Policy paper

PACE Code A 2023 (Welsh, accessible)

Updated 20 December 2023

Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) – Cod A

Cod Ymarfer diwygiedig i’w weithredu gan: Swyddogion yr Heddlu ynghylch pwerau stopio a chwilio statudol

Swyddogion yr Heddlu a Staff yr Heddlu ynghylch gofynion i gofnodi cyfarfyddiadau â’r cyhoedd

Ionawr 2023

Cychwyniad – Trefniadau Trosiannol

Mae’r cod hwn yn gymwys i unrhyw chwiliad gan un o swyddogion yr heddlu a’r gofyniad i gofnodi cyfarfyddiadau â’r cyhoedd sy’n digwydd wedi 00.00 ar 17 Ionawr 2023

1.0 Cyffredinol

1.01 Dylai’r cod ymarfer hwn fod ar gael yn hwylus ym mhob gorsaf heddlu er mwyn i swyddogion yr heddlu, staff yr heddlu, personau a gedwir yn y ddalfa ac aelodau o’r cyhoedd allu cyfeirio ato.

1.02 Nid yw’r nodiadau canllaw yn rhan o ddarpariaethau’r cod hwn; yn hytrach, canllawiau ydynt i swyddogion yr heddlu ac eraill ynghylch ei ddefnydd a’i ddehongliad. Mae’r darpariaethau yn yr atodiadau i’r cod yn rhan o ddarpariaethau’r cod hwn.

1.03 Mae’r cod hwn yn rheoli defnydd swyddogion yr heddlu o bwerau statudol i chwilio person neu gerbyd heb arestio yn gyntaf. Nodir y prif bwerau atal a chwilio y mae’r cod hwn yn gymwys iddynt yn Atodiad A, ond ni ddylid ystyried y rhestr honno yn derfynol (gweler Nodyn 1). At hynny, mae’n ymdrin â gofynion i swyddogion yr heddlu a staff yr heddlu gofnodi cyfarfyddiadau nad ydynt yn ddarostyngedig i bwerau statudol (gweler paragraffau 2.11 a 4.12). Nid yw’r cod hwn yn gymwys i’r canlynol:

(a) pwerau stopio a chwilio o dan:

i Ddeddf Diogelwch Awyrennau 1982, adran 27(2);

ii Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, adran 6(1) (sy’n cyfeirio’n benodol at bwerau cwnstabliaid a gyflogir gan ymgymerwyr statudol ar safle’r ymgymerwyr statudol);

(b) chwiliadau a gynhelir at ddibenion archwilio o dan Atodlen 7 i Ddeddf Terfysgaeth 2000 y mae’r Cod Ymarfer a gyhoeddwyd o dan baragraff 6 o Atodlen 14 i Ddeddf Terfysgaeth 2000 yn gymwys iddynt;

(c) y pwerau i chwilio personau a cherbydau ac i stopio a chwilio mewn lleoliadau penodol y mae’r Cod Ymarfer ar gyhoeddwyd o dan adran 47AB o Ddeddf Terfysgaeth 2000 yn gymwys iddynt.

1 Egwyddorion sy’n rheoli achosion o stopio a chwilio

1.1 Rhaid i bwerau stopio a chwilio gael eu defnyddio’n deg ac yn gyfrifol, gan barchu’r bobl sy’n cael eu chwilio a heb wahaniaethu’n anghyfreithlon. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, adran 149, mae gan swyddogion yr heddlu, wrth gyflawni eu swyddogaethau, hefyd ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu a bygylu, sicrhau cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu ‘nodwedd warchodedig berthnasol’ a phobl nad ydynt yn ei rhannu, a chymryd camau i feithrin cydberthnasau da rhwng y personau hynny (gweler Nodiadau 1 ac 1A). Mae Deddf Plant 2004, adran 11, hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i brif swyddogion yr heddlu a phersonau a chyrff dynodedig eraill sicrhau, wrth gyflawni eu swyddogaethau, eu bod yn ystyried yr angen i ddiogelu a hybu lles pawb dan 18 oed.

1.2 Rhaid sicrhau mai dim ond am gyfnod byr yr ymyrrir â rhyddid y person sy’n cael ei stopio neu ei chwilio ac y caiff ei gadw at ddibenion chwilio yn y lleoliad lle cafodd y person ei stopio, neu’n agos at y lleoliad hwnnw.

1.3 Os na chedwir at yr egwyddorion sylfaenol hyn, gellir cwestiynu’r defnydd o bwerau stopio a chwilio. Bydd methiant i ddefnyddio’r pwerau yn y modd priodol yn lleihau eu heffeithlonrwydd. Gall stopio a chwilio chwarae rôl bwysig yn y gwaith o ganfod ac atal troseddau ac mae defnyddio’r pwerau mewn ffordd deg yn eu gwneud yn fwy effeithiol.

1.4 Prif ddiben pwerau stopio a chwilio yw galluogi swyddogion i dawelu neu gadarnhau amheuon ynghylch personau heb arfer eu pŵer i arestio. Gall fod yn ofynnol i swyddogion gyfiawnhau eu rheswm dros ddefnyddio neu awdurdodi pwerau o’r fath, mewn perthynas â chwiliadau unigol a phatrwm cyffredinol eu gweithgarwch i’r perwyl hwn, i’w swyddogion goruchwylio neu yn y llys. Mae unrhyw gamddefnydd o’r pwerau yn debygol o fod yn niweidiol i blismona ac arwain at ddiffyg ymddiriedaeth yn yr heddlu. Rhaid i swyddogion hefyd allu esbonio eu gweithredoedd i’r aelod o’r cyhoedd sy’n cael ei chwilio. Gall camddefnyddio’r pwerau hyn arwain at gamau disgyblu (gweler paragraffau 5.5. a 5.6)

1.5 Ni ddylai swyddog chwilio person, hyd yn oed gyda’i gydsyniad ef neu ei chydsyniad hi, os nad oes unrhyw bŵer chwilio yn gymwys. Hyd yn oed os bydd person yn barod i gael ei chwilio’n wirfoddol, ni ddylid chwilio’r person hwnnw os nad yw’r pŵer cyfreithiol angenrheidiol yn bodoli, a dylai’r chwiliad fod yn unol â’r pŵer perthnasol a darpariaethau’r Cod hwn. Mae’r unig eithriad, lle nad oes angen pŵer penodol ar swyddog, yn gymwys i chwilio personau sy’n ceisio mynediad i faes chwaraeon neu safle arall lle mae cydsynio i gael chwiliad yn un o amodau mynediad.

1.6 Gellir herio tystiolaeth a geir drwy chwiliad y mae’r Cod hwn yn gymwys iddo os na chedwir at ddarpariaethau’r Cod hwn.

2 Mathau o Bwerau Stopio a Chwilio

2.1 Mae’r cod hwn yn gymwys, yn unol â pharagraff 1.03, i’r pwerau stopio a chwilio canlynol:

(a) pwerau sy’n gofyn am sail resymol dros amheuaeth, cyn y gallant gael eu harfer; bod eitemau a gafwyd neu a feddiannwyd yn anghyfreithlon yn cael eu cario megis adran 1 o PACE ar gyfer eitemau wedi’u dwyn neu eu gwahardd, ac adran 23 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 ar gyfer cyffuriau a reolir;

(b) pwerau a awdurdodir o dan adran 60 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, yn seiliedig ar gred resymol y gall trais difrifol ddigwydd neu fod pobl yn cario offer peryglus neu arfau ymosodol yn unrhyw leoliad yn ardal yr heddlu, neu ei bod yn fuddiol defnyddio’r pwerau i ganfod offer neu arfau o’r fath a ddefnyddiwyd mewn achosion o drais difrifol;

(c) Heb ei defnyddio;

(d) y pwerau yn Atodlen 5 i Ddeddf Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth 2011 i chwilio unigolyn nad yw wedi cael ei arestio, a roddir gan:

(i) paragraff 6(2)(a) ar adeg cyflwyno’r hysbysiad Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth;

(ii) paragraff 8(2)(a) o dan warant chwilio at ddibenion cydymffurfiaeth;

(iii) paragraff 10 at ddibenion diogelu’r cyhoedd.

Gweler paragraff 2.18A.

(e) pwerau i chwilio person nad yw wedi cael ei arestio wrth arfer pŵer i chwilio safle (gweler Cod B paragraph 2.4).

(a) Pwerau stopio a chwilio lle mae angen sail resymol dros amheuaeth – esboniad

Cyffredinol

2.2 Sail resymol dros amheuaeth yw’r prawf cyfreithiol y mae’n rhaid i swyddog yr heddlu ei fodloni cyn y gall stopio a chadw unigolion neu gerbydau i’w chwilio o dan bwerau megis adran 1 o PACE (i ganfod eitemau wedi’u dwyn neu eu gwahardd) ac adran 23 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (i ganfod cyffuriau a reolir). Rhaid i’r prawf hwn gael ei gymhwyso at yr amgylchiadau penodol ym mhob achos, ac mae iddo ddwy ran:

(i) Yn gyntaf, mae’n rhaid bod gan y swyddog amheuaeth ddilys y bydd yn canfod y gwrthrych y mae’r pŵer chwilio sy’n cael ei arfer yn caniatáu iddo chwilio amdano (gweler Atodiad A, yr ail golofn, am enghreifftiau);

(ii) Yn ail, mae’n rhaid bod amheuaeth resymol y caiff y gwrthrych ei ganfod. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid bod sail wrthrychol dros yr amheuaeth honno sy’n seiliedig ar ffeithiau, gwybodaeth a/neu gudd-wybodaeth sy’n berthnasol i’r tebygolrwydd y caiff y gwrthrych dan sylw ei ganfod, fel y byddai person rhesymol yn gallu dod i’r un casgliad yn deg yn seiliedig ar yr un ffeithiau a gwybodaeth a/neu gudd-wybodaeth.

Felly, mae’n rhaid i swyddogion allu esbonio’r sail dros eu hamheuaeth drwy gyfeirio at wybodaeth neu gudd-wybodaeth am y person dan sylw, neu ymddygiad penodol ganddo (gweler paragraffau 3.8(d), 4.6 a 5.5).

2.2A Mae arfer y pwerau stopio a chwilio hyn yn dibynnu ar y tebygolrwydd bod y person sy’n cael ei chwilio yn cario eitem y gellir ei chwilio amdano; nid yw’n dibynnu p’un a oes amheuaeth bod y person dan sylw wedi cyflawni trosedd sy’n gysylltiedig â gwrthrych y chwiliad. Gall swyddog heddlu sydd â sail resymol dros amau bod gan berson eitem sydd wedi’i dwyn neu ei gwahardd, cyffur a reolir neu eitem arall y mae gan y swyddog bŵer i chwilio amdani, yn ei feddiant yn ddiniwed, stopio a chwilio’r person er na fyddai ganddo unrhyw bŵer i’w arestio. Byddai hyn yn gymwys pe bai amheuaeth bod plentyn o dan oedran cyfrifoldeb troseddol (10 oed) yn cario unrhyw eitem o’r fath, hyd yn oed pe bai’n gwybod ei fod yn ei chario. (Gweler Nodiadau 1B ac 1A.)

Ni all ffactorau personol byth gyfiawnhau amheuaeth resymol

2.2B Ni ellir byth gyfiawnhau amheuaeth resymol ar sail ffactorau personol. Mae hyn yn golygu, oni bai bod gan yr heddlu wybodaeth neu gudd-wybodaeth sy’n disgrifio person yr amheuir ei fod yn cario eitem y gellir arfer pŵer stopio a chwilio yn ei chylch, ni ellir defnyddio’r canlynol, ar wahân na gyda’i gilydd, nac ar y cyd ag unrhyw ffactor arall, fel y rheswm dros stopio a chwilio unrhyw unigolyn, gan gynnwys unrhyw gerbyd y mae’n ei yrru neu’n cael ei gludo ynddo:

(a) Ymddangosiad corfforol person mewn perthynas, er enghraifft, ag unrhyw un o’r ‘nodweddion gwarchodedig perthnasol’ a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, adran 149, sef oedran, anabledd, ailbennu rhywbeth, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol (gweler paragraff 1.1 a Nodyn 1A), neu’r ffaith y gwyddys fod gan y person euogfarn flaenorol;

(b) cyffredinoliadau neu ystrydebau bod grwpiau penodol neu gategorïau penodol o bobl yn fwy tebygol o fod yn rhan o weithgarwch troseddol.

