Canllawiau

Manyleb y ffeil data pecynwaith ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr

Diweddarwyd 15 Awst 2024

Mae’r canllawiau hyn yn esbonio sut i lunio a strwythuro’ch cyflwyniad data ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) dros becynwaith.

Maen nhw’n ymdrin â’r data y mae angen ichi ei gyflwyno am becynwaith rydych wedi’i gyflenwi neu wedi’i fewnforio trwy farchnad y Deyrnas Unedig.

Nid yw’r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth am sut i gyflwyno data cenedl - bydd hyn yn cael ei gynnwys mewn canllawiau ar wahân.

Y data pecynwaith y mae angen ichi ei gyflwyno

Bydd angen ichi gynnwys y 4 categori hyn o ddata pan fyddwch yn cyflwyno’ch data ynglŷn â’r EPR dros becynwaith:

  • gweithgaredd pecynnu
  • math o becynwaith
  • dosbarth y pecynwaith
  • deunydd a phwysau’r pecynwaith

I gael disgrifiad manwl o’r gwahanol fathau o ddata y mae angen ichi eu cyflwyno, darllenwch y canllawiau ar sut i gasglu’ch data pecynwaith ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr.

Sut i gyflwyno’ch data

I gyflwyno’ch data pecynwaith, bydd angen ichi greu cyfrif gyda’r gwasanaeth ar-lein ‘Rhoi gwybod am ddata pecynwaith’. Nid yw’r gwasanaeth ar agor ar gyfer cofrestru eto.

Os ydych chi’n sefydliad mawr, gallwch greu cyfrif a dechrau rhoi gwybod am ddata o 1 Gorffennaf 2023 ymlaen. Rhaid ichi gyflwyno’ch data erbyn 1 Hydref 2023.

Os ydych chi’n sefydliad bach, gallwch greu cyfrif a dechrau rhoi gwybod am ar ddata o 1 Ionawr 2024 ymlaen. Rhaid ichi gyflwyno’ch data erbyn 1 Ebrill 2024.

Darganfyddwch a ydych chi’n sefydliad bach neu fawr ar gyfer yr EPR dros becynwaith.

Bydd angen ichi gyflwyno’ch data mewn ffeil gwerthoedd wedi’u gwahanu â choma (CSV).

Dylech gynnwys yr holl ddata pecynwaith gofynnol mewn un ffeil CSV. Byddwch yn gallu uwchlwytho’r ffeil hon i wasanaeth ar-lein y Llywodraeth, EPR dros becynwaith.

Dylech gyflwyno ffeiliau data sydd wedi’u cwblhau yn unig. Os byddwch yn hepgor unrhyw wybodaeth ofynnol, ni fydd y ffeil yn cael ei dilysu ac ni fydd yn cael ei huwchlwytho i’ch cyfrif. Os oes angen ichi ddarparu data ychwanegol, dylech ddisodli’r ffeil a uwchlwythwyd yn flaenorol gyda fersiwn newydd.

Dylai’r data rydych chi’n ei gyflwyno fod mor gywir â phosibl.

Darllenwch fwy am ddefnyddio’r fformat ffeil CSV. Mae’r canllawiau hyn am ffeiliau CSV wedi’u hanelu at weithwyr y llywodraeth, ond mae’r adrannau o ‘Setting up your CSV file’ ymlaen yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol ddefnyddiol.

Sut i strwythuro’ch cyflwyniad data

Mae Tabl 1 yn dangos y strwythur cyffredinol y dylech ei ddefnyddio ar gyfer eich ffeil ddata.

Dylai’ch ffeil ddata CSV gynnwys colofnau ar gyfer pob un o’r categorïau sydd wedi’u rhifo o 1 i 12 yn Nhabl 1.

Ychwanegwch res wahanol o ddata ar gyfer pob gweithgaredd pecynnu a phob math o becynwaith y mae angen ichi ei roi gwybod amdanyn nhw.

Rhaid i’ch data ddechrau ar y rhes gyntaf. Peidiwch â chynnwys rhesi gwag.

Er enghraifft:

  • Os ydych chi’n cyflenwi 50kg o becynwaith cardfwrdd sylfaenol o dan eich brand eich hun, dylech roi gwybod am hyn ar un rhes
  • Os ydych hefyd yn mewnforio 25kg o becynwaith cardfwrdd eilaidd o dan eich brand eich hun, dylech roi gwybod am hyn ar res ar wahân

Tabl 1: Strwythur ffeiliau data pecynwaith

Colofn Enw Disgrifiad Gwerth
1 ID y sefydliad Y rhif adnabod a neilltuwyd i’r sefydliad wrth greu cyfrif. Cofnod alffaniwmaretig.
2 ID Atodol Rhif adnabod a neilltuwyd i is-gwmni gan ei riant-gwmni.

Rhaid i’r maes hwn gael ei ddefnyddio gan riant gwmnïau wrth roi gwybod am ddata ar ran is-gwmnïau. Fel arall, gadewch yn wag.
Cofnod alffaniwmaretig. Uchafswm o 32 nod.
3 Maint y sefydliad Mae’r sefydliadau sydd dan orfodaeth naill ai’n fach (S) neu’n fawr (L). S neu L.
4 Cyfnod amser y cyflwyniad Cyfnod amser y data rydych chi’n ei gyflwyno – naill ai Ionawr i Fehefin 2023 neu Fawrth i Fehefin 2023 2023-P1 (Ionawr i Fehefin) neu 2023-P2 (Mawrth i Fehefin)
5 Gweithgaredd pecynnu Dosbarthiad o sut rydych chi’n gosod y pecynwaith ar farchnad y Deyrnas Unedig. Defnyddiwch y cod gweithgaredd pecynnu perthnasol.
6 Math o becynwaith Er enghraifft, pecynwaith cartref neu becynwaith nad yw’n becynwaith cartref. Defnyddiwch y cod math o becynwaith perthnasol.
7 Dosbarth y pecynwaith Er enghraifft, sylfaenol, eilaidd, cludo neu drydyddol. Defnyddiwch y cod dosbarth pecynwaith perthnasol.
8 Deunydd y pecynwaith Y math o ddeunydd a ddefnyddir yn y dosbarth pecynwaith perthnasol. Defnyddiwch y cod deunydd pecynwaith perthnasol.
9 Is-deip deunydd y pecynwaith Lle bo’n berthnasol, yr is-deip o ddeunydd a ddefnyddir yn y dosbarth pecynwaith perthnasol.

