Papur polisi

PecynUK: polisi ymddygiad derbyniol

Cyhoeddwyd 17 Ionawr 2025

Rydyn ni’n gwerthfawrogi pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol ac empathetig i helpu pobl i ddefnyddio’n gwasanaeth a’n galluogi ninnau i gyflawni’n gwaith yn effeithlon.

Rydyn ni’n disgwyl i bobl sy’n ymgysylltu â ni ymddwyn mewn ffordd dderbyniol.

Rydyn ni’n disgwyl i bersonél PecynUK wneud y canlynol:

  • rhoi gwasanaeth teg, agored, cymesur a hygyrch.

  • gwrando a deall.

  • trin pawb sy’n cysylltu â ni â pharch, empathi ac urddas.

Rydyn ni’n disgwyl i bawb sy’n cysylltu â PecynUK wneud y canlynol:

  • trin ein personél â pharch a chwrteisi.

  • ymwneud â ni mewn ffordd nad yw’n effeithio ar ein gallu i gyflawni’n gwaith yn effeithiol ac yn effeithlon er budd pawb sy’n rhyngweithio â ni.

Gobeithio y bydd y mwyafrif o bobl yn fodlon â’u cysylltiad â ni, ond rydyn ni’n cydnabod y gall rhai fod yn anfodlon. Cewch roi adborth am ein gwasanaeth unrhyw bryd yn ystod eich cysylltiad â ni.

Ymddygiad sy’n annerbyniol

Rydyn ni’n cydnabod y gall fod gan rai pobl sy’n cysylltu â ni reswm i deimlo’n ddig, yn drist neu’n ofidus. Er hynny, nid yw’n dderbyniol pan gaiff y dicter hwnnw ei gyfeirio at ein personél ni. Mewn nifer fach o achosion, gall ymddygiad unigolyn wrth ymwneud â ni fynd yn annerbyniol am ei fod yn cynnwys sarhau ein gweithwyr neu gam-drin ein gwasanaeth.

Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn ni’n cymryd camau i ddiogelu’n personél a chynnal ein gallu i wneud ein gwaith a rhoi gwasanaeth i bobl eraill.

Mae enghreifftiau o’r hyn rydyn ni’n ei ystyried yn ymddygiad annerbyniol yn cynnwys:

  • ymddygiad ymosodol, sarhaus neu dramgwyddus
  • ymddygiad corfforol, iaith, delweddau (wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu mewn ysgrifen mewn negeseuon ebost, llythyron neu ar-lein) a allai beri i weithwyr deimlo dan fygythiad, yn anghyffyrddus, yn israddol, neu wedi’u cam-drin

Mae hyn yn cynnwys sarhad ynglŷn ag unrhyw nodwedd warchodedig, fel y’u diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol).

Gofynion annerbyniol

Efallai y byddwn o’r farn bod gofynion ynghylch natur neu raddfa ein gwasanaeth yn annerbyniol.

Er enghraifft:

  • gofyn am ymatebion mewn amserlenni afresymol

  • mynnu siarad ag uwch gydweithwyr neu uwchgyfeirio materion at uwch gydweithwyr pan nad yw’r unigolyn wedi cael yr ateb a ddymunir.

  • ceisiadau blinderus am wybodaeth

  • newid sylwedd cwyn dro ar ôl tro

  • codi pryderon amherthnasol neu wrthod derbyn penderfyniad pan fo esboniadau am y penderfyniad wedi’u rhoi.