2.3 Heb ei defnyddio.

Sail resymol dros amheuaeth yn seiliedig ar wybodaeth a/neu gudd-wybodaeth

2.4 Dylai sail resymol dros amheuaeth fel arfer fod yn gysylltiedig â gwybodaeth neu gudd-wybodaeth gywir a chyfredol, yn ymwneud ag eitemau y gellir arfer pŵer stopio a chwilio yn eu cylch, yn cael eu cario gan unigolion neu mewn cerbydau mewn unrhyw ardal leol. Byddai hyn yn cynnwys adroddiadau gan aelodau o’r cyhoedd neu swyddogion eraill yn disgrifio:

  • person a welwyd yn cario eitem o’r fath neu gerbyd y gwelwyd eitem o’r fath ynddo.

  • troseddau a gyflawnwyd y byddai eitem o’r fath yn gyfystyr â thystiolaeth berthnasol mewn perthynas â nhw, er enghraifft eiddo a ddygwyd yn ystod lladrad neu fwrgleriaeth, arf ymosodol neu eitem finiog neu â blaen arni a ddefnyddiwyd i fygwth neu ymosod ar rywun neu eitem a ddefnyddiwyd i achosi difrod troseddol i eiddo.

2.4A Mae chwiliadau sy’n seiliedig ar wybodaeth neu gudd-wybodaeth gywir a chyfredol yn fwy tebygol o fod yn effeithiol. Nid yn unig y mae targedu chwiliadau mewn ardal benodol at broblemau troseddol penodol yn cynyddu eu heffeithiolrwydd ond mae hefyd yn achosi cyn lleied o anghyfleustra â phosibl i aelodau’r cyhoedd sy’n parchu’r gyfraith. Mae hefyd yn helpu i gyfiawnhau’r defnydd o chwiliadau i’r rhai sy’n cael eu chwilio a’r cyhoedd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn atal pwerau stopio a chwilio rhag cael eu harfer mewn lleoliadau eraill lle y gellir arfer pwerau o’r fath, a lle mae amheuaeth resymol yn bodoli.

2.5 Heb ei defnyddio.

Sail resymol dros amheuaeth a chwilio grwpiau

2.6 Lle ceir gwybodaeth neu gudd-wybodaeth ddibynadwy bod aelodau o grŵp neu gang bob amser yn cario cyllyll yn anghyfreithlon neu arfau neu gyffuriau a reolir, ac yn gwisgo eitem arbennig o ddillad neu ddull adnabod arall i ddynodi eu haelodaeth o’r grŵp neu gang hwnnw, gall yr eitem arbennig honno o ddillad neu ddull adnabod arall fod yn sail resymol dros atal a chwilio unrhyw berson y credir ei fod yn aelod o’r grŵp neu gang hwnnw. (Gweler Nodyn 9.)

2.6A Byddai dull gweithredu tebyg yn gymwys i grwpiau protestio cyfundrefnol penodol lle ceir gwybodaeth neu gudd-wybodaeth ddibynadwy:

(a) bod y grŵp dan sylw yn trefnu cyfarfodydd a gorymdeithiau lle daw un neu fwy o’r aelodau ag eitemau y bwriedir eu defnyddio i achosi difrod troseddol a/neu anaf i eraill er budd nodau’r grŵp;

(b) bod eitemau o’r fath wedi cael eu defnyddio, ac wedi achosi difrod a/neu anaf, yn un neu fwy o gyfarfodydd neu orymdeithiau blaenorol a drefnwyd gan y grŵp hwnnw;

(c) bod un neu fwy o aelodau’r grŵp, ar yr achlysur dilynol dan sylw, wedi dod ag eitemau o’r fath gyda nhw, gyda bwriadau tebyg

Gall yr amgylchiadau hyn roi sail resymol dros stopio a chwilio unrhyw aelodau o’r grŵp o ganfod eitemau o’r fath (gweler Nodyn 9A). Gweler hefyd baragraffau 2.12 i 2.18, “Chwiliadau a awdurdodir o dan adran 60 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994”, pan ddisgwylir trais difrifol yn ystod cyfarfodydd a gorymdeithiau.

Sail resymol dros amheuaeth yn seiliedig ar ymddygiad, amser a lleoliad

2.6B Gall amheuaeth resymol fodoli hefyd heb wybodaeth neu gudd-wybodaeth benodol ac yn seiliedig ar ymddygiad person. Er enghraifft, os bydd swyddog yn cwrdd â rhywun ar y stryd gyda’r nos sy’n amlwg yn ceisio cuddio rhywbeth, gall y swyddog (yn dibynnu ar yr amgylchiadau cysylltiedig eraill) seilio ei amheuaeth ar y ffaith bod ymddygiad o’r fath yn aml yn gysylltiedig â chario eitemau wedi’u dwyn neu eu gwahardd. Rhaid i swyddog sydd o’r farn bod person yn ymddwyn yn amheus neu ei fod yn ymddangos yn nerfus allu esbonio, gan gyfeirio at agweddau penodol ar ymddygiad y person, ei reswm dros arddel y farn honno (gweler paragraffau 3.8(d) a 5.5). Ni all greddf na ellir ei hesbonio na’i chyfiawnhau i sylwedydd gwrthrychol fyth fod yn gyfystyr â sail resymol.

2.7 Heb ei defnyddio.

2.8 Heb ei defnyddio.

Ennyn hyder y cyhoedd a hyrwyddo cysylltiadau cymunedol

2.8A Rhaid i bob swyddog yr heddlu gydnabod bod chwiliadau yn fwy tebygol o fod yn effeithiol, yn gyfreithlon ac ennyn hyder y cyhoedd pan fydd y sail resymol dros amheuaeth yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau gwrthrychol. Mae’r defnydd cyffredinol o’r pwerau hyn yn fwy tebygol o fod yn effeithiol pan fydd cudd-wybodaeth neu wybodaeth gyfredol a chywir yn cael ei rhannu â swyddogion a phan fyddant yn wybodus am batrymau troseddau lleol. Mae gan uwch-swyddogion ddyletswydd i sicrhau y gall y rheini dan eu rheolaeth sy’n arfer pwerau stopio a chwilio gael gafael ar wybodaeth o’r fath, ac mae gan y swyddogion sy’n arfer y pwerau ddyletswydd i ymgyfarwyddo â’r wybodaeth honno (gweler paragraffau 5.1 i 5.6).

Gofyn cwestiynau er mwyn penderfynu a ddylid cynnal chwiliad

2.9 Gall swyddog sydd â sail resymol dros amheuaeth gadw’r person dan sylw er mwyn cynnal chwiliad. Cyn cynnal y chwiliad, gall y swyddog ofyn cwestiynu am ymddygiad y person neu ei bresenoldeb yn yr amgylchiadau a arweiniodd at yr amheuaeth. O ganlyniad i gwestiynu’r person a gedwir, gall y sail resymol dros amheuaeth sydd ei hangen i gadw’r person hwnnw gael ei chadarnhau neu, oherwydd esboniad boddhaol, ei dileu. (Gweler Nodiadau 2 a 3.) Gall cwestiynu hefyd ddatgelu sail resymol dros amau bod gan y person fath gwahanol o eitem anghyfreithlon i’r un a amheuwyd yn wreiddiol yn ei feddiant. Fodd bynnag, ni ellir defnyddio cwestiynu o’r fath wrth gadw person na gwrthodiad i ateb unrhyw gwestiynau a ofynnwyd yn ôl-weithredol fel sail resymol dros amheuaeth.

2.10 O ganlyniad i gwestiynu cyn chwiliad, neu amgylchiadau eraill y daw’r swyddog yn ymwybodol ohonynt, os nad oes sail resymol dros amau fod eitem o fath y gellir arfer pŵer stopio a chwilio yn ei chylch yn cael ei chario mwyach, ni ellir cynnal unrhyw chwiliad. (Gweler Nodyn 3.) Yn absenoldeb unrhyw bŵer cyfreithlon arall i gadw, bydd y person yn rhydd i adael, a dylid eu hysbysu’n unol â hynny.

2.11 Nid oes pŵer i atal a chwilio person er mwyn canfod seiliau dros gynnal chwiliad. Mae swyddogion yr heddlu yn cael nifer o gyfarfyddiadau â’r cyhoedd nad ydynt yn ymwneud â chadw pobl yn erbyn eu hewyllys a lle nad oes angen unrhyw bŵer statudol ar swyddog i siarad â pherson (gweler paragraff 4.12 a Nodyn 1). Fodd bynnag, os daw seiliau rhesymol dros amheuaeth i’r amlwg yn ystod cyfarfyddiad o’r fath, gall y swyddog gadw’r person er mwyn ei chwilio, er nad oedd unrhyw seiliau’n bodoli pan ddechreuodd y cyfarfyddiad. Cyn gynted ag y bydd y swyddog yn cadw’r person, a chyn iddo ei chwilio, rhaid iddo hysbysu’r person ei fod yn cael ei gadw at ddiben chwilio, a chymryd camau yn unol â pharagraffau 3.8 i 3.11 o dan “Camau i’w cymryd cyn chwilio”.

(b) Chwiliadau a awdurdodir o dan adran 60 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994

2.12 Gellir rhoi awdurdod i gwnstabl mewn lifrai stopio a chwilio o dan adran 60 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 os bydd y swyddog sy’n awdurdodi yn credu’n rhesymol:

(a) y gall digwyddiadau sy’n cynnwys trais difrifol ddigwydd mewn unrhyw leoliad yn ardal heddlu’r swyddog, a’i bod yn fuddiol defnyddio’r pwerau hyn i’w hatal rhag digwydd;

(b) bod pobl yn cario offer peryglus neu arfau ymosodol heb reswm da mewn unrhyw leoliad yn ardal heddlu’r swyddog;

(c) bod digwyddiad sy’n cynnwys trais difrifol wedi digwydd yn ardal heddlu’r swyddog, bod offeryn peryglus neu arf ymosodol a ddefnyddiwyd yn ystod y digwyddiad yn cael ei gario gan berson unrhyw le yn ardal heddlu’r swyddog, a’i bod yn fuddiol defnyddio’r pwerau hyn i ganfod yr offeryn neu’r arf hwnnw.

2.13 Dim ond swyddog ar reng arolygydd neu uwch a all roi awdurdodiad o dan adran 60, a hynny yn ysgrifenedig, neu ar lafar os yw paragraff 2.12(c) yn gymwys ac nad yw’n ymarferol rhoi awdurdodiad yn ysgrifenedig. Rhaid i’r awdurdodiad (p’un a yw’n ysgrifenedig neu ar lafar) nodi ar ba sail y cafodd ei roi, ym mha ardal y gellir arfer y pwerau a’r cyfnod o amser y byddant mewn grym. Ni fydd y cyfnod a awdurdodir yn hwy nag sy’n ymddangos yn rhesymol i atal, neu geisio atal digwyddiadau sy’n cynnwys trais difrifol, neu i ddelio â phroblem cario offerynnau peryglus neu arfau ymosodol neu i ganfod offeryn peryglus neu arf ymosodol a ddefnyddiwyd. Ni chaiff fod yn hwy na 24 awr. Rhaid i awdurdodiad llafar a roddir pan fo paragraff 2.12(c) yn gymwys gael ei gofnodi’n ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol. (Gweler Nodiadau 10 i 13.)

2.14 Rhaid i arolygydd sy’n rhoi awdurdodiad, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu swyddog ar reng uwch-arolygydd neu uwch. Gall y swyddog hwn gyfarwyddo y dylai’r awdurdodiad gael ei ymestyn am 24 awr ychwanegol os oes trosedd dreisgar neu achos o gario offerynnau peryglus neu arfau ymosodol wedi digwydd, neu os oes amheuaeth eu bod wedi digwydd, ac ystyrir bod angen parhau i ddefnyddio’r pwerau er mwyn atal neu ddelio â rhagor o weithgarwch o’r fath neu ganfod offeryn peryglus neu arf ymosodol a ddefnyddiwyd. Rhaid i’r cyfarwyddyd hwnnw gael ei roi yn ysgrifenedig neu, os na fydd yn ymarferol gwneud hynny, rhaid iddo gael ei gofnodi yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi hynny. (Gweler Nodyn 12.)

2.14A Dylai’r broses o ddewis personau a cherbydau o dan adran 60 i’w stopio ac, os yw’n briodol, eu chwilio adlewyrchu asesiad gwrthrychol o natur y digwyddiad neu’r arf dan sylw a’r unigolion a’r cerbydau y credir eu bod yn gysylltiedig â’r digwyddiad hwnnw neu’r arfau hynny (gweler Nodiadau 10 a 11). Ni ddylid defnyddio’r pwerau i stopio a chwilio personau a cherbydau am resymau nad ydynt yn gysylltiedig â diben yr awdurdodiad. Wrth ddewis personau a cherbydau i’w stopio mewn ymateb i fygythiad neu ddigwyddiad penodol, rhaid i swyddogion gymryd gofal i beidio â gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn unrhyw un ar sail unrhyw un o’r nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. (Gweler paragraff 1.1.)