I’w ddefnyddio dim ond pan fydd deunydd y pecynwaith yn OT (arall).

Gadewch yn wag os nad yw’n berthnasol.
Rhowch enw’r is-deip pecynwaith.
10 O (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Y wlad yn y Deyrnas Unedig y mae’r gwastraff pecynwaith yn tarddu ohoni.

I’w ddefnyddio dim ond gyda’r mathau pecynwaith CW (gwastraff defnyddwyr hunan-reoled) ac OW (gwastraff sefydliad hunan-reoledig).

Gadewch yn wag os nad yw’n berthnasol.
Defnyddiwch y cod gwlad y Deyrnas Unedig perthnasol.
11 I (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Y wlad yn y Deyrnas Unedig y mae’r gwastraff pecynwaith yn cael ei anfon iddi.

I’w ddefnyddio dim ond gyda’r mathau pecynwaith CW (gwastraff defnyddwyr hunan-reoledig) ac OW (gwastraff sefydliad hunan-reoledig).

Gadewch yn wag os nad yw’n berthnasol.
Defnyddiwch y cod gwlad y Deyrnas Unedig perthnasol.
12 Pwysau’r pecynwaith Maint pob pecynwaith mewn cilogramau. Defnyddiwch ddigidau yn unig, mewn rhifau cyfan.

Peidiwch â chynnwys y geiriau ‘cilogramau’ neu ‘kgs’.
13 Maint y pecynwaith maint (unedau) Nifer yr unedau pecynwaith unigol.

I’w ddefnyddio dim ond wrth rhoi gwybod am gynwysyddion diodydd.

Gadewch yn wag os nad yw’n berthnasol.
Defnyddiwch ddigidau.

Meysydd a chodau data

Mae’r adran hon yn rhestru’r gwahanol feysydd y gallwch roi gwybod amdanyn nhw ar gyfer pob categori o ddata.

Mae cod ar gyfer y rhan fwyaf o’r meysydd. Defnyddiwch y codau perthnasol yn eich cyflwyniad data bob amser. Peidiwch â defnyddio enwau’r meysydd.

Codau gweithgaredd pecynnu

Rhaid ichi gategoreiddio’ch data yn ôl y gweithgareddau pecynnu perthnasol. Mae hyn yn disgrifio beth oedd eich rôl pan wnaethoch chi gyflenwi’r pecynwaith drwy farchnad y Deyrnas Unedig.

Tabl 2: Codau gweithgaredd pecynnu

Cod Enw Disgrifiad
SO Wedi’i gyflenwi o dan eich brand chi Pecynwaith ar gyfer nwyddau a gyflenwir o dan eich brand eich hun.
PF Wedi’i bacio neu wedi’i lenwi fel pecynwaith heb ei frandio Pecynwaith heb ei frandio rydych chi wedi gosod nwyddau ynddo, ar gyfer eich sefydliad eich hun neu sefydliad arall.
IM Wedi’i fewnforio Rhai nwyddau wedi’u pecynnu rydych chi wedi’u mewnforio ac wedi mynd ymlaen i’w cyflenwi neu eu gwaredu yn y Deyrnas Unedig.

Darllenwch ragor o fanylion ar ba fathau o becynwaith sydd wedi’u cynnwys.
SE Wedi’u cyflenwi fel pecynwaith wag Pecynwaith gwag rydych chi wedi’i wneud neu wedi’i fewnforio ac yna wedi’i gyflenwi i sefydliad nad yw’n sefydliad mawr.
HL Llogi neu fenthyg Pecynwaith ailddefnyddiadwy rydych chi’n ei logi neu’n ei roi ar fenthyg.
OM Wedi’i gyflenwi trwy farchnad ar-lein rydych chi’n berchen arni Pecynwaith wedi’i lenwi neu heb ei llenwi a gyflenwir i farchnad y Deyrnas Unedig o’r tu allan i’r DU trwy farchnad ar-lein rydych chi’n berchen arni.

Codau’r math o becynwaith

Rhaid ichi ddadansoddi’ch data yn ôl y mathau pecynwaith perthnasol.

Darllenwch ddisgrifiadau manwl o bob math o becynwaith yn y canllawiau Data Pecynwaith: beth i’w gasglu ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr.

Tabl 3: Codau’r math o becynwaith

Cod Enw Disgrifiad
HH Pecynwaith cartref Pecynwaith cartref yw’r rhan fwyaf o becynwaith sylfaenol neu becynwaith cludo. Gall hyn gynnwys pecynwaith a gyflenwir i fusnes.

Darllenwch ddisgrifiad manylach o becynwaith cartref.

Peidiwch â chynnwys pecynwaith sy’n cael ei ddosbarthu fel cynwysyddion diodydd untro. Rhowch wybod am hyn o dan y math pecynwaith HDC (cynwysyddion diodydd cartref) neu NDC (cynwysyddion diodydd nad ydynt yn gynwysyddion diodydd cartref).
NH Pecynwaith nad yw’n becynwaith cartref Pecynwaith nad yw’n becynwaith cartref yw’r holl becynwaith eilaidd a thrydyddol. Efallai na fydd rhai mathau o becynwaith sylfaenol neu becynwaith cludo yn becynwaith cartref lle mae gennych dystiolaeth bod hyn yn wir.

Darllenwch ddisgrifiad manylach o becynwaith nad yw’n becynwaith cartref.

