifo a gynhwysir yn FReM yn defnyddio Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y’u haddaswyd neu y’u dehonglwyd ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus.

Pan fydd FReM yn caniatáu dewis o bolisi cyfrifyddu, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dewis y polisi sydd orau am gyflwyno safbwynt cywir a theg. Mae polisïau cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’u rhoi ar waith yn gyson wrth ymdrin â’r eitemau a ystyriwyd yn berthnasol yng nghyswllt y cyfrifon.

1.a. Sail paratoi

Cyflwynir y datganiadau ariannol mewn punnoedd sterling wedi eu talgrynnu i’r mil agosaf (£000) oni nodir yn wahanol. Paratowyd y cyfrifon hyn o dan y confensiwn cost hanesyddol, ar wahân i ailbrisio asedau.

Paratowyd y datganiadau ariannol, ynghyd â’r nodiadau ar adran Nodiadau i’r datganiadau ariannol, ar sail gronnus yn unol â’r cyfarwyddyd cyfrifyddu a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei hariannu’n bennaf o ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol, ond mae hefyd yn cael cyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, o’i chyflenwad seneddol, ac os oes angen, cyllid i fodloni unrhyw ddiffyg a gynhyrchir. Gan hynny, ystyriwyd ei bod yn briodol mabwysiadu’r sail busnes byw ar gyfer paratoi’r datganiadau ariannol hyn.

1.b. Penderfyniadau sylweddol a ddefnyddiwyd wrth gynhyrchu’r datganiadau ariannol

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod bod disgwyliad y bydd yn colli credyd mewn perthynas â symiau masnach derbyniadwy ac asedau contract. Darperir manylion y dechneg amcangyfrif a’r canrannau amhariad a ddefnyddiwyd, a dadansoddiad o sensitifrwydd, yn Nodyn 9, Symiau masnach derbyniadwy a symiau derbyniadwy eraill.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd yn darparu ar gyfer ceisiadau llwyddiannus tebygol yn y dyfodol am ffioedd dileu ac esemptiadau a godir, ar sail lefelau dileu ac esemptiadau hanesyddol. Rhoddir rhagor o fanylion yn Nodyn 9, Symiau masnach derbyniadwy a symiau derbyniadwy eraill.

1.c. Newidiadau mewn polisïau cyfrifyddu a datgeliadau

Mabwysiadu safonau newydd a diwygiedig

Nid oes unrhyw safonau newydd na diwygiedig wedi cael eu mabwysiadu yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023. Cyhoeddwyd safonau, diwygiadau a dehongliadau newydd ond nid ydynt yn weithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac ni chawsant eu mabwysiadu’n gynnar

Mae Contractau Yswiriant IFRS 17 yn gofyn am ddull sy’n defnyddio llif arian wedi’i ddisgowntio yng nghyswllt cyfrifyddu ar gyfer contractau yswiriant. Mabwysiadodd yr UE y safon ym mis Tachwedd 2021, ond mae’r Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol wedi cytuno i ohirio mabwysiadu’r safon (sy’n orfodol) tan 2025-26 a dylid ei chynnwys yn FReM ar gyfer 2025-26 ar y cynharaf. Gellir caniatáu mabwysiadu IFRS 17 yn gynnar fesul achos, fel y cytunwyd gyda Thrysorlys EM. Er mwyn asesu effaith y safon, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn adolygu contractau sy’n bodloni’r diffiniad o gontractau yswiriant.

Nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn credu y bydd unrhyw safon neu ddehongliad arall newydd neu ddiwygiedig yn cael effaith sylweddol.

1.1. Ariannu

Telir am weithgareddau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn bennaf drwy ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol, ond gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd gael cyllid ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a chyllid i gwrdd ag unrhyw ddiffyg a gynhyrchir, os oes angen.

Fel y cytunwyd gyda Thrysorlys EF ac yn unol â’r gyllideb a ddirprwywyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, amcan ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw adennill o fewn 5% o’i chostau. Rhoddir manylion y perfformiad yn erbyn yr amcan hwn yn Nodyn 4, Adennill costau.

Pan fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynhyrchu gwarged arian parod, caiff hyn ei ildio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Caiff trosglwyddiadau cyllid i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac oddi wrthi eu cydnabod yn y gronfa gyffredinol ac yn y datganiad llif arian o dan y teitl ‘cyllido’.

1.2. Adroddiadau segmentol

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus un segment gweithredu i’w hadrodd o dan IFRS 8. Felly, nid yw’n paratoi dadansoddiad manwl fesul segment.

1.3. Incwm

Mae refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid yn cynnwys ffioedd am wasanaethau sy’n cael eu pennu ar sail adennill costau llawn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae incwm o ffioedd yn cynnwys symiau am wasanaethau atwrneiaeth, goruchwyliaeth, a chopïau o dystysgrifau atwrneiaeth, a ddarperir. Mae incwm yn cael ei gydnabod yn unol ag IFRS 15 Refeniw o Gontractau gyda Chwsmeriaid.

Atwrneiaethau arhosol a atwrneiaethau parhaus

Mae ffioedd atwrneiaethau’n daladwy ar ôl derbyn y cais ond, yn unol ag IFRS 15, ni fydd incwm sy’n deillio ohonynt yn cael ei gydnabod nes cwblhau’r gwasanaeth a ddarperir, naill ai wrth gofrestru’r atwrneiaeth neu os bydd camau prosesu’n dod i ben cyn cofrestru. Pan fydd cwsmeriaid yn talu ffioedd atwrneiaethau ar-lein cyn cyflwyno eu cais, mae’r cronfeydd hyn hefyd yn cael eu dal mewn rhwymedigaethau contract. Os na dderbynnir cais ar-lein ar ôl i’r cwsmer dalu, caiff y swm a dalwyd ei ad-dalu.

Goruchwylio dirprwyon

Cydnabyddir incwm goruchwylio bob dydd ar gyfer pob achos gweithredol. Mae incwm goruchwylio yn cael ei anfonebu ar gylch blynyddol hyd at y dyddiad y daw gwaith goruchwylio achos i ben, wedi’i gyfrifo ar sail pro rata.

Cydnabyddir incwm fel ased contract. Mae darpariaeth drwgddyled yn cael ei chyfrifo, ar sail y model colled credyd disgwyliedig, ac mae’n cael ei netio oddi ar asedau contract, naill ai pan fydd ffioedd yn cael eu hanfonebu neu wrth iddynt gronni.

Esemptiadau a dileu ffioedd

Mae incwm ffioedd yn cael ei gydnabod net o esemptiadau a dileu ffioedd. Mae’r cynllun dileu ffioedd wedi’i ragnodi yn Rheoliadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (Ffioedd, ac ati) 2007 a gymeradwywyd gan y Senedd, ac ni chesglir ffioedd a ddilëwyd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Rhaid gwneud cais am esemptiad neu ddileu ffi gyda’r cais cychwynnol i gofrestru atwrneiaeth neu, ar gyfer ffioedd goruchwylio, rhaid ei gyflwyno o fewn chwe mis i ddyddiad hawlio’r ffi.

Yn yr achosion lle nad yw cais am esemptiad neu ddileu ffi yn cael ei wneud adeg hawlio’r ffi, mae’n rhaid cyflwyno cais wedi’i gwblhau am esemptiad neu ddileu ffi o fewn chwe mis o anfonebu.

Pan fydd ffi wedi’i thalu ac y cytunir ar esemptiad neu ddileu ffi wedi hynny, rhoddir ad-daliad.

1.4. Buddion gweithwyr

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cronni ar gyfer cost ddisgwyliedig gwyliau blynyddol ei gweithwyr yn unol ag IAS 19 Buddion Gweithwyr. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd yn cronni ar gyfer bonysau perfformiad a ddyfarnwyd ond nad ydynt wedi cael eu talu eto.

1.5. Pensiynau

Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn gynllun buddion diffiniedig nas cyllidir, lle nad yw’r Swyddfa’n gallu nodi ei chyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sylfaenol. Yn unol â’r FReM, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyfrif am hwn fel cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod cyfraniadau sy’n daladwy i gynlluniau cyfraniadau diffiniedig fel traul yn y flwyddyn y’i codir, ac mae’r rhwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol wedi’i chyfyngu i’r swm y mae’n cytuno i’w gyfrannu at y gronfa.

1.6. Ad-daliadau tybiannol

Mae’r ad-daliad tybiannol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynrychioli defnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o wasanaethau corfforaethol.

Mae’r ffi archwilio dybiannol yn cynrychioli cost yr archwiliad allanol blynyddol a gyflawnir gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar ran y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol.

1.7. Cyfrifo treth ar werth

Priodolir TAW na ellir ei hadennill i’r categori gwariant perthnasol neu, os yw’n briodol, wedi’i chyfalafu gydag ychwanegiadau i asedau anghyfredol. Fel arall, dangosir incwm a gwariant heb gynnwys TAW.