2.14B Mae hawl gan yrrwr cerbyd a gaiff ei stopio o dan adran 60 ac unrhyw berson a gaiff ei chwilio o dan adran 60 yr hawl i gael datganiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw os bydd yn gwneud cais o fewn 12 mis i’r diwrnod y cafodd y cerbyd ei stopio neu’r person ei chwilio. Mae’r datganiad hwn yn gofnod sy’n nodi bod y cerbyd wedi cael ei stopio neu (yn ôl y digwydd) fod y person wedi cael ei chwilio o dan adran 60 a gall fod yn rhan o’r cofnod o’r chwiliad neu gael ei ddarparu fel cofnod ar wahân.

Pwerau i’w gwneud yn ofynnol i dynnu gorchuddion wyneb

2.15 Mae adran 60AA o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 hefyd yn rhoi pŵer i’w gwneud yn ofynnol i dynnu cuddwisgoedd. Rhaid i’r swyddog sy’n arfer y pŵer gredu’n rhesymol fod rhywun yn gwisgo eitem yn gyfan gwbl neu’n bennaf er mwyn celu pwy ydyw. Mae pŵer hefyd i atafaelu eitemau o’r fath os bydd y swyddog o’r farn bod y person yn bwriadu eu gwisgo at y diben hwn. Nid oes pŵer i stopio a chwilio am guddwisgoedd. Gall swyddog atafaelu unrhyw eitem o’r fath a ganfyddir wrth arfer pŵer chwilio ar gyfer rhywbeth arall, neu sy’n cael ei chario, ac y cred y swyddog yn rhesymol y bwriedir ei defnyddio i gelu pwy yw rhywun. Dim ond os oes awdurdodiad a roddwyd o dan adran 60 neu adran 60AA mewn grym y gellir defnyddio’r pŵer hwn. (Gweler Nodyn 4.)

2.16 Gellir rhoi awdurdodiad o dan adran 60AA i gwnstabl mewn lifrau ei gwneud yn ofynnol i dynnu cuddwisgoedd a’u hatafaelu os bydd y swyddog awdurdodi yn credu’n rhesymol y gall gweithgareddau ddigwydd mewn unrhyw leoliad yn ardal heddlu’r swyddog sy’n debygol o arwain at droseddu a’i bod yn fuddiol defnyddio’r pwerau hyn i atal neu reoli’r gweithgareddau hyn.

2.17 Dim ond swyddog ar reng arolygydd neu uwch a all roi awdurdodiad o dan adran 60AA, yn ysgrifenedig, gan nodi ar ba sail y cafodd ei roi, ym mha ardal y gellir arfer y pwerau a’r cyfnod o amser y byddant mewn grym. Ni fydd y cyfnod a awdurdodir yn hwy nag sy’n ymddangos yn rhesymol i atal, neu geisio atal troseddu. Ni chaiff fod yn hwy na 24 awr. (Gweler Nodiadau 10 i 13.)

2.18 Rhaid i arolygydd sy’n rhoi awdurdodiad, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu swyddog ar reng uwch-arolygydd neu uwch. Gall y swyddog hwn gyfarwyddo y dylai’r awdurdodiad gael ei ymestyn am 24 awr ychwanegol os oes troseddau wedi cael eu cyflawni, neu os oes amheuaeth eu bod wedi cael eu cyflawni, ac ystyrir bod angen parhau i ddefnyddio’r pwerau er mwyn atal neu ddelio â rhagor o weithgarwch o’r fath. Rhaid i’r cyfarwyddyd hwn hefyd gael ei roi yn ysgrifenedig ar y pryd neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi hynny. (Gweler Nodyn 12.)

(c) Heb ei defnyddio

(d) Chwiliadau o dan adran Atodlen 5 i Ddeddf Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth 2011

2.18A Mae paragraph 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth 2011 yn caniatáu i gwnstabl gadw unigolyn i’w chwilio o dan y pwerau canlynol:

(i) pwerau o dan baragraff 6(2)(a) pan fydd hysbysiad Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth yn cael ei gyflwyno, neu wedi cael ei gyflwyno, i’r unigolyn at ddiben canfod a oes ganddo unrhyw beth yn ei feddiant sy’n torri’r mesurau a nodir yn yr hysbysiad;

(ii) pwerau o dan baragraff 8(2)(a) yn unol â chyflwyno gwarant i chwilio’r unigolyn gan ynad heddwch yng Nghymru a Lloegr, siryf yn yr Alban neu ynad lleyg yng Ngogledd Iwerddon sy’n fodlon bod angen cynnal chwiliad at ddiben penderfynu a yw unigolyn y mae hysbysiad Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth mewn grym mewn perthynas ag ef yn cydymffurfio â’r mesurau a nodir yn yr hysbysiad (gweler paragraff 2.20);

(iii) pwerau o dan baragraff 10 i ganfod a oes gan unigolyn y mae hysbysiad Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth mewn grym mewn perthynas ag ef unrhyw beth yn ei feddiant y gellid ei ddefnyddio i fygwth neu niweidio unrhyw berson.

Gweler paragraff 2.1(e).

2.19 Mewn perthynas ag arfer y pwerau a nodir ym mharagraff 2.18A, nid oes angen i’r cwnstabl gael sail resymol dros amau:

(a) bod yr unigolyn yn torri unrhyw un o’r mesurau a nodir yn yr hysbysiad Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth, neu ei fod wedi gwneud hynny;

(b) bod gan yr unigolyn unrhyw beth yn ei feddiant:

  • sydd, yn achos y pŵer yn is-baragraff (i), yn torri mesurau a nodir yn yr hysbysiad Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth;

  • sydd, yn achos y pŵer yn is-baragraff (ii), yn mynd yn groes i fesurau a nodir yn yr hysbysiad Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth;

  • y gellid, yn achos y pŵer yn is-baragraff (iii), ei ddefnyddio i fygwth neu niweidio unrhyw berson.

2.20 Rhaid i unigolyn y mae gwarant mewn grym mewn perthynas ag ef gael ei chwilio o dan y pŵer a nodir ym mharagraff 2.18A(ii) o fewn 28 diwrnod i gyflwyno’r warant, a:

  • dim ond ar un achlysur yn ystod y cyfnod hwnnw y gall yr unigolyn gael ei chwilio;

  • rhaid i’r chwiliad gael ei gynnal ar amser rhesymol oni fydd yn ymddangos y byddai hyn yn llesteirio dibenion y chwiliad.

2.21 Heb ei defnyddio.

2.22 Heb ei defnyddio.

2.23Heb ei defnyddio.

2.24Heb ei defnyddio.

2.24A Heb ei defnyddio.

2.25 Heb ei defnyddio.

2.26 Dim ond at ddibenion penodol yn ymwneud â hysbysiad Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth fel y nodir uchod y mae’r pwerau o dan Atodlen 5 yn caniatáu i gwnstabl chwilio unigolyn. Fodd bynnag, gellir atafaelu unrhyw beth a ganfyddir a’i gadw os oes sail resymol dros gredu ei fod yn dystiolaeth o unrhyw drosedd i’w defnyddio mewn treial ar gyfer y drosedd honno neu i’w atal rhag cael ei guddio, ei golli, ei ddifrodi, ei newid, neu ei ddinistrio. Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn atal chwiliad rhag cael ei gynnal o dan bwerau chwilio eraill pe bai’r swyddog, wrth arfer y pwerau hyn, yn ffurfio sail resymol dros amheuaeth.

(e) Pwerau i chwilio personau wrth arfer pŵer i chwilio safle

2.27 Mae’r pwerau canlynol i chwilio safle hefyd yn awdurdodi chwilio person, nad yw wedi’i arestio, a ganfyddir ar y safle wrth gynnal y chwiliad:

(a) pwerau o dan adran 139B o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 sy’n caniatáu i gwnstabl gael mynediad i safle ysgol a chwilio’r safle ac unrhyw berson ar y safle am unrhyw eitem â llafn neu flaen arni neu arf ymosodol;

(b) pwerau o dan warant a gyflwynwyd o dan adran 23(3) o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 i chwilio safle am gyffuriau neu ddogfennau ond dim ond os yw’r warant yn awdurdodi hynny’n benodol y gellir chwilio pobl a ganfyddir ar y safle;

(c) pwerau o dan warant chwilio a gyflwynwyd o dan baragraff 1, 3 neu 11 o Atodlen 5 i Ddeddf Terfysgaeth 2000 i chwilio safle ac unrhyw berson a ganfyddir yno am ddeunydd sy’n debygol o fod o werth sylweddol i ymchwiliad i derfysgaeth.

2.28 Cyn y gellir arfer y pŵer o dan adran 139B o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988, mae’n rhaid bod gan y cwnstabl sail resymol dros amau bod trosedd o dan adran 139A neu 139AA o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (bod ag eitem â llafn neu flaen arni neu arf ymosodol ar safle ysgol) wedi neu wrthi’n cael ei chyflawni. Gellir cyflwyno warant i chwilio safle a phersonau a ganfyddir ar y safle o dan adran 23(3) o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 os oes seiliau rhesymol dros amau bod gan berson gyffuriau a reolir neu ddogfennau penodol yn ei feddiant ar y safle.

2.29 Nid yw’r pwerau ym mharagraff 2.27 yn mynnu bod sail benodol flaenorol dros amau bod gan y person i’w chwilio eitem y mae pŵer presennol i chwilio amdani, yn ei feddiant. Fodd bynnag, mae angen sicrhau o hyd bod y ffordd y caiff y rheini a gaiff eu chwilio o dan y pwerau hyn eu dewis a’u trin yn seiliedig ar ffactorau gwrthrychol sy’n gysylltiedig â chwilio’r safle, ac nid ar ragfarn bersonol.

3 Cynnal chwiliadau

3.1 Rhaid i bob achos o stopio a chwilio gael ei gynnal mewn modd cwrtais ac ystyriol gan barchu’r person dan sylw. Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar hyder y cyhoedd yn yr heddlu. Dylid gwneud pob ymdrech resymol i beri cyn lleied â phosibl o embaras i’r person sy’n cael ei chwilio. (Gweler Nodyn 4.)

3.2 Dylid ceisio cydweithrediad y person sydd i’w chwilio ym mhob achos, hyd yn oed os bydd y person yn gwrthwynebu’r chwiliad i ddechrau. Dim ond os bydd y person yn amlwg yn amharod i gydweithredu neu’n gwrthsefyll y gellir defnyddio grym i’w chwilio. Gellir defnyddio grym rhesymol pan fetho popeth arall er mwyn cynnal chwiliad neu gadw person neu gerbyd at ddibenion chwilio.

3.3 Rhaid i’r cyfnod o amser y gellir cadw person neu gerbyd fod yn rhesymol a’i gadw cyn fyrred â phosibl. Pan fydd angen amheuaeth resymol i arfer pŵer, rhaid i drylwyredd a maint y chwiliad ddibynnu ar yr hyn yr amheuir ei fod yn cael ei gario, a chan bwy. Os bydd yr amheuaeth yn ymwneud ag eitem benodol a welir yn cael ei rhoi ym mhoced person, yna, yn absenoldeb sail arall dros amheuaeth neu gyfle i’r eitem gael ei symud i rywle arall, rhaid i’r chwiliad gael ei gyfyngu i’r boced honno. Yn achos eitem fach y gellir ei chuddio’n hawdd, fel cyffur, ac y gellid ei chuddio unrhyw le ar berson, gall fod angen cynnal chwiliad mwy trylwyr. Yn achos chwiliadau a grybwyllir ym mharagraff 2.1(b) a (d), nad oes angen seiliau rhesymol dros amheuaeth i’w cynnal, gall swyddogion gynnal unrhyw chwiliad rhesymol i edrych am eitemau y mae ganddynt y pŵer i chwilio amdanynt. (Gweler Nodyn 5.)

3.4 Rhaid i’r chwiliad gael ei gynnal yn y lleoliad lle cafodd y person neu’r cerbyd ei atal yn gyntaf neu’n agos at y lleoliad hwnnw. (Gweler Nodyn 6.)