Peidiwch â chynnwys pecynwaith sy’n cael ei ddosbarthu fel cynwysyddion diodydd untro. Rhowch wybod am hyn o dan y math pecynwaith HDC (cynwysyddion diodydd cartref) neu NDC (cynwysyddion diodydd nad ydynt yn gynwysyddion diodydd cartref).
CW Gwastraff defnyddwyr hunan-reoledig Gwastraff pecynwaith a adenillwyd oddi wrth ddefnyddwyr. Gall hyn gynnwys:

gwastraff pecynwaith a adenillwyd oddi wrth ddefnyddwyr rydych chi’n ei gasglu trwy gynllun ailgylchu hunan-reoledig
gwastraff pecynwaith ailddefnyddiadwy rydych chi wedi’i adennill oddi wrth ddefnyddwyr

Darllenwch [ddisgrifiad manylach o wastraff hunan-reoledig]” (https://www.gov.uk/guidance/how-to-collect-your-packaging-for-extensioned-producer-responsibility#self-managed-waste).
OW Gwastraff sefydliad hunan-reoledig Gwastraff pecynwaith, yr ydych wedi’i gasglu eich hun ar y safle.

Darllenwch ddisgrifiad manylach o wastraff hunan-reoledig.
PB Yn dod i ben yn gyffredin mewn biniau cyhoeddus Pecynwaith sy’n dod i ben yn gyffredin mewn biniau cyhoeddus.

Darllenwch ddisgrifiad manwl o becynwaith sy’n dod i ben yn gyffredin mewn biniau cyhoeddus.
RU Pecynwaith ailddefnyddiadwy Dim ond y tro cyntaf iddo gael ei gyflenwi y mae angen ichi roi gwybod am becynwaith ailddefnyddiadwy, fel paledi.

Dylech hefyd gynnwys pecynwaith ailddefnyddiadwy cartref yn y pecynwaith cartref a’r pecynwaith nad yw’n becynwaith cartref rydych chi’n rhoi gwybod amdano y tro cyntaf y mae’n cael e ei ddefnyddio.
HDC Cynwysyddion diodydd cartref Pecynwaith sy’n cyd-fynd â’r diffiniad o becynwaith cartref ond sydd hefyd yn cael ei ddosbarthu fel cynwysyddion diodydd untro.

Darllenwch am sut i gategoreiddio data cynwysyddion diodydd.
NDC Cynwysyddion diodydd nad ydynt yn gynwysyddion diodydd cartref Pecynwaith sy’n cyd-fynd â’r diffiniad o becynwaith nad yw’n becynwaith cartref ond sydd hefyd yn cael ei ddosbarthu fel cynwysyddion diodydd untro.

Darllenwch am sut i gategoreiddio data cynwysyddion diodydd.
SP Pecynwaith sefydliadau bach – y cyfan Cyfanswm cyfunol eich holl becynwaith, ac eithrio cynwysyddion diodydd.

I’w ddefnyddio gan sefydliadau bach yn unig.

Ar gyfer pob math o becynwaith rydych chi’n rhoi gwybod amdano, bydd angen ichi ei ddadansoddi yn ôl categorïau eraill, gan gynnwys dosbarth y pecynwaith, y deunydd, y pwysau a’r maint.

Mae’r adran ‘Rheolau ar roi gwybod am y math o becynwaith’ yn esbonio sut i gyfuno’r gwahanol gategorïau o ddata.

Codau dosbarth pecynwaith

Mae dosbarth y pecynwaith yn darparu mwy o wybodaeth am y math o becynwaith - er enghraifft, boed yn sylfaenol, eilaidd, cludo neu drydyddol.

Tabl 4: Codau dosbarth y pecynwaith

Cod Enw Disgrifiad
P1 Pecynwaith sylfaenol Pecynwaith a ddefnyddir i gynnwys un ‘uned werthu’ i’w gwerthu i gwsmeriaid.
P2 Pecynwaith eilaidd Pecynwaith a ddefnyddir i grwpio nifer o unedau gwerthu gyda’i gilydd.
P3 Pecynwaith cludo Pecynwaith a ddefnyddir i anfon unedau gwerthu sengl neu luosog i gwsmeriaid.
P4 Pecynwaith trydyddol Fe’i defnyddir i grwpio unedau pecynwaith eilaidd gyda’i gilydd wrth gael eu cludo neu eu trin.
P5 Pecynwaith ailddefnyddiadwy nad yw’n becynwaith sylfaenol Y cyfanswm cyfunol o becynwaith eilaidd, pecynwaith cludo a phecynwaith trydyddol sy’n ailddefnyddiadwy.

Dim ond i’w ddefnyddio gyda’r math pecynwaith RU (pecynwaith ailddefnyddiadwy).
P6 Cyfanswm y farchnad ar-lein Y cyfanswm cyfunol o’r holl becynwaith a gyflenwir trwy farchnad ar-lein rydych chi’n berchen arno.

Dim ond i’w ddefnyddio gyda’r gweithgaredd pecynnu OM.
O1 Gwastraff defnyddwyr hunan-reoledig – y cyfan Cyfanswm y pecynwaith y rhoddir gwybod amdano o dan y math pecynwaith CW (gwastraff defnyddwyr hunan-reoledig).
O2 Gwastraff sefydliad - tarddiad Gwastraff pecynwaith rydych chi wedi’i gasglu ym mhob gwlad yn y Deyrnas Unedig.

Dim ond i’w ddefnyddio gyda’r math pecynwaith OW (gwastraff sefydliad hunan-reoledig).
B1 Bin cyhoeddus Pecynwaith y rhoddir gwybod amdano o dan y math o becynwaith PB (yn gyffredin yn dod i ben mewn biniau cyhoeddus).

Codau’r deunydd pecynwaith

Rhowch wybod am bwysau’r deunyddiau unigol a ddefnyddir yn y pecynwaith rydych chi wedi’i gyflenwi. Rhaid ichi roi gwybod am bob math o ddeunydd ar wahân.