1.8. Asedau wrthi’n cael eu hadeiladu

Bydd asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu’n cael eu prisio ar sail eu cost hanesyddol o fewn eiddo, offer a chyfarpar ac asedau anniriaethol fel y bo’n briodol, ac ni fydd y rhain yn cael eu dibrisio na’u hamorteiddio.

1.9. Asedau anniriaethol

Cydnabyddiaeth gychwynnol

Mae costau datblygu y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i ddylunio a phrofi cynnyrch meddalwedd adnabyddadwy ac unigryw, fel costau contractwyr allanol a chostau gweithwyr perthnasol, yn cael eu cydnabod fel asedau anniriaethol pan fyddant yn bodloni meini prawf y FReM, sydd wedi cael ei addasu o IAS 38 Asedau Anniriaethol. Mae gwariant arall nad yw’n bodloni’r meini prawf hyn yn cael ei nodi fel gwariant fel mae’n codi.

Rheolir meddalwedd a ddatblygir yn fewnol gan dîm Digidol y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Nes iddynt gael eu cwblhau, caiff y costau eu cynnwys yng nghyfrifon y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ar ôl eu cwblhau, trosglwyddir yr asedau i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’u cydnabod yng nghyfrifon y Swyddfa.

Trothwy cyfalafu prosiectau meddalwedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw £10,000 (gan gynnwys TAW na ellir ei hadennill).

Prisio dilynol

Ar ôl cael eu cydnabod i gychwyn, caiff asedau anniriaethol eu cydnabod ar sail eu gwerth defnydd presennol. Gan nad oes marchnad weithredol yn bodoli ar gyfer asedau anniriaethol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, asesir bod y gwerth presennol yn gost amnewid llai unrhyw amorteiddiad cronedig a cholledion yn sgil amhariadau. Bydd asedau anniriaethol yn cael eu hailbrisio ar bob dyddiad adrodd gan ddefnyddio Mynegai Prisiau’r Cynhyrchwyr a baratoir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Amorteiddiad

Mae oes ddefnyddiol meddalwedd a ddatblygir yn fewnol yn amrywio rhwng dwy a saith mlynedd. Yn unol ag IAS 38 (Asedau Anniriaethol), mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn adolygu oes economaidd ddefnyddiol ei hasedau anniriaethol ym mhob blwyddyn ariannol, ac yn asesu am amhariad.

Priodolir amorteiddiad ar sail llinell syth ar gyfraddau sydd wedi’u cyfrifo i ddileu gwerth asedau llai’r amcangyfrif o’r gwerth gweddilliol dros oes economaidd ddefnyddiol yr ased.

1.10. Eiddo, offer a chyfarpar

Cydnabyddiaeth gychwynnol

Ar ôl cael eu cydnabod i gychwyn, mae pob ased ar wahân i asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu’n cael eu datgan ar sail eu gwerth presennol ac yn cael eu hailbrisio ar bob dyddiad adrodd gan ddefnyddio mynegai prisiau’r cynhyrchwyr a baratoir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Prisio dilynol

Subsequent to initial recognition, all assets other than assets under construction are stated at current value in existing use and revalued at each reporting date using the producer price index prepared by the Office for National Statistics.

Dibrisiant

Priodolir dibrisiant ar sail llinell syth ar gyfraddau sydd wedi’u cyfrifo i ddileu gwerth asedau llai’r amcangyfrif o’r gwerth gweddilliol yn gyson dros eu hoes ddefnyddiol.

Amcangyfrifir oes fuddiol asedau o fewn yr ystodau a ganlyn:

  • gwelliannau lesddaliad – gweddill cyfnod y les
  • dodrefn a ffitiadau – 10 mlynedd
  • offer a chyfarpar – 5 i 7 mlynedd
  • technoleg gwybodaeth – 3 i 7 mlynedd

Adolygir oes ddefnyddiol asedau a chategorïau asedau bob blwyddyn.

1.11. Lesoedd

Cwmpas a gwaharddiadau – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel lesddeiliad

Yn unol ag IFRS 16 Lesoedd, mae contractau, neu rannau o gontractau, sy’n cyfleu’r hawl i reoli’r defnydd o ased am gyfnod o amser, yn cael eu hystyried fel lesoedd.

Caiff contractau ar gyfer gwasanaethau eu gwerthuso i benderfynu a ydynt yn cyfleu’r hawl i reoli’r defnydd o ased a ddynodwyd, gan ymgorffori’r hawl i gael yr holl fanteision economaidd yn sylweddol o’r ased ac i gyfeirio’r defnydd ohono. Os felly, caiff y rhan berthnasol o’r contract ei thrin fel les.

Mae IFRS 16, fel y’u haddaswyd gan FReM, wedi cael eu cymhwyso i lesoedd sydd â dim ystyriaeth neu ystyriaeth nominal (hynny yw, yn is o lawer na gwerth y farchnad) a threfniadau ar gyfer llety rhwng adrannau’r llywodraeth.

Wrth wneud yr asesiadau uchod, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eithrio dau fath o les. Yn gyntaf, y rheini sy’n gysylltiedig ag eitemau gwerth isel, y mae’n eu hystyried fel y rheini lle byddai’r ased sylfaenol yn costio llai na £10,000 yn newydd, ar yr amod nad yw’r eitemau hynny’n ddibynnol iawn ar eitemau eraill neu wedi’u hintegreiddio â nhw. Yn ail, contractau sy’n para llai na deuddeg mis (sy’n cynnwys y cyfnod na ellir ei ganslo ynghyd ag unrhyw opsiynau ymestyn y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhesymol sicr o’u harfer ac unrhyw opsiynau terfynu y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhesymol sicr o beidio â’u hymarfer).

Cydnabyddiaeth gychwynnol – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel lesddeiliad

Ar ddechrau les, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ased hawl i ddefnyddio ac atebolrwydd prydles.

Mae rhwymedigaeth y les yn cael ei mesur yn ôl gwerth gweddill y taliadau les, a ddiystyrir naill ai gan y gyfradd llog sydd ymhlyg yn y les, neu lle nad oes modd pennu hyn yn rhwydd, cyfradd fenthyca Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Argymhellir y gyfradd hon yn flynyddol gan Drysorlys EF ac mae’n berthnasol i lesoedd sy’n dechrau neu sy’n cael eu hailfesur yn y flwyddyn honno. Trosglwyddodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i IFRS16 yn 2021-2022, a gostyngwyd y lesoedd a gyfalafwyd ar gyfradd Trysorlys EF yn 2021, sef 0.91%.

Os yw’r les yn cynnwys opsiynau ymestyn neu derfynu, bydd taliadau’r les ar gyfer y cyfnod na ellir ei ganslo ynghyd ag unrhyw opsiynau ymestyn neu derfynu y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhesymol sicr o’u hymarfer/ o beidio â’u hymarfer.

Nid yw mesur taliadau prydles yn cynnwys unrhyw TAW sy’n daladwy, ac mae TAW na ellir ei hadennill yn cael ei gwario ar y pwynt y mae’n ddyledus yn unol â Lifiau IFRIC 21. Pan fydd Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth yn trosglwyddo cost TAW sy’n daladwy i brif landlord, ond nad yw wedi dewis trethu’r eiddo, ni fydd y gost TAW a drosglwyddir yn cael ei chynnwys, mae wedi’i chynnwys yn y rhwymedigaeth lesoedd a gwerth asedau y mae hawl i’w defnyddio.

Mae’r ased hawl i ddefnyddio yn cael ei fesur ar sail gwerth rhwymedigaeth y les, wedi’i addasu ar gyfer: unrhyw daliadau les a wnaed cyn y dyddiad cychwyn; unrhyw gymhellion les a gafwyd; unrhyw gostau cynyddrannol o gael y les; ac unrhyw gostau o gael gwared â’r ased ac adfer y safle ar ddiwedd y les.

Mesur dilynol – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel lesddeiliad

Bydd rhwymedigaeth y les yn cael ei haddasu ar gyfer cronni llog, ad-daliadau, ailasesiadau ac addasiadau. Mae ailasesu yn golygu ailarfarnu tebygolrwydd yr opsiynau a roddir gan gontract y les bresennol.

Ar ôl y gydnabyddiaeth gychwynnol, defnyddir y model gwerth teg i fesur yr asedau hawl i’w defnyddio. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried bod y model costau (gan gyfeirio at rwymedigaeth y les) yn brocsi rhesymol ar gyfer gwerth teg, yn achos lesoedd nad ydynt ar gyfer eiddo, ac ar gyfer lesoedd eiddo sy’n llai na phum mlynedd neu lle adolygir rhent yn rheolaidd. Ar gyfer lesoedd eraill, bydd yr ased yn cael ei gario ar swm wedi’i ailbrisio.