3.5 Nid oes pŵer i’w gwneud yn ofynnol i berson dynnu unrhyw ddillad yn gyhoeddus ar wahân i gôt allanol, siaced neu fenig, ac eithrio o dan adran 60AA o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (sy’n rhoi’r pŵer i gwnstabl ei gwneud yn ofynnol i berson dynnu unrhyw eitem a wisgir i gelu pwy ydyw). (Gweler Nodiadau 4 a 6.) Rhaid i chwiliad cyhoeddus o ddillad person nad ydynt wedi cael eu tynnu gael ei gyfyngu i archwiliad arwynebol o ddillad allanol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn atal swyddog rhag gosod ei law y tu mewn i bocedi’r dillad allanol, neu deimlo y tu mewn i goleri, sanau ac esgidiau os bydd hyn yn rhesymol angenrheidiol yn yr amgylchiadau i edrych am wrthrych y chwiliad, neu gymryd ac archwilio unrhyw eitem yr amheuir yn rhesymol mai gwrthrych y chwiliad ydyw. Am yr un rhesymau, yn unol â’r cyfyngiadau ar dynnu penwisg, gellir chwilio gwallt person yn gyhoeddus. (Gweler paragraffau 3.1 a 3.3.)

3.6 Os ystyrir bod seiliau rhesymol dros gynnal chwiliad mwy trylwyr (e.e. drwy ei gwneud yn ofynnol i berson dynnu crys-T), rhaid i hyn gael ei wneud allan o olwg y cyhoedd, er enghraifft yn un o faniau’r heddlu oni fydd paragraff 3.7 yn gymwys, neu orsaf heddlu, os oes un gerllaw (gweler Nodyn 6.) Dim ond swyddog o’r un rhyw â’r person sy’n cael ei chwilio a all gynnal chwiliad sy’n cynnwys tynnu mwy na chôt allanol, siaced, menig, penwisg neu esgidiau, neu unrhyw eitem arall sy’n celu pwy ydyw, ac ni ellir cynnal y chwiliad ym mhresenoldeb unrhyw un o’r rhyw arall oni fydd y person sy’n cael ei chwilio’n gofyn yn benodol am hynny. (Gweler Cod C Atodiad L a Nodiadau 4 a 7.)

3.7 Ni ddylid cynnal chwiliadau sy’n cynnwys dangos rhannau personol o’r corff fel estyniad arferol i chwiliad llai trylwyr, dim ond am na chanfuwyd dim yn ystod y chwiliad cyntaf. Dim ond mewn gorsaf heddlu gyfagos neu leoliad cyfagos arall sydd allan o olwg y cyhoedd (ond nid cerbyd yr heddlu) y gellir cynnal chwiliadau sy’n cynnwys dangos rhannau personol o’r corff. Rhaid i’r chwiliadau hyn gael eu cynnal yn unol â pharagraff 11 o Atodiad A i God C ond ni ellir awdurdodi na chynnal chwiliad personol a grybwyllir ym mharagraff 11(f) o Atodiad A i God C o dan unrhyw bwerau stopio a chwilio. Nid yw darpariaethau eraill Cod C yn gymwys i gynnal a chofnodi chwiliadau o bersonau a gedwir yng ngorsafoedd yr heddlu wrth arfer pwerau atal a chwilio. (Gweler Nodyn 7.)

Camau i’w cymryd cyn chwilio

3.8 Cyn cynnal unrhyw chwiliad o berson a gedwir neu gerbyd a gaiff ei stopio, rhaid i’r swyddog gymryd camau rhesymol, os nad yw mewn lifrai (gweler paragraff 3.9), i ddangos ei gerdyn gwarant i’r person i’w chwilio neu’r person sy’n gyfrifol am y cerbyd i’w chwilio, a ph’un a yw mewn lifrai ai peidio, i roi’r wybodaeth ganlynol i’r person hwnnw:

(a) ei fod yn cael ei gadw at ddibenion chwilio;

(b) enw’r swyddog (ac eithrio yn achos ymholiadau sy’n gysylltiedig ag ymchwiliadau i derfysgaeth neu fel arall os bydd y swyddog yn credu’n rhesymol y gallai rhoi ei enw ei beryglu, ac os felly, bydd yn rhoi rhif y warant neu rif adnabod arall) ac enw’r orsaf heddlu y mae’r swyddog yn gysylltiedig â hi;

(c) y pŵer chwilio cyfreithiol sy’n cael ei arfer,

(d) esboniad clir o’r canlynol:

(i) gwrthrych y chwiliad yn nhermau’r eitem neu’r eitemau y mae pŵer i chwilio amdani/amdanynt;

(ii) yn achos:

  • y pŵer o dan adran 60 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (gweler paragraff 2.1(b)), natur y pŵer, yr awdurdodiad a’r ffaith ei fod wedi’i roi;

  • y pwerau o dan Atodlen 5 i Ddeddf Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth 2011 (gweler paragraff 2.1(e) a 2.18A):

  • y ffaith bod hysbysiad Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth mewn grym neu, (yn achos paragraff 6(2)(a)) fod hysbysiad Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth yn cael ei gyflwyno;

  • natur y pŵer sy’n cael ei arfer.

Ar gyfer chwiliad o dan baragraff 8 o Atodlen 5, rhaid i’r warant gael ei gyflwyno a rhaid i’r person gael copi ohono.

  • pob pŵer arall sy’n mynnu bod amheuaeth resymol (gweler paragraff 2.1(a)), y sail dros amheuaeth. Mae hyn yn golygu esbonio’r sail dros yr amheuaeth drwy gyfeirio at wybodaeth a/neu gudd-wybodaeth am y person dan sylw, neu ymddygiad penodol ganddo (gweler paragraffau 2.2).

(e) bod hawl ganddo i gael copi o’r cofnod o’r chwiliad os caiff un ei lunio (gweler adran 4 isod), os bydd yn gofyn amdano o fewn tri mis i ddyddiad y chwiliad ac:

(i) os na chaiff ei arestio a’i gludo i orsaf heddlu o ganlyniad i’r chwiliad a’i bod yn ymarferol llunio’r cofnod yn y fan a’r lle, y bydd, yn union ar ôl i’r chwiliad gael ei gwblhau, yn cael copi o’r naill neu’r llall o’r canlynol, os bydd yn gofyn amdano:

  • copi o’r cofnod; neu

  • dderbynneb sy’n dangos sut y gall gael copi o’r cofnod llawn neu gael gafael ar gopi electronig o’r cofnod;

(ii) os caiff ei arestio a’i gludo i orsaf heddlu o ganlyniad i’r chwiliad, y bydd y cofnod yn cael ei lunio yn yr orsaf fel rhan o’i gofnod yn y ddalfa ac, os bydd yn gofyn amdano, bydd yn cael copi o’i gofnod yn y ddalfa, fydd yn cynnwys cofnod o’r chwiliad cyn gynted ag y bo’n ymarferol tra bydd yn yr orsaf, (Gweler Nodyn 16.)

3.9 Dim ond cwnstabl mewn lifrai a all stopio a chwilio o dan y pŵer a grybwyllir ym mharagraff 2.1(b).

3.10 Dylid rhoi gwybodaeth i’r person hefyd am bwerau’r heddlu i stopio a chwilio a hawliau’r unigolyn yn yr amgylchiadau hyn.

3.11 Os bydd yn ymddangos nad yw’r person i’w chwilio, neu’r person sy’n gyfrifol am y cerbyd i’w chwilio, yn deall yr hyn sy’n cael ei ddweud, neu os bydd unrhyw amheuaeth ynghylch gallu’r person i ddeall Saesneg, rhaid i’r swyddog gymryd camau rhesymol i dynnu sylw’r person at wybodaeth am ei hawliau ac unrhyw ddarpariaethau perthnasol yn y Cod hwn. Os bydd y person yn fyddar neu os na fydd yn deall Saesneg a bydd rhywun arall yn ei gwmni, yna rhaid i’r swyddog geisio sefydlu a all y person hwnnw gyfieithu neu helpu’r swyddog fel arall i gyfleu’r wybodaeth ofynnol.

4 Gofynion cofnodi

(a) Chwiliadau nad ydynt yn arwain at arestio

4.1 Pan fydd swyddog yn cynnal chwiliad wrth arfer unrhyw bŵer y mae’r Cod hwn yn gymwys iddo ac na fydd y chwiliad yn arwain at arestio’r person a chwiliwyd neu’r person sy’n gyfrifol am y cerbyd a chwiliwyd a’i gludo i orsaf heddlu, rhaid iddo wneud cofnod o’r chwiliad hwnnw, yn electronig neu ar bapur, oni fydd amgylchiadau eithriadol yn golygu bod hyn yn gwbl anymarferol (e.e. mewn sefyllfaoedd o anhrefn cyhoeddus neu pan fydd angen i’r swyddog sy’n cofnodi fynd i rywle arall ar frys). Os bydd angen gwneud cofnod, rhaid i’r swyddog a gynhaliodd y chwiliad wneud y cofnod yn y fan a’r lle, neu, os na fydd hyn yn ymarferol, rhaid i’r swyddog wneud y cofnod cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r chwiliad gael ei gwblhau. (Gweler Nodyn 16.)

4.2 Os caiff y cofnod ei wneud ar y pryd, rhaid i’r swyddog ofyn i’r person sydd wedi cael ei chwilio neu’r person sy’n gyfrifol am y cerbyd sydd wedi cael ei chwilio a yw am gael copi o’r cofnod, ac os felly, rhaid iddo gael y naill neu’r llall o’r canlynol yn syth:

  • copi o’r cofnod; neu

  • dderbynneb sy’n dangos sut y gall gael copi o’r cofnod llawn neu gael gafael ar gopi electronig o’r cofnod.

4.2A Nid yw’n ofynnol i swyddog ddarparu copi o’r cofnod llawn na derbynneb ar y pryd os caiff ei alw i ddigwyddiad â blaenoriaeth uwch. (Gweler Nodyn 21.)

(b) Chwiliadau sy’n arwain at arestio

4.2B Os bydd chwiliad a gynhelir wrth arfer unrhyw bŵer y mae’r Cod hwn yn gymwys iddo yn arwain at arestio person a’i gludo i orsaf heddlu, y swyddog a gynhaliodd y chwiliad fydd yn gyfrifol am sicrhau y caiff cofnod o’r chwiliad ei wneud fel rhan o’i gofnod yn y ddalfa. Rhaid i swyddog y ddalfa wedyn sicrhau y gofynnir i’r person a yw am gael copi o’r cofnod ac, os felly, y caiff gopi ohono cyn gynted ag y bo’n ymarferol. (Gweler Nodyn 16.)

(c) Cofnod o chwiliad

4.3 Rhaid i gofnod o chwiliad bob amser gynnwys y wybodaeth ganlynol:

(a) Nodyn o ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig y person a chwiliwyd neu’r person sy’n gyfrifol am y cerbyd a chwiliwyd (yn ôl y digwydd) ac, os yw’n wahanol, canfyddiad y swyddog a gynhaliodd y chwiliad o’i ethnigrwydd (gweler Nodyn 18);

(b) Y dyddiad a’r amser y cafodd y person neu’r cerbyd ei chwilio, a’r lleoliad (gweler Nodyn 6);

(c) Gwrthrych y chwiliad yn nhermau’r eitem neu’r eitemau y mae pŵer i chwilio amndani/amdanynt;

(d) Yn achos:

  • y pŵer o dan adran 60 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (gweler paragraff 2.1(b)), natur y pŵer, yr awdurdodiad a’r ffaith ei fod wedi’i roi (gweler Nodyn 17);

  • y pwerau o dan Atodlen 5 i Ddeddf Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth 2011 (gweler paragraffau 2.1(e) a 2.18A):

  • y ffaith bod hysbysiad Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth mewn grym neu, (yn achos paragraff 6(2)(a)), fod hysbysiad Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth yn cael ei gyflwyno;

  • natur y pŵer, ac;

  • ar gyfer chwiliad o dan baragraff 8, y dyddiad y cyflwynwyd y warant chwilio, y ffaith bod y warant wedi’i gynhyrchu a bod copi ohono wedi’i ddarparu a rhaid i’r warant hefyd gael ei arnodi gan y cwnstabl a’i rhoddodd i nodi a ganfuwyd unrhyw beth ac a atafaelwyd unrhyw beth

  • pob pŵer arall sy’n mynnu bod amheuaeth resymol (gweler paragraff 2.1(a)), y sail dros amheuaeth.

(e) yn ddarostyngedig i baragraff 3.8(b), hunaniaeth y swyddog a gynhaliodd y chwiliad. (Gweler Nodyn 15.)