Os oes angen ichi gyflwyno data ar gyfer is-deip deunydd, rhowch enw’r deunydd. Nid oes codau ar gyfer is-deipiau o ddeunydd

Tabl 5: Codau deunydd pecynwaith

Cod Enw Nodiadau
AL Alwminiwm  
CC Cyfansawdd ffeibr Deunydd cyfansawdd penodol, sy’n cynnwys haen o ffeibrau papur wedi’u lamineiddio â phlastig.
GL Gwydr  
PC Papur neu gerdyn  
PL Plastig  
ST Dur  
WD Coed  
OT Arall Unrhyw ddeunydd arall nad yw wedi’i restru yma. Rhaid ichi hefyd roi’r is-deip deunydd.

Is-deipiau deunydd eraill

Os ydych chi’n rhoi gwybod am ddeunydd pecynwaith fel OT (arall), rhowch enw’r deunydd a ddefnyddiwyd gennych yn y maes is-deip deunydd pecynwaith.

Er enghraifft, gallai deunyddiau eraill gynnwys:

  • bambŵ
  • serameg
  • copr
  • corc
  • cywarch
  • rwber
  • silicon

Codau gwledydd y Deyrnas Unedig

Y codau ar gyfer pob gwlad yn y Deyrnas Unedig wrth roi gwybod am becynwaith yr EPR.

Tabl 6: Codau gwledydd y Deyrnas Unedig

Cod Enw
EN Lloegr  
NI Gogledd Iwerddon  
SC Yr Alban  
WS Cymru  

Dosbarthiadau pecynwaith a ganiateir

Mae’r tabl hwn yn dangos pa ddosbarthiadau pecynwaith y gellir rhoi gwybod amdanyn nhw o dan bob math o becynwaith.

Tabl 7: Dosbarthiadau pecynwaith a ganiateir

Math o becynwaith Dosbarthiadau pecynwaith a ganiateir
Pecynwaith cartref (HH) Pecynwaith sylfaenol (P1)
Pecynwaith cludo (P3)
Cyfanswm marchnad ar-lein (P6) *
 
Pecynwaith nad yw’n becynwaith sylfaenol (NH) Pecynwaith sylfaenol (P1)
Pecynwaith eilaidd (P2)
Pecynwaith cludo (P3)
Pecynwaith trydyddol (P4)
Cyfanswm marchnad ar-lein (P6)*
 
Gwastraff defnyddwyr hunan-reoledig (CW) Gwastraff defnyddwyr hunan-reoledig – y cyfan (O1)  
Gwastraff sefydliad hunan-reoledig (OW) Gwastraff sefydliad - tarddiad (O2)  
Yn dod i ben yn gyffredin mewn biniau cyhoeddus (PB) Bin Cyhoeddus (B1)  
Pecynwaith ailddefnyddiadwy (RU) Pecynwaith sylfaenol (P1)
pecynwaith ailddefnyddiadwy nad yw’n becynwaith sylfaenol (P5)
 
Cynwysyddion diodydd cartref (HDC) Dim  
Cynwysyddion diodydd nad ydynt yn gynwysyddion diodydd cartref (NDC) Dim  
Pecynwaith sefydliadau bach – y cyfan (SP) Pecynwaith sylfaenol (P1)
Pecynwaith eilaidd (P2)
Pecynwaith cludo (P3)
Pecynwaith trydyddol (P4)
Cyfanswm marchnad ar-lein (P6)*
 

* Dylid defnyddio cyfanswm y farchnad ar-lein (P6) dim ond pan fydd y gweithgaredd pecynnu yn dweud ‘Wedi’i gyflenwi trwy farchnad ar-lein rydych chi’n berchen arni’ (OM).

Mae gofynion manylach ynglŷn â rhoi gwybod am bob un o’r mathau o becynwaith i’w gweld yn y tablau yn yr adran nesaf, ‘Rheolau ar roi gwybod am y math o becynwaith’.

Rheolau am roi gwybod am y math o becynwaith

Mae’r gofynion ynglŷn â’r data yn amrywio gan ddibynnu ar ba fath o becynwaith rydych chi’n rhoi gwybod amdano. Mae’r tablau canlynol yn darparu cyfarwyddiadau penodol ar sut i lenwi’r meysydd gofynnol ar gyfer pob math o becynwaith.

Mae’r tablau hyn yn dilyn yr un strwythur â Thabl 1: Strwythur ffeiliau data pecynwaith.

Gall sefydliadau mawr ddefnyddio’r holl fathau pecynwaith cymwys, ac eithrio SP (pecynwaith sefydliadau bach – y cyfan).

Dylai sefydliadau bach ddefnyddio’r mathau pecynwaith canlynol yn unig:

  • SP (pecynwaith sefydliadau bach – y cyfan)
  • HDC (cynwysyddion diodydd cartref)

Rheolau ar becynwaith cartref

Ar gyfer sefydliadau mawr yn unig.

Rhowch y data hwn ar gyfer pob gweithgaredd pecynnu rydych chi’n rhoi gwybod amdano. Rhowch wybod am gyfanswm pwysau pob deunydd pecynwaith.

Tabl 8a: Rheolau ar becynwaith cartref

Colofn Enw Rheol
1 ID sefydliad Y rhif adnabod a neilltuwyd i sefydliad wrth greu cyfrif.
2 ID Atodol Rhif adnabod a neilltuwyd i is-gwmni gan ei riant-gwmni.

Rhaid i’r maes hwn gael ei ddefnyddio gan riant gwmnïau wrth roi gwybod am ar ran is-gwmnïau. Fel arall, gadewch yn wag.
3 Maint y sefydliad L yn ddiofyn ar gyfer sefydliad mawr.
4 Cyfnod amser y cyflwyniad Cyfnod amser y data rydych chi’n ei gyflwyno – naill ai Ionawr i Fehefin 2023 (2023-P1) neu Fawrth i Fehefin 2023 (2023-P2)
5 Gweithgaredd pecynnu Defnyddiwch y cod gweithgaredd pecynnu perthnasol.
6 Math o becynwaith HH yn ddiofyn (pecynwaith cartref).
7 Dosbarth y pecynwaith Defnyddiwch y cod dosbarth pecynwaith perthnasol.