Bydd gwerth yr ased yn cael ei addasu ar gyfer amorteiddiad ac amhariad dilynol, ac ar gyfer ailasesu ac addasu rhwymedigaeth y les fel y disgrifir uchod. Os yw swm gostyngiad i’r ased yn fwy na gwerth cario ymlaen yr ased, cydnabyddir y swm dros ben mewn gwariant. Mae gwariant ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn cynnwys llog ar y rhwymedigaeth lesoedd a thâl amorteiddiad llinell syth ar yr ased hawl i ddefnyddio dros oes y les, ynghyd ag unrhyw amhariad ar yr ased hawl i ddefnyddio ac unrhyw newid mewn taliadau les amrywiol.

Amcangyfrifon a dyfarniadau

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi penderfynu ar delerau’r les drwy asesu lefel y sicrwydd ynghylch a fydd opsiynau terfynu neu ymestyn yn cael eu defnyddio.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi penderfynu bod y model cost yn brocsi rhesymol ar gyfer gwerth teg, oherwydd bod y rhenti sy’n daladwy yn cyd-fynd â chyfraddau’r farchnad agored.

1.12. Offerynnau ariannol

Offerynnau Ariannol IFRS 7: Mae datgeliadau’n gofyn am ddatgelu’r rôl y mae offerynnau ariannol wedi’i chwarae yn ystod y flwyddyn o ran creu neu newid y risg a wynebir gan endid wrth gyflawni ei fusnes. Nodir hyn yn Nodyn 8 y datganiadau ariannol hyn.

1.13. Arian parod a chyfwerth ag arian parod

Mae arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod yn cynnwys balansau banc sy’n cael eu dal gyda banciau masnachol, gan gynnwys y rheini a weinyddir drwy Wasanaeth Bancio’r Llywodraeth.

1.14. Darpariaethau

Mae’r darpariaethau’n adlewyrchu’r amcangyfrif gorau o’r gwariant sy’n ofynnol i setlo’r rhwymedigaeth. Nid yw amcangyfrif darpariaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer llif arian yn cael ei ddiystyru, gan nad yw’r effaith yn sylweddol.

2. Incwm

  2023
i 24
2022
i 23
  £000 £000
Incwm ffioedd gros    
Atwrneiaethau arhosol 109,390 79,434
Atwrneiaethau parhaus 462 522
Goruchwylio dirprwyon 12,495 11,636
Penodi dirprwyon 1,193 1,029
Arall 695 565
  124,235 93,186
Esemptiadau a dileu ffioedd    
Atwrneiaethau arhosol (5,924) (4,646)
Atwrneiaethau parhaus (5) (10)
Goruchwylio dirprwyon (2,148) (2,222)
Penodi dirprwyon (202) (161)
Ildio ffioedd yn ôl disgresiwn (910) (902)
  (9,189) (7,941)
Cyfanswm 115,046 85,245

3. Costau staff

  2023
i 2024
2022
i 2023
  £000 £000
Costau staff    
Cyflogau wythnosol a misol 55,210 44,761
Costau nawdd cymdeithasol 4,599 3,528
Costau pensiwn eraill 10,567 9,209
  70,376 57,498
Costau gweithredu eraill    
Gwasanaethau ymwelwyr 2,362 2,770
Postio 7,571 5,134
Gwasanaethau a rennir 1,646 1,485
Adeiladau, cynnal a chadw a chyfleustodau 3,419 2,531
Lesoedd gwerth isel a thymor byr (1)
Llog les 60 67
Nwyddau traul y swyddfa 218 466
Gwasanaethau proffesiynol 811 437
Hyfforddiant a chostau eraill sy’n gysylltiedig â staff 371 262
Teithio, cynhaliaeth a lletygarwch 139 129
Diddymu symiau masnachu a symiau derbyniadwy eraill na ellir eu casglu 1,049 546
Costau eraill 1,741 1,128
Costau nad ydynt yn arian parod    
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ailgodi tâl tybiannol 12,071 11,079
Ffi archwilio allanol tybiannol 81 74
Gostyngiad mewn darpariaeth drwgddyledion (498) (759)
Symudiad yn y ddarpariaeth ar gyfer costau cyfreithiol (235)
30,806 25,348  
Taliadau dibrisiant, amorteiddiad ac amhariads    
Amorteiddiad asedau anniriaethol 2,832 1,674
Dibrisiant eiddo, offer a chyfarpar 766 406
Dibrisiant asedau hawl i ddefnyddio 2,859 2,301
Ailbrisio gwrthdroad amhariadau blaenorol - (79)
6,457 4,302  
Cyfanswm 107,639 87,148

4. Adennill costau

Mae’n rhaid i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn unol â Rheoli Arian Cyhoeddus, ddatgelu canlyniadau ar gyfer meysydd y gweithgareddau a wnaeth yn ystod y flwyddyn ariannol, lle codwyd ffioedd a thaliadau. I gael manylion am ffioedd a chymorthdaliadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sydd ar gael i gwsmeriaid, ewch i

www.gov.uk/government/organisations/office-of-the-public-guardian

Darperir cymhorthdal er mwyn gwneud yn siŵr na wrthodir gwasanaethau i gleientiaid am nad ydynt yn gallu fforddio’r ffioedd gofynnol.

  2023
I 2024
2022
I 2023
  £000 £000
Incwm (115,046) (85,245)
Gwariant 107,639 87,148
(Gwarged) gweithredol net / diffyg (7,407) 1,903
  % %
Adennill costau 106.9 97.8
(Tu allan)/tu mewn i oddefiant o 5% 2.8  

Mae Adran 180 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn caniatáu i’r Arglwydd Ganghellor, gyda chydsyniad Trysorlys EF, ragnodi ffi sy’n fwy na chost darparu’r gwasanaeth hwnnw. Ers mis Ebrill 2017, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi defnyddio’r pŵer hwn i godi ffi uwch ar gyfer cofrestru atwrneiaethau i dalu am gostau dileu ffioedd ac esemptiadau rhag talu ffioedd ac i sybsideiddio costau gweithredu gwasanaethau goruchwylio.

Mae rhagor o wybodaeth am berfformiad yn erbyn y targed adennill costau (fel y cytunwyd arno gyda Thrysorlys EF ac yn unol â dirprwyaeth y gyllideb gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder) ar gael yn yr adroddiad atebolrwydd ac archwilio seneddol ar adran Atebolrwydd Seneddol ac adroddiad archwilio.

5. Asedau anniriaethol

  Meddalwedd Asedau sy’n cael eu
adeiladu
Cyfanswm
  £000 £000 £000
Cost neu brisiant      
Ar 1 Ebrill 2023 19,693 19,693
Trosglwyddiad o’r MOJ 2,338 2,338
Ail-gategoreiddio 2,338 (2,338)
Gwarediadau (31) (31)
Ailbrisio 247 247
Ar 31 Mawrth 2024 22,247 22,247
Amorteiddiad      
Ar 1 Ebrill 2023 11,123 11,123
Priodolwyd yn ystod y flwyddyn 2,832 2,832
Gwarediadau (31) (31)
Ailbrisio 160 160
Ar 31 Mawrth 2024 14,084 14,084
Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 2024 8,163 8,163

Mae’r holl asedau anniriaethol yn eiddo llwyr i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

  Meddalwedd Asedau wrthi’n
cael eu hadeiladu
Cyfanswm  
  £000 £000 £000
Ar 1 Ebrill 2022 18,625 18,625
Trosglwyddiad o’r MOJ 2,466 2,466
Ail-gategoreiddio 2,466 (2,466)
Gwarediadau (1,935) (1,935)
Ailbrisio 537 537
Ar 31 Mawrth 2023 19,693 19,693
Amorteiddiad      
Ar 1 Ebrill 2022 11,081 11,081
Priodolwyd yn ystod y flwyddyn 1,674 1,674
Gwarediadau (1,935) (1,935)
Ailbrisio 303 303
Ar 31 Mawrth 2023 11,123 11,123
Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 2023 8,570 8,570

6. Eiddo, offer a chyfarpar

  Lesddaliad
gwelliannau
TG
cyfarpar
Dodrefn,
ffitiadau
a chyfarpar
Asedau sy’n cael eu
adeiladu
Cyfanswm
Cost neu brisiad          
Ar 1 Ebrill 2023 2,394 1,426 918 4,738
ychwanegiadau (45) 409 364
Ailddosbarthiadau (65) 65
Ailbrisiad (710) 17 36 (657)
Ar 31 Mawrth 2024 1,684 1,333 1,019 409 4,445
Dibrisiant          
Ar 1 Ebrill 2023 154 1,223 564 1,941
Codir tâl yn y flwyddyn 604 33 129 766
Gwarediadau
ailbrisio (757) 16 26 (715)
Ar 31 Mawrth 2024 1 1,272 719 1,992
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2024 1,683 61 300 409 2,453

Mae’r holl eiddo, peiriannau ac offer yn eiddo i’r OPG, yn hytrach na chael eu prydlesu.