4.3A At ddibenion cwblhau’r cofnod o’r chwiliad, nid yw’n ofynnol i gofnodi enw, cyfeiriad na dyddiad geni y person a chwiliad neu’r person sy’n gyfrifol am y cerbyd a chwiliwyd. Nid oes rhwymedigaeth ar y person i ddarparu’r wybodaeth hon ac ni ddylid gofyn iddo ei darparu at ddibenion cwblhau’r cofnod.

4.4 Nid oes dim ym mharagraff 4.3 yn ei gwneud yn ofynnol i enwau swyddogion gael eu dangos ar y cofnod o’r chwiliad nac ar unrhyw gofnod arall y mae’n ofynnol ei wneud o dan y Cod hwn yn achos ymholiadau sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad i derfysgaeth neu fel arall os bydd y swyddog yn credu’n rhesymol y gallai cofnodi enwau beryglu swyddogion. Mewn achosion o’r fath, rhaid i’r cofnod ddangos rhif y warant neu rif adnabod arall ac enw’r orsaf y mae’r swyddog yn gysylltiedig â hi.

4.5 Mae angen cofnod ar gyfer pob person a phob cerbyd a chwiliwyd. Fodd bynnag, os bydd person mewn cerbyd a chaiff y ddau eu chwilio, a bod gwrthrych y chwiliad a’r sail dros ei gynnal yr un peth, dim ond un cofnod y bydd angen ei gwblhau. Os caiff mwy nag un person mewn cerbyd eu chwilio, rhaid gwneud cofnodion ar wahân ar gyfer pob person a chwiliwyd. Os mai dim ond cerbyd a gaiff ei chwilio, rhaid i gefndir ethnig hunan-ddiffiniedig y person sy’n gyfrifol am y cerbyd gael ei gofnodi, oni fydd y cerbyd yn wag.

4.6 Rhaid i’r cofnod o’r sail dros gynnal chwiliad, yn gryno ond yn llawn gwybodaeth, esbonio’r rheswm dros amau’r person dan sylw, drwy gyfeirio at wybodaeth a/ neu gudd-wybodaeth am y person dan sylw, neu ymddygiad penodol ganddo (gweler paragraff 2.2).

4.7 Pan fydd swyddogion yn cadw unigolyn gyda’r bwriad o’i chwilio, ond bydd yr angen i gynnal chwiliad yn cael ei ddileu o ganlyniad i holi’r person dan sylw, ni ddylid cynnal chwiliad ac ni fydd angen gwneud cofnod. (Gweler paragraff 2.10 a Nodiadau 3 a 22A.)

4.8 Ar ôl chwilio cerbyd gwag, neu unrhyw beth ynddo neu arno, rhaid i swyddog adael hysbysiad ynddo (neu arno, os bydd pethau arno wedi’u chwilio heb iddo gael ei agor) yn cofnodi’r ffaith ei fod wedi cael ei chwilio.

4.9 Rhaid i’r hysbysiad gynnwys enw’r orsaf heddlu y mae’r swyddog dan sylw yn gysylltiedig â hi a nodi ble y gellir cael copi o’r cofnod o’r chwiliad a sut (os yw’n gymwys) y gellir cael copi electronig ac i ble y dylid cyfeirio cais am iawndal.

4.10 Rhaid i’r cerbyd, os yw’n ymarferol, gael ei adael yn ddiogel.

4.10A Heb ei defnyddio.

4.10B Heb ei defnyddio.

Cofnodi cyfarfyddiadau nad ydynt yn ddarostyngedig i bwerau statudol

4.11 Heb ei defnyddio

4.12 Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol ar swyddog sy’n gofyn i berson mewn man cyhoeddus roi cyfrif amdano’i hun, h.y. ei weithredoedd, ei ymddygiad, ei bresenoldeb mewn ardal neu ei feddiant ar unrhyw beth, i wneud unrhyw gofnod o’r cyfarfyddiad na rhoi derbynneb i’r person. (Gweler paragraff 2.11 a Nodiadau 22A a 22B.)

4.12A Heb ei defnyddio.

4.13Heb ei defnyddio.

4.14 Heb ei defnyddio.

4.15 Heb ei defnyddio.

4.16Heb ei defnyddio.

4.17 Heb ei defnyddio.

4.18 Heb ei defnyddio.

4.19Heb ei defnyddio.

4.20Heb ei defnyddio.

5 Monitro a goruchwylio’r defnydd o bwerau stopio a chwilio

Cyffredinol

5.1 Mae unrhyw gamddefnydd o bwerau stopio a chwilio yn debygol o fod yn niweidiol i blismona ac arwain at ddiffyg ymddiriedaeth yn yr heddlu ymhlith y gymuned leol a’r cyhoedd yn gyffredinol. Rhaid i swyddogion goruchwylio fonitro’r defnydd o bwerau stopio a chwilio a dylent ystyried yn arbennig oes unrhyw dystiolaeth eu bod yn cael eu harfer ar sail delweddau ystrydebol neu gyffredinoliadau amhriodol. Rhaid i swyddogion goruchwylio fodloni eu hunain bod arferion atal, chwilio a chofnodi swyddogion o dan eu goruchwyliaeth yn cydymffurfio’n llawn â’r Cod hwn. Rhaid i oruchwylwyr hefyd ystyried a yw’r cofnodion yn datgelu unrhyw dueddiadau neu batrymau sy’n peri pryder ac, os felly, rhaid iddynt gymryd camau priodol i fynd i’r afael â hyn. (Gweler paragraff 2.8A.)

5.2 Rhaid i uwch-swyddogion â chyfrifoldebau am ardal neu heddlu hefyd fonitro’r defnydd ehangach o bwerau stopio a chwilio a, lle y bo angen, gymryd camau ar y lefel berthnasol.

5.3 Rhaid i waith goruchwylio a monitro gael ei ategu gan gofnodion ystadegol cynhwysfawr o achosion o stopio a chwilio ar lefel yr heddlu, yr ardal ac ar lefel leol. Dylid nodi unrhyw ddefnydd anghymesur, yn ôl pob golwg, o’r pwerau gan swyddogion penodol neu grwpiau o swyddogion neu mewn perthynas ag adrannau penodol o’r gymuned, ac ymchwilio iddynt.

5.4 Er mwyn hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y defnydd o’r pwerau, rhaid i heddluoedd, mewn ymgynghoriad â chomisiynwyr yr heddlu a throseddu, wneud trefniadau i gynrychiolwyr o’r gymuned graffu ar y cofnodion, ac egluro’r defnydd o’r pwerau ar lefel leol. (Gweler Nodyn 19.)

Swyddogion unigol yr amheuir eu bod yn camddefnyddio pwerau

5.5 Rhaid i oruchwylwyr yr heddlu fonitro defnydd swyddogion unigol o bwerau stopio a chwilio er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cymhwyso’n briodol ac yn gyfreithlon. Mae sawl ffurf ar fonitro, megis goruchwylio’r modd y caiff y pwerau eu harfer yn uniongyrchol, archwilio cofnodion stopio a chwilio (yn benodol archwilio’r sail dros amheuaeth a gofnodwyd gan y swyddog) a gofyn i’r swyddog roi cyfrif am y ffordd y gwnaeth gynnal a chofnodi chwiliadau penodol neu drwy gwynion am achos o stopio a chwilio a gynhaliwyd gan swyddog.

5.6 Pan fydd goruchwyliwr yn nodi materion o ran y ffordd y mae swyddog wedi defnyddio pŵer stopio a chwilio, bydd ffeithiau’r achos yn pennu a yw’r safonau ymddygiad proffesiynol a nodir yn y Cod Moeseg (gweler [Code of Ethics College of Policing](https://www.college.police.uk/ethics/code-of-ethics))wedi’u torri a pha gamau ffurfiol a gymerir. Gallai defnydd amhriodol ddeillio o berfformiad gwael neu fater yn ymwneud ag ymddygiad, y bydd angen i’r goruchwyliwr gymryd camau priodol yn ei gylch megis gweithdrefnau perfformiad neu gamymddwyn. Mae’n hollbwysig bod goruchwylwyr yn cymryd camau amserol a phriodol i ddelio ag achosion o’r fath a ddaw i’w sylw.

Nodiadau canllaw

Swyddogion sy’n arfer pwerau stopio a chwilio

1 Nid yw’r Cod hwn yn effeithio ar allu swyddog i siarad â pherson neu ei holi wrth gyflawni ei ddyletswyddau arferol heb gadw’r person yn y ddalfa neu ddefnyddio unrhyw orfodaeth. Nid diben y cod yw gwahardd cyfarfyddiadau o’r fath rhwng yr heddlu a’r gymuned gyda chydweithrediad y person dan sylw ac nid yw chwaith yn effeithio ar yr egwyddor bod gan bob dinesydd ddyletswydd i helpu swyddogion yr heddlu i atal troseddu a chanfod troseddwyr. Dyletswydd ddinesig yn hytrach na chyfreithiol yw hon; ond pan fydd un swyddog yr heddlu yn ceisio canfod a oes trosedd wedi’i chyflawni, neu gan bwy, gall holi unrhyw berson a allai ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol, yn unol â’r cyfyngiadau a osodir gan God C. Nid yw amharodrwydd person i ymateb yn newid yr hawl hon, ond yn absenoldeb pŵer i arestio, neu i gadw person at ddibenion chwilio, mae’r person yn rhydd i adael ac ni ellir ei orfodi i aros gyda’r swyddog.

1A Ym mharagraffau 1.1 a 2.2B(a), y ‘nodweddion gwarchodedig perthnasol’ yw: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol.

1B Mae meddiant diniwed yn golygu nad yw’r person yn euog o wybod ei fod yn cario eitem anghyfreithlon, sy’n ofynnol cyn y gellir ystyried arestio’r person ar sail amheuaeth ei fod wedi cyflawni trosedd mewn perthynas â’r eitem dan sylw (os bydd angen arestio - gweler Cod G PACE a/neu ddwyn achos troseddol). Nid yw’n anghyffredin i blant o dan oedran cyfrifoldeb troseddol gael eu defnyddio gan blant hŷn ac oedolion i gario eiddo sydd wedi’i ddwyn, cyffuriau ac arfau ac, mewn rhai achosion, arfau tanio er budd troseddol eraill, naill ai:

  • yn y gobaith na fydd yr heddlu yn amau eu bod yn cael eu defnyddio i gario’r eitemau; neu

  • gan wybod os bydd amheuaeth eu bod yn cario a chânt eu stopio, na ellir eu harestio na’u herlyn am drosedd.

Felly, mae pwerau stopio a chwilio yn galluogi’r heddlu i ymyrryd yn effeithiol i darfu ar gangiau a grwpiau troseddol sy’n defnyddio plant i gyflawni eu gweithgareddau troseddol.

1BA Pan fydd amheuaeth bod plentyn dan 10 oed yn cario eitemau anghyfreithiol ar ran rhywun arall, neu os deuir o hyd iddo mewn amgylchiadau sy’n awgrymu y gallai fod risg i’w les a’i ddiogelwch, dylid cofnodi’r ffeithiau a chymryd camau yn unol â gweithdrefnau diogelu sefydledig yr heddlu. Bydd hyn yn ychwanegol at ei drin fel tyst a allai fod yn agored i niwed neu y gallai fod arno ofn mewn perthynas â’i statws fel tyst i’r drosedd ddifrifol/troseddau difrifol a gyflawnwyd gan y rhai sy’n ei ddefnyddio fel negesydd. Bydd ystyriaethau diogelu hefyd yn gymwys i bersonau eraill dan 18 oed a gaiff eu stopio a’u chwilio o dan unrhyw un o’r pwerau y mae’r Cod hwn yn gymwys iddynt. Gweler paragraff 1.1 mewn perthynas â’r gofyniad o dan Ddeddf Plant 2004, adran 11, i brif swyddogion yr heddlu a phersonau a chyrff dynodedig eraill sicrhau, wrth gyflawni eu swyddogaethau, eu bod yn ystyried yr angen i ddiogelu a hybu lles pawb dan 18 oed.

2 Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd angen cwestiynau paratoadol, ond yn gyffredinol bydd yn ddymunol cael sgwrs fer, nid yn unig fel ffordd o osgoi chwiliadau aflwyddiannus, ond er mwyn egluro’r sail dros stopio/chwiliad, ennyn cydweithrediad a lleihau unrhyw densiwn a allai fodoli ynghylch yr achos o stopio/chwilio.

3 Pan fydd person yn cael ei gadw’n gyfreithlon at ddibenion chwilio, ond na fydd chwiliad yn cael ei gynnal, nid ystyrir bod y person wedi cael ei gadw’n anghyfreithlon.