Mae Tabl 7 yn rhoi rhestr o’r dosbarthiadau pecynwaith y gellir eu defnyddio ar gyfer y math hwn o becynwaith.
8 Deunydd pecynwaith Defnyddiwch y cod deunydd pecynwaith perthnasol.
9 Is-deip deunydd pecynwaith Os yw’n berthnasol, rhowch enw’r is-deip deunydd pecynwaith.

Dim ond i’w ddefnyddio pan fydd y deunydd pecynwaith yn OT (arall).
10 O (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Gadewch yn wag.
11 I (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Gadewch yn wag.
12 Pwysau’r deunydd pecynwaith Rhowch gyfanswm pwysau pob deunydd pecynwaith mewn cilogramau.
13 Maint y deunydd pecynwaith (unedau) Gadewch yn wag.

Rheolau ar becynwaith nad yw’n becynwaith cartref

Ar gyfer sefydliadau mawr yn unig.

Rhowch y data hwn ar gyfer pob gweithgaredd pecynnu rydych chi’n rhoi gwybod amdano. Rhowch wybod am gyfanswm pwysau pob deunydd pecynwaith.

Tabl 8b: Rheolau ar becynwaith nad yw’n becynwaith cartref

Colofn Enw Rheol
1 ID sefydliad Y rhif adnabod a neilltuwyd i sefydliad wrth greu cyfrif.
2 ID Atodol Rhif adnabod a neilltuwyd i is-gwmni gan ei riant-gwmni.

Rhaid i’r maes hwn gael ei ddefnyddio gan riant gwmnïau wrth roi gwybod am ar ran is-gwmnïau. Fel arall, gadewch yn wag.
3 Maint y sefydliad L yn ddiofyn ar gyfer sefydliad mawr.
4 Cyfnod amser y cyflwyniad Cyfnod amser y data rydych chi’n ei gyflwyno – naill ai Ionawr i Fehefin 2023 (2023-P1) neu Fawrth i Fehefin 2023 (2023-P2)
5 Gweithgaredd pecynnu Defnyddiwch y cod gweithgaredd pecynnu perthnasol.
6 Math o becynwaith NH yn ddiofyn (pecynwaith nad yw’n becynwaith cartref).
7 Dosbarth y pecynwaith Defnyddiwch y cod dosbarth pecynwaith perthnasol.

Mae Tabl 7 yn rhoi rhestr o’r dosbarthiadau pecynwaith y gellir eu defnyddio ar gyfer y math hwn o becynwaith.
8 Deunydd pecynwaith Defnyddiwch y cod deunydd pecynwaith perthnasol.
9 Is-deip deunydd pecynwaith Os yw’n berthnasol, rhowch enw’r is-deip deunydd pecynwaith.

Dim ond i’w ddefnyddio pan fydd y deunydd pecynwaith yn OT (arall).
10 O (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Gadewch yn wag.
11 I (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Gadewch yn wag.
12 Pwysau’r deunydd pecynwaith Rhowch gyfanswm pwysau pob deunydd pecynwaith mewn cilogramau.
13 Maint y deunydd pecynwaith (unedau) Gadewch yn wag.

Rheolau ar wastraff defnyddwyr hunan-reoledig

Ar gyfer sefydliadau mawr yn unig.

Does dim angen dadansoddi’r math hwn o becynwaith yn ôl gweithgaredd pecynnu.

Rhowch wybod am gyfanswm pwysau pob deunydd pecynwaith.

Tabl 8c: Rheolau ar wastraff defnyddwyr hunan-reoledig

Colofn Enw Rheol
1 ID sefydliad Y rhif adnabod a neilltuwyd i sefydliad wrth greu cyfrif.
2 ID Atodol Rhif adnabod a neilltuwyd i is-gwmni gan ei riant-gwmni.

Rhaid i’r maes hwn gael ei ddefnyddio gan riant gwmnïau wrth roi gwybod am ar ran is-gwmnïau. Fel arall, gadewch yn wag.
3 Maint y sefydliad L yn ddiofyn ar gyfer sefydliad mawr.
4 Cyfnod amser y cyflwyniad Cyfnod amser y data rydych chi’n ei gyflwyno – naill ai Ionawr i Fehefin 2023 (2023-P1) neu Fawrth i Fehefin 2023 (2023-P2)
5 Gweithgaredd pecynnu Gadewch yn wag.
6 Math o becynwaith Diofyn i CW (gwastraff defnyddwyr hunan-reoledig).
7 Dosbarth y pecynwaith O1 (gwastraff defnyddwyr hunan-reoledig - i gyd) yw’r unig fynediad a ganiateir.
8 Deunydd pecynwaith Defnyddiwch y cod deunydd pecynwaith perhnasol.
9 Is-deip deunydd pecynwaith Os yw’n berthnasol, rhowch enw’r is-deip deunydd pecynwaith.

Dim ond i’w ddefnyddio pan fydd y deunydd pecynwaith yn OT (arall).
10 O (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Defnyddiwch god y wlad yn y Deyrnas Unedig sy’n berthnasol.
11 I (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Os yw’r gwastraff yn cael ei drosglwyddo i wlad arall, defnyddiwch y cod gwlad perthnasol (codau-gwledydd-y-deyrnas-unedig).

Os na chaiff y gwastraff ei drosglwyddo i wlad arall, gadewch yn wag.
12 Pwysau’r deunydd pecynwaith Rhowch gyfanswm pwysau pob deunydd pecynwaith mewn cilogramau.
13 Maint y deunydd pecynwaith (unedau) Gadewch yn wag.

Rheolau ar wastraff sefydliad hunan-reoledig

Ar gyfer sefydliadau mawr yn unig.