  Lesddaliad
gwelliannau
TG
cyfarpar
Dodrefn,
ffitiadau
a chyfarpar
Asedau sy’n cael eu
adeiladu
Cyfanswm
Cost neu brisiad          
Ar 1 Ebrill 2022 300 1,198 1,087 1,352 3,937
ychwanegiadau 194 732 926
Ailddosbarthiadau 2,032 52 (2,084)
Gwarediadau (312) (312)
Ailbrisiad 62 34 91 187
Ar 31 Mawrth 2023 2,394 1,426 918 4,738
Dibrisiant          
Ar 1 Ebrill 2022 1,162 726 1,888
Codir tâl yn y flwyddyn 281 28 97 406
Gwarediadau (312) (312)
Ailbrisiad (127) 33 53 (41)
Ar 31 Mawrth 2023 154 1,223 564 1,941
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2023 2,240 203 354 2,797

7. Lesoedd

Asedau hawl i ddefnyddio

  2023
I 2024
2022
I 2023
  £000 £000
Cost neu brisiant    
Ar 1 Ebrill 10,591 10,255
Ychwanegiadau 1,787 336
Ar 31 Mawrth 12,378 10,591
Dibrisiant    
Ar 1 Ebrill 3,406 1,105
Priodolwyd yn ystod y flwyddyn 2,859 2,301
Ar 31 Mawrth 6,265 3,406
Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 6,113 7,185

Mae asedau hawl i ddefnyddio Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn lesoedd ar y swyddfeydd yn Nottingham a Birmingham.

Rhwymedigaethau lesu

  31 Mawrth
2024
31 Mawrth
2023
  £000 £000
Heb fod yn hwyrach na blwyddyn 3,014 2,754
Yn hwyrach na blwyddyn a heb fod yn hwyrach na phum mlynedd 2,152 4,233
Rhwymedigaethau gros 5,166 6,987
Llai elfen llogt (49) (77)
Gwerth presennol rhwymedigaethau 5,117 6,910

Yn Nodyn 12, cyflwynir dadansoddiad o lif arian gostyngol sy’n ymwneud ag atebolrwydd lesoedd, rhwng rhwymedigaethau cyfredol ac anghyfredol.

Symiau a gydnabyddir yn y Datganiad o (incwm) net cynhwysfawr/gwariant

  2023
I 2024
2022
I 2023
  £000 £000
Amorteiddiad 2,859 2,301
Costau llog 60 67
Cyfanswm 2,919 2,368

Symiau a gydnabyddir yn y Datganiad llifoedd arian

  2023
I 2024
2022
I 2023
  £000 £000
Ad-dalu cyfalaf ar lesoedd 2,567 2,471
Costau llog o fewn y gost gweithredu 60 67
Cyfanswm 2,627 2,538

8. Offerynnau ariannol

Offerynnau Ariannol IFRS 7: Mae datgeliadau’n gofyn am ddatgelu’r rôl y mae offerynnau ariannol wedi’i chwarae yn ystod y flwyddyn o ran creu neu newid y risg a wynebir gan endid wrth gyflawni ei fusnes.

Gan fod gofynion arian parod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu bodloni drwy’r broses Amcangyfrifon, nid yw offerynnau ariannol yn chwarae cymaint o rôl wrth greu a rheoli risg ag y byddent mewn corff heb fod yn y sector cyhoeddus.

Caiff symiau derbyniadwy eu prisio o dan y model colli credyd disgwyliedig a nodir yn IFRS 9. Cydnabyddir symiau derbyniadwy ar sail amhariad a cholled oes (cam tri o dan IFRS 9). Nodir y dechneg amcangyfrif a ddefnyddir i brisio symiau derbyniadwy yn Nodyn 9, ynghyd â dadansoddiad o sensitifrwydd.

Mae’r holl arian parod yn cael ei ddal yng Ngwasanaeth Bancio’r Llywodraeth. Pan fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynhyrchu gwarged arian parod, caiff hyn ei ildio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystod y flwyddyn.

Mae gwerth cario ymlaen asedau a rhwymedigaethau ariannol, ac eithrio symiau derbyniadwy a symiau taladwy gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder fel a ganlyn:

  31 Mawrth
2024
31 Mawrth
2023
  £000 £000
Arian parod a chyfwerth ag arian parod - GBS 8,889 14,108
Masnach a symiau derbyniadwy eraill 12,033 11,155
Masnach a symiau taladwy eraill (41,472) (40,278)
Rhwymedigaethau ariannol eraill (5,117) (6,910)
Cyfanswm (25,667) (21,925)

Mae £31.015 miliwn o rwymedigaethau contract wedi cael eu cynnwys mewn symiau masnach taladwy a symiau taladwy eraill, sy’n cyfrif am incwm atwrneiaeth sydd wedi’i ohirio gan nad yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi prosesu’r ceisiadau cysylltiedig eto (31 Mawrth 2023: £31.858 miliwn).

9. Masnach a symiau derbyniadwy eraill

  31 Mawrth
2024
31 Mawrth
2023
  £000 £000
Symiau masnach derbyniadwy 4,212 4,907
Asedau contract 11,649 11,327
Amhariad ar gyfer drwgddyledion a dyledion amheus (4,830) (5,746)
11,031 10,488  
Symiau TAW derbyniadwy 182 81
Symiau derbyniadwy staff 402 490
Swm sy’n ddyledus gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder 551 182
Symiau sy’n ddyledus gan adrannau eraill y llywodraeth 112 29
Rhagdaliadaus 306 67
Cyfanswm 12,584 11,337

Gellir casglu holl symiau derbyniadwy Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o fewn blwyddyn.

Mae’r amhariad ar ddrwgddyledion a dyledion amheus fel a ganlyn:

  31 Mawrth
2024
31 Mawrth
2023
  £000 £000
Drwgddyledion a dyledion amheus 3,830 4,392
Darpariaeth canslo ffioedd 29 132
Darpariaeth dileu ffioedd ac esemptiadau 971 1,222
Cyfanswm 4,830 5,746

Codir tâl am y symudiad yn y ddarpariaeth dileu ffioedd ac esemptiadau yn erbyn incwm.

Amhariad ar gyfer drwgddyledion a dyledion amheus

Mae amcangyfrif y ddarpariaeth ar gyfer drwgddyledion a dyledion amheus yn cynnwys:

  • dyledion sy’n heneiddio ar sail yr anfoneb gynharaf nad yw’r cwsmer wedi’i thalu
  • grwpio dyledion ar sail statws yr achos fel rhai ‘byw’ neu ‘wedi’u ‘terfynu’
  • amharu ar grwpiau dyledion yn ôl canrannau sy’n adlewyrchu gweithgarwch yn y gorffennol a disgwyliadau o ran perfformiad wrth gasglu dyledion yn y dyfodol

Dyma’r grwpiau oedran dyled a’r canrannau amhariad a ddefnyddiwyd rhwng 31 Mawrth 2024 a 31 Mawrth 2023:

  Mwy na
tair blynedd
Rhwng
dwy a
tair blynedd
Rhwng
un a
dwy flynedd
Llai na
un flwyddyn
  % % % %
Achosion byw        
Lleyg 65 25 25 7.5
Goruchwylwyr Corff Proffesiynol, 50 10 10 5
Corff cyhoeddus 65 30 30 12.5
Achosion a derfynwyd        
31 Mawrth 2024 90 80 80 70

Adolygir y grwpiau a’r canrannau hyn yn flynyddol. Mae’r canrannau a gymhwyswyd yn seiliedig ar y data sydd ar gael a gwybodaeth y rheolwyr am y sylfaen cwsmeriaid. Er mwyn asesu colledion credyd disgwyliedig yn y dyfodol, rhaid defnyddio technegau amcangyfrif a barn rheolwyr: efallai na fydd y colledion credyd gwirioneddol yr un fath â’r ddarpariaeth a wnaed.

Cynhaliwyd dadansoddiad o sensitifrwydd, gan ddangos yr effeithiau posibl canlynol o ran cynnydd/(gostyngiad) yn y canrannau amhariad:

Cynnydd/(gostyngiad)
yn y ganran amhariad
-10%* -5% +5% +10%
Cynnydd/(gostyngiad) yn y ddarpariaeth £million £million £million £million
Achosion byw (0.9) (0.6) 0.6 1.2
Achosion a derfynwyd (0.3) (0.1) 0.1 0.3
Cyfanswm (1.2) (0.7) 0.7 1.5

*Darperir achosion byw ar gyfer dirprwyon lleyg a phroffesiynol o dan un flwyddyn yn erbyn llai na 10%. Mae’r cyfrifiad hwn yn tybio na ddarperir ar eu cyfer.

Darpariaeth esemptiadau a dileu ffioedd

Bydd ceisiadau i ddileu ffioedd ac esemptiadau yn cael eu derbyn a’u caniatáu ar gyfer rhai o’r ffioedd y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi anfonebu neu wedi eu cronni. Felly, mae darpariaeth yn cael ei chydnabod yn y symiau derbyniadwy ar sail lefelau dileu ffioedd ac esemptiadau a ganiatawyd yn y gorffennol. Tybir bod nifer yr achosion hanesyddol o ddileu ffioedd ac esemptiadau yn gynrychioliadol o nifer yr achosion yn y dyfodol.