4 Mae llawer o bobl yn gorchuddio eu pennau neu wynebau am resymau crefyddol - er enghraifft menywod Mwslimaidd, dynion Sicaidd, menywod Sicaidd neu Hindŵaidd, neu ddynion a menywod Rastaffariaid. Ni all swyddog heddlu orchymyn rhywun i dynnu ei orchudd pen neu wyneb ac eithrio os bydd rheswm dros gredu bod yr eitem yn cael ei gwisgo gan yr unigolyn yn gyfan gwbl neu’n bennaf er mwyn celu pwy ydyw, nid dim ond oherwydd ei bod yn celu pwy ydyw. Lle y gall fod sensitifrwydd crefyddol ynghylch gorchymyn rhywun i dynnu eitem o’r fath, dylai’r swyddog ganiatáu i’r eitem gael ei thynnu allan o olwg y cyhoedd. Lle y bo’n ymarferol, dylai’r eitem gael ei thynnu ym mhresenoldeb swyddog o’r un rhyw â’r person ac allan o olwg unrhyw un o’r rhyw arall. (gweler Cod C Atodiad L).

5 Dylid cwblhau chwiliad o berson yn gyhoeddus cyn gynted â phosibl.

6 Gellir cadw person o dan bŵer stopio a chwilio yn rhywle arall ar wahân i’r man lle y cafodd ei gadw’n wreiddiol, dim ond os yw’r lleoliad hwnnw, boed yn orsaf heddlu neu’n rhywle arall, gerllaw. Dylai’r lleoliad hwnnw fod o fewn pellter teithio rhesymol gan ddefnyddio pa ddull teithio bynnag (ar droed neu mewn car) sy’n briodol. Mae hyn yn gymwys i bob chwiliad o dan bwerau stopio a chwilio, p’un a yw’n cynnwys tynnu dillad neu ddangos rhannau personol o’r corff (gweler paragraffu 3.6 a 3.7) ai peidio neu’n digwydd yng ngolwg y cyhoedd neu allan o olwg y cyhoedd. Mae’n golygu, er enghraifft, na ellir cynnal chwiliad o dan y pŵer stopio a chwilio yn adran 23 o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 sy’n cynnwys gorfodi’r person i dynnu mwy na’i gôt allanol, siaced neu fenig os nad oes lleoliad ar gael sy’n agos i’r man lle y cafodd ei gadw’n wreiddiol ac allan o olwg y cyhoedd. Os bydd chwiliad yn cynnwys dangos rhannau personol o’r corff ac nad oes gorsaf heddlu gerllaw, dylid cymryd gofal penodol i sicrhau bod y lleoliad yn addas a’i fod yn galluogi i’r chwiliad gael ei gynnal yn unol â gofynion paragraff 11 o Atodiad A i God C.

7 Dylid ystyried bod chwiliad ar y stryd ei hun yn chwiliad cyhoeddus at ddibenion paragraffau 3.6 a 3.7 uchod, er y gall fod yn wag ar yr adeg pan fydd y chwiliad yn dechrau. Er nad oes pŵer i’w gwneud yn ofynnol i berson wneud hynny, nid oes dim i atal swyddog rhag gofyn i berson dynnu mwy na chôt allanol, siaced neu fenig yn wirfoddol yn gyhoeddus.

8 Heb ei defnyddio.

9 Gallai dulliau adnabod eraill gynnwys gemwaith, arwyddnodau, tatŵs neu nodweddion eraill y gwyddys eu bod yn nodi aelodaeth o’r gang neu’r grŵp penodol.

9A Rhaid i benderfyniad i chwilio unigolion y credir eu bod yn aelodau o grŵp neu gang penodol gael ei wneud fesul achos yn unol â’r amgylchiadau sy’n gymwys ar adeg y chwiliad arfaethedig ac, yn benodol, gan ystyried:

(a) nifer yr eitemau yr amheuir eu bod yn cael eu cario;

(b) natur yr eitemau hynny a’u risg;

(c) nifer yr unigolion i’w chwilio.

Dim ond os bydd yn ddull angenrheidiol a chymesur yn seiliedig ar y ffeithiau a chan ystyried natur yr amheuaeth y gellir cyfiawnhau chwilio grŵp yn yr achosion hyn. Ni ddylai maint na thrylwyredd y chwiliadau fod yn ormodol.

Bydd maint y grŵp a nifer yr unigolion y bwriedir eu chwilio yn ffactor allweddol a dylid cymryd camau i nodi’r rheini sydd i’w chwilio er mwyn osgoi anghyfleustra diangen i aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn gysylltiedig â’r grŵp sydd hefyd yn bresennol.

Mater i’r heddlu yw bod yn fodlon bod eu penderfyniad i chwilio yn cyflawni nod cyfreithlon, yn angenrheidiol ac yn gymesur.

Swyddogion awdurdodi

10 Mae’r pwerau o dan adran 60 ar wahân i’r pwerau stopio a chwilio arferol sy’n mynnu bod sail resymol dros amau bod unigolyn yn cario arf ymosodol (neu eitem arall), ac yn ychwanegol atynt. Eu diben cyffredinol yw atal trais difrifol ac achosion o gario arfau a allai arwain at niweidio pobl yn ddifrifol drwy ddiarfogi troseddwyr posibl neu ganfod arfau a ddefnyddiwyd mewn amgylchiadau lle na fyddai pwerau eraill yn ddigonol. Felly, ni ddylid eu defnyddio yn lle’r pwerau arferol ar gyfer delio â phroblemau troseddu cyffredin, neu i osgoi’r pwerau hynny. Enghraifft benodol bosibl fyddai awdurdodiad i atal cefnogwyr y gwrthwynebwyr mewn digwyddiad chwaraeon rhag cyflawni trais difrifol neu gario arfau ymosodol pan na fyddai ymddangosiad cyffredinol nac ystod oedran disgwyliedig y rheini sy’n debygol o fod yn gyfrifol, yn unig, yn ddigon nodweddiadol i gefnogi sail resymol dros amheuaeth (gweler paragraff 2.6). Diben y pwerau o dan adran 60AA yw atal y rheini sy’n rhan o brotestiadau bygythiol neu ffyrnig rhag defnyddio gorchuddion wyneb i gelu pwy ydynt.

11 Mae awdurdodiadau o dan adran 60 yn gofyn am gred resymol ar ran y swyddog awdurdodi. Dylai fod sail resymol i’r gred hon, er enghraifft: cudd-wybodaeth neu wybodaeth berthnasol fel hanes o gasineb a thrais rhwng grwpiau penodol; achosion blaenorol o drais mewn digwyddiadau neu leoliadau penodol, neu’n gysylltiedig â nhw; cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o ddwyn gan ddefnyddio cyllell i fygwth mewn ardal gyfyngedig; adroddiadau bod unigolion yn cario arfau’n gyson mewn lleoliad penodol; gwybodaeth yn dilyn achos lle y defnyddiwyd arfau ynglŷn â ble y gellid dod o hyd i’r arfau neu, yn achos adran 60AA, troseddau blaenorol a gyflawnwyd gan unigolyn a oedd yn gwisgo gorchuddion wyneb i gelu pwy oeddent.

12 Mater i’r swyddog awdurdodi yw pennu’r cyfnod o amser y gellir arfer y pwerau a grybwyllir ym mharagraff 2.1(b). Dylai’r swyddog osod y cyfnod lleiaf o amser sy’n angenrheidiol yn ei farn ef neu hi i ddelio â’r risg o drais, achosion o gario cyllyll neu arfau ymosodol, neu ddod o hyd i offerynnau neu arfau peryglus a ddefnyddiwyd. Dim ond unwaith y gellir rhoi cyfarwyddyd i ymestyn y cyfnod a awdurdodwyd o dan y pwerau a grybwyllir ym mharagraff 2.1(b). Wedi hynny, rhaid cael awdurdodiad newydd er mwyn gwneud defnydd pellach o’r pwerau.

13 Mater i’r swyddog awdurdodi yw penderfynu ym mha ardal ddaearyddol y dylid awdurdodi’r defnydd o’r pwerau. Wrth wneud hynny, mae’n bosibl y bydd y swyddog am ystyried ffactorau fel natur a lleoliad yr achos disgwyliedig neu’r achos sydd wedi digwydd, nifer y bobl a all fod yn ardal uniongyrchol yr achos, y gallu i gyrraedd ardaloedd cyfagos a lefel ddisgwyliedig neu wirioneddol y trais. Ni ddylai’r swyddog bennu ardal ddaearyddol sy’n ehangach na’r hyn sy’n angenrheidiol yn ei farn ef neu ei barn hi i atal achosion disgwyliedig o drais neu gario cyllyll.

neu arfau ymosodol, dod o hyd i offerynnau neu arfau peryglus a ddefnyddiwyd neu, yn achos adran 60AA, atal troseddu. Mae’n arbennig o bwysig sicrhau bod cwnstabliaid sy’n arfer pwerau o’r fath yn llwyr ymwybodol o’r ardal lle y gellir eu defnyddio. Felly, dylai’r swyddog sy’n rhoi’r awdurdodiad nodi’r strydoedd sy’n ffurfio ffin yr ardal neu ffin ranbarthol, os yw’n briodol, o fewn ardal yr heddlu. Os bwriedir i’r pŵer gael ei ddefnyddio mewn ymateb i fygythiad neu achos sy’n pontio ardaloedd heddlu, bydd angen i swyddog o bob un o’r heddluoedd dan sylw roi awdurdodiad.

14 Heb ei defnyddio.

Cofnodi

15 Pan fydd mwy nag un swyddog yn cynnal achos o stopio a chwilio, dylid cynnwys manylion pob un o’r swyddogion a fu’n rhan o’r chwiliad yn y cofnod. Nid oes dim i atal swyddog sy’n bresennol ond nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â’r chwilio rhag cwblhau’r cofnod yn ystod y cyfarfyddiad.

16 Pan fydd y chwiliad yn arwain at arestio’r person a chwiliwyd neu’r person sy’n gyfrifol am y cerbyd a chwiliwyd, nid yw’r gofyniad i gynnwys y cofnod o’r chwiliad yng nghofnod y ddalfa yn gymwys os caiff y person ei ryddhau ar “fechnïaeth stryd” ar ôl ei arestio (gweler adran 30A o PACE) i fynychu gorsaf heddlu ac na chaiff ei gadw dan glo yng ngorsaf yr heddlu. Nid yw hawl person i gael copi o’r cofnod o’r chwiliad a wneir fel rhan o gofnod y ddalfa yn effeithio ar ei hawl i gael copi o gofnod y ddalfa nac unrhyw ddarpariaethau eraill PACE Cod C Adran 2 (Cofnodion y ddalfa).

17 At ddibenion monitro, mae’n bwysig nodi pan fydd awdurdod yn cael ei roi i arfer y pŵer stopio a chwilio o dan adran 60 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994.

18 Dylai swyddogion gofnodi ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig pob person a gaiff ei stopio yn unol â’r categorïau a ddefnyddiwyd yng nghwestiwn cyfrifiad 2001 a restrir yn Atodiad B. Dylid gofyn i’r person ddewis un o bum prif gategori sy’n cynrychioli grwpiau ethnig eang ac yna gefndir diwylliannol mwy penodol o fewn y grŵp hwn. Dylai’r dosbarthiad ethnig gael ei godio at ddibenion cofnodi gan ddefnyddio’r system godio yn Atodiad B. Yn ogystal, mae’r blwch “Heb ei nodi” ar gael ond ni ddylid ei gynnig yn benodol i ymatebwyr. Dylai swyddogion fod yn ymwybodol bod angen y wybodaeth hon er mwyn cael darlun cywir o’r gweithgarwch stopio a chwilio ac er mwyn helpu i wella prosesau monitro ethnigrwydd, mynd i’r afael ag arferion gwahaniaethol a hyrwyddo’r defnydd effeithiol o’r pwerau, a dylent esbonio hynny i’r cyhoedd, yn enwedig lle y caiff pryderon eu mynegi. Os bydd person yn rhoi ateb y cred y swyddog ei fod yn ‘anghywir’ (e.e. os bydd person sy’n ymddangos yn Wyn yn nodi ei fod yn Ddu), dylai’r swyddog gofnodi’r ymateb a roddwyd ynghyd â’i ganfyddiad ei hun o gefndir ethnig y person gan ddefnyddio system ddosbarthu’r PNC. Os defnyddir y categori “Heb ei nodi”, dylid nodi’r rheswm dros hynny ar y ffurflen.

19 Dylai trefniadau ar gyfer caniatáu i’r cyhoedd graffu ar gofnodion ystyried hawl y rheini a gafodd eu stopio a’u chwilio i gyfrinachedd. Ffurflenni dienw a/neu ystadegau a gynhyrchwyd o gofnodion ddylai fod ffocws archwiliadau gan aelodau o’r cyhoedd.