Does dim angen dadansoddi’r math hwn o becynwaith yn ôl gweithgaredd pecynnu.

Rhowch wybod am gyfanswm pwysau pob deunydd pecynwaith.

Tabl 8d: Rheolau ar wastraff sefydliad hunan-reoledig

Colofn Enw Rheol
1 ID sefydliad Y rhif adnabod a neilltuwyd i sefydliad wrth greu cyfrif.
2 ID Atodol Rhif adnabod a neilltuwyd i is-gwmni gan ei riant-gwmni.

Rhaid i’r maes hwn gael ei ddefnyddio gan riant gwmnïau wrth roi gwybod am ar ran is-gwmnïau. Fel arall, gadewch yn wag.
3 Maint y sefydliad L yn ddiofyn ar gyfer sefydliad mawr.
4 Cyfnod amser y cyflwyniad Cyfnod amser y data rydych chi’n ei gyflwyno – naill ai Ionawr i Fehefin 2023 (2023-P1) neu Fawrth i Fehefin 2023 (2023-P2)
5 Gweithgaredd pecynnu Gadewch yn wag.
6 Math o becynwaith OW yn ddiofyn (gwastraff sefydliad hunan-reoledig).
7 Dosbarth y pecynwaith O2 (gwastraff sefydliad - tarddiad) yw’r unig gofnod a ganiateir.
8 Deunydd pecynwaith Defnyddiwch y cod deunydd pecynwaith perthnasol.
9 Is-deip deunydd pecynwaith Os yw’n berthnasol, rhowch enw’r is-deip deunydd pecynwaith.

Dim ond i’w ddefnyddio pan fydd y deunydd pecynwaith yn OT (arall).
10 O (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Defnyddiwch god y wlad yn y Deyrnas Unedig sy’n berthnasol.
11 I (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Os yw’r gwastraff yn cael ei drosglwyddo i wlad arall, defnyddiwch god y wlad berthnasol (codau-gwledydd-y-deyrnas-unedig).

Os na chaiff y gwastraff ei drosglwyddo i wlad arall, gadewch yn wag.
12 Pwysau’r deunydd pecynwaith Rhowch gyfanswm pwysau pob deunydd pecynwaith mewn cilogramau.
13 Maint y deunydd pecynwaith (unedau) Gadewch yn wag.

Rheolau ar ‘yn gyffredin yn dod i ben mewn biniau cyhoeddus’

Ar gyfer sefydliadau mawr yn unig.

Rhowch y data hwn ar gyfer pob gweithgaredd pecynnu rydych chi’n rhoi gwybod amdano.

Tabl 8e: Rheolau ar ‘yn gyffredin yn diweddu mewn biniau cyhoeddus’

Colofn Enw Rheol
1 ID sefydliad Y rhif adnabod a neilltuwyd i sefydliad wrth greu cyfrif.
2 ID Atodol Rhif adnabod a neilltuwyd i is-gwmni gan ei riant-gwmni.

Rhaid i’r maes hwn gael ei ddefnyddio gan riant gwmnïau wrth roi gwybod am ar ran is-gwmnïau. Fel arall, gadewch yn wag.
3 Maint y sefydliad L yn ddiofyn ar gyfer sefydliad mawr.
4 Cyfnod amser y cyflwyniad Cyfnod amser y data rydych chi’n ei gyflwyno – naill ai Ionawr i Fehefin 2023 (2023-P1) neu Fawrth i Fehefin 2023 (2023-P2)
5 Gweithgaredd pecynnu Defnyddiwch y cod gweithgaredd pecynnu. Ni ddylid defnyddio

OM (wedi’i gyflenwi trwy farchnad ar-lein rydych chi’n berchen arni) ar gyfer y math hwn o becynwaith.
6 Math o becynwaith PB yn ddiofyn (yn gyffredin yn dod i ben mewn biniau cyhoeddus).
7 Dosbarth y pecynwaith B1 (bin cyhoeddus) yw’r unig gofnod a ganiateir.
8 Deunydd pecynwaith Defnyddiwch y cod deunydd pecynwaith perthnasol.
9 Is-deip deunydd pecynwaith Os yw’n berthnasol, rhowch enw’r is-deip deunydd pecynwaith.

Dim ond i’w ddefnyddio pan fydd y deunydd pecynwaith yn OT (arall).
10 O (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Gadewch yn wag.
11 I (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Gadewch yn wag.
12 Pwysau’r deunydd pecynwaith Rhowch gyfanswm pwysau pob deunydd pecynwaith mewn cilogramau.
13 Maint y deunydd pecynwaith (unedau) Gadewch yn wag.

Rheolau ar becynwaith ailddefnyddiadwy

Ar gyfer sefydliadau mawr yn unig.

Dim ond y tro cyntaf y mae’n cael ei gyflenwi bydd angen ichi roi gwybod am becynwaith ailddefnyddiadwy.

Ar gyfer pecynwaith ailddefnyddiadwy, dylech roi gwybod am ddata yn unol â gweddill eich data pecynwaith (sef naill ai o 1 Ionawr neu 1 Mawrth ymlaen). Os nad oes gennych yr holl ddata gofynnol ar gyfer pecynwaith ailddefnyddiadwy o’r naill ddyddiad neu’r llall, dylech rhoi gwybod amdano o 1 Gorffennaf 2023 ymlaen.

Yn ogystal â’i rhoi gwybod amdano yn y categori hwn ar wahân, dylech hefyd sicrhau bod unrhyw becynwaith ailddefnyddiadwy yn cael ei gynnwys yn y pecynwaith cartref a’r pecynwaith nad yw’n becynwaith cartref rydych chi’n ei rhoi gwybod amdano. Pan fyddwch yn gwneud hyn, dim ond o 1 Ionawr ac 1 Mawrth y gallwch roi gwybod am amdanynt.