10. Arian parod a chyfwerth ag arian parod

  2023
i 2024
2022
I 2023
  £000 £000
Ar 1 Ebrill 14,108 8,490
Newid net yn y balans (5,219) 5,618
Ar 31 Mawrth 8,889 14,108

Mae holl arian parod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei ddal yng Ngwasanaeth Bancio’r Llywodraeth.

11. Masnach a symiau taladwy eraill

  31 Mawrth
2024
31 Mawrth
2023
  £000 £000
Symiau masnach taladwy 925 316
Trethi a nawdd cymdeithasol sy’n daladwy 993 776
Swm sy’n ddyledus i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder 3,106 1,170
Symiau taladwy eraill 1,771 1,576
Croniadau 6,768 5,752
Rhwymedigaethau contract 31,015 31,858
Cyfanswm 44,578 41,448

Mae’r holl symiau taladwy i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ddyledus o fewn blwyddyn.

Roedd symudiadau atebolrwydd contract drwy gydol y flwyddyn fel a ganlyn:

  2023
i 2024
2022
i 2023
  £000 £000
Ar 1 Ebrill 31,858 25,838
Incwm atwrneiaeth a gydnabuwyd yn ystod y flwyddyn (103,923) (75,300)
Incwm gohiriedig atwrneiaethau 103,080 81,320
Ar 31 Mawrth 31,015 31,858

12. Rhwymedigaethau ariannol eraill

  31 Mawrth
2024
31 Mawrth
2023
  £000 £000
Rhwymedigaethau lesoedd – cyfredol 2,973 2,707
Rhwymedigaethau lesoedd – anghyfredol 2,144 4,203
Cyfanswm 5,117 6,910

Mae rhagor o wybodaeth am rwymedigaethau lesoedd a’r asedau hawl i ddefnyddio cysylltiedig ar gael yn Nodyn 7.

13. Darpariaethau

  Dadfeiliadau Arall Cyfanswm
  £000 £000 £000
Ar 1 Ebrill 2023 2,387 235 2,622
Darparwyd yn ystod y flwyddyn 1,013 - 1,013
Symiau a wrthdrowyd heb eu defnyddio - (235) (235)
Ar 31 Mawrth 2024 3,400 - 3,400
Ar 1 Ebrill 2022 2,051 235 2,286
Darparwyd yn ystod y flwyddyn 336 - 336
Darparwyd yn ystod y flwyddyn - - -
Ar 31 Mawrth 2023 2,387 235 2,622

Dyma’r amseroedd disgwyliedig ar gyfer llif arian:

  Dadfeiliadau Arall Cyfanswm
  £000 £000 £000
Heb fod yn hwyrach na blwyddyn - - -
Rhwng un a phum mlynedd 3,400 - 3,400
Ar 31 Mawrth 2024 3,400 - 3,400
Heb fod yn hwyrach na blwyddyn - - -
Rhwng un a phum mlynedd 2,387 235 2,622
Ar 31 Mawrth 2023 2,387 235 2,622

Dadfeiliadau

Mae’r ddarpariaeth dadfeiliadau yn ymwneud ag amcangyfrif o gostau dadfeiliadau ar swyddfeydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Nottingham a Birmingham ar ddiwedd telerau eu les.

14. Ymrwymiadau

Ar 31 Mawrth 2024, nid oedd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus unrhyw ymrwymiadau sylweddol o dan gontractau eraill nad oes modd eu canslo (31 Mawrth 2023: dim).

15. Rhwymedigaethau ac asedau digwyddiadol

31 Mawrth 2024, roedd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus un rhwymedigaeth ddigwyddiadol o £235,00 mewn perthynas ag achos cyfreithiol, a dim asedau digwyddiadol (31 Mawrth 2023: dim). Cafodd y rhwymedigaeth ddigwyddiadol ei dosbarthu’n flaenorol fel darpariaeth, ond mae’r tebygolrwydd o all-lif economaidd wedi dod yn bellach.

16. Trafodion partïon cysylltiedig

Un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Ystyrir y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn barti cysylltiedig. Yn ystod y cyfnod, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cael nifer o drafodion sylweddol gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Mae ad-daliad y Weinyddiaeth Gyfiawnder a ddatgelwyd yn Nodyn 3 yn ddosraniad o orbenion gan gynnwys Adnoddau Dynol, cyllid, TG ac ystadau i holl adrannau ac asiantaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar sail dybiannol.

Roedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd wedi cael trafodion gydag adrannau ac endidau eraill y llywodraeth.

Nid oes unrhyw aelod o fwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, staff rheoli allweddol na phartïon cysylltiedig eraill wedi cynnal unrhyw drafodion gyda’r Swyddfa yn ystod y flwyddyn ariannol.

17. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Yn unol â gofynion IAS 10 Digwyddiadau ar ôl y Cyfnod Adrodd, ystyrir digwyddiadau hyd at y dyddiad yr awdurdodir cyhoeddi’r datganiadau ariannol, a ddehonglir fel dyddiad Tystysgrif ac Adroddiad y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol.

Nid oedd materion perthnasol i sôn amdanynt.

Annex

Targedau perfformiad

Dangosydd effaith: amser clirio gwirioneddol cyfartalog ar gyfer atwrneiaethau Y targed amser clirio cyfartalog yw 40 diwrnod gwaith.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn cyfrifo nifer y diwrnodau gwaith ar gyfartaledd a gymerir i gofrestru ac anfon pob atwrneiaeth mewn cyfnod adrodd penodol. Dyma’r amser a gymerir rhwng dyddiad derbyn y cais a’r dyddiad anfon.

O’r holl atwrneiaethau gyda dyddiad anfon o fewn cyfnod adrodd, caiff nifer y diwrnodau gwaith (ac eithrio gwyliau banc a phenwythnosau) rhwng y ‘dyddiad anfon’ a’r ‘dyddiad derbyn’ eu cyfrif ac yna cynhyrchir cyfartaledd ar sail nifer y ceisiadau.

‘Dyddiad derbyn’ yw diwrnod derbyn y cais gan y Swyddfa, ynghyd â thaliad dilys, neu, fel arall, dyddiad y penderfyniad ar gyfer cais llwyddiannus am esemptiad neu ddileu ffi. Dyma’r adeg y bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dechrau prosesu’r cais.

‘Dyddiad anfon’ yw’r dyddiad y caiff yr atwrneiaeth gofrestredig ei hanfon fel rhan olaf y broses, sydd wedyn yn dangos bod y cais wedi’i gofrestru ar ein systemau rheoli achosion mewnol.

‘Cyflawnwyd i31 Mawrth 2024’ Cyfartaledd amser clirio gwirioneddol o 76 diwrnod gwaith (ar gyfer ACLlau ac EPAs) yn erbyn targed o 40 diwrnod gwaith.

Targedau perfformiad

Dangosydd effaith: amser clirio gwirioneddol cyfartalog ar gyfer atwrniaethau

Y targed amser clirio cyfartalog yw 40 diwrnod gwaith.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn cyfrifo nifer y diwrnodau gwaith ar gyfartaledd a gymerir i gofrestru ac anfon pob atwrneiaeth mewn cyfnod adrodd penodol. Dyma’r amser a gymerir rhwng dyddiad derbyn y cais a’r dyddiad anfon.

Dull cyfrifo

O’r holl atwrniaethau gyda dyddiad anfon o fewn cyfnod adrodd, caiff nifer y diwrnodau gwaith (ac eithrio gwyliau banc a phenwythnosau) rhwng y ‘dyddiad anfon’ a’r ‘dyddiad derbyn’ eu cyfrif ac yna cynhyrchir cyfartaledd ar sail nifer y ceisiadau.

‘Dyddiad derbyn’ yw diwrnod derbyn y cais gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ynghyd â thaliad dilys, neu, fel arall, dyddiad y penderfyniad ar gyfer cais llwyddiannus am esemptiad neu ddileu ffi. Dyma’r adeg y bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dechrau prosesu’r cais.

‘Dyddiad anfon’ yw’r dyddiad y caiff yr atwrneiaeth gofrestredig ei hanfon fel rhan olaf y broses, sydd wedyn yn dangos bod y cais wedi’i gofrestru ar ein systemau rheoli achosion mewnol.

Ffynhonnell data

Systemau rheoli achosion mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2024

Amser cyfartalog clirio gwirioneddol o 76 diwrnod gwaith (LPA ac EPA) yn erbyn targed o 40 diwrnod gwaith.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: canolfan cyswllt cwsmeriaid

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn mesur cymorth ac arweiniad amserol a chywir ar gyfer holl wasanaethau’r OPG, a chyfeirio at wasanaethau’r Llys Gwarchod (CoP) lle bo’n briodol.