Dylai’r grwpiau yr ymgynghorir â nhw bob amser gynnwys plant a phobl ifanc.

20 Heb ei defnyddio.

21 Mewn sefyllfaoedd lle nad yw’n ymarferol darparu copi ysgrifenedig o’r cofnod na mynediad uniongyrchol at gopi electronig o’r cofnod o’r chwiliad neu dderbynneb ar y pryd (gweler paragraff 4.2A uchod), dylai’r swyddog ystyried rhoi manylion yr orsaf y gall y person fynd iddi i gael copi o’r cofnod. Gall derbynneb fod ar ffurf cerdyn busnes syml sy’n cynnwys digon o wybodaeth i ddod o hyd i’r cofnod os bydd y person yn gofyn am gopi, er enghraifft dyddiad a lleoliad y chwiliad, rhif cyfeirnod neu enw’r swyddog a gynhaliodd y chwiliad (oni fydd paragraff 4.4 yn gymwys).

22 Heb ei defnyddio.

22A Lle y ceir pryderon sy’n golygu bod angen monitro unrhyw anghymesuredd, mae gan heddluoedd y disgresiwn i gyfarwyddo swyddogion i gofnodi ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig personau y byddant yn gofyn iddynt roi cyfrif am eu hunain mewn man cyhoeddus neu y byddant yn eu cadw gyda’r nod o’u chwilio ond na fyddant yn eu chwilio. Dylid rhoi canllawiau yn lleol a cheisio lleihau’r fiwrocratiaeth dan sylw i’r eithaf. Dylid monitro a goruchwylio cofnodion yn agos yn unol â pharagraffau 5.1 i 5.6, a gall heddluoedd atal neu ailgyflwyno’r angen i gofnodi’r cyfarfyddiadau hyn fel y bo’n briodol.

22BOs bydd person y gofynnir iddo roi cyfrif amdano’i hun yn gofyn am wybodaeth ynglŷn â sut y gall roi gwybod am ei anfodlonrwydd â’r ffordd y cafodd ei drin, dylid rhoi’r wybodaeth honno iddo.

Diffiniad o arf ymosodol

23 Diffinnir ‘arf ymosodol’ fel “any article made or adapted for use for causing injury to the person, or intended by the person having it with him for such use by him or by someone else”. Mae tri chategori o arfau ymosodol: y rheini a wnaed i achosi anaf i’r person; y rheini a addaswyd at ddiben o’r fath; a’r rheini na chawsant eu gwneud na’u haddasu felly, ond a gaiff eu cario gyda’r bwria do achosi anaf i’r person. Byddai arf tanio, fel y’i diffinnir yn adran 57 o Ddeddf Arfau Tanio 1968, yn dod o dan gwmpas y diffiniad o arf ymosodol pe bai unrhyw un o’r meini prawf uchod yn gymwys.

24 Heb ei defnyddio.

25 Heb ei defnyddio.

Atodiad A - crynodeb o’r prif bwerau stopio a chwilio y mae Cod A yn gymwys iddynt

Mae’r tabl hwn yn ymwneud â phwerau stopio a chwilio yn unig. Gall y statudau unigol isod gynnwys pwerau mynediad, chwilio ac atafaelu eraill yr heddlu

Pŵer Gwrthrych y chwiliad Maint y chwiliad Ble y gellir eu harfer
Eitemau anghyfreithlon yn gyffredinol      
1. Deddf Storfeydd Cyhoeddus 1875, a6 Storfeydd EF a ddygwyd neu a gafwyd yn anghyfreithlon. Personau, cerbydau a llongau. Unrhyw le lle y gellir arfer pwerau’r heddlu.
2. Deddf Arfau Tanio 1968, a47 Arfau tanio Personau a cherbydau Man cyhoeddus, neu unrhyw le mewn achos o amheuaeth resymol o droseddau sy’n ymwneud â chario arfau tanio â bwriad troseddol neu dresmasu ag arfau tanio.
3. Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, a23 Cyffuriau a reolir Personau a cherbydau. Unrhyw le.
4. Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979, a163 Nwyddau: (a) na thalwyd tollau arnynt; (b) a symudwyd, a fewnforiwyd neu a allforiwyd yn anghyfreithlon; (c) sy’n agored fel arall i gael eu fforffedu i Cyllid a Thollau EF. Cerbydau a llongau yn unig. Unrhyw le.
5. Deddf Diogelwch Awyrennau 1982, a24B. Noder: Mae’r pŵer hwn yn gymwys ledled y DU, ond dim ond pan fydd y pŵer yn cael ei arfer mewn maes awyr yng Nghymru a Lloegr y bydd darpariaethau’r Cod hwn yn gymwys. Eitemau a ddygwyd neu eitemau a wnaed, a addaswyd neu y bwriadwyd iddynt gael eu defnyddio wrth gyflawni/mewn cysylltiad ag ymddygiad sy’n gyfystyr â throsedd yn y rhan o’r DU lle mae’r maes awyr wedi’i leoli neu a fyddai’n gyfystyr â throsedd pe bai’n digwydd yno. Personau, cerbydau, awyrennau. Unrhyw beth mewn cerbyd neu awyren neu arno/arni. Unrhyw ran o faes awyr.
6. Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, a1. Nwyddau a ddygwyd; Eitemau a wnaed, a addaswyd neu y bwriadwyd iddynt gael eu defnyddio wrth gyflawni troseddau penodol o dan Ddeddf Dwyn 1968 neu mewn cysylltiad â’r troseddau hynny, y Ddeddf Twyll a Deddf Difrod Troseddol 1971; Fraud Act and Criminal Arfau ymosodol, yn cynnwys eitemau â llafn neu flaen miniog arnynt (ac eithrio cyllyll poced â llafn sy’n plygu heb fod yn fwy na 3 modfedd); Tân gwyllt: Tân gwyllt categori 4 (gradd arddangosfa) os yw meddiant wedi’i wahardd, person dan 18 oed sydd â thân gwyllt oedolyn yn ei feddiant mewn man cyhoeddus. Personau a cherbydau. Lle ceir mynediad i’r cyhoedd.
7. Deddf Digwyddiadau Chwaraeon (Rheoli Alcohol etc.) 1985, a7. Gwirodydd meddwol. Personau, bysiau a threnau. Meysydd chwaraeon penodol neu fysiau a threnau sy’n teithio i ddigwyddiad chwaraeon dynodedig neu oddi yno.
8. Deddf Croesfŵau 1987, a4 Croesfŵau neu rannau o groesfŵau (ac eithrio croesfŵau â phwysau tynnu o lai nag 1.4 cilogram). Personau a cherbydau. Unrhyw le ac eithrio anheddau.
9. Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988 a139B Arfau ymosodol, eitem â llafn neu flaen miniog arni. Personau. Safle ysgol.
Pŵer Gwrthrych y chwiliad Maint y chwiliad Ble y gellir eu harfer
Tystiolaeth o droseddau hela a bywyd gwyllt      
10. Deddf Atal Helwriaeth 1862, a2. Offer hela neu helwriaeth. Personau a herbydau. Man cyhoeddus.
11. Deddf Ceirw 1991, a12. Tystiolaeth o droseddau o dan y Ddeddf. Personau a cherbydau. Unrhyw le ac eithrio anheddau.
12. Deddf Gwarchod Morloi 1970, a4. Morloi neu offer hela. Cerbydau yn unig. Unrhyw le.
13. Deddf Gwarchod Moch Daear 1992, a11. Tystiolaeth o droseddau o dan y Ddeddf. Personau a cherbydau. Unrhyw le.
14. Deddf Bywyd Gwyll a Chefn Gwlad 1981, a19. Tystiolaeth o droseddau bywyd gwyllt. Personau a cherbydau. Unrhyw le ac eithrio anheddau.
Pŵer Gwrthrych y chwiliad Maint y chwiliad Ble y gellir eu harfer
Arall      
15. Paragraffau 6 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth 2011. Unrhyw beth sy’n torri mesurau a nodir mewn hysbysiad Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth. Personau y mae hysbysiad Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth yn cael ei gyflwyno neu mewn grym yn ei gylch. Unrhyw le.
16. Paragraff 10 o Atodlen 5 i Ddeddf Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth 2011. Unrhyw beth y gellir ei ddefnyddio i fygwth neu beri niwed i unrhyw berson. Personau y mae hysbysiad Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth mewn grym yn ei gylch. Unrhyw le.
17. Heb ei defnyddio      
18. Heb ei defnyddio      
19. Adran 60 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994. Arfau ymosodol neu offer peryglus i atal achosion o drais difrifol neu ddelio ag achosion o gario eitemau o’r fath neu ganfod eitemau o’r fath a ddefnyddiwyd mewn achosion o drais difrifol. Personau a cherbydau. Unrhyw le mewn ardal a awdurdodwyd o dan is-adran (1).

Atodiad B - categorïau dosbarthu ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig

Gwyn (G)

A. Gwyn – Prydeinig G1

B. Gwyn – Gwyddelig G2

C. Unrhyw gefndir Gwyn arall G9

Cymysg (C)

D. Gwyn a Du Caribïaidd C1

E. Gwyn a Du Affricanaidd C2

F. Gwyn ac Asiaidd C3

G. Unrhyw gefndir Cymysg arall C9

Asiaidd/Asiaidd – Prydeinig (A)

H. Asiaidd – Indiaidd A1

I. Asiaidd – Pacistanaidd A2

J. Asiaidd – Bangladeshaidd A3

K. Unrhyw gefndir Asiaidd arall A9

Du/Du – Prydeinig (D)

L. Du – Caribïaidd D1

M. Du Affricanaidd D2

N. Unrhyw gefndir Du arall D9

Arall (Ar)

O. Tsieineaidd Ar1 Unrhyw ethnigrwydd arall Ar9

Heb ei Nodi (HN)

Atodiad C - crynodeb o bwerau swyddogion cymorth cymunedol I chwilio ac atafaelu

Mae’r canlynol yn grynodeb o’r pwerau chwilio ac atafaelu y gellir eu harfer gan swyddog cymorth cymunedol y rhoddwyd y pwerau perthnasol iddo yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002.

Wrth arfer unrhyw un o’r pwerau hyn, rhaid i Swyddog Cymorth Cymunedol ystyried unrhyw ddarpariaethau perthnasol yn y Cod hwn, gan gynnwys adran 3 sy’n ymwneud â chynnal chwiliadau a’r camau i’w cymryd cyn chwilio.

1. Heb ei defnyddio

2. Pwerau i chwilio lle mae angen cydsyniad y person ac atafaelu

Gall Swyddog Cymorth Cymunedol gadw person gan ddefnyddio grym rhesymol lle bo angen fel y nodir yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002. Os bydd y person wedi’i gadw’n gyfreithlon, gall y Swyddog Cymorth Cymunedol chwilio’r person ar yr amod bod y person yn cydsynio i chwiliad o’r fath mewn perthynas â’r canlynol:

Dynodiad Pwerau a roddwyd Gwrthrych y Chwiliad Maint y Chwiliad Ble y gellir eu Harfer
1. Deddf Diwygio’r Heddlu 2002, Atodlen 4, paragraffau 7 a 7A. (a) Troseddol Deddf Cyfiawnder a’r Heddlu 2001, a12(2). (a) Alcohol neu gynhwysydd alcohol. (a) Personau. (a) Man cyhoeddus dynodedig.
  (b) Deddf Atafaelu Alcohol (Pobl Ifanc) 1997, a1 (b) Alcohol. (b) Pobl dan 18 oed. (b) Man cyhoeddus.
  (c) Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933, a7(3). (c) Tybaco neu bapurau sigaréts. (c) Pobl dan 16 oed a ganfyddir yn smygu. (c) Man cyhoeddus.

3. Pwerau i chwilio lle nad oes angen cydsyniad yr unigolyn ac atafaelu

Gall Swyddog Cymorth Cymunedol gadw person gan ddefnyddio grym rhesymol lle bo angen fel y nodir yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002. Os bydd y person wedi’i gadw’n gyfreithlon, gall y Swyddog Cymorth Cymunedol chwilio’r person heb ei gydsyniad mewn perthynas â’r canlynol:

Dynodiad Pwerau a roddwyd Gwrthrych y Chwiliad Maint y Chwiliad Ble y gellir eu harfer
Deddf Diwygio’r Heddlu 2002, Atodlen 4 paragraff 2A., Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, a.32. (a) Gwrthrychau y gellid eu defnyddio i achosi anaf corfforol i’r person neu’r Swyddog Cymorth Cymunedol. Personau sy’n destun gofyniad i aros. Unrhyw le lle y gwnaed y gofyniad i aros.
    (b) Eitemau y gallai’r person eu defnyddio i’w helpu i ddianc.    