Tabl 8f: Rheolau ar becynwaith ailddefnyddiadwy

Colofn Enw Rheol
1 ID sefydliad Y rhif adnabod a neilltuwyd i sefydliad wrth greu cyfrif.
2 ID Atodol Rhif adnabod a neilltuwyd i is-gwmni gan ei riant-gwmni.

Rhaid i’r maes hwn gael ei ddefnyddio gan riant gwmnïau wrth roi gwybod am ar ran is-gwmnïau. Fel arall, gadewch yn wag.
3 Maint y sefydliad L yn ddiofyn ar gyfer sefydliad mawr.
4 Cyfnod amser y cyflwyniad Cyfnod amser y data rydych chi’n ei gyflwyno – naill ai Ionawr i Fehefin 2023 (2023-P1) neu Fawrth i Fehefin 2023 (2023-P2)
5 Gweithgaredd pecynnu Defnyddiwch y cod gweithgaredd pecynnu perthnasol.

Ni ddylid defnyddio’r math pecynwaith RU (pecynwaith ailddefnyddiadwy) os yw’r gweithgaredd pecynnu yn OM (wedi’i gyflenwi trwy farchnad ar-lein rydych chi’n berchen arni).
6 Math o becynwaith RU yn ddiofyn (pecynwaith ailddefnyddiadwy).
7 Dosbarth y pecynwaith Rhaid dadansoddi’r math hwn o becynwaith i mewn i’r dosbarthiadau pecynwaith canlynol:

P1 (pecynwaith sylfaenol)
P5 (pecynwaith ailddefnyddiadwy nad yw’n becynwaith sylfaenol).
8 Deunydd pecynwaith Defnyddiwch y cod deunydd pecynwaith perthnasol.
9 Is-deip deunydd pecynwaith Os yw’n berthnasol, rhowch enw’r is-deip deunydd pecynwaith.

Dim ond i’w ddefnyddio pan fydd y deunydd pecynwaith yn OT (arall).
10 O (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Gadewch yn wag.
11 I (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Gadewch yn wag.
12 Pwysau’r deunydd pecynwaith Rhowch gyfanswm pwysau pob deunydd pecynwaith mewn cilogramau.
13 Maint y deunydd pecynwaith (unedau) Gadewch yn wag.

Rheolau ar gynwysyddion diodydd cartref

Ar gyfer sefydliadau mawr a bach.

Does dim angen dadansoddi’r math hwn o becynwaith yn ôl dosbarth y pecynwaith.

Ar gyfer sefydliadau mawr

Os ydych chi’n cyflenwi neu’n mewnforio cynwysyddion diodydd untro, rhowch wybod amdano o dan y math hwn o becynwaith os yw e hefyd yn bodloni’r diffiniad o becynwaith cartref.

Dylid rhoi gwybod am bob cynhwysydd diodydd fel HDC (cynwysyddion diodydd cartref) oni bai bod gennych y dystiolaeth angenrheidiol ei fod yn ddeunydd pecynwaith nad yw’n becynwaith cartref.

Ar gyfer sefydliadau bach

Rhowch wybod am yr holl gynhwysyddion diodydd fel HDC (cynwysyddion diodydd cartref).

Tabl 8g: Rheolau ar gynwysyddion diodydd cartref

Colofn Enw Rheol
1 ID sefydliad Y rhif adnabod a neilltuwyd i sefydliad wrth greu cyfrif.
2 ID Atodol Rhif adnabod a neilltuwyd i is-gwmni gan ei riant-gwmni.

Rhaid i’r maes hwn gael ei ddefnyddio gan riant gwmnïau wrth roi gwybod am ar ran is-gwmnïau. Fel arall, gadewch yn wag.
3 Maint y sefydliad Nodwch a yw eich sefydliad yn fach (S) neu’n fawr (L).
4 Cyfnod amser y cyflwyniad Cyfnod amser y data rydych chi’n ei gyflwyno – naill ai Ionawr i Fehefin 2023 (2023-P1) neu Fawrth i Fehefin 2023 (2023-P2)
5 Gweithgaredd pecynnu Defnyddiwch y cod gweithgaredd pecynnu.

Os yw’r gweithgaredd pecynnu yn OM (wedi’i gyflenwi trwy farchnad ar-lein rydych chi’n berchen arni), ni ddylech ddefnyddio’r math pecynwaith HDC (cynwysyddion diodydd cartref).

Os ydych chi’n cyflenwi cynwysyddion diodydd trwy farchnad ar-lein rydych chi’n berchen arni, rhowch wybod am y rhain fel HH (cartref) neu NH (cynwysyddion diodydd nad ydynt yn gynwysyddion diodydd cartref).
6 Math o becynwaith HDC yn ddiofyn (cynwysyddion diodydd cartref).
7 Dosbarth y pecynwaith Gadewch yn wag.
8 Deunydd pecynwaith Defnyddiwch y cod deunydd pecynwaith.

Dim ond rhai mathau o ddeunydd y gellir rhoi gwybod amdanyn ar gyfer cynwysyddion diodydd. Mae rhestr o’r deunyddiau pecynwaith a ganiateir ar gyfer cynwysyddion diodydd o dan tabl 8h.
9 Is-deip deunydd pecynwaith Gadewch yn wag.
10 O (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Gadewch yn wag.
11 I (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Gadewch yn wag.
12 Pwysau’r deunydd pecynwaith Rhowch gyfanswm pwysau pob deunydd pecynwaith mewn cilogramau.
13 Maint y deunydd pecynwaith (unedau) Rhowch nifer yr unedau pecynwaith.

Rheolau ar gynwysyddion diodydd nad ydynt yn gynwysyddion diodydd cartref

Ar gyfer sefydliadau mawr yn unig.

Does dim angen dadansoddi’r math hwn o becynwaith yn ôl dosbarth pecynwaith.

Os ydych chi’n cyflenwi neu’n mewnforio cynwysyddion diodydd untro, rhowch wybod amdano o dan y math hwn o becynwaith os yw hefyd yn bodloni’r diffiniad o ddeunydd pecynwaith nad yw’n becynwaith cartref.