Dull cyfrifo

Nifer y galwadau a atebwyd o fewn pum munud ynghyd â nifer y galwadau y rhoddwyd y gorau iddynt o fewn pum munud wedi’i rannu â chyfanswm y galwadau a atebwyd ynghyd â chyfanswm y galwadau y rhoddwyd y gorau iddynt. Mae galwadau sy’n cael eu hailgyfeirio y tu allan i’r cwmpas yn cael eu tynnu o gyfanswm y galwadau er mwyn osgoi eu cyfrif ddwywaith, gan fod y rhain yn cael eu hadrodd ar wahân lle bo angen.

Ffynhonnell data

OPG’s system rheoli data teleffoni.

Cyflawnwyd i 31 Mawrth 2024

Roedd canran y galwadau a atebwyd o fewn pum munud yn 31% yn erbyn targed o 90%.

Dangosydd effaith: Arolygon boddhad cwsmeriaid digidol yr OPG

Y ganran darged o gwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â gwasanaethau digidol yr OPG yw 80%.

Pwrpas

Mae’r dangosydd effaith hwn yn helpu i sicrhau ein bod yn datblygu ein gwasanaethau digidol i fodloni ein anghenion cwsmeriaid.

Dull cyfrifo

Nifer y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ gyda gwasanaethau digidol wedi’u rhannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg a ddaeth i law a atebodd y cwestiwn hwn.

Ffynhonnell data

Arolwg boddhad cwsmeriaid offeryn digidol LPA.

Cyflawnwyd i 31 Mawrth 2024

Sgôr arolwg boddhad cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 85% ar gyfer ein gwasanaeth ‘defnyddio LPA’, 87% ar gyfer ein gwasanaeth ‘gwneud LPA’, ac 80% ar gyfer ein gwasanaeth ‘cwblhau adroddiad dirprwy’.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: canolfan cyswllt cwsmeriaid

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn mesur cymorth ac arweiniad amserol a chywir ar gyfer holl wasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a chyfeirio at wasanaethau’r Llys Gwarchod lle bo hynny’n briodol.

Dull cyfrifo

Nifer y galwadau a atebwyd o fewn pum munud a nifer y galwadau sy’n cael eu gadael o fewn pum munud wedi’u rhannu â chyfanswm y galwadau a atebwyd a chyfanswm y galwadau a gafodd eu gadael. Mae galwadau sy’n cael eu hailgyfeirio y tu allan i’r cwmpas yn cael eu tynnu o gyfanswm y galwadau er mwyn osgoi eu cyfrif ddwywaith gan fod y rhain yn cael eu hadrodd ar wahân pan fo angen.

Ffynhonnell data

System rheoli data teleffoni Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2024

Roedd canran y galwadau a atebwyd o fewn pum munud yn 31% yn erbyn targed o 90%.

Dangosydd effaith: Arolygon digidol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o fodlonrwydd cwsmeriaid

Y ganran darged o gwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘eithaf bodlon’ â gwasanaethau digidol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw 80%.

Pwrpas

Mae’r dangosydd effaith hwn yn helpu i sicrhau ein bod ni’n datblygu ein gwasanaethau digidol i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.

Dull cyfrifo

Nifer y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘eithaf bodlon’ â gwasanaethau digidol wedi rhannu â nifer yr unigolion wnaeth ateb y cwestiwn hwn yn yr arolwg.

Ffynhonnell data

Adnodd digidol LPA – arolwg bodlonrwydd cwsmeriaid.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2024

Roedd sgôr yr arolwg bodlonrwydd cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn yn 85% ar gyfer ein gwasanaeth ‘defnyddio LPA’, 87% ar gyfer ein gwasanaeth ‘gwneud LPA’, ac yn 80% ar gyfer ein gwasanaeth ‘cwblhau adroddiad dirprwy’.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: Arolwg boddhad cwsmeriaid yr OPG – gwasanaethau pŵer atwrnai

Y ganran darged o gwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â gwasanaethau pŵer atwrnai yw 80%.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn ein helpu i ddeall anghenion ein cwsmeriaid a nodi tueddiadau felly rydym ni yn gallu gwella gwasanaethau yn barhaus.

Dull cyfrifo

Nifer a ymatebodd ‘fodlon iawn’ neu ‘weddol fodlon’ wedi’i rannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg.

Ffynhonnell data

Arolygon boddhad cwsmeriaid LPA.

Cyflawnwyd i 31 Mawrth 2024

Sgôr arolwg boddhad cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 76%.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: arolwg boddhad cwsmeriaid yr OPG – gwasanaethau dirprwyaeth

Y ganran darged o gwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â gwasanaethau dirprwyaeth yw 80%.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn ein helpu i ddeall anghenion ein cwsmeriaid a nodi tueddiadau felly rydym ni yn gallu gwella gwasanaethau yn barhaus.

Dull cyfrifo

Nifer a ymatebodd ‘fodlon iawn’ neu ‘weddol fodlon’ wedi’i rannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg.

Ffynhonnell data

Arolygon boddhad cwsmeriaid dirprwyaeth.

Cyflawnwyd i 31 Mawrth 2024

Sgôr arolwg boddhad cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 72%.

Dangosydd effaith: goruchwylio dirprwyon

a) Yr amser targed ar gyfartaledd i gael adroddiadau blynyddol yw o fewn 40 diwrnod gwaith.

b) Yr amser targed ar gyfartaledd i adolygu adroddiadau blynyddol yw o fewn 15 diwrnod gwaith.

c) Y targed ar gyfer adroddiadau blynyddol dros 98 diwrnod calendr yw 4.5% neu lai.

d) Y targed yw’r amser a gymerir ar gyfartaledd i roi camau sy’n eiddo i’r OPG ar waith o fewn argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus, lle bernir bod achos llys yn angenrheidiol o fewn 35 diwrnod gwaith.

e) Y targed yw’r amser a gymerir ar gyfartaledd i weithredu camau sy’n eiddo i’r OPG o fewn argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus, lle nad yw achos llys wedi’i ystyried yn angenrheidiol o fewn 25 diwrnod gwaith.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn darparu cymorth cymesur a phriodol i bob dirprwy.

Dull cyfrifo

a) Nifer cyfartalog y diwrnodau gwaith rhwng ‘dyddiad dyledus’ yr adroddiad (40 diwrnod gwaith ar ôl pen-blwydd y gorchymyn llys) a’r dyddiad y derbyniwyd yr adroddiad yn OPG.

b) Nifer cyfartalog y diwrnodau gwaith rhwng y dyddiad derbynnir adroddiad blynyddol a dyddiad ei adolygu.

c) Nifer yr achosion gydag o leiaf un adroddiad heb ei gwblhau 98 diwrnod, neu nifer yr achosion y mae angen o leiaf un adroddiad arnynt.

Ffynhonnell data

OPG’s systemau rheoli achosion mewnol.

Cyflawnwyd i 31 Mawrth 2024

a) Yr amser ar gyfartaledd i gael adroddiadau blynyddol oedd 33 diwrnod gwaith.

b) Adolygwyd pob adroddiad blynyddol o fewn 15 diwrnod gwaith, ar gyfartaledd o 11 diwrnod gwaith.

c) Roedd 2.26% o adroddiadau blynyddol yn weddill dros 98 diwrnod calendr.

Dangosydd effaith: ymchwiliadau

a) Y targed yw asesu risg 95% o’r pryderon a godwyd o fewn dau ddiwrnod gwaith.

b) Y targed yw i 95% o asesiadau risg diogelu gyrraedd canlyniad terfynol o fewn pum diwrnod gwaith.

c) Y targed yw cwblhau pob ymchwiliad o fewn 70 diwrnod gwaith.

d) Y targed yw’r amser a gymerir ar gyfartaledd i roi camau sy’n eiddo i’r OPG ar waith o fewn argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus, lle bernir bod achos llys yn angenrheidiol o fewn 35 diwrnod gwaith.

e) Y targed yw’r amser a gymerir ar gyfartaledd i weithredu camau sy’n eiddo i’r OPG o fewn argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus, lle nad yw achos llys wedi’i ystyried yn angenrheidiol o fewn 25 diwrnod gwaith.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn darparu cymorth gymesur a phriodol i bob dirprwy.

Dull cyfrifo

a) Nifer y diwrnodau gwaith ar gyfartaledd rhwng ‘dyddiad dyledus’ yr adroddiad (40 diwrnod gwaith ar ôl pen-blwydd y gorchymyn llys) a’r dyddiad y daeth yr adroddiad i law’r Swyddfa.

b) Nifer y diwrnodau gwaith ar gyfartaledd rhwng y dyddiad y ceir adroddiad blynyddol a’r dyddiad y cafodd ei adolygu.

c) Nifer yr achosion gydag o leiaf un adroddiad heb ei gwblhau am dros 98 diwrnod, neu nifer yr achosion sydd wedi cael o leiaf un adroddiad yn ddyledus.