4. Pwerau i atafaelu heb gydsyniad

Mae’r pŵer hwn yn gymwys pan ganfyddir cyffuriau wrth gynnal unrhyw chwiliad y cyfeirir ato uchod.

Dynodiad Pwerau a roddwyd Gwrthrych yr Atafaelu Ble y gellir eu Harfer
Deddf Diwygio’r Heddlu 2002, Atodlen 4, paragraff 7B. Deddf Diwygio’r Heddlu 2002, Atodlen 4, paragraff 7B. Cyffuriau a reolir sydd ym meddiant person. Unrhyw le lle mae gan y person y cyffur yn ei feddiant.

Atodiad D – Dilëwyd.

Atodiad E – Dilëwyd.

Atodiad F - Sefydlu rhywedd person at ddibenion chwilio

Gweler Cod C Atodiad L

Atodiad G – Chwiliadau o dan adran 342E o’r cod dedfrydu mewn perthynas â throseddwyr sy’n destun gorchymyn lleihau trais difrifol.

Ychwanegu paragraffau 2.30-2.39 ac addasiadau sy’n gymwys I baragraffau 3.3, 3.8, 4.3 ac Atodiad A I’r cod hwn.

  1. Mae’r Atodiad hwn yn gymwys i unrhyw chwiliad o dan Adran 342E o’r Cod Dedfrydu mewn perthynas â throseddwyr sy’n destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol gan swyddog heddlu a chofnodi cyfarfyddiadau cyhoeddus.

  2. Bydd yr Atodiad hwn yn gymwys rhwng 00.00 ar 17 Ionawr 2023 a 23.59 ar 17 Gorffennaf 2025 at ddiben treialu’r Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol. Mae’r cyfnod hwn yn cwmpasu cyfnod y cynllun peilot o 24 mis yn ogystal â chyfnod pontio o chwe mis.

  3. Bydd y cyfnod pontio o chwe mis yn caniatáu i’r Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol sy’n dod i rym cyn diwedd cyfnod y cynllun peilot barhau’n “weithredol” am chwe mis ar ôl i’r cynllun peilot ddod i ben, ond ni fydd modd gwneud cais am Orchymyn newydd nac adnewyddu Gorchymyn presennol ar ôl i’r cynllun peilot ddod i ben. Bydd hyn yn caniatáu i’r llysoedd gyflwyno Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol ar ddiwrnod olaf y cynllun peilot am gyfnod lleiaf y gorchymyn (chwe mis).

  4. Er mwyn osgoi amheuaeth, nid yw dyddiad dod i ben y cyfnod ym mharagraff 2 yn effeithio ar unrhyw un o ddarpariaethau’r Cod hwn a byddant yn parhau’n gymwys.

  5. Mae’r Atodiad hwn yn amlinellu’r pwerau o dan Adran 324E o’r Cod Dedfrydu a’r ystyriaethau y dylai swyddogion yr heddlu eu gwneud wrth benderfynu a ddylid cynnal chwiliad ar unigolion sy’n destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol.

  6. Mae Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol yn cael eu treialu yn ardaloedd heddlu Dyffryn Tafwys, Sussex, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Glannau Mersi cyn y caiff penderfyniad ei wneud ynglŷn â chyflwyno’r pwerau ledled Cymru a Lloegr.

  7. Dim ond yn ardaloedd heddlu’r cynllun peilot y gellir cyflwyno Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol. Fodd bynnag, bydd yr Atodiad Hwn yn orfodadwy ledled Cymru a Lloegr, at ddiben y cynllun peilot. Gall cwnstabl yng Nghymru a Lloegr arfer y pwerau stopio a chwilio o dan adran 342E o’r Cod Dedfrydu.

  8. Yn ystod y cyfnod y mae’r Atodiad hwn yn gymwys iddo, dylid darllen ei ddarpariaethau ar y cyd â holl ddarpariaethau eraill Cod A sy’n gymwys yn ystod yr un cyfnod.

  9. Dylid darllen yr Atodiad ar y cyd â’r Canllawiau Statudol ar Orchmynion Lleihau Trais Difrifol sy’n nodi cefndir, prosesau’r heddlu, ystyriaethau tystiolaethol, gweithdrefnau’r llysoedd a gwybodaeth am ddefnyddio Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol ochr yn ochr â gorchmynion ac ymyriadau eraill. Gellir gweld y Canllawiau Statudol ar gov.uk.

Mathau o Bwerau Stopio a Chwilio

Mae’r Atodiad Hwn yn ychwanegu chwiliadau o dan Adran 342E o’r Cod Dedfrydu mewn perthynas ag unigolion sy’n destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol at Baragraff 2 o God A (Mathau o Bwerau Stopio a Chwilio), yn benodol:

Ychwanegu Paragraff 2.1(F)

f) Chwiliadau o dan Adran 342E o’r Cod Dedfrydu mewn perthynas â throseddwyr sy’n destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol.

Ychwanegu Paragraffau 2.30-2.39

Mae paragraffau ychwanegol 2.30-2.39 i God A yn amlinellu’r ystyriaethau y dylai swyddogion yr heddlu eu gwneud wrth benderfynu a ddylid cynnal chwiliad ar unigolion sy’n destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol. Yn benodol:

2.30 Mae Adran 342A i 342K o’r Cod Dedfrydu yn darparu ar gyfer Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol, gorchymyn sifil a wneir mewn perthynas â throseddwr a gaiff ei euogfarnu o drosedd sy’n ymwneud ag eitem â llafn neu arfau ymosodol.

2.31 Mae Adran 342E o’r Cod Dedfrydu yn rhoi’r pŵer i’r heddlu chwilio person sy’n destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol er mwyn canfod a oes ganddo eitem â llafn neu arf ymosodol yn ei feddiant, a’i gadw at ddiben cynnal y chwiliad hwnnw, ar yr amod bod y person hwnnw mewn man cyhoeddus.

2.32 Er mwyn arfer y pwerau a grybwyllir ym mharagraff 2.31, nid oes rhaid bod gan y cwnstabl sail resymol flaenorol dros amau bod gan y person i’w chwilio eitem y mae pŵer presennol i chwilio amdani yn ei feddiant. Fodd bynnag, bydd angen sicrhau o hyd bod y ffordd y caiff y rheini a gaiff eu chwilio o dan y pŵer hwn eu trin yn seiliedig ar y ffaith bod yr unigolyn hwnnw yn destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol, ac nid ar ragfarn bersonol.

2.33 Rhaid i swyddogion sicrhau mai dim ond ar unigolyn sy’n destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol y caiff unrhyw achos o stopio a chwilio o dan y pŵer a grybwyllir ym mharagraff 2.31 ei gynnal. Yn y rhan fwyaf o achosion, disgwylir y bydd unigolion sy’n destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol yn hysbys i’r heddlu yn ardal yr heddlu lle mae’r unigolyn yn byw ac y bydd troseddwyr yn yr ardal honno wedi rhoi eu cyfeiriad i’r heddlu drwy’r gofynion hysbysu. Felly, dylai swyddogion allu adnabod y troseddwyr cyn cynnal chwiliad. Os bydd swyddog yn ansicr pwy yw troseddwr, dylai geisio cadarnhau pwy ydyw ac a yw’n destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol. Efallai y bydd swyddogion am gadarnhau bod y gorchymyn ar waith drwy’r PNC.

2.34 Mae hyn yn golygu, oni all swyddogion gadarnhau bod yr unigolyn yn destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol, ni ellir defnyddio’r pŵer a grybwyllir ym mharagraff 2.31 a byddai’n anghyfreithlon chwilio unigolyn heb Orchymyn Lleihau Trais Difrifol.

2.35 Mae’n rhaid bod sail wrthrychol a rhesymol dros stopio a chwilio bob amser. Yn yr amgylchiadau hyn, mae hyn yn seiliedig ar y ffaith bod Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol mewn grym mewn perthynas â’r unigolyn. Fodd bynnag, mae’r pŵer a grybwyllir ym mharagraff 2.31 hefyd yn ddewisol, a disgwylir i swyddogion yr heddlu arfer eu barn wrth benderfynu ym mha amgylchiadau a sawl gwaith y dylid stopio a chwilio unigolyn sy’n destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol.

2.36 Rhaid i chwiliadau gael eu cynnal mewn man cyhoeddus ac nid yw’r pŵer yn rhoi unrhyw sail i swyddogion dros chwilio unrhyw un arall sydd yng nghwmni’r person hwnnw. Ni ddylid chwilio person sydd yng nghwmni unigolyn sy’n destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol oni fydd gan gwnstabl sail resymol berthnasol dros amheuaeth.

2.37 Nid yw’r pŵer yn rhoi’r sail i swyddogion chwilio cerbydau. Fodd bynnag, mae Adran 342E(7) o’r Cod Dedfrydu yn darparu y gellir defnyddio’r pŵer hwn yn ychwanegol at bwerau ychwanegol a ddelir gan yr heddlu o dan gyfraith gwlad neu drwy rinwedd unrhyw ddeddfiad arall.

2.38 Gall swyddogion yr heddlu atafaelu, yn unol â rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 342F o’r Cod Dedfrydu, eitemau a ganfyddir wrth gynnal y chwiliad y maent yn amau’n rhesymol eu bod yn eitemau â llafn neu’n arfau ymosodol, a’u cadw.

2.39 Gellir gweld y Canllawiau Statudol ar Orchmynion Lleihau Trais Difrifol, sy’n nodi cefndir Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol, prosesau’r heddlu, ystyriaethau tystiolaethol, gweithdrefnau’r llysoedd a gwybodaeth am ddefnyddio Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol ar gov.uk.

Cynnal Chwiliadau

Ychwanegiad at Baragraff 3.3

Mae’r Atodiad hwn ychwanegu at baragraff 3.3 Cod A (Cynnal Chwiliadau). Mae’r ychwanegiad hwn yn amlinellu:

Yn achos chwiliadau a grybwyllir ym mharagraff 2.1(b) (d) a (f) (chwiliadau mewn perthynas â Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol), nad oes angen seiliau rhesymol dros amheuaeth i’w cynnal, gall swyddogion gynnal unrhyw chwiliad rhesymol i edrych am eitemau y mae ganddynt y pŵer i chwilio amdanynt.

Camau i’w cymryd cyn chwilio

Ychwanegiad at Baragraff 3.8

Mae’r Atodiad hwn yn ychwanegu at baragraff 3.8 Cod A (camau i’w cymryd cyn chwilio). Mae’r atodiad hwn yn darparu bod yn rhaid i swyddog roi ei enw i’r person sy’n cael ei gadw, ynghyd ag esboniad clir o’r pŵer chwilio cyfreithiol sy’n cael ei arfer a gwrthrych y chwiliad yn nhermau’r eitem neu’r eitemau y mae pŵer i chwilio amdanynt; ac, yn achos:

chwiliadau o dan Adran 342E o’r Cod Dedfrydu mewn perthynas â throseddwyr sy’n destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol,

  • y ffaith bod Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol mewn grym.

Cofnod o Chwiliad

Ychwanegiad at baragraff 4.3(d)

Yn yr Atodiad hwn, yn unol â pharagraff 4.3, rhaid i gofnod o chwiliad bob amser gynnwys, yn achos:

chwiliadau PWERAU o dan Adran 342E o’r Cod Dedfrydu mewn perthynas â throseddwyr sy’n destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol:

  • y ffaith bod Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol mewn grym

  • a ganfuwyd unrhyw beth ac a atafaelwyd unrhyw beth

Atodiad A – Crynodeb o’r Prif Bwerau Stopio a Chwilio y mae Cod A yn Gymwys iddynt

Ychwanegiad at Atodiad A

Mae’r Atodiad hwn yn ychwanegu at y tabl yn Atodiad A (crynodeb o’r prif bwerau stopio a chwilio y mae Cod A yn gymwys iddynt) i gynnwys chwiliadau o dan Adran 342E o’r Cod Dedfrydu mewn perthynas ag unigolion sy’n destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol.

Pŵer Gwrthrych y chwiliad Maint y chwiliad Ble y gellir eu harfer
20. Deddf Dedfrydu 2020 (“y Cod Dedfrydu”) a.342E Eitemau â llafn neu arf ymosodol Personau Man cyhoeddus