Dylid rhoi gwybod am bob cynhwysydd diodydd fel HDC (cynwysyddion diodydd cartref) oni bai bod gennych y dystiolaeth angenrheidiol ei fod yn ddeunydd pecynwaith nad yw’n becynwaith cartref.

Tabl 8h: Rheolau ar gynwysyddion diodydd nad ydynt yn gynwysyddion diodydd cartref

Colofn Enw Rheol
1 ID sefydliad Y rhif adnabod a neilltuwyd i sefydliad wrth greu cyfrif.
2 ID Atodol Rhif adnabod a neilltuwyd i is-gwmni gan ei riant-gwmni.

Rhaid i’r maes hwn gael ei ddefnyddio gan riant gwmnïau wrth roi gwybod am ar ran is-gwmnïau. Fel arall, gadewch yn wag.
3 Maint y sefydliad L yn ddiofyn ar gyfer sefydliad mawr.
4 Cyfnod amser y cyflwyniad Cyfnod amser y data rydych chi’n ei gyflwyno – naill ai Ionawr i Fehefin 2023 (2023-P1) neu Fawrth i Fehefin 2023 (2023-P2)
5 Gweithgaredd pecynnu Defnyddiwch y cod gweithgaredd pecynnu perthnasol.

Os yw’r gweithgaredd pecynnu yn OM (wedi’i gyflenwi trwy farchnad ar-lein rydych chi’n berchen arni), ni ddylech ddefnyddio’r math pecynwaith NDC (cynwysyddion diodydd nad ydynt yn gynwysyddion diodydd cartref).

Os ydych chi’n cyflenwi cynwysyddion diodydd trwy farchnad ar-lein rydych chi’n berchen arni, rhowch wybod am y rhain fel HH (cartref) neu NH (cynwysyddion diodydd nad ydynt yn gynwysyddion diodydd cartref).
6 Math o becynwaith NDC yn ddiofyn (cynwysyddion diodydd nad ydynt yn gynwysyddion diodydd cartref).
7 Dosbarth y pecynwaith Gadewch yn wag.
8 Deunydd pecynwaith Defnyddiwch y cod deunydd pecynwaith perthnasol.

Dim ond rhai mathau o ddeunydd y gellir rhoi gwybod amdanyn ar gyfer cynwysyddion diodydd. Mae rhestr o’r deunyddiau pecynwaith a ganiateir ar gyfer cynwysyddion diodydd o dan y tabl hwn.
9 Is-deip deunydd pecynwaith Gadewch yn wag.
10 O (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Gadewch yn wag.
11 I (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Gadewch yn wag.
12 Pwysau’r deunydd pecynwaith Rhowch gyfanswm pwysau pob deunydd pecynwaith mewn cilogramau.
13 Maint y deunydd pecynwaith (unedau) Rhowch nifer yr unedau pecynwaith.

Cynwysyddion: deunyddiau pecynwaith a ganiateir

Y deunyddiau pecynwaith y gellir rhoi gwybod amdanynt ar gyfer cynwysyddion diodydd yw:

  • alwminiwm
  • gwydr
  • plastig - dim ond i’w ddefnyddio pan fydd y deunydd a ddefnyddir yn bolyethylen tereffthalat (PET)
  • dur

Rheolau ar ‘Pecynwaith sefydliadau bach – y cyfan’

Ar gyfer sefydliadau bach yn unig.

Rhowch y data hwn ar gyfer pob gweithgaredd pecynnu rydych chi’n rhoi gwybod amdano.

Tabl 8i: Rheolau ar ‘Pecynwaith sefydliadau bach – y cyfan’

Colofn Enw Rheol
1 ID sefydliad Y rhif adnabod a neilltuwyd i sefydliad wrth greu cyfrif.
2 ID Atodol Rhif adnabod a neilltuwyd i is-gwmni gan ei riant-gwmni.

Rhaid i’r maes hwn gael ei ddefnyddio gan riant gwmnïau wrth roi gwybod am ar ran is-gwmnïau. Fel arall, gadewch yn wag.
3 Maint y sefydliad S yn ddiofyn ar gyfer sefydliad bach.
4 Cyfnod amser y cyflwyniad Cyfnod amser y data rydych chi’n ei gyflwyno – naill ai Ionawr i Fehefin 2023 (2023-P1) neu Fawrth i Fehefin 2023 (2023-P2)
5 Gweithgaredd pecynnu Defnyddiwch y cod gweithgaredd pecynnu.
6 Math o becynwaith SP yn ddiofyn (pecynwaith sefydliad bach – y cyfan).
7 Dosbarth y pecynwaith Defnyddiwch y cod dosbarth pecynwaith perthnasol.

Mae Tabl 7 yn rhoi rhestr o’r dosbarthiadau pecynwaith y gellir eu defnyddio ar gyfer y math hwn o becynwaith.

Os yw’r gweithgaredd pecynnu yn OM (wedi’i gyflenwi trwy farchnad ar-lein rydych chi’n berchen arno), yr unig ddosbarth pecynwaith y dylid rhoi gwybod amdano yw P6 (cyfanswm y farchnad ar-lein)
8 Deunydd pecynwaith Defnyddiwch y cod deunydd pecynwaith perthnasol.
9 Is-deip deunydd pecynwaith Os yw’n berthnasol, rhowch enw’r is-deip deunydd pecynwaith.

Dim ond i’w ddefnyddio pan fydd y deunydd pecynwaith yn OT (arall).
10 O (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Gadewch yn wag.
11 I (gwlad yn y Deyrnas Unedig) Gadewch yn wag.
12 Pwysau’r deunydd pecynwaith Rhowch gyfanswm pwysau pob deunydd pecynwaith mewn cilogramau.
13 Maint y deunydd pecynwaith (unedau) Gadewch yn wag.

Cael cymorth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch neges ebost at y tîm pecynwaith yn pEPR@defra.gov.uk.