Ffynhonnell data

Systemau rheoli achosion mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2024

a) Amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol oedd 33 diwrnod gwaith.

b) Adolygwyd pob adroddiad blynyddol o fewn 15 diwrnod, gyda chyfartaledd o 11 diwrnod gwaith.

c) Roedd 2.26% o adroddiadau blynyddol heb eu cwblhau am dros 98 diwrnod calendr.

Dangosydd effaith: ymchwiliadau

a) Y targed yw asesu risgiau 95% o bryderon a leisiwyd cyn pen dau ddiwrnod gwaith.

b) Y targed yw i 95% o asesiadau risg diogelu gyrraedd canlyniad terfynol cyn pen pum diwrnod gwaith.

c) Y targed yw cwblhau pob ymchwiliad cyn pen 70 diwrnod gwaith.

d) Mae’r cyfnod o 35 diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymeradwyo’r adroddiad.

e) Mae’r cyfnod o 25 diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymeradwyo’r adroddiad. Diwrnod un fydd y diwrnod mae’r adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn canolbwyntio ar gyfrifoldeb yr OPG i ddiogelu oedolion agored i niwed.

(a) a (b) Bydd OPG yn cyflawni risg proses asesu i bennu:

i) a oes gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus awdurdodaeth i ymchwilio i bryderon ac, os na, cyfeirio’r pryder at yr asiantaeth berthnasol

ii) a yw’r person agored i niwed mewn perygl uniongyrchol telerau eu lles personol, eu cyllid neu eu heiddo, a pha gamau sydd angen eu cymryd ar unwaith

iii) a ellir ymchwilio i’r pryder dros gyfnod hwy

c) Dosberthir ymchwiliad fel un sydd wedi’i gwblhau os:

i) bod y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymeradwyo adroddiad ysgrifenedig ffurfiol

ii) cymeradwyo cais llys yn cael ei gytuno (lle mae hyn yn rhagddyddio adroddiad Gwarcheidwad Cyhoeddus)

Dull cyfrifo

a) Dau ddiwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r OPG yn derbyn y pryder. Y diwrnod cyntaf yw’r diwrnod gwaith y derbynnir y pryder.

b) Pum diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r OPG yn derbyn y pryder. Y diwrnod cyntaf yw’r diwrnod gwaith y derbynnir y pryder.

c) Mae’r cyfnod o 70 diwrnod gwaith yn cychwyn ar y dyddiad y mae’r OPG yn derbyn y pryder sy’n arwain at ymchwiliad.

d) Mae’r cyfnod o 35 diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymeradwyo’r adroddiad. Y diwrnod cyntaf yw’r diwrnod y caiff yr adroddiad ei gymeradwyo.

e) Mae’r cyfnod o 25 diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymeradwyo’r adroddiad.Y diwrnod cyntaf yw’r diwrnod y caiff yr adroddiad ei gymeradwyo.

Ffynhonnell data

Asesir risg pob cwyn a phryder ac ystyrir awdurdodaeth y Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Caiff cyfeiriadau eu cofnodi ac maent yn cynnwys:

  • dyddiad y pryder a dderbyniwyd gan OPG
  • dyddiad y pryder a dderbyniwyd gan y tîm ymchwilio
  • dyddiad asesiad risg
  • amser asesu risg
  • dyddiad cwblhau’r ymchwiliad
  • canlyniad y cais i’r cyfnod CoP (diwrnodau gwaith)
  • cyfnod amser ymchwilio (cyn-adroddiad).
  • cyfnod amser ymchwilio (ar ôl adroddiad).
  • dyddiad cau argymhellion

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2024

a) roedd 99% o sylwadau wyneb yn wyneb.

b) roedd 93% o allbwn yn y canlyniadau terfynol pen pum diwrnod gwaith.

c) Amser i gleientiaid wneud 93 diwrnod gwaith

d) Yr amser y mae’r clwb yn ei wneud bob amser yn cael ei wario ar 44.2 diwrnod gwaith.

e) Yr amser y mae’r clwb yn ei wneud bob amser wedi’i nodi fel achos llys yn gweithredu 17.8 diwrnod gwaith.

Pwrpas

iii) mae rheolwr cydymffurfio yn cytuno i ddod i gasgliad bernir bod ymchwiliad fel adroddiad i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ddiangen

iv) y cleient yn marw (lle mae’r rheolwr cydymffurfio yn barnu bod digon o waith wedi’i wneud ar yr achos i deilyngu dosbarthiad)

(d) ac (e) Dosberthir argymhelliad fel un sydd wedi’i gwblhau os:

i) gwneir cais i’r CoP, lle’r oedd hyn o ganlyniad i argymhelliad a gymeradwywyd gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus

ii) bod achos yn cael ei gymeradwyo ar gyfer cau lle:

  • ni fernir bod achos llys yn angenrheidiol
  • mae’r ymchwilydd yn rhannu canlyniad yr ymchwiliad ac unrhyw ofynion pellach i’r atwrnai neu’r dirprwy – ni fydd hyn yn cynnwys unrhyw waith monitro dilynol ar yr achos
  • mae’r dirprwy yn gwneud cais i’r CoP

iii) rheolwr cydymffurfio yn cytuno i ddod ag ymchwiliad i ben gan nad oes angen adroddiad i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

iv) y cleient yn marw (lle mae’r rheolwr cydymffurfio yn meddwl bod digon o waith wedi’i wneud i ddosbarthu

(d) ac (e) Mae argymhelliad yn cael ei ystyried yn un sydd wedi dod i ben os:

i) gwneir cais i’r Llys Gwarchod, lle bod hyn o ganlyniad i argymhelliad a gymeradwywyd gan y Gwarcheidwad ii) cymeradwyir cau achos lle:

  • ni fernir bod angen achos llys
  • mae’r ymchwilydd yn rhannu canlyniad yr ymchwiliad ac unrhyw ofynion pellach i’r atwrnai/dirprwy - ni fydd hyn yn cynnwys monitro’r achos yn ddiweddarach
  • mae’r dirprwy yn gwneud cais i’r Llys Gwarchod

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: cwynion

Y targed yw ymateb i 90% o’r holl gwynion gan gwsmeriaid o fewn 10 diwrnod gwaith o’u derbyn.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn chwarae rhan bwysig wrth helpu OPG i ddeall i ba raddau rydym yn cyflawni disgwyliadau ein cwsmeriaid.

Dull cyfrifo

Bob mis y rheolwr cwynion Haen 2 yn coladu nifer y cwynion a oedd yn ddyledus yn ystod y mis (‘cyfanswm gyda’r targed yn y mis’) a nifer y cwynion a gwblhawyd o fewn y targed (‘cyfanswm yr ymatebwyd i yn y targed’).

Mae’r dangosydd yn cael ei gyfrifo gyda chymorth y fformiwla ganlynol:

Cwynion wedi’u cwblhau o fewn y targed/cwynion dyledus x 100.

Ffynhonnell data

Gwybodaeth reoli o bob maes busnes unigol.

Cyflawnwyd i 31 Mawrth 2024

Ymatebwyd i 69% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith o’u derbyn.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: Ceisiadau LPA wedi’u cwblhau ar-lein

Y targed yw bod 30% o gwsmeriaid yn dewis cwblhau eu ceisiadau LPA gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn chwarae rhan bwysig wrth helpu OPG i wella’r offer digidol i’w gwneud yn haws i ddefnyddwyr gael mynediad i’n gwasanaethau ar-lein.

Dull cyfrifo

Canran y derbyniad digidol:

Nifer yr LPAs ar-lein a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod adrodd/cyfanswm nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn y cyfnod adrodd x 100.

Ffynhonnell data

OPG’s systemau rheoli achosion mewnol.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2024

35.3% o LPA cwblhawyd ceisiadau gan ddefnyddio gwasanaethau ar-lein.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: cwynion

Y targed yw ymateb i 90% o holl gwynion cwsmeriaid cyn pen 10 diwrnod gwaith o’u cael.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn chwarae rhan bwysig o ran helpu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddeall i ba raddau rydym yn bodloni disgwyliadau ein cwsmeriaid.

Dull cyfrifo

Bob mis, mae rheolwr cwynion Haen 2 yn coladu nifer y cwynion y dylid delio â nhw yn ystod y mis (‘cyfanswm gyda tharged yn y mis’) a nifer y cwynion a gwblhawyd yn unol â’r targed (‘cyfanswm yr ymatebwyd iddynt yn unol â’r targed’).

Cyfrifir y dangosydd gyda chymorth y fformiwla ganlynol:

Cwynion a gwblhawyd yn unol â’r targed/cwynion y dylid delio â nhw x 100.

Ffynhonnell data

Gwybodaeth reoli gan bob maes busnes unigol.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2024

69% o gwynion wedi cael ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: Ceisiadau atwrneiaeth arhosol a gwblhawyd ar-lein

Y targed yw 30% o gwsmeriaid yn dewis cwblhau eu ceisiadau atwrneiaeth arhosol yn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn chwarae rhan bwysig o ran helpu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i wella’r offer digidol i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau ar-lein.

Dull cyfrifo

Canran y derbyniadau digidol: Nifer yr atwrniaethau arhosol a dderbyniwyd ar-lein yn ystod y cyfnod adrodd / cyfanswm nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod adrodd x 100.

Ffynhonnell data

Systemau rheoli achosion mewnol y Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2024

35.3% o geisiadau LPA wedi’u cwblhau drwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein.

Dangosydd pobl: Ymgysylltu â staff

a) Y targed yw cyflawni sgôr ymgysylltu â staff o 62%.

b) Y targed ar gyfer canran y staff sydd wedi profi bwlio neu aflonyddu yn y gwaith yw 11% neu lai.

c) Y targed ar gyfer canran y staff sydd wedi profi gwahaniaethu yn y gwaith yw 11% neu lai.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn ein helpu i greu lle gwych i weithio a cefnogi agwedd dim goddefgarwch yn erbyn bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn y gweithle.

Dull cyfrifo

a) Mae pob un o’r pum cwestiwn ymgysylltu yn yr arolwg wedi’u pwysoli â sgôr o 100 i 0 yn dibynnu ar eu hymateb. Mae’r sgorau canlyniadol yn cael eu hadio at ei gilydd a wedi’i rannu â 5 (nifer y cwestiynau) i greu’r sgôr mynegai ymgysylltu.

b) Cyfrifir y dangosydd hwn drwy rannu nifer yr ymatebwyr sy’n datgan profiad bwlio a/neu aflonyddu gan gyfanswm yr ymatebwyr.

c) Cyfrifir y dangosydd hwn drwy rannu nifer yr ymatebwyr sy’n datgan profiad o wahaniaethu â chyfanswm yr ymatebwyr.

Ffynhonnell data

Arolwg pobl blynyddol ac arolwg clyfar.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2024

a) Profodd 10% o staff fwlio ac aflonyddu.

b) Profodd 10% o’r staff wahaniaethu.

Dangosydd pobl: Ymgysylltu â staff

a) Y targed yw sicrhau sgôr ymgysylltu â staff o 62%.

b) Y targed ar gyfer % y staff sydd wedi cael eu bwlio neu y mae rhywun wedi aflonyddu arnynt yn y gweithle yw 11% neu lai.

c) Y targed ar gyfer % y staff sydd wedi dioddef gwahaniaethu yn y gweithle yw 11% neu lai.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn ein helpu i greu lle gwych i weithio ac i gefnogi agwedd dim goddefgarwch tuag at fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn y gweithle.

Dull cyfrifo

a) Mae pob un o’r pum cwestiwn ymgysylltu yn yr arolwg wedi’u pwysoli gyda sgôr o 100 i 0 yn dibynnu ar eu hymateb. Mae’r sgoriau sy’n deillio o hyn yn cael eu rhoi at ei gilydd a’u rhannu â 5 (nifer y cwestiynau) i greu sgôr y mynegai ymgysylltiad.

b) Cyfrifir y dangosydd hwn drwy rannu nifer yr ymatebwyr sy’n datgan profiad o fwlio a/neu aflonyddu â chyfanswm yr ymatebwyr.

c) Cyfrifir y dangosydd hwn drwy rannu nifer yr ymatebwyr sy’n datgan profiad o wahaniaethu â chyfanswm yr ymatebwyr.

Ffynhonnell data

Arolwg pobl blynyddol ac arolwg SMART.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2024

a) roedd 10% o staff wedi cael profiad o fwlio ac aflonyddu.

b) roedd 10% o staff wedi cael profiad o wahaniaethu.

Dangosydd Pobl: data gweithlu

a) Y trosiant staff targed yw 10% neu lai.

b) Y targed yw cyflawni sgôr o 7.5 diwrnod gwaith neu lai a gollwyd oherwydd absenoldeb salwch.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn helpu i gynorthwyo ein penderfynwyr i sicrhau bod gan yr OPG ddigon o adnoddau, sydd yn galluogi OPG i gyflawni amcanion ei chynllun busnes, cyflawni ei gweledigaeth ac ymdrechu i gadw at werthoedd yr OPG ym mhopeth a wnawn.

Dull cyfrifo

a) Mae’r dangosydd yn cael ei gyfrifo drwy rannu cyfanswm nifer y rhai sy’n gadael mewn cyfnod treigl o 12 mis â chyfanswm nifer cyfartalog y staff dros gyfnod treigl o 12 mis.

b) Cyfrifir y dangosydd trwy rannu cyfanswm y diwrnodau gwaith a gollwyd mewn cyfnod â blynyddoedd staff mewn cyfnod.

Ffynhonnell data

Darperir y data gan dîm gwasanaethau dadansoddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n lawrlwytho’r data o SOP, AD y MOJ system rheoli achosion.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2024

a) Roedd trosiant staff yn 10.2%.

b) Cyfartaledd y diwrnodau gwaith a gollwyd oedd 8.6 diwrnod gwaith.

Dangosydd pobl: yr amser cyfartalog i recriwtio

Y nod yw 52 diwrnod gwaith.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn helpu ein penderfynwyr i sicrhau bod gan yr OPG ddigon o adnoddau, sy’n yn galluogi OPG i gyflawni amcanion ei chynllun busnes, cyflawni ei gweledigaeth ac ymdrechu i gadw at werthoedd yr OPG ym mhopeth a wnawn.

Dull cyfrifo

Mae cyfanswm y diwrnodau gwaith llogi yn cael eu cyfrifo drwy gyfrif nifer y diwrnodau gwaith rhwng dyddiad y ‘swydd wag a hysbysebwyd’ a dyddiad cychwyn y contract ar gyfer pob gweithiwr newydd yn y cyfnod adrodd ac yna adio at ei gilydd. Bydd cyfrifiad cyfartalog cymedrig yn cael ei redeg ar y ffigwr uchod. Bydd hyn yn rhoi’r amser cyfartalog i ni recriwtio (diwrnodau gwaith).

Ffynhonnell data

System rheoli achosion recriwtio’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2024

Yr amser ar gyfartaledd i recriwtio yw 72 diwrnod gwaith o’r data diwethaf a adroddwyd sydd ar gael.

Dangosydd Pobl: data gweithlu

a) Y targed ar gyfer trosiant staff yw 10% neu lai.

b) Y targed yw sgôr o 7.5 diwrnod gwaith neu lai sy’n cael eu colli oherwydd absenoldeb salwch.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn helpu ein penderfynwyr i sicrhau bod gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddigon o adnoddau, a fydd yn galluogi’r Swyddfa i gyflawni amcanion ei chynllun busnes, gwireddu ei gweledigaeth ac ymdrechu i gadw at werthoedd y Swyddfa ym mhopeth a wnawn.

Dull cyfrifo

a) Cyfrifir y dangosydd drwy rannu cyfanswm nifer y rhai sy’n gadael mewn cyfnod treigl o 12 mis â chyfanswm nifer y staff ar gyfartaledd dros gyfnod treigl o 12 mis.

b) Cyfrifir y dangosydd drwy rannu cyfanswm y diwrnodau gwaith a gollwyd mewn cyfnod â blynyddoedd staff mewn cyfnod.

Ffynhonnell data

Darparwyd y data gan dîm gwasanaethau dadansoddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder a wnaeth lawrlwytho’r data o SOP, system rheoli achosion AD y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2024

a) Roedd y trosiant staff yn 10.2%.

b) Cyfartaledd y dyddiau gwaith a gollwyd oedd 8.6 diwrnod gwaith.

Dangosydd pobl: amser cyfartalog i recriwtio

Y nod yw 52 diwrnod gwaith.

Pwrpas

Mae’r dangosydd yn helpu ein penderfynwyr i sicrhau bod gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddigon o adnoddau, a fydd yn galluogi’r Swyddfa i gyflawni amcanion ei chynllun busnes, gwireddu ei gweledigaeth ac ymdrechu i gadw at werthoedd y Swyddfa ym mhopeth a wnawn.

Dull cyfrifo

Cyfrifir cyfanswm y diwrnodau gwaith a gymerir i gyflogi drwy gyfrif nifer y diwrnodau gwaith rhwng dyddiad ‘hysbysebu’r swydd’ a dyddiad dechrau’r contract ar gyfer pob cyflogai newydd yn y cyfnod adrodd ac yna fe’u rhoddir at ei gilydd. Gwneir cyfrifiad cyfartaledd cymedrig ar y ffigur uchod. Bydd hyn yn rhoi’r amser cyfartalog i recriwtio (diwrnodau gwaith).

Ffynhonnell data

System rheoli achosion recriwtio’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2024

Yr amser cyfartalog ar gyfer recriwtio yw 72 diwrnod gwaith o’r data diwethaf sydd ar